Neidio i'r prif gynnwys

Click on the numbers on the map or the name of the area in the list below for details of the area.

Themâu Tirwedd Hanesyddol

Amaethyddiaeth

Mae tystiolaeth ar gyfer aneddiadau cynhanesyddol a systemau caeau cysylltiedig yn y rhannau ymylol o’r ardal, yn arbennig yn yr ardal uwchben Bethesda/Llanllechid, ac o amgylch y llethrau tuag at Aber a’r tu hwnt (ardaloedd 37, 38 a 39). Mae’r rhain yn cynnwys waliau cerrig sydd fel arfer yn grwn neu’n afreolaidd eu siâp ac sydd yn aml wedi’u hadeiladu o orthostatau. Ceir enghreifftiau arbennig o dda ar lethrau agored, dwyreiniol Moel Faban (ardal 36 – SH635680), lle na orchuddiwyd y cynllun cynhanesyddol â waliau diweddarach. Ar y llethrau gyferbyn, mae ardal go helaeth yn cynnwys anheddiad creiriol a balciau cysylltiedig a gadwyd o fewn caeau wedi’u gwella a system gaeau fwy diweddar. Ceir system (ar wahân) arall ar ochr ogleddol Afon Caseg (ardal 36 – SH658670), a ailddefnyddiwyd yn rhannol fel cyfadail mawr o gorlannau. Mae pob un o’r ardaloedd hyn yn gofrestredig, er na chafodd yr un ohonynt ei mapio na’i chofnodi’n fanwl iawn yn anffodus.

Yr unig gloddio a wnaed yn ddiweddar yn yr ardal oedd y gwaith ar safle anheddiad cylch cytiau cynhanesyddol, cyn i’r gwaith ar ffordd osgoi’r Felinheli ddechrau. Yn y fan hon dangoswyd yn glir fod y wal gae fodern (sy’n dal i gael ei defnyddio) yn deillio o wal a oedd ynghlwm wrth wal y cylch cytiau, sydd ei hun yn dyddio o’r 3edd ganrif i’r ganrif 1af CC.

Mae’n bosibl gweld tarddiad cynhanesyddol mewn rhai o’r caeau amgaeëdig is, a nodir unwaith eto gan siâp gromliniol, nodweddiadol y ffiniau, yr ymddengys fod llawer ohonynt yn ymestyn allan o glostiroedd crwn ar ben bryniau. Ceir enghreifftiau o amgylch Caer (ardal 25 – SH548645), Bronydd (ardal 25 – SH580651 hefyd) ac yn ôl pob tebyg Prysgol (ardal 47 – SH515616).

Nid oes unrhyw ddarnau tir lle gynt y bu drylliau i’w gweld, ac yn wir ni ddangosir yr un ar y mapiau degwm perthnasol, hyd yn oed o amgylch ffermydd a thai sydd wedi cadw enwau’r trefgorddau canoloesol (megis Prysgol, Rug, Cororion a Botondreg – ond gweler isod).

Y mapiau ystad cynharaf sy’n dangos rhannau o ardal yr astudiaeth yw mapiau ystad y Penrhyn a wnaed ym 1768, yn fuan ar ôl i’r gyfran ddod i feddiant Richard Pennant.1 Dengys y rhain dirwedd oedd ar fin newid yn nwylo landlord a oedd am wella ei eiddo; o gymharu’r mapiau hyn â mapiau o’r ystad yn dyddio o 1840-1841, sy’n cofnodi rhwydwaith o ffermydd a daliadau eraill y gellir eu hadnabod i raddau helaeth yn y tirwedd presennol, gwelir pa mor ddrastig oedd y newidiadau hyn. Yn lle’r patrwm o gaeau afreolaidd, bach iawn sy’n arbennig o amlwg o amgylch eglwys y Penrhyn a Llandygái ac yng Nghororion yn y ddeunawfed ganrif, ceir demên a drowyd yn barcdir a daliadau llawer mwy o faint â chynlluniau mwy rheolaidd. Dim ond mewn ychydig o achosion y mae ffiniau caeau’r ddeunawfed ganrif wedi goroesi, ac mae israniadau mwy diweddar i’w gweld mewn llawer o leoedd.

Dengys y mapiau hyn a mapiau eraill sut yr aeth ystad y Penrhyn ati i amgáu’r mynydd-dir diffaith ym mhlwyfi Llanllechid a Llandygái. Dyma gychwyn y ddadl hir fyddai’n dod i ben ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac a oedd yn un o’r adegau diffiniol yn hanes Cymru. Dengys mapiau o’r ddeunawfed ganrif ffriddoedd ym mhlwyf Llandygái ar lethrau is dyffryn Ogwen, a ddaeth yn rhan o ffermydd ystadau yn ddiweddarach, ond mae ucheldir diffaith Moel y Ci yn gwbl agored. Fodd bynnag, erbyn 1796, roedd Chwarel y Penrhyn eisoes wedi torri trwy wal y mynydd ac roedd yn cael ei gweithio ar y tir comin, a chyn hir roedd yr ystad yn hawlio meddiant ar yr ardal gyfan hon. Yn ystod cyfnod Napoleon, roedd ystad y Penrhyn yn annog chwarelwyr i dyfu tatws ar Fynydd Llandygái, lle y câi patrwm nodedig o anheddau ystad eu sefydlu yn ddiweddarach.

Roedd patrwm y newid ar ystad y Faenol yr un mor ddwfn ond roedd ar ffurf wahanol. Y mapiau cynharaf yw’r arolygon a wnaed ym 1777, sy’n ei gwneud yn bosibl i ail-lunio’n rhannol y modd y mae arferion amaethyddol ar yr ystad wedi datblygu. Dengys arolygon o ystadau ym 1869 mewn rhai mannau gaeau rheolaidd iawn a all ddeillio o bolisi bwriadol ar ran yr ystad, mewn mannau eraill waliau crwydrol sydd mewn rhai mannau yn cynrychioli aneddiadau yn dyddio o’r cyfnod cyn-Fodern, ac a all mewn mannau eraill ddeillio o dresmasu gan sgwatwyr ar y tir diffaith cyn i’r tir gael ei amgáu gan ddeddf seneddol ym 1808, a oedd o gryn fantais i ystad y Faenol. Cadarnhawyd a pharhawyd y patrwm o dyddynnod a sefydlwyd gan y chwarelwyr ar y tiroedd comin i ryw raddau gan Thomas Assheton-Smith III er mwyn osgoi creu cymunedau cnewyllol o ddynion heb dir.

Archeoleg greiriol

Mae bedd siambrog neolithig posibl ger Bryn (SH510655), ond mae’n debyg mai’r henebion hynaf yn ardal yr astudiaeth yw’r carneddau pen mynydd sy’n rhoi i’r Carneddau eu henw, yr ystyrir eu bod yn dyddio o’r oes efydd.

Cyfeiriwyd eisoes at yr aneddiadau cynhanesyddol a’r systemau caeau cysylltiedig ar raddfa fawr sy’n ymestyn dros ddarnau mawr o lethrau is y mynyddoedd, o amgylch cyrion y tir agored, yn arbennig y tu ôl i Fethesda, Llanllechid a tuag at Aber. Yn anffodus, nid yw’r un o’r rhain wedi’i archwilio’n fanwl, ond maent yn cynnwys rhai o’r olion helaethaf ac yn y cyflwr gorau yng ngogledd Cymru. Mae sawl safle anheddiad tebyg, fel arfer grwpiau o gytiau ond hefyd weithiau gylchoedd cytiau unigol, o fewn y ddwy ardal ymylol (er enghraifft ar lethrau gogledd-orllewinol Moel Rhiwen, lle y ceir hefyd dwmpathau wedi’u llosgi ac olion y tybir eu bod yn llwyfannau cytiau canoloesol) yn ogystal ag ardaloedd o gaeau wedi’u gwella (er enghraifft i’r de ac i’r gorllewin o Benisa’r Waun). Cyfeiriwyd eisoes at yr unig safle a gloddiwyd yn ddiweddar (adran 8.1 uchod).

Bryngaer amlgloddiog Dinas Dinorwig yw nodwedd amlycaf llwyfandir Arfon (SH550653 – enw trefgordd ganoloesol yw Dinorwig hefyd), a cheir nifer o ‘geyrydd’ llai o faint a adeiladwyd o gerrig ar fryniau eraill yn yr ardal, er enghraifft yn Llanddeiniolen (SH551665), Caer (SH549649), Dicwm (500m i’r de-ddwyrain o Gaer) a Thyn-y-Caeau (SH592673). Ni ddarganfuwyd y cysylltiad rhwng y ceyrydd (sy’n dyddio o’r cyfnod cynhanesyddol yn ôl pob tebyg) a’r aneddiadau yn cynnwys grwpiau o gytiau, ond mae cryn botensial ar gyfer gwaith dadansoddi pellach. Mae’n bosibl bod clostir anarferol mawr â chloddiau o’i amgylch ar y tir isel, a elwir yn Gaerlan Tibot (SH506648), yn dyddio o’r cyfnod cynhanesyddol neu o ddechrau’r cyfnod canoloesol hyd yn oed, tra bod clostir amlochrog, isel arall yn Nhy Mawr (SH555665) yn debyg iawn i Gaer Leb ar Ynys Môn.

Mae dosbarthiad safleoedd yr aneddiadau gwledig anghyfannedd yn cyd-fynd i raddau helaeth ag olion yr aneddiadau cynhanesyddol creiriol, h.y. mewn ardaloedd ymylol o amgylch cyrion y mynydd-dir agored, er enghraifft, y tu ôl i Fethesda (SH635665), uwchlaw Llanllechid (SH630665) ac ar lethrau Moel Rhiwen (SH570645)), er y ceir safleoedd mewn caeau wedi’u gwella fel arfer fel nodweddion ar wahân (er enghraifft ym Mhont Rhythallt (SH545640)). Unwaith eto, nid astudiwyd union ddyddiad a natur y safleoedd hyn.

Mae lluniau a dynnwyd yn ddiweddar o’r awyr wedi dechrau dangos y potensial ar gyfer darganfod rhagor o safleoedd creiriol o fewn y caeluniau wedi’u gwella ar lwyfandir Arfon, ac ymddengys fod llawer i’w ddarganfod o hyd.

Anheddu

Yr unig anheddiad trefol a sefydlwyd cyn y cyfnod modern yw dinas Bangor. Fe’i sefydlwyd fel canolfan eglwysig yn y chweched ganrif, ond o’r braidd yr oedd wedi datblygu o’i chnewyllyn Cristnogol cynnar erbyn adeg map Speed a luniwyd ym 1610. Er ei bod bob amser yn bwysig fel Sedd yr Esgob a’r Deon a’r Cabidwl, dim ond o’r ddeunawfed ganrif ymlaen, pan welwyd nifer gynyddol o dafarndai yn tystio i’w phwysigrwydd fel canolfan bost, y tyfodd Bangor mewn ffyrdd eraill. Cynorthwywyd ffyniant Bangor gan ddatblygiad y diwydiant llechi a nawdd teulu Penrhyn o’r 1780au ymlaen, ac ym 1884 lleolwyd sedd Coleg Prifysgol Gogledd Cymru a oedd newydd ei sefydlu yno. Pan werthwyd tiroedd yr Esgob ym 1899-1903 rhyddhawyd tir ar esgair Bangor at ddibenion adeiladu, ac yn y fan hon yr adeiladwyd adeilad prifysgol newydd Hare ym 1910, a amgylchynwyd yn fuan gan faestref dosbarth canol academaidd.

Cynhwysai llawer o Fangor adeiladau slym a oedd yn eiddo i’r Deon a’r Cabidwl, y dibynnai eu preswylwyr ar elusennau Eglwysig. Dymchwelwyd y mwyafrif o’r rhain mewn rhaglen uchelgeisiol o dai cymdeithasol yn ystod y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd.

Er bod yr eglwys wedi bod yn berchennog tir mawr o fewn yr ardal yn ystod y cyfnod Canoloesol, erbyn y ddeunawfed ganrif roedd ei thiroedd wedi mynd yn llai i’r graddau nad oedd ganddi fawr ddim eiddo y tu allan i Fangor ei hun. Mewn cyferbyniad, o’r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen daeth nifer o berchenogion lleyg yn bwerus ac yn bwysig o fewn yr ardal. Dynion oedd y rhain a fyddai’n rheoli ei thynged tan yr ugeinfed ganrif.

Uwchlaw pob dim, daeth yr ardal dan ddylanwad dau dy mawr, y ddau ohonynt ym meddiant teuluoedd o Loegr, a nifer o ystadau eraill, nad oedd ar yr un raddfa ond a oedd yn dal i fod yn sylweddol, y lleolid eu canol y tu allan i ardal yr astudiaeth. Maent eu heffaith ar y dirwedd hanesyddol yn sylweddol, nid yn unig yn yr anheddau sylweddol yr adeiladasant iddynt eu hunain, a’r arddulliau pensaernïol bonheddig sydd mor gyffredin yn yr ardaloedd o’u hamgylch, ond hefyd ym mhatrwm anheddu ardal yr astudiaeth. At ei gilydd, ni ddymunai’r naill na’r llall o’r ddau dy mawr hyrwyddo aneddiadau cnewyllol ar wahân i bentref ystad wrth byrth y demên y gellid ei reoli’n hawdd, a thyfodd pob un o drefi newydd y cyfnod diwydiannol o fewn ardal yr astudiaeth – sef Bethesda a’i haneddiadau dibynnol, Llanberis, Bethel, Deiniolen – ar diroedd a oedd yn eiddo i ystadau llai o faint.

O’r ddwy ystad fawr, ystad y Penrhyn, a oedd yn eiddo i deulu Pennant o 1765, a’u holynwyr teulu Dawkins-Pennant a theulu Douglas Pennant, oedd y cyfoethocaf – yn wir, un o’r cyfoethocaf ym Mhrydain. Mae ei heffaith ar y dirwedd hanesyddol yn amlwg, nid yn unig yn y castell neo-Normanaidd a’i ddemên, ond hefyd ym mhentref ystad Llandygái wrth ei phorth, yn yr adeiladau a godwyd ganddynt y tu mewn i Fangor ei hun, yn cottages ornées Dyffryn Ogwen, sy’n wahanol iawn i anheddau’r chwarelwyr, ac yn chwarel y Penrhyn ei hun, ffynhonnell llawer o’r cyfoeth hwn, sy’n dal i gynhyrchu llechi.

Yr ystad arall oedd y Faenol; yn yr unfed ganrif ar bymtheg ac ar ddechrau’r ail ganrif ar bymtheg cryfhaodd teulu pwerus Williams ei afael wreiddiol yn ddidrugaredd ar Landdeiniolen, ac ymsefydlasant yn y Faenol, y cymerodd yr ystad ei henw ohoni, a ymestynnai o Fwlch Llanberis i Afon Menai.

Trosglwyddwyd yr ystad i’r goron ac fe’i rhoddwyd gan Gwilym o Orange i John Smith, Llefarydd Ty’r Cyffredin. O John Smith fe’i trosglwyddwyd i nai ei fab, sef Thomas Assheton, a gymerodd y cyfenw Assheton Smith. Trosglwyddwyd yr ystad yn ei thro i’w ail fab, sef Thomas Assheton Smith II (1752-1828), i Thomas Assheton Smith III (1776-1858), ac wedyn deulu Duff, a werthodd y rhan fwyaf o’i fudd yn yr ystad cyn y 1960au.

Yn y Faenol mae’r hen neuadd a’r cartref mwy newydd wedi’u cuddio o’r golwg gan waliau’r demên. Am nad oeddynt mor gyfoethog â’u cymdogion, ac am nad oedd ganddynt unrhyw ddinas i’w noddi, mae teulu Assheton-Smith, a’u holynwyr, teulu Duff, wedi gadael llai o’u hôl ar gefn gwlad gerllaw. Fodd bynnag nodir eu polisi tuag at eu tenantiaid yn aneddiadau gwasgarog ardal Deiniolen, ac mae ffynhonnell y cyfoeth i’w gweld yn chwarel llechi segur Dinorwig.

Daliai teulu Wynn o Lynllifon, i’r de o Gaernarfon, y rhoddwyd teitl Arglwyddi Niwbwrch iddynt ym 1793, diroedd ym mhlwyf Llanberis, gan gynnwys lleiniau o dir ar y ddwy ochr i Lyn Padarn, sefyllfa y llwyddwyd i fanteisio’n llawn arni pan oedd Assheton-Smith am allforio ei lechi o Chwarel Dinorwig.

Cerfiwyd ystad fach Glascoed allan yn y rhan dde-ddwyreiniol o blwyf Llanddeiniolen gan Hugh Rhys Wynn o Faelogan a’i olynwyr o’r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen. Yn ddiweddarach daeth yr ystad hon yn rhan o ystad Coed Helen (a elwid yn ystad Coed Alun hefyd), y lleolid ei chanol ger Caernarfon; Rice Thomas, sylfaenydd cyfoeth y teulu (b.f. 1577) oedd syrfëwr tiroedd y Goron yng Ngogledd Cymru, ac ymddengys Glascoed yn gyntaf yn archif y teulu mewn cytundeb priodas dyddiedig 1678. Daeth yr ystad gyfan i feddiant y teulu ym 1717, a daeth yr hen dy yng Nglascoed, a oedd wedi bod yn gartref i fonheddwr, yn gartref i ffermwr o iwmon.

Yn Nyffryn Ogwen, sicrhaodd hen ystadau Coetmor a Chefnfaes na fu goruchafiaeth teulu Penrhyn dros yr ardal byth yn oruchafiaeth lwyr.

Adeiladwyd castell Bryn Bras yn Llanrug, castell neo-Normanaidd a gynlluniwyd yn ôl pob tebyg gan Hopper, a oedd yn gweithio ar Benrhyn ar yr un pryd, ar gyfer cyfreithiwr lleol llewyrchus rhwng 1830 a 1839; ni fu’r ystad a oedd yn gysylltiedig â’r castell byth yn fwy nag 81 o erwau, sy’n anghyffredin mewn cyfnod pan yr oedd bri cymdeithasol yn dal yn adlewyrchiad o dirddaliadaeth.

Aneddiadau anghysbell

Prin yw’r enghreifftiau o eglwysi yn dyddio o’r cyfnod canoloesol sydd wedi goroesi mewn lleoliadau sydd bellach yn anghysbell (er enghraifft saif eglwys wreiddiol Llanberis mewn lle a elwir bellach yn Nant Peris, Llanddeiniolen (ardal 43); tra bod eglwys Llanfair mewn lleoliad cwbl ddiarffordd ar lan ddeheuol Afon Menai (ardal 28)).

Mewn nifer o leoedd o fewn ardal yr astudiaeth, mae ffermydd diarffordd wedi goroesi. Mae’r ffermydd hyn yn arbennig o amlwg ar dir ffermio da gwastadedd Arfon, ar lethrau’r Wyddfa uwchlaw Llanberis, ac yn Nant Ffrancon. Mae llawer o’r ffermydd yn yr ardal gyntaf wedi cadw enwau’r trefgorddau canoloesol (e.e. Bodandreg a Phant-yr-afallen (Bonyrafallen) uwchlaw y Felin Heli; Cororion, ger Tregarth), tra bod eraill yn ôl pob tebyg yn deillio o hafotai dros dro a godwyd yn gynharach yn y mynyddoedd (gweler ardal 44)

Yn aml, ynghanol y daliadau ar dir isel ceir ffermdai sylweddol yn dyddio o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, sydd yn aml yn ymgorffori nodweddion ystad nodedig, ac sy’n cynnwys clostiroedd rheolaidd yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yn Nyffryn Ogwen mae pobl yn dal i fyw mewn cyfres o ffermydd ac anheddau sylweddol a adeiladwyd gan ystad y Penrhyn ar hyd cwrs y ffordd a ragflaenai ffordd Telford. Mae’r rhain yn cyfuno nodweddion brodorol a bonheddig; roedd un ohonynt, sef Pen Isa’r Nant, yn fferm laeth fawr, mae un arall, Dol Awen, yn dy uncorn sylweddol, a chanddo simnai yn y canol a tho pyramidaidd, arddull y ceir enghreifftiau tebyg ohono mewn mannau eraill yng Ngogledd Cymru fel tai bonedd a chartrefi i’r dosbarth gweithiol. Adeilad arall o fewn yr ardal hon yw porthordy addurnol Arglwydd cyntaf y Penrhyn yn dyddio o c. 1800, Ogwen Bank, a ddefnyddir bellach fel y swyddfeydd ar gyfer parc carafannau.

Ar ystad y Faenol, gadawyd llawer o’r anheddau ar lethrau gogleddol yr Wyddfa ac maent yn dadfeilio. Ymgorfforwyd y tiroedd a oedd yn gysylltiedig â’r anheddau hyn mewn ffriddoedd helaeth.

Aneddiadau gwasgarog

Arweiniodd y cynnydd yn y boblogaeth ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif a’r mudo i’r chwareli llechi yn Nyffryn Ogwen a Llanddeiniolen-Llanberis at batrwm o anheddu gwasgarog mewn nifer o leoedd.

Mae patrwm y twf yn y boblogaeth yn Nyffryn Ogwen yn ystod cyfnod cyfalafol cynnar Chwarel y Penrhyn (1768-c. 1820) yn aneglur; mae Edmund Hyde Hall, a oedd yn ysgrifennu ym 1809-1811, yn cyfeirio at anheddiad gwasgarog ar lan orllewinol Afon Ogwen lle y ‘gwelir llawer o fythynnod gwyn, tra bod colofnau o fwg yn codi o bantiau ac o’r tu ôl i dwmpathau o gerrig yn datgelu anheddau cudd pobl sefydlog. Mae’r rheswm dros y casgliad hwn o dai – sef y chwarel lechi – heb fod ymhell i ffwrdd….’ Mae hyn yn awgrymu bod cymuned a gloddiwyd i ffwrdd erbyn hyn, ar safle’r prif bwll yn Chwarel y Penrhyn. O’r 1830au ymlaen hyd at gyfnod mor hwyr â’r 1870au efallai, sefydlodd ystad y Penrhyn ffurf nodedig ar anheddiad lled-wasgarog gerllaw, ar Fynydd Llandygái, ar ran o’r tir comin lle’r oedd chwarelwyr cyn hynny wedi’u hannog i dyfu tatws, a gynhwysai groglofftydd a gerddi hir ar y llethrau wedi’u gosod mewn trefn reolaidd. Adeiladwyd capeli ac eglwys gerllaw hefyd.

Yn ardal Llanddeiniolen-Llanberis datblygodd patrwm nodedig o aneddiadau gwasgarog lle y bu chwarelwyr-tyddynwyr yn byw yn rhannol o ganlyniad i’r chwarelwyr a’u teuluoedd yn tresmasu ar dir comin ac yn ei amgáu, ac yn rhannol o ganlyniad i weithgarwch amgáu gan berchenogion tir lleol a gyflawnwyd gyda sêl bendith y gyfraith.

Ymddengys fod pobl wrthi’n tresmasu ar dir comin o ddiwedd y ddeunawfed ganrif, ac amgaewyd tir comin Llanddeiniolen, er bod rhywfaint o wrthwynebiad, gan Assheton-Smith, Rice o Goed Helen a Niwbwrch o Lynllifon, ym 1800-8. O’r 1820au dechreuodd Thomas Assheton Smith III, fel y prif fuddiolwr, bolisi o ddosbarthu tyddynnod i chwarelwyr, gan gredu y byddai hynny yn dileu’r temtasiwn i ymweld â thafarndai y gallai cymuned gnewyllol ei gynnig. Adlewyrchir hyn ym mhatrwm anheddu modern yr ardal, â’i phatrwm o ffermydd gwasgaredig.

Mae un math nodedig arall o anheddiad gwasgarog i’w weld yn y barics yn Chwarel Dinorwig. Mae cyfrifon y chwarel yn cofnodi bod bythynnod yn cael eu hadeiladu o ddyddiad mor gynnar â 1811, a darparwyd llety ar gyfer 200 o ddynion yn y chwarel mewn saith safle gwahanol mor hwyr â 1937. Mae un set o farics, a adeiladwyd rhwng 1869 a 1877, bellach yn Gofrestredig.

Aneddiadau pentrefol cnewyllol

EYmddengys fod aneddiadau cnewyllol sy’n bodoli eisoes o fewn ardal yr astudiaeth yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Crëwyd pentrefi Llandygái a’r Felinheli (Port Dinorwic) y naill gan ystad y Penrhyn a’r llall gan ystad y Faenol, yn y drefn honno, ond fel arall ymddengys i aneddiadau pentref gael eu sefydlu gan adeiladwyr hapfasnachol ar yr ystadau llai o faint ac ar ffermydd rhydd-ddaliadol, am eu bod yn cynnig elw mwy addawol efallai ar fuddsoddiad nag y cynigiai amaethyddiaeth. Roedd hyn yn groes i ddymuniadau’r landlordiaid mwy o faint (gweler 4.3.3. uchod), ac mae rhywfaint o dystiolaeth o dyndra cymdeithasol yn codi o ganlyniad, ond mae patrymau anheddu sydd wedi goroesi yn awgrymu unwaith yr oedd ystadau’r Penrhyn a’r Faenol wedi’u derbyn fel faits accomplis, eu bod wedi mynd ati wedyn i’w diwyllio trwy brydlesu lleiniau ar gyfer eglwysi, capeli ac ysgolion ar eu tir eu hunain, ac o ganlyniad mae seilwaith y gymuned yn aml ar gyrion pentrefi.

O’r ddau bentref ystad, mor hwyr â’r 1780au cynhwysai pentref Llandygái yr eglwys, y ficerdy, annedd Ganoloesol a oedd yn gartref bryd hynny i William Williams, asiant Richard Pennant a dim byd arall; mae Edmund Hyde-Hall ugain mlynedd yn ddiweddarach yn sôn am ‘wyth neu naw tþ’. Erbyn i’r demên gael ei droi’n barcdir a’i amgáu yn y 1820au, roedd pentref ystad deniadol wedi’i sefydlu yn cynnwys anheddau pictiwrésg nodweddiadol, yn bennaf ar gyfer uwch-gyflogeion yr ystad a gweision y Castell. Mae’n dal i fod yn un o’r lleiafrif bychan o bentrefi yng Nghymru heb gapel anghydffurfiol.

Datblygodd pentref y Felinheli, Port Dinorwic yn Saesneg, fel yr awgryma ei enw, o amgylch melin lanw, y nodir ei lleoliad ar fap dyddiedig 1693. Datblygodd yn un o’r entrepôts ar gyfer llechi ystad y Faenol o 1788, ac o 1812 ymlaen efallai mai’r Felinheli oedd yr unig fan allforio. Tyfodd cymuned o’i amgylch i wasanaethu’r llongau, y ffowndrïau a’r porthladd ei hun, ac ymgartrefodd nifer o uwch-aelodau o staff ar yr ystad yma. Am y rheswm hwn mae’r Felinheli yn enghraifft anarferol o gymuned porthladd a adeiladwyd gan ystad a chanddi gymeriad pensaernïol hynod fonheddig, ac nid oes ganddi unrhyw beth o’r cymeriad gwerinol, sy’n llawer mwy nodweddiadol o gymunedau mordwyol, sydd i’w weld yng Nghaernarfon a Hirael. Mae traddodiad lleol yn maentumio bod y tai wedi’u hadeiladu o wenithfaen Aberdeen, a gyrhaeddodd fel balast yn y llongau llechi.

Yn Nyffryn Ogwen, mae Hyde Hall yn lledgyfeirio at gymuned a sefydlwyd ar safle prif bwll presennol Chwarel y Penrhyn (ac a gloddiwyd i ffwrdd amser maith yn ôl felly), a dengys mapiau o ystad y Penrhyn glystyrau o dai bach yn union i’r gogledd o’r chwarel, o amgylch eglwys y chwarelwyr (a drowyd drosodd bellach) a gerllaw’r Felin Fawr. Fodd bynnag, o’r 1820au ymsefydlodd pentref gwasgarog ar hyd ffordd newydd Telford ac – uwchlaw pob dim – ar ystad fach Cefnfaes, er bod y gwaith datblygu erbyn y 1860au yn dechrau gorlifo i dir ystad y Penrhyn. Ei graidd oedd capel yr Annibynwyr a roddodd i’r pentref ei enw.

Ymddengys fod yr anheddiad cynharaf yma yn ddatblygiad hirgul ar hyd y ffordd bost. Mae gwaith adeiladu diweddarach yn fwy rheolaidd. Ymddengys i bentref dibynnol Caellwyngrydd, gyda’i ffordd gefn nodedig a’i lonydd cyfuchlinol ymestynnol, gael ei ddatblygu gan adeiladwr hapfasnachol c. 1838-9. Mae Gerlan, a adeiladwyd ar ôl Deddf Gwella Bethesda 1854, yn llawer mwy rheolaidd ac mae wedi’i gynllunio’n dda, er bod Stryd John, sy’n dyddio o’r un cyfnod, yn rhwydwaith gorlawn o lonydd bychain. Adeiladwyd y tri chapel ym Methesda sydd wedi goroesi, sef Jerusalem (Methodist Calfinaidd), a adferwyd yn ddiweddar gyda chymorth grant gan Cadw, Bethesda ei hun (Annibynnol – y tu allan yn unig), a Seion (Bedyddwyr) ar raddfa sylweddol, ac maent yn tystio i ffyniant yr anheddiad yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. I’r gwrthwyneb, oherwydd i’r diwydiant llechi grebachu ar ô l900, ni fu fawr ddim gwaith adeiladu newydd ers hynny.

Ymddengys i bentref Tregarth gael ei greu yn hwyr gan ystad y Penrhyn, a ffurfiai loches ar gyfer torwyr streic y chwarel a yrrwyd allan o Fethesda ei hun yn ystod streic fawr y Penrhyn rhwng 1900-1903. Dengys map dyddiedig 1873 ychydig o dai yn unig yma, ond roedd y pentref wedi tyfu erbyn adeg llunio map 25” yr Arolwg Ordnans dyddiedig 1889, sy’n awgrymu mai’r ffactor allweddol yn ei ddatblygiad oedd cyflwyno gwasanaethau teithwyr ar reilffordd y chwarel ym 1880.

O fewn echelin Llanddeiniolen-Llanberis, sefydlwyd aneddiadau cnewyllol ar y pocedi bach o dir a oedd yn eiddo i’r ystadau llai o faint neu’r ffermydd rhydd-ddaliadol.

Adeiladwyd pentrefi cyfagos Clwt-y-Bont a Deiniolen ar safleoedd a oedd yn eiddo i Rice William Thomas ysw. a Robert William Griffith, ffermwr lleol, wedi’u gwasgu rhwng ffordd lechi Assheton-Smith ddyddiedig 1812 a’i reilffordd chwarel wreiddiol a dynnid gan geffylau, a agorodd ym 1825. Er bod y pentrefi yn adlewyrchu ac yn cadw cwrs y ffordd a’r rheilffordd, gwaith hapfasnachwyr yw’r tai a geir rhyngddynt. Adeiladwyd Clwt-y-Bont yn ystod y cyfnod 1825-1835, yn rhannol gan adeiladwr o Lanbabo ar Ynys Môn (sy’n esbonio’r enw Llanbabo yr adwaenid y pentref wrtho weithiau a’r enw gang ‘hogiau Llanbabs’ y mae dynion ifanc Clwt-y-Bont yn dal i’w arddel). Tyfodd Deiniolen o amgylch capel Ebenezer dyddiedig c. 1824 (sy’n esbonio’r hen enw ‘Ebenezer’ ar y pentref) o tua 1830. Mae’n seiliedig ar batrwm grid o strydoedd yn deillio o bolisi bwriadol, sy’n anarferol am anheddiad a adeiladwyd mewn ffordd ad-hoc. Gwyddom fod Rhes Fawr David Griffith (New Street), er enghraifft, yn dyddio o’r cyfnod rhwng 1832 a 1838. Un o nodweddion nodedig y gymuned hon yw’r eglwys Anglicanaidd sylweddol ar dir y Faenol gryn bellter o’r gymuned ei hun, tystiolaeth efallai o ymdrech aflwyddiannus i ddenu pobl Deiniolen yn ôl at gredo eu meistri.

Mae pentref presennol Bethel yn ymgyfuniad diweddar o ddau anheddiad bychan, sef Bethel a Saron, a ddatblygwyd eu hunain gan adeiladwyr hapfasnachol ar gyfer teuluoedd chwarelwyr ar dir rhydd-ddaliadol, ac a oedd, fel yr awgryma eu henwau, â chapeli yn ganolbwynt iddynt. Roedd Bethel wedi’i leoli yn gyfleus ar gwrs Rheilffordd Chwarel Dinorwig dyddiedig 1843, y gallai’r dynion deithio arni i’r gwaith.

Ym Mhen isa’r Waun ar dir comin Waun Wina, roedd pobl eisoes yn tresmasu yma o 1804, ac fe’i rhoddwyd i ystad Coed Helen gan y ddeddf amgáu ym 1808. Nodir Brynrefail ar yr arolwg o’r Faenol a wnaed ym 1777. Gellid cerdded o’r ddau i reilffordd y chwarel, a thyfodd pentrefi chwarel bach yno.

Ymddengys mai canolbwynt gwreiddiol pentref presennol Llanberis oedd y cabanau a’r bythynnod a ddarparai lety ar gyfer y tywyswyr a âi â theithwyr i fyny’r Wyddfa, ac a gynigiai wasanaeth gwely a brecwast. Daeth y Royal Victoria Hotel a adeiladwyd gan ystad y Faenol ym 1834 â thipyn mwy o foethusrwydd i’r busnes twristiaeth, ond adeiladwyd y gwestai eraill a ddilynodd yn bennaf ar dir a oedd yn eiddo i Elusennau Rhuthun i’r gogledd.

Aneddiadau cnewyllol eraill ar ystad y Faenol, neu o fewn ei maes dylanwad, yw Llanrug a Phont Rhythallt wrth y fynedfa i ddyffryn Afon Rhyddallt, sy’n draenio Llyn Padarn a Llyn Peris, ac, yng ngwddf y dyffryn, filltir yn uwch i fyny, bentrefi Cwm-y-Glo a Brynrefail. Ymddengys i’r rhain gael eu sefydlu ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg o ganlyniad i amrywiaeth o ffactorau, gan gynnwys y ffaith i dafarndai a melinau gael eu sefydlu ar Afon Caledffrwd. Bu’n bosibl iddynt ehangu am eu bod yn agos at orsafoedd ar linell leol LNWR i Lanberis a Rheilffordd Chwarel Dinorwig, y gallai’r chwarelwyr deithio arni i’r gwaith.

Aneddiadau trefol cnewyllol

Yn unig anheddiad cnewyllol cyn-fodern yn ardal yr astudiaeth yw Bangor, y cyfeirir ati yn draddodiadol fel y ddinas. Fodd bynnag, parhaodd Bangor i fod yn anheddiad bach tan y ddeunawfed ganrif; dengys map Lewis dyddiedig 1740 a’r arolwg o ystad y Penrhyn a wnaed c. 1768 glwstwr bach o ryw 100 o dai ar hyd y ddwy ffordd a gyfarfyddai wrth groes y farchnad. Fodd bynnag, arweiniodd y penderfyniad i ailgyfeirio’r ffordd bost dros fferri Porthaethwy yn hytrach nag ar draws Afon Menai o Abergwyngregyn i Fiwmares ym 1718 at adeiladu tafarndai ym Mangor, a ddechreuodd dyfu ar ôl hynny. Symbylwyd ei thwf hefyd gan y penderfyniad i sefydlu Porth Penrhyn ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif fel y lle i allforio llechi o chwarel y Penrhyn, ac erbyn dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, safai ierdydd adeiladu llongau, ffowndrïau a cheiau ar hyd glan y môr yn Hirael. Bu gwaith yn mynd rhagddo i adeiladu’r ffordd bost trwy’r ddinas o 1818, a chyrhaeddodd Rheilffordd Caer a Chaergybi ym 1848, a roddodd i’r ddinas gyfle i ehangu ymhellach ac yn wir roedd angen iddi ehangu o ganlyniad. Un o ganlyniadau hyn oedd anheddiad slym mawr a grëwyd ar dir a oedd yn eiddo i’r Deon a’r Cabidiwl, a ddarparai lety ar gyfer unigolion a oedd mewn llawer o achosion yn ddibynnol ar elusennau’r eglwys. Dymchwelwyd llawer o’r anheddiad slym hwn mewn rhaglen uchelgeisiol o dai cymdeithasol rhwng y rhyfeloedd ac ar ôl 1945. Yn sgîl sefydlu’r Coleg Normal, y mae ei adeiladau sefydlog yn dyddio o 1862, sefydlu Coleg y Brifysgol ym 1884, ac ailsefydlu Coleg y Santes Fair ym Mangor ym 1896 daeth y ddinas o dan ddylanwad ei sefydliadau academaidd. Ar ôl i’r palas esgobol a’r ystad gael eu gwerthu ym 1899-1903 bu’n bosibl i’r brifysgol symud o’r Penrhyn Arms i’w safle presennol, lle cwblhawyd coleg Hare ym 1910, a darparwyd y tir ar gyfer creu maestref academaidd a dosbarth canol o’i amgylch.

Tystiolaeth enwau lleoedd

Prin yw’r astudiaethau cyhoeddedig sydd wedi dadansoddi’n benodol dystiolaeth enwau lleoedd o fewn ardal yr astudiaeth. Mae Enwau Tir a Gwlad gan Melville Richards yn ffynhonnell werthfawr, ac mae’r gyfres Ar Draws Gwlad yn cynnwys nifer o enwau lleoedd yn Arfon. Ceir hefyd nifer o erthyglau gwasgaredig, megis erthygl Bob Owen ‘Enwau lleoedd plwyf Llanddeiniolen, 1746-1759’ yn yr Herald Gymraeg ym 1933.

Diwydiannol

Prif ddiwydiant ardal yr astudiaeth oedd cloddio llechi. Mae’r ardal yn cynnwys chwareli’r Penrhyn a Dinorwig, y ddwy chwarel lechi fwyaf yn y byd, y gweithiwyd y ddwy ohonynt mewn lefelau grisiog agored. Yn ogystal â’r rhain, ceir chwareli llai o faint eraill yn Nyffryn Ogwen – Tan y Bwlch, Bryn Hafod y Wern, Dolgoch a Phant Dreiniog – a nifer o chwareli canolradd yn ardal Llanberis, yn rhedeg o Lynrhonwy i esgair Cefn Du.

Mae Chwarel y Penrhyn, sy’n dal i gael ei gweithio, a Dinorwig, a gaeodd ym 1969, yn cynnwys cyfoeth o adeiladau, strwythurau a pheiriannau o gyfnodau gweithredu cynharach. Ailagorwyd gweithdai pedeironglog enfawr Chwarel Dinorwig yn Gilfach Ddu, a oedd wedi bod yn gartref i Amgueddfa Chwarela Gogledd Cymru (o dan ofal Cadw ac yn cael ei rhedeg gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru), fel Amgueddfa Lechi Cymru yn yr 1980au. Mae’r safle, a fu’n destun rhaglen adnewyddu enfawr yn ddiweddar, bellach yn rhan o Barc Gwledig sy’n cynnwys nodweddion a adferwyd yn adran Vivian o’r chwarel a rheilffordd gul, a adeiladwyd ar hyd cwrs rheilffordd y chwarel ei hun, a gaewyd ym 1961 ac a ddatgymalwyd ar ôl hynny.

Mae’r ddwy chwarel fawr hyn yn dangos sut y datblygodd y diwydiant llechi o dan reolaeth aristocrataidd uniongyrchol. Yn achos chwarel y Penrhyn, mae’r broses hon yn dechrau ym 1765, pan briododd Richard Pennant o Lerpwl a Hanover Square, Llundain (y rhoddwyd iddo deitl Arglwydd Penrhyn ym 1793), ag Anna Susannah Warburton, etifeddes rhan o’r ystad, a dyna pryd y dechreuodd ei gwr drafodaethau er mwyn prynu’r gweddill. O’r 1780au dechreuodd ailfuddsoddi’r elw o’i blanhigfeydd siwgr yn Jamaica mewn gwelliannau cyffredinol i’r ystad ond uwchlaw pob dim, mewn gweithgarwch cloddio llechi ar lethrau Cae Braich y Cafn. Yn achos chwarel Dinorwig, roedd y broses yn arafach; dechreuodd yr ystad brydlesu rhai o’i phyllau o 1787, ond ni ddaeth yr hyn oedd yn dal i fod yn grwp o lefelydd gwasgarog o dan reolaeth uniongyrchol Assheton-Smith tan y 1820au. Buddsoddwyd symiau sylweddol o arian yn y 1840au, i adeiladu melinau a yrrid gan ager a rheilffordd sylweddol i’r porthladd, ac arweiniodd hyn at gyfalafu pellach yn ystod y cyfnod 1869-1870, pan ddechreuodd y chwarel gystadlu â chwarel y Penrhyn o ran maint a chynhyrchiant.

Mae’r safleoedd ymylol, llai o faint yn enghreifftiau o’r system gyn-gyfalafol pan gâi’r safleoedd eu gweithio gan y bobl leol a hefyd natur stop-mynd y safleoedd na châi eu gweithio fel arfer yn uniongyrchol gan eu perchenogion, ond a gâi eu prydlesu i gwmnïau cyfyngedig.

Yn ogystal â’r chwareli eu hunain, esgorodd y diwydiant llechi ar nifer o safleoedd cysylltiedig – gweithredai nifer o felinau llifio llechi annibynnol yn ardal Llanberis-Fachwen-Pont Rhyddallt, ac yn y Felinheli gwasanaethai gweithdy peirianyddol a gwneud boelerydd anghenion y llongau ager a locomotifau ar reilffyrdd y chwareli ac ar Drên Bach yr Wyddfa.

Roedd diwydiannau cloddiol eraill ar raddfa lawer llai sylweddol. Cynhwysent chwarel cerrig hogi ar ystad Penrhyn yn Llyn Ogwen, a nifer o fwyngloddiau metelifferaidd yn is i lawr y dyffryn a weithiai gopr ac arsenig, yn ogystal â system o ffliwiau calchynnu yng Ngheunant, a mwynglawdd copr mwy sylweddol yn Llanberis. Daeth y mwynglawdd yn rhan o ystad y Faenol yn ddiweddarach, ond dadleuwyd ei fod yn dyddio o’r cyfnod Cynhanesyddol.

Roedd diwydiannau eraill yn yr ardal hefyd ar raddfa fach. Yng nghyffiniau Llanrug, anogwyd unigolion i sefydlu melin bapur a ffatri wlân yn ystod cyfnod Napoleon gan y ffaith bod llif dwr da ar gael, ac adeiladwyd ffatrïoedd a melinau a yrrid gan ddwr ar hyd Afon Galedffrwd ger Clwt-y-Bont yn y 1830au a’r 1840au. Gweithredai melinau yd ar Afon Ogwen ac Afon Cegin; mae Melin Cochwillan ger pentref Llandygái wedi goroesi yn gyfan, ac felly hefyd adeilad Melin Coetmor.

Daeth yr ail Ryfel Byd â nifer o safleoedd amddiffynnol i’r ardal. Sefydlwyd Gweinyddiaeth yr Awyr yn Chwarel Dinorwig am ychydig a sefydlwyd storfa fomiau sylweddol, sydd yno o hyd ond nas defnyddir bellach, mewn un o’r pyllau segur yn Chwarel Glynrhonwy.

Bu twristiaeth yn elfen bwysig o’r economi leol ers diwedd y ddeunawfed ganrif, yn rhannol oherwydd y bri a roddid ar yr arddunol a’r pictiwrésg, a’r anawsterau yn gysylltiedig â theithio yn Ewrop chwyldroadol neu Napoleonaidd. Roedd gan Fangor nifer dda o dafarndai erbyn y ddeunawfed ganrif. Adeiladodd Richard Pennant, y cyntaf i ddefnyddio’r teitl Arglwydd Penrhyn, westai ym mhen uchaf ac ym mhen isaf ei ffordd, yng Nghapel Curig (nas lleolir yn ardal yr astudiaeth) ac ym Mangor, yn rhannol yn y gobaith y byddai ei ffordd yn rhan o ffordd drwodd, ac er na ddilynodd ffordd Telford gwrs ei rhagflaenydd yn union, roedd modd bellach i ymwelwyr wneud eu ffordd i Ogledd Cymru yn gymharol rwydd. Cyhoeddwyd cyfres o lyfrau teithio a ddarparai ar gyfer marchnad a oedd yn tyfu (Pennant, Bingley, Peter Bailey Williams, ymhlith eraill), a sefydlwyd gwesty yn Llanberis i ddarparu ar gyfer y bobl hynny a ddymunai ddringo’r Wyddfa. Mae mynydda wedi bod yn opsiwn poblogaidd ers y 1860au hyd heddiw.

Agorwyd y rhwydwaith rheilffyrdd safonol rhwng 1848 a 1869 ac o ganlyniad gwelwyd cynnydd yn y fasnach ymwelwyr, er na ddatblygodd Bangor yn gyrchfan gwyliau erioed fel yr oedd rhai o’i hyrwyddwyr wedi gobeithio. Yn ystod ail hanner yr ugeinfed ganrif mae’r ardal wedi datblygu’n fwy ac yn fwy o atynfa i ymwelwyr, yn arbennig ardal Llanberis, sydd bellach yn ymfalchïo yn yr Amgueddfa Lechi, Rheilffordd Llyn Padarn, Trên Bach yr Wyddfa, Parc Gwledig Padarn a’r Mynydd Gwefru.

Cysylltiadau

Mae archeoleg cysylltiadau yn elfen bwysig o dirwedd hanesyddol ardal yr astudiaeth. Ceir cryn amrywiaeth o ffyrdd cludo, gyda sawl ohonynt yn unigol o bwys archeolegol mawr.

Cymharol brin yw’r dystiolaeth o ffyrdd cludo cyn-Fodern. Âi’r ffordd Rufeinig o Varis (Llanelwy) i Segontium (Caernarfon) trwy ardal yr astudiaeth, ac mae’n bosibl y cynrychiolir ei chwrs gan y ffordd a adeiladwyd yn y ddeunawfed ganrif y mae ei holion i’w gweld trwy ddemên Castell y Penrhyn. O fewn y Carneddau mae cyrsiau’r hyn a all fod yn llwybrau ceffylau pwn Canoloesol yn arwain i ucheldiroedd Arllechwedd Isaf ac i Ddyffryn Conwy i’w gweld mewn nifer o leoedd.

Bu fferïau yn rhedeg o’r cyfnod Canoloesol hyd at y 1960au. Ceir y cyfeiriad cyntaf at fferi Llanfaes ym 1294, ac at fferi Biwmares ym 1303, a redai o leiaf yn ddiweddarach o Aber ar ochr sir Gaernarfon nes iddi gau ym 1830. Ceir y cyfeiriad cyntaf at fferi Porthaethwy ym 1291-2 a bu’n rhedeg tan 1826; bu fferi Llanidan yn rhedeg o 1296 tan y 1960au, fel fferi Moel y Don, a fferi Porthesgob o 1350 hyd y 1960au.

Oherwydd gofynion y diwydiant llechi, ac i raddau llawer llai, y mwyngloddiau copr, adeiladwyd ffyrdd cludo penodol, a adlewyrchir yn patrwm o lwybrau ceffylau pwn a ffyrdd trol sydd wedi goroesi. Adeiladodd Richard Pennant ffordd drol ar gyfer Chwarel y Penrhyn a ddaeth yn weithredol fesul tipyn o 1788. Dilynodd Thomas Assheton-Smith ei esiampl ym 1812, gan ddisodli ffordd a agorwyd ym 1788 a olygai ddod â llechi mewn cychod ar hyd Llyn Padarn i stôr yng Nghwm y Glo. Defnyddiai mwynglawdd copr Llanberis gychod i gludo ei gynnyrch hefyd , a châi’r cychod eu llwytho o lithrfeydd wrth ochr Llyn Peris, a pharhaodd i wneud hynny tan 1836 o leiaf. Mae haneswyr Waun Gynfi yn cofnodi i rwydwaith o ffyrdd gael ei adeiladu o fewn rhan uchaf Llanddeiniolen a Llandygái yn ystod y cyfnod 1786-1860.

Fodd bynnag, o droad y ddeunawfed ganrif a’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, roedd ystadau’r Penrhyn a’r Faenol yn defnyddio cledrau ag ymylon haearn tua 2’ o led i symud eu llechi a chynhyrchion eraill. Cofnodir y math hwn o dechnoleg, a ddaeth yn nodweddiadol o Wynedd, ac a gopïwyd ar ôl hynny mewn ffurf ddiwygiedig ledled y byd, yn gyntaf ym 1799 ar ystad y Penrhyn. Erbyn y flwyddyn ddilynol roedd cledrau mewnol ar waith yn y chwarel, ac roedd gwaith yn mynd rhagddo i adeiladu rheilffordd at y môr, a gwblhawyd ym 1801. Cyflwynodd Chwarel Dinorwig gledrau ym 1811 ac adeiladodd ei rheilffordd fynd allan ym 1823-5.

Yn y ddau achos disodlwyd y rheilffyrdd hyn gan lwybrau rheilffyrdd ager a redai ar hyd llinellau gwahanol, nid tan y 1870au yn achos Chwarel y Penrhyn, ond yn achos Chwarel Dinorwig mor gynnar â 1843, pan gyflwynwyd math nodedig o reilffordd lle y câi wagenni chwarel bach eu cludo yn gocyn coch ar gludwyr mwy o faint..

Yn ystod y cyfnod 1815-1826 adeiladwyd ffordd Telford hefyd yn cysylltu Llundain â Chaergybi ac yn y pen draw â Dulyn. Lleolir nifer o gampweithiau peirianyddol mwyaf trawiadol Telford, megis pont Menai a’r ffordd i Nant Ffrancon, o fewn ardal yr astudiaeth. Effaith arall o ddyfodiad cefnffordd ddigonol a datblygiad economaidd yn lleol oedd i’r ffyrdd tyrpeg gael eu huwchraddio yn ystod yr un cyfnod, ac mae’r rhwydwaith ffyrdd a adeiladwyd neu a atgyfnerthwyd yn ystod y cyfnod hwn wrth wraidd y system ffyrdd bresennol o fewn yr ardal. Comisiynwyd y ffordd o Lanberis i Ben y Pás, er enghraifft, ym 1830. Yn ddiweddar adeiladwyd ffyrdd osgoi o amgylch Bangor, Llanberis a’r Felinheli.

Y prif goridor cludo arall yw’r Rheilffordd a adeiladwyd gan Stephenson o Gaer i Gaergybi, a agorwyd mor bell â Bangor ym 1848 ac fel llwybr trwodd ym 1850. O fewn ardal yr astudiaeth creodd y rheilffordd hon linellau lleol hefyd i Bort Penrhyn (1852) a Chaernarfon (1852), Llanberis (1869) a Bethesda (1884). Lleolir pont diwb Stephenson a adeiladwyd ym 11850 o fewn ardal yr astudiaeth.

Ceir un rheilffordd nodedig ac anarferol o fewn yr ardal, sef Trên Bach yr Wyddfa. Y rheilffordd hon yw’r unig reilffordd rac a phiniwn ym Mhrydain (ceir rhai eraill yn UDA ac yn y Swistir), ac mae’n parhau i ddefnyddio ei locomotifau ager a’i cherbydau a adeiladwyd yn y Swistir. Trên Bach yr Wyddfa oedd y rheilffordd gyntaf i gael ei hadeiladu ar gyfer twristiaid yn unig. Gerllaw ei therminws isaf yn Llanberis, ailosodwyd dwy filltir o gyn-Reilffordd Chwarel Dinorwig, a gaewyd ym 1961, gyda’r cledrau’n agosach at ei gilydd fel rheilffordd ymwelwyr rhwng 1971 a 1972, gan ddefnyddio cyn-locomotifau chwarel.

Character Areas

Relict archaeology, field patterns

Ardal 53 Llethrau bryniau islaw Moel y Ci / Rhiwen

Cefndir Hanesyddol Mae’r ardal hon yn cynnwys dosbarthiad ardderchog o safleoedd archeolegol creiriol, gan gynnwys cylchoedd cytiau ac aneddiadau gwledig anghyfannedd, y cofrestrwyd llawer ohonynt yn ddiweddar. Mae… Yn ôl i'r map
Improved agricultural land

Ardal 54 Caeau wedi’u gwella uwchlaw Pentir

Cefndir Hanesyddol Ardal o dir amaethyddol bras yn rhan ddeheuol hen blwyf Pentir, a all fod wedi ffurfio rhannau allanol Maenol Bangor yn y cyfnod Canoloesol (ac y… Yn ôl i'r map
Early nineteenth century transport link

Ardal 52 Ffordd Telford

Cefndir Hanesyddol Y briffordd rhwng Llundain a Chaergybi, a gynlluniwyd i hwyluso cysylltiadau rhwng prif ddinasoedd Lloegr ac Iwerddon. Fe’i hadeiladwyd gam wrth gam rhwng 1815 a 1830,… Yn ôl i'r map
Settlement

Ardal 51 Rhiwlas

Cefndir Hanesyddol Llethr yn wynebu’r gogledd a ffurfiai ystad fach ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg wedi’i lleoli rhwng tiroedd ystadau’r Penrhyn a’r Faenol ac a ddatblygwyd yn… Yn ôl i'r map
River valley

Ardal 50 Afon Rhythallt

Cefndir Hanesyddol Rhannau uchaf Afon Rhyddallt, yr afon sy’n draenio Llyn Padarn a Llyn Peris Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol Dyffryn afon Dyffryn afon gwastad, sy’n mynd yn… Yn ôl i'r map

Ardal 49 Glasinfryn

Cefndir Hanesyddol Pentref a leolir ar hen ystad y Penrhyn. Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol Pentref ystad Pentref a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg gan ystad… Yn ôl i'r map
High-status dwelling and associated demesnes

Ardal 48 Y Faenol

Cefndir Hanesyddol Safle uchel ei statws ers y cyfnod Canoloesol, pan oedd y tir yma yn rhan o Faenol Bangor, ond aeth yr ystad yn fwyfwy i ddwylo… Yn ôl i'r map
Narrow river valley

Ardal 47 Cegin Valley

Cefndir Hanesyddol Rhan isaf dyffryn Cegin, a arferai fod yn rhan o Faenol Bangor a safle Melin yr Esgob yn dyddio o’r cyfnod canoloesol, a fu’n rhan o… Yn ôl i'r map
Dispersed settlement

Ardal 46 Mynydd Bangor

Cefndir Hanesyddol Ardal a oedd yn rhan o ystad y Penrhyn o’r ddeunawfed ganrif ond a gysylltir yn draddodiadol â dinas Bangor. Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol Anheddiad… Yn ôl i'r map
Unenclosed upland

Ardal 45 Cefn Du and Garreg Lefain

Cefndir Hanesyddol Ardal agored i raddau helaeth a fu’n eiddo i’r Goron ers amser maith, ac a ddefnyddir fel defeidiog. Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol Ucheldir agored Ardal… Yn ôl i'r map
Dispersed upland farming settlement

Ardal 44 Dyffrynnoedd afonydd uwchlaw Llanberis

Cefndir Hanesyddol Ardaloedd yr ymddengys eu bod wedi’u hamgáu yn y cyfnod Canoloesol, ac a oedd yn rhan o bosibl o’r vaccaries a oedd yn gysylltiedig â chastell… Yn ôl i'r map
Settlement, field boundaries

Ardal 43 Nant Peris

Cefndir Hanesyddol Canolbwynt cyn-fodern y dyffryn, lle y lleolir pentref Nant Peris, sef pentref gwreiddiol Llanberis. Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol Anheddiad, ffiniau caeau O’r braidd y mae’r… Yn ôl i'r map
Industrial settlement (slate quarry)

Ardal 42 Ardal amgaeëdig Gwaun Gynfi

Cefndir Hanesyddol Ardal nas amgaewyd, ar wahân i rywfaint o dresmasu gan sgwatwyr, tan 1806, pan y’i rhoddwyd i ystad y Faenol a pherchenogion tir eraill, ac a… Yn ôl i'r map
Unenclosed upland

Ardal 41 Ucheldiroedd agored Moel y Ci/Gwaun Gynfi

Cefndir Hanesyddol Ardal a ddefnyddid yn draddodiadol fel defeidiog, wedi’i lleoli rhwng aneddiadau 33 and 42 a gynhwysai gartrefi chwarelwyr-dyddynwyr, a barhaodd i fod yn dir agored wrth… Yn ôl i'r map
Industrial settlement

Ardal 40 Sling

Cefndir Hanesyddol Ardal a arferai fod yn rhan o ystad y Penrhyn, ac a gynhwysai ffriddoedd yn bennaf yng nghanol y ddeunawfed ganrif. Mae rhan o’r ardal yn… Yn ôl i'r map
Relict archaeology (prehistoric and medieval settlement and fields), woods

Ardal 39 Llethrau bryn caeedig islaw Moel Wnion

Cefndir Hanesyddol Mae’r ardal hon yn cynnwys y llethrau serth yn wynebu’r gogledd ar yr arfordir rhwng y gwastadeddau arfor isel sydd wedi’u gwella (31) a’r mynydd/ucheldiroedd agored… Yn ôl i'r map
Relict archaeology, slate quarry, dispersed farms

Ardal 38 Caelun o amgylch Llanllechid

Cefndir Hanesyddol Mae’r ardal hon yn debyg i ardal 37 ar sawl cyfrif, am ei bod yn cynnwys rhai olion archeolegol creiriol ar raddfa fawr sydd mewn cyflwr… Yn ôl i'r map

Ardal 37 Caeau amgaeëdig o amgylch Bethesda

Cefndir Hanesyddol Mae hon yn ardal fach a chymhleth sy’n dangos tystiolaeth o anheddu a gweithgarwch trefnu’r dirwedd dros nifer o gyfnodau olynol. Mae’n bosibl nodi o leiaf… Yn ôl i'r map
Relict archaeology (settlements and fields), sheepfolds

Ardal 36 Mynydd agored (ardal ogleddol y Carneddau)

Cefndir Hanesyddol Ardal eang o lethrau mynyddoedd yn cynnwys rhai o’r copaon uchaf yng ngogledd Cymru sy’n ffurfio ei ffin ddeheuol. Ar rai o’r copaon hyn ceir carneddau… Yn ôl i'r map
Relict archaeology, woodland

Ardal 35 Rhaeadr Fawr

Cefndir Hanesyddol Crognant sydd wedi’i thorri’n ddwfn i’r llethrau sy’n wynebu’r gogledd yr ymddengys fod ei nodweddion pictiwrésg yn cael eu gwerthfawrogi gan ystadau Bulkeley a’r Penrhyn, ei… Yn ôl i'r map
Medieval motte, estate village

Ardal 34 Abergwyngregyn

Cefndir Hanesyddol Pentref glan môr ym mhen dyffryn amgaeëdig sy’n gysylltiedig ag un o lysoedd y tywysogion Canoloesol a’i faenor. Nid yw’r mwyafrif o’r anheddau presennol yn hun… Yn ôl i'r map
Industrial settlement (slate quarry), slate fencing, crog-lofftydd

Ardal 33 Mynydd Llandygái

Cefndir Hanesyddol Roedd yr ardal hon yn rhan o’r ffridd ar ddiwedd y ddeunawfed ganrif, ac fe’i hamgaewyd ar ôl hynny gan ystad y Penrhyn. Yn ystod rhyfeloedd… Yn ôl i'r map
Woodland, Telford road, paths

Ardal 32 Dyffryn Ogwen

Cefndir Hanesyddol Mae’r ardal fach hon yn cynnwys dyffryn coediog cul, a arferai fod yn rhan o ystad y Penrhyn; arferai’r darn hwn o’r afon yrru dwy felin… Yn ôl i'r map
Large, regular enclosures, substantial farms, road and rail links

Ardal 31 Ardal o iseldir glan môr o amgylch Wig

Cefndir Hanesyddol Arferai’r ardal hon fod yn rhan o ystadau’r Penrhyn, Madryn, Gorddinog a Bulkeley. Roedd yr ardal o amgylch fferm Henfaes yn Aber yn rhan o faenor… Yn ôl i'r map
Port

Ardal 30 Porthladd y Penrhyn

Cefndir Hanesyddol Porthladd ar gyfer cludo llechi ar longau a adeiladwyd o ddiwedd y ddeunawfed ganrif ymlaen o amgylch anheddiad glan môr cynharach. Mae’r ardal yn cynnwys nifer… Yn ôl i'r map
High-status dwelling and park

Ardal 29 Demên y Penrhyn

Cefndir Hanesyddol Mae annedd uchel ei statws wedi sefyll ar ddemên y Penrhyn ers diwedd y cyfnod Canoloesol ac mae’n bosibl mai dyma safle’r gaer Rufeinig a leolid… Yn ôl i'r map
Regular fields, woodland, farms

Ardal 28 Llanfair Isgaer

Cefndir Hanesyddol Tirwedd o dir pori wedi’i wella a chuddfannau planedig ar hyd Afon Menai ac yn ymestyn i fyny at gopa’r esgair sy’n rhedeg yn gyfochrog â… Yn ôl i'r map
Industrial settlement (port)/estate village

Ardal 27 Y Felinheli

Cefndir Hanesyddol Cyfuniad anarferol o borthladd a phentref ystad, sydd â chymeriad bonheddig pendant. Mae’r porthladd yn dal i gael ei ddefnyddio ar gyfer cychod hwylio; mae tirlun… Yn ôl i'r map
Medieval ‘Bangor’ visible in street plan, urban housing, university buildings, seafront

Ardal 26 Bangor

Cefndir Hanesyddol Dinas Bangor; craidd trefol Canoloesol sydd wedi ehangu ers dechrau’r ail ganrif ar bymtheg. Mae’r Stryd Fawr droellog a’r ardal o amgylch yr Eglwys Gadeiriol yn… Yn ôl i'r map

Ardal 25 Gwaun

Cefndir Hanesyddol Erbyn hyn mae’r ardal hon yn cynnwys clostiroedd bach a choedwigoedd yn bennaf, ac yn ei chanol ceir ffynnon feddyginiaethol a elwir yn Ffynnon Cegin Arthur.… Yn ôl i'r map

Ardal 24 Llanddeiniolen/Dinorwic

Cefndir Hanesyddol Ardal a fu’n eiddo yn rhannol i ystad y Faenol, yn rhannol i ystad Glascoed. Roedd wedi’i hamgáu erbyn diwedd y ddeunawfed ganrif, yn llawer cynharach… Yn ôl i'r map
Lowland plain, some relict archaeology

Ardal 23 Llwyfandir Arfon

Cefndir Hanesyddol Mae tirwedd donnog llwyfandir Arfon yn cynnwys tir pori wedi’i wella yn bennaf, yr arferai’r rhan fwyaf ohono fod yn eiddo i ystad y Faenol. Mae… Yn ôl i'r map
Late small enclosures, smallholdings, footpaths

Ardal 22 Graiglwyd

Cefndir Hanesyddol Ardal a amgaewyd gan ystad y Faenol ym 1814. Nid ymddengys ei bod yn cynnwys unrhyw olion creiriol cynhanesyddol na chanoloesol, ac ymddengys fod yr anheddiad… Yn ôl i'r map
Lakes

Ardal 21 Llyn Padarn a Llyn Peris

Cefndir Hanesyddol Dau lyn rhewlifol, a wahenir gan y garreg frig y saif castell Dolbadarn arni. Mae lefel y llyn uchaf (Llyn Peris) yn codi ac yn gostwng… Yn ôl i'r map

Ardal 20 Llanrug

Cefndir Hanesyddol Pentref yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a adeiladwyd ar batrwm amgáu cynharach, yn dyddio o bosibl o’r ddeunawfed ganrif, ar y dolydd gerllaw Afon… Yn ôl i'r map
Area 19 Ochr Bryn Bras

Ardal 19 Ochr Bryn Bras

Cefndir Hanesyddol Ardal o anheddu gwasgarog sy’n adlewyrchu ei lleoliad ar hyd llwybr y ffordd wreiddiol o Gaernarfon i ben isaf llynnoedd Padarn. Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol… Yn ôl i'r map
Industrial settlement (slate quarry)

Ardal 18 Cwm y Glo

Cefndir Hanesyddol Anheddiad chwarelwyr a adeiladwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ar lannau Afon Rhyddallt, a ddangosir fel anheddiad cymharol fawr, wedi’i gnewyllu’n llac ar fap degwm… Yn ôl i'r map
Irregular enclosures

Ardal 17 Nant Ffrancon – llethrau’r dyffryn

Cefndir Hanesyddol Mewn gwirionedd mae’r ardal gymeriad hon yn cynnwys dau ddarn ar wahân, un ar bob ochr i’r dyffryn, a arferai fod yn ddefeidiogau yn gysylltiedig â’r… Yn ôl i'r map
Improved pasture, road communications

Ardal 16 Nant Ffrancon – gwaelod y dyffryn

Cefndir Hanesyddol Tir pori a geir yn yr ardal hon yn bennaf. Arferai fod yn rhan o ystad y Penrhyn ac erbyn hyn mae’n eiddo i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol… Yn ôl i'r map

Ardal 15 Pen isa’r Nant

Cefndir Hanesyddol Rhan o hen ystad y Penrhyn sy’n fwriadol yn ‘bictiwrésg’, a oedd yn rhan o ffordd Arglwydd y Penrhyn o’r chwarel i Gapel Curig, a adeiladwyd… Yn ôl i'r map
Slate quarry landscape

Ardal 14 Chwarel y Penrhyn

Cefndir Hanesyddol Chwarel lechi fawr, sy’n dal i gynhyrchu o dan Alfred McAlpine Slate products; ar un adeg hi oedd y chwarel lechi fwyaf yn y byd. Mae… Yn ôl i'r map
Estate village

Ardal 13 Llandygái a Thal-y-Bont

Cefndir Hanesyddol Mae Llandygái yn bentref ystad cynlluniedig a adeiladwyd wrth byrth Castell y Penrhyn o amgylch eglwys Llandygái. Dim ond yr eglwys, y rheithordy a Thy Mawr,… Yn ôl i'r map
Industrial settlement (slate quarry)

Ardal 12 Bethesda a Llanllechid

Cefndir Hanesyddol Cymuned chwarel lechi a sefydlwyd o 1820 ymlaen ar hyd ffordd Telford a oedd newydd ei hadeiladu ar dir nad oedd yn eiddo i ystad y… Yn ôl i'r map
Slate quarry and copper mine landscape

Ardal 11 Chwareli Dinorwig, Marchlyn a Gallt-y-Llan Mwynglawdd copr Llanberis

Cefndir Hanesyddol Prif ran cyfadail chwarel lechi Dinorwig, yr ail chwarel fwyaf yn y byd ar un adeg ar ôl Chwarel y Penrhyn. Roedd y gweithfeydd cynharach wedi’u… Yn ôl i'r map
Industrial settlement (slate quarry) for senior staff

Ardal 10 Blue Peris

Cefndir Hanesyddol Ardal ddiarffordd gerllaw chwareli Dinorwig, Allt Ddu a Vivian a’u strwythurau a’u rheilffyrdd cysylltiedig, lle yr adeiladwyd anheddau sylweddol ar gyfer rheolwr y chwarel a’r meddyg.… Yn ôl i'r map

Ardal 9 Brynrefail

Cefndir Hanesyddol Mae Brynrefail yn bentref chwarel yn dyddio o’r 19eg ganrif, a adeiladwyd lle yr âi’r rheilffordd chwarel breifat yn dyddio o 1843 (a adeiladwyd i gludo… Yn ôl i'r map
Recently-landscaped area

Ardal 8 Allt Ddu

Cefndir Hanesyddol Yr ardal hon oedd canolbwynt gwreiddiol y gwaith cloddio ar ystad y Faenol. Roedd Chwarel Fawr ar waith erbyn 1700, a gweithiwyd y chwareli ym Mryn… Yn ôl i'r map
Relict archaeology, small enclosures, wooded hillslopes

Ardal 7 Gallt Celyn

Cefndir Hanesyddol Mae’r ardal hon yn cynnwys y tir creigiog, serth, amgaeëdig ar lethrau Cefn-du sy’n wynebu’r gogledd-ddwyrain, uwchlaw Llyn Padarn, yn arwain i lawr at y llyn.… Yn ôl i'r map
Slate quarry landscape

Ardal 6 Chwarel Glynrhonwy

Cefndir Hanesyddol Cyfres o chwareli llechi agored, yn gweithio gwythïen sy’n rhedeg i fyny’r llethrau o lan Llyn Padarn i’r gogledd-ddwyrain i’r tiroedd comin ar Gefn Du i’r… Yn ôl i'r map
Picturesque landscape

Ardal 5 Dolbadarn a Phentre Castell

Cefndir Hanesyddol Mae Castell Dolbadarn yn dyddio o deyrnasiad Llywelyn ab Iorwerth, ac roedd yn rhan o ddaliad brenhinol a gynhwysai vaccaries gerllaw. O ddiwedd y ddeunawfed ganrif… Yn ôl i'r map
Industrial settlement (slate quarry), visitor settlement

Ardal 4 Llanberis

Cefndir Hanesyddol Pentref mawr, a adeiladwyd i raddau helaeth ar dir a oedd yn eiddo i elusennau Rhuthun, ffaith a adlewyrchir mewn enwau stryd megis ‘(Dean) Goodman Street’,… Yn ôl i'r map
Industrial settlement (slate quarry)

Ardal 3 Deiniolen a Chlwt-y-Bont

Cefndir Hanesyddol Cyduniad o ddau bentref chwarelwyr yn dyddio o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a adeiladwyd ar rannau o Waun Gynfi lle y bu sgwatwyr yn tresmasu… Yn ôl i'r map

Ardal 2 Coedwig Fachwen

Cefndir Hanesyddol Llethrau bryniau a orchuddir yn rhannol â choed a blannwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, ac yn rhannol â choetir hþn, lle y ceir llawer… Yn ôl i'r map
Industrial settlement (slate quarry)

Ardal 1 Bethel a Saron

Cefndir Hanesyddol Cyduniad o ddau bentrefan yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a adeiladwyd yn wreiddiol ar bocedi o dir nad oedd yn eiddo i ystad y… Yn ôl i'r map