Mae Cwm Clydach, sy’n fyr ond eto’n drawiadol yr olwg, yn torri trwy gornel gogledd ddwyreiniol bellaf maes glo De Cymru, rhwng uwchdiroedd Gogledd Gwent i’r de a Mynydd Llangadog i’r gogledd. Mae llawr y cwrn yn disgyn i lawr yn serth o 350m uwchben SO ym Mryn-mawr yn y gorllewin, i 100m uwchben SO yng Ngilwern yn y dwyrain, mewn pellter o ychydig dros 5km.Anaml y mae’r cwrn dros 0.51km o led, ac mae ei ochrau yn esgyn yn serth iawn, yn glogwynog mewn mannau, i lethrau mwy graddol ar bob ochr uwchben tua 350m uwchben SO. Mae’r Afon Clydach yn plymio ac yn rhaeadru ei ffordd drwy’r cwrn i ymuno ag Afon Wysg yng Ngilwern lle mae’r cwrn yn agor allan yn ddramatig i ddyffryn Wysg.

Wrth i’r cwrn dorri ar draws maes glo de Cymru, mae’n amlygu haenau glo, clai a charreg haearn ac yna’n torri’n ddwfn i mewn i’r Calchfaen Carbonifferaidd. Mae’r strwythur daearegol hwn, ynghyd ag adnoddau a grym Afon Clydach, wedi sicrhau bod yr ardal wedi cael ei hymelwa ers y cyfnod cynhanesyddol o leiaf fel y gwelir wrth Graig y Gaer, caer o Oes yr Haearn wedi’i lleoli ar ben dibyn naturiol yn edrych dros ochr ogleddol y cwm. Roedd presenoldeb coetir ar gyfer darparu coed a golosg i danio ffwrneisi hefyd mae’n siwr yn ffactor allweddol wrth ddenu diwydiant cynnar i’r cwm.
0 safbwynt geomorffoleg, roedd serthni’r tir yn fantais i’r diwydiannau gweithiau haearn a llosgi calch cynnar, Ile y gellid adeiladu ffwrneisi ac odynnau calch yn strategol i mewn i ochrau’r cwm,gan hwyluso gosod deunyddiau i mewn iddynt o’r pen uchaf ac yna eu tynnu allan oddi tanynt.
Ategir tirwedd a golygfeydd dramatig Cwm Clydach gan ei gysylltiadau hanesyddol ac archaeolegol amrywiol, a’r amrywiaeth o dramwyfeydd sydd wedi defnyddio llwybr cyswllt naturiol y cwm, sy’n cysylltu ucheldiroedd angrhoesawgar Morgannwg â dyffryn ffrwythlon Afon Wysg. Fodd bynnag, roedd y rhan fwyaf o’r tramwyfeydd yn gwasanaethu’r diwydiannau a dyfodd o fewn y cwrn yn bennaf, a gyflwynwyd yn gyntaf i’r cwm, yn 61 tystiolaeth ysgrifenedig hanesyddol, yn y 17eg ganrif, ond dylid disgwyl ymelwa o’r canoloesoedd, er na chafodd ei gofnodi. Ar yr adeg hon sefydlodd teulu Hanbury o Bontypwll ffwrnais ac efail Llanelli ar Ian ogleddol yr afon. Erbyn 1684, roedd y gweithfeydd hyn yn cynhyrchu llawer o haearn a golosg, a oedd yn sicrhau datblygiad cyflym yr yrnelwa a’r aneddiad cynnar yng Nghwm Clydach. Mae Ty Clydach gerllaw a adeiladwyd ym1693 gan Francis Lewis, clerc y ffwrnais, yn arddangos ei arfbais deuluol yn ymffrostgar uwchben y brif fynedfa i’r eiddo. Mewn mannau eraill yn y cwm, ac mewn cyferbyniad cymdeithasol, mae olion gweladwy tai y cyn weithwyr, gan gynnwys terasau’r gweithwyr haearn yn Ne Clydach.
Sefydlwyd Gwaith Haearn Clydach cyn 1795 er mwyn ymelwa golosg a gyflwynwyd bryd hynny fel y tanwydd ar gyfer ffwrneisi. Mae safle’r gwaith haearn yn gorwedd ger ffordd fodern A465 (T) Blaenau’r Cymoedd, gyda’r olion sydd wedi goroesi yn cynnwys dwy ffwrnais gerrig fawr, ynghyd â sylfeini eu tai bwrw, cromen ac adeiladau cysylltiedig eraill. Ceir mynediad at y safle dros bont o haearn bwrw, Smart’s Bridge, a ddyddiwyd i 1824. Parhaodd cynhyrchu yn y gwaith tan tua 1860, erbyn pryd ‘roedd wedi datblygu’n ganolbwynt ar gyfer gweithgaredd yn y cwm. Erbyn 1841, cyflogwyd dros 1350 o bobl, gan gynnwys 133 o blant o dan 13 oed, gyda thua dwy ran o dair ohonynt yn ymwneud ag echdynnu’r mwyn haearn a’r glo angenrheidiol yn uwch i fyny’r cwm. Yn ei flynyddoedd ynnar, cysylltwyd y gwaith yn agos â’r teulu Frere, a enillodd fri gwahanol pan aeth Syr Bartle Frere, a aned yrn 1815 yn Nhy Clydach, yn Uwch Gomisiynydd De’r Affrig, a heb yn wybod iddo helpu i ddechrau Rhyfel y Swlw.
Prif ddiwydiant y 19eg a’r 20fed ganrifoedd yn y cwrn oedd chwarelu calchfaen a gweithgynhyrchu calch at ddibenion amaethyddol ac adeiladu. Roedd y gweithfeydd calch cyntaf wedi dechrau cynhyrchu ym 1785, yn Blackrock, ond agonvyd nifer o chwareli eraill drwy gydol y ganrif nesaf. Darparoddchwarel Llanelli galchfaen ar gyfer Gwaith Haearn Clydach, ac, ymhen amser, calch ar gyfer ffermio a morter adeiladu. Caeodd o’r diwedd ym 1962. Adeiladwyd Gwaith Calch Clydach sy’n goroesi heddiw ym 1877 i ddarparu calch ar gyfer adeiladu traphont y rheilffordd. Mae ei odynau mawr, gyda bwâu sugno dwbl ar gyfer pob siafft, yn enghreifftiau arbennig o dda sydd wedi goroesi.
Mae cysylltiadau a chludiant hefyd wedi ffurfio rhan holl bwysig yn natblygiad y cwm.Yn y 1790au, er mwyn cysylltu mwyngloddiau a chwareli â gweithfeydd, adeiladwyd rheilffyrdd a thramffyrdd, a dynnwyd â cheffylau i ddechrau. Rhoddwyd caniatâd seneddol ar gyfer adeiladu Camlas Brycheiniog a’r Fenni ym 1793, ynghyd â chyfundrefn dramffordd gysylltiol, gyda’r lein gyntaf yn rhedeg dnvy’r cwm. Mae’r gamlas yn croesi llawr y cwrn ger Gilwern ar arglawdd enfawr o bridd 25m o uchder,gydalr afon yn rhedeg mewn twnnel wrth ei waelod. Agorodd y gamlas rhwng Gilwern ac Aberhonddu ym 1801, ond ni wnaed y cysylltiad olaf â Phontymoile i’r de tan 1812.
Gosodwyd tramffyrdd ac incleinau eraill er mwyn gwasanaethu pyllau penodol yn y cwm, ac o ganlyniad mae gan yr ardal y rhwydwaith dwysaf o lwybrau tramffyrdd cynnar sydd wedi goroesi yng Nghymru.Ategwyd y rhain ym 1862, gan Reilffordd un lein Merthyr,Tredegar a’r Fenni. Cafodd hon yn ei thro ei hymgorffori yn rhan o Reilffordd Llundain a’r Gogledd Orllewin, ym 1866, ac fe’i newidiwyd yn gyfundrefn lein ddwbl un mlynedd ar ddeg yn ddiweddarach. Roedd y llethrau serth yn golygu y gellir gosod y lein gyda chyfres o dwnelau, toriadau a thraphontydd yn unig. Mae’r lein, sydd bellach wedi ei datgymalu a’i chodi, yn aros fel nodwedd linellol amlwg a thrawiadol y gellir ei gweld ar ochr ddeheuol y cwm. Y ffordd A465(T) Blaenau’r Cymoedd bresennol, a adeiladwyd yn y 1960au. yw’r ddiweddaraf mewn cyfres o gyfundrefnau ffyrdd sydd, ers y 18fed ganrif, wedi croesi’r cwrn fel llwybrau cyswllt pwysig.
Er gwaetha’r ffaith bod yr holl echdynnu mwynau a chalchfaen wedi dod i ben bellach, gan adael ychydig iawn o gyflogaeth o fewn y cwm, mae’r hen gymunedau sefydlog yn parhau i ffynnu. Mae digonedd o olion o’r cyn-ddiwydiannau ac o’r cyfundrefnau cyswllt, fel mae tystiolaeth a’r gael hefyd o’r cyn-amgylchiadau cymdeithasol, sy’n cynnwys nid yn unig tai, ond hefyd capeli a thafarndai sydd wedi goroesi. Mae dwyster ac amrywiaeth y safleoedd diwydiannol pwysig hyn a’r cyfundrefnau cludiant dilynol yn y cwrn yn cynrychioli microcosm bychan ac integredig o orffennol diwydiannol Cymru,a oedd, yn ei dro, yn dibynnu ar ddaeareg a daearyddiaeth rhyfeddol yr t~rweddg weledol a hanesyddol ysbrydoledig hwn.