Skip to main content

Lleolir Blaenafon ym mlaenau cwm Afon Llwyd yn un o ardaloedd mwy agored ucheldiroedd Gwent. Lleolir rhan isaf y dref, lle y mae’r afon yn llifo i lawr y cwm cul, ar uchder o 300m OD. Mae llethrau’r cwm yn codi’n eithaf serth i esgeiriau gweundirol Cefn Coch, Mynydd Coety a’r Blorens oddi amgylch, sy’n cyrraedd bron 600m uwchlaw OD. Mae ardal Pwll Du, i’r gogledd o’r dref, yn ymestyn dros y llwyfandir sy’n ffurfio’r cefn deuddwr rhwng dyffryn Afon Llwyd a cheunant Clydach i’r gogledd.

HLCA019 Mynydd Varteg Opencast HLCA003 Glantorfaen HLCA005 Forgeside and Big Pit HLCA012 Forgeside Settlement HLCA020 Coity Mountain HLCA004 Coity Enclosed Landscape HLCA018 Cwmavon Industrial Transport Corridor HLCA008 Garn-yr-erw Transport Corridor HLCA001 Blaenavon Urban Core HLCA006 Blaenavon Ironworks and Upper Brick Yard HLCA017 Mynydd y Garn-fawr HLCA007 Garn Lakes (Kay and Kears Reclamation) HLCA002 Blaenavon Urban Extension HLCA021 West Blaenavon Industrial Estates HLCA009 Cefn Garnyrerw and Pen-ffordd-goch Extractive Area HLCA010 Canada Tips and Blaen Pig HLCA011 Blorenge and Gilwern Hill HLCA016 Cwm-mawr and Coed-y-Prior HLCA013 Cwm Llanwenarth and Cwm Craf HLCA015 Llanfoist HLCA014 Govilon

Gorchuddir yr ardal gyfan gan weithfeydd cloddio glo brig cynnar ac mae wedi goroesi fel yr unig waith cloddio mwynau brig segur, aml gyfnod, gweddol fawr yn ôl pob tebyg yn Ne Cymru. Mae’n dal i fod yn balimpsest o weithgarwch cloddio a phrosesu cynnar, wedi’i gris-groesi gan fwyngloddiau ffos bas, incleins tramffyrdd a thomenni. Mae’r elfennau hyn, a thref Blaenafon, Mynydd Coety, y Blorens a Phwll-Du, a golygfa lofaol a gadwyd sy’n ymwneud yn uniongyrchol â’r prosesau mwyngloddio, yn ffurfio hanfod cymeriad hanesyddol unigryw tirwedd Blaenafon. Tan ddiwedd y cyfnod canoloesol, defnyddid yr ardal yn bennaf at ddibenion pori defaid ac nid ymddengys unrhyw fath o aneddiadau yn gysylltiedig â gweithio haearn tan ddiwedd yr 16eg ganrif a dechrau’r 17eg ganrif, er bod yr ardal yn llawn o’r holl ddeunyddiau angenrheidiol i wneud haearn ac roedd digonedd o goetir, calchfaen, glo a haearnfaen o safon ar gael. Rhwng y 1670au a’r 1790au roedd mwyn haearn yn cael ei weithio ar raddfa fach ar diroedd yn union i’r gogledd o’r dref bresennol, fodd bynnag dim ond pan sefydlwyd Gwaith Haearn Blaenafon ym 1789 y dechreuwyd datblygu’r cyfoeth lleol o fwynau yn fasnachol.

Gellir olrhain datblygiad diwydiannol dilynol Blaenafon trwy’r newidiadau sydd wedi digwydd yn y dirwedd oddi amgylch, sy’n dal i dystio yn ddramatig i weithgareddau’r diwydiannau glo, haearn a dur, ac mae olion lefelydd chwareli, siafftiau mwyngloddiau, gwaith stripio lleiniau, mwyngloddio brig, tomenni sbwriel helaeth, tramffyrdd a rheilffyrdd i’w gweld o hyd. Yn wir, mae tomenni sbwriel helaeth diffaith y Blorens yn ffurfio tirwedd ar wahân yn ei haeddiant ei hun, sy’n ddramatig ac yn arw, ac mae’n gofeb unigryw i orffennol diwydiannol Cymru ac o ddatblygiad technolegol dyn, a welodd newid ar raddfa fawr yn nhirwedd De Cymru yn gyffredinol.

Tref Blaenafon yw un o’r enghreifftiau gorau sydd wedi goroesi yn Ne Cymru o gymuned ddiwydiannol wedi’i lleoli ym mlaenau’r cwm, ac mae wedi cadw llawer o nodweddion yn dyddio o’r 19eg ganrif megis tai teras, siopau, eglwysi, capeli, ysgolion a Neuadd a Sefydliad y Gweithwyr. Mae’r dref wedi cadw’r cysylltiad hanfodol rhwng yr elfennau preswyl, masnachol a chrefyddol a’r safleoedd diwydiannol a’r dirwedd o waith dyn cysylltiedig. Mae craidd gwreiddiol y dref, sy’n dyddio o’r 1790au ac sy’n seiliedig ar North Street, i’w weld o hyd mewn rhai o’r grwpiau o adeiladau sydd wedi goroesi. Mae’r rhain yn cynnwys Eglwys Sant Pedr (1804), yr unig eglwys yn arddull y 18fed ganrif sydd â chloriau bedd, fframau ffenestri a bedyddfaen o haearn bwrw. Adeiladwyd a gwaddolwyd adeiladau’r ysgol gerllaw, sydd mewn arddull ffug Gothig debyg, ym 1816 er cof am Samuel Hopkins, un o berchenogion y gwaith haearn lleol, yn benodol ar gyfer lles addysgol ei weithwyr. Er bod llawer o’r tai gweithwyr gwreiddiol wedi’u dymchwel, mae llawer wedi goroesi, yn arbennig y rhai gyferbyn â Gwaith Haearn Blaenafon. Ar ben hynny, ac mewn cyferbyniad, mae cartrefi rhai o berchenogion cynnar Cwmni Blaenafon wedi goroesi, megis Park House a Thy Mawr, a newidiwyd yn ysbyty ers hynny.

Adlewyrchir datblygiad diweddarach Blaenafon yn ystod y cyfnod 1820 hyd 1870 yn yr ardal sydd â King Street yn ffinio â hi i’r gogledd a Hill Street yn ffinio â hi i’r dwyrain. Nodweddir yr ardal gan dai syml â phedair ystafell, y mae gan rai ohonynt selerau. Saif anheddau mwy cymhleth, megis Vipond House a Thon Mawr (Clwb Arundel) wrth eu hochr. Mae adeiladau cymunedol nodedig eraill yn cynnwys Capel Horeb (1862), yn yr arddull Ïonig glasurol, Gorsaf yr Heddlu (1867), Neuadd a Sefydliad y Gweithwyr (1894), sy’n enghraifft ddiddorol o ganolfan gymdeithasol a hamdden gynnar; ac, wrth gwrs, nifer fawr o dafarndai. Mae Broad Street a’r rhesi teras cyfagos yn nodweddiadol o dirwedd drefol draddodiadol tref yn un o gymoedd De Cymru, math o ddatblygiad sefydliadol sydd wedi diflannu i raddau helaeth o ranbarthau eraill.

Mae Blaenafon yn cynnwys dau safle o bwysigrwydd cenedlaethol sydd wedi’u cadw fel enghreifftiau o dreftadaeth ddiwydiannol gyfoethog yr ardal; sef Gwaith Haearn Blaenafon ac Amgueddfa Lofaol Pwll Mawr, y mae’r ddau ohonynt yn elfennau hanesyddol a thechnolegol pwysig yn nhirwedd ddiwydiannol a chymdeithasol Blaenafon.

Mae’r Gwaith Haearn, sy’n Safle Gwarchodaeth, mewn cyflwr hynod o dda. Defnyddiai Gwaith Haearn cyntaf Blaenafon, a adeiladwyd ym 1789 fel gwaith cynnar yn llosgi golosg, y tir naturiol. Adeiladwyd cyfres o ffwrneisi i mewn i’r llethr a alluogai eu cyflenwi oddi uchod, tra’n caniatáu i’r metel tawdd, ar ôl y broses chwythu, redeg i ffwrdd o’r gwaelod i’r tai bwrw, lle y câi ei fowldio’n haearn crai. Mae strwythurau’r ffwrneisi a’r ddau dy bwrw wedi goroesi mewn cyflwr da.

Mae’r lifft cydbwyso dwr yn strwythur amlwg iawn. Defnyddid y lifft hydrolig drawiadol hon, a adeiladwyd rywbryd ar ôl 1839, i gludo llond tramiau o haearn o’r naill lefel i’r llall fel y gellid eu cludo ar dramffordd i Efail Garn-Ddyrys gerllaw, a hefyd i Gamlas Brycheiniog a’r Fenni sy’n elfen lawn mor bwysig yn y dirwedd ddiwydiannol gydgysylltiol fawr hon. Ar ben hynny, mae grwp pwysig o fythynnod gweithwyr sydd wedi goroesi yn Stack Square.

Lleolid hen waith glo Pwll Mawr ar ochr fwyaf dwyreiniol maes glo De Cymru. Ym 1980, caeodd fel pwll glo gweithredol ac erbyn hyn mae Pwll Mawr a redir gan ymddiriedolaeth elusennol yn darparu mynediad i ymwelwyr i’w lefelydd tanddaearol 90m o dan ddaear. Cloddiwyd y pwll glo i’w lefel bresennol ym 1880, er bod ei lefelydd tanddaearol yn cynnwys siafftiau a thwneli llawer cynharach, Forge Level er enghraifft, a gloddiwyd ym 1812 i gyflenwi glo yn benodol i Waith Haearn Blaenafon. Dan ddaear, mae tai injan a stablau i’w gweld o hyd. Ar yr wyneb, mae’r banc ben pwll o ddur yn dyddio o 1921 a’r rhesi cysylltiedig o adeiladau yn dangos maint y gwaith glo blaenorol. Mae’r adeiladau hyn yn cynnwys y baddondai pen pwll, siop y gof, sied lampiau, ty peiriant weindio a chylchffordd tramiau. Mae’r safle hwn yn dal i fod yn enghraifft wedi’i dehongli’n dda, ond prin, o waith glo a gyfrannodd at sefydlu cymunedau Cymreig tra phendant wedi’u lleoli yn y tirweddau a grëwyd ganddynt.

Yn gysylltiedig â datblygiad diwydiannol yr ardal mae olion y rhwydwaith trafnidiaeth oedd ei angen i gludo’r deunyddiau crai i’r gwaith haearn ac allforio’r cynnyrch gorffenedig. Mae’r ardal yn cynnwys amrywiaeth o nodweddion trafnidiaeth, yn amrywio o dramffyrdd bach i gofebau pwysig megis y twnnel a’r plân ar oleddf ym Mhwll-Du a adeiladwyd gan Dyne Steel. Agorwyd y twnnel ym 1815 i gludo calchfaen i’r gwaith haearn o’r chwareli i’r gogledd. Fe’i defnyddid i gludo haearn crai o’r gwaith haearn i’r efail yng Ngarn-Ddyrys hefyd, ond fe’i disodlwyd yn y diwedd gan y plân ar oleddf a adeiladwyd gan Dyne Steel tua 1850.

Mae tirwedd Blaenafon, er ei bod yn destun cynlluniau adfer megis un Kays a Kears, yn dal i fod ymhlith y tirweddau diwydiannol creiriol sydd wedi’u cadw yn y cyflwr gorau yng Nghymru, ac mae’n cynnwys crynhoad ac amrywiaeth helaeth o nodweddion archeolegol. Mae hefyd yn un o’r cofebau mwyaf pwerus i Chwyldro Diwydiannol Cymru, ac o’r modd y defnyddiodd dyn y dirwedd a’r effaith y cafodd arni.

Character Areas

Area characterised by modern industrial estates. Previously dominated by collieries and associated buildings, industrial terraced rows and tramroad links. Buried archaeological remains.

Ystadau Diwydiannol Gorllewin Blaenafon

Ardal a nodweddir gan ystadau diwydiannol modern. Gweithfeydd glo ac adeiladau cysylltiedig, rhesi teras diwydiannol a chysylltiadau tramffyrdd oedd nodweddion amlycaf yr ardal yn y gorffennol. Olion archeolegol… Yn ôl i'r map
Predominantly unenclosed upland landscape characterized by agricultural stock management, boundary markers and prehistoric funerary ritual features. Another main characteristic is industrial extraction given the numerous quarries and collieries once in the area. Historic events.

Mynydd Coety

Tirwedd ucheldirol agored yn bennaf a nodweddir gan weithgarwch rheoli stoc amaethyddol, arwyddion terfyn a nodweddion angladdol a defodol cynhanesyddol. Mae gweithgarwch cloddio diwydiannol yn nodwedd bwysig arall…
Gweld mwy Mynydd Coety
Yn ôl i'r map
Extractive landscape dominated by modern opencast workings and waste tips. Former industrial extractive features related to quarrying and mining were previously characteristic of the area.

Ardal Mwyngloddio Brig Mynydd y Farteg

Tirwedd gloddiol a nodweddir yn bennaf gan weithfeydd mwyngloddio brig a thomenni gwastraff modern. Arferai nodweddion gwaith cloddio diwydiannol blaenorol yn gysylltiedig â gweithgarwch chwarelu a chloddio fod… Yn ôl i'r map
Major transport corridor, also characterized as a rare surviving medieval and post-medieval agricultural landscape with areas of woodland, scattered post-medieval farmsteads, and industrial processing at Cwmavon forge with associated industrial housing.

Coridor Trafnidiaeth Ddiwydiannol Cwmafon

Coridor trafnidiaeth pwysig, a ddisgrifir hefyd fel enghraifft brin sydd wedi goroesi o dirwedd amaethyddol ganoloesol ac ôl-ganoloesol yn cynnwys coetir, ffermydd ôl-ganoloesol gwasgaredig, a gweithgarwch prosesu diwydiannol… Yn ôl i'r map
Unenclosed upland landscape characterised by pre-historic funerary/ritual features and livestock grazing. Very minor industrial features mainly boundary marker stones

Mynydd y Garn-fawr

Tirwedd ucheldirol agored a nodweddir gan nodweddion angladdol/defodol cynhanesyddol a gweithgarwch pori da byw. Nodweddion diwydiannol dibwys iawn sy'n cynnwys yn bennaf cerrig terfyn. Cefndir Hanesyddol Mae ardal… Yn ôl i'r map
Area characterised as enclosed agricultural landscape with characteristic stone built farmhouses and cottages. Communication features including the Monmouthshire and Brecon Canal. Ancient and other woodland.

Cwm-mawr a Choed-y-Prior

Ardal a ddisgrifir fel tirwedd amaethyddol amgaeëdig sy'n cynnwys ffermdai a bythynnod nodweddiadol a adeiladwyd o gerrig. Mae nodweddion cysylltiadau yn cynnwys Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu. Coetir… Yn ôl i'r map
Small rural settlement: nineteenth century ribbon settlement and twentieth century planned estates. Variety of domestic housing, vernacular buildings, industrial and social housing. Transport networks including road and links to Llanfoist wharf and canal (HLCA013). Minor industrial processing features.

Llan-ffwyst

Anheddiad gwledig bach: anheddiad strimynnog yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac ystadau cynlluniedig yn dyddio o'r ugeinfed ganrif. Amrywiaeth o dai domestig, adeiladau brodorol, tai diwydiannol…
Gweld mwy Llan-ffwyst
Yn ôl i'r map
Small canal side settlement characterised by domestic housing, ranging in date from the seventeenth century to the twentieth century, vernacular buildings, industrial and social housing. Industrial transport/communication: associated with the canal and wharf. Other characteristics include industrial and agricultural processing ie milling.

Gofilon

Anheddiad glan camlas bach a nodweddir gan dai domestig, yn amrywio o ran dyddiad o'r ail ganrif ar bymtheg i'r ugeinfed ganrif, adeiladau brodorol, tai diwydiannol a chymdeithasol.…
Gweld mwy Gofilon
Yn ôl i'r map
Enclosed agricultural landscape of evolved, irregular field pattern with traditional field boundaries and characteristic vernacular buildings: stone built farmhouses and cottages. Dispersed patches of ancient woodland and some plantation. The major industrial characteristic is related to transport networks. Historic associations.

Cwm Llanwenarth a Chwm Craf

Tirwedd amaethyddol amgaeëdig yn cynnwys patrwm caeau datblygedig, afreolaidd a ffiniau caeau traddodiadol ac adeiladau brodorol nodweddiadol: ffermdy a bythynnod wedi'u hadeiladu o gerrig. Lleiniau gwasgaredig o goetir… Yn ôl i'r map
Industrial residential area characterised as a small, compact, regular-grid planned company settlement related to development of the later Blaenavon ironworks at Forgeside as well as Big Pit and other collieries. Industrial terraced housing and twentieth century council estate development.

Anheddiad Forgeside

Ardal breswyl ddiwydiannol a ddisgrifir fel anheddiad cwmni bach, cryno â chynllun grid rheolaidd sy'n gysylltiedig â datblygiad gwaith haearn diweddarach Blaenafon yn Forgeside yn ogystal â Phwll… Yn ôl i'r map
Relict industrial extractive upland landscape associated principally with limestone extraction. Other major characteristics are transportation networks and metal processing. The area is also characterized by relict industrial settlement, formerly isolated rows within discrete groupings, and by post-medieval encroachment and prehistoric funerary/ritual features

Y Blorens a Bryn Gilwern

Tirwedd ucheldirol gloddiol ddiwydiannol greiriol sy'n gysylltiedig yn bennaf â gweithgarwch cloddio am galchfaen. Mae nodweddion pwysig eraill yn cynnwys rhwydweithiau trafnidiaeth a gweithgarwch prosesu metel. Nodweddir yr… Yn ôl i'r map
Extractive landscape dominated by WWII opencast workings and waste tips. Nineteenth century industrial extractive features related to quarrying and mining. Historic associations.

Tomenni Canada a Blaen Pig

Tirwedd gloddiol a nodweddir yn bennaf gan weithfeydd mwyngloddio brig a thomenni gwastraff yn dyddio o'r Ail Ryfel Byd. Nodweddion cloddio diwydiannol yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar… Yn ôl i'r map
Relict industrial landscape characterised as open upland common and principal early extractive area in Blaenavon for coal, iron ore, fire clay and limestone. Important transport networks and features and intensive water management systems. Post-medieval encroachment.

Cefn Garnyrerw and Pen-ffordd-goch Extractive Area

Tirwedd ddiwydiannol greiriol a ddisgrifir fel tir comin ucheldirol agored a'r brif ardal gloddio gynnar ym Mlaenafon ar gyfer glo, mwyn haearn, clai tân a chalchfaen. Rhwydweithiau a… Yn ôl i'r map
Transport corridor with industrial and public railways, tramroad network, tracks and lanes. Scatter of isolated industrial rows and cottages, with a church and school, at Garn-yr-Erw. Remnant post-medieval agricultural landscape and minor industrial extraction.

Coridor Trafnidiaeth Garn-yr-Erw

Coridor trafnidiaeth â rheilffyrdd diwydiannol a chyhoeddus, rhwydwaith tramffyrdd, llwybrau a lonydd. Gwasgariad o resi a bythynnod diwydiannol, ac eglwys ac ysgol, yng Ngarn-yr-Erw. Tirwedd amaethyddol ôl-ddiwydiannol gweddilliol… Yn ôl i'r map
Formerly an industrial extractive landscape, now largely characterised by reclamation and wetland nature reserve; water management features. Also characterised by buried industrial and pre-industrial agricultural settlement remains.

Llynnoedd Garn (Cynllun Adfer Kay a Kears)

Tirwedd gloddiol ddiwydiannol gynt, a nodweddir yn bennaf erbyn hyn gan dir a adferwyd a gwarchodfa natur wlyptir; nodweddion rheoli dwr. Fe'i nodweddir hefyd gan olion aneddiadau diwydiannol… Yn ôl i'r map
Internationally important industrial processing and extraction area (including waste tips). Nationally significant industrial transport links (tramroad network). Characteristic industrial housing. Historic associations.

Gwaith Haearn Blaenafon ac Upper Brick Yard

Ardal prosesu a chloddio diwydiannol o bwys rhyngwladol (gan gynnwys tomenni gwastraff). Cysylltiadau trafnidiaeth ddiwydiannol o bwysigrwydd cenedlaethol (rhwydwaith tramffyrdd). Tai diwydiannol nodweddiadol. Cysylltiadau hanesyddol. Cefndir Hanesyddol Diffinnir… Yn ôl i'r map
Relict industrial landscape characterised by nineteenth century industrial processing, associated extraction and waste tips; Big Pit colliery workings and former site of the later Blaenavon ironworks. Possible buried remains of features relating to Blaenavon ironworks. Important transport links: railway and tramroad. Water management features. Historic events and persons associated with the area.

Forgeside a Phwll Mawr

Tirwedd ddiwydiannol greiriol a nodweddir gan weithgarwch prosesu diwydiannol yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, a gweithgarwch cloddio a thomenni gwastraff cysylltiedig; lefelydd gwaith glo Pwll Mawr… Yn ôl i'r map
Area characterised by pre-industrial enclosed agricultural landscape and settlement possibly dating from the medieval period. Largely relict evolved/irregular field pattern. Traditional field boundaries. Domestic structures and agricultural buildings. Water management features.

Tirwedd Amgaeëdig Coety

Ardal a nodweddir gan dirwedd amaethyddol amgaeëdig ac aneddiadau cynddiwydiannol sy'n dyddio o bosibl o'r cyfnod canoloesol. Patrwm caeau datblygedig/afreolaidd creiriol gan mwyaf. Ffiniau caeau traddodiadol. Strwythurau domestig… Yn ôl i'r map
Area characterised by small clustered settlement of isolated industrial rows. Transportation and communication features, including industrial and public railway, tramroad network, roads, footpaths and tracks. Remnant agricultural landscape.

Glantorfaen

Ardal a nodweddir gan anheddiad clwstwr bach o resi diwydiannol ar wahân. Nodweddion trafnidiaeth a chyfathrebu, gan gynnwys rheilffordd ddiwydiannol a chyhoeddus, rhwydwaith tramffyrdd, ffyrdd, llwybrau troed a…
Gweld mwy Glantorfaen
Yn ôl i'r map
Late nineteenth and twentieth century urban settlement, planned though some early organic development. Large middle class houses, modern terraced and council housing. Remnant agricultural landscape.

Estyniad Trefol Blaenafon

Anheddiad trefol yn dyddio o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg a'r ugeinfed ganrif, wedi'i gynllunio er bod rhywfaint o ddatblygiad organig cynnar. Tai dosbarth canol mawr, tai… Yn ôl i'r map
Nineteenth century urban settlement associated with the development of the Blaenavon ironworks and related extractive industries. Built environment predominately Characterised by industrial terraced housing and planned street pattern with associated civic buildings, chapels and commercial centre; important historic associations

Craidd Trefol Blaenafon

Anheddiad trefol yn dyddio o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a gysylltir â datblygiad gwaith haearn Blaenafon a diwydiannau cloddio cysylltiedig. Nodweddir yr amgylchedd adeiledig yn bennaf gan dai… Yn ôl i'r map