Ardal breswyl ddiwydiannol a ddisgrifir fel anheddiad cwmni bach, cryno â chynllun grid rheolaidd sy’n gysylltiedig â datblygiad gwaith haearn diweddarach Blaenafon yn Forgeside yn ogystal â Phwll Mawr a phyllau glo eraill. Tai teras diwydiannol a datblygiad ar ffurf ystâd tai cyngor yn dyddio o’r ugeinfed ganrif.
Cefndir Hanesyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Anheddiad Forgeside yn seiliedig ar derfynau’r gwaith haearn a’r anheddiad glofaol cynlluniedig rheolaidd, a ddatblygwyd i wasanaethu gwaith haearn Cwmni Blaenafon a phyllau glo gerllaw o’r 1850au. Rhoddwyd yr enwau ymarferol Rhes A, B, C, D ac E i’r tai cynharaf, dangosir y rhain ar argraffiad 1af map yr AO ynghyd â Clapham Terrace ac Oxford Terrace. Arferid defnyddio Coity House (Rhestredig; Gradd II), a adeiladwyd yn fuan ar ôl 1860, fel ty ar gyfer rheolwr Cwmni Blaenafon. Mae’r tai pâr ar wahân o ddiddordeb: sef Ark House (a elwir bellach yn Beech House) ac Oak House; maent yn nodweddiadol o dai lle y bu rheolwyr neu fformyn gwaith yn byw. Mae Capel Zion (Rhestredig: Gradd II), ychwanegiad cymharol ddiweddar a adeiladwyd gan y Bedyddwyr ym 1874, hefyd yn haeddu sylw.
Cydymffurfiodd datblygiadau ychwanegol o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg â’r cynllun grid rheolaidd sefydledig. Cynhwysai’r datblygiadau hyn derasau Oxford Terrace, Coity Terrace a Gething Terrace yn ogystal ag ysgol (fel y dangosir ar 2il argraffiad map yr AO). Adeiladwyd Martin Terrace ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, tua 1920 adeiladwyd gorsaf drydan (Rhestredig: Gradd II) a chodwyd Neuadd Les ym 1934. Ni fu fawr o newid yn yr anheddiad ers hynny ar wahân i Griffiths Court a adeiladwyd ar ôl dymchwel Rhesi A a B yn y 1970au a rhai anheddau parod ar wahân a ychwanegwyd ar y cyrion.
Nodweddion Tirwedd Hanesyddol
Disgrifir Anheddiad Forgeside el anheddiad diwydiannol â chynllun grid rheolaidd yn dyddio o ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg sy’n cynnwys tai teras a rhandiroedd cysylltiedig. Mae’r ardal yn arddangos undod cryf o ran arddulliau a ffurfiau adeiladu ar sail teras wrth deras a rhes wrth res, er bod newidiadau diweddar wedi lleihau’r effaith unffurf i ryw raddau.
O’r pum rhes deras wreiddiol yn yr ardal, Rhes A oedd yr unig un a adeiladwyd o gerrig ac nid o frics; cynhwysai’r rhes hon fythynnod â ffrynt dwbl a ffenestri bach. Mae Rhesi C-E yn cynnwys bythynnod deulawr pâr ag un ffrynt sydd â thoeau llechi, estyniadau cefn a lleiniau iard (roedd Rhes B, a ddymchwelwyd bellach, yn debyg i’r rhain). Mae Rhes C yn codi’r llethr mewn grisiau ac mae’n cynnwys anheddau â chyrn simnai mawr o frics ac amrywiaeth o driniaethau ffrynt. Mae deunydd ac arddull yr iardiau cefn a’r modurdai yn amrywio’n fawr hefyd. Mae Rhes D yn cynnwys un ar bymtheg o fythynnod pâr ag un ffrynt, y mae gan rai ohonynt ffasadau wedi’u rendro ac wedi’u chwipio â gro (wedi’u hadnewyddu) a chapanau drysau o gerrig. Yma mae prif echel y cyrn simnai wedi’i halinio ar hyd crib y to a cheir addurniadau cornis danheddog wrth y walblad. Mae Rhes E yn cynnwys dau ar bymtheg o fythynnod pâr ag un ffrynt, y mae’r mwyafrif ohonynt heb eu rendro, sydd â simneiau yn y gwahanfuriau/talcenni.
Mae terasau nodweddiadol eraill yn cynnwys Clapham Terrace ac Oxford Terrace; mae’r cyntaf yn deras hollt o ddeuddeg a phedwar ar ddeg o fythynnod deulawr ag un ffrynt, drysau pâr o gerrig garw wedi’u gosod yma ac acw, toeau llechi a chapanau drysau o gerrig cylchrannol sy’n codi mewn grisiau i fyny’r stryd; mae’r ail deras yn debyg ar wahân i dai mawr ar wahân a ychwanegwyd (hy Rhifau 6 a 7). Mae tai teras yn dyddio o ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg/dechrau’r ugeinfed ganrif yn cynnwys Coity Terrace a Martin Terrace; mae’r cyntaf yn cynnwys rhes o un ar bymtheg o fythynnod deulawr ag un ffrynt a adeiladwyd o gerrig wedi’u gosod yma ac acw ac sydd â drysau pâr, toeau llechi, silffoedd ffenestri o gerrig, capanau drysau o frics a mân addurniadau o frics o amgylch y ffenestri a’r drysau. Mae ffrynt y tai yn wynebu’r stryd ac nid ydynt wedi’u rendro ond symudwyd y cyrn simnai ac adnewyddwyd y ffenestri.
Mae anheddau rheolwr nodweddiadol yn cynnwys Coity House, o gynllun hirsgwar gydag estyniadau. Mae’r prif dy wedi’i rendro, mae ganddo dri bae ar ddau lawr o dan do llechi ar oleddf â theils crib seramig. Mae wedi cadw nodweddion gwreiddiol gan gynnwys ffenestri codi corniog ag un ar bymtheg o gwarelau a chaeadau ffenestri gwreiddiol a bwa cambr i bob agorfa. Mae Ash House ac Oak House hefyd yn adlewyrchu hierarchaeth y cwmni: mae’r rhain yn dai ar wahân â ffrynt dwbl a adeiladwyd o gerrig garw wedi’u gosod yma ac acw sydd â thoeau llechi a llechi ar dalcenni’r tai. Maent wedi cadw waliau wedi’u plastro â morter nodweddiadol ac mae gan yr iardiau blaen reiliau haearn, er bod y cyrn simnai wedi’u symud a’r mwyafrif o’r ffenestri wedi’u hadnewyddu.
Mae elfennau nodweddiadol eraill yn cynnwys: Capel Zion a adeiladwyd gan y Bedyddwyr o dywodfaen pennant llanw ac â tho llechi, sydd wedi cadw agorfeydd pengrwn a mân addurniadau o frics melyn ar y drysau a’r ffenestri, a cheir rheiliau haearn o bob tu iddo; yr orsaf drydan o frics coch; a Neuadd Les sydd â tho talcennog a ffasâd wedi’i blastro â rendr garw.
Newidiwyd cymeriad yr ardal hon ychydig bach trwy ychwanegu tai cyngor ar ddiwedd yr ugeinfed ganrif ar ffurf Griffith’s Court sy’n rhannol wag erbyn hyn.
