Skip to main content

Tirwedd gloddiol a nodweddir yn bennaf gan weithfeydd mwyngloddio brig a thomenni gwastraff modern. Arferai nodweddion gwaith cloddio diwydiannol blaenorol yn gysylltiedig â gweithgarwch chwarelu a chloddio fod yn nodweddiadol o’r ardal.

Cefndir Hanesyddol

Nodweddir Ardal Mwynglawdd Brig Mynydd y Farteg gan y gweithgarwch cloddio a mwyngloddio brig a gyflawnwyd i raddau helaeth erbyn y 1960au, er bod y gweithgarwch yn parhau.

Ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg cynhwysai’r ardal hon ucheldir agored. Fe’i gweithid ar gyfer haearnfaen, ac roedd nifer o chwareli bach wedi’u gwasgaru ledled yr ardal. Ym 1860 agorodd Gwaith Glo Bryn y Farteg fel mwynglawdd glo a haearn wedi’i gysylltu â Mine Slope a chynhwysai odynau mwynglawdd ac odynau calchynnu. Cysylltai inclein y gwaith glo â rhan y Dyffrynnoedd Dwyreiniol o Reilffordd Sir Fynwy yng ngorsaf Cwmafon; disodlwyd yr inclein yn ddiweddarach gan gangen leol rheilffordd y LNWR,a adeiladwyd tua 1878, i gysylltu’r gwaith glo â Changen Leol rheilffordd y LNWR o Flaenafon i Frynmawr.

Dinistriwyd y gweithfeydd cloddio cynharach gan weithgarwch mwyngloddio brig, a gyflawnwyd yn Waun Hoscyn yn dilyn diwedd yr Ail Ryfel Byd. Cwmpasai’r gwaith mwyngloddio brig ardal ag arwynebedd o tua 1.9km yn ymestyn o’r gogledd-orllewin i’r de-ddwyrain wrth 0.6km o Forgeside i Fryn y Farteg. Mae’r ardal hefyd yn cynnwys Pwll Glo Drifft Cwm Glo, y buwyd yn ei weithio am gyfnod byr yn y 1990au; bryd hynny darparai hen lwybr rheilffordd y LNWR fynediad o ffordd y B4248 i’r pwll.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Nodweddir Mwynglawdd Brig Mynydd y Farteg ar hyn o bryd gan weithfeydd mwyngloddio brig mawr a thomenni gwastraff. O bob tu i’r ardal mae ffosydd draenio a ffensys pyst a gwifrau, tra ceir adeiladau diwydiannol modern cysylltiedig hefyd.

Extractive landscape dominated by modern opencast workings and waste tips. Former industrial extractive features related to quarrying and mining were previously characteristic of the area.