Neidio i'r prif gynnwys

Anheddiad gwledig bach: anheddiad strimynnog yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg ac ystadau cynlluniedig yn dyddio o’r ugeinfed ganrif. Amrywiaeth o dai domestig, adeiladau brodorol, tai diwydiannol a chymdeithasol. Rhwydweithiau trafnidiaeth yn cynnwys ffordd a chysylltiadau â Glanfa Llan-ffwyst a’r gamlas (HLCA013). Mân nodweddion prosesu diwydiannol.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Llan-ffwyst yn adlewyrchu’r anheddiad presennol. Sefydlwyd Llan-ffwyst yn y cyfnod canoloesol; credir i’r eglwys, y gwyddom ei bod yn bodoli erbyn 1254, gael ei sefydlu ar ddechrau’r cyfnod canoloesol gan Ffwyst, offeiriad o goleg Sant Seiriol ar Ynys Môn. Ailadeiladwyd yr adeilad presennol (Rhestredig: Gradd II) yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Wedi’i lleoli yn y fynwent mae croes yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol (SAM: MM306).

Tan y bedwaredd ganrif ar bymtheg arhosodd yn anheddiad bach, a gwasanaethai eglwys plwyf Llan-ffwyst blwyf o ffermydd gwasgaredig ac ystadau maenoraidd; lleolir cartrefi’r prif berchenogion tir, megis Grove Farm, y tu allan i ffin y HLCA bresennol. O fewn yr ardal ei hun, mae’n debyg i Waterloo House (Rhestredig: Gradd II), ffermdy yn dyddio o ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol, a elwid gynt yn Faerdy (sef Ty’r Maer) gael ei sefydlu yn y cyfnod canoloesol; fe’i trowyd yn dafarn, sef y Waterloo Inn, ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae Blorenge Cottage, annedd a newidiwyd sy’n dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg ac a leolir ar gwr yr ardal, yn enghraifft arall sydd wedi goroesi.

Ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg adeiladwyd rhai filâu, mewn clwstwr i’r gorllewin o Eglwys Llan-ffwyst, er enghraifft Dan-y-Blorenge a The Laurels (South Lodge). Cynyddodd gweithgarwch anheddu ymhellach a chafwyd datblygiadau strimynnog yn cynnwys bythynnod diwydiannol ar hyd y priffyrdd o ganlyniad i dwf diwydiant yn yr ardal; terfynodd Tramffordd Hill yn iard lo Llan-ffwyst a gerllaw roedd cefnen ac arni odynau calch a gefail. Ar ôl adeiladu Rheilffordd Merthyr Tudful, Tredegar a’r Fenni ym 1862, adeiladwyd rhagor o fythynnod gweithwyr ar hyd ‘The Cutting’. Erbyn y 1880au roedd gan Lan-ffwyst ysgol a bragdy, fodd bynnag, bryd hynny roedd y rhan fwyaf o’r tir yn yr ardal yn dal i gael ei ddefnyddio at ddibenion amaethyddol neu roedd yn cael ei weithio fel rhandiroedd.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Dim ond yn yr ugeinfed ganrif y cafwyd gwaith datblygu ar raddfa fawr yn yr ardal. Erbyn y 1960au roedd yr ardal rhwng Kiln Road a Gipsy Lane wedi datblygu ac roedd maes chwarae a phafiliwn gerllaw Glannant-y-llan. Gwnaed cryn dipyn o waith mewnlenwi yn ystod ail hanner y ganrif i greu’r naws gryno bresennol sydd gan yr ardal.

Ymhlith y tai cynharaf mae Waterloo House, ffermdy deulawr ôl-ganoloesol â phedwar bae a adeiladwyd o gerrig llanw gwyngalchog o dan do llechi a chanddo risiau bargodol y tu cefn iddo. Dechreuodd fel neuadd â dau fae yn dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg a arferai gynnwys gyntedd croes, yr ychwanegwyd bloc heulol yn dyddio o bosibl o’r ail ganrif ar bymtheg ato yn ddiweddarach. Mae prif nodweddion yr adeilad yn cynnwys cyrn simnai o frics, y mae rhai ohonynt wedi’u gosod ar letraws. Mae nodweddion eraill yn cynnwys cerrig diddos yn ogystal â chasmentau a adnewyddwyd sydd â mowldin ofolo, ffrâm goed a ffenestr plwm siâp diemwnt. Mae Blorenge Cottage yn dyddio o’r ail ganrif ar bymtheg. Mae gan y bwthyn unllawr a hanner hwn waliau gwyngalchog o gerrig llanw a tho serth o deils cerrig, cyrn simnai o frics yn y ddeupen ac ychwanegiadau diweddarach. Mae’r ffenestri yn ffenestri adeiniog â dau gwarel â hanner dormerau ar ogwydd uwchben.

Mae filâu mawr ar wahân yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg hefyd yn nodweddiadol o’r ardal; tai deulawr â thair ffenestr ydynt fel arfer sydd wedi’u gosod ychydig yn ôl o’r ffordd. Mae enghreifftiau yn cynnwys Dan-y-Blorenge, Tanyrallt, The Laurels (South Lodge) a Glannant-y-llan, a sefydlwyd yn gynharach o bosibl. Mae’r olaf yn arbennig oherwydd ei ffenestri Gothig pictiwrésg. Mae South Lodge (Rhestredig: Gradd II), sydd â chynllun sgwâr a tho llechi talcennog a chyrn simnai o frics, wedi cadw ffenestri pengrwn ar y llawr uchaf a feranda â cholofnigau o haearn bwrw. Mae’n debyg i’r cerbyty a’r stablau cerrig gerllaw gael eu hadeiladu yr un pryd â’r porthordy (Rhestredig: Gradd II).

Mae tai gweithwyr nodweddiadol yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn yr ardal yn cynnwys rhes ar hyd ‘The Cutting’. Adeiladwyd y bythynnod pâr hyn sydd ag un ffrynt o gerrig patrymog ac mae ganddynt fân addurniadau o frics melyn o amgylch y ffenestri a’r drysau, toeau llechi a chyrn simnai o frics. Mae elfennau gwreiddiol nodweddiadol yn cynnwys estyllod dwr, portshys bach/porticos â thoeau llechi uwchben y drysau ac iardiau blaen bach y ceir waliau brics â rheiliau haearn o bob tu iddynt. Mae tai teras yr ardal at ei gilydd yn unffurf o ran arddull ac fel arfer maent wedi’u hadeiladu o gerrig patrymog ac mae ganddynt fân addurniadau o frics melyn a thoeau llechi, er y ceir rhai mân amrywiadau: sy’n amrywio rhwng tai â ffrynt dwbl ac un ffrynt a rhwng presenoldeb/absenoldeb ffenestri crwm, sy’n nodi lefelau o statws a dyheadau cymdeithasol.

Mae elfennau nodweddiadol eraill yn yr ardal yn cynnwys nodweddion trafnidiaeth: megis Tramffordd Hill a Rheilffordd Merthyr Tudful, Tredegar a’r Fenni yn ogystal â chysylltiadau â glanfa Llan-ffwyst (yn HLCA013) a nodweddion yn gysylltiedig â diwydiant, megis odynau calch, iard lo a gefail. Mae cysylltiadau hanesyddol yr ardal yn cynnwys cysylltiadau â Crawshay Bailey, a fu farw ym 1872 yn ystod ei ymddeoliad yn Llanfoist House ac a goffeir gan gofgolofn yn y pentref.

Small rural settlement: nineteenth century ribbon settlement and twentieth century planned estates. Variety of domestic housing, vernacular buildings, industrial and social housing. Transport networks including road and links to Llanfoist wharf and canal (HLCA013). Minor industrial processing features.