Neidio i'r prif gynnwys

Tirwedd ucheldirol agored yn bennaf a nodweddir gan weithgarwch rheoli stoc amaethyddol, arwyddion terfyn a nodweddion angladdol a defodol cynhanesyddol. Mae gweithgarwch cloddio diwydiannol yn nodwedd bwysig arall o gofio’r nifer fawr o chwareli a gweithfeydd glo a arferai fod yn yr ardal. Digwyddiadau hanesyddol.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Mynydd Coety yn cynnwys Mynydd Coety (i’r gogledd o Wastad), Mynydd James a Mynydd y Farteg Fawr (i’r gorllewin). Mae’n bosibl bod gweithgarwch yn dyddio o’r cyfnod Neolithig, a gynrychiolir gan faen hir ar Fynydd Coety (SO 21401028). Fodd bynnag mae rhagor o weithgarwch yn gysylltiedig â’r Oes Efydd wedi’i gofnodi, a gynrychiolir gan grugiau crwn ar hyd esgair Mynydd Coety a Mynydd James.

Yn ystod y cyfnod canoloesol adeiladwyd twmpathau clustog ar Fynydd Coety gerllaw tir amaethyddol amgaeedig ffermydd Highmeadow a Choety-canol. Mae’n dra thebyg bod twmpathau terfyn yn dyddio o’r cyfnod hwn ar hyd Mynydd Coety yn cynrychioli ffin plwyf Llan-ffwyst ac ymhellach i’r gogledd, mae’r garreg derfyn a elwir yn Garreg Gywir, sy’n dyddio o bosibl o ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol, yn nodi ffin y plwyf sifil. Mae llwybr canoloesol i’w weld o hyd yn rhedeg ar draws y mynydd.

Ceir nodweddion amaethyddol ucheldirol ôl-ganoloesol, corlannau yn bennaf, uwchlaw Pwll Coety ac ar Dwyn-Carn-canddo (argraffiad 1af map yr AO). Mae nifer o ffynhonnau a ffrydiau wedi’u gwasgaru ar draws yr ardal hefyd; efallai fod y rhain yn nodi ardaloedd a arferai gynnwys aneddiadau amaethyddol tymhorol, er nad oes unrhyw dystiolaeth ar gael ar hyn o bryd. Ceir darnau o dir ar y mynydd y bu pobl yn tresmasu arnynt ar ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol a gweithfeydd cloddio mwyn haearn a glo ar raddfa fach yn dyddio o’r cyfnod hwn.

Roedd nifer o chwareli a gweithfeydd glo yn weithredol yn yr ardal yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Lleolid chwareli yng Nghefn Coch, lle y mae tystiolaeth o weithgarwch hysio wedi goroesi, ac yng Nghoety-mawr. Mae’r olaf yn cynnwys Chwarel Tywodfaen Coety (SAM: MM279) a agorwyd cyn 1844 i gyflenwi tywodfaen Pennant ar gyfer tai Cwmni Gwaith Haearn Blaenafon a gweithfeydd Forgeside. Mae’r safle hwn wedi cadw baril dirwyn hunanweithredol o haearn bwrw. Lleolid gweithfeydd glo yng Nghoety-mawr, Marquess Red Ash a Milfraen ymhlith eraill. Lleolir siafft awyru sydd wedi goroesi, yn gysylltiedig â gweithfeydd cloddio tanddaearol yng nghyffiniau Chwarel Coety Mawr. Roedd Gwaith Glo Milfraen, safle’r ffrwydrad ym 1929 (a gaewyd ym 1930), wedi’i gysylltu gan dramffordd â rheilffordd y LNWR yn Waun-afon.

Prin oedd yr adeiladau domestig a safai ar y mynydd; roedd rhai ffermydd ar hyd y cyrion a thafarn o’r enw y Grouse and Snipe. Ger Coalbrookvale tresmasai rhesi o dai gweithwyr ar ochr y mynydd ac mae Milfraen Cottage a adeiladwyd tua 1865 ar gyfer gweithwyr yng Ngwaith Glo Milfraen bellach yn adfeiliedig.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Mae Mynydd Coety yn dirwedd ucheldirol agored a ddefnyddir heddiw yn bennaf at ddibenion pori anifeiliaid. Fe’i nodweddir gan nodweddion angladdol a defodol cynhanesyddol gan gynnwys meini hirion a chrugiau crwn.

Mae’r esgair ar hyd Mynydd Coety yn nodwedd amlwg yn y dirwedd ac mae wedi’i defnyddio ers cryn amser i nodi’r ffin rhwng tiriogaethau; mae’r ffin sirol bresennol rhwng Blaenau Gwent a Thor-faen yn parhau’r traddodiad.

Mae gweithgarwch cloddio diwydiannol yn nodweddiadol o’r ardal o’r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar hyd heddiw; mae elfennau nodweddiadol yn cynnwys gweithfeydd glo, chwareli, creithiau hysio, siafft awyru, baril dirwyn a ffosydd draenio cysylltiedig y mae eu cyflwr yn amrywio. Mae’r nodwedd gloddiol yn parhau hyd at heddiw gerllaw Chwarel Coety nas defnyddir bellach ym Mwynglawdd Drifft Rhif 2 Blaentyleri.

Predominantly unenclosed upland landscape characterized by agricultural stock management, boundary markers and prehistoric funerary ritual features. Another main characteristic is industrial extraction given the numerous quarries and collieries once in the area. Historic events.