Skip to main content

Tirwedd ucheldirol gloddiol ddiwydiannol greiriol sy’n gysylltiedig yn bennaf â gweithgarwch cloddio am galchfaen. Mae nodweddion pwysig eraill yn cynnwys rhwydweithiau trafnidiaeth a gweithgarwch prosesu metel. Nodweddir yr ardal hefyd gan aneddiadau diwydiannol creiriol, a arferai gynnwys rhesi unigol o fewn grwpiau ar wahân, a chan weithgarwch tresmasu yn dyddio o’r cyfnod Ôl-ganoloesol a nodweddion angladdol/defodol Cynhanesyddol.

Cefndir Hanesyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol y Blorens a Bryn Gilwern yn cynnwys y tir amgaeedig o amgylch y Blorens a Bryn Gilwern y tu allan i derfyn brigiad gogledd-ddwyreiniol maes glo De Cymru ac mae’n diffinio ardal a nodweddir yn bennaf gan weithgarwch cloddio am galchfaen.

Mae’r olion cynharaf yn yr ardal yn ymwneud â gweithgarwch angladdol a defodol Cynhanesyddol, sy’n amlwg ar y Blorens ar ffurf carneddau yn dyddio o’r Oes Efydd; mae’r rhain yn cynnwys crugiau crwn sy’n perthyn i fynwent grugiau Llan-ffwyst Fawr; y mae un ohonynt, a leolir yn SO270119 fwy neu lai, o bwysigrwydd cenedlaethol (SAM: MM219).

Er bod safle ffynnon gysegredig bosibl yn arwydd o weithgarwch canoloesol ar y Blorens, mae gweithgarwch diweddarach yn ymwneud yn bennaf a chloddio yn dyddio o ddiwedd y ddeunawfed ganrif hyd ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg: y chwareli calchfaen ar y Tyla, ar Fryn Gilwern ac ar y Blorens yw’r cynharaf ohonynt. Bu’n rhaid rhoi’r gorau i gloddio un o’r chwareli gogledd-orllewinol cynharaf ar y Blorens a agorwyd tua 1795 ym 1804 yn sgîl problemau daearyddol. Cofrestrwyd y safle cymharol fyrhoedlog hwn sydd felly yn un pwysig ynghyd â’i dramffordd (SAM: MM288). Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg cynyddodd gweithgarwch cloddio calchfaen o’r ardal ar gyfer gwaith haearn Blaenafon ac agorwyd chwareli newydd ym Mhwll Du. Mae’r chwarel galchfaen ym Mhwll Du (SAM: MM225), yn dyddio o’r cyfnod cyn 1819, mewn cyflwr eithriadol o dda ac mae’n cynnwys llawer o nodweddion pwysig; lifft cydbwyso dwr a godai wagenni calchfaen llwythog at y dramffordd yw’r pwysicaf yn eu plith. Gweithid y chwarel hon gan Walter Lewis i gyflenwi odynau calch yng Ngofilon a Llan-ffwyst yn ogystal â’r gwaith haearn ym Mlaenafon a’r efail yn Garnddyrys.

Mae Craig yr Hafod yn chwarel bwysig arall (SAM: MM278), a oedd yn cael ei defnyddio, ynghyd ag odyn galch amaethyddol gyfagos, yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn gysylltiedig o bosibl â gweithfeydd cloddio ym Mhen-ffordd-goch. Disodlwyd y chwarel hon ym 1812 gan chwareli mwy o faint a oedd wedi’u cysylltu gan dramffordd â’r gamlas. Mae’r safle yng Nghraig-yr-Hafod o bwysigrwydd cenedlaethol fel enghraifft eithriadol o odyn galch gynnar a chwarel gysylltiedig.

Roedd rhwydwaith o ffyrdd cyntefig yn gysylltiedig â’r gweithfeydd calchfaen hyn. Tramffordd Chwareli’r Blorens yw un o’r cynharaf (SAM: MM288) a adeiladwyd tua 1795 ac y rhoddwyd i’r gorau i’w defnyddio erbyn 1804 ar ôl i’r chwarel gau. Ar ôl cwblhau Camlas Brycheiniog a’r Fenni i Lan-ffwyst ym 1812, sefydlwyd llwybrau trafnidiaeth ychwanegol dros y Blorens. Roedd y cyfryw gysylltiadau trafnidiaeth mewn ymateb i gynnydd yn y galw am haearn a chynnydd cyfatebol mewn cynhyrchiant yng ngwaith haearn Blaenafon, a gyrhaeddodd ei uchafbwynt yn ystod Rhyfeloedd Napoleon. Roedd Thomas Hill, rheolwr gwaith haearn Blaenafon, eisoes wedi adeiladu tramffordd o Bwll Du i’r gwaith haearn trwy dwnnel Pwll Du tua 1815; lleolir mynedfa ogleddol (SAM: MM224) Twnnel Pwll Du yn yr ardal. Datblygodd tramffordd Hill i fod y prif lwybr trafnidiaeth ar gyfer deunyddiau yn rhedeg o waith haearn Blaenafon i’r lanfa yn Llan-ffwyst. Mae darn diweddarach o’r dramffordd sydd mewn cyflwr da yn cynnwys twnnel ‘torri a gorchuddio’ y Blorens sy’n 40m o hyd (SAM: MM275). Rhedai estyniad o Dramffordd Hill, a adeiladwyd tua 1817-22, o Bwll Du i Lan-ffwyst trwy Garnddyrys, ac ymestynnwyd darn bach o dramffordd ran o’r ffordd ar draws Bryn Gilwern; roedd y chwareli yng Ngilwern wedi’u cysylltu cyn hynny â Phwll Du gan dramffyrdd cynharach.

Caniatâi tramffordd Hill gludo haearn o waith haearn Blaenafon i’r efail yng Ngarnddyrys (a sefydlwyd ym 1817) er mwyn ei droi’n haearn gyr; rhedai o dan Garnddyrys trwy dwnnel tua 120m o hyd. Mae gwaith haearn Garnddyrys a darn o dramffordd Hill i fyny at Bwll Du trwy Benrhiw Ifor wedi’u cofrestru (SAM: MM189). Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio’r darn o dramffordd Hill i Lan-ffwyst i raddau helaeth ar ôl sefydlu cysylltiadau rheilffordd prif linell yn y 1850au a ddisodlodd y gamlas fel y prif ddull cludo ar gyfer gwaith haearn Blaenafon, tra rhoddwyd y gorau i ddefnyddio gwaith haearn Garnddyrys tua 1861, pan adeiladwyd safle newydd yn Forgeside, gerllaw’r cysylltiadau rheilffordd a oedd newydd eu sefydlu. O hynny ymlaen lleihaodd gweithgarwch cloddio o’r chwareli calchfaen a rhoddwyd y gorau i weithio rhai ohonynt yn gyfan gwbl erbyn 1860.

Nodweddion Tirwedd Hanesyddol

Disgrifir y Blorens a Bryn Gilwern fel tir comin ucheldirol agored yn bennaf a ddefnyddid at ddibenion pori a chanddo nodwedd bwysig a gynrychiolir gan weithgarwch cloddio am galchfaen. Mae’r ardal yn bwysig ar hyn o bryd oherwydd gweithgareddau hamdden/twristiaeth megis barcuta a cherdded.

Mae gweithgarwch cloddio am galchfaen yn arbennig o amlwg ym Mhwll Du gyda’i wyneb chwarel dramatig a’i lifft cydbwyso dwr sydd o bwysigrwydd cenedlaethol. Ceir chwareli ledled yr ardal ym Mhen-rhiw Ifor, Tyla, Bryn Gilwern, Garnddyrys, Fferm Llwyncelyn, Craig-yr-Hafod ac ar y Blorens. Mae tomenni rwbel yn gysylltiedig â’r gweithgareddau hyn hefyd yn dal i fod yn nodweddiadol o’r ardal.

Mae gweithgarwch prosesu hefyd yn nodweddiadol o’r ardal: mae olion adeiladau prosesu diwydiannol wedi goroesi yn Garnddyrys ac maent yn cynnwys ffwrneisi pwdlo, gefail a melin rolio; tra roedd gweithgarwch cynhyrchu cynhyrchion calchfaen hefyd yn elfen bwysig ac mae olion odynau calch wedi goroesi ar y Blorens, ac yng Nghraig-yr-Hafod a chwareli Tyla.

Ynghlwm wrth y prosesau diwydiannol mae nodweddion rheoli dwr hy cronfeydd dwr, pyllau, draeniau a ffrydiau. Cynhwysai cronfeydd dwr Upper Pond a Lower Pond, y cyflenwid y ddau gan Forge Pond i wasanaethu Gefail Garnddyrys. Mae Forge Pond (a adwaenir hefyd fel Pen-ffordd-goch Pond neu Keeper’s Pond) wedi goroesi, er bod y pyllau a gyflenwai’r lifft cydbwyso dwr yn chwarel Pwll Du bellach yn sych.

Roedd cysylltiadau cyfathrebu’r ardal o’r pwys pennaf i ddatblygiad diwydiannol yr ardal. Mae elfennau nodweddiadol sydd wedi goroesi yn cynnwys llwybrau ar draws y Blorens, rhai ohonynt yn dyddio o ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol/cynddiwydiannol. Cyn adeiladu ffordd Cwmni Blaenafon (ffordd bresennol y B4246) ym 1825, cyrhaeddid y Fenni o Flaenafon ar hyd lôn wledig fach dros y Blorens trwy Ben-ffordd-goch a Chefn y Galchen. Tramffyrdd a’u twnelau cysylltiedig yw’r nodweddion trafnidiaeth pwysicaf yn yr ardal: rhedai tramffordd Hill, platffordd 2 droedfedd o led ar flociau sliper o gerrig, trwy dwnnel Pwll Du, twnnel Garnddyrys (twnnel ‘torri a gorchuddio’, un trac o gerrig llanw patrymog a chanddo gromen dwnnel gron), a thwnnel y Blorens (sydd hefyd o fath ‘torri a gorchuddio’ a lle y mae’r ddau borth yn gyflawn). Mae nodweddion amlwg eraill ar y Blorens a Bryn Gilwern yn cynnwys tyrrau cyfathrebu yn dyddio o’r ugeinfed ganrif.

Mae aneddiadau yn yr ardal, a gysylltir â gweithfeydd cloddio diwydiannol a gweithgarwch tresmasu ar raddfa fach, yn nodwedd lai amlwg o’r ardal na chynt. Roedd amgylchedd adeiledig hanesyddol yr ardal i raddau helaeth yn seiliedig ar adeiladau diwydiannol ac aneddiadau cysylltiedig yn Garnddyrys Forge, Pwll Du, Pen-rhiw Ifor, The Tumble a Phenrhiw. Yn anffodus dymchwelwyd llawer o’r adeiladau a safai yn yr ardal, er ei bod yn debyg bod olion claddedig wedi goroesi. Nid oes fawr ddim o’r hen anheddiad ym Mhwll Du, a gynhwysai dai gweithwyr, ysgol, tafarn, tai rheolwr (Pwll Du House), siop a stablau Cwmni Blaenafon, i’w weld ar wyneb y ddaear heddiw ar wahân i dafarn y Lamb and Fox. Cynhwysai tai gweithwyr ym Mhwll Du Lower Rank, rhes deras o 31 o fythynnod a adeiladwyd cyn 1819 (er y credir mai dyma’r enghraifft gynharaf o dai ‘safonol’ Cwmni Blaenafon); Upper New Rank, rhes deras o 17 o fythynnod deulawr â ffrynt dwbl wedi’u hadeiladu o gerrig a gynhwysai adeiladau allan cysylltiedig ar ffurf poptai a gerddi a lle y ceid capel yn y pen gorllewinol a bythynnod tebyg yn Tunnel Houses ymhlith eraill. Yng Ngarnddyrys cynhwysai tai gweithwyr fythynnod deulawr ag un ffrynt a adeiladwyd o gerrig a chanddynt gapanau drysau o gerrig a phantrïoedd cefn cromennog corbelog a baril (Glanddyrys Square) wedi’u hadeiladu i mewn i ochr y bryn, roedd pymtheg o fythynnod cerrig yn Garnddyrys Row hefyd. Mae’n debyg bod olion claddedig a rhai olion ar yr wyneb yn gysylltiedig â’r strwythurau hyn wedi goroesi.Cynrychiolir gweithgarwch tresmasu ôl-ganoloesol gan ardal fach, ar wahân, o gaeau, er enghraifft, o amgylch Pwll Du a Phenrhiw Ifor. Ceir amrywiaeth o ffiniau caeau, gan gynnwys, waliau sych, cloddiau ag wyneb o gerrig, cloddiau pridd, gwrychoedd a ffensys pyst a gwifrau. Mae corlannau hefyd yn nodweddiadol o’r ardal yn ogystal â cherrig/pyst terfyn, y mae rhai ohonynt yn nodi ffin hawliau mwynau Cwmni Blaenafon tra bod eraill yn nodi terfynau perchenogaeth tir. Mae nodweddion angladdol a defodol, hy carneddau yn dyddio o’r Oes Efydd hefyd yn nodwedd bwysig, sy’n adlewyrchu defnydd tir cynharach.

Relict industrial extractive upland landscape associated principally with limestone extraction. Other major characteristics are transportation networks and metal processing. The area is also characterized by relict industrial settlement, formerly isolated rows within discrete groupings, and by post-medieval encroachment and prehistoric funerary/ritual features