Mae’r disgrifiad canlynol, a godwyd o’r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi’r themâu tirweddol hanesyddol pwysig yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

Mae dyffryn, neu Fro Trefaldwyn yn gorwedd ar draws ffin Lloegr a Chymru, yng ngogledd ddwyrain Powys a gorllewin Swydd Amwythig, ac mewn basn naturiol, rhyw 6km ar draws, a ffurfiwyd yng nghymer Afon Hafren ac Afon Camlad. Ac eithrio ar hyd y terasau a gysylltir a’r afonydd hyn, mae llawr y basn yn donnog, gyda phegynau bach hwnt ac yma o ddim mwy na 160m uwchben SO, tra bo’r rhimyn, sy’n diffinio terfynau’r tirwedd hwn, yn codi i dros 300m uwchben SO ar bob ochr. Amlinellir y rhimyn gan Gefnffordd Ceri i’r de, y Mynydd Hir i’r gogledd ddwyrain ac ucheldir dwyreiniol Bryniau Maldwyn i’r gorllewin.
Mae’r ardal o fewn yr amffitheatr naturiol hon sydd yn amgylchynu Trefaldwyn yn cynnig digon o dystiolaeth o’r frwydr hanesyddol am reolaeth ar diriogaeth a thramwyfeydd sydd mor nodweddiadol o hanes Cymru. Mae’r tirwedd wedi cadw olion amddiffynfeydd, ffiniau, aneddiadau a chyfundrefnau caeau o’r cyfnod cynhanesyddol hyd at y Canol Oesoedd, gan adlewyrchu trai a llanw’r ymrafael am y tir.
Ceir tystiolaeth o aneddu cynnar yng nghaer fynyddig o Oes yr Haearn yn Ffridd Faldwyn, uwchben ac i’r gorllewin o Drefaldwyn. Mae Cefnffordd Ceri, sydd yn derfyn deheuol i’r tirwedd, wedi bod yn llinell gyswllt bwysig ers y cyfnod cynhanesyddol.
Mae’r ymdrechion a fu i geisio cadw rheolaeth ar y boblogaeth frodorol a’r tramwyfeydd yn ystod y cyfnod Rhufeinig i’w gweld yn amlwg ym modolaeth dwy gaer, Forden a Brompton. Mae Caer Forden wedi goroesi fel adeiladwaith cloddiog sylweddol a amgylchynnir gan olion cnydau sydd yn amlwg o’r awyr, gan ddangos y bu yno anheddiad perthynol neu vicus. O gwmpas y gaer hefyd cafwyd hyd i nifer o olion cnydau o amgaeadau wedi’u haredig yn llwyr, yn cynrychioli ffermydd cynhanesyddol diweddar a Brythonaidd-Rufeinig. Gerllaw y mae Rhyd Whyman, y rhyd hanesyddol bwysig ar draws yr Afon Hafren.
Un o brif nodweddion y tirwedd yw Clawdd Offa, sydd yn rhedeg yn fras o’r gogledd i’r de, gan nodi terfyn gorllewinol teyrnas Mercia yn yr 8fed/9fed ganrifoedd. Mae’r Clawdd wedi’i gadw’n weddol dda yn y rhan hon ac mae i’w weld yn eglur fel asgwrn cefn llinellol yn croesi llawr y dyffryn, lle mae, am ryw 3km, yn ffurfio’r ffin presennol rhwng Cymru a Lloegr. Mae tirwedd amaethyddol llawr y dyffryn, sy’n perthyn i’r cyfnod ôl-ganoloesol a’r cyfnod modern yn bennaf, hefyd yn hynod weledol am ei goed gwrychoedd aeddfed.
Cafodd dylanwad y Normaniaid a chynnydd barwniaid Y Gororau effaith bwysig a pharhaol ar diroedd y gororau o’r 12fed ganrif ymlaen, ac mae nifer o gestyll mwnt a beili yn dystiolaeth ddigonol o orthrwm diwylliant estron ar y tirwedd yma. Mae Hen Domen er enghraifft, yn dilyn cryn dipyn o waith cloddio a wnaed yno, wedi datgelu tystiolaeth sylweddol am y cyfnod cythryblus hwn. Mae’n debyg mae hwn yw’r Castrum Muntgumeri a gofnodwyd yn Llyfr Dydd y Farn. Ym 1223, dechreuwyd gwaith ar adeiladu castell newydd o gerrig ar safle yn edrych dros fwrdeistref newydd Trefaldwyn. Mae cynllun y dref heb ei newid fawr ddim ers y dydd y lluniwyd map ohoni gan Speed ym 1610, ac mae darnau o’r amddiffynfeydd yn dal i’w gweld. Mae’r dref ei hun yn cynnwys enghreifftiau da o bensaernďaeth Sioraidd (yn arbennig Neuadd y Dre a’r Sgwâr). Yr oedd Trefaldwyn hefyd yn faes brwydr bwysig adeg y Rhyfel Cartref ym 1644. I’r dwyrain o’r dre y gorwedd Parc Lymore, sy’n cynnwys enghraifft brin o hwyaden hudo yn un o’r llynnoedd, tra bo Chirbury ar draws y ffin yn Swydd Amwythig yn cynnwys safle priordy o’r Canol Oesoedd.
Themâu Tirwedd Hanesyddol yn Nyffryn Tanat
Y Tirwedd Naturiol
Bro Trefaldwyn – mae’n cynnwys y basn naturiol lle mae Camlad yn llifo i Hafren, gyda Long Mountain i’r gogledd, Corndon Hill i’r dwyrain, Cefnffordd Ceri i’r de a’r bryniau uwchben Trefaldwyn i’r gorllewin, gydag olion coetir colddail hanner naturiol ar lethrau serthach. Mae canol yr ardal rhwng Trefaldwyn a Chirbury yn ffurfio gwastatir tonnog gyda’r tir gwlyb, is ar hyd rhannau isaf Camlad i’r gogledd. I’r dwyrain o’r gwastatir mae ceunant dwfn Marrington Dingle a ffurfiwyd yn y cyfnod rhewlifol hwyr gan ddwr yn dianc o lyn yn y cwm yn rhannau uchaf Camlad, i’r dwyrain o’r Ystog, a ddaliwyd yn ôl gan iâ a gwastraff rhewlifol ac a gynrychiolir gan ddrymliniau yn nyffryn Caebitra, i’r dwyrain o Sarn. Mae’r toriadau ar batrymau traenio lleol yn ystod y cyfnod rhewlifol hwyr wedi peri ffenomena, sydd yn sail i nifer o ddywediadau lleol, fel er enghraifft mai Camlad yw’r ‘unig afon yn Sir Amwythig sydd yn llifo am i fyny’ ac mai hi yw’r unig afon sy’n llifo o Loegr i Gymru. Tuedda dyffrynnoedd rhannau uchaf Camlad a Chaebitra fod yn wael eu traeniad, fel y Gamlad isaf, ac maent yn cynnwys darnau corsiog a gwlyptiroedd. Mae daeareg solet y bryniau i’r gogledd yn cynnwys sialiau Silwraidd. Mae’r tir uwch i’r dwyrain o Chirbury acv i’r gogledd a’r dwyrain o’r Ystog yn cynnwys cerrig llaca Ordofigaidd, sialiau, gro a thywodfaen calcaraidd, gyda gwelyau o dyffiau folcanaidd rhyngddynt, a ffurfir ucheldir Lan Fawr, Todleth, Roundton a’r bryniau is i’r gogledd o Hyssington gan greigiau igneaidd ymwthiol. Cofnodwyd y defnydd cyntaf o’r enw ‘Vale of Montgomery’ ym Mai 1225 pan orchmynnodd Harri III bawb oedd â mwnt ‘in valle de Muntgumery’ i atgyfnerthu eu hamddiffynfeydd pren. Cofnodwyd yr enw Trefaldwyn ‘tref Baldwyn’ am y tro cyntaf yn 1231 fel tref Castell Baldwin, a enwyd ar ôl un o nifer o bobl o’r enw Baldwin yr oedd y dref yn gysylltiedig â hwy yn y 13eg ganrif.
Y Tirwedd Gweinyddol
Credir bod yr ardal tirwedd hanesyddol yn rhan o diriogaeth y Cornovii, llwyth cyn-Rufeinig, a sefydlwyd ei phrifddinas yn Wroxeter ar ôl goresgyniad y Rhufeiniaid. Mae’r ffaith bod y gaer Rufeinig a elwir The Gaer, ger Ffordun yn dal i gael ei defnyddio tan y 4edd ganrif, yn awgrymu bod llawer o’r ardal, fel Cymru, yn dal i gael ei weinyddu gan y fyddin Rufeinig tan y cyfnod Rhufeinig hwyr, yn wahanol i’r ardaloedd pellach i’r dwyrain lle roedd gweinyddiad sifilaidd wedi ei sefydlu yn y brifddinas frodorol erbyn diwedd i ganrif 1af.
Ni wyddys sut y sefydlwyd teyrnas Brydeinig Powys, ond mae’n amlwg iddi fod yn ehangach ar un adeg. Mae ffynonelau o ganol y 9fed ganrif, efallai, yn adlewyrchu atgofion o’r adeg pan oedd ei thiriogaeth yn ymestyn at yr afon Tern yn Wroxeter yn y dyddiau cyn iddo ddod yn rhan o deyrnas Eingl-Sacsonaidd Mersia. Erbyn canol y 7fed ganrifroedd ffiniau Mersia yn ymestyn tuag at ffiniau gorllewinol Sir Amwythig heddiw, efallai drwy broses o gyghreirio a chytuno yn htrach na brwydro. Erbyn diwedd yr 8fed ganrif, diffiniwyd ffin orllewinol y deyrnas gan y clawdd a godwyd, unwaith eto efalai drwy gytundeb, cyn marw’r Brenin Offa yn 796. Yn ystod y 9fed a’r 10fed ganrif, efallai, sefydlwyd aneddiadau Mersaidd i’r gorllewin o’r clawdd, gan gymryd tir Mersaidd i’r dwyrain o’r Hafren yn yr ardal rhwng Trefaldwyn a Ffordun a rheoli’r rhydau yn y fan hon. Bu’r cynghreiriau rhwng y ternasoedd Cymreig a Seisnig yn ansefydlog yn ystod y cyfnod hwn a cheid cyfnodau o gynorthwyo a chydweithredu bob yn ail â chyfnodau o ymosod ac ymladd. Mae’r debyg mai cyfnod o ansefydlogrwydd rhwng Gruffudd ap Llywelyn o Wynedd a Mersia yn gynnar yn y 1040au a barodd i sawl dwsin o aneddiadau Mersaidd o bobtu’r clawdd gael eu gadael ledled bron y cyfan o ardal Bro Trefaldwyn rywbryd cyn y Goresgyniad Normanaidd yn 1066.
Adeg llunio Llyfr Domesday yn 1086 roed y ffiniau rhwng tiroedd y Ctmry a’r Saeson yn dal yn ansefydlog, ac yn ystod y blynyddoedd ar ôl 1070 roedd yr Iarll Normanaidd Roger o Drefaldwyn wrthi’n adennill y tiroedd Seisnig a gollwyd yn ystod teyrnasiad Edward Gyffeswr. Rhoddwyd Iarllaeth Sir Amwythig i Roger a gweithredodd agawdurdod brenhinol yn yr ardal hanner annibynnol hon yn y gororau, prototeip o’r arglwyddiaeth a ddaeth yn sefydlog yn y gororau ymhen amser, a chododd gestyll yn Amwythig a Threfaldwyn. Sefydlodd ef Roger Corbet yng nghaol y tir ffiniol, a symundodd i Gymru hefyd, gan gymryd Arwystli, Ceri a Chydewain a thynnu llawer o incwm o ran amhenodol o Gymru.
Adeg Domesday, roedd yr ardal yn rhan o gantref Witentreu a rychwantai ffin fodern Powys (Sir Drefaldwyn) a Sir Amwythig, a Chirbury oedd y prif faenor. Mae enw’r cantref wedi goroesi ym mhentreflan Wittery a Wittery Bridge ychydig i’r dwyrain o Chirbury. Ac eithrio’r Ystog, roedd ardal tirwedd hanesyddol Bro Trefaldwyn yn LLyfr Domesday fel rhan o gastellyddiaeth Trefaldwyn ac felly nid oedd yn gfan gwbl yn Sir Amwythig. Bu farw’r Iarll Roger ym 1094, ac yn dilyn gwrthryfel ei fab daeth ei dir i ddwylo Harri I. Diflannodd iarllaeth Amwythig a daeth Sir Amythig yn sir frenhinol. Collwyd yr enillion Normanaidd cynharach yng Nghydewain a lleihawyd cantref Domesday Witentreu a daeth yn gantref Chirbury, a enwyd ar ôl y maenor brenhinol, a rhannwyd yr hanner gorllewinol rhwng arglwyddiaethau Trefaldwyn, a roddwyd i Baldwin de Boulers gan Harri I, a daeth Halcetor ac Upper Gorddwr yn ddibynnol ar y Corbetiaid, arglwyddi Caus.
O 1102 ffurfiai’r ytadau a gysylltid gynt â Threfaldwyn arglwyddiaeth fechan Trefaldwyn, a roddwyd i Baldwin de Boulers gyda’i chanolfan yn Nhrefaldwyn, a etifeddwyd drwy ddilyniant yn ystod y rhan fwyaf o’r 12fed ganrif, cyfnod o ansefydlogrwydd di-baid a chynghreiriau byrhoedlog ar hyd ffin Cymru. Er mwyn manteisio ar wrthdaro rhwng Powys a Gwynedd, rhoddodd y Brenin John arglwyddiaeth Trefaldwyn i Wenwynwyn, tywysog Powys. Disodlwyd Gwenwynwyn yn fuan gan Lywelyn ap Iorwerth o Wwynedd yr oedd wedi torri cynghrair ag ef ym 1216, y flwyddyn y daeth Harri III i’r orsedd. Gyda chaniatâd y brenin newydd, cadwodd Llywelyn ei afael ar Bowys ac arglwyddiaeth Trefaldwyn tan 1223, pan ddechreuodd ymladd rhwng Llywelyn a’r arglwyddi Seisnig cyfagos. Ar unwaith dechreuwyd codi castell cerrig brenhinol newydd yn Nhrefaldwyn, a cadwyd yr arglwyddiaeth gan y goron. pennwyd Clawdd Offa fel y ffin rhwng cantref Chirbury ac arglwyddiaeth Trefaldwyn ym 1233.
Adeg y deddf Uno ym 1536 roedd arglwyddiaethau Gorddwr, Trefaldwyn, Halcetor, King’s Teirtref, Bishop’s Teirtref, Ceri a Hopton, a ddyrannwyd i Sir Drefaldwyn, ac arglwyddiaeth Chirbury a ddyrannwyd drwy Ddeddf i Sir Amwythig, ym meddiant y goron.
Tirweddau Anheddu
Mae nifer o batrymau anheddu gwahanol i’w gweld yn y tirlun heddiw – aneddiadau cnewyllol mawr, pentrefi, pentreflannau llai, ffermydd gwasgaredig a bythynnod, a chartrefi gwledig. Mae’r ddauanheddiad mwyaf, Chirbury a Threfaldwyn, yn sefydliadau cynnar o bwys, ac fel y dywedwyd uchod mae gan y naill a’r llall ei hanes ei hun. Sefydlwyd Chirbury fel burh amddiffynedig, yn gynnar y 10fed ganrif, a daethyn ganolbwynt maenor frenhinol ac ystad fynachaidd. Ychydig a wyddys am ei hanes cynnar drwy gloddio, ond mae iddi bwysigrwydd archeolegol sylweddol o bosibl oherwydd mai cymharol ychydig o ddatblgygu a fu yno yn ddiweddar. Mae gan Drefaldwyn, tref amddiffynedig newydd a grewyd yn gynnar yn y 13eg ganrif dan y castell brenhinol, botensial archeolegol sylweddol hefyd, gan mai hi yw’r dref ganoloesol a gadwy orau yng Nghymru. Hefyd mae iddi dreftadaeth bensaernïol bwysig o’r 17eg i’r 129eg ganrif.
Dechreuodd neu drodd pentrefi llai Yr Ystog, Ffordun a Hyssington yn aneddiadau Mersaiddrhwng y 7ed a’r 11eg ganrif. Sefydlwyd capeli canoloesol ym mhob un o’r pentrefi a oedd, i ddechrau, yn ddibynnol ar Eglwys St Michael, Chirbury, ond a ddaeth yn ganolbwynt plwyfi eglwysig gwahanol. Methodd Trefaldwyn a Chirbury a’r pentrefi llai ddatblygu fel canolfannau diwydiannol neu fasnachol ac o ganlyniad maentwedi cadw eu cymeriad gwledig. Sefydlwyd ysgolion yn Nhrefaldwyn, Chirbury, Ffordun, Hyssington, a’r Ystog.
Mae rhai o’r pentreflannau, fel Kingswood, Cwm Cae, Old Church Stoke, a Stockton, weithiau’n ddim mwy na chlwstwr o dai, ac i bob golwg sefydlwyd hwy rhwg diwedd y 17eg ganrif a diwedd y 19eg. Mae’r aneddiadau hyn ar gyffyrdd, ac yn aml ceir cysylltiad â gefail, capel anghydffurfiol, melin neu dafarn. Tyfodd nifer o fythynnod ar ymyl y ffyrdd tyrpeg a godwyd at ddiwedd y 18fed ganrif ac yn gynnar yn y 19eg ganrif, gangynnwys nifer o dolldai a bythynnod gweithwyr.
Ymddengys nifer o ffermydd gan gynnwys y rhai yn Aston, Castlewright, Hopton, Dudston, Woodluston (Penylan), Weston, a Hem am y tro cyntaf fel aneddiadau cyn y Goresgyniad a restrwyd yn Llyfr Domesday at ddiwedd y 11eg ganrif, ond sydd mewn rhai achosion yn dyddio nôl efallai i’r Oes Haearn neu i gyfnod y Rhufeiniaid. Mae cyfran uchel o enwau’r aneddiadau hyn wedi goroesi. Perthyn rhai o’r enwau i ffermydd unigol, ond mae’n drawiadol bod yr enwau’r anediadau cynnar yn cael eu rhannu gan dwy fferm neu fwy yn y drefgordd, gydablaendoddiad fel ‘great’ neu ‘little’, ‘upper’ a ‘lower’, ‘red’ a ‘white’, ‘east’ a ‘west’. Mae’n amlwg bod cychwyniad llawer o’r ffermydd mewn trefgorddau a arferai weithredu ar sail caeau agored âr a rennid a chomin a ddefnyddid ar gyfer pori.
Roedd y system amaethyddol hon yn prysur chwalu ledled Prydain yn ystod y 14eg ganrif a’r 15fed, a chreid ffermydd unigol drwy broses raddol o gyfuno ac atgyfnerthu daliadaethau unigol. Ar yr un pryd, arweiniodd clirio coetir a gwella tir ymylol at greu ffermydd newydd rhwng yr 16egganrif a’r 18fed ynogystal â thwf ystadau mwy. Roedd rhai o’r ystadau a dyfodd yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg wedi eu seilio ar aneddiaau cyn-Oresgyniad, fe Walcot, Marrington, Edderton a Gunley hefyd mae’n debyg. Sefydlwyd cartref gwledig gyda pharciau neu erddi ym mhob un o’r mannau hyn yn ogystal â Nantcribba, Lymore a Phentrenant yn ystody cyfnod hwn.
Roedd mathau amlwg eraill o anheddiad yn datblygu yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg pan oedd pobl yn chwannog am dir, yn enwedig codi bythynnod a lechfeddiannu tir comin,fel yn Bankshead ymmhen dwyreiniol Cefnffordd Ceri, ar lethrau Todleth Hill a Lan Fawr, ac yn ardal Ffordun. Arweiniodd tlodi gwledig at godi gweithdy trawidaol yn Ffordun, a godwyd gyda chyfuniad o adnoddau naw plwyf a chwe threfgordd yn y gororau cyfagos yn ystod degawd olaf y 18fed ganrif.
Tirweddau Amaethyddol
Er nad oes tystilaeth ar gael ar hyn o bryd, a barnu oddi ar y safleoedd cynhanesyddol cynnar a’r darganfyddiadau a wnaed yn yr ardal, mae’n debygol bod nifer o ardaloedd o fewn Bro Trefaldwyn wedi eu clirio ar gyfer amaethyddiaeth yn ystod yr Oesoedd Neolithig ac Efydd. Mae nifer sylweddol o fryngaerau a chaeadleoedd o’r Oes Haearn ac o gyfnod y Rhufeiniaid ar draws yr ardal ac e maiychydig o safleoedd agloddiwyd, mae eudosbarthiad yn awgrymu bod darnau eang o ucheldir ac iseldir wedi eu clirio yn ystod ail hanner y mileniwm cyntaf OC, i greu tir pori a thir aredig, i gefnogi economi ffermio cymysg, a thryw hynny efallai gyfyngu darnau o goetir brodorol i’r llethrau serthaf a’r a’r llethra a’r dyffrynnoedd mwyaf anghysbell.
Mae’n bosibl bod yr aneddiadau Mersaidd sydd ar wasgar ar draws yr ardal ac a oedd wedi cychwyn yn y cyfnod rhwng y 7fed a’r 10fed ganrif, yn disgyn yn uniongyrchol mewn sawl achos o’r ffermydd a’r cymunedau hyn o’r Oes Haearn a’r cyfnod Rhufeinig, ac wedi ymsefydlu mewn tirwedd a oed eisoes yn amaethyddol aeddfed. Mae’r llinell syth a ddilynir gan Glawdd Offa ar draws y fro yn awgrymu ei bod wedi ei godi ar draws caeau a gliriwyd eisoes o goed yn yr 8fed ganrif. Mae tystiolaeth o Hen Domen ger Trefaldwyn yn awgrymu bod y castell mwnt a beili Normanaidd yn sefyll ar system caeau rhych a chefnen gynharach, a oedd yn perthyn mae’n debyg ianhediad Mersaiss cynharach ac a adawyd cyn y goresgyniad Normanaidd.
Roedd pysgota a hela am fwyd a hwyl yn bwysig yn yr ardal ers y cyfnod cynharaf. Me Llyfr Domesday yn cofnodi tri physgodlyn yn Hem, ar hyd y Gamlad mae’n debyg, ac efallai fod yma faglau. Mae Llyfr Domesday hefyd yn cofnodi caeadleoedd â gwrychoedd yn Hem ac Ackley, ar gyfer dal ceirw mae’n debyg. deg y Goresgyniad Normanaidd, yn 1066, roed llawer o’r aneddiadau yng nghanol y fro wedi eu gadael, o ganlyniad i ymosodiadau gan y Cymry mae’n debyg, a daethai’r ardal yn rhan o dir hela tri uchelwr Mersaidd o’r enw Siward, Oslac ac Azor.
Yn ystod y canoloesoedd mae’n debyg bod pob un o’r trefgorddau neu’r canolfannau wedi datblygu ei phatrwm ei hun ar gyfer denfyddio’r tir gan gynnwys caeau âr agored, tir pori a choetiroedd. Yn ffodus mae olion caear âr agored o’r canoloesoedd yn dal i’w gweld fel rhych a chefnen mewn nifer o fannau ar draws yr ardal, gan gynnwys rhai i’r gogledd o’r Ystog, i’r de a’r dwyrain o gastell Hyssington, i’r dwyrain o fferm Cabbulch ac i’r gogledd o Upper Snead, yn ymyl Sidnal, Winsbury a West Dudston, i’r de o Berthybu a Mount Nebo, ac yn ymyl Red Hopton a Hagley. Yn y trefgorddau Cymreig, yn y mannau hynny lle ceir caeau âr agored, ceir enwau caeau sydd yn cynnwys yr elfen ‘maes’.
Mae darnau helaethach o gefnen a rhych i’w gweld o hyd mewn llawer o’r caeau o gwmpas Chirbury, sef y tiroedd âr eang a berthynai i’r maenor a’r priordy gynt. Gwelir caeau agored canoloesol eraill lle mae patrwm o gaeau stribedi i’r gogledd a’r dwyrain o Drefaldwyn, ac ma rhai ohonynt yn cynnwys cefnen a rhych, lle bu’r caeau âr agored a berthynai i’r fwrdeistref ganoloesol. Ceir darnau helaeth o gefnen a rhych hefyd yn Lymore Park, i’r dwyrain o’r dref, lle caewyd caeau agored blaenorol i greu parc hela preifat erbyn diwedd y 16eg ganrif neu’r 17eg ganrif gynnar. Cadwyd darnau helaeth tebyg o dir cefnen a rhych o fewn parcdi Gunley, a greyd mae’n debyg drwy droi caeau âr agored yn barcdir yn y 17eg ganrif neu’r 18fed.
Cofnodir coetir yn Llyfr Domesday yn Edderton, Hem, Yr Ystog, Rhiston a Marrington. Gwnaed nifer o gyfeiriadau yn y 12fed a’r 13eg ganrifat glirio coetir a thorri coed yng nghoedwigoedd Snead, a oedd i bob golwg ar dir uwch rhwng Hyssington a Bagbury. Roedd angen llawer o goed derw argfer adeiladu ac fel tanwydd drwy gydol y canoloesoedd a’r cyfnod wedyn, a dywedir i lawer o goed derw gael eu symud o blwyf Yr Ystog mor ddiweddar â’r Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd mannau llifo yn gyfredin yn yr ardal, a barnu yn ôl enwau caeau, fel yn Bagbury, Brompton, Forden, Pentrenant, Tan House i’r de-orllewin o Mellington, i’r de-orllewin o Facheldre, i’r de o Spy Wood, ac i’r gogledd o Aston Hall.
Roedd llawer o’r tirwedd o fewn Bro Trefaldwyn eisoes wedi ei glirio ac roedd yn edrych fel y mae heddiw erbyn y 17ed a’r 18fed ganrif, wrth i dir mwy ymylol gael ei glirio a’i wella ac wrth gau tiroedd eraill drwy gytundebau preifat, a llechfeddiannwyd tir ar gyfer tirpori garw. Yn aml, arweiniodd cau hen dir âr a chaeau comin yn yr ardaloedd isel, fel yn achos y tir âr rhwng Trefaldwyn a Chirbury a’r dolydd ar hyd rhannau uchaf y Gamlad, at greu caeau mwy a mwy rheolaidd, gyda gwrychoedd sydd yn aml yn cynnwys nifer gyfyngedig o brysgwydd. Arweiniod y broses raddol o glirio a chae tir bob yn dipyn yn y mannau mwy bryniog, fel yn achos y llethrau i’r gogledd o Gefnffordd Ceri, y bryniau i’r gorllewin o o Drefaldwyn ac i’r gogledd a’r gorllewin o Hyssington, at batrwm nodweddiadol o gaeau llai a mwy afreolaidd. Fe’u cysylltir yn aml â hen wrychoedd,rhai ar linsieci neu bonciau clirio, gan gynnwys amrywiaeth eang o rywogaethau.
Gwnaed llawer o welliannau yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg er mwyn cynyddu cynhyrchu amaethyddol, ac mae nifer ohonynt yn dal i’w gweld yn y tirwedd heddiw. Cloddiwyd pyllau marl i wella ffrwythlondeb ac ansawdd y pridd, fel yn Hem Moor, yn yr ardal rhwng Chirbury a Walcot, ac i’r de o Lymore. Ceisiwyc gwella traeniad y tiroedd isaf gwlyb drwy agor ffosydd a chloddiau yn rhannau uchaf dyffryn Camlad a thrwygodi ponciau i rwystro gorlifo ar hyd rhannau isaf y Gamlad. At ddiwedd y 19eg ganrif, roedd odynnau bruciau y ymyl yr Ystog a Snead yn cynhyrchu pibelli traenio i wella ansawdd y tir. Rhesymolwyd y daliadaethau, gan gynnwys cyfnewid darnau gwasgaredig o dir a chau’r tiroedd comin uchel ac iel oedd yn dal i fodoli. Ymhlith y mannau trawidaol a gaewyd o fewn Bro Trefaldwyn ceir tir o gwmpas Ffordun ac ar hyd Cefnffordd Ceri, lle sefydlwyd tirweddau amlwg gyda chaeau petryal â therfynau syth, un ai gyda ffensiau pyst a gwifren neu wrychoedd un-rhywogaeth, y ddraenen wen fel arfer.
Ymhlith nodweddion amlwg tirwedd amaethyddol yr 20fed ganrif ceir ardal fechan o fân-ddaliadaethau y cyngor o gwmpas Great Weston Farm, i’r de o Drefaldwyn, a’r silos grawn mawr rhwng Trefaldwyn a Chirbury. Yn ystod yr 20fed ganrif hefyd y collwyd llawer o derfynau caeau, a gwelir rhesi toredig o goed a phrysgwydd lle by terfynau gynt. Hefyd gadawyd neu newidiwyd nifer o ffermydd ymylol.
Tirweddau Pensaernļol
Mae’r ardal tirwed hanesyddol yn cynnwys treftadaeth bensaernļol gyfoethog sydd yn enghreifftio datblygiad dulliau tradodiadol o adeiladu a lawer o themāu pwysig yn hanes adeiladu’r ardal yn gyffredinol. Mae dyfrnder cronolegol sylweddol i’r amgylchedd adeiledig, a cheir adeiladau syd wedi goroesi o’r 16eg ganrif ymlaen. Ceir amrywiaeth arwyddocaol hefyd yn yr adeiladau o ran swyddogaeth a statws cymdeithasol, ac fe’u ceir mewn amrywiaeth eang o fathau o aneddiadau a lleoliadau topograffig, gan gynnwys ffermydd ar bennau bryniau ac ar y tir isel, bythynnod ar ochr y ffordd, pentrefi bach a thref farchnad fach, ac mae’r rhain i gyd yn golygu bod cryn amrywiaeth yn y tirwedd hanesyddol. Gwelir amrywaieth eang o ddeunyddiau adeiladu, ac yng nghyd-destun y drefn y denfyddiwyd y deunyddiau hyn y trafodir hanes adeiladu ym Mro Trefaldwyn yn y testun isod.
Ceir adeiladau o bwys pensaernļol a hanesyddol ar hyd a lled yrardal, ar wahān i rai o’r rhannau mwy bryniog a rhai o’r isaf. Ceir rhyw 170 o adeiladau rhestredig yn yr ardal. Mae’r rhan fwyaf yn dai mewn trefi, a cheir nifer ohonynt yn aneddiadau cnewylol Trefaldwyn, Chirbury a’r Ystog, neu ffermdai a bythynnod yn y wlad o amgylch, yn ogystal ā dyrnaid o adeiladau eraill fel ysguboriau, melinau, eglwysi, tai gwledig bach a tholdai.
Mae’r adeiladau hynaf i oroesi wedi eu gwneud o gerrig, gan gynnwys castell Edwardaidd Trefaldwyn a pheth o ffabrig eglwysi Trefaldwyn a’r Ystog, ac yn eglwys ac olion priordy Awgwstaidd Chirbury. Mae’n debyg mai bren y codid y cestyll a’r eglwysi cynharaf yr yr ardal, ac er mai ychydig o olion pensaernļol ers syn y 15eg ganrif hwyr neu ddechrau’r 16eg a welir heddiw, ychwanegir at y dystiolaeth archeolegol o adeiladau pren o’r Oes Haearn gan Ffridd Faldwyn, ac o gyfnod y Rhufeiniaid a’r canoloesoedd cynnar gan gaer Rufeinig The Gaer a’i chyffiniau, ac o’r canoloesoedd gan y tu mewn i feili castell yr Hen Domen, ac yn ddiweddarach o fewn amddiffynfeydd bwrdeistref ganoloesol Trefaldwyn. Mae’r dystiolaeth archeolegol yn bwysig, er enghraifft, i gadarnhau newid graddol o ddefnyddio dull adeiladu ā thyllau pyst i drawstiau yn ystod y 12fed ganrif neu’r 13eg ganrif efallai.
Yr adeiladau brodorol hynaf sydd wedi goroesi yw’r ffermdai ffrām bren o’r 15fed ganrif a’r 16eg ganrif yn yr Old Smithy, Priest Weston, ac yn Hurdley Farm, Hyssington, a’r ysgubor ffram brem o’r un cyfnod yn fferm Pant. Mae’n debyg mai adeiladau amlbwrpas oedd y ddau ffermdy yn wreiddiol, gyda neuadd ganolog a lle tān ar agor i’r to, ac efalai feudy cysylltiedig ar y naill ben, a’r waliau ffrām bren wedi eu gosod mewn waliau cynnal isel o gerrig cymysg. At ddiwedd yr 16eg ganrif a’r 17eg ganrif gwelwyd ffermdai a thai trefol ffrām bren deulawr o wahanol faint ond o fathau sy’n nodweddu Dyffryn Hafren yn Sir Drefaldwyn, ac mae nifer arwyddocaol ohonynt wedi goroesi yn yr ardal tirwedd hanesyddol, er enghraifft yn ardaloedd Yr Ystog, Pen-y-lan, Aldress, Hyssington, Chirbury, Gwern-y-go, Weston Madoc, Cwm, a’r Wernddu. Mae dyddiad ar rai ohonynt, gan gynnwys Churchstoke Hall sydd ā’r dyddiad 1591, Cwm Bromley sydd ā’r dyddiad 1633, Pentre Hall sydd ā’r dyddiad 1689, ac Aston Hall sydd ā’r dyddiad 1691. Mae Fir Court, Yr Ystog ā’r dyddiad 1685 ac mae arysgrifiad gyda’r geiriau ‘what is here by man erected let it be by God protected’. Gwydys am nifer o dai mwy o’r cyfnod hwn gan gynnwys yr hen luest hela yn Lymore, y ty ym Marrington, a ymestynnwyd yn ystod oes Fictoria, a Bacheldre Hall, sydd ā’r dyddiad 1615. Ychydig o dai llai sydd wedu goroesi, fodd bynnag, ar wahān i fythynnod a ddefnyddid i bwrpasau eraill yn Wortherton a West Dudston. A number of timber-framed barnsMae nifer o ysguboriau ffram bren wedi goroesi hefyd o’r 16eg ganrif hwyr a deehcrau’r 17eg gan gynnwys y rhai yn Kingswood, Lower Aldress, Rockley, Sidnal, The Ditches, Upper Gwarthlow, Little Brompton, ac Upper Broughton.
Mae’n debyg mai to gwellt oedd gan adeiladau canoloesol a chynharach yn yr ardal, ac er bod y dull yn ddigon cyfredin hyd aty 19eg ganrif, ychydig o dystiolaeth sydd o’r defnydd o’r deunyddiau yn yr ardal. Ers tua’r 16eg ganrif hwyr ymlaen, efallai, llechi a ddefnyddid i doi bron pob adeilad, a hynny ar y cyd ā theils crib o’r 18fed ganrif ymlaen efallai, ond gwnaed defnydd cyfyngedig iawn o serameg a theils toi concrit yn ystod yr 20fed ganrif.
Defnyddid cerrig i godi cestyll ac eglwysi yn yr ardal o’r 13eg ganrif hwyr o leiaf, a gwnaed mwy o ddefnydd o gerrig ar gyfer adeiladau domestig o’r 17eg ganrif hwyr a dechrau’r 18fed ganrif ymlaen, o bosibl oherwydd prinder neu bris pren addas, yn enwedig yn yr ardaloedd lle roed cerrig a chwarelwyd ar gael yn hawdd. Roedd cael calch ar gyfer adeiladu yn broblem i ddechrau, ac mae dogfennau o’r 13eg ganrif gynnar yn awgrymu bod odyn galch wedi ei chodi yn Snead i weithio ar Gastell Trefaldwyn, gan ddefnyddio’r allfrig calchfaen bach sydd yn yr ardal, i arbed cludo calch yr holl ffordd o’r Amwythig.
Trwsiwyd nifer o adeiladau ffrām bren hynach neu ymestynnwyd hwy ā cherrig, ond roedd rhai adeiadau newydd, fel y ffermdai ym Mhen-y-lan a Glebe Farm, Old Church Stoke, yn cyfuno ffrām bren a cherrig. Ymhlith yr adeiladau cerrig cynnar o bwys ceir Hen Swyddfa Bost Priest Weston a ffermdy Brithdir, Hyssington, a’r olaf yn dyddio o 1695. Ymhlith adeiladau cerrig ganol y 18fed ganrif ceir nifer o ffermdai fel Brook House, Priest Weston, a hefyd mae’n debyg Pentreheyling House, ac ymhlith y rhai a berthyn i ganol neu’n hwyr y 18fed ganrif ceir Bridge House, Chirbury a Middle Alport, a nifer o dai mewn trefi a phentrefi, gan gynnwys Ty’r Ygsol, Yr Ystog a Brynawel, Hyssington, ac enghreifftiau eraill yn Nhrefaldwyn, Chirbury, Yr Ystog a Hyssington. Mae llawer o’r adeiladau cynnar wedi eu codi ā cherrig cymysg lleol heb eu trin, ond defnyddid tywodfaen a gludid i’r ardal ar gyfer conglfeini ac addurniadau pensaernļol eraill yn nifer o’r tai mawr o’r 18fed ganrif ymlaen.
Parhawyd i ddefnyddio cerrig yn gyffredin ar gyfer adeiladau’r cartref tan y 19eg ganrif, gan gynnwys y ffermdai a’r tai o ddechrau neu ganol y ganrif honno yn Woodmore, a The Llanerch, Hyssington, gyda chonglfeini cerrig unwaith eto, a rndrwyd rhai tai briciau fel Ivy House, ger Yr Ystog. Codwyd nifer o’r tai llai yn yr ardal hefyd o gerrig yn y 19eg ganrif, ac enghreifftiau da yw Pentrenant Hall a Mellington Hall a’i gynghordy, yn ogystal ā’r eglwysi Fictoraidd newydd a’r capeli anghydffurfiol. Defnyddid cerrig i godi nifer o adeiladau diwydiannol, gan gynnwys y felin (o’r 17eg ganrif mae’n debyg) sef Pentre Mill, a godwyd o flociau sgwār mawr,y felin o ddiwed y 18fed ganrif o bosibl yn Macheldre, a Walkmill yn Marrington Dingle, sydd yn dyddio o 1802. Codwyd nifer o’r tolldai o ddechrau’r 19eg ganrif fel ffermdy Toll House a Toll Cottage, i’r de o Lwynobin yn ardal cymeriad Weston Madoc hefyd o gerrig.
Defnyddiwyd briciau am y tro cyntaf yn yr ardal yn y 17eg ganrif gynnar, pan ddefnyddiwydhwy i godi nifer o adeiladau pwysig fel y manordy nwydd a godwyd gan Sir Edward Herbert yn ward fewnol Castell Trefaldwyn rhwng 1622-25, a building demolished in 1649-50. Dengys y briciau cynharaf a gafwyd yn y castell fod briciau ā siāp wedi eu defnyddio gyda mowldiau pensaernļol, sydd yn awgrymu eu bod yn cael eu defnyddio yn ystod y cyfnod hwn – megis mewn adeiladau yn Sir Amwythig o ddiwedd yr 16eg ganrif a’r 17eg – gan deuluoedd oedd ā chysylltiadau ā’r Llys Brenhinol. Yn anffodus collwyd adeilad cynnar arall o friciau yn yr ardal sef y neuadd o’r 17/18fed ganrif yn Nantcribba, a losgwyd tua 1900. Gwnaed mwy o ddefnydd o friciau yn ystod y 18fed ganrif, a than y 19eg ganrif gynnar roed llawer o’r tai briciau wedi eu codi o ddeunyddiau a wnaed yn lleol, ar y fferm neu’r ystad. Fel arfer, ildiodd cynhyrchu lleol ar raddfa fechan i cynhrychu masnachol lleol ac yna i’r defnydd o gynhyrchion o weihfeyd briciau o’r tu allan i’r ardal yn ystod y 19eg ganrif hwyr a dechrau’r 20fed ganrif (gweler yr adran isod ar dirweddau diwydiannol).
Yn ogystal ag ar gyfer adeiladu drwy gydol y 18fed ganrif, defnyddid briciau ar gyfer ymestyn neu drwsio adeiladau ffrām bren a fodolai eisoes, gan ddisodli paneli cynharach o blethwaith a dwb, er enghraifft caewyd ffermdai ffrām bren cynharach Timberth, Upper Gwarthlow a Great Moat Farm, mewn biciau at ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Codwyd cangell eglwys plwyf Chirbury o friciau ym 1733, ac fe’u defnyddid hefyd ar gyfer conglfeini ac agoriadau ffenestri a drysau ar nifer o adeiladau cerrig yn ystod y cyfnod hwnnw.
Codwyd tai briciau newydd a nifer o dai eraill o sylwedd yn gyfan gwbl mewn briciau yn y 18fed ganrif, gan gynnwys y rhai hynny yn Castle Farm, Trafaldwyn, Llwynyrhedydd a Rockley. Ymhlith yr adeiladau georgaidd mawr a thrawiadol eraill a godwyd o friciau yn hwyr y 18fed ganrif ceir Pen-y-bryn Hall, y ty a drowyd i’r Herbert Arms Hotel a Church House, Chirbury, Pentre House, a’r ffermdy rendredig a llawn steil yn The Gaer. Codwyd y gweithdy mawr o’r enw Pool-Montgomery Union Workhouse ym 1793-95 o friciau hefyd. Parhawyd i ddefnyddio briciau i godi tai gwledig bach a thai a ffermdai mwy oedd yn llawn steil yn y dref ac yn y wlad yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif, fel yn achos Broadway House, fila yn null y Rhaglywiaeth, The Meadows a Gunley Hall, a ffermdy East Dudston. Codwyd colomendai a nodweddion eraill i’r ardd hefyd o friciau i gyd-fynd ā thai gwledig bach yn hwyr y18fed ganrif ac yn gynnar y 19eg ganrif, fel yn Gunley Hall, Nantcribba, The Gaer a Chirbury Hall. fafriwydydefnydd o friciau hefyd gan nifer o ystadau tiriog lleol a oedd wedi dod i amlygrwydd yn ystod y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, gan gynnwys ffermdy Upper Alport a godwyd tua 1830, ac a berthynai i Ystad Marrington, a’r ffermdy yn Nantcribba a berthynai i Ystad Leighton ac a godwyd yn y 1860au.
Gwnaed defnydd helaeth o friciau i godi adeiladau ffermydd newydd a ddeilliodd o’r datblygu cynlluniedig a wnaed ar nifer o ffermydd mawr a ffermydd ystad rhwng dechrau a chanol y 19eg ganrif, gan gynnwys cyfadeilau fferm model Gwern-y-go a Nantcribba. Defnyddiwyd briciau hefyd ar gyfer nifer o adeiladau diwydiannol, a nifer o gapeli anghydffurfiol newydd a godwyd yn y dref ac yn y wlad yn ystod y 19eg ganrif, fel yn Stockton Mill a Green Chapel a’r capeldy cysylltiedig. Codwyd tai modern bron yn ddieithriad o friciau, ond defnyddiwyd deunyddiau adeiladu amrywiol ar gyfer adeiladau amaethyddol yn ystod yr 20fed ganrif, a’r datblygiadau mwyaf trawiadol yw’r defnydd o haearn gwrymiog a dalennau metel eraill ar adeiladau a fodolai eisoes ac adeiladau newydd, a’r defnydd eang o adeiladwaith ffrām-ddur.
Mae adeiladau unigol weithiau’n bwysig. Neu gallant fod yn rhan o gyfadail cyfoes, fel yn achos y ffermdy ffrām bren o’r 17eg ganrif, gyda’i ysgubor a’i feudy yn Rockley, neu Gunley Hall o fynyddoedd cynnar y 19eg ganrif gyda’i cholomendy, ei nodweddion gardd a’i pharcdir. Mae Nantcribba, gyda’i ffermdy, ei fferm fodel a bythynnod y gweithwyr hefyd yn bwysig fel rhan o Ystad Leighton, un o’r enghreifftiau mwyaf trawiadol o ddatblygu ystad Fictoraidd yng Nghymru. Mewn achosion eraill, y dilyniant o adeiladau sydd yn ddiddorol, ac a oed y newidiadau a ddigwyddodd yn rhan o ad-drefniant cynlluniedig ynteu’n ganlyniad i broses fwy organaidd. Yn yr un modd, gall ailfodelu adeilad unigol fod yn arwyddocaol oherwydd ei fod yn cynnig tystiolaeth am newidiadau mewn defnydd, ffyniant a fasiwn, fel yn achos Bacheldre Hall, lle rhoddwyd tu blaen cerrig, Sioraidd newydd ir neuadd o’r 17eg ganrif yn nechrau’r 19eg ganrif.
Mae adeiladau Bro Trefaldwyn yn elfen weledol bwysig yn y tirwedd modern ac maent yn taflu goleuni hefyd ar hanes anheddu a’r defnydd o dir yn yr ardal tirweddhanesyddol. Mae’r adeiladau sydd wedi goroesi, ar y cyd ā’r dystiolaeth archaeolegol gladdedig, yr un mor bwysig o ran cynnig dilyniant dogfenedig o ddulliau adeiladu yn yr ardal hon yng nghanol y gororau. Cynrychiolir amrywiaeth eang o wahanol fathau o adeladau a statws cymdeithasol mewn cyd-destunau trefol a gwledig. Yn y wlad, mae’r dreftadaeth adeiledig yn helpu i olrhain ymddangosiad dosbarth o ffermwyr a oedd yn iwmyn yn ystod y canoloesoedd hwyr, ymddangosiad yr ystadau tiriog ac uchelwreiddio cefn gwlad yn ystod y 18fed ganrif, datblygiad ffermydd model oes Fictoria, datblygiad mān-ddaliadaethau, dyfodiad ffermio mecanyddol modern yn y wlad. Mae adeiladau yn y dref a’r pentrefi hefyd yn bwysig o safbwynt hanes diwylliant, gan eu bod yn dangos ffyrdd newidiol o fyw trawstoriad o’r gymdeithas a’u ffyniant newidiol – yn llafurwyr a chreftwyr ar y naill law i’r dosbarthiadau proffesiynol a’r uchelwyr ar y llaw arall.
Trafnidiaeth a Chysylltiadau
Oherwydd ei leoliad daearyddol bu’r ardal yn llinell gyfathrebu bwysig rhwng Canobarth Cymru a Chanolbarth Lloegr ers y cyfnodau cynharaf, ond bu nifer o newidiadau dramatig mewn cyfathrebu oherwydd ffactorau gwleidyddol ac economaidd. Dilynai’r ffordd oedd yn cysylltu Canolbarth CYmru â dinas Rufeinig Wroxeter a gweddill yr Ymerodraeth Rufeinig yn dilyn llwybr isel ar hyd gwaelod dyffrynnoedd Rea a Chamlad i’r gaer ar lanau Hafren a elwir The Gaer, Ffordun. Ni ellir amau bod y gaer wedi ei lleoli i reoli rhyd bwysig a oedd yma eisoes, ond roedd y brif linell gyfathrebu i’r gorllewin yn parhau i ddilyn glwn ddeheuol yr afon at bwynt ychydig i’r dwyrain o gaer Rufeinig Caersws. Dangosir ail linell gyfathrebu Rufeinig i’r gorllewin ar hyd dyffryn Caebitra ac yna i’r Sarn gan gaer Rufeinig arall a gwersyll milwrol hefyd efallai ym Mhentrehyling. Awgrymir y posibilrwydd fod rhyd dros Hafren yn yr ardal hon a ddefnyddid ers dyddiau cynharach gan y ffaith fod nifer o gofadeilau seremonïol cynhanesyddol cynharach yn ymyl Dyffryn, ar lan arall Hafren, a bryngaergynhanesyddol ddiweddarach Ffridd Faldwyn, uwchben Trefaldwyn.
Ychydig a wyddys am unrhyw fannau croesi ar daws llinell Clawdd Offa, a godwyd i ddiffinio ffiniau teyrnas Mersia yn hwyr yr 8fed ganrif, ond gellir rhagdybio bylchau lle mae’n croesi dyffrynnoedd Camlad a Chaebitra. Parhaodd y groesfan i fod yn bwysig tan y cyfnod canol cynnar, a rhoddwyd yr enw Forden – o’r Hen Saesneg ‘anheddiad y rhyd’ – i un o’r aneddiadau a sefydlwyd wrth i Fersia ehangu i’r gorllewin o Glawdd Offa, efallai yn ystod y 9fed/10fed ganrif. Erbyn cyfnod Llyfr Domesday, a luniwyd i frenin y Normaniaid, Gwilym I, yn 1086, rhoddwyd i anheddiad yn ymyl The Gaer yr enw Horseforde sef ‘rhyd geffylau’. Erbyn y 13eg ganrif, enw’r Cymry ar yrhyd ychydig i’r de o’r gaer Rufeinig oedd Rhydwhiman (sef, y rhyd gyflym) ac enw’r Saeson arni oedd rhyd Trefaldwyn (vadum aquae de Mungumery). Roedd ei phwysigrwydd sumbolaidd fel man cyfarfod wedi diflannu erbyn diwedd y 13eg ganrif, fodd bynnag, wedi i Edward orchfygu’r Cymry.
Parhaodd y rhyd i fod o bwys yn lleol, fodd bynnag, ac er bod teithwyr i’r gorllewin o’r 1fed / 16eg ganrif ymlaen yn defnyddio cyfres o bontydd ymhellach i’r gogledd yng Nghilcewydd a Chaerhowel i’r de, ychydig y tu allan i’r ardal tirwedd hanesyddol, parhawyd i ddefnyddio’r rhyd yn Rhydwhiman a rhyd a fferi yn Nyffryn tan rywbryd yn y 19eg ganrif.
Llinell gyfathrebu bwysig arall i ganolbarth Cymru oedd Cefnffordd Ceri, neu Yr Hên Ffordd sy’n dilyn y gefnen ar hyd ffin ddeheuol yr ardal tirwedd hanesyddol. Ni wyddys i sicrwydd pa mor hen yw’r gefnffordd, ond awgrymwyd ei bod mewn defnydd ers y cyfnod cynhanesyddol cynnar, ac mae bwlch posibl yn llwybr Clawdd Offa ar ben y bryn yn awgrymu’r posibilrwydd ei bod yn cael ei defnyddio yn yr 8fed ganrif. Awgrymir bodolaeth ffordd ganoloesol ar ei hyd gan bresenoldeb castell cloddwaith Bishop’s Moat. Ychydig o ddefnydd a wneir o’r Gefnfford heddiw, ond mae’r bwlch rhwng y gwrychoedd a’r ymylon llydan yn awgrymu ei bod wedi datblygu ei ffurf bresennol fel ffyrdd porthmyn ar draws y tiroedd comin uchel yn ystod y 17eg/18fed ganrif efallai, er mwyn gyrru gwartheg a defaid o GYmru ar droed i farchnadoedd Lloegr at ddiwedd yr haf ac yn ystod yr hydref.
Datblygodd lonydd, llwybrau llydan a lwybrau troed rhwng y canolfannau poblog yn y canoloesoedd cynnar a’r canoloesoedd, a ddatblygodd yn Nhrefaldwyn, Chirbury, Yr Ystog, Hyssington, Ffordun a Snead a’r trefgorddau a’r ffermydd cyfagos. Daeth plwyfi a threfgorddau unigol yn gyfrifol am eu cynnal. Lle roed hynny’n bosibl, codid ffyrdd ar dir sych, gan ddilyn cyfuchliniau’r bryniau, er enghraifft ar hyd ochr uchaf dyffryn Camlad rhwng Snead a’r Ystog, ac ar hyd ochr Lan Fawr i’r gogledd o’r Ystog i Priest Weston. Roedd yn anochel y byddai llawer o erydu, lle byddai’r llwybrau yn dilyn tir gwlyb, neu i fyny ac i lawr gelltydd, a chrewyd ceuffyrdd dros y canrifoedd cyn sefydlu ffyrdd â metlin a thraeniad. Roedd llawer o’r ffyrdd lleol mewn cyflwr ofnadwy erbyn y 18fed ganrif, yn enwedig yn ystod y gaeaf, ac ni allai cerbydau ag olwynion deithio arnynt. Gwnaed lawer o welliannau yn ystod y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif yn sgîl ffurfio’r ymddiriedolaethau tyrpeg, a drawsffurfiodd nifer o batrymau teithio llleol. Gwellwyd rhai ffyrdd a chrewyd rhai newydd fel y ffordd ar arglawdd gyda phontydd i’r gogledd o Drefaldwyn i Ffordun ac i’w dwyrain i gyfeiriad Chirbury, gan dorri ar draws terfynau caeau cynharach a disodli lonydd troellog. Codwyd tolldai a cherrig milltir. Mae rhai yn dal i’w gweld, fel yr hen dollbyrth yn Toll House Farm ar yr A488 i’r dwyrain o Hyssington a’r bwthyn ar y B4385 i’r de o Drefaldwyn. Gadawyd rhai hen lwybrau lydan i bob pwrpas, gan gynnwys llwybr o’r Ystog i Rydwhiman heibio Rhiston a Lymore, a nodir yn rhannol gan lwybrau troed, yn rhannol gan geuffordd adawedig ac yn rhannol gan ffordd fach fodern.
O’r 12fed ganrif hwyrneu’r 13eg ganrif gynnar, daethai’r gored a godwyd ar draws Hafren gan fynachod Sistersaidd abaty Ystrad Marchell, i’r gogledd o’r Trallwng, yn ben ar ddyfrffordd Hafren, ac roedd y fan hon yn ffafriol i ddatblygiad llwybr Y Drenewydd-Trallwng i ganolbarth Cymru yn ystod y cyfnod canol hwyr a’r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar. Cryfhawyd hyn gan ddyfodiad y gamlas a’r ffyrdd tyrpeg yn ystod y 18fed ganrif, a’r rheilffordd at ddiwedd y 19eg ganrif. Bu Bro Trefaldwyn ar ei hennill pan godwyd y Cambrian Railway rhwng Y Trallwng a’r Denewydd ym 1860, gyda’i hargloddiau, pontydd a bythnnod rheilffordd a’r e orsafoedd yn Ffordun a Threfaldwyn, yr olaf yng Nghaerhowel, rhyw 2km o’r dref. Yn eironig ddigon, cadwyd enw’r hen ryd yn Rhydwhiman yn enw’r groesfan ar y lôn ar draws y rheilffordd – Rhydwhyman Crossing.
Tirweddau Diwydiannol
Mae’r gweithgarwch diwydiannol cynharaf yn yr ardal hon yn dyddio i’r Oes Efydd gynnar, sef y chwareli basa geir yn yr ardal i’r gogledd o ffermydd Cwm-mawr a Cabbulch, Hyssington, a oed mae’n debyg yn ffynhonnell ar gyfer y garreg folcanaidd a elwir picrit a ddefnyddir i wneud mathau o fwyell frwydro a morthwylion bwyeill a ddosrannwyd yn bennaf o gwmpas rhannau uchaf Hafren, ond a geir hefyd mor bell â chanolbarth yr Alban a phen pellaf Cernyw. Cynhyrchid yr offer gan ddefnyddio techneg o bigo araf a graddol, ac felly – yn hytrach na’u cynhyrchu ar y safle – mae’n debyg bod yr offer yncael eu paratoi mewn un man, fel math o ddiwydiant bwthyn efallai, o ddarnau priodol o garreg a godwyd o ochr y bryn.
Chwaraeodd cloddio am gerrig adeiladu a cherrig ffordd ranfechan ond pwysig yn economi’r ardal yn y cyfnod canol a’r cyfnod l-ganoloesol cynnar. Tan ddiwedd y 17eg ganrif, o bosibl, roed mwyafrif yr adeiladau wedi eu codi o bridd neu goed, ar wahân i ddyrnaid o eglwysi fel y rhai yn Chirbury a Threfaldwyn lle ceir ffabrig o hys o’r 13eg ganrif, a nifer fechan o gestyll cerrig, fel Castell Trefaldwyn, yn ogystal â nifer o gestyll llai lle honnir bod adeileddau cerrig wedi goroesi. Ni wyddys lle roedd chwareli’r canoloesoedd, ond ceir chwareli bach ar hyd a lled yr ardal, ceir dyddodion siâl i’r gorllewin o Drefaldwyn ac i’r gogledd a’r dwyrain o Ffordun, a chreigiau igneaidd yn ardal Marrington Dingle, i’r gogledd o’r Ystog ac i’r de o Hyssington, rhai ar gyfer cerrig adeiladu, yn enwedig at ddiwedd y 17eg ganrif a’r 18fed ganrif, a rhai ar gyfer cerrig ffordd yn y 18fed ganrif a’r 19eg. Ceid chwarli bach ar gyfer gro hefyd yn ardal Chirbury-Walcot. Roedd diwydiannau chwarleu eraill yn yr ardal yn cynwys pyllaubachar gyfer baritau ar ochrau deheuol a gorllewinol Roundton Hill a oedd wedi peidio â chynhyrchu erbyn diwedd y 19eg ganrif.
Yn raddol disodlwyd coed a cherrig gan friciau o’r 18fed ganrif ymlaen, a’r adeilad briciau cynharaf yn yr ardal yw’r plasty a godwyd gan yr Arglwydd Herbert o Chirbury – sydd bellachwedi ei ddymchwel – yn ward fewnol Castell Trefaldwyn yn yr 1620au. Gwelir cynhyrchu ar raddfa fechan, dim ond ar gyfer un neu ddau o adeiladau efallai, at ddiwedd y 17eg ganrif a’r 18fed, lle mae pyllau clai bach neu mewn enwau caeau sy’n awgrymu lle bu odyn gynt, a gofnodwyd adeg y degwm, feler enghraifft i’r gorllewin o Neuadd Pen-y-bryn, i’r gorlewin o Wern-y-go, i’r gogledd o Gunley Hall, i’r de-ddwyrain o Rhiew Goch, i’r gorllewin o Drefaldwyn, ac yn ymyl The Meadows, lle codwyd y ty o ddechrau’r 19eg ganrif o friciau a wnaed ar y safle. Codwyd y ffermdy a’r cyfadail mawr o adeiladau fferm yn Nantcribba o friciau lleol hefyd, a gynhyrchwyd ar Ystad Leighton, ac mae llythrennau cyntaf John Naylor, a sefydlodd yr ystad, ar rai ohonynt. Sefydlwyd canolfannau cynhyrchu mwy – er eu bod yn dal i fod ar raddfa fechan ar gyfer anghenion lleol – yn Stalloe a Chaemwgal i’r gogledd o drefaldwyn, yn yr ardal i’r gogledd o Chirbury, ar ochr orllewinol yr Ystog ac yn Owlbury, yn ymyl Snead, basedlle ceir dyddodion o glai rhewlifol ar waelod y dyffryn. Parhaywd i gynhyrchu briciau mewn rhai achosion tan flynyddoed olaf y 19eg ganrif, ond yn y man methwyd cystadlu yn erbyn y cynhyrchion rhatach o fannau pellach a oed yn cyrraedd ar y rheilffordd ac yna ar y ffyrdd. Roedd nifer o’r gweithfeydd hefyd yn cynhyrchu pibellu traenio. Roedd gofyn amy rhain yn lleol yn ystod y 19eg ganrif, i gynorthwyo i draenio’r gwlyptiroedd isel a’r gwernydd ar hyd dyffrynnoedd Camlad a Chaebitra. Roedd y gweithfeydd briciau yn yr Ystog hefyd yn cynhyrchu potiau blodau a chawgiau. Mae’n bosibl mai dim ond yn Stalloe mae rhai i’w gweld o hyd.
Cymharol ychydig o weithgynhyrchu a geid yn yr ardal ar wahân i’r uchod, ar ôl y canol oesoedd, ond ceir nifer fechan o unedau diwydiannol ysgafn mewn nifer o fannau hefyd, fel yn Hen Domen, Trefaldwyn a Ffordun. Ymgymerwyd â nifer o ddiwydiannau crefft ar raddfa fechan yn y gorffennol, gan gynnwys gofa, a welir yn achos hen siopau gof yn Chirbury, Hyssington, Ffordun, Stockton, Cwm Cae a’r Ystog, ac mae rhai ohonynt i’w gweld byth.
Defnyddiwyd grym dwr gan nifer o felinau grawn a blawd a godwyd ar lawer o’r prif ffrydiau ledled yr ardal – ar y Gaebitra, y Gamlad uchaf i’r dwyrain o’r Ystog, ar hyd Marrington Dingle, a’r Gamlad isaf i’r gorllewin o Chirbury. Gwyddys trwy ddogfennau am felinau canoloesol o’r 12fed ganrif hwyr a’r13eg ganrif yn Walcot, Yr Ystog a Stalloe, yn ymyl Trefaldwyn, ac yng Ngwern-y-go, a rhodwyd llawer o’r melinau i’r canonau ym mhriordy Awgwstaidd Chirbury ac roedd y felin yng Ngwern-y-go yn perthyn i abaty Sistersaidd Cwmhir. Mae safle llawer o’r melinau canoloesol yn ansicr, ond tybir bod rhai yn sail ar gyfer cyfadeilau melin diweddarach a oedd yn gweithio rhwng y 18fed ganrif a dechrau’r 20fed. Ymddengyd fod nifer o felinau, gan gynnwys y rhai yn Bacheldre, Pentre, Mellington a Broadway, wedi eu hailadeiladu neu eu hadnewyddu yn ystod y 16eg a’r 17eg ganrif gynnar. Mae’n debyg eu bod, fel y melinau canoloesol o’u blaen, wedi eu gwneud o goedac nid oes yr un wedi goroesi, ac fel arfer maent wedi eu disodli gan adeiladaau cerrig yn ystod y 17eg ganrif hwyr a dechrau’r 18fed, ac yna gan felinau briciau yn ystod y 18fed ganrif hwyr a dechrau’r 19fed. Roed codi melin yn ystod unrhyw ygfnod yn golygu cryn fuddsoddiad, nid yn unig ar gyfer yrcadeiladau ond hefyd ar gyfer y dyfrffosydd, y sliwsiau a’r pyllau i reoli’r dwr a oedd yn troi’r peiriannau. Mae’n debyg bod y felin ganoloesolyng Ngwern-y-go wedi ei bwydogan ffos hyd at 1km mewn hyd o’r enw ‘Grange Ditch’, a gludai ddwr o’r Gaebitra. Bwydid Bacheldre Mill gan ffos hyd at tua 800m o arweiniai o’r Gaebitra ymhellach i lawr. Sefydlwyd llawer o’r melinau diweddarach fel melinau pannu, gan gynnwys nifer o felinau yn Marrington Dingle. Methodd llawer o’r melinau â chystadlu a rhoddwyd y gorau iddynt yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, a thrâdd eraill at ddefnydd gwahanol. Ar gyfer bragu y defnyddid Bacheldre ar un adeg, ond yng nghanol y 19eg ganrif fe weithiai ar gyfer lliwio hefyd. Newidiwyd Mellington Mill i gynhyrchu papur cras yn y 18fed ganrif, ond roedd wedi ei chwalu erbyn diwedd y ganrif. Roedd llawer o’r melinau wedi dod i ben erbyn diwed y 19eg ganrif, ond parhaodd eraill fel Pentre Mill, Gaer Mill a Broadway Mill i fod yn gynhyrchiol tan hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Yr unig felin sy’n dal i weithio yw’r felin ym Macheldre. Mae melinau eraill wedi eu dymchwel neu wedi eu newid ar gyfer defnyddiau eraill, ond gellir gweld olion ffosydd a phyllau o hyd mewn sawl safle.
Tirweddau a Amddiffynnwyd
Mae’r ardal tirwedd hanesyddol yn cynnwys ystod bwysig o safleoedd amddiffynnol a milwrol o’r cyfnodau cynhanesyddol hwyr, Rhufeinig, canoloesol cynnar, a chanoloesol, yn ogystal â safle un o frwydrau’r Rhyfel Cartref.
Yr adeileddau amddiffynnol cynharaf yw’r bryngaerau cynhanesyddol hwyr yn Ffridd Faldwyn, ar y bryn uwchben Trefaldwyn a Roundton, i’r gogledd o’r Ystog. Dangosodd cloddiadau yn Ffridd Faldwyn yn yr1930au beth gweithgarwch yn y cyfnod cynhanesyddol cynar ond mae’r caeadle â muriau niferus sydd ag amddiffynfeydd cymhleth o wahanol gyfnodau yn gynnyrch y cyfnod rhwng diwedd yr Oes Efydd a’r Oes Haearn – ac mae’n debyg bod y gwersyll wedi ei adael adeg dyfodiad y Rhufeiniaid neu ychydig cynhynny. Yn yr un modd mae amddiffyniadau’r fryngaer yn Roundton yn cau pen y mynydd, ond gwneir defnydd hefyd o’r brigiadau sylweddol sy’n rhan o’r cylch amddiffynnol. Ni chloddiwyd y safle, ond unwaith eto mae’n debygol ei fod yn pethyn i’r Oes Efydd hwyr neu’r Oes Haearn. Mae’r bosibl bod y fryngaer ar Gefnffordd Ceri, sef Caer Din, yn perthyn i’r Oes Haearn, ond ar sail ffurf yr amddiffyniad awgrymwyd ei bod yn perthyn i’r canoloesoedd cynnar, a’i bod yn gwarchod bwlch yng Nghlawdd Offa, sydd tua 1.5km i’r gorllewin. Ceir caeadleoedd amddiffynnol bach eraill, sydd yn dyddio mae’n debyg o’r Oes Haear, ar y bryniau is neu mewn safleoedd amddiffynnol o gwmpas y dyffryn, gangynnwys Caerbre a Calcot o bobtu Marrington Dingle, Castle Ring i’r gogledd-ddwyrain o’r Ystof, a Phentre Wood i’r de o Bentre a Butcher’s Wood i’r de o Drefaldwyn. Ystyriwyd caeadleoedd bach eraill uchod, yn yr adran ar dirwedau anheddu.
Ffridd Faldwyn yw’r gyntafmewn cyfres drawiadol o adeileddau amddifynnol yn ardal Trefaldwyn, ac awgrymwyd eu bod wedi eu bwriadu i reoli mynediad i’r rhyd hanesyddol bwysig ar draws Hafren yn Rhydwhiman, ychydig i’r gogledd-orllwewin o Drefaldwyn. Roedd bodolaeth rhyd yn y fan hon yn ffactor bwysig o ran dewis safle’r gaer Rufeinig a elwir The Gaer, a sefydlwyd yn hwyr y ganrif 1af, rhwng y gaer yn Nghaewrangon a’r gaer debyg o ran maint yng Nghaersws, ac a oedd yn rheoli’r llwybr iseldirol ar hyd dyffrynnoedd Camlad a Rea rhwng canolbarth Cymru a Chanolbarth Lloegr, a llwybr tebyg i’r de ar hyd y dyffryn en route i’r gaer yn Glanmiheli, ychydig i’r dwyrain o Geri, ac a arweiniai, unwaith eto, tua Chaersws mae’ndebyg. Mae’n debyg bod The Gaer a’r gaer ym Mhentrehyling yn gysylltiedig â gwersylloedd milwrol cynharach – rhai dros dro – oedd yn perthyn i gyfnod y goncwest ac a adawyd unwaith y codwyd y caerau mwy parhaol. Tyfodd aneddiadau sifilaidd ar hyd y ffyrdd y tu allan i bob un o’r caerau. Yn wahanol i lawer o’r caerau Rhufeinig i’r dwyrain, mae’n debyg bod pobl yn dal i fyw yn The Gaer o bryd i’w gilydd hyd at ganol y 4edd ganrif o leiaf, ac mae’n debyg mai’r enw arni oedd Lavobrinta.
Mae’n debyg bod pwysigrwydd milwrol y gaer Rufeinig wedi peidio erbyn erbyn diwed y 4edd ganrif neu ddechrau’r 5ed, ac ni ddaw Clawdd Offa – a godwyd cyn marw’r brenin Offa yn 796 – yn agos iddi. Disgrifiwyd y Clawdd fel ‘the greatest public work of the whole Anglo-Saxon period’, ac roedd yn dangos ffin orllewinol teyrnas yr Eingl-Sacsoniaid, Mersia, a rannodd Bro Trefaldwyn yn ddwy ran, a chanrifoedd yn ddiweddarach mae’n dal i fod yn ffin rhwng Cymru a Lloegr. Mae llawer o ansicrwydd o hyd ynghylch ei bwrpas a’i berthynas â llwybrau cyfoes ar hyd llawr y dyffryn ac ar hyd pennau’r bryniau rhwng Cymru a Lloegr, ond tybir ei fod wedi ei ddefnyddio i reoli cyfathreion rhwng y ddwy wlad. Gadawoyd y rhyd a llawer o’r tir amaethyddol gorau yn nwylo’r Cymry gan y cwrs a ddilynwyd gan y clawdd ar draws y dyffryn. Awgryma hyn un ai bod gwrthwynebiad y Cymry’n gryf yn yr ardal hon neu fod rhywfaint o gytundeb ynghylch diffinio union gwrs y ffin. Yn ystod y 9fed ganrf neu’r 10fed, roedd cyfres o aneddiadau Mersaidd wedi sefydlu i’r gorllewin o’r clawdd, gan gynnwys Tornebury, ei ystyr yw ‘thorn camp’, ac a enwyd ar ôl y gaer Rufeinig gynt yn The Gaer.
Codwyd burh neu gaer frenhinol Fersaidd gan Aethelflaeda yn Chirbury yn 915, tua 3km i’r dwyrain o Glawdd Offa. Mae’n debyg bod y gaer, a godwyd o bridd a choed, wedi ei bwriadu i gryfhau ffin prlewinol Mersia yn erbyn ymosodiadau posibl gan y Llychlynwyr yn hytrach nag yn erbyn y Cymry. Yn ôl un farn, y cloddwaith ar ochr orllewinol y pentref oedd y gaer ond mae arsylwadau diweddarach yn awgrymu ei bod lawer yn fwy, a’i bod yn cynnwys llawer o graidd y pentref modern. Awgrnwyd gweithiau amddiffynnol Meraidd eraill yn ymyl y clawdd yn Nantcribba a Chaer Din, fela nodwyd uchod, ond nid oes tystiolaeth bendant.
Parhaodd anghydfodrhwng Mersia a theyrnasoedd datblygol Powys a Gwynedd, fodd bynnag, ac mae’n debyg bod llawer o’r aneddiadau Mersaidd dros y dyffryn wedi eu distrywio cyn y Goregyniad Normanaidd yn 1066. Mae’n debyg bod hyn wedi digwydd adeg Gruffudd ap Llywelyn, brenin Gwynedd a Phowys yn gynnar y 1040au yn dilyn methiant y cytundebau rhwng Gwynedd a Mercia. Yn gynnar y 1070au, ychydig ar ôl cwymp Mersia, codwyd castell pridd a phren newydd gan Iarll Normanaidd, Roger o Drefaldwyn, i warchod y rhyd bwysig yn Rhydwhiman. Rhoddwyd i Roger, a fyddai hefyd yn dal tiriogaethau CYmreig Ceri, Cydewain, ac Arwystli, sir Amwythig gany Brenin William, un o’r tairiarllaetha grewyd ar hyd y gororau,
Yr enw arno bellach yw Hen Domen, ond bryd hynny yrenw oedd Muntgumeri ar ôl cartref Roger yn Normandi, a dyma ganolfan castellaria, un o nifer o gastellfannau ar hyd y gororau a grybwyllwyd yn Llyfr Domesday yn 1086. Nifer o ddaliadaethau mewn ardal fechan oedd castellfan a oedd dan reolaeth gyfreithiol castell ac yn yr achos yma roedd yn cynnwys llawer o ddyffryn Trefaldwyn. Os nad o’r cychwyn, yna ymhen amser roedd tirfeddianwyr unigol yn cyflawni dyletswyddau gwylio yngyfnewid am ddiogelwch a chefnogaeth gan y gastellfan. Yn raddol daeth yr ardal dan reolaeth y Normaniaid, er gwaethaf nifer o ymosodiadau ar gastell Trefaldwyn gan lu Cymreig dan ofal Cadwgan ap Bleddyn, tywysog Powys ym 1095, pan laddwyd y gwarchodlu.
Un o nodweddion hanesyddol pwysicaf ydyfryn yw’r myntau cloddweithiol cymharol fach a thynn i’w gilydd agodwyd y tu mewn i a’r tu hwnt i’r gastellfanyn ystod y cyfnod o wrthdaro parhaus rhwng yr 11eg ganrif hwyra dechrau’r 13eg, yn Hockleton, Winsbury, Dudston, Gwarthlow, Brompton, Nantcribba, Lower Munlyn, Hyssington Bishop’s Moat, Hagley a Simon’s Castle, gan ffurfio ‘perhaps the most remarkable concentration of mediaeval defences on the whole of the Welsh March’. Roedd y cestyll bychain hyn, a gysylltid weithiau ag adeiladau cerrig, wedi eucodi fel arfergan dirfeddianwyr lleol, amlwg i’w diogelu eu hunain ac i gyfrannu atddiogelwch cyffredinol yr ardal. Codwyd safleoedd myntiog yn Great Moat Farm ac Upper Aldress, efallai yn ystod y 13eg/14eg ganrif.
Yn wyneb gwrthdrawiadau newydd yn 1223, rhwng Llywelyn ap Iorwerth o Wynedd ac arglwyddi Seisnig cyfagos, dechreuwyd codi castell brwenhinol newydd o gerrig ar y bryn i’r de-ddwyrain o Hen Domen, a throsglwyddwyd yr enw Montgomery iddo. Amddiffynnwyd y dref ganoloesol newydd a godwyd ar lethrau dan y castell, gan bonciau a ffosydd amddiffynnol, ac ychwanegwyd amddiffyniadau cerrig yn ystod y 13eg/14eg ganrif, gyda phorthdai cerrig ar bob un o’r pedair prif ffordd a arweiniai i’r dref.
Ciliodd pwysigrwydd strategol Trefaldwyn a’r cestylleraill yn yr ardal wedi i Edward I oresgyn Cymru, yn hwyr y 13eg ganrif, ond chwaraeodd Castell Trefaldwyn rl bwysig o ran rheoli’r arglwyddiaeth yn ystod gwrthryfel Glyndwr ddechrau’r 15fed ganrif, pan ychwanegwyd yn sylweddol at y gariswn. Chwaraeodd y castell rôl bwysig unwaith eto yn ystod y Rhyfel Cartref, pan fu brwydr yn Nhrefaldwyn ym 1644, y frwydr fwyaf yng Nghymru yn ystod y rhyfel hwnnw. Buasai’r castell yn nwylo teulu Herbert ers blynyddoedd, ac roeddent wedi codi plasty briciau yn y ward fewnol, yn yr 1620au. Yn ystod y Rhuyfel Cartref roeddent wedi bod yn niwtral ond adeg frwydr ildiasant y castel i fyddin y Senedd yn gynnar ym mis Medi 1644. Yn dilyn gwarchae ganluoedd y Brenin, digwyddodd brwydr yn y caeau dan y dref ac enillodd byddin y Seneddwyr. Lladdwyd tua 500 o’r 8,000 o ddynion oedd yn y ddwy fyddin yn ystod y frwydr.
Tirweddau Angladdol, Eglwysig a Chwedlonol
Roedd Chirbury a’r Ystog ill dwy yn ganolfannau eglwysig cynnar pwysig. I bob golwg roedd eglwysi Mersaidd wedi eu sefydlu yn Chirbury erbyn y 10fed ganrif gynnar, a’r enw a gofnodwyd gyntaf yn y Cronicl Eingl-Sacsonaidd oedd Cyricbyrig, sef ‘ y gaer gydag eglwys’. Mae i’r enw Churchstoke, a gofnodwyd gyntaf yn llyfr Domesday , yn golygu ‘safle’r eglwys’. Adeg y Goresgyniad Normanaidd, mae’n ymddangos bod llawer o’r ardal tirwedd hanesyddol ar ffurf plwyf mawr a gwasgaredig yn cyfateb i gantref Domesday Witentreu gyda mam eglwys yn Chirbury ac eglwys ddibynnol yn yr Ystog. Yn ystod y canoloesoedd, sefydlwyd capeli eraill oedd yn ddibynnol ar Chirbury yn Ffordun, Hyssington a Snead, a chapel dibynnol efallai o fewn beili ‘hen Drefaldwyn’ yn Hen Domen. Rhoddwyd tir a berthynai i hen feudwyfa gan briordy Chirbury yn yr 1220au er mwyn medru codi castell cerrig yn Nhrefaldwyn.
Roedd cymuned o frodyr Awgwstinaidd wedi ei sefydlu yn Snead yn ystod y 12fed ganrif, ond roeddent wedi symud i sefydlu priordy yn Chirbury erbyn diwedd y 12fed ganrif, mewn cysylltiad ag eglwys blwyfol St Michael, yn esgobaeth Henffordd. Sefydlwyd plwyd eglwysig newydd yn Nhrefaldwyn yn gynar yn y 13eg ganrif, pan sefydlwyd y fwrdeistref dan y castell cerrig newydd, ac yn ddiweddarach daeth yn rhan o esgobaeth Llanelwy yng Nghymru. Roedd anghytundeb ynghylch ffiniau’r egobaethau Seisnig a Chymreig yn ystod y 13eg ganrif, a bu i’r Esgob Swinfield o Henffordd farchogaeth i’r rhyd yn Rhydwhiman yn 1288 a datgan mai Hafren – cyn belled â Shrawardine, i’r gorllewin o Amwythig – oed y ffin rhwng esgobethau Henffordd a Llanelwy. Daeth yr eglwysi a chapeli dibynnol yn Ffordun, Hyssington a Snead yn blwyf eglwysig o fewn esgobath Henffordd yn dilyn diddymu’r mynachlogydd yn y 16eg ganrif, ac yn ddiweddarach trosglwyddwyd Ffordun i Esgobaeth Llanelwy.
Roedd plasty a melin a berthynai i Abaty Cwmhir wedi eu sefydlu yng Ngwern-y-go erbyn canol y 13eg ganrif. Roedd capel plasty canoloeol yn bodoli yno erbyn diwedd y 14eg ganrif, a pharhaodd i gael ei ddefnyddio fel capel anwes o’r enw ‘Capel Gwernygo’ tan ail hanner y 16eg ganrif, ac mae’n debyg bod rhannau o’r cyfadail mynachaidd i’w gweld yn yr 1890au. Mae union leoliad y capel yn ansicr, ond mae’r enwau caeau ‘Chapel meadow’ a ‘Chapel close’ yn nyraniad degwm Ceri yn awgrymu ei fod i’r gogledd o’r fferm bresennol.
Roedd darn o dir yng nghornel dde-ddwyreiniol yr ardal tirwedd hanesyddol, ym mhlwyfi Mainstone, Lydham a’r Ystog, yn perthyn i esgobion Henffordd yn y canoloesoedd, gan ffurfio maenor ‘Bishop’s Teirtref’. Rhoddodd esgobion Henffordd eu henw hefyd i gastell mwnt a beili Bishop’s Moat a godwyd mae’n debyg yn y 12fed neu 13e ganrif ar lwybr Cefnffordd Ceri i ddiogelu daliadaethau’r eglwys, yn ogystal ag ail gastell ar ben dwyreiniol isel y gefnfordd yn Bishop’s Castle.
Codwyd capeli Anghydffurfiol o gerrig a briciau ar draws yr ardal yn ystod y 19eg ganrif hwyr. Mae un o’r capeli yn Nhrefaldwyn yn perthyn i’r Eglws Bresbyteraidd a’r gweddill i’r Methodistiaid Wesleaidd neu Gyntefig, yr oedd eu gwasanaethau o fewn yr ardal yn gyfan gwbl neu’n bennaf yn Saesneg. Codwyd rhai capeli yn yr aneddiadau cnewyllol mawr fel Trefaldwyn, Ffordun, Yr Ystog a Hyssington, a chodwyd eraill fel Old Church Stoke, Cwm, Cwm Cae yng nghanol pentreflannau llawer llai. Roedd capeli eraill yn fwy anghysbell, fel capel Green Chapel, lle roedd ty capel hefyd. Codwyd y capel Methodistaidd yn Pool Road, Trefaldwyn yn 1903 ar y cyd ag ysgol. Mae rhai o’r capeli’n dal i gael eu defnyddio ond mae eraill, fel y capel Methodistaidd yn Nhrefaldwyn, a’r capeli yng Nghwm a Chwm Cae bellach wedi eu newid i ddefnydd gwahanol.
Tirweddau Addurniadol a Phictiwrésg
Mae’r ardal tirwed hanesyddol yn cynnwys nifer o dirweddau addurniadol amlwg yn enwedig ardal cymeriad Lymore. Parc hela o’r canoloesoedd hwyr neu’r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar yw hwn, ac mae’ndebyg ei fod wedi ei sefydly gan y teulu Herbert erbyn diwedd yr 16eg neu ddechrau’r 17eg ganrif fan hwyraf, ac fe’i dangosir ar rai argraffiadau o fap Speed o Sir Drefaldwyn a gyhoeddwyd tua 1610. Mae’r parcdir, a gynhwysir yn y Register of Parks and Gardens, yn cynnwys darnau helaeth o rych a chefnen ac mae bron yn sicr iddo gael ei greu drwy droi rhai o’r caeau âr agord, canoloesol a berthynai i Drefaldwyn yn barc.
Neuadd ffrâm-bren, fawr o’r 16eg ganrif hwyr neu ddechrau’r 17eg ganrif oedd Lymore Hall, a ddymchwelwyd yngynnar yn yr 1930au. Fe’i ymestynnwyd tua 1675 ac fe’i defnyddid yn bennaf fel cynghordy chwaraeon, ac fe’i disgrifiwyd fel ‘one of the last and also one of the greatest half timbered mansions in Britain’. Yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif, mae’n debyg bod lawer o byllau artiffisial wedi eu hychwanegu, gan gynnwys pwll twyllo hwyaid, at y nifer o byllau byllau naturtiola oed eisoes yn bodoli at ben dwyreiniol y parc, gyda rhesi o goed dros y caeau agored a fuasai yno gynt.
Sefydlwyd parciau tirluniedig o gwmpas nifer o dai gwledig eraill yn ystod y 18fed/19eg ganrif, yn eu plith Mellington Hall, Marrington Hall, Gunley Hall, Edderton Hall, a Nantcribba, ac roedd gerddi caeedig a pherllanau ynnifer o’r cartrefi hyn a hefyd yn Walcot, The Gaer, Pen-y-bryn a Phentrenant, gyda phyllau pysgod yn Edderton, Marrington a Phen-y-bryn, a phorthodai yn Nantcribba, Marrington a Mellington.
Roedd sylwebwyr eisoes yn cwyno bod parcdir yn cael ei golli mor gynnar â’r 1880au, fel yn Nantcribba lle roedd ‘large field, instead of being what it was a century since, namely a park, is nothing but a field’ on roedd (ac mae) ‘some large cedar trees remaining’. Mae rhannau sylweddol o’r parcdir yn dal i’w gweld yn Lymore, Gunley a Marrington, ond collwyd llawer o Edderton.