Skip to main content

Mae’r disgrifiad canlynol, a godwyd o’r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi’r themâu tirweddol hanesyddol pwysig yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

HL Middle Wye Valley Map 1082 Bryn-yr-hydd 1082 Bryn-yr-hydd 1096 Tir-mynach 1083 Maesllwch #1088 Hay 1097 Glasbury 1097 Glasbury 1097 Glasbury 1086 Gro 1089 Tir-uched 1089 Tir-uched 1092 Maestorglwydd 1095 Pen-rhos-dirion 1095 Pen-rhos-dirion 1091 Llynfi 1091 Llynfi 1090 Gwernyfed 1094 Gwrlodde 1093 Ffostyll 1084 Cwmbach 1098 Gwy 1087 Llyswen 1087 Llyswen 1085 Trebarried 1085 Trebarried 1085 Trebarried 1085 Trebarried

Mae’r tirwedd hwn sydd mor nodweddiadol o Bowys yn gorwedd i’r de orllewin o’r Gelli yng nghysgod y Mynyddoedd Du. Mae’r tirwedd hwn yn cynnwys gorlifdir a llethrau serth ymyl dyffryn yr Afon Gwy, a’r llwyfandir ysgythrog dan sgarp gogleddol y Mynyddoedd Du.

Mae i’r ardal hanes cyfoethog ac amrywiol a chysylltiadau diwylliannol pwysig. Ar hyd ochr ddeheuol y dyffryn, ar gyrion yr ucheldir, ceir cyfres o siambrau claddu Neolithig o fath a adwaenir, oherwydd eu ffurf a’u cynllun hynod, fel beddau Hafren-Cotswold. Mae yna safleoedd beddau nodedig yn goroesi ym Mhen-y-wyrlod (Llanigan), Little Lodge, Pipton, Fostyll a Penywyrlod (Talgarth).

Er mai dylanwadau Eingl-Normanaidd a ffurfiodd wedd yr ardal, yn bennaf mae tystiolaeth sylweddol o aneddiad cynhenid Gymreig. Tybir mai sefydliad clas oedd y Clas-ar-Wy ar y cychwyn (canolfan weinyddol uned fynachaidd yn y Canol Oesoedd), ac mae cofnod hefyd ei bod yn safle Brwydr Clasbirig yn 1095 rhwng y Sacsoniaid a’r Cymry.

Mae’r aneddiad Eingl-Normanaidd i’w weld fwyaf amlwg yn y Gelli, sydd wedi cadw cynllun ei strydoedd canoloesol, gydag olion o’r castell ac amddiffynfeydd y dref. Heddiw, mae’r dref yn fwy adnabyddus am ei siopau llyfrau a’i gwyl lenyddol.

The Anglo-Norman settlement is most clearly seen at Hay-on-Wye, which still retains its medieval street plan, with remnants of the castle and town defences. Today, the town is best known for its book shops and the annual festival of literature. Across the Wye from Hay lies the site of the Roman fort alongside the river, and beyond it, Clyro, made famous by the diary of the Reverend Francis Kilvert, who lived in the village in the 1870s. Although many of the places described by Kilvert are currently outside the area described here, the lifelike account he has left of the places and people he knew, has caused the region centred upon Clyro to become known as Kilvert Country, and to become a place of literary pilgrimage. Other important medieval settlements include Talgarth and Bronllys, both of which had extensive open arable field systems surviving up to the middle of the 19th century; that of Bronllys having been only enclosed in 1863. Many of the small villages are thought to have had early medieval origins and some, such as Llanfilo, display important earthwork remains relating to their former medieval extents.

Trefecca is famous for Trevecca College founded in the mid-18th century by Howell Harris, who was well-known for founding early Welsh Methodist societies, assembling a community of about 100 followers at his home, Trevecka Fach, in 1752. The community was influential in printing religious books and also for agricultural improvements.

Along the northern slopes of the Black Mountains lie several commons, such as Tregoyd Common and Common Bychan, which preserve their post-medieval field systems. The landscape here contrasts strongly with the moors to the south-east and the hedged landscape of the valley floor.

Themâu tirwedd hanesyddol yn Ganol Dyffryn Gwy

Y Tirwedd Naturiol

Mae tirlun hanesyddol Canol Dyffryn Gwy yn cynnwys ardal dopograffig hawdd ei diffinio, gyda tharren ddramatig y Mynydd Du i’r de a’r bryniau tywodfaen â llethrau esmwyth yn Sir Frycheiniog i’r gorllewin, a Sir Faesyfed i’r gogledd. Mae’r amrediad topograffig cyffredinol rhwng tua 700m uwchlaw Datwm yr Ordnans ar grib y Mynydd Du i tua 80m ar lawr y dyffryn. Mae’r Hen Dywodfaen Goch sydd o dan wyneb y rhan fwyaf o’r ardal yn amrywio’n fawr, ac yn cynnwys pridd cleiog coch, lleidfeini, mwdfeini gwastad, graean a rhywfaint o glymfeini, gwelyau Senni gwyrdd, tywodfaen coch a phiws, a gwelyau tenau o galchfaen. Cafodd y strata o dywodfaen eu gweithio yma ac acw yn y gorffennol fel ffynonellau cerrig adeiladu ar gyfer tai, ysguboriau, waliau ac adeiladau eraill, ac ar gyfer teiliau to. Cloddiwyd chwareli calchfaen er mwyn cynhyrchu calch amaethyddol.

Ffurfiwyd siâp y tirlun yn ystod y rhewlifiad diwethaf pan unodd rhewlif oedd yn symud i’r de-ddwyrain, ar hyd rhan uchaf Dyffryn Gwy, â rhewlif oedd yn symud i’r gogledd-ddwyrain ar hyd dyffryn Llynfi. Fe ddihangodd y rhew i wastatir Swydd Henffordd, i’r dwyrain o’r Gelli, yn y diwedd. Fe achosodd y rhewlif ddyffrynnoedd llydan gwastad afon Llynfi a Gwy, ac fe adawodd yn ei sgîl dirffurfiau a dyddodion drifft sydd wedi cael effaith o bwys ar lysdyfiant, anheddiad gan bobl, a defnydd tir. Ymhlith y mwyaf nodedig o’r nodweddion hyn y mae’r marian enciliol helaeth sy’n ffurfio rhwystr rhannol yn y dyffryn rhwng Cleirwy a’r Gelli, troedfryniau’r Mynydd Du sydd wedi eu gorchuddio’n rhannol â drifft i’r de o Dalgarth, a’r clog-glai graeanog yn cynnwys pridd cleiog coch ar rannau o lawr dyffryn Llynfi a Gwy. Cafodd rhai o’r dyddodion ffrwd-rewlifol hyn eu gweithio yn y gorffennol fel ffynonellau graean yn ogystal â chlai.

Mae’r patrwm draenio a sefydlwyd yn dilyn y rhewlifiad yn seiliedig ar afonydd Gwy a Llynfi sy’n uno â’i gilydd yn Y Clas ar Wy. Mae afon Llynfi yn tarddu o’r llyn rhewlifol diweddar yn Llangors, a dyna darddiad yr enw. Mae afon Dulas yn llifo iddi o’r dwyrain ym Mronllys ac mae nifer o nentydd sy’n rhedeg drwy gymoedd dyfnion oddi ar darren ogleddol y Mynydd Du hefyd yn llifo iddi. Y mwyaf nodedig o’r rhain yw Nant yr Eiddil sy’n llifo i afon Llynfi ger Trefeca, afon Ennig sy’n llifo iddi ger Talgarth, a Nant Felindre sy’n llifo iddi ger Three Cocks. Mae nifer o nentydd eraill yn torri’n ddwfn i mewn i lechweddau gogleddol y Mynydd Du ac yn creu isafonydd i afon Gwy, gan gynnwys Nant Ysgallen, Nant Digedi, Nant Cilonw a Nant Dulas. Mae afon Gwy yn dilyn hynt dolennol ar hyd gwaelod y dyffryn, gyda nifer o ystumlynnoedd, cilfachau a phaleosianeli, yn pwysleisio’r dyddodi cyson a’r ailweithio ar ddyddodion llifwaddodol sydd wedi dod i’r amlwg ers y rhewlifiad diwethaf. Mae gorlifdir afon Gwy hyd at 1 cilomedr o led er fod yna dri man croesi naturiol o fewn y tirlun hanesyddol yn Llyswen, Y Clas ar Wy a’r Gelli, lle mae tir uwch yn dod yn nes at yr afon o’r ddwy ochr. Rhwng Cleirwy a’r Gelli mae afon Gwy wedi torri sianel gul, ychydig gannoedd o fetrau o led yn unig, drwy’r marian rhewlifol 50m o uchder, sydd fel arall yn ffurfio rhwystr yn y dyffryn ar y pwynt hwn.

Ceir amrywiaeth mawr yn y math o bridd o fewn ardal y tirlun hanesyddol, yn dibynnu ar hydroleg, y ddaeareg o dan yr wyneb a phresenoldeb dyddodion drifft neu lifwaddod. Ar wahân i rannau lle mae’r draeniad yn cael ei rwystro gan briddoedd stagnoglei cambig, yn uchel ar droed tarren y Mynydd Du, mae priddoedd brown sy’n draenio’n weddol dda yn gorchuddio’r rhan fwyaf o droedfryniau’r Mynydd Du a’r bryniau is i’r gogledd a’r gorllewin, ac mae hyn wedi caniatáu i’r tir gael ei drin ar gryn uchder uwchben lefel y môr. Mae mwy o amrywiaeth lleol mewn mathau o bridd ar hyd gwaelod dyffrynnoedd Llynfi a Gwy, ac yn ei hanfod mae hyn yn dibynnu a ydynt yn gorwedd ar bridd cleiog, dyddodion graean neu lifwaddod o’r afon. Mae’r rhan fwyaf o’r priddoedd ar y tir is yn hawdd eu gweithio, er fod llifogydd a dwr sy’n sefyll ar rai adegau o’r flwyddyn yn effeithio arnynt.

Dim ond ychydig o ddadansoddiad paleo-amgylcheddol a wnaed ar ddyddodion o fewn ardal y tirlun hanesyddol ei hun, ond mae’r gwaith a wnaed yng Nghomin Rhosgoch a nifer o safleoedd tir uwch a gwaelod dyffryn yn y rhanbarth yn dangos, erbyn tua 6000 CC y byddai’r ardal wedi ei gorchuddio â choedlannau derw, gyda llawer o goed palalwyf, llwyfenni, ynn, bedw, cyll ac ysgaw yn digwydd ar raddfa leol, a’r coedlannau’n ymestyn i uchder o 600m efallai uwchlaw Datwm yr Ordnans. Ceir arwyddion fod y gorchudd coediog naturiol hwn eisoes yn cael ei effeithio gan weithgarwch dynol erbyn y cyfnod Mesolithig, a cheir tystiolaeth o drin tir lleol ar gyfer cynhyrchu grawn yn y cyfnod Neolithig cynnar, o tua 4000 CC ymlaen. Bu clirio cyson ar y coed drwy gydol y cyfnodau cynhanesyddol, y cyfnodau Rhufeinig a chanol oesol, ac mae’n edrych yn debyg fod y gorchudd coed yn edrych rywbeth yn debyg i heddiw erbyn cyfnod y canol oesoedd diweddar, gyda darnau o goedlannau collddail cymysg lled-naturiol wedi’u cyfyngu i’r llechweddau mynyddig a’r dyffrynnoedd mwy anghysbell.

Y Tirwedd Gweinyddol

Credir fod ardal y tirlun hanesyddol yn rhan o diriogaeth y Silures, llwyth cyn-Rufeinig oedd yn byw yn ne-ddwyrain Cymru. Mae’n debyg fod y drefn lwythol yn y cyfnod hwn yn cael ei gynrychioli yn lleol gan nifer o fryngaerau ar hyd a lled yr ardal, gan gynnwys y rhai ym Mhen-rhiw-wen a Hillis ar ochr orllewinol yr ardal, a Phendre a Chastell Dinas tua’r de. Fe goncrwyd yr ardal gan y byddinoedd Rhufeinig ar ddiwedd y ganrif gyntaf, a chynrychiolir cyfnod y goncwest Rufeinig gan un neu ddwy gaer dros dro ar lan ogleddol afon Gwy i’r de o Gleirwy. Mae’n debyg fod yr ardal wedi cael ei threchu ac wedi dod yn rhan o’r ymerodraeth Rufeinig tua 70OC, ac wedi aros dan reolaeth y Rhufeiniaid hyd at ddechrau’r 5ed ganrif.

Erbyn dechrau’r oesoedd canol roedd yr ardal i’r gogledd o afon Gwy yn rhan o dywysogaethau Cymreig cynnar y daethpwyd i’w hadnabod fel Elfael a Rhwng Gwy a Hafren, ac roedd yr ardal i’r de o’r afon yn rhan o deyrnas Brycheiniog. Roedd Brycheiniog wedi ymddangos fel un o’r teyrnasoedd Brythonig cynnar yng Nghymru erbyn yr 8fed ganrif, ac mae’r traddodiadau cyn-Normanaidd yn awgrymu cysylltiad rhwng brenhinoedd Brycheiniog a Thalgarth ar y pryd. Mae’r chwedlau sylfaenol hyn o’r 11eg ganrif yn nodi mai Tewdrig oedd brenin y deyrnas tua’r 5ed ganrif efallai. Roedd Tewdrig, oedd yn hawlio ei fod yn ddisgynnydd Rhufeiniwr bonheddig, yn byw mewn lle o’r enw Garth Matrun, a chadarnheir mai’r garth, sef esgair y mynydd, yw’r bryn amlwg o’r enw Mynydd Troed, i’r de o Dalgarth, ac mai Garth Matrun yw Talgarth ei hun, ‘talcen y garth’ islaw Mynydd Troed. Yn ôl y traddodiad, fe sefydlwyd teyrnas Brycheiniog gan gymeriad chwedlonol o’r enw Brychan, wyr i Tewdrig, yn ôl pob golwg drwy ehangu teyrnas ei daid, a chreu canolfan weinyddol yn Nhalgarth yn nyffryn ffrwythlon afon Llynfi. Roedd Llyswen hefyd yn ganolfan o awdurdod seciwlar ar hyd yr echel hon yn y cyfnod cyn-goncwest, gyda chysylltiadau hanesyddol â Rhodri Mawr yn y 9fed ganrif.

Ymddengys fod gwrthdaro wedi bod rhwng teyrnas Brycheiniog a theyrnas newydd Gwynedd yng ngogledd-orllewin Cymru erbyn y 9fed ganrif, a bod arweinwyr Brycheiniog yn ddiweddarach yn ystod y ganrif wedi ceisio cymorth y Brenin Alfred i’w hamddiffyn. Fe barhaodd y ddibyniaeth hon ar goron Lloegr hyd at y 10fed ganrif, a bu brenhinoedd Brycheiniog yn mynychu llys brenhinol Lloegr yn y 930au, er fod y deyrnas erbyn diwedd y 10fed ganrif yn cydnabod goruchafiaeth teyrnas y Deheubarth yn ne-orllewin Cymru. Ar ddechrau’r 10fed ganrif, fe unwyd teyrnasoedd Gwynedd a Phowys, gan gynnwys Rhwng Gwy a Hafren, o dan arweiniad Hywel Dda. Yn dilyn concwest y Deheubarth yn ystod teyrnasiad Gruffudd ap Llywelyn, tua canol yr 11eg ganrif, teyrnas Gwynedd oedd yn rheoli is-deyrnasoedd Brycheiniog a Rhwng Gwy a Hafren, dros dro.

Fe chwaraeodd dyffryn Gwy, yn yr un modd â dyffrynnoedd afon Wysg, Hafren a Dyfrdwy, ran bwysig yng nghoncwest Normanaidd dwyrain Cymru. Fe goncrwyd teyrnas Brycheiniog gan un o arglwyddi’r mers, Bernard de Neufmarché yn yr 1080au a’r 1090au. Pan drechodd Neufmarché Rhys ap Tewdwr, oedd yn rheoli De Cymru ac yn uwch-arglwydd ar Frycheiniog, roedd hynny’n achlysur o bwys mawr, ac fe’i diffiniwyd gan groniclwyr cyfoes fel ‘diwedd oes y brenhinoedd yng Nghymru’. Wedi hynny, fe rannwyd Canol Dyffryn Gwy yn arglwyddiaethau llai a’u cyflwyno’n rhodd i farchogion oedd wedi rhoi gwasanaeth i arglwydd y mers, a hwythau yn eu tro yn rhoi tir i fewnfudwyr o Loegr. Roedd arglwyddiaethau Aberhonddu, Blaenllynfi, Talgarth, Y Clas ar Wy, Dinas ac Elfael ymhlith y tiriogaethau newydd a grëwyd ar ryw adeg neu’i gilydd yn y wlad a goncrwyd. Am gyfnod bu Elfael, rhan o hen diriogaeth Rhwng Gwy a Hafren, yn naliadaeth mân-benaethiaid Brythonaidd o dan warchodaeth yr Arglwydd Rhys o’r Deheubarth, ond yn y diwedd daeth Elfael hefyd yn rhan o deyrnas arglwyddi’r mers, a oedd yn ddarostyngedig i frenin Lloegr ond a oedd ar yr un pryd yn rheoli darn o dir ar wahân rhwng Cymru a Lloegr oedd yn annibynnol ar strwythur sefydliadol a chyfreithiol brenhiniaeth Lloegr.

Fe gyflwynodd Neufmarché Y Gelli i William Revel, y gwr a adeiladodd y castell pridd cyntaf yn ôl pob tebyg yn Y Gelli, castell a fyddai’n parhau i fod yn un o’r elfennau pwysicaf yn y gwaith o reoli’r diriogaeth oedd newydd ei choncro. Fe rannwyd llawer o weddill yr iseldir yn fân arglwyddiaethau neu’n rhoddion i farchogion y byddai eu gwasanaeth yn parhau yn ddyledus, gan gynnwys cyfeillion Normanaidd neu aelodau o’r teulu megis Walter Clifford, a dderbyniodd stad fawr ym Mronllys, ac i denantiaid o’u hystadau Seisnig a ymfudodd i’r ardal wedi hynny.

Erbyn y 13eg ganrif, roedd amryw o’r arglwyddiaethau o fewn ardal y tirlun hanesyddol, fel nifer o arglwyddiaethau eraill y mers, wedi cael eu rhannu yn unedau Cymreig a Seisnig a oedd yn cydnabod y gwahaniaeth diwylliannol a oedd wedi parhau i wneud y mewnfudwyr Seisnig yn wahanol i’r boblogaeth gynhenid Gymreig. Cafodd amryw o faenorau ffiwdal yn dilyn cynllun y rhai Seisnig eu creu ar y tir isel a oedd yn haws ei drin, a phatrymau anheddiad a defnydd tir brodorol yn ymddangos ar y bryniau oddi amgylch. Roedd y brodoriaethau Cymreig a Seisnig a ymddangosodd yn arglwyddiaethau Talgarth a’r Gelli ar ôl y goncwest Normanaidd, yn allweddol i barhau’r gwahaniaethau rhwng arferion Cymreig a Seisnig o ran y gyfraith, etifeddu, dal tir, gweinyddiaeth sifil, dyledion a rhenti hyd at ymhell i mewn i’r 16eg ganrif.

Rhan gymharol fechan a gymerwyd gan diriogaethau Canol Dyffryn Gwy yn rhyfeloedd annibyniaeth diwedd y 13eg ganrif a hefyd yng ngwrthryfel Glyndwr ym mlynyddoedd cynnar y 15fed ganrif. Wedi’r Ddeddf Uno ym 1536, fe rannwyd yr ardal rhwng arglwyddiaethau Aberhonddu, Blaenllynfi a’r Gelli, a lyncwyd gan sir newydd Brycheiniog, ac arglwyddiaeth Elfael, a ddaeth yn rhan o sir newydd Maesyfed. Felly fe rannwyd canol dyffryn Gwy rhwng cantref Castell Paen yn Sir Faesyfed i’r gogledd a chantref Talgarth yn Sir Frycheiniog yn y de. Arhosodd rhan ddeheuol plwyf Y Clas ar Wy, i’r de o afon Gwy, yn rhan o Sir Faesyfed hyd at ganol y 19eg ganrif. Wedi hynny, cafodd ei uno â Thregoed a Felindre i greu plwyf sifil newydd Tregoed a Felindre. Fel rhan o ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974 fe unwyd Sir Frycheiniog a Sir Faesyfed o fewn sir newydd Powys.

Tirweddau Anheddu

Adlewyrchir llawer o elfennau yn hanes anheddu Canol Dyffryn Gwy yn y tirlun cyfoes, gan gynnwys elfennau sy’n tarddu o deyrnas gynnar cyn-goncwest Brycheiniog, o’r drefn faenoraidd a ddaeth i fodolaeth yn dilyn y goncwest Normanaidd, dirywiad y drefn ffiwdal ganol oesol a thwf ystadau tir yn y cyfnod canol diweddarach, y newidiadau a ddaeth o ganlyniad i welliannau mewn cysylltiadau yn y 18fed a’r 19eg ganrif, effeithiau diboblogi cefn gwlad yn y 19eg a’r 20fed ganrif, a thwf aneddiadau cnewyllol yn y 19eg a’r 20fed ganrif.

Ychydig a wyddys hyd yma am natur neu faint anheddu gan ddyn yng Nghanol Dyffryn Gwy cyn y cyfnod canol oesol cynnar. Ni ddarganfuwyd unrhyw safleoedd anheddu yn perthyn i’r cyfnod cynhanesyddol cynharach hyd yn hyn, er fod dosbarthiad cofadeiliau claddu cynharach, gan gynnwys carn hir Neolithig a thomen gron o’r Oes Efydd, yn awgrymu bod amrediad eang o ardaloedd topograffig yn cael eu hecsploetio ac fod grwpiau teuluol neu lwythol yn dechrau ymddangos, pob un gyda’u tiriogaeth bendant eu hunain efallai. Gwelwyd llond dwrn o fryngaerau yn ymddangos yn yr Oes Haearn, sy’n edrych fel petaent yn cynrychioli twf aneddiadau cnewyllol, yn gysylltiedig unwaith eto â grwpiau tylwythol neu lwythol. Ceir rhai awgrymiadau fod nifer o ystadau amaethyddol wedi ymddangos yn ystod y cyfnod Rhufeinig, er mai ychydig a wyddys am y rhain.

Mae’n amlwg fod patrymau cymhleth o anheddu wedi datblygu drwy gydol cyfnod yr oesoedd canol cynnar ac mae’n bosibl fod y patrymau anheddu a ymddangosodd yn dilyn y goncwest Normanaidd, tua diwedd yr 11eg ganrif, wedi datblygu o’r patrwm oedd yn bodoli o fewn teyrnas Brycheiniog cyn y goncwest yn hytrach na’i ddisodli. Fe fyddai rhai elfennau o’r patrymau Cymreig yn gyfarwydd i’r uwch-arglwyddi Normanaidd, gan eu bod yn seiliedig ar batrwm o aneddiadau cnewyllol yn ogystal â gwasgaredig – yr aneddiadau cnewyllol yn aml ar y tir isel mwy cyfoethog a’r aneddiadau gwasgaredig ar y rhannau mwy mynyddig. Roedd aneddiadau cnewyllol yn cael eu cynrychioli gan drefn nid annhebyg i drefn y maenorau Seisnig, ac yn cynnwys llys yr arglwydd lleol, y tir oedd yn perthyn i’r arglwydd, a maerdref, sef fferm y beili, a chymunedau rhwymedig yr oedd eu haelodau yn dal rhan o’r tir âr yn gyfnewid am wasanaeth eu llafur ar dir yr arglwydd. Roedd y patrymau anheddu gwasgaredig yn seiliedig ar ddaliadau tir gan grwpiau etifeddol rhydd, neu aelodau gwely. Roedd gan aelodau’r gwely hawl i dir âr, tir pori, coedlannau a thir pori garw, ac yn aml iawn roedd hyn yn creu’r patrwm o anheddu a gynrychiolir gan glystyrau o dyddynnau oedd yn amgylchynu darnau cymharol fach o dir âr wedi ei rannu.

Mae modd gweld rhai elfennau arbennig o’r patrwm cyn-goncwest yn nhirlun Canol Dyffryn Gwy. Ymddengys fod canolfannau gweinyddol cyn-goncwest pwysig yn bodoli yn y cartref brenhinol yn Nhalgarth ac yn llysoedd Llyswen a Bronllys. Mae’n debygol fod pob un o’r canolfannau hyn yn gysylltiedig â maerdrefi ac aneddiadau rhwymedig, yn seiliedig ar ddarnau helaeth o dir âr yn nyffrynnoedd ffrwythlon Gwy a Llynfi, a bod safleoedd eglwysi cynnar yn gysylltiedig â llysoedd Talgarth a Llyswen. Mae’r eglwysi cynnar yn Llanfilo, Llanelieu, Llanigon, Llowes, a’r Clas ar Wy yn ôl pob tebyg yn cynrychioli anheddiad cnewyllol rhwymedig arall, ond yn yr achosion hyn wedi eu gosod yn gyffredinol gyda mynediad parod i’r ucheldir a’r iseldir ac yn awgrymu economi oedd yn gyfuniad o batrymau ucheldir ac iseldir o ddefnyddio tir.

Mae’n ymddangos bod patrwm cymhleth o anheddu gwledig a ymddangosodd o fewn Canol Dyffryn Gwy yn dilyn y goncwest Normanaidd, wedi ei wreiddio’n ddwfn yn y drefn a oedd wedi datblygu yn y cyfnod cyn-goncwest, ac mae’n bosibl ei fod yn cynrychioli graddau helaeth o barhad yn hytrach na mewnfudiad Seisnig mawr yn disodli’r boblogaeth frodorol. Cynrychiolir un elfen gan y maenorau mawr ar y tir isel ac aneddiadau rhwymedig gyda chaeau agored helaeth yn Llyswen, Bronllys a Thalgarth. Roedd trigolion y lleoedd hyn yn talu dyled ar ffurf gwasanaeth eu llafur i arglwydd y faenor. Pwysleisir pwysigrwydd parhaus y canolfannau cyn-goncwest hyn gan statws Talgarth fel prif ganolfan weinyddol arglwyddiaeth Talgarth, is-arglwyddiaeth o fewn arglwyddiaeth Blaenllynfi, a statws Bronllys fel canolfan weinyddol arglwyddiaeth Cantref Selyf, oedd yn ymestyn hyd at gyffiniau gorllewinol y sir a ddaeth wedi hynny yn Sir Frycheiniog. Yr ail elfen ym mhatrwm anheddu Canol Dyffryn Gwy yn y cyfnod ôl-goncwest oedd creu nifer o faenorau llai ac is-denantiaethau megis y rhai yn Llanthomas, Porthamel, rhai ohonynt o bosibl yn seiliedig ar aneddiadau rhwymedig cynharach. Byddai’r maenorau hyn yn cael eu dal oherwydd gwasanaeth milwrol, ac fe’u cyflwynwyd yn aml, i ddechrau, i’r rhai hynny oedd wedi cynorthwyo concwest Brycheiniog. Roedd marchogion oedd ag eiddo helaeth mewn lleoedd eraill yn dal amryw o’r maenorau, fel yn achos Humphrey Videlon, a gafodd denantiaeth Trewalkin, ac a oedd yn dal amryw o faenorau yn Berkshire, Swydd Rhydychen a Suffolk. Trydedd elfen, a allai fod wedi tarddu o’r cyfnod cyn-goncwest neu a allai fod yn ganlyniad poblogaeth frodorol wedi cael ei symud, oedd yr aneddiadau neu’r brodoriaethau Cymreig. Roedd y rhain yn arbennig o amlwg ar droedfryniau’r Mynydd Du. Roedd gan denantiaid y brodoriaethau Cymreig wartheg a moch ac roeddent yn trin stribedi o dir âr, ac yn talu gwrogaeth i’r arglwyddiaeth drwy aredig a chynaeafu. Bu llawer o ehangu, yn arbennig o ganlyniad i’r clirio coed a fu o fewn y brodoriaethau Cymreig, ac erbyn diwedd y 13eg a dechrau’r 14eg ganrif roedd ffermydd parhaol wedi cael eu sefydlu yn uchel ar droedfryniau’r Mynydd Du a bryniau eraill o fewn ardal tirlun hanesyddol Canol Dyffryn Gwy.

Elfen newydd oedd ymddangosiad bwrdeistrefi arglwyddiaeth fel yn Y Gelli a Thalgarth, gyda marchnadoedd wedi’u bwriadu ar gyfer cynyddu masnach a llif arian ac i fod yn ganolfannau gweinyddol ar gyfer eu gwahanol arglwyddiaethau. Gosodwyd Y Gelli ar safle oedd heb ei gyffwrdd yn agos i gastell cerrig newydd, a gosodwyd Talgarth ar safle llys brenhinol tybiedig cyn-goncwest. Does dim tystiolaeth o siarter sylfaenu yn achos bwrdeistref gastellog amddiffynnol Y Gelli, ac mae’n edrych yn debyg iddi gael ei sefydlu drwy gyfarwyddyd neu arfer erbyn rhywbryd ar ddechrau’r 13eg ganrif. Fe wnaed grantiau murdreth ym 1232 ac 1237, yn gysylltiedig â chodi’r castell carreg newydd, yn dilyn y dinistr a achoswyd gan y Brenin John ym 1216 a Llywelyn ap Iorwerth ym 1231. Erbyn 1298 roedd gan y fwrdeistref 183 bwrdais, y rhan fwyaf o ddigon gydag enwau Saesneg. Daeth Talgarth yn fwrdeistref yn gynnar yn y 14eg ganrif, ac roedd ganddi 73 bwrdais ym 1309. Ni chrëwyd amddiffynfa i’r fwrdeistref erioed, er fod twr carreg wedi cael ei adeiladu o fewn y dref yn ystod y 14eg ganrif er mwyn gwarchod ei buddiannau gweinyddol.

Roedd trefn ganol oesol yr aneddiadau rhwymedig wedi hen fynd â’i phen iddi erbyn diwedd y 14eg ganrif. Roedd hyn yn rhannol o ganlyniad i bla difrifol, y Farwolaeth Fawr, a ledodd drwy arglwyddiaethau’r mers yn arbennig yng ngororau’r de-ddwyrain tua canol y 14eg ganrif. Arweiniodd hyn at grebachu nifer o bentrefi a throi cefn yn llwyr ar rai. Awgrymir un enghraifft bosibl o’r broses hon gan dystiolaeth gwaith maes ger Penishapentre, ar ochr ogleddol Llanfilo, lle’r ymddengys fod ceuffyrdd a llwyfannau tai yn cynrychioli rhan o bentref a adawyd yn wag yn ystod cyfnod y canol oesoedd. Awgrymir tystiolaeth debyg ym mhentref Cleirwy ac yn rhai o’r treflannau ar dir ymylol yr ucheldir yn nhroedfryniau’r Mynydd Du.

Yn y 15fed ganrif cafodd cymdeithas newydd ei ffurfio, a datblygodd patrymau anheddu newydd, gyda’r hen wahaniaethau cymdeithasol rhwng gwyr caeth a rhydd yn chwalu. Dyma gyfnod yr uchelwyr neu deuluoedd bonheddig brodorol, pan gadarnhawyd yn raddol y daliadau gwasgaredig a grëwyd o’r maenorau Seisnig a’r gwely Cymreig. Ymddangosodd ffermydd ac ystadau pendant, rhai yn seiliedig ar faenorau ac is-denantiaethau cynharach, ac yn aml yn dwyn enwau personol neu deuluol. Roedd rhai yn dyddio’n ôl i’r cyfnod Normanaidd ac yn perthyn i farchogion a oedd wedi helpu Bernard de Neufmarché yng nghoncwest Brycheiniog megis Tregunter (ar ôl teulu Peter Gunter) a Threwalkin (ar ôl Wakelin Visdelon), ac eraill megis Trebarried (ar ôl ap Harry Vaughan), Trefeca (ar ôl Rebecca Prosser), Trephilip (ar ôl Philip ap John Lawrence Bullen) a Phentre Sollars (ar ôl Syr Henry Solers) â’u gwreiddiau yn y canol oesoedd neu gyfnod Elisabeth. Mae gan rai o’r ffermydd enwau Saesneg cynharach megis Ythelston, o’r enw personol Ithel, am Drefithel, a Phelippeston am Drephilip, y ddau enw wedi eu cofnodi ym 1380.

Roedd y rhan fwyaf o’r boblogaeth yng Nghanol Dyffryn Gwy yn ymwneud ag amaethyddiaeth hyd at ddiwedd y 19eg ganrif, er fod twf diwydiant ym maes glo De Cymru ac ymfudiad i’r trefi yn cael ei gynrychioli gan ostyngiad amlwg ym mhoblogaeth rhai ardaloedd gwledig megis y wlad oddi amgylch Talgarth, lle’r oedd hyd at un o bob deg ty yn anghyfannedd erbyn degawd gyntaf y 19eg ganrif.

Fe ddioddefodd Y Gelli ddirywiad yn yr 16eg ganrif, fel llawer o fwrdeistrefi castellog eraill, oherwydd lleihad yn ei phwysigrwydd milwrol a cholli ei safle breintiedig fel canolfan weinyddol arglwyddiaethau’r mers. Erbyn 1460 roedd y castell eisoes yn cael ei ddisgrifio fel ‘adfail, wedi’i ddinistrio gan y gwrthryfelwyr a heb unrhyw werth’, a disgrifiwyd y dref gan Leland yn y 1530au fel ‘adfail bendigedig’. Roedd y fasnach oedd yn graddol dyfu yn y rhanbarth yn cael ei sianelu drwy’r trefi, fodd bynnag, ac yn raddol fe ymddangosodd Y Gelli yn ganolfan wasanaethu bwysig, gyda datblygiad diwydiannau prosesu yn cynnwys melinau, gwlân a thrin lledr, a marchnad oedd yn bwysig am rawn a nwyddau, ceffylau, gwartheg a rhywfaint o ddefaid. Yn ystod diwedd y 18fed a thrwy gydol y 19eg ganrif manteisiodd y dref ar y gwelliannau a wnaed i gysylltiadau, cyflwyno’r ffyrdd tyrpeg yn y lle cyntaf ac wedyn y dramffordd o Aberhonddu i’r Gelli a agorwyd ym 1818, a Rheilffordd Henffordd, Y Gelli ac Aberhonddu a agorodd yn y 1860au. Mae cyfrifiad 1801 ac 1891 yn dangos bod y boblogaeth wedi dyblu bron yn ystod y 19eg ganrif. Erbyn 1900 roedd Y Gelli wedi tyfu’n dref bwysig ar y gororau gyda thai a gwestai newydd oedd yn ‘barchus iawn eu golwg’ gyda holl nodweddion bywyd mewn tref ranbarthol: neuadd farchnad o’r 1830au, golau nwy yn y 1840au, cronfa ddwr newydd ar Gomin Y Gelli erbyn y 1860au, elusendai o’r 1830au a’r 1860au, mynwent newydd yn y 1870au ar hen gaeau agored Ffordd Aberhonddu, twr cloc ym 1881, a neuadd blwyf ym 1890. Yn dilyn dirywiad ar ddechrau’r 20fed ganrif mae’r dref wedi cael adfywiad yn ddiweddar fel canolfan ddiwylliannol ar ôl i Richard Booth brynu Castell Y Gelli fel rhan o’i weledigaeth i greu canolfan wledig i brynu llyfrau.

Mae’n debyg mai lleoliad Talgarth ar safle amlwg yn nyffryn Llynfi, a’r bwlch drwy’r Mynydd Du tua’r de, fel canolfan ffordd ac wedyn fel canolfan reilffordd, sy’n gyfrifol am y ffaith iddi oroesi fel tref fach. Fe ddatblygodd hithau yn dref farchnad bwysig yn ystod diwedd y 18fed a’r 19eg ganrif, ac roedd porthmyn a gwerthwyr yn mynychu’r marchnadoedd lle’r oedd gwartheg a rhywfaint o foch yn cael eu gwerthu, a’r ffair geffylau adnabyddus hefyd. Fel Y Gelli, fe godwyd llawer o adeiladau newydd yn ystod y 19eg ganrif, gan gynnwys siopau a thafarnau, gwesty, neuadd farchnad ac ystafelloedd ymgynnull, neuadd ymarfer, elusendai a chapeli anghydffurfiol.

Fe ehangodd amryw o aneddiadau llai ac ymddangosodd rhywfaint o aneddiadau newydd yn sgîl gwelliannau i’r system drafnidiaeth yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif. Mae’r datblygiadau cynnar hyn yn cynnwys aneddiadau ar-fin-y-ffordd yn Felindre a Ffordd-las, a ymddangosodd yn sydyn ar hyd yr hen ffordd fawr rhwng Talgarth a’r Gelli. Byddai canolbwynt anheddiad hefyd yn ymddangos ar hyd y ffordd yn Llanigon, nepell o gnewyllyn hanesyddol y pentref. Fe ddatblygodd yr anheddiad unionlin rhwng Treble Hill a Three Cocks yn sgîl gwelliannau i’r ffordd dyrpeg rhwng Bronllys a’r Gelli, adeiladu’r dramffordd geffylau rhwng Aberhonddu a’r Gelli ar ddechrau’r 19eg ganrif, datblygiad y rheilffordd ar ddiwedd y 19eg ganrif, a chodi pontydd newydd dros afon Gwy yn Y Clas ar Wy a thros afon Llynfi yn Pipton. Fe enwyd Three Cocks yn addas iawn ar ôl ty tafarn yn dyddio o’r cyfnod cyn-dyrpeg, ond fe’i hadnewyddwyd pan wnaed y gwelliannau i’r ffyrdd yn y 18fed ganrif. Fe ddyblodd Llyswen o ran maint yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif, yn rhannol fel ymateb i adeiladu pont doll newydd dros afon Gwy ym Mochrwyd yn y 1830au. Fe dyfodd yr anheddiad cnewyllol newydd yng Nghwm-bach, i’r gogledd o’r Clas ar Wy, yn rhannol o ganlyniad i symud y ffordd gyhoeddus i wneud lle i Barc Castell Maesllwch. Fe ddenodd y safle newydd gapel Methodistiaid Wesleaidd a adeiladwyd ym 1818 ac eglwys blwyf newydd Yr Holl Saint a adeiladwyd yn yr 1880au. Ymddengys fod y clwstwr o fythynnod yn Bochrwyd Brest wedi datblygu yn rhannol o ganlyniad i ddatblygiad y ffordd newydd rhwng Bochrwyd a’r Clas ar Wy ar hyd cerlan yr afon i’r gogledd o’r afon, ac yn rhannol o ganlyniad i gau’r hen gaeau comin agored y mae’r ffordd yn torri ar eu traws. Datblygiad arall oedd yn rhoi mwy o drefn ar nifer o aneddiadau cnewyllol bychain yn ystod y 19eg ganrif oedd datblygiad ysgolion pentrefol, a godwyd yn Felindre, Llanfilo, Y Clas ar Wy, Bronllys a Llanigon. Mae’r rhan fwyaf o’r aneddiadau cnewyllol yn yr ardal wedi gweld ehangu cyson yn ystod yr 20fed ganrif, Y Gelli tua’r gorllewin, Talgarth tua’r gogledd yn arbennig, Cleirwy tua’r gorllewin a datblygiad llenwi’i mewn ym Mronllys a Three Cocks.

Mae tirlun hanesyddol Canol Dyffryn Gwy yn arbennig o bwysig wrth gyflwyno microcosm o hanes anheddu yng ngororau deheuol Cymru o’r cyfnod cynhanesyddol hyd at y gorffennol diweddar. Braidd yn niwlog yw’r hanes cynnar, fodd bynnag, ac mae rheoli a chadw dyddodion archeolegol, adeiladau a strwythurau sy’n ymwneud â hanes anheddu yn arbennig o bwysig yng nghyfnod yr oesoedd canol cynnar a’r oesoedd canol. Mae dyddodion archeolegol sy’n gysylltiedig â’r canlynol yn arbennig o bwysig: yr aneddiadau cnewyllol hyn sy’n ymwneud â hanes y llysoedd, maerdrefi a’r aneddiadau rhwymedig; ffermydd a thai gwasgaredig sy’n ymddangos o aneddiadau rhwymedig, ffermydd a maenorau yr oesoedd canol cynnar a’r oesoedd canol; datblygiad trefi canol oesol ac ôl-ganol oesol cynnar, gan gynnwys tystiolaeth am eu cynllun, yr adeiladau yr oeddent yn eu cynnwys, eu hamddiffynfeydd, a’r crefftau a’r diwydiannau oedd yn digwydd o’u mewn. Mae cymeriad gweledol trefi a phentrefi hanesyddol hefyd yn bwysig, gan gynnwys pethau gweledol cysylltiedig.

Tirweddau Amaethyddol

Ar sail gwaith paill a gweddillion planhigion wedi’u carboneiddio, mae tystiolaeth o ddechreuadau gweithgareddau amaethyddol i gynhyrchu grawn yn y rhanbarth yn ystod y cyfnod Neolithig cynnar, o tua 4000 CC ymlaen. Mae esgyrn anifeiliaid o nifer o safleoedd lleol, gan gynnwys carn hir Penyrwrlodd i’r de o Dalgarth, hefyd yn cynnig tystiolaeth o ffermio gwartheg, defaid, a moch o’r cyfnod cynnar hwn, ynghyd â thystiolaeth o hela ceirw gwyllt. Aeth y gwaith o glirio coedlannau rhagddo drwy’r cyfnodau Neolithig a’r Oes Efydd, ar gyfer deunydd adeiladu, trin y tir a chreu tir glaswellt, a cheir rhywfaint o dystiolaeth o glirio penodol ar goed llwyfen a phalalwyfen o’r cyfnod Neolithig hyd at Ganol yr Oes Efydd, rhwng 3500-1200 CC. Mae amryw o astudiaethau yn nyffrynnoedd Llynfi a Gwy yn awgrymu cynnydd pendant mewn gwaddod oedd yn casglu ar lawr y dyffrynnoedd drwy gydol y cyfnod cynhanesyddol, o ganlyniad i fwy a mwy o glirio ar y coedwigoedd yn ôl pob tebyg. Hyd yn hyn does dim llawer o dystiolaeth am weithgareddau amaethyddol yn yr ardal yn ystod yr Oes Efydd ddiweddar, yr Oes Haearn a’r cyfnod Rhufeinig, ond mae’n debygol fod y gweithgarwch hwn wedi dwysáu drwy gydol y cyfnod hwn. Mae graddfa’r cynnydd a fu mewn gwaddod yn llyn Llangors wedi cael ei ddehongli’n betrusgar fel arwydd o amaethyddiaeth a thrin tir cynyddol a mwy a mwy o bridd yn erydu yn nyffryn Llynfi yn cychwyn tua’r ganrif gyntaf a’r ail, yn ystod yr Oes Haearn ddiweddar a’r cyfnod Rhufeinig cynnar. Ni wyddom lawer eto ynglyn â graddfa’r anheddiad Brythonaidd-Rufeinig a’u defnydd o dir yn yr ardal, ond mae’r ffaith fod Brychan, sefydlydd chwedlonol Brycheiniog, yn hawlio ei fod yn disgyn o bendefig Rhufeinig, yn awgrymu’r posibilrwydd fod nifer o ystadau yn perthyn i dirfeddianwyr Brythonaidd-Rufeinig amlwg wedi cael eu sefydlu yn yr ardal erbyn diwedd y cyfnod Rhufeinig.

Bu mwy a mwy o glirio coed drwy gydol y cyfnodau cynhanesyddol, Rhufeinig a chanol oesol, ac mae’n edrych yn debyg fod hynny o dir oedd yn dal dan goed yn debyg i’r hyn ydyw heddiw, gyda llecynnau o goedlannau collddail cymysg lled-naturiol yn gyfyngedig gan fwyaf i’r llethrau mwy serth a’r dyffrynnoedd dyfnion mwy anghysbell. Y tebygrwydd yw fod systemau o ddefnyddio tir wedi datblygu i fanteisio ar yr adnoddau amrywiol oedd ar gael o fewn ardal y tirlun hanesyddol. Mae’r ardal yn rhannu’n naturiol yn rhanbarthau topograffig, pob un â’i botensial amaethyddol arbennig ei hun: dolydd gwlypach ar hyd gorlifdir Llynfi a Gwy, ar eu gorau ar gyfer pori yn y gaeaf; y tir isel sy’n draenio’n dda uwchlaw’r gorlifdir, gyda rhannau helaeth yn addas ar gyfer aredig; tir bryniog llechweddog, gydag adnoddau coedlannau, dolydd a rhannau gwastad llai yn addas ar gyfer aredig; ac yn olaf y tir mynydd agored, yn addas yn bennaf ar gyfer pori yn yr haf. Mae enwau lleoedd yn aml yn adlewyrchu gwahanol fathau o ddefnydd tir, tir âr (maes) yn cael ei adlewyrchu yn ôl pob tebyg yn enwau Tregoed a Chwrt-coed, dôl neu weirglodd yn enwau Gwrlodde, Penyrwrlodd, a phorfa fynyddig neu rostir yn enwau Rhos Fawr, Pen-rhos-dirion a’r Rhos.

Unwaith eto, ychydig iawn a wyddys am natur y gweithgarwch amaethyddol yn yr ardal yn ystod y canol oesoedd, er fod safle chwedlonol llys Brychan yn Nhalgarth a safle tybiedig llys Rhodri Mawr yn Llyswen yn y 9fed ganrif, yn awgrymu bod amryw o ystadau pwysig wedi ymddangos yn y tir ffermio ffrwythlon ar hyd gwaelod dyffryn Llynfi a Gwy yn y cyfnod cyn-gongwest, gyda nifer o aneddiadau rhwymedig yn eu gwasanaethu mae’n debyg. Mae’r enw Bronllys, sy’n tarddu o bosibl o’r gair Braint a llys, yn awgrymu lleoliad stad arall debyg.

Fe orfodwyd trefn weinyddol newydd ar y drefn hon yn dilyn y goncwest Normanaidd pan ddaeth yr ardal yn rhan o arglwyddiaethau’r mers a oedd newydd gael eu ffurfio. Cafodd y rhan fwyaf os nad y cyfan o’r tir âr gorau ar y tir isel ei atafaelu a’i gyflwyno i fân arglwyddi, marchogion a mewnfudwyr Seisnig, i ffurfio maenorau ffiwdal wedi’u gweinyddu o dan y drefn Seisnig, a lluniwyd caeau agored helaeth yn hen aneddiadau cnewyllol Llyswen, Bronllys a Thalgarth ac o’u cwmpas, ac o amgylch tref newydd Y Gelli, gyda maenorau llai yn cael eu sefydlu mewn mannau eraill, fel yn Aberllynfi, Pipton, Porthamel, Pont-y-wal, Trephilip, Tregoed, Trevithel, Trebarried a Llanthomas. Mae’n debyg fod aneddiadau yn perthyn i wyr rhydd wedi cael eu sefydlu ar y tir mynyddig oddi amgylch o gyfnod y goncwest ymlaen, os nad cyn hynny, yn seiliedig ar reolau etifeddu Cymreig a hawliau perchnogaeth tir ar y cyd gan aelodau llwyth unigol neu wely, ac mae’n debyg fod hyn wedi cael ei amlygu gan grwp o dyddynnod neu ffermydd yn ffurfio treflan wedi’i chlystyru neu gyda mynediad i ddolydd, tir pori garw ac ambell i gytir wedi ei rannu yn stribedi bychan o gaeau agored. Roedd y brodoriaethau Cymreig hyn yn gyfyngedig yn bennaf i’r ffermydd llai ar y tir mynyddig oddi amgylch drwy gyfnod yr oesoedd canol. Roeddynt yn dal yn atebol i arglwyddiaethau’r mers ac yn dal i fod yn elfen allweddol ym mywyd economaidd yr arglwyddiaeth yn gyffredinol. Roedd tenantiaid Cymreig Cantref Selyf yn y 14eg ganrif, er enghraifft, yn cynnig eu gwasanaeth adeg y cynhaeaf o dro i dro ym maenor Seisnig Bronllys.

Mae darlun delfrydol o’r ardal ar ddiwedd y 12fed ganrif yn cael ei dynnu gan Gerallt Gymro, yn sôn am bentyrrau mawr o yd yn cael eu cynhyrchu, digonedd o dir pori i’r gwartheg, coedlannau yn llawn o anifeiliaid gwylltion, ac afon Gwy wedi ei stocio’n dda gydag eogiaid a phenllwydion. Mae cyfeiriadau mynych mewn dogfennau at diroedd newydd yn cael eu asartio ym mhlwyfi’r Clas ar Wy a Thalgarth yn y 12fed ganrif, yn awgrymu poblogaeth sy’n dal i dyfu, ac fel llawer rhan arall o Gymru, erbyn diwedd y 13eg ganrif, mae’n debyg fod y boblogaeth wedi cyrraedd lefel na fyddai’n ei chyrraedd eto hyd at yr 16eg ganrif, yn sgîl pla a thrychinebau eraill yn ystod diwedd y 14eg ganrif. Amlygir prinder tir oherwydd y twf yn y boblogaeth ac effeithiau’r rheolau etifeddiaeth Cymreig (oedd yn golygu rhannu’n gyfartal rhwng pob etifedd gwryw) yn y ffaith nad oedd gan fwyafrif tenantiaid brodoriaethau Cymreig yr ucheldiroedd yn arglwyddiaeth Y Gelli yn y 1340au fwy na 5 erw o dir âr. Amlygir sefyllfa debyg o orboblogi ar yr adeg hon yn ardaloedd yr iseldir ffrwythlon o gwmpas Bronllys.

Roedd Llyswen i gael tri chae comin, un i’r gorllewin o’r pentref, un yn nolen yr afon i’r gogledd o’r eglwys, ac un i’r de-orllewin o’r pentref. Roedd gan Y Clas ar Wy gaeau agored helaeth ar dir llechweddog i’r gogledd o’r pentref, gydag enwau megis Maes y llan isa a Maes y pentre mewn dogfennau o’r 17eg ganrif. Fe arhosodd Bronllys yn blwyf gyda chaeau agored hyd at ganol y 19eg ganrif, ac mae cynllun y caeau ar fap Degwm 1839 yn awgrymu trefn dri chae fel un Llyswen, gyda Minfield (Mintfield) i’r gogledd o’r pentref, Coldbrook Field i’r gogledd-ddwyrain, a chydag un neu fwy o gaeau âr agored i’r gorllewin a’r de-orllewin, ag enwau megis Maes Waldish, Maes dan Derwad, a Maes y bach. Unwaith eto roedd gan Talgarth drefn tri chae gyda Red Field i’r gogledd-ddwyrain, Briar Field i’r de-orllewin a Lowest Common Field rhwng y dref ac afon Llynfi. Roedd patrymau cymhleth o berchnogaeth wedi datblygu erbyn diwedd yr 17eg ganrif o fewn y rhannau helaeth o dir âr agored yn y plwyfi a’r maenorau cyfagos o fewn dyffryn Llynfi, ac mae cydberchnogaeth a rhyng-gymysgiad stribedi yn awgrymu bod economi amaethyddol Talgarth, Porthamel ac o bosibl Bronllys yn ddibynnol iawn ar ei gilydd.

Fe gollwyd llawer o hen gaeau agored helaeth y maenorau yn yr ardal, yn dilyn y symudiad i gau tir yn enwedig ar ddiwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif, er fod rhai rhannau wedi eu colli oherwydd gweithgareddau eraill. Fe dorrwyd trwy wahanol rannau o’r hen gaeau agored gan y ffyrdd tyrpeg a adeiladwyd ar ddiwedd y 18fed ganrif. Fe adeiladwyd ar hen gaeau agored i’r gogledd o Dalgarth, i’r de a’r gorllewin o Fronllys, i’r gorllewin o Lyswen, ac i’r gorllewin o’r Gelli mewn cyfnodau gymharol ddiweddar. Roedd rhannau mwy helaeth yn dal yn weladwy fel stribedi unigol ar fapiau Degwm canol y 19eg ganrif, ond fe’u collwyd bellach wedi i’r gwrychoedd gael eu chwalu ac wrth i gaeau llai gael eu huno. Mae olion pwysig o’r caeau comin i’w gweld hyd heddiw mewn rhai ardaloedd, fodd bynnag, yn cael eu cynrychioli gan gaeau stribed amlwg gyda gwrychoedd neu ddarnau o gefnen a rhych o’u cwmpas, fel yn achos yr ardal i’r gogledd-ddwyrain a’r de-orllewin o Dalgarth, yn ardal Penmaes i’r gogledd-ddwyrain o Bronllys, yn ardal Bochrwyd Brest, ac ar y tir llechweddog i’r de o’r Gelli. Mae’n debyg fod nifer o rannau bychain o gefnen a rhych yn cynrychioli caeau agored oedd yn perthyn i rai o’r maenorau llai, fel yn Llanthomas a Threvithel er enghraifft.

Roedd hwsmona anifeiliaid hefyd yn chwarae rhan bwysig yn economi’r faenor, a’r elfen bwysig yma oedd yr hen ddolydd agored ar y tir isel o bobtu i gymer afon Llynfi a Gwy, oedd ar agor yn draddodiadol i bobl gyffredin rhwng diwedd Tachwedd a Dygwyl Fair ar Fawrth 25, ac mae rhai lleoedd megis Upper Gro a Lower Gro ger Y Clas ar Wy yn dal yn dir comin hyd heddiw.

O gyfnod cynnar y pwyslais yn y mynyddoedd a’r troedfryniau oedd ar hwsmonaeth anifeiliaid, magu gwartheg ar gyfer cig a chynnyrch llaeth, a defaid mewn ymateb i ymchwydd yn y fasnach wlân yn y 14eg ganrif. Brodoriaethau Cymreig oedd llawer o’r tir mynyddig, ac roedd topograffeg doredig yr ardaloedd hyn, ynghyd â phatrymau gwahanol o berchnogaeth tir a gweithgarwch economaidd, yn creu patrwm gwahanol o gaeau bychain afreolaidd yn y dyffrynnoedd a’r llechweddau is gyda thir pori agored ar y bryniau a’r rhostiroedd uwchben, ar gyfer pori yn ystod yr haf. Yn wahanol i gaeau agored helaeth maenorau’r iseldir, nid oedd tiroedd rhanedig y trefi brodorol yn ddim mwy na pharseli bychain o stribedi cyfochrog yn ôl pob tebyg, ac yn dilyn y cau tiroedd a fu yn y cyfnod ôl-ganol oesoedd, mae’n anoddach o lawer eu darganfod. Gellir darganfod rhai o’r hen diroedd rhanedig weithiau o dystiolaeth enwau caeau, fodd bynnag, gan fod y gair maes yn aml yn golygu ‘cae agored’. Roedd y tir o fewn y brodoriaethau Cymreig yn cael ei ddal gan denantiaid yr arglwyddiaeth, oedd hefyd yn berchen ar wartheg a moch, yn gyfnewid am ddyletswyddau aredig a chynaeafu. Yn arglwyddiaeth Y Gelli yn y 1340au, er enghraifft, roedd 9 tenant yn dal tua 37 erw ym Maestorglwydd tua 320m uwchlaw Datwm yr Ordnans, ac yn y Wenallt roedd 175 erw’n cael eu dal gan 22 tenant ar uchder o 400m. Roedd tir y Wenallt yn cael ei ddal yn rhinwedd Calan Mai, treth o fuchod a delid ar ddechrau Mai bob yn ail flwyddyn. Cafodd caeau a phadogau eu creu yn gynnar i amddiffyn dolydd yr ucheldir ac i reoli stoc yn ystod misoedd y gaeaf, ac mae’n debyg fod tai hirion o goed yn cael eu codi erbyn y 15fed ganrif o leiaf ar gyfer ffermydd yr ucheldir, gyda lle i anifeiliaid yn un pen.

Mewn rhai ardaloedd roedd y tir caeëdig efallai eisoes yn ymestyn i ymylon y tir mynydd erbyn canol y 13eg ganrif. Mae cofnodion yn awgrymu bod mynachod Priordy Aberhonddu, yn ystod degawdau cyntaf y 13eg ganrif, yn ymestyn y tir oedd ganddynt yn Nhrewalkin drwy glirio coedlannau yng nghyfeiriad Mynydd Troed, rhwng 300 a 400m o uchder uwchlaw Datwm yr Ordnans. O fwy nag un safbwynt mae’r ffin rhwng y tir agored a chaeëdig o dan darren y Mynydd Du yn cynrychioli gweddillion tirlun o gyfnod yr oesoedd canol hwyr, gyda chaeau a daliadau unigol yn cael eu gwthio allan i’r comin. Mae tystiolaeth ddogfennol sy’n disgrifio arglwyddiaeth Y Gelli yn y 1340au yn nodi Trefynes, enw sy’n amlwg yn golygu Tref-ynys, sef yr ‘ynys’ o dir caeëdig ar Waun Croes Hywel ar 350m. Yn y 1330au mae’n amlwg nad oedd y castell yng Nghastell Dinas, ar uchder o fwy na 400m, yn cael ei ddefnyddio ar gyfer fawr mwy na lle i gadw gwartheg, o bosibl o fewn amddiffynfeydd yr hen fryngaer o’r Oes Haearn y cyfeirir ati fel beili-glâs.

Awgrymir systemau defnydd tir cynnar eraill yn yr ardal gan weddillion adeiladau carreg o’r 14eg ganrif yn perthyn i faenor Sistersaidd Fferm Clyro Court, ond nid oes fawr o ddealltwriaeth ohonynt hyd yma. Yn y cyfnod canol oesol diweddar gwelwyd y systemau canol oesol o ddal tir yn dirywio’n raddol yn y maenorau Seisnig a’r treflannau Cymreig, gyda rhent yn cymryd lle dyletswyddau ffiwdal, uno daliadau, ac ymddangosiad nifer o ystadau yn seiliedig ar faenorau ffiwdal cynharach. Roedd gwarged o yd a gwartheg yn cael eu hallforio i rannau eraill o Gymru a Lloegr. Disgrifir y fasnach wartheg leol ar ddechrau’r 18fed ganrif gan Daniel Defoe yn ei Tour Through the Whole island of Great Britain, a gyhoeddwyd yn y 1720au: ‘oddi yma mae nhw’n gyrru heidiau mawrion o wartheg i Loegr bob blwyddyn, a gwyddom eu bod yn llenwi’n ffeiriau a’n marchnadoedd, hyd yn oed Smithfield ei hun’. Erbyn yr 17eg ganrif roedd perllannau afalau, gellyg a cheirios yn gysylltiedig â ffermydd yr iseldir o gwmpas Talgarth, Bronllys, Llyswen, Y Clas ar Wy a’r Gelli eisoes yn dod yn rhan amlwg o’r tirlun, rhai ohonynt yn amlwg ar gefnen a rhych yn yr hen gaeau agored canol oesol oedd bellach wedi’u cau, a rhai efallai ar gefnen oedd newydd ei chodi. Mae’r nenfwd plastr rhyfeddol o’r 17eg ganrif ym mharlwr ffermdy Trefeca Fawr wedi ei addurno â deiliach ac afalau seidr di-rif sy’n ‘dathlu ffrwythlondeb y tir yn deilwng iawn’. Roedd y perllannau afal a gellyg yn Nhrefeca Fawr, oedd yn ymestyn dros 10 erw yng nghanol y 19eg ganrif, yn adnabyddus am fath o afal o’r enw Golden Pippin, oedd yn cael ei gofnodi o’r 1620au ymlaen o leiaf.

Daeth yr hen drefn ganol oesol o ffermio i ben yn yr ardal i bob pwrpas gyda’r gwelliannau i ddulliau o ffermio a gyflwynwyd yn ystod y 18fed ganrif. Roedd ffermydd yn nyffryn Gwy rhwng Y Gelli a Thalgarth, drwy gyflwyno peiriannau newydd, cylchdroi cnydau i wella ffrwythlondeb y pridd, a stoc fridio newydd, yn flaengar yn y chwyldro amaethyddol hwn yng Nghymru. Mae adroddiadau’r Bwrdd Amaeth yn nodi bod cymaint â phum cylchdro mewn bod yn iseldir cantref Talgarth erbyn diwedd y 18fed ganrif, gan gynnwys yd, ceirch, barlys, pys a gwyndonnydd meillion. Un o’r bobl flaengar â llawer o’r dulliau newydd oedd Howel Harris, yr arweinydd Methodistaidd carismatig a chwaraeodd ran arweiniol wrth sefydlu Cymdeithas Amaethyddol Sir Frycheiniog ym 1755. Prif nod Harris oedd hybu arfer da mewn amaethyddiaeth o fewn y gymuned Gristnogol gydweithredol a hunangynhaliol yr oedd wedi’i sefydlu yn Nhrefeca, cymuned a helpodd i greu defnydd mwy proffidiol o’r tir drwy gyfuno â gweithgynhyrchu.

Mae’r enw The Warren, sy’n ymddangos yn nolen yr afon, ychydig i’r gorllewin o’r Gelli, a hefyd ger Felindre, yn awgrymu bod cwningod yn cael eu ffermio’n fasnachol am eu cig a’u ffwr, ond does dim cofnod o gwningar artiffisial na thwmpathau clustog yn yr un o’r ddwy ardal, ac nid yw dyddiad y diwydiant amaethyddol lleol hwn yn sicr.

Yn ystod diwedd y 18fed a’r 19eg ganrif, roedd darnau helaeth o dir comin ar ffurf caeau comin agored, dolydd comin ar hyd afon Gwy a Llynfi, a chomin yr ucheldir neu lwybrau defaid, i gael eu rhannu â ffensys, waliau neu wrychoedd. Er mai yn Sir Frycheiniog heddiw y mae’r canran uchaf o dir comin a thir pori garw o holl siroedd y gororau, bu gostyngiad o 50% mewn tir comin yn y sir yn gyffredinol yn ystod y 19eg ganrif. Roedd cau tir comin drwy gyfrwng ffensys a gwrychoedd yn cael ei hybu er mwyn gwella effeithiolrwydd amaethyddol, drwy gadarnhau daliadau tir, galluogi cynlluniau draenio a chynlluniau eraill i wella tir, ac fel ffordd o reoli anifeiliaid a gwarchod cnydau. Roedd cau’r tiroedd yn cael ei hybu’n daer gan dirfeddianwyr mawr a Chymdeithas Amaethyddol Sir Frycheiniog, oedd yn cynnig gwobrau yn y 1770au am ‘adfeddiannu a throi cymaint ag y gellir o Dir Garw gyda Rhedyn, Banadl, Eithin neu Rug, na chafodd ei drin o fewn Cof, yn dir proffidiol’. Hyd y gellir gweld, roedd y rhan fwyaf o gaeau agored y canol oesoedd wedi cael eu cau erbyn diwedd y 18fed ganrif. Dim ond dau gae comin a gofnodwyd fel rhai wedi’u cau yn yr ardal yn hanner cyntaf y 19eg ganrif, 50 erw yn Llyswen ym 1858 a 105 erw ym Mronllys ym 1863.

Ymhlith y gwelliannau amaethyddol eraill a wnaed yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif yr oedd cloddio ffosydd draenio a chreu llifddolydd mewn rhai rhannau o’r iseldir ar hyd afon Gwy a Llynfi. Mae manylion gwerthu fferm Chancefield i’r de o Dalgarth yn y 1790au, er enghraifft, yn crybwyll y ‘gallai’r tir fod o dan ddwr ar unrhyw adeg’, sy’n awgrymu bod rhyw fath o gynllun dyfrhau yn cael ei weithredu. Fe arweiniodd y galw am galch i’w wasgaru hyd y tir at nifer o chwareli ac odynnau calch bychain yn y bryniau uwchlaw Talgarth, Llanigon a’r Gelli. Cyflwynwyd bridiau newydd o wartheg i’r ardal, yn enwedig o sir gyfagos Henffordd, bridiau a ddisodlodd neu a groeswyd gyda’r bridiau oedd yn draddodiadol i’r ardal. Daliodd ychen i fod yn brif anifail y fferm ar gyfer aredig a thasgau eraill ar y tir hyd at ganol y 18fed ganrif. Ar gyfer trafnidiaeth ffyrdd y defnyddid ceffylau yn bennaf hyd at y cyfnod hwn, ond o ddechrau’r 19eg ganrif y ceffyl oedd yr anifail gweithio mwyaf cyffredin.

Mae’r gwaddod a adawyd yn llyn Llangors yn awgrymu cyfnod newydd o erydu pridd, oedd yn ganlyniad posibl i gynnydd sylweddol ym maint y tir ymylol oedd yn cael ei drin, a hyn yn ei dro yn adlewyrchu’r cynnydd ym mhrisiau grawn ym mlynyddoedd cythryblus diwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif. Mae angen rhagor o astudiaethau, ond mae’n bosibl fod y cynnydd mewn dwr oedd yn rhedeg o ganlyniad i’r ehangu mewn amaethyddiaeth wedi arwain at fwy o lifogydd ar lawr gwlad, a hyn o bosibl wedi arwain at gau safle’r eglwys ganol oesol ger glannau afon Gwy yng nghanol yr 17eg ganrif, eglwys a oedd efallai wedi sefyll yn ddiogel ar yr un safle dros gyfnod o fileniwm cyn hynny. Yn negawd gyntaf y 19eg ganrif roedd Theophilus Jones yn cwyno am y dinistr oedd yn digwydd i’r coedlannau brodorol, gan nodi bod Llanigon ‘fel gweddill y wlad yn cael ei dinoethi’n ddyddiol; ychydig iawn sy’n meddwl am blannu a llai fyth am gadwraeth’. Erbyn canol y 19eg ganrif roedd dyffryn llydan ffrwythlon Gwy a’r brif afon oedd yn rhedeg iddi, sef afon Llynfi, wedi tyfu i fod yn brif ardal cynhyrchu grawn i Sir Frycheiniog a Maesyfed, a bu cynnydd yn y ganran o dir âr a nodwyd yng nghofnodion y Degwm o 30% ym mhlwyfi Bronllys a Llyswen a thros 40% yng Nghleirwy.

Fel y nodwyd uchod, fe ddioddefodd Siroedd Brycheiniog a Maesyfed ddiboblogi yng nghefn gwlad ar ddechrau’r 19eg ganrif, a chanlyniad hyn oedd fod elfennau sylweddol o’r boblogaeth wledig wedi ymfudo i faes glo De Cymru. Roedd hyn i’w weld yn amlwg yn Nhalgarth, lle cododd nifer y tai anghyfannedd yng nghyfrifiad 1801 o bron 10%, gan gychwyn tuedd a barhaodd drwy’r 19eg a’r 20fed ganrif, ac a arweiniodd at ragor o uno a chadarnhau daliadau fferm, a throi cefn ar ffermydd llai, rhandiroedd a bythynnod, yn enwedig yn rhannau mwy ymylol ac anghysbell ardal y tirlun hanesyddol.

Yn ychwanegol at adeiladau a strwythurau eraill, mae hanes cymhleth defnydd tir amaethyddol o fewn tirlun hanesyddol Canol Gwy yn golygu bod yna fynegiant amrywiol iawn o fewn y tirlun: gweddillion darnau o gefnen a rhych yn cynrychioli caeau comin o’r canol oesoedd; caeau stribed wedi eu cau gan wrychoedd planedig un rhywogaeth, yn cynrychioli’r cau a fu ar yr hen gaeau agored yn y 18fed a’r 19eg ganrif; caeau bychain ac afreolaidd ar y troedfryniau a’r llechweddau gyda gwrychoedd aeddfed aml-rywogaeth, yn ganlyniad i’r clirio graddol a fesul tipyn a fu ar goedlannau o gyfnod y canol oesoedd ymlaen; caeau mawr petryal ar hyd y gorlifdir yn cynrychioli’r cau diweddar a fu ar yr hen ddolydd comin a ddefnyddid ar gyfer pori yn y gaeaf; hen lifddolydd gyda cheunentydd bas yn eu croesi; caeau mawr amlochrog ar yr ucheldir wedi’u hamgylchynu gan wrychoedd un rhywogaeth, cloddiau neu waliau cerrig syth, yn cynrychioli’r cau diweddar a fu ar dir comin yr ucheldir; glasleiniau mewn caeau yn dangos erydu ar un adeg gan erydr; darnau o drin tir aredig rig cul mewn rhai ardaloedd ymylol; a chomin rhostir agored ar yr ucheldir. Mae amryw o gwestiynau cadwraeth a rheolaeth yn codi, ond yr elfennau mwyaf bregus sy’n bwysig o ran datgelu hanes defnydd tir yn yr ardal yw’r amrywiaeth o fathau o derfynau caeau, gan gynnwys gwrychoedd, cloddiau, waliau a glasleiniau, rheolaeth coedlannau hynafol llydanddail, a chadwraeth dyddodion dan ddwr a gwaddodion eraill sy’n cadw o’u mewn dystiolaeth am newidiadau amgylcheddol.

Tirweddau Pensaernļol

Mae gan ardal tirlun hanesyddol Canol Dyffryn Gwy etifeddiaeth gyfoethog o adeiladau hanesyddol, sy’n helpu i gofnodi hanes cymdeithasol ac economaidd yr ardal yn fanwl iawn o gyfnod yr oesoedd canol diweddar ymlaen.

Mae’r siambrau carn hir Neolithig yn Pipton, Penyrwrlodd (Talgarth), Penyrwrlodd (Llanigon), Little Lodge, a Ffostyll yn dangos amrywiaeth o dechnegau adeiladu gan gynnwys siambrau claddu o gerrig syth, waliau mawrion gyda wyneb o gerrig sychion, sy’n cynrychioli’r mynegiant pensaernďol cynharaf o fewn yr ardal. Mae ffurf gyffredinol y gofadail yn awgrymu ‘ty ar gyfer y meirw’ er na wyddys i ba raddau y gellir eu cymharu â thai pobl fyw yn yr ardal. Byddai mynediad y siambrau fel arfer ar ochr y carnau hirion ac fel arfer fe geir porth ffug ar ben lletaf y twmpath, yn awgrymu mynedfa ddefodol i’r byd arall. Ni wyddys ond y nesaf peth i ddim am yr arddull a’r technegau adeiladu a ddefnyddid yn yr ardal yn y cyfnodau cynhanesyddol diweddar hyd at y cyfnod canol oesol cynnar, ac mae’n bwysig felly rheoli a chadw safleoedd lle mae tystiolaeth o’r math hwn wedi goroesi.

Yr adeiladau cynharaf sydd wedi goroesi yn yr ardal yw nifer o eglwysi carreg, sefydliadau mynachaidd a chestyll o’r 13eg a’r 14eg ganrif. Yr amlycaf ymhlith yr eglwysi yw rhai Llanelieu, Llanfilo, Llanigon a Thalgarth, lle mae llawer o’r gragen ganol oesol wedi goroesi, gan gynnwys darnau o ddechrau’r 12fed ganrif mewn rhai achosion, er nad oes unrhyw ddarnau archeolegol pendant yn perthyn i’r cyfnod cyn-goncwest. Cafodd llawer o’r eglwysi eraill yn yr ardal eu hailadeiladu’n sylweddol yn y 19eg ganrif, er fod twr cloch unigol o’r 13eg ganrif wedi goroesi ym Mronllys, un o ddim ond nifer fach o enghreifftiau tebyg yng Nghymru, ac mae rhannau o dyrrau eglwysi o’r 15fed ganrif wedi goroesi yng Nghleirwy a’r Gelli. Gellir gweld darnau a ailddefnyddiwyd o eglwysi cynharach yma ac acw, gan gynnwys y porth o’r 13eg ganrif a adeiladwyd fel rhan o’r maenordy Jacobeaidd yn Hen Wernyfed, y credir iddo ddod o Abaty Llanddewi, Priordy Aberhonddu neu hen gapeli canol oesol Aberllynfi neu Felindre. Mae darnau eraill o gragen ganol oesol i’w gweld yn nrysau bwaog ysgubor yn Court Farm, Cleirwy ac yn y ty yng Nghwrt Llanelieu. Credir fod gan y ddau gysylltiadau mynachaidd o’r 14eg a’r 15fed ganrif efallai. Ymddengys fod yr adeilad yng Nghleirwy yn un peth a oroesodd maenor fynachaidd Cwm-hir yn Sir Faesyfed, a chredir fod yr adeilad yn Llanelieu wedi goroesi o gell fynachaidd Priordy Llanddewi.

Mae gweddillion pwysig cestyll carreg canol oesol wedi goroesi ym mhob un o dair brif ganolfan weinyddol arglwyddiaethau’r mers, yn Y Gelli, Bronllys a Thalgarth. Yng nghastell Y Gelli gwelir gweddillion y gorthwr carreg a adeiladwyd tua 1200 a’r prif borth a adnewyddwyd yn y 1230au. Mae’n debyg fod y twr crwn yng Nghastell Bronllys wedi cael ei adeiladu yn y cyfnod rhwng yr 1220au a’r 1260au, ac fel y twr tebyg yn Nhretower yn Sir Frycheiniog, yn seiliedig yn ôl pob tebyg ar syniadau Ffrengig cyfoes am bensaernďaeth filitaraidd. Ymddengys fod ail lawr wedi cael ei ychwanegu at y twr tua’r 14eg ganrif. Mae rhan o’r lle tân o’r 14eg neu’r 15fed ganrif, o gerrig rwbel, hefyd wedi goroesi ym Mronllys, wedi’i hymgorffori o fewn gweithdy ac oriel yn Nhy Castell Bronllys. Mae’n debyg fod y Ty Caerog yng nghanol Talgarth yn dyddio’n ôl i’r 14eg ganrif, ac yn un o’r enghreifftiau prin o’i fath yng Nghymru. Y tebygrwydd yw mai coed oedd gwneuthuriad y rhan fwyaf o adeiladau domestig yng nghyfnod y canol oesoedd, er fod tystiolaeth o waith carreg ar safleoedd Lower House Farm (Cleirwy), Cwrt-coed a Hillis, o bosibl o’r 14eg ganrif, gyda ffos o’u cwmpas, a cheir darn o do teiliau carreg yng Nghwrt-coed, sy’n awgrymu bod yr adeiladau oedd yn gysylltiedig â’r ffosydd naill ai wedi eu codi o garreg neu o goed yn sefyll ar sylfeini carreg.

Mae nifer sylweddol o adeiladau domestig yn ardal y tirlun hanesyddol yn mynd yn ôl i gyfnod yr oesoedd canol diweddar, yn y 15fed a’r 16eg ganrif, llawer ohonynt wedi eu hadeiladu gyda ffrâm o goed a nenfforch yn wreiddiol. Byddai’r adeiladau weithiau’n cael eu gosod ar lwyfan wedi ei dorri mewn i’r llechwedd, os ar dir llechweddog, a’r adeiladau gyda waliau allanol o ffrâm goed yn ôl pob tebyg yn cael eu gosod ar waliau o adeiladwaith rwbel tywodfaen. Mewn llawer achos mae waliau allanol ffrâm goed yr adeiladau cynnar hyn naill ai wedi cael ei gorchuddio neu, yn amlach na pheidio, cerrig wedi cael eu gosod yn eu lle, er mai waliau allanol o garreg oedd gan rai adeiladau yn ôl pob golwg pan gawsant eu hadeiladu gyntaf. Dim ond mewn rhai enghreifftiau prin y gwelir unrhyw dystiolaeth bellach o baneli bangorwaith a dwb, a fyddai unwaith wedi llenwi’r fframiau coed. Erbyn y cyfnod ôl-oesoedd canol cynnar ymddengys fod llawer o’r adeiladau wedi cael to teiliau carreg, er fod rhediad ambell i do yn awgrymu mai to gwellt ydoedd yn wreiddiol o bosibl.

Mae’r llinell derfyn ganol oesol hwyr hon yn cynnwys nifer o adeiladau yn nhrefi a phentrefi’r ardal, gan gynnwys tai yn aneddiadau’r Gelli, Talgarth, Y Clas ar Wy, Cleirwy a Llowes. Un o’r tai canol oesol llai sydd wedi ei gadw orau yn yr ardal yw’r Hen Ficerdy yn Y Clas ar Wy, gyda tho coed o’r 15fed ganrif a waliau allanol o garreg. Fe adeiladwyd yr Ysgubor Ddegwm o’r 15fed/16eg ganrif yn Y Clas ar Wy gyda nenfforch, eto gyda waliau allanol o garreg. Mae’r adeiladau cynnar eraill o’r math hwn yn cynnwys hen dy neuadd gyda nenfforch ym mhentref Cleirwy, yr Hen Ficerdy a’r Radnor Arms yn Llowes, yr Old Radnor Arms yn Nhalgarth, a’r Three Tuns yn Y Gelli, pob un i bob golwg yn dyddio’n ôl i’r 15fed a’r 16eg ganrif. Tai neuadd oedd rhai o’r adeiladau, a hwy yw’r adeiladau domestig cynharaf sydd wedi goroesi o fewn yr aneddiadau cnewyllol yn yr ardal.

Ceir mwy fyth o amrywiaeth o adeiladau cynnar wedi goroesi yng nghefn gwlad, gan eu bod wedi osgoi’r ailddatblygu a ddigwyddodd o ganlyniad i dwf llawer o’r aneddiadau cnewyllol yn ystod y 19eg ganrif. Ffermdai oedd y rhan fwyaf o’r adeiladau cynnar, rhai yn amlwg wedi cychwyn fel adeiladau aml-bwrpas tebyg i dai hirion, gyda neuadd ganolog a llety i’r anifeiliaid yn un pen ac i’r teulu y pen arall, ac mae adeiladau fferm arbenigol o’r 15fed a’r 16eg ganrif, megis ysguboriau a granarau ar wahân, yn gymharol brin yn yr ardal. Mae adeiladau o’r math hwn wedi goroesi yn yr ucheldir a’r iseldir, er fod llawer mwy ohonynt i’w gweld yn hen frodoriaethau Cymreig arglwyddiaethau Talgarth a’r Gelli, yn nhroedfryniau’r Mynydd Du, lle y bu pwyslais amlwg ar fagu gwartheg o gyfnod y canol oesoedd. Mae ffermdai Penygenhill, Tynllyne, Ty Mawr (Llanigon), Llwynmaddy, Penlan, ysgubor Middle Maestorglwydd, Lower Wenallt, Wenallt-uchaf, Old House, Maescoch a Cwmcoynant i gyd yn nodweddiadol o’r math hwn o adeilad. Mae ysgubor Middle Maestorglwydd yn oroesiad rhyfeddol. Ty neuadd gyda nenfforch ydoedd yn wreiddiol yng nghanol neu ddiwedd y 15fed ganrif, ac mae’n un o’r ychydig adeiladau o’i fath sydd wedi goroesi ac wedi osgoi cael ei droi yn dy deulawr yn yr 17eg neu’r 18fed ganrif : yn y pen draw cafodd ei droi’n ysgubor. Mae hanes diweddarach y ty neuadd tebyg, o fath ty hir gyda nenfforch, yn Llangwathan yn Cusop Dingle, yn fwy nodweddiadol o’r grwp yn gyffredinol. Gosodwyd simdde yn yr hen neuadd agored ar ddiwedd yr 16eg neu ddechrau’r 17eg ganrif, ac fe ailgodwyd y waliau mewn carreg yn y 18fed neu’r 19eg ganrif, cyfnod o drawsnewid yn natblygiad tai hirion yn y rhanbarth. Mae Upper Skynlais yn un arall o’r ffermdai tir isel o gyfnod yr oesoedd canol diweddar, wedi cychwyn fel ty neuadd agored adeiniog, wedi’i orchuddio gan gerrig yn ddiweddarach, gyda choed mewnol yn awgrymu statws cymdeithasol uchel, a Phentre Sollars, ty bychan gyda nenfforch.

Roedd Great Porthamel, a ddisgrifiwyd fel ‘un o’r tai mwyaf rhyfeddol o’r oesoedd canol yng Nghymru’, yn perthyn i un o’r teuluoedd grymus nodedig oedd wedi ymddangos yn yr ardal ar ôl i oes y maenorau ffiwdal ar y tir isel ffrwythlon ddod i ben. Mae’n debyg fod tai canol oesol eraill yn bodoli unwaith yn Hen Wernyfed a Maesllwch, ond eu bod wedi cael eu hailadeiladu yn sylweddol neu’n llwyr yn ystod yr 17eg a’r 18fed ganrif, er fod rhan o’r to canol oesol wedi goroesi yng Ngwernyfed. Neuadd garreg yw Great Porthamel a adeiladwyd gan Roger Vaughan ar ddiwedd y 15fed ganrif. Mae’n un o dai mwyaf yr elît Eingl-Gymreig yn y gororau canol a deheuol, ac yma yr arhosodd Harri’r VII ar ei ffordd i Frwydr Bosworth ym 1485. Pwysleisiwyd statws y ty gan y wal oedd yn ei amgylchynu, er fod y rhan fwyaf ohoni wedi cael ei dymchwel yn y 19eg ganrif. Roedd porthdy deulawr yn ffurfio mynediad i dir y plasty ac yn ffodus mae hwn wedi goroesi, ac mae’n nodweddiadol o amryw o dai mawr y 15fed ganrif yn y Gororau.

Ymddangosodd amrywiaeth ehangach o fathau o adeiladau yn ystod yr 17eg ganrif, gan gynnwys amryw o ffurfiau mwy arbenigol. Daeth cerrig yn gyfrwng mwy cyffredin ar gyfer adeiladu, efallai oherwydd datblygiad y diwydiant chwareli yn ogystal â phrinder cynyddol o goed. Fe adeiladwyd cyfres o ffermdai ar yr iseldir mewn rwbel tywodfaen yn ystod y ganrif, gan gynnwys y rhai yn Upper Sheephouse, Llwynbarried, Trevithel, Trebarried, a Chwrt Tredomen. Fe adeiladwyd nifer o ffermdai rwbel tywodfaen newydd hefyd yn yr ucheldir, rhai ohonynt yn amlwg yn disodli tai coed cynharach, fel ym Moity, Cefn, y ffermdai yn Lower, Middle ac Upper Maestorglwydd, ac Upper Dan-y-fforest, ac roedd rhai megis Lower Genffordd bellach yn cael eu hadeiladu ar draws yn hytrach nag i fyny ac i lawr llechwedd _Y Rhos sy’n edrych fel petai ganddo lawr isaf o garreg a fframiau pren uwchben. Fe barhaodd traddodiadau cynharach o doi, fel y dangosir gan nenffyrch uwch neu wedi eu codi, wedi eu gosod ar waliau cerrig yn Middle Genffordd. Fe drawsnewidiwyd nifer o ffermdai coed o’r oesoedd canol diweddar hefyd yn y cyfnod hwn, drwy osod waliau tywodfaen yn lle’r ffrâm goed allanol. Cafodd waliau nifer o ffermdai eu rendro naill ai yn y cyfnod hwn neu yn ystod y 18fed neu’r 19eg ganrif.

Byddai llawer o’r ffermydd yn wreiddiol â becws neu gegin ar wahân. Dim ond nifer fach o enghreifftiau sydd wedi goroesi, megis y gegin garreg ar wahân yn Fferm Cilonw a’r becws posibl ar wahân yn Gwrlodde. Dechreuodd mathau arbenigol o adeilad fferm ymddangos yn fwy amlwg yn ystod yr 17eg ganrif, gan gynnwys beudai ac ysguboriau dyrnu, yn aml gyda manylion brodorol gwahanol megis agennau gwynt fertigol. Fe godwyd ysguboriau carreg ar lawer o ffermydd ar hyd yr ardal yn y cyfnod hwn, gan gynnwys Lower Maestorglwydd, Gwrlodde, a Thredustan, er fod nifer o ysguboriau gydag estyll tywydd a fframiau coed hefyd wedi cael eu codi yn ystod yr 17eg ganrif, rhai ohonynt yn gyfuniad o ffrâm goed a nenfforch, gan gynnwys yr ysguboriau ym Mhenlan, Llangwathan (a ailadeiladwyd gan fwyaf mewn carreg), Great Porthamel, a Lower Maestorglwydd. Gosodwyd rhai o’r ysguboriau pren, fel y rhai ym Mryn-yr-hydd a Phentwyn, ar waliau tywodfaen uchel.

Ymddangosodd casgliad o dai bonedd mwy a phlastai hefyd allan yn y wlad yn y cyfnod hwn, ar bwys y ffermdai. Roedd y rhain yn gysylltiedig fel arfer â ffermydd mwy cyfoethog yr iseldir, rhai ohonynt â’u gwreiddiau mewn maenorau canol oesol ac yn amlwg wedi cael eu codi yn lle adeiladau cynharach ar yr un safle. Mae’n debyg fod Hen Wernyfed, Cwrt Llowes a’r Dderw yn perthyn i gyfnod dechrau’r 17eg ganrif, tra bod Trefeca Fawr, Cwrt Tredustan a Neuadd Tredustan yn perthyn i gyfnod diweddarach yn yr un ganrif. Mae yna dalcennau arbennig sy’n nodweddiadol o’r cyfnod hwn i ddau o’r tai, sef Y Dderw a Hen Wernyfed. Neuadd Tregoed, a ddinistriwyd mewn tân ym 1900, yw’r trydydd ty sy’n perthyn i’r grwp yma. Roedd nifer o’r tai yma yn perthyn i deuluoedd tra nodedig. Adeiladwyd Hen Wernyfed gan Syr David Williams, Uchel Siryf Sir Frycheiniog. Roedd Neuadd Tregoed yn perthyn i Arglwydd Henffordd. Caiff Cwrt Llanelieu ei gysylltu â theulu Aubrey, a cheir yno ddrws a godwyd yn y 1670au wedi ei addurno â dyfyniadau o Ecolgues gan Fyrsil a Heroides gan Ofydd. Parhawyd i adeiladu’r rhan fwyaf o dai bonedd gyda rwbel tywodfaen, meini nadd wedi eu mewnforio ambell i dro. Teiliau cerrig lleol oedd y defnydd toi cyfoes yn ôl pob tebyg, fel yn achos y rhai sydd wedi goroesi yn Y Dderw a Chwrt Tredustan.

Mewn cymhariaeth â chefn gwlad, ychydig iawn o dai mawrion a godwyd, i bob golwg, yn y trefi a’r pentrefi yn yr 17eg ganrif. Un o’r enghreifftiau prin nodedig yw’r Hay Castle Mansion a adeiladwyd yn y 1660au mewn rhesi o rwbel tywodfaen gyda cherrig rhydd wedi’u naddu o amgylch y ffenestri. Fe barhawyd i adeiladu rhai o’r tai yn y trefi o bren yn rhan gyntaf y ganrif. Mae’r Café Royal yn Y Gelli yn dy trefol gyda ffrâm o goed o ddechrau’r 17eg ganrif. Mae’r bythynnod carreg sydd wedi goroesi o’r cyfnod hwn, gan gynnwys Rose Cottage, Sacred Cottage ac amryw o rai eraill yng Nghleirwy, er enghraifft, yn fwy nodweddiadol o’r aneddiadau cnewyllol, yn enwedig y pentrefi.

Yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif fe adeiladwyd amrywiaeth llawer ehangach o fathau o adeiladau, yn adlewyrchu’r gwahanol newidiadau a effeithiodd ar yr ardal yn ystod y cyfnod deinamig hwn, gan gynnwys gwelliannau mewn amaethyddiaeth, twf trefi lleol, cysylltiadau gwell, twf anghydffurfiaeth, ac addysg a lles cyhoeddus. Amlygir tryblith cymdeithasol y cyfnod yn sylwadau Samuel Lewis am gylch Talgarth yn ei Topographical Dictionary of Wales, a gyhoeddwyd ym 1833:

Roedd amryw o gartrefi hynafol yn y plwyf hwn yn yr hen amser, cartrefi teuluoedd bonheddig sydd wedi cael eu hesgeuluso â threigl amser ar ôl i’w perchnogion gefnu arnynt, a bellach does dim pwysigrwydd iddynt. Ymhlith y rhain mae Porthamel . . . . Tregunter . . . . Tredustan.

O ganlyniad, fe ailgodwyd adeiladau oedd eisoes yn bod a chodwyd llawer o adeiladau newydd a mathau newydd o adeiladau yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif, yn adlewyrchu’r drefn gymdeithasol newydd, gan gynnwys tai trefol, ffermdai, tai bonedd, ficerdai, tai mawr yn y wlad, tafarnau, gwestai, siopau ac adeiladau masnachol a diwydiannol eraill, eglwysi newydd, capeli anghydffurfiol, adeiladau cyhoeddus gan gynnwys neuaddau marchnad, elusendai, tlotai, ysgolion ac ysbytai, tai gweithwyr, tolldai, stablau a cherbytai, tai masnachwyr a rheolwyr, ac adeiladau fferm newydd. Rwbel tywodfaen oedd y deunydd adeiladu mwyaf cyffredin yn dal i fod drwy’r rhan fwyaf o’r 18fed ganrif, er fod mwy a mwy o’r gwaith cerrig yn cael ei rendro. Roedd meini nadd yn eithaf cyffredin ar rai o’r tai mwy a’r adeiladau cyhoeddus o ddechrau’r 19eg ganrif ymlaen, yn enwedig ar gyfer agoriadau ffenestri a drysau a chonglfeini. Ymddengys fod llechi yn raddol wedi disodli teiliau cerrig lleol yn ystod y 18fed ganrif. Fe godwyd nifer o adeiladau brics yn ystod y 18fed ganrif, er mai cymharol anghyffredin oedd eu defnyddio hyd at ddiwedd y 19eg ganrif pan ddechreuwyd defnyddio brics coch, melyn a glas yn amlach ar gyfer ffenestri a drysau. Ymddengys fod teiliau brig to ceramig ac wedi’u sgleinio yn cael eu cynhyrchu yn lleol ger Whole House Farm ger Talgarth, yn y cyfnod rhwng tua chanol yr 17eg ganrif a dechrau’r 18fed ganrif, ac fe’u defnyddir heb amheuaeth gyda naill ai toeau llechi neu gerrig. Roedd teiliau brig to ceramig coch, rhai yn gribog, yn cael eu defnyddio yn yr ardal erbyn tua chanol y 19eg ganrif. Ymhlith yr adeiladau brics nodedig o flynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif y mae Neuadd Tregoed, a ailadeiladwyd ar ôl tân ym 1900, a’r ffermdy yn Y Rhos, a ddisodlodd y ffermdy cerrig a choed oedd yno cynt.

Fe ailadeiladwyd neu fe adnewyddwyd yn sylweddol nifer fawr o ffermdai carreg yn yr ardal yn ystod y 18fed ganrif, yn enwedig yn achos y ffermydd mwy cefnog ar yr iseldir megis Trephilip, Penyrwrlodd (Llanigon), New Forest Farm, Plas Celyn, Glan-hen-Wye, a Llwynfilly, a chafodd rhai ffermdai newydd megis Lower Sheephouse eu haddurno y tu mewn mewn dull bonheddig. Fe barhaodd proses debyg drwy’r 19eg ganrif, gyda ffermdai carreg ac weithiau wedi eu rendro yn Pipton, Maes-y-garn, a Great House Farm yn Nhalgarth, rhai megis Lower House yn Llyswen gyda meini nadd ac ymddangosiad bonheddig, yn nodweddiadol o’r ffordd yr oedd y bonedd yn ymledu yng nghefn gwlad yn y cyfnod hwn.

Fe adeiladwyd mwy a mwy o amrywiaeth o adeiladau fferm arbenigol megis beudai, ysguboriau gwair, cerbytai, ysguboriau gyda llwybr trol yn y canol a lloriau nithio, granarau, a stablau drwy gyfnod y 18fed a’r 19eg ganrif i gwrdd ag anghenion technegau ffermio gwell oedd yn cael eu cyflwyno. Ymhlith yr adeiladau pwysig o’r cyfnod hwn y mae’r ysguboriau carreg yn Y Dderw, Llwynmaddy, Lower Maestorglwydd, Pendre a Pipton, yn aml gydag agennau gwynt, a’r ysguboriau o’r 19eg ganrif yn Nhrephilip gyda cherrig nadd coch a glas nodweddiadol o gwmpas yr agoriadau. Mae’r hen ysgubor frics fawr o’r 18fed ganrif yn Great House Farm yn Nhalgarth yn weddol anarferol yn yr ardal, fel yn wir y mae’r 341 blwch nythu i golomennod yn nhalcen yr ysgubor. Mae llofftydd colomennod eraill i’w gweld, ar raddfa lai a mwy arferol, mewn nifer o ffermydd ac adeiladau fferm, o’r 18fed a’r 19eg ganrif mae’n debyg, gan gynnwys talcen yr ysgubor ym Mhentwyn i’r de o Dalgarth, y blwch colomennod talcennog uwchlaw’r granar yn Nhy Mawr, Llanigon, y blwch colomennod talcennog mewn ysgubor yn Y Dderw gyda thyllau i nythu ar y talcen, a’r colomendy bychan o dan fargod ffermdy yn Ffermdy Pendre. Yr unig golomendai ar wahân sydd i bob golwg wedi goroesi o fewn yr ardal yw’r pâr crwn carreg o flaen Hen Wernyfed, yn ôl pob tebyg o ddiwedd y 15fed neu ddechrau’r 16eg ganrif, er fod yna awgrymiadau fod rhai eraill yn bodoli mewn amryw o ffermydd hyd at ddiwedd y 18fed neu ddechrau’r 19eg ganrif efallai, yn Nhrefeca Fawr o bosibl.

Fe adeiladwyd tai bonedd amrywiol hefyd yn ystod diwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif, yn enwedig yn y trefi a’r pentrefi gyda gwell cysylltiadau neu gyda mynediad hawdd i’r ffyrdd tyrpeg newydd. Ymhlith y tai nodedig o’r cyfnod hwn y mae Castle House ym Mronllys, Woodlands, Parc Gwynne a Green House yn Y Clas ar Wy, Ashbrook House a Chae Mawr yng Nghleirwy, ac Ashgrove House yn Treble Hill. Mae amryw o’r tai, megis Glasbury House, yn drigfannau sylweddol i wyr bonheddig, ac fe osodwyd rhai o’r tai megis Ty Aberllynfi yn Treble Hill a Bryn-yr-hydd ar y briffordd hanner ffordd rhwng Y Clas ar Wy a Llowes mewn lle amlwg o fewn y tirlun. Cafodd y rhan fwyaf o’r math hwn o dai eu rendro neu eu gorchuddio â cherrig mân rwbel tywodfaen, gydag amryw gyda haenau o rwbel. Tai eraill mawr pentrefol sy’n nodweddiadol o’r cyfnod hwn yw nifer o ficerdai a phersondai o’r 19eg ganrif, gan gynnwys yr Hen Ficerdy yng Nghleirwy a Vicarage House, Llowes.

Gwelwyd twf y plasty gwledig yn y 19eg ganrif o fewn ardal y tirlun hanesyddol, fel arfer wedi eu hadeiladu o feini nadd. Yr adeiladau mwyaf amlwg o’r math hwn yn yr ardal yw Castell Maesllwch a adeiladwyd yn y 1830au mewn arddull gastellog Duduraidd, Clyro Court a adeiladwyd yn y 1840au, a Thy Parc Gwernyfed a Mans Pont-y-wal a adeiladwyd yn y 1870au a’r 1880au mewn arddull neo-Jacobeaidd. Ymddengys fod Parc Gwernyfed wedi disodli bwthyn hela cynharach, yng nghanol parc ceirw o’r canol oesoedd, ac roedd Pont-y-wal a Maesllwch ill dau wedi disodli tai cynharach a osodwyd mae’n debyg o fewn tiroedd pleser a pharciau tirlun oedd yn bodoli eisoes. Roedd stablau a cherbytai hefyd yn adeiladau oedd yn cydoesi gyda’r tai mawr gwledig hyn ac yn gysylltiedig â hwy, megis y rhai yn Clyro Court, Parc Gwernyfed a Phont-y-wal, a chyda porthordy a chlwydi porth, fel ym Mharc Gwernyfed a Chastell Maesllwch. Roedd amryw o’r ystadau mwyaf yn yr ardal, megis Llanthomas, yn cael effaith sylweddol ar y wlad o’u cwmpas, gan fod dodrefn tir y parc, clwydi, ffenestri a drysau o arddull unigryw ar gyfer y bythynnod, yn cael eu cynhyrchu mewn gweithdai ar y stad neu’n cael eu comisiynu gan y stad oddi wrth grefftwyr o’r tu allan.

Fe arweiniodd y gwelliannau i’r ffyrdd tyrpeg yn ystod diwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif, gyda chychwyn y dramffordd rhwng Y Gelli ac Aberhonddu ar ddechrau’r 19eg ganrif a Rheilffordd Henffordd, Y Gelli ac Aberhonddu ar ddiwedd y 19eg ganrif, at nifer gynyddol o ymwelwyr i’r ardal, ac fe arweiniodd hyn yn ei dro at amryw o westai a thafarndai min-y-ffordd newydd, neu wedi eu hadnewyddu’n sylweddol. Y rhai amlycaf o’u plith oedd y Griffin Inn, Bridge End Inn a Star House yn Llyswen, gwesty’r Maesllwch Arms yn Y Clas ar Wy, gwesty’r Baskerville Arms yng Nghleirwy, a gwesty’r Swan, gwesty’r Crown a’r George Inn (y ficerdy wedi hynny) yn Y Gelli, yr hen Sun Inn yn Llanigon, ac yn olaf gwesty’r Tower yn Nhalgarth. Roedd nifer o dafarnau cynharach wedi parhau neu wedi codi mewn amlygrwydd yn ystod y cyfnod, gan gynnwys gwesty’r Three Cocks, tafarn o’r cyfnod cyn y ffyrdd tyrpeg, sy’n sefyll allan oherwydd ei bod wedi rhoi ei henw i’r ardal ar hyd y coridor cysylltiadau pwysig a gododd rhwng Bronllys a’r Gelli. Ymddangosodd amrywiaeth eang o adeiladau eraill yn sgîl y chwyldro mewn trafnidiaeth yng Nghanol Dyffryn Gwy, gan gynnwys stablau a cherbytai yn gysylltiedig â thafarnau a thai preifat yn ystod diwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif, fel yn yr Old Radnor Arms, Talgarth a fferm Glan-hen-Wye. Mae Swyddfa’r Dramffordd yn Broomfield yn perthyn i Dramffordd Y Gelli-Aberhonddu a hefyd mae’n debyg y stablau yn Llwynau-bach, y ddau yn Treble Hill, a gorsafoedd rheilffordd ac adeiladau rheilffordd eraill y gwelir enghreifftiau ohonynt yn Nhalgarth a Threfeinion.

Gwelwyd ehangu mawr yn Y Gelli a Thalgarth yn ystod diwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif wrth i’r trefi ddatblygu fel canolfannau gwasanaethu ar gyfer yr ardaloedd oddi amgylch. Adeiladwyd nifer o dai trefol a siopau newydd, ac yn arbennig o nodedig yn y cyfnod hwn oedd ymddangosiad tai teras ar gyfer gweithwyr, yn aml naill ai mewn carreg gydag addurniadau brics neu yn gyfan gwbl mewn brics. Gwelwyd cynnydd yn nifer y tai i weithwyr yn amryw o bentrefi’r iseldir hefyd, yn enwedig yn ystod y 19eg ganrif, gan gynnwys Albert Terrace a Barn Cottage yn Llowes oedd, mae’n debyg, yn cynrychioli bythynnod gweision ffermydd.

Codwyd adeiladau cyhoeddus mawr newydd yn nhrefi Talgarth a’r Gelli yn ystod y 19eg ganrif. Yn y 1830au y codwyd Elusendai Harley yn Stryd yr Eglwys a Heol Aberhonddu, Y Gelli. Codwyd y cyntaf, yn ôl y gofeb, ‘ar gyfer derbyn 6 menyw frodorol dlawd AD MDCCCXXXII’. Mae’r Farchnad Fenyn a’r Farchnad Gaws ac Undeb Deddf y Tlodion hefyd yn dyddio o’r 1830au a Neuadd y Dref Talgarth o’r 1870au. Mae twr cloc Y Gelli o’r 1880au, mewn arddull ‘Gothig Uwch Fictoraidd’, yn fynegiant pellach o falchder dinesig y cyfnod hwn. Fe ailadeiladwyd llawer o’r eglwysi canol oesol oedd eisoes yn bodoli mewn arddull Gothig Fictoraidd yn ystod y 19eg ganrif gan gynnwys Bronllys, Cleirwy, Y Gelli, Llowes a Llyswen. Fe adeiladwyd eglwysi newydd yn hen blwyf Y Clas ar Wy, Yr Holl Saint i’r gogledd o afon Gwy a San Pedr i’r de, ar ôl i safle’r eglwys ganol oesol gael ei gadael yn dilyn llifogydd yn yr 17eg ganrif. Effaith arall o’r adfywiad crefyddol a fu yn ystod y ganrif oedd y cynnydd sydyn a fu mewn addoldai anghydffurfiol yn Y Clas ar Wy, a adeiladwyd yn y 1860au gyda haenau o gerrig rwbel tywodfaen gydag addurniadau o feini nadd, a Chapel y Bedyddwyr yn Treble Hill oedd yn cydoesi ac wedi ei adeiladu mewn brics coch gydag addurniadau tywodfaen mewn arddull syml glasurol. Roedd capeli gwledig y 19eg ganrif bob amser yn symlach eu harddull, wedi eu hadeiladu fel arfer o rwbel tywodfaen wedi’i rendro, fel yn achos Capel New Zion y Methodistiaid Cyntefig ym Moity, a Chapel y Bedyddwyr ym Mhenyrheol.

Ymddangosodd elfen amlwg arall yn nhirlun archeolegol Canol Dyffryn Gwy gydag adeiladu clystyrau mawr o adeiladau ysbyty yn Nhalgarth a Bronllys, pob un â’i gapel ar wahân wedi ei gynllunio gan bensaer. Fe adeiladwyd hen Ysbyty Canolbarth Cymru yn Nhalgarth, a agorwyd ym 1903, mewn arddull sefydliadol llym. Fe’i codwyd o garreg leol gydag addurniadau tywodfaen Grinshill, a haen fewnol o frics a wnaed yn y fan a’r lle. Fe adeiladwyd Ysbyty Bronllys i’r pwrpas fel sanatoriwm i drin y diciâu rhwng 1913-20, wedi’i gynllunio ar sail system pafiliwn eang ei gofod, ac fe’i defnyddir hyd heddiw fel ysbyty.

Mae adeiladau hanesyddol yn ffurfio elfen bwysig yn nhirlun hanesyddol Canol Gwy. Ar wahân i’w gwerth archeolegol cynhenid maent hefyd yn gofnod hollbwysig o hanes cymdeithasol ac economaidd yr ardal. Roedd nifer o adeiladau yn bwysig hefyd o safbwynt eu cysylltiadau hanesyddol neu lenyddol: mae Capel Maesyronnen yn gysylltiedig â’r mudiad anghydffurfiol cynnar yng Nghymru; cysylltir Coleg Trefeca a Threfecca-isaf (Fferm Coleg Trefecca) â’r arweinydd Methodistaidd o’r 18fed ganrif, Howel Harris a’r emynydd William Williams, Pantycelyn; Ashbrook House a Ficerdy Cleirwy oedd cartrefi’r dyddiadurwr Frances Kilvert yn ystod ei guradaeth yn y 1860au a’r 1870au; cysylltir Clyro Court â Syr Arthur Conan Doyle a’i nofel, The Hound of the Baskervilles; a Glasbury Gate Cottage oedd y fan lle y cofnodwyd yr unig ddigwyddiad yn yr ardal yn ystod Helyntion Beca yn gwrthwynebu’r tollau ar y ffyrdd tyrpeg yn y 1840au. Mae adeiladau unigol a grwpiau o adeiladau hefyd yn ffurfio elfen weledol bwysig yn y tirlun. Mae rheoli gosodiad gweledol nifer o adeiladau yn flaenoriaeth benodol, yn enwedig yn achos cestyll ac eglwysi hanesyddol, tirlun trefi a phentrefi hanesyddol, ac yn lleoliad tirlun plastai gwledig unigol, ffermydd, a chapeli yn yr ucheldir.

Mae rheoli a gwarchod tirluniau archeolegol Canol Dyffryn Gwy yn gosod aml i sialens ar gyfer y dyfodol, yn enwedig wrth geisio darganfod deunyddiau gwahanol ar gyfer adeiladau sydd bellach yn ddiddefnydd. Mae pob un o’r plastai gwledig yn yr ardal wedi cael eu trawsnewid naill ai yn westai neu ar gyfer defnydd sefydliadau, fel y mae un o’r ddwy ysbyty o’r 20fed ganrif yn yr ardal. Cafodd llawer o’r tai bonedd mwy o’r 18fed a’r 19eg ganrif eisoes eu trawsnewid yn llwyddiannus yn ganolfannau awyr agored, ac yn yr un modd fe drawsnewidiwyd amryw o’r hen gapeli anghydffurfiol yn dai. Y flaenoriaeth fwyaf heb amheuaeth yw’r adeiladau fferm hanesyddol a’r ffermdai sydd bellach yn ddiddefnydd, yn enwedig yn rhannau mwyaf anghysbell yr ardal, rhai ohonynt bellach mewn cyflwr gwael. Os nad yw trawsnewidiad neu gadwraeth yn syniad ymarferol mae angen gwneud cofnod o adeiladau unigol ar frys cyn iddynt gael eu colli. Mae blaenoriaeth bwysig arall o safbwynt rheolaeth a chadwraeth yn ymwneud ag amrywiaeth eang o ddyddodion archeolegol sy’n cadw elfennau o hanes archeolegol yr ardal sydd bellach ar goll. Yr hyn sy’n arbennig o bwysig yma yw dyddodion sy’n cynnwys tystiolaeth am adeiladau sy’n perthyn i gyfnodau cynhanesyddol, Rhufeinig a chanol oesol cynnar, ffurf tai a ffermdai a thai’r werin bobl o gyfnod cynnar yn y trefi a’r pentrefi, maenorau mynachaidd a chestyll, eglwysi wedi cau, a safleoedd diwydiannol cynnar na wyddys ond ychydig amdanynt. Mae archeoleg nifer o adeiladau sy’n dal i sefyll yn bwysig hefyd, yn enwedig mewn perthynas â gwybodaeth am eu defnydd, eu ffurf a’u dyddiad gwreiddiol.

Trafnidiaeth a Chysylltiadau

Fe dybiwyd bod ffordd Rufeinig oedd yn mynd tua’r dwyrain o Gaer Aberhonddu i gaer Rufeinig Kenchester yn Swydd Henffordd, yn rhedeg drwy Ganol Gwy, o bosibl ar hyd linell yr A438 rhwng Bronllys a’r Gelli, ond ni ddarganfuwyd unrhyw dystiolaeth bendant am hyn hyd yma. Cynrychiolir y dystiolaeth weledol gynharaf o hanes trafnidiaeth yn ardal tirlun hanesyddol Canol Gwy gan y ffyrdd troellog, lonydd glas, ceuffyrdd a llwybrau sy’n cysylltu’r prif aneddiadau a’r ffermydd unigol, llawer ohonynt yn tarddu o’r canol oesoedd, mae’n sicr bron, pan ddechreuodd pobl ymsefydlu yn yr ardal o ddifrif. Y nodweddion mwyaf amlwg o’r cyfnodau cynnar hyn yw’r ceuffyrdd sylweddol, hyd at 5-6m o ddyfnder ambell waith, ar y ffyrdd a’r llwybrau sy’n cysylltu pentrefi a ffermydd yr iseldir gyda thir comin yr ucheldir, sy’n pwysleisio’r erydu sylweddol a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod hir cyn cyflwyno wyneb ffyrdd metlin a draeniau ar y ffyrdd.

Roedd rhydau yn croesi’r prif afonydd a’r nentydd llai yn nodwedd bwysig o ardal y tirlun hanesyddol hyd at ddiwedd y 19eg a dechrau’r 20fed ganrif, ac roedd yr hen rydau hyn yn cael eu defnyddio eilwaith pan oedd pont, a oedd wedi cael ei chodi yn ei lle, wedi cael ei ysgubo i ffwrdd gan lifogydd, rhywbeth oedd yn digwydd yn gyson hyd at ganol y 19eg ganrif. Gwyddys am rydau cynnar dros afon Gwy yn Llyswen, Y Clas ar Wy, a’r Gelli, mannau croesi culaf gorlifdir afon Gwy, a dyma beth sydd wedi dylanwadu ar leoliad aneddiadau a safleoedd eraill yn y lleoedd hyn sydd wedi rheoli neu wedi cymryd mantais ar y mannau croesi, gan gynnwys y gaer debygol o’r Oes Haearn ym Mhen-rhiw-wen ger Llyswen, y clas neu’r ‘fam eglwys’ o’r cyfnod canol cynnar yn Y Clas ar Wy a’r gaer Rufeinig yng Nghleirwy, ar lan afon Gwy ar gyfer Y Gelli. Byddai cychod yn aml ar gael yn y mannau croesi hyn. Crybwyllir gwasanaeth cwch dros afon Gwy yn Y Clas ar Wy mor gynnar â 1311, ac yn Y Gelli mor gynnar â 1337. Yn ôl pob golwg fe ddaliwyd i ddefnyddio’r rhydau hyn hyd nes i bontydd gael eu codi yn eu lle, ac fe allent fod yn beryglus: fe soniodd John Leland, yr hynafiaethydd Seisnig, am yr anhawster o groesi’r rhyd dros afon Gwy yn Y Gelli tua’r 1530au; ‘for lak of good knowleg yn me of the Fourde did sore troble my Horse’. Ymddengys mai’r cyfeiriad cyntaf at bont dros afon Gwy yw’r cyfeiriad ym 1665 at hen bont yn Y Clas ar Wy, ychydig yn uwch i fyny’r afon na’r bont bresennol, ger cymer afon Llynfi. Fe godwyd y bont gyntaf dros afon Gwy yn Y Gelli yn nghanol y 18fed ganrif a’r bont gyntaf rhwng Llyswen a Bochrwyd mor hwyr â’r 1830au. Mae’r Topographical Dictionary of Wales, gan Samuel Lewis, a gyhoeddwyd ym 1833, yn crybwyll bod ‘cwch a cheffyl yno’n aros bob amser’ ym man croesi afon Bochrwyd. Cofnodir hen rydau ar draws afonydd a nentydd mewn mannau lle y codwyd pontydd wedi hynny, fel yn achos Old Ffordd-fawr dros Nant Digedi a Ffordd-las dros Nant Ysgallen. Cofnodir y rhyd dros afon Gwy ym Mochrwyd yn enw’r cae Cae Rhyd i’r gorllewin o’r bont bresennol, ac mae’n bosibl (ond nid yn bendant o gwbl) fod enw Bochrwyd ei hun yn tarddu o Bach-rhyd neu ‘ryd fach’. Mae amryw o rydau a phontydd troed dros y nentydd llai yn yr ardal wedi eu marcio ar fapiau’r Arolwg Ordnans a gyhoeddwyd ar ddiwedd y 19eg ganrif. Bellach fe osodwyd pontydd bychain concrid yn eu lle neu danffos oddi tanynt.

Ymddengys mai ychydig iawn a wyddys am drafnidiaeth gynnar ar yr afon i fyny afon Gwy, er ei bod yn debygol fod rhywfaint o nwyddau’n cael eu symud i fyny ac i lawr yr afon, ar rai adegau o’r flwyddyn o leiaf, hyd at ganol y 18fed ganrif, pan wnaed gwelliannau i drafnidiaeth ffyrdd yr ardal. Mae’n debyg fod yr enw Fferm Boatside ar lan afon Gwy yr ochr arall i’r Gelli, ac enwau caeau Maeslan Cafan (cafan yn golygu cwch), Boatside Field, Boatside Ground, Boughrood Bridge, a gofnodwyd yn Rhaniad y Degwm yn Llyswen ym 1838, oll yn cyfeirio at hen wasanaethau cwch yn y mannau hyn.

Mae’n debygol fod pontydd syml dros nentydd wedi cael eu codi o gyfnod cynnar. Roedd pontydd o slaben garreg dros nentydd bychain yn nodwedd o ardaloedd lle’r oedd cerrig addas ar gael. Mae nifer o’r rhain wedi goroesi, gan gynnwys un ger mynedfa Fferm Blaenau-isaf, ger tarddiad Nant Felindre.

Ceir awgrymiadau, yn dilyn twf y fasnach allforio gwartheg i farchnadoedd yn Lloegr ar ddechrau’r 18fed ganrif, fod Canol Dyffryn Gwy wedi tyfu i fod yn llwybr pwysig i’r porthmyn. Roedd y llwybr o Orllewin Cymru yn hollti yn Aberhonddu yn llwybr i’r de drwy ddyffryn Gwy i Drefynwy a thrwy ddyffryn Llynfi a Gwy i Henffordd.

Bu newidiadau mawr yn system y ffyrdd yn sgîl y gwelliannau a wnaed i’r ffyrdd ar ddiwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif. Hyd at yr amser hwn ni fyddai llawer o’r ffyrdd yn ardal y tirlun hanesyddol ‘ddim gwell na ffosydd, yn llawn o lwch yn yr haf a bron yn amhosibl eu tramwyo yn y gaeaf’. Mae’n debyg mai cyflwr y ffyrdd a wnaeth i Defoe ailadrodd y cyfeiriad gwatwarus at y sir fel ‘Breakneckshire’ yn ei Tour Through the Whole island of Great Britain, a gyhoeddwyd yn y 1720au. Disgrifiodd Richard Fenton, ar daith gyda Syr Richard Colt Hoare ym Mai 1804, y siwrnai o Lanfair ym Muallt â’r geiriau hyn: ‘and at last got to Hay, through most horrid roads, but a beautiful country, thank God, without any accident, and with only my Feet a little damped.’

Dechreuwyd gwella’r ffyrdd yn y sir gan Gymdeithas Amaethyddol Sir Frycheiniog yn y 1750au. Ymhlith mentrau eraill, fe sicrhaodd y Gymdeithas aradr ffordd i unrhyw un oedd â diddordeb. Cymerwyd lle diddordebau’r Gymdeithas Amaethyddol yn y maes hwn gan ymddiriedolaeth dollbyrth a sefydlwyd yn dilyn deddf Seneddol oedd yn caniatáu gwella rhai o brif ffyrdd Sir Frycheiniog yn y 1760au. Pasiwyd ail ddeddf ym 1830, ac adeiladwyd ffordd newydd i’r de o Dalgarth i Nant y Ffin. Fe symudwyd rhai tollbyrth yn dilyn Helyntion Beca yn y 1840au. Trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am yr holl dollbyrth i’r sir erbyn yr 1880au, ac erbyn hynny roedd y rhwydwaith ffyrdd yn edrych yn debycach i’r hyn ydyw heddiw. Mae rhai o’r ffyrdd newydd yn torri drwy systemau caeau cynharach fel yn achos y ffyrdd oedd yn torri drwy gaeau stribed canoloesol i’r gorllewin o Lyswen ac ym Mochrwyd Brest, a’r ffordd a adeiladwyd i’r de o Dalgarth, sy’n torri drwy amryw o derfynau caeau oedd yn mynd yn ôl i’r cyfnod canol o bosibl. Fe symudwyd neu ddilëwyd nifer o ffyrdd eraill ar gyfer dibenion eraill yn y cyfnod hwn, fel yn achos yr hen ffordd oedd yn cysylltu’r Clas ar Wy a chomin ucheldir Ffynnon Gynydd, y newidiwyd ei hynt ar ddechrau’r 19eg ganrif er mwyn creu parc Castell Maesllwch.

Fe adeiladwyd ffyrdd newydd mwy uniongyrchol neu fe gafodd ffyrdd oedd yn bodoli eisoes eu sythu neu eu lledu a chrëwyd ffosydd i gydredeg. Gosodwyd tollbyrth a tholldai i dalu am y gwelliannau. Plannwyd gwrychoedd newydd i atal stoc rhag crwydro ac i warchod cnydau oedd yn tyfu rhag anifeiliaid oedd yn cael eu symud ar hyd y ffyrdd. Mae nifer sylweddol o gerrig milltir o gyfnod trafnidiaeth ffordd y tollbyrth ar ddiwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif, wedi goroesi o fewn ardal y tirlun hanesyddol, fel arfer ar ffurf slabiau tywodfaen, yn aml wedi eu gwyngalchu a phennau crynion, yn dangos y pellter ar hyd y ffordd i’r prif aneddiadau yn y ddau gyfeiriad. Ymhlith yr enghreifftiau sydd wedi goroesi y mae: Heol Bronllys yn Nhalgarth, gyferbyn â Thy Arfon; gyferbyn â College Farm yn Nhrefeca; ger fferm Marish ar dollborth Talgarth-Llyswen; ger Little Eames ac Y Dderw ar dollborth Aberllynfi-Llyswen; wrth y drofa i Borthamel; yng nghanol Cleirwy; i’r gogledd-ddwyrain o Lowes; ac i’r dwyrain o Faesllwch. Ymddengys nad oes llawer o’r hen dolldai ar hyd ffyrdd tyrpeg yr ardal wedi goroesi. Fe gafodd rhai, megis Giât Trefecca ar y ffordd dyrpeg rhwng Talgarth a Llangors, a Giât Dewsbury ger Penmaes ar y ffordd dyrpeg rhwng Bronllys a’r Gelli, eu dymchwel yn yr 20fed ganrif er mwyn gwella’r ffyrdd. Dangosir yr hen Glasbury Gate Cottage, sy’n dal i oroesi ar lwybr gogleddol y pentref, ar Fap Degwm 1841. Mae’n debyg mai yma y bu’r unig ddigwyddiad a gofnodwyd yn ystod Helyntion Beca yn 1843-44.

Mae pontydd newydd wedi cael eu gosod yn y cyfnod modern yn lle llawer o’r pontydd cynharaf o fewn y tirlun hanesyddol, ond mae amryw o bontydd wedi goroesi o gyfnod y canol oesoedd hwyr neu gyfnod y gwelliannau mewn cysylltiadau ar ddiwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif, rhai ohonynt wedi eu hadeiladu gan ymddiriedolaethau’r tollbyrth, rhai gan yr awdurdodau sirol, a rhai gan ystadau preifat. Mae gan y tair pont sy’n croesi afon Gwy ac sy’n cysylltu ochr ogleddol a deheuol ardal y tirlun hanesyddol, hanes cymhleth a brith. Fel y nodwyd uchod, ceir y cyfeiriad cyntaf at Bont Y Clas ar Wy rywbryd cyn 1665, ymhellach i’r gorllewin na’r bont bresennol. Pan syrthiodd pont bren ym 1783 fe godwyd pont bren arall yn ei lle ac fe’i defnyddiwyd am tua 40 mlynedd, ac yna fe’i disodlwyd gan bont garreg gyda phum bwa ym 1777. Fe ddisgynnodd hon mewn llif ym 1795 a chodwyd pont bren yn ei lle ym 1880. Cafodd y bont ei difrodi ym 1850 ac er iddi gael ei diogelu ar gyfer cerddwyr fe syrthiodd unwaith eto a threfnwyd gwasanaeth cwch yn ei lle. Fe wnaed cynlluniau i’w thrwsio, gyda choed a phileri cerrig. Fe gododd dadl gyfreithiol ynghylch cost yr atgyweirio, fodd bynnag, ar ôl i ran ddeheuol plwyf Y Clas ar Wy gael ei throsglwyddo i Sir Frycheiniog o Sir Faesyfed ym 1844. O ganlyniad i hyn roedd gan y bont newydd bileri carreg ar ochr ddeheuol yr afon ac estyll o goed ar yr ochr ogleddol. Fe godwyd y bont goncrid bresennol yn yr 20fed ganrif. Y bont gyntaf a gofnodir dros afon Gwy yn Y Gelli yw pont bren a godwyd ar ddechrau neu ganol y 18fed ganrif. Yn lle hon fe godwyd y bont garreg gyntaf, tollbont gyda saith bwa, yn yr 1760au, a dangosir lleoliad yr hen ryd gan Wye Ford Road, tua 200m i’r gogledd o’r bont bresennol. Fel Pont Y Clas ar Wy, cafodd hon ei dinistrio’n rhannol gan lifogydd ym 1795, ac er iddi gael ei thrwsio fe’i dinistriwyd eto ym 1854-55 a threfnwyd gwasanaeth cwch yn ei lle. Cwblhawyd tollbont newydd ym 1865, ac fe’i disodlwyd ym 1958 gan y bont goncrid bresennol a wasgwyd ymlaen llaw. Fe adeiladwyd Pont Bochrwyd, pont garreg gyda phedwar bwa cylchrannol a bwâu hanner crwn ym mhob pen, ym 1838-42. Fe ychwanegwyd tolldy deulawr ar y ffordd o’r gogledd ym 1843 ac roedd y preswylwyr yn y 1850au yn cyfuno casglu’r tollau gyda rhedeg busnes crydd. Fe godwyd y bont gan stad breifat yn lle hen ryd a chwch, ar draul teulu de Winton o Gastell Maesllwch i alluogi glo, golosg a chalch i gael ei gludo i dde sir Faesyfed. Daliwyd i godi toll hyd at 1934.

Mae gan rai pontydd hanes cynharach, cyn cyfnod y ffyrdd tyrpeg, a’r hynaf mae’n debyg yw Pont-y-twr dros afon Ennig yn Nhalgarth. Mae’n bosibl fod hon yn dyddio’n ôl i’r canol oesoedd ond cafodd ei hatgyweirio ym 1801 ac fe’i haddaswyd yn fwy diweddar. Ymhlith hen bontydd eraill y mae Pontithel a Phont Pipton dros afon Llynfi a grybwyllir ym 1686, ‘Pont Diwlas’ dros Nant Dulas yn Y Gelli a grybwyllwyd ar ddiwedd yr 17eg ganrif, Pont Eiddil, i’r de o Drefeca, a grybwyllwyd ym 1706, Pont Llanthomas dros Nant Digedi, a ailadeiladwyd ym 1707, ond ychydig ohonynt sydd wedi goroesi ar eu ffurf wreiddiol. Fe ddisodlwyd llawer o’r rhain a phontydd eraill yng nghyfnod y tollbyrth ar ddiwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif, ac mae rhai yn dal mewn bod, un bwa carreg yn y canol yn aml gyda chanllawiau o gerrig rwbel a slabiau gwastad yn gerrig copa. Mae’r rhain yn cynnwys pont o’r ?18fed ganrif dros afon Ennig ar gyrion deheuol Talgarth, y pontydd diweddarach o’r 18fed ganrif ym Mhontithel a Phont Tregunter, a gafodd eu lledu wedi hynny, Pont Llanigon a Phont Old Ffordd-fawr, y ddwy dros afon Digedi. Cafodd y gyntaf ei chrybwyll ym 1803, a dyddiad yr ail yw 1812. Ymhlith pontydd eraill o ddiwedd y 19eg ganrif mae Pont Cwrtyrargoed i’r gogledd-ddwyrain o Felindre, y bont ffordd gerllaw Ty Tregoed, a’r bont dros Nant Dulas yn Y Gelli, a ailadeiladwyd ym 1884, rhai ohonynt gyda bwâu o frics. Ymhlith y pontydd concrid modern sydd mewn llawer achos wedi disodli hen bontydd o fewn ardal y tirlun hanesyddol y mae Pont Y Clas ar Wy a Phont Y Gelli dros afon Gwy, Pont Glandwr, Pont Nichol, Pont Coildbrook, Pont Castell Bronllys, a Phont Pipton dros afon Llynfi a’i his-afonydd, Pont y Clas ar Wy, Felin-newydd, Pont Trephilip, Pontybat dros afon Dulas a’i his-afonydd, a llawer o bontydd concrid llai sydd wedi eu codi yn lle hen rydau dros y nentydd.

Fe adeiladwyd nifer o stablau a cherbytai yn gysylltiedig â rhai o’r tai bonedd a thafarnau cerbydau yn yr ardal yn dilyn y gwelliannau i’r ffyrdd tyrpeg, yn enwedig yn ystod y 19eg ganrif. Ymhlith yr enghreifftiau nodedig mae’r cerbyty a’r stablau o’r 19eg ganrif yng Nghastell Y Gelli, y stablau carreg yn Clyro Court o’r 1830au, y stablau a’r cerbyty carreg o 1830-40 yn Glan-hen Wye, yr hen stabl frics a’r cerbyty ym Mharc Gwynne, Y Clas ar Wy o’r 1860-70au, a’r hen stablau yn Nhy Parc Gwernyfed, sy’n dyddio’n ôl i’r 1870au. Fe gododd Gwestai newydd yn yr aneddiadau mwyaf ac ar hyd y ffyrdd tyrpeg newydd, i gwrdd ag anghenion teithwyr mewn coets. Mae gwesty’r Swan o tua 1812, oedd ar un adeg â chyfres o stablau yn y cefn, yn perthyn i’r cyfnod hwn. Mae gwesty’r Baskerville Arms yng Nghleirwy gyda’r hen gerbyty yn y cefn, yr hen Radnor Arms, Talgarth gyda’i stablau yn y cefn, a gwesty’r Maesllwch Arms, Y Clas ar Wy, gyda’i stabl a’i gerbyty yn y cefn, hefyd yn perthyn i’r cyfnod rhwng diwedd y 18fed a chanol y 19eg ganrif. Y stablau o ddechrau’r 18fed ganrif ym Mhenyrwrlodd, i’r de o Lanigon, yw un o’r ychydig adeiladau o’i fath yn yr ardal sy’n perthyn i’r cyfnod cyn y tollbyrth.

Fe fu datblygiadau pwysig pellach yn y system drafnidiaeth yn ardal tirlun hanesyddol Canol Dyffryn Gwy yn sgîl cwblhau Camlas Aberhonddu a’r Fenni i Aberhonddu ar ddiwedd y 18fed ganrif. Ar y dechrau y bwriad oedd adeiladu cangen i’r gamlas o Gamlas Aberhonddu a’r Fenni i mewn i afon Gwy yn Y Gelli, ond aeth y cynllun i’r wal oherwydd diffyg cyfalaf. Yn raddol, fe sefydlwyd y cysylltiad gan dramffordd geffylau Aberhonddu-Y Gelli, y cychwynnwyd ei hadeiladu ym 1816, gyda rheiliau haearn oedd yn mesur 3 troedfedd a 6 modfedd yn gorwedd ar slipars carreg. Fe adeiladwyd y dramffordd gan Gwmni Rheilffordd Y Gelli, consortiwm o dirfeddianwyr, perchnogion gweithfeydd glo a haearn, a bancwyr, a’r bwriad pennaf oedd dod â nwyddau eraill i mewn i’r ardal o faes glo De Cymru, a thrwy hynny datblygu masnach. Cafodd y llwybr o Aberhonddu i’r Gelli ei gwblhau ym 1818, ac yn yr un flwyddyn fe ffurfiwyd Cwmni Rheilffordd Kington i fynd â’r llwybr yn ei flaen i Geintun a gwaith calch Burlingjobb yn Sir Faesyfed, a chysylltu â Chamlas Leominster yng Ngheintun. Bu’r dramffordd mewn bodolaeth am dros 40 mlynedd, gan gystadlu â’r ffyrdd tyrpeg newydd am fusnes. Ym 1862 cafodd y dramffordd ei disodli gan Gwmni Rheilffordd Henffordd, Y Gelli ac Aberhonddu. Dilynwyd hen hynt y dramffordd gan y rheilffordd gan fwyaf, er fod olion o’r hen argloddiau a’i danffosydd i’w gweld mewn rhai mannau hyd heddiw, fel yn arglawdd Trefecca Fawr i’r de o Dredustan a’r darren a dorrwyd i mewn i ymyl gorlifdir afon Gwy yn y Warren i’r gorllewin o’r Gelli. Roedd y rheilffordd, fel y dramffordd o’i blaen, yn osgoi adeiladau oedd yn bod eisoes ar y cyfan, ond roedd yn torri drwy hen drefn caeau ar hyd y ffordd. Gwnaed gwelliannau i’r lein dros y blynyddoedd nesaf, gan gynnwys cloddio Trychfa’r Clas ar Wy yn Treble Hill, ac o fewn rhai blynyddoedd fe unwyd â lein Canolbarth Cymru i Lanidloes yng nghyffordd Three Cocks. Fe unwyd Cwmni Henffordd, Y Gelli ac Aberhonddu â Chwmni Rheilffordd y Midland ym 1874, yn dwyn yr enw Rheilffordd Canolbarth Cymru wedi hynny. Bu gorsafoedd a chanolfannau ar ryw adeg neu’i gilydd yn Nhalgarth, Trefeinion, Bochrwyd, Three Cocks, Y Clas ar Wy a’r Gelli, a chaeodd y rheilffordd i deithwyr yn y diwedd ym 1962.

Cysylltir adeiladau a strwythurau amrywiol eraill â’r dramffordd ac â’r rheilffordd. Er fod y rheilffordd bellach wedi cael ei datgymalu, mae cyfres o bentanau pontydd o’r 1860au wedi goroesi yn Treble Hill ac i’r de-orllewin o Dalgarth, gyda phont fwaog hyfryd o’r un cyfnod gyda bwa o frics yn Treble Hill. Yn Llwynau-bach, i’r gogledd-ddwyrain o Treble Hill ymddengys fod hen stabl garreg ddeulawr ar ochr hen arglawdd tramffordd Aberhonddu-Y Gelli, wedi cael ei defnyddio ar gyfer stablu anifeiliaid gwaith a ddefnyddid ar y dramffordd, a daeth yr adeiladau’n rhan o fferm plas Broomfield wedi hynny. Mae’n debyg fod y ty braf o ddechrau’r 19eg ganrif yn Broomfield wedi cael ei godi gan William Bridgewater, gweithredwr Tramffordd Y Gelli-Aberhonddu. Fe saif drws nesa i iard nwyddau a swyddfa’r dramffordd a adnabyddid gynt fel Glanfa’r Clas ar Wy, lle gwelir gweddillion storfeydd wedi’u rhannu’n adrannau ar gyfer glo, calch a nwyddau eraill. Roedd gyrwyr o’r Gelli ac Aberhonddu yn cyfnewid ceffylau a llwythi yn y ganolfan hon. Mae gweddillion eraill o’r dramffordd a’r rheilffordd i’w gweld yn yr ardal, gan gynnwys nifer o slipars carreg o’r dramffordd, a ailddefnyddiwyd weithiau fel pyst giatiau ac ambell i fan nwyddau a ddefnyddir fel siediau mewn cae.

Yn ystod yr 20fed ganrif gwelwyd trafnidiaeth ffordd fecanyddol yn dod yn amlycach na’r un ffurf arall o deithio yn ardal y tirlun hanesyddol, ac mae effaith archeolegol cynlluniau sythu ffyrdd a meysydd parcio, yn arbennig ffordd osgoi Cleirwy a adeiladwyd ym 1959 a’r maes parcio dinesig yn Y Gelli, a adeiladwyd dros ran o’r caeau agored i’r de o ganol y dref.

Mae ardal tirlun hanesyddol Canol Dyffryn Gwy yn cynnwys amrywiaeth eang o strwythurau yn ymwneud â hanes trafnidiaeth a chysylltiadau, sy’n codi amryw byd o gwestiynau ynglyn â rheolaeth a chadwraeth, gan gynnwys y canlynol: olion hen bontydd, hen lwybrau, ceuffyrdd a lonydd glas; strwythurau’n ymwneud â chyfnod y tollbyrth o hanes trafnidiaeth gan gynnwys tolldai, cerrig milltir, pontydd, cerbytai, stablau; strwythurau’n ymwneud â thramffyrdd a rheilffyrdd, gan gynnwys hafnau ac argloddiau, ceuffosydd, pontydd, pentanau pontydd, stablau tramffordd, gorsafoedd a ierdydd nwyddau.

Tirluniau Diwydiannol

Yr unig dystiolaeth o weithgarwch diwydiannol cynnar o fewn ardal y tirlun hanesyddol yw tystiolaeth o waith haearn blwm Brythonaidd-Rufeinig yng Nghaer Gwernyfed, a ddarganfuwyd o ganlyniad i gloddio archeolegol yn yr 1950au.

Roedd diwydiannau diweddarach yn ymwneud â phrosesu cynnyrch amaethyddol gan fwyaf, drwy ddefnyddio ynni o ddwr fel arfer. Cofnodir dwy felin ddwr i falu yd yn Y Gelli yn y 1330au, a chrybwyllir un yn y 1340au yn gweithio o gafn wedi ei ddargyfeirio o Nant Dulas. Cofnodir amryw o felinau eraill, llawer am y tro cyntaf ar ddiwedd y 18fed neu ddechrau’r 19eg ganrif, gan gynnwys y canlynol: un ar afon Cilonw yn Llanigon; un yn Llowes, yn defnyddio nant Glyn Garth; tair melin ar Nant Cleirwy, Melin Pentwyn, Melin Paradise a Melin Cleirwy ei hun, i’r de o’r pentref, a ddaeth i ben tua’r 1920au; Little Mill, i’r dwyrain o Faesllwch, yn gweithio ar nant oedd yn rhedeg drwy Glyn Cilcenni, a grybwyllwyd gyntaf ar ddechrau’r 17eg ganrif; o leiaf pedair melin ar afon Llynfi yng Nglandwr, melin Pont Nichol, Porthamel a Three Cocks; Melin Trebarried ar afon Dulas ac yn Felin-newydd ar afon Triffrwd, is-afon o’r Dulas i’r gorllewin o Fronllys. Mae hanes rhai o’r melinau wedi ei gofnodi’n eithaf da, er mai ychydig iawn a wyddys am rai o’r lleill, megis yr hen felin yn Felin Cwm ar Nant yr Eiddil i’r de o Dalgarth. Dim ond un melin yd o fewn ardal y tirlun hanesyddol oedd ar afon Gwy ei hun, sef melin ger y bont ym Mochrwyd, er fod melin lifio yn cael ei gyrru â dwr wedi cael ei hadeiladu ar lan ogleddol afon Gwy yn Y Clas ar Wy. Newidiodd swyddogaeth rhai o’r melinau â threigl amser. Credir fod Melin Talgarth, er enghraifft, wedi cychwyn fel melin wehyddu, ond yn ddiweddarach ar gyfer malu yd ac yna ar gyfer bwyd anifeiliaid y’i defnyddiwyd. Daeth ei gwaith i ben yn y 1970au. Yn debyg iawn, cychwynnodd Melin Tregoed fel melin malu yd ond fe’i haddaswyd yn felin lifio a bu’n gweithio rhwng tua 1920-60. Digon gwael oedd y cyflenwad dwr i lawer o’r melinau, yn dibynnu ar y tymhorau, a daeth llawer ohonynt i ddiwedd eu hoes rhwng diwedd y 18fed a dechrau’r 20fed ganrif oherwydd cystadleuaeth â melinau eraill unwaith yr oedd dulliau gwell o drafnidiaeth ar gael. Erbyn 1900 dim ond tua chwech neu saith melin ddwr i falu yd oedd yn dal i weithio yn yr ardal, yng Nghleirwy Talgarth, Three Cocks/Aberllynfi, Y Gelli, Llanigon, Trebarried, a daeth y gwaith o falu yd i ben ymhob un ohonynt yn ystod degawdau cyntaf yr 20fed ganrif.

Roedd ynni dwr hefyd yn cael ei harneisio o gyfnod cynnar i redeg melinau pannu, oedd â morthwylion i guro’r defnydd ar ôl cael ei wehyddu er mwyn glanhau a chadarnhau’r defnydd. Cofnodwyd llond dwrn o’r melinau hyn yn yr ardal yn y 14eg ganrif gan gynnwys un ym mhlwyf Y Clas ar Wy, un ym Mronllys, un mae’n debyg ar afon Dulas, un yn Y Gelli, ar Nant Dulas mae’n debyg, ac un yn Nhalgarth, ar afon Ennig mae’n debyg. Roedd rhai o’r melinau pannu eisoes wedi diflannu yn ôl pob tebyg erbyn diwedd y canol oesoedd, er fod melin ym Mronllys wedi dal ati hyd at y 1760au. Adeiladwyd amryw o felinau papur ar Nant Dulas, un ger Llangwathan ac un ger Cusop, ond oes fer a gawsant mae’n debyg ac roedd eu hoes wedi dod i ben cyn diwedd y 19eg ganrif. Byddai ynni dwr yn cael ei harneisio o bryd i’w gilydd ar ffermydd. Roedd Fferm Old Gwernyfed yn cynnwys ysgubor ddyrnu, a osodwyd yn ei lle yn y 1890au, yn rhedeg ar ynni dwr ac yn cael ei bwydo o gafn. Mae nifer o adeiladau melin carreg o’r 18fed a’r 19eg ganrif wedi goroesi, fel yn achos Melin Talgarth, rhai ohonynt bellach wedi eu trosi ar gyfer defnydd arall, fel yn achos Melin Llangwathan. Melin Tregoed yw un o’r ychydig felinau o fewn ardal y tirlun hanesyddol sydd wedi cadw’i hen beirianwaith. Mae olion y strwythurau cysylltiedig megis coredau, cafnau a llynnoedd wedi goroesi mewn llawer achos, hyd yn oed lle mae’r adeiladau eu hunain wedi adfeilio neu wedi cael eu dymchwel.

Ychydig iawn o olion archeolegol gweledol, neu ddim o gwbl, a adawyd gan hen ddiwydiannau prosesu eraill oedd yn gweithredu o fewn yr ardal, rhai am ychydig o flynyddoedd yn unig. Roedd llin yn cael ei dyfu a’i brosesu yn arbrofol yn yr 1780au a’r 1790au ym mhlwyfi’r Gelli, Y Clas ar Wy a Llanelieu. Roedd pwll llifio, yn perthyn i iard lifio, yn cael ei ddefnyddio ger Genffordd yng nghanol y 19eg ganrif. Awgrymir diwydiant hopys gan enw cae Upper Hop Yard ger Lower Porthamel, a geir yn Rhaniad y Degwm o ganol y 19eg ganrif, a cheir cofnod am fusnes bragu ym Mronllys tua’r un cyfnod. Mae hen fragdy wedi goroesi yng nghefn yr hen Radnor Arms yn Nhalgarth. Mae llwyfannau yn Park Wood ac mewn caeau cyfagos ger Talgarth yn awgrymu bod golosg yn cael ei losgi yma. Roedd amryw o fusnesau yn Y Gelli yn trin crwyn hyd at ddechrau’r 20fed ganrif, ac yn cynnal gweithdy sadler. Roedd busnes didoli gwlân mewn warws fawr yn Y Clas ar Wy ar ddechrau’r 20fed ganrif. Mae’r hen ffatri wlanen wedi goroesi yn Y Gelli. Cafodd ei sefydlu yn niwedd y 18fed ganrif ond roedd wedi cau erbyn tua diwedd y 19eg ganrif. Ychydig iawn a wyddys am yr hen ffatri wlanen yn Nhrefeca, y dywedir iddi gynhyrchu ‘peth o’r gwlanen gorau drwy’r dywysogaeth’. Fe sefydlwyd melin Trefeca gan y gymuned Fethodistaidd ym 1752 – ymdrech i gefnogi diwydiant a oedd eisoes yn dirywio, ond dirywio wnaeth hon hefyd ar ôl marwolaeth Howel Harris, arweinydd y gymuned, ym 1773.

Roedd efail y gof ymhlith y diwydiannau crefft gwledig hynny oedd ar un adeg yn gyffredin iawn, a gellir eu darganfod hyd heddiw mewn un neu ddau achos. O safbwynt lleoliad hwylus i alw ynddo, roedd y gefeiliau wedi’u lleoli o fewn trefi a phentrefi neu ar gyffyrdd pwysig. Cofnodwyd busnesau unigol yn Nhrefeca, Felindre, Pontybat, Cleirwy, Y Clas ar Wy, Llanfilo, Llanigon a Bronllys, dwy yn Y Gelli, dwy yn Nhalgarth, a thair yn Three Cocks/Aberllynfi ar ryw adeg neu’i gilydd yn ystod y 19eg a dechrau’r 20fed ganrif, ac roedd y busnes yn Felindre ac un o’r busnesau yn Y Gelli yn gysylltiedig â gweithdai seiri olwynion. Byddai cynnyrch y gof yn cael eu dosbarthu’n lleol yn aml, ac un enghraifft o hyn yw gwaith haearn J. Jones, gof Pontybat, y gellir gweld ei golfachau hyd heddiw ar ddrysau ysgubor Fferm Trephilip, dim ond tua 1 cilomedr i ffwrdd o’i hen efail.

Roedd cynhyrchu calch yn ddiwydiant arall pwysig oedd yn digwydd ar raddfa go fawr er mwyn cynnal yr economi amaethyddol lleol ar ddiwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif, fel arfer yn agos at chwareli bychain oedd yn ecsploetio’r haenau tenau o galchfaen, ac yn aml wedi’u lleoli mewn lleoedd anghysbell. Cofnodir hen odynau calch yn y lleoliadau hyn: New Forest yn Cusop Dingle; Park Wood i’r gorllewin o Dalgarth; yng Nghwm Rhyd-Ellywe, i’r gorllewin o Lanelieu; odyn Dairy Farm, i’r de o Ffordd-las; ger Coedwig Blaenycwm ac yn Cefn, i’r de o Dregoed; ger Blaenau-uchaf ym mhen uchaf Nant Felindre; ger Bwlch ar ben uchaf Glyn Digedi; yn Chwarel-ddu i’r dwyrain o Dwmpa; ger Tredomen; ger Fferm Hillis; ger Draen; a ger Cwrt Llwyfen. Mae gweddillion strwythur yr hen odynau wedi goroesi mewn llawer achos, yn arbennig felly yn New Forest a Chwarel-ddu. Mae’n ymddangos bod dyddodion twffa ar Gomin Hen Allt wedi cael eu cloddio ar gyfer cerrig adeiladu ac er mwyn llosgi calch. Dim ond enwau lleoedd sy’n dyst i rai odynau, enwau caeau Cymraeg megis Cae’r odyn ac amrywiadau megis Cae rodin a Chae y roden, gan gynnwys amryw yng nghyffiniau Troed-yr-harn, ar fryniau deheuol Talgarth. Cofnodir odyn arall yn seiliedig ar chwarel leol yn Chancefield, yn gweithio yn ôl pob golwg ar ddiwedd y 18fed ganrif. Mae lleoliadau’r enwau caeau yn gyffredinol yn cyfateb yn ôl pob golwg i gerrig brig calchfaen y gwyddys amdanynt, ac mae’n edrych yn annhebygol mai odynau sychu yd neu odynau crochenwaith neu frics y cyfeirir atynt. Dangosir amryw o odynau gan enwau caeau Saesneg, gan gynnwys Limekiln Field i’r de o Felindre a Kiln Piece ger Pant Barn i’r de o’r Gelli. Fe nododd Theophilus Jones ar ddechrau’r 19eg ganrif fod y gost o gynhyrchu calch yn lleol yn ddrud oherwydd eu bod yn bell o’r pyllau glo. Fe ddirywiodd y diwydiant yn ystod y 19eg ganrif oherwydd cystadleuaeth gan y cynhyrchwyr mwy mewn lleoedd eraill, yn enwedig ar ôl adeiladu Tramffordd Y Gelli-Aberhonddu ar ddechrau’r 19eg ganrif.

Gellir gweld amryw o chwareli cerrig eraill yn ardal y tirlun hanesyddol. Rhai bychain yw’r rhain gan fwyaf, yn cael eu defnyddio fwyaf yn ôl pob tebyg o’r canol oesoedd diweddar ymlaen ar gyfer cerrig adeiladu ac mewn rhai achosion ar gyfer waliau caeau. Roedd nifer fach o chwareli yn gweithio ar raddfa mwy masnachol. Roedd chwareli cerrig Llanigon, nepell o dramffordd Y Gelli ac Aberhonddu, yn cael ei gweithio yn y 1840au, yn ôl pob golwg am galchfaen, cerrig adeiladu a theiliau toi. Cofnodir chwareli graean bychain oedd yn ecsploetio dyddodion rhewlifol yr afonydd i’r de o Lowes, ger Tregunter, ger Gwernllwyd i’r dwyrain o Dalgarth, i’r gorllewin o Three Cocks/Aberllynfi, i’r gorllewin o Fronllys, ac i’r de o Ysbyty Talgarth. Roedd dyddodion clai ar ochr cwm serth i’r gorllewin o fferm Whole House, ar y ffin rhwng plwyfi Talgarth a Llangors, yn sail i odyn grochenwaith leol yn cynhyrchu tygiau, jygiau, jariau a chrochenwaith slip a llestri yn y cyfnod rhwng tua chanol yr 17eg ganrif a dechrau’r 18fed ganrif. Mae’r gweddillion yn awgrymu bod teiliau brig to wedi eu sgleinio yn cael eu cynhyrchu hefyd yn y cyfnod hwn. Mae darganfyddiadau ar wyneb y tir a phyllau clai yn ardal Fferm Boatside, Tir-mynach a Wyecliff i’r dwyrain o Gleirwy yn awgrymu bod odynau tebyg hefyd yn gweithredu yma tua’r un cyfnod. Er nad oeddynt yn cynrychioli diwydiant lleol o bwys mawr, roedd brics yn cael eu cynhyrchu’n helaeth ar gyfer prosiectau adeiladu arbennig, fel yn achos y rhai a grybwyllir gan y Parch Kilvert yn y 1870au, yn ardal Nant Cleirwy mae’n debyg. Dywedir bod tair miliwn o frics wedi cael eu cynhyrchu o glai lleol, ar gyfer leinio’r ysbyty yn Nhalgarth, a adeiladwyd ar ddechrau’r 20fed ganrif ac a oedd fel arall yn garreg i gyd.

Ymhlith y diwydiannau byrhoedlog eraill sydd wedi gadael ychydig iawn o’u hôl ond a oedd yn dibynnu ar fewnforio deunydd crai, y mae’r hen waith nwy yn Y Gelli, oedd yn cynhyrchu golau stryd o ganol y 19eg ganrif hyd at ddechrau’r 20fed ganrif. Mwy rhyfeddol fyth yw fod gan Gastell Maesllwch ei olau nwy ei hun yn y 1840au, drwy ddefnyddio glo wedi’i fewnforio, ac mae gweddillion y burfa a’r taclau dal nwy i’w gweld hyd heddiw yn y rhan o’r tir i’r dwyrain o’r ty. Roedd gwaith cemegol bychan yn cynhyrchu Naphthalene drwy ddistyllu col-tar yn weithredol o ganol neu ddiwedd y 19eg ganrif hyd at yr 1920au ar safle gerllaw’r rheilffordd y tu ôl i Dy Pontithel. Hwn oedd cartref rheolwr y gwaith ar un adeg.

Ceid perllannau seidr ar hyd a lled ardal y tirlun hanesyddol ar un adeg, ac roedd llawer o’r ffermydd a’r tai tafarnau yn berchen ar eu tai seidr a’u gweisg eu hunain. Mae’r New Inn yn Nhalgarth yn hawlio mai dyma’r dafarn olaf yng Nghymru lle’r oedd seidr yn cael ei wneud. Ychydig iawn o ôl y diwydiant crefft hwn sydd ar ôl ar wahân i berllannau gwasgaredig wedi eu disbyddu a oedd ar un adeg yn cynhyrchu mathau o afal megis Golden Pippin, Redstreak, Kingston Black, Old Foxwhelp, Perthyre a Frederick fesul llwythi. Un o’r ychydig enghreifftiau yn yr ardal yw’r hen wasg seidr y tu allan i fferm Penmaes, Llanfilo. Mae enghraifft arall o Lanigon, a wnaed o raean maen melin Fforest y Ddena, bellach yn Amgueddfa Werin Sain Ffagan. Am beth amser ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif roedd gwaith seidr hefyd ar fynd yn nhref Y Gelli.

Nentydd, afonydd a ffynhonnau oedd prif gyflenwad dwr y trefi a’r pentrefi yn parhau i fod hyd at yn hwyr yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. Dyna pryd yr adeiladwyd llawer o danciau dwr preifat ar gyfer llawer o’r ffermydd a’r tai mwyaf yn yr ardal. Roedd twf y canolfannau cnewyllol mwyaf yn golygu buddsoddi rhagor er mwyn sicrhau ffynhonnell mwy dibynadwy. Adeiladwyd Gwaith Dwr Y Gelli ar Gomin Y Gelli uwchlaw’r dref gan gwmni preifat ym 1863 i gyflenwi tref Y Gelli, a chymerwyd cyfrifoldeb am yr argae, a’i hymestyn, gan gyngor y dref ym 1895. Ni chafodd problemau cyflenwad dwr Talgarth eu datrys tan flynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif, gydag argae newydd yn cyflenwi’r dref yn ogystal â gwallgofdy Talgarth.

Cynrychiolir yr amrywiaeth mawr o ddiwydiannau crefft a phrosesu o fewn ardal y tirlun hanesyddol yn archeolegol gan amryw o adeiladau ac adeiladwaith, gan gynnwys adeiladau melin, cyrsiau dwr a phyllau, chwareli ac odynau, gwaith llaw a pheirianwaith, adfeilion a gweddillion archeolegol wedi’u claddu, pob un ohonynt yn codi pob math o gwestiynau ynglyn â rheolaeth a chadwraeth. Efallai mai’r gweddillion mwyaf cyffredinol a bregus sydd o bwys hanesyddol i’r ardal yw’r dystiolaeth o’r defnydd a wnaed o ynni dwr o’r canol oesoedd hyd at y gorffennol diweddar.

Tirweddau a Amddiffynnwyd

Mae ardal y tirlun hanesyddol yn cynnwys amryw o safleoedd ac adeiladwaith amddiffynnol yn perthyn i’r cyfnodau cynhanesyddol, Rhufeinig, canol oesol a modern. Mae grwp pwysig o fryngeyrydd yn ôl pob tebyg yn cynrychioli canolfannau llwythol o’r Oes Haearn cyn dyfodiad y Rhufeiniaid, gan gynnwys y rhai yn Hillis a Phen-rhiw-wen ar y bryniau isel i’r gorllewin o afon Llynfi, y Gaer ar gerlan yr afon uwchlaw afon Gwy yn Aberllynfi, yng Nghastell Dinas ar fryn unig ar hyd ymyl tarren y Mynydd Du, ym Mhendre ar droedfryniau’r Mynydd Du y tu ôl i Dalgarth ac ar Gomin Bryn-yr-hydd ger Llowes, ar y bryniau isel i’r gogledd o afon Gwy. Mae dosbarthiad y ceyrydd, fel yr oedd amddiffynfeydd diweddarach yr ardal, yn awgrymu ymdrech i reoli tiriogaeth yn ogystal â mynediad. Mae Pen-rhiw-wen yn tremio dros ryd oedd yn croesi afon Gwy yn Llyswen. Mae Y Gaer yn tremio dros ryd yn Aberllynfi. Mae Castell Dinas yn tremio dros y bwlch drwy’r Mynydd Du i’r de o Dalgarth. Mae’r bryngeyrydd yn amrywio’n fawr o ran maint, o ddarn o dir tua 3.6 hectar wedi ei gau o fewn amddiffynfeydd bryngaer Hillis i tua 0.45 hectar yn achos Caer Aberllynfi. Mae’n bosibl bod amryw o ddarnau caeëdig, gan gynnwys yr un ger Cwrt Llwyfen ac enghraifft bosibl ym Mharc Gwernyfed, yn cynrychioli ffermydd bychain gydag amddiffynfeydd o’r Oes Haearn.

Mae’r gaer Rufeinig yng Nghleirwy hithau yn tremio dros fan croesi traddodiadol dros afon Gwy yn Y Gelli, wedi ei lleoli mewn llecyn o bwysigrwydd strategol ar y ffordd rhwng Swydd Henffordd a dyffryn Wysg, ardal oedd yn cael ei rheoli yn yr oesoedd canol gan gestyll Cleirwy a’r Gelli. Mae’n ymddangos bod y gaer yn dyddio’n ôl i gyfnod cynnar y goncwest ac mai oes fer a gafodd i bob golwg, yn perthyn o bosibl i’r ymgyrchoedd yn erbyn llwyth brodorol y Silures rhwng 50 a 60 OC. Cafodd gwersyll cyrch Rhufeinig posibl ei ddarganfod drwy luniau o’r awyr ymhellach i’r de-orllewin.

Ychydig, os unrhyw beth, a wyddys am strwythurau amddiffynnol yn yr ardal yn ystod yr oesoedd canol cynnar. Ni wyddys ymhle’r oedd llysoedd tybiedig y tywysogion yn Nhalgarth, ac nid oes sicrwydd sut y câi ei amddiffyn. Awgrymwyd y gallai bryngaer Pen-rhiw-wen gynrychioli llys Llyswen, ond ni phrofwyd hyn, ac ni phrofwyd ychwaith yr awgrym mai buarth yr hen lys cyn-goncwest y tybir a fodolai ym Mronllys, yw’r beili allanol mwyaf yno.

Mae’r gyfres mwyaf rhyfeddol o adeiladwaith amddiffynnol yng Nghanol Dyffryn Gwy yn perthyn i gyfnod y goncwest Normanaidd ac i’r cyfnod wedi hynny pan oedd y diriogaeth yn nwylo arglwyddi’r mers. Mae’r safleoedd ar y cyfan wedi eu dosbarthu ar hyd y tir isel hyd afon Gwy a Llynfi, yn cyfateb i’r rhannau hynny lle y sefydlwyd maenorau Seisnig. Yr eithriad yw castell carreg Castell Dinas, wedi’i osod o fewn amddiffynfeydd y fryngaer o’r Oes Haearn ar ymyl y Mynydd Du, y castell canol oesol uchaf drwy Gymru a Lloegr, dros 450m o uchder. Cestyll pridd gyda mwnt a beili pren oedd y cestyll cynharaf, wedi eu codi i amddiffyn ac i weinyddu’r arglwyddiaethau a’r maenorau a sefydlwyd ar ôl y goncwest dan arweiniad Bernard de Neufmarché yn yr 1080au. Ar y dechrau fe rannwyd tiriogaeth Brycheiniog, a oedd newydd gael ei choncro, yn nifer o arglwyddiaethau llai fel rhoddion i farchogion oedd wedi rhoi eu gwasanaeth yn ystod y goncwest. Yn eu tro fe wnaethant hwy gyflwyno amryw o faenorau yn rhodd i denantiaid o’u hystadau Seisnig, pobl a fewnfudodd i’r ardal yn gyfnewid am eu gwasanaeth.

Gwyddys am gestyll pridd a choed o wahanol faint, yn perthyn yn bennaf efallai i ddiwedd yr 11eg a’r 12fed ganrif, yn Aberllynfi, Bronllys, Y Gelli, Llanthomas, Garn-y-castell, Tredustan, Trefeca, Cleirwy o bosibl, Castle Kinsey yng Nghwrt Evan Gwynne, yr hen fwnt yn Y Clas ar Wy, Castle Tump ger Llowes, yr amddiffynfa yng Nghefn Bank ger Trefeca Fawr o bosibl, ac yn olaf Castell Bochrwyd, sydd ychydig y tu allan i ardal y tirlun hanesyddol. Ceir beili amddiffynnol yn gysylltiedig â rhai o’r cestyll cynnar hyn, fel yn achos Bronllys, Tredustan, Trefeca, Cwrt Evan Gwynne, Aberllynfi, ond mewn enghreifftiau eraill mae’r mwnt fel petai’n sefyll ar ei ben ei hun. Mae Castle Tump ger Llowes i bob golwg yn gysylltiedig â darn o dir caeëdig gydag olion cnydau, ond fe allai hwn ddyddio o’r cyfnod Rhufeinig. Ychydig iawn o hanes y cestyll cynnar hyn sydd wedi ei gofnodi, er fod y mwnt yn Y Gelli yn ogystal â Bronllys heb amheuaeth yn perthyn i’r 1090au. Ceir y cyfeiriad cyntaf at Y Gelli ym 1121 fel castello de haia, ceir cyfeiriad posibl ym 1150 at Garn-y-Castell, yn yr 1180au at Gastell Y Clas ar Wy, ac Aberllynfi ym 1233.

Mae’n bosibl fod castell Bronllys wedi cael ei osod ar ben un o ganolfannau grym y cyfnod cyn-goncwest, ond ymddengys fod llawer o’r cestyll cynnar eraill wedi cael eu codi ar safleoedd newydd. Gosodwyd castell Y Gelli yn strategol ar un o’r prif fannau croesi dros afon Gwy, ac roedd mynediad dros dir sych i Ganol Dyffryn Gwy yn cael ei reoli gan gestyll Y Gelli yn ogystal â Chleirwy. Roedd y mwnt yn Y Clas ar Wy a Bochrwyd a Llowes yn rheoli mannau croesi eraill dros afon Gwy o bosibl, tra bod Bronllys, Aberllynfi, Tredustan a Threfeca wedi eu gosod ar hyd afon Llynfi. Gosodwyd rhai o’r cestyll cynnar ar dir llawer uwch, megis Garn-y-castell, ar esgair islaw Mynydd Troed, eto am resymau strategol o bosibl.

Fe ddisodlwyd y cestyll cynnar mwy niferus hyn yn ystod y 13eg ganrif gan gestyll cerrig gydag amddiffynfeydd mwy cadarn a allai wrthsefyll gwarchae hir, ac fe ddangosodd arglwyddi’r mers gryn fedr wrth fabwysiadu’r ffasiynau diweddaraf mewn ceyrydd milwrol, mewn rhai enghreifftiau yn seiliedig ar syniadau a fenthycwyd o ogledd Ffrainc. Roedd gan y castell carreg cyntaf yn Y Gelli amddiffynfa a thwr carreg sgwâr ar ddiwedd y 12fed ganrif, a gwelwyd aml i gyfnod o atgyweirio ac ailadeiladu drwy gydol y 13eg ganrif. Crybwyllir tân mewn twr carreg blaenorol gan Gerallt Gymro ym 1175, ac mae’r twr carreg crwn sydd wedi goroesi, a’r beili wedi’i amgylchynu gan wal, yn dyddio’n ôl i ganol y 13eg ganrif mae’n debyg, ac fe godwyd y twr yn uwch yn y 14eg ganrif er mwyn creu llety domestig. Roedd gan Gastell Bochrwyd dwr carreg ym 1205, ac er mai ychydig a wyddys am ffurf a hanes cynnar Castell Cleirwy, adeilad carreg ydoedd i bob golwg, wedi ei osod ar lwyfan tebyg i fwnt, a chyfeirir at y castell ym 1397. Mae waliau carreg a gorthwr carreg tebygol Castell Dinas, sydd hefyd yn dwyn yr enw Bwlchyddinas, wedi eu gosod o fewn amddiffynfa bridd bryngaer gynhanesyddol, yn perthyn i ddiwedd y 12fed neu ddechrau’r 13eg ganrif yn ôl pob tebyg. Mae’r Ty Caerog sgwâr yng nghanol Talgarth yn dyddio o’r 14eg ganrif yn ôl pob tebyg, ac ymddengys mai ei fwriad oedd amddiffyn y rhyd dros afon Ennig a’r dref, a dderbyniodd statws bwrdeistref yn gynnar yn y 14eg ganrif. Fe ddisgrifiwyd y ty twr, gyda thri llawr mae’n debyg a tho siâp pyramid, gan Leland ar ddechrau’r 16eg ganrif fel ‘carchar bach’. Dim ond llond dwrn o enghreifftiau tebyg o adeiladwaith sydd yng Nghymru. Roedd amddiffynfeydd canol oesol tref Y Gelli, o ddechrau’r 13eg ganrif, yn llawer mwy sylweddol. Nodwyd wal gref gyda thair llidiart gan Leland yn nechrau’r 16eg ganrif ond ychydig o hynny sydd i’w weld bellach – roedd llawer wedi mynd eisoes erbyn dechrau’r 19eg ganrif. Awgrymir llinell yr amddiffynfeydd canol oesol o gwmpas rhannau o’r dref gan batrwm y ffordd a ffiniau eiddo, fodd bynnag, ac ar un darn gerllaw’r hen Water Gate ar ochr ddwyreiniol y dref, gan wal fwy diweddar sydd, fe ymddengys, wedi cael ei chodi gyda cherrig cynharach.

Nid yw hanes diweddarach llawer o’r cestyll yn eglur, er fod amryw ohonynt, gan gynnwys Y Gelli, Castell Dinas, Bronllys a Chleirwy, wedi cael eu cyflenwi â nwyddau yn ystod gwrthryfel Glyndwr ym 1403, ac fe gafodd beili allanol Bronllys ei atgyweirio mor hwyr â 1410. Ar ôl blynyddoedd cynnar y 15fed ganrif doedd gan y cestyll ddim llawer o bwrpas milwrol, ac erbyn canol yr 16eg ganrif mae’n debyg fod eu cyflwr yn dirywio’n arw. Cofnododd Leland fod Bronllys eisoes wedi dirywio gormod i’w atgyweirio erbyn 1521. Cafodd rhai eu disodli gan dai bonedd diweddarach, megis y plasty a godwyd ar gefn gorthwr castell Y Gelli tua 1660, a’r ty a godwyd o fewn beili allanol Castell Bronllys ar ddiwedd y 18fed ganrif.

Elfen arall bwysig yn hanes safleoedd amddiffynnol Canol Gwy yw’r casgliad nodedig o safleoedd yn yr ardal lle byddai ffos yn amgylchynu tai pwysig carreg neu bren ar un adeg, boed hynny i’w hamddiffyn neu i’w haddurno. Mae’r safleoedd yn cynrychioli elfen o bwys ym mhatrwm yr anheddiad lleol ac yn cynrychioli, mae’n debyg, ymddangosiad dosbarth o is-denantiaid arglwyddi ffiwdal y mers yn y 13eg a’r 14eg ganrif efallai. Ymhlith y safleoedd ffosedig a ddarganfuwyd yn yr ardal y mae: Hillis, i’r de o Lanfilo; pentref Llanfilo i’r de o’r eglwys; ym mhentref Bronllys; Cwrt-coed i’r gorllewin o Drefithel; a Lower House i’r gogledd-ddwyrain o Gleirwy. Mae dau o’r safleoedd ffosedig, Bronllys a Llanfilo, yn gysylltiedig ag aneddiadau eglwysig.

Cynrychiolir diwedd traddodiad y tai amddiffynnol yn yr ardal gan borthdy Porthamel, i’r gogledd o Dalgarth, un o’r plastai canol oesol gwychaf yn yr ardal, un o’r porthdai domestig canol oesol prin sydd wedi goroesi. Mae enw’r ty yn tarddu o’r geiriau Porth-aml, ac ar ddechrau’r 16eg ganrif fe ddisgrifiodd Leland y porthdy tywodfaen deulawr o ddiwedd y 15fed ganrif fel ‘a fair gate and strong waul embateled’, gan gyfeirio at y wal oedd yn amgylchynu tir y ty, gyda llwybr cerdded a chanllaw ar ben y wal, a gafodd ei dymchwel erbyn dechrau’r 19eg ganrif. Mae’r porthdy, o garreg o safon uchel, yn nodwedd o nifer o dai mawr yr 16eg ganrif ar y gororau.

Cynrychiolir un elfen annisgwyl yn nhirlun amddiffynnol a milwrol Canol Gwy gan gloddwaith ffosydd o gwmpas pebyll byddin sir Frycheiniog yn ystod eu gwersyll haf ar ochr ddeheuol Comin Rhos Fach yn y 1870au. Mae hyd yn oed yr Ail Ryfel Byd wedi gadael ei ôl ar y tirlun hanesyddol, gan gynnwys yr hen safle gwylio a godwyd ar fwnt Y Gelli, bellach wedi ei ddymchwel, tyllau bomiau ger Cockalofty, a’r atgyweiriadau helaeth a wnaed i eglwys Llanigon ar ôl i un o fomiau’r Luftwaffe ddisgyn arni ym 1941.

Mae ardal tirlun hanesyddol Canol Gwy yn cynnwys amrywiaeth eang o dirluniau amddiffynnol a milwrol pwysig sy’n codi pob math o gwestiynau ynglyn â rheoli a chadwraeth. Mae amddiffynfeydd llawer o’r bryngeyrydd cynhanesyddol, y safleoedd mwnt a beili canol oesol, safleoedd ffosedig ac amddiffynnol, wedi dioddef yn y gorffennol oherwydd aredig, chwareli, cloddio ffosydd, adeiladu ffyrdd a rheilffyrdd, a datblygiad tai, sy’n golygu bod gwybodaeth archeolegol ynglyn â ffurf y safleoedd a phryd a sut y cawsant eu trigiannu, yn cael ei cholli. Mae safleoedd eraill, megis Castle Tump ger Llowes, mewn perygl posibl oherwydd erydu ar yr afon rywbryd yn y dyfodol. Mae nifer o’r safleoedd, yn enwedig efallai y ffosydd dyfnaf sy’n amgylchynu’r bryngeyrydd, ffosydd a’r safleoedd ffosedig, yn debyg o gynnwys dyddodion o dan ddwr sydd â gwybodaeth amgylcheddol bwysig. Cwestiwn arall y mae angen ei ystyried yw safle gweledol y cofadeiliau, gan fod datblygiad di-gydymdeimlad yn y cyffiniau agos yn gallu tarfu’n sylweddol ar y safle amlwg o fewn y tirlun a fwriedid ar gyfer y cofadeiliau hyn.

Tirluniau angladdol, eglwysig a chwedlonol

Mae ardal tirlun hanesyddol Canol Gwy wedi diogelu etifeddiaeth gyfoethog o dirluniau crefyddol, wedi eu cynrychioli gan adeiladau ac adeiladwaith arall o’r cyfnod cynhanesyddol, y canol oesoedd cynnar a’r cyfnodau ôl-ganol oesol.

Mae grwp pwysig o garneddau hirion cellog yn perthyn i’r cyfnod Neolithig, gan gynnwys y rhai yn Pipton, Penyrwrlodd (Talgarth), Little Lodge, Penyrwrlodd (Llanigon), Cleirwy, a’r pâr o garneddi hirion ger Ffostyll. Roedd o leiaf un beddrod arall yn bod yng Nghroes-llechau, i’r dwyrain o Borthamel, a oedd yn dal yno hyd at o leiaf flynyddoedd cynnar y 19eg ganrif. Mae’r beddrodau yn perthyn i grwp arbennig o gofadeiliau yn rhan Sir Frycheiniog o’r Mynydd Du, nad oes ond eu tebyg yn ardal y Cotswolds. Cafodd nifer o safleoedd yn yr ardal eu cloddio ac fe ddangoswyd mai carneddi hirion trapesoidaidd oeddynt, hyd at 50m o hyd mewn rhai achosion, yn amgylchynu un neu fwy o siambrau claddu a ddefnyddid i gladdu nifer o wahanol unigolion. Mae ffurf y cofadeiliau yn cynrychioli ‘cartref i’r meirwon’ o bosibl, gyda’r siambrau unigol o bosibl yn cynrychioli gwahanol grwpiau teuluol. Mae cryn bellter rhwng y siambrau, ac fe’u gosodwyd ar amrywiaeth fawr dopograffaidd, o ymyl gorlifdir afon Gwy yn achos Cleirwy, hyd at waelod troedfryniau’r Mynydd Du yn achos Penyrwrlodd (Llanigon). Mae graddfa’r cofadeiliau yn awgrymu eu bod yn diffinio tiriogaethau gwahanol grwpiau mewn rhyw ffordd.

Y feddrod gron oedd y math mwyaf cyffredin o gofadail gladdu yn ystod yr Oes Efydd gynnar, a chofnodir nifer o enghreifftiau ar y bryniau is yn Ffostyll, Park Wood, a Choed Meiadd ger Tredomen, yn ogystal ag ar ymyl isaf y Mynydd Du ym Mhen-y-beacon, Wern Frank, Twyn-y-beddau, Y Grib, a Mynydd Bychan ar ymyl tarren y Mynydd Du yn Nhwmpa. Gosodwyd nifer o feddrodau claddu mewn lleoedd amlwg yn y tirlun, ar esgeiriau, cribau neu aeliau’r bryniau, ac er fod llawer o’r beddrodau heb gael eu darganfod hyd yma neu wedi eu difrodi y tu hwnt i bob adnabyddiaeth, mae’r ffaith eu bod yn digwydd bob yn un ac yn weddol bell oddi wrth ei gilydd, yn awgrymu unwaith eto fod rhyw arwyddocâd tiriogaethol iddynt yn ogystal â bod yn fannau claddu. Yn ychwanegol at y tomenni sydd wedi goroesi, cafodd nifer o ffosydd crynion eu darganfod drwy luniau o’r awyr, y rhain hefyd mae’n debyg yn cynrychioli safleoedd claddu o’r Oes Efydd. Cafodd ffos gron unigol ei darganfod ger Applebury ar ochr ogleddol Y Clas ar Wy, a darganfuwyd grwp o chwech ger Spread Eagle, i’r gorllewin o Pipton. Ymddengys fod grwp Spread Eagle yn rhan o domen fynwent, wedi ei lleoli, yn arwyddocaol efallai, ar ymyl y gorlifdir ger cymer afonydd Llynfi a Gwy. Mae tystiolaeth yr olion cnydau yn awgrymu y gallai’r ffosydd crynion fod yn rhan o gasgliad sy’n cynnwys cofadail cwrsws Neolithig a gynrychiolir gan ddwy ffos gyfochrog. Does dim sicrwydd beth oedd pwrpas y cofadeiliau cwrsws, ond ymddengys eu bod yn gysylltiedig â gweithgareddau defodol. Mae carreg unigol yn dal i fod yn weledol amlwg o gylch cerrig Pen-y-beacon neu Blaenau islaw Penybegwn, cofadail o’r Oes Efydd o fath oedd eto â swyddogaeth ddefodol i bob golwg.

Ni wyddys fawr mwy am weithgareddau crefyddol yn yr ardal hyd at gyfnod y canol oesoedd cynnar. Roedd Cristnogaeth eisoes wedi cael ei mabwysiadu erbyn diwedd y 5ed ganrif, ac erbyn y cyfnod hwn roedd cysylltiad agos rhwng yr arweinwyr cynharaf a gofnodwyd ym Mrycheiniog a’r eglwys. Yn ôl y traddodiad yn Nhalgarth y claddwyd Gwenffrewi, merch Brychan Brycheiniog, brenin Brycheiniog, sef ei brif lys, ac mae hyn yn awgrymu bodolaeth tir claddu brenhinol ac eglwys o bosibl yn gysylltiedig â’r llys yn y cyfnod cynnar hwn. Mae’r ffaith fod dwy eglwys Talgarth a Llyswen wedi eu cysegru i Gwenffrewi yn dangos bod cwlt lleol pwysig yn troi o’i chwmpas. Mae’n debyg fod yr eglwys yn Llyswen wedi cael ei sefydlu erbyn canol y 6ed ganrif, mewn cysylltiad â llys cyn-goncwest, ond does dim tystiolaeth bendant o eglwys cyn-goncwest yn gysylltiedig â’r llys tybiedig ym Mronllys.

Roedd Y Clas ar Wy yn ganolfan grefyddol gynnar bwysig arall yn ardal Canol Gwy yn y cyfnod cyn-goncwest, a’i enw Saesneg, sef Glasbury, yn tarddu efallai naill ai o Clas-ar-wy (fersiwn o’r enw a gofnodwyd gyntaf yn yr 16eg ganrif), neu yn cynrychioli cyfuniad o’r gair Cymraeg clas a’r gair Saesneg burh (‘caer, lle caeëdig’), yr un ystyr â’r enw Clastbyrig a gofnodwyd gyntaf ym 1056. Ymddengys fod yr eglwys yn sefyll yn union yng nghanol plwyf eang cyn-goncwest a oedd yn cynnwys y dyffryn ar ei hyd, a oedd o bosibl yn rhannu tir i is-eglwysi wrth iddynt gael eu sefydlu yn y cyfnod cyn-goncwest. Cysylltir y clas yn Y Clas ar Wy gyda chwedl Cynidr, mab honedig Brychan, y dywedir iddo gael ei gladdu yn yr eglwys a sefydlodd yno. Roedd yr eglwys gynharach yn Y Clas ar Wy wedi ei lleoli’n strategol ar gymer afonydd Llynfi a Gwy, ac mae lluniau o’r awyr yn awgrymu y gallai’r eglwys fod wedi sefyll o fewn llecyn mawr cromliniol caeëdig. Cafwyd awgrym mai ar Gomin Ffynnon Gynydd i’r gogledd o’r Clas ar Wy yr oedd y sylfeini gwreiddiol, ond mae hyn yn llai tebygol. Ymddengys fod eglwysi cyn-goncwest eraill yn Llowes, Llanfilo a Llanelieu, pob un wedi’i gosod o fewn darn crwn o dir, pob un wedi eu cysegru i seintiau Cymreig, sef Meilig, Eigon, Beilo ac Ellyw yn y drefn yna. Ymddengys fod dwy biler garreg gydag arysgrif, o’r 7fed i’r 9fed ganrif, ar dir eglwys Llanelieu, a chroes o fewn cylch, o’r 11eg ganrif o bosibl, o fath Celtaidd yn Llowes, yn cadarnhau seiliau cyn-goncwest o leiaf dwy o’r eglwysi hyn. Roedd cyfeiriad at Llowes yn ôl pob tebyg yn Llyfr Llandaf o’r 12fed ganrif, yn cyfeirio at rodd a wnaed yn y 7fed ganrif.

Fe wnaed nifer o newidiadau pwysig i drefn yr eglwys yn yr ardal yn dilyn y goncwest Normanaidd yn y 1090au. Fe ailsefydlwyd y clas yn Y Clas ar Wy a’i chyflwyno i St. Peter’s yng Nghaerloyw. Cyflwynwyd eglwysi Talgarth a Llanigon i’r priordy Benedictaidd newydd a sefydlwyd gan Bernard de Neufmarché yn y 1090au yn Aberhonddu, a’r enw ar y clastir yn Nhalgarth hyd at y cyfnod modern oedd Tir-y-prior. Fe adeiladwyd eglwys blwyf newydd yn Y Gelli, wedi’i chysegru i’r Santes Fair, ar y dechrau efallai i wasanaethu’r castell cynnar a adeiladwyd gan William Revel yn dilyn concwest Brycheiniog, ac fe grëwyd y plwyf allan o hen blwyf cyn-goncwest Llanigon. I bob golwg roedd yr eglwys wedi cael ei chodi cyn i’r dref ganol oesol gael ei sefydlu ymhellach i’r gogledd, ac o ganlyniad byddai’n aros y tu allan i waliau’r dref. Ymddengys fod yr eglwys ym Mronllys hefyd yn cyfoesi â sefydlu castell Bronllys gan deulu Clifford tua 1090, hon hefyd wedi ei chysegru i’r Santes Fair, ac yn yr achos hwn fe grëwyd y plwyf allan o’r hen blwyf eang oedd yn perthyn i eglwys Y Clas ar Wy.

Cyflwynwyd yr eglwys i briordy Clywinaiddyn Clifford, Swydd Henffordd, ac yn eu daliadaeth hwy yr oedd yr eglwys adeg diddymu’r mynachlogydd. Mae gwreiddiau’r eglwys blwyf a gysegrwyd i San Mihangel a’r Holl Angylion yng Nghleirwy yn ansicr, ond fe allai fod yn sefydliad newydd yn gysylltiedig ag adeiladu Castell Cleirwy. Mae’n bosibl fod nifer o eglwysi a chapeli eraill yn yr ardal wedi cychwyn fel eglwysi perchnogol di-blwyf yn gysylltiedig â chanolfannau maenorol cynnar yn Aberllynfi ac o bosibl Pipton a Llanthomas: mae’n bosibl mai cyfeiriad at hen gapel preifat neu lan yn Llanthomas yw Thomaschurch ym 1340. Mae’n annhebyg fod y capeli bychain hyn erioed yn gyfoethog, ond yn ôl pob golwg roedd nifer o’r eglwysi plwyf wedi casglu cryn gyfoeth yn ystod yr oesoedd canol diweddar er gwaethaf maint ymddangosiadol yr aneddiadau oedd yn gysylltiedig â hwy. Ni ellid fod wedi prynu’r croglenni gwych yn eglwysi unig Llanelieu a Llanfilo heb arian sylweddol, ac eto mae’n edrych yn debyg na fu gan y plwyfi erioed boblogaeth fawr.

Yn dilyn ailsefydlu’r castell a’r dref yn Y Gelli i ffwrdd oddi wrth ganolbwynt gwreiddiol yr anheddiad, fe godwyd capel newydd wedi’i gysegru i Sant Ioan o fewn muriau’r dref, yn y 1250au o bosibl, i wasanaethu fel cymdeithas eglwysig yn ogystal â hwylustod i bobl y dref. Newidiodd afonydd Gwy a Llynfi eu hynt a thorri eu glannau gan lifo drwy hen glas Y Clas ar Wy tua 1660. Arweiniodd hynny at gau’r eglwys a chwalu’r plwyf ymhellach yn y pen draw. Codwyd eglwys newydd San Pedr yn ei lle, a’i chysegru ym 1665. Fe’i hadeiladwyd ar dir uwch ar gerlan yr afon 400m i’r de, gan ddefnyddio rhywfaint o gerrig yr hen eglwys o bosibl. Dadfeiliodd yr eglwys newydd yn y pen draw a chodwyd yr eglwys bresennol yn ei lle, wedi’i chysegru i Sant Cynidr a San Pedr yn y 1830au. Roedd gan gapel San Ioan yn Y Gelli, a elwid ers amser maith yn Eglwys Ifan, hanes yr un mor frith. Fe’i diddymwyd yn Niwygiad canol yr 16eg ganrif ac fe’i defnyddiwyd fel ysgol yn yr 17eg ganrif ond roedd yn adfail erbyn y 1770au. Cafodd ei droi’n ddalfa rhwng 1811-70, yna’n orsaf dân yn ddiweddarach, yn siop, yna yn dy. Cafodd yr adeilad ei ailadeiladu’n sylweddol yn y 1930au ac fe’i defnyddir bellach fel capel a man cyfarfod.

Ceir tair elfen arall yn nhirlun Cristnogol canol oesol ardal Canol Gwy, sef ffynhonnau cysegredig, tiroedd mynachaidd a chroes unigol ar fin y ffordd. Gwyddys am amryw o ffynhonnau cysegredig yn yr ardal, ac er mai ychydig a wyddom amdanynt yn gyffredinol mae chwedlau gwerin neu bwerau iachâu tybiedig yn gysylltiedig â rhai ohonynt. Maent yn cynnwys Ffynnon Eigon yn Llanigon, ar ochr arall Nant Digedi o’r eglwys, Ffynnon Beilo y tu allan i fynwent eglwys Llanfilo, bellach gyda cherrig ar ei phen ond yma’r oedd ffynhonnell ddwr y pentref ar un adeg, Ffynnon Gynydd i’r gogledd o’r Clas ar Wy, a Monk’s Well yn Nhir-mynach. Roedd tiroedd Tir-mynach yn rhan o faenor neu fferm yn cael ei rheoli gan frodyr lleyg yn perthyn i abaty Sistersaidd Cwm-hir. Gwelir adeiladau carreg o’r 14eg ganrif, oedd yn rhan o’r faenor yn ôl pob tebyg, yn Fferm Clyro Court. Ymhlith y tiroedd eraill a roddwyd i briordy Benedictaidd Aberhonddu yr oedd tiroedd ger Trefeca Fawr, a gyflwynwyd ar ddiwedd y 12fed ganrif, a thiroedd rhwng Trewalkin a Mynydd Troed a gyflwynwyd ar ddechrau’r 13eg ganrif. Mae’n bosib fod y groes garreg ganol oesol ar fin y ffordd i’r de o Lanigon, a adnabyddir fel y Scottish Pedlar, wedi ei lleoli ar lwybr pererindod canol oesol o’r Gelli i Landdewi drwy Gospel Pass. Fe’i disgrifir gyntaf ym 1690 fel ‘Pitch’d in a hedge by ye way side call’d hewl y groes’.

Erbyn diwedd y canol oesoedd roedd ardal tirlun hanesyddol Canol Gwy wedi’i rhannu rhwng plwyfi eglwysig Y Gelli, Llanigon, Cleirwy, Y Clas ar Wy (ar lannau gogleddol a deheuol yr afon, ond a holltwyd wedi hynny), Llowes, Bochrwyd, Llyswen, Llanelieu, Aberllynfi, Talgarth, Bronllys, a Llanfilo, ynghyd â rhannau bychain o blwyfi Llandefalle a Llangors. Fe ddiddymwyd capel cymdeithas eglwysig Sant Ioan yn Y Gelli adeg y Diwygiad ac roedd yr hen gapeli yn Aberllynfi, Felindre, Cilonw, a’r capel posibl yn Pipton i gyd wedi diflannu erbyn y 18fed ganrif. Roedd y capel yng Nghilonw, wedi’i gysegru i Sant Celin o bosibl, eisoes yn adfail erbyn y 1570au. Doedd gan y capel yn Aberllynfi ddim periglor ar ôl 1660. Fe symudwyd yr hen fedyddfaen o 1635 i eglwys newydd San Pedr, Y Clas ar Wy. Tybir fod y capel yn Felindre wedi dadfeilio erbyn y 18fed ganrif : mae’n bosibl ei fod yn arfer sefyll o dan y neuadd bentref bresennol mewn cae a elwid yn Chapel Field ar un adeg.

Mae llawer o’r gragen allanol ganol oesol wedi goroesi yn Llanigon, Llanelieu, Llanfilo, a Thalgarth, ond yn Y Gelli fe gwympodd yr eglwys tua 1700, gan adael dim ond y twr o’r 15fed ganrif. Fe ailadeiladwyd prif gorff yr eglwys yng Nghleirwy yng nghanol y 19eg ganrif, gan adael dim ond gwaelod y twr canol oesol fel yr oedd, enghraifft brin yng Nghymru o dwr cloch canol oesol yn sefyll ar wahân. Fe ailadeiladwyd yr eglwysi eraill yn Llowes a Llyswen, yr un modd â chorff a changell eglwys Y Gelli, yn llwyr rhwng yr 1830au a’r 1860au, er fod sylfeini’r eglwysi canol oesol, heb amheuaeth, wedi’u claddu o dan y ddaear. Fe agorwyd eglwys newydd ger Cwm-bach i’r gogledd o’r Clas ar Wy ym 1882, gan ffurfio plwyf newydd Yr Holl Saint, Y Clas ar Wy, Sir Faesyfed.

Fe chwaraeodd gororau dwyreiniol Sir Faesyfed a Sir Frycheiniog ran bwysig yn hanes anghydffurfiaeth Gymreig, a gwelir olion o bwys o fewn y tirlun hyd heddiw. Roedd un anerchiad yn Nhy’r Cyffredin ym 1646 yn sôn gyda chryn bryder fod ‘Yr Efengyl wedi rhedeg dros y mynyddoedd rhwng Sir Frycheiniog a Sir Fynwy fel tân mewn to gwellt’. Cysylltir anghydffurfiaeth gynnar yn yr ardal yn arbennig ag arweinydd y Bedyddwyr Vavasor Powell, y credir iddo gychwyn ei bregethu teithiol yn Y Beudy ger capel presennol Maesyronnen ar y bryniau i’r goledd o’r Clas ar Wy yn y 1640au. Cafodd Capel Maesyronnen, a ddisgrifiwyd fel ‘yr adeilad pwysicaf sydd wedi goroesi yn gysylltiedig â’r mudiad anghydffurfiol cynnar yng Nghymru’, ei drawsnewid o fod yn ffermdy ac ysgubor o’r 16eg ganrif, tua 1696, i fod yn gangen o gymunedau’r Bedyddwyr cynnar a oedd eisoes wedi eu sefydlu yn Y Gelli a Llanigon.

Pasiwyd Deddf Seneddol ym 1649 yn caniatáu sefydlu grwpiau anghydffurfiol dan drwydded. Am gyfnod buont yn cyfarfod mewn tai preifat ac ysguboriau ar hyd a lled yr ardal. Dywedir fod rhan o’r ty newydd a adeiladwyd gan y milwr Seneddol William Watkins ym Mhenyrwrlodd, Llanigon, ym 1650, wedi cael ei neilltuo i’r diben hwn. Wedi hynny, ym 1707, fe adeiladwyd bloc o stablau er mwyn rhoi capel i’r ‘Sentars’ ar ei lawr uchaf. Sefydlwyd academi o ‘sentars’ yn hen fferm Llwynllwyd i’r gorllewin o Lanigon ar ddechrau’r 1700au. Roedd Howel Harris a William Williams, Pantycelyn ill dau yn mynychu’r lle, dau a fyddai’n dod yn gymeriadau amlwg yn hanes anghydffurfiaeth Cymru.

Ymddangosodd amryw o enwadau yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif, gan gynnwys Bedyddwyr, Methodistiaid Calfinaidd, Methodistiaid Wesleaidd, Methodistiaid Cyntefig, Presbyteriaid, ac Annibynwyr, a lwyddodd ymhen y rhawg i adeiladu eu mannau addoli eu hunain yn yr ardal. Mae llawer o’r capeli sydd wedi goroesi yn dyddio’n ôl i ganol neu ddiwedd y 19eg ganrif, mewn rhai achosion yn disodli adeiladau o ddiwedd yr 17eg neu ddechrau’r 18fed ganrif. Mae’r adeiladau hyn yn aml yn ffurfio elfennau archeolegol a hanesyddol pwysig o fewn trefi a phentrefi’r ardal, ac yn cynnwys pum capel yn Y Gelli, tri chapel yn Nhalgarth, ac un yr un ym Mronllys, Y Clas ar Wy, Cwm-bach, Felindre, Llyswen a Treble Hill. Fe adeiladwyd nifer o gapeli yn y wlad, i wasanaethu’r cymunedau gwledig gwasgaredig, gan gynnwys un yn Felin-newydd, Tredomen, Pwll-mawr ger Tredustan, Pengenffordd, a Chapel Methodistiaid Cyntefig New Zion ger Fferm Moity. Mae nifer o’r capeli i’w cael yng ngolygfeydd syfrdanol yr ucheldiroedd, gan gynnwys Penyrheol a Rhosgwyn, ill dau â tharren ddramatig y Mynydd Du y tu ôl iddynt, a Brechfa, ar ymyl y comin ger Pwll Brechfa.

Rhywbeth arall pwysig a etifeddodd ardal Canol Gwy gan anghydffurfiaeth yw’r casgliad o adeiladau o’r 18fed a’r 19eg ganrif yn Nhrefeca o ganlyniad i weinidogaeth Howel Harris gyda chefnogaeth Selina Hastings, Iarlles Huntingdon. Fe sefydlwyd y gymuned Fethodistaidd yn Nhrefeca gan Howel Harris, sylfaenydd Methodistiaid Calfinaidd Cymru. Yn dilyn profiad crefyddol ysgytwol ym mynwent Talgarth, fe dreuliodd y blynyddoedd ar ôl 1735 yn pregethu ac yn sefydlu cymunedau Methodistaidd yng Nghymru a Lloegr. Fe ysbrydolodd pregethu Harris yr emynydd William Williams, Pantycelyn yntau yn ei dro, i ymuno â’r anghydffurfwyr. Ym 1752 fe gasglodd Harris tua 100 o’i gefnogwyr ynghyd yng Nghymru – a chyfeirio atynt fel ei deulu – mewn cymuned yn Nhrefeca Fach, ei gartref ei hun. Adeiladwyd adeilad newydd i’r gymuned, drws nesaf i’r ffermdy ym 1772, mewn arddull ‘Gothig fodern’, a chafodd ei ddisgrifio gan William Williams fel ‘y fynachlog gastellog’ a chan John Wesley fel ‘paradwys fechan’. Roedd y gymuned, y cyfeirid ati weithiau fel ‘math o fynachlog Brotestannaidd’ yn brysur yn ffermio ac yn cynhyrchu nwyddau ac yn anelu at fod yn hunangynhaliol. Fe chwaraeodd Howel Harris ran amlwg yn y gwaith o sefydlu Cymdeithas Amaethyddol Sir Frycheiniog ym 1754, y gymdeithas gyntaf o’i bath drwy Gymru. Codwyd rhagor o adeiladau er mwyn y gymuned, gan gynnwys capel, ysbyty, baddondy, colomendy a llyn pysgod. Fe sefydlwyd gwasg argraffu ym 1758 a barhaodd i fynd hyd at 1806, ac ysgol i gynhyrchu gwlanenni gydag 8 gwydd yn cael eu gosod ynghyd ym 1756. Ar un adeg dywedir fod y trigolion yn ymwneud â thrigain o wahanol grefftau. Fe ddirywiodd bywiogrwydd y gymuned ar ôl marwolaeth Harris ym 1773. Daeth yr adeilad yn Goleg Diwinyddol y Methodistiaid Calfinaidd (Coleg Trefeca) ym 1842, ac fe ychwanegwyd rhes o dai llety i fyfyrwyr ym 1876. Fe gaeodd y coleg ym 1906 a bellach defnyddir yr adeiladau fel canolfan hyfforddi i’r Eglwys Bresbyteraidd yng Nghymru.

Oherwydd y cynnydd sydyn yn y boblogaeth a’r defnydd helaethach o gerrig coffa yn hwyrach yn y 19eg ganrif, aeth llecynnau claddu yn brin, yn enwedig mewn aneddiadau cnewyllol. Dyma a arweiniodd at greu mynwent fawr newydd yn Y Gelli, a agorwyd ym 1870, ac o fewn ardal y tirlun hanesyddol hon yw’r unig fynwent ddinesig hyd heddiw. Mae’r fynwent, ar hyd Common Lane i’r gorllewin o’r dref, wedi’i gosod o fewn un o’r caeau stribed a ddaeth i fod pan gaewyd hen gaeau agored canol oesol y dref.

Y tirluniau crefyddol mwyaf diweddar o fewn ardal Canol Gwy yw’r rhai sy’n cael eu creu gan bresenoldeb capeli’r ysbytai yn Nhalgarth a Bronllys, o’r ugeinfed ganrif. Fe adeiladwyd y capel yn Nhalgarth mewn arddull gothig ym 1900, ac fe adeiladwyd capel Bronllys ym 1920 mewn ‘arddull Celf a Chrefft gyda dylanwadau’r Mudiad Modern’.

Mae ardal tirlun hanesyddol Canol Gwy yn cynnwys etifeddiaeth amrywiol a chyfoethog o’r hyn y gellid yn fras ei alw yn gysylltiadau crefyddol, o’r gorffennol cynhanesyddol hyd at y cyfnod modern, ac maent yn bwysig oherwydd sawl agwedd – oherwydd eu harwyddocâd yn nhermau hanes archeolegol, oherwydd eu harwyddocâd gweledol o fewn y tirlun, oherwydd eu cysylltiad â chymeriadau neu fudiadau hanesyddol pwysig, ac oherwydd y dystiolaeth archeolegol a gedwir ganddynt o dan ac uwchlaw’r ddaear. Mae’r cofadeiliau yn cynnig amrywiaeth yr un mor eang o gwestiynau cadwraeth a rheolaeth, ond gellir amlinellu nifer o flaenoriaethau. Mae rheolaeth ar dystiolaeth archeolegol o dan ac uwchlaw’r ddaear yn arbennig o bwysig yn achos safleoedd gydag olion cnydau, tomenni claddu cynhanesyddol a safleoedd eglwysi a chapeli canol oesol sydd wedi cau. Mae cadwraeth adeiladau yn amlwg yn hynod o bwysig gyda golwg ar eglwysi a chapeli canol oesol a hwyrach. Mae mynwentydd eglwysi a chofadeiliau mynwentydd yr un mor bwysig yn nhermau hanes y tirlun. Mae cerrig coffa o fewn ardal y tirlun hanesyddol yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif ymlaen gan fwyaf ac yn bwysig yn nhermau hanes cymdeithasol, diwylliannol a hanes teulu. Oherwydd natur y dywodfaen leol mae’n drist nodi bod llawer o’r cofadeiliau hyn dan fygythiad bellach. Mae lleoliad gweledol adeiladau a chofadeiliau crefyddol yn eithaf pwysig, yn enwedig efallai gyda golwg ar eglwysi canol oesol a chapeli anghydffurfiol yr ucheldir.

Tirweddau Addurniadol a Phictiwrésg

Fe wnaed llawer o sylwadau ynglyn ag ansawdd addurniadol a phrydferth ardal y tirlun hanesyddol, fel yn y cyfieithiad o’r disgrifiad canlynol o lyfr History of Brecknockshire gan Theophilus Jones.

Does dim gwell system o amaethu yn unlle o fewn y sir na’r ardaloedd cyfagos ag a geir ar y tiroedd isel; mae’r olygfa o’r naill ochr i afon Gwy a’r llall, yn enwedig o Ben y lan…..ac o Faesllwch cyn hardded ag y gall dychymyg ei baentio; waeth i ba gyfeiriad y trowch eich llygad, i fyny neu i lawr yr afon, daw pethau prydferth i’r golwg, er eu bod yn wahanol iawn o ran natur. Islaw, wrth edrych o Ben y lan gwelir pont bren Y Clas ar Wy, porfeydd bendigedig a glannau ffrwythlon afon Gwy, ychydig ymhellach i’r gogledd-ddwyrain gwelir llechwedd yn codi’n raddol gyda choed trwchus yma ac acw, yn eu plith coed afalau, gellyg a cheirios, sydd, pan fônt yn eu blodau, yn gwella’r olygfa ac yn creu darlun cyflawn o wlad sy’n cael ei thrin yn dda. Mae’r olygfa ar i fyny yn cynnwys afon Gwy yn ymestyn i’r pellter, pentref Llyswen, a’r ddringfa sydyn i Graig lai, gyda bannau brycheiniog i’w gweld yn y pellter, i gyd yn creu darlun gwahanol iawn o ran nodweddion cyffredinol i’r un blaenorol, ac eto yn cynnwys harddwch eithriadol sy’n well fyth oherwydd y cyferbyniad; wrth ddod i lawr, fodd bynnag, o unrhyw un o’r uchelderau hyfryd hyn tua’r tollborth, gwelwn afon Llynfi yn ymarllwys i mewn i afon Gwy.

Mae Samuel Lewis yn ei Topographical Dictionary of Wales a gyhoeddwyd ym 1833 yn mynegi teimladau diamheuol teithwyr eraill o ddechrau’r 19eg ganrif wrth sôn am y wlad o gwmpas Talgarth: ‘it is characterized more by features of rugged boldness than of picturesque beauty, even in some parts bordering on the romantic’. Roedd llygad yr arlunydd o’r 18fed a’r 19eg ganrif, fodd bynnag, yn cael ei thynnu at olygfeydd a henebion dyffrynnoedd Gwy a Wysg yn hytrach na’r bryniau oddi amgylch, a chyhoeddwyd golygfeydd o Sir Frycheiniog mewn llyfrau lluniau yn ogystal ag mewn gweithiau hanesyddol a thopograffaidd. Y golygfeydd cyntaf i gael eu cyhoeddi oedd y rhai o Gastell Y Gelli a Chastell Bronllys gan y brodyr Buck yn y 1740au, golygfeydd y gwnaed brasluniau ohonynt eto gan Sir Richard Colt Hoare, yr hynafiaethwr, yn ystod ei daith gyda Richard Fenton ym 1804. Ymddangosodd Castell Bronllys eto yn Beauties of Cambria, a gyhoeddwyd ym 1823. Adeilad arall o ddiddordeb yn yr ardal, y cyhoeddwyd lluniau ohono oedd Coleg y Methodistiaid Calfinaidd yn Nhrefeca, a ymddangosodd o 1786 ymlaen.

Mae parciau a gerddi yn elfen arbennig o bwysig yn nhirlun ardal y tirlun hanesyddol, ac mae nifer ohonynt yn ymddangos yn y Register of Landscapes, Parks and Gardens of Special Historic interest in Wales. Cynrychiolir cryn amrywiaeth o dirluniau addurniadol a hamddenol yn yr ardal, gan gynnwys parc ceirw o gyfnod yr oesoedd canol hwyr neu’r Dadeni, gweddillion gerddi ffurfiol Jacobeaidd ac Elisabethaidd, parciau tirlun a thiroedd pleser o’r 18fed a’r 19eg ganrif, a rhai gerddi modern nodedig.

Ymddengys fod y parc ceirw yng Ngwernyfed yn dyddio’n ôl i’r oesoedd canol diweddar. Roedd y darn helaeth hwn o dir, tir agored ar yr iseldir ar un adeg, yn ymestyn o droedfryniau’r Mynydd Du ger Felindre hyd at lannau afon Llynfi yn Aberllynfi, ac ymddengys iddo oroesi heb fawr ddim newidiadau hyd at ddiwedd y 18fed ganrif. Roedd y parc ceirw yn rhan o faenor, a gellir olrhain ei berchnogaeth gan un o’r prif deuluoedd bonheddig yn y wlad, i ddechrau’r 16eg ganrif o leiaf, a chyn hynny o bosibl. Roedd y maenordy gwreiddiol yn Old Gwernyfed wedi’i leoli ar yr hen ffordd fawr rhwng Talgarth a’r Gelli, gan fynd drwy Felindre a Llanigon. Fe ailadeiladwyd y ty yn helaeth ar ddechrau’r 17eg ganrif, ac mae’n debyg fod gweddillion gardd ffurfiol ryfeddol gyda therasau a osodwyd y tu ôl i’r ty, ynghlwm wrth berllannau a llynnoedd pysgod cynharach o bosibl, hefyd yn perthyn i’r cyfnod hwn. Roedd y parc ceirw yn rhan o faenor yn perthyn i un o’r gwyr bonheddig pwysig. Fe symudodd y perchnogion eu prif gartref i Neuadd Llangoed ger Llyswen tua’r 1730au, er fod gwahanol elfennau addurniadol wedi eu hychwanegu at y parc ceirw yn ystod hanner olaf y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, gan gynnwys cyfres o rodfeydd gyda choed o boptu, i bob cyfeiriad, pistyll dwr a drysfa. Fe adeiladwyd plasty newydd ar arddull Jacobeaidd ym Mharc Gwernyfed, ym mhen gogleddol y parc yn y 1870au a’r 1880au gyda gerddi llysiau wedi’u hamgylchynu gan wal, rhodfa hir, bwthyn ciper a giatiau haearn gyr anferth yn agor mynediad i’r llinellau cysywllt newydd rhwng Talgarth a’r Gelli, yn mynd drwy Three Cocks a Treble Hill i’r gogledd. Fe blannwyd bedw a phinwydd addurnol drwy’r parc yn hanner olaf y 19eg ganrif ac maent yn parhau yn amlwg heddiw, er fod llawer o dir y parc bellach wedi’i rannu’n gaeau llafur ers i’r stad gael ei chwalu yn y 1950au.

Mae’r gwahanol elfennau tirlun addurniadol a gynrychiolir un ar ôl y llall yng Ngwernyfed yn cael eu hailadrodd ar raddfa lai mewn lleoedd eraill o fewn y tirlun hanesyddol. Mae Castell Y Gelli yn cynnwys gweddillion gardd ffurfiol gyda therasau o’r 17eg ganrif a thiroedd pleser o’r 17eg a’r 18fed ganrif o fewn gweddillion y castell canol oesol, gyda phlasty Jacobeaidd yn gysylltiedig. Ceir olion o erddi o’r oesoedd canol diweddar hefyd o bosibl o fewn gardd ffurfiol o’r 20fed ganrif yn Nhrefeca Fawr. Mae’r cloddwaith isel sy’n gysylltiedig â Threbarried yn awgrymu gweddillion gardd arall o gyfnod y gerddi ffurfiol. Mae nifer o dwmpathau yn Y Dderw a mannau eraill o bosibl yn cynrychioli twmpathau i edrych dros y gerddi.

Mae map o Sir Faesyfed gan Saxton o ddechrau’r 17eg ganrif yn dangos parc tirlun cynnar neu barc ceirw o amgylch Great Porthamel. Ymddengys fod parc tirlun prydferth wedi cael ei greu ar hyd y nant i’r gorllewin o’r hen blasty yn Nhregunter yn ail hanner y 18fed ganrif, yn rhannol drwy greu argae ar draws y nant sy’n rhedeg i afon Dulas. Roedd hyn yn un o blith aml i dasg a gyflawnwyd gyda’r ffortiwn a wnaed yn Llundain gan Thomas Harris, brawd hynaf Howel Harris, Trefeca. Cafodd y tir parc o ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg, lle mae hen Ysbyty Bronllys yn sefyll bellach, ei greu er mwyn cynnwys plasty o’r 1750au ac mae’n cynnwys nifer o goed tir parc sylweddol hyd at 200 oed. Fe godwyd y Plasty Pont-y-wal presennol yn ei le yn ail hanner y 19eg ganrif, gyda gardd a waliau o’i amgylch i’r gogledd-ddwyrain o’r ty. Mae tir y parc sy’n perthyn i Gastell Maesllwch, a gafodd ei greu mae’n debyg yn hanner cyntaf y 18fed ganrif, yn sefyll mewn ardal oedd ar un adeg yn gaeau comin agored ond a gaewyd yn ddiweddarach. Roedd tir y parc eisoes yn bod erbyn y 1770au, ac mae’n fwy na thebyg fod y ffos i’r gogledd o’r ty hefyd yn perthyn i’r cyfnod hwn. Mae ffurf bresennol y parc yn dyddio o’r 1840au pan gafodd parc tirlun mawr, gyda gerddi ffurfiol, gerddi llysiau gyda waliau o’u hamgylch tua’r gorllewin, a thiroedd pleser coediog tua’r gogledd, eu creu fel cefndir i’r plasty castellog, sy’n sefyll mewn lle amlwg uwchlaw dyffryn Gwy. Roedd hyn yn golygu unioni’r ffordd gyhoeddus o’r Clas ar Wy i fyny i Gomin Ffynnon Gynydd ar y bryniau uwchlaw. Llwyddwyd i greu effaith parc tirlun yn y 19eg ganrif drwy blannu coed o gwmpas amryw o dai mawr eraill yn yr ardal, gan gynnwys Trephilip, Felin-newydd, Ty Tregoyd, Fferm Boatside a Clyro Court.

Roedd y perllannau afalau, gellyg a cheirios a oedd ynghlwm wrth dai a ffermydd yn elfen bwysig o’r tirlun yn ardal tirlun hanesyddol Canol Gwy ar un adeg, ac mae’n drist fod llawer ohonynt wedi edwino erbyn heddiw. Mae rhai o’r perllannau’n dyddio’n ôl i’r canol oesoedd o bosibl, tra bo eraill mae’n debyg yn dyddio o ail hanner yr 17eg ganrif ymlaen. Mae’r Parchedig Francis Kilvert, curad Cleirwy rhwng 1865-72, yn rhoi disgrifiad cyfoes yn ei ddyddiadur yng ngwanwyn 1870:

Mae’r holl wlad wedi ei goleuo yn awr gyda blodau’r gellyg, fel eira yng nghanol eu dail bychain gwyrdd golau. Saif y coed gellyg fel goleuadau o gwmpas y gerddi a’r perllannau ac yn y caeau. Mae’r hen goeden gellyg fawr wych gyferbyn â’r Ficerdy yn ei blodau.

Mae effaith y ffrwythau ar y coed yn hydref yr un flwyddyn yr un mor atgofus:

Rhyw fymryn islaw ar foncyn y berllan yr oedd coeden afalau yn tyfu. Roedd ei changhennau coch llachar a’i brigau ifanc yn sefyll i fyny mewn cyferbyniad hyfryd i’r mynyddoedd glas golau a’r dref lwyd a’r dyffryn glas. Ac roedd twr llwyd Eglwys Cleirwy yn pipian drwy’r canghennau coch llachar.

Gwyddys am amryw o lynnoedd pysgod yn yr ardal yn ychwanegol at y rhai a nodwyd yn Old Gwernyfed, gan gynnwys y llynnoedd pysgod ger Tregunter, cloddwaith ger Fishpond Wood yng Nghwm-bach, sy’n cynrychioli hen lynnoedd pysgod i bob golwg, a’r llynnoedd pysgod yn Nhrefeca Fawr. Ymddengys fod y llynnoedd yn Nhregunter wedi cael eu creu yn y 1760au neu’r 1770au, ond mae eraill yn mynd yn ôl i’r canol oesoedd o bosibl. Ymddengys mai’r llynnoedd i’r gogledd o Drefeca Fawr yw’r rhai a grybwyllir mewn siarter o’r 1170au oedd yn cyflwyno tir i Briordy Aberhonddu gan Roger de Baskerville.

Mae ardal tirlun hanesyddol Canol Gwy yn cynnwys casgliad nodedig o barciau a gerddi pwysig sy’n bwysig o ran mynegiant o gyfoeth a dylanwad y stadau tir a ddaeth i fod ar sail y maenorau canol oesol yn y tiroedd isel cyfoethog ar hyd afon Llynfi a Gwy. Mae’r gweddillion ffisegol yn cynnwys cloddwaith, twmpathau golygfa, adeiladwaith gerddi, llynnoedd pysgod, gweddillion perllannau, terfynau, gerddi gyda wal o’u hamgylch, a choed wedi eu plannu. Mae pwysigrwydd arbennig yn perthyn i’r llynnoedd canol oesol, gweddillion gerddi ffurfiol o’r canol oesoedd a chyfnod y Dadeni, gweddillion perllannau hynafol, gerddi gyda wal o’u cwmpas neu erddi llysiau o’r 18fed a’r 19eg ganrif, a pharciau tirlun, sydd yn amlwg yn codi amryw byd o gwestiynau ynglyn â rheolaeth a chadwraeth.

Ardaloedd cymeriad

Character Areas

The Middle Wye: Gwy
Bronllys, Glasbury and Gwernyfed, Powys
(HLCA 1098)

Gwy Cymunedau Bronllys, Y Clas ar Wy a Gwernyfed, Powys (HLCA 1098)

Gorlifdir afon Gwy gydag ystumlynnoedd a doleniadau afon a therfynau caeau, yn cynrychioli cau diweddar ar hen ddolydd oedd yn rhan o dir comin yr iseldir rhwng Y… Yn ôl i'r map
The Middle Wye: Glasbury
Glasbury and Gwernyfed, Powys
(HLCA 1097)

Y Clas ar Wy Cymunedau Y Clas ar Wy a Gwernyfed, Powys (HLCA 1097)

Aneddiadau unionlin ôl-ganol oesol ar hyd coridor cysylltiadau, wedi ei osod ar anheddiad cnewyllol canol oesol ger man croesi cynnar pwysig dros afon Gwy. Cefndir Hanesyddol O safbwynt… Yn ôl i'r map
The Middle Wye: Tir-mynach Clyro, Powys (HLCA 1096)

Tir-mynach Cymuned Cleirwy, Powys (HLCA 1096)

Tirlun amaethyddol trefnus ar dir isel ar farian rhewlifol twmpathog, gyda phatrwm caeau sydd o bosibl yn adlewyrchu presenoldeb caer Rufeinig a maenor fynachaidd o'r oesoedd canol. Cefndir… Yn ôl i'r map
Pen-rhos-dirion, Gwernyfed, Llanigon and Talgarth, Powys (HLCA 1095)

Pen-rhos-dirion, Cymunedau Gwernyfed, Llanigon a Thalgarth, Powys(HLCA 1095)

Tir comin heb ei gau ar yr ucheldir ar darren ogleddol y Mynydd Du gyda chofadeiliau claddu a defodol cynhanesyddol, olion ymestyniad amaethyddol a chwarelyddol i'r tir ymylol… Yn ôl i'r map
Gwrlodde
Talgarth, Powys
(HLCA 1094)

Gwrlodde, Cymuned Talgarth, Powys(HLCA 1094)

Ffermydd gwasgaredig a chaeau bychain trefnus o ganlyniad i glirio coedlannau yn systematig a chau tir ar droedfryniau llechweddog y Mynydd Du i'r de o Dalgarth yn ystod… Yn ôl i'r map
Ffostyll
Gwernyfed and Talgarth, Powys
(HLCA 1093)

Ffostyll Cymunedau Gwernyfed a Thalgarth, Powys (HLCA 1093)

Anheddiad eglwysig bychan unig yn Llaneleu, wedi'i amgylchynu gan dir bryniog isel ar droed y Mynydd Du, gyda ffermydd gwasgaredig o fewn tirlun o lechweddau coediog a chaeau… Yn ôl i'r map
The Middle Wye: Maestorglwydd
Gwernyfed, Llanigon and Talgarth, Powys
(HLCA 1092)

Maestorglwydd, Cymunedau Gwernyfed, Llanigon a Thalgarth, Powys(HLCA 1092)

Troedfryniau islaw tarren ogleddol y Mynydd Du, wedi'u hollti gan gymoedd dyfnion yn cynnwys nentydd, gyda ffermdai gwasgaredig, rhai yn dai hirion o'r canol oesoedd, o fewn tirlun… Yn ôl i'r map
Llynfi, Bronllys, Felinfach, Llangorse, Talgarth, Powys (HLCA 1091)

Llynfi, Cymunedau Bronllys, Felinfach, Llangors, Talgarth, Powys (HLCA 1091)

Aneddiadau cnewyllol a ffermydd mawr gwasgaredig yn tarddu o faenorau Seisnig canol oesol ynghlwm â chaeau canol oesol agored a helaeth ar hyd glannau dyffryn ffrwythlon Llynfi. Cefndir… Yn ôl i'r map
Gwernyfed
Gwernyfed, Powys
(HLCA 1090)

Gwernyfed Cymuned Gwernyfed, Powys (HLCA 1090)

Tirlun isel a llechweddau'n disgyn yn raddol gyda hen barc ceirw a bwthyn heliwr canol oesol, gweddillion gerddi ffurfiol o gyfnod y Dadeni a thy maenor, a pharc… Yn ôl i'r map
Tir-uched Gwernyfed and Llanigon, Powys (HLCA 1089)

Tir-uched Cymunedau Gwernyfed a Llanigon, Powys (HLCA 1089)

Ffermydd gwasgaredig canol oesol a diweddarach ar dir isel ar lannau deheuol afon Gwy rhwng Y Gelli a'r Clas ar Wy, rhai yn tarddu o faenorau Seisnig. Cefndir… Yn ôl i'r map
Llyswen Bronllys and Glasbury, Powys (HLCA 1087)

Llyswen Bronllys and Glasbury, Powys (HLCA 1087)

Anheddiad cnewyllol eglwysig canol oesol a maenorau ac olion trin tir agored ar raddfa helaeth ar dir isel sy'n draenio'n dda o gwmpas afon Gwy, gydag adeiladau hwyrach… Yn ôl i'r map
Gro
Clyro, Glasbury, Gwernyfed and Llanigon, Powys
(HLCA 1086)

Gro Cymunedau Cleirwy, Y Clas ar Wy, Powys (HLCA 1086)

Gorlifdir afon Gwy rhwng Y Clas ar Wy a'r Gelli, gydag ystumlynnoedd a doleniadau afon a chaeau petryal mawr yn cynrychioli gwaith cau diweddar ar yr hen ddôl… Yn ôl i'r map
Trebarried Bronllys, Felinfach and Talgarth, Powys (HLCA 1085)

Trebarried Cymunedau Bronllys, Felinfach a Thalgarth, Powys (HLCA 1085)

Anheddiad cnewyllol o gwmpas eglwys ganol oesol Llanfilo a ffermydd gwasgaredig o'r oesoedd canol a diweddarach ar fryniau isel a phantiau i'r gorllewin o afon Llynfi, nifer o'r… Yn ôl i'r map
Cwmbach, Glasbury, Powys (HLCA 1084)

Cwm-bach Cymuned Y Clas ar Wy, Powys (HLCA 1084)

Ffermdai gwasgaredig o'r canol oesoedd a diweddarach ar fryniau isel, o fewn tirlun o gaeau canolig eu maint â gwrychoedd a cheuffyrdd, gyda gweddillion darnau o goedlannau hynafol… Yn ôl i'r map
Maesllwch, Glasbury, Powys (HLCA 1083)

Maesllwch Cymuned Y Clas ar Wy, Powys (HLCA 1083)

Parc tirlun mawr o'r 19eg ganrif sy'n lleoliad prydferth i'r castell ffug Duduraidd o oes Fictoria a osodwyd yng nghaeau canol oesol agored Y Clas ar Wy, caeau… Yn ôl i'r map
Wye: Bryn-yr-hydd
Clyro and Glasbury, Powys
(HLCA 1082)

Canol Dyffryn Gwy: Bryn-yr-hydd Cymunedau Cleirwy a’r Clas ar Wy, Powys (HLCA 1082)

Aneddiadau bychain cnewyllol o'r canol oesoedd o gwmpas castell ac eglwys ar ymyl y dyffryn, a ffermydd gwasgaredig o'r cyfnod canol a diweddarach ar dir isel mynyddig o… Yn ôl i'r map