Mae’r disgrifiad canlynol, a ddaw o’r Gofrestr Tirluniau Hanesyddol, yn nodi’r themâu hanesyddol hanfodol yn ardal tirlun hanesyddol Canol Dyffryn Wysg.
Mae’r disgrifiad canlynol, a ddaw o’r Gofrestr Tirluniau Hanesyddol, yn nodi’r themâu hanesyddol hanfodol yn ardal tirlun hanesyddol Canol Dyffryn Wysg.
Mae’r rhan o ddyffryn Wysg a nodir yma yn gorwedd i’r dwyrain a’r gorllewin o Aberhonddu yn ne Powys; ardal a ffinnir i’r de gan lethrau dwyreiniol Bannau Brycheiniog ac i’r gogledd gan odrau deheuol Mynydd Epynt. I’r dwyrain, mae ochr orllewinol llethrau’r Mynyddoedd Du yn edrych dros y basn bas sy’n cynnwys Llyn Syfaddan sydd wedi’i gynnwys yn yr ardal. Mae dyffryn Wysg yn ffurfio tramwyfa nodedig sy’n hawdd ei chyrraedd ar draws yr ardal, gyda’i lawr llydan, gwastad yn codi’n raddol o 120m uwchben SO yn Llansantffraid yn y dwyrain i 150m uwchben SO yn Aberbrân yn y gorllewin. Ar bob ochr i’r dyffryn, mae’r llethrau’n codi i dirwedd dyranedig, tonnog o fryniau isel, esgeiriau a dyffrynnoedd bas rhwng 150m a 300m uwchben SO.

Mae’r argraff weladwy o’r ardal wedi’i goruchafu gan y caeau bychain â chloddiau sy’n amgáu’r tir amaethyddol cyfoethog ar waelod y dyffryn, ac mae mewn sawl ffordd yn olygfa nodweddiadol yng Nghanolbarth Cymru. Deillia’r patrwm cyfoethog hwn o ddefnydd tir o’i hanes ffermio ac aneddiad cymhleth o ffermwyr Neolithig cynnar drwy ‘oresgynwyr’ Rhufeinig a Normanaidd, y Saint Celtaidd, i olion amaeth a masnach ganoloesol a diweddarach. Mae pob cyfnod o ddefnydd tir wedi ffurfio’r tirwedd a chafodd pob un yn ei dro ei orgyffwrdd gan a’i guddio’n rhannol gan y cyfnod a’i olynodd. Mewn cyferbyniad bron â’r parhad hwn, mae Canol Dyffryn Wysg hefyd yn enghraifft glasurol o dirwedd Cymreig o oruchafu, goresgyniad a newid gwleidyddol, ac mae llawer o’r elfennau archaeolegol a hanesyddol sy’n weladwy heddiw wedi deillio o’r ffordd y mynnodd dyn reoli’r tirwedd, nid yn unig yn y cyfnodau Rhufeinig a chanoloesol a chyfnodau diweddarach, ond hefyd yn y cyfnod cynhanesyddol.
Mae beddrod hir â siambrau claddu Neolithig Tŷ Illtud yn nodweddiadol o olion cynhanesyddol cynharach, ac mae’n gorwedd yn nwyrain yr ardal rhwng Aberhon ddu a Llyn Syfaddan. Mae’r beddrod megalithig 5000 mlwydd oed hwn yn cynnwys cyfres o siambrau adeiledig o gerrig sych a orchuddiwyd unwaith gan domen hir o bridd. Mae’r gofadail yn un o grŵp o feddrodau tebyg ym Mannau Brycheiniog a’r Mynyddoedd Du. Er mai cymharol brin yw’r olion o’r cyfnod pellennig hwn sydd wedi go roesi yn y tirwe dd hwn, neu unrhyw dirwe dd arall yng Nghymru, mae’r tomenni claddu cymunedol hyn yn rhoi cipolwg difyr ar fywyd a marwolaeth y ffermwyr Neolithig a oedd yn byw yng Nghanol Dyffryn Wysg. Yn ôl traddodiad lleol defnyddiwyd siambrau gwag Tŷ Illtud yn ddiweddarach fel cell meudwy gan Sant Illtud yn y 6ed ganrif, ac ar yr adeg honno cerfiwyd nifer o groesau a symbolau Cristnogol eraill ar eu muriau.
Cynrychiolir cynhanes diweddarach Oes yr Efydd gan nifer o feddrodau crwn a charneddau claddu ar y tir uwch sy’n edrych dros lawr cyfoethog dyffryn Wysg, sydd yn ei dro yn cynnwys nifer o feini hirion enigmatig.
I’r gorllewin o Aberhonddu mae olion trawiadol Caer Aberhonddu, yr enghraifft wychaf o gaer Rufeinig sydd wedi goroesi ym Mhowys. Wedi’i hadeiladu o fewn golwg i crug, mae’n gwarchod y ffordd Rufeinig sy’n arwain i Orllewin Cymru o Gaerllion wrth ei chyffordd â Sarn Helen wrth iddi ddod i lawr o Fforest Fawr i groesi’r Wysg a theithio tua’r gogledd i Ganolbarth Cymru. I’r dwyrain o Aberhonddu mae olion yr unig fila Rufeinig ym Mhowys lle y datgelodd gwaith cloddio yn y 18fed ganrif faddondy gwych â llawr mosäig. Nid yw maint yr aneddiad Rhufeinig yn yr ardal yn hysbys, ond does dim amheuaeth bod y Rhufeiniaid wedi efelychu a manteisio ar y patrwm aneddiad eisioes mewn bodolaeth a’r defnydd o’r tir y buasent wedi ei ddarganfod o amgylch y bryngaerau mawr Oes yr Haearn yn Allt yr Esgair, Slwch Tump, Pen-y-crug a Choed fenni-fach.
Hefyd i’r dwyrain o Aberhonddu,ger Llan-gors, mae Llyn Syfaddan, sy’n bwysig yn hanes a chwedloniaeth Cymru. Crëwyd yr ynys fechan,neu’r grannog,a wnaed gan ddyn, fel palas caerog gan Brychan, brenin Brycheiniog, ar ddiwedd y 9fed ganrif ac fe’i dinistriwyd, yn ôl Croniclau’r Eingl-Sacsoniaid, yn AD 916. Mae chwedl leol yn sôn am sut mae’r llyn yn cuddio olion dinas a reolwyd gan dywysoges greulon a barus a gytunodd i briodi gŵr tlawd dim ond os byddai’n dod â chyfoeth mawr iddi. Llofruddiodd y dyn fasnachwr cyfoethog er mwyn ennill llaw y dywysoges, ond er mwyn dial, creodd ysbryd y masnachwr storm ofnadwy a foddodd y deyrnas. Nid yw’n hysbys pryd y dechreuodd y chwedl, ond mae’n gynharach na’r gwaith cloddio archaeolegol cyntaf yn y grannog ym 1850 ac mae’n atgof gwerinol difyr a sylwgar. Yn fwy credadwy, fel canolfan frenhinol ac eglwysig bwysig ym Mrycheiniog,gallai’r grannog fod wedi bod yn fan cyfansoddi’r penillion Cymraeg cynnar, Canu Llywarch Hen, a ysgrifennwyd fwy na thebyg rhwng yr 8fed a chanol y 10fed ganrifoedd, yn ystod oes aur brenhinlin Llan-gors a Brycheiniog. Datgelwyd olion yr ynys yn llawn drwy waith cloddio ar ddechrau’r 1990au. Llyn Syfaddan yw’r unig grannog hysbys yng Nghymru, er ei bod yn ffurf gyffredin yn yr Iwerddon; awgrymir y cysylltiad Gwyddelig posibl hwn gan y nifer fawr o arysgrifau Ogam mewn eglwysi lleol. Mae gan bentrefi glan llyn Llan-gors a Llangasty sylfeini mynachaidd Celtaidd cynnar fwy na thebyg.
Cynrychiolir gorchfygiad ac aneddiad o’r cyfnod canoloesol yma hefyd ac mae hanes a thraddodiad yn awgrymu i’r frwydr derfynol rhwng byddinoedd Cymreig Bleddin ap Maenarch a byddin oresgynol Normanaidd Bernard de Neufmarché gael ei hymladd ger Y Batel ym 1092. Arweiniodd y fuddugoliaeth Normanaidd at orchfygu’r boblogaeth frodorol a thwf tref Aberhonddu. Roedd y castell cynharaf yn Aberhonddu yn un tomen a beili, ac fe’i disodlwyd yn ddiweddarach gan gastell o gerrig. Mae gan y dref hefyd olion priordy Benedictaidd, a sefydlwyd yn wreiddiol ym 1100, sydd, er gwaethaf iddo gael ei adnewyddu’n sylweddol gan y pensaer Fictoraidd mawr Syr Gilbert Scott, yn parhau i feddu ar nifer o nodweddion diddorol, megis ffenestri pigfain Cynnar Seisnig prin a’r adeiladau cwfeiniol o’r 16eg ganrif. Ym 1923, dewiswyd y priordy, a oedd erbyn hynny wedi dod yn Eglwys Blwyf Aberhonddu, fel Eglwys Gadeiriol Esgobaeth Abertawe ac Aberhonddu, a oedd newydd gael ei ffurfio, un o ddwy esgobaeth newydd a sefydlwyd gan yr Eglwys yng Nghymru newydd, yn dilyn ei gwahanu o Eglwys Loegr. Mae’r dref hefyd yn cynnwys mynachlog Ddominicaidd,a sefydlwyd yn wreiddiol yn y 13eg ganrif, ac er ei bod bellach yn ysgol ac wedi cael ei newid llawer, dyma yn ôl y sôn yw’r grŵp unigol mwyaf o adeiladau Dominicaidd sydd wedi goroesi ym Mhrydain.
Ffurfiodd presenoldeb y castell a’r ddau adeilad eglwysig pwysig hyn y sail ar gyfer tref ganoloesol lewyrchus ac erbyn y 13eg ganrif, roedd yr aneddiad wedi lledaenu i’r tir is ar ymyl Afon Wysg, sydd bellach â phont gerrig wych drosti sy’n dyddio o 1563, a rhoddwyd amddiffynfeydd o gerrig arni. Er bod peth o’r ffabrig canoloesol hwn wedi goroesi mewn mannau, heddiw prif nodwedd pensaernïaeth Aberhonddu yw tai trefol o frics a cherrig cain o’r 18fed a’r 19eg ganrifoedd. Yn wir, roedd poblogaeth o 5026 yn ei gosod fel nawfed tref fwyaf Cymru ar ddiwedd y cyfnod hwn. Mae llawer o’r bensaernïaeth ddiweddarach hon yn parhau heb ei newid na’i difwyno gan ddatblygiad modern, ac mae hyn, ynghyd â’i gwreiddiau canoloesol yn ased bleserus a gwerthfawr, ac un sy’n gynyddol brin ymysg trefi eraill Cymru. Heddiw, mae Aberhonddu yn fyd-enwog am ei Gŵyl Jas flynyddol.
Adeiladwyd Aberhonddu, fel ei rhagflaenydd Rhufeinig, i gynnal dyffryn Wysg fel llwybr strategol i Orllewin Cymru, ac, fel y Gaer, fe’i gwarchodir gan aneddiadau brodorol cyfnod cynharach, megis Llanspyddid a Llanfrynach, sydd wedi’u lleoli o amgylch ymylon y dyffryn. Enillodd un o’r aneddiadau Cymreig cynnar hyn, Llanddew, fri yn y cyfnod canoloesol fel safle palas Esgobion Aberhonddu. Meddiannwyd y castell diymhongar hwn rhwng 1175–1203 gan Gerallt Gymro, sef Archesgob Aberhonddu, a ddisgrifiodd y castell fel un a oedd yn ‘well adapted to literary pursuits and the contemplation of eternity’ a dechreuodd ei daith enwog o gwmpas Cymru ar ddiwedd y 12fed ganrif. Mae gan y pentref gasgliad trawiadol o weithgareddau cloddiog canoloesol sy’n awgrymu ei faint a’i bwysigrwydd yn y gorffennol.
Mae Canol Dyffryn Wysg yn enwog am ei chestyll canoloesol, gan ei bod yn cynnwys enghreifftiau gwych o gestyll tomen a beili cynnar arglwyddi Normanaidd y gororau, megis y rheini yn Aberyscir, Alexanderstone a Threberfydd, cestyll cerrig megis Pencelli, a thŷtŵr canoloesol gwych diweddarach yn Scethrog. Mae llawer o’r dyffryn yn dal i gadw’r cymeriad canoloesol a gysylltir â’r cadarnleoedd hyn, gyda phentrefi bychain wedi’u cywasgu ac wedi’u hamgylchynu gan dir pori â gwrychoedd o’i hamgylch. Enghraifft drawiadol iawn o gyfoeth a phwysigrwydd blaenorol yr ardal hon yn ystod y cyfnod canoloesol yw Llanfihangel Talyllyn. Gellir gweld cyn-ffiniau’r pentref canoloesol yn glir yma, gyda gweithgareddau oddiog yn nodi hen strydoedd a llwyfannau adeiladau a oedd unwaith yn llenwi bron i chwarter y pentref. Mae’r ardal hefyd yn enwog am ei thai gwledig mawr, o’r 18fed a’r 19eg ganrifoedd, megis Penpont a Peterstone Court, a’u stadau cysylltiedig sydd wedi ‘trosargraffu’ ar dirwedd eu rhagflaenwyr canoloesol ac ôl-ganoloesol cynnar megis Tŷ Mawr yn Llangasty Talyllyn.
Cysylltodd datblygiad Camlas Aberhonddu a Sir Fynwy (a ddechreuwyd ym 1799,a agorwyd gyntaf ym 1801 ac ymunodd â Chamlas Mynwy ym 1812), sy’n troelli ar hyd ymylon deheuol yr ardal, y dyffryn ag economïau diwydiannol ffyniannus De Cymru. Daeth y glanfeydd a’r stordai a ddatblygwyd yn sgîl hyn yn nherfynfa’r gamlas yn Aberhonddu yn ardal bwysig ar gyfer masnach amaethyddol a’r diwydiant brethyn. Yn yr 1860au, disodlwyd y gamlas gan Reilffordd Aberhonddu a Merthyr oedd yn cysylltu Aberhonddu â’r Rheilffordd Great Western yng Nghastell-nedd, trwy Ystradgynlais, yn y de ac yn ddiweddarach i Henffordd, trwy’r Gelli Gandryll, yn y dwyrain. Yn eironig mae’r cysylltiad gwythiennol hwn wedi hen ddiflannu tra bod y gamlas, sydd wedi’i chroesi gan bontydd sy’n codi a phontydd cefn crwm nodweddiadol, bellach yn darparu llwybr prydferth a phoblogaidd i dwrstiad ar hyd y dyffryn.
Llunio Tirwedd Canol Dyffryn Wysg
Amlinellir y grymoedd sydd wedi helpu i ffurfio’r dirwedd hon o ddiddordeb hanesyddol arbennig yng Nghymru yn yr adrannau sy’n dilyn.
Amgylcheddau a Ffiniau
Y Dirwedd Naturiol
Terfynau ardal tirwedd hanesyddol Canol Dyffryn Wysg yw Mynydd Epynt i’r gogledd, Mynydd Troed a Mynydd Llan-gors ar ymyl orllewinol y Mynydd Du i’r dwyrain, ac ochr ddwyreiniol Bannau Brycheiniog i’r de.
Y ddaeareg soled waelodol drwy’r ardal gyfan yw Hen Dywodfaen Coch Silwraidd a Defonaidd. Rhannwyd y prif lif iâ i lawr dyffryn Wysg yn ystod y rhewlifiant diwethaf gan ben gorllewinol y Mynydd Du ger Llan-gors yn rhan ddwyreiniol yr ardal, un gangen yn troi tua’r de-ddwyrain i lawr afon Wysg tuag at Grucywel a’r llall yn dal ymlaen i’r gogledd-ddwyrain ar draws gwastadedd Llynfi i ddyffryn Gwy rhwng y Clas ar Wy a’r Gelli Gandryll. Mae Llyn Syfaddan, y llyn naturiol mwyaf yn Sir Frycheiniog, o darddiad rhewlifol. Mae hyd at 8.5 metr o ddyfnder ac wedi’i dorri i graig soled yn ei fan isaf yn ôl pob tebyg. Caiff y dŵr ei gadw yn y llyn gan rwystr o ro rhewlifol ynghyd â llifwaddodion diweddarach, a ddygwyd i lawr gan nentydd yn codi ar y bryniau i’r dwyrain. Mae dyddodion rhewlifol eraill, gan gynnwys malurion marianol, yn bresennol yn nyffryn Wysg yn ardaloedd Gilestone/Llansanffraid a Brynich/Groesffordd. Ffurfiwyd y cwm bychan ym Mhennorth fel sianel dŵr tawdd rhewlifol yn rhedeg tua’r de o gyfeiriad Llyn Syfaddan i gyfeiriad dyffryn Wysg.
Mae ardal y dirwedd hanesyddol yn rhannu’n nifer o wahanol ardaloedd topograffig, gyda’r ardaloedd sy’n ffinio ag afon Wysg yn gyffredinol wastad ac isel a rhwng tua 120 a 60 metr uwchlaw lefel y môr. Yn y dwyrain mae’r basn bas ychydig yn uwch o gwmpas Llyn Syfaddan gyda thir tonnog o’i gwmpas yn codi i uchder o ryw 270 metr ond gyda chrib unig Allt yr Esgair, rhwng dyffryn Wysg a’r llyn, yn codi i uchder o 390 metr uwchlaw lefel y môr. Mae’r ardal i’r gogledd-ddwyrain o Aberhonddu eto’n donnog braf ac yn gyffredinol rhwng tua 140 a 270 metr uwchlaw lefel y môr. Mae ffurf tir yr ardal i’r gogledd o afon Wysg ac i’r gogledd-orllewin o Aberhonddu yn fwy amrywiol, wedi’i rannu’n nifer o ddyffrynnoedd nentydd ar wahân a bryniau bach unig fel Coed Fenni-fach a Phen-y-crug sy’n cyrraedd uchderau o ryw 300 metr. Saif Aberhonddu ei hun mewn ardal gymharol wastad yn ffinio â gorlifdir yr afon, rhwng tua 130 ac 80 metr uwchlaw lefel y môr.
At ei gilydd, mae’r priddoedd drwy’r ardal gyfan yn briddoedd lomog cochlyd bras sy’n draenio’n dda, ar ben y creigwely tywodfaen, gyda llifwaddod lleidiog cochlyd mân ar hyd gorlifdir gwastad afon Wysg, a phriddoedd cleiog, lleidiog a lomog yn mynd yn llawn dŵr yn ôl y tymor ar ymyl gogledd-orllewinol Llyn Syfaddan. Tir glas parhaol yw’r defnydd tir cyfoes pennaf drwy’r ardal gyfan, ond gyda rhywfaint o dir âr a chnydau porthiant a phlanhigfeydd conwydd ar dir mwy serth a llai hygyrch fel Allt yr Esgair a Choed Fenni-fach.
Mae nifer o wahanol nentydd ac afonydd yn draenio ardal y dirwedd hanesyddol. Yn y gogledd-orllewin mae Nant Brân sy’n ymuno ag afon Wysg yn Aberbrân, Afon Ysgir sy’n ymuno â hi yn Aberysgyr ac Afon Honddu sy’n ymuno â hi yn Aberhonddu, gan ddod â dŵr i lawr o ochrau deheuol Mynydd Epynt. I’r gogledd mae Afon Brynich yn draenio tir i’r de a’r gorllewin o Lan-ddew, gan ymuno ag afon Wysg yn union i’r dwyrain o Aberhonddu. I’r de mae Afon Tarell, sy’n llifo i afon Wysg yn Llan-faes, ac Afon Cynrig sy’n ymuno â hi yn Abercynrig. Mae Afon Wysg ei hun yn llifo drwy orlifdir llifwaddodol eang rhwng Aberhonddu a Thalybont ar Wysg, gyda chyfundrefn gymhleth ac egnïol o ddoleniadau a thoriadau. Fodd bynnag, mae rhan ddwyreiniol yr ardal yn cael ei draenio yn bennaf gan Afon Llynfi a’i llednentydd fel Nant Tawel yn Llanfihangel Tal-y-llyn a Nant Cwy yn Llan-gors sy’n llifo i Lyn Syfaddan ac yn draenio tua’r gogledd i ymuno â gwahanfa ddŵr afon Gwy ger Talgarth.
Ers dyddiau cynnar bu Canol Dyffryn Wysg yn ganolbwynt pwysig i linellau cyfathrebu’n cysylltu de-ddwyrain Cymru ar hyd dyffryn Wysg, a chanoldir Lloegr trwy ddyffryn Gwy, â de-orllewin Cymru. Llwybr oedd hwn a ddefnyddiwyd yn olynol ar gyfer y ffyrdd Rhufeinig o’r ganrif 1af i’r 4edd ganrif, y ffyrdd tyrpeg o’r 18fed i’r 19eg ganrif, y rheilffyrdd yn ddiweddarach yn y 19eg a’r 20fed ganrif, a’r cefnffyrdd modern.
Y Dirwedd Weinyddol
Y dirwedd seciwlar
Y gred yw bod ardal y dirwedd hanesyddol o fewn tiriogaeth y Silwriaid, sef llwyth cyn-Rufeinig oedd yn byw yn ne-ddwyrain Cymru yn ystod Oes yr Haearn. Yn ôl pob tebyg, mae nifer o fryngeyrydd mawr ac amlwg drwy’r ardal gyfan, gan gynnwys y rhai yng Nghoed Fenni-fach, Pen-y-crug, Slwch Twmp ac Allt yr Esgair, yn adlewyrchiad lleol o drefniadaeth y llwyth yn ystod y cyfnod hwn.
Gorchfygwyd yr ardal gan fyddin y Rhufeiniaid a daeth yn rhan o’r ymerodraeth Rufeinig oddeutu 75 OC. Mae’r gaer Rufeinig a gwersyll dros dro posibl yng Nghaer Aberhonddu, i’r gorllewin o Aberhonddu, yn cynrychioli cyfnod goresgyniad a meddiannaeth y Rhufeiniaid. Awgrymwyd y gallai enw Rhufeinig y gaer, Cicucium, a roddwyd ym Myd-ddarlun Ravenna, ddeillio o wraidd Celtaidd yn disgrifio’i lleoliad topograffig fel bron. Mae Caer Aberhonddu’n ganolbwynt cyfundrefn o ffyrdd Rhufeinig milwrol strategol, yn rhedeg tua’r de i gyfeiriad Ystradgynlais (Powys), tua’r gogledd i gyfeiriad Llandrindod, tua’r de-ddwyrain ar hyd dyffryn Wysg i’r Fenni (Sir Fynwy), tua’r gogledd-ddwyrain i Kenchester (Swydd Henffordd) a thua’r de-orllewin i Lanymddyfri (Sir Gaerfyrddin). Dengys cerrig milltir Rhufeinig arysgrifedig y cynhaliwyd y ffordd rhwng Caer Aberhonddu a Llanymddyfri tan y 3edd ganrif ddiweddar o leiaf a’r ffordd rhwng Caer Aberhonddu a’r Fenni tan oddeutu canol y 4edd ganrif o leiaf. Ar wahân i anheddiad sifil a ddatblygodd ar bwys Caer Aberhonddu ni sefydlwyd unrhyw ganolfannau poblogaeth mawr yn yr ardal yn ystod cyfnod y Rhufeiniaid ac, o ganlyniad, mae’n ymddangos y parhaodd yr ardal i fod dan reolaeth a gweinyddiaeth filwrol hyd ddiwedd cyfnod rheolaeth Rufeinig yn y 5ed ganrif gynnar. Serch hynny, mae presenoldeb y casgliad adeiladau statws uchel ym Maesderwen, ger Llanfrynach, yn awgrym o sefydlu ystadau tiriog Rhufeinig yn yr ardal yn ystod y 3edd ganrif a’r 4edd ganrif.
Darganfuwyd y garreg goffa o’r 6ed ganrif yn dwyn yr enw Carreg Victorinus (bellach yn Amgueddfa Brycheiniog) i’r de-ddwyrain o Sgethrog ar linell debygol y ffordd Rufeinig rhwng y Fenni a Chaer Aberhonddu. Mae’r arysgrif fertigol ar y garreg biler fwy neu lai silindraidd, yn cofnodi enw Nemnius (neu Numnius) mab Victorinus, sy’n awgrymu’n gryf bod pwysigion lleol o fewn cymdeithas seciwlar Rufeinig ddiweddar, rhai’n dal i ddefnyddio enwau Rhufeinig, wedi bod yn ddylanwadol mewn cyfundrefnau o drefniadaeth gymdeithasol a defnydd tir yn y cyfnod ôl-Rufeinig cynnar.
Erbyn y canol oesoedd cynnar roedd yr ardal yn rhan o deyrnas Brycheiniog, sef un o’r teyrnasoedd Prydeinig cynnar a ddaeth i’r amlwg yng Nghymru erbyn y 7fed ganrif i’r 8fed ganrif. Mae traddodiadau cyn-Normanaidd yn awgrymu cysylltiad rhwng brenhinoedd Brycheiniog a Thalgarth yn y cyfnod hwnnw. Mae’r chwedlau sylfaen hyn sydd mewn dau destun Lladin canoloesol — De Situ Brecheniauc (‘Ynghylch Brycheiniog’) a Cognacio Brychan (‘Tylwyth Brychan’) — yn enwi Teuderic (Tewdrig) fel brenin yr ardal yn y 5ed ganrif gynnar o bosib. Roedd Teuderic, a oedd yn honni disgyniad o uchelwr Rhufeinig, yn byw mewn lle o’r enw Garth Matrun. Yn ôl sylwebyddion, y bryn amlwg â’i ffurf nodweddiadol sydd bellach yn dwyn yr enw Mynydd Troed (2-3 cilomedr tu hwnt i ffin ddwyreiniol ardal y dirwedd hanesyddol) yw’r garth a thref gyfoes Talgarth (‘ael y garth’) sy’n gorwedd wrth odre Mynydd Troed yw Garth Matrun. Yn ôl traddodiad, cymeriad chwedlonol Brychan, ŵyr Teuderic, sefydlodd deyrnas Brycheiniog yn ôl pob golwg trwy ehangu teyrnas ei daid, gyda’i ganolbwynt gweinyddol yn Nhalgarth yn nyffryn ffrwythlon afon Llynfi.
Bu gwrthdaro â theyrnas Brycheiniog, un o’r teyrnasoedd llai ymosodol cynnar yng Nghymru, o sawl cyfeiriad, i’r graddau iddi geisio amddiffyniad y brenin Alfred, teyrn yr Eingl-Sacsoniaid yn rhan olaf y ganrif. Mae arwyddion gwrthdaro gyda theyrnas eginol Gwynedd yng ngogledd-orllewin Cymru erbyn y 9fed ganrif ac, yn 896, roedd Llychlynwyr ymosodol hefyd wedi achosi distryw mewn rhannau o’r deyrnas.
Mae’r dystiolaeth hanesyddol ac archeolegol yn crybwyll mai’r crannog neu’r ynys wneud yn Llyn Syfaddan oedd preswylfa Tewdwr ab Elise, brenin Brycheiniog ar ddiwedd y 9fed ganrif a dechrau’r 10fed ganrif, y crannog wedi cael ei adeiladu efallai mewn ymateb i beryglon cyrchoedd y Llychlynwyr. Dywed Croniclau’r Eingl-Sacsoniaid bod yr arglwyddes Aethelflaed, teyrn Eingl-Sacsonaidd y Mersiaid a merch Alfred, wedi anfon byddin i Gymru yn 916, yn dilyn marwolaeth ei thad a thridiau ar ôl llofruddiaeth yr abad Ecgberht a’i gymdeithion. Yr hanes yw bod y fyddin wedi dinistrio Brecenanmere (‘llyn Aberhonddu’), sydd bron yn bendant yn dynodi’r crannog yn y llyn lle’r oedd y llys brenhinol, ac arweiniodd hyn at gipio gwraig Tewdwr a thros ddeg ar hugain o bobl eraill.
Mae’r crannog, sef yr unig safle penodol o’r math hwn sy’n hysbys yng Nghymru, yn debyg iawn i rai yn Iwerddon: mae’n ymddangos y dylanwadodd technegau adeiladu Gwyddelig arno, ac efallai iddo gael ei adeiladu gyda chymorth crefftwyr o Iwerddon. Arwyddocaol, yn ôl pob tebyg, yw bod brenhinoedd Brycheiniog mewn testunau achyddol diweddarach yn honni eu bod yn disgyn o linach Wyddelig yn rhannol, sef cysylltiad sydd, mae’n debyg, hefyd yn egluro bodolaeth clwstwr neilltuol o gerrig arysgrif ogam yn yr ardal. Efallai bod defnyddio’r dulliau adeiladu anghyffredin yng nghrannog Llan-gors wedi atgyfnerthu hawliadau’r tŷ brenhinol i ach Wyddelig a thrwy hynny wella eu statws cymdeithasol a gwleidyddol. Mae haen losg a ddarganfuwyd yn ystod cloddio archeolegol yn nodi dinistrio crannog Llan-gors
The locations of subsequent royal centres in Brycheiniog are uncertain. Dependence upon the English crown continued into the 10th century. The kings of Brycheiniog attended the English royal court in the 930s, though towards the end of the 10th century the kingdom recognised the overlordship of the kingdom of Deheubarth in south-west Wales, then under its king Maredudd ab Owain. In the 11th century it was acquired as a sub-kingdom by the expansionist kingdom of Gwynedd under its ruler Gruffudd ap Llywelyn. Native rule finally came to an end with the Norman conquest of Brycheiniog by Bernard de Neufmarché when the defeat of Rhys ap Tewdwr, prince of Deuheubarth, ruler of south Wales and overlord of Brycheiniog in 1093 brought the rule of Bleddin ap Maenarch of Brycheiniog to an end.
Adeiladodd a datblygodd Bernard de Neufmarché a’i olynwyr gastell yn Aberhonddu ar ôl y goresgyniad, ar ddiwedd yr 11eg ganrif neu ddechrau’r 12fed ganrif, a daeth hwn yn ganolfan weinyddol arglwyddiaeth mers newydd Aberhonddu. Daeth yr anheddiad a dyfodd ochr yn ochr â’r castell yn brif dref farchnad y rhanbarth, ei dylanwad yn ymestyn ymhell i’r wlad oddi amgylch. Yn ail hanner y 12fed ganrif roedd yr arglwyddiaeth mers yn ffurfio rhan o diriogaeth William de Braose ac, ar ddiwedd y 13eg ganrif, daeth yn rhan o diriogaeth teulu Bohun ieirll Henffordd ac Essex, trwy briodas. Yn dilyn Cytundeb Trefaldwyn ym 1267 ffurfiodd ran o’r tiriogaethau dan reolaeth Llywelyn ap Gruffudd am ychydig. Disgynnodd eto i deulu Bohun yn y 1270au yn dilyn goresgyniad Cymru gan Edward I ym 1284, ond atafaelwyd yr arglwyddiaeth gan y goron yn dilyn anghydfodau tiriogaethol gydag arglwyddiaethau cyfagos yn y 1290au. Isrannwyd rhannau o Ganol Dyffryn Wysg yn faenorau ffiwdal yn ôl y patrwm Seisnig, a’u rhoi i farchogion ac eraill oedd wedi gwasanaethu Bernard de Neufmarché yn ystod y Goresgyniad, gan gynnwys y canlynol o fewn ardal y dirwedd hanesyddol: Sgethrog (Syr Miles Picard, de Picardé neu Pitcher); Llanhamlach a Llanfihangel Tal-y-llyn (Syr John Walbeffe neu Walbeoff); Aberysgyr (Syr Hugh Surdwal); Gilestone (Syr Giles Pierrepoint); Llansanffraid (Walter de Cropus), Llansbyddyd (Syr Richard de Boulogne, neu Bullen). Sefydlwyd cestyll pridd twmpath a beili, yn ôl pob tebyg yn gysylltiedig â chanolfannau maenoraidd y Normaniaid yn Aberysgyr, Alexanderstone a Threberfydd.
Erbyn y Canol Oesoedd roedd rhan ogleddol ardal y dirwedd hanesyddol, i’r gogledd o afon Wysg, yn rhan o Gantref Selyf ac roedd yr ardal i’r de o’r afon yn rhan o Gantref Mawr. Yn y Ddeddf Uno ym 1536 daeth yr israniadau canoloesol hyn, ynghyd â chwmwd Tir Ralff i’r dwyrain o Aberhonddu, i ffurfio cymydau Defynnog (Devynnock), Merthyr a Phencelli (Penkelly) yn y Sir Frycheiniog newydd.
Erbyn diwedd y canol oesoedd roedd Aberhonddu, fel trefi castell canoloesol Aberystwyth, Caernarfon, Caerfyrddin, Hwlffordd a Dinbych, wedi datblygu statws canolfan ranbarthol bwysig. Ynghyd â Chaerfyrddin, Caernarfon a Dinbych, dynodwyd Aberhonddu yn un o bedair prifddinas ranbarthol Cymru dan y Ddeddf Uno ym 1536. Safai’r dref ar un o’r prif linellau cyfathrebu ar draws de Cymru. Roedd y statws a roddwyd iddi ar y pryd, a oedd yn cynnwys swyddogaethau barnwrol a chodi arian, yn awgrymu ei bod wedi’i dynodi yn brifddinas ranbarthol oherwydd ei hygyrchedd yn ôl pob tebyg:
And forasmuch as the counties of Brecknock, Radnor, Montgomery and Denbigh be far distant from the City of London where the laws of England be commonly used, ministered, exercised and executed and for that the inhabitants of the said shires of Brecknock, Radnor, Montgomery and Denbigh be not of substance, power and ability to travel out of their counties to seek the administration of justice it is therefore enacted by the Authority aforesaid that the King Our Sovereign Lord shall have one Chancery and Exchequer at this Castle of Brecknock and one other at this town and Castle of Denbigh.
Parhaodd i fod yn amlwg ym materion gweinyddol Cymru hyd nes i’r trefi diwydiannol oedd yn datblygu yn ne Cymru ar ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif fwrw’i phwysigrwydd i’r cysgod. Parhaodd Aberhonddu i fod yn brif dref Sir Frycheiniog tan ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974 pan gyfunwyd Sir Frycheiniog, Sir Faesyfed a Sir Drefaldwyn i ffurfio sir newydd Powys. Erys yn ganolfan weinyddol Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a ddynodwyd ym 1957.
Y dirwedd eglwysig
Mae eglwysi canoloesol cynnar, yn dyddio’n sicr neu o bosibl cyn y Goresgyniad o fewn ardal y dirwedd hanesyddol, yn hysbys yn Llan-ddew, Llan-faes, Llanfrynach, Llan-gors, Llanhamlach, Llanfihangel Tal-y-llyn, Llangasty Tal-y-llyn, a Llansbyddyd.
Mae’n amlwg bod Llan-gors yn ffurfio canolfan eglwysig bwysig cyn y Goresgyniad. Disgrifia siarter yn Llyfr Llandaf (Liber Landavensis) ddyfarniad yn erbyn brenin Tewdwr ab Elise o Frycheiniog a wnaed yn y clas (‘mynachlog, mam-eglwys’) yn Llan-gors yn gynnar yn y 10fed ganrif o blaid esgob Libiau o Landaf. Rhoddodd Awst, brenin cynharach Brycheiniog, yr ystâd frenhinol yma i esgob Llandaf oddeutu’r 8fed ganrif, sef ystâd oedd yn cyfateb i blwyf eglwysig diweddarach Llan-gors.
Yn dilyn y goresgyniad Normanaidd dan Bernard de Neufmarché sefydlwyd canolfannau mynachaidd yn anheddiad newydd Aberhonddu, pan ddaeth tref Aberhonddu yn ganolbwynt bywyd crefyddol yn y rhanbarth a chanol archddiaconiaeth Aberhonddu. Sefydlwyd palas caerog yn perthyn i esgob Tyddewi yn Llan-ddew yn y 12fed ganrif, a daeth hwn yn breswylfa i archddiaconiaid Aberhonddu ac yn ganolfan weinyddol ar gyfer rheoli daliadau esgobol yn yr ardal.
Sefydlwyd priordy Benedictaidd Sant Ioan, a ddaeth yn dirfeddiannwr pwysig yn y rhanbarth, cyn 1106 fel dibynnydd Abaty Battle (Sussex). Fel yn achos yr aneddiadau Eingl-Normanaidd newydd mewn lleoedd eraill yn ne Cymru, roedd cyfosod y castell a mynachlog gyfagos lle’r oedd mynachod Benedictaidd Normanaidd yn byw yn rhan o strategaeth ymwybodol i orfodi awdurdod seciwlar a chrefyddol ar y diriogaeth hon a oedd newydd ei gorchfygu.
Roedd brodordy Dominicaidd, o’r enw Coleg Crist yn ddiweddarach, wedi cael ei sefydlu erbyn canol y 13eg ganrif yn Llan-faes. Darostyngwyd y brodordy a’r fynachlog ym 1537. Yna parhawyd i ddefnyddio eglwys y priordy fel eglwys y plwyf a daeth yn eglwys gadeiriol ym 1923 pan grëwyd esgobaeth newydd Abertawe ac Aberhonddu. Yn y 1540au sefydlwyd Coleg Crist fel coleg seciwlar ac ysgol ramadeg.
Erbyn canol y 19eg ganrif daeth y plwyfi degwm canlynol i fod yn gyfan gwbl neu’n rhannol o fewn ardal y dirwedd hanesyddol: Aberysgyr, Y Batel, Aberhonddu Sant Ioan, Aberhonddu Dewi Sant, Aberhonddu Santes Fair, Llan-ddew, Llanfrynach, Llanhamlach, Llanfeugan, Llansanffraid, Llangasty Tal-y-llyn, Llanfihangel Tal-y-llyn a Llanfihangel Cathedin a Lladyfaelog Fach.
Defnydd Tir ac Anheddu
Defnydd tir ac anheddu cynhanesyddol a Rhufeinig
Teclynnau carreg a ddarganfuwyd ar hap yn y mawn dan grannog Llan-gors yw arwyddion cynharaf gweithgaredd dynol yn ardal tirwedd hanesyddol Canol Dyffryn Wysg. Mae’r rhain yn perthyn i’r cyfnod Mesolithig ac, yn ôl pob tebyg, yn cynrychioli un o nifer o wersylloedd dros dro oedd yn cael eu defnyddio gan grwpiau helwyr-gasglwyr yn symud ar hyd dyffryn Wysg ac i fyny i’r bryniau oddi amgylch yn dymhorol. Yn ôl pob tebyg mae’r darganfyddiadau hyn o Lyn Syfaddan yn arwydd o’i bwysigrwydd fel adnodd adara a physgota ers dyddiau cynnar.
Mae astudiaethau o ddyddodion yn Llyn Syfaddan yn rhoi darlun cyffredinol o’r defnydd tir cynnar gan ddangos y bu gostyngiad mewn paill coed a chynnydd mewn gwaddodiad yn ystod y cyfnod rhwng rhyw 3800 a 950 CC, gan awgrymu cyfnod o glirio coedwigoedd ac amaethu âr yn ystod y cyfnod Neolithig ac Oes yr Efydd. Hyd yma ni ddarganfuwyd safleoedd anheddu o’r cyfnodau hyn yn yr ardal ond mae dyrnaid o gofebion claddu a defodol nodweddiadol yn dangos bodolaeth cymunedau cynnar o amaethwyr sefydlog o’r cyfnodau hyn. Yn ôl pob tebyg, gall y ffaith bod yr ardal wedi cael ei ffermio’n drylwyr ers y cyfnod cynhanesyddol diweddarach egluro pam y diflannodd holl olion safleoedd anheddu cysylltiedig o’r golwg erbyn hyn. Mae crug hir Tŷ Illtud, rhwng Llanhamlach a Phennorth, yn un o gasgliad o garneddau hir cellog Neolithig cynnar sy’n hysbys ym Mynydd Du Sir Frycheiniog a’r cyffiniau. Mae nifer o grugiau crwn yn dyddio o Oes yr Efydd gynnar yn hysbys yn yr ardal ac yn cynnwys carnedd ar gopa Allt yr Esgair ac efallai bod y gyfres amlwg o feini hirion ar lawr y dyffryn ynn Nghradoc, Y Batel, Llanhamlach (Peterstone) a Gileston hefyd yn dyddio o Oes yr Efydd.
Mae presenoldeb y clwstwr bryngeyrydd cymharol fawr o Oes yr Haearn, a nodwyd uchod, yng Nghoed Fenni-fach, Pen-y-crug, Twmp Slwch ac Allt yr Esgair yn awgrymu bod yr ardal yn ôl pob tebyg yn cynnal poblogaeth sylweddol erbyn y cyfnod cynhanesyddol diweddarach. Yn ddiamau, roedd llawer o’r coetir llydanddail brodorol yn dal yno bryd hynny, er bod llawer iawn, yn ôl pob tebyg, eisoes wedi cael ei gwympo a’i glirio i greu tir pori a thir âr yn ôl patrwm ffermydd gwasgaredig na ddarganfuwyd hyd yma yn yr ardaloedd gwaelodol o gwmpas y bryngeyrydd. Yn wir, mae’n debygol bod rhai o’r patrymau caeau afreolaidd sydd i’w cael yn rhannau o ardal y dirwedd hanesyddol yn awgrymu bod gwaith tameidiog clirio coetiroedd a’u hamgáu yn tarddu o Oes yr Efydd ac Oes yr Haearn.
Mae’n debygol bod anheddu wedi parhau yn yr ardal ac y bu ffermio eithaf dwys drwy gydol cyfnod y Rhufeiniaid er mai cymharol ychydig safleoedd preswylio o’r cyfnod hwn a nodwyd eto. Mae cynnydd sylweddol pellach yng nghyflymder gwaddodiad yn Llyn Syfaddan yn awgrymu dwysáu amaethu âr a mwy o erydu pridd oddeutu’r 3edd ganrif OC, o leiaf o fewn gwahanfa ddŵr afon Llynfi sydd, yn ôl pob tebyg, yn adlewyrchu patrwm defnydd tir mewn mannau eraill. Datblygodd anheddiad sifil cnewyllol yng nghysgod Caer Rufeinig Aberhonddu, lle trigai masnachwyr a chrefftwyr yn cyflenwi nwyddau a gwasanaethau i’r fyddin yn ôl pob tebyg. Fodd bynnag, mae’n debygol mai anheddiad cymharol fyrhoedlog o ddiwedd y ganrif 1af a’r 2il ganrif oedd hwn ac mae’n ymddangos na chafodd lawer o effaith barhaol ar batrwm anheddu a defnydd tir yr ardal. Efallai bod y cyfadail Rhufeinig statws uchel ym Maesderwen, ger Llanfrynach ar ymyl ddeheuol ardal y dirwedd hanesyddol, yn arwydd bod pendefigaeth yn meddu ar ystadau tiriog mawr wedi dod i’r amlwg yn yr ardal erbyn y 3edd ganrif a’r 4edd ganrif OC. Efallai mai o’r amgylchfyd hwn yr ymddangosodd y brenin chwedlonol Teuderic yn y 5ed ganrif, fel un oedd yn honni ei fod o dras uchelwr Rhufeinig.
Anheddu a defnydd tir canoloesol cynnar a chanoloesol
Yn ôl pob tebyg, fe barhaodd ffermydd ac ystadau oedd wedi ymddangos yn ystod cyfnod diweddarach y Rhufeiniaid i gynhyrchu ymlaen i’r canol oesoedd cynnar, gan gynnwys daliadau ac ystadau brenhinoedd Brycheiniog a’u dilynwyr yn y cyfnod cyn y Goresgyniad. Mae’r palas brenhinol o ddiwedd y 9fed ganrif i ddechrau’r 10fed ganrif ar y crannog yn Llyn Syfaddan yn unigryw yng Nghymru ac yn annodweddiadol o aneddiadau cyfoes eraill yn yr ardal yn y canol oesoedd cynnar: yn yr un modd roedd y rhain wedi’u hadeiladu o goed yn ôl pob tebyg, ond byddai caeau yn hytrach na dŵr o’u cwmpas.
Ychydig yw’r wybodaeth gyffredinol eto am batrwm defnydd tir, trefnu’r dirwedd ac anheddu yn y cyfnod cyn y goresgyniad Eingl-Normanaidd ar ddiwedd yr 11eg ganrif. Fel y nodwyd uchod, roedd patrwm o eglwysi wedi datblygu cyn cyfnod y Goresgyniad ar ddiwedd yr 11eg ganrif, gan gynnwys yr eglwys yn Llan-ddew a’r rhai yn Llan-gors a Llansbyddyd sy’n gysylltiedig â cherrig arysgrifedig neu addurnedig o’r 7fed ganrif i’r 9fed ganrif. Mae eglwysi eraill, fel Llanfrynach a Llanhamlach, yn gysylltiedig â cherrig arysgrifedig neu addurnedig cyn y Goresgyniad o’r 10fed ganrif i’r 11eg ganrif. Mae tarddiad rhai eglwysi canoloesol, fel Llanfihangel Tal-y-llyn a Llan-faes, yn llai sicr. Mae aneddiadau cnewyllol yn gysylltiedig â nifer o’r eglwysi hyn, yn arbennig y rhai yn Llanfrynach, Llan-gors, Llanfihangel, Llansbyddyd a Llan-ddew oedd, yn ôl pob tebyg, wedi ymddangos fel aneddiadau rhydd neu daeog cyn y goresgyniad Normanaidd ar ddiwedd yr 11eg ganrif. Crebachodd nifer o’r aneddiadau cnewyllol hyn, fel Llanfihangel Tal-y-llyn, Llan-ddew ac efallai Llanhamlach, o ganlyniad i ddiboblogi gwledig yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol, gan beri patrymau o lwyfannau tai gadawedig mewn rhai achosion. Nid yw statws rhai eglwysi eraill mor amlwg, fel y rhai a grybwyllwyd eisoes yn Llanhamlach, yn ogystal â’r rhai all fod wedi tarddu naill ai yn y cyfnod cyn neu wedi’r Goresgyniad yn Aberysgyr, Llanfihangel Cathedin, Y Batel a Llansanffraid. Heddiw, mae’r eglwysi hyn yn gysylltiedig â fawr ddim mwy na fferm unigol neu ddyrnaid o dai, sy’n awgrymu ei bod yn bosibl iddynt ddechrau fel eglwysi perchnogol a waddolwyd gan dirfeddianwyr amlwg yn dilyn y goresgyniad, wedi’u sefydlu ar bwys eu prif anheddau – rhagflaenwyr ffermydd neu dai bonedd heddiw sydd nesaf at yr eglwysi.
Yn dilyn y goresgyniad Eingl-Normanaidd dan Bernard de Neufmarché ar ddiwedd yr 11eg ganrif mae’n ymddangos y rhoddwyd tirddaliadaethau gwledig sylweddol i farchogion ac unigolion uchel eraill oedd wedi cymryd rhan yn ei gyrch. Roedd y rhain yn ôl pob tebyg yn cynnwys ystadau tywysogion a thirfeddianwyr brodorol yn nheyrnas frodorol Brycheiniog, sef ystadau a atafaelwyd, yn ogystal â’r rhai all fod newydd eu sefydlu ar y pryd, yn aml yn y tir amaethyddol gwaelodol cyfoethocach yn nyffrynnoedd Wysg a Llynfi. Fel y nodwyd uchod, mae maenorau Normanaidd a gofnodwyd yn ardal y dirwedd hanesyddol yn cynnwys y canlynol: Sgethrog, rhodd i Syr Miles Picard, de Picardé neu Pitcher; Llanhamlach a Llanfihangel Tal-y-llyn rhodd i Syr John Walbeffe neu Walbeoff; Aberysgyr, rhodd i Syr Hugh Surdwal; Gileston (Gilestone), rhodd i Syr Giles Pierrepoint; Llansanffraid, rhodd i Walter de Cropus; a Llansbyddyd, rhodd i Syr Richard de Boulogne, neu Bullen. Fe sefydlodd llawer o’r rhain ystadau oedd i oroesi i’r cyfnod modern.
Ar ôl y Goresgyniad daeth Aberhonddu yn ganolbwynt gweinyddol, crefyddol a masnachol y rhanbarth. Mae’n ymddangos y sefydlwyd y dref yma, ar lan orllewinol Afon Honddu, efallai’n bell o ganolfannau brenhinol brodorol cynharach. Safai ar bwys y castell pridd a phren a sefydlwyd, yn ôl pob tebyg, ar ddiwedd yr 11eg ganrif neu ddechrau’r 12fed ganrif gan yr arglwydd Normanaidd, Bernard de Newmarché, yn fuan ar ôl goresgyniad teyrnas Brycheiniog ym 1093, ac fe sefydlwyd y priordy Benedictaidd cyn 1106. Ymestynnodd yr anheddiad wedyn ar hyd glannau afon Wysg i’r dwyrain o afon Honddu, a chafodd amddiffynfeydd yn hanner cyntaf y 13eg canrif efallai a chyfres o siarteri o ddiwedd y 13eg ganrif ymlaen. Fel y nodwyd uchod, cafodd ei ddynodi yn un o bedair prifddinas ranbarthol Cymru dan y Ddeddf Uno ym 1536.
Roedd nifer o’r canolfannau maenoraidd seciwlar cynnar, fel Pencelli, Aberysgyr, Llangasty Tal-y-llyn (Tomen Twmpan) ac Alexanderstone yn gysylltiedig â thomenni neu gestyll tomen a beili yn yr 11eg ganrif ddiweddar neu’r 12fed ganrif yn ôl pob tebyg, ac mae’n bosibl yr ychwanegwyd gorthwyr neu amddiffynfeydd maen atynt yn ddiweddarach mewn rhai achosion. Gall y tŷ tŵr amddiffynnol o’r 16eg ganrif yn Sgethrog, cysylltiedig â’r teulu Picard, fod wedi disodli adeiledd amddiffynnol cynharach. Sefydlwyd ystadau eglwysig yn perthyn i Dyddewi yn Llan-ddew erbyn y 12fed ganrif, gyda phalas yr esgob yma’n ganolbwynt y ganolfan faenoraidd a gafodd amddiffynfeydd maen hefyd, yn ôl pob tebyg yn y 13eg ganrif neu’r 14eg ganrif. Parhaodd y daliadau esgobol hyn i fod ym meddiant Tyddewi tan y Diwygiad Protestannaidd yn y 1530au. Roedd gan Briordy Aberhonddu hefyd ddaliadau sylweddol yn yr ardal, oedd yn cynnwys plwyf Y Batel a enwyd, fel y nodwyd uchod, ar ôl mam-eglwys y priordy yn Battle swydd Sussex. Ychydig cyn y diwygiad, rheolwyd daliadau Tyddewi yn archddiaconiaeth Aberhonddu a rhai Priordy Aberhonddu gan stiward unigol, Thomas Harvard, a gyhuddwyd ym 1531 o gymryd cyllid ar gam oedd yn ddyledus i faenor Llan-ddew.
Mae’n ymddangos bod cyfundrefnau ffermio tir âr cysylltiedig â nifer o’r canolfannau maenoraidd seciwlar ac eglwysig hyn wedi peri patrymau caeau neilltuol sy’n dal yn amlwg mewn rhai ardaloedd heddiw. Mae patrymau nodweddiadol llain-gaeau gyda gwrychoedd rhyngddynt, yn cynrychioli amgáu a chyfuno ystadenni caeau agored canoloesol yn weladwy, er enghraifft, ger Llansbyddyd, Aberysgyr, Aberbrân, Llan-ddew, Alexanderstone a Llanfihangel Tal-y-llyn, pob un ohonynt yn gysylltiedig ag amaethu cefnen a rhych creiriol. Nodwyd amaethu cefnen a rhych creiriol, efallai o darddiad caeau agored canoloesol, hefyd yn y canolfannau ym Mhencelli, Llan-gors a’r Batel, neu ger y canolfannau hyn. Nodwyd llain-gaeau a chefnen a rhych a ad-drefnwyd hefyd efallai ar ymylon dwyreiniol, gogleddol a deheuol tref Aberhonddu, gan gynnwys maestref ddeheuol Llan-faes sydd, efallai, yn cynrychioli caeau agored canoloesol blaenorol cysylltiedig â maenor a thref Aberhonddu ei hun. Mewn rhai achosion y farn yw bod yr elfen maes, sy’n digwydd yn enw Llan-faes, yn dynodi hen gaeau agored.
Mae syniad o effaith ffermio dwys ar ddiwedd y 12fed ganrif yn yr ardal yn ymddangos o sylw Gerallt Gymro yn ei Ddisgrifiad o Gymru bod arlliw coch weithiau ar Lyn Syfaddan. Mae hyn yn awgrymu bod erydu pridd yn digwydd o fewn gwahanfa ddŵr afon Llynfi o leiaf, yn ôl pob tebyg yn dilyn aredig neu ar ôl clirio coetir. Mae nentydd yn dal i gludo gwaddodion mewn daliant fel hyn i’r llyn yn y gaeaf a’r gwanwyn. Mae sylw Gerallt, bod arlliw gwyrdd ar y llyn weithiau, yn awgrymu ffurfio chwyddiant algaidd o’r math a welwyd yn y blynyddoedd diweddar a ystyriwyd yn effaith andwyol arferion amaethyddol modern yn deillio o drwytholchi nitradau a ffosffadau. Mewn cyd-destun modern mae cynhyrchu da byw yn ddwys yn aml yn achosi llawer o gyfansoddion nitrad ac amonia ac efallai mai hyn oedd achos ffenomen debyg ar ddiwedd y 12fed ganrif.
Yn ôl pob tebyg dechreuodd patrymau canoloesol arferol daliadaeth a defnydd tir ar sail y gyfundrefn faenoraidd ac amaethu caeau agored, chwalu a darnio yn ystod y 14eg ganrif ddiweddarach a’r 15fed ganrif, a chafodd ei waethygu gan y plâu a thrychinebau eraill a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod hwn. Cofnodwyd marwolaeth cyfran sylweddol o denantiaid mewn ardaloedd fel y Watton ym 1372, er enghraifft. Byddai cyfnewid gwasanaethau am renti, a gwerthu a gwasgaru daliadau demen, wedi hybu sefydlu ffermydd rhydd-ddaliadol unigol gyda mwy o bwyslais ar bori efallai. Yn ogystal â’r ymosodiad ar dref Aberhonddu yn ystod gwrthryfel Glyndŵr ym mlynyddoedd cynnar y 15fed canrif, distrywiwyd llawer o’r maenorau gwledig oddi amgylch hefyd, gyda chofnod bod ‘The rebels purpose to burn and destroy . . . all pertaining to the English in these parts’.
Mae’n ymddangos bod patrymau caeau mwy afreolaidd mewn mannau eraill, yn aml yn bell o’r canolfannau maenoraidd cynnar hyn, yn cynrychioli proses o glirio ac amgáu tameidiog o dir amaeth o’r cyfnodau cynhanesyddol, Rhufeinig a chanoloesol cynnar ymlaen, gan nodweddu patrwm anheddu mwy gwasgaredig cysylltiedig â ffermydd rhydd-ddaliadol neu ffermydd â thenantiaid.
TMae’n amlwg bod afon Wysg a Llyn Syfaddan yn ffynhonnell faeth bwysig ers dyddiau cynnar. Nododd Gerallt Gymro yn y 12fed ganrif fod y llyn yn ffynhonnell penhwyaid, draenogod dŵr, ysgretennod a llysywod a’i fod, fel afon Wysg, hefyd yn ffynhonnell brithyll. Mae disgrifiadau gweinidogion canoloesol yn cyfeirio at garfanau o ferched Llan-faes yn pysgota gyda rhwydi yn y llyn. Ychwanegwyd at y ffynonellau pysgod ffres hyn hefyd yn y canol oesoedd gyda phyllau pysgod gwneud, fel y rhai sy’n hysbys o dystiolaeth gwaith cloddio i’r gorllewin o eglwys Llan-ddew oedd, yn ddiamau, yn cyflenwi cegin palas yr esgobion yn Llan-ddew.
Anheddu a defnydd tir ôl-ganoloesol a modern
Parhaodd y trefi, pentrefi a ffermydd oedd wedi ymddangos yn yr ardal erbyn diwedd y canol oesoedd i ehangu a datblygu yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol.
Er bod twf trefi a dinasoedd diwydiannol de Cymru wedi’i bwrw i’r cysgod wedi hynny, erbyn yr 16eg ganrif roedd Aberhonddu wedi dod i’r amlwg fel un o bedair prifddinas ranbarthol Cymru. Mae’n amlwg bod y dref, erbyn yr 17eg ganrif gynnar, yn dechrau ehangu y tu hwnt i furiau’r dref ganoloesol, yn arbennig yn y gogledd, yn ardal y Struet a Mount Street. Oherwydd gwelliannau yn y ffyrdd tyrpeg o ddiwedd y 18fed ganrif, gwelwyd cynnydd mewn gweithgaredd masnachol a datblygiad tafarnau’r goets. Meithriniwyd diwydiant cynnar yn y dref ac o’i chwmpas, yn bennaf ar sail defnyddio pŵer dŵr yn cael ei ddarparu gan afon Wysg ac afon Honddu, gyda dyfodiad Camlas Mynwy a Brycheiniog ar union ddechrau’r 19eg ganrif ac agor Tramffordd y Gelli erbyn diwedd ail ddegawd y ganrif, gan beri diwydiannau seiliedig ar ddefnyddio glo a charreg galch. Hybodd hyn dwf pellach y dref o ran tai gweithwyr a chrefftwyr a thai tref y bonedd a’r masnachwyr ac, erbyn dechrau’r 19eg ganrif, roedd maestref y Watton wedi ehangu i’r dwyrain a maestref Llan-faes wedi ehangu i’r de-orllewin, gan ddyblu’r boblogaeth yn y cyfnod rhwng 1801 ac 1851 i bron i 6,000. Datblygodd y dref ymhellach gyda dyfodiad y rheilffyrdd yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif. Bu cryn gynnydd mewn tai yn y dref yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif yn ardal Pendre i’r gogledd-orllewin ac mewn datblygiadau tai a masnach yn ardal Camden Road i’r dwyrain.
Datblygodd amryw o’r pentrefi a phentrefannau cnewyllol yn yr ardal o amgylch aneddiadau cnewyllol canoloesol cynharach neu ganolfannau maenoraidd, weithiau’n gysylltiedig ag eglwys neu gastell, tra bo’n ymddangos bod eraill wedi tyfu o amgylch fferm. Gall rhai o’r aneddiadau olaf hyn fod wedi dod yn ganolfannau ystadau bach er ei bod yn ymddangos bod eu dylanwad ar y patrwm anheddu ehangach wedi bod yn glytiog, er gwaethaf bodolaeth amryw o blastai yn y cylch.
Parhaodd y pentrefi cnewyllol bach oedd wedi ymddangos yn ystod y canol oesoedd, fel Llan-gors, Llanfihangel Tal-y-llyn, Llan-ddew a Llanfrynach i ddatblygu yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol ac, yn wir, mae’r dystiolaeth bensaernïol o’u datblygiad sydd wedi goroesi’n perthyn i raddau helaeth iawn i ganrifoedd diweddarach. Mae Llanfrynach yn enghraifft arbennig o dda o bentref cnewyllol gyda’r eglwys yn ei ganol, a nodwyd bod Tŷ Mawr sydd ochr yn ochr â’r eglwys yn faenordy caerog canoloesol diweddarach. Mae presenoldeb rhai adeiladau fferm da yn awgrymu gwreiddiau amaethyddol yr anheddiad, ond mae’r rhesi tai unol gyferbyn â’r eglwys ar y briffordd trwy’r anheddiad yn rhoi iddo gymeriad pentref cryf. Y tu hwnt i’r cnewyllyn hwn mae cymysgedd diddorol o dai a ddatblygodd yn fwy anffurfiol (cymysgedd o dai diymhongar iawn), yn rhoi cryn ddyfnder economaidd-gymdeithasol i’r anheddiad hanesyddol hwn, lle cydweddwyd datblygiad modern gyda gofal. Mae gwahaniaeth amlwg rhwng anffurfioldeb yr anheddu yn llawer o’r pentrefi lle ceir mwyafrif y tai llai a bythynnod (gwelwch er enghraifft Llanfrynach a’r Batel), ac ôl rheolaeth y tirfeddianwyr mwy yng nghefn gwlad. Nid oes unrhyw dystiolaeth wedi goroesi o sgwatio neu lechfeddiannu, er enghraifft, hyd yn oed yn gysylltiedig â’r tir comin bach yn Llan-gors, er efallai y cymerwyd rhywfaint ar y ffordd i’r gorllewin o’r pentref.
Mae’n amlwg y tyfodd rhai o’r pentrefi yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol fel anheddau fferm, lle ffurfiodd un neu fwy o ffermydd y cnewyllyn ar gyfer twf diweddarach. Enghraifft dda o hyn yw Llanfihangel Tal-y-llyn, lle mae cyfadail fferm da yng nghanol y pentref, ond sydd fel arall yn anheddiad o ddiwedd y 19eg ganrif i ddechrau’r 20fed ganrif yn bennaf o ran cymeriad, gydag ychwanegiad stad dai fodern. Mae’n bosibl bod Sgethrog yn enghraifft arall o hyn. Mae’r cnewyllyn yma’n cynnwys tŷ’r Hen Bersondy o ddechrau’r 16eg ganrif a nifer o dai ac ysguboriau o’r 18fed ganrif yn Neuadd a Fferm Sgethrog, a saif i’r gogledd o ganolbwynt cynharach yn y Tŵr oedd, yn ôl pob tebyg, yn rhan o dŷ tŵr caerog o’r 16eg ganrif wedi’i adeiladu gan gangen o’r teulu Pichard. Yn yr un modd, mae’n ymddangos nad oedd Llansbyddyd fawr mwy na phâr o ffermydd gyda’r eglwys ar hyd y briffordd nes iddo ehangu pan godwyd stad dai ymhellach i fyny’r llethr i’r de yn yr 20fed ganrif. Cadwodd Troedyrharn ac Alexanderstone i’r dwyrain o Aberhonddu gymeriad anheddau fferm, lle mae ffermdai a’u hadeiladau’n cyd-fynd â’r hyn oedd yn ôl pob tebyg yn fythynnod gweithwyr yr ystâd.
Mae datblygiad hanesyddol y gwahanol bentrefi a phentrefannau yn ardal y dirwedd hanesyddol yn cael ei adlewyrchu yn natur amrywiol y patrwm adeiladu: felly, mae datblygiad anffurfiol tai unigol yn Llanfrynach yn cyferbynnu â’r broses fwy trefnus o adeiladu mewn rhes yn yr un pentref, neu yn Nhalybont ar Wysg. Mae cydgasglu adeiladau unigol yn nodweddu patrwm anheddu Llan-gors a Llanfihangel Tal-y-llyn hefyd, gan awgrymu datblygu dros gyfnod a hynny o waith llawer o wahanol asiantau. Mewn cyferbyniad, mae dyluniad ffurfiol y rhesi tai yng Nghradoc a Thal-y-llyn yn dangos dylanwad un llaw yn rheoli.
Mae’n ymddangos y bu cyfnod o grebachu ar amryw o bentrefi, fel Llan-ddew, Llanfihangel Tal-y-llyn a Llanhamlach efallai, ar ddiwedd y 19eg ganrif, efallai mewn ymateb i fecaneiddio ffermydd ac atyniadau cystadleuol cyflogaeth yn aneddiadau diwydiannol cynyddol de Cymru. Effeithiodd hyn hefyd ar nifer o anheddau gwledig mwy gwasgaredig fel, er enghraifft, ar lethrau dwyreiniol Allt yr Esgair, i’r de o Lyn Syfaddan. Canlyniad y broses hon oedd gadael llwyfannau tai blaenorol, yn dyddio yn ôl pob tebyg o’r canol oesoedd ymlaen, sy’n weladwy yn yr aneddiadau hyn ac o’u hamgylch, er y gwelwyd cyfnod o dwf o’r newydd ac adfywio yn y rhan fwyaf o bentrefi ar ddiwedd yr 20fed ganrif a dechrau’r 21ain ganrif, gan gynnwys adnewyddu llawer o’r adeiladau presennol.
Y tu allan i dref Aberhonddu, ffermydd gwasgaredig sy’n nodweddu’r patrwm anheddu, gyda graddfa’r gwasgariad a goruchafiaeth ffermdai eithaf sylweddol gydag adeiladau mawr cysylltiedig yn awgrymu bod daliadau unigol yn gymharol fawr. Dim ond ar ymylon ucheldir yr ardal y mae’r patrwm hwn yn ildio i un lle mae ffermydd llai’n nes at ei gilydd. Yn gyffredinol, mae’r patrwm cryfaf yn nodi tarddiad mewn patrwm o ddal tir lle’r oedd llawer o rydd-ddeiliaid cymharol ffyniannus.
O’r 16eg ganrif a’r 17eg ganrif ymlaen, gwelwyd ffurfio nifer o ystadau tiriog a fyddai’n parhau i gael effaith ddylanwadol a gweladwy ar y dirwedd o ran amgáu a gwella tir amaeth, ac ar ddatblygiad tai a ffermydd â thenantiaid. Deilliodd rhai o’r ystadau hyn o deuluoedd blaenllaw oedd wedi dod i’r amlwg yn ystod y canol oesoedd. Er enghraifft, mae’n ymddangos mai’r teulu Aubrey adeiladodd y tŷ cynharaf yn Abercynrig, yn y 13eg ganrif. Teulu oedd hwn a ddaeth i amlygrwydd yn ystod yr 16eg ganrif pan ehangwyd ystadau’r teulu’n fawr gan Dr William Aubrey, cyfreithiwr ac AS. Roedd y teulu Games, a gynhyrchodd nifer o siryfion y sir ac a oedd yn berchen ar eiddo yn Aberbrân, Newton (ger Aberhonddu) a Gwaun y Geifr, yn olrhain eu hachau i Syr Dafydd Gam, a urddwyd yn farchog gan Harri V yn Agincourt ym 1415.
Mae tystiolaeth o ffyniant cynnar yn yr ardal i’r gorllewin ac i’r de-orllewin o Lyn Syfaddan mewn cyfres o adeiladau gyda tharddiad cynnar tebygol. Mae’r rhain yn cynnwys Tŷ Mawr, y maenordy blaenorol a ddisodlwyd gan Dreberfydd, yn ogystal ag adeiladau eraill yn yr ardal gyda nodweddion yn awgrymu dyddiad cynnar fel ffermdy Llan, a Fferm Neuadd, lle cadwodd y ffermdy o’r 19eg ganrif dystiolaeth o’i ragflaenydd, gan gynnwys simnai gyda chorbelau da ar y talcen. Yn yr un modd, mae Trebinshwn yn ddigon mawr i fod â chymeriad plasty bach – troswyd ei gasgliad o adeiladau fferm mawr yn rhannol yn gartrefi; Sioraidd yw’r prif dŷ o ddechrau’r 19eg ganrif, ond plannwyd ei gymesureddau ar dŷ o’r 17eg ganrif.
Roedd y teulu Watkin o Ben-oer yn dal eiddo sylweddol yn Aberhonddu a’r plwyfi i’r gogledd o’r dref, gan ffurfio ystâd oedd â’i tharddiad yn naliadau cyfreithiwr o’r 17eg ganrif, Pennoyre Watkins. Mae’n bosibl mai canolfannau ystadau oedd ffermydd eraill mwy yn wreiddiol, fel Tŷ Mawr, Llangasty Tal-y-llyn, a grybwyllwyd uchod, neu Aber-Brân-fawr, y fferm fawr sy’n sefyll i’r gorllewin o’r ffordd i Aberbrân ar ochr ogleddol yr A40. Mae’r olaf yn arbennig o ddiddorol ac, yn ôl pob golwg, yn gyfadail fferm hynafol gyda’r hyn sy’n edrych fel ffermdy dwbl, efallai wedi tyfu o gyntedd ac adain gweision y tŷ gwreiddiol. Parhaodd rhai o’r ffermydd hyn i fod yn gnewyll ystadau, neu cyfluniwyd hwy felly’n ddiweddarach. Fel sydd i’w weld yn yr adran ganlynol, mae’n ymddangos y gwnaeth nifer o’r ystadau a rhai tirfeddianwyr unigol gryn fuddsoddiad yn ystod y 19eg ganrif i wella’u ffermydd. Mae hyn i’w weld yn dda yn Llanbrynean, ychydig i’r de o bentref Llanfrynach, lle mae fferm enghreifftiol nodweddiadol o’r 19eg ganrif wedi goroesi, gyda thŷ mawr o ddiwedd y 19eg ganrif yn wynebu allan o fuarth amgaeëdig yn y cefn.
Roedd y teulu Gwynne Holford o Buckland Hall, ychydig i’r de-ddwyrain o’r ardal, yn brif dirfeddianwyr yn y 19eg ganrif, gyda’r tir yn cynnwys llawer o ffermydd yn ymestyn o Lyn Syfaddan i Lanfihangel Cathedin. Mae Treberfydd yn enghraifft dda o ystâd fach gyda pharcdir cysylltiedig. Mae’n debyg y symudwyd cnewyllyn yr ystâd yma o’r Tŷ Mawr gerllaw i’r tŷ newydd hwn yn y 19eg ganrif. Mae enghraifft dda dros ben o nawddogaeth ystâd yma trwy ailadeiladu’r eglwys yn Llangasty Tal-y-llyn yn adfywiad Gothig canol y 19eg ganrif, ynghyd â’r rheithordy cyfoes, ac ysgoldy. Robert Raikes, a ddaeth i Dreberfydd i sefydlu canolfan addoli Tractaraidd, oedd y noddwr. Ei bensaer oedd John Loughborough Pearson, y pensaer eglwysi Fictoraidd adnabyddus, oedd yn gyfrifol am yr holl adeiladau a grybwyllwyd uchod, yn ogystal â’r tŷ ei hun. Y pensaer a dylunydd W. E. Nesfield oedd yn gyfrifol am dirlunio’r parc. Mae bythynnod ystâd hefyd gerllaw’r tŷ, ac adeiladau sylweddol Fferm Treberfydd. Mae’n edrych fel petai’r ystâd wedi adlunio’r ffermdy yn y 19eg ganrif ond mae ei gynllun yn awgrymu tarddiad cynnar, efallai o’r 16eg ganrif. Mae adeiladau’r fferm yn cynnwys rhes dda o gytiau certi gyda cholofnau carreg silindraidd.
Mae enghreifftiau eraill o fythynnod ystâd a ffermydd wedi’u gwella mewn mannau eraill, ond dim y byddai modd ei ddisgrifio fel pentref ystâd. Mae ystâd fach Maesderwen, er enghraifft, yn gorwedd i’r gorllewin o bentref Llanfrynach, ond ychydig o olwg ystâd amlwg sydd i’r anheddiad. Mae arwyddion eglur o ddylanwad ystâd ar yr anheddu yn y Batel, gerllaw tŷ mawr Pen-oer (yr oedd ganddo ‘only twenty-five bedrooms’ yn ôl disgrifiad y dyddiadurwr Francis Kilvert) gyda phorthdai ac adeiladau ystâd ategol eraill (golchdy efallai?) ychydig i’r dwyrain o’r pentref, oedd yn ganolbwynt ystâd fawr yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. Mae cymeriad ystâd cryf ar rai bythynnod yn y pentref, ond nid oes unrhyw ymdeimlad o gynllun cydlynol i’r pentref cyfan ac efallai bod tirfeddiannwr yr ystâd yn ddim ond un o nifer o dirfeddianwyr, yn gosod ei arddull bensaernïol ei hun lle gallai, ond yn dameidiog. Roedd hanes brith i’r tŷ ei hun ym Mhen-oer, gan ddod yn ysbyty milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd, a newid dwylo sawl gwaith ers 1939 pan werthwyd yr ystâd, gan ddod yn ei dro yn ysgol, clwb Cwrs Golff Cradoc a sefydlwyd ar diroedd y tŷ oddeutu 1960 ac, ers 1970, cartref nyrsio, gwesty, canolfan adsefydlu a chartref nyrsio eto.
Awgryma dadansoddiad gwaddodion yn Llyn Syfaddan y bu atgyfodiad cyffredinol mewn gweithgaredd amaethyddol yn yr ardal yn y cyfnod ôl-ganoloesol sy’n dangos cynnydd yng nghyflymder gwaddodiad tua dechrau’r 19eg ganrif, yn ôl pob tebyg mewn ymateb i amaethu bryndiroedd ymylol o fewn dalgylch afon Llynfi. Mae’r tir, y rhan fwyaf ohono’n amgaeëdig, yn cynnwys peth o’r tir amaethyddol o’r radd uchaf yn Sir Frycheiniog ac mae’n ymddangos iddo gael ei ffermio’n eithaf dwys.
Roedd amrywiol newidiadau’n cael eu gwneud i ddulliau amaethu traddodiadol i gynyddu cynhyrchiad amaethyddol o ail hanner y 18fed ganrif ymlaen, llawer ohonynt yn cael eu hyrwyddo o ddifrif gan Gymdeithas Amaethyddol Sir Frycheiniog, a sefydlwyd ym 1755, y sefydliad sirol cynharaf o’r math hwn yng Nghymru. Yn ogystal â gwelliannau i hwsmonaeth cnydau ac anifeiliaid, roedd nifer o newidiadau’n cael eu gwneud oedd i gael effaith barhaol ar yr amgylchedd hanesyddol. Gwnaed gwelliannau ar raddfa helaeth i ddraenio tir mewn nifer o ardaloedd. Roedd gwella ffrwythlondeb pridd trwy ddefnyddio calch yn gofyn adeiladu odynau calch. Cafodd y buddsoddi mewn adeiladau fferm newydd a darparu’n well ar gyfer tai a lles gweithwyr amaethyddol effeithiau ar yr amgylchedd adeiledig sy’n cael eu trafod isod. Gwnaed llawer o newidiadau i ffiniau caeau mewn rhai ardaloedd. Yn ôl pob tebyg, roedd caeau agored canoloesol blaenorol yn cael eu hamgáu o ddiwedd y canol oesoedd ymlaen, gan beri patrymau caeau neilltuol sydd i’w gweld ger Llan-ddew a Llanfihangel Tal-y-llyn, er enghraifft, gyda llain-gaeau a ffiniau ar dro cam. Amgaewyd nifer o ardaloedd helaethach o ucheldir comin gynt yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, fel i’r gogledd o Aberhonddu ac i’r gogledd-orllewin o Lyn Syfaddan er enghraifft. Canlyniad hyn oedd creu patrymau caeau neilltuol, syth yn yr ardaloedd hyn a’r patrwm tameidiog o gomins agored sydd wedi goroesi yn yr ardal heddiw. Mae’r ddau ddarn o wastadedd comin rhwng Llan-gors a Llanfihangel Tal-y-llyn, sydd ag arwynebedd dros 20 hectar rhyngddynt, a’r clwt bach o dir comin oddeutu hectar ychydig i’r gorllewin o’r Batel wedi goroesi’r broses hon. Goroesodd gweddill llain gul o dir comin ar hyd crib Allt yr Esgair ar gwrs sarn hynafol rhwng Pennorth a’r Bwlch. Mae’n cael ei nodi fel ‘Ffordd Rufeinig’ ar rai o fapiau’r Arolwg Ordnans ond mae’n ymddangos bellach yn annhebygol o fod o’r dyddiad hwnnw.
Roedd yr isadeiledd cludiant oedd yn datblygu ar ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif yn elfen sylweddol o ran llunio patrymau anheddu yn yr ardal hon. Ymddangosodd nifer o aneddiadau llai ger amryw o’r cyffyrdd mwyaf arwyddocaol yn ogystal ag wrth ymyl y gamlas a ger gorsafoedd ac arosfeydd ar y tramffyrdd a rheilffyrdd y disgrifir eu hanes yn llawnach isod. Tyfodd Tal-y-llyn wrth gyffordd rheilffyrdd, er enghraifft, a’r rheilffordd hefyd sy’n cyfrif am dwf Pennorth yn y 19eg ganrif yn ôl pob tebyg. Dyddiad y tai yma yw 1868 ac ailadeiladwyd y capel ym 1893. Mae’n amlwg hefyd y dylanwadodd y rheilffordd ar Gradoc lle’r oedd gorsaf drenau gynt. Mae dylanwad ffyrdd yn amlwg, er enghraifft, yn yr anheddiad hir o dai o ddechrau i ganol y 19eg ganrif ar hyd yr A40, yn Llanhamlach.
Roedd Camlas Mynwy a Brycheiniog yn arbennig o ddylanwadol ar leoliad anheddiad ar ddiwedd y 18fed ganrif i ddechrau’r 19eg ganrif. Yn Nhalybont ar Wysg, fferm sylweddol Maes Mawr i’r de-ddwyrain sy’n cynrychioli anheddu cynnar, ond mae datblygiad y pentref cyfoes i’w briodoli’n bennaf i’r gamlas, fel yr awgryma’r rhesi bythynnod sy’n nodweddiadol o’r math hwn o anheddiad. Mae rhai manylion pensaernïol hefyd ar fythynnod i’r gogledd all arwyddo gwaith ystâd diriog. Mae Talybont ar Wysg yn cyferbynnu â Phencelli, lle mae’r tai yn y pentref yn clystyru gyda’i gilydd ar hyd y ffordd ond heb olwg o ymgyrch adeiladu unol. Mae eu maint a’u huchder yn amrywio. Mae’n amlwg bod tarddiad anheddu cynnar yma, yn gysylltiedig â’r castell, ac mae rhai adeiladau fferm braf yn awgrymu mai pentref fferm oedd cnewyllyn yr anheddiad yn y 18fed ganrif a ehangodd gyda dyfodiad y gamlas. Bu ehangu preswylfeydd yn sylweddol yn yr aneddiadau diweddarach yng Nghradoc a’r Groesffordd yn arbennig yn ystod ail hanner yr 20fed ganrif, yr olaf oherwydd cynllun tai’r awdurdod lleol.
SAd-drefnwyd ffiniau rhai caeau ar y cyd â datblygu’r rhwydwaith cysylltiadau, yn gyntaf gyda’r gyfundrefn ffyrdd tyrpeg ar ddiwedd y 18fed ganrif ac, yn ddiweddarach, mewn ymateb i adeiladu’r rhwydweithiau camlesi, tramffyrdd a rheilffordd yn ystod y 19eg ganrif. Fodd bynnag, ar wahân i ad-drefnu ffiniau caeau ar raddfa fwy ger Pennant, ychydig i’r gorllewin o Aberhonddu, roedd y newidiadau hyn yn gymharol gymedrol yn gyffredinol, a’r patrwm cyffredinol yw un o’r llinellau cyfathrebu hyn ar ben cyfundrefnau caeau llawer cynharach.
Adeiladau yn y Dirwedd
Yn ôl pob golwg mae yna amryw o ffermdai cynnar yma ac acw ar draws yr ardal, a tybir eu bod yn tarddu o’r 16eg ganrif. Mae darnau hefyd o adeiladau domestig cynharach fyth fel Tŷ Mawr, Llanfrynach a phalas yr esgobion yn Llan-ddew. Wedi hynny, ymddengys y cynrychiolir y rhan fwyaf o gyfnodau pensaernïol, ac nid oes unrhyw ymdeimlad bod un cyfnod yn fwy amlwg nag eraill o ran datblygiad adeiladau. Mae’r rhychwant cronolegol gymharol hir hwn, ac efallai’r patrwm perchnogaeth tir yn yr ardal hefyd, wedi milwrio yn erbyn ymddangosiad arddull brodorol cryf, er mai’r cynllun cryfaf oedd yr un lle’r oedd y simnai â’i chefn at y fynedfa (cynllun math B Peter Smith). Fodd bynnag, mae cydlyniad cryf o ran defnyddio deunyddiau adeiladu – y tywodfaen coch a gafwyd yn lleol sydd flaenaf, gyda brics ond yn cael eu cyflwynol ar ôl dyfodiad y rheilffyrdd yn ail hanner y 19eg ganrif. Yn bendant, mae traddodiad cynharach o weithio gyda choed i’w weld yn yr ardal fel, er enghraifft, yn y Gilfach, Llan-gors, ond ychydig ohono sydd ar ôl yng nghymeriad allanol y stoc adeiladau.
Mae hierarchaeth gymdeithasol amlwg yn yr adeiladau hefyd, gyda chyfres o blasau bach yn y wlad ar y pen; mae’r rhan fwyaf o ffermydd hefyd yn bur fawr, gyda chymeriad ffermydd bonedd. Mae gan rai o’r rhain fythynnod cysylltiedig, er yr ymddengys bod yr anheddau llai o’r math hwn wedi casglu yn y pentrefi’n gyffredinol, y rhan fwyaf ohonynt yn annhebygol o fod yn gynharach nag oddeutu 1800. Gall hyn fod o ganlyniad i resymoli anheddu yn y 19eg ganrif ond, beth bynnag ei tharddiad, mae’n nodwedd gref o’r ardal hon. Adlewyrchir yr hierarchaeth hon mewn amrediad o ieithoedd pensaernïol, gan fod rhai o’r plastai bach gwledig yn perthyn i draddodiadau pensaernïol ‘gwâr’, yn hytrach na’r brodorol. Penseiri blaenllaw eu cyfnod ddyluniodd rai ohonynt. Enghreifftiau o’r tai gwâr hyn yw Tŷ Sgethrog (diwedd yr 17eg ganrif), Peterstone Court, Maesderwen (fila Ddorig o ddechrau’r 19eg ganrif y tu allan i Lanfrynach), Aberyscir Court (1837), Penoyre (1848, o waith y pensaer Anthony Salvin), a’r cyfadail hynod o waith y pensaer J. L. Pearson yn Nhreberfydd. Mae tŷ Trebinshwn yn dangos y trawsnewid o draddodiadau brodorol i rai gwâr yn daclus, lle’r ailwynebwyd y tŷ gwreiddiol o tua 1630 yn gynhwysfawr ym 1805.
Tywodfaen coch sydd flaenaf, ond mae amrywiadau yn ei liwiad a’i driniaeth. Mewn rhai achosion cafodd ei orffennu bron fel maen nadd, fan arall mae’n rwbel. Mae gwyngalchu a rendro hefyd yn cyfrannu’n sylweddol at gymeriad aneddiadau, ond mae’n ymddangos bod ei ddefnydd traddodiadol yn yr ardal ar drai. Mae dylanwad y rheilffyrdd yn amlwg, pan gyflwynwyd deunyddiau gwneuthuredig wedi’u mewnforio. Er enghraifft, gwnaed defnydd helaeth o frics yn aneddiadau rheilffordd Tal-y-llyn a Phennorth ac, yn enwedig, y brics melyn o darddiad amhendant, a ddefnyddiwyd yn nodweddiadol ar gyfer llin-gyrsiau ac agoriadau ffenestri a drysau. O ran toi, erys ychydig enghreifftiau o doeau cerrig hollt a ddefnyddiwyd yn draddodiadol yn yr ardal, ond llech wedi’i fewnforio o ogledd Cymru sydd flaenaf bellach.
Mae tystiolaeth o’r maes yn awgrymu ymgyrch egnïol o wella ffermydd o tua 1800 ymlaen. Tra bo dyddiadau ffermdai’n amrywio o’r 16eg ganrif ymlaen, a’u ffurfiau pensaernïol yr un mor amrywiol, mae llawer mwy o gydlyniad ymhlith stoc adeiladau fferm, oherwydd eu cyfnod llawer mwy cyfyngedig, Ymddengys bod y rhan fwyaf o’r enghreifftiau a welir yn dyddio o’r 19eg ganrif gynnar ymlaen. Mae nifer fawr o fuarthau da eu cynllun sy’n edrych fel canlyniad gwell arferion amaethyddol a chryn fuddsoddiad. Mae enghreifftiau’n cynnwys y fferm fodel y tu allan i Lanfrynach a grybwyllwyd uchod, a Fferm Aber-Brân-fach a Pool Farm, y ddwy ger Aberbrân, lle adeiladwyd y tŷ fel rhan o adeiladau’r fferm, er yr addaswyd yr olaf. Mae adeiladau mawr braf mewn cwrt hefyd yn Nhroedyrharn, Alexandersone, Wern a Manest Court. Yr ysguboriau sy’n tueddu i fod yr adeiladau cryfaf, er ei bod yn amlwg eu bod yn ffermydd cymysg, gydag adeiladau da i gadw’r anifeiliaid ynddynt hefyd. Mathau nodweddiadol eraill o adeiladau yw cytiau cysgodi neu gytiau certi agored (weithiau gyda phileri carreg silindraidd yn dal y to) ac mae enghreifftiau o ysguboriau gwair agored hefyd, tra bo granarau yn Nhŷ Mawr, Llangasty Tal-y-llyn. Mae enghraifft anghyffredin o ysgubor wair efallai yn Aberysgyr yn defnyddio haearn gyr yn y cyplau to; gyda’i chysylltiad â’r tŷ mawr yn awgrymu cryn fuddsoddiad.
Mae adeiladau tref Aberhonddu yn gofnod gwerthfawr o’i hanes maith o ffyniant, yn cyflawni ei swyddogaethau fel prif dref y sir, canolfan amaethyddol a thref garsiwn. Cadwodd canol Aberhonddu ei gymeriad yn hynod dda, gyda chynllun canoloesol ei phrif strydoedd, yn adnabyddadwy ar fap Speed o 1610, yn dal yn amlwg heddiw. Ymhlith adeiladau domestig ychydig iawn sy’n amlwg o’r canol oesoedd er bod nifer o oroesiadau ôl-ganoloesol cynnar pwysig. Yn wreiddiol roedd Buckingham Place yn dŷ o’r 16eg ganrif gyda chegin neu heulfa ar wahân; cysylltwyd y ddwy ran yn y 18fed ganrif gynnar. Mae Tŷ’r Eglwys yn Lion Street yn dŷ cynllun L o ddiwedd y 16eg ganrif neu ddechrau’r 17eg ganrif, a gafodd dalcen newydd yn y 18fed ganrif. Ychydig y tu allan i derfynau gorllewinol y dref saif Newton House a adeiladwyd o gwmpas 1582 gan John Games, Uchel Siryf Sir Frycheiniog. Efallai mai hwn yw’r tŷ cynllun ar byst dwbl cynharaf yng Nghymru, ac ar bedwar llawr. Mae gwaith mewnol y tŷ’n cynnwys neuadd fawr gyda sgrin a lle tân gyda cherfwedd herodrol. Yn yr ystafelloedd uchaf mae cerfwedd o waith plastr gan gynnwys rhosynnau’r Tuduriaid a fflŵr-dy-lis. Y math o adeiladu is-ganoloesol nodweddiadol yn Aberhonddu oedd y ‘tŷ tri chwarter’ bondigrybwyll yn cynnwys muriau ochr a chefn o garreg gyda blaen ffrâm goed. Y mwyaf amlwg ohonynt yw 20 Ship Street, yn dyddio o ganol yr 17eg ganrif, sydd wedi cadw ei flaen coed. Fodd bynnag, ailwynebwyd mwyafrif y tai o’r math hwn yn y 18fed ganrif ddiweddar neu’n gynnar yn y 19eg ganrif, gyda thŷ tafarn Sarah Siddons yn y Stryd Fawr Isaf yn un o lawer enghraifft ohonynt.
Goroesodd nifer ryfeddol o dai tref o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif gynnar yn perthyn i fonedd neu fasnachwyr ffyniannus, yn enwedig yn Lion Street, Y Struet a Stryd Morgannwg. Mae rhif 4 Lion Street yn anghyffredin trwy ddefnyddio brics yn y golwg ac mae’n dilyn cynlluniau ffasiynol o Ganoldir Lloegr. Yng Nghantre Selyf sy’n tarddu o’r 17eg ganrif, hefyd yn Lion Street, mae nenfydau plastr coeth a gris braf. Yn Stryd Morgannwg, mae gwaith mewnol nodedig yn Havard House, eto’n tarddu o’r 17eg ganrif, gan gynnwys paneli a grisiau. Mae gwaith mewnol braf o gyfnod y Rhaglywiaeth yn Hamilton House yn y Struet.
Fel prif dref y sir roedd Aberhonddu’n darparu lle ar gyfer dawnsiau a pherfformiadau theatraidd. Uwchben rhifau 29 a 30 Stryd Fawr Uchaf mae ystafell fawr flaenorol y Bell Inn wedi goroesi lle perfformiodd yr actores Sarah Siddons. Y tu cefn i siop ddodrefn yn y Watton, mae theatr a adeiladwyd i’r diben wedi goroesi, ond yn anffodus mae wedi’i wagio. Mae pwysigrwydd y dref fel canolfan adwerthu’n cael ei ddangos mewn blaen siopau braf o’r 18fed ganrif neu’r 19eg ganrif yn 20 Stryd Fawr Isaf, er enghraifft, ac yn arbennig yn 46 Stryd Fawr Isaf gyda manylion clasurol fyddai’n deilwng o Gaerfaddon. Ymhlith adeiladau cyhoeddus, mae Amgueddfa Brycheiniog bresennol, a adeiladwyd fel Neuadd y Sir o gwmpas 1840, o waith y penseiri T. H. Wyatt a David Brandon. Mae hwn yn un o adeiladau gorau’r Adfywiad Groegaidd yng Nghymru, ac yn dal llysoedd sydd wedi goroesi’n rhannol. Mae Neuadd y Dref bresennol yn ailwampiad yn y 19eg ganrif ddiweddar o adeilad o 1770, gynt gydag arcedau agored ar y llawr isaf i’w defnyddio fel marchnad.
Mae tu mewn Capel y Plough yn Lion Street yn enghraifft dda o’r 19eg ganrif ddiweddar. Mae eglwys Sant Mihangel (o waith Joseph Aloysius Hansom y pensaer a dyfeisydd Fictoraidd) o 1851 yn gynnar ei dyddiad o ystyried mai eglwys Babyddol ydyw yng nghefn gwlad Cymru. Priodwyd Adelina Patti, y soprano enwog o Sbaen, yma ym 1899. Y tu allan i’r canol hanesyddol, datblygwyd y briffordd allan o Aberhonddu tua’r dwyrain, y Watton, i raddau helaeth rhwng dechrau a chanol y 19eg ganrif, gyda rhesi rheolaidd o dai o arddull Sioraidd diweddar. Mae mur blaen y barics, gyda’i orthwr o’r 1870au, yn cuddio adeiladau rhagorol o’r 1840au a drefnwyd o gwmpas maes ymarfer. Mae barics blaenorol y marchoglu gyda llusern yn drawiadol dros ben. Fodd bynnag, mae’r adeiladau brics coch ar yr ochr orllewinol yn dyddio o tua 1805.
Ffurfiwyd plwyf ar wahân o ran y dref bresennol dros yr afon Wysg a’i alw yn Llan-faes. Ymledodd Aberhonddu dros y bont ac mae tai da o ddiwedd y 18fed ganrif i ddechrau’r 19eg ganrif ger y bont. Ailadeiladwyd eglwys Dewi Sant ym 1859, ac eto ym 1923-35. Yma hefyd mae Coleg Crist yn ymgorffori olion brodordy canoloesol Sant Nicolas. Erys cangell y capel canoloesol, fel y gwna’r clafdy a’r neuadd westeion o’r 13eg ganrif. Adferodd y penseiri Pritchard a Seddon y cyfan yng nghanol y 19eg ganrif, ac mae eu Hysgoldy (1861) yn adeilad Adfywiad Gothig gwych yn ei rinwedd ei hun. Y pensaer Thomas Thomas ddyluniodd Goleg Coffa’r Annibynwyr yn Aberhonddu, bellach wedi’i drosi yn fflatiau, mewn arddull y Dadeni Elisabethaidd ac fe’i adeiladwyd fel coleg diwinyddol rhwng 1867 a 1869 ar lechwedd amlwg ar ochr ddwyreiniol y dref. Disgrifiwyd yr adeilad newydd, gydag addurnau carreg Caerfaddon, fel a ganlyn: ‘a pleasing structure of native stone, harmonizing well with the unpretentiously beautiful Brecknockshire landscape and exhibiting in its simplified, angular and sober version of the Gothic idiom some of the virtues and idiosyncrasies of Welsh Puritanism’.
Daeth Camlas Mynwy a Brycheiniog i fodolaeth ar ddiwedd y 18fed ganrif, ond ychydig iawn sydd wedi goroesi ar wahân i swyddfa bwyso a phontydd. Mae bwa ychwanegol ar un o bontydd y gamlas ar gyrion dwyreiniol y dref lle rhedai Tramffordd y Gelli. Daeth y rheilffordd ager yn y 1860au a diflannodd ganrif yn ddiweddarach ond ychydig o olion a adawodd ar wahân i bentan traphont a oedd yn croesi afon Honddu (yn y Postern), a’r enw Viaduct House ar adeilad yn y Struet.
Mae diffyg cymharol tai Fictoraidd ac Edwardaidd yn awgrymu cyfnod o arafwch yn economi’r dref, er bod rhai filâu Edwardaidd deniadol i’r gogledd o’r hen reilffordd. Fel y crybwyllwyd eisoes, mae cymeriad ‘Sioraidd’ y dref at ei gilydd yn cuddio tarddiad cynharach llawer o’r adeiladau, ac mae rhai trigolion wedi gwrthwynebu ychwanegiadau’r awdurdod lleol at ei chymeriad Sioraidd. Triniwyd datblygiadau mawr fel canolfan siopa Sgwâr Bethel yn gyffredinol dda. Golygodd y ffordd liniaru fewnol a adeiladwyd ym mlynyddoedd cynnar yr 21ain ganrif golli adeiladau rhestredig. Efallai mai’r siom fwyaf yw colli cymeriad y tai bach llai pwysig, ond nodweddiadol, ar hyd y ffyrdd sy’n arwain at Aberhonddu trwy newid ffenestri a thoeau.
Tirweddau Diwydiannol
Roedd nifer o wahanol ddiwydiannau tynnu a phrosesu, yn gyffredinol fach ac yn nodweddiadol o ardaloedd gwledig, yn weithgar yn yr ardal o’r canol oesoedd o leiaf ymlaen ond, er eu bod yn arwyddocaol yn lleol, ychydig fu eu heffaith ar ardal y dirwedd hanesyddol drwyddi draw.
Ymddangosodd chwareli unig a chymharol fach ar gyfer deunydd adeiladu tai, adeiladau amaethyddol a chloddiau drwy’r ardal gyfan ers y canol oesoedd ac, efallai’n arbennig yn ystod y cyfnod rhwng diwedd yr 17eg ganrif a’r 19eg ganrif. Y prif ddeunydd a gloddiwyd oedd Hen Dywodfaen Coch naill ai ar ffurf talpiau coch neu frown mwy di-ffurf neu welyau mwy gwyrddlwyd o garreg fwy tafellog. Ymddengys bod rhai o’r olaf, sy’n digwydd fel gwelyau o fewn yr Hen Dywodfaen Coch, yn addas ar gyfer cynhyrchu teils toi o gerrig hollt a ddefnyddiwyd fel deunydd adeiladu traddodiadol yn yr ardal (efallai’n gyfyngedig i adeiladau â statws uchel i ddechrau). Fel y nodwyd uchod, parhaodd felly nes i lechi wedi’u mewnforio ei ddisodli fel y prif ddeunydd toi yn ddiweddar yn y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. Mae casgliad o chwareli bach gadwedig i’w gweld, er enghraifft, yn yr ardal rhwng Llanfihangel Tal-y-llyn a Phennorth a ddefnyddiwyd ar gyfer deunyddiau adeiladu’n ôl pob tebyg. Mae chwareli oedd yn cyflenwi gwaith adeiladu yn Aberhonddu’n hysbys yn nyffryn Honddu, yn union i’r gogledd-ddwyrain o’r priordy, ac ym Mhennant, i’r gorllewin o’r dref. Mae chwareli cerrig mwy yn hysbys hefyd ar hyd crib Allt yr Esgair, i’r gogledd o Dalybont ar Wysg.
Sefydlwyd odynau calch, yn bennaf ar gyfer cynhyrchu calch amaethyddol, ac roeddent yn gweithredu yn yr ardal yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, yn enwedig yn dilyn agor Camlas Mynwy a Brycheiniog ar ddechrau’r 19eg ganrif a oedd yn cludo carreg galch a glo yn rhwydd i fwydo’r odynau. Adeiladwyd odynau ar bwys y gamlas yn y Watton, Aberhonddu, ac ym Mrynich ac efallai ym Mhencelli. Erys rhes drawiadol o odynau yn Nhalybont ar Wysg oedd yn gysylltiedig â Thramffordd Bryn-oer.
Manteisiwyd ar bŵer dŵr afon Wysg ac afon Llynfi a’u hisafonydd a llednentydd o’r canol oesoedd hyd ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif pan ddisodlwyd hwy’n raddol gan fathau eraill o ynni oedd yn fwy dibynadwy ac yn llai dibynnol ar amrywiad tymhorol. Mae amryw o felinau cynnar hysbys oedd yn manteisio ar lif Afon Honddu yn Aberhonddu, gan gynnwys y felin ŷd yn dwyn yr enw Watergate Mill, Melin y Castell neu Felin Honddu, ger y cymer ag afon Wysg, lle’r oedd melin yn weithredol o ddiwedd y 14eg ganrif o leiaf tan yn gynnar yn yr 20fed ganrif. Ymhellach i fyny’r afon, roedd melin wlân Aberhonddu, pandy blaenorol yn dwyn yr enw Burges Mill neu Felin y Priordy, yn gweithredu o ganol yr 17eg ganrif o leiaf tan ddechrau’r 20fed ganrif eto. Cofnodwyd melinau canoloesol hefyd ym Mhencelli a’r Watton, a aeth yn segur ar ddechrau’r 15fed ganrif, efallai o ganlyniad i’r distryw ddaeth yn sgil gwrthryfel Glyndŵr. Goroesodd melinau ŷd dŵr mewn pob math o gyflwr ar lannau afon Wysg ym Millbrook, i’r gogledd-orllewin o Lanhamlach, ar Nant Cwy ym mhentref Llan-gors, ar Nant Brân yn Aberbrân, ar Nant Menasgin ym Mhencelli, ac ar Afon Cynrig, i’r gogledd-orllewin o Lanfrynach, pob un ohonynt ar waith yn ôl pob tebyg yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif o leiaf. Dangoswyd melin ddŵr ar Afon Llynfi ar fap o Lyn Syfaddan (Llyn Llan-gors) o’r 16eg ganrif. Roedd melinau llifio dŵr yn gweithredu yn Aberhonddu ar ddiwedd y 19eg canrif o leiaf ar Afon Tarell ger Pont ar Darell, Llan-faes, ac oddi ar Orchard Street, y Watton, ar bwys glanfeydd y gamlas a’r rheilffordd. Cofnodwyd pyllau llifio blaenorol yn dyddio o’r 18fed ganrif neu’r 19eg ganrif yn Llan-gors ac Aberhonddu. Roedd pob un o’r melinau dŵr blaenorol yn gysylltiedig ag amrywiaeth o adeileddau eraill gan gynnwys ffrydiau a phyllau melin, rhai ohonynt wedi cael eu llenwi neu’n dal i oroesi fel nodweddion neilltuol y dirwedd.
Manteisiwyd ar bŵer dŵr hefyd yn y ffwrnais haearn ar afon Honddu yn Forge Farm tua milltir i’r gogledd o Aberhonddu. Seiliwyd y ffwrnais, a godwyd tua 1720 ac a gyflenwyd â charreg haearn a charreg galch o Hirwaun a siarcol o’r wlad oddi amgylch, ar ddulliau clampiau o haearn bwrw. Daliodd i weithredu tan tua 1780, gan deimlo cystadleuaeth gynyddol y gweithfeydd haearn yn ardal Merthyr Tudful o ganol y 18fed ganrif oedd yn defnyddio ffwrneisi chwyth llosgi golosg.
Ymhlith diwydiannau eraill cymharol fyrhoedlog yn yr ardal oedd y gwaith brics a theils a oedd yn manteisio ar ddyddodion clai rhewlifol ac yn gweithredu yn y 19eg ganrif i’r gogledd o Aberhonddu ar ochrau deheuol Pen-y-crug ac yn Nhairderwen lle mae cyfadeilau gydag olion odynau a phyllau clai yn dal yn weladwy. Yn ôl pob tebyg, roedd y gweithfeydd hyn yn cyflenwi deunyddiau adeiladu ceramig lleol i dref ymledol Aberhonddu hyd nes y teimlwyd effaith cystadleuaeth nwyddau a gynhyrchwyd yn rhatach o fannau eraill o ganlyniad i ddyfodiad y rheilffyrdd yn negawdau olaf y 19eg ganrif.
Roedd diwydiannau bach gwledig eraill nodweddiadol yn cynnwys gefeiliau pentref mewn canolfannau fel Llanfihangel Tal-y-llyn, Talybont ar Wysg, Llan-gors a Cross Oak yn y 19eg ganrif ond o darddiad cynharach, yn ôl pob tebyg. Roedd lladd-dy a thanws yn Aberhonddu, oddi ar Stryd y Bont. Gweithredai hen Fragdy Aberhonddu o eiddo ac adeiladau yn y Struet, Aberhonddu yn hanner cyntaf y 19eg ganrif ac roedd tanws o’r cyfnod hwn ar waith yn Abercynrig, ychydig i’r de-ddwyrain o’r dref.
Daeth nwy tref i Aberhonddu ar gyfer goleuo yn y 19eg ganrif ddiweddar pan sefydlwyd hen waith nwy ychydig oddi ar Charles Street, ar y dechrau’n defnyddio cyflenwadau glo a gludwyd ar y gamlas a’i gadw mewn tri thanc nwy. Parhaodd i gynhyrchu tan hanner cyntaf yr 20fed ganrif.
Trafnidiaeth a Chysylltiadau
Nid oes llawer o dystiolaeth i ddangos i ba raddau y defnyddiwyd dyfroedd canol ac uchaf afon Wysg ar gyfer trafnidiaeth yn yr hen ddyddiau er bod hanes defnyddio cychod i bysgota, gan gynnwys defnyddio ceufadau a chyryglau, ar Lyn Syfaddan o tua’r 9fed ganrif ymlaen.
Topograffeg sydd wedi penderfynu prif linellau cyfathrebu ar y tir o fewn ardal y dirwedd hanesyddol, yn arbennig echelin cymoedd Wysg a Llynfi a’r darnau sylweddol o ucheldir. O ganlyniad, tueddodd ffyrdd y Rhufeiniaid, llwybrau canoloesol, ffyrdd tyrpeg, camlesi, rheilffyrdd a chefnffyrdd diweddar i gyd yn eu tro i ddilyn fwy neu lai yr un llwybrau.
Ffyrdd
Fel y nodwyd uchod, y gyfundrefn trafnidiaeth a chyfathrebu gynharaf sydd â thystiolaeth hysbys ohoni yw’r rhwydwaith ffyrdd Rhufeinig strategol sy’n canolbwyntio ar y Gaer i’r gorllewin o Aberhonddu, a sefydlwyd ar ddiwedd y ganrif gyntaf. Roedd ffyrdd yn rheiddio allan o’r gaer i gysylltu â cheyrydd a phrif aneddiadau eraill. Mae hynt y ffyrdd yn hysbys tua’r de i gyfeiriad Ystradgynlais (Powys), tua’r gogledd i gyfeiriad Llandrindod, tua’r de-ddwyrain ar hyd dyffryn Wysg i’r Fenni (Sir Fynwy), tua’r gogledd-ddwyrain i gyfeiriad Kenchester (Swydd Henffordd) a thua’r de-orllewin i gyfeiriad Llanymddyfri (Sir Gaerfyrddin). Mae rhannau o gwrs pob un o’r ffyrdd hyn yn hysbys o waith maes neu gloddio er bod darnau eraill yn fwy damcaniaethol. Mae cerrig milltir Rhufeinig arysgrifedig yn dangos y cynhaliwyd y ffordd rhwng Caer Aberhonddu a Llanymddyfri tan yn ddiweddar yn y 3edd ganrif o leiaf, a’r ffordd rhwng Caer Aberhonddu a’r Fenni hyd at ganol y 4edd ganrif o leiaf.
Mae’n ymddangos na chynhaliwyd y rhwydwaith ffyrdd Rhufeinig ac, yn raddol, peidiwyd â’u defnyddio yn y canol oesoedd cynnar, yn y 5ed a’r 6ed ganrifoedd OC ac, yn ôl pob tebyg, cawsant eu disodli gan rwydwaith llai rheolaidd o lwybrau heb wyneb a mwy o lwybrau mân yn cysylltu aneddiadau cnewyllol mawr a bach a ffermydd gwasgaredig. Ers diwedd yr 11eg ganrif o leiaf canolbwyntiodd y rhan fwyaf o’r llwybrau pwysicaf ar dref Aberhonddu a ddaeth yn brif dref farchnad a chanolfan fasnachol ar gyfer y rhanbarth yn ogystal â man aros i’r rhai’n teithio i orllewin Cymru ac oddi yno trwy ddyffryn Wysg.
Yn ôl pob tebyg, sefydlwyd cyfundrefn ffyrdd porthmyn ar hyd a lled Cymru o’r canol oesoedd diweddar ymlaen ac, yn enwedig, o’u hanterth yn y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Gyrrwyd gwartheg ar eu hyd yn fuchesau i farchnadoedd yn siroedd canoldir a de Lloegr, mor bell â Llundain. Roedd un o’r llwybrau traddodiadol hyn yn croesi ardal y dirwedd hanesyddol o’r gorllewin i’r dwyrain, yn rhedeg o flaenau Cwm Tawe ar hyd ymylon gogleddol Bannau Brycheiniog o Heol Senni i Lanfrynach ac oddi yno ar hyd dyffryn Wysg i Drefynwy trwy Grucywel a’r Fenni, fwy neu lai ar hyd llwybr yr A40 heddiw.
Gwnaed gwelliannau i lawer o’r prif ffyrdd yn ardal y dirwedd hanesyddol ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif o ganlyniad i greu ffyrdd tyrpeg, yn bennaf trwy ymdrechion Cymdeithas Amaethyddol Sir Frycheiniog gyda’i haelodau’n awyddus i hybu ehangu gweithgaredd masnachol. Cafwyd Deddf Seneddol ym 1767 ar gyfer lledu a thrwsio’r ffyrdd pennaf yn Sir Frycheiniog a sefydlu cyfundrefn o dollau a chlwydi a tholldai, a gyfunwyd yn un ymddiriedolaeth trwy ail Ddeddf ym 1830. Erbyn y 1830au, er enghraifft, sefydlwyd tolldai ar bob un o’r ffyrdd pennaf allan o Aberhonddu – ar y ffordd i’r gogledd i gyfeiriad Llandyfaelog, y ffyrdd i’r gogledd-ddwyrain i gyfeiriad Llanddew a Felin-fach, i’r de-ddwyrain i gyfeiriad Crucywel, i’r de-orllewin i gyfeiriad Merthyr, ac i’r gorllewin i gyfeiriad Pont Senni a Llandeilo.
O ganlyniad i’r gwelliannau i’r ffyrdd tyrpeg estynnwyd gwasanaethau coets o Lundain trwy Gaerloyw, Trefynwy a’r Fenni o Aberhonddu i Gaerfyrddin ac Aberdaugleddau yng ngorllewin Cymru. Sefydlwyd tafarnau’r goets yn Aberhonddu ar gyfer teithwyr a chodwyd warysau mawr ger Eglwys y Santes Fair yn y dref ar gyfer y nwyddau oedd yn cael eu cludo mewn wagenni trwm.
Goroesodd rhai pontydd ffyrdd nodedig o’r canol oesoedd ac yn ddiweddarach dros afonydd a nentydd yr ardal. Mae pontydd carreg yn nhref Aberhonddu’n cynnwys Pont y Castell o’r canol oesoedd a Phont y Priordy o ddechrau’r 19eg ganrif dros afon Honddu, Pont ar Wysg yn dyddio o 1563, a Phont ar Darell yn Llanfaes yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif. Ym 1873 disodlodd y bont haearn bresennol dros afon Honddu yn Aberhonddu Bont Watergate o’r canol oesoedd. Mae cyfres o bontydd carreg dros Nant Brân ar ymyl orllewinol ardal y dirwedd hanesyddol yn cynnwys dwy bont garreg, sef Pont Aber Brân o ddiwedd y 18fed ganrif a Phont ar Frân o ddechrau’r 19eg ganrif. Ymysg pontydd ffyrdd carreg eraill sy’n werth sylw yn yr ardal mae Pont y Loc dros afon Wysg ger Brynich, yn ôl pob tebyg o’r 18fed ganrif, y bont dros nant Caerfanell yn Nhalybont ar Wysg o ddiwedd y 18fed ganrif a Phont Felindre dros Afon Cynrig wrth ymyl hen Felin Abercynrig.
Camlas Mynwy a Brycheiniog
Ffurfiwyd Cwmni Camlas Brycheiniog a’r Fenni o ganlyniad i Ddeddf Seneddol ym 1793. Agorwyd y darn rhwng Gilwern a Llangynidr ym 1797, a’i ymestyn tua’r gorllewin i Dalybont ar Wysg ym 1799 ac yn olaf i Aberhonddu ym 1800, wedi’i gynllunio gan Thomas Dadford yr ieuaf, y peiriannydd camlesi. Ym 1812 cysylltwyd y gamlas yn y diwedd â’r arfordir ar hyd Camlas Sir Fynwy i Gasnewydd, pan ddaeth yn 42 filltir o hyd a’i hailenwi yn Gamlas Mynwy a Brycheiniog. Roedd gwaith sylweddol yn cynnwys loc y gamlas ym Mrynich, y ddyfrbont garreg yn cludo’r gamlas dros afon Wysg ym Mrynich, a thwnnel ychydig y tu allan i ardal y dirwedd hanesyddol, i’r de-ddwyrain o Dalybont ar Wysg. I’r gogledd-orllewin o Bencelli mae ail dyfrbont, a ailadeiladwyd dros Nant Menasgin, a marina modern yn Nhŷ-newydd. Rhwng Talybont ar Wysg a Phencelli mae cyfres o bontydd codi, y rhan fwyaf ohonynt wedi cael eu disodli neu eu trwsio’n sylweddol. Disodlwyd llawer o’r pontydd ffyrdd gwreiddiol gan adeileddau concrid mwy diweddar er bod nifer o bontydd crwm gwreiddiol o garreg a brics wedi goroesi. Ymysg y prif nwyddau a gludwyd tua’r gogledd i Aberhonddu oedd glo, haearn a charreg galch o faes glo de Cymru. Cludwyd pren i’w ddefnyddio yn y pyllau glo i’r cyfeiriad arall. Cwmni Cychod Aberhonddu oedd yn gyfrifol am lawer o’r fasnach gludo, yn wreiddiol gyda badau ceffyl, gyda glo’n cael ei werthu wrth lanfeydd ar hyd y gamlas ac yn Aberhonddu.
Roedd y gamlas yn gysylltiedig â dwy gyfundrefn tramffordd geffyl. Ni wireddwyd cynllun gwreiddiol i adeiladu cangen o Gamlas Mynwy a Brycheiniog i’r Gelli Gandryll a Whitney ac yno i ymuno ag afon Gwy. Yn lle hynny, adeiladwyd tramffordd o’r gamlas yn Aberhonddu i’r Gelli, a agorodd ym 1818, ac oddi yno i Geintyn ac Eardisley, Swydd Henffordd. Man cychwyn Tramffordd Bryn-oer (Brinore), a adeiladwyd ym 1814-15, oedd glanfa’r gamlas yn Nhalybont ar Wysg gan redeg 12 milltir tua’r de y tu allan i ardal y dirwedd hanesyddol i chwarel carreg galch Trefil a phwll glo Bryn-oer ger Tredegar.
Aeth y gamlas i feddiant y Great Western Railway ym 1880, gyda’r cwmnïau rheilffyrdd erbyn hynny wedi cymryd llawer o’r fasnach haearn a glo. Parhaodd masnachu i’r 20fed ganrif, gan ddod i ben o’r diwedd oddeutu 1933. Wedi hynny rhoddwyd y gorau i ddarn helaeth o gangen Sir Fynwy’r gamlas ond arhosodd y darn rhwng Aberhonddu a’r Fenni ar agor i raddau helaeth. Arweiniodd gwaith adfer rhwng 1968 a 1970 at ailagor y gamlas i gychod pleser o Bont-y-pŵl i Aberhonddu, sef pellter o 33 milltir. Heddiw, Camlas Aberhonddu a’r Fenni yw enw’r gamlas yn gyffredinol.
Tramffyrdd a Rheilffyrdd
Fel y nodwyd uchod, trwy agor Camlas Mynwy a Brycheiniog rhoddwyd hwb i adeiladu amryw o dramffyrdd ceffyl yn nau ddegawd cyntaf y 19eg ganrif a oedd yn cludo deunyddiau i lanfeydd ar y gamlas ac oddi yno. Darparodd Tramffordd Bryn-oer gysylltiad pwysig gyda chwareli carreg galch a phyllau glo maes glo de Cymru. Cwblhawyd Tramffordd y Gelli ym 1818, gan alluogi cludo glo, golosg a chalch ymlaen o ben y gamlas yn Aberhonddu i’r Gelli Gandryll, Ceintyn ac yn y pen draw i Eardisley yn Swydd Henffordd.
Parhaodd Tramffordd y Gelli mewn bodolaeth am 40 mlynedd, gan gystadlu gyda’r ffyrdd tyrpeg ar ôl eu gwella ar gyfer traffig. Ym 1862 disodlodd Cwmni Rheilffordd Henffordd, y Gelli ac Aberhonddu’r dramffordd gan ailddefnyddio llawer o gwrs blaenorol y dramffordd. Serch hynny, mae olion ei hen argloddiau a chylfatiau wedi goroesi mewn mannau, fel yn achos y darn ychydig i’r de-ddwyrain o Lanfihangel Tal-y-llyn lle mae dolen flaenorol o’r dramffordd yn dal yn weladwy. Golygodd adeiladu’r rheilffordd gloddio’r twnnel 500 metr o hyd, sydd wedi’i selio bellach, i’r gorllewin o Dal-y-llyn. Cysylltwyd y rheilffordd â Rheilffordd Canolbarth Cymru tua’r gogledd i Lanidloes ym 1865 ar gyffordd Three Cocks. Unwyd Cwmni Rheilffordd Henffordd, y Gelli ac Aberhonddu gyda Chwmni’r Midland Railway ym 1874 a ddaeth wedyn yn Rheilffordd Canolbarth Cymru, a gaeodd maes o law ym 1962.
Roedd Rheilffordd Aberhonddu a Merthyr, a agorwyd ym 1865, yn gadael Rheilffordd Henffordd, y Gelli ac Aberhonddu ar gyffordd Tal-y-llyn, i’r dwyrain o Aberhonddu. Roedd hon yn rhoi cysylltiadau tua’r de i Ferthyr a chymoedd diwydiannol de Cymru trwy Dalybont ar Wysg, gan ddisodli Tramffordd Bryn-oer. Cwblhawyd Rheilffordd Castell Nedd ac Aberhonddu, yn rhedeg tua’r gorllewin i Gastell Nedd trwy Aberbrân, erbyn 1872. Caewyd llinell Aberhonddu a Merthyr a llinellau Aberhonddu a Chastell Nedd ym 1963. Ystyriwyd cysylltu dyffryn Wysg yn ardal Crucywel gyda rheilffordd o gyffordd yn Nhal-y-llyn ond rhoddwyd y gorau i’r syniad cyn gwneud unrhyw waith adeiladu.
Mae llawer o gwrs yr hen reilffyrdd o fewn ardal y dirwedd hanesyddol wedi goroesi fel nodwedd arbennig o’r dirwedd i’w weld trwy argloddiau, cloddiadau, cledrau, terfynau caeau, a phentanau pontydd. Mewn llawer o ardaloedd, torrodd y rheilffyrdd ar draws cyfundrefnau caeau cynharach o’r canol oesoedd neu’n ddiweddarach, er ei bod yn amlwg y newidiwyd ffiniau’n sylweddol mewn rhai ardaloedd yn dilyn adeiladu’r rheilffyrdd, yn fwyaf nodedig yn yr ardal ychydig i’r gorllewin o Aberhonddu. Y tu allan i dref Aberhonddu ei hun, o fewn ardal y dirwedd hanesyddol, roedd gorsafoedd gynt yng Nghradoc, i’r gorllewin o Aberhonddu, ar Reilffordd Castell Nedd ac Aberhonddu, yn Nhal-y-llyn ar y gyffordd rhwng Rheilffordd Aberhonddu a Merthyr a Rheilffordd Canolbarth Cymru ac yn Nhalybont ar Wysg ar Reilffordd Aberhonddu a Merthyr, heb fawr ddim ôl ohonynt erbyn hyn. Goroesodd pontydd rheilffordd cyfan ym Mhennorth a Thalybont ar Wysg.
Cysylltiadau Diwylliannol
Mae gweithiau nifer o ysgrifenwyr a beirdd nodedig o’r canol oesoedd a’r canol oesoedd cynnar ymlaen yn gysylltiedig â Chanol Dyffryn Wysg rhwng Aberhonddu a Llan-gors. Bu dadlau, er enghraifft, y cyfansoddwyd y cylch enwog cynnar o gerddi Cymraeg yn dwyn yr enw Canu Llywarch Hen yn dyddio o’r 9fed ganrif neu’r 10fed ganrif, yn ôl pob tebyg, yng nghrannog Llan-gors.
Cysylltwyd Llan-ddew, pentref i’r gogledd-ddwyrain o Aberhonddu, â Gerallt Gymro (Giraldus Cambrensis), clerigwr lliwgar o dras Eingl-Gymreig a benodwyd yn archddiacon Aberhonddu ym 1175 yn wyth ar hugain oed ac yn enwog yn arbennig am ddau draethawd sy’n ffynonellau cyfoethog o wybodaeth gymdeithasol ac economaidd am Gymru yn y canol oesoedd, sef Hanes y daith trwy Gymru (Itinerarium Kambriae) a Disgrifiad o Gymru (Descriptio Kambriae). Esgobion Tyddewi oedd perchenogion maenor ganoloesol Llan-ddew ac roedd ganddynt balas caerog yno. Neilltuwyd degymau’r plwyf i archddiaconiaeth Brycheiniog a disgrifia Gerallt ei breswylfa yno yn amlwg gyda pheth hoffter: ‘lle urddasol, ond heb argoel fawr o rwysg neu gyfoeth y dyfodol; ac yn meddu ar breswylfa fach . . . tra addas i weithgareddau llenyddol, ac i fyfyrio ar dragwyddoldeb’.
Mae Hanes Gerallt yn rhoi cofnod o’r daith a wnaeth ar hyd a lled Cymru ym 1188 yng nghwmni’r archesgob Baldwin yn pregethu dros y Drydedd Groesgad yn Hanes ei daith trwy Gymru. Mae un o’r penodau’n ymwneud â’u taith trwy Frycheiniog, gan bregethu yn y Gelli Gandryll, Llan-ddew ac Aberhonddu, ac yn crybwyll gwythïen gyfoethog o fyth a chwedl ynghylch Canol Dyffryn Wysg, y collwyd llawer ohonynt yn ddiamau, rhai’n berthnasol i ddigwyddiadau yn amser Gerallt ac eraill yn llawer hŷn. Er enghraifft, mae’n cofnodi’r digwyddiadau gwyrthiol yn ymwneud â bachgen yn ceisio cymryd colomennod o nyth mewn eglwys a gysegrwyd i Dewi Sant yn Llan-faes. Mae’n disgrifio hefyd yr ŵyl flynyddol yng Nghapel Santes Elyned, ychydig i’r dwyrain o Aberhonddu, oedd yn cynnwys dawns orffwyll o amgylch mynwent yr eglwys lle byddai’r cyfranogwyr gwrywaidd a benywaidd yn mudchwarae galwedigaethau amrywiol, gan gynnwys aradrwr, crydd, barcer, nyddwr a gwehydd.
Ysgrifenna Gerallt am fywyd Illtud, y sant canoloesol cynnar, y cysylltwyd ei enw â nifer o nodweddion topograffig ym mhlwyf Llanhamlach, gan gynnwys y beddrod cellog Neolithig yn dwyn yr enw Tŷ Illtud, carreg unionsyth Maen Illtud a safai gynt gerllaw, a ffynnon sanctaidd o’r enw Ffynnon Illtud. Dywed Gerallt yr hanes bod y gaseg oedd yn arfer cludo bwydydd y meudwy wedi cyplu â charw, uniad a berodd ‘anifail o gyflymder rhyfeddol yn debyg i flaen ceffyl a chefn carw’.
Mae llawer o symbolau ar hyd y cerrig o’r beddrod cellog, gan gynnwys croesau, sêr a losennau, a gofnodwyd gyntaf gan Edward Lhwyd, yr hynafiaethydd o’r 17eg ganrif. Mae dyddiad y symbolau hyn yn ansicr ond mae’n bosibl eu bod yn ymwneud â ddefnyddio’r safle fel canolfan addoli Illtud Sant rhwng y canol oesoedd cynnar a’r Diwygiad Protestannaidd yng nghanol yr 16eg canrif efallai, er y gall llun o delyn fach bum tant nodi cysylltiad Rhufeinig.
Roedd Llyn Syfaddan, y llyn naturiol mwyaf ond un yng Nghymru sy’n llawn adnoddau naturiol, yn ganolbwynt yn nheyrnas Brycheiniog cyn y Normaniaid ac roedd ymhellach yn ffynhonnell gyfoethog myth a chwedl ers dyddiau cynnar. Un dehongliad o enw Cymreig y llyn yw ei fod yn deillio o enw duwdod cyn-Gristnogol, sy’n awgrymu mai canolbwynt cwlt paganaidd cynnar ydoedd. Yn ddiweddarach yn y 12fed ganrif nododd Gerallt Gymro yn ei Ddisgrifiad o Gymru fod y llyn yn enwog yn lleol am ei wyrthiau. Ers dyddiau cynnar bu’r llyn yn fan bwydo pwysig i adar dŵr ac nid yw’n gyd-ddigwyddiad yn ôl pob tebyg bod un o’r chwedlau gwerin cynnar yn ymwneud ag adar ar y llyn. Mae Gerallt yn sôn am ‘ddywediad hynafol yng Nghymru sef os bydd i dywysog naturiol y wlad, gan ddod at y llyn hwn, orchymyn i’r adar ganu, y byddant yn ufuddhau iddo ar unwaith’ ac mae’n cofnodi enghraifft o hyn yn ystod teyrnasiad Harri’r Cyntaf pan lwyddodd Gruffudd, mab Rhys ap Tewdwr, ar yr her hon lle methodd dau o Normaniaid oedd gydag ef – Milo, iarll Henffordd ac arglwydd Brycheiniog, a Payne FitzJohn. Nododd Gerallt hefyd fod y trigolion yn gweld y llyn weithiau wedi’i ‘orchuddio a’i addurno ag adeiladau, dolydd, gerddi a pherllannau’. Mae Walter Map yn adrodd chwedl gysylltiedig mewn llawysgrif o hanesion a chwedlau sydd yn Llyfrgell Bodley yn Rhydychen yn dwyn yr enw De Nugis Curialium (Manion Gwŷr y Llys). Yn ôl Map, oedd yn gyfaill i Gerallt ac yn frodor o Swydd Henffordd yn ôl pob tebyg, ac a ddaeth yn archddiacon Rhydychen ym 1197, roedd chwedl werin y boddwyd y palas neu dref yn y llyn oherwydd ysgelerder y tywysog a’i ddeiliaid. Mae’n perthyn i draddodiad o chwedlau llifogydd o fath sy’n gysylltiedig â llynnoedd eraill yng Nghymru a mannau eraill, gan gynnwys Llyn Tegid ger y Bala ond, efallai yn yr achos hwn, ar sail cof gwlad o’r crannog canoloesol cynnar. Gyda’r adfywiad yn y diddordeb mewn llên gwerin yn y cyfnod diweddar, roedd hon a chwedlau eraill am Lyn Syfaddan i gael eu hailadrodd mewn cyhoeddiadau fel Celtic Folklore Syr John Rhys a gyhoeddwyd ym 1901 a The Welsh Fairy Book W. Jenkyn Thomas o 1907.
Roedd Llyn Syfaddan yn enwog hefyd ers dyddiau cynnar am nifer o ffenomenau oedd, fel y gwelsom uchod, yn ôl pob tebyg o darddiad dynol ond a ymddangosai wedyn yn hudol. Nododd Gerallt Gymro fod y llyn weithiau ag arlliw coch ‘fel pe bai gwaed yn llifo’n rhannol trwy wythiennau arbennig a sianelau bach’, er ei bod yn argoelus ar adegau eraill os oedd ‘arlliw gwyrdd dwfn ar y llyn mawr ac afon Leveni [Llynfi]’. Nododd Gerallt hefyd pan rewai’r llyn drosto yn y gaeaf y dywedwyd bod y gorchudd o rew’n gollwng ‘sŵn ofnadwy yn debyg i ocheneidiau llawer o anifeiliaid wedi casglu at ei gilydd’ sy’n darddiad Clamosus, yr enw Lladin arall a roddodd Gerallt ar y llyn. Mae sylw William Howells yn ei Cambrian Superstitions a gyhoeddwyd ym 1831 na fydd dŵr afon Llynfi’n cymysgu â dŵr y llyn, ymysg ffenomenau eraill a gofnodwyd yn ddiweddarach.
Mae cyfeiriad eto at yr eglwys a gysegrwyd i Dewi Sant yn Llan-faes, a grybwyllodd Gerallt, mewn cerdd ganmol i Dewi Sant o’r enw Canu y Dewi o waith y bardd anadnabyddus, Gwynfardd Brycheiniog oedd yn ysgrifennu yn y 1180au ac oedd, fel yr awgryma ei enw, efallai’n frodor o Sir Frycheiniog. Mae’r gerdd yn rhestru ugain o eglwysi ym meddiant Tyddewi, gyda’r canlynol ymhlith y rhai yn Sir Frycheiniog:
Nys arueit ryuel Llanuaes, lle uchel,
Nys arueit ryuel Llanuaes, lle uchel,
Garthbryngi, brynn Dewi digewilyt,
A Thrallwng Kynuyn ker y dolyt.
Mae Llyn Syfaddan yn ffurfio cyd-destun cerdd yn dwyn yr enw ‘Yr Alarch’ a briodolwyd i Dafydd ap Gwilym, y bardd o’r 14eg ganrif a’r mwyaf enwog o feirdd Cymreig y canol oesoedd.
Yr alarch ar ei wiwlyn,
Abid galch fel abad gwyn,
Llewyrch, edn, y lluwch ydwyd,
Lliw gŵr o nef, llawgrwn wyd.
Dwys iawn yw dy wasanaeth,
Hyfryd yw dy febyd faeth.
Duw roes yt yn yr oes hon
Feddiant ar Lyn Yfaddon.Dau feddiant rhag dy foddi
O radau teg roed i ti:
Cael bod yn ben-pysgodwr –
Llyna ddawn uwch llyn o ddŵr, –
Hedeg ymhell a elly
Uwchlaw y fron uchel fry,
Ac edrych, edn gwyn gwych gwâr,
I ddeall clawr y ddaear,
A gwylio rhod a’r gwaelod,
A rhwyfo’r aig, rhif yr ôd.
Gwaith teg yw marchogaeth ton
I ragod pysg o’r eigion.
Dy enwair, ŵr dianardd,
Yn wir yw’r mwnwgl hir hardd,
Ceidwad goruwch llygan llyn,
Cyfliwiaidd cofl o ewyn.
Gorwyn wyd uwch geirw nant
Mewn crys o liw maen crisiant.
Dwbled fal mil o’r lili,
Wasgod teg, a wisgud di.
Sieced o ros gwynt yt sydd,
A gown o flodau’r gwinwydd.
Cannaid ar adar ydwyd,
Ceiliog o nef, clogwyn wyd.
Mae Lewis Glyn Cothi, bardd Cymreig adnabyddus o’r 15fed ganrif, hefyd yn sôn am y llyn mewn cerdd sy’n cyfeirio at ei gysylltiadau â’r afanc, bwystfil dŵr mytholegol yn y cyd-destun hwn. Yn y gerdd, i’w gyfaill Llywelyn ap Gwilym ap Thomas Vaughan o Fryn Hafod yng nghwm Tywi, mae Lewis yn awgrymu y byddai mor anodd gwneud iddo adael cartref croesawus ei gyfaill ag y byddai i ddenu’r afanc allan o Lyn Syfaddan.
Yr avanc er ei ovyn
Wyr yn llerch ar vin y llyn;
O dòn Llyn Syfaddan vo
Ni thynwyd ban aeth yno.
Ni’m ty’n mèn nag ychain gwaith,
Oddiyma heddyw ymaith.
Mae cysylltiadau llenyddol canoloesol diweddarach yng Nghanol Dyffryn Wysg yn cynnwys y bardd Huw Cae Llwyd (1431-1504) a’i fab Ieuan sy’n clodfori Aberhonddu ar adeg pan oedd eisoes yn ôl pob tebyg wedi dod yn un o drefi blaenllaw Cymru yn y canol oesoedd: Aber sy benna seren, Hyd nef, Aberhodni wen. Roedd eglwys y priordy yn Aberhonddu, ‘Eglwys y Grog’, wedi dod yn fan pererindod nodedig ers y 15fed ganrif gynnar o leiaf, gyda phererinion yn cael eu denu at y groglen dra addurnol a goffawyd gan feirdd Cymru ond a ddinistriwyd ar adeg y Diwygiad Protestannaidd. Roedd offrymau pererinion wrth y groglen wedi dod yn ffynhonnell incwm bwysig i’r priordy. Caiff ei disgrifio fel ‘Y grog Aur droediog drwydoll’ yn y gerdd ‘Crog Aberhonddu’ o waith Hywel ap Dafydd ap Ieuan ap Rhys, bardd o Raglan yn ail hanner y 15fed ganrif a oedd yn gysylltiedig â nifer o deuluoedd amlwg yn ne Cymru, gan gynnwys Phylip ap Tomos o Lansbyddyd. Pwysleisia William Egwad, bardd arall o ddiwedd y 15fed ganrif, swyddogaeth y groglen mewn defodau crefyddol cyfoes: ‘at Aberhonddu let every man pray: there, is an image gracious for its restfulness’.
Efallai mai’r cysylltiadau llenyddol mwyaf adnabyddus â’r ardal, fodd bynnag, yw gyda Henry Vaughan (1621-95), bardd a chyfieithydd metaffisegol y 17eg ganrif, a oedd yn aelod o un o deuluoedd bonheddig pwysig yr ardal. Roedd teulu Henry’n byw yn Newton, ar lannau afon Wysg rhwng Sgethrog a Llansanffraid, lle tybiwyd iddo gael ei eni. Gwasanaethodd ei efell, Thomas, athronydd, cyfrinydd ac alcemydd, fel rheithor eglwys Llansanffraid (lle claddwyd Henry) oddeutu canol y 1640au, gan gael ei droi allan o’r fywoliaeth gan y comisiynwyr seneddol Piwritanaidd yn ôl telerau Ddeddf Taenu’r Efengyl yng Nghymru ym 1650. Roedd eu chwaer yn byw yn Nhrebinshwn tu draw i’r mynydd ger Llyn Syfaddan. Roedd Henry’n falch o’i achau Cymreig gan dorri ei enw’n aml fel ‘y Silwriad’. Er ei fod yn siarad Cymraeg, ni ystyriai ei hun yn olynydd i’r traddodiad barddol Cymraeg ond fel y bardd Cymreig cyntaf i ysgrifennu trwy gyfrwng ‘gwareiddiol’ y Saesneg. Cyhoeddwyd y casgliad cerddi Olor Iscanus (‘Alarch afon Wysg’), gyda chyflwyniad a ysgrifennwyd yn Newton ar Wysg ym mis Rhagfyr 1647, yn Llundain ym 1651, ei deitl efallai’n adlewyrchu enw cerdd ‘Yr Alarch’ a briodolwyd i Ddafydd ap Gwilym. Fel llawer o’r beirdd metaffisegol, ychydig o’i weithiau sy’n ymwneud â disgrifiadau o’r dirwedd naturiol, er ei bod yn amlwg o’i gerdd agoriadol Olor Iscanus, (Alarch afon Wysg), bod dyffryn ei febyd yn annwyl iddo:
Thus Poets (like the Nymphs, their pleasing themes),
Haunted the bubling Springs and gliding streams,
And happy banks! whence such fair flowres have sprung,
But happier those where they have sate and sung!
Afon Wysg yw testun cerdd Ladin arall yn yr un casgliad, yn dwyn yr enw Ad fluvium Iscam (‘I afon Wysg’) sy’n cynnwys y cwpled canlynol:
Isca parens florum, placido qui spumeus ore
Lambis lapillos aureos
(Wysg annwyl, ymysg dy flodau, â’th don
Yn dal i olchi cerigos euraid’).
Caiff Priory Grove, y rhodfa goediog enwog ar hyd Afon Honddu yn Aberhonddu ei ddathlu yn ei gerdd o’r enw ‘The Priory Grove, His Usual Retirement’ o Poems, with the Tenth Satyre of Juvenal Englished, a gyhoeddwyd ym 1646, sy’n ymddangos yn gysylltiedig â chanlyn ei wraig gyntaf, Catherine Wise.
HAIL, sacred shades ! cool, leafy house !
Chaste treasurer of all my vows
And wealth ! on whose soft bosom laid
My love’s fair steps I first betray’d :
Roedd Henry a’i frawd Thomas yn wyrion William Vaughan o Dretower, teulu Cymreig wedi hen sefydlu oedd â chysylltiadau â’r teulu Herbert oedd yn falch o olrhain ei achau yn ôl i aelod o’r teulu oedd wedi ymladd ym mrwydr Agincourt. Cafodd ei addysg yn Llangatwg gan berthynas arall, Matthew Herbert, ac yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen, ac wedyn astudiodd y gyfraith yn Llundain oddeutu 1640, er bod y Rhyfel Cartref wedi tarfu ar hyn. Bu’n ymwneud â chylch llenyddol Ben Jonson, ac mae’n amlwg o nifer o weithiau cynnar ac o ysgrifau diweddarach yng nghynnwrf gwleidyddol yr oes ei fod yn gefnogol iawn i’r Brenhinwyr a’r Eglwys Wladol. Wedi’i alw’n ôl o Lundain, ymddengys iddo gael ei benodi’n glerc Prif Ustus Sesiwn Fawr Sir Frycheiniog, Sir Faesyfed a Sir Forgannwg ym 1642. Mae’n edrych yn debygol bod Henry a Thomas wedi listio yng ngwasanaeth y brenin a chymryd rhan weithredol yng ngorchfygiadau’r brenhinwyr ger Caer a ddaeth â’u cyfranogiad yn y Rhyfel Cartref i ben yn ôl pob tebyg. Roedd Vaughan wedi dychwelyd i Newton erbyn 1647, yn ôl tystiolaeth y cyflwyniad yn Olor Iscanus, lle bu’n byw am weddill ei oes. Mewn llythyr at John Aubrey gyda’r dyddiad 1673, dywed Vaughan ‘My profession . . . is physic [medicine], wch I have practised now for many years with good successe (I thank god!) & a repute big enough for a person of greater parts than my selfe’, er ei bod yn ansicr pryd y dechreuodd ymarfer gyntaf fel meddyg. Yn ôl pob tebyg roedd hyn erbyn 1655, y flwyddyn pryd y cyhoeddodd ei Hermetical Physick: Or, The right way to preserve, and to restore Health, a gyfieithwyd o destun Lladin gan Heinrich Nolle.
Enwogrwydd pennaf John Aubrey, un o hynafiad pell y teulu Aubrey (Awbrey) o Sir Frycheiniog a oedd yn cynnwys canghennau yn y Cantref, Abercynrig a Thredomen, yw ei Brief Lives sy’n cynnwys portreadau o bobl flaenllaw Sir Frycheiniog, yn ogystal â’i ysgrifau hynafiaethol ar Gôr y Cewri ac Avebury. Yn ôl pob tebyg, y teulu Aubrey adeiladodd y tŷ cynharaf yn Abercynrig yn y 13eg ganrif. Roedd y teulu wedi dod i amlygrwydd lleol erbyn y 14eg ganrif ac, erbyn yr 16eg ganrif, daeth Dr William Aubrey yn ffigur cenedlaethol, yn adnabyddus fel deallusyn, cyfreithiwr ac AS, ac fe alluogodd ei gyfoeth iddo ymestyn ei ystadau’n fawr, fel y nodwyd uchod. O fewn y tŷ presennol mae olion un cynharach, o’r 16eg ganrif, a adeiladodd Dr Aubrey yn ôl pob tebyg. Yn Brief Lives mae John Aubrey yn datgan bod ei hen daid wedi prynu Abercynrig oddi wrth ei gefnder ac iddo adeiladu’r ‘great house at Brecknock: his study looks on the river Usk. He could ride nine miles together on his own land in Breconshire’.
Meithriniodd teuluoedd bonheddig amlwg Sir Frycheiniog ddiddordeb yn gynnar yn hynafiaethau Canol Dyffryn Wysg, gyda nifer o’u safleoedd yn ardal y dirwedd hanesyddol ymhlith y cynharaf i’w harchwilio neu ddyfalu yn eu cylch yng Nghymru yn yr Oes Oleuedig. Fel y gwelsom, roedd cysylltiadau John Aubrey â Sir Frycheiniog yn gryf ac mae’n rhoi’r cyfeiriad cynharaf hysbys at un o feddrodau cellog Neolithig Sir Frycheiniog wrth grybwyll Tŷ Illtud fel a ganlyn: ‘The Carn at Cravannesh [?Manest] in the parish of Llansandfred [Llansanffraid]in the Countie of Brecknock’. Cofnododd wedyn ‘under this Carn is hid great treasure. The Doctor caused it to be digged; and there rose such a horrid tempest of thunder & lightening, that the workmen would work no longer; and they sayd they sawe strange apparitions; but they found a Cake of Gold, which was of a considerable value. This was about 1612. From Sr Tho: Williams Baronet, Chymist to K. Charles II’. Ym 1690 ymwelodd William Jones, cynorthwy-ydd i’r hynafiaethydd Edward Lhwyd, â Thŷ Illtud hefyd, a soniwyd amdano gyntaf mewn print yn argraffiad 1695 o Britannia William Camden.
Fodd bynnag, efallai nad oedd gwybodaeth am hwn neu safleoedd lleol eraill yn gyffredinol yn y cylch ar y pryd. Pan ysgrifennodd at John Aubrey ym 1694 o’i dŷ yn Newton, dim ond 2.5 cilomedr i ffwrdd, cyfaddefodd Henry Vaughan fod ei wybodaeth yn brin am hynafiaethau yn yr ardal.
Honoured Cousin.
I received yours & should gladly have served you, had it bene in my power, butt all my search & consultations with those few that I could suspect to have any knowledge of Antiquitie, came to nothing; for the antient Bards (though by the testimonie of their Enemies, the Romans;) a very learned societie; yet (like the Druids) they communicated nothing of their knowledge, butt by way of tradition wch I suppose to be the reason that we have no account left us: nor any sort of remains, or other monuments of their learning, or way of living.
Gwnaed y darganfyddiadau cynharaf yn fila Rufeinig Maesderwen ger Llanfrynach ym 1698, pan soniodd Hugh Thomas am ddarganfyddiadau o frics ac adfeilion muriau mewn cae o’r enw ‘Kearney Bach’ (Carnau Bach), ar ystâd a brynodd William Thomas yn ddiweddar. Mae adroddiad Hugh Thomas yn nodi y datgelwyd palmant o gerrig bach o liwiau amrywiol tuag 20 mlynedd cyn hynny, ynghyd â chrochenwaith, darnau arian Rhufeinig a darganfyddiadau eraill, gyda’r cae cyffiniol o’r enw ‘Clos y Gavelin’ wedi’i orchuddio â chols haearn a dybiwyd oedd o darddiad Rhufeinig. Ailddarganfuwyd y safle ym 1783 wrth i weithwyr glirio coed a phrysgwydd o gornel cae ar y stad, a bu’n destun gwaith cloddio helaeth gan Charles Hay o Aberhonddu. Cyhoeddwyd copïau o’r darganfyddiadau yn y cyfnodolyn Archaeologia ym 1785.
Roedd y crannog neu ynys wneud ar Lyn Syfaddan o’r enw Ynys Bwlc yn safle ychwanegol yn ardal y dirwedd hanesyddol i ennyn diddordeb hynafiaethol cynnar. Dau hynafiaethydd lleol, Edgar a Henry Dumbleton oedd y cyntaf i sylweddoli bod yr ynys yn un ddynol a chawsant, o waith cloddio rhannol ym 1868, esgyrn anifeiliaid, crochenwaith, lledr, efydd a charreg rwbio. Adroddwyd am y rhain yn y cyfnodolyn Archaeologia Cambrensis a gyhoeddwyd ym 1870. Roedd copïau o waith Ferdinand Keller The Lake Dwellings of Switzerland, a gyhoeddwyd ym 1866, wedi dod yn ddylanwadol iawn ym Mhrydain ac Iwerddon, gan ysbrydoli llawer o hynafiaethwyr i edrych yn fwy manwl ar safleoedd allai fod yn debyg yn nes adref. Fel y nodwyd uchod, dangosodd gwaith cloddio diweddar yn yr 1980au a’r 1990au fod palis yn amddiffyn y crannog a’i fod, yn ôl pob tebyg, yn cynnwys neuadd ganoloesol gynnar tebyg i’r cranogau brenhinol o’r un cyfnod yn Iwerddon, gyda chysylltiad â’r lan ar hyd sarn bren.
Mae paentiad Thomas Jones, yr arlunydd adnabyddus o Sir Faesyfed, sy’n dangos cychwyr wrthi’n pysgota ar Lyn Syfaddan yn yr 1780au neu’r 1790au efallai, i’w weld ym meddiant Amgueddfa ac Oriel Gelf Brycheiniog. Roedd mynd mewn cwch er pleser wedi dod yn ddifyrrwch poblogaidd ar y llyn erbyn y 1890au ac, erbyn hynny, codwyd glanfeydd a chytiau cychod ar ochrau gogleddol a deheuol y llyn. Roedd nifer gynyddol o dwristiaid wedi dechrau ymweld ag ardal y dirwedd hanesyddol a mynd drwyddi ers canol y 18fed ganrif, a hybwyd trwy wella’r rhwydwaith ffyrdd tyrpeg a thrwy gyhoeddi mapiau ffyrdd, adroddiadau topograffig a hanesyddol a phrintiau o olygfeydd hyfryd megis golygfeydd Samuel a Nathaniel Buck o Lan-ddew, Castell Pencelli ac Aberhonddu, a gyhoeddwyd ym 1774.
Gwelwyd cyhoeddi argraffiad cyntaf History of the County of Brecknock Theophilus Jones, mewn dwy gyfrol, yn negawd cyntaf y 19eg canrif. Dechreuwyd hwn ar droad y ganrif, ac mae’n un o’r goreuon o blith cenhedlaeth gynharach o hanesion siroedd Cymru. Bu Jones (1759-1812), a addysgwyd yng Ngholeg Crist, Aberhonddu, a’i hyfforddi fel cyfreithiwr, yn byw am lawer blwyddyn yn Lion Street, Aberhonddu. Yn ôl yr arfer, canolbwyntiodd cynnwys y ddwy gyfrol, a gyhoeddwyd ym 1805 a 1809, ar hanes cynnar y sir ac achau ei bonedd, ond ystyriodd hefyd arferion a thraddodiadau ei thrigolion a hynafiaethau’r sir. Roedd y cyfrolau’n ddyledus iawn i ymchwiliadau ei gyfaill o’r un oed bron, yr hanesydd eglwysig y Parchedig Henry Thomas Payne (1759-1832), ynghyd â Thomas Price, hanesydd a hynafiaethydd Brycheiniog, oedd wrthi’n ymchwilio ac yn ysgrifennu ar hanes cynnar a hynafiaethau’r sir.
Roedd Richard Fenton a Syr Richard Colt Hoare ymhlith yr ymwelwyr cynnar o bellach draw a ddaeth i weld hynafiaethau’r sir drostynt eu hunain, gyda Syr Richard yn paentio golygfa ddyfrlliw o eglwys y priordy yn Aberhonddu ym 1793. Daethant i adnabod Theophilus Jones a Thomas Payne ymhlith eraill. Aethant i ymweld â Chaer Rufeinig Aberhonddu ar 22 Mai 1804:
charmingly situated near the Usk; nor can a finer situation be imagined, whether we consider the Aspect, the River, the Woods, and the sublime back Ground of Mountains seen through a Skreen of Trees. . . . At the farm house of Aber Eskyr [Aberyscir] saw a Brick, about 9 inches square and 2 thick, stamped with LEG. II AVG [the Roman legion called the Second Augustan].
Roedd dyffryn Wysg fel cyfanwaith i’w edmygu am ei olygfeydd hyfryd:
the beautiful vale of Usk, which, whether we consider its form, its cheerfulness, or its boundaries, is without comparison the prettiest Vale in the Kingdom. A very peculiar feature of it is the endless openings into Smaller Vallies on each side.
Saw the course of the new Canal to Brecknock for a great way on the North side of the Usk, and then on the South side.
O ganol y 18fed canrif daeth tref Aberhonddu yn ganolbwynt bywyd diwylliannol y rhanbarth. Cynhaliwyd dawnsiau a pherfformiadau theatraidd yn ystafelloedd mawr nifer o dafarnau. Ganed Sarah Siddons (1755-1831), yr actores drasig, yn The Shoulder of Mutton yn y Stryd Fawr (tŷ tafarn Sarah Siddons erbyn hyn), ei rhieni’n actorion crwydrol oedd wedi perfformio’n ddiweddar yn y dref. Ar ôl ei blynyddoedd cynnar, roedd ei chysylltiadau â’r dref yn brin, er iddi berfformio yn yr ystafell fawr yn y Bell Inn pan oedd ar gylchdaith o’r taleithiau.
Daeth Aberhonddu yn ganolbwynt rhanbarthol pwysig addoli ac addysgu anghydffurfiol yn y 19eg canrif, pryd yr oedd wyth capel yn y dref yn perthyn i’r Wesleaid, y Bedyddwyr, y Methodistiaid Calfinaidd a’r Annibynwyr, pob un gyda chapeli Cymraeg a Saesneg ar wahân. Mae cyfrifiad crefyddol 1851 yn dangos y gogwydd at anghydffurfiaeth yn y dref yn ystod y 19eg ganrif yn eglur iawn, gyda bron i 60% o’r boblogaeth yn mynychu addoldai anghydffurfiol. Roedd cyrddau cynnar anghydffurfwyr yr ardal yn tueddu i fod mewn capeli neu mewn tai preifat yn y wlad oddi amgylch. Capel Annibynnol neu Gynulleidfaol Cymraeg y Plough oedd y capel cynharaf yn Aberhonddu. Adeiladwyd ef ar safle tŷ tafarn y Plough ym 1699 a’i ehangu wedyn rhwng 1874 a 1901. Pregethai John Wesley yn aml yn y dref yn hyrwyddo achos y Methodistiaid. Ym 1780, adeiladodd Yr Arglwyddes Huntingdon gapel Calfinaidd Cymraeg yn y Struet, a ddisodlwyd gan gapel Bethel a adeiladwyd ym 1859, oedd â lle i 800 o bobl eistedd. Adeiladwyd capel y Bedyddwyr yn y Watergate ym 1806, a ddisodlwyd gan Gapel Kensington a godwyd ym 1844. Adeiladodd cenhadon y Wesleaid Cymraeg y Tabernacl yn y Struet ym 1824, er bod hwn eisoes wedi cael ei drosi yn siop erbyn y 1870au. Adeiladwyd Capel yr Annibynwyr Saesneg yn Stryd Morgannwg ym 1836 a chodwyd Capel y Presbyteriaid Saesneg yn y Watton ym 1866, yn bennaf mewn ymateb i nifer gynyddol sylweddol y siaradwyr Saesneg yn y fwrdeistref erbyn diwedd y 19eg ganrif. Dim ond pedwar capel anghydffurfiol sy’n dal ar agor. Roedd gwreiddiau Coleg Coffa’r Annibynwyr yn Aberhonddu (a enwyd er cof am weinidogion a daflwyd allan o’r Eglwys Anglicanaidd yn yr 17eg ganrif), a sefydlwyd ym 1869, yng Ngholeg Annibynnol Aberhonddu a sefydlwyd ym 1839 mewn tŷ preifat ar y pryd yn St Mary’s Street. Erbyn 1852 cafodd ei gydnabod fel un o golegau Prifysgol Llundain ac, ym 1903, daeth yn goleg diwinyddol cysylltiedig â Phrifysgol Cymru. Daeth yn sefydliad addysgol pwysig yr honnwyd iddo ‘ffurfio datblygiad y Cymry’n bendant’.
O ran diwylliant heddiw, efallai bod yr ardal yn fwyaf adnabyddus am Ŵyl Jazz flynyddol Aberhonddu, ac am y gweithgareddau twristiaeth a hamdden sy’n gysylltiedig â Chamlas Aberhonddu a’r Fenni a Llyn Syfaddan.
Ffynonellau Gwybodaeth Eraill
Gellir darganfod gwybodaeth bellach am Dyffryn Llangollen ac Eglwyseg mewn amrywiaeth o ffynonellau cyhoeddedig a rhai nad ydynt wedi’u cyhoeddi.
Ffynonellau cyhoeddig
Abse, J., 2000. Letters from Wales, Bridgend.
Alban, J. & Thomas, W. S. K., 1993. ‘The charters of the borough of Brecon 1276-1517’, Brycheiniog 25, 31-56.
Arnold, C. J. and Davies, J. L., 2000. Roman & Early Medieval Wales, Stroud.
Bacon, O., 1995. ‘Brecon Priory Church: rebuilding the nave’, Brycheiniog 27, 43-52.
Barrie, D. S., 1957. The Brecon and Merthyr Railway.
Barrie, D. S. M., 1994. Regional History of the Railways of Great Britain, Volume 12. South Wales. Regional Railway History Series.
Beresford, M., 1988. New Towns of the Middle Ages.
Bissell, D., 2001. ‘Some Seventeenth century roads in Breconshire’, Brycheiniog 33.
Britnell, W. J. and Martin, C. H. R., 2003. Brecknock LANDMAP Historic Landscape Aspect: Technical Report, unpublished CPAT Report 573.
Brown, R. A., Colvin, H. M. and Taylor, A. J., 1963. The History of the Kings Works, Vol. 1,2. The Middle Ages.
Brunskill, R. W., 1999. Traditional Farm Buildings of Britain and their Conservation.
Brunskill, R. W., 2000. Vernacular Architecture. An Illustrated Handbook.
Buck, S. and Buck, N., 1774. Buck’s Antiquities or Vernacular Remains of about Four Hundred Castles, Monasteries and Palaces . . . in England and Wales, 2 vols (London, 1774).
Burnham, H., 1995. A Guide to Ancient and Historic Wales: Clwyd and Powys.
Cadw 1999. Powys. Register of Landscapes, Parks and Gardens of Special Historic Interest in Wales. Part 1: Parks & Gardens.
Cadw 2001. Landscapes of Historic Interest in Wales. Register of Landscapes, Parks and Gardens of Special Historic Interest in Wales. Part 2.2: Landscapes of Special Historic Interest.
Campbell, E. and Lane, A., 1989. ‘Llangorse: a tenth-century royal crannog in Wales’, Antiquity 63, 675-81.
Capel (n.d.). Local Information Sheet 18, The Chapels Heritage Society.
Carter, H., 1965. The Towns of Wales: A Study in Urban Geography.
Caseldine, A., 1990. Environmental Archaeology in Wales, St David’s University College, Lampeter.
Casey, P. J., 1970. ‘Brecon Gaer’, Archaeology in Wales 10, 15.
Chambers, F. M., 1985, ‘Flandrian environmental history of the Llynfi catchment, South Wales’, Ecol. Mediterr. 11, 73-80.
Clark, J., 1794. General View of the Agriculture of the County of Brecknock with observations on means for its improvement, Board of Agriculture, London.
Clinker, C. R., 1961. The Hay Railway, Dawlish.
Clough, T. H. McK. and Cummins, W. A. (eds), 1988. Stone Axe Studies Volume 2. The Petrology of Prehistoric Stone Implements from the British Isles, Council for British Archaeology Research Report 67.
Collingwood, R. G. and Wright, R. P., 1965. The Roman Inscriptions of Britain.
Cowley, F. G., 1977. The Monastic Order in South Wales.
Creighton, O. and Higham, R., 2005. Medieval Town Walls.
Crawford, O. G. S., 1925. Long Barrows of the Cotswolds.
Daniel, G. E., 1950. Prehistoric Chambered Tombs of England and Wales.
David, F., 1902. An extent of all the lands and rents of the Lord Bishop of St. David’s: usually called The Black Book of St. David’s (British Museum Additional MSS., No. 34,125).
Darvill, T, 2004. Long Barrows of the Costwolds and Surrounding Areas.
Davies, D., 1992. Bridges of Breconshire.
Davies, E., 1975. A Gazetteer of Welsh Place-Names.
Davies, H. T., 1960. ‘The soils of Brecknock’, Brycheiniog 6, 51-66.
Davies, J., 1999. The Making of Wales.
Davies, M., 2000. Around Brecon, Images of Wales.
Davies, R., 2000. ‘Brecon, Owain Glyn Dwr, and Dafydd Gam’, Brycheiniog 32, 51-60.
Davies, W., 1979. The Llandaff Charters.
Davies, W., 1982. Wales in the Early Middle Ages, Leicester University Press.
Davies, W., 1814. General View of the Agriculture and Domestic Economy of South Wales, 2 vols, Board of Agriculture, London.
Davies, W. T., 1957. ‘Episodes in the history of Brecknockshire dissent’, Brycheiniog 3.
Dawson, G. J., 1909. The Churches of Brecknockshire.
Dorling, P., 1999. ‘Excavation at St. Elenud’s Chapel and Well, June 1999’, unpublished report, Brecon Beacons National Park Report.
Dumbleton, E. N., 1870. ‘On a crannoge, or stockaded island, in Llangorse Lake, near Brecon’, Archaeologia Cambrensis 4th series, 1 (1870), 2-98.
Edmunds, H., 1957. ‘History of the Brecknockshire Agricultural Society, 1755-1955’, Brycheiniog 2, 67-127.
Ellison, F. B., 1937. ‘The history of the Hay Railway 1810-1864’, Transactions of the Woolhope Naturalists’ Field Club, 1937.
Ellison, F. B., 1938. ‘The old tramroad from Brecon to Hay, Whitney, Eardisley, and Kington’, Transactions of the Woolhope Natural History Field Club.
Emery, A., 2000. Greater Medieval Houses of England and Wales, volume II: East Anglia, central England and Wales.
Evans, J. G. (ed.), 1893. The Text of the Book of Llan Dāv. Fenton, R., 1917. Tours in Wales.
Figgis, N. P., 1995. Dead Men’s Boats. The Early Medieval Canoe from Llangors and the sunken dug-outs of Wales and the Marches.
Fisher, J., 1917. Tours in Wales (1804-1813) by Richard Fenton.
Fox, C., 1926. ‘Crafts in England and Wales’, The Antiquaries Journal 6, 122-151.
Gant, R. L., 1972. ‘The townscape and economy of Brecon’, Brycheiniog 16, 103-24.
Glynne, S. R., 1886. ‘Notes on the Older Churches in the Four Welsh Dioceses – Rural Deanery of Brecon’, Archaeologia Cambrensis 12, 270.
Granger-Taylor, H. and Pritchard, F., 2001. ‘A fine quality insular embroidery from Llangors Crannog, near Brecon’, in M. Redknap, S. Youngs, A. Lane and J. Knight (eds), Pattern and Purpose in Insular Art, 91-9.
Griffiths, B. M., 1938. ‘Early references to water bloom in British lakes’, Proceedings of the Linnaean Society 151.
Griffiths, R. A., 1978. The boroughs of medieval Wales.
Grinsell, L., 1981. ‘The Later History of Ty Illtud’, Archaeologia Cambrensis 131, 131-9.
Grove, J. C., 1962. ‘Eighteenth-century land use records in Breconshire’, Brycheiniog 8, 83-95.
Gwynne-Jones, D. M., 1992. ‘Brecon Cathedral c. 1093-1537: The Church of the Holy Rood’, Brycheiniog 24, 23-37.
Hadfield, C., 1967. The Canals of South Wales and the Border.
Hankinson, R. and Jones, N. W., 2004. Brinore Tramroad, Talybont-on-Usk: Archaeological Survey, unpublished CPAT Report 643.
Haslam, R., 1979. Buildings Of Wales: Powys.
Hay, C., 1785. ‘Description of a Roman hypocaust discovered near Brecknock’, Archaeologia 7, 205-210.
Hogg, A. H. A., 1965. ‘Early Iron Age Wales’ in I Ll Foster and G E Danel (ed.), Prehistoric and Roman Wales, London.
Hogg, A. H. A. & King, D. J. C., 1967. ‘Masonry Castle in Wales and the Marches’, Archaeologia Cambrensis116, 75-84.
Howells, W., 1831. Cambrian Superstitions.
Hughes, S., 1990. The Brecon Forest Tramroads, RCAHMW.
Hughes, S., 2003. ‘Thomas Thomas, 1817-88: the first national architect of Wales’, Archaeologia Cambrensis 152, 69-166.
James, D. J., 1979. ‘The standing stones of Breconshire’, Brycheiniog 18, 9-30.
James, M. R. (trans), 1923. De Nugis Curialium, Cymmrodorion Record Society No. 9.
Jarrett, M. G., 1969. The Roman Fronter in Wales, University of Wales Press, Cardiff.
Jenkins, J. G., 1970. ‘Rural industry in Brecknock’, Brycheiniog 14, 1-40.
Jepson, U., 1997. ‘The Brecon Ironworks’, Brycheiniog 29, 47-52.
Jones, A., 1984. Welsh Chapels.
Jones, G. Hartwell, 1912. ‘Celtic Britain and the pilgrim movement’, Y Cymmrodor 23.
Jones, I. B. and Williams, D. (eds), 1976. The Religious Census of 1851. A Calendar of the Returns Relating to Wales. Vol. 1, South Wales.
Jones, N. W. & Owen, W. J., 2000. Roman Civil Settlements in Southern Powys: Archaeological Assessment, draft 2, unpublished CPAT Report 265.
Jones, R., Benson-Evans, K. and Chambers, F. M, 1985. ‘Human influence upon sedimentation in Llangorse Lake, Wales’, Earth Surface Processes and Landforms 10, 227-35.
Jones, N. W., 1991. ‘Llanddew’, Archaeology in Wales 31, 39
Jones, N. W., 1993. Brecknock Borough Historic Settlements Earthwork Survey, unpublished CPAT Report 83.
Jones, T., 1909-30. A History of the County of Brecknockshire, 4 vols.
Jones, S. R. and Smith, J. T., 1965, ‘The houses of Breconshire, Part III’, Brycheiniog 11, 1-150.
King, D. J. C., 1959. ‘The castles of Brecknockshire’, Brycheiniog 7, 7-94.
Knight, J. K., 1966. ‘Llangors Church’, Archaeology in Wales 6, 17.
Knowled, D. and Hadcock, R. Neville, 1971. Medieval Religious Houses. England and Wales, Harlow.
Lewis, S.,1833. A Topographical Dictionary of Wales, 2 vols.
Lewis, M. G., 1972. ‘The printed maps of Breconshire’, Brycheiniog 16, 139-74.
Lewis, M. G., 1973. ‘Topographical prints of Breconshire in the National Library of Wales, Brycheiniog 17, 66-87.
Lewis, J. A., 1970. ‘The glaciations of the Brecknock Beacons, Wales’, Brycheiniog 14, 97-120.
Lhuyd, E., 1698. Parochialia.
Lloyd, J., 1903. Historical Memoranda of Breconshire, vol. 1.
Lloyd, J., 1912. A History of Wales from the Earliest Times to the Edwardian Conquest, 2 vols.
Macalister, R., 1949. Corpus Incriptiunum Insularum Celticarum Vol 1.
Mackenzie, K., 1968. The Great Sarah: The Life of Mrs Siddons.
Martin, C. H. R. & Walters, M. J., 1993. Brecknock Borough Historic Settlements, unpublished CPAT Report 60.
Martin, L. C. (ed.), 1957. The Works of Henry Vaughan, Oxford University Press.
Martin, L. C. (ed.), 1963. Henry Vaughan. Poetry and Selected Prose, Oxford University Press.
Mathas, R., 1980-81. ‘Poets of Breconshire’, Brycheniog 19, 27-49.
McGrail, S., 1978. Dating Ancient Wooden Boats, British Archaeological Report 51.
McGrail, S. and Switsur, R., 1975. ‘Early British boats and their chronology’, International Journal of Nautical Archaeology 4, 191-200.
McGrail, S. and Switsur, R., 1978. Logboats of England and Wales, British Archaeological Report 51.
McGrail, S and Switsur, R., 1979. ‘Medieval Logboats’ Medieval Archaeology 23, 229-31.
Minchington, W. E., 1961. ‘The place of Brecknock in the industrialization of South Wales’, Brycheiniog 7, 1-70.
Morgan, D. R., 1988-89. ‘Towards a topography of early Brecon’, Brycheiniog 23, 23-42.
Morgan, D. R., 1990-92. ‘Towards a topography of early Brecon: a note’, Brycheiniog 24, 21-22.
Morgan, R. and Powell, R. F. P., 1999. A Study of Breconshire Place-Names.
Morgan, G., 1903. ‘Forgotten sanctuaries’, Archaeologia Cambrensis 3.3, 213.
Morgan, G. E. F., 1902. ‘The vanished rood of St. John’s Brecon’, Brecon — St. John’s and St. Mary’s Parish Magazine 9, No. 1.
Mumford, L. and Redknap, M., 1999. ‘Worn by a Welsh Queen?’, Amgueddfa 2, 52-4.
Nash, G., 1997. At the centre of the Neolithic world: The spatial arrangement of chambered monuments within the Black Mountains Group, Central Wales, British Archaeological Reports 660, 16.
Nash-Williams, V. E., 1948-50. ‘The Roman villa at Llanfrynach, Brecknockshire’, The Bulletin of the Board of Celtic Studies 13.2, 105-108.
Nash-Williams, V. E., 1950. The Early Christian Monuments of Wales.
Norris, J., 1991. The Brecon and Abergavenny Section of the Monmouthshire & Brecon Canal, Rogerstone.
North, F. J., 1955. ‘The geological history of Brecknock’, Brycheiniog 1, 9-79.
North, F. J., 1957. Some Legends of the Coast and Lakes of Wales.
O’Dwyer, S., 1937. The Roman Roads of Brecknock and Glamorgan.
Owen, G., 1992-1936. The Description of Pembrokeshire, ed. H. Owen, Cymmrodorion Record Series 1.
Owens, R. J., 1993. Ancient Earthwork Enclosures of Central Brecon.
Parri, B., 2003. ‘Crog Aberhodni’, Brycheiniog 25, 19-35.
Parry, E. G., 1981. ‘Brecon: occupations and society 1500-1800’, Brycheiniog 19, 60-68.
Parry, E. G., 1985. ‘Brecon: Topography and townscape. Part 1: Orgins and early development, 1093-1521’, Brycheiniog 21, 12-20.
Parry, E. G., 1991. Christ College. Brecon 1541-1991.
Pitman, L., 2000. ‘Gilded angels-the eighteenth century funeral monuments of the Brute family’, Brycheiniog 32, 85-101.
Plowman, A. M. and Smith, R. P, 1992-93. ‘The regular army in Brecon’, Brycheiniog 25, 107-113.
Poole, E., 1886. The illustrated history and biography of Brecknockshire from the earliest times to the present day.
Powell, P. R. P., 1993. ‘Early Place-Names in the former Borough of Brecknock’, Brycheiniog 25, 18-19.
Powell, R. F., 1978-79. ‘The printed road maps of Breconshire 1675-1870’, Brycheiniog 18, 85-99.
Powell, T. G. E., Corcoran, J. X. W. P., Lynch, F. and Scott, J. G., 1969. Megalthic Enquiries in the West of Britain, Liverpool University Press.
Pursglove, G., 2001. ‘Vaughan, Henry’, The Literary Encyclopedia 7 July 2001, The Literary Dictionary Company. 2 December 2005.
Quiney, A., 1989. ‘Treberfydd, The Raikes Family, and their architect, John Loughborough Pearson’, Brycheiniog 23, 65-74.
RCAHMW, 1986. An Inventory of the Ancient Monuments in Brecknock (Brycheiniog). The Prehistoric and Roman Monuments. Part ii: Hill-forts and Roman Remains.
RCAHMW, 1988. Inventory of the Ancient Monuments in Glamorgan. Farmhouses and Cottages.
RCAHMW, 1994. The Cathedral Church of St John the Evangelist Brecon.
RCAHMW, 1997. An Inventory of the Ancient Monuments in Brecknock (Brycheiniog); The Prehistoric and Roman Monuments, Part i.
Raikes, R. L., Parry, E. G., and Powell, R. F. P., 1986-87. ‘Llyn Llan-gors’, Brycheiniog 22, 22-41.
Rattenbury, G., 1980. Tramroads of the Brecknock and Abergavenny Canal. Railway and Canal Historical Society.
Rathenbury, G. and Cook, R., 1996. The Hay and Kington Railway.
Redknap, M., 1993. ‘The Llangorse Landscape Project’, Archaeology in Wales 33, 36-7.
Redknap, M., 2000. Vikings in Wales: An Archaeological Quest.
Redknap, M., 2002. Re-Creations. Visualizing Our Past, 28, 48.
Redknap, M. and Lane, A., 1994. ‘The early medieval crannog at Llangorse, Powys: an interim statement on the 1989-1993 seasons’, International Journal of Nautical Archaeology 23, 189-205.
Redknap, M. and Lane, A., 1999. ‘The archaeological importance of Llangorse Lake: an environmental perspective’, Aquatic Conservation: Marine and Freshwater Ecosystems 9, 377-90.
Redwood, P., 2000. ‘Early seventeenth century mercers in Brecon’, Brycheiniog 32, 71-84.
Redwood, P., 2001, ‘The Landscape and Population of early modern Breconshire’, Brycheiniog 33.
Rees, W., 1924. South Wales and the March 1284-1415. A Social and Agrarian Study.
Rees, W., 1932. South Wales and the Border in the Fourteenth Century.
Rees, W., 1916. ‘The medieval lordship of Brecon’, Y Cymmroder, 1-54.
Rees, W., 1948. The Union of England and Wales.
Rees, W., 1951. An Historical Atlas of Wales from Early to Modern Times, London.
Rhys, E., 1908. The Itinerary through Wales and the Description of Wales by Giraldus Cambrensis, London.
Rhys, J., 1901. Celtic Folklore: Welsh and Manx.
Richards, M., 1969. Welsh Administrative and Territorial Units, Cardiff.
Rivet, A. L. F. and Smith, C., 1979. The Placenames of Roman Britain.
Savory, H. N., 1955. ‘Prehistoric Brecknock’, Brycheiniog 1, 79-126.
Searle, E., 1980. The Chronicles of Battle Abbey.
Silvester, R. J., 1993. Brecon Town Study, unpublished CPAT Report 58.
Silvester, R., 1997. Historic Settlement Surveys in Clwyd and Powys, Oxbow Monograph 81, 119-120.
Silvester, R., 1998. Welsh Historic Churches Project: The Historic Churches of Breconshire and Radnorshire, unpublished CPAT Report 255.
Silvester, R. J., 2004. Early Medieval Ecclesiastical and Burial Sites in Mid and North-East Wales. The Field Assessment and its Impact on the Overall Study, unpublished CPAT Report 612.
Silvester, R. J., Courtney, P. and Rees, S., 2006. ‘Castell Blaenllynfi, Brecknock: a Marcher castle and its landscape’, Archaeologia Cambrensis 153 (2004).
Silvester, R. J. & Dorling, P. J., 1993. Historic settlements in the Brecon Beacons National Park, unpublished CPAT report 44 January 1993.
Silvester, B. & Hankinson, R., 2002. Early Medieval Ecclesiastical and Burial Sites in Mid and North-east Wales: An Interim Report, unpublished CPAT Report 468.
Silvester, B. & Hankinson, R., 2003. Early Medieval Ecclesiastical and Burial Sites in Mid and North-east Wales: The Second Report, CPAT Report 534.
Simpson, E., 1972. ‘The local setting of Henry Vaughan’s poetry’, The Anglo-Welsh Review 21, No. 47.
Sims-Williams, P., 1993. ‘The provenance of the Llywarch Hen Poems: a case for Llan-gors, Brycheiniog’, Cambrian Medieval Celtic Studies 26, 27-63.
Smith, L. Toulmin (ed.), 1906. The Itinerary in Wales of John Leland in or about the years 1536-9.
Smith, P., 1988. Houses of the Welsh Countryside, 2nd edn.
Soulsby, I., 1983. The Towns of Medieval Wales.
Stephens, M., 1998. The New Companion to the Literature of Wales.
Taylor, A. J., 1951. ‘Report of the 98th Annual Meeting held at Brecon 1951’, Archaeologia Cambrensis 101, 170-76.
Thomas, C., 1994. And shall these mute stones speak? Post-Roman inscriptions in Western Britain.
Thomas, H., 1967. Essay towards the history of Brecknockshire 1698, Brecknock Society, 1967 (ed. J. Jones-Davies).
Thomas, M. T., 1959. ‘The geomorphology of Brecknock’, Brycheiniog 5, 55-156.
Thomas, W. Jenkyn, 1907. The Welsh Fairy Book.
Thomas, W. S. K., 1991. Brecon 1093-1660. An Illustrated History.
Thomas, W. S. K., 1993. Georgian and Victorian Brecon: Portrait of a Welsh Town.
Turner, H. L., 1971. Town Defences in England and Wales: an architectural and documentary study AD 900-1500.
Wade-Evans, A. W., 1906. ‘The Brychan Documents’, Y Cymmrodor 19, 18-50
Walker, P. and Linnard, W., 1990. ‘Bee boles and other beekeeping structures in Wales’, Archaeologia Cambrensis 139, 73.
Westwood, I. O., 1885. ‘Sculptured stones at Llanddew Church, near Brecon’, Archaeologia Cambrensis 6, 147-150.
Wheeler, R. E. M., 1926. ‘The Roman fort near Brecon’, Y Cymmorodor 37, 1-260.
Wait, G., Benfield, S., and McKewan, C., 2005. ‘Rescuing Llangors Crannog’, British Archaeology 84, 37-9.
Walker, D., 1993. ‘Brecon: the early borough’, Brycheiniog 25, 7-14.
Williams, Glanmor, 1976. The Welsh Church from Conquest to Reformation, 2nd edn.
Diffiniwyd yr ardaloedd nodwedd tir hanesyddol o fewn ardal y dirwedd hanesyddol.