Skip to main content

Caeau canolig a mawr ar ffurf reolaidd ar lawr a llethrau isaf dyffrynnoedd Wysg, Ysgyr isaf ac Aberbrân i’r gorllewin o Aberhonddu, gydag anheddau eglwysig canoloesol bach yn Llansbyddyd ac Aberysgyr ac elfennau hanes cludiant cysylltiedig â ffyrdd Rhufeinig, ffyrdd ôl-ganoloesol, a’r rheilffordd.

Cefndir hanesyddol

Mae darganfod bwyell garreg Neolithig ger fferm Pennant yn awgrymu y bu anheddiad a defnydd tir cyn hanes cynnar yma.

Y dyb yw bod ffyrdd Rhufeinig milwrol strategol yn rhedeg tua’r de i gyfeiriad Ystradgynlais (Powys) a thua’r de-orllewin i Lanymddyfri (Sir Gâr) o’r gaer Rufeinig yng Nghaer Aberhonddu yn rhedeg trwy’r ardal nodwedd er mai damcaniaethol yw eu cyrsiau gan na ddarganfuwyd unrhyw dystiolaeth adeileddol bendant eto. Mae cerrig milltir Rhufeinig arysgrifedig yn dangos y cynhaliwyd y ffordd rhwng Caer Aberhonddu a Llanymddyfri hyd ddiwedd y 3edd ganrif o leiaf. Mae darganfyddiadau Rhufeinig hysbys o bentref Llansbyddyd sydd hefyd yn gallu dangos canolbwynt anheddiad cynnar.

Yn y canol oesoedd cynnar roedd yr ardal yn rhan o Gantref Selyf o fewn teyrnas Brycheiniog oedd, yn dilyn y Goresgyniad Normanaidd dan Bernard de Neufmarché, yn ffurfio rhan o arglwyddiaeth mers Aberhonddu

Tarddodd yr anheddiad eglwysig plwyfol bach yn Llansbyddyd o’r cyfnod cyn y Goresgyniad, gan ffurfio rhan o faenor Aberhonddu wedyn. Ychydig o hanes cynnar cofnodedig sydd i’r castell pridd a charreg a’r eglwys yn Aberysgyr er eu bod, yn ôl pob tebyg, yn dyddio o’r cyfnod wedi’r Goresgyniad, yn ddiweddar yn yr 11eg ganrif a’r 12fed ganrif, gyda’r tir yma’n ffurfio maenor a roddwyd gan Bernard de Neufmarché i Syr Hugh Surdwal yn ddiweddar yn yr 11eg ganrif. Roedd esgob Tyddewi yn y canol oesoedd yn dal tiroedd âr yn Aberbrân, sy’n cael ei restru yn Llyfr Du Tyddewi, ac sydd efallai’n amlygu’i hun yn y patrwm caeau llain yn rhan o’r ardal hon.

Ar adeg y Ddeddf Uno ym 1536 daeth yr ardal yn ddiweddarach yn rhan o Gantref Merthyr o fewn Sir Frycheiniog. Ar ôl hynny ffurfiodd rannau o blwyfi degwm Llansbyddyd, Llansbyddyd Penbont ac Aberysgyr yn y 19eg ganrif.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Caeau canolig a mawr rheolaidd ar lawr a llethrau isaf dyffrynnoedd Wysg ac Ysgyr isaf i’r gorllewin o Aberhonddu, yn bennaf rhwng tua 140 a 160 metr uwchlaw’r môr gyda gwrychoedd o’u hamgylch yn bennaf. Ymddengys bod patrwm caeau yn rhan ddwyreiniol yr ardal, ger Aberbrân a rhwng Llansbyddyd ac Aberhonddu, yn deillio o amgáu ystadenni caeau agored canoloesol. Mae’r rhain yn cynnwys rhai darnau o amaethu cefnen a rhych wedi goroesi efallai o’r canol oesoedd cysylltiedig â’r anheddau hyn.

Y ddau anheddiad bach o amgylch eglwys y plwyf yn Llansbyddyd ac Aberysgyr a ffermydd gwasgaredig o’r canol oesoedd ac wedi hynny sy’n nodweddu anheddiad. Mae eglwys Llansbyddyd, a gysegrwyd i Gatwg Sant, yn dyddio o’r cyfnod cyn y Goresgyniad, gyda philer carreg ym mynwent yr eglwys yn dyddio o’r 9fed neu 10fed ganrif, y tybir iddo nodi bedd Aulach, tad Brychan. Yn ôl pob tebyg roedd mynwent yr eglwys unwaith gryn dipyn yn fwy. Mae’n ymddangos bod y cnewyllyn bach yn Aberysgyr wedi dechrau fel canolfan faenoraidd fechan gyda chastell pridd ac, yn ôl pob tebyg, sefydliad eglwysig perchnogol cysylltiedig â’r faenor a roddwyd i Syr Hugh Sudwal.

Ffermdy bonedd o’r 1830au yw Aberyscir Court, a adeiladwyd yn ôl pob tebyg fel olynydd i faenordy canoloesol. Mae’r ardal nodwedd yn cynnwys nifer o gyfadeilau fferm eraill nodweddiadol o garreg wedi’u gwasgaru’n eang ac yn dyddio o’r 16eg ganrif, yr 17eg ganrif a’r 18fed ganrif gynnar sy’n debygol o fod â’u gwreiddiau yn y canol oesoedd neu’n fuan wedi hynny. Mae’r rhain yn cynnwys Pen-y-wern, Penishapentre, Fenni-fach a Phennant, sy’n ffermdai cysylltiedig ag amrywiaeth o dai allan gan gynnwys ysguboriau, stablau, beudai, cytiau certi a granarau, weithiau’n sefyll o gwmpas buarth rhannol amgaeëdig.

Mae tair o bontydd ffyrdd carreg o’r 18fed ganrif i’r 19eg ganrif gynnar yn croesi Afon Brân a’i hisafonydd, Pont-ar-Frân, Pont Aberbrân-fach a Phont Aber-brân, ar hyd ymylon gorllewinol yr ardal.

Mae hen gwrs dymchweledig Rheilffordd Castell Nedd ac Aberhonddu, a orffennwyd erbyn 1872 a’i chau ym 1963, yn croesi ochr ogleddol yr ardal.

Ffynonellau

CAH Rhanbarthol CPAT; Bissell 2001; Brunskill 1999; Burnham 1995; Clough a Cummins 1988; Davies 1982; Davies, D., 1992; Haslam 1979; 2004; Jones, T, 1809; Jones a Smith 1965; Macalister 1949; Nash-Williams 1950; Silvester a Dorling 1993; Silvester a Hankinson 2002; 2003; Thomas 1994

Ffotograffau o’r ardal nodwedd

Modern strip fields looking northwards towards Aber-Brân-fach Farm, with the modern A40 in the foreground,the Aber-bran Bridge crossing the river Usk towards the background. Photo: CPAT 05-C-151.
Llain-gaeau diweddar yn edrych tua’r gogledd i gyfeiriad Fferm Aber-Brân-fach, gyda ffordd fodern yr A40 yn y tu blaen, a Phont Aber-brân yn croesi afon Wysg tuag at y cefndir. Llun: CPAT 05-C-151.
The wooded hilltop of Coed Fenni-fach viewed from the north-west with Brecon Gaer Roman fort and Y Gaer farm visible towards the lower right, with the straight course of the Roman road running eastwards along the Usk valley to Abergavenny cutting across diagonally towards the top right. Photo: CPAT 05-C156.
Golygfa o’r gogledd-orllewin o ben bryn coediog Coed Fenni-fach gyda Chaer Rufeinig Aberhonddu a fferm Y Gaer i’w gweld tuag at y gwaelod ar y dde, a llinell syth y ffordd Rufeinig yn rhedeg tua’r dwyrain ar hyd dyffryn Wysg i’r Fenni gan dorri ar letraws tuag at y top ar y dde. Llun: CPAT 05-C156.
Fieldscapes just to the west of Brecon. To the extreme right is the road to Cradoc. To the left of this is the course of the former Brecon and Neath Railway, with relict field boundaries indicating extensive landscape reorganisation in this area in the late 19th century, following the construction of the railway. Running more-or-less parallel with this is the track leading to Pennant Farm which lies on the assumed course of the Roman road from Abergavenny to Brecon Gaer. Further left again is the minor road leading to Fenni-fach Farm, which lies on the bank of the river Usk towards the top left. Newton House built in about 1582 by John Games, High Sheriff of Breconshire lies at the bottom left. Photo: CPAT 05-C-163 Photo: CPAT 05-C-163.
Tirweddau o gaeau ychydig i’r gorllewin o Aberhonddu. I’r dde eithaf mae’r ffordd i Gradoc. I’r chwith o hyn mae cwrs hen Reilffordd Aberhonddu a Chastell Nedd, gyda ffiniau caeau creiriol yn dangos ad-drefnu tirwedd helaeth yn yr ardal hon ar ddiwedd y 19eg ganrif, yn dilyn adeiladu’r rheilffordd. Yn rhedeg fwy neu lai’n gyfochrog â hyn mae’r sarn yn arwain at Fferm Pennant sy’n sefyll ar gwrs tybiedig y ffordd Rufeinig o’r Fenni i Gaer Aberhonddu. Ymhellach i’r chwith eto mae’r ffordd fach sy’n arwain at Fferm Fenni-fach, sy’n sefyll ar lan afon Wysg tuag at y top ar y chwith. Mae Newton House, a adeiladwyd oddeutu 1582 gan John Games, Uchel Siryf Sir Frycheiniog, yn y gwaelod ar y chwith. Llun: CPAT 05-C-163 Llun: CPAT 05-C-163.
Regular fieldscapes looking eastwards from Aberbrân, with Llwyn-y-merched farm in the foreground. The medieval bishop of St David’s held ploughlands at Aberbrân, noted in the Black Book of St David’s, which may be represented by the strip-field pattern in the area towards the middle. The squarer field patterns on the rising ground to the left possibly represent late medieval enclosure. The line of the former Neath and Brecon Railway runs across earlier field boundaries in the middle distance. The settlements of Battle and Cradoc are visible in the right background. Photo: CPAT 05-C-163 Photo: CPAT 05-C-149.
Tirwedd o gaeau rheolaidd yn edrych tua’r dwyrain o Aberbrân, gyda fferm Llwyn-y-merched yn y tu blaen. Roedd esgob Tyddewi yn y canol oesoedd yn dal tiroedd âr yn Aberbrân, a gofnodwyd yn Llyfr Du Tyddewi. Mae’n bosibl bod y patrwm llain-gaeau yn yr ardal tuag at y canol yn cynrychioli hyn. Efallai bod y patrymau caeau mwy sgwâr ar y tir sy’n codi i’r chwith yn cynrychioli amgáu canoloesol diweddar. Mae llinell hen Reilffordd Castell Nedd ac Aberhonddu’n torri ar draws ffiniau caeau cynharach yn y pellter canol. Mae aneddiadau’r Batel a Chradoc i’w gweld yn y cefndir ar y dde. Llun: CPAT 05-C-163 Llun: CPAT 05-C-149.
Llanspyddid