Skip to main content

Mae’r disgrifiad canlynol, a godwyd o’r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi themâu tirwedd hanesyddol hanfodol yn yr ardal nodweddion hanesyddol hon.

Commin Treffynnon – rhan gogleddol o’r Dirwedd Hanessyddol

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Mynydd Helygain – rhan deheuol o’r Dirwedd Hanesyddol

Map a atgynhyrchwyd o fap yr OS gyda chaniatad yr Arolwg Ordnans ar ran Rheolwr Llyfrfa Ei Mawrhydi, © Hawlfraint y Goron 2001. Cedwir pob hawl. Byddai ei atgynhyrchu heb ganiatad yn torri Hawlfraint y Goron a gall hynny arwain at erlyniad neu achos sifil. Rhif y drwydded: GD272221

Mae ucheldir unedig Mynydd Helygain a Chomin Treffynnon yn ffurfio llwyfandir estynedig i’r dwyrain o Fryniau Clwyd, wedi’u gwahanu oddi wrthynt gan ddyffryn Chwiler, ac yn edrych dros lain arfordirol gogledd ddwyrain Sir y Fflint ac aber yr Afon Dyfrdwy y tu hwnt. Mae’r ardal oddeutu 250m uwchlaw SO, gyda chopaon bach lleol yn codi ddim mwy nac 20m uwchlaw hyn. Mae’r tirwedd a ddiffinnir felly yn cynnwys y meysydd mwynau plwm a sinc pwysicaf yng Nghymru, ac yn ddaearegol, mae’n rhan o’r strimyn Calchfaen Carbonifferaidd sy’n rhedeg i’r de o Brestatyn yn y gogledd, i Fynydd yr Hôb ac ochr ogleddol ffawt y Bala yn y de.

Tybir i waith mwyngloddio gychwyn adeg y Rhufeiniaid, gan y darganfyddwyd olion Rhufeinig sy’n gysylltiedig â chynhyrchu plwm, y tu allan i’r ardal, ym Mhentre, ger y Fflint. Ceir tystiolaeth hefyd o ddogfennau am gloddio yn y Canol Oesoedd, ond difethwyd unrhyw olion o weithio cynharach gan fwyngloddio yn y 19edd ganrif. Mae’r ardal, felly, yn dwyn tystiolaeth archeolegol werthfawr o un o ddiwydiannau hynaf Sir y Fflint.

Cwmni’r Crynwyr oedd yr arloeswyr mewn mwyngloddio plwm yn y sir o ddiwedd yr 17ail i ddiwedd y 18fed ganrifoedd, ac y mae tystiolaeth ddogfennol am welliannau mewn technoleg a ganiataodd suddo siafftiau dyfnach a darganfod gwythiennau cyfoethocach. Gweithiwyd y gwythiennau gorau yn drylwyr trwy gydol y 18fed a’r 19edd ganrifoedd yn yr ardaloedd a elwir yn awr Mynydd Helygain, Comin Treffynnon a Phen-y-Ball Top, ac ym 1850, cynhyrchwyd 11,500 tunnell o blwm, sef 12% o’r cyfanswm dros Brydain. Fodd bynnag, dirywio fu hanes y mwyngloddio ar ddiwedd y 19edd ganrif gyda mewnforio plwm rhad o dramor, ac ni chafwyd ond gweithgaredd bach, ysbeidiol wedi’r Rhyfel Byd Cyntaf nes i’r mwyngloddiau olaf gau yn y 1960au.

Mae tirwedd maes y mwynau yn hawdd ei adnabod, fel rheol heb lystyfiant a bellach yn dir comin a adferwyd yn dir pori garw. Er bod y mwyafrif o’r adeiladau a gysylltwyd â mwyngloddio wedi mynd i ddifancoll, erys y tirwedd ei hun, sef amrywiaeth helaeth o dyllau a thomennydd bach, yn rhyfeddol o gyflawn, ac yn arbennig o amlwg o’r awyr. Cofnododd arolwg diweddar yn yr ardal dros 250 o safleoedd mwyngloddio.

Yn yr ardaloedd nas datblygwyd, yn enwedig Mynydd Helygain, yn y gweithfeydd eu hunain felly y gorwedd arwyddocâd hanesyddol a gwerth y tirwedd. Gwaith bas neu siafftau dyfnach wedi’u leinio â cherrig yn bennaf yw’r dystiolaeth archeolegol, er y gellir nodi hefyd lawer o gylchoedd lle cerddid ceffylau i droi drymiau wrth eu dirwyn â’r raff. Maent yn dystiolaeth i gyfoeth gwythiennau fel Pant y Gof, Pant y Ffridd, Pant y Pydew a Gwythien yr Undeb, lle’r oedd y gweithgaredd wedi’i ganoli ar gael a thynnu’r mwynau yn hytrach na’u trin ar y safle. Yn y mwyngloddiau mwy, erys tystiolaeth gloddiog o olion ffosydd a chronfeydd, rhai gyda dwˆr ynddynt o hyd, a arferai gludo dwˆr at y lloriau trin. Lle bo rhesi bach o dai a swyddfeydd y gwaith wedi goroesi, fe’u trowyd yn dai modern.

Er nad yw’n gysylltiedig â’r mwyngloddio, mae Waen Brodlas yn ne Comin Treffynnon, yn ddiddorol o safbwynt archeoleg diwydiannol gan fod yno olion a thystiolaeth ddogfennol am nifer sylweddol o odynau calch o’r 19edd ganrif. Hefyd heb fod yn gysylltiedig â’r olion cloddio mwyn, ond a gynhwysir yn yr ardal, mae bryngaer Moel y Gaer, Rhosesmor, o Oes yr Haearn, ar gopa bryn arunig i’r pen deheuol o Fynydd Helygain. Datguddiodd gwaith cloddio helaeth ar y safle ym 1972 – 74 cyn adeiladu’r gronfa ddwˆr, dystiolaeth o adeiladu amddiffynfeydd a dilyniant hynod o aneddiadau pren y tu mewn iddynt.

Themâu tirwedd hanesyddol yn Nhirwedd Hanesyddol Comin Treffynnon a Mynydd Helygain

Y Tirwedd Naturiol

Mae Comin Treffynnon a Mynydd Helygain yn ucheldir hir o Galchfaen Carbonifferaidd gyda gwelyau o gornfaen sydd yn amrywio mewn uchter rhwng tua 165-290m uwch Datwm yr Ordnans. Ar ei fin ddyreiniol mae grut melinfaen sydd yn edrych dros y tir arfordirol ar hyd aber yr afon Dyfrdwy i’r gogledd a’r dwyrain. Glaswelltir a geir yn yr ardal hon yn bennaf heddiw, gydag ychydig goed a mannau helaeth ag eithin a rhedyn.

Y Tirwedd Gweinyddol

Yn ystod y cyfnod cynhanesyddol diweddar roedd yr ardal yn rhan o diriogaeth llwythau’r Deceangli, a oedd yn ymestyn, mae’n debyg, o’r afon Dyfrdwy yn y dwyrain i’r afon Conwy yn y gorllewin. Mae’n debyg bod yr ardal wedi ei choncro gan y Rhufeiniaid erbyn 60 OC. Erbyn canol y 60au, roedd plwm smelt eisoes yn cael ei allforio o’r ardal gan brydleswyr preifat ond erbyn diwedd y degawd nesaf daeth y diwydiant dan reolaeth ymerodrol Rhufain, i bob golwg. Mae’n debyg bod yr ardal wedi parhau’n ardal ddiwydiannol bwysig tan y 3edd ganrif a’r tu hwnt.

Erbyn diwedd yr 8fed ganrif efallai, daeth yr ardal dan ddylanwad teyrnas Eingl-Sacsonaidd ehangol Mersia, gan orwedd yn rhannol rhwng Clawdd Chwitffordd yn y gorllewin a Chlawdd Wat sydd yn rhedeg ar hyd ochr ddwyreiniol Mynydd Helygain, gan gynnwys yr iseldir arfordirol rhwng Dinas Basing a Fflint. Parhaodd y brwydro dros yr ardal rhwng teyrnasoedd datblygol Cymru a Lloegr am sawl canrif. Pan luniwyd Llyfr Domesday yn 1086 roedd Mynydd Helygain yn rhan o ardal Englefeld (Englefield, Tegeingl), a oedd yn rhan o gantref Atiscros yn Sir Gaer. Erbyn y 13eg ganrif. Tegeingl, ar y cyd â chantrefi Rhos, Rhufoniog a Dyffryn Clwyd oedd Perfeddwlad teyrnas Gwynedd Is-Conwy.

Goresgynnwyd yr ardal gan arglwyddi Normanaidd y Mers a brenhinoedd Lloegr ar wahanol adegau rhwng diwedd yr 11eg ganrif a dechrau’r 13eg ganrif hyd nes y goresgynnwyd hi yn y diwedd gan Edward I yn ystod yr 1270au a’r 1280au. Cadwyd Tegeingl fel rhan o eiddo personol y brenin, a rhoddwyd yr enw Coleshill arni pan ddaeth yn rhan o sir newydd y Fflint yn 1284.

Tirweddau Anheddu

Mae’n bosibl mai’r anheddiad cynharaf yn yr ardal hon yw’r ty hir ar gopa Moel y Gaer, Rhosesmor, sy’n dyddio o’r 3ydd mileniwm CC. Ychydig awyddys am anheddiad cynhanesyddol diweddarach neu Rufeinig yn yr ardal, ar wahân i’r fryngaer ddiweddarach ar Foel y Gaer, Rhosesmor, a drafodir isod yn yr adran ar diwedau amddiffynedig. Ymhlith y safleoedd anheddu eraill gyda dyddiadau cynnar ceir y lloc ger cwrs golff Treffynnon, i’r dwyrain o Galcoed, a safleoedd nifer o dai crwn ar Fryn-Sannan, i’r dwyrain o Brynford. Cofnodir nifer o aneddiadau neu drigfannau cynnar yn yr ardal yn Llyfr Domesday o 1086, gan gynnwys y rhi yn Brynford (Brunford/Brunfor) a Helygain (Helchene/Alchene), lle mae eglwys, er nad oes unrhyw olion arwynebol o aneddiadau yn ystod y cyfnod hwn.

Dylanwadau yn drwm ar y patrwm anheddu modern, yn amlwg, gan y diwydianau mwyngloddio a chwarelu. Mae mapiau o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif o’r aneddiadau modern yng Ngorsedd, Brynford, Pentre Halkyn a Rhes-y-cae yn dangos dim ond tai gwasgaredig a nifer o lechfeddianiadau ar ymyl y tir comin, a gynrychiolir gan fythynnod carreg mwyngloddwyr a ffermdai bychan o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif ar ymylon y tir comin. Mae enw lle Rhes-y-cae yn cyfeirio at res o dai, ond nid yw map o hanner cyntaf y 18fed ganrif yn dangos dim ond y dafarn bresennol, ar y ffordd o Laneurgain i Ddinbych.

Yn anochel, cododd anghydfod rhwng y ffermwyr a thirfeddianwyr sefydlog a’r rhai oedd yn sefydlu tai a chaeadleoedd newydd ar y mynydd, a bu yngyrchoedd pendant yn ystod yr 1780au i ddistrywio ffensiau caeadleoedd anghyfreithlon gan bobl gyffredin gyfreithlon ac asiantau Ystad Grosvenor.

Digwyddodd cynnydd sylweddol yn y boblogaeth yn ystod yr 17eg ganrif hwyr a’r 18fed ganrif hwyr yn dilyn ehangiad sydyn yn y diwydiant mwyngloddio, ac roedd cyfran sylweddol o’r mewnfudwyr yn fwyngloddwyr o Swydd Derby, ac o’r cyfnod hwn y mae’r rhan fwyaf o’r aneddiadau cnewyllog yn perthyn.

I bob pwrpas, pentref Helygain yw’r unighen anheddiad cnewyllog sefyfledig yn yr ardal. Ei ganolbwynt gwreiddiol oedd yr eglwyd ganoloesol, ond fe’i ailfodelwyd mewn ffordd radical yn ystod yr 1820au gan y teulu Grosvenor, drwy ailalinio’r ffordd a symud yreglwys a gosod eu cartref newydd, Castell Helygain, ar y safle lle buasai gynt galon yr hen gymuned. Codwyd ysgolion yn yr ardal yn Helygain ym 1849, Brynford yn 1852-54, Carmel ym 1862 (lle defnyddir yr adeilad bellach fel neuadd y pentref), ac yn Rhes-y-cae ym 1889.

Cynrychiolir adeiladau ffrâm bren cynnar yn y Grange a’r Old Farmhouse gerllaw, ac mae’r ty cynharach yn y Grange, oedd yn perthyn i Abaty Dinas Basing cyn y diddymu, yn neuadd ffrâm bren o’r 15fed ganrif hwyr neu’r 16ed ganrif gydag ychwanegiadau diweddarach mewn carreg, a ddefnyddir bellach fel tai allan. Ymhlith y tai mwyaf yn yr ardal, mae Henblas yn adeilad a godwyd o gerrig ym 1651, ac mae Halkyn Hall yn dy briciau cynnar sy’n dyddio o 1674, gyda rhai elfennau cynharach.

Trafnidiaeth a Chyfathrebu

Mae’n bosibl bod ffordd Rufeinig wedi ei hadeiladu ar hyd Mynydd Helygain fel rhan o ffordd rhwng aneddiadau Rhufeinig yng Nghaer a Llanelwy,ac efallai er mwyn cyrraedd y cloddfeydd, ond mae’r dystiolaeth archaeolegol breennol yn amhendant.

Mae llwybrau llydan a llwybrau troed niferus ar draws y tir comin Tyn rhedeg rhwng y siafftiau a’r cloddfeydd, a chofnodwyd rhai ohonynt am y tro cyntaf ar fapiau a chynlluniau cynnar y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. Mae’ndebygol fod nifer o’r llwybrau llydan yn bur hen a’u bod yn cynnig ffordd o gyrraedd y cloddfeydd ac yn darparu cyfathrebu rhwng y cymunedau o bobtu’r bryn. Croeswyd y mynydd agored hefyd gan nifer o lwybrau pellter hir a ddangoswyd ar fapiau ffyrdd o’r 17eg ganrif a’r 18fed ganrif, gan gynnwys llwybr o’r gogledd i’r de rhwng Amwythig a Threffynnon, gan fydn drwy Windmill, ffordd rhwng Llaneurgain a Dinbych heibio Rhes-y-cae, a ffordd rhwng y Fflint a Dinbych heibio Pentre Helygain a Waen-brodlas.

Amser maith yn ôl, byddai llawer o’r mwynau a gloddwyd ar Fynydd Helygain wedi eu cario ymaith ar geffylau neu ar gertiau i’r mannau smeltio, ond yn ystod y 18fed ganrif dechreuwyd defnyddio tramffyrdd neu reilffyrdd cul, a thynnwyd y cerbydau gan geffylau neu fe wthiwyd hwy â llaw, gellir gweld cwrs y ffordd o hyd ger Berth-ddu, i’r de o Helygain. Adeiladwyd camlesi tanddaearol yn rhan o’r cloddfeydd mwyaf yn ystod y 18fed ganrif, a disodlwyd hwy gan reilffyrdd tanddaearol yn ystod y 19eg ganrif.

Yn ystod Rhyfeloedd Napoleon, ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, codwyd twr pren fel begwn o fewn bryngaer gynhanesyddol Moel y Gaer, Rhosesmor, fel rhan o rwydwaith cyfathrebu pellter hir rhwng Caergybi a Chaer.

Tirweddau Diwydiannol

RoeddMynydd Helygain unwaith yn un o’r meysydd plwm a sinc pwysicaf yng Nghymru. Mae’n cynnwys ardal o fwygloddio di-dor bron sy’n rhedeg am tua 9km o Orsedd yn y gogledd-orllewin i Rosesmor yn y de-ddwyrain, heibio Brynford, Pentre Halkyn, Rhes-y-cae a Phentre Helygain. Mae’n fwyaf adnabyddus oherwydd ei gloddfeydd plwm ond mae nifer o chwareli bychain lle ceid calchfaen, siert, clai a thywod wedi eu gwasgaru ar draws y tirwedd, yn ogystal â’r chwareli carreg a siert modern, mawr ym Mryn Mawr, Pen yr Henblas a Phant-y-pwll-dwr.

Y prif fwyn metel yw galena (sylffad plwm), yn ogystal â sffalerid (sylffad sinc) c ychydig o galcopyrid (copr, (sylffad haearn), a’r prif gynnyrch yw plwm, gydag arian fel sgilgynnyrch gwerhfawr. Ceid y mwynau gan amlaf mewn gwythiennau tenau gan eu bod wedi gwaddodi mewn ffawtiau oedd eisoes yn bodoli oyn y Calchfaen Carbonifferaidd. Yn y dyddiau a fu roedd gan y gwythiennau enwau fel gwythiennau Long Rake, Old Rake, Chwarel Las, Pant-y-pydew, Pant-y-pwll-dwr a thraws-gwrs Pant-y-ffrith a Chaleb Bell.

Er prined tystiolaeth bendant, mae’n edrych yn debygol bod cloddio am fwynau wedi dechrau yn ystod yr Oes Efydd yn yr ardal hon, ac mae’n debyg mai gweithiau cymharol fas neu bydewau cloch neu doriadau agored ar hyd y wythďen oedd y rhai gwreiddiol. Prin yw’r dystiolaeth uniongyrchol am fwyngloddio yn ystod yr Oes Haearn hefyd, ond dywedir bod dysglau copr sydd efallai’n dydio o’r cyfnod hwn wedieu darganfod yng nghanlol y18fed ganriwrth agor siafft ar Long Rake, Helygain, gwythďen sy’n rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin ar draws y comin, gan dorridrwy Res-y-cae. There is mCeir tystiolaeth fwy pendant o fwyngloddio am blwm ac arian yn dilyn y goncwest Rufeinig, ond unwaith eto prin yw’r dystiolaeth am leoliad safleoedd mwyngloddio. Cafwyd hyd i ‘hwch’ Rhufeinig neu ingot o blwm ym 1950 wrth godi Ysgol Carmel a’r llythrennau C NIPI ASCANI wedi eu hysgythru arno, sef enw cynhyrchydd plwm preifat, C. Nipius Ascanius, ac yn ddi-os cafwyd y plwm a smeltiwyd ef ar Fynydd Helygain. Darganfuwyd hychod tebyg ger y gaer Rufeinig yng Nghaer, ac mae’r llythrennau DECEANGL ar ddau ohonynt, sef enw’r llwyth oedd yn byw yng Ngogledd-Ddwyrain Cymru. Trwy gloddio yn ardal Pentre Oakenholt, Fflint cafwyd tystiolaeth o smeltio plwm, o fwynau a gludwyd i lawr o Fynydd Helygain mae’n debyg. Roedd olion adeiladau domestig Rhufeinig a baddondy yn Fferm Pentre, Fflint yn gartref mae’n debyg i’r swyddog Rhufeinig oedd yn gyfrifol am oruchwylio’r diwydiant hwn a oedd yn allforio plwm ar hyd ber yr afon Dyfrdwy i Gaer a’r tu hwnt.

Roedd gwaith cloddio’n dal i gael ei wneud ar raddfa sylweddol yn ystod y canoloesoedd, gan gyrraedd uchafbwynt yn hwyr yn y 13eg ganrif pan roedd galw mawram blwm ar gyfer toi cestyll newydd Edward yn y Fflint a Rhuddlan yn ogystal â rhai pellach i ffwrdd yn Sir Gaernarfon, Sir Fôn a chanolbarth Cymru. Mae cofnodion ar gael o’r 1350au am gyfreithiau a breintiau’r mwynwyr rhyddion yn Englefield, a oedd yn cynnwys ardal Treffynnon-Helygain. Rhoddid darn o dir i gloddwyr a oedd yn ddigon mawr i godi cartref a gardd, a digon o goed i atgywierio’r cartref a’u ffensys, ac i wneud cynhalbyst i’w mwynfeydd. Dynion rhydd oeddent, a gallent bori eu da byw ar ir comin, gwerthu eu mwynau ar y farchnad rydd, ar yr amod eu bod yn talu trethi i’w harglwydd, a oedd biau’r hawliau i gloddio. Mae’n debyg bod llawer o’r dystiolaeth faes ar gyfer hweithfeydd canoloesol a chynharach wedi cael ei distrywio neu ei chuddio gan weithfeydd ehangach a gychwynnodd yn ystod yr 17eg ganrif, gan fod cloddfeydd pob cyfnod wedi eucyfyngu i’r gwythiennau cul a farciwyd gan linellau a siafftiau, pydewau cloch a phydewau treialu, heb fod yn fwy na rhyw 4-5m mewn diamedr.

Yn yr1630au, rhoddodd y goron hawl i gloddio am blwm ym mhlwyf Treffynnon, cantrefi Coleshill a Rhuddlan, i ystad Grosvenor, gan gadw iddi hi ei hun y hawliau ar gyfer Heylgain a Llaneurgain. Bryd hynny, rhoddid les felbargen flynyddol a fesurwyd yn nhermau rhyw 30 0 lathenni yn unig. Y diffyg buddsoddi a berwyd yn y cychwyn gan hyn oedd un o’r rhesymau bod pydewau cymharol fas yn nhirwedd Comin Treffynnon a Mynydd Helygain.

Roedd y London Lead Company, neu’r Quaker Company fel y’i gelwir yn amlach, yn cloddio yn Sir y Fflint o tua 1695. Yn 1698, roedd y cwmni eisoes mewn angydfod ag ystad Grosvenor ynghylch mwyngloddio ar Old Rake, Helygain, un o’r gwythiennau cyfoethocaf ar y mynydd. Roedd mwyncyfoethog yn cael ei godi mewn basgedi yn Old Rake a Long Rake, ac erbyn 1701 roedd gan y cwmni adeilad a oed yn cynnwys gefail, cyfrifdy, storfa ar gyfer mwyn, preswylfa i’w asiant a simnai er cyfleustra i’r mwynwyr yn ystod y gaeaf. Roedd y Quaker Company yn amlwg yn gyfrifol am ddull mwy trefnus o gloddio ar y mynydd; gwneid y gwaith o baratoi’r mwyn ger y gloddfa a chludid y mwyn pan oedd wedi’i brosesu ar gert i’r man smeltio ryw 2-3km i ffwrdd, wrth droed y mynydd yn y Gadlys, ger Bagillt, a oedd yn cynhyrchu erbyn 1704.

Hyd nes dyfod y peiriant ager codid y mwynau drwy ddulliau syml fel rhaff a bwced, winshis a cheffylau. O ganlyniad, roedd y siafftydd yn eithaf bas, ar ffurf pydewau cloch fel arfer, a’r rheiny heb fod yn ddyfnach na 10m. Roed y Quaker Company yn gfrifol am gflwyno newidiadau technolegol niferus fel y felin wynt ar gyfer pwmpio dwr a weindio mwyn ym Mhant-y-pwll-dwr Rake, ac yn ddiweddarach codwyd ty injan ar gyfer peiriant ager Newcomen erbyn 1729, un o’r cyntaf o’r saith i’w gosod gan y cwmni ar Fynydd Helygain. Roedd diddordeb y Crynwyr ar Fynydd Helygain yn cynnwys Maeslygan, Old Rake, Long Rake, Silver Rake a Moel-y-crio a chloddiwyd siafftiau hyd at 60 llathen mewn dyfnder erbyn yr 1720au. Datblygiad arall a wnaed gan y Cwmni oedd defnyddio mynedfeydd a oedd yn cynnig traeniad a lefelau mynediad. Cynhynny, byddai’r rhanfwyaf o’w cloddfeydd dan ddwr ac yn anweithiadwy yn ystod misoedd y gaeaf. Golygodd y gwelliannau hyn fod modd mwyngloddio gydol y flwyddyn a chyrraedd gwythiennau dyfnach a chyfoethocach. Erbyn diwedd y 18fed ganrif roedd y nwyafrif o’r gwythiennau cyfoethocaf ar Fynydd Helygain yn cael eu gweithio, ac o ganlyniad i ehangu bu raid cloddio’n ddyfnach i’r gwythiennau hyn.

Ffactorau eraill a arweiniodd at ehangu graddfa’r cloddio yn ystod y 18fed ganrif gynnar a’r tu hwnt oedd y ffaith bod digonedd o lo yn Sir y Fflint a’r modd y dechreuid ei ddefnyddio yn lle siarcol i smeltio plwm ac mewn peiriannau ager. Roedd y ffaith bod aber yr afon Dyfrdwy gerllaw yn ei gwneud hi’n llawer haws i anfon mwynau ar longau i ganolfannau gwneuthur a smeltfeydd ar hyd yr arfordir. Un anfantais oedd prinder dwr i yrru peiriannau, a fu’n gymorth mawr mewn ardaloedd mwyngloddio eraill, ac oherwydd hyn daethpwyd i ddibynnu ar beiriannau ager a danwyd â glo ar gyfer y rhan fwyaf o’r cloddfeydd yn yr ardal yn ystod y 19eg ganrif.

O ganlyniad i’r ehangu yn y diwydianta’r angen am lefelau uwch o fuddsoddi, disodlwyd mentrau mwyngloddio bychain gan gwmnďau mwyngloddio mawr yn ystod y 19eg ganrif. Erbyn diwedd y 19ed ganrif Sir y Fflint oedd yr ardal fwyaf cynhyrchiol yng Nghymru, a’r Pennines oedd yr unig le mwy cynhyrhciol ym Mhrydain. Roedd y gwaith cyharach wedi cyrraedd y mwynau hawsaf i gyd. Roed angen buddsoddi mwy o gyfalaf ar gyfer cloddio dwfn, yn enwdig ar gyfer traenio dwr a daeth yn fwyfwy hanfodol wrth i’r gweithfeydd gloddio’n ddyfnach dan y lefel trwythiad. Cloddiwyd nifer o fynedfeydd traenio llai gan gwmnďau unigol, ond torrwyd dau dwnel mawr drwy’n mynydd fel cyd-fenter. Cychwynnwyd y ‘Halkyn Deep Level Tunnel’ gan Ystad Grosvenor yn 1818, ac aethpwyd â’r gwaith ymlaen gan y Halkyn District Mines Drainage Company yn 1875. Roedd yn traenio’r cloddfeydd ar ochr dde-ddwyreiniol y mynydd, fel y New North Halkyn a’r Mount Halkyn, cyn parhau i’r de tua Hendre a Llyn-y-pandy. Yn 1897 ffurfiodd grwp o gwmnďau y Holywell-Halkyn Mining and Tunnel Company a dechrau gyrru Twnel Milwr o aber yr afon Dyfrdwy ym Magillt. Roedd yn torri ar draws canol y maes mwynau o’r gogledd i’r de, ac ymhen amser estynnwyd ef i Fwyngloddiau’r Wyddgrug ym 1957. Fel hyn, gellid ailweithio’r holl gloddfeydd cynharach a fuasai’n gweithio’r gwythiennau ar hyd y twnel yn ddyfnach o hyd, a hyd at 800tr yn achos cloddfeydd Helygain. Ymhlith y gwelliannau eraill yn y 19eg ganrif dyfeisiwyd dril cerrig, defnyddid aer gywasgedig dan ddaear, a deinameit.

Prin yw’r dystiolaeth ddogfennol yn aml, a dim ond mewn achosion prin y mae cofnodion a chynlluniau manwl o’r cloddfeydd wedi goroesi. Yn aml, yr unig gyfeiriad dogfennol at yr agos i100 o gloddfeydd yn y triwedd hanesyddol hwn, gydag enwau fel Dog Pit, Prince Patrick, Queen of the Mountain, neu True Blue, yw nodyn yn y Mining Journal yn ymwneud â ffigyrau cyhoeddi, newid mewn pechnogaeth, a gosod offer newydd o bryd i’w giydd, a figyrau ar gyfer cynhyrchu plwm a gpfnodwyd gan y Mining Record Office ym 1845. Mewn rhai achosion, ceir adroddiadau asiantau a all roi mewnwelediad gwerthfawr i’r gwaith ar ddyddiad penodol. Er bod cofnodion y cwmni argael yn achos nifer o gloddfeydd, yn aml maent yn angyflawn ac mae’n anodd eu cymharu â’r hyn sydd i’w weld ar y llawr. Weithiau mae cynlluniau’r cloddfeydd a darnau o’r gweithfeydd wedi goroesi,ond yn aml dim nd at y rhannau tanddaearol y maent yn cyfeirio ac ychydig sydd ynddynt, neu ddim o gwbl, am yr hynoedd uwchben y ddaear. Yn achos llawer o safleoedd ceir y cynlluniau arwyneb cynharaf sydd wedi goroesi yn argraffiad 1af mapiau’r Ordnans, o’r 1880au fel arfer. Cofnodwyd y gwaith a’r strwythurau ar yr wyneb o bryd i’w gilydd yn ffotograffau cyfoes, ond gwaetha’r modd prin iawn yn cofnodion o’r fath. Er bod llawer o’r c;oddfeydd yn dydio o gyfnod cymharol ddiweddar, mae dehongli’r dystiolaeth sydd y y maes o bwys mwr i’n dealltwriaeth o’r technegau mwyngloddio a phrosesu a ddefnyddid mewn gwahanol gyfnodau.

Roedd uchelfannau yny cynhyrchu tua 1850 ac 1895. Ddiwedd y 19eg ganrif gwelwyd lleihad yn y diwydiant mwyngloddio oherwydd cystadleuaeth dramor. Yn ysod y Rhyfel Byd Cyntaf, rhoddodd y Weinyddiaeth Arfau fenthyciadau i sbarduno’r diwydiant. Ym 1913, dechreuodd yr Holywell-Halkyn Mining and Tunnel Company ymestyn y Sea Level Tunnel. Cyfunwyd materion traeniad a mwyngloddio ym 1928, pan ymestynnodd yr Halkyn District United Mines y Sea Level Tunnel yua’r de gan agod gwythiennau newydd. Roed y twnel yn gwasanaethu system reilffordd ddanddaearol gan ddefnyddio trenau â batri i gludo mwynau a phersonél. Trydan a ddefnyddid ar gyfer y gwaith ar yr wyneb yn ystod yr 20fed ganrif. Gohiriwyd y gwaith yn ystod yr Ail Ryfel Byd ond ailgychwynnodd pan ymgyfunodd nifer o gwmnďau i gloddio am blwm a chwarelu calchfaen at ddibenion amaethyddol. Canolbwynt gwaith mawr yr Halkyn District United Mines (cyfuniad o naw cwmni cloddio blaenorol) oedd Siafft Pen-y-bryn Fynydd Helygain. Parhaodd gwaith mwyngloddio ar raddfa fechan tan yr 1970au, a thynnwyd y brif ffrâm ym Mhen-y-bryn o’r diwedd ym 1987.

Er bod llawer o’r safleoedd wedi eu cadw mewn cyflwr cymharol dda yn ardaloedd craidd y tirwedd hwn sydd heb eu gwella, collwyd rhai o’r safleoedd i’r chwarelu diweddar am galchfaen a hefyd i amaethyddiaeth a thai, yn enwedig o gwmpas yr ymylon. Mae safle cloddfeydd i’r gogledd o Brynford wedi eu tirweddu ar gyfer Clwb Golff Treffynnon, ac wrth adeiladu fordd yr A55 torrwyd drwy llawer o’r safleoedd ymhellach i’r gogled yn enwedig yn ardal Smithy Gate. Yn yr ardal o gwmpas Pen-y-ball Top dim ond rhannau o’r cloddfeydd sydd wedi goroesi o ganlyniad i adfeddiannu’r tir ar gyfer amaetyddiaeth. Mewn mannau dim ond y siafftiau mawr a’r tomenni rwbel sydd ar ôl, ynghyd ag olion y tranffyrdd a oedd yn oerthyn i Chwareli y Grange a Coetia Butler Caewyd nifer o siafftiau â choncrid er diogelwch fel rhan o raglen gan Gyngor Sir Clwyd yn ystod yr 1970au. Mae cynlluniau adfer tir diffaith gan gynnwys capio siafftiau, mewnlenwi a chael gwared o wastraff ar raddfa fawr, wedi lefelu llawer o weithfeydd yr 20fed ganrif hwyr, yn enwedig yn yr ardal i’r de-orellwin o bentref Helygain, a oedd yn cynnwys gweithfeydd Halkyn District United Mines ar wythďen Pant-y-go. Areiniodd cynlluniau eraill at golli Cloddfa Prince Patrick i Chwarel Pant-y-pwll-dwr a rhai o weithfeydd ar wythďen Pant-y-pydew i Chwarel Siert Pen yr Henblas.

Y dystiolaeth orau o gloddio sydd wedi goroesi ar yr wyneb yw’r siafftiau a phydewau treilau niferus sydd mewn clystyrau a chadwyni ar hyd y gwithiennau mwyn. Mae tua 4,700 wedi eu cofnodi ar Fynydd Helygain, ac mae nifer lai osiafftuay dyfnion wedi eu gwasgaru ar y bryn. Er bod rhai o’r siafftiau a phyllau treialu’n dal ar agor, mae llawer wedi mynd a’u pennau iddynt a’r cyfan a welir ohonynt yw pant. Dangosir dyfnder gwreiddiol y siafftiay gan y rwbel a welir mewn cadwyni o bentyrrau llai, twmpathau crwn yr olwg o gwmas ceg y siafft neu fel twmpathau sefydlog. Erbyn hyn, mae’r rhan fwyaf o’r siafftiau dyfnion diweddarach, a gloddiwd er cael mynediad, traeniad neu aer, wedi eu capio â cherrig neu goncrit.

Ychydig o adeiladau’r cloddfeydd neu unrhyw adeiladweithiau eraill uwchben y ddaearsydd wedi goroesi, o ganlyniad i ddihoeni naturiol yn ogystal â pholisi bwriadol o glirio adeiladau gadawedig. Mae darnau o un neu ddau o dai injan gwreiddiol wedi goroesi, fel yng Nglan Nant, ger Holway, a ddefnyddiwyd ddiwethaf fel cwt moch, ac efalli yn mhentref Helygain, yn ogystal â hen simnai gynt. Mae olion twll olwyn posibl â wyneb o gerrig hefyd wedi goroesi yn Holway. Mae hen swyddfeydd mwyn neu dai rheolwyra drowyd bellach yn anheddau ywedi goroesi ym Mhwll Parry, i’r gorllewin o Bentre Helygain, a Phwll Clwt Mine, i’r gogledd o Galcoed. Mae nifer o’r gefeiliau gwreiddiol wedi goroesi fel ym mhyllau Glan Nant, Carmel, Ty Newydd a Mona gynt, a drowyd at ddefnydd arall erbyn hyn. Ymhlith yr adeiladweithiau eraill ar yr wyneb a ddangoswyd ar hen fapiau ond nad oes olingweladwy ohonynt bellach ceir gęr weindio, storfeydd powdr, a llifbyllau, ond mae modd adnabod nifer o safleoedd chwimsi ceffylau, gan gynnwys un yn Rhes-y-cae, syd i’w weld fel cylch tua 13.5m mewn diamedr. Dangosir sawl cronfa ddwr, ffos a thramffordd hefyd arhen fapiau a gellir canfod rai ohonynt yn hawdd ymhlith y siafftiau. Mae cerrig ffin calchfaen hyd at 1m mewn uchder wedi goroesi yma ac acw, a oedd yn dynodi consesiynau mwyngloddio gwahanol, La bu anghytuno mynych ynghylch safle’r cerrig rhwng Ystad Grosvenor Estate ac asiantau’r goron yn ystod ail hanner y 19eg ganrif. I bob golwg, proseswyd llawer ar y mwynau oddi ar y mynydd ond yn Holway ceir gwastraff trin a phantiau lle bu unwaith gafnau golchi. Ni wyddys am saflleoedd smeltio cynnar ar y mynydd, ond un arwydd ohonynt yw’r elfen mewn enwau leoedd, ‘ball’, fel yn Coitia Ball a Pen-y-ball Top, sy’n dod o’r gair ‘bole’.

Ymhlith y gweithgareddau diwylliannol eraill o bwys yn yr ardal tirwedd hanesyddol bu chwarelu am siert, ‘marbl’, calchfaen hydrolig, calchfaen ar gyfer adeiladu ac ar gyfer amaethyddiaeth, ac mae pob un o’r rhain wedi gadaelei farc annileadwy ar y tirwedd, yn aml yn agos iawn at ei gilydd ac i olion cloddfeydd plwm. Roedd siert ar gyfer malu ac i gynhychu llestri carreg a phorslen ar gyfer ffatrďoedd Minton a Wedgwood yn y Potteries yn cael ei chwarelu rhwng yr 1770au a dechrau’r 20fed ganrif ym Mhant-y-pwll-dwr, Pen yr Henblas, Pen-yr-garreg, Pen-yr-hwylfa, Bryn Mawr ac ar ochr ogleddol Moel y Gaer. Chwarelwyd Marbl Helygain ym Mhant-y-pwll-dwr o’r 1830au ac fe’i hallforiwyd i’r wlad o gwmpas. Cynhyrchwys calchfaen hydroig a fyddai’n caled dan y dwr hefyd yn The Grange, Holway ac ym Mhant-y-pydew rhwng yr 1830au a’r 1890au, ac roedd gofyn amdano ar gyfer adeiladu dociau newydd yn Lerpwl, Penbedw a Belffast. Chwarelwyd calchfaen argyfer adeiladu, cerrig bess a physt giât a llosgi calch mewn nifer o ganolfannau, yn bennaf unwaith eto ym Mhant-y-pwll-dwr an rhwng Helygain a Rhes-y-cae. Gwyddys am lawer o odynnau calch gynt diolch i hen fapiau ond mae rhai ohonynt, fel y rhai oedd ym Mhen-y-parc, Bryn Rodyn, a Billins wedi diflannu bellach. Mae odynnau calcheraill yn bod dim ond fel sylfeini neu dwmpathau isel, ond gwyddyd am odynnau a gafwyd mewn cyflwr da yng Ngharmel a Chwarel-wen, gyda bloc o bum odyn ym Mhant-y-pydew.

Chwarelwyd dyddodion o dywod a chlai rhewlifol hefyd, yn enwedig at ochr ddeheuol yr ardal. Roedd clai a oedd yn addas ar gyfer porslen yn cael ei gloddio o chwareli yn y Foelddu, rhwng Helygain a Rhes-y-cae, rhwng yr 1820au a’r 1890au. Gosodwyd pyllau clai ac odyn frics yn Waen-y-trochwaed,i’r gorllewin o Res-y-cae, yn hwyr yn y 19eg ganrif. Chwarelwyd llawer ar esgair rewlifol am dywod ger Moel-y-crio yn ystod degawdau cyntaf yr 20fed ganrif.

Parheir i chwarelu cerrig hyd heddiw ac mae nifer o’r chwareli mwyaf bellach yn gannoedd o droedfeddi mewn dyfnder ac yn dylanwadu ar y tirwedd o’u cwmpas.

Tirweddau Amddiffynnol a Milwrol

Y prif gloddwaith amddiffynnol yn yr ardal tirwedd hanesyddol hon yw bryngaer fawr Moel y Gaer, Rhosesmor, o’r cyfnod cynhanesyddol hwyr, a gloddiwyd yn fanwl yn ystod yr 1970au, cyn codi argae. Defnyddid y fryngaer – yn ysbeidiol o bosibl – rhwng tua diwedd y 7fed ganrif CC ac ychydig cyn dyfod y Rhufeiniaid. Yn ystod cyfnod cynharach, amddiffynnwyd anheddiad o dai crwn pren gan balisâd pren. Yn ddiweddarach, yn lle’r amddiffynfa crewyd ffos a gwrthglawdd o gerrig a phridd a oedd, yn yr achos yma, yn amddiffyn anheddiad o dai crwn â waliau â stanciau ac adeiladau petryal niferus â phedwar postyn mawr, lle bu adeiladau codedig efallai ar gyfer cadw gwenith. Ychydig o weithiau amddiffynnol a milwrol eraill y gwyddyd amdanynt yn yr ardal hon.

Tirweddau Angladdol, Eglwysig ac Addurnol

Prehistoric ceremonial and funerary activity in the area is probably represented by a number of Bronze Age round barrows. Because of the extent of mining in the area these are sometimes difficult to distinguish from later spoil tips, though there are pairs of monuments at Eosfan on Holywell Common, and at Parc-y-prysau, west of Pentre Halkyn which appear to be genuine. Bronze Age finds including faience glass beads and a cinerary urn from a barrow at Clwt Militia to the north-west of Brynford which has now been destroyed.

During the middle ages the area was divided between the ecclesiastical parishes of Whitford, Holywell, Northop, Halkyn, Cilcain and Ysgeifiog, three new ecclesiastical parishes being created in the middle of the 19th century, Gorsedd from Whitford and Ysgeifiog in 1853, Brynford from Holywell and Ysgeifiog in 1853, and Rhes-y-cae from the parishes of Halkyn, Cilcain and Ysgeifiog in 1848, as a result of the rapidly expanding population and competion with the nonconformists and the transference to Rome of the newly-built church at Pantasaph. St Paul’s Church Gorsedd was built in 1852-53, St Michael’s Church, Brynford in 1851-53 and its associated rectory in 1857, and Christ Church, Rhes-y-cae was built in 1847, and its parsonage in 1859.

The 19th century saw the rise of four nonconformist groups within the area, the Independents, Baptists and Wesleyan and Calvinistic Methodists, who competed with each other and the established church, with chapels built and in many instances rebuilt at Rhes-y-cae and Pentre Halkyn, which each had two chapels, and at Pant-y-go and Brynford.

The northern part of the historic landscape area, within the parish of Holywell, was in possession of the Cistercian abbey at Basingwerk, established by the mid 12th century, who established a monastic grange at The Grange, west of Holywell, which came into private hands ‘in consideration of purchase money’ following dissolution of the abbey in 1537.

The complex of religious buildings built in gothic style at the Franciscan Friary at Pantasaph, including St Davids’s Church, dates largely to the period 1849-79, and was built on the estate of the earl of Denbigh. The now ruined convent of St Clare’s, to the south, is also of this period. The associated gardens on sloping ground behind the friary, constructed in the 1870s, with calvary and gothic chapels marking the Stations of the Cross are included within the Historic Gardens Register.

Ffynonellau Gwybodaeth Eraill

Ffynonellau cyhoeddedig

  • Atkinson, D. & Taylor, M.V., 1924. ‘Flint excavation report’, Flintshire Historical Society Journal 10, 5-23.
  • Bevan-Evans, M., 1960. ‘Gadlys and Flintshire lead-mining in the eighteenth-century, Part 1’, Flintshire Historical Society Transactions 18, 75-130.
  • Bevan-Evans, M., 1961. ‘Gadlys and Flintshire lead-mining in the eighteenth-century, Part 2’, Flintshire Historical Society Transactions 19, 32-60.
  • Bevan-Evans, M., 1962. ‘Gadlys and Flintshire lead-mining in the eighteenth-century, Part 3’, Flintshire Historical Society Transactions 20, 59-89.
  • Blockley, K., 1991. ‘The Romano-British Period’, in J. Manley et al. 1991, 117-28.
  • Briggs, C.S., 1992. ‘The conservation of non-ferrous mines’, in C.S. Briggs (ed.), Welsh Industrial Archaeological Heritage: A Review, Council for British Archaeology Research Report No. 79, 32-41.
  • Britnell, W.J., ‘The Neolithic’, in Manley et al. 1991, 55-64.
  • British Geological Survey/NERC 1994. The Rocks of Wales: Geological Map of Wales, 1:250,000.
  • Burt, R.,, Waite, P. & Burnley, R., 1992. The Mines of Flintshire and Denbighshire, 1845-1913, University of Exeter Press, Exeter.
  • Cadw 1998. Register of Landscapes of Outstanding Historic Interest in Wales, CCW/Cadw/ICOMOS UK.
  • Cadw 1995. Register of Landscapes, Parks and Gardens of Special Historic Interest in Wales. Part 1: Parks and Gardens: Clwyd, Cadw, ICOMOS UK.
  • Campbell, S.D.G. & Haines, B.A., 1988. Deeside (North Wales) Thematic Geological Mapping, British Geological Survey, Technical Report WA/88/2.
  • CC 1993. Landscape Assessment Guidance, Countryside Commission.
  • CCW 1998. LANDMAP: The Landscape Assessment and Decision Making Process, draft handbook for consultation, Countryside Council for Wales.
  • Chapman, J., 1992. A Guide to Parliamentary Enclosures in Wales, University of Wales Press, Cardiff.
  • Charles, B.G., 1938. Non-Celtic Place-Names in Wales, London Medieval Studies Monograph 1.
  • Davies, E., 1949. The Prehistoric and Roman Remains of Flintshire, Cardiff.
  • Dodd, A.H. , 1971. The Industrial Revolution in North Wales, University of Wales Press, Cardiff.
  • Ebbs, C., 1993, The Milwr Tunnel.
  • Ebbs, C., 1996. ‘Halkyn Mountain, Rhosesmor area’, Archaeology in Wales 366, 105-6.
  • Edwards, J.G., 1921. ‘Flint Pleas 1283-1285’, Flintshire Historical Society Publications, 8.
  • Ellis, B., 1992. ‘Windmill, Halkyn, Clwyd’, Melin 8, 3-8.
  • Ellis, B., 1998. The History of Halkyn Mountain, Halkyn.
  • Evans, D.L., 1929. ‘Flintshire Ministers’ Accounts, 1328-1353′, Flintshire Historical Society Pulbications, 2.
  • Foster-Smith, J.R., 1974. The Non-Ferrous Mines of Flintshire, British Mining 7, Northern Cavern and Mines Research Society, Billingham.
  • Frost, P., 1993. ‘Clwyd metal mines’, Archaeology in Wales 33, 43.
  • Frost, P., 1994. Clwyd Metal Mines Survey 1993: Consultation Draft, CPAT Report No. 88, Clwyd-Powys Archaeological Trust.
  • Grenter, S. & Williams, A.L., 1991. ‘Clwyd in the Industrial Revolution’, in J. Manley et al. (eds), 1991, 219-30.
  • Guilbert, G.C., 1972. ‘Moel y Gaer’, Archaeology in Wales 12, 13-14.
  • Guilbert, G.C., 1973. ‘Moel y Gaer’, Archaeology in Wales 13, 22-4.
  • Guilbert, G.C., 1974. ‘Moel y Gaer’, Archaeology in Wales 14, 14.
  • Guilbert, G.C., 1975a. ‘Planned hillfort interiors’, Proceedings of the Prehistoric Society, 41, 203-21.
  • Guilbert, G.C., 1975b. ‘Moel y Gaer 1973: an area excavation on the defences’, Antiquity 99, 109-17.
  • Guilbert, G.C., 1975c. ‘A Napoleonic fire beacon on Moel y Gaer, Clwyd’, Post Medieval Archaeology, 188-202.
  • Guilbert, G.C., 1975d. ‘Moel y Gaer’, Archaeology in Wales 15, 33.
  • Guilbert, G.C., 1976a. ‘Moel y Gaer (Rhosesmor), 1972­1973: an area excavation on the interior’, in D.W. Harding (ed.), Hillforts, London, 1976, 303­17.
  • Guilbert, G.C., 1976b. ‘Moel y Gaer’, Archaeology in Wales 16, 23.
  • Guilbert, G.C., 1979. ‘Moel y Gaer’, Archaeology in Wales 19, 15.
  • Guilbert, G.C., 1981, ‘Moel y Gaer’, Archaeology in Wales 21, 23.
  • Hubbard, E., 1986. The Buildings of Wales: Clwyd, Penguin Books/University of Wales Press.
  • Hogg, A.H.A., 1975. Hill-forts of Britain, London.
  • Jones, A., 1913. ‘Flintshire Ministers’ Accounts, 1301-1328′, Flintshire Historical Society Publications 3.
  • Jones, I.G., 1979-80. ‘Church building in Flintshire in the mid-nineteenth century’, Flintshire Historical Society Journal 29.
  • Jones, I.G., 1981. The Religious Census of 1851: Calendar of Returns relating to Wales, 2 vols, Cardiff.
  • Jones, N.W. & Frost, P., 1996. Clwyd Metal Mines Ground Survey, CPAT Report 165, Clwyd-Powys Archaeological Trust.
  • Lewis, W.J., 1967. Lead Mining in Wales, Cardiff.
  • Manley, J., 1990. ‘A preliminary survey of some small undated settlements in NE Wales’, Archaeologia Cambrensis 139, 21-55.
  • Manley, J., Grenter, S. & Gale, F., (eds), 1991. The Archaeology of Clwyd, Clwyd County Council
  • Margary, I.D., 1973. Roman Roads in Britain, 3rd edn.
  • Morgan, P., (ed.), 1978. Domesday Book 26, Cheshire, Chichester.
  • Musson, C.R., 1994. Wales from the Air: Patterns of Past and Present, RCHAMW, Aberystwyth.
  • O’Leary, T.J., Blockley, K. & Musson, C., 1989. Pentre Farm, Flint 1976-81: An Official Building in the Roman Lead Mining District, British Archaeological Reports, British Series, 207.
  • Pennant, T., 1796. History of the Parishes of Whiteford and Holywell, London.
  • Pratt, D., 1993. ‘St Asaph Diocese, 1254’, Denbighshire Historical Society Transactions 42, 103-44.
  • Richards, M., 1969. Welsh Administrative and Territorial Units: Medieval and Modern, Cardiff, University of Wales Press.
  • Richardson, J.B., 1936. A Revival in Lead Mining at Halkyn, North Wales, Institution of Mining and Metallurgy.
  • Seaborne, M., 1992. Schools in Wales 1500-1900: A Social and Architectural History, Denbigh.
  • Silvester, R.J., 1995. Delyn Borough Historic Settlements, CPAT Report No. 145, Clwyd-Powys Archaeological Trust.
  • Silvester, R.J. & Brassil, K.S., 1991. Mineral Workings in Clwyd and Powys: An Archaeological Assessment, CPAT Report 10, Clwyd-Powys Archaeological Trust.
  • Smith, B. & George, T.N., 1987. British Regional Geology: North Wales, HMSO, 3rd edn.
  • Smith, P., 1988. Houses of the Welsh Countryside, HMSO.
  • Soil Survey 1983. Soils of England and Wales, Sheet 2, Wales, 1:250,000, Soil Survey of England and Wales.
  • Smith, B., 1921. Lead and Zinc Ores in the Carboniferous Rocks of North Wales, Memoirs of the Geological Survey 19.
  • Strahan, A., 1890. The Geology of the neighbourhoods of Flint, Mold and Ruthin, London.
  • Thomas, D.R., 1911. The History of the Diocese of St Asaph, Oswestry, 2nd edn.
  • Thomas, J.R., 1995. The Tramways and Railways to Holywell, Bagillt.
  • Valdemar, A.E. & Jones, R.D., 1970. ‘An initial report on the archaeological and palaeontological caves and rock shelters in North Wales’, Transactions of the Cave Research Group of Great Britain 12, 99-107.
  • Webster, G., 1952-52. ‘The lead mining industry in North Wales in Roman times’, Journal of the Flintshire Historical Society 13, 5-33.
  • Williams, C.J., 1980. ‘The Lead Miners of Flintshire and Denbighshire’, Llafur 3, 2, 87-96.
  • Williams, C.J., 1988. Handlist of the Grosvenor (Halkyn) MSS, Clwyd Record Office.
  • Williams, D. H., 1990. Atlas of Cistercian Lands in Wales, Cardiff, University of Wales Press.

Ardal cymeriad tirwedd hanesyddol Comin Treffynnon a Mynydd Helygain (HLCA 1081)

Yn anad dim, mae tirwedd hanesyddol Comin Treffynnon a Mynydd Helygain yn dirwedd mwyngloddio yn perthyn i’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, ac fe’i hystyrir yn un ardal cymeriad (1081). Mae’r ardal yn cynnwys lwyfandir calchfaen uchel rhwng Bryniau Clwyd ac aber yr Afon Dyffrdwy yng ngogledd Sir y Fflint. Mae yma olion niferus a thra hynod o gloddio am blwm yn ystod yr 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, a nodweddion ac aneddiadau cysylltiedig, heb eu tebyg yn unman arall yng Nghymru.

Tirwedd cymhleth i’r gorllewin o Brynford, gyda siafftiau gadawedig, hen gaeadle ar y tir comin, tai modern housing a rhan o Gwrs Golff Treffynnon.

Llun: Hawlfraint y Goron, RCAHMW 93-CS-1339

Pwll-clai, o’r de, yn ymyl y ffordd rhwng Pentre Helygain a Brynford, gyda rhsi o siafftiau yn rhedeg ar hyd gwythiennau cyfoethog Pwll-clai a Phant-y-pydew, Comin Trefffynon. Roedd dyfrffos droellog ar hyd y caeau ar y dde yn gwasanaethau peiriannu a yrrwyd gan ddwr ar loriau trin Pwll-clai.

Llun: Hawlfraint y Goron, RCAHMW 93-CS-1341

Siafftiau mwyngloddio niferus i'r de-ddwyrain o Bentre Helygain, Mynydd Helygain, i'r dwyrain o chwarel calchfaen Pant-y-pwll-dwr sydd i'w gweld ar y top ar y dde. Roedd y rhesi o siafftiau, o wahanol ddyfnderoedd, yn dilyn gwythiennau cyfoethog a redai o'r dwyrain i'r gorllewin gan gynnwys y rhai a elwid Billins a Chwarel Las, a weithid yn bennaf ar gyfer plwm. Mae'r gweithiau unionlin yn y gaelod ar y chwith yn draws-toriad o'r gogledd i'r de mae'n debyg. Llun: Hawlfraint y Goron, RCAHMW 93-CS-1362

Siafftiau mwyngloddio niferus i’r de-ddwyrain o Bentre Helygain, Mynydd Helygain, i’r dwyrain o chwarel calchfaen Pant-y-pwll-dwr sydd i’w gweld ar y top ar y dde. Roedd y rhesi o siafftiau, o wahanol ddyfnderoedd, yn dilyn gwythiennau cyfoethog a redai o’r dwyrain i’r gorllewin gan gynnwys y rhai a elwid Billins a Chwarel Las, a weithid yn bennaf ar gyfer plwm. Mae’r gweithiau unionlin yn y gaelod ar y chwith yn draws-toriad o’r gogledd i’r de mae’n debyg. Llun: Hawlfraint y Goron, RCAHMW 93-CS-1362

Hawlfraint y Goron, RCAHMW 93-CS-1366

Chwareli plwm a chalchfaen i’r gogledd o’r ffordd rhwng Rhes-y-cae a Helygain. Ychydig o sbwriel datblygu sydd gan lawer o’r siafftiau yn yr ardal hon ac felly roeddent n ai yn rhai bas neu maent wedi cael eu hôl-lenwi ac mae gan rai ohonynt gaeadau concrit. Cysylltir y chwareli â’r pâr o odynau calch sydd yng nghanol y llun.

Hawlfraint y Goron, RCAHMW 93-CS-1366

Chwareli plwm a chalchfaen i'r gogledd o'r ffordd rhwng Rhes-y-cae a Helygain. Ychydig o sbwriel datblygu sydd gan lawer o'r siafftiau yn yr ardal hon ac felly roeddent n ai yn rhai bas neu maent wedi cael eu hôl-lenwi ac mae gan rai ohonynt gaeadau concrit. Cysylltir y chwareli â'r pâr o odynau calch sydd yng nghanol y llun.
Dau chwimsi a gadwyd mewn cyflwr da yn perthyn i hen Bwll New North Halkyn Mine, i'r gogledd o Mount Villas, yn ymyl pen deheuol Chwarel Pant. Byddai drwm weindio ar ben y pys yng nghanol y ddau chwimsi ac a drowyd gan ddau geffyl wedi codi a gostwng y gawell ar gyfer codi'r mwyn, a hynny gyda chefnogaeth fframiau-A a osodwyd uwchben pob un o'r siafftiau i'r naill ochr o'r chwimsi.

Dau chwimsi a gadwyd mewn cyflwr da yn perthyn i hen Bwll New North Halkyn Mine, i’r gogledd o Mount Villas, yn ymyl pen deheuol Chwarel Pant. Byddai drwm weindio ar ben y pys yng nghanol y ddau chwimsi ac a drowyd gan ddau geffyl wedi codi a gostwng y gawell ar gyfer codi’r mwyn, a hynny gyda chefnogaeth fframiau-A a osodwyd uwchben pob un o’r siafftiau i’r naill ochr o’r chwimsi.

Hawlfraint y Goron, RCAHMW 93-CS-1378

Adeiladweithiau a gysylltir â chloddfa Pant-y-go mine, i’r de o Helygain, gan gynnwys cronfa a gloddwyd o’r tir, ac sydd i’w gweld i’r chwith gyda sylfeini barics y gweithwyr oddi tani mae’n debyg.

Hawlfraint y Goron, RCAHMW 93-CS-1373