Neidio i'r prif gynnwys

Mae’r disgrifiad canlynol, a ddaw o’r Gofrestr Tirluniau Hanesyddol, yn nodi’r themâu hanesyddol hanfodol yn ardal tirlun hanesyddol cwm Elan.

1139 1139 1139 1138 1138 1138 1138 1137 1137 1137 1137 1131 1131 1131 1131 1135 1134 1133 1133 1133 1133 1133 1133 1133 1133 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1136 1132 1132 1132

Mae’r disgrifiad canlynol, a ddaw o’r Gofrestr Tirluniau Hanesyddol, yn nodi’r themâu hanesyddol hanfodol yn ardal tirlun hanesyddol cwm Elan.

Mae’r ardal anghysbell hon yn cynnwys y rhan fwyaf o ddalgylch Afon Elan a’i his afon, Afon Claerwen, sy’n draenio ochr de ddwyreiniol Mynyddoedd y Cambria yng Nghanolbarth Cymru. Mae’n cynnwys ardal eang o wastadedd uwchdir hynod ddyranedig rhwng tua 400 a 550m uwchben SO, gyda chymoedd rhiciog dwfn Elan a Chlaerwen yn darparu’r unig lwybrau o’r dwyrain i’r gorllewin ar draws yr ardal hon o Gymru, sydd fel arall yn ddiarffordd ac yn wag. Syrthia lloriau’r cymoedd o dros 300m uwchben SO yn y gorllewin i 200m uwchben SO yn y dwyrain, o ble mae’r Afon Elan yn parhau i lifo am bellter byr y tu hwnt i’r ardal a ddisgrifir yma, i ymuno ag Afon Gwy i’r de o’r Rhaeadr.

Mae’r ardal hon yn enghraifft wych yng Nghymru o dirwedd sy’n dangos ymdrech ddynol ar raddfa fawr, gan ei bod wedi’i newid yn sylweddol gan gynlluniau peirianneg sifil mawr a oedd yn eiddo i’r diwydiant dŵr a’r stad o dan ei reolaeth yn ystod y 19eg a’r 20fed ganrifoedd. Mae’r cynlluniau yn cwmpasu adeiladu cyfres o argaeau enfawr a gweithiau atodol yr ymgymerwyd â hwy mewn dau gam pwysig rhwng diwedd y 19eg a chanol yr 20fed ganrifoedd. Roedd y cam cyntaf yn un o gyflawniadau peirianneg sifil mwyaf y 19eg ganrif drwy Brydain gyfan, a bu sôn amdanynt unwaith fel ‘wythfed rhyfeddod y byd’.

Dechreuwyd adeiladu’r gyfres o argaeau, a adwaenir yn gyffredinol fel Cwm Elan, gan Gorfforaeth Birmingham, er mwyn cyflenwi dŵr i’r ddinas, ym 1893,gan ddechrau gydag Argae Caban-coch. Disgrifiwyd y strwythur enfawr hwn a’i dri is-argae mewn adroddiad swyddogol cyfoesol fel ‘of cyclopean rubble embedded in concrete and faced upstream and down-stream with shaped stones arranged in snecked courses’. Erbyn pryd eu cwblhawyd ym 1904, roedd y Gorfforaeth wedi adeiladu nid yn unig yr ystod ddisgwyliedig o dyrau hidlo a falfiau, tanciau setlo, gwelyau hidlo a thai peiriannau a generaduron oedd yn angenrheidiol er mwyn rheoli lefel y dŵr a chynnal ei lif parhaus, ond roedd hefyd wedi amgáu’r rhan fwyaf o’r tir cyfagos oddi-amgylch y cronfeydd gyda chyfres o waliau cerrig enfawr a ffiniau cymhleth er mwyn diogelu’r dŵr rhag ei lygru. Roedd uchder y cronfeydd yn golygu bod dŵr yn gallu cyrraedd cyrion Birmingham drwy ddisgyrchiant yn unig, heb gost pwmpio, ar hyd cyfundrefn anhygoel o ddyfrbontydd wedi’u claddu, sy’n 126km o hyd.

Cyflogodd Corfforaeth Birmingham lafur uniongyrchol ar gyfer y cynllun a oedd yn cynnwys adeiladu rheilffordd er mwyn cludo deunyddiau o Reilffyrdd Cambria yn Rhaeadr, a bu’n rhaid adeiladu mwy na 50km o drac er mwyn gwasanaethu’r safleoedd adeiladu amrywiol. Rhwng 1906 a 1909, adeiladwyd gardd-bentref bychan, o ansawdd uchel, yn yr arddull Celf a Chrefft nodedig, oedd yn cynnwys casgliad taclus o dai ar wahân ac o dai pâr o gerrig wedi’u gosod ar hyd lan daheuol Afon Elan, wrth droed y brif argae fel cartrefi i’r rheini a fyddai’n gweithio ac yn cynnal peiriannau ac offer cymhlethfa’r argae. Roedd y pentref yn cynnwys ysgol, siop a swyddfa stad.

Mae llawer o’r dirwedd urddasol hon wedi goroesi fwy neu lai yn ddigyfnewid ers troad y ganrif gan i’r stad gael ei rheoli’n llym, er mwyn cadw purdeb y dŵr, gan fyrddau a chwmnïau dŵr y naill ar ôl y llall. Mae’r dirwedd, felly, wedi osgoi nifer o’r tueddiadau diweddar o ran coedwigaeth ar raddfa fawr a gwelliannau amaethyddol eraill ar uwchdiroedd. Gwnaed darpariaeth ar gyfer ehangu’r cynllun gwreiddiol yn y dyfodol wrth adeiladu Argae Claerwen yn y cwm nesaf yn ystod 1948–52, gan wneud cymhlethfa Cwm Elan yn un o’r cynlluniau cyflenwi dŵr yfed mwyaf ym Mhrydain gyda chynhwysedd cyfunol o fwy na 100 biliwn litr o ddŵr. Ers preifateiddio’r cwmnïau dŵr, trosglwyddwyd perchenogaeth a rheolaeth Stad Cwm Elan i ymddiriedolaeth elusennol sy’n gyfrifol am ddiogelu treftadaeth unigryw’r ardal a pharhau i’w rheoli’n gydymdeimladol. Bydd hyn, gobeithio, yn cadw awyrgylch a thawelwch unigryw’r dirwedd. Gwasgarwyd carneddau claddu a meini hirion trawiadol Oes yr Efydd yn helaeth ar draws yr ardaloedd uwchdir anghysbell ac anhygyrch sy’n amgylchynu’r cronfeydd dŵr, tra bod gwersyll ymdeithio Rhufeinig yn Esgair Perfedd. Yn y cyfnod canoloesol, roedd yr ardal yn rhan o stad helaeth Cwmteuddwr o dir pori comin a daliadau anghysbell a oedd yn eiddo i’r Abaty Sistersaidd yn Ystrad Fflur, Ceredigion. Mae ffermydd ôl-ganoloesol yma hefyd, a nifer sylweddol o fwynfeydd a henebion diwydiannol o ddiwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrifoedd. Er bod thema’r dirwedd llawer yn fwy trawiadol na’r safleoedd eilradd hyn, mae llawer o’r safleoedd hyn wedi eu diogelu cystal gan y stad fel eu bod yn ffurfio atodiad hanesyddol gwerthfawr i dirwedd sydd fel arall yn fodern. Mae gan yr ardal hefyd gysylltiadau pwysig â P. B. Shelley a fu’n mawrygu rhinweddau ei chymeriad tra’n barddoni yn Nant Gwyllt.

Llunio Tirwedd Cwm Elan

Er bod cynllun cronfa ddŵr Corfforaeth Birmingham yng Nghwm Elan yn gynrychioliadol o dirwedd a ddyluniwyd yn ei hanfod yn null oes Fictoria a dechrau’r cyfnod Edwardaidd, roedd wedi’i arosod ar dirwedd lawer mwy hynafol a oedd wedi datblygu dros gyfnod o lawer o filoedd o flynyddoedd. Amlinellir y grymoedd sydd wedi helpu i ffurfio’r dirwedd arbennig hon yn yr adrannau sy’n dilyn.

Amgylcheddau, Ffiniau a Chanfyddiadau

Yr amgylchedd naturiol

Siâl, llechi, carreg laid a lleidfaen Silwraidd a rhai o’r cyfnod Ordoficaidd, ynghyd â haenau o greigiau amryfaen yw’r rhan fwyaf o’r creigiau dan ardal tirwedd hanesyddol cwm Elan. Yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf, rhwng 70,000 a 12,000 o flynyddoedd yn ôl, cuddiwyd yr ardal dan ddalen o iâ rhewlifol ac fe gafodd hyn gryn effaith ar y dopograffeg bresennol. Ymhlith nodweddion unigryw y cyfnod yma o rewlifiant mae llwyfandiroedd ucheldirol llyfn a gwastad, cymoedd rhewlifol serth siâp U, dyddodion marianol a therasau a llwyfannau ar y bryniau lle torrodd y dŵr tawdd trwy haenau o weddillion cerrig a ymgasglodd yn eu sgîl. Torrodd y rhewlifoedd ar draws llif afon Ystwyth a oedd yn wreiddiol yn bwydo llyn yn ardal Gors Lwyd, yn y cefndeuddwr rhwng afonydd Ystwyth ac Elan, a oedd yn ei dro yn bwydo afon Elan, un o lednentydd afon Gwy.

Gellir rhannu’r dirwedd yn nifer o ardaloedd topograffig ar wahân ac adlewyrchir y rhain yn yr ardaloedd nodwedd a ddiffinnir isod. I’r dwyrain mae ardal iseldirol donnog, y rhan fwyaf ohoni rhwng 190-250m uwchlaw’r môr, o Raeadr i Bentref Elan, â’r mynyddoedd ar y ffin orllewinol ac afon Gwy ar y ffin ddwyreiniol iddi.

Adeiladwyd yr argae isaf, sef Caban-coch mewn man cul yng ngwm Elan, rhwng llethrau serth Craig Gigfran i’r gogledd a Chraig Cnwch i’r de. Cyn hynny, roedd afonydd Elan a Chlaerwen yn ymuno â’i gilydd tua chilometr yn uwch na’r argae, ac yna’n gwahanu ac yn ymnadreddu yn ddwy afon ar wahân i mewn i rostir Elenydd am 20 cilometr pellach yn achos afon Elan, a 15 cilometr pellach yn achos afon Claerwen. Mae dŵr o ran ddeheuol y rhostir yn mynd i lednentydd afon Irfon, sydd yn un o lednentydd afon Gwy, a’r dŵr o’r rhan orllewinol yn mynd i afon Ystwyth i’r gogledd-orllewin, i afon Teifi i’r gorllewin, ac i afon Tywi i’r de-orllewin. Cyn creu cronfeydd dŵr roedd afonydd Elan a Chlaerwen yn llifo trwy gymoedd serth eu hochrau gweddol wastad eu gwaelod, yn aml yn gulach na hanner cilometr ar draws, a byddai gwaelod y cwm yn codi o ryw 250 metr uwchlaw y Datwm Ordnans ger y cymer i ychydig dan 400 metr yn y rhannau uchaf.

Characteristic U-shaped glaciated valley of the upper Claerwen.Photo: CPAT 1526.29.
Characteristic U-shaped glaciated valley of the upper Claerwen.Photo: CPAT 1526.29.

Rhennir rhostir Elenydd, sef rhan ganol Mynyddoedd y Cambrian, yn fras, yn dair rhan gan gymoedd yr afonydd. Mae rhan ddeheuol y rhostir, i’r de o gwm Claerwen, yn uwch ar y cyfan, ac yn fwy diarffordd. Ceir llwyfandiroedd ucheldirol helaeth ar uchder o rhwng 400 a 500 metr, a chopaon megis Drum yr Eira, Drygarn Fawr a Phen y Gorllwyn sy’n ymestyn dros 600 metr. Gellir gweld Bae Ceredigion a Bannau Brycheiniog o’r fan hon ar ddiwrnod clir. Yn rhan orllewinol y rhos, rhwng cymoedd Elan a Chlaerwen, gwelir llwyfandiroedd eang a chopaon ychydig yn is, megis Bryn Garw, Trumau a Chraig Dyfnant ychydig dros 500 metr o uchder. Mae rhan ddwyreiniol y rhos, sy’n tremio dros ddyffryn Gwy, yn is ar y cyfan, er bod yno nifer o gopaon megis Moelfryn a Chrugyn Ci sydd dros 500 metr.

Mae dwy ardal dopograffigol benodol bellach yn ardal yr astudiaeth, sef Carn Gafallt, bloc ucheldirol diarffordd i’r dwyrain o Bentref Elan, a Chwm Dulas sy’n gwm serth ei ochrau ar ochr ddeheuol Carn Gafallt sydd â’i ddŵr yn llifo i un arall o lednentydd afon Gwy.

Mae’r priddoedd yn ardal iseldirol Cwmteuddwr rhwng Rhaeadr a Phentref Elan, ac yng Nghwm Dulas wedi’u draenio’n dda ar y cyfan, ac fe geir priddoedd mân lomog a siltiog ynghyd â phriddoedd llifwaddodol siltiog dyfnach mewn mannau dros yr isbriddoedd graeanog, ar y tir mwy gwastad sy’n ffinio ag afon Elan. Byddai priddoedd tebyg wedi bod yng ngwaelod y cwm ar hyd rhannau isaf cymoedd Elan a Chlaerwen cyn i’r cronfeydd dŵr gael eu hadeiladu. Ffurfiwyd llyn iseldirol bach Gwynllyn, i’r gogledd-orllewin o Raeadr, yn sgîl y rhwystrau i ddraeniad a ddigwyddodd yn ystod y cyfnod rhewlifol diwethaf. Mae’r priddoedd ar y llethrau serth ac ymylon y cymoedd wedi’u draenio’n dda ar y cyfan ac yn cynnwys priddoedd mân lomog a siltiog, ac mae caeau caeëdig ar rai o’r mannau mwy gwastad lle nad oes brigiadau a sgrïau. Gorchuddir ucheldiroedd Elenydd â gorgors a basn mawn hyd at 3 metr o ddyfnder, gydag ardaloedd â phriddoedd ucheldirol lomog.

Migwyn, plu’r gweunydd a grugoedd sy’n tyfu helaethaf ar orgorsydd Elenydd a cheir llynnoedd mawn a llynnoedd dŵr croyw mwy eu maint, megis Llyn Gynon, Llyn Fyrddon Fawr a Llyn Fyrddon Fach, yn enwedig yn ardaloedd gogleddol a gorllewinol y rhostir. Mae’r llynnoedd, sydd wedi’u cronni ers y cyfnod rhewlifol diwethaf, cymaint â 25 hectar o ran maint, ac mae rhai ohonynt yn cynnwys brithyll brown a rhywogaethau eraill o bysgod. Mae ardaloedd sychach y rhostir, ar y priddoedd asid tenau sy’n draenio’n rhwydd, y tu hwnt i ffin y gorgorsydd, yn cynnal llystyfiant rhostirol glaswelltog gan gynnwys grug mawr, llus ac eithin. Yn draddodiadol, mae’r ardaloedd ucheldirol hyn wedi darparu porfa o ansawdd gwael i ganolig y manteisiwyd arni yn ystod yr haf, ac ychydig o reolaeth a fu arni ac eithrio at ddibenion cadwraeth bywyd gwyllt mewn ambell ardal.

Mae’r priddoedd sy’n draenio’n rhwydd ar gymoedd serthach afonydd a nentydd megis cymoedd Elan a Chlaerwen, Cwm Dulas, a llethrau dwyreiniol Elenydd sy’n tremio dros Raeadr, yn cynnal coetiroedd llydan-ddeiliog gyda choed derw digoes neu ynn yn achos y ceunentydd neu’r llethrau mwy creigiog, ynghyd â grugoedd ac eithin. Yn gyffredinol, cliriwyd y tir llai serth yn yr ardaloedd hyn o lystyfiant naturiol a’u hamgáu, efallai o’r cyfnod canoloesol ymlaen, er mwyn creu glaswelltir o ansawdd cymedrol. Plannwyd conwydd yn rhai o’r ardaloedd hyn, ar raddfa lai yn y 19eg ganrif, ond yn fwy helaeth wrth i’r cronfeydd dŵr gael eu creu ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed.

Bydd y priddoedd sydd wedi’u draenio’n dda ar y tir mwy gwastad ar hyd y rhannau isaf o gymoedd Elan a Chlaerwen na chafodd eu boddi, ac yn yr ardal iseldirol rhwng Pentref Elan a Rhaeadr yn cael eu cynnal fel glaswelltir bron yn ddieithriad erbyn heddiw, er yn hanesyddol mae’n debyg iddynt gael eu defnyddio i gynhyrchu cnydau grawn a gwraidd yn ogystal ag ar gyfer pori.

Rhoddodd ddadansoddiad o waddodion mawn ym mhen Cwm Elan, Llyn Gynnon (Ceredigion), mewn dyffryn i’r gogledd o gronfa Claerwen yn Esgair Nantybeddau ac ar safleoedd llwyfandir uwchdirol ym Mhwll-nant-ddu, rhwng Claerwen a Phenygarreg a Bryniau Pica i’r gorllewin o gronfa Claerwen, ddarlun o’r newidiadau mewn llystyfiant a newidiadau hydrolegol yn uwchdiroedd Elenydd a’r dyffrynnoedd o’u cwmpas. Mae’r astudiaethau hyn wedi dangos bod y coetir bedw wedi’i sefydlu dros ran helaeth o’r ardal erbyn tua 8500 CC, yn dilyn diwedd yr Oes Iâ ddiwethaf, ynghyd â pheth helyg efallai ar y tir lleithiach, a bod hesg a glaswelltydd yn ffurfio rhostir agored o bosibl, mewn rhai mannau uchel. O ryw 8200 CC ymlaen gwelwyd y cyll yn ymledu’n gyflym, a choetiroedd llydan-ddeiliog, gan gynnwys deri a llwyfen yn tyfu ymhob man ond yr uchderau eithaf. Ceir ysgyrion golosg yn y dyddodion mawn, sef yr awgrym cyntaf bod gweithgarwch dynol yn yr ardal yn ystod y cyfnod oddeutu 7500 CC, sef y cyfnod Mesolithig. O ryw 6200 CC gwelwyd cynnydd mewn paill coed gwern, sy’n awgrymu dechrau cyfnod lleithiach, ac erbyn 5000 CC gwelwyd newid i amodau mwy agored gyda rhostiroedd a chynnydd sydyn yn y gorchudd grug, glaswellt a hesg. Ceir tystiolaeth barhaus o weithgarwch dynol yn rhychwantu’r cyfnod Mesolithig hwyr a’r cyfnod Neolithig cynnar, gan gynnwys enghreifftiau o hela anifeiliaid a phori’r preiddiau dof yno. Cafwyd gwaith clirio coedydd helaethach yn ystod yr Oes Efydd, o ryw 1200 CC ac mae peth tystiolaeth yn awgrymu bod amaethu yn digwydd ar yr adeg yma, ac yn ystod yr Oes Haearn ddilynol. Erbyn diwedd y ganrif 1af CC ac yn y ganrif 1af OC mae’n debyg bod patrwm y llystyfiant wedi datblygu’n dra thebyg i’r hyn a welwn heddiw. Ceir tystiolaeth bellach bod y dwysâd yn y gwaith o glirio fforestydd wedi effeithio yn arbennig ar y coetir gwern, derw a bedw yn y cymoedd isaf. Tybir bod hyn wedi digwydd yn ystod y cyfnod canoloesol. Ceir tystiolaeth ar yr un pryd o weithgarwch bugeiliol wrth i bori yn yr ardal ddwysáu yn dilyn sefydlu maenordai mynachaidd y fynachlog Sistersaidd yn Ystrad Fflur ar ddiwedd y 12fed ganrif.

 

 

Ffiniau Gweinyddol

Yn ystod y cyfnod canoloesol cynharach, roedd y rhan helaethaf o’r ardal astudiaeth, i’r gogledd o afon Claerwen, o fewn cwmwd o’r enw Cwmwd Deuddwr (a dalfyrrwyd i Cwmteuddwr), enw a ddeilliodd o’r ddwy afon sef Gwy ac Elan. Roedd yr ardal i’r de o afon Claerwen o fewn cwmwd Dinan yng nghantref Buellt, a ddaeth wedyn yn gantref Buellt yn Sir Frycheiniog.

Roedd rhan orllewinol Cwmdeuddwr felly o fewn cymydau Mefenydd a Phennardd a ddaeth wedyn yn gantrefi Ilar a Phenarth yn Sir Aberteifi. O rywdro rhwng y 7fed ganrif a dechrau’r 10fed ganrif, roedd Cwmdeuddwr wedi bod yn rhan o deyrnas Powys, ond ar ddiwedd y 10fed ganrif a dechrau’r 11eg, daeth yn rhan o diriogaeth ar wahân rhwng afon Gwy ac afon Hafren, a elwid yn Rhwng Gwy a Hafren, a oedd ynghyd â theyrnas Brycheiniog yn deyrngar i deulu brenhinol Deuheubarth yn ne-orllewin Cymru.

O ddiwedd yr 11eg ganrif a thrwy’r rhan helaethaf o’r 12fed ganrif, byddai anghydfod rhwng teulu brenhinol Deheubarth ac Arglwyddi Eingl-Normanaidd y Mers ynghylch perchnogaeth cwmwd Cwmdeuddwr. Roedd ysgarmes eisoes wedi digwydd rhwng y teulu Mortimer a Rhys ap Gruffydd (Yr Arglwydd Rhys) erbyn 1176 pan ragodwyd dau fab-yng-nghyfraith Rhys, sef Morgan ap Maredudd ac Einion Clyd, Arglwydd Elfael, a’u lladd yng nghoedwig ‘Llawr Dderw’ ger Rhaeadr yng Nghwmdeuddwr. Yn ddiweddarach, fe feddiannodd Rhys y diriogaeth a sefydlu castell yn Rhaeadr ym 1177. Ym 1184 roedd y rhan fwyaf o gwmwd Cwmdeuddwr ymhlith y lleiniau helaeth o dir a roddodd Rhys i’r fynachlog Sistersaidd newydd yn Ystrad Fflur, ac ef oedd y prif gymwynaswr. Rhoddwyd y tir i abad Ystrad Fflur, gerbron byddin Rhys, yn eglwys Sant Ffraid yn Rhaeadr. Cadwodd Rhys ardal fechan o’r cwmwd, sef maenor Cwmdeuddwr yn agos at Raeadr, er mwyn amddiffyn castell Rhaeadr a chyflenwi ar ei gyfer. Adwaenid y rhan o’r cwmwd a oedd yn cynnwys Elenydd a chwm Elan fel maenor Grange.

O fewn ychydig flynyddoedd, syrthiodd Cwmdeuddwr i ddwylo teulu Eingl-Normanaidd Mortimer, ac yn dilyn hyn daeth Cwmdeuddwr yn rhan o arglwyddiaeth mers cantref Maelienydd. Pan ddaeth Edward IV i’r orsedd ym 1462, daeth y tŷ yn faenor y goron, ac arhosodd felly hyd ei werthu ym 1825. Adeg y Ddeddf Uno ym 1536, ffurfiwyd cyn gymydau teulu Mortimer, sef Cwmdeuddwr a Gwerthrynion, yn gantref Rhaeadr yn Sir Faesyfed.

Erbyn heddiw, mae rhannau dwyreiniol yr ardal astudiaeth yn bennaf o fewn cymunedau Rhaeadr a Llanwrthwl, ynghyd â rhannau o gymunedau Llanwrtyd, Treflys a Llanafan-fawr yn Sir Powys, a grëwyd ym 1974 trwy uno Sir Faesyfed, Sir Frycheiniog a Sir Drefaldwyn. Mae rhan orllewinol ardal yr astudiaeth o fewn cymunedau Ysbyty Ystwyth, Ystrad Fflur a Thregaron yn sir Ceredigion.

Prynwyd Grange Cwmdeuddwr ym 1792 gan ŵr bonheddig o Wiltshire, Mr Thomas Grove, a dechreuodd yntau ddatblygu’r stad. Ar ôl newid dwylo sawl tro, prynwyd tiroedd y faenor o fewn cefndeuddwr afonydd Elan a Chlaerwen gan gorfforaeth Birmingham ym 1892 i adeiladu’r cronfeydd dŵr. Dechreuodd y gwaith ar y rhain ym 1893. Trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am y cronfeydd ac am stad Elan i gwmni Dŵr Cymru ym 1974 wrth i’r cwmnïau dŵr preifat gael eu creu, a hon yw’r ardal unigol fwyaf dan berchnogaeth cwmni dŵr ym Mhrydain. Ym 1989 sefydlwyd Ymddiriedolaeth Elan Dŵr Cymru. Roedd yr Ymddiriedolaeth yn gyfrifol am ddiogelu amgylchedd naturiol y stad ac annog mynediad a dealltwriaeth y cyhoedd. Mae rhan ddeheuol Elenydd yn Sir Frycheiniog, sef Comin Abergwesyn, bellach yn perthyn i’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Prynodd y Gymdeithas Frenhinol Gwarchod Adar Garn Gafallt yn Sir Frycheiniog, ardal ucheldirol fechan ar wahân, oddi wrth Stad Glanwysg ym 1983.

O safbwynt eglwysig, roedd y rhan fwyaf o ardal yr astudiaeth o fewn plwyfi canoloesol Llansantffraid Cwmdeuddwr a Llanwrthwl, o fewn deoniaeth Buellt yn esgobaeth Tyddewi.

 

 

Canfyddiadau cynnar ynghylch y dirwedd

Mae cofnodion cynnar pobl a deithiodd trwy’r ardal, mapiau cynnar a chofnodion enwau lleoedd yn darparu cofnod ynglŷn â sut yr oedd y rhai a drigai neu a deithiai yn nhirwedd cwm Elan yn y gorffennol yn disgrifio ac yn canfod yr ardal.

Gelwid yr ardal fynyddig o amgylch blaen afon Elan yn Elenydd ers y cyfnod cynnar. Mae’n debyg bod yr enw’n deillio o enw afon Elan, ynghyd â’r terfyniad –ydd, sy’n awgrymu ‘ardal’ yr enw y mae’n gysylltiedig ag ef. Cofnodir yr enw gyntaf yng ngwaith Gerallt Gymro Itinerarium Cambriae, a ysgrifennwyd ym 1188, lle y disgrifia (o’i gyfieithu) ‘mynyddoedd uchel Moruge, a adwaenir fel Elennith yn Gymraeg’. Mae Gerallt Gymro yn dwyn sylw at Elenydd ac Eryri fel y ddwy brif gadwyn o fynyddoedd yng Nghymru, ac yn esbonio bod yr enw Saesneg ‘Moruge’, (sef ffurf nad yw wedi ei chofnodi yn unman arall, ond y credir ei bod yn deillio o air tebyg i’r Ffrangeg marais yn gysylltiedig â’r rhostiroedd ar y copa. Mae’r enw felly yn golygu ‘Mynyddoedd y Corsydd’ (‘Marsh Mountains’ yn Saesneg) i wahaniaethu rhyngddynt a ‘Mynyddoedd yr Eira’ (‘Snow Mountains’ yn Saesneg). Roedd Gerallt yn cyd-deithio â’r Archesgob Baldwyn ar ei siwrnai trwy Gymru i gymell y ffyddloniaid i ymuno â’r Croesgadau. Roedd y rhan arbennig hon o’r siwrnai yn ymestyn o abaty Ystrad Fflur i’r eglwys yn Llanbadarn Fawr. Ceir cofnod o gwm Elan ei hun fel Glan Elan am y tro cyntaf ar ddiwedd y 12fed ganrif ac wedi hynny fel Dyffryn Elan (Driffyn Elan).

 Llyn Cerrigllwydion Isaf, one of the large upland lakes on Elenydd. Photo: CPAT 03-c-0647.

Llyn Cerrigllwydion Isaf, one of the large upland lakes on Elenydd. Photo: CPAT 03-c-0647.

Ymwelodd John Leland, hynafiaethydd y brenin, â’r ardal yn y 1530au, unwaith eto mewn perthynas ag Ystrad Fflur. Mae’n bur debyg mai yng nghwmni tywyswyr lleol yr archwiliodd ef y cefn gwlad o amgylch yr abaty. Ymwelodd â Llyn Teifi a’r llynnoedd eraill ar ochr orllewinol y rhostir, gan sylwi eu bod yn ‘plentiful of trouttes and elys’. O bwynt rhyw ddwy filltir y tu hwnt i’r llynnoedd, fe welodd olygfa y dichon nad yw wedi newid fawr ddim ers y 16eg ganrif. ‘I standing on Creggenaugllin [Carregyderlwyn?] saw no place within sight, no wood, but al hilly pastures’.

Ymhellach ar draws y rhostir, cyrhaeddodd ‘Llyn y vigin velen’ (Llyn y Figyn), enw y mae’n ei gyfieithu: ‘Y vigin is to say a quaking more. Velin is yellow’. Mae’r llyn, meddai ‘the colour of the mosse and corrupt gresse about it’. O’r fan hon, aeth ymlaen i ‘Llin creg lloydon’ (Llyn Cerrigllwydion), yn ôl pob golwg i ddilyn Llwybr y Mynaich tuag at Raeadr. Yn union fel heddiw, gwylltineb a phellenigrwydd yr ardal oedd wedi denu sylw’r ymwelydd: ‘Al the mountaine ground between Alen [Elan] and Strateflure [Strata Florida/Ystrad Fflur] longeth to Stratefleere, and is almost for wilde pastures and breding ground’.

Dechreuwyd cyhoeddi’r mapiau cyntaf o’r ardal yn yr 17eg ganrif, er mai ychydig fanylion a geir o’r ardal yn gyffredinol. Ar fap Morden o Dde Cymru a gyhoeddwyd yn Camden’s Britannia ym 1695, cyfeirir ato fel ‘Gwasted’ (gwastad neu dir gwastraff). Mae mapiau o ddechrau’r 19eg ganrif yn dangos nifer o sgarpiau o amgylch blaen afonydd Claerwen ac Elan, ardal y cyfeiriwyd ati yn y cyfnod fel ‘Cwm Toyddwr Hill’, ar ôl plwyf Cwmdeuddwr.

Dechreuwyd dangos plastai ar fapiau a gyhoeddwyd o ddechrau’r 18fed ganrif ymlaen. Dangoswyd Cwm Elan ar New and Accurate Map of South Wales Bowen a gyhoeddwyd trwy danysgrifiad ym 1729 (Hugh Powell o Gwm Elan oedd un o’r tanysgrifwyr). Dangosir Plastai Cwm Elan a Nantgwyllt ar fap Thomas Kitchen o Sir Faesyfed ym 1754 ac ar argraffiad 1813 Map of South Wales Coltman.

Enwau lleoedd

Mae enwau lleoedd yng Nghwm Elan yn darparu cofnod o draddodiad llafar a ddatblygodd dros sawl cenhedlaeth ac yn darparu tystiolaeth o’r ffyrdd yr oedd y rheiny a gafodd fywoliaeth yng nghwm Elan yn ei amgyffred a’i ecsbloetio, gan ategu tystiolaeth ffynonellau eraill. Yn y 1860au a’r 1870au, Cwmteuddwr oedd yr unig blwyf yn Sir Faesyfed lle byddai’r trigolion yn siarad Cymraeg fel arfer, ac erbyn yr 1880au, dyma’r unig blwyf lle byddai rhywun yn ei siarad o gwbl. O ganlyniad, mae’r rhan fwyaf o’r enwau cynnar yn Gymraeg, er bod rhai ohonynt ar ffurfiau a Seisnigeiddiwyd. Mapiau graddfa fawr yr Arolwg Ordnans a gyhoeddwyd ar ddiwedd y 19eg ganrif sy’n cynnig y cofnod mwyaf cyson o’r enwau lleoedd, ond mae’n debygol bod llawer ohonynt wedi tarddu o gyfnod llawer cynt. Mae’r enwau yn arbennig o arwyddocaol yn achos rhannau mynyddig yr ardal, gan fod enwau lleoedd yn y fan yma, fel mewn mannau eraill yng Nghymru, yn aml yn cynnwys elfennau disgrifiadol. Yn y cymoedd ac ar ymylon y cymoedd yr oedd llawer o’r bobl yn byw, a dyma lle y ceir y cofnodion cyntaf o enwau ffermydd a daliadau mewn prydlesau, ewyllysiau a thrafodion ysgrifenedig o ganol y 16eg ganrif ymlaen, er bod rhai ohonynt o leiaf yn dyddio o gyfnod cynharach o lawer na hynny. Darllenwch y rhestr i weld enwau’r lleoedd yn ardal yr astudiaeth.

Oherwydd topograffeg benodol Elenydd, mae enwau lleoedd sy’n gwahaniaethu rhwng cribau (esgair, rhestr, trum/drum, cefn, crib) a llethrau neu esgyniadau (llethr, rhiw, llechwedd, allt a lan) yn arbennig o gyffredin, er bod yr ymadroddion cyffredin fan, bryn, moel/foel, moelfryn a mynydd hefyd yn ymddangos. Ymddengys bod y geiriau ar gyfer bryniau a chribau yn ymgyfnewidiol i raddau, er bod trum yn tueddu i gael ei neilltuo ar gyfer y copaon uchaf, dros 500m, a’r geiriau eraill ar gyfer copaon islaw 500m. Yn aml fe ddefnyddir esgair ar gyfer y cribau rhwng cymoedd nentydd a cefn ar gyfer y rhai a geir yn y mannau helaeth ucheldirol sy’n fwy gwastad. Ymddengys bod y geiriau ar gyfer llethrau hefyd yn ymgyfnewidiol, er bod llethr a rhiw yn tueddu i gael eu defnyddio ar gyfer y llethrau uchaf, ac allt a lan yn amlach ar gyfer y llethrau isaf, islaw 400m, o amgylch ymylon yr ucheldiroedd. Ymhlith y geiriau a ddefnyddir i ddisgrifio codiadau tir arwahanol ceir talcen, pentanau, clap, clapiau, cnapiau, cnwch (cnwc), uchelfa, copa, crug, banc, talar, ac yn fwy barddonol, llofft, castell a disgwylfa. Gelwir y brigiadau lu ar ochrau’r cymoedd serth yn carreg/cerrig, neu craig/creigiau. Dynodir pant yn aml â’r gair pwll.

Yn aml cyfeirir at ddyffryn afon ehangach fel cwm, a llawer o ddyffrynnoedd cul y nentydd ar ymyl yr ucheldiroedd fel ceunant neu dyfnant. Mae enwau rhai o’r dyffrynnoedd ucheldirol basach yn cynnwys elfennau fel pant a bwlch, a gelwir pen uchaf nifer o’r nentydd ucheldirol yn blaen.

Dynodir yr afonydd o bwys megis Elan, Claerwen ac Ystwyth, a defnyddir y gair afon (cymer neu geg) i gymer Elan â nifer o’r prif nentydd sy’n ei bwydo, gan gynnwys Claerwen, Afon Gwngu a Nant Hirin. Gelwir y rhan fwyaf o’r bron i 200 o nentydd a’r ffrydiau sydd yn ardal yr astudiaeth yn nant, a defnyddir y ffurf luosog hynafol neint ar gyfer ardal â sawl ffrwd fechan ger blaen afon Ystwyth, er bod llawer o’r nentydd llai yn cynnwys yr elfen ffos neu ffrwd. Mae’r ardal yn cynnwys nifer o raeadrau, er na chyfeirir at yr un ohonynt fel pistyll, efallai gan eu bod mor gyffredin, er bod Cwm Pistyll yn digwydd mewn un man, a hefyd sgwd sef llif neu gwymp, mewn man arall. Mae Ffynnon yn elfen annisgwyl o anarferol yn enwau lleoedd yr ardal, ac mae’r ffynhonnau a enwir, sef Ffynnon Fyw a Ffynnon Mary ill dwy ar ymyl ddeheuol Elenydd, yng nghymuned Llanafan Fawr. Mae’r llynnoedd ucheldirol, a nodweddion topograffaidd cysylltiedig Elenydd yn cynnwys yr elfen llyn, bob tro, felly hefyd y llyn iseldirol bychan o’r enw Gwynllyn i’r gogledd-orllewin o Raeadr. Gelwir cymer afonydd Elan a Gwy i’r de o Raeadr yn Llyn Aberdeuddwr.

Disgrifir y nodweddion topograffaidd hyn â nifer o eiriau disgrifiadol, gan gynnwys enwau rhannau o’r corff, megis safn, braich, bron/fron, troed a gwar. Mae geiriau sy’n disgrifio’r priodoleddau o ran lliw yn gyffredin ac yn eu plith mae coch/cochion, gwen/gwyn, gwinau, rhudd, llwyd/lwyd/llwydion, melyn, du/ddu/duon, a glas/las. Gellir cysylltu’r priodoleddau o ran lliw ag uchderau cymharol benodol, gan dueddu i gysylltu du/ddu/duon ag uchder o 500m uwchlaw lefel y môr, llwyd/lwyd/llwydion a glas/las ag uchder uwchlaw 400m, a coch/cochion, gwen/gwyn, a melyn oll uwchlaw 300m ond islaw 400m. Mae lleoliadau a meintiau o’u cymharu â’i gilydd yn dilyn yr un fformwlâu enwau lleoedd ag a wnânt mewn mannau eraill yng Nghymru, gan gynnwys ucha/uchaf, canol/ganol, isaf, ochr, perfedd, dan, traws, pen, mawr/fawr, bach/fach a bychannau/bychan.

Ailadroddir nifer o enwau lleoedd o fewn ardal eang wasgaredig, fel yn achos Llethr Melyn sy’n ymddangos ddwywaith, Banc Du sy’n ymddangos deirgwaith, a Lan Wen sy’n ymddangos bedair gwaith, er ei fod yn arwyddocaol efallai mai ychydig iawn o ddyblygu a geir yn enwau’r nentydd, sy’n tueddu i ddarparu cyd-destun ar gyfer enwi lleoedd mewn sawl rhan o’r ardal. Mewn achosion eraill, bydd yr enwau a ymddengys yn agos at ei gilydd yn tueddu i fod mewn parau gyda lliw neu wawr neu faint yn eu gwahaniaethu, er enghraifft wen a du, yn achos Afon Claerwen (claer a wen) ac Afon Claerddu (ddu), a bach a mawr yn achos Chwarel Bach a Chwarel Mawr. Mae paru enwau bryniau a nentydd yn digwydd yn aml (e.e. Nant Cormwg ac Esgair Cormwg), a rhannu enwau lleoedd yn ymestyn mewn sawl achos i ardaloedd topograffaidd cyfagos i ddarparu map geiriau o’r rhostir. Dichon fod hyn wedi dechrau fel dyfais i wahaniaethu rhwng gwahanol ardaloedd pori agored o rhwng 0.5 a 3 cilometr ar draws. Daw gwreiddyn yr enw yn aml o enw nant neu afon, sef y modd arferol o gyrraedd y rhostir. Mae enwau Afon Gwngu, Abergwngu, Llyn Gwngu, Llethr Gwngu a Blaen Gwngu yn diffinio ardal rhyw 3 chilometr ar draws ger blaenddyfroedd afon Elan. Mae Nant Egnant, Cae Blaenegnant, Bryn Llyn Egnant, a Bryn Caeblaenegnant yn yr un modd yn diffinio ardal o’r ucheldiroedd tua 1.5 cilometr o led i’r gorllewin o gronfa ddŵr Claerwen. Ambell dro, fe fydd enwau lleoedd yn yr ardal yn deillio o anheddiad penodol, er enghraifft yn achos Treheslog, Creigiau Treheslog a Banc Treheslog, a hyd yn oed o liw, fel yn achos Creigiau duon, Banc du, Chwarel du a Lan du, sydd oll o fewn 1 cilometr i’w gilydd.

Defnyddir amrywiaeth eang o ansoddeiriau ac enwau wrth ddisgrifio cyflwr y tir, er enghraifft wrth bwysleisio gerwinder y dirwedd neu pa mor agored ydyw i’r tywydd, er enghraifft gwyllt, llaith, sych, dyrys, caled, garw, chwefrin/chwefri, wynt/gwynt, eira. Mae’r geiriau melys a paradwys, tawel, clyd yn llai cyffredin ac yn ymdrin yn bennaf â lleoliadau mwy cysgodol, yn enwedig ar y llethrau sy’n wynebu’r de.

Defnyddir amrywiaeth eang o eiriau i ddisgrifio siapiau’r tirffurfiau, gan gynnwys cadenu, crychion/crych, cwta, hir, pica/bica, crwn, lled, cam.

Mae enwau ardaloedd â choetiroedd llydan-ddeiliog naturiol a lled-naturiol, ynghyd â nifer o blanhigfeydd conwydd yn cynnwys y gair coed, er na ddefnyddir hyn fel elfen mewn enwau lleoedd mewn mannau eraill, a hefyd llwyn, perth a gelli/celliBedwen/fedwen (lluosog, bedw) yw’r rhywogaeth fwyaf cyffredin o goed a enwir ac ni cheir ond cyfeiriadau prin at onnen, derwen, (lluosog derw/dderw/deri/dderi), helyg, gelynnen/celyn, ac afallen, ac wrth gwrs dim ond yn yr iseldiroedd i’r gorllewin o Raeadr y ceir yr olaf. Ymhlith y cyfeiriadau anaml eraill at lystyfiant ceir draen, eithinog, cors a mign (ar y ffurf figyn/fign), hesgog/hesg, a brwyn.

Mae sawl enw anifail yn codi, yn enwedig yn yr ardaloedd ucheldirol, gan gynnwys anifeiliaid dof megis gaseg/caseg, march, geifr/geifre, defaid, ci, gwartheg, anner, ych, moch, a hwch. Mae’n bosibl fod y rhain yn cynnig awgrym ynghylch y defnydd blaenorol a wnaed o’r tir, ond gallent ar y llaw arall fod yn eiriau i ddisgrifio nodweddion topograffaidd. Yn gyffredinol, fodd bynnag, maent yn codi mor anaml fel mai ychydig o gasgliadau ystyrlon y gellir eu llunio. Pur anaml hefyd y bydd enwau adar, megis aderyn, cywion, ceiliog a twrci (llygriad o dwrgi, efallai?), gigfran/cigfran, a gwalch yn codi. Mae nifer o enwau anifeiliaid gwyllt hefyd i’w gweld yn yr ardal. Credir bod enw afon Elan, a gofnodwyd yn gyntaf yn y 12fed ganrif, yn tarddu o’r Gymraeg elain, i ddisgrifio neidio a rhuthro yr afon cyn i’r gronfa ddŵr gael ei hadeiladu. Mae bwch a carw yn elfennau eraill a geir mewn enwau lleoedd yn yr ardal.

Mae nifer o enwau lleoedd sydd wedi’u gwasgaru yn arwyddocaol yn rhoi gwybodaeth am ddefnyddio ac anheddu’r tir yn y gorffennol. Digwydd Dol fel elfen mewn nifer o enwau lleoedd mewn tiroedd islaw 300m yn rhannau isaf cymoedd Elan a Chlaerwen ac yn yr iseldiroedd i’r gorllewin o Raeadr, mewn ardaloedd lle y gallai dolydd gwair fod wedi’u creu. Nodir y porfeydd ucheldirol, ar y llaw arall, â gwasgariad eang yr enwau lleoedd sy’n cynnwys yr elfen waun/gwaun sydd i’w gael fel arfer ar bob tir ond yr uchaf, o fewn y rhostir agored rhwng 400 a 500m. Mae nifer llai o enwau ar uchder tebyg yn cynnwys Rhos, sydd yn aml efallai yn awgrymu porfa ucheldirol yr haf, yn ymestyn i lawr i 300-400m yng nghwm Elan ei hun, weithiau naill ai o fewn ymylon y tir caeëdig, neu’n agos ato. Cyfyngir enwau waun a rhos, fel enwau’r llechfeddiannau, i’r ardaloedd pori ucheldirol mwy hygyrch ar Elenydd. Pur anaml y deuir ar eu traws yn yr ucheldiroedd diarffordd yn rhan dde-ddwyreiniol yr ardal, sy’n awgrymu eu bod yn ymwneud â chyfnod penodol o ran anheddu a defnyddio tir. Ni cheir yr elfen ffridd mewn enwau lleoedd yn yr ardal, sy’n awgrymu bod enw arall yn fwy cyffredin yn lleol, neu nad yw’r system draddodiadol o ddefnyddio tir y mae’r gair yn cyfeirio’n benodol ati mewn rhannau eraill o ucheldir Cymru wedi datblygu cymaint yn y fan hon.

Mae’r elfennau eraill mewn enwau lleoedd sy’n awgrymu caeau, gan gynnwys caemaes ac erw, yn brin yn yr ardal, ac maent i’w cael ar yr ucheldiroedd a’r iseldiroedd fel ei gilydd. Pur anaml y cyfeirir at gnydau, sy’n cynnwys haidd a gwair. Y mae’r ddau yn elfennau mewn enwau lleoedd o amgylch ymylon y tir isel ar uchder o rhwng 300 a 400m.

Mae llawer o enwau yn awgrymu clirio ac amgáu. Mae Llannerch/llannerch, i’w weld mewn nifer o enwau lleoedd sy’n gysylltiedig ag aneddiadau gwasgaredig sydd ar y cyfan wedi’u cyfyngu i’r tir sydd nawr yn gaeëdig yn rhannau isaf cymoedd Elan a Chlaerwen. Mae’r geiriau garthcorlanfuchescamlasclawdd, (lluosog cloddiau) hefyd i’w gweld, ond nid yn ddigon aml i allu llunio unrhyw gasgliadau ar sail hynny, oni bai mai ychydig o’r ffurfiau hyn, fel waun a rhos, a geir yn ucheldiroedd diarffordd de-orllewin yr ardal. Gallai Magwyr (fel yn yr enw Nant y Fagwyr) fod yn enghraifft o wal neu loc neu yn fwy syml, lle creigiog.

Mae nifer o enwau lleoedd arwyddocaol yn ymwneud â hanes anheddu yn yr ardal, sy’n tueddu yn yr un modd i osgoi ucheldiroedd diarffordd rhan dde-orllewinol yr ardal. Cysylltir Tyddyn (a dalfyrrir yn ddieithriad i ty’n) ag anheddau sy’n bodoli eisoes ar y tir caeëdig ar ymyl y cwm, ar uchder o rhwng 200 a 300m ar y cyfan. Mewn cyferbyniad â hyn, mae lluest, ac yn llai aml hafodcaban i’w cael ar dir rhywfaint yn uwch, ar uchder o ryw 300-400m neu fymryn uwchlaw hyn. Digwydd yr elfen hafod lawer yn llai aml na mewn rhai ardaloedd eraill yng Nghymru, sy’n awgrymu bod lluest yn cael ei ddefnyddio yn lle hafod yn lleol. Mae’n debyg bod y ddau air fel ei gilydd yn awgrymu trigfannau tymhorol, y mae rhai ohonynt wedi aros yn ffermydd parhaol. Ceir yr elfen bod ‘annedd’, fel yn Bodtalog, mewn sawl cwm ucheldirol. Ceir yr elfen llawer llai penodol  ar bob uchder, o waelod y cwm i fyny i’r rhostiroedd uwch lle ceir ef mewn enwau lleoedd fel Esgair-y-tŷ i ddynodi, o bosibl, hen aneddiadau tymhorol. Mae’r elfennau sy’n dynodi aneddiadau o statws uwch, megis cwrt a neuadd yn llai cyffredin, a chyfyngir hwy yn ôl y disgwyl i’r tir is i’r gorllewin o Raeadr.

Gwelir perchnogaeth neu gysylltiad ag unigolion mewn nifer gymharol fach o enwau lleoedd. Ceir sawl enw priod, er enghraifft, Dafydd-shon, Iago, Ifan, Ifor, Owen, Madog, Mair a Mary, Siencyn, a Steffan, ac ambell waith enwau sy’n dynodi cysylltiadau â phobl mewn galwedigaethau neu swyddi penodol mewn cymdeithas, er enghraifft esgobmynachgweis/gweisionoffeiriadrhingyll, er yn achos gwyddel a bleiddiad mae’n debygol mai mewn chwedl yn unig y mae’r cysylltiad. Gelwir crib ar ran ddeheuol y rhos i’r gogledd o Ros Saith-main yn Rhiw Saeson. Cyfyngir yr elfennau esgob a mynach ill dau i’r tir is yn rhan isaf cwm Claerwen, a’r iseldiroedd i’r dwyrain o Bentref Elan, ac maent yn gysylltiedig â’r faenor Sistersaidd a fodolai yn yr ardal hon cyn diddymu’r mynachlogydd yn y 16eg ganrif. Awgrymir cysylltiadau goruwchnaturiol mewn llond dwrn o enwau lleoedd, er enghraifft rhai sy’n cynnwys yr elfennau diawl a cawr. Mae dau air sy’n dangos ffiniau, sef gororion a ffin i’w cael ar ran o’r ffin sirol i’r gorllewin rhwng Sir Faesyfed a Cheredigion.

Enwir nifer o hynafiaethau yn unigol, gan gynnwys nifer o garneddi claddu cynhanesyddol â’r elfen carn (Carn Nant-y-ffald, Carn Wen, Carn Ricet, a Charn Pant Maenllwyd) a llawer o feini hirion â’r elfen maen (Maengwyngweddw, Maen Serth, Maen Cam, a Saith-maen). Ceir y rhan fwyaf ohonynt uwchlaw 400m, ac mae’n debyg eu bod yn enghreifftiau o batrymau defnydd tir hynafol, er mewn ambell achos arall, gallai’r ddwy elfen hon gyfeirio at frigiadau creigiau naturiol. Mae dyddiad y rhan fwyaf o’r enwau ar yr hynafiaethau yn ansicr, ond trafodir y chwedlau gwerin sy’n gysylltiedig â Charn Gafallt, ar y bryn i’r de-ddwyrain o Bentref Elan fel un o’r Mirabilia Britanniae (‘Rhyfeddodau Prydain’) sydd wedi’u hatodi at gasgliad o ganol y 10fed ganrif o’r enw Historia Brittonum, a briodolir i Nennius, awdur Cymreig o’r 8fed ganrif. Mae’r ddogfen yn ffynhonnell gynnar ar gyfer y chwedl Arthuraidd. O’i gyfieithu i’r Saesneg, dyma a ddywed y darn perthnasol:

 

‘There is another wonder in the region called Buelt [Builth]. There is a heap of stones, and one stone laid on the heap having upon it the footmark of a dog. When he hunted the swine Troynt, Cabal, which was a dog of the warrior Arthur, impressed the stone with the print of his foot, and Arthur afterwards collected a heap of stones beneath the stone in which was the print of his dog’s foot, and it is called Carn Cabal [Carn Gafallt]. And people come and take away the stone in their hands for the space of a day and a night, and on the next day it is found on its heap.’

Ceir hanes hela’r baedd gwyllt, y Twrch Trwyth, yn chwedl Culhwch ac Olwen o’r 11eg ganrif. Mae hon yn rhan o’r Mabinogion, sef casgliad o chwedlau Cymraeg o’r canol oesoedd.

Cyfeirir at hen chwareli a mwyngloddiau mewn sawl man gyda’r geiriau mwynplwmchwarel, a gwaith, ac mae’r olaf i’w gael ger safle hysbys mwynglawdd. Ymhlith yr adnoddau naturiol eraill y gallai’r enwau lleoedd fod yn cyfeirio atynt mae gro.

Cyfeirir at linellau cysylltu, gan gynnwys ffyrdd a thraciau a strwythurau cysylltiedig sy’n croesi’r mynydd â geiriau cyffredin fel sarnfforddcroespont/bont, a llidiart.

Anheddu Cynnar a Defnyddio Tir

Defnydd Tir ac Anheddu Cynhanesyddol a Rhufeinig

Nid oes safleoedd anheddu cynnar wedi’u dynodi yn ardal y dirwedd hanesyddol, er bod y dystiolaeth amgylcheddol a niferoedd uchel yr henebion claddu a defodol cynhanesyddol yn dangos yn eglur bod yr ardal eisoes wedi’i phoblogi a bod clirio yn digwydd yn ystod y cyfnodau Neolithig hwyr a’r Oes Efydd gynnar, o efallai 3000 CC o leiaf. Cymaint felly fel ei bod yn debyg mai o’r cyfnod hwn y tarddodd y patrymau defnydd tir a ddaeth yn fwy cyfarwydd yn ddiweddarach — patrymau fel yr aneddiadau gydol y flwyddyn oedd â chysylltiad â thir âr a dolydd yn y dyffrynnoedd is, a defnydd o’r porfeydd ucheldirol yn ystod misoedd yr haf.

Mae’r carneddau claddu carreg, y meini hirion, y rhesi cerrig a’r cylchoedd cerrig sy’n coroni nifer o gopaon a chribynnau llwyfandir Elenydd yn henebion claddu a chynnal defodau nodweddiadol o’r cyfnod cynhanesyddol er na welir mohonynt ar rai o rannau llai hygyrch canol y rhostir.

Mae rhai o’r carneddau yn fychan, er bod eraill sawl metr o uchder ac yn ffurfio tirnodau sy’n weladwy o bell. Ymddengys bod rhai o’r carneddau yn eithaf cymhleth yn strwythurol, gydag ymylfeini o slabiau carreg unionsyth neu siambrau claddu mewnol o’r enw cistfeini. Mewn ambell achos, gwyddys am gistfeini arunig fel pe byddai cerrig y domen gladdu wedi eu hysbeilio, ac yn achos heneb ar Beddaufolau, ar y bryniau uwchlaw ochr ddwyreiniol cronfa ddŵr Garreg-ddu, ceir olion siambr gerrig llawer mwy, hyd at tua 2.5 metr o led, sy’n debyg o ran ei golwg i feddrod siambrog Neolithig. Mae llawer o’r tomenni claddu yn parhau i fod mewn cyflwr da er, yn anffodus, mae cerrig rhai ohonynt wedi’u hysbeilio yn y gorffennol, neu mae rhywrai wedi aflonyddu ar y tomenni i greu llochesi i ddefaid, neu efallai garnau saethu, a nodwyr ffiniau modern wedi eu gosod arnynt, cerddwyr wedi pentyrru cerrig arnynt i ffurfio carnedd, neu goelcerthi wedi eu cynnau arnynt a’u haflonyddu. Ffodus yw mai ychydig sydd wedi dioddef tynged un o’r tair carnedd ar Glap yr Arian, a gludwyd oddi yno mewn cert i gynhyrchu metlin ffordd ym 1910. Yn ystod y broses daethpwyd o hyd i ran o fwyell forthwyl garreg.

Mae nifer o’r carneddau i’w cael ar ffurf carneddau cylchog. O gloddio mewn mannau eraill, gwyddys fod y rhain yn cael eu defnyddio at ddibenion claddu a chynnal defodau. Credir bod gweithgareddau seremonïol cynhanesyddol hefyd yn esbonio mathau enigmatig amrywiol eraill o henebion cerrig cynhanesyddol y gwyddys amdanynt o Elenydd. Gwyddys am resi o rhwng tair ac wyth o gerrig unionsyth hyd at fetr a hanner o daldra yn Saith-maen, yn Rhosygelynnen ar y bryniau uwchlaw ochr orllewinol cronfa ddŵr Caban-coch ac yn Nant y Llyn, ar y bryniau i’r gorllewin o Dreheslog. Gwyddys am un cylch cerrig 25 metr o ddiamedr, sy’n cynnwys 16 carreg yng Nghrugian Bach, ger Allt Goch, ar y bryn uwchlaw ochr ddwyreiniol cronfa ddŵr Caban-coch, a cheir olion posibl ail gylch ym Mwlch y Ddau Faen. Cofnodwyd meini hirion ar wahanol rannau o’r rhostir. Mae rhai yn debygol o fod yn nodau terfyn, ond daethpwyd o hyd i nifer ohonynt mewn cysylltiad â henebion cynhanesyddol eraill, felly maent yn debygol o ddyddio o’r Oes Efydd. Mae rhai o’r meini bellach yn gorwedd lle y maent wedi cwympo, gan gynnwys dwy garreg fawr, un yn 3.7 metr o daldra, ger y mast radio ar Gefn Llanerchi. Mae maen tal arall ar Drum Nant y Gorlan, sy’n 2.7 metr o daldra hefyd wedi cwympo erbyn hyn. Mae’r garreg wen ym Mhen Maen Wern, sy’n 1.5 metr o daldra, ymhlith y talaf sy’n dal i sefyll. Mae croes wedi’i harysgrifennu ar y maen hir tal mewn lle amlwg, sef Maen Serth, ar y bryn uwchlaw’r ffordd dros y mynydd o Raeadr i Aberystwyth. Maen hir o’r cyfnod cynhanesyddol yw hwn o bosibl, a ‘Gristioneiddiwyd’ rhwng y 7fed a’r 9fed ganrif. Yn draddodiadol, credir bod hwn yn nodi’r fan lle rhagodwyd Einion Clyd, arglwydd Elfael, a’i ladd gan aelodau o’r teulu Mortimer ym 1176. Yn ôl yr hanesydd o Sir Faesyfed, W.H. Rouse, yr enw lleol ar y fan hon yw ‘Bedd y Tywysog’.

Mae gwasgariad arteffactau cynhanesyddol a gafwyd yn yr ardal nodwedd yn awgrymu anheddiad neu weithgaredd cynnar arall, gan gynnwys nifer o naddion fflint ar draethlin cronfa ddŵr Craig Goch a nifer o arteffactau copr ac efydd sy’n tarddu o wahanol gyfnodau’r Oes Efydd. Arfau yw’r rhan fwyaf o’r arteffactau metel, ac yn eu plith mae dagr neu halberd posibl y daethpwyd o hyd iddo ger Coed Glannau, i’r gorllewin o gronfa ddŵr Garreg-ddu, dagr llafn ogif o’r Oes Efydd gynnar, a gafwyd trwy gloddio’r mawn ar Fwlch y Ddau Faen, i’r de o Glaerwen, a meingleddyf o ganol yr Oes Efydd a gafwyd ar Drygarn Fawr. Roedd yr offer a gafwyd yn yr ardal yn cynnwys pedair bwyell socedog efydd o’r Oes Efydd hwyr y daethpwyd o hyd iddynt ym 1895 ger argae Caban-coch wrth adeiladu cronfeydd dŵr cwm Elan. Ymddengys bod y bwyeill wedi’u darganfod gyda rhan o fowld carreg, ac mae’n bosibl eu bod yn rhan o gelc gof efydd. Daethpwyd o hyd iddynt o dan bentwr o sgri a oedd wedi cwympo o ochr serth y cwm pan roedd rhywrai wrthi’n ei dorri i baratoi metlin. Mae nifer o addurniadau aur o ganol yr Oes Efydd, a gafwyd yng Nghwm Dulas ac o’i amgylch, yn awgrymu eitemau mwy mawreddog sy’n dangos o bosibl fod yna elît ymhlith poblogaeth leol yr Oes Efydd. Yn eu plith mae modrwy neu glustdlws aur fylchgron o Waun Sarn a’r celc yn cynnwys pedair torch aur o ganol yr Oes Efydd a ddarganfuwyd wedi’u cuddio dan bentwr bychan o gerrig mewn porfa arw ar ymyl rhostir Carn Gafallt yn y 1950au. Rhan o gadfwyell o ddechrau’r Oes Efydd a gafwyd wrth symud carnedd Clap yr Arian, (a grybwyllir uchod), wedi’i lunio o ddolerit o ardal y Preselau yn Sir Benfro yw’r unig wrthrych a gafwyd mewn cysylltiad â thomenni claddu cynhanesyddol yn yr ardal.

Mae’r rhan fwyaf o’r safleoedd claddu a chynnal defodau cynhanesyddol y gwyddys amdanynt yn yr ardal ar ucheldiroedd Elenydd, er bod awgrym bod safleoedd tebyg wedi bodoli yn y dyffrynnoedd is ar un adeg, ac yna wedi cael eu haredig neu eu clirio yn yr ardaloedd hyn lle roedd mwy o amaethu. Cofnodwyd cymhlyg o safleoedd seremonïol posibl yng nghwm Elan, i’r dwyrain o fferm Coed-y-mynach mewn awyrluniau. Ymddengys bod y cymhlyg yn cynnwys dwy neu dair ffos gron, heneb hengor bosibl a chylch pydewau posibl ac mae’n debygol bod y rhain yn enghreifftiau o henebion pridd a phren o’r Oes Neolithig a’r Oes Efydd gynnar, sy’n gyfwerth â rhai o’r henebion cerrig y gwyddys amdanynt yn yr ucheldiroedd.

Gwyddys am glystyrau o safleoedd ucheldirol mewn amrywiol leoedd gan gynnwys y rheiny ar Garnau Cefn-y-ffordd, Drygarn Fawr, Darren a Bryn. Mae’n debyg i’r cymhlygau hyn, ynghyd â henebion claddu a defodol mwy diarffordd yn yr ardal nodwedd, arddel sawl swyddogaeth yn y dirwedd wrth iddi ddatblygu yn ystod y pedwerydd i’r ail mileniwm CC, rhwng tua 3500 a 1500 CC. Mae’n bosibl fod clystyrau o henebion yn cynrychioli canolbwyntiau seremonïol yn y dirwedd, a gallent o bosibl awgrymu gweithgareddau gwahanol deuluoedd neu lwythau yn yr ardal. Mae dosbarthiad yr henebion o lawr y dyffryn i ben y mynydd yn awgrymu bod y cymunedau hyn yn defnyddio amrywiaeth eang o adnoddau iseldirol ac ucheldirol erbyn hyn.

Fe fydd yr henebion cynnar hyn yn gyfarwydd ac yn destunau parch yn y dirwedd, ac mewn ambell achos byddant yn destun chwedlau a fyddai wedi helpu i osod y lle yn y cof. Soniwyd uchod am y cysylltiad o’r 8fed ganrif rhwng Carn Gafallt a hela’r baedd gwyllt chwedlonol, sef y twrch trwyth. Yn gynnar yn y 16eg ganrif, cofnododd John Leland bod hynafiaethau ar Elenydd yn gysylltiedig â’r chwedlau Arthuraidd.

 

‘The first river that I passed over was Clardue [Claerddu] . . . . hard by were two hillettes, through the wich Clarduy passith, where they fable that a gigant was wont to wasch his hondes, and that Arture killid hym. The dwellers say also that the giant was buried therby, and show the place.’

Rhennir yr ymdeimlad o le y mae’r cysylltiadau chwedlonol a hanesyddol hyn yn ei greu mewn dull nodweddiadol yng ngherdd Ruth Bidgood, ‘Gigant Striding’ yn ei chasgliad The Fluent Moment a gyhoeddwyd ym 1996.

Between two little hills
a gigant striding was wont to wasch his hondes,
till Arthur killed him, for no reason known.Perhaps it was just for his gigantic
striding, that diminished the moor;
his great hands commandeering the stream —

for being huge, anarchic; sharing
ancientness and threat
of the desolate land.

Fel yn y cyfnodau diweddarach, daeth creigiau, cerrig a charneddau yn fodd o ddiffinio tiriogaethau ac adnoddau yr oedd gwahanol gymunedau cyfagos yn eu hawlio, a thrwy hyn dros gannoedd o genedlaethau, datblygodd y patrwm o blwyfi a ddaeth i’r amlwg erbyn y cyfnod canoloesol cynnar. Adlewyrchir hyn yn ei dro yn strwythur y cymunedau o amgylch Elenydd a chwm Elan heddiw, gyda phob un yn cynrychioli ‘tiriogaeth’ sy’n ymestyn o lawr y dyffryn i fyny i’r llwyfandir rhostirol. Roedd yr henebion cynnar hyn a etifeddwyd yn darparu pwyntiau penodol y gellid eu defnyddio i ddyrannu tir o gyfnod cynnar a cheir enghreifftiau helaeth o hyn yn y ffaith fod terfynau deheuol cymuned Llanwrthwl, lle y mae’n cyffwrdd â therfynau cymunedau Llanwrtyd, Treflys a Llanafanfawr, yn croesi dim llai na naw o garneddau claddu, a oedd mae’n debyg yn nodwyr tiriogaeth nes i fapiau mwy manwl o’r ucheldir fod ar gael yn hwyrach yn y 19eg ganrif, ymhell wedi i bobl anghofio beth oedd eu pwrpas gwreiddiol.

Newidiodd arferion claddu a chynnal defodau yn sylweddol ym Mhrydain o ryw 1500CC ymlaen, a hyd ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol, ni welir nemor ddim safleoedd claddu na chynnal defodau o fewn y dirwedd. Fe fyddai porfeydd ucheldirol a dyffrynnoedd iseldirol Elenydd yn parhau i gael eu defnyddio trwy gydol y cyfnod cynhanesyddol diweddarach a chyfnod y Rhufeiniaid, er ein bod yn dal i aros am adnabod yn sicr union natur y safleoedd anheddu o’r cyfnod. Mae’n debyg mai adeiladau pren a gwellt oedd adeiladau cynnar y rhan fwyaf o’r cyfnod hwn, ac ychydig yn unig o olion gweladwy sydd o hyn ar lefel y tir. Mae’n debygol y byddai amaethu cynnar wedi canolbwyntio ar y priddoedd mwyaf ffrwythlon a chroesawgar yn y dyffrynnoedd ac ar ymylon y dyffrynnoedd, ac felly wedi ei guddio neu ei drosi’n gaeau mwy diweddar.

Er gwaethaf y diffyg tystiolaeth o ran dyddio, fodd bynnag, ymddengys yn debygol bod nifer o gytiau cynnar a charneddau carega a ddarganfuwyd ar ucheldiroedd Elenydd yn enghreifftiau o anheddu a defnyddio’r tir yn ystod y rhychwant hir rhwng diwedd y cyfnod cynhanesyddol a chyfnod y canol oesoedd cynnar. Nodwyd dau safle anheddu posibl trwy waith maes i’r de o gwm Claerwen, sef lloc crwn 25 metr o led ar Esgair Gwar-y-cae gyda chwt crwn wedi’i gysylltu ag ochr fewnol y clawdd, a lloc crwn rhyw 16 metr o led yr ymddengys ei fod yn gysylltiedig â thri chwt crwn rhwng 10 a 11 metr mewn diamedr. Daethpwyd o hyd i garneddau carega ar ochr y bryn i’r de o Gnwch ac ar y llethrau i’r gogledd-ddwyrain o Allt Goch. Yn ddiamau erys safleoedd eraill o’r mathau hyn sydd heb eu darganfod eto.

Ceir enghraifft ddramatig o gyfnod y goncwest Rufeinig yng Nghymru yn y gaer neu’r ‘gwersyll cyrch’ Rhufeinig dros dro a ddarganfuwyd ar Esgair Perfedd mor ddiweddar â 1966. Lloc â gwrthglawdd isel â siâp cerdyn chwarae nodweddiadol ar uchder o ryw 450 metr ydyw, ychydig i’r de o’r ffordd dyrpeg o Raeadr i Aberystwyth dros y mynydd. Mae’r gwersyll yn amgáu ardal o ychydig dros 6 hectar, a sefydlwyd ef i letya byddin o ryw 4,000 o ddynion a’u cyflenwadau mewn pebyll am gyfnod cyn fyrred ag ychydig ddyddiau o bosibl. Mae’n debyg bod y gaer yn dyddio o’r cyfnod rhwng 74-80 OC, ac mae’n debygol ei bod ar lwybr rhyfelgyrch i mewn i ardal bresennol Ceredigion neu Sir Drefaldwyn.

Characteristic playing-card shape of the Roman marching camp on Esgair Perfedd. Photo: CPAT 03-c-0582.
Characteristic playing-card shape of the Roman marching camp on Esgair Perfedd. Photo: CPAT 03-c-0582.

Defnyddio Tir ac Anheddu yn y Canoloesoedd a’r Ôl-ganoloesoedd Cynnar

Ychydig a wyddys am yr ardal yn ystod cyfnod diweddar y Rhufeiniaid a chyfnod y canol oesoedd cynnar, er y tybir bod llawer ohoni wedi’i hawlio yn rhan o diroedd pori’r cymunedau a oedd yn dod i’r amlwg o amgylch Elenydd.

 

Y Faenor Sistersaidd

Erbyn diwedd y 12fed ganrif, roedd yr holl ardal bron yn rhan o diroedd a roddodd yr Arglwydd Rhys i abaty Sistersaidd Ystrad Fflur. Mae’r rhan fwyaf o’r dirwedd hanesyddol i’w chael yn nhir maenor Cwmteuddwr, gyda’r rhan orllewinol o fewn tir maenor Cwmystwyth i’r gogledd-orllewin a maenor Pennardd i’r de-ddwyrain. Er mai ychydig yn unig o gofnodion cyfoes sydd wedi goroesi, mae peth tystiolaeth yn awgrymu ym mha ddull y byddai’r maenorau mynachaidd hyn yn cael eu rheoli yn y Canol Oesoedd.

Fel yn achos stadau Sistersaidd eraill, sefydlwyd canolfannau’r maenorau yn yr ardaloedd mwyaf ffafriol i’r abatai eu hunain dyfu cnydau neu bori ar y demên. Sefydlwyd dwy faenor o’r fath o fewn maenor Cwmteuddwr, un yn yr ardal o’r enw Llanmadog, ger Gwesty Cwm Elan bellach, gyda chanolfan ategol yn Nannerth mewn cwm bychan ag afon Gwy yn ffin iddo, ychydig dros 5 cilometr i’r gogledd. Nid oes unrhyw adeiladau sy’n dal i sefyll yn gysylltiedig â’r naill ganolfan neu’r llall, er y gwyddys am safle capel y faenor, sef Capel Madog mewn cae gyferbyn â Gwesty Cwm Elan. Roedd rhai o olion yr adeilad i’w gweld ar ddechrau’r 19eg ganrif, ac roedd gan y pensaer Stephen Williams ran bwysig yn y penderfyniad i ddargyfeirio trac Rheilffordd Cwm Elan rhyw fymryn i’w osgoi ar ddiwedd y 19eg ganrif. Ymhlith yr enwau lleoedd eraill sy’n awgrymu cysylltiadau â maenor fynachaidd mae Nant Madog, Llanmadog , a Choed-y-mynach, sef enw coetir a fferm tuag un cilometr i’r gogledd. Adwaenir y rhan o’r cwm lle y gorwedd Pentref Elan, tua hanner cilometr i’r de-orllewin, fel Cwm yr Esgob sydd hefyd yn ymddangos yn arwyddocaol. Ymhlith yr enwau eraill yn yr ardal sy’n awgrymu cysylltiad â’r hen faenor mae Dol-y-mynach a Chraig y Mynach, lleoedd pur agos at ei gilydd yng nghwm Claerwen, ger Llannerch-y-cawr. Mae Nant Offeiriad, un o lednentydd Nant Cletwr, i’r gorllewin o Graig Goch, a Nant Rhingyll i’r dwyrain o gronfa ddwr Garreg-ddu ymhlith yr enwau lleoedd eraill a allai o bosibl fod â chysylltiadau eglwysig cynnar.

Roedd prif adnoddau’r tiroedd mynachaidd hyn wedi’u seilio’n ddiamau ar borfeydd ucheldirol helaeth lle roedd gwartheg, ac yn gynyddol, diadelloedd mawr o ddefaid yn pori, gan drigolion y maenorau mynachaidd eu hunain, a chan y rheiny a oedd â thyddynnod o fewn eu ffiniau. Fel yn y cyfnod cyn iddynt gael eu gadael i’r abaty, mae’n debyg bod y rhan fwyaf o’r incwm a ddeilliodd o hynny yn dod o renti a hawliadau arferol a delid gan y rheiny a oedd â thyddynnod yn yr ardal, er oherwydd natur y stad, mae’n debygol bod lefel yr arian a ddeuai o’r ffynhonnell hon yn gymharol isel. Mae’n debyg fod y rhan fwyaf o’u cyfoeth yn deillio o’r fasnach wlân, gan fod gan fynaich Ystrad Fflur drwydded y Goron yn dyddio o 1200 i allforio eu gwlân yn ddi-dreth i Ffrainc a Fflandrys. Roedd canolfannau’r maenorau mewn sefyllfa dda i reoli’r preiddiau o ddefaid a ddygwyd i lawr o ochr ddwyreiniol Elenydd: mae pentref Llanmadog wedi’i adeiladu ar y ddwy ochr i’r prif gwm ar ochr ddwyreiniol yr ucheldiroedd, a Nannerth ar gwm un o’r prif nentydd, sef Nant y Sarn, sydd ag enw arwyddocaol. Mae’r cwm yma’n rhoi mynediad uniongyrchol i ardaloedd gogleddol y rhostir o ddyffryn afon Gwy.

Mae’n debygol i rai cnydau gael eu tyfu ar diroedd demên wedi’u trin ger canolfan maenor Llanfadog, ac ymddengys yn bosibl fod y gyfundrefn caeau reolaidd ar hyd lan ogleddol afon Elan rhwng fferm Coed-y-mynach a Noyadd yn deillio naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol o’r faenor fynachaidd ganoloesol. Gwelwyd cefnen a rhych isel yn y caeau gyferbyn â Gwesty Cwm Elan, a allai fod wedi dyddio o’r cyfnod canoloesol. Mae’n debygol fod gan dyddynnod eraill o fewn ffiniau’r faenor, yn enwedig yn y cymoedd ac ar y tir is gerllaw afonydd Elan a Gwy, gaeau wedi’u trin.

Ymhlith yr adnoddau eraill yn yr ardal a fyddai ar gael i’r faenor fyddai’r coetiroedd derw a fyddai ar un adeg wedi bod yn ffin i gymoedd yr afonydd, ac yn cyflenwi tanwydd a deunydd adeiladu, a’r afonydd a llynnoedd ucheldirol Elenydd yn cyflenwi pysgod. Roedd Llyn Teifi a Llyn Fyrddon Fawr ill dau yn cyflenwi llyswennod a brithyll i’r mynachlog. Stiwardiaid lleyg fyddai’n rheoli’r rhan fwyaf o faenorau Sistersaidd eraill yng Nghymru. Ar adeg diddymu abaty Ystrad Fflur ym 1539, roedd maenor Cwmteuddwr yn anarferol oherwydd mai mynach-feili oedd yn ei rheoli. Roedd arferiad blynyddol landlordiaid y plwyf o rentu eu diadelloedd i denantiaid eu tir i bob pwrpas yn drefniant anarferol arall, a oedd yn amlwg yn digwydd yng Nghwmteuddwr ar ddechrau’r 19eg ganrif, arfer yr awgrymid y gallai ei fod wedi bod yn un mynachaidd. Mae sylwadau John Leland yng nghylch Elenydd ar ddiwedd y 1530au bod ‘everi man there about puttith in bestes, as many a they wylle, without paying of mony’ yn peri i ni amau pa mor llym mewn gwirionedd oedd y rheolaeth ar diroedd mynachlogydd yng Nghwmteuddwr ar adeg diddymiad y mynachlogydd.

 

Chwalu’r Faenor Fynachaidd

 

Parhaodd y faenor yn nwylo mynaich abaty Ystrad Fflur nes ei ddiddymu ym 1539 yn ystod teyrnasiad Harri’r VIII, pan feddiannodd y goron yr holl stadau a oedd yn perthyn iddi. Arhosodd y tir ym meddiant y goron am nifer o flynyddoedd, gyda nifer o garfanau yn ei brydlesu nes i Syr James Croft o Gastell Croft a Thomas Wigmore o Shobdon ei brynu a’i werthu fesul llain. Gellir dysgu llawer o faint y llainddaliadau mynachaidd, a’r daliadau a oedd eisoes yn bodoli a natur eu heconomi, o’r gweithredoedd a’r prydlesau amrywiol a oedd yn ymwneud â rhannu’r stad yn ddiweddarach yn y 16eg ganrif. Mae rhai o’r dogfennau hyn yn cyfeirio yn ôl at y trefniadau tenantiaeth roedd gan abad Ystrad Fflur ar waith yn ystod degawd cyntaf y 16eg ganrif.

 

Llechfeddiannau ar Rostir Elenydd

Mae’n debyg bod llawer o’r llechfeddiannau unigol ar rostir Elenydd mewn bodolaeth yno eisoes erbyn yr 16eg ganrif, a nifer ohonynt yn deillio, o bosib, o rai canrifoedd ynghynt. Erbyn heddiw, ynysoedd o gaeau amgaeedig rhwng 3 metr a 35 hectar mewn maint sy’n cynrychioli’r llechfeddiannau hyn yn y rhostir. Gwelir y rhain dim ond ar rannau mwy hygyrch o’r rhostir sy’n fwy ffafriol o ran amaethu, ar ymylon y rhostir, neu o fewn cyrraedd hawdd o gymoedd Elan a Chlaerwen, ar lethrau deheuol neu ddwyreiniol cysgodol cymoedd y nentydd. Ar y dechrau, sefydlwyd llechfeddiannau o’r math hyn gydag awdurdod y llysoedd maenorol neu hebddo, ac yn aml fe fyddai llechfeddiannau ar y comin yn cael eu rheoleiddio trwy osod dirwyon blynyddol a droswyd yn rhenti neu weithiau yn ddaliadaethau rhydd-ddaliadol.

Mae’n bosibl fod llawer o’r aneddiadau hyn ar yr ucheldiroedd wedi deillio o’r cyfnod canoloesol fel hafodydd dros dro, lle byddai rhywun yn preswylio o fis mai tan fis Awst neu fis Medi, er mwyn gallu defnyddio’r porfeydd ucheldirol gryn bellter o fferm y faenor. Yn ddiweddarach, byddai rhai ohonynt yn datblygu’n ffermydd parhaol, ac mae cyfran ohonynt wedi goroesi hyd heddiw.

Mae enwau nifer o lechfeddiannau ar Elenydd yn cynnwys yr elfen arwyddocaol lluest, sy’n ymddangos fel pe byddai’n rhannu’r un ystyr â hafod yn lleol. Gair ydyw sy’n disgrifio annedd dros dro o ryw fath. Enwau dwy fferm gyfagos â’i gilydd sydd bellach wedi’u gadael yn segur, ar yr ucheldiroedd sydd i’r gorllewin o gronfa ddwr Graig Goch, er enghraifft, yw Lluest-aber-caethon a Lluest-Calettwr, sef y nentydd gerllaw. Enwir sawl fferm ucheldirol arall ar ôl nant neu afon, megis Aberglanhirin, Abergwngu a Chlaerwen. Mae’r elfen hafod yn digwydd mewn enwau lleoedd, fel yng Nghwm yr Hafod ac Esgairhafod, gan arwyddocau nodweddion topograffigol sy’n gysylltiedig â hafodydd. Mae’r elfen ty yn awgrymu aneddiadau ucheldirol eraill, er enghraifft yn yr enwau Esgair y Ty a Gwar-y-ty.

Aerial view of the stone enclosures and derelict house site in the Rhiwnant valley, south of the Claerwen. Photo: CPAT 03-c-0675.
Golygfa o’r awyr o’r llociau cerrig a safle ty adfeiliedig yng nghwm Rhiwnant, i’r de o gronfa ddwr Claerwen. Llun: CPAT 03-c-0675.

Y tueddiad yw i’r llechfeddiannau sydd wedi’u henwi, a’r ffermydd ucheldirol fod yn rhai yr oedd pobl yn dal i fyw ynddynt pan gynhyrchwyd mapiau manwl-gywir cyntaf yr ardal ar ddiwedd y 19eg ganrif. Ceir amrediad o dystiolaeth archeolegol bod llawer mwy o hafodydd ac anheddau tebyg eraill a adawyd yn segur cyn i’r mapiau manwl cyntaf o’r ardal gael eu cynhyrchu. Ychydig o safleoedd yn unig sy’n bodoli o’r lleoedd hyn, os oes rhai o gwbl, ac mae’r dyddio yn aml yn annelwig oherwydd bod adeiladau diweddarach wedi’u codi ar safleoedd hen adeiladau mewn ambell achos. Ymddengys mai nifer o lwyfannau o siâp petryal, ar ongl sgwâr i’r llethr, lle byddai adeiladau o bren yn cael eu codi oedd adeiladau cynharaf y cyfnod hwn ar Elenydd. Ambell waith, fel yn achos llwyfan ar Graig y Lluest, mae olion waliau cerrig i’w gweld, ac mae’n ymddangos bod y rhain yn cynrychioli waliau siliau isel y codwyd adeiladau pren arnynt.

Mae’r ddogfennaeth gyntaf o nifer o hafodydd ar Elenydd yn dyddio o’r 16eg ganrif, ond mae’n bosibl eu bod yn deillio o gyfnod llawer cynharach. Mae’r brydles a ddechreuodd yn 1579 ar gyfer daliad a thiroedd Cwm Coel, [sydd bellach ar ymyl orllewinol cronfa ddwr Garreg-ddu], yn nodweddiadol o brydlesau’r cyfnod hwn. Byddai’r tir yn cael ei brydlesu i gadw 40 o wartheg a 100 o ddefaid arno. Cyfeirir at yr arferiad hynafol o symud i hafodydd dros dro yn yr ucheldiroedd dros yr haf er mwyn manteisio ar y porfeydd ucheldirol mewn prydles a luniwyd ym 1585 am ‘messuage or tenement called Y Brith come [cwm] Ycha, together with one somer house, called Y Clettwr mawr, sometime parcel’, sy’n sôn, mae’n amlwg, am dy parhaol ar y tir is yng nghwm Nant Brithgwm, ar ochr orllewinol cronfa ddwr Penygarreg, a hafod, oedd mae’n debyg ar safle’r fferm ucheldirol adfeiliedig yn Lluest-Calettwr, sydd ar y bryniau rhyw 3 chilometr i’r gogledd-orllewin, ger pen Nant Cletwr. Ar ddiwedd y 1530au, mae John Leland yn cofnodi iddo weld ‘two veri poore cottagis for somer dayres [llaethdai’r haf]’ na ddaethpwyd ar eu traws hyd yma, a oedd yn ddiamau yn cynhyrchu cynhyrchion llaeth a fyddai’n cael eu gwerthu ym marchnadoedd y pentrefi cyfagos.

Ffermydd O’r Canol Oesoedd Hwyr a’r Cyfnod Ôl-ganoloesol Cynnar Mae’n debygol bod llawer o’r adeiladau pren cynnar wedi diflannu’n llwyr, er y gallai hanes yr hen ffermdy yng Nghiloerwynt fod yn nodweddiadol o lawer o’r tyddynnod canoloesol hwyr llai yn yr ardal. Safai’r ty mewn llechfeddiant yng nghwm Claerwen a gofnodwyd am y tro cyntaf mewn dogfen yn dyddio o 1568 lle gelwir y perchennog yn iwmon. Efallai mai neuadd un-cowlas nenfforchog oedd y ty gwreiddiol pan godwyd ef. (Symudwyd hwn i Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan ym 1955 a’i ddisodli gan fyngalo newydd.) Yn sgîl dyddio trwy gyfrwng cyfrif y cylchoedd yn y pren, gwelwyd bod hwn wedi’i godi tua 1476, er na wyddys i sicrwydd a oedd y muriau allanol gwreiddiol yn rhai pren ynteu’n rhai cerrig. Yn ddiweddarach, roedd yr adeilad yn dy hir un llawr gydag ystafell fyw ac aelwyd ar un pen, a llety i’r gwartheg, y lloi a’r ceffylau ar y pen arall. 1734 oedd y dyddiad ar y linter ac efallai bod yr adeilad hwn yn adlewyrchu ffurf yr un a godwyd yn y 15fed ganrif.

Daeth carreg yn fwy poblogaidd o bosibl o ddiwedd y 16eg ganrif ymlaen. Mae’n ymddangos fod tai hirion eraill o gerrig wedi’u codi ar yr ucheldir yn ystod y cyfnod o ddiwedd y 16eg ganrif i ddechrau’r 18fed, unwaith eto gydag ystafelloedd byw ar y naill ben a llety i’r anifeiliaid ar y pen arall. Roedd pobl yn byw mewn nifer o’r rhain, megis Bryn Melys, Lluest fach (Llwst-fach), a Phenglaneinon hyd ddiwedd y 19eg a dechrau’r 20fed ganrif pan adawyd hwy yn segur. Cafwyd y sylwadau craff hyn gan y Parch. R.W. Banks yn 1880 :

 

‘the site of the old enclosure, as the names show, was generally selected by the side of one of the brooks, which run from the higher ground, and feed the rivers of the district, with a view to turn out a flock of sheep on the soundest portion of the extensive pasturages which the wastes afford, and at the same time obtain shelter from the steep hill sides. Rude, yet substantial dwellings, constructed of the large schistous flagstones of the district, with a chimney shaft of some pretensions . . . still in many instances remain, and wear the appearance of buildings which may have existed in the sixteenth century.’

Fel Ciloerwynt, roedd llawer o’r ffermydd iseldirol a’r caeau o’u hamgylch, a welir ar fapiau o ddiwedd y 19eg ganrif, eisoes yn bodoli erbyn diwedd y 15fed ganrif a dechrau’r 16eg. Y tro cyntaf y ceir cofnod o’r plasty diweddarach o’r 18fed a’r 19eg ganrif yn Nantgwyllt yng nghwm Claerwen er enghraifft, dywedir mai daliad ‘Y nauntgwyllt’ ydyw mewn prydles sy’n dyddio o 1568. Daw’r enw o’r nant gerllaw. Soniwyd am bedair fferm gyfagos yn y cwm ac mewn gweithred ddyddiedig 10 Hydref 1579 a ddefnyddiwyd gan berchnogion Maenor Cwmteuddwr ar y pryd, Syr James Croft a Thomas Wigmore yswain i roi ‘Aber Nant Guilth’ (Nantgwyllt), Aber Elan, ‘Pen Glan Eignon’ (Penglaneinon) a ‘y Kayhayth’ (Cae-haidd) am £110 a rhent blynyddol o 6s 8c i Howell ap John ap Howell, bonheddwr.

Stone longhouse at Llannerch-y-cawr in the Claerwen valley. Photo: CPAT 1538.20.
Ty hir o garreg yn Llannerch-y-cawr yng nghwm Claerwen. Llun: CPAT 1538.20.

Mae’n bosibl fod y ty hir sydd wedi goroesi yn Llannerch-y-cawr yng nghwm Claerwen, sydd bellach yn eiddo i Ymddiriedolaeth Cwm Elan, yn fwy nodweddiadol o’r ffermydd iseldirol helaethach o ddiwedd y 15fed a dechrau’r 16eg ganrif a oedd yn perthyn i ddosbarth bonedd a dyfodd ar ddiwedd y canol oesoedd. Newidiwyd y ty hir hwn o garreg yn y 17eg ganrif a chanrifoedd diweddarach o neuadd dau gowlas nenffyrchog o ddiwedd y 15fed i ddechrau’r 16eg gydag aelwyd agored ganolog a muriau allanol o bren ar blatfform i fyny ac i lawr llethr y bryn. Roedd cyfosodiad yr ystafelloedd byw ar ben uchaf y ty a’r beudy ar y pen isaf yn un o nodweddion mwyaf unigryw y ty hir, ac mae’n nodweddiadol o ffermydd gwartheg yr ardal ar ddiwedd y Canol Oesoedd a dechrau’r cyfnod Ôl Ganoloesol.. Gwyddys am neuadd cowlas-sengl llai o fath tebyg yn Nannerth-ganol yn nyffryn Gwy, ychydig y tu allan i’r ardal nodwedd. Mae cyfrif y cylchoedd yn y pren wedi dangos mai 1555/56 yw dyddiad hon. Mae’n debygol fod y ffermdy, sydd â beudy ar un pen iddo unwaith eto, yn fwy nodweddiadol o ffermydd bychain yn yr ardal o’r 15fed a’r 16eg ganrif ymlaen. Mae Nannerth Ffwrdd (ychydig y tu allan i’r ardal nodwedd) a Thy’n y waun, i’r gorllewin o Raeadr ymhlith y ffermydd eraill sydd ar y ffurf linellol hon. Mae’n bosibl fod y fferm fechan yng Nghnwch, i’r de o argae Gaban-coch, yn enghraifft o gynllun nodweddiadol arall, un hwyrach mae’n debyg, lle bydd casgliad anffurfiol o adeiladau bychain o amgylch buarth.

 

Twf y Stadau Bonedd yn y Cyfnod Ôl-Ganoloesol Cynnar

Arweiniodd chwalu’r faenor fynachaidd ar ddiwedd y 16eg ganrif at nifer o stadau bonedd a fyddai’n tra-arglwyddiaethu ar hanes yr ardal yn y 18fed a’r 19eg ganrif. Ym 1579/80 roedd teulu Howell o Nantgwyllt wrthi’n prynu tir lleol, gan gynnwys ‘Groy gwonyon’ (Mae Gro Hill ar ochr ddwyreiniol y cwm), a ‘talke y rose y gelyne’ (saif Rhosygelynnen i’r gorllewin) sef bryniau caeedig, mae’n debyg, o fewn cilometr o Nantgwyllt, ar ymylon y rhostir. Ym 1581 fe werthodd Aber Elan a Phenglaneinon, er ym 1585 prynodd dir ymhellach i ffwrdd, gan gynnwys ‘Dolfola’ (Dol-falau, fferm 2.8 cilometr i ffwrdd yng nghwm Elan, sydd bellach dan ddyfroedd cronfa ddwr Garreg-ddu) a ‘Blaenllyngwynllyn’ (fferm ger Gwynllyn, tua 7 cilometr i’r gogledd-ddwyrain), a daeth llawer o’r tir yn y fan hon a mannau eraill dan denantiaeth ffermwyr eraill. Erbyn adeg ei farwolaeth ym 1597 roedd yn berchen ar lawer o dir a melinau yn Sir Faesyfed a gogledd Sir Frycheiniog ac roedd ganddo ddwsin o ffermydd yn Llanafan Fawr, deg yn Llanwrthwl yn Sir Frycheiniog, a thros ugain eiddo yng Nghwmteuddwr. Canodd y bardd toreithiog a’r achwr Lewys Dwnn farwnad iddo. Daeth ei fab hynaf yn Uchel Siryf Sir Faesyfed. Tarddodd llawer o’i gyfoeth o’i fuchesi gwartheg a’i breiddiau o ddefaid, a seiliwyd gwerth masnachol yr olaf ar wlân, ceffylau a pheth grawn yn bennaf . Yn y 1670au, ceir cyfeiriad at ei ddisgynnydd, Howell Powell yn ‘Fonheddwr, o Nantgwyllt’.

 

Twf y Boblogaeth yn ystod y 16eg a’r 17eg ganrif

Parhaodd y boblogaeth i ehangu yn ystod y 16eg a’r 17eg ganrif. Parhawyd i greu daliadau newydd o’r rhostir ymhell i’r 17eg ganrif, os nad yn hwyrach. Ym 1674, er enghraifft, rhoddwyd grant am ‘that new cottage in Clarwen [Claerwen], then lately built. . . upon Y Eskyrne y Guion [?Esgair y Guon, nad yw’n arbennig o agos], being a common or waste within the lordship of the Grange, with all inclosures thereto, and with liberty to inclose on the same common, not exceeding sixteen acres’. Er gwaethaf hyn, fodd bynnag, ni fyddai natur economi amaethyddol yr ardal a oedd wedi dod i’r amlwg yn y cyfnod canoloesol hwyr yn newid llawer hyd ganol y 18fed ganrif. Mewn cyferbyniad â thai’r bonheddwyr, fodd bynnag, mae’n debyg bod llawer teulu wedi goroesi ar bron ddim. Mae cofnodion trethu a elwir yn asesiad Cymhorthdal Lleyg ar gyfer Cwm Elan ym 1544 yn awgrymu bod yno tua 21 o aelwydydd trethadwy, er bod yno rai aelwydydd tlawd hefyd na aseswyd mohonynt. Rhestrir ddwywaith cymaint o aelwydydd â hyn yn ardal Dyffryn Elan yng nghofnodion Treth Aelwyd 1670. Roedd nifer y teuluoedd ar bob aelwyd yn awgrymu bod yr ardal yn un o’r rhai lleiaf ffyniannus mewn sir a oedd eisoes yn dlawd o’i chymharu â’i chymdogion.

 

Torri Mawn a Hawliau Eraill ar Dir Comin

Byddai ffermydd a daliadau Elenydd a chwm Elan yn y 16eg a’r 17eg ganrif wedi bod â hawliau ar dir comin ers blynyddoedd maith, yn deillio o faenor Cwmteuddwr a maenor hynafol Buellt. Byddai’r rhain wedi cynnwys hawliau pori defaid, gwartheg a merlod a hawliau i dorri mawn a chasglu coed ar gyfer tanwydd neu i atgyweirio (cytawl). Nid oes sicrwydd ynghylch pryd yn hollol y dechreuwyd torri’r mawn ar y rhostir, ond mae’n debyg na ddaeth yn ffynhonnell tanwydd i’r ty nes i’r holl goed a oedd ar gael yn rhwydd ddiflannu. Mae tystiolaeth o dorri mawn i’w weld mewn sawl lle ar Elenydd, er enghraifft ar War y Ty ar ochr ogleddol y rhostir, ar Waun Lydan, i’r de o argae Claerwen, a rhwng Allt Goch ac Y Gamriw, i’r dwyrain o gronfa ddwr Caban-coch, ac yn aml mae hyn i’w weld amlycaf o’r awyr. Mae’n bosibl fod gwaith maes wedi dangos y llwyfannau artiffisial a ddefnyddid i sychu’r mawn mewn ambell achos, gan gynnwys y rhai ar Ros Saeth-maen. Oherwydd hynny, y tomenni mawn mwyaf hygyrch a basaf a ddefnyddid gan amlaf er mwyn lleihau’r baich o’i gludo o’r bryniau. Mewn ambell ardal, mae’n amlwg fod gan bob fferm neu grwp o ffermydd cyfagos ei mawnfa ei hun gyda thrac yn arwain ati. Mae’n rhaid fod y rhain wedi’u defnyddio dros gyfnod o nifer o flynyddoedd. Dywedodd y gwyddonydd Michael Faraday wrth groesi’r rhostir ar y ffordd dyrpeg o Raeadr i Aberystwyth tua 1820 bod ‘a turfcutter or a peat digger here and there drew the eye for want of a better object’. Meddai Jonathan Williams, wrth ysgrifennu yn y degawd cynt bod y mynyddoedd ym mhlwyf Cwmteuddwr yn

 

‘contain turbaries which supply the neighbourhood with the most excellent peat. This kind of fuel when dried by the joint action of the sun and the wind becomes a black and hard substance, make a cheerful fire, reflects great head, and is little inferior to coal. A peat pit is three feet deep and more, and often contains branches and trunks of trees’.

Roedd torri mawn wedi dod i ben, fwy neu lai, yn ystod ail hanner y 19eg ganrif, gan ei fod yn gorfod cystadlu yn uniongyrchol â’r glo a ddeuai o’r depos yn Rhaeadr ar ôl agor Rheilffordd Canolbarth Cymru ym 1864.

 

Melinau Yd, Pandai a Melinau Llifio ac Odynnau Sychu Grawn

Mae’n debyg i rawn, gwlân a phren gael eu prosesu yn lleol hyd at ddiwedd y 17eg ganrif, gyda phwer dwr. Yn nogfen prydles fferm Ciloerwynt yng ngwm Claerwen ym 1569 y ceir un o’r cyfeiriadau cyntaf erioed at yr yd lleol. Yn ôl arferiad y cyfnod, gofynnwyd i denant Ciloerwynt fynd ag unrhyw yd yr oedd wedi’i dyfu i gael ei falu ym melin ei landlord. Nid oes sicrwydd ynghylch safle’r felin, ond mae’n bosibl mai’r un felin yng Nghwmteuddwr oedd hi â honno a oedd yn perthyn i deulu Howell Nantgwyllt ym 1597. Mae’n bosibl mai dyma safle’r hen felin ddwr i falu yd, sef Melin Gwynllyn, a elwir bellach yn Upper Mill ar nant Gwynllyn, i’r gogledd-orllewin o Raeadr. Mae’n ymddangos ei bod ar waith cyn 1670 tan oddeutu 1900 pan roedd yn cynnwys adeilad pren tri llawr. Melin wlân oedd Melin Gwynllyn i ddechrau, a sonnir amdani gyntaf ym 1710. Mae adeilad melin, wedi’i throsi, o’r enw Walk Mill, ychydig i lawr y nant yn enghraifft arall o felin wlân ond ni ysgrifennwyd rhyw lawer amdani. Roedd melin wlân arall, strwythur carreg o’r enw Fron Factory, ar gyfer cribo neu bannu, ar waith tua hanner cilometr i fyny’r nant hyd ryw 1840. Mae olion y ffrwd yn dal i’w gweld.

Roedd ail felin ddwr i falu yd, sef Gro Mill, a oedd yn perthyn i stad Nantgwyllt, ar waith o 1806 nes i ddyfroedd cronfa ddwr Caban-coch ei boddi ym 1892. Safai’r felin ychydig islaw cymer afonydd Elan a Chlaerwen, a deuai ei grym o ffrwd a dynnwyd o afon Elan i’r de o blasty Cwm Elan. Ar un adeg, roedd odyn sychu grawn wedi’i gysylltu â’r felin, a oedd hefyd yn gweithredu fel melin lifio.

Mae cymhlyg y felin lifio yr oedd stad Cwm Elan yn ei redeg hyd yn ddiweddar ar ymyl orllewinol cronfa ddwr Caban-coch, ochr yn ochr â Nantgwyllt ac ychydig i’r de o hen blasty Nantgwyllt, yn dyddio o tua’r 1920au, ac mae’n cynnwys cymhlyg o adeiladau coediog, a rhai o frics a deunyddiau rhychiog, ac olion craen godi ar draciau, sydd bellach yn segur. Mae tystiolaeth enwau lleoedd yn awgrymu’r odynnau sychu grawn lleol a oedd, mae’n amlwg, ar waith erbyn o leiaf y 17eg ganrif, er na nodwyd unrhyw strwythurau sydd wedi goroesi. Mae gweithred o ddiwedd y 17eg ganrif sy’n ymwneud â Rhydoldog, er enghraifft, yn sôn am ‘Kaer odin’, enw cae sydd yn deillio o’r Gymraeg cae’r odin sydd, mae’n debyg, yn cyfeirio at odyn sychu grawn.

 

Chwareli Cerrig Cynharach

Gwelir sawl chwarel gerrig fach yma ac acw, yn enwedig o amgylch ymylon ucheldiroedd Elenydd, er enghraifft ger Rhydoldog, ar Dremblyd ac ar y bryniau uwchlaw Llannerch-y-cawr a oedd ar waith o ddiwedd y 16eg ganrif ymlaen ar gyfer codi adeiladau a waliau o gerrig. Mae’n bosibl fod y chwarel fechan yn Waun Geufron wedi cyflenwi’r deunydd ar gyfer ffordd dyrpeg Rhaeadr – Aberystwyth. Sonnir isod am chwareli eraill mwy yng Nghigfran a Chnwch, a agorwyd ar gyfer adeiladu’r cronfeydd dwr.

Stadau â Thir a Gwelliannau Amaethyddol yn y 18fed a’r 19eg Ganrif

Stadau â thir a thai bonedd a ymgododd yn ystod y canrifoedd blaenorol, yn enwedig y tai bonedd a oedd wedi’u hadeiladu yn Nantgwyllt a Chwm Elan, wnaeth dra-arglwyddiaethu ar hanes cwm Elan yn y 18fed a’r 19eg ganrif.

Roedd stad Nantgwyllt wedi symud o ddwylo’r teulu Howells (oedd erbyn hyn wedi ei Seisnigeiddio yn Powells) i ddwylo teuluoedd Lewis a Lewis Lloyd ac wedi parhau i ehangu. Gwelodd y 18fed ganrif ychwanegu eiddo megis Cnwch, Cwm Esgob a Pherthi Llwydion (Perthyllwydion), ac roedd eglwys fach berchenogol wedi’i hadeiladu ar gyfer stad Nantgwyllt. Byddai nifer o’r stadau hyn yn cael eu prynu a’u datblygu fel buddsoddiadau gan ‘ffermwyr hamdden’ nad oedd ganddynt gysylltiadau blaenorol â’r ardal. Prynwyd Maenor Cwmteuddwr gan Mr Thomas Grove o Fern House, Donhead St Andrew, Wiltshire ym 1792 oddi wrth John Jones o’r Hafod. Disgrifiwyd Grove gan ei gyfoeswr, yr hanesydd o Sir Faesyfed, y Parchedig Jonathan Williams, fel ‘a Wiltshire gentleman, who purchased 10,000 almost worthless acres, which he is now converting into a paradise’. Yn ddiamau roedd y stad yn ddeniadol ar lawer ystyr: ellid gwneud Cwm Elan yn breswylfa haf deniadol, i ffwrdd o brif blasty’r teulu yng ngorllewin Wiltshire; roedd y golygfeydd gwyllt o’i amgylch, yn fynyddoedd ac yn raeadrau wedi dod yn ffasiynol; roedd yn cynnig her o ran amaethyddiaeth, sef cyflwyno polisïau ffermio newydd er mwyn cynyddu cynhyrchiant; ac hefyd yn cynnig cyfleoedd i hela a fyddai’n ddeniadol i heliwr brwd fel Grove. Hefyd roedd rhagolygon y byddai refeniw yn dod yn sgîl mwyngloddio’r plwm, a oedd yn ymddangos yn broffidiol, dros y bryn yng Nghwmystwyth.

Yn ystod blynyddoedd cynnar y 19eg ganrif, disgrifia Jonathan Williams Cwm Elan fel hyn:

 

‘situated on the left bank of the Elan, in a narrow vale, surrounded by the hills, some of which are inclosed and cultivated, and studded with convenient farm-houses seated at proper distances, whilst others are entirely covered with groves of oak from their summit down to the waters-edge’.

Yn wir, roedd y golygfeydd mor drawiadol fel bod Jonathan Williams ei hun yn ystyried ‘nor is there another parish in this county or perhaps in the Principality itself, that can exhibit more romantic scenes of Nature than those well wooded, watered, and rocky yet fertile districts’.

Crybwyllir y gwelliannau amaethyddol yr oedd landlordiaid megis Thomas Grove yn eu cyflwyno yn y gerdd mesur moel 350 llinell o hyd o’r enw ‘Coombe-Ellen’ (Cwm Elan) a gyhoeddwyd ym 1798 gan William Lisle Bowles. Roedd y gerdd yn enghraifft o gerddi’r cyfnod rhamantaidd diwedd y ddeunawfed ganrif a dechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yng ngeiriau Desmond Hawkins, ‘the poem reaches a climax when the poet ends his contemplation of the awesome solitude and pristine beauty of untouched Nature with the thought that human cultivation can further enhance the scene’. Mae’n debyg mai cyfeiriad oedd hyn at y cylchdro âr newydd a’r meillion yr oedd ffermwyr a thirfeddianwyr blaengar yn eu cyflwyno i wella amaethu yn y cyfnod:

 

. . . . . . . . . ‘here I bid farewell
To Fancy’s fading pictures, and farewell
The ideal spirit that abides unseen
‘Mid rocks, and woods and solitudes. I hail
Rather the steps of Culture, that ascend
The precipice’s side. She bids the wild
Bloom, and adorns with beauty not its own
The ridged mountain’s tract; she speaks, and lo!
The yellow harvest nods upon the slope;
And through the dark and matted moss upshoots
The bursting clover, smiling in the sun.
These are thy offspring, Culture!’

 

Daeth Thomas Grove o Gwm Elan yn un o ohebwyr lleol Walter Davies yn ei adroddiad ar Amaethyddiaeth ac Economi Cartref De Cymru, a gyhoeddwyd ym 1815 ar ran y Bwrdd Amaeth. Yn wir, ar ymweliad cyntaf Davies â Sir Faesyfed ym 1802, fe ddaeth i’r Sir trwy Gwmystwyth gan deithio ar ei union i Gwm Elan, lle disgrifiodd Grove fel ‘an improver on the Wiltshire system’, ac yna i stadau Nantgwyllt a Noyadd cyn mynd yn ei flaen i Raeadr. Mae nodiadau Davies yn cyfeirio at rai o’r gwelliannau yr oedd Grove wedi eu gwneud i ffermio defaid, gan gynnwys corlannu ei braidd a chroesi bridiau cynhenid â defaid Southdown. Nododd hefyd fod mwyn plwm wedi’i ddarganfod a’i gloddio ar stad Grove. Trosglwyddwyd yr eiddo i’w fab, Thomas Grove yr ieuaf cyn tua 1809 pan olynodd ei dad yn Uchel Siryf Sir Faesyfed. Roedd y mab, fel ei dad o’i flaen, wedi parhau i aros yng Nghwm Elan am ryw dri mis bob haf, ac roedd wedi parhau hefyd â’r gwelliannau amaethyddol yr oedd ei dad wedi rhoi cychwyn arnynt. Ym 1811, nododd Walter Davies gyda rhywfaint o ryddhad nad oedd sail i’r sïon fod stad Cwm Elan wedi dirywio ers i’r mab gymryd yr awenau.

Mae’n bosibl fod yr arfer a gyflwynodd Grove o gorlannu’r defaid ar ei stad ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg wedi golygu bod angen cau ambell ardal benodol o’r rhostir ynghyd â’r cnydau a dyfwyd i’r anifeiliaid eu pori, gan gynnwys y meillion yr oedd Bowles yn cyfeirio atynt, gan y byddai hyn o fudd trwy wella maeth y da byw, yn rheoli bridio ac yn gwella ffrwythlondeb y tir trwy wrteithio. Roedd y gwelliannau hyn a rhai eraill hefyd wedi dod yn gyffredin erbyn diwedd y 19eg ganrif. Nododd y Parchedig R. W. Banks, wrth iddo ysgrifennu am Gwmteuddwr ym 1880, bod ‘the practice has been for each tenant to secure a distinct sheep walk and maintain his rights on it by keeping a strong flock, with as little change of sheep as may be’, er bod cydgymysgu diadelloedd yn gyfreithlon yn fwy cyffredin. Yn negawd cyntaf y 19eg ganrif, canmolodd Jonathan Williams ansawdd yr anifeiliaid a gynhyrchwyd gan y ffermydd lleol:

 

‘many boast of a produce and stock scarcely to be surpassed for quality and usefulness in any part of the county. The sheep of this parish, which depasture upon the hills the whole of the year, are second to none in the Principality of Wales for symmetry of form, and a sound constitution; and the flavour and delicacy of their flesh are not surpassed by English venison, whilst their wool is admired for its fineness and sought for by the manufacturers of cloth’.

Hyd at ganol y 18fed ganrif, mae’n debyg i wlân yr ardal gael ei brosesu’n lleol, ond ar ôl hynny mae’n debyg ei fod yn cyflenwi’r diwydiant gwlân cynyddol yn Y Drenewydd a’r Trallwng yn nyffryn Hafren yn Sir Drefaldwyn.

Cedwid y rhan fwyaf o’r gwartheg yng Nghwmteuddwr yn y cyfnod hwn i ateb y galw am gynnyrch llaeth ac, yn arwyddocaol, fe estynnwyd nifer sylweddol o ffermdai megis Ciloerwynt yn y 18fed ganrif i gynnwys llaethdy ar wahân. Cydnabu Jonathan Williams bod ‘small black and brindled cows, the aboriginals of this part of the county . . have of late years undergone great improvement’ trwy eu croesi â bridiau Sir Amwythig a Swydd Stafford, ond beirniadai gyflwyno bridiau bîff megis gwartheg Sir Henffordd. Er bod awduron cyfoes eraill yn anghytuno, ystyriai bod y rhain yn ‘ill adapted to contend with the frequent inclemency of the weather, or to thrive with a scanty herbage, or in short to fulfil those purposes to which the climate of this county and the nature of the soil are more peculiarly adapted’.

Yn ystod y cyfnod o’r 18fed i’r 20fed ganrif gwelwyd pwyslais cynyddol ledled Cymru ar ffermio defaid a dirywiad ym mhwysigrwydd ffermydd gwartheg iseldirol a llaethdai ucheldirol fel ei gilydd. Aeth y tai hirion â beudai’n segur, a disodlwyd rhai ohonynt gan ffermdai a siediau gwartheg ar wahân. Gadawyd yr hafodydd a’r lluestau mwy digroeso, ac roedd codi corlannau cerrig, yn nodweddu’r dulliau o reoli’r praidd ar rostir Elenydd. Roedd llawer o’r rhain wedi’u rhannu yn wahanol lociau. Codwyd cysgodfeydd defaid yma ac acw, a chytiau a chysgodfeydd o gerrig sychion i’r bugeiliaid hefyd, rhai ohonynt wedi’u hadeiladu ar adfeilion yr hafdai cynharach. Byddai’r cneifio’n digwydd ar y ffermydd iseldirol yn y gwanwyn, ac roedd gan rai o’r ffermydd mawr a chanolfannau’r ystadau megis Nantgwyllt ysguboriau lle byddai’r gwlân yn cael ei storio cyn cael ei werthu i’r delwyr. Mae’n bosibl fod hwn ymhlith yr adeiladau a ddangosir mewn llun sy’n dangos cneifio yn llyfr Eustace Tickell, The Vale of Nantgwilt, a gyhoeddwyd ym 1894.

 

 

Planhigfeydd Coetirol Cynnar

Mae mapiau’r Arolwg Ordnans o ddiwedd y 19eg ganrif yn nodi nifer o blanhigfeydd cymharol fychain ar ochrau cymoedd Claerwen ac Elan a oedd yn ddiamau ymhlith buddsoddiadau landlordiaid a thenantiaid diwedd y 18fed ganrif ymlaen. Mae traethawd Eustace Tickell o 1894, a gyhoeddwyd yn union cyn boddi’r cymoedd, yn disgrifio Nantgwyllt fel rhywle ‘backed by wooded slopes of oak spruce and larch, interspersed with towering groups of Scotch fir’, sydd hefyd i’w gweld yn y lluniau sy’n cyd-fynd â’i draethawd. Mae’n amlwg i rai o’r planhigfeydd hyn fod yn rhai addurniadol.

Hela

Roedd y dirwedd a ddatblygwyd gan rai o dirfeddianwyr pwysicaf yr ardal ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif hefyd yn ystyried helwyr. Ymddengys bod cerdd William Lisle Bowles, y cyfeirir ati uchod yn crybwyll hoffter Thomas Grove o hela:

 

‘All day, along the mountain’s heathy waste,
Booted and strapped, and in rough coat succinct,
His small shrill whistle pendent at his breast,
With dogs and gun, untired the sportsman roams’.

Roedd hela yn orchwyl yr oedd bonheddwyr eraill yr ardal hefyd yn ymddiddori ynddo. Byddai un o feibion y teulu Lewis o Nantgwyllt yn cael ei goffáu yn y gân hela boblogaidd o ddechrau’r 19eg ganrif sef ‘Cŵn Squeir Lewis Nantgwillt’. Nododd Jonathan Williams fod grugieir, y rhywogaeth ddu a’r rhywogaeth goch fel ei gilydd i’w cael ar y rhostir, ac er mai tila oedd yr ymdrech i ddatblygu stad saethu yn yr ardal ar yr adeg dan sylw, mae nifer o garnau saethu i’w gweld ar rostir Elenydd a allai ddyddio o’r cyfnod hwn.

Ffermio Cwningod a Thyfu Cnydau ar yr Ucheldiroedd

Mae’r grwpiau o gwningaroedd artiffisial neu ‘domenni clustog’ ac ardaloedd cefnen a rhych sydd i’w gweld ar rostir Elenydd yn dystiolaeth o arloesi amaethyddol pellach ffermwyr a thirfeddianwyr arloesol megis Thomas Grove a oedd a’u bryd ar gynyddu’r refeniw a ddeuai o’r tir.

Mae grŵp trawiadol o domenni clustog i’w gweld ar Esgair y Tŷ, ychydig i’r gorllewin o Bont ar Elan. Mae nifer o’r tomenni hyd at 40 metr o hyd, 6 metr o led a metr o uchder, ac maent yn dangos bod y landlord neu’r tenant wedi gwneud buddsoddiad sylweddol. Gellir gweld grwpiau pellach o domenni ger fferm Glanhirin a ger fferm Aber Glanhirin tua 1.5 a 3 cilometr ymhellach i’r gorllewin. Gwyddys am ddwy domen bellach ar y cyfrwy rhwng Esgair Dderw a Phenrhiw-wen, yn agosach at Raeadr. Mae cloddiadau mewn mannau eraill wedi dangos bod tomenni yn cael eu codi â thyllau artiffisial i gwningod yn eu hochrau. Byddai’r cwningod yn cael eu difa yn rheolaidd gyda chymorth ffuredau, er mwyn eu gwerthu am eu cig a’u crwyn. Byddai cwningaroedd artiffisial yn cael eu hadeiladu mor gynnar â’r cyfnod canoloesol, ond mae’n ymddangos bod y rhai hyn yn dyddio o gyfnod diweddarach na hynny. Mae crynodiad o grwpiau tebyg o domenni clustog yn Sir Faesyfed ac yn Sir Frycheiniog yn awgrymu y gall eu bod wedi cyflenwi marchnadoedd yn nhrefi diwydiannol de Cymru a’r Mers. Byddai eu lleoliad, ger y ffordd dyrpeg ar draws y rhostir yn golygu bod modd mynd â’r cynnyrch i’r farchnad ynghynt.

Some of the long, low mounds on Esgair y Ty, known as pillow mounds, which represent artificial rabbit warrens. Photo: CPAT 03-c-0640.
Rhai o’r twmpathau hir, isel ar Esgair y Tŷ. Gelwir y rhain yn domenni clustog ac maent yn cynrychioli cwningaroedd artiffisial. Llun: CPAT 03-c-0640.

Ceir enghreifftiau o hen amaethu’r ucheldiroedd mewn nifer o ardaloedd cefnen a rhych ar wahân. Dim ond yn ddiweddar y gwelwyd rhai ohonynt o ganlyniad i archwiliad o’r awyr. Ceir peth o’r rhychau yn yr un ardal yn gyffredinol â’r tomenni clustog, er enghraifft yn achos llethrau deheuol Esgair y Tŷ ac o fewn ardal y llechfeddiant yn Aber Glanhirin. Mae rhychau eraill ar gael ger y llechfeddiant yn Lluest-pen-rhiw ac ar lethrau Moelfryn (ar y bryniau uwchlaw Nannerth), ar Gefn Gwair (i’r gorllewin o gronfa ddŵr Craig Goch), ar Gefn Cwm (i’r dwyrain o gronfa ddŵr Craig Goch) ac mewn ambell le ar Garn Gafallt (i’r de-ddwyrain o Bentref Elan. Mae’r rhychau yn gyffredinol yn weddol isel a chul, hyd at 4 metr mewn uchder a chyn guled â 1.5 metr o led, ac yn bennaf rhwng 300 a 400 metr uwchlaw lefel y môr, ar yr ymyl lle gellid disgwyl gweld olion amaethu neu y tu hwnt i hynny, ac yn bennaf ar y llethrau mwy cysgodol sy’n wynebu’r de.

Nid oes unrhyw sicrwydd bod yr holl rychau yn deillio o’r un cyfnod, ac er y gallai rhai ohonynt ddyddio o’r canol oesoedd neu’r canol oesoedd hwyr, ymddengys yn debygol bod llawer ohonynt os nad pob un yn perthyn i’r un cyfnod arloesi amaethyddol â’r tomenni clustog, sef cyfnod amaethu cymharol fyrhoedlog yn ystod diwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif. Amgaeir peth o’r tir aredig ucheldirol hwn â chloddiau pridd, er nad oes sicrwydd ynghylch sut y byddai’r cnydau’n cael eu hamddiffyn rhag yr anifeiliaid a borai’r rhostir cyfagos. Mae’n arwyddocaol bod fferm Aber Glanhirin yn dal i fod yn berchen ar ysgubor ddyrnu garreg o’r cyfnod hwn pan ddyrnid yr ŷd a dyfid ar y rhychau.

 

 

Tirwedd y caeau

ARoedd amrywiaeth o wahanol fathau o ffiniau i’r caeau wedi datblygu yn nhirwedd yr ardal erbyn diwedd y 19eg ganrif, rhai yn hynafol iawn ac eraill yn fwy diweddar eu gwreiddiau.

Mae’r rhan fwyaf o’r tir iseldirol i’r gorllewin o Raeadr, yng Nghwm Dulas ac yn rhan isaf cymoedd Elan a Chlaerwen yn debygol o fod wedi’i glirio at ddefnydd amaethyddiaeth fugeiliol neu âr yn y fan hon ers y cyfnod cynnar, ac mae wedi arwain at nifer o wahanol fathau o dirwedd o ran y caeau. Mae caeau bychain a chanolig eu maint o siâp afreolaidd yn nodweddu’r rhan fwyaf o’r ardal, ac mae llawer o’r rhain yn deillio o’r cyfnod canoloesol neu cyn hynny, yn aml gyda gwrychoedd isel aml-rywogaeth ac ambell goeden fwy aeddfed yma ac acw.

Cyfunwyd nifer gymharol fychan o gaeau dros y degawdau diwethaf, gyda chloddiau isel o bridd neu linellau ysbeidiol o goed neu lwyni yn rhedeg ar draws cae yn cynrychioli llinellau’r hen wrychoedd. Yn yr ardaloedd isel hyn ceir nifer o ardaloedd cymharol fychan a neilltuol lle ceir patrymau mwy rheolaidd yn y caeau, sy’n awgrymu bod y borfa agored gynt wedi ei hamgáu yn y cyfnod ôl-ganoloesol.

Fel y nodwyd uchod, ymddengys bod posibilrwydd y gallai’r system feysydd reolaidd ar hyd lan ogleddol afon Elan, rhwng Coed-y-mynach a Noyadd, â pheth ohoni’n gysylltiedig â chefnen a rhych o darddiad canoloesol o bosibl, fod yn gysylltiedig naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol â chanolfan y faenor fynachaidd yn Llanfadog.

Mae’r ardaloedd tuag at ochrau coediog y cwm, yn enwedig yng Nghwm Dulas, o amgylch blaen cwm Nant Madog ger Galedrhyd a chyffiniau blaen cymoedd Nant Caethon a Nant Gwynllyn rhwng Rhydoldog a Threheslog wedi’u nodweddu gan gaeau llai, afreolaidd eu siâp sy’n ymddangos fel asartau ac wedi’u creu gan gwympo rhai o’r coed yn y coetir gerllaw. Bodolai patrymau caeau tebyg yng nghymoedd Claerwen ac Elan un tro, er eu bod bellach wedi’u boddi, ac yn yr un modd mae’n debygol eu bod yn cynrychioli ffermydd rhydd-ddaliadol yn y cyfnod canoloesol a chanoloesol hwyr. Mae’r rhan fwyaf o’r caeau hyn yn parhau i gael eu defnyddio, er bod nifer o hen wrychoedd wedi gordyfu ac mae ffensys pyst a gwifrau wedi eu disodli. Mewn rhai mannau mae ffiniau’r caeau o amgylch ymylon yr ucheldiroedd wedi’u gadael i bob pwrpas, maent naill ai wedi gordyfu neu mae eu gwrychoedd yn anghyflawn neu mae grug a rhedyn wedi’u llyncu. Mae conwydd wedi’u plannu dros nifer o gaeau bychain, megis ardal Y Clyn ar ochr ddeheuol Cwm Dulas.

Defnyddir y caeau iseldirol ar gyfer porfa a chnydau porthiant erbyn heddiw, er bod presenoldeb cyfundrefn caeau glaslain, yn enwedig ar y tir mwy llethrog, yn awgrymu bod cyfran uwch o’r tir yn cael ei amaethu ar gyfer grawn neu gnydau eraill yn y canrifoedd a aeth heibio

Mae ucheldiroedd Elenydd wedi parhau i fod yn agored ar wahân i’r ardaloedd cymharol fychain a amgaeir gan lechfeddiannau. Yn gyffredinol, mae gan y rhain graidd o gaeau neu badogau llai a chynharach o amgylch yr annedd, gyda glannau pridd a cherrig y mae’n bosibl ar un adeg eu bod wedi cynnal gwrychoedd neu ffensys pren. Mae’n debyg fod rhai o’r rhain yn dyddio o’r cyfnodau canoloesol neu ôl-ganoloesol cynnar. Estynnwyd rhai o’r daliadau hyn yn aml trwy ychwanegu caeau a gosod ffiniau o ffensys pyst-a-gwifrau o’u hamgylch, sef techneg sy’n dyddio o ail hanner y 19eg ganrif ac sy’n dal i gael ei defnyddio heddiw. Gallai’r defaid fwydo drwy’r flwyddyn ar borfa’r comin ac mae’n debyg bod y caeau amgaeedig o amgylch y ffermydd ucheldirol wedi’u defnyddio i gadw gwartheg dros nos neu i fwrw lloi neu odro, neu i ddiogelu’r cnydau gwair i’w bwydo i’r gwartheg neu’r ceffylau dros y gaeaf.

Mae gan nifer o lechfeddiannau ucheldirol amgaeadau muriog amlochrog dau neu dri hectar o faint, fel yn Lluest-pen-rhiw uwchlaw Nannerth, Blaen Methan yng nghwm Nant Methan, ar lan nant Rhiwnant i’r de o gwm Claerwen, ac yng Ngherrigcwplau, ychydig islaw argae Claerwen. Codwyd y waliau, sydd bellach yn adfeiliedig yn aml, naill ai o slabiau mawr unionsyth (fel yng Ngherrigcwplau) neu o waliau cerrig sychion, neu o gyfuniad o’r ddau, gan ddibynnu ar natur y deunyddiau oedd ar gael yn lleol. Nid yw dyddiad yr amgaeadau muriog hyn wedi’i bennu hyd yma, ond mae’n ymddangos eu bod yn dyddio o ddiwedd y 17eg i ddechrau’r 19eg ganrif.

Mae’n debyg bod y ffiniau muriog achlysurol rhwng ffermydd neu stadau cyfagos yn dyddio o’r un cyfnod, a hefyd y wal sy’n gwahanu’r gwaith mwyn o ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ym mwynglawdd Cwm Elan yn Nant Methan i’r gorllewin o gronfa ddŵr Garreg-ddu oddi wrth y borfa anifeiliaid gyfagos. Gellir gweld buarthau a phadogau muriog ar nifer o ffermydd, fel Cnwch er enghraifft.

Mewn cyferbyniad â llawer o ardaloedd ucheldirol eraill yng Nghymru, mae’n ymddangos mai cymharol ychydig o amgáu a wnaed ar ddiwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif o amgylch ymylon yr ardal ucheldirol, er bod olion amgáu hwyrach i’w gweld, yn y ffensys pyst-a-gwifrau ar Gefn Gwair i’r gorllewin o gronfa ddŵr Craig Goch, er enghraifft, ac ar Ros y Gelynnen a Gurnos, i’r gorllewin o gronfa ddŵr Caban-coch.

Gellir gweld hen ffiniau caeau ar ffurf cloddiau a ffosydd o amgylch traethlin cronfeydd dŵr cwm Elan yn ystod cyfnodau pan fydd lefel y dŵr yn isel. Gellir gweld y rhan fwyaf o’r ffiniau hyn, os nad pob un, ar fapiau’r Arolwg Ordnans o ddiwedd y 19eg ganrif, cyn i’r argaeau hyn gael eu hadeiladu. Disodlwyd rhai o’r ffiniau cynharach hyn â ffensys pyst-a-gwifrau modern sy’n ymestyn i lawr i ddyfroedd y gronfa ddŵr, i atal y stoc rhag crwydro yno yn ystod sychder. .

 

 

Datblygu Ffermdai a Thai Bonedd

Daeth cysylltiad teulu Grove â chwm Elan i ben ym 1815 pan werthodd Thomas Grove yr ieuengaf faenor Cwmteuddwr. Erbyn diwedd y 18fed, teulu Peele o Gwm Elan, teulu Lewis Lloyd o Nantgwyllt, teulu Oliver o Rydoldog, teulu Evans o Noyadd, teulu Prickards o Dderw a theulu Davies o Wardolau oedd yn berchen ar brif stadau’r ardal.

Byddai dau o’r prif dai bonedd yn yr ardal, sef Cwm Elan a Nantgwyllt, yn cael eu dymchwel i wneud lle i gronfeydd dŵr Cwm Elan. Cedwir cofnod o’u golwg a’u lleoliad, fodd bynnag, mewn ffotograffau o’r oes, a brasluniau o ddiwedd y 1890au. Disgrifiwyd Cwm Elan gan Jonathan Williams fel ‘a neat and elegant mansion’. Roedd yn blasty tal, tri llawr o uchder gyda thri bae, ac fe’i codwyd gan Thomas Grove ar ôl 1792. Tŷ isel o gerrig a thalcen â phediment oedd Nantgwyllt ac mae’n debyg iddo gael ei ehangu gan Thomas Lloyd oddeutu 1770. Er gwaethaf y lleoliad prydferth, ystyrid ei fod yn ‘bitterly cold and damp in winter’, gan fod y llethr goediog i’r de o argae Claerwen yn cau’r haul allan yn llwyr. Pan rentiodd Percy Bysshe Shelley y tŷ ym 1812, disgrifiodd ef fel rhywle ‘silent, solitary, old’.

Wrth i gwm Elan gael ei foddi, diflannodd y gerddi hynod a gysylltid â thai bonedd Cwm Elan a Nantgwyllt. Disgrifia Jonathan Williams leoliad Cwm Elan:

 

 

‘The approach to the house is over a handsome stone bridge of one arch leading to a fine verdant lawn, which forms a curve with the course of the river and unites a ‘singular combination’, as a certain elegant author describes the situation, ‘of natural and artificial beauties, of wild scenery, and elegant ornament, of a foaming river, and rugged rocks, perpendicular precipices, and lofty mountains, contrasted with rich meadows and neat enclosures, leaving apparently nothing deficient to complete this singular and picturesque scene.’

Roedd coed addurnedig yn gysylltiedig â Nantgwyllt, a hefyd lawnt a oedd yn ymestyn i lawr at lannau afon Claerwen. Yn wahanol i’r tŷ ei hun, ni ddiddymwyd waliau’r ardd furiog amlochrog y tu ôl i’r tŷ a’r bont dros y ffordd yn Nantgwyllt sy’n dyddio o’r 18fed ganrif pan grëwyd cronfa ddŵr Caban-coch a gellir eu gweld wrth i lefel y dŵr yn y gronfa ddisgyn.

Mae Rhydoldog yn un o nifer fechan o dai bonedd yr ardal o’r 18fed ganrif sydd wedi goroesi. Cafodd ei godi ‘somewhat in the cottage style’ tua chanol y 18fed ganrif, ond yna estynnwyd y tŷ i ddisodli tŷ o’r 17eg ganrif. Codwyd plasty Dderw oddeutu 1870, gan ddisodli tŷ cynharach o frics yn dyddio o ryw 1799, a oedd yn ei dro yn disodli tŷ cynharach, o’r 16eg ganrif o bosibl.

Gorwedda plasty Dderw gyda’i barc bychan mewn lleoliad trawiadol ar lawr y cwm, ger rhigol ddofn Nant Gwynllyn. Ymddengys bod y parc yn dyddio o ryw 1800, ac mae lleiniau o goetir addurnol yn ei gau i mewn i’r gorllewin. Ychwanegwyd arweddion dŵr, gardd lysiau ar ddiwedd y 19eg ganrif a gardd laswellt ffurfiol â therasau yn arddull Celf a Chrefft a pherllan yn ystod yr 1920au.

Ailadeiladwyd neu helaethwyd nifer o ffermdai ucheldirol ac iseldirol yn yr ardal yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg. Mae gan ffermdy yn Lluest-aber-caethon, a godwyd mae’n debyg ar safle tŷ cynharach, ond sydd ei hun bellach yn adfail, garreg yn y simdde â D. E. 1814 CLETTWR arni, i ddangos efallai bod yr adeilad wedi’i godi gan berchennog Lluest Clettwr gerllaw. Codwyd ffermdai newydd yng Ngherrigcwplau, Hirnant a Rhiwnant ar ddiwedd y 19eg ganrif, weithiau o garreg leol gyda brics o amgylch adwyon y ffenestri a’r drysau. Ailadeiladwyd neu disodlwyd llawer o ffermdai yn ystod yr 20fed ganrif. Codwyd byngalo newydd yn lle’r tŷ hir yn Llannerch-y-cawr, dymchwelwyd y ffermdy Fictoraidd yng Ngherrigcwplau a chodi adeilad yn ei le yn fuan ar ôl adeiladu argae Claerwen, a chodwyd ffermdy modern un llawr i ddisodli’r tŷ hir yng Nghiloerwynt, a ddymchwelwyd.

Mwyngloddio Metel ar Ddiwedd y 18fed a’r 19eg Ganrif

Mae’r dirwedd hanesyddol yn cynnwys nifer o dirweddau mwyngloddio penodol o ddiwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif sy’n bwysig o ran hanes tirwedd ardal y dirwedd hanesyddol, er eu bod ar ymylon megis y gwaith mwy helaeth yn rhan uchaf cwm Ystwyth yng ngogledd Ceredigion, ychydig i’r gorllewin, ac yn llai na hwy. Mae’r rhan fwyaf o’r mwyngloddiau yng nghwm Elan wedi’u cuddio yn lled dda, er bod gan y pentyrrau gwastraff mwynau a’r ffrydiau sy’n harneisio pŵer dŵr ar gyfer prosesu mwynau ddylanwad mwy eang ar y dirwedd, mewn mannau.

Ar y dechrau, er gwaethaf ymgais fer i fwyndoddi’r mwynau yn Aberystwyth ar ddiwedd yr 1780au a dechrau’r 1790au, fe fyddai’r rhan fwyaf o’r mwynau o’r mwyngloddiau bychain hyn yn Sir Faesyfed, fel y rhai o Gwmystwyth, yn cael eu cludo dros y mynyddoedd i’r arfordir, i deithio ar long i Lannau Dyfrdwy neu Gastell-nedd neu Abertawe i’w mwyndoddi, er o 1864 ymlaen, roedd modd cludo’r mwynau ar y rheilffordd o Raeadr.

Nid oes unrhyw dystiolaeth o weithfeydd cynhanesyddol neu ganoloesol yn unrhyw un o fwyngloddiau ardal tirwedd hanesyddol Cwm Elan, er ei bod yn debygol bod mwyngloddio cynnar yng Nghwmystwyth wedi dylanwadu ar olwg ac amgylchedd ochr orllewinol Elenydd erbyn diwedd y 16eg ganrif pan gofnododd John Leland fod y mwyngloddio ‘hath destroid the Woddes that sometime grew plentifull thereabout’

Ymddengys bod y mwynglawdd a elwir yn fwynglawdd Cwm Elan yn cynhyrchu mwyn plwm a mwyn sinc, a’i fod wedi’i weithio mewn un cyfnod yn unig. Mae’n darparu’r enghraifft orau o bosibl, o dechnoleg mwyngloddio a chynllunio ym Mhowys yn y 19eg ganrif, gan fod y strwythurau wedi cadw yn hynod o dda. Gorwedda ar lethrau gorllewinol Nant Methan mewn cwm ucheldirol ar ymyl yr ardal rostirol i’r gorllewin o gronfa ddŵr Garreg-ddu, ac mae’n deillio o’r adeg y daethpwyd o hyd i fwyn plwm wrth gloddio ffos draenio ym 1796, yn ddiamau fel rhan o’r gwelliannau amaethyddol ar stad Thomas Grove. Grove oedd yn gyfrifol am y gweithiau cyntaf, a allai fod wedi cynnwys cyfres o doriadau agored bas ar hyd lannau nant sy’n llifo i Nant Methan, ond yn ddiweddarach fe roddodd y gwaith ar brydles. Dechreuodd prif gyfnod y gwaith, pan godwyd y rhan fwyaf o’r adeiladau sydd wedi goroesi, ym 1871, wrth i gwmni Cwm Elan Mining gael ei ffurfio, ac erbyn y flwyddyn ganlynol roedd yn cynnwys ceuffyrdd a siafftiau bas a dwfn. Dechreuodd gwaith y felin brosesu ym 1873 gydag offer a gyflenwyd gan William Thomas o Ffowndri Llanidloes. Roedd tair olwyn ddŵr yn pweru’r gwaith, ac roedd yr olwyn fwyaf yn un ar bymtheg ar hugain o droedfeddi o ddiamedr. Roedd ffrwd 16-cilometr yn pweru’r olwynion dŵr hyn. Gwnaed arolwg manwl o lwybr y ffrwd ar draws rhostir Elenydd o Lyn Cerrigllwydion Isaf, 170 metr yn uwch a dim ond 7 cilometr o bellter fel yr hed y frân, ac fe gymerodd dri mis i’w gwblhau. Arweiniodd sychder a diffyg arian at ymddatodiad y cwmni ym 1874. Ymhlith yr olion gweladwy sydd wedi goroesi mae siafftiau sy’n rhannol wedi cwympo, biniau mwynau i storio’r mwynau, llwyfannau ar gyfer tai cerrig a jigeri, a cherwyn i brosesu mwyn a phwll gwaddodi. Mae adfeilion adeiladau cerrig a oedd yn gysylltiedig â’r mwynglawdd wedi goroesi, gan gynnwys arfdy ffrwydron, gefail a thŷ a swyddfa rheolwr y mwynglawdd, y cyfan ohonynt, yn ôl pob tebyg, wedi’u hadeiladu o garreg a gafwyd o’r chwarel gerrig fechan gerllaw. Ceir hefyd olion tŷ brics coch a godwyd yn y 1890au gan Gorfforaeth Birmingham yn gartref i weithwyr y stad, ar ôl iddi brynu Stad Elan i adeiladu’r cronfeydd dŵr oedd yno eisoes.

Gellir gweld olion ail cymhlyg mwyngloddio a gynhyrchai mwynau copr a phlwm yng nghwm Rhiwnant a Nant y Carw, i’r de o gwm Claerwen, a oedd yn cynnwys nifer o wahanol fwyngloddiau bychain. Gorweddai Dalrhiw ar oleddf ar ochr ddeheuol afon Rhiwnant. Mae ceuffordd a dorrwyd i gyfeiriad y de o lannau’r nant ym 1850 yn nodi lleoliad y gweithfeydd cynnar, ond cafodd suddo siafft a datblygu gwaith prosesu ar y safle wedi hynny fwy o ddylanwad ar y dirwedd. Olwynion dŵr yn tynnu pŵer o’r dŵr a ddeuai o ffrydiau a darddai o afon Rhiwnant oedd yn gyrru’r gwaith prosesu. Ymhlith olion gweladwy’r gwaith mwyngloddio mae siafft a ddefnyddid i godi’r mwyn trwy ddefnyddio dyfais troi fyddai ceffyl yn ei dynnu, biniau mwynau, a melin fathru ag olwyn ddŵr yn ei gyrru, cafn olwyn ar gyfer olwyn hanner cant a dwy o droedfeddi a chafn olwyn arall a oedd, mae’n debyg, yn pweru’r jigeri. Fel yng Nghwm Elan ceir olion nifer o adeiladau cerrig gan gynnwys swyddfa’r mwynglawdd, gefail bosibl, a lloc bychan â muriau, gardd efallai. Mae’n bosibl mai fel ffald i’r ceffylau a oedd yn gweithio â’r ddyfais troi, neu i gludo’r mwyn a oedd wedi’i brosesu o’r mwynglawdd y defnyddiwyd y lloc â gwrthglawdd isel ychydig i’r de o adeiladau’r mwynglawdd. Parhaodd y gwaith yn y fan hon tan 1881.

Aerial view of the Dalrhiw and Nant y Car South lead mining sites, south of the Claerwen. Photo: CPAT 03-c-0665.
Golygfa o’r awyr o safleoedd mwyngloddio plwm Dalrhiw a De Nant y Car, i’r de o afon Claerwen. Llun: CPAT 03-c-0665.

Roedd y drydedd set mwyngloddiau, sef De Nant y Car, ar lan ogleddol nant Rhiwnant gyferbyn â mwynglawdd Dalrhiw, yn cynhyrchu copr, plwm a sinc. Fel yn achos Dalrhiw, mae’n ymddangos mai cyfres o geuffyrdd a gloddiwyd i mewn i ochr y bryn yn agos at y nant oedd y gweithfeydd cynharaf. Yn ystod y 1860au a’r 1870au y gwnaed y prif waith datblygu ar y mwynglawdd, ac roedd yn rhaid suddo siafft ac adeiladu mathrwr a chafn olwyn trawiadol, ynghyd â chodi adeiladau cysylltiedig eraill sydd ymhlith prif nodweddion y safle. Gall tomenni pridd gwastraff a grëir wrth ddatblygu a phrosesu gwastraff greu nodwedd unigryw yn y dirwedd lle mae ‘bysedd’ nodweddiadol y gwastraff yn pelydru islaw’r siafft a’r biniau mwynau. Ar safle ar ochr ddeheuol cwm Claerwen, i’r gogledd, lle’r aed ati i geisio cloddio yn arbrofol cyn canol y 19eg ganrif oedd mwynglawdd Nant y Car yn wreiddiol. O 1844 datblygodd y gwaith ar raddfa lawer mwy, ac erbyn y 1850au, roedd gwythïen doreithiog o fwyn copr yn cael ei chloddio. Fodd bynnag, erbyn 1854, gwelwyd mai siomedig oedd hon. Ar ôl chwilio mewn mannau eraill yn y set ym 1855 daethpwyd o hyd i wythïen blwm addawol mewn ceuffordd ar ochr ogleddol nant Rhiwnant, yn y mwynglawdd a fyddai’n dwyn yr enw De Nant y Car. Daethpwyd â pheiriannau ychwanegol i ddyfnhau’r gweithfeydd y flwyddyn ganlynol, er yn y pen draw gwelwyd bod y wythïen yn siomedig, ac fe ddiddymwyd y cwmni ym 1859. Mae olion gweladwy De Nant y Car yn cynnwys cyfres o geuffyrdd wedi’u cloddio i mewn o lannau’r nant, siafft i’r injan ynghyd â sylfeini’r cwt weindio, gerllaw tramffordd, biniau mwynau, tomenni gwastraff a llwyfannau ar gyfer mathrwr a jigeri, a dwy gerwyn gron i brosesu mwynau, ag olwyn ddŵr yn eu pweru.
Daethpwyd o hyd i wythïen newydd a chyfoethocach tua 1883, yn uwch i fyny’r cwm ym mwynglawdd Nantygarw, ac fe arweiniodd hyn at adael De Nant y Car yn segur. Gorwedd y mwynglawdd ar yr unig dir sydd ar gael ar deras naturiol wrth geg crognant ymhell uwchlaw afon Rhiwnant. Islaw’r safle, mae ochrau’r prif ddyffryn yn serth ac yn greigiog, ac uwchlaw hynny mae’r tir sy’n codi’n raddol yn esgyn at lwyfandir rhostirol i’r gogledd. Mae’r olygfa o’r safle tuag at y dwyrain yn ysblennydd. Mae’n tremio dros Gwm Rhiwnant i Dalrhiw, De Nant y Car a thu hwnt. Canlyniad mwy nag un cyfnod o ddeiliadaeth yw’r olion sydd wedi goroesi a drawsnewidiodd y lle ucheldirol diarffordd hwn, er mai olion y cyfnod gweithgaredd diweddaraf sydd amlycaf i’w gweld. Dyma’r cyfnod pan osodwyd y felin brosesu y mae’r safle’n fwyaf enwog amdani o bosibl. Mae olion strwythurol sylweddol eraill yn goroesi, gan gynnwys y siafft, y cafn olwynion a’r efail. Mae tomenni gwastraff prosesu helaeth yn ymledu allan o’r felin brosesu, ac ar waelod y safle mae’r gwastraff yn cwympo i lawr ochrau serth y dyffryn i Riwnant islaw. Ymhlith y strwythurau y gellir eu gweld mae melin mathru sylweddol, sy’n parhau i sefyll dros 4 metr o daldra, a ffrwd a luniwyd ym1893 i’w bweru sy’n cario’r dŵr o Lyn Carw, tua 100 metr uwchlaw, a thua 2 cilometr i’r gorllewin, llwyfannau jigeri, a cherwyn fach gron, cronfa ddŵr a phyllau gwaddodi. Ymhlith yr olion adeiladu mae barics posibl i letya gweithwyr yn ystod yr wythnos, gefail, swyddfa’r mwynglawdd a thŷ’r rheolwr, o bosibl, ac arfdy ffrwydron dros 3 metr o daldra sydd bron yn gyfan ar wahân i’r to.

Caeodd mwynglawdd Nantygarw, y diweddaraf a’r mwyaf anghysbell o fwyngloddiau cwm Elan ym 1893, ac er na wyddys llawer am y gweithfeydd, cyflogid 50 o ddynion yno, sy’n awgrymu menter resymol ei maint. Er gwaethaf eu helw mawr, fe ymddatododd y cwmni ym 1897, ac er bod peth gweithgarwch wedi parhau yno hyd 1899, rhoddwyd y gorau i fwyngloddio pellach yno rhag ofn y byddai cyflenwadau dŵr cronfeydd Cwm Elan yn cael eu halogi.

Cludiant a Chyfathrebu Cynnar

Traciau a Llwybrau Porthmyn

Sefydlwyd sawl trac a llwybr ar draws y dirwedd hanesyddol ers y dyddiau cynnar. Mae’n sicr bod y llwybrau cynnar wedi cynnwys rhai a roddodd fynediad i aneddiadau cynnar cymoedd Elan a Chlaerwen o Ddyffryn Gwy, yn ogystal â’r llwybr dros y mynyddoedd o Ddyffryn Gwy i Gwmystwyth trwy ran uchaf cwm Elan. Awgryma’r gwersyll cyrch Rhufeinig ar Esgair Perfedd i’r linell gyswllt yma gael ei defnyddio o leiaf oddi ar adeg y Rhufeiniaid. Dangosir y llwybr hwn ar nifer o fapiau o ddiwedd y 17eg ganrif a dechrau’r 18fed, gan gynnwys map Morden o Dde Cymru a gyhoeddwyd yn Camden’s Britannia ym 1695. Ymhlith y llwybrau cynnar eraill a oedd yn croesi Elenydd oedd yr un a oedd yn cysylltu cwm Claerwen â rhan uchaf dyffryn Teifi a Thregaron, ac un arall sy’n mynd ar ei hynt dros y mynydd o gyfeiriad rhan uchaf dyffryn Teifi tuag at Aberglanhirin yn rhan uchaf cwm Elan, ac yna yn uniongyrchol i lawr i ddyffryn Gwy ger Llangurig.

Roedd llawer o’r llwybrau cynnar hyn yn addas ar gyfer cerdded neu farchogaeth yn unig, er y gwyddys i rywrai ddefnyddio sled olwynion a dynnid gan geffylau yn yr ardal cyn dyfodiad trafnidiaeth fecanyddol. Roedd yn ddelfrydol ar gyfer cludo llwythi o fawn, gwair, grug neu hyd yn oed rhedyn ar draws y rhostir gwlyb ac ochrau serth y cwm. Tynnodd Iorwerth Peate ffotograff o sled o’r math yma, ffurf nodweddiadol ar drafnidiaeth amaethyddol ar ffermydd cynnar Sir Drefaldwyn a Sir Faesyfed, yng ngwm Elan ar ddechrau’r 20fed ganrif.

Roedd nifer o’r llwybrau dros y mynyddoedd yn ffurfio rhan o rwydwaith llwybrau porthmyn cydnabyddedig Sir Faesyfed, i gysylltu ffermydd Sir Gaerfyrddin a Cheredigion â threfi marchnad Canoldir Lloegr, masnach a oedd yn ei anterth yn y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg. Awgrymwyd mewn llyfrau cyfrifon llwybrau porthmyn y 19eg ganrif, mewn mapiau cynnar a thystiolaeth gwrthglawdd ac enwau lleoedd, bod pedwar llwybr yn croesi Elenydd. Roedd y llwybr porthmyn mwyaf gogleddol ar Elenydd yn arwain i Amwythig a gogledd Canoldir Lloegr. Roedd yn ymestyn o Gwmystwyth (Ceredigion), ar hyd ran uchaf cwm Ystwyth ac ar draws Yr Allt i Langurig (Sir Drefaldwyn). Mae’n debyg i gangen o’r llwybr hwn hefyd ymestyn ar hyd y ffordd dyrpeg ar hyd rhan uchaf cymoedd Ystwyth ac Elan i Raeadr. Byddai llwybr arall yn caniatáu i borthmyn yrru’u gwartheg drwy Langurig neu Raeadr, o Ffair Rhos (Ceredigion) trwy ran uchaf cymoedd Claerddu a Chlaerwen a’r ‘Hen Ffordd’ i ymuno â ffordd Cwmystwyth-Rhaeadr ger Aber Glanhirin neu i barhau i’r gogledd i mewn i ddyffryn Gwy trwy Gefn Bach. Ymddengys bod y llwybr porthmyn ychwanegol o Bontrhydfendigaid (Ceredigion) wedi mynd trwy Ystrad Fflur, rhan uchaf cwm Irfon, ar draws Drygarn Fawr, ac ar hyd gwm Rhiwnant i ran isaf cwm Claerwen ac oddi yno i Raeadr trwy gwm Elan. Mae’n ymddangos bod hwn wedi rhannu rhan o hynt llwybr o Dregaron (Ceredigion) a groesodd flaen deheuol Elenydd cyn mynd ar hyd cwm Irfon i Abergwesyn (Sir Frycheiniog).

Mae llawer yn credu bod y llwybrau ar draws Elenydd wedi bod â chysylltiadau â mynachlogydd, ac er nad oes sicrwydd ynghylch y cysylltiad hanesyddol hwn, mae nifer o’r llwybrau yn rhai hen iawn. Dangosir yr ‘Hen Ffordd’ y sonnir amdani uchod ar fapiau’r Arolwg Ordnans ym 1890, a’r enw arni ar lafar gwlad oedd ‘Llwybr y Mynaich’, neu ‘Monks’ Trod’, y tybid ei bod yn cysylltu’r abaty Sistersaidd yn Ystrad Fflur â’i gangen yng Nghwm-hir. Daeth yn boblogaidd trwy History of Radnorshire gan John Williams, sef gwaith a gasglwyd yn gynnar yn y 19eg ganrif, a oedd yn rhagweld y byddai mynaich y faenor fynachaidd yn Nant Madog, ger Pentref Elan, yn ymweld â’u mam-abaty yn Ystrad Fflur,

‘either for the purpose of their mutual peace and edification, or for consulting together on their temporary interests; and it is recorded that the inhabitants of this religious establishment were accustomed on certain periodical seasons, to visit their brethren in the abbey of Strata Florida . . . marching over the hills in procession, and making the rocks re-echo their loud and chaunted hymns. Their road over the mountains may at this date be traced.’

Tollffyrdd

Byddai rhai o’r traciau a’r llwybrau hyn a groesai’r mynyddoedd yn cael eu gwella yn ystod y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg er mwyn iddynt gludo trafnidiaeth ag olwynion, mewn ymateb i alwadau cynyddol masnach, twristiaeth a’r post. Y ffordd fwyaf uniongyrchol rhwng Aberystwyth a Rhaeadr dros Elenydd, trwy Bontarfynach a Chwmystwyth, oedd y mwyaf amlwg o’r rhain, a gwnaed y ffordd yn un â tholl arni tua 1790. Mae dwy garreg filltir bengrwn ar fin y ffordd, sy’n nodweddiadol o ddechrau’r 19eg ganrif, wedi goroesi o’r cyfnod hwn, y naill i’r dwyrain o Bont ar Elan a’r llall i’r de o Dderw, ac mae’r pellter o Aberystwyth a Rhaeadr wedi’i harysgrifennu arnynt.

Yn achos llawer o deithwyr Seisnig, byddai’r trawsnewidiad sydyn o olygfeydd iseldirol i rai ucheldirol wrth iddynt barhau ar eu siwrnai yn y goets ar draws Elenydd i’r gorllewin o Raeadr yn ysgytwad. I ddyfynnu Richard Moore-Colyer, ‘Henry Skrine wrote of his state of ‘perpetual alarm’ as he ascended the rocky road out of the town, and subsequently lamented the dreary, treeless expanse of open hill which he traversed ‘in mournful silence’’. Ceir golwg mwy cytbwys yn nyddiadur Michael Faraday, y gwyddonydd, ym 1819: ‘After a while we got among more mountains and nothing but large concave forms met the eye for a long time. Lively little catle with myriads of sheep now and then diversified the general monotony’. Erbyn 1829 roedd y ffordd is ar hyd cwm Rheidol a dyffryn Gwy trwy Bonterwyd a Llangurig (yr A44/A470) wedi disodli’r llwybr hwn dros y mynydd rhwng Aberystwyth a Rhaeadr, a bellach dyma’r prif ffordd.

Am gyfnod, rhwng diwedd y 18eg ganrif a dyfodiad y rheilffordd ar ddiwedd y 19eg ganrif, cafwyd ambell wrthdrawiad rhwng y ffyrdd tyrpeg a’r porthmyn a theithwyr eraill. Byddai’r porthmyn yn ceisio cadw at lwybrau heb fetlin dros y mynyddoedd i osgoi’r tollau, os byddai modd gwneud hynny. Daeth y ffioedd a godwyd ar ddefnyddwyr eraill y ffordd yn amhoblogaidd dros ben, ac ysgogwyd ‘Helynt Beca’ mewn rhannau o Gymru. Cododd trafferthion yn lleol o amgylch Rhaeadr ym 1842. Yn gynnar ym mis Medi, dinistriwyd dwy glwyd lle roedd ffordd Aberystwyth yn troi i ffwrdd y tu hwnt i’r bont dros afon Gwy. Yn ystod y mis dilynol, digwyddodd un o’r terfysgoedd mwyaf treisgar yn yr helyntion i gyd. Wrth dollborth Bodtalog ger Abergwngu Hill, hanner ffordd ar draws y mynyddoedd, bu bron i’r ddynes a oedd ar ei phen ei hun yn geidwad y porth gael ei dallu gan ddryll llawn powdwr. Arweiniodd y terfysgoedd at newid yn y gyfraith a esgorodd ar sefydlu’r Byrddau Ffyrdd Sirol a ddisodlodd ymddiriedolaethau’r ffyrdd tyrpeg o 1845 ymlaen.

Rheilffyrdd

Byddai’r llwybrau porthmyn dros Elenydd yn dirwyn i ben gyda dyfodiad y rheilffyrdd. Gwelwyd hyn yn lleol wrth i Reilffordd Canol Cymru agor o Lanidloes i Ffordd Llanfair-ym-Muallt ym 1864 gan groesi’r ardal nodwedd hanesyddol i’r gorllewin o Raeadr. Caeodd y rheilffordd ym 1962, mymryn o dan ganrif yn ddiweddarach, oherwydd y gystadleuaeth â chludiant ar y ffyrdd. Mae trychfa a thwnnel byr 271 llath, tua hanner cilometr i’r de o Raeadr ar lwybr y rheilffordd segur i’w gweld o hyd. Disgrifir isod y gyffordd â hen Reilffordd Cwm Elan, fymryn i’r de o’r twnnel.

Cymdeithasau Llenyddol a Hynafiaethol

Mae dau blasty bonedd sef Nantgwyllt a Chwm Elan, ill dau bellach dan donnau’r gronfa ddŵr, y teuluoedd a oedd yn gysylltiedig â hwy, a’r ysbrydoliaeth a roesant i sawl bardd rhamantaidd o Sais ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg yn tra-arglwyddiaethu ar hanes cwm Elan heddiw. Cafodd y cysylltiadau llenyddol, er gwaethaf eu byrhoedledd, effaith ddofn a pharhaus ar ein gwerthfawrogiad heddiw o dirwedd cwm Elan, sydd bellach dan y llyn.

Olion yr ardd furiog yn Nantgwyllt, sydd fel arfer o’r golwg dan gronfa ddŵr Caban-coch, ar wahân i gyfnodau o ddŵr isel. Ysbrydolodd adfeilion y tŷ A House Under the Water gan Francis Brett Young, a gyhoeddwyd ym 1932. CPAT Llun: 1539.03.

Fel y nodwyd yn yr adran ar y stadau â thir, William Lisle Bowles, cyfaill i Thomas Grove yr hynaf o blasty Cwm Elan, oedd y cyntaf o’r beirdd i goffáu cwm Elan mewn cerdd. Mae engrafiad ‘o lun gan Mrs. Grove’ yn gysylltiedig ag argraffiad o’i gerdd mesur moel estynedig o’r enw ‘Coombe-Ellen’, a gyhoeddwyd ym 1801. Yng ngeiriau Desmond Hawkins dechreuai’r gerdd ag ‘invocation to the spirit of wild untamed Nature’:

 

‘Call the strange spirit that abides unseen
In wilds, and wastes, and shaggy solitudes,
And bid this dim hand lead thee through these scenes
That burst immense around! By mountains, glens,
And solitary cataracts that dash
Through dark ravines.’

Daeth teulu Groves i berthyn trwy briodas i deulu Bysshe Shelley, ac roedd un ohonynt yn Uchel Siryf Sir Faesyfed ym 1784. Daeth y bardd, Percy Bysshe Shelley i gwm Elan lle arhosodd am fis yn westai i’w gefnder Thomas Grove yn y ‘neat and elegant mansion’ Cwm-Elan ym 1811. Roedd hyn sawl mis ar ôl i’r bardd ifanc gael ei anfon o Rydychen am gydawdura pamffled o’r enw The Necessity of Atheism ac ymbellhau oddi wrth ei deulu yn sgîl hynny. O gofio ei enw am fod yn ecsentrig, nid oes syndod yn y byd fod pobl yn cofio hyd 1870 am ymweliad Shelley â’r ardal.

Daeth ei farn o gwm Elan, yn bennaf mewn llythyrau a ysgrifennodd tra’n aros yno, i’r amlwg mewn dau fywgraffiad a gyhoeddwyd cyn diwedd y 19eg ganrif, ar ôl ei farwolaeth ym 1822 yn 30 oed. Mewn llythyr at gyfaill, sef Elizabeth Hitchener, ysgrifennodd o Gwm Elan yng Ngorffennaf 1811,

 

‘This county of Wales is excessively grand; rocks piled on each other to tremendous heights, rivers formed into cataracts by their projections an valleys clothed in woods, present an appearance of enchantment but why do they enchant, why is it more affecting than a plain, it cannot be innate, is it acquired?’

Mewn nodyn at Thomas Jefferson Hogg yn ddiweddarach yr un mis, fe ysgrifennodd am ‘waterfalls midst the umbrage of a thousand shadowy trees—form the principal feature of the scenery. I am not wholly uninfluenced by its magic in my lonely walks.’

Roedd Shelley yn ôl yn y cwm gyda Harriet, ei wraig gyntaf a’i chwaer-yng-nghyfraith yn Ebrill y flwyddyn ganlynol, a’r tro hwn, roedd yn aros yn Nantgwyllt, rhyw filltir o Gwm Elan, sef y plasty yr oedd yn gobeithio ei feddiannu. Ysgrifennodd at William Godwin fis Ebrill 1812 (rhyw ddwy flynedd yn unig cyn iddo redeg i ffwrdd â Mary Wollstonecraft),

 

‘We are not yet completely certain of being able to obtain the house where we now are. It has a farm of two hundred acres, and the rent is but ninety-eight pounds per annum. The cheapness, beauty, and retirement make this place in every point of view desirable. Nor can I view this scenery — mountains and rocks seeming to form a barrier round this quiet valley, which the tumult of the world may never overleap.’

Mae llythyr pellach yn disgrifio’r fferm ar y pryd fel un o ryw 200 erw, 130 erw yn dir âr a’r gweddill yn goed ac yn fynydd. Ar Fai 1af, ysgrifennodd, ‘Give me Nantgwillt, fix me in this spot, so retired, so lovely, so fit for the seclusion of those who think and feel. Fate, I ask no more!’

Yr unig sôn a geir am Gwm Elan ar fydr yw cerdd o’r enw ‘The Retrospect, Cwm Elan, 1812’ sy’n dyddio o’r flwyddyn honno. Er ei bod yn sôn yn bennaf am faterion eraill, mae ynddi hefyd sawl darn disgrifiadol.

 

‘Ye jagged peaks that frown sublime,
Mocking the blunted scythe of Time,
Whence I would watch its lustre pale
Steal from the moon o’er yonder vale:
Though rock, whose bosom black and vast,
Bared to the stream’s unceasing flow,
Ever its giant shade doth cast
On the tumultuous surge below’

Ceisiodd Shelley sicrhau prydles ar y stad ar gyfer ‘trefedigaeth fechan o eneidiau goleuedig’ ond er gwaethaf trafodaethau maith ni ddigwyddodd hyn. Er gwaethaf y ffaith ei fod yn gwerthfawrogi natur ddiarffordd a phrydferth cwm Elan, cofiai amddifadedd cymdeithasol yr ardal. Ar ei ymweliad cyntaf â Chwm Elan ym 1811, blinwyd ef yn feddyliol ar ôl cyfarfod cardotyn a hawliai ei fod wedi dioddef oherwydd rhai gwell eu byd. Siaradai Shelley hefyd braidd yn waradwyddus am y gymuned leol: ‘I have been to church to-day: they preach partly in Welsh, which sounds most singularly. A christening was performed out of an old broken slop-basin’ ac mewn lle arall ‘I am all solitude, as I cannot call the society here an alternative to it’, ac yn rhywle arall mae’n sôn am lythyrau a aeth ar goll a ‘the pillage of the Rhayader mail’. Yn ddiweddarach, ym 1812, ar ôl gadael cwm Elan, ysgrifennodd y canlynol am Gymru, er nad efallai am Sir Faesyfed yn benodol:

 

‘It is the last stronghold of the most vulgar and commonplace prejudices of aristocracy. Lawyers of unexampled villany rule and grind the poor, whilst they cheat the rich. The peasants are more serfs, and are fed and lodged worse than pigs. The gentry have all the ferocity and despotism of ancient barons, without their dignity and chivalric distain of shame and danger.’

Rhoddwyd cydnabyddiaeth i arwyddocâd diwylliannol gwerthfawrogiad Shelley o natur ddiarffordd a phrydferth cwm Elan cyn diwedd y 19eg ganrif, yn nhraethawd William Rossetti, aelod o’r Frawdoliaeth Gyn-Raffaëlaidd, sef ‘Shelley at Cwm Elan and Nantgwilt’, yn The Vale of Nantgwilt: A Submerged Valley gan Eustace Tickell. Cyhoeddwyd hwn ym 1894, yn ystod cyfnod adeiladu cronfa ddŵr cwm Elan.

Tynnid sylw at hynafiaethau Elenydd a’r ardal o’i hamgylch yn gynnar yn y 19eg ganrif, mewn dull a oedd yn cyfuno’r prydferth a’r rhamantus ag ymgais i lunio dehongliadau mwy rhesymegol a hanesyddol. Yn ail gyfrol ei History of the County of Brecknock, a gyhoeddwyd ym 1809, mae Theophilus Jones yn mentro dyfalu pwrpas nifer o’r hynafiaethau ar ran ddeheuol Elenydd ym mhlwyf Llanwrthwl.

 

‘A great part of this parish consists of lofty hills, bogs and commons; among the first is the Drygarn or Derwydd garn, (Mount Druid or Druid’s rock) . . . . On the top of this are many Carnau or Carneddau, large heaps of stones, as there were also upon a less elevated eminence not far from hence, called Gemrhiw [Gamriw].On the road from Llandovery and Llangamarch to Rhayader, are seen stones placed irregularly in the ground, which have given a common, partly in this parish and partly in Llanafan, the name of Rhôs saith maen, or Seven-stone common; whether they are sepulchral, military or druidical remains, is not known, but from the name of Rhos y beddau, the common of the graves, not far from hence, nearer to the river Wye, it should seem that they commemorate a battle, most likely that of Llechryd and the slaughter in the flight of Riryd and Cadwgan.’

Yn yr un modd, fe geisiodd General History of the County of Radnor gan Jonathan Williams, a gyhoeddwyd wedi ei farwolaeth ym 1859, gysylltu yr hyn sydd fwy na thebyg yn heneb claddu gynhanesyddol ym mhlwyf cyfagos Cwmteuddwr â digwyddiadau hanesyddol yr oeddent yn fwy cyfarwydd â hwy:

 

‘Near to Gwaith-y-mwynau there is a considerable tumulus, or barrow [probably the monument now known as Clap yr Arian, above the head of the Nantgwynllyn valley] . . . . from thence may distinctly be seen the Castle of Rhayader, to which fortress therefore, it must have served as an outpost to give intelligence to the garrison of the approach of an enemy.’

Tynnodd Jonathan Williams sylw hefyd, fel y gwelsom uchod, at olion maenor fynachaidd yn Cwmteuddwr, a oedd yn gysylltiedig â’r abaty Sistersaidd yn Ystrad Fflur.

Yn y 1840au, cyffrowyd yr Arglwyddes Charlotte Guest, cyfieithydd y Mabinogion, gymaint gan y sylweddoliad bod sôn am y garnedd a elwir yn Garn Gafallt mewn llawysgrif o’r 10fed ganrif, sef Historia Brittonum gan Nennius, a oedd yn cofnodi chwedlau cynnar a oedd yn gysylltiedig â’r chwedl Arthuraidd, fel ei bod wedi ‘prevailed upon a gentleman to undertake a pilgrimage’ . . . i gopa Cefn Carn Cavall. Cofnododd y sawl a ysgrifennai ati, sy’n parhau i fod yn anhysbys, yr hanes hwn am ei alldaith sy’n cyfuno rhamantiaeth a dehongliad rhesymegol o’r cysylltiad ag un o gŵn Arthur.

Aerial view of Carn Gafallt. CPAT Photo 03c0687.
Golwg o’r awyr o Garn Gafallt. Llun: CPAT 03c0687.

‘Carn Cavall, or, as it is generally pronounced, Corn Cavall, is a lofty and rugged mountain, in the upper part of the district anciently called Buellt, now written Builth, in Breconshire. Scattered over this mountain are several cairns of various dimensions, some of which are of very considerable magnitude, being at least a hundred and fifty feet in circumference. On one of these carns may still be seen a stone, so nearly corresponding with the description in Nennius, as to furnish strong presumption that it is the identical object referred to. It is near two feet in length, and not quite a foot wide, and such as a man might, without any great exertion, carry away in his hands. On the one side is an oval indentation, rounded at the bottom, nearly four inches long by three wide, about two inches deep, and altogether presenting such an appearance as might, without any great strain of imagination, be thought to resemble the print of a dog’s foot . . . As the stone is a species of conglomerate, it is possible that some unimaginative geologist may persist in maintaining that this footprint is nothing more than the cavity, left by the removal of a rounded pebble, which was once embedded in the stone.’

Manylwyd ar gysylltiadau mynachaidd Elenydd a chwm Elan yn y 1880au gan ymchwil Stephen Williams, y pensaer o Sir Faesyfed a gyfrannodd bennod o’r enw ‘The Grange of Cwmteuddwr’ i lyfr Eustace Tickell, The Vale of Nantgwilt, a gyhoeddwyd ym 1894. Byddai Williams a Tickell ill dau yn gweithio ar gynllun cronfa ddŵr cwm Elan, a Tickell oedd y peiriannydd sifil a oedd yn gyfrifol am adeiladu argae Penygarreg. Roedd hefyd yn awdur galluog ac yn arlunydd. Mae’r brasluniau niferus yn ei lyfr am gwm Elan cyn i’r cwm gael ei foddi gan y gronfa ddŵr, gan gynnwys golygfeydd o Gapel Nantgwyllt, a’r tai bonedd yn Nantgwyllt a Chwm Elan, yn dangos priodweddau prydferth y dyffryn. Amcan llyfr Tickell oedd

‘commemorate scenes in one of the most charming valleys in Great Britain. Scenes which are soon to be lost for ever, submerged beneath the waters of a series of lakes, which, by a colossal engineering undertaking, are about to be constructed for the purpose of supplying water to the city of Birmingham . . . Beautiful lakes they will doubtless be, winding up the valleys with sinuous margins, wooded promontories such as are seen on Derwentwater, frowning crags and screes which will remind one of Wastwater. But their construction dooms many a picturesque and interesting spot to destruction, and it would be indeed a pity if they should be allowed to pass away without some record, however inadequate.’

Ychydig o bobl ddeuai i ymweld â’r cwm, oherwydd, fel y sylwodd Tickell ‘It lies hidden away amongst the mountains and leads to nowhere. . . . The valley is visited by few, there being no inn for the tourist to put up at’. Roedd Tickell yn ymwybodol o ba mor anochel oedd cynnydd, fodd bynnag, ac wrth gyfrif y gost, dywedodd ‘it must be remembered that, sad as it is, it would be difficult to find in this island a place where more than 70 square miles of land could be taken for a public purpose without dispossessing very many more people, destroying many more homes.’

Yn yr un llyfr, fe gyflwynodd William Rossetti awyrgylch mwy melodramatig, ag Ophelia eiconaidd Millais yn weledigaeth iddo efallai, gan ddwyn ein sylw at thema a fyddai’n cael ei hailadrodd dro ar ôl tro yn nifer o nofelau rhamantaidd yr 20fed ganrif.

‘Harriet Shelley died by her own deed in the Serpentine in 1816, Shelley in the Mediterranean waves in 1822; and now a watery doom effaces the scenes of their short-lived love, Nantgwilt and Cwm Elan. A world of waters, a world of death.’

Roedd y cysylltiadau llenyddol hyn yn enwog pan ddechreuodd y gwaith ar gynllun cronfa ddŵr Birmingham, ac mae’n debyg eu bod wedi cael dylanwad cyfrwys ar sawl agwedd hardd ar ei dyluniad.

Cynllun Cronfa Ddŵr Cwm Elan

Trawsnewidiwyd cymeriad tirwedd cwm Elan yn llwyr pan adeiladwyd y gronfa ddŵr rhwng 1893 a 1906 ar gyfer corfforaeth Birmingham. Agorwyd hi’n swyddogol â rhwysg gan y Brenin Edward VII ym 1904. O oes Fictoria ac oes Edward yn bennaf y tarddodd y dirwedd newydd syfrdanol a grëwyd yn ystod y cyfnod hwn. Mae’r rhan hon o orllewin Sir Faesyfed yn enwog oherwydd y dirwedd newydd yma, a grëwyd fel prosiect dinesig gan ddinas bell, ac mae cysylltiadau llenyddol a hanesyddol y cwm yn parhau i chwarae rhan ddylanwadol yn ein canfyddiad o gwm Elan. Yr un oedd y priodweddau a oedd wedi cyfrannu at hudoliaeth prydferthwch cwm Elan – y nentydd llifeiriol, y cymoedd serth eu hochrau a’r pellenigrwydd — a’r rheiny oedd yn golygu ei fod yn safle delfrydol ar gyfer cynllun cronfeydd dŵr Birmingham.

Penygarreg reservoir viewed downstream. Earlier literary associations were well known when work began on Birminghams’s reservoir scheme and are likely to have had a subtle influence on various picturesque aspects of its design. Photo: CPAT 1527.29.
Cronfa ddŵr Penygarreg gan edrych i lawr yr afon. Roedd cysylltiadau llenyddol cynharach yn enwog pan ddechreuodd y gwaith ar gynllun cronfa ddŵr Birmingham, ac mae’n debyg eu bod wedi cael dylanwad cyfrwys ar sawl agwedd hardd ar ei dyluniad. Llun: CPAT 1527.29.

Fel dinasoedd diwydiannol eraill Prydain, daeth Birmingham dan bwysau cynyddol yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif i ddarparu digon o gyflenwadau dŵr ar gyfer ei gweithlu a oedd yn cyflym gynyddu. Ar y pryd, tua 650,000 oedd maint poblogaeth y ddinas. Roedd y cyflenwad dŵr yn annigonol ac roedd llygredd ynddo yn aml, gan arwain at epidemigion teiffoid a cholera. Fel yn achos cynllun Corfforaeth Lerpwl ychydig flynyddoedd ynghynt yn Llyn Efyrnwy, Sir Drefaldwyn, roedd maint cyflenwad a phurdeb y dŵr yn ffactorau pwysig, a byddai Birmingham fel Lerpwl yn ceisio ateb i’r problemau hyn ym mryniau Cymru, rhyw 75 milltir o’r ddinas.

Archwiliwyd cwm Elan gyntaf fel ffynhonnell addas ar gyfer cyflenwad dŵr Birmingham ym 1870 gan Sir Robert Rawlinson. Ni wnaed dim ar ôl hynny am ugain mlynedd, hyd 1890 pan benodwyd James Mansergh, peiriannydd dŵr mwyaf enwog ei ddydd, yn beiriannydd ymgynghorol ar gyfer y prosiect. Roedd Mansergh wedi dod yn gyfarwydd â chymoedd Elan a Chlaerwen pan weithiai ar reilffordd Canol Cymru yn y 1860au hwyr. Roedd Corfforaeth Birmingham wedi ymrwymo i’r buddsoddiad sylweddol y byddai ei angen er mwyn sicrhau bod y cyflenwadau dŵr yn diwallu’r anghenion dŵr ar y pryd ac yn y dyfodol, a derbyniasant argymhelliad yr ymgynghorydd i brynu cefndeuddwr cwm Elan yr oedd aelod o Bwyllgor Dŵr y gorfforaeth wedi ei ddisgrifio fel ‘treasures of untold value’.

Roedd cynllun cwm Elan, fel cynllun cynnar Lerpwl yn Llyn Efyrnwy, yn rhydd o’r dadleuon gwleidyddol a gododd ynghylch cronfeydd dŵr yng Nghymru i gyflenwi dinasoedd Lloegr yn ail hanner yr 20fed ganrif, fel yn achos cronfa ddŵr Tryweryn ger y Bala, a adeiladwyd ar gyfer Lerpwl yn y 1960au cynnar. Roedd yr ychydig wrthwynebiad a welwyd yn ymwneud â mater iawndal ariannol â’r aflonyddu ar gyflenwadau dŵr a oedd eisoes yn bodoli. Gellid disgwyl y byddai arglwydd y faenor, Robert Lewis Lloyd o Nantgwilt yn gwrthwynebu, er bod y pwyllgor a oedd yn rheoli’r cynllun ‘very prudently therefore came to terms with that gentleman early in the proceedings’. Ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad difrifol i adeiladu’r draphont ddŵr 73 milltir i gronfa ddŵr Frankley ger Birmingham. Nododd Mansergh mewn dull coeglyd braidd ym 1894 bod y ‘landowners being well enough aware nowadays that they have little chance to stop a great and useful scheme of this character, and that their prudent policy is to acquiesce, with the chance of bleeding the promoters heavily for interfering with their property. Experience showing that in this process they are perhaps more than fairly proficient’. Hefyd cafwyd ymchwiliad helaeth i hawliau a breintiau’r cominwyr lleol.

The Garreg-du viaduct, crossing the junction of the Caban-coch and Garreg-du reservoirs, which carries the road up the Claerwen valley. Photo: CPAT 03-c-0602.
Traphont Garreg ddu, yn croesi cyffordd cronfeydd Caban-coch a Charreg ddu, sy’n cludo’r ffordd i fyny cwm Claerwen. Llun: CPAT 03-c-0602.

Daeth y mesur seneddol a roddai’r grym cyfreithiol angenrheidiol i Gorfforaeth Birmingham allu dechrau’r cynllun yn gyfraith ym 1892. Roedd pennu ardal y cefndeuddwr y byddent yn ei chaffael, yng ngeiriau Mansergh ei hun yn ‘a comparatively easy problem (considered from a water engineer’s point of view), because the contraction of the valley at Caban-coch, and the opening out above of the wide expanse of flat land, fixed at once the position of the dam of the lowest reservoir’. Mapiodd yr Arolwg Ordnans gwmpas y cefndeuddwr ar ei gynlluniau ar ôl archwiliad manwl, a chrëwyd model tri-dimensiwn wrth raddfa. Nodwyd y cefndeuddwr ar y llawr trwy osod pileri cerrig bob hyn a hyn. Roedd Birmingham i fod i brynu’r cefndeuddwr cyfan, ardal o ryw 71 o filltiroedd sgwâr, yr oedd Mansergh yn ei ystyried yn ‘abnormally extensive tract of country to be secured in a mountain district’, yn ôl safonau 1894, ac roedd yn gyfran fawr o’r tiroedd yr oedd Rhys ap Gruffydd wedi eu rhoi i’r fynachlog Sistersaidd a oedd newydd ei sefydlu yn Ystrad Fflur yn 1184.

Roedd teulu Lloyd Nantgwilt wedi cadw cofnodion o’r glawiad ers 1870, oedd yn dangos mai tua 70 modfedd oedd glawiad blynyddol ardal y cefndeuddwr ar gyfartaledd. Tua 100 miliwn o alwyni’r dydd fyddai hyn, dros ardal gyfan y cefndeuddwr. O’r swm hwn, roedd y mesur seneddol yn darparu ar gyfer cyflenwi tua 27 miliwn o alwyni o ddŵr digolledu i afon Elan bob dydd, er bod y ddeddf yn caniatáu i gyfran o hyn gael ei neilltuo i greu llifeiriaint yn awr ac yn y man i helpu’r pysgod i symud i fyny’r afon.

Roedd y cynllun gwreiddiol, a fyddai’n caniatáu ar gyfer ehangiad yn y dyfodol, yn cynnwys chwe chronfa ddŵr, tair ar afon Elan- sef Caban-coch (yn rhannol ar afon Claerwen), Penygarreg a Chraig Goch, a thair ar afon Claerwen, sef Dolymynach, Ciloerwynt a Phant-y-beddau. Y bwriad erioed oedd y byddai’r gwaith yn cael ei wneud ‘by instalments to meet the growing requirements of the districts to be supplied’. Roedd tair cronfa ddŵr Elan yn cyflenwi digon o ddŵr i ddiwallu gofynion y ddinas yn negawd cyntaf yr 20fed ganrif, ac oherwydd hynny ni chodwyd argaeau Ciloerwynt a Phant-y-beddau wedi’r cwbl. Adeiladwyd sylfeini argae Dol-y-mynach a thwnnel Dolymynach o afon Claerwen i afon Elan ar gyfnod cynnar, fodd bynnag, gan y byddai safle’r argae yn cael ei foddi unwaith y byddai cronfa ddŵr Caban-coch wedi’i llenwi, ond ni orffennwyd yr argae fel y bwriadwyd yn wreiddiol, a chronfa ddŵr fechan yn unig a grëwyd. Byddai un argae llawer mwy, a adeiladwyd ar ddiwedd y 1940au a dechrau’r 1950au yn disodli’r cynnig gwreiddiol yng nghwm Claerwen a disgrifir yr argae hwn isod. Pâr cymesur o bwerdai trydan dŵr islaw argae Caban-coch ynghyd â’u tyrbinau a’u generaduron gwreiddiol a oedd yn ffurfio rhan hanfodol o gynllun cronfa ddŵr cwm Elan.

The Dol-y-mynach reservoir and its unfinished dam in the right foreground. Photo: CPAT 03-c-0681.
Cronfa ddŵr Dol-y-mynach a’i hargae anorffenedig ar y dde ym mlaendir y llun. Llun: CPAT 03-c-0681.

Roedd technoleg y cyfnod yn ffafrio adeiladu argaeau cymharol uchel o garreg ar draws cymoedd ag ochrau serth. Un o nodweddion y cynllun yr oedd Mansergh yn ei ystyried yn ‘novel and unique’ oedd ei fod yn angenrheidiol i’r dŵr gael ei dynnu uwchlaw’r argae isaf yng Nghaban-coch er mwyn sicrhau bod y draphont ddŵr rhwng Elan a Birmingham yn ddigon uchel. Tynnir y dŵr, felly, ger tŵr y Foel, ychydig uwchlaw cored islaw traphont Garreg-ddu. Mae’r fan hon rhyw 40 troedfedd dan wyneb y gronfa ddŵr fel rheol, ac mae angen y draphont i fynd â’r ffordd yn uwch i fyny cwm Claerwen, gan ddisodli’r hen ffordd a oedd ar waelod y cwm. Cludir y dŵr o dŵr y Foel trwy dwnnel sydd wedi’i gloddio islaw bryn y Foel, ac sy’n rhedeg i’r gwelyau ffiltro gyferbyn â phentref Elan, ac o’r fan honno i gyfeiriad Rhaeadr. Tua 120 troedfedd ar gyfartaledd oedd uchder y tri argae cyfan, sef Caban-coch, Penygarreg a Chraig Goch, ac roedd trwch eu seiliau wedi’i gynllunio yn y fath fodd fel ei fod bron yn gyfartal â’u huchder.

O flociau afreolaidd o rwbel wedi’u hymgorffori mewn concrit yr adeiladwyd yr argaeau yn sylfaenol. Roedd y leinin concrit yn chwe throedfedd o drwch, ac roedd gorchudd y blociau i’r ddau gyfeiriad yn cynnwys cerrig wedi’u siapio’n benodol, a’u gosod fel gwaith maen llanw. Daeth y cerrig ar gyfer craidd yr argaeau yng Nghaban-coch, Penygarreg a Chraig Goch o’r ddwy chwarel a agorwyd yn arbennig ar yr un brigiad amryfaen ar y ddwy ochr i afon Elan ger Caban coch, sef chwarel Cigfran i’r gogledd a chwarel Craig Cnwch i’r de, a chwarel Aberdeuddwr ar Gerrig Gwynion, ychydig i’r de o Raeadr. Daeth y cerrig arwynebol a cherrig eraill wedi’u trin o’r chwareli yn Llanelwedd ger Llanfair ym Muallt ac o Bont-y-pridd. Daeth y sment o weithfeydd ar afon Medway yn ne-ddwyrain Lloegr, a chludwyd ef dros y môr i Aberystwyth ac yna ar y trên i gwm Elan. Roedd cost cynllun cwm Elan yn y pen draw ychydig yn uwch na’r gyllideb a neilltuwyd ar ei gyfer oherwydd na ellid dod o hyd i gerrig adeiladu addas ger unrhyw un o’r argaeau ar wahân i Gaban-coch, a’r ffaith fod angen dod â cherrig ychwanegol i mewn o leoedd eraill.

Cludwyd y deunyddiau adeiladu i gwm Elan ar Reilffordd Cwm Elan, a adeiladwyd gan Gorfforaeth Birmingham yn benodol ar gyfer y gwaith dŵr. Y rhan gyntaf o’r rheilffordd i gael ei hadeiladu oedd yr adran dair milltir o hyd o Gyffordd Rhaeadr ar adran canolbarth Cymru Rheilffordd Canol Cymru i’r depo islaw safle argae Caban-coch, ar lan ogleddol afon Elan. Roedd y depo hwn yn cynnwys sied oeri sment, storfeydd cyffredinol, depo glo, gweithdai i seiri, gofaint, ffitwyr ac adeiladwyr wagenni, a melinau llifio. 33 milltir oedd cyfanswm y gwahanol draciau rheilffordd a oedd yn arwain at bob un o’r argaeau, ac roedd chwech o locomotifau yn gweithio arnynt a allai gludo 1,000 o dunelli bob dydd.

Yn ogystal â chludo deunyddiau, defnyddid y rheilffordd hefyd ar gyfer cludo gweithwyr o’r cytiau pren yn yr anheddiad dros dro ar lan ddeheuol yr afon, ar y safle y saif pentref Elan ei hun erbyn hyn. Dyna lle fyddai’r gweithwyr medrus, y gweithwyr heb sgiliau a’r gweithwyr clercaidd a oedd yn gweithio ar y cynllun oll yn byw. Holwyd yn ofalus gynllunwyr y cynlluniau peirianyddu sifil mawr y cyfnod er mwyn pennu’r arfer gorau o ran cynnal disgyblaeth a chyfreithlondeb, osgoi meddwdod a salwch o fewn gweithlu mawr, a oedd yn cynnwys dynion yn bennaf. Cododd problemau o’r fath ychydig flynyddoedd ynghynt pan gyrhaeddodd y mewnlifiad gweithwyr mewn lleoliad yr un mor ddiarffordd i adeiladu cynllun cronfa ddŵr Corfforaeth Lerpwl yn Llyn Efyrnwy, Sir Drefaldwyn. Darparwyd ysbytai, ysgoldy, neuadd gyhoeddus, depo ar gyfer y frigâd dân a ffreutur i’r pentref. Roedd y ffreutur yn unigryw am ei chyfnod gan ei bod yn dŷ cyhoeddus bwrdeistrefol, ac roedd yr elw yn cael ei neilltuo ar gyfer lles cymdeithasol y gymuned, ac yn talu am yr ystafell genhadol, ystafell hamdden, campfa, llyfrgell rhad ac am ddim, tiroedd hamdden a baddondy. Rheolwyd mynediad i’r pentref â phont grog dan warchodaeth dros afon Elan.

Craig Goch dam, viewed from downstream, looking towards the head of the Elan valley. Photo: CPAT 1528.25.
Argae Craig Goch, gan edrych i fyny’r afon i gyfeiriad blaen cwm Elan. Llun: CPAT 1528.25.

Fel yn achos y gweithiau peirianyddol mawr eraill, deuai’r gweithlu o bob rhan o Brydain. George Yourdi oedd y peiriannydd preswyl trwy gydol y gwaith. Roedd yn ‘expert in cement work’ ac yn dod o dras Roegaidd a Gwyddelig. Roedd wedi ‘tramped miles up and down the valley, inspecting, directing, controlling, everywhere, on the coldest of frosty winter days or in the most torrid summer heat.’ Ymhlith y peirianwyr eraill a oedd yn ymwneud â’r gwaith oedd Eustace Tickell a oruchwyliodd adeiladu argae Penygarreg, ac fel y soniwyd mewn adran gynharach, a gynhyrchodd y llyfr o’r enw The Vale of Nantgwilt: A Submerged Valley, a gyhoeddwyd yn Llundain ym 1894. Trigai Yourdi yn y tŷ yn Nantgwyllt tra cafodd y rhan fwyaf o’r gwaith ei gyflawni, ac roedd y prif swyddfeydd ar safle islaw cored Garreg-ddu, ger cymer afonydd Elan a Chlaerwen.

Gwnaed y gwaith archwilio a phrisio a phennu iawndal o fewn cwm Elan gan y tirfesurwr a’r pensaer Stephen W.Williams a benodwyd gan James Mansergh a oedd eisoes wedi cydweithio ag ef ar y cynlluniau rheilffyrdd yng nghanolbarth Cymru. Roedd Williams hefyd yn gyfrifol am adeiladu’r pentref ar gyfer y gweithwyr. Roedd Williams wedi bod yn gweithio ers amser maith ar ei ymchwil i dai Sistersaidd Cymru, ac roedd yn gyfarwydd â hynafiaethau lleol. Roedd ganddo ran weithredol yn y dasg o sicrhau bod hynt Rheilffordd Cwm Elan yn osgoi safle capel y maenordy ger Gwesty Cwm Elan. Williams ddyluniodd hefyd yr hyn a ddaeth yn swyddfeydd Bwrdd Dŵr Corfforaeth Birmingham yn Stryd y De, Rhaeadr, a godwyd yn wreiddiol at ei ddefnydd ei hun ym 1893. Ef oedd pensaer eglwys Nantgwyllt ger pen deheuol traphont Garreg-ddu, a oedd yn disodli un a foddwyd gan ddyfroedd y gronfa ddŵr, a adeiladwyd ym 1898 a’i hagor ym 1903. Credir bod y corbelau a gerfiwyd y tu mewn i’r eglwys yn cynnwys darluniad o Stephen Williams ac efallai o James Mansergh.

Roedd yn anochel y byddai’r tai a’r adeiladau a oedd yn bodoli yng nghwm Elan yn cael eu dymchwel a’u boddi. Fel y nododd Mansergh ym 1894

 

‘In the execution of these works (in addition to Nantgwilt already mentioned), there will be submerged the residence of Cwm Elan, the little church at Nantgwilt, the school, the Baptist chapel, and twenty farm and other buildings. With these, practically the whole of the valley lands now worked for agricultural purposes will be covered, leaving the area from which the water will be collected a vast tract of nearly uninhabited moorland, used only as sheepwalk.All the manorial and other rights have been acquired so as to stop mining or quarrying of any description, and ample powers are possessed in the Act to prevent any chance of pollution, and ensure the collection of the water in its pristine purity’.

Mae’n amlwg bod sylw gofalus wedi’i roi i ddylunio a chynllunio’r gwaith er mwyn amharu cyn lleied â phosibl ar dirwedd cwm Elan. Lle bynnag y bo hynny’n bosibl, gosodwyd yr iardiau gwaith, y ffatrïoedd prosesu, tyrchfeydd rheilffyrdd a gweithiau hanfodol eraill o’r fath mewn mannau lle y byddai dŵr y gronfa yn eu boddi maes o law. Mae rhai o elfennau’r gwaith i’w gweld o hyd, fodd bynnag, gan gynnwys rhan o hynt traciau’r rheilffyrdd i argaeau Penygarreg a Chraig Goch, y bont reilffordd o frics ar draws Nant Hesgog yn ogystal â’r cysylltiad â chyn Reilffordd Canol Cymru yn Rhaeadr.

Mae sylfeini nifer o’r hen dai i’w gweld pan fydd y dŵr yn isel, gan gynnwys rhai Cwm Elan a Nantgwyllt, yr ardd furiog a’r bont ar y ffordd yn Nantgwyllt, a’r hen ffermdai yn Nhŷ Nant islaw cronfa ddŵr Penygarreg a Dol-faenog islaw cronfa ddŵr Garreg-ddu. Mae elfennau amrywiol y gwaith adeiladu i’w gweld hefyd pan fydd sychdwr, yn arbennig iard y seiri maen i’r de-orllewin o argae Caban-coch, a sylfeini carreg a phren cwt gweithwyr ychydig i’r gorllewin o gronfa ddŵr Craig Goch, sy’n debyg i’r cwt cyfan sy’n dal i sefyll ger Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan.

In the foreground can be seen field walls the foundations of the former house at Garreg-ddu, below Caban-coch reservoir, which gave its name to the Garreg-ddu viaduct. Photo: CPAT 1526.05.
Yn y blaendir, gwelir caeau, muriau a sylfeini’r hen dŷ yng Ngharreg-ddu, islaw cronfa ddŵr Caban-coch, a roddodd ei enw i draphont Garreg-Ddu. Llun: CPAT 1526.05.

Mae pensaernïaeth beirianyddol y prosiect yn golygu bod gan yr ardal un ddelwedd gadarn, gan ei bod yn eglur bod tirwedd gyfan y cronfeydd wedi’i dylunio’n ofalus. Roedd defnyddioldeb a golygfeydd ysblennydd y naill mor bwysig â’r llall. Mae’r ffyrdd a’r planhigion ar ochr y llyn, y golygfannau sydd wedi’u llunio’n benodol, yn enwedig yr un islaw argae Penygarreg, a’r effeithiau darluniaidd megis lleoliad a chyfosodiad eglwys Nantgwyllt, traphont Garreg-ddu a thŵr y Foel, canolbwynt y cynllun cyfan, yn awgrymu estheteg lywodraethol gadarn. Mae traphont Garreg-ddu yn un o elfennau gweledol pwysig y cynllun, ac er ei fod ymhell uwchben y gored danddwr, yng ngeiriau Haslam, mae’n ‘gives the illusion on of crossing a shallow lake’. Mae bwriadau Mansergh yn eithaf eglur, yn datgan ‘when more than full water will overflow from all the reservoirs in picturesque cascades down the faces of the dams’, ac fe gyfrifwyd y byddai argae Caban-coch ar gyfnod gorlifiad mwyaf yn ffurfio ‘probably the finest waterfall in this country’.

Torrwyd ffyrdd newydd yn lle’r ffyrdd a’r lonydd a oedd yn cysylltu’r ffermydd a oedd ar ôl yng nghymoedd Elan a Chlaerwen, ond maent yn golygu mwy na hyn. Roedd teithiau cerbyd ar lannau rheiliog y llyn yn rhan o’r cysyniad gwreiddiol a oedd yn rhoi mynediad i dirwedd y bwriadwyd iddi gael ei gweld. Tirwedd oedd hon, fel Llyn Efyrnwy o’i blaen, a fyddai’n denu llawer o ymwelwyr, yn enwedig, o bosibl, o Birmingham. Byddai pob argae yn dwyn plac yn dynodi ei faint a chyfaint y dŵr yr oedd yn ei gronni. Ymddengys bod Gwesty Cwm Elan, ar y ffordd tuag at Raeadr, yn gyfoes â’r argae ar y cyfan. Mae ei adain fawr a ddefnyddir ar gyfer achlysuron yn awgrymu bod ganddi ran gynnar yn y gwaith o hybu twristiaeth yn yr ardal.

Mewn sawl ffordd, tirwedd wedi’u chynllunio’n llwyr oedd hon: mae’r argaeau a’r tyrau falfiau yn ddigyffelyb ynddi, ond mae’r ffyrdd a gynlluniwyd mor ofalus a’u rheiliau, eu pontydd a’u waliau cynnal oll yn rhan o gynllun y gellir mapio ei gwmpas yn nosbarthiad hyd yn oed y mân-nodweddion pensaernïol megis ceuffosydd a pharapedau. Mae’r gyfres o waliau cynnal ar ochrau’r ffyrdd ymhlith y pwysicaf o’r rhain: Mae’r rhain yn amrywio o gerrig ag wyneb o graig arnynt, rwbel o bob math, a blociau syth, wedi’u mewnlenwi â waliau cerrig sychion. Mae’n debyg i’r olaf ddeillio o draddodiad brodorol lleol o godi muriau o amgylch y caeau. Tirwedd oedd hon a gynlluniwyd, fodd bynnag, i asio â gweddillion yr hyn a oedd wedi bod o’r blaen. Byddai’r caeau a’r ffermydd mwy cyfoethog, a’r ffyrdd a’r pontydd yn diflannu dan y dyfroedd. Yr hyn a oroesodd oedd gweddill y coetir llydanddeiliog ar ochrau serth y dyffryn a oedd heb eu hamaethu, a’r caeau a’r tyddynnod mwy ymylol ar ymylon y rhostir.

Roadside walling in vernacular style on the roadside near Dol-y-mynach reservoir. Photo: CPAT 1539.19.
Waliau ar ochrau’r ffordd mewn arddull gyffredin ger cronfa ddŵr Dol-y-mynach. Llun: CPAT 1539.19.

Fel mewn achos nifer o gynlluniau mawr cronfeydd dŵr ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed, plannwyd coed ar raddfa fawr yn lle gadael i anifeiliaid bori’r tir ac fel dull o reoli hylendid y dŵr ffo, yn enwedig yn ymyl y gronfa ddŵr. Yn ôl William Linnard, ‘over 1,000 acres had been planted before 1918, mainly with Scots pine and European larch, but also with Japanese larch, Douglas fir, Sitka spruce and Corsican pine. One plantation of European larch, with Scots pine for shelter at the higher elevations, planted in 1904-05, was awarded the Silver Medal at the Royal Agricultural Society’s show in 1919’. Asiwyd y coed a blannwyd yn ofalus â’r coed hynafol llydan-ddeiliog oedd yn bodoli eisoes a’r coetiroedd llydan-ddeiliog a ailblannwyd o amgylch ochrau’r cwm. Mae gweddillion y rhain yn goroesi o amgylch ymylon cronfeydd dŵr Caban-coch, Garreg-ddu a Phenygarreg. Ni fyddai coed yn cael eu plannu wedi hynny yn rhan fwyaf o ddalgylch cronfeydd cwm Elan fodd bynnag, gan fod profiad mewn ardaloedd eraill yn dangos bod y gronfa’n colli dŵr trwy drydarthiad oherwydd y coedwigiad, yn wahanol i lawer o’r bryniau cyfagos yng Ngheredigion a gogledd Brycheiniog sydd erbyn hyn wedi’u gorchuddio â choedwig a blannwyd yn gynnar yn yr 20fed ganrif.

Penygarreg valve tower, viewed during a period of low water levels. Photo: CPAT 1527.31.
Tŵr falf Penygarreg, yn ystod cyfnod o ddŵr isel. Llun: CPAT 1527.31.

Mae gan y bensaernïaeth beirianyddol hon lofnod arddulliadol a geirfa luniadol gref. Math ar faróc ddinesig ydyw, ac mae’n theatraidd dros ben. Yr enw poblogaidd arni yw Baróc Birmingham. Mae’n dibynnu ar ormodedd: defnyddir y manylder, sydd ar raddfa fawr iawn, ar gerrig yr argaeau, er enghraifft, yn fwriadol i awgrymu cadernid; roedd y deunyddiau, mae’n debyg, yn rhai lleol ar y cyfan, ac mae’n debygol bod dylunwyr y cynllun yn chwilio am arddull a fyddai rhywsut yn addas ar gyfer tiroedd garw’r ardal; y rhyfeddu maith at bethau darluniaidd mewn pensaernïaeth Seisnig a phensaernïaeth y dirwedd yw’r cyd-destun, yn rhannol o leiaf.
Adeiladwyd Pentref Elan, llawer ohono’n dyddio o 1909, i letya’r gweithwyr cynnal a chadw, gan ddisodli’r anheddiad pren cynharach i letya’r gweithlu a oedd yn adeiladu’r gronfa ddŵr. Mae’r pentref yn enghraifft o gasgliad perffaith o adeiladau ar yr arddull celf a chrefft, gan gynnwys tai, swyddfa’r stad a strwythurau ategol eraill. Unwaith eto mae’n defnyddio cerrig ac, o bosibl, llechi lleol, ond mae’n defnyddio arddulliau a oedd yn gyffredin yn y symudiad celf a chrefft, ac er y gwelwyd y mudiad fel diwygiad brodorol, ychydig oedd a wnelo ef â thraddodiadau rhanbarthol penodol. Dylid ystyried y pentref yn enghraifft arall o’r darluniaidd, wedi’i gyfansoddi’n ofalus iawn ac yn integreiddio mannau agored a phlanhigion fel rhan o’r cynllun cyffredinol. Mae ei iaith bensaernïol gymedrol yn arbennig o addas i natur gartrefol ei bwrpas, yn cyferbynnu â nerth cadarn pensaernïaeth y cronfeydd eu hunain, ac yn cyd-fynd â’r syniadau ynghylch addasrwydd at y diben a fyddai wedi bod yn gyffredin ar y pryd.

Trwy weinyddiaeth uniongyrchol y gwnaed y gwaith hwn yng nghwm Elan ei hun. Contractwyr, ar y llaw arall, a adeiladodd y draphont ddŵr, ac nid oes yma gymaint o ymgais i asio’r strwythur newydd â’i amgylchoedd. Mae 73 milltir y draphont ddŵr, yn cysylltu cwm Elan â’r gronfa wasanaethu yn Frankley, tua 7 milltir o ganol Birmingham, rhyw 600 uwchlaw lefel y môr, sef cwymp o ryw 170 troedfedd. Mae’r dŵr yn llifo ar wasgedd atmosfferig mewn pibell â leinin o frics y tu mewn i ffos torri-a-gorchuddio am hanner ei siwrnai, ond lle mae’r draphont ddŵr islaw’r graddiant hydrolig, er enghraifft, lle mae’n croesi cymoedd, mae’n llifo mewn pibelli haearn dan bwysau, a phan adeiladwyd hi gyntaf, roedd yn cynnwys tua 13 milltir o dwnneli. Roedd y cynllun cychwynnol yn defnyddio dwy bibell 42 modfedd o ddiamedr ac ychwanegwyd dwy bibell arall 60 modfedd o ddiamedr atynt yn 1919 a 1961, gan gynyddu cynhwysedd y traphontydd dŵr i 75 miliwn galwyn y dydd. Mae ‘Siambr All-lif’ frics sy’n unigryw ac yn ymwthiol braidd i’r gogledd-ddwyrain o fferm Coed-y-mynach yn nodweddiadol o’r strwythurau sy’n nodi llinell y draphont ddŵr sy’n ymestyn ar draws Sir Faesyfed a Chanoldir Lloegr i gronfa ddŵr Frankley, gan osgoi trefi Rhaeadr, Nantmel, Bleddfa a Cleobury Mortimer.

Part of Elan Village built to house maintenance workers in 1909. Photo: CPAT 1525.07.
Rhan o Bentref Elan, a godwyd i letya’r gweithwyr cynnal a chadw ym 1909. Llun: CPAT 1525.07.

Byddai cysylltiadau rhamantaidd cwm Elan yn cael eu hailgynnau yn y nofel The House Under the Water gan Francis Brett Young, a gyhoeddwyd am y tro cyntaf ym 1932. Cafodd Young ei eni a’i fagu yn Halesowen yn Swydd Gaerwrangon, ac roedd yn naw oed pan ddechreuodd y gwaith ar gronfeydd dŵr cwm Elan. Yn y rhagair i argraffiadau diweddarach y nofel, fe ysgrifennodd:

 

‘In every childhood there are, I suppose, certain features in the physical environment which exercise a preponderating effect on the imagination. Such, for me, without doubt, was the building of the Elan Valley reservoirs which impounded the wild waters of the Rhayader Massif in Radnorshire, diverting them from their natural outlet, which was by way of the Wye and the Bristol Channel to the Atlantic, into the sewers of a city which lay on the eastern side of the central watershed, and discharging them finally, by way of the Trent, into the North Sea.’

Roedd The House Under the Water yn un o gyfres o nofelau gan Young a oedd wedi’u lleoli yng Nghanoldir Lloegr mewn lleoliadau ‘like beads along the string’, sef cynllun pibelli cwm Elan. Yn yr achos hwn roedd wedi’i lleoli ar y gororau mewn ardal yr oedd awduron o ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed fel A. E. Housman a Mary Webb wedi ei gwneud yn boblogaidd. Roedd ei rhagflaenydd, Undergrowth, a ysgrifennwyd ar y cyd â’i frawd a’i chyhoeddi ym 1911 pan oedd yn ei ugeiniau, hefyd yn disgrifio adeiladu argae mewn cwm yng Nghymru. Mae ei nofel The Black Diamond wedi’i lleoli ar hynt traphont ddŵr Birmingham o gwm Elan. Mae The House Under the Water yn cofnodi hanesion rhamantus Griffith Tregaron a’i deulu wrth iddynt symud o Sir Gaerwrangon i’r plas teuluol yn Nant Escob, sydd wedi’i leoli mewn cwm serth yng Nghymru, a’r orfodaeth arnynt yn y pen draw i adael y tŷ a’r cwm wrth iddo foddi yn raddol yn nyfroedd afon Garon. Roedd y cyferbyniad rhwng gerwinder y cymoedd a’r mynyddoedd Cymreig a oedd serch hynny o fewn cyrraedd tirwedd amaethu fwy croesawus Canoldir Lloegr yn un o themâu gwaelodol y nofel hon gan nofelydd yr oedd edmygedd mawr iddo yn ystod ei oes, er bod rhai yn ei ystyried yn or-deimladwy. Roedd natur y lle wedi newid am byth, ond yn ddiamau fe fynegodd Phillipa, arwres y nofel, farn boblogaidd ynghylch cwm Elan, sef bod ysbryd y lle, a oedd yn ‘resurgent, inviolable, had perfected out of man’s disfigurement, a new loveliness surpassing any that conscious man could achieve’:

‘a new earth, if not a new heaven. For the earth that she knew and loved had passed away and the waters lay everywhere . . . in two shining lakes whose clear surface, swept by the draughts curling through the valley, danced with crystalline wavelets, which lapped their shores in an innocent gaiety, or, when flaws of wind passed, spread mirrors of indigo in whose depths the reflected mountains appeared to dream, as though lost in the contemplation of their own still beauty’.

Claerwen dam, started in 1946 and officially opened by Queen Elizabeth in 1952 as one of her first official engagements. Photo: CPAT 03-c-0659
Argae Claerwen, a ddechreuwyd ym 1946, ac a agorwyd yn swyddogol gan y Frenhines Elizabeth ym 1952 fel un o’i hymrwymiadau swyddogol cyntaf. Llun: CPAT 03-c-0659.

Daeth rhybudd yn sgîl sychder difrifol 1937 y byddai angen i ddinas Birmingham gynyddu ei chyflenwad dŵr, ac er bod cynlluniau ar gyfer cronfa newydd yn eithaf datblygedig erbyn 1939, ac yn aros am fesur seneddol pellach, gohiriwyd y gwaith adeiladu oherwydd dechrau’r Ail Ryfel Byd. Ystyrid argaeau a chronfeydd dŵr cwm Elan yn dargedau amlwg i’w difrodi neu eu bomio yn ystod yr Ail Ryfel Byd, gan y byddai hyn yn bygwth prif gyflenwad dŵr Birmingham, a byddai gweithwyr ac unedau’r Gwarchodlu Cartref yn eu gwarchod trwy gydol y rhyfel. Mae dau safle caerau tanddaearol chweongl o frics coch yng Nghoed y Foel ar y gyffordd rhwng cronfeydd dŵr Caban-coch a Garreg-ddu yn olion gweladwy o’r cyfnod. Byddai argae cerrig bychan 35 troedfedd o uchder a adeiladwyd ar draws Nant-y-gro uwchlaw argae Caban-coch, yn gynnar ar ddiwedd y 19eg ganrif i gyflenwi pentref y gweithwyr yn chwarae rhan hynod ym misoedd Mai a Gorffennaf 1942, gan iddo gael ei ddefnyddio yn ystod y paratoadau cynnar a chyfrinachol iawn ar gyfer cyrchoedd ‘Dambusters’ Barnes Wallis ar argaeau dyffryn Ruhr ym 1943. Mae’r argae yn Nant-y-gro a fomiwyd i’w weld yn yr un cyflwr fwy neu lai ag y gadawyd ef yn ystod y rhyfel.

Ar ôl y rhyfel aed ati unwaith eto i helaethu cynhwysedd cronfeydd dŵr cwm Elan. Roedd y datblygiadau ym maes peirianneg a mecaneg a ddigwyddodd ar ddechrau’r 20fed ganrif wedi caniatáu adeiladu argae lletach ac uwch nag a ragwelwyd yn wreiddiol, tua 1.5 cilometr i lawr yr afon o’r argae a fwriadwyd ar gyfer cronfa ddŵr Pant-y-beddau. Dechreuwyd adeiladu’r gronfa ym 1946 ac agorwyd hi yn swyddogol gan y Frenhines Elizabeth ym 1952 fel un o’i hymrwymiadau swyddogol cyntaf, gan ddyblu bron iawn y cyflenwad dŵr o Gwm Elan i Birmingham

Roedd tua 470 o ddynion wedi gweithio i adeiladu’r argae, yn 56 metr o uchder ac yn 355 metr o led, ac yn wahanol i’r gweithlu a fu’n adeiladu’r cronfeydd cynharach, roedd pob un ohonynt yn byw yn y gymuned leol ac yn cael eu cludo mewn cerbydau ffordd i’r safle. Roedd y gweithlu’n cynnwys tua 100 o seiri maen o’r Eidal oherwydd bod yna brinder crefftwyr medrus yn sgîl y ffaith eu bod wrthi’n atgyweirio adeiladau a ddifrodwyd mewn sawl dinas Brydeinig yn ystod y rhyfel, gan gynnwys gwaith adfer ar y Senedd-dy yn Llundain. Cludid y rhan fwyaf o’r deunyddiau ar y ffordd o depo’r rheilffordd yn Rhaeadr.

Hon fyddai’r gronfa ddŵr fwyaf yng nghymhlyg cwm Elan. Mae wedi’i hadeiladu o goncrid, ond ar gost ychwanegol sylweddol o ran arian a llafur, gosodwyd meini ag wynebau cerrig o Dde Cymru a Swydd Derby arno ac ymgorfforwyd nodweddion dyluniad eraill fyddai’n sicrhau ei fod yn cyd-fynd â safonau esthetig yr argaeau cynharach yng Ngwm Elan. Rhyddheir dŵr o’r gronfa gan un o ddwy bibell sy’n 1.2 metr ei diamedr y naill ochr i waelod yr argae, sy’n gollwng y dŵr i afon Claerwen.

The Foel valve tower on the Garreg-ddu reservoir, where water is drawn off to begin its journey to the Frankley reservoir south of Birmingham. The lower part of the tower is normally hidden below the surface of the reservoir. Photo: CPAT 1526.14.
Falfdy’r Foel ar gronfa ddŵr Garreg-ddu, lle tynnir y dŵr i ddechrau ar ei daith i gronfa ddŵr Frankley i’r de o Birmingham. Mae rhan isaf y tŵr wedi’i guddio fel arfer islaw wyneb y gronfa ddŵr. Llun: CPAT 1526.14.

Rhoddwyd ystyriaeth weithredol i’r cynigion pellach i helaethu cynhwysedd cronfeydd dŵr cwm Elan yn gynnar yn y 1970au, gan ganolbwyntio ar ‘Argae Uchel’ newydd a fyddai i bob pwrpas yn disodli argae Craig Goch. Ni roddwyd y cynllun ar waith, fodd bynnag, er ei bod yn amlwg o adroddiad a gyflwynwyd ym 1973 y byddai’r gwaith peirianneg newydd hwn wedi bod yn groes i’r traddodiad:

‘at the time of their construction these structures were technological achievements of the highest order. A new and higher dam at Craig Goch would, in our view, best be designed in a style appropriate to its size and the times in which we live.’

Yn ogystal â’r tai tyrbinau gwreiddiol islaw argae Caban-coch, ychwanegwyd tyrbinau trydan dŵr at argaeau Claerwen, Craig Goch a Phenygarreg a thŵr y Foel ym 1998. Mae’r safleoedd generadu wedi’u cuddio cyn belled ag y mae modd, ac maent wedi’u cysylltu â cheblau tanddaearol.

Rheolwyd Stad Elan i amddiffyn safon a swm y cyflenwadau dŵr ers 1892, ac yn rhannol o ganlyniad i hyn, mae ei rhostiroedd, ei chorsydd, ei choetiroedd, ei hafonydd a’i chronfeydd dŵr yn bwysig ar lefel genedlaethol i blanhigion a bywyd gwyllt. Heddiw mae’r stad 17,402 hectar wedi ei rhannu yn 43 tyddyn, pump ohonynt wedi’u rheoli’n uniongyrchol gan y stad a’r gweddill gan denantiaid Ymddiriedolaeth Cwm Elan. Defnyddir y rhostir o fewn cefndeuddwr y cronfeydd dŵr ar gyfer ffermio defaid yn bennaf, er bod yno hefyd nifer gyfyngedig o wartheg a llond dwrn o ferlod mynydd Cymreig lled-wyllt.

Ffynonellau Gwybodaeth Eraill

Gellir darganfod gwybodaeth bellach am Gwm Elan mewn amrywiaeth o ffynonellau cyhoeddedig a rhai nad ydynt wedi’u cyhoeddi.

Ffynonellau cyhoeddedig

Abse, J., 2000. Letters from Wales, Bridgend.

Anon, 1813. Cambrian Traveller’s Guide, London.

Baker, A.R.H & Butler, R.H. (eds), 1973. Studies of Field Systems in the British Isles, Cambridge.

B[anks], R.W., 1880. ‘Grange of Cwmtoyddur’, Archaeologia Cambrensis 2, 4th ser., 30-50.

Banks, R.W., 1885. ‘On a bronze dagger found at Bwlch y ddey faen, Breconshire’, Archaeologia Cambrensis 2 , 156.

Barclay, T., 1898. The Future Water Supply of Birmingham.

Baughan, P.E., 1991. A Regional History of the Railways of Great Britain, Volume 11, North and Mid Wales, Nairn.

Bidgood, R., 1986. ‘Early families of Rhydoldog, Llansanffraid Cwmteuddwr, Part 1’, Transactions of the Radnorshire Society 56, 35-51.

Bidgood, R., 1987. ‘Early families of Rhydoldog, Llansanffraid Cwmteuddwr, Part 2’, Transactions of the Radnorshire Society 57, 34-48.

Bidgood, R., 1992. Selected Poems, Bridgend.

Bidgood, R., 1995. ‘Nantgwyllt, Part 1’, Transactions of the Radnorshire Society 65, 33-46.

Bidgood, R., 1996a. ‘Nantgwyllt, Part 2’, Transactions of the Radnorshire Society 66, 16-30.

Bidgood, R., 1996b. The Fluent Moment, Brigend.

Bidgood, R., 2003. Abergwesyn: Bwlch y Ddau Faen, Places. y Man a’r Lle 6, Gwasg Gregynog.

Bowen, E.G., 1950. ‘The monastic economy of the Cistercians of Strata Florida’, Ceredigion 1.

Bowen, E.G., 1965. Wales: A Physical, Historical and Regional Geography, London, 2nd edn.

Bromwich, R., & Evans, D. Simon, 1992. Culhuwch and Olwen, Cardiff.

Browne, D. & Hughes, S., 2003. The Archaeology of the Welsh Uplands, RCAHMW.

Buckley, S.L. & Waler, M.J.C., 2001. ‘The Flandrian vegetation history of upland Mid-Wales — Bryniau Pica’, in M.J.C. Walker & D. McCarroll (eds), The Quaternary of West Wales: Field Guide, Quaternary Research Association, 93-102.

Bull, D.E., 2003. Aberglanhirin, Elan Valley: Tir Gofal Historic Environment report – HE2, CPAT Report 602.

Burgess, C. B., 1962 , ‘The Bronze Age in Radnorshire: a re-appraisal’, Transactions of the Radnorshire Society 32, 7-24.

Burnham, H. , 1995. A Guide to Ancient and Historic Wales: Clwyd and Powys.

Cadw 1999. Register of Landscapes, Parks and Gardens of Special Historic Interest in Wales. Part 1: Parks & Gardens, Powys.

Cadw 2001. Register of Landscapes of Special Historic Interest in Wales, CCW/Cadw/ICOMOS UK.

Cadw & CCW 2003. Guide to Good Practice on using the Register of Landscapes of Historic Interest in Wales in the Planning and Development Process, Cadw Welsh Historic Monuments and Countryside Council for Wales, July 2003.

Cambrian Archaeological Projects 2001. Uplands Survey Initiative – Landscape No: 55. The Elan Valley, Cambrian Archaeological Project Report No. 161.

Carter, D., 1840? Rhaiadr Gwy: a poem illustrated by notes historical and topographical, antiquarian and archaeological, Llanidloes.

Caseldine, A., 1990. Environmental Archaeology in Wales, St David’s University College, Lampeter.

CCW 2001. The LANDMAP Information System/System Wybodaeth LANDMAP, Countryside Council for Wales, 2001, version 1.

Clark, J., 1794. A General View of the Agriculture of the County of Radnor, London.

Colyer, R.J., 1966. The Welsh Cattle Drovers, Cardiff.

Colyer, R.J., 1977. ‘Welsh cattle drovers in the nineteenth century’, National Library of Wales Journal 17, 392-409.

Coppack, G., 2000. The White Monks. The Cistercians in Britain 1128–1540, Stroud.

Countryside Commission 1988. The Common Lands of Wales [Map and Gazetteer].

Cragg, R., (ed.) 1997. Civil Engineering Heritage: Wales and West Central England, London.

Davies, D. R., 1948. ‘Old Music Manuscript’, Transactions of the Radnorshire Society 18, 69.

Davies, E., 1980. ‘Hafod, hafoty, and lluest: their distribution, features and purpose’, Ceredigion 9.1, 1-41.

Davies, E., 1984-85. ‘Hafod and lluest’, Folk Life 23, 76-96.

Davies, J. L. & Webster, P., 1977. Archaeological Survey, Site of Enlarged Craig Goch Reservoir.

Davies, Walter, 1815. A General View of the Agriculture and Domestic Economy of South Wales, London, 2 vols.

Dowden, E., 1886. The Life of Percy Bysshe Shelley, 2 vols.

Drake, A.J., 2000. Cambrian Way, Tewkesbury.

Faraday, M.A., 1996. ‘The Radnorshire Lay Subsidy of 1543-1545’, Transactions of the Radnorshire Society 66, 82-129.

Faraday, M.A., 1989. ‘The Radnorshire Hearth Tax Return of 1670. Part One’, Transactions of the Radnorshire Society 59, 29-58.

Fenn, R.W.D. & Sinclair, J.B., 1989. ‘ “Our ubiquitous friend”. S.W. Williams, F.S.A., F.R.I.B.A., F.S.I., 1837-1899’, Transactions of the Radnorshire Society 59, 116-33.

Fenn, R.W.D. & Sinclair, J.B., 2003. ‘Stephen W. Williams of Penralley, 1837–1899’, Archaeologia Cambrensis 149 (2000), 89–121.

Fenn, R.W.D., Fenn, A.C.W. & Sinclair, J.B., 2002. ‘Radnorshire: some polite perceptions of its landscape’, Transactions of the Radnorshire Society 72, 84-120.

Flemming-Williams, L. & Myhill, C., 2003. ‘The Monks Trod: a path of time and place’, Rural Wales, Summer 2003, 12–17.

George, T.N., 1970. British Regional Geology: South Wales, HMSO, 3rd edn.

Godwin, F. & Toulson, S., 1977. The Drovers’ Roads of Wales, London.

Gregory, D., 1994. Radnorshire: A Historical Guide.

Grimes, W. F. , 1937. ‘Recent finds of prehistoric implements’, Bulletin of the Board of Celtic Studies 8, 96.

Grimes, W. F. , 1951. Prehistory of Wales.

Guest, C., 1849. The Mabinogion from the Llyfr Coch o Hergest and other ancient Wesh Manuscripts, with an English Translation and Notes, 3 vols, London.

Hall, G.W., 1993. Metal Mines of Southern Wales, Herefordshire.

Hankinson, R., 2003. Elan Valley (NE) Upland Survey, Powys: Field Survey, CPAT Report 516.

Haslam, R., 1979. The Buildings of Wales: Powys, Cardiff.

Hawkins, D., 1985. ‘The Groves of Cwm Elan’, Transactions of the Radnorshire Society 60, 45-9.

Hogg, A.H.A. & Jones, G.D.B., 1979. ‘The Roman marching camp at Esgairperfedd (Radnor)’, Bulletin of the Board of Celtic Studies 22, 274-6.

Hopkinson, C. & Speight, M., 2002. The Mortimers, Lords of the March, Logaston.

Hoskins, W.G. & Stamp, L. Dudley, 1963. The Common Lands of England and Wales, London.

Houlder, C., 1974. Archaeological Guide to Wales.

Howse, W., 1952. ‘The Turnpike System’, Radnorshire Society Transactions 22, 12-21, 64-5. Howse, W.H., 1949. History of Radnorshire, London.

Jarrett, M.G., 1969 (ed.). The Roman Frontier in Wales, Cardiff.

Jenkins, J.G., 1962. Agricultural Transport in Wales, National Museum of Wales, Cardiff.

Jenkins, J.G.., 1969. The Welsh Woollen Industry, National Museum of Wales, Cardiff.

Jerman, H. N. , 1936 , ‘The Bronze Age in Radnorshire. Part I’, Transactions of the Radnorshire Society 6 , 33-48.

Jones, F.L. (ed.) 1964. The Letters of P.B. Shelley, Oxford University Press.

Jones, I.E., 1977. ‘The mapping of Radnorshire before the Ordnance Survey’, Transactions of the Radnorshire Society, 47, 13-24.

Jones, N.W., Walters, M. & Frost, P., forthcoming. Mountains and Orefields: Metal Mining Landscapes of Mid and North-East Wales, Council for British Archaeology Research Report.

Jones, S.R. & Smith, J.T., 1963. ‘The houses of Breconshire. Part I. The Builth District’, Brycheiniog 9, 1-77.

Jones, T., 1909-30. History of the County of Brecknock, 4 vols in 2 vols, Glanusk edn.

Jones, T. Thornley, 1951 , ‘The Giant’s Grave’, Transactions of the Radnorshire Society 21, 50 .

Judge, C.W., 1997. The Elan Valley Railway: The Railway of the Birmingham Corporation Waterworks, Usk.

Kidner, R.W., 2003. The Mid-Wales Railway, Usk.

Lapworth, H., 1899-1900. ‘The construction of the Elan Aqueduct: Rhayader to Dolau’, Min. Proc. Instn Civ. Engrs, 140, 235-48.

Lewis, M. Gwyneth, 1977. The Printed Maps of Radnorshire 1578-1900, National Library of Wales.

Lewis, S., 1833. A Topographical Dictionary of Wales, London.

Lewis Lloyd, L.B., 1950. ‘Squire Lewis’s hounds’, Transactions of the Radnorshire Society 20, 65-6.

Lewis, W.J., 1967. Lead Mining in Wales, University of Wales Press, Cardiff.

Linnard, W., 2000. Welsh Woods and Forests, Llandysul.

Lloyd, J.E. & Jenkins, R.T., 1959. he Dictionary of Welsh Biography Down to 1940, The Honourable Society of the Cymmrodorion.

Lloyd, T., 1989. The Lost Houses of Wales, 2nd edn, London.

MAFF 1985. ‘Agricultural Land Classification of England and Wales’, Map and Technical Report No. 11, HMSO, London.

Mansergh, J., 1894. ‘The Birmingham Water Scheme’, in R.E.Tickell, The Vale of Nantgwilt: A Submerged Valley, London, 11-17.

Mansergh, E.L. & Mansergh, W.L., 1911-12. ‘The works for the supply of water to the City of Birmingham from mid-Wales’, Min. Proc. Instn Civ. Engrs 190, 23-25.

Maxfield, C.E., 2003. Penglaneinon, Elan Valley, Tir Gofal Historic Environment Report – HE2, Clwyd-Powys Archaeological Trust Report 602.

Miles, D. H. and Haddon-Reece, D., 1996. ‘Welsh Dendrochonology Project’, Vernacular Architecture 27, 106-13.

Miles, D. H. & Worthington, M. J., 1999 , ‘List 103: Welsh Dendrochronology Project – phase three’, Vernacular Architecture 30.

Milton, D., 1999. The Elan Valley Way, Oldbury.

Moore, P.D., 1994. ‘The history of vegetation in Cardiganshire’, in J.L. Davies & D.P. Kirby (eds), Cardiganshire County History. Volume 1. From the Earliest Times to the Coming of the Normans, Cardiff.

Moore, P.D. & Chater, E.H., 1969a. ‘Studies in the vegetation history of mid Wales. I. The post-glacial period in Cardiganshire’, New Phytologist 68, 183-96.

Moore, P.D. & Chater, E.H., 1969b. ‘The changing vegetation of west-central Wales in the light of human history’, Journal of Ecology 57, 361-79.

Moore-Colyer, R., 2001. Roads & Trackways of Wales, Ashbourne.

Moore-Colyer, R., 2002. Welsh Cattle Drovers, Ashbourne.

Morgan, R., 1998. A Sudy of Radnorshire Place-Names, Llanrwst.

Morgan, R. & Powell, R.F.P., 1999. A Study of Breconshire Place-Names, Llanrwst.

Morton, R., 1997. The Building of the Elan Valley Dams.

Nash-Williams, V.E. , 1950. The Early Christian Monuments of Wales.

Newman, C. W., 1960. ‘Shelley and Nantgwyllt: three new letters’, Transactions of the Radnorshire Society 30, 17-30.

Nicholson, G., 1813. The Cambrian Traveller’s Guide in Every Direction.

O’Dwyer, S., 1936. The Roman Roads of Wales. IV. Cardiganshire and Radnorshire, Newtown.

Oliver, R. C. B., 1983. ‘The diary of Captain Frederick Jones. Part I, 1789 to 1799’, Transactions of the Radnorshire Society 53, 28-56.

Owen, D. E., 1911. ‘On a stone axe hammer from Clap-yr-arian, Rhayader ‘, Archaeologia Cambrensis 11, 153.

Owen, D. H., 1989. ‘The Middle Ages’, in D. H. Owen (ed.), Settlement and Society in Wales, Cardiff.

Owens, M., 2000 , ‘Llanerch-y-Cawr — An old Welsh longhouse restored by the Welsh Water Elan Trust’, Rural Wales, 13.

Parker, W. K., 1977. ‘The visits of Walter Davies to Radnorshire, 1802-11’, Transactions of the Radnorshire Society 47, 52-61.

Peate, Iorwerth C., 1944. The Welsh House, 2nd edn, Liverpool.

Peate, Iorwerth C., 1972. Tradition and Folk Life: A Welsh View, London.

Pennant, T., 1784. A Tour in Wales, London.

Pierce, T. Jones, 1950. ‘Strata Florida Abbey’, Ceredigion 1.

Platt, C., 1969. The Monastic Grange in Medieval England, London.

Price, J. E., 1936. ‘Schedule of Radnorshire Place names. Parish of Llansantffraed Cwmdauddwr’, Transactions of the Radnorshire Society 6 , 66-78.

Prince, H., 1989. ‘The changing rural landscape’ 1750–1850’, in G.E. Mingay (ed.), The Agrarian History of England and Wales Vol. 6, 1750–1850, Cambridge University Press, 7–83.

Pugh, J. A., 1936. ‘Notes on the parish of Cwmteuddwr’, Transactions of the Radnorshire Society 6 , 61-5.

RCAHM, 1913. Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouth III – County of Radnor.

RCAHMW 1992. An Inventory of the Ancient Monuments in Glamorgan, Volume III: Medieval Secular Monuments, Part II: Non-defensive, Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales.

RCAHMW 1997. An Inventory of the Ancient Monuments in Brecknock (Brycheiniog); The Prehistoric and Roman Monuments, Part 1, Later Prehistoric Monuments and Unenclosed Settlements to 1000 A.D., Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales.

Rees, S. E., 1997. ‘The historical and cultural importance of ponds and small lakes in Wales, UK’, Aquatic Conservation 7 (1997), 133–9.

Rees, W., 1924. South Wales and the March, 1284-1415, Oxford.

Rees, W., 1968. An Historical Atlas of Wales, 3rd edn, London.

Richards, M., Welsh Administrative and Territorial Units, Cardiff.

Ridyard, G.W., 1994a. ‘Water power in Radnorshire’, Transactions of the Radnorshire Society 9, 36-48.

Ridyard, G.W., 1994b. ‘Supplementary notes on watermills of Radnorshire – part II’, Melin 10, 2-39.

Ridyard, G.W., 1997. ‘Supplementary notes on watermills of Radnorshire – part IV’, Melin 13, 55-87.

Ridyard, G.W., 1998. ‘Supplementary notes on the watermills of Radnorshire – part V’, Melin 14, 15-50.

Rossetti, W.M., 1894. ‘Shelley at Cwm Elan and Nantgwilt’, in R.E. Tickell, The Vale of Nantgwilt: A Submerged Valley, London, 17-35.

Rowlands, D.W.L., 2003. ‘David Jones’s reminiscences on old Llanwddyn and the construction of Lake Vyrnwy’, Montgomeryshire Collections91, 109-36.

Rudeforth, C.C., Hartnup, R., Lea, J. W., Thompson, T. R. E., & Wright, P.S., 1984. Soils and their Uses in Wales, Bulletin No. 11, Soil Survey of England and Wales, Harpenden.

Savory, H.N., 1958. ‘The Late Bronze Age in Wales. Some new discoveries and intepretations’, Archaeologia Cambrensis 107, 3-63.

Savory, H. N., 1980. Guide Catalogue of the Bronze Age Collections.

Sheail, J., 1971. Rabbits and their History, Newton Abbot.

Silvester, R.J., 1991. ‘Tomen Llansantffraid: a motte near Rhaeadr, Powys’, Medieval Archaeology 35, 109-14.

Silvester, R.J., 1994a. Elan Valley Uplands Field Survey 1993/94, Clwyd-Powys Archaeological Trust Report 97.

Silvester, R. J. , 1994b. Radnorshire Historic Settlements , Clwyd-Powys Archaeological Trust Report 92 .

Silvester, R.J., 1995. ‘Pillow mounds at Y Foel, Llanllugan’, Montgomeryshire Collections 83 (1995), 75–90.

Silvester, R.J., 1997. Deserted medieval and later rural settlements in Radnorshire, Clwyd-Powys Archaeological Trust Report 227.

Silvester, R.J., 2000. ‘Deserted rural settlements of medieval and later date in north-eastern and central Wales’, in Atkinson, J.A., Banks, I. & MacGregor, G., Townships to Farmsteads: Rural Settlement Studies in Scotland, England and Wales, British Archaeological Reports, British Series 293.

Smith, L.T., (ed.), 1907-10. The Itinerary of John Leland the Antiquary, in or about the years 1535-45, 5 vols, London.

Smith, P , 1963 , ‘The longhouse and the laithe house: a study of the house-and-byre homestead in Wales and the West Riding’, in L. Alcock & I. Ll. Foster, Culture and Environment, 415-37.

Smith, P., 1988. Houses of the Welsh Countryside, 2nd edn.

Smith, R.T. & Taylor, J.A., 1969. ‘The post-glacial development of vegetation and soils in north Cardiganshire’, Transactions of the Institute of British Geography 48, 75-95.

Soil Survey 1983. 1:250,000 Soil Map of England and Wales, Sheet 2, Wales, Soil Survey of England and Wales.

Stephens, M., 1986. The Oxford Companion to the Literature of Wales, Oxford University Press.

Suggett, R., 1996. ‘The chronology of late-medieval timber houses in Wales’, Vernacular Architecture 27, 28-35.

Suggett, R., forthcoming. Houses and History in the Welsh Marches: the Medieval Houses of Radnorshire and their Transformations, RCAHMW.

Taylor, C., 1975. Fields in the English Landscape, London.

Thirlwell, A., 2003. William and Lucy: the other Rossettis, Yale.

Thomas, S.P., 1984. ‘Twelve miles a day: some thoughts on the drovers’, Transactions of the Radnorshire Society 54, 58-66.

Thorpe, L., 1978. Gerald of Wales: The Journey through Wales and The Description of Wales, Harmondsworth.

Tickell, R.E., 1894. The Vale of Nantgwilt: A Submerged Valley, London.

Timberlake, S., 2002. ‘Medieval lead-smelting boles near Penguelan, Cwmystwyth, Ceredigion’, Archaeology in Wales 42, 45-60.

Timberlake, S., 2003. Excavations on Copa Hill, Cwmystwyth (1986-1999): An Early Bronze Age Copper Mine within the uplands of Central Wales, British Archaeological Reports 348.

Tomos, D., 1980. Michael Faraday in Wales, London.

Wade-Evans, A.W., 1938. Nennius’s History of the Britons.

Walters, M., 1993. Powys Metal Mines Survey, Clwyd-Powys Archaeological Trust Report 89.

Ward, C., 2002. Cotters and Squatters: Housing’s Hidden History, Nottingham.

Welsh Water (undated). Metal Mines of the Elan Estate, Elan.

Wiliam, E., 1986. The Historical Farm Buildings of Wales.

Wiliam, E., 1992. Welsh Long-houses. Four Centuries of Farming at Cilewent, National Museum of Wales, Cardiff.

Williams, D., 1954. The Rebecca Riots, University of Wale Press, Cardiff.

Williams, D. H., 1990. Atlas of Cistercian Lands in Wales, University of Wale Press, Cardiff.

Williams, D. H. , 1999 , ‘Stephen William Williams: The Archaeologist and Soldier: The Man and his Family’, Transactions of the Radnorshire Society 69, 116-42.

Williams, D. H., 2001. The Welsh Cistercians, Leominster.

Williams, G., 1991. ‘Romantic and Realist: Theophilus Evans and Theophilus Jones’, Archaeologia Cambrensis 149, 17-27.

Williams, J., 1905. A General History of the County of Radnor, Brecon.

Williams, S.W., 1889. The Cistercian Abbey of Strata Florida, London.

Williams, S.W., 1894. ‘The Grange of Cwmteuddwr’, in R.E. Tickell, The Vale of Nantgwilt: A Submerged Valley, London, 36-40.

Wiltshire, P.E.J. & Moore, P.D., 1983. ‘Palaeovegetation and palaeohydrology in upland Britain’ in K.J. Gregory, Background to Palaeohydrology, [John Wiley & Sons], 433-51.

Winchester, A.J.L., 2000. The Harvest of the Hills, Edinburgh University Press.

Young, Francis Brett, 1932. The House Under the Water, Combridge, Birmingham.

Gwefannau eraill â gwybodaeth am Gwm Elan:

British Dams Sociey: gwybodaeth am argaeau ym Mhrydain.

Ymddiriedolaeth Cwm Elan: hanes naturiol, bywyd gwyllt a chadwraeth.

Casglu’r Tlysau: ffotograffau, lluniau a thestun (chwiliwch am Gwm Elan) o’r archifau.

Prosiect Hanes Digidol Powys: ffotograffau, lluniau a thestun (dilynwch Six Powys Communities Online, Rhayader and the Elan Valley) o’r archifau.

671 Squadron: The “Dambusters”: gweithgareddau adeg y rhyfel yng nghwm Elan.

The Lost Club Journal: erthygl gan J. Howard am Francis Brett Young (dilynwch Lost Club Authors, ac yna Francis Brett Young).

Ardaloedd nodwedd

Diffiniwyd yr ardaloedd nodwedd tir hanesyddol o fewn ardal y dirwedd hanesyddol.

Character Areas

Small and well-preserved estate village with stone-built houses, school, estate office in Arts and Crafts style built by City of Birmingham Corporation largely in 1909.

Pentref Elan, Cymuned Rhaeadr, Powys (HLCA 1132)

Pentref stad bychan mewn cyflwr da, gyda thai cerrig, ysgol a swyddfa ystad yn yr arddull Celf a Chrefft a godwyd gan Gorfforaeth Dinas Birmingham yn bennaf ym… Yn ôl i'r map
Diverse landscape within, around and below the Victorian and Edwardian reservoir scheme, including dams, reservoirs and ancillary structures, remains of features associated with construction, the flooded landscape in the valley bottoms exposed periodically when the water level is low, together with conifer plantations, remnant natural and semi-natural broadleaved woodland, fields and farms around the valley sides.

Cronfeydd Dwr Cwm Elan Cymunedau Llanwrthwl a Rhaeadr, Powys (HAC 1131)

Tirwedd amrywiol o fewn, o amgylch ac islaw'r cynllun cronfeydd dwr Fictoraidd ac Edwardaidd, gan gynnwys argaeau, cronfeydd a strwythurau ategol, olion nodweddion sy'n gysylltiedig ag adeiladu, y… Yn ôl i'r map
Undulating lowland fieldscapes and farms of medieval and later origin along the lower Elan valley and its confluence, between Elan Village and Llansantffraid Cwmdeuddwr, to the west of Rhayader.

Deuddwr Cymunedau Llanwrthwl a Rhaeadr, Powys (HLCA 1139)

Tirwedd donnog iseldirol o gaeau a ffermydd canoloesol eu tarddiad neu ddiweddarach ar hyd ran isaf cwm Elan a'i chymer rhwng Pentref Elan a Llansantffraid Cwmdeuddwr i'r gorllewin… Yn ôl i'r map
Dispersed copper and lead mining landscape of the mid to late 19th century in the Claerwen valley and adjacent upland stream valleys, comprising the Nant y Car North, Nant y Car South, Dalrhiw and Nantygarw mining sets.

Dalrhiw Cymuned Llanwrthwl, Powys (HLCA 1135)

Tirwedd mwyngloddio copr a phlwm gwasgarog o ganol i ddiwedd y 19eg ganrif yng nghwm Claerwen a chymoedd nentydd uwchdirol gerllaw, gan gynnwys setiau mwyngloddio Gogledd Nant y… Yn ôl i'r map
Compact and well-preserved former lead and zinc mining landscape, principally of the late 19th century, with traces of earlier mining remains.

Mwynglawdd Cwm Elan Cymuned Rhaeadr, Powys (HLCA 1134)

Hen dirlun mwyngloddiau plwm a sinc sy'n gryno ac mewn cyflwr da, o'r 19eg ganrif yn bennaf, gydag olion mwyngloddio cynharach. Cefndir hanesyddol a nodweddion allweddol y dirwedd… Yn ôl i'r map
Landscape of dispersed farms and small irregular fields of medieval and later origin in upland valley between Carn Gafallt and the Elenydd uplands, with indications of much earlier, prehistoric activity.

Cwm Dulas Cymunedau Llanwrthwl a Rhaeadr, Powys (HLCA 1137)

Tirwedd o ffermydd gwasgaredig a chaeau bychain afreolaidd o darddiad canoloesol neu ddiweddarach yn y cwm ucheldirol rhwng Carn Gafallt ac ucheldiroedd Elenydd, gydag arwyddion o weithgarwch llawer… Yn ôl i'r map

Claerwen Cymuned Llanwrthwl a Rhaeadr (Powys), Cymunedau Ystrad Fflur (Ceredigion) (HLCA 1133)

Adeiladwyd yr argae a'r gronfa ddwr ar ddiwedd y 1940au a dechrau'r 1950au i wella cyflenwadau dwr Birmingham o gwm Elan, mewn arddull sy'n cyd-fynd â chronfeydd dwr… Yn ôl i'r map
Small isolated upland area between the Cwm Elan and Cwm Dulas valleys with steep, wooded sides, now partly managed as a nature reserve, with prehistoric burial monuments and traces of possibly post-medieval cultivation.

Carn Gafallt Cymunedau Llanwrthwl a Rhaeadr, Powys (HLCA 1138)

Ardal fechan ucheldirol anghysbell rhwng cymoedd Elan a Dulas, gydag ochrau serth coediog. Bellach, rheolir hi yn rhannol fel gwarchodfa natur, â henebion claddu cynhanesyddol ac olion amaethu… Yn ôl i'r map