Skip to main content

Ardal fechan ucheldirol anghysbell rhwng cymoedd Elan a Dulas, gydag ochrau serth coediog. Bellach, rheolir hi yn rhannol fel gwarchodfa natur, â henebion claddu cynhanesyddol ac olion amaethu ôl-ganoloesol o bosib.

Cefndir hanesyddol a nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Ardal fechan ucheldirol anghysbell wedi’i gorchuddio â grug yn bennaf, rhwng cymoedd Elan a Dulas, rhwng 250 a 460m uwchlaw’r Datwm Ordnans. Rhai llethrau dan orchudd o redyn gyda brigiadau creigiog ac ambell glogfaen fawr naturiol.

Roedd yr ardal yn ffurfio rhan o gantref canoloesol cynnar a chanoloesol Buellt, a bu’n rhan o stad Glanwysg, ond prynwyd hi gan yr RSPB sydd bellach yn ei rhedeg yn rhannol fel gwarchodfa natur. Mae grwp o garneddi claddu, o’r Oes Efydd mae’n debyg, ar ymyl ddeheuol y bryn uwchlaw Talwrn, a sawl carnedd unigol mewn mannau eraill yn awgrymu gweithgarwch cynhanesyddol, ac y gallai fod porfeydd ucheldirol wedi’u hecsbloetio i’w pori ers cyfnod cynnar. Mae gan un o’r carneddi, o’r 8fed ganrif efallai, gysylltiad chwedlonol â Chabal, ci’r Brenin Arthur, a hela’r twrch trwyth.

Mae arwyddion o’r gweithgarwch amaethyddol gynt mewn nifer o ardaloedd unigol â charneddi carega ac olion amaethu cefnen a rhych a welwyd yn yr awyrluniau. Ni phennwyd dyddiad ar gyfer y rhain, ond mae’n bosibl eu bod yn perthyn i’r cyfnod ôl-ganoloesol. Mae’r grwp bychan o gaeau amgaeedig ym Mhen-y-rhiw a Gwarallt yn enghreifftiau o lechfeddiannau canoloesol neu ôl-ganoloesol cynnar ar y tir comin uwchdirol. Ceir nifer o dai ar ymylon yr ucheldir, a oedd yn gartrefi yng nghanol y 19eg ganrif ond sydd bellach yn wag, yn cynnwys yr adfeilion yng Ngwarallt uwchlaw Crownant.

Ffynonellau

  • Guest 1849
  • Jones 1909-30
  • RCAHMW 1997
  • Wade-Evans 1938
  • Regional Sites and Monuments Record

Small isolated upland area between the Cwm Elan and Cwm Dulas valleys with steep, wooded sides, now partly managed as a nature reserve, with prehistoric burial monuments and traces of possibly post-medieval cultivation.