Skip to main content

Tirwedd donnog iseldirol o gaeau a ffermydd canoloesol eu tarddiad neu ddiweddarach ar hyd ran isaf cwm Elan a’i chymer rhwng Pentref Elan a Llansantffraid Cwmdeuddwr i’r gorllewin o Rhaeadr.

Cefndir hanesyddol a nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Ceir arwyddion o’r gweithgarwch cynnar yn yr ardal yn y casgliad posibl o safleoedd claddu a defodol cynhanesyddol, gan gynnwys ffosydd cylch, cylch pydewau a meingylch ger fferm Coed-y-mynach, ar fymryn o deras i’r gogledd o afon Elan. Er mai ychydig o dystiolaeth hysbys sydd am anheddiad cynnar yn yr ardal, mae’n debygol bod patrwm o anheddu gwasgaredig ar sail economi amaethyddol gymysg wedi datblygu o ganlyniad i glirio’r coetir yn raddol a gwella’r tir rhwng y cyfnod cynhanesyddol a’r cyfnod canoloesol.

Roedd yr ardal yn gyfran bwysig o iseldir cwmwd canoloesol cynnar Deuddwr, ac yn rhan o dir y faenor fawr y rhoddodd Rhys ap Gruffydd i’r abaty Sistersaidd yn Ystrad Fflur ym 1184. Sefydlwyd canolfan y plasty ar ardal o dir ffrwythlon yn ardal Llanmadog, i’r gogledd-ddwyrain o Bentref Elan. Gallai mai dyna oedd canolfan weinyddu’r faenor a lle y byddai trigolion yr abaty yn amaethu neu lle y byddai rhywun yn amaethu ar eu rhan. Dywedir bod olion capel y faenor, sef Capel Madoc, i’w gweld yn y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed. Datblygodd ffermydd â thenantiaid a ffermydd rhydd-ddaliadol yn yr ardal, yn ystod y Canol Oesoedd mae’n debyg, a chafodd nifer o ffermydd newydd eu creu yn dilyn diddymu abaty Ystrad Fflur ym 1539 ac wrth i’w diroedd gael eu gwerthu wedyn.

Yn ystod y cyfnod rhwng diwedd y 16eg ganrif a diwedd y 18fed ganrif, gwelwyd twf yn nifer y stadau tiriog ar sail eiddo’r boneddigion yn Rhydoldog, Noyadd, Dderw a Gwardolau, a oedd rhyngddynt yn berchen ar lawer o’r tir yn yr ardal. Hwy hefyd arloesodd trwy gyflwyno nifer o welliannau amaethyddol. Roedd llawer o felinau dwr ar waith ar nant Gwynllyn i’r gogledd-orllewin o Raeadr o ddiwedd y 17eg ganrif hyd at ddiwedd y 19eg ganrif, i falu yd lleol a chribo a phannu gwlân y preiddiau o ddefaid a oedd yn pori ar y mynyddoedd i’r gorllewin. Awgrymir yr arfer o sychu yd cyn ei falu neu ei storio yn y 17eg ganrif neu ddiweddarach yn y dystiolaeth ddaw o enwau’r caeau. Goroesodd darnau mawr o goetir llydanddail hyd ddiwedd y 18fed ganrif, wrth i niferoedd mawr o goed derw gael eu cwympo ar dir yn Llanfadog Uchaf.

Arweiniodd y pwysau am well cludiant at greu ffordd dyrpeg Rhaeadr i Aberystwyth dros y mynyddoedd trwy ran uchaf cwm Elan ar ddiwedd y 18fed ganrif, a ddisodlwyd yn gynnar yn y 19eg ganrif gan y ffordd lai unionsyth ar hyd y dyffryn trwy Langurig. Daeth gwelliannau pellach i’r teithio pellter hir yn sgîl dyfodiad Rheilffordd Canolbarth Cymru rhwng Llanidloes a Llanelwedd, a groesai ochr ddwyreiniol yr ardal. Mae’r rheilffordd bellach ar gau, ond gellir gweld ei hynt o hyd yn yr argloddiau a’r trychfeydd a thwnnel byr i’r de o Raeadr.

Er ei bod y tu hwnt i gronfeydd dwr cwm Elan, effeithiodd y gwaith adeiladu rhwng 1894 a 1910 ar yr ardal, serch hynny. Roedd Rheilffordd Cwm Elan yn cysylltu’r gwaith adeiladu â Rheilffordd Canolbarth Cymru yng Nghyffordd Cwm Elan, i’r de o Raeadr, ac roedd traphont ddwr a gludai dwr i Birmingham yn ei chroesi. Mae hynt Rheilffordd Cwm Elan sydd bellach wedi’i datgymalu yn parhau i fod yn nodwedd neilltuol yn y dirwedd, yn enwedig ar ochr y ffordd o Raeadr i’r cronfeydd dwr. Gwelir cwrs y draphont ddwr lle mae’n croesi Nant Madog, Nant yr Haidd a Nant Caethon, mae siambr falf awyr i’r gogledd o fferm Noyadd, a’r siambr all-lif neilltuol o frics ar ochr y bryn i ogledd-ddwyrain fferm Coed-y-mynach.

Caeau bychain afreolaidd â gwrychoedd o’u hamgylch yw prif nodwedd yr ardal o ran caeau. Mae’n bosibl mai gweddillion cyfundrefn maes agored o’r canol oesoedd ar gyrion deheuol Llansantffraid Cwmdeuddwr sy’n gysylltiedig â’r anheddiad cnewyllol canoloesol yw’r ardal fechan o laingaeau. Ceir nifer o ardaloedd â chaeau bychain rheolaidd, gan gynnwys ardal helaethach ger canolfan y faenor fynachaidd yn Llanmadog, ac ymddengys bod rhan ohoni yn gysylltiedig ag amaethu cefnen a rhych. Mae’n bosibl fod y gyfundrefn caeau hon yn dyddio yn wreiddiol o’r canol oesoedd neu gallai fod wedi tarddu o amgaead tyddyn mynachaidd yn dilyn diddymu’r abaty yn Ystrad Fflur. Ceir nifer fechan o ardaloedd â chaeau mwy syth eu hochrau, er enghraifft y rheiny i’r de o fferm Fron-dorddu, sy’n edrych yn debyg i amgaead o’r 18fed ganrif neu 19eg o amgylch ymylon y tir comin ucheldirol.

Ffynonellau

Banks 1880; Baughan 1991; Bidgood 1995; Cadw 1999; Cragg 1997; Howse 1949; Jones & Owen 2003; Judge 1997; Kidner 2003; Price 1936; Pugh 1931-40; Ridyard 1994a, 1994b, 1997, 1998; Smith & Jones 1963; D. H. Williams 1990, 2001; J. Williams 1848; S. W. Williams 1894; Regional Sites and Monuments Record.

Undulating lowland fieldscapes and farms of medieval and later origin along the lower Elan valley and its confluence, between Elan Village and Llansantffraid Cwmdeuddwr, to the west of Rhayader.