Neidio i'r prif gynnwys

Cliciwch ar y rhifau ar y map neu enw’r ardal yn y rhestr isod am fanylion yr ardal.

Dolaucothi Map Bryn Arau Duon Cefn Branddu DYFFRYN FANAGOED ALLT-Y-HEBOG ALLT Y BERTH CWRT-Y-CADNO MYNYDD MALLÁEN CAEO FOREST BANC LLWYNCEILIOG DOLAUCOTHI GOLD MINES 253 DYFFRYN COTHI CAEO DOLAUCOTHI - PUMPSAINT

Character Areas

Ardal 253 – Dyffryn Cothi

253 Mae ardal gymeriad Dyffryn Cothi yn ymestyn ar draws gorlifdir a gwaelod ochrau dyffryn afon Cothi a'i hisafonydd. Fe'i nodweddir gan ffermydd a chaeau pori gwasgaredig. Mae'r hyn a fu gynt yn barcdir yn ymestyn dros lawr y dyffryn nid nepell oddi wrth Rhydodyn a Glan yr Annell. Yn ôl i'r map

Ardal 241 – Dolaucothi – Pumpsaint

241 Mae ardal gymeriad Dolaucothi - Pumsaint yn ymestyn ar draws llawr dyffryn afon Cothi ac mae'n cynnwys pentref Pumsaint, a'r parc a'r gerddi sy'n gysylltiedig â Thy Dolaucothi gynt. Adeiladau o'r 19eg ganrif a godwyd mewn arddull nodedig gan ystad Dolaucothi yn y 1850au sydd yn y pentref gan fwyaf. Yn ôl i'r map

Ardal 252 – Bryn Arau Duon

252 Planhigfa goedwigaeth fawr o'r 20fed ganrif wedi'i sefydlu dros weundir uchel yw ardal gymeriad Bryn Arau Duon. Yn ôl i'r map

Ardal 251 – Cefn Branddu

251 Mae ardal gymeriad Cefn Branddu yn ymestyn dros gefnen uchel â'i brig yn grwn. Mae hen gloddiau terfyn wedi syrthio erbyn hyn a thir pori agored wedi'i wella, gweundir ynghyd â rhedyn, a choetir o goed collddail ar y llethrau serth o boptu iddi yw tirwedd yr ardal yn ei hanfod yn awr. Yn ôl i'r map

Ardal 250 – Allt-y-Berth

250 Coetir o goed collddail ac ychydig o weundir ar lethrau serth a chreigiog dyffryn Cothi uchaf yw ardal gymeriad Allt-y-Berth. Yn ôl i'r map

Ardal 242 – Cwrt-y-cadno

242 Lleolir ardal gymeriad Cwrt-y-cadno yn nyffryn Cothi uchaf. Tirwedd o ffermydd gwasgaredig, caeau bach a choetir ydyw. Adeiladwyd llawer o'r ffermydd gan ystad Dolaucothi yn y 1850au yn arddull nodedig 'llyfr-patrwm'. Yn ôl i'r map

Ardal 249 – Allt-yr-hebog

249 Coetir o goed collddail hynafol a phlanhigfeydd o goed coniffer ar ochrau serth dyffryn Cothi uchaf yw ardal gymeriad Allt-yr-hebog. Yn ôl i'r map

Ardal 248 – Dyffryn Fanagoed

248 Mae ardal gymeriad Dyffryn Fanagoed yn ymestyn ar draws llawr a llechweddau isaf dyffryn uchel agored, a cheir yno ffermydd gwasgaredig, y mae eu hadeiladau gan fwyaf yn dyddio o'r 19fed ganrif, a chaeau bach afreolaidd eu siâp. Yn ôl i'r map

Ardal 243 – Cloddefeydd Aud Dolaucothi

243 Gweddillion y diwydiant cloddio aur sy'n dyddio o gyfnod y Rhufeiniaid hyd yr 20fed ganrif yw ardal gymeriad Cloddfeydd Aur Dolaucothi. Yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol sy'n berchen ar y safle, ac maent wedi ailgodi enghreifftiau o adeiladau sy'n gysylltiedig â chloddio i ddenu ymwelwyr. Yn ôl i'r map

Ardal 247 – Mynydd Mallaen

247 Llwyfandir o weundir uchel yw ardal gymeriad Mynydd Malláen. Fe'i hamgylchynir gan ffermydd a chaeau ar dir is ac o boptu iddo ceir tir coedwigaeth. Yn ôl i'r map

Ardal 246 – Banc Llwynceiliog

246 Mae ardal gymeriad Banc Llwynceiliog ar ran uchaf ochr dyffryn afon Cothi. Mae'r hen wrthgloddiau a'r gwrychoedd a fu'n gloddiau terfyn i'r clostiroedd wedi syrthio erbyn hyn ac mae'r ardal, yn ei hanfod, yn ardal o dir pori wedi'i wella. Mae cloddweithiau unionlin dyfrbontydd Rhufeinig sy'n dilyn ochr y dyffryn yn elfennau amlwg yn y dirwedd. Yn ôl i'r map

Ardal 244 – Caeo

244 Pentref Caeo yw canolbwynt ardal gymeriad Caeo. Fodd bynnag, prif elfennau'r dirwedd hon yw ffermydd gwasgaredig a chaeau pori afreolaidd eu maint a gwrthgloddiau a gwrychoedd yn eu rhannu. Yn ôl i'r map

Ardal 245 – Coedwig Caeo

245 Planhigfa fawr o goed coniffer yn dyddio o'r 20fed ganrif wedi'i thaenu dros weundir agored yw 'Fforest Caeo'. Yn ôl i'r map