Mae’r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o’r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn e’wi’r themâu hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

Mae’r tarenni trawiadol sy’n wynebu i’r gogledd a mynyddoedd dramatig cysylltiedig y Mynyddoedd Du, Bannau Brycheiniog, Fforest Fawr a’r Mynydd Du gyda’i gilydd yn ffurfio esgair faith naturiol a rhwystr ffisegol sy’n rhannu De Cymru oddi wrth y Canolbarth. Fforest Fawr sy’n ffurfio rhan ganolog y rhwystr hwn gyda’r ardal a nodir yma yn cynnwys ei hochr ddwyreiniol a leolir rhwng dyffrynnoedd y Mellte yn y gorllewin a Thaf Fawr yn y dwyrain. Mae’r bloc naturiol hwn o dir yn ymestyn o Fan Fawr a Mynydd y Garn yn y gogledd, i Gadair Fawr, Cefn Sychbant a Mynydd-y-glôg yn y de sy’n gorwedd y tu allan i ffin hanesyddol y Fforest. Mae’r bloc yn cynnwys llwyfandiroedd uwchdir rhanedig sy’n gwyro i lawr yn raddol i’r de o 734m uwchben SO ar begwn gwastad nodedig Fan Fawr, i rhwng 250 a 300 uwchben SO yn nyffrynnoedd Hepste a Chwm Cadlan – Pant Sychbant sy’n torri drwy’r canol ac sy’n cynnwys yr unig rannau o dir amgaeëdig mewn ardal o rostir sydd fel arall yn amlwg yn llwm ac yn anghysbell.
Datgelodd arolwg tirwedd maes archaeolegol a hanesyddol dwys a gynhaliwyd yn y Mynydd Du a Fforest Fawr ynghanol yr 1980au oroesiad eang o olion archaeolegol sy’n cynrychioli preswyliad ac ymelwad a ddigwyddodd droeon, ar brydiau’n ddwys, o’r ardal a’i hadnoddau naturiol, o’r cyfnod cynhanesyddol i’r gorffennol diweddar. Mae’r olion hyn yn cynnwys henebion angladdol a defodol cynhanesyddol, tystiolaeth o amaethu a gosod tir cynnar, ac ystod o aneddiadau o’r cyfnodau cynhanesyddol a chanoloesol, â’r cwbl wedi’i orchuddio mewn mannau gan olion mwy diweddar chwareli,gweithiau calch a derbyniadau tir segur.
Digwyddodd y preswyliad cynharaf o’r ardal fwy na thebyg yn y cyfnod Mesolithig gyda chasgliad o fflintiau wedi’u cloddio o Bant Sychbant yn dangos math o offeryn yr ystyrir ei fod yn dyddio o’r cyfnod Mesolithig diweddar. Fodd bynnag, mae’n debyg na ddigwyddodd defnydd dwys a pharhaus o’r tir yn yr ardal tan Oes yr Efydd, lle codwyd llawer o garneddau ar lethrau Mynydd-y-glôg, Cefn Sychbant, Penmoelallt, Cefn Esgair-caerau, Waun Tincer ac ym Mhant Sychbant. Mae’r rhan fwyaf o’r safleoedd yn cynnwys tomenni crwn syml o gerrig, ond mae gan rai strwythurau mwy rheolaidd sy’n awgrymu eu bod wedi cael eu hail-ddefnyddio a’u haddasu, statws gwahanol o bosibl, er mai ychydig iawn o safleoedd sydd wedi cael eu cloddio.
Mae’r garnedd gylch, sydd, fel yr awgryma’r enw, yn gylch o gerrig mewn tomen, yn fath arall o heneb angladdol o Oes yr Efydd a gynrychiolir yn yr ardal, er bod llai ohonynt na charneddau crwn. O dystiolaeth yn dilyn cloddio mewn mannau eraill, roedd gan garneddau cylch ystod ehangach o swyddogaethau defodol na charneddau crwn, a oedd fwy na thebyg wedi’u bwriadu ar gyfer claddu’r meirw yn unig. Mae’r garnedd gylch fawr yng Nghwm Cadlan yn enghraifft dda iawn o’i math.
Heb eu dyddio, ond y tybir eu bod o’r cyfnod cynhanesyddol yn fras ar sail tebygrwydd â safleoedd a ddyddiwyd gan gloddio mewn mannau eraill, mae clystyrau dystiolaeth yn cynnwys cylchoedd cytiau neu sylfeini cerrig tai crwn, llwyfannau wedi’u creu neu bantiau wedi’u tyllu o bosibl ar gyfer strwythurau pren, amgaeadau, cyfundrefnau caeau a grwpiau o garneddau bach wedi’u clirio, ac weithiau tomenni o gerrig wedi’u llosgi sydd wedi cael eu dehongli fel malurion yn deillio o goginio bwyd mewn dŵr a gynheswyd mewn pwll neu gafn gan gerrig poeth.Mae clystyrau nodedig a helaeth o’r nodweddion hyn ym Mhant Sychbant,Cwm Cadlan ac yn nyffryn Hepste. Dadleuwyd hyd yn oed bod patrymau’r llync-dyllau o galchfaen yn yr ardal hon o bosib yn gysylltiedig â gweithgaredd dynol cynhanesyddol, y gwaith o godi cofadeiladau a chlirio caeau. Mae’r nodweddion erydu hyn yn nodwedd amlwg o’r tirwedd lleol.
Roedd aneddiadau canoloesol fel arfer yn dewis lleoliadau tebyg i’r cyfnod cynhanesyddol ond ar y cyfan, ymddengys bod mwy o wasgariad aneddiadau gyda safleoedd mwy anghysbell yn digwydd yn yr ardal. Mae clystyrau o sylfeini adeiladau cerrig canoloesol nodweddiadol a llwyfannau tai ym Mhant Sychbant, Pant y Gadair ac yn nyffryn Hepste. Mae safleoedd Pant Sychbant yn agos at strwythurau cynharach, cynhanesyddol. Mae llai o dystiolaeth ar gyfer amaethu ysylltiedig yn y cyfnod canoloesol ac ystyrir y safleoedd ar y cyfan fel rhai bugeiliol yn bennaf, er nid oes un o fewn yr ardal wedi cael ei gloddio i ddarparu awgrymiadau mwy cywir o ddyddiad a hefyd, p’un a oedd y safleoedd yn barhaol neu’n hafodydd tymhorol mewn cyfundrefn o drawstrefa.
Yn hanesyddol, yn dilyn y goresgyniad Normanaidd, daeth y rhan ogleddol o’r ardal sydd nawr o fewn Powys, yn rhan o Fforest Fawr a neilltuwyd ar gyfer hela fel Fforest Arglwyddiaeth Aberhonddu gan Bernard de Neufmarché ar ddiwedd yr 11eg ganrif. Ym 1521, fodd bynnag, daeth y Fforest yn eiddo i’r Goron ac yn dilyn hynny dirywiodd mewn maint yn raddol wrth i dirfeddianwyr brynu breinryddid rhag rhwystrau cyfraith y fforest, neu drwy asartio ac amgáu, fel, er enghraifft, yn nyffryn Hepste. Ym 1819, gwerthwyd y Fforest ac amgaewyd y rhan ganolog, neu Randir y Comin, gan Amgaead Seneddol, gyda’r darn a gynhwysir yma yn aros fel rhostir agored fel Rhandir Comin. Mae’r darnau tir a adawyd sydd ar yr ymylon rhwng y tir amgaeëdig a’r rhostir agored yn dyddio o tua’r cyfnod hwn: mae enghraifft dda yng Nghwm Cadlan. Yn rhyfedd ddigon, amgaewyd Hepste-fechan, daliad ym mhen uchaf dyffryn Hepste allan o’r rhostir agored ar ryw adeg cyn y gwerthiant, ac mae’r daliad yn parhau i fod yn ’ynys’ weladwy iawn o dir pori gwell o fewn y Rhandir Comin.
Ceir tystiolaeth o weithgaredd diwydiannol y gorffennol o’r ddwy ganrif ddiwethaf yn bennaf, ar Gadair Fawr a Mynydd-y-glôg, gan gynnwys chwarelu a llosgi calchfaen. Roedd gweithio calch yn Fforest Fawr yn y cyfnod canoloesol gan fod ffynonellau dogfennol yn nodi tystiolaeth o hawliau’r bobl i chwarelu, llosgi a gwerthu calch, ond roedd y clwstwr o olion sydd wedi goroesi yn yr ardaloedd a nodir yma, a oedd yn gorwedd y tu allan i’r Fforest, fwy na thebyg yn perthyn i’r prif gyfnod cynhyrchu calch yn y 18fed a’r 19eg ganrifoedd, pan gynyddodd y galw gan fyd amaeth, ac i raddau llai, gan waith adeiladu. Gweithiwyd tywod silica a ddefnyddiwyd ar gyfer gwneud briciau tân anhydrin yn ddiweddar yn chwarel Cefn Cadlan, ond rhoddwyd y gorau i echdynnu bellach. Mae’r corlannau niferus yn yr ardal yn dystiolaeth o bwysigrwydd cynyddol ffermio defaid yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol.
Cymru, sydd mewn sawl ffordd yn nodweddiadol, yn dangos pa mor frwd y bu ymelwa gan boblogaethau dynol y parthau hyn yn y gorffennol – weithiau drosodd a thro, weithiau yn barhaus. Mae graddfa a dwyster y gweithgaredd dynol yn rhyfeddol. Mae’r arolwg tirwedd hanesyddol diweddar, gan ddefnyddio mapio modern, arolygu a dulliau cynllunio ffotograffau o’r awyr dros ardaloedd eang a chynrychioliadol iawn, yn dod â’r dwyster gweithgaredd yma yn fyw yn yr hyn sydd heddiw yn ymddangos fel ardal o rostir gwag a diffaith.
Llunio Tirwedd Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glôg
Amlinellir y grymoedd sydd wedi helpu i ffurfio’r dirwedd hon o ddiddordeb hanesyddol arbennig yng Nghymru yn yr adrannau sy’n dilyn.
Yr Amgylchedd Naturiol
Ystyrir amryw agwedd ar amgylchedd naturiol Fforest Fawr a Mynydd-y-glôg yn eithaf manwl yn Mynydd Du and Fforest Fawr: The Evolution of an Upland Landscape in South Wales (1997) y Comisiwn Brenhinol, a cheir crynodeb yma.
Yn y gogledd, mae’r ardal yn codi hyd gopa Fan Fawr ar uchder o tua 734 metr uwchlaw lefel y môr. Fan Brycheiniog, tua 14 cilometr i’r gorllewin, yw’r unig gopa yn Fforest Fawr sy’n uwch na’r copa hwn. Tua’r de, mae’r ucheldir llwm yn disgyn yn raddol i uchder o tua 300 metr. Yn ei ddyrannu mae sianeli cul, adnewyddedig, ag ochrau serth afon Hepste a’i hisafonydd, sy’n uno’n raddol ar uchder o tua 350 metr yn rhannau is, amgaeedig dyffrynnoedd Hepste, Cwm Cadlan a Phant Sychbant, sy’n parhau i ddisgyn i tua 250-300 metr. O bopty, mae’r tir yn disgyn yn fwy sydyn o lawer, i lawr i ddyffrynnoedd ag ochrau mwy serth afon Mellte yn y gorllewin ac afon Taf Fawr yn y dwyrain
Mae’r ddaeareg soled sy’n sylfaen i’r ardal yn amrywiol ac yn cynnwys Hen Dywodfaen Coch i’r gogledd, sy’n ffurfio sgarp gogleddol Bannau Brycheiniog. Tua’r de o hwn, mae ardal o galchfaen Carbonifferaidd a Grut Melinfaen. Effeithiodd rhewlifau a haenau iâ ar y dirwedd yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf. Llifai rhew allan yn rheiddiol o gopa’r Bannau, gan ddyfnhau’r dyffrynnoedd a oedd yno eisoes yn draenio tua’r de, sef dyffrynnoedd Mellte, Hepste a Thaf Fawr, a gadael dyddodion drifft rhewlifol ynddynt. Achosodd y brigiad gwydn o Grut Melinfaen ar Fynydd-y-glôg wyriad yn llwybr y rhew, i’r dwyrain ac i’r gorllewin, gan greu Pant Sychbant, sef dyffryn sych sy’n torri ar draws y dirwedd ar ongl wahanol i ddyffrynnoedd yr afonydd. Nodwedd neilltuol y calchfaen Carbonifferaidd yw ffurfiad llyncdyllau niferus, llai, ac ychydig o rai mwy, yn gyffredinol rhwng 5 metr a 100 metr o led. Toddiad calchfaen ar hyd craciau yn y graig sy’n eu ffurfio, ac maent wedi’u cysylltu â nentydd a chyrsiau dwr tanddaearol.
Yn yr ardal o rostir i’r gogledd, gorwedda’r priddoedd yn bennaf ar ben Hen Dywodfaen Coch neu ddyddodion drifft tywodfaen. At ei gilydd, maent yn ddirlawn yn dymhorol, yn asidig gyda haenlin fawnaidd ar yr wyneb, sy’n cynnal rhostir gwlyb sy’n borfa wael ei hansawdd. Tua’r gorllewin, ceir ardaloedd llai o dir wedi’i ddraenio’n well ar ben tywodfaen yn ardal Gwaun Cefnygarreg, a thir wedi’i ddraenio’n well yn cynnal porfa rostirol o well ansawdd pori ar ben calchfaen yn ardal Garn Ganol. Yn yr un modd, mae rhai ardaloedd o dir wedi’i ddraenio’n well i’r de, ar ben tywodfaen a chalchfaen yn ardaloedd Cefn Cadlan a Mynydd-y-glôg. Yn ardaloedd is dyffrynnoedd Hepste a Chadlan, mae’r priddoedd yn tarddu o ddyddodion drifft tywodfaen yn bennaf ac, yn gyffredinol, lomau ydynt sy’n ddirlawn yn dymhorol ac yn araf i ddraenio.
Cynhaliwyd nifer o astudiaethau palaeoamgylcheddol yn y rhanbarth, sydd wedi rhoi amlinelliad bras o hanes amgylcheddol a hanes llystyfiant ardal y dirwedd hanesyddol ers y rhewlifiant diwethaf. Mae’r astudiaethau’n cynnwys dadansoddi paill mewn dyddodion mawn ar ochr ddeheuol Pant Sychbant, a phriddoedd wedi’u claddu ger Nant-maden yng Nghwm Cadlan, yn ogystal â nifer o safleoedd eraill ym Mannau Brycheiniog a Fforest Fawr. Mae dilyniant a welodd ddyfodiad prysg merywen ac yn ddiweddarach coetir â bedw yn bennaf ac yna cyll, yn nodi’r cyfnod rhewlifol hwyr a’r cyfnod ôl-rewlifol cynnar, rhwng tua 12000 CC a 6000 CC. Gyda sefydlu coetir tymherus rhwng tua 6000 CC a 5000 CC, daeth coed derw a llwyf i’r amlwg, ac o’r rhain derw a ddaeth yn fwyaf cyffredin ar y tir is a phîn a bedw ar diroedd uwch, mwy agored. Ymddengys yn debygol fod gorchudd coed y cyfnod ôl-rewlifol wedi dod yn glytiog ar dir uwch na thua 500 i 600 metr, er y byddai peth coetir, yn amlwg, wedi ymestyn hyd at 800 metr neu uwch, gan gynnwys copa Fan Fawr ym mhen mwyaf gogleddol ardal y dirwedd hanesyddol.
Daeth effaith eglur gyntaf gweithgaredd dynol i’r amlwg yn nilyniant llystyfiant naturiol Fforest Fawr tua 6000 CC, yn ystod y cyfnod cynhesach hwn ar ddiwedd y cyfnod Mesolithig. Gwnaed yr awgrym mai dyma pryd cafodd llanerchau ucheldirol eu creu a’u cadw’n agored mewn coetir bedw trwy losgi llystyfiant a rhoi anifeiliaid i bori. Roedd rhai ardaloedd o rosydd grug a phrysg cyll hefyd yn dechrau dod i’r golwg tua’r cyfnod hwn, mewn ardaloedd a fu unwaith yn goediog; mae’n debygol mai gweithgaredd dynol oedd o leiaf yn rhannol gyfrifol am hyn. Achosodd mwy o ddirlawnder mewn rhai ardaloedd ddechrau ffurfiad mawn a chynnydd mewn gwern.
Gwelodd y cyfnod hyd at tua 4000 CC, yn ystod y cyfnod Neolithig cynnar, ychydig o ostyngiad mewn llwyf a rhai rhywogaethau coed eraill, gyda chynnydd cyfatebol mewn glaswelltydd a pherlysiau ac, o bosibl, y rhosydd yn ehangu. Mae’n amlwg y bu pwysau cynyddol ar goetir ar ddiwedd y cyfnod Neolithig a dechrau Oes yr Efydd, rhwng tua 3500 CC a 1500 CC. Ceir tystiolaeth o gynnydd pellach mewn glaswelltir, peth aflonyddu ar y tir, ehangu parhaus y rhostir grug ond hefyd, mae’n debygol, goroesiad peth coetir derw a chyll ar dir gweddol uchel. Ymddengys fod yr amodau hinsoddol gweddol fwyn a barhaodd yn ystod y cyfnod hwn wedi sicrhau mwy o botensial i amaethyddiaeth ar dir uwch nag yn y gorffennol diweddar. Ymddengys hefyd fod hyn yn cyd-daro â dyfodiad gweithgareddau defnydd tir ac anheddu cynnar mewn rhannau o ardal y dirwedd hanesyddol.
Dechreuodd y cyfnod o hinsawdd mwy ffafriol hwn ddirywio tua 1500 CC, yn ystod canol Oes yr Efydd, gan ddiweddu â’r amodau gwlypach a mwy claear a ddaeth i fodolaeth yn y cyfnod rhwng tua 1000 CC a 500 CC. Roedd hyn fwy neu lai’n cyfateb i’r cyfnod o newid rhwng diwedd Oes yr Efydd a dechrau Oes yr Haearn. Mae’n debygol bod tymor tyfu byrrach, a mwy o lawiad yn ystod y cyfnod hwn â’i hinsawdd llai ffafriol, wedi arwain at adael caeau ac aneddiadau cynnar yn segur yn rhai o rannau uwch a mwy agored yr ardal, sydd bellach yn rhostir unwaith eto. Ymddengys fod amodau hinsoddol gwlypach yn gyffredinol, fodd bynnag, wedi arwain at fwy o ddirlawnder a dirywiad yn ffrwythlondeb y pridd. Arweiniodd hyn at lai o adfywio coetir er, yn ddiamau, parhau wnaeth anheddu a thrin y tir ar safleoedd is, cysgodol yn y dyffrynnoedd.
Ymddengys yn debygol fod nifer o amrywiadau hinsoddol wedi hynny wedi effeithio’n uniongyrchol ar hanes yr anheddu a’r defnydd tir yn yr ardal. Er enghraifft, fe gynhesodd y tymheredd ychydig yn y cyfnod ar ddiwedd Oes yr Haearn a chyfnod y Rhufeiniaid, rhwng tua 0 OC a 400 OC ac eto yn y Canol Oesoedd rhwng tua 1150 OC a 1250 OC. Mae’n bosibl y bu ymgartrefu parhaol am gyfnodau o sawl canrif ar y tro unwaith eto yn rhai o’r ardaloedd anheddu a defnydd tir mwy ymylol a adawyd yn ystod Oes yr Efydd. Fe’u gadawyd yn segur am y tro olaf pan waethygodd amodau yn ystod yr ‘Oes Iâ Fach’, rhwng tua 1300 OC a 1850 OC, pan wnaeth hafau gwlypach a mwy claear olygu cyfyngiadau eto, yn enwedig ar ffermio âr.
Awgrymwyd mai newidiadau gweddol ddiweddar i arferion pori a arweiniodd at y glaswelltir asidig helaeth sydd i’w weld ymhobman yn yr ucheldiroedd heb eu cau yn ardal y dirwedd hanesyddol heddiw, gan ddisodli’r rhostir grug a ymledodd yn raddol ond yn eang dros yr ardal ers y cyfnod cynhanesyddol cynnar. Yn y cyfnod canoloesol ac mewn cyfnodau cynharach, mae’n debygol nad oedd y rhostir yn cael ei bori mor ddwys, ac efallai mai gwartheg oedd yn pori yno’n bennaf. Ers tua diwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, fodd bynnag, daeth ffermio defaid yn ddwys yn dra-phwysig, a thybir ei fod wedi cyfrannu at y newid mewn llystyfiant.
Ffiniau a Dynodiadau
Erbyn y canol oesoedd cynnar, roedd yr ardal yn rhan o gantref Cantref Mawr yn nheyrnas Brycheiniog, sef un o’r teyrnasoedd Prydeinig cynnar a oedd wedi dod i’r amlwg yng Nghymru erbyn y 7fed ganrif i’r 8fed ganrif OC. Gorchfygwyd y deyrnas gan Bernard de Neufmarché, y barwn Normanaidd, ar ddiwedd y 12fed ganrif, a pharhaodd i gael ei gweinyddu fel arglwyddiaeth mers hyd yr 16eg ganrif.
Roedd y rhan fwyaf o ardal y dirwedd hanesyddol, os nad y cyfan ohoni, yn rhan o un o’r heldiroedd mwyaf yng Nghymru, a oedd yn eiddo i arglwyddi Brycheiniog. Fforest Fawr neu Fforest Fawr Brycheiniog oedd yr enw arno, ac roedd yn ymestyn tua 20 cilomedr o’r dwyrain i’r gorllewin a 12 cilomedr o’r gogledd i’r de (tua 12 milltir wrth 8 milltir). Erbyn y 1160au a’r 1170au, forestya de Brechonie (‘Fforest Brycheiniog’) oedd yr enw arno. Mewn dogfennau sy’n dyddio o ddechrau’r 17eg ganrif, rhoddwyd yr enw Fforest y Brenin arno, gan i Harri’r VIII gymryd y tiroedd yn fforffed oddi wrth Ddug Buckingham ym 1521.
Yn dilyn Deddf Uno 1536, daeth Cantref Mawr i ffurfio cantref Defynnog (Devynock) yn y sir newydd, sef Sir Frycheiniog.
Yn ystod y Canol Oesoedd, roedd y rhan fwyaf o ardal y dirwedd hanesyddol yn rhan o blwyf eglwysig Penderyn yn archddiaconiaeth Brycheiniog, yn esgobaeth Tyddewi. Crëwyd plwyf eglwysig Hirwaun ym 1886 o blwyfi sifil Aberdâr ym Morgannwg a Phenderyn yn Sir Frycheiniog.
Erbyn y 19eg ganrif, roedd yr ardal yn rhan o blwyfi sifil Sir Frycheiniog, sef Penderyn, Ystradfellte, Glyn a Chantref. Yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974, trosglwyddwyd Penderyn, a oedd yn ffurfio’r rhan fwyaf o ran ddeheuol yr ardal, i sir newydd Morgannwg Ganol, a throsglwyddwyd y cymunedau gogleddol i Gyngor Rhanbarth Brycheiniog yn sir newydd Powys. Pan aildrefnwyd llywodraeth leol ym 1996, fe is-rannwyd rhan ogleddol yr ardal rhwng cymunedau Ystradfellte a Llanfrynach yn awdurdod unedol Powys, a daeth rhan ddeheuol yr ardal yn rhan o gymuned Hirwaun yn awdurdod unedol newydd Rhondda Cynon Taf.
Parhau yn eiddo i’r Goron wnaeth y Fforest Fawr tan y gwerthwyd rhan ganol yr ardal ym 1819. Fodd bynnag, ni chafodd y gwerthiant hwn unrhyw effaith ar y rhostir heb ei gau yn ardal y dirwedd hanesyddol ac mae’n parhau, at ei gilydd, i fod yn Dir Comin.
Mae ardal y dirwedd hanesyddol yn gorwedd yn gyfan gwbl o fewn Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog, a grëwyd ym 1957 â’r diben o warchod harddwch naturiol yr ardal, helpu ymwelwyr i fwynhau’r ardal a’i deall, a meithrin lles y bobl leol.
Ym mlynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif, dygwyd sylw at arwyddocâd hanesyddol y Fforest Fawr gyda chyhoeddi The Great Forest of Brecknock John Lloyd ym 1905, ac yn ddiweddarach gyda llyfr ag enw tebyg gan William Rees, a gyhoeddwyd ym 1966. Dygwyd sylw at bwysigrwydd archaeolegol yr ardal, o ran yr olion cynhanesyddol, canoloesol a diwydiannol sydd i’w gweld o hyd, gan waith maes a chyhoeddiadau’r Comisiwn Brenhinol ar Henebion Hynafol a Hanesyddol yng Nghymru yn ystod y 1990au, yn arbennig The Brecon Forest Tramroads gan Stephen Hughes (1990), Mynydd Du and Fforest Fawr: The Evolution of an Upland Landscape in South Wales gan David Leighton (1997), a’r Inventory, Prehistoric Burial and Ritual Monuments and Settlement to A. D. 1000 ar Sir Frycheiniog (1997).
Roedd gwell ymwybyddiaeth o’r olion archaeolegol sydd wedi goroesi’n ffactor o bwys pan gynhwyswyd ardal tirwedd hanesyddol Dwyrain Fforest Fawr a Mynydd-y-glog yn y Gofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Arbennig yng Nghymru a gyhoeddwyd dan nawdd Cadw, Cyngor Cefn Gwlad Cymru ac ICOMOS UK yn 2001.
Mae ardal y dirwedd hanesyddol bellach hefyd yn gorwedd o fewn Geoparc y Fforest Fawr, a sefydlwyd i hybu datblygiad economaidd a threftadaeth ddaearegol yn yr ardal, ac a gafodd ei gydnabod gan Rwydwaith Byd-eang Geoparciau UNESCO yn 2005.
Anheddu Cynnar a Defnyddio Tir
Cyfnodau Cynhanesyddol a Rhufeinig
Ceir awgrym o’r anheddu a defnydd tir cynharaf yn yr ardal gan hapddarganfyddiad bwyell garreg gaboledig o’r cyfnod Neolithig yn yr ardal sydd bellach yn goediog ger Cefn-y-maes, yn tremio dros ddyffryn Taf Fawr ar ochr ddwyreiniol ardal y dirwedd hanesyddol. Mae darganfyddiadau o’r math hwn yn awgrymu bod cymunedau ffermio cynnar wedi dechrau clirio’r coedwigoedd ger ymylon yr ucheldiroedd. Nid yw’n annhebygol, er hynny, bod grwpiau crwydrol o helwyr-gasglwyr wedi manteisio hefyd ar ddyffrynnoedd yr iseldir ac ucheldiroedd Fforest Fawr, yn ystod y cyfnod Mesolithig blaenorol.
Nodwyd nifer o gymhlethfeydd pwysig o aneddiadau ac o ddefnydd tir cynnar yn ardal y dirwedd hanesyddol hefyd, gan gynnwys cytiau, waliau caeau segur a charneddau carega. Er nad oes yr un o’r rhain wedi’i ddyddio’n fanwl hyd yma, ymddengys yn debygol bod o leiaf rhai o’r olion hyn yn dod o fwy neu lai y cyfnod rhwng Oes yr Efydd a chyfnod y Rhufeiniaid. Mae’n debygol hefyd bod rhai ohonynt yn dyddio o’r cyfnod canoloesol cynnar a’r cyfnod canoloesol.
Ar y dechrau, roedd anheddu a defnydd tir yn gofyn clirio coetir a phrysg; yn ddiamau, rhan o broses raddol fyddai hyn a ddechreuodd yn yr ardaloedd a allai, o bosibl, fod yn fwy ffrwythlon a chysgodol. Awgryma sylfeini carreg y cytiau crwn ddyddiad yn Oes yr Efydd neu Oes yr Haearn. Er hynny, awgryma presenoldeb rhai adeiladau ar ffurf petryal naill ai barhad i’r cyfnod Rhufeinig a dechrau’r cyfnod canoloesol, neu ailddefnyddio safleoedd cynharach yn y cyfnod canoloesol cynnar, y cyfnod canoloesol neu ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Nid yw’r dehongliad o’r olion defnyddio tir ac anheddu hyn yn sicr, gan na fu unrhyw waith cloddio. Gwelir y cytiau fesul un neu mewn clystyrau bach, ac mae’n bosibl eu bod yn awgrymu anheddu tymhorol neu gydol y flwyddyn. Fe’u cysylltir weithiau ag amgaeadau bach â chloddiau o garreg lle byddai anifeiliaid o bosibl yn cael eu corlannu. Mae carneddau carega’n cynrychioli casglu cerrig a orweddai ar yr wyneb, naill ai i wella porfa neu i wella tir âr, ac maent i’w gweld yn aml mewn clystyrau helaeth ond llac neu mewn meysydd carneddau. Unwaith eto, gall waliau isel a chloddiau caeau fod yn gysylltiedig â chlirio caeau neu wella porfa, yn ogystal ag atal stoc rhag crwydro.
Mae’n debygol bod defnydd tir diweddarach wedi effeithio’n gryf ar ddosbarthiad yr olion sydd wedi goroesi. I raddau helaeth, daethpwyd o hyd i’r olion ar ymylon is yr ardaloedd o rostir heb eu hamgáu, rhwng uchder o tua 300 metr a 480 metr uwchben lefel y môr. Mae’n debygol bod gweithgareddau amaethyddol diweddarach, rhwng y cyfnod canoloesol a heddiw, wedi cuddio, gorchuddio neu symud olion defnydd tir ac anheddu cynharach ar dir is y mae’r mwyafrif ohono, bellach, yn rhan o dir amaeth sydd wedi’i amgáu yn nyffrynnoedd Mellte, Hepste a Chadlan heddiw. Fodd bynnag, mae’n debygol bod cyfuchlin uwch, sef tua 480 metr, yn derfyn uchaf eithaf manwl gywir i weithgareddau anheddu’r gorffennol.
Gwyddys am ardaloedd o ddefnydd tir ac anheddu cynnar mwy helaeth a mwy arwyddocaol yn rhan ogleddol ardal y dirwedd hanesyddol yn rhan uchaf cysgodol dyffryn Hepste, yn ymestyn i ddyffrynnoedd isafonydd nant Hepste-fechan ac afon y Waun ac ar lethrau dwyreiniol, cysgodol Mynydd y Garn ac Waun Tincer. Cofnodir hefyd grwp arunig o gytiau crwn, sydd o bosibl yn dyddio o gyfnod cynhanesyddol yng Ngharn Caniedydd, tuag ochr ddwyreiniol yr ardal, tua 400 metr uwchben lefel y môr. Yn rhannau dwyreiniol a deheuol ardal y dirwedd hanesyddol mae olion helaeth ac arwyddocaol o ddefnydd tir ac anheddu cynnar wedi goroesi mewn sawl man: ar lethrau dwyreiniol, cysgodol Cadair Fawr; ym mlaen nant Garwnant a nant Ffynnonelin; yn tremio dros Bant y Gadair a dyffryn Taf Fawr; ar lethrau deheuol, mwy cysgodol Cefn Cadlan; ar lethrau gogleddol y col sy’n ymestyn y tu hwnt i derfynau’r tir ffermio amgaeedig ym mlaen Cwm Cadlan; ac ar ochr ddeheuol Cwm Cadlan ac yn ymestyn i lethrau gogleddol, mwy agored Mynydd-y-glog.
Fel y nodir mewn adran ddilynol am henebion claddu a defodol cynhanesyddol Oes yr Efydd, mae arwyddion eglur bod y dirwedd eisoes wedi’i rhannu ar gyfer dibenion gwahanol y’u diffiniwyd yn eglur mewn cyfnod cynnar. Ymddengys fod clystyrau o garneddau cylch defodol a charneddau claddu, yn dyddio, mae’n debygol, o Oes yr Efydd, yn gorwedd ar ymylon uwch yr ardaloedd lle mae olion defnydd tir ac anheddu cynnar yn goroesi o hyd. Mwy na thebyg, maent yn dyddio o’r un cyfnod, yn rhannol o leiaf, ac yn aml maent wedi’u lleoli ar gribau a chopaon bryniau lleol lle gellid eu gweld o dir is.
Ffased arall o ddefnydd tir ac anheddu cynnar yw presenoldeb nifer o dwmpathau llosg. Nodwyd llond dwrn ohonynt, yn bennaf mewn ardaloedd o rostir heb eu hamgáu: islaw Cefn Esgair-carnau; yn tremio dros ddyffryn Taf Fawr; gerllaw Afon y Waun tua blaen dyffryn Hepste; ac ar ymyl orllewinol Cefn Sychbant, yn tremio dros Gwm Cadlan. Ar y safleoedd hyn, gwelir casgliadau o gerrig llosg, lludw a golosg ac maent fel rheol wedi’u lleoli gerllaw nant. Awgryma dystiolaeth mewn mannau eraill eu bod yn debygol o fod yn dyddio o Oes yr Efydd. Y dehongliad mwyaf darbwyllol yw eu bod yn fath o faddon sawna, er ei bod yn bosibl i rai gael eu defnyddio fel safleoedd coginio. Ymddengys fod yr henebion hyn yn osgoi ardaloedd o ddefnydd tir ac anheddu cyfoes, yn yr un modd â dosbarthiad safleoedd claddu a defodol cynhanesyddol. Awgryma hyn unwaith eto raniad sylweddol o ran swyddogaeth y dirwedd yn y cyfnod cynhanesyddol cynnar.
Mae olion anheddu cynnar yn osgoi’r tir mwy agored a llai croesawus, sy’n ymestyn hyd at tua 730 metr uwch ben lefel y môr yn ardal y dirwedd hanesyddol, ac yn gyffredinol maent yn dod yn fwyfwy prin ar uchder rhwng tua 400 metr a 480 metr. Gwyddys am nifer o glystyrau bach o gytiau crwn ar yr uchderau hyn sy’n gynhanesyddol yn ôl pob tebyg, er enghraifft: yng Nghors y Beddau – ar yr ysbardun rhwng nant Ganol a nant Mawr, yn agos at nant Llywarch, ar Waun Llywarch; rhwng nant Llywarch ac afon y Waun; a hefyd mewn sawl lleoliad gerllaw afon y Waun. Anaml yn unig y’u cysylltir ag olion trin tir ar ffurf cloddiau caeau neu garneddau carega ac fe’u gwelir weithiau mewn cysylltiad â strwythurau ar ffurf petryal, sy’n fwy tebygol o fod yn cynrychioli hafodydd canoloesol neu ôl-ganoloesol cynnar. Byddai grwpiau teuluol yn byw ynddynt, ac fe’u cysylltir â manteisio ar borfeydd yr ucheldir yn dymhorol yn ystod misoedd yr haf, yn benodol ar gyfer magu gwartheg. Mae’r cysylltiad hwn yn codi cwestiwn, sef p’un a yw trawstrefa yn yr ardal yn deillio o’r cyfnod cynhanesyddol.
Y cyfnod canoloesol cynnar hyd y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar
Yn ddiamau, roedd clirio coetir a phrysg bob yn dipyn yn parhau yn yr ardal hyd at ddechrau’r cyfnod canoloesol cynnar a thu hwnt. Erbyn hynny, mae’n debygol bod system o ddefnydd tir ac anheddu wedi dod i’r amlwg, gan fabwysiadu economi âr a bugeiliol gymysg a manteisio ar adnoddau’r iseldir a’r ucheldir. Ar y dechrau, ymddengys yn debygol bod pwyslais ar fagu gwartheg a ffermio llaeth, ond ar fugeilio defaid oedd y pwyslais yn ddiweddarach. Prin iawn yw tystiolaeth fanwl o ffurfiau’r anheddu, maint a dosbarthiad deiliadaethau a natur yr economi hyd ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, pan luniwyd y mapiau stad cyntaf a’r arolygon degwm. Fodd bynnag, mae’n debygol mai yn ystod y cyfnod hwn y seiliwyd anheddu ar batrwm o ddeiliadaethau bach, gwasgaredig gyda thrigfannau gydol y flwyddyn, neu hendrefydd, wedi’u cysylltu â phorfa, tir âr a dolydd wedi’u hamgáu ar y tir mwy ffrwythlon a chynhyrchiol yn y dyffrynnoedd is, cysgodol. Byddai porfeydd mwy helaeth y rhostir yn cael eu pori yn ystod misoedd yr haf, a byddai hyn, mewn rhai achosion neu ar rai adegau, yn cynnwys defnyddio hafodydd, sef trigfannau dros dro yn yr ucheldiroedd a gysylltir yn benodol â phori gwartheg. Nid oes enghreifftiau o’r elfennau enwau lleoedd hendre a hafod , sef trigfannau dros dro yn yr ucheldiroedd a gysylltir yn benodol â phori gwartheg. Nid oes enghreifftiau o’r elfennau enwau lleoedd.
Mae goroesiad nifer o dai fferm cynnar ar ffurf ty hir, fel Hepste-fawr yn ardal nodwedd y dirwedd hanesyddol Dyffryn Hepste, yn awgrymu datblygiad ffermydd iseldirol parhaol, sef yr hendrefydd, yn ystod y Canol Oesoedd. Ceir trafodaeth ynghylch hyn mewn adran ddilynol ar adeiladau. Yn ôl pob tebyg, ffermwyr rhyddfraint oedd yn dal y rhain yn bennaf yn y cyfnod hwn. Roedd y ffurf hon ar adeiladu’n amlbwrpas, ac yn aml byddai’n lletya pobl ac anifeiliaid, porthiant a grawn, o dan un to. Fel heddiw, roedd ffermydd cynnar yn wasgaredig yn ôl pob tebyg, ac yn sefyll yng nghanol eu caeau eu hunain. Er nad oes tystiolaeth benodol, mae’n debygol hefyd bod llawer o’r patrwm cyffredinol o gaeau bach afreolaidd wedi datblygu’n raddol erbyn o leiaf diwedd y cyfnod canoloesol a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Mae’n debygol y byddai wedi clirio unrhyw olion cynharach o ddefnydd tir ac anheddu yn y broses, er y byddai peth amrywiad wedi parhau ger ymylon y rhostir heb ei amgáu o amgylch, gan ddibynnu ar yr amodau hinsoddol neu ddycnwch eu deiliaid. Ceir y cofnod dogfennol cyntaf o’r llechfeddiant rhostirol arunig ac ar wahân yn Hepste-fechan, er enghraifft, rhwng uchder o 330 a 370 metr, yn y 1780au, ond mae’n debygol ei fod yn cynrychioli goroesiad rhannol a gwelliant mewn cyfnod cynharach o lawer o weithgaredd defnydd tir. Byddai waliau o gerrig sychion a chloddiau carega’n diffinio caeau, fel mewn mannau eraill yn is i lawr yn nyffryn Hepste a dyffryn Cadlan.
Mae’n debygol bod llawer o’r patrwm modern o lonydd, traciau a rhydau wedi datblygu yn y cyfnod hwn hefyd, gan ddarparu mynediad i ffermydd unigol, ynghyd â lonydd gleision rhwng y caeau a fyddai’n rhoi rhwydd hynt i yrru da byw i fyny i borfeydd y mynydd yn y gwanwyn a’u dychwelyd i’r fferm yn yr hydref. Mae’n debygol bod gwahanol gaeau’n cael eu defnyddio at wahanol ddibenion erbyn y cyfnod hwn, gan ddibynnu ar ffrwythlondeb, draeniad naturiol, a’r cyfeiriad a wynebent. Byddai caeau sych yn fwy addas i’w trin, caeau nad oeddent yn draenio cystal yn borfa barhaol a chaeau is, mwy llaith, yn ddolydd gwair.
Fel y nodwyd uchod, gwyddys fod hafodydd, sef aneddiadau haf dros dro a oedd yn ddiamau wedi’u cysylltu â’r ffermydd iseldirol hyn, yn yr ardaloedd o rostir uwch nad oeddent wedi’u hamgáu. Yn aml, byddent yn sefyll mewn mannau mwy cysgodol ger nant a roddai ddwr at ddibenion y cartref ac i stoc ei yfed. Yn rhan ogleddol ardal y dirwedd hanesyddol, islaw Fan Fawr, cofnodwyd grwpiau o lwyfannau adeiladau ar ffurf petryal, ag olion cytiau hir wedi’u hadeiladu o garreg sydd, i bob golwg, yn cynrychioli hafodydd, ar hyd afon Hepste, islaw’r cyfuchlin 380 metr. Ceir nifer o glystyrau bach o gytiau ar ffurf petryal sy’n dyddio, mae’n debyg, o’r canol oesoedd, ar uchder o rhwng 430 a 480 metr ar Gors y Beddau, ar Waun Llywarch. Cysylltir yr aneddiadau uwch hyn weithiau ag amgaeadau bach gyda chloddiau o’u hamgylch. Mae’n bosibl y’u defnyddiwyd ar gyfer rheoli stoc ond anaml iawn, os o gwbl, y gellir eu cysylltu â thystiolaeth o drin tir. Gwyddys hefyd am glystyrau arwyddocaol o sylfeini carreg a llwyfannau tai ar ffurf petryal tebyg yn rhan ddwyreiniol a deheuol yr ardal mewn sawl man: rhwng tua 380 metr a 420 metr ar lethrau dwyreiniol cysgodol Cadair Fawr; ym mlaen nant Garwnant a nant Ffynnonelin; yn tremio dros Bant y Gadair a dyffryn Taf Fawr; rhwng tua 350 metr a 450 metr ar lethrau deheuol, mwy cysgodol Cefn Cadlan; ar lethrau gogleddol y col sy’n ymestyn y tu hwnt i derfynau’r tir ffermio amgaeedig ym mlaen Cwm Cadlan; ac yn cadw’n agos at ffin ddeheuol y tir wedi’i amgáu yng Nghwm Cadlan, i’r dwyrain o ffermydd Cae’r Arglwydd, Wernlas a Beili-helyg ac yn ymestyn i lethrau gogleddol mwy agored Mynydd-y-glog, ar uchder o rhwng tua 300 metr a 380 metr uwch ben lefel y môr. Ymddengys mai ychydig o’r trigfannau ucheldirol, anghysbell hyn yn ardal y dirwedd hanesyddol, os unrhyw rai o gwbl, sydd wedi datblygu i fod yn ffermydd llaeth â phreswylwyr parhaol o’r math a ddatblygodd mewn ardaloedd eraill yn ucheldir Cymru.
Byddai hela adar ac anifeiliaid gwyllt er cynhaliaeth wedi parhau yn y cyfnod hwn er, fel y nodwyd uchod yn yr adran ar ffiniau, erbyn diwedd yr 11eg ganrif, yn dilyn y goncwest Eingl-Normanaidd o deyrnas Brycheiniog, roedd y rhan fwyaf o ardal y dirwedd hanesyddol yn rhan o heldir helaeth Fforest Fawr neu Fforest Fawr Brycheiniog a oedd yn eiddo i arglwyddiaeth mers Brycheiniog, ac a oedd o bosibl wedi meddiannu hawliau mwy hynafol a ddaliwyd yn gynharach gan dywysogion brodorol y deyrnas.
Diffiniwyd graddau’r goedwig ganoloesol yn fras yn unig ac nid oedd map ohono hyd ddechrau’r 19eg ganrif. Yn ei hanfod, ardal o dir heb ei amgáu oedd y goedwig, lle cedwid hawliau’r helfa. Ymhen amser, nodwyd helfeysydd eraill, llai, yn ardal ehangach Fforest Fawr, fel Fforest Cadlan, i’r gogledd o Fynydd-y-glog. Mae’n debygol, fodd bynnag, bod ffiniau Fforest Fawr wedi amrywio o’r cyfnodau cynnar, ac y byddai wedi lleihau’n raddol wrth i lechfeddiannu cyfreithlon neu anghyfreithlon o dir, a oedd â’r potensial i fod yn dir ffermio gwell, feddiannu’r ymylon allanol.
Nid oes llawer o dystiolaeth ddogfennol o’r arglwyddiaeth yn rheoli ac yn gweinyddu’r goedwig, er ei bod yn debygol ei bod yn cael ei llywodraethu dan gyfraith fforest yn yr un modd â helfeydd a choedwigoedd canoloesol eraill tebyg ym Mhrydain. Cyfraith oedd hon a oedd yn dwyn ynghyd hawliau, arferion a rheoliadau lleol a oedd yn rheoli gweithgareddau’r rheiny a oedd yn byw yn y goedwig neu gerllaw, fel hawliau pori, hawliau i gasglu tanwydd, i dyllu am gerrig ac i losgi calchfaen. Awgrymwyd y gallai arglwyddi canoloesol Brycheiniog fod wedi defnyddio Castell Coch fel llety dros dro yn ystod cyrchoedd hela i’r Fforest Fawr enfawr. Castell canoloesol o garreg yw hwn, yng ngodre deheuol Fforest Fawr, ychydig y tu allan i ardal y dirwedd hanesyddol ym mlaen dyffryn afon Mellte.
Roedd tuedd i arwyddocâd coedwigoedd agored o’r math hwn ddirywio tua diwedd y Canol Oesoedd, oherwydd gost ac anawsterau cynnal stociau helfilod, a daeth parciau ceirw amgaeedig i’w disodli. Daeth Fforest Fawr yn eiddo i’r Goron ym 1521 ac felly y parhaodd hyd ddechrau’r 19eg ganrif, sef cyfnod pan sefydlwyd yr hawliau comin sy’n parhau hyd heddiw.
Diwedd y cyfnod ôl-ganoloesol a’r cyfnod modern
Fel y nodwyd uchod, mae’n debygol bod llawer o’r ffin rhwng y rhostir heb ei gau a’r tir ffermio wedi’i gau o amgylch ymylon y mynydd wedi dod yn weddol sefydledig erbyn dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol yn y Fforest Fawr drwyddi draw. Cynrychiolwyd hyn gan batrwm o gaeau afreolaidd, bach fel rheol, yn y dyffrynnoedd. Fodd bynnag, roedd cau ardaloedd sylweddol o borfeydd mynydd o amgylch ymylon y rhostir, a oedd yn parhau i gadw at hawliau tramwy a oedd eisoes yn bodoli, yn nodwedd neilltuol o ffermio ôl-ganoloesol. Mae’n debyg i hyn ddigwydd yn ystod y cyfnod rhwng yr 17eg ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Yn nodweddiadol, roedd yr amgaeadau mwy hyn rhwng 10 hectar ac 20 hectar ond ambell dro roeddent yn 70 i 80 hectar, a byddent yn cael eu cerfio o’r rhostir comin, yn aml gyda ffiniau uchaf a oedd yn nodweddiadol grwm. Mewn rhai rhannau o Gymru, gelwir porfeydd rhostiroedd amgaeedig sydd heb eu trin o amgylch ymylon y mynydd weithiau’n ffridd, er mewn rhannau o dde Cymru, ymddengys fod y term coedcae neu coetgae yn fwy cyffredin. Yn y cyd-destun hwn, mae’n debygol fod enw fferm Coed Cae Du gerllaw ymyl y rhostir ar ochr ogleddol Cwm Cadlan yn arwyddocaol.
Mae tystiolaeth o borfeydd rhostiroedd amgaeedig yn uchel ar ochr ddwyreiniol dyffryn Mellte i’r gogledd-ddwyrain o fferm Goitre, ar Waun Cefnygarreg, ar ochr ogleddol fwy cysgodol dyffryn Hepste, o amgylch ymylon Cwm Cadlan ac ar ymylon deheuol Mynydd-y-glog. Nid oes sicrwydd ynghylch union ddyddiad rhai o’r ffiniau hyn, ond mae mapiau stad o’r 18fed ganrif yn dangos old banks ar ymyl y rhostir ger Pen-fathor yn nyffryn Mellte ac ym mhen dwyreiniol Cwm Cadlan, sy’n awgrymu bod rhai o’r ffiniau hyn yn deillio o leiaf o’r 17eg ganrif. Dengys y ffiniau diweddarach hyn, y mae eu hyd yn ymestyn hyd at ddegau o gilomedrau, amrywiaeth o ddulliau adeiladu, gan gynnwys cloddiau, cloddiau ag arwyneb, waliau o gerrig sychion sy’n sefyll, a waliau gyda ffosydd. Mewn rhai achosion, ceir tystiolaeth o ddilyniant adeiladu, gyda waliau cerrig sychion weithiau’n amlwg yn gorwedd ar ben cloddiau cynharach o bridd. Mae’n debygol mai diben yr amgaeadau mynydd newydd hyn oedd sicrhau defnydd preifat o’r ardaloedd gwell o borfa’r rhostir, i atal stoc rhag crwydro ledled y mynydd, ac efallai hefyd i reoli bridio.
Mae’r symudiad cyffredinol tuag at ffermio defaid yng Nghymru tua diwedd y canol oesoedd a’r cyfnod ôl-ganoloesol yn cael ei adlewyrchu i raddau yng nghofnod archaeolegol yr ardal. Yn anad dim, mae dyfodiad corlannau cerrig sychion wedi’u lleoli’n strategol, mewn mannau cyfleus i gasglu’r preiddiau sy’n cael eu symud i lawr o’r bryniau, yn dangos hyn. Oherwydd gofynion beunyddiol llai beichus trin defaid, daeth trawstrefa i ben, a gadawyd yr hafodydd, er y byddai bugeiliaid unigol weithiau angen cysgodfannau llai.
Mapiau stad, a welwyd gyntaf yn ail hanner y 18fed ganrif, a rhestrau a mapiau degwm y 1840au, sy’n darparu’r dystiolaeth gynhwysfawr gyntaf o ddefnydd tir ac anheddu yn ardal y dirwedd hanesyddol. Maent yn dangos mwyafrif y ffermydd a’r bythynnod presennol ar ymyl ddwyreiniol dyffryn Mellte, dyffryn Hepste a Chwm Cadlan er, yn amlwg, mae rhai adeiladau wedi diflannu ers hynny. Erbyn canol y 19eg ganrif, dangosir mwyafrif y ffermydd fel deiliadaethau o rhwng 15 hectar a 60 hectar (40 erw i 140 erw), a thenantiaid oedd yn y mwyafrif o’r rhain. Roedd llawer ohonynt wedi dod i feddiant stadau fel Tredegar, Penmailard a Bodwigiad a ddechreuodd ddod yn amlwg yn yr ardal o tua diwedd yr 17eg ganrif ymlaen.
Rhy tystiolaeth enwau lleoedd o fapiau stad a mapiau degwm sawl awgrym ynghylch statws cymdeithasol ac annibyniaeth gynt rhai o’r ffermydd a oedd wedi tarddu, mae’n debyg, yn ystod y cyfnod canoloesol hwyr a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Yn nyffryn Hepste, mae’r elfen ‘mawr’ yn Nhy-mawr a Hepste-fawr, a Neuadd yn rhan isaf y dyffryn, yn rhoi awgrym o’r tai hyn ac, o bosibl, uwch eu statws yn wreiddiol. Gwelwyd neuadd am y tro cyntaf yn y ffurf ‘Tyr y noyadd’ ym 1618. Er hynny, mewn llawer achos, mae’n amlwg bod yr elfennau enwau lleoedd wedi’u defnyddio i wahaniaethu tai a allai fod ond ychydig yn fwy na’r cyfartaledd. Mae defnyddio’r elfen neuadd efallai’n eironig yn achos Gelli-neuadd, sef pâr o fythynnod gweithwyr o’r 19eg ganrif ar ochr y ffordd ar y lôn ar hyd dyffryn Cadlan i’r gogledd o Benderyn. Mae’r elfen ‘tir’ mewn enwau lleoedd i’w gweld hefyd mewn cyfran sylweddol o enwau ffermydd eraill yn y dyffryn, gan gynnwys Tir mawr, Tir-dyweunydd, Tir-yr-onen a Thir-Shencyn-Llewelyn (a ailenwyd yn Llwyncelyn); cofnodir yr olaf o’r rhain am y tro cyntaf ym 1819. Fel rheol, mae’r ffermydd hyn, fel y tai yr awgrymwyd a oedd â statws uwch yn wreiddiol, wedi’u gosod yn eu caeau eu hunain. Mewn cyferbyniad, mae’n bosibl bod nifer o fythynnod a thyddynnod yn cynrychioli llechfeddiannu diweddarach, ar hyd lonydd a thraciau. Gelwir enghreifftiau unigol yn nyffryn Hepste a dyffryn Cadlan, yn arwyddocaol, yn Heol-las, a dangosir eraill â’r elfen tyle (llwybr serth) yn yr enw Garw-dyle ar ymyl ddeheuol dyffryn Cadlan.
Rhy tystiolaeth enwau lleoedd ac enwau caeau, yn enwedig o arolwg y degwm, hefyd peth dystiolaeth ynghylch llystyfiant a defnydd tir blaenorol. I ryw raddau, mae’n debyg i’r hyn sydd yno heddiw, ond mewn ffyrdd eraill, mae’n wahanol iawn. Yn ôl y disgwyl, mae enwau sy’n cyfeirio at goed i’w gweld yn eithaf aml yn nyffrynnoedd cysgodol dyffryn Hepste a Chwm Cadlan, gydag enwau fel Llwyn-y-fedwen, Tir-yr-onen, Gelli-ffynnonau-isaf a Gelli-ffynnonau-uchaf a Beili-Helyg. Ychydig o awgrym o ddefnydd tir blaenorol a geir o dystiolaeth enwau lleoedd, er bod yr enw ardal Gweunydd (neu Gwaunydd) Hepste, sef yr ardal sydd wedi’i chau ar ymyl y rhostir ar ochr dde-orllewinol yr ardal, a’r enw fferm Tir-dyweunydd ill dau yn cynnwys lluosog gwaun. Mae’r elfen gweirglodd ar enw cae, a’r ffyrdd amrywiol o’i sillafu, ac enwau fel ‘Cae Clover’, yn awgrymu glaswelltir o ansawdd gwell. Mae draeniad gwael yn cyfyngu ar ddefnydd tir rhywfaint o dir y dyffryn sydd wedi’i gau, a dengys yr elfen gwern hyn yn enwau ffermydd Gwern-pawl ac Wernlas ac enw’r nant Gwern Nant-ddu. Hefyd ceir yr elfen garw yn yr enwau ffermydd Pant-garw a Garw-dyle (Garw-dylau gynt) a brwyn yn enwau rhai caeau. Er hynny, yn wahanol i heddiw, mae’n amlwg o’r arolwg degwm fod pwyslais mwy o lawer ar ffermio âr yn y 19eg ganrif a, gellid tybio, mewn cyfnodau cynharach. Adlewyrchir hyn yn yr elfen haidd a welir yn achlysurol mewn enwau caeau fel ‘Cae’r Haidd’ ar fferm Coed Cae Ddu.
Adlewyrchir yn gryf y pwyslais gynt ar economi âr a bugeiliol gymysg yn yr adeiladau fferm sydd wedi goroesi, fel y nodir yn yr adran ddilynol ar adeiladau brodorol. Mae’n amlwg unwaith eto o’r adeiladau sydd wedi goroesi y gwnaed buddsoddiadau sylweddol mewn adeiladau fferm newydd ac mewn ffermdai newydd a ffermdai wedi’u hadnewyddu ar ddiwedd y 18fed ganrif ac yn ystod y 19eg ganrif. Mae’n bosibl bod stadau lleol a chyrff fel Cymdeithas Amaethyddol Sir Frycheiniog a sefydlwyd ym 1755 wedi dylanwadu ar hyn. Mae’r cofnod archaeolegol hefyd yn adlewyrchu nifer o welliannau eraill mewn dulliau ffermio a oedd yn digwydd ar ddiwedd y 18fed ganrif ac yn ystod y 19eg ganrif. Mae clystyrau o gaeau ar ffurf fwy rheolaidd yn agos at y ffermydd yn Nhirmawr, Tir-dyweunydd, Llwyncelyn a Hepste-fawr yn nyffryn Hepste ac yn agos at y ffermydd yng Nglyn-perfedd, Garw-dyle, Gelli-dafolog, Wernlas a Nant-maden, gan gynnwys rhai â ffiniau syth, yn awgrymu ad-drefnu ffiniau caeau ar raddfa fach yn ystod y 19eg ganrif yn ôl pob tebyg. Rhoddwyd cynnig ar wella draeniad caeau wedi’u cau mewn rhai ardaloedd gyda ffosydd agored a draeniad tanddaearol, a thrwy adeiladu grynnau amaethu (neu ‘gribau amaethu’ i roi enw arall arnynt) a welir mewn rhai ardaloedd. Fel y nodir yn yr adran ar ddiwydiant isod, codwyd odynau calch mewn nifer o ardaloedd a fyddai’n cynhyrchu calch amaethyddol i wella ffrwythlondeb y pridd.
Gwerthodd y Goron rannau o Fforest Fawr ym 1819 oherwydd cost Rhyfeloedd Napoleon, gan greu’r amgaead unigol mwyaf yng Nghymru a Lloegr. Fodd bynnag, ychydig oedd yr effaith uniongyrchol ar ardal y dirwedd hanesyddol gan mai rhan ganol y Fforest yn unig a werthwyd, yn dilyn gwrthwynebiad y cominwyr ac eraill. Cadwyd y tir heb ei gau yn ardal yr astudiaeth fel un o nifer o flociau sylweddol o dir comin.
Gwelodd diwedd y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif ostyngiad cyffredinol yn elw ffermio, a chyflwyniad mecaneiddio yn ogystal â diwydiannu de Cymru. Fe dynnodd hyn bobl oddi wrth y tir, gan arwain at gyfuno ffermydd a gadael rhai ffermydd a bythynnod yn segur, sydd hefyd wedi gadael ei ôl ar y dirwedd. Yn nyffryn Hepste, er enghraifft, roedd ty rhwng Tirmawr a Thir-yr-onen, a thyddyn posibl ar ymyl y rhostir i’r gorllewin o Lwyn-y-fedwen, wedi’u gadael neu roeddynt yn adfeilion erbyn y 1880au. Mae’n bosibl mai’r ysgubor arunig yn Heol-las yw’r cyfan sydd ar ôl bellach o hen gasgliad o adeiladau fferm a adawyd yn y 19eg ganrif. Gadawyd ffermydd eraill, fel Blaen Hepste, am resymau tebyg yn y 1920au. Yng Nghwm Cadlan, roedd y ffermydd a bythynnod yng Ngwern-pawl a Blaen-cadlan-isaf eisoes yn adfeilion yn y 1880au, ac ymddengys fod y rheiny yng Nghae’r Arglwydd, Gelli-ffynnonau-isaf a Blaen-cadlan-uchaf oll wedi’u gadael o ddechrau’r 20fed ganrif ymlaen.
Yn codi o gyflwr dirwasgedig amaethyddiaeth ar ddechrau’r 20fed ganrif, gwnaed cynigion i roi gwahanol fathau o welliannau amaethyddol ar waith yn ucheldiroedd Cymru. Y bwriad oedd cynyddu ffyniant amaethyddol ac atal y broses o ddiboblogi gwledig a oedd yn effeithio ar yr ardaloedd hyn. Fodd bynnag, ychydig o newidiadau a wnaed i ffermio’r ucheldir tan yr ail ryfel byd, pan ddywedodd Is-Gomisiwn Tir Amaethyddol Cymru fod yr ardaloedd hyn mewn ‘advanced state of dereliction’. Pan gyhoeddwyd y rhyfel, daeth holl amaeth Prydain dan reolaeth uniongyrchol Pwyllgorau Gwaith Sirol y Weinyddiaeth Amaethyddiaeth (War Ag) a oedd yn gyfrifol am gynyddu cynhyrchiant amaethyddol. Ar sail tystiolaeth awyrluniau, ymddengys fod galwadau am amaethyddiaeth yng nghyfnod y rhyfel i’w gweld yn yr ymdrechion sylweddol a wnaed i wella porfeydd mewn ardaloedd helaeth o rostiroedd yn ardal y dirwedd hanesyddol yn y cyfnod hwn. Gwelwyd systemau helaeth o gafnau draenio a duriwyd, mae’n debyg, â pheiriant ym mlaen Afon y Waun, Nant Llywarch, Nant Iwrch a Nant yr Ychen, sef isafonydd afon Hepste yn y rhostir islaw Fan Fawr. Dengys awyrluniau modern batrymau o ffosydd draenio cyfochrog, hyd at 400 metr o hyd a thua 8 i 18 metr rhyngddynt, a duriwyd mewn ardal o bron iawn 200 hectar o dir dwrlawn ym mlaen y nentydd, ar uchder o tua 400 i 600 metr uwchben lefel y môr, â’r bwriad o ddraenio ardaloedd dwrlawn. Erbyn heddiw, mae mwyafrif y ffosydd draenio wedi siltio i raddau helaeth, ac maent wedi erydu i ffurfio cyrsiau mwy rheolaidd i’r fath raddau nes eu bod yn aml yn edrych fel dyfrffosydd naturiol ar y ddaear. Mae awyrluniau’r RAF a dynnwyd ym 1945 a 1946, yn union ar ôl yr ail ryfel byd, yn eu dangos mewn cyflwr fel newydd ac yn amlwg roedd y gwaith newydd ei gwblhau. Fel arall, mewn cyferbyniad â diwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, ychydig o fuddsoddi sylweddol a wnaed mewn ffermio sydd wedi gadael ei ôl ar y dirwedd ers tua dechrau’r 20fed ganrif, ar wahân i nifer o adeiladau amaethyddol â ffrâm o ddur. O ganlyniad i golli sgiliau angenrheidiol a natur weddol lafurddwys cynnal a chadw waliau caeau o gerrig sychion a phlygu gwrych yn y modd traddodiadol, dadfeilio mwyfwy wnaeth ffiniau hynafol a thraddodiadol y caeau, ac mae’n debygol y bu mwy a mwy o ddibynnu ar ffensys pyst a gwifrau o ddechrau’r 20fed ganrif.
Mae rhai newidiadau o ran defnydd tir oherwydd gostyngiad mewn elw yn ystod y cyfnod hwn hefyd yn amlwg, gan gynnwys dychwelyd rhai ardaloedd o borfa wedi’u gwella a’u cau yn borfa arw. Hefyd, o tua chanol yr 20fed ganrif, bu’r Comisiwn Coedwigaeth yn plannu coetir conwydd ar ardaloedd a fu’n gaeau gynt, yn bennaf ar ochr orllewinol yr ardal yng Ngweunydd Hepste ac ar ochr ddwyreiniol yr ardal ym Mhenmailard a Chefn-y-maes. Mae’r olaf o’r rhain, sy’n tremio dros ddyffryn Taf Fawr, yn rhan o stad fawr o fwy na 2,300 erw o dir yn rhan uchaf dyffryn Taf Fawr, a brynwyd gan y Comisiwn Coedwigaeth ym 1946. Mae’r Comisiwn Coedwigaeth wedi creu nifer o fannau picnic a llwybrau trwy’r coetir mewn blynyddoedd diweddar, gan hybu gwerth amwynder yr ardaloedd coediog hyn. Ceir hefyd Llwybr Taf, sef llwybr troed a llwybr beicio pellter hir rhwng Aberhonddu a Chaerdydd.
Mae creu Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ym 1957, ynghyd â mentrau cadwraeth a hamdden diweddarach o tua’r 1990au hyd heddiw, yn dechrau cael peth effaith weladwy ar y dirwedd hanesyddol. Ymhlith mesurau cadwraeth bu creu nifer o Safleoedd o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA), gan gynnwys gwarchodfa natur yn canolbwyntio ar ardal o ddolydd gwlyb yng Nghwm Cadlan, sydd hefyd wedi’i dynodi yn Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) dan Gyfarwyddeb Cynefinoedd Ewrop, y bu Cyngor Cefn Gwlad Cymru (CCGC) yn paratoi’r ffordd ar ei gyfer, a chreu nifer o ffermydd sydd wedi ymuno â Thir Gofal, sef cynllun amaeth-amgylchedd y Cynulliad Cenedlaethol.
Adeiladau yn y Dirwedd
Mae adeiladau sy’n dal i sefyll i’w gweld yn hanner yr ardaloedd nodwedd tirwedd hanesyddol yn unig, sef dyffrynnoedd Mellte, Hepste a Chadlan. Mae’r rhain yn nodweddiadol o’r mathau o gymunedau ffermio sydd wedi goroesi o amgylch ymylon rhostir eang Fforest Fawr. Yr unig Adeilad Rhestredig sydd wedi’i ddynodi yw Hepste-fawr. Ond er nad oes tystiolaeth ddogfennol wedi goroesi, mae ffurf a chymeriad cyffredinol yr adeiladau hynny sydd wedi goroesi’n cynrychioli mynegiant hanfodol a chydlynol o hanes cymdeithasol ac economaidd yr ardaloedd o dir ffermio wedi’i amgáu sy’n rhan o’r dirwedd hanesyddol ers o leiaf diwedd y cyfnod canoloesol hyd heddiw.
Ffermdai a thai allan ffermydd yw mwyafrif yr adeiladau sydd wedi goroesi. Mae’n debygol bod rhai adeiladau sydd wedi goroesi’n tarddu o’r 17eg ganrif a’r 18fed ganrif. Fodd bynnag, oherwydd y modd mae rhai wedi’u hadeiladu ar draws y llethr, ac oherwydd bod eu tai allan wedi’u trefnu mewn llinell, ymddengys fod nifer o’r rhain, ynghyd â rhai o’r ffermdai a ailadeiladwyd yn y 19eg ganrif, yn deillio o dai hirion canoloesol neu ôl-ganoloesol cynnar a fyddai’n darparu llety ar gyfer pobl yn y pen uchaf ac anifeiliaid yn y pen isaf. Ceir adeiladau ar y ffurf hon yn nyffryn Hepste, ac fe’u cysylltir ar y cyfan â hwsmonaeth gwartheg cynnar. Mae’r rhain yn cynnwys Hepste-fawr y sonnir amdano yn The Welsh House gan Iorwerth Peate (1940), a’r ffermdy yn Neuadd. Roedd y ffermdai sy’n dyddio o’r 17eg ganrif a’r 18fed ganrif yn nyffryn Cadlan, sef Nant-maden, Coed Cae Du a Gelli-ffynnonau-isaf gynt, wedi’u trefnu mewn llinell ar draws y llethr, sy’n awgrymu ailadeiladu strwythurau sy’n tarddu o’r cyfnod canoloesol neu’r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar.
Mewn rhai achosion, ceir awgrymiadau bod ffermdai cwbl newydd wedi’u hadeiladu yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, i ddisodli strwythurau cynharach. Roedd y ffermdai diweddarach hyn, mewn cyferbyniad, yn dilyn yr arferiad cyffredinol o adeiladu ar hyd y gyfuchlin, fel y ffermdy yn Llwyn-celyn y mae ei gynllun a’i simnai fawr yn awgrymu ei fod yn tarddu o’r 18fed ganrif. Fodd bynnag, ymddengys fod nifer dda o’r ffermdai sy’n gysylltiedig â ffermydd a allai fod o darddiad canoloesol neu ôl-ganoloesol cynnar wedi’u hailadeiladu’n sylweddol, neu wedi’u disodli gan dai newydd a adeiladwyd yn eu lle, yn ystod y 19eg ganrif. Gorwedda’r ffermdy yn Nhirmawr, sy’n dyddio o’r 19eg ganrif, ar hyd y gyfuchlin; mwy na thebyg, fe ddisodlodd hwn adeilad cynharach o darddiad canoloesol y mae hen lwyfan ty yn ei gynrychioli. Cysylltir y ffermdy o’r 19eg ganrif yn Nhir-dyweunydd â rhes o adeiladau wedi’u trefnu ar draws y llethr, sy’n awgrymu ei fod o bosibl yn cynnwys ty cynharach. Yn yr un modd, ymddengys fod trefniad llinellol yr adeiladau fferm yn Beili-helyg, â’i ffermdy, ysgubor yd a beudy o’r 19eg ganrif, yn cynrychioli ailadeiladu casgliad cynharach o adeiladau. Roedd casgliadau eraill o adeiladau fferm wedi mabwysiadau trefniad syml o dai allan yn gyfochrog â’r ffermdy, neu ar ongl sgwâr iddo. Unwaith eto, mae’n debygol bod ffermdai a thai allan diweddarach y 19eg ganrif yn Nhai-hirion a Gelli-ffynonnau-uchaf, sydd ill dau â’u manylion mewn brics melyn, ar safle ffermydd â tharddiad cynharach.
Mae llawer o’r adeiladau fferm sydd wedi goroesi’n dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif ac yn dangos yr economi ffermio cymysg oedd yn nodweddiadol o’r cyfnod hwnnw. Ffermydd â thenantiaid oedd mwyafrif y ffermydd yn yr ardal yn y cyfnod hwn, ac mae’n debygol, felly, bod rhai o’r stadau â deiliadaethau yn yr ardal wedi dylanwadu ar lawer o’r gwelliannau hyn. Mae’n bosibl y’u cynhaliwyd law yn llaw â’r ad-drefnu ffiniau caeau ar raddfa fach a awgrymwyd uchod. Mae adeiladau fferm nodweddiadol yn cynnwys ysguboriau yd bach, gyda holltau awyru a drysau yn y canol, stablau, beudai a granarau. Byddent weithiau wedi’u cyfuno’n un strwythur a gellir gweld enghreifftiau ar nifer o ffermydd, gan gynnwys Hepste-fawr, Tirmawr a Neuadd yn nyffryn Hepste, ac ym Meili-helyg, Garw-dyle a Choed Cae Du yn nyffryn Cadlan. Mae tystiolaeth o waith adeiladu mwy helaeth yn Wern-las, lle mae trefniad adeiladau’r fferm yn awgrymu dylanwad fferm fodel y 19eg ganrif. Efallai fod tystiolaeth yma, ac mewn mannau eraill yn yr ardal, o ddylanwad llesol Cymdeithas Amaethyddol Sir Frycheiniog, a sefydlwyd yng nghanol y 18fed ganrif. Gwnaeth Walter Davies ddwyn sylw yn ei General View of the Agriculture and Domestic Economy of South Wales, a gyhoeddwyd ym 1814, at y gwelliannau mewn adeiladau ac arfer ffermio yr oedd Cymdeithas Amaethyddol Sir Frycheiniog, a sefydlwyd ym 1755, wedi’u hysbrydoli: “Their improvements gradually extended to the remotest corners of the county; even in the hundreds of Dyfynog and Buallt, we recognise the superior buildings and farm-yards of the Brecon Society”. Mae’n nodi, yn arbennig, ffurf nodweddiadol yr ysgubor yd yn Sir Frycheiniog, gyda “double folding-doors on each side of the barn floor, for convenience, especially during precarious harvests, of driving in a load of grain under cover”.
Nid yw llawer o’r hen fythynnod a thyddynnod yn yr ardal wedi goroesi; mae pâr o fythynnod o ddiwedd y 19eg ganrif o’r enw Gelli-neuadd ar ochr y ffordd yn enghraifft brin o gartrefi gweithwyr. Maent ar y lôn i’r gogledd o Benderyn, ac mae’n debygol mai gweithwyr amaethyddol neu weithwyr chwarel oedd yn byw yno.
Buddsoddwyd llai o lawer mewn adeiladau yn ystod yr 20fed ganrif, ar wahân i nifer o achosion o adnewyddu ffermdai a bythynnod. Serch hynny, ceir rhai eithriadau fel ambell helm brin ac adeiladau diweddar â ffrâm o ddur ar gyfer wyna a storio gwair a gwellt, ac ambell strwythur symudol neu dros dro a wnaed o ddefnyddiau nad ydynt yn draddodiadol.
Nodweddion Angladdol a Defodol Cynhanesyddol
Mae ardal y dirwedd hanesyddol yn cynnwys cryn nifer o henebion angladdol a defodol cynhanesyddol, yn fwyaf penodol, carneddau crwn a charneddau cylchog, sy’n ddangosyddion pwysig o ddefnydd tir neu anheddu cynnar. Ychydig o safleoedd a gloddiwyd yn y cyfnod modern er, yn ôl pob tebyg, mae’r ddau fath o heneb yn perthyn i’r Oes Efydd Gynnar a’r Oes Efydd Ganol trwy gydweddiad â safleoedd mewn mannau eraill. Byddai’r carneddau crwn yn cynrychioli henebion claddu ac, o bosibl, defnyddiwyd y carneddau cylchog ar gyfer gweithgaredd defodol a chladdu. Yr unig ddarganfyddiadau y gellir eu cysylltu â’r henebion yw disgen o dywodfaen a ddarganfuwyd yn y col uwchlaw Cwm Cadlan, a darnau o grochenwaith yr Oes Efydd Gynnar a ddarganfuwyd yn ystod cloddio’r garnedd fawr ger fferm Nant-maden yng Nghwm Cadlan. Yn gyffredinol, mae’r henebion rhwng 6 metr ac 20 metr o led, a hyd at tua metr o uchder, er bod carnedd Nant-maden yn eithriad gan ei bod hyd at 1.8 metr o uchder. Mewn rhai achosion, mae olion posibl o ymylfaen crwn ac arwyddion o gist gladdu ganolog. Ymddengys fod mwyafrif y safleoedd mewn cyflwr da, er y bu ychydig o dyllu i mewn i rai henebion tra bo eraill wedi’u haddasu i fod yn gysgodfannau defaid.
Yn gyffredinol, gellir gwahaniaethu rhwng y mathau hyn o henebion a charneddau carega’n rhwydd oherwydd eu bod yn fwy o faint, neu oherwydd y’u gwelir fesul un yn hytrach nag mewn meysydd carneddau, neu oherwydd bod ganddynt fanylder strwythurol sy’n nodweddiadol o henebion claddu a henebion defodol cynnar. Bellach, ystyrir ei bod yn annhebygol bod cysylltiad rhwng rhai o’r henebion yn ardal Cwm Cadlan a brwydr ganoloesol, ddiweddarach o lawer, sef rhywbeth yr awgrymodd Theophilus Jones, hanesydd o Sir Frycheiniog ar sail yr enw lle ‘Cadlan’. Mae cysylltiad a awgrymwyd rhwng rhai o’r carneddau cylchog yn yr ardal hon a magu gwyddau hefyd yn annhebygol.
Ymddengys mai ychydig o’r henebion sydd ag enwau penodol o unrhyw oedran mawr, ar wahân i Garn Caniedydd a Garn Wen lle mae’n ymddangos bod a wnelo’r elfen â charneddau claddu cynhanesyddol. Mae’n bosibl bod Caniedydd yn cyfeirio at chwiban y gwynt yn y lle agored hwn, neu iddo ddeillio o enw personol, neu ei fod â chysylltiadau traddodiadol neu chwedlonol. Mae amlder yr elfen carn (neu’r lluosog carnau) mewn enwau lleoedd yn yr ardal yn pwysleisio arwyddocâd rhai o’r henebion hyn fel tirnodau mewn rhostir a fyddai fel arall yn ddinodwedd. Gwelir enghreifftiau o hyn mewn enwau fel Mynydd y Garn a Chefn Esgair-carnau er, mewn rhai achosion ac efallai yn y mwyafrif o achosion, ymddengys fod y gair yn cyfeirio at frigiadau creigiog naturiol yn hytrach na thwmpathau artiffisial.
Gwelir mwyafrif yr henebion y gwyddys amdanynt yn yr ardaloedd o ucheldir sydd heb eu cau heddiw (ardaloedd nodwedd tirweddau hanesyddol Mynydd y Garn, a Chefn Cadlan, Cefn Sychbant a Mynydd-y-glog). Mae presenoldeb nifer o henebion mewn tirweddau wedi’u cau, er enghraifft yn achos y garnedd gron sydd wedi’i chloddio’n rhannol ger Nant-maden (ardal nodwedd tirwedd hanesyddol Cwm Cadlan), yn awgrymu’r posibilrwydd fod yr elfennau o henebion tebyg eraill y gellid eu gweld ar yr wyneb mewn ardaloedd is yn nyffryn Hepste a Chwm Cadlan wedi’u clirio ymaith neu wedi’u cuddio yn ystod gwaith clirio, cau tir ac amaethu diweddarach. Felly, mae’n debygol fod dosbarthiad y mathau hyn o henebion heddiw yn ffafrio ardaloedd mwy ymylol sydd wedi’u ffermio’n llai dwys.
Yn ardaloedd nodwedd tirweddau hanesyddol Mynydd y Garn a Chefn Cadlan, Cefn Sychbant a Mynydd-y-glog, fe welir yr henebion naill ai fesul un, mewn parau neu mewn clystyrau mwy. Yn gyffredinol, ymddengys eu bod wedi’u lleoli’n fwriadol ar lethr neu grib, lle gellid eu gweld efallai o aneddiadau’r cyfnod ar dir is. Yn y cyd-destun rhanbarthol, mae crynhoad nodedig o safleoedd yn rhan ogleddol ardal y dirwedd hanesyddol, ar lwyfandiroedd ucheldirol Mynydd y Garn, Waun Tincer a Chefn Esgair-carnau. Yn gyffredinol, mae’r carneddau’n osgoi ardaloedd uchaf a mwyaf anghysbell y rhostir, sy’n uwch na thua 450 metr uwchlaw lefel y môr yn rhan ogleddol ardal y dirwedd hanesyddol, islaw Fan Fawr. Ymddengys yn arwyddocaol fod dosbarthiad olion y mathau hyn o henebion sydd wedi goroesi’n tueddu i fod ar dir ychydig yn uwch ac yn cyd-fynd ag olion anheddu a defnydd tir cynnar sy’n debygol o fod o’r un cyfnod, o leiaf yn rhannol, yn hytrach na gorymylu â hwy. Awgryma hyn raniad eithaf manwl o ran swyddogaeth yn y dirwedd yn y cyfnod cynhanesyddol cynharach, gyda rhai ardaloedd wedi’u neilltuo ar gyfer anheddu a defnydd tir mwy dwys tra bo ardaloedd eraill wedi’u neilltuo ar gyfer claddu, defod a defnydd tir mwy helaeth.
Traciau, Ffyrdd, Rheilffyrdd a Phibelli
Mae tirweddau a gaewyd ers amser maith yn ardaloedd nodwedd dyffryn Hepste a Chwm Cadlan yn diogelu patrwm o lonydd yn rhedeg ar hyd y dyffrynnoedd, gan arwain at ffermydd a bythynnod. O gyfnodau cynnar, roeddent yn darparu modd o symud buchesi o anifeiliaid trwy’r caeau wedi’u cau i’r porfeydd ucheldirol o amgylch, ac yn ôl. Bellach, mae metlin wedi’i osod ar rai o’r lonydd, ond mae eraill yn parhau fel lonydd glas heb fetlin, weithiau gyda wal o boptu i atal stoc rhag crwydro. Weithiau byddai lonydd glas yn cysylltu ffermydd ar ddwy ochr y dyffryn, gyda rhydau a sarnau’n croesi nentydd. Mae ambell enghraifft o’r enw lle ‘Heol-las’ yn awgrymu llwybrau cynharach o’r fath.
Mae nifer o’r llwybrau hynafol hyn yn parhau ar draws y rhostir i gysylltu â lleoedd yn nyffrynnoedd cyfagos Taf Fawr i’r dwyrain ac afon Mellte i’r gorllewin. Mae’r elfen ’cwrier’ yn enw Nant y Cwrier, sef y nant sy’n llifo o’r gogledd i ben dyffryn Hepste, ac sydd fwy neu lai yn gyfochrog am ran o’i chwrs â’r A4059, yn awgrymu hynt llwybr troed cynharach ar draws y mynyddoedd i gyfeiriad Aberhonddu. Mae llawer o’r llwybrau cynnar hyn, rhai ohonynt yn ôl pob tebyg yn tarddu o’r canol oesoedd neu’n gynharach, yn parhau fel rhan o rwydwaith o lwybrau troed cyhoeddus a llwybrau caniataol y mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog bellach yn eu rheoli.
Mae traciau eraill, byrrach yn nhirweddau amgaeedig dyffryn Hepste, Cwm Cadlan ac ymyl ddwyreiniol dyffryn Mellte yn arwain at chwareli ac odynau calch sy’n dyddio’n bennaf o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Mae’r Comisiwn Coedwigaeth hefyd wedi creu rhwydwaith o lwybrau amwynder mewn blynyddoedd diweddar yn ardaloedd nodwedd coediog Coed Penmailard a Chefn y maes.
Dwy ffordd fodern yn unig sy’n croesi ardal y dirwedd hanesyddol. Yr A4059, rhwng Hirwaun ac Aberhonddu yw’r gyntaf. Er iddi gael ei huwchraddio’n fwy diweddar, ymddengys iddi gael ei hadeiladu o’r newydd fel ffordd dyrpeg fwy neu lai ar ei hyd yn ardal y dirwedd hanesyddol ar ddechrau’r 19eg ganrif, gan adael y llwybr mwy hynafol ar hyd dyffryn Hepste am y tir uwch i’r de. O’r herwydd, rhaid oedd creu mynedfeydd o gyfeiriad arall i nifer o’r ffermydd ar ochr ddeheuol y dyffryn, sef Llwyncelyn, Neuadd a Thirmawr yn benodol, i allu mynd ohonynt yn uniongyrchol i’r ffordd dyrpeg. Cysylltir y ffordd dyrpeg â nifer o gerrig milltir sydd wedi goroesi o’r cyfnod, ynghyd â chwareli bach ar ochr y ffordd, sef ffynhonnell defnyddiau i adeiladu’r ffordd yn ôl pob tebyg. Yr ail ffordd yw’r ffordd fodern annosbarthedig o flaen Cwm Cadlan i Gronfa Ddwr Llwyn?on yn nyffryn Taf Fawr. Mae’n debyg y rhoddwyd metlin arni am y tro cyntaf tua diwedd y 19eg ganrif neu ddechrau’r 20fed ganrif, ond roedd yn dilyn hynt llwybr mwy hynafol yn cysylltu Cwm Cadlan a dyffryn Taf Fawr.
Mae cwrs hen reilffordd yn ffurfio nodwedd arbennig o’r dirwedd ar hyd rhan o ffin orllewinol yr ardal. Roedd hon yn rhan o’r rheilffordd a redai tua’r de i Benderyn, a adeiladwyd i gludo defnyddiau a ddefnyddiwyd i adeiladu Cronfa Ddwr Ystradfellte i gyflenwi dwr i Gastell-nedd, rhwng 1907 a 1914.
Rhed Llwybr Taf, sef llwybr troed a llwybr beicio pellter hir o Aberhonddu i Gaerdydd, drwy goetir tuag at gornel de-ddwyrain yr ardal nodwedd.
Mae llwybr pibell nwy fodern yn croesi rhan ddeheuol yr ardal am tua 2 cilometr. Gellir gweld ei ffordd?fraint 20 metr o led hyd y man lle mae’n ymuno â gwaith nwy Bryn Du, ychydig y tu allan i’r ardal nodwedd.
Odynau Calch a Chwareli
O’r Canol Oesoedd ymlaen, mae’n debygol bod y rheiny a oedd yn meddu ar hawliau cominwyr yn y Fforest Fawr yn gallu manteisio ar yr adnoddau naturiol yn ardal y dirwedd hanesyddol. Nid oes tystiolaeth eglur wedi goroesi o dorri mawn yn yr ardal, mwy na thebyg oherwydd prinder dyddodion addas. Ond mae olion helaeth o ddiwydiannau echdynnu sy’n gysylltiedig â chynhyrchu carreg a chalch yno o hyd. Mae i’r rhain arwyddocâd o ran hanes anheddu a defnyddio tir yn yr ardal, er eu bod ar raddfa lai, yn aml, na’r rheiny a welir mewn ardaloedd cyfagos o dde Cymru. Trosglwyddwyd holl hawliau chwarela yn y Fforest Fawr i’r entrepreneur John Christie pan brynodd yr hawliau mwynau ar ddechrau’r 1820au. Wedi iddo fynd yn fethdalwr, fe drosglwyddwyd yr hawliau hyn cyn pen dim i eraill.
Mae odynau calch wedi’u nodi naill ai’n unigol neu mewn clystyrau ym mhob un o’r ardaloedd nodwedd. Ni roddwyd dyddiad manwl i lawer ohonynt, ac yn gyffredinol maent i’w gweld yn agos at ymylon y rhostir heb ei gau, mewn mannau lle ceir calchfaen yn naturiol. Mae’n bosibl y cynhyrchwyd peth calch yn yr ardal yn ystod y Canol Oesoedd, ond hyd yma nid oes unrhyw dystiolaeth archaeolegol eglur o gynhyrchu yn y cyfnod hwnnw. Mae’n debygol mai cynhyrchu calch amaethyddol rhwng diwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif oedd diben y rhan fwyaf o olion y diwydiant calch sydd dal i’w gweld yn yr ardal. Byddent wedi mynd yn segur, yn bennaf, pan sefydlwyd odynau calch mwy masnachol mewn mannau eraill ar ddiwedd y 19eg ganrif. Ymhlith yr odynau cynharaf y gwyddys amdanynt yn yr ardal mae’r rheiny tua chornel de-ddwyrain yr ardal a welir ar fap stad Penmailard â’r dyddiad 1749. Cynrychiolir llawer o odynau y gwyddys amdanynt ar fapiau’r Arolwg Ordnans a gyhoeddwyd yn y 1880au, ond nodir bod rhai ohonynt eisoes yn segur erbyn y dyddiad hwnnw. Dywedir bod odyn ar fferm Tirmawr yn nyffryn Hepste yn dal ar waith hyd at y 1920au neu’r 1930au.
Cysylltir yr odynau â gweithgareddau chwarela, ar raddfa fach yn aml, a fyddai fel arfer yn canolbwyntio ar frigiadau naturiol a chlogwyni, er mwyn arbed arian. Gwelir odyn unigol ambell dro, ond yn amlach na dim maent mewn parau neu glystyrau o hyd at ddeg neu fwy. Mae llawer o’r odynau i’w gweld yn unig fel twmpathau glaswelltog â phant yn y canol, er ambell dro gellir gweld manylion strwythurol fel waliau cerrig sychion ac un neu fwy o ffliwiau. Cysylltir rhai odynau â llwyfannau neu rampiau a ddefnyddid i’w llwytho â chalchfaen, ac â phentyrrau gwastraff. Yn aml, gorwedda’r odynau ar hyd llwybrau neu draciau ar gyfer certi a fyddai’n cludo’r glo yr oedd ei angen i danio’r odynau, ac yn cludo ymaith y calch gorffenedig. Mae’n debygol fod o leiaf rhai o’r odynau’n cynrychioli gweithgareddau tymhorol gweithwyr a fyddai fel arall yn gweithio ar ffermydd a thyddynnod yn yr ardal.
Gwyddys am lawer o chwareli bach calchfaen a thywodfaen eraill yn yr ardal, ac mae’n debygol eu bod wedi darparu defnyddiau ar gyfer adeiladu tai ac adeiladau fferm, waliau caeau a ffyrdd. Yn bennaf, byddai hyn yn y cyfnod rhwng yr 17eg ganrif a chanol y 19eg ganrif efallai, cyn sefydlu chwareli carreg masnachol ar raddfa fawr yn y rhanbarth. Ymddengys fod dyddiad diweddarach i nifer fach o chwareli tywodfaen segur, ac awgryma tystiolaeth gartograffig ar gyfer y rheiny ar Garn Ddu ac ar ochr orllewinol Cefn Cadlan, er enghraifft, fod y chwareli’n tarddu o hanner cyntaf yr 20fed ganrif. Ar un adeg roedd dyddodion tywod silica ar gyfer gweithgynhyrchu brics anhydrin a ddefnyddid mewn ffwrneisi mwyndoddi yn ne Cymru hefyd yn cael eu gweithio yn chwarel Cefn Cadlan.
Cysylltiadau Hanesyddol a Diwylliannol
Mae ardal y dirwedd hanesyddol ymhell o ganolfannau poblogaeth, ac felly ychydig o gysylltiadau hanesyddol neu ddiwylliannol arwyddocaol sydd ganddi.
Roedd nifer o hynafiaethwyr cynnar, gan gynnwys Theophilus Jones, yr hanesydd o Sir Frycheiniog, yn cysylltu Cwm Cadlan â brwydr rhwng rhengoedd Iestyn ap Gwrgan a Rhys ap Tewdwr yn yr 11eg ganrif. Fodd bynnag, cysylltiad chwedlonol yw hwn yn ôl pob tebyg ac, yn ddiamau, dyfaliad ydyw ar sail ail elfen yr enw, sef ‘cadlan’ â’r ystyr ‘maes y gad’, a phresenoldeb carneddau niferus yn yr ardal hon yr ystyrir heddiw eu bod yn ôl pob tebyg o ddyddiad cynhanesyddol cynnar.
Mae lle i gredu bod gan Gwm Cadlan gysylltiadau â Lewis Lewis, ffigwr drwg-enwog ac eithaf arwyddocaol yn hanes cymdeithasol de Cymru ar ddechrau’r 19eg ganrif. Mab cigydd o’r enw Jenkin, a Margaret Lewis o Flaencadlan, Penderyn oedd Lewis, neu ‘Lewsyn yr Heliwr’ neu ‘Lewsyn Shanco Lewis’ i roi enwau eraill arno, a aned ym 1793. Chwaraeodd ran flaenllaw yng Ngwrthryfel Merthyr ym 1831, sef protest boblogaidd o ganlyniad i brisiau’n codi, caledi ac amodau gwaith gwael. Mae’n bosibl mai fferm Beili-helyg oedd ‘Blaencadlan’ (er mai Beili-helyg sydd ar fap degwm 1840 o Benderyn, fe’i gelwir yn ‘Blaen Cadlan’ ar y rhestr atodol), yn hytrach na’r bythynnod sydd bellach yn adfeilion ar ymylon y rhostir ym Mlaen-cadlan-uchaf a Blaen-cadlan-isaf. Adeg y terfysgoedd, certio glo o’r pyllau yn Llwydcoed i’r odynnau calch ym Mhenderyn oedd gwaith Lewis; dyma oedd tarddiad ei lysenw ’Lewsyn yr Heliwr’. Ym Mrawdlys Caerdydd yn ddiweddarach fe’i cyhuddwyd o annog yr ymosodiad ar dy Joseph Coffin, clerc y Llys Deisyfion, ar 2 Mehefin, ac ysgogi’r dyrfa i gipio arfau milwyr 93ain Catrawd y Troedfilwyr (Yr Ucheldiroedd) y tu allan i Dafarn y Castell ym Merthyr Tudful trannoeth. Cipiwyd Lewis Lewis yn ardal Penderyn ychydig o ddiwrnodau’n ddiweddarach, ac fe’i dedfrydwyd i farwolaeth ochr yn ochr â Richard Lewis (’Dic Penderyn’) am gynulliad terfysglyd ac am ddinistrio ty ac eiddo Joseph Coffin. Yn achos Lewis Lewis, fe newidiwyd y ddedfryd i fod yn alltudiaeth am oes.