Mae’r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o’r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi’r themâu hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.
Mae Dyffryn Clwyd yn goruchafu daearyddiaeth gogledd ddwyrain Cymru, a dyma un o’r tirweddau mwyaf sylweddol. Rhed Afon Clwyd ar hyd ei waelod gwastad a llydan am ryw 30km i’r gogledd o dref ganoloesol Rhuthun i ymuno â’r arfordir yn y Rhyl. Mae llawr y dyffryn yn isel, ac ni chyfyd yn unman yn uwch na 40m uwchben SO. I’r dwyrain, mae ymylon Bryniau Clwyd yn ffurfio ffin i’r dyffryn, a chodant yn serth oddeutu 300m uwchben SO, gyda’u copaon yn rhoi golygfeydd ysblennydd o lawr y dyffryn. Cyfyd yr ochr orllewinol fymryn yn llai serth tuag at ucheldir Sir Ddinbych ryw 7km i ffwrdd. Mae rhan fwyaf cyflawn a nodweddiadol hanesyddol y dyffryn a nodir yma, sydd wedi goroesi orau, yn gorwedd yn bennaf i’r de a’r dwyrain o dref ganoloesol Dinbych.
Trigai dynion o gyfnod cynnar ar ddau safle mewn ogafâu yng Nghae Gwyn a Ffynnon Beuno, Tremeichion, lle y darganfuwyd esgyrn anifeiliaid ac olion arfau Palaeolithig dynol. Fodd bynnag, cofadeiliau mwyaf trawiadol y tirwedd yw bryngaerau Moel Fenlli, Moel y Gaer (Llanbedr Dyffryn Clwyd), Moel Arthur, Penycloddiau a Moel y Gaer (Bodfari) o Oes yr Haearn sy’n rhan o gadwyn o safleoedd amddiffynnol yn coroni copaon Bryniau Clwyd. Hyd yn oed fel safleoedd unigol, y maent yn fawr ac yn sylweddol (mae Penycloddiau yn cwmpasu oddeutu 21ha) ond gyda’i gilydd, maent yn ffurfio grwˆp unigryw o fryngaerau yng Nghymru, sy’n dangos y berthynas agos o ran tirwedd rhwng ffurfiau naturiol y tir a thiriogaeth ddynol.
Er na fu llawer o gloddio cyfoes ar fawr ddim un o’r safleoedd, y farn gyfoes yw mai canolbwynt tiriogaeth bendant oedd pob bryngaer, a’r diriogaeth honno’n ymestyn ar draws y dyffryn islaw, a thros yr ucheldir i’r dwyrain, er mwyn iddi fod yr un mor rhwydd i bob caer gael mynediad i’r un adnoddau naturiol. Tir pori garw yw ucheldir Bryniau Clwyd, ond mae llawr y dyffryn, ar y llaw arall, yn dir amaethyddol bras, gyda chaeau yn ymestyn at lethrau gorllewinol y bryniau. Nid oes fawr yn hysbys ar hyn o bryd am yr aneddiadau cyffredin a oedd yn gysylltiedig â’r bryngaearau, ond mae’n debyg y byddent wedi bod yn grynodiadau dwys ar hyd llawr ffrwythlon y dyffryn, ond eu bod bellach wedi’u claddu neu eu dileu gan weithgaredd dyn yn yr oesoedd a ddilynodd. Awgrymir hyn gan yr olion cnydau a ddarganfuwyd o’r awyr yn Nhan Dderwen, i’r dwyrain o Ddinbych, lle mae gwaith cloddio diweddar wedi dangos tystiolaeth o weithgaredd yn dyddio o’r cyfnod Mesolithig, Oes yr Efydd a’r Oesoedd Tywyll.
Trefi canoloesol Dinbych a Rhuthun yw’r prif aneddiadau o fewn y dyffryn. Er hynny, mae cloddio diweddar yn Rhuthun wedi awgrymu tarddiad cynharach, gydag olion o aneddiad Brythonaidd-Rufeinig, ac mae’n bosibl fod caer Rufeinig ar gyrion dwyreiniol y dref. Gellir gweld patrwm strydoedd canoloesol Rhuthun o hyd, ac erys rhannau o’r castell ac amddiffynfeydd y dref yn gyflawn. Mae gan y dref gasgliad gwych o bensaernïaeth werinol, sef yr adeiladau trawiadol mewn calchfaen, tywodfaen coch neu arddulliau hanner-coed. Fel Rhuthun, cadwodd Dinbych hefyd lawer o’i chymeriad canoloesol, gan gynnwys amddiffynfeydd y castell a’r dref, ac y mae’n enghraifft dda o dref gaerog o’r cyfnod Edwardaidd. Yng nghanol y dyffryn mae Llanynys, pentrefan bach bellach, ond bu clas yma unwaith (sef uned weinyddol yn seiliedig ar aneddiad fynachaidd ganoloesol) gydag olion o gyfundrefn o gaeau canoloesol. Mae’n nodedig fel safle Llanfor yn y 9fed ganrif, a grybwyllir yn yr englynion Cymraeg cynnar, Canu Llywarch Hen.
Dylanwadwyd llawer ar y tirwedd gan wahanol barciau a stadau canoloesol a diweddarach, megis, er enghraifft, Neuadd Clwyd a Phlas Llanrhaeadr. I’r dwyrain o Ruthun mae Parc Bathafarn, parc canoloesol Arglwyddiaeth Rhuthun. Mae dogfen o 1592 yn disgrifio ffiniau, natur y parc a datblygiad y tirwedd: gellir olrhain y rhain heddiw. Ceir digon o gofnodion am dirwedd llawer plwyf ar lethrau Bryniau Clwyd pan iddynt gael eu hamgáu adeg y Deddfau Cau Tir yn y 19edd ganrif. Maent yn ffinio, ac yn gwrthgyferbynnu, â thirwedd amaethyddol gynharach llawr y dyffryn gyda’i gloddiau a gwrychoedd.
Themâu Tirwedd Hanesyddol yn Nyffryn Clwyd
Y Tirwedd Naturiol
Saif ardal tirwedd hanesyddol Dyffryn Clwyd ar ochr ddeheuol Dyffryn Clwyd, ardal o iseldir gwastad mewn cafn toredig wedi ei amgylchynu gan fryniau. Ar yr ochr ddwyreiniol mae’n yn codi’n serth at lethr sgarp toriad siâl bryniau Clwydaidd sy’n bennaf Silwraidd ac i fyny at wrym o garreg calch Carbonifferaidd sy’n ffurfio stribyn ar ochr orllewinol y dyffryn. Mae llawr y dyffryn, rhwng tua 2-5km ar draws, yn codi mewn uchder o tua 30m yn agos i Ddinbych hyd tua 100m ar flaen y dyffryn. Y ddaeareg waelodol yma yw tywodfeini Triasig meddal, coch a marl sydd, gan fwyaf, wedi eu cuddio gan dyddodion rhewlif a llifwaddod hwyrach ond sydd i’w gweld mewn ardaloedd o dir uchel fel yn Rhuthun a Hirwaen.
Heddiw, byddai croestoriad arferol o’r dyffryn o’r gorllewin i’r dwyrain yn torri trwy’r rhanbarthau topograffig canlynol: bryniau calchfaen yn y gorllewin, yn cyrraedd uchder o tua 200m; stribed gymharol gul o dir llethr uwchlaw gwaelod y dyffryn, rhwng tua 1km o led; y tir fflat, isel sydd o dan ddŵr yn ôl y tymor ar waelod y dyffryn, hyd at tua 2km o led; stribed lydan o dir sydd â rhediad graddol ar ochr ddwyreiniol y dyffryn, tua 2km o led, yn estyn o lawr y dyffryn hyd at droed y bryniau Clwydaidd; y tir â rhediad mwy sydyn hyd at tua 1km ar draws, yn estyn hyd at ben llethr sgarp y bryn; ac yn olaf y gwrym mwy gwastad ar hyd top y mynyddoedd Clwydaidd, yn codi hyd at uchder o tua 550m. Ailadroddir y patrwm hwn drosodd a throsodd ac nid yw’n cael ei dorri ond gan ddyffrynnoedd serth y nentydd a’r dyffrynnoedd, sy’n mynd i mewn i’r dyffryn o’r dwyrain a’r gorllewin. O ganlyniad mae gan bob un o gymunedau’r dyffryn eu cwota eu hunain o weirgloddiau sydd o dan ddŵr, porfeydd gogwyddog a thir âr sydd wedi eu draenio’n well, gweirgloddiau a rhostir ar dir uwch yn y trawsraniadau cymharol fyr o waelod y dyffryn i ben y bryn.
Yn ystod y rhewlifiant diwethaf, tua 18,000 o flynyddoedd yn ôl (a ddyddiwyd yn lleol drwy oedran radiocarbon asgwrn mamoth o Ogof Ffynnon Beuno, ger Tremeirchion), symudodd yr haenau iâ gogleddol i fyny’r dyffryn hyd at o fewn tua 5km i Ddinbych, gan greu marian terfynol yn ffurfio llinell o fryniau isel ar draws y dyffryn yn Nhrefnant. Ffurfiwyd rhewlyn a adwaenir fel Llyn Clwyd o’r dŵr tawdd a gronnodd yn erbyn y marian, yn estyn tua 10km i mewn i’r tir, i’r de o Lanfair Dyffryn Clwyd. Ffurfiwyd deltâu 1-3km ar draws lle’r oedd yr afonydd a’r nentydd dwyreiniol a oedd yn llifo o Fynydd Hiraethog yn mynd mewn i’r llyn, yn yr ardal i’r dwyrain o Ddinbych wrth Afon Ystrad, yn ardal Llanrhaeadr ger Nant-mawr, yn ardal Llanfair ger Afon Clywedog, ac yn Aberchwiler ger Afon Chwiler. Tua’r dwyrain y llifai’r draeniad o’r dyffryn yn wreiddiol, ‘i fyny’ drwy ddyffryn yr Afon Chwiler. Ar ôl i’r marianau yn ardal Trefnant gael eu torri ffurfiwyd y patrwm draeniad presennol ar lawr y dyffryn.
Yn gyffredinol mae llawr y dyffryn yn dir amaeth da, ac ystyrir y stribed o dir sydd wedi ei draenio’n well ar y gerlan ddwyreiniol rhwng Llanbedr Dyffryn Clwyd i’r de ac Aberchwiler i’r gogledd fel tir Graddfa 1. Mae llawer o’r tir yn gorwedd yn is, ac yn aml yn dioddef o fod o dan ddŵr yn ystod rhai tymhorau. Ystyrir hwn yn dir Graddfa 2. Mae graddiant i’r ochr ac ar ben bryn ar ddwy ochr y dyffryn yn gyffredinol yn lleihau gydag uchder. Mae’r dyffryn yn cael llai na 30 modfedd o law ond dim ond ar gyfran gymharol isel o’r tir âr ffrwythlon y tyfir gwenith, yn bennaf oherwydd natur y pridd sydd, er ei fod yn ffrwythlon, yn tueddu i gynnal lefel trwythiad uchel, yn enwedig yn y gaeaf, ac nid yw’n ddelfrydol ar gyfer cynhyrchu grawn heddiw. Felly mae’r defnydd tir heddiw yn bennaf yn fugeiliol, gyda chnydau grawn a phorthiant cyfyngedig ar dir sydd wedi ei ddraenio yn well ac ardaloedd o blanhigfeydd ar dir coediog a choedwigoedd yn gyffredinol wedi eu cyfyngu i’r llethrau bryn serthach ac ardaloedd tir isel nad ydynt wedi eu draenio’n dda.
Ychydig o astudiaethau paill sydd wedi eu gwneud o fewn y dyffryn, ac er bod ein gwybodaeth am hanes amgylcheddol ôl-rewlifol felly yn gyfyng, tybir bod tir coediog brodorol wedi estyn yn raddol dros y cyfan o Ddyffryn Clwyd wrth i’r hinsawdd wella’n raddol yn dilyn y rhewlif diwethaf, a bod y coed wedi eu torri fesul tipyn gan weithgaredd dynol o’r cyfnodau cyn hanes hyd at y gorffennol diweddar. Dim ond ardaloedd cymharol fach o dir coediog naturiol sy’n goroesi hyd heddiw. Mae’n ansicr pryd y cafodd Llyn Clwyd ei lenwi â gwaddod ond mae’n debygol bod llynnoedd bach ac ardaloedd o ffeniau gwernog wedi goroesi hyd at o leiaf y 5ed mileniwm CC, pryd y gellir dod o hyd i’r dystiolaeth gyntaf o weithgaredd dynol ar safleoedd agored yn y dyffryn.
Y Tirwedd Gweinyddol
Mae ardal tirwedd hanesyddol Dyffryn Clwyd yn cwmpasu’r cymunedau canlynol yn gyfan gwbl neu’n rhannol: Aberchwiler, Bodfari, Dinbych, Efenechtyd, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Llandyrnog, Llanelidan, Llanfair Dyffryn Clwyd, Llangynhafal, Llanrhaeadr-yng-nghinmeirch, Llanynys, Rhuthun (pob un yn Sir Dinbych), a rhannau llai o Ysceifiog, Nannerch, Cilcain a Llanarmon-yn-Iâl yn Sir y Fflint.
Yn y cyfnod hanesyddol cynharach roedd Dyffryn Clwyd ar y ffin rhwng teyrnas bwerus Gwynedd yn y gorllewin a’r teyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd yn y dwyrain ac o ganlyniad i hyn efallai ni lwyddodd i ddatblygu ei hunaniaeth wleidyddol gref ei hunan. Pwysleisir hyn gan y ffaith bod y tiroedd Cymreig i’r dwyrain o Afon Conwy, y lleolid y dyffryn o’u mewn, yn cael eu hadnabod erbyn diwedd y ddeuddegfed ganrif fel Perferddwlad, y ‘wlad ganol’ a oedd efallai’n dynodi’r tir rhwng Gwynedd a theyrnas Powys i’r de a’r de-ddwyrain. Daeth yr ardal i’r dwyrain o Afon Clwyd o dan ddylanwad Normanaidd yn yr unfed ganrif ar ddeg hwyr, ac roedd Bodfari, o fewn y dyffryn, yn un o’r aneddiadau brodorol a restrwyd yn Llyfr Domesday 1086.
Yn dilyn ehangu teyrnas Gwynedd yn ystod y ddeuddegfed ganrif, aeth y dyffryn i feddiant teyrnas Gwynedd Is-Conwy, a orchfygwyd gan frenin Lloegr, Harri III yn y 1240au, yn dilyn marwolaeth Llywelyn Fawr. Ailfeddiannwyd y tir gan ŵyr Llywelyn, Llywelyn ap Gruffydd, yn y 1260au, ar ôl i’r tir, erbyn hynny, fod dan reolaeth mab Harri, Edward, a oedd wedi’i wneud yn arglwydd ar diroedd y goron yng Nghymru. Yn dilyn esgyniad Edward i’r orsedd ym 1272, ailfeddiannwyd pedwar cantref Perfeddwlad – Rhos a Thegeingl yn y gogledd a Rhufoniog a Dyffryn Clwyd yn y de – gan goron Lloegr, ac yn y cyfnod rhwng 1277 a 1282 rheolwyd y ddau gantref gogleddol gan goron Lloegr a’r ddau gantref deheuol gan Ddafydd, brawd Llywelyn, a oedd wedi ochri gydag Edward.
Yn dilyn gwrthryfel Dafydd a Llywelyn ym 1282-3, gorchfygwyd Cymru, Rhos a Rhufoniog o’r diwedd yn gyfan gwbl gan Edward, a ffurfiwyd Arglwyddiaeth newydd y Gororau yn Ninbych a gyflwynwyd i Henry de Lacy, Iarll Lincoln, a daeth cantref Dyffryn Clwyd yn arglwyddiaeth Rhuthun a ddyfarnwyd i Reginald de Grey, yr Arglwydd Grey a gynorthwyodd Edward i orchfygu Cymru. At ddibenion gweinyddol isrannwyd cantrefi Rhufoniog a Dyffryn Clwyd yn dri chwmwd – arglwyddiaeth Rhuthun, er enghraifft, rhwng y 13eg ganrif a’r 17eg ganrif a weinyddwyd fel bwrdeistref Rhuthun a thri chwmwd Coelion, Dogfeilyn a Llannerch. Yn Neddf Uno 1536, unwyd y ddwy arglwyddiaeth, ynghyd ag arglwyddiaeth Maelor, Iâl a’r Waun i greu Sir Ddinbych. Trosglwyddwyd Sir Ddinbych i Sir newydd Clwyd adeg ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974, ac yn dilyn newidiadau i’r ffiniau fe’i trosglwyddwyd yn ôl i Sir Ddinbych yn ad-drefniant 1996.
Yn ystod y cyfnod canoloesol, am resymau sydd bellach yn niwlog, aeth y plwyfi eglwysig yn arglwyddiaeth Dinbych yn rhan o Esgobaeth Llanelwy, tra aeth y rhai hynny yn Nyffryn Clwyd, er bod Esgobaeth Llanelwy yn eu hamgylchynu’n gyfan gwbl, yn rhan o Esgobaeth Bangor. O’r diwedd, trosglwyddwyd deoniaeth Llanfair Dyffryn Clwyd, yn cynnwys plwyfi Efenechtyd, Llanbedr, Llandyrnog, Llanfair Dyffryn Clwyd, Llanfwrog, Llangynhafal, Llanrhaeadr-yng-nghinmeirch, Llanrhudd (yn cynnwys Rhuthun), Llanychan a Llanynys i Lanelwy ym 1859.
Tirweddau Anheddu
Cynrychiolir y dystiolaeth gynharaf o weithgarwch anheddu dynol yn Nyffryn Clwyd yn y cyfnod wedi Oes yr Iâ gan arfau fflint mesolithig a ddarganfuwyd tra’n cloddio yn Nhandderwen, ger Fferm Kilford, ger cymer Afon Ystrad ac Afon Clwyd, sy’n dyddio efallai i’r 5ed mileniwm CC. Mae’r safle wedi’i leoli ar yr aber trionglog graeanog a ffurfiodd lle y rhedai’r Ystrad i Lyn Clwyd, cyn lyn a ffurfiwyd gan ddđr tawdd rhewlif a gronnodd yn erbyn yr iâ a’r marianau ger ceg y dyffryn. Ni wyddys am ba hyd y goroesodd y llyn, cyn iddo lenwi â gwaddod, ond mae yna bosibilrwydd bod y dystiolaeth hon o weithgarwch dynol yn cynrychioli gwersylloedd hela dros dro ar ochr y llyn i grwpiau o helwyr a chasglwyr fel rhan o batrwm mudo tymhorol rhwng yr iseldiroedd arfordirol ger aber afon Clwyd a’r tiroedd hela yn ystod yr haf ar fynydd Hiraethog neu ar fryniau Clwyd. Er na ddarganfuwyd fawr ddim tystiolaeth bellach o weithgarwch dynol yn Nyffryn Clwyd yn y cyfnod Mesolithig neu’r cyfnod neolithig a’i dilynodd pan ddaeth aneddiadau’n fwy sefydlog yn ôl pob tebyg.
Mae tystiolaeth sylweddol o weithgarwch yn Nyffryn Clwyd yn ystod yr Oes Efydd, ond mae hyn yn ymwneud bron yn gyfan gwbl â beddrodau dynol, ac fe’u cynrychiolir gan garneddau yn yr iseldiroedd a ddarganfuwyd unwaith eto tra’n cloddio yn Nhandderwen, a ger Llysfasi a Chefn-coch, er enghraifft, a chan feddrodau yn yr ucheldiroedd ar hyd Bryniau Clwyd. Mae rhai o feddrodau’r ucheldiroedd wedi’u hadeiladu o gerrig a lle y mae’r rhain wedi goroesi mae’r beddrodau i’w gweld o hyd fel carneddau. O bridd yn bennaf yr adeiladwyd y beddrodau yn yr iseldiroedd ac at ei gilydd ymddengys iddynt gael eu haredig i ffwrdd ac felly dim ond drwy gyfrwng olion cnwd a welir drwy dynnu lluniau o’r awyr y down i wybod amdanynt. Er enghraifft mae’n bosibl bod beddrod gweddillion amlosgedig dyn ifanc a ddarganfuwyd mewn pot ger Llanrhaeadr, tra’n gwneud gwaith draenio, wedi’i orchuddio ar un adeg gan garnedd a lefelwyd ers hynny o ganlyniad i aredig. Mae tystiolaeth o fannau eraill ym Mhrydain yn awgrymu mai yn ystod y cyfnod hwn y dechreuodd y grwpiau llwythol y gwyddom amdanynt o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol a dechrau’r cyfnod hanesyddol ddatblygu ac mae’n bosibl y gall lleoliad amlwg beddrodau’r Oes Efydd yn y dirwedd fel ar gopaon Foel Fenlli a Moel y Parc er enghraifft ac ym mhen y bwlch rhwng Moel Llanfair a Moel Plas, a hyd yn oed rhai o feddrodau’r iseldiroedd efallai, gynrychioli’r tiriogaethau y bu gwahanol grwpiau llwythol neu deuluol yn byw ynddynt.
Yn ddiau roedd pobl yn dechrau cael cryn effaith ar y llystyfiant naturiol yn Nyffryn Clwyd rhwng y cyfnod Mesolithig a’r Oes Efydd, ond gwelir mai yn ystod yr Oes Haearn y gellir nodi am y tro cyntaf yr effaith bwysig gyntaf a gafodd y broses o anheddu gan bobl ar y dirwedd ffisegol, yn arwyddocaol iawn yng nghadwyn y pum bryngaer ar hyd Bryniau Clwyd – Foel Fenlli, Moel y Gaer (Llanbedr Dyffryn Clwyd), Moel Arthur, Penycloddiau a Moel y Gaer (Bodfari). Mae’n debyg bod y safleoedd mawr a thrawiadol hyn yn cynrychioli canolfannau llwythol, ac mae maint y bryngaerau ar hyd Bryniau Clwyd yn dangos bod grwpiau cymdeithasol cymharol fawr a threfnus wedi datblygu yn ystod yr Oes Haearn. Mae’n debyg bod y bryngaerau’n perthyn i lwyth o’r enw y Deceangli, a orchfygwyd gan y fyddin Rufeinig tua OC 60, ac ymddengys fod ei diriogaeth wedi ymestyn o afon Conwy yn y gorllewin ac o afon Dyfrdwy yn y dwyrain. Gellir bod yn weddol sicr i bobl roi’r gorau i fyw yn y bryngaerau ar adeg y goresgyniad Rhufeinig.
Fel y nodir isod, fodd bynnag, nid oes sicrwydd a fyddai pobl yn byw yn y bryngaerau trwy gydol y flwyddyn ac a ydynt yn cynrychioli’r unig fath o anheddiad a fu yn ystod yr Oes Haearn. Mae tystiolaeth o fannau eraill ym Mhrydain yn awgrymu y gallai elfennau eraill o’r gymdeithas fod wedi’u gwasgaru ymysg mathau o aneddiaddau llai o faint a llai cnewyllol ar y tir is yn y dyffrynnoedd. Gwyddys am nifer o lociau pendant neu bosibl, llai o ran maint, â ffosydd o’u hamgylch o dystiolaeth olion cnwd yn y dyffryn, fel er enghraifft yn Llanynys, yn Nhy’n-y-wern i’r de o Ruthun, Bachymbyd, a Rhewl, a all gynrychioli aneddiadau amgaeëdig bach sy’n dyddio o’r Oes Haearn. Ni chloddiwyd yr un o’r safleoedd hyn, fodd bynnag, ac mae hefyd yn bosibl eu bod yn perthyn i gyfnodau cynhanesyddol cynharach neu i’r cyfnod Brythonaidd-Rhufeinig dilynol neu i ddechrau’r cyfnod canoloesol.
Ar ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol, yn ystod y cyfnod Rhufeinig ac ar ddechrau’r Oesoedd Canol, mae’n debyg i fathau o aneddiadau nad oeddent yn amgaeëdig ddatblygu law yn llaw â’r cynnydd yn y boblogaeth er mwyn manteisio i’r eithaf ar botensial mawr Dyffryn Clwyd o ran amaethyddiaeth. Mae’n debyg bod olion gweithgarwch anheddu gan y Rhufeiniaid a mynwent a ddarganfuwyd tra’n gweithio ar ddatblygiad tai ar gyrion dwyreiniol Rhuthun yn cynrychioli dim ond un o nifer fawr o aneddiadau amaethyddol cyfoes yn y dyffryn sydd eto i’w darganfod. Cynrychiolir tystiolaeth arall o weithgarwch Rhufeinig gan ddarganfyddiadau damweiniol a’r hyn a all fod yn deml ger Llanfair Dyffryn Clwyd, darganfyddiadau damweiniol a’r hyn a all fod yn fynwent ger Bodfari, a darganfyddiadau damweiniol ger Llan‑rhudd. Hwyrach mai cyd-ddigwyddiad ydyw, ond mae dod o hyd i ddarganfyddiadau Rhufeinig mewn mannau neu ger mannau lle y sefydlwyd eglwysi yn ystod y cyfnod canoloesol yn awgrymu y gall fod rhywfaint o barhad wedi bod o ran anheddu ers y cyfnodau Rhufeinig hyd at ddechrau’r cyfnod canoloesol. Torrwyd yn y parhad hwn, mae’n debyg, am fod y dyffryn yn ardal ffiniol rhwng y teyrnasoedd Cymreig oedd yn datblygu a theyrnas Mercia yn Lloegr oedd yn ehangu o’r 7fed ganrif ac o ganlyniad i’r ehangu gan yr arglwyddi Eingl-Normanaidd ar ddiwedd yr 11eg ganrif.
Fodd bynnag arosodwyd arglwyddiaethau Dinbych a Rhuthun, sef dwy o arglwyddiaethau’r Gororau, a sefydlwyd yn y 1280au gan Edward I, ar batrwm anheddu a strwythur plwyfol a oedd wedi’u hen sefydli, gydag eglwysi canoloesol o fewn yr ardal dirwedd hanesyddol ym Modfari, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Llanfarchell, Llanynys, Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, Llandyrnog, Llangynhafal, Llangwyfan, Llanfwrog, Llan‑rhudd, Llanychan a Llanfair Dyffryn Clwyd. Mae’n debygol bod ystod o wahanol fathau o aneddiadau wedi bodoli yn ystod y cyfnod canoloesol cynharach gan gynnwys aneddiadau bond a rhydd, aneddiadau cnewyllol bach a ffermydd a daliadau mwy gwasgaredig, ond hyd yn hyn nid oes fawr ddim tystiolaeth fanwl o Ddyffryn Clwyd ynghylch ffurf yr aneddiadau hyn. Mae hyd yn oed natur anheddiad a gysylltir â phob un o’r eglwysi hyn yn aneglur, er bod astudiaeth fanwl o Lanynys wedi awgrymu i glwstwr o dai a gerddi ddatblygu yma o amgylch cae agored oedd yn gymharol fach ac a gynhwysai ar yr ynys hon o dir âr rhwng afon Clywedog ac afon Clwyd stribedi o dir yr oedd ganddynt berchenogion gwahanol. Efallai bod aneddiadau tebyg wedi bodoli o amgylch rhai neu bob un o’r eglwysi eraill a’r trefgorddau a oedd yn gysylltiedig â hwy. Erbyn hyn mae’r patrwm anheddu cynnar yn anodd i’w ddehongli o ganlyniad i’r anheddiad ehangu ar ddiwedd y cyfnod canoloesol ac o ganlyniad i ddaliadau unigol gyfuno dros amser.
Mae’n anochel bod creu dwy arglwyddiaeth y Gororau ar ddiwedd y 13eg ganrif wedi torri ar y patrwm anheddu rywfaint, gan fod gweinyddwyr yr arglwyddiaethau yn awyddus i sicrhau eu potensial economaidd a manteisio i’r eithaf arno. Crëwyd maenorau newydd ar y patrwm Seisnig yn Ninbych ac yn Kilford. Roedd cymhelliad gwleidyddol i lawer o’r newidiadau hyn. Cyfunwyd tir a gymerwyd oddi ar lwythau brodorol neu a gaffaelwyd ganddynt a hynny trwy fforffed yn ddaliadau mwy o faint ac fe’u rhoddwyd i deuluoedd Seisnig a symudodd i mewn, a fyddai trwy hynny yn dangos mwy o deyrngarwch i’r cyfundrefnau newydd. O ganlyniad roedd tueddiad i greu ystadau mwy o faint ar y tiroedd brasach yn y dyffryn gan ail-leoli trigolion lleol yn yr ardaloedd mwy anghysbell. Datblygodd patrymau anheddu newydd a gydymffurfiai’n fras â’r hyn a sefydlasid yn arglwyddiaethau hţn y Gororau yng Nghymru oedd wedi’u rhannu’n Saesonaethau ac yn Frodoriaethau. Felly sefydlwyd Saesonaethau gydag aneddiadau Seisnig yn ganolbwynt iddynt yn y dyffryn, o amgylch canolfannau gweinyddol newydd pob arglwyddiaeth, sef y bwrdeistrefi castell a sefydlwyd yn syth ar ôl goresgyniad Cymru yn Rhuthun a Dinbych, a hynny yng nghanol ardal oedd yn y bôn yn dal yn frodorol ei natur a lle y parhâi’r system lwythol Gymreig o ddal tir. Cyfrannodd y gwahanol anghyfiawnderau a ddioddefwyd gan y Cymry o dan y Saeson at y gwrthryfel a arweiniwyd gan Owain Glyn Dđr, a ddechreuodd gydag ymosodiad ar dref a chastell Rhuthun ym mis Medi 1400.
Arweiniodd y dirywiad yn system llwythau Cymru ynghyd â’r duedd i dalu arian yn lle’r gwasanaethau arferol a gyflenwid gan daeogion ac effeithiau heintiau’r Pla Du, yn enwedig yn ystod y 1340au a’r 1360au at newidiadau pwysig o ran y patrwm anheddu yn Nyffryn Clwyd o’r 14eg ganrif ymlaen, a arweiniodd yn raddol at dirwedd a nodweddid gan ystadau cyfunol mawr yn y dyffryn a ffermydd gwasgaredig pob un â’i pherchennog ei hun ar y mynydd-dir oddi amgylch. Parhaodd y broses i mewn i’r cyfnod ar ddiwedd yr Oesoedd Canol. Parhâi bwrdeistrefi Dinbych a Rhuthun oedd â’u siarteri a’u monopolďau masnachol eu hunain i ffynnu fel canolfannau masnachol a ddarparai farchnad ar gyfer nwyddau a gynhyrchid yn lleol, ond wrth i’r anheddiad ehangu yn ystod yr Oesoedd Canol ac ar ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol crëwyd aneddiadau cnewyllol newydd a bwriwyd rhai o’r canolfannau cynharach i’r cysgodion. Efallai i Fodfari, Llanynys, Llanrhaeadr-yng-Nghinmeirch, Llandyrnog, a Llanfair Dyffryn Clwyd i gyd oroesi fel aneddiadau cnewyllol bach, ond yn y pen draw ynyswyd pob un o’r eglwysi yn Llanbedr Dyffryn Clwyd, Llanfarchell, Llangynhafal, Llangwyfan, Llan‑rhudd, a Llanychan wedi’u hamgylchynu gan gaeau a dim llawer mwy.
Crëwyd canolfannau poblogaeth newydd o ganlyniad i symudiadau o ran y boblogaeth, yn enwedig yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, wrth gyffyrdd pwysig, ar hyd y ffyrdd tyrpeg newydd neu mewn mannau oedd yn gysylltiedig â melinau, chwareli, capeli anghydffurfiol, gefeiliau, ysgolion, a thir amgaeëdig. Mae’r rhain wedi dod yn nodweddion arbennig o bwysig yn y dirwedd wledig yn Nyffryn Clwyd. Mae enghreifftiau o’r aneddiadau newydd hyn yn cynnwys Graig-fechan, Craig-adwy-wynt, Pentre-Llanrhaeadr, yr aneddiadau newydd yn Llangynhafal a Llanbedr Dyffryn Clwyd, Waun Aberchwiler, Hęn-efail, Rhewl, Hirwaun, Gellifor, Hendrerwydd, Ffordd-las ac Aifft. Mae’r 20fed ganrif wedi gweld y rhain a chanolfannau poblogaeth cynharach yn ehangu, ac mae hefyd wedi bod yn dyst i nifer o ddatblygiadau hirgul ar hyd rhai ffyrdd gwledig, fel rhwng Rhuthun a Rhewl, Gellifor a Hendrerwydd, a Llandyrnog a Llangynhafal ac i duedd fwy diweddar at greu nifer o ystadau gwledig bach newydd neu at addasu ffermydd at ddibenion amlbreswyliaeth, fel ar fferm Llwyn-celyn i’r gogledd o Lanrhaeadr.
Mae elfennau cynharaf yr amgylchedd adeiledig sydd wedi goroesi yn Nyffryn Clwyd i’w canfod yn adeiladwaith rhai eglwysi canoloesol, y cestyll canoloesol a nifer o adeiladau eraill yn Rhuthun a Dinbych. Yn achos yr adeiladau canoloesol hyn ac adeiladau cerrig eraill sy’n dyddio i ddiwedd yr Oesoedd Canol ac i’r cyfnod ôl-ganoloesol ymddengys mai deunyddiau cymharol leol a ddefnyddiwyd yn bennaf i’w hadeiladu. Felly, mae bythynnod a ffermdai ar lethrau dwyreiniol y dyffryn wedi’u hadeiladu’n bennaf o siâl Silwraidd a gloddiwyd yn lleol tra bod y rhai sydd ar ochr orllewinol y dyffryn wedi’u hadeiladu’n bennaf o galchfaen carbonifferaidd a gloddiwyd. Mae rhai adeiladau cerrig tua chanol y dyffryn yn tueddu i fod wedi’u hadeiladu naill ai o siâl neu o galchfaen neu’n achlysurol o welyau o dywodfaen coch Triasig a Phermaidd y gellir eu gweld yn amlwg mewn nifer o leoedd yn y dyffryn. Ar achlysuron prin, fel yn achos wal mynwent Llanynys, adeiladau fferm cynnar yn Dregoch Ucha i’r de o Waun Aberchwiler, a rhannau o nifer o adeiladau yn nyffryn Clywedog i’r gorllewin o Rhewl, defnyddiwyd meini mawr crynion o welyau nentydd neu feini crwydr rhewlif a symudwyd wrth glirio caeau. Lle y defnyddiwyd carreg o ansawdd gwaeth mae yna duedd i’r adeiladau fod wedi’u rendro, fel yn achos llawer o ffermdai a’r eglwysi yn Llandyrnog, Llangwyfan a Llangynhafal – sydd i gyd ar ochr ddwyreiniol y dyffryn. Mae’n debyg bod cyfran uchel o’r tai yn y trefi, y ffermdai a’r adeiladau fferm cynnar wedi’u hadeiladu o bren, a dim ond cyfran fach ohonynt sydd wedi goroesi, yn bennaf dim ond yn achos rhai o’r tai mwy o faint a mwy mawreddog, gan gynnwys er enghraifft yr ysguboriau ffrâm nenfforch ym Machymbyd sy’n dyddio, mae’n debyg, o’r 15fed ganrif/dechrau’r 16eg ganrif, a neuaddau ffrâm nenfforch yn Hendre’r ywydd-uchaf (sydd wedi’u hailadeiladu erbyn hyn yn amgueddfa Sain Ffagan), Hendre’r ywydd, a Phlas Iago, a’r tai ffrâm nenfforch yn Neuadd Euarth, o ddiwedd yr 16eg ganrif/dechrau’r 17eg ganrif, Caerfallen, Llwyn-ynn (sydd wedi’i ddymchwel erbyn hyn i raddau helaeth), Plas Coch, Plas-yn-llan, Plâs-yn-rhôs, Glan Clwyd, Rhydonen, Rhyd-y-cilgwyn a Ffynnogion, er bod fframiau pren wedi’u llenwi â brics wedi goroesi yn achos nifer o adeiladau fferm, fel yn Fron-vox a Phlâs Draw.
O tua chanol yr 17eg ganrif ymlaen ymddengys mai carreg a ddefnyddiwyd fwyaf ar gyfer adeiladu. Defnyddiwyd brics am y tro cyntaf yn yr 17eg ganrif, fel yn achos y tţ brics a berthynai i deulu Salusbury ym Machymbyd Fawr, a dechreuwyd eu defnyddio’n fwy ac yn fwy aml ar gyfer tai, bythynnod, adeiladau fferm a waliau o ddechrau i ganol y 18fed ganrif ymlaen. Mae gan ysgubor yn Dre Goch Ganol, er enghraifft, ddyddiad o 1752 wedi’i osod yn y gwaith brics. Toeau llechi yw’r toeau presennol sydd ar adeiladau traddodiadol ac ar adeiladau a godwyd cyn y cyfnod modern a hynny bron yn ddieithriad, ond mae’n debyg bod yna duedd i ddefnyddio llechi ers diwedd yr 16eg ganrif ymlaen. Cyn y dyddiad hwnnw mae’n debyg bod y mwyafrif o’r adeiladau naill ai â thoeau gwellt neu â thoeau teils pren. Ymddengys na châi teils cerrig eu defnyddio yn yr ardal, a hynny mae’n debyg oherwydd y diffyg cerrig addas yn yr ardal.
Tirweddau Amaethyddol
Un o brif nodweddion Dyffryn Clwyd yw ansawdd ei ffermdir ac, oherwydd y nodwedd honno, mae’r tir wedi’i ffermio ers yr 16eg ganrif o leiaf. Mae tirweddau amaethyddol presennol y dyffryn yn ganlyniad i weithgaredd dynol parhaus ers y cyfnod cynharaf – torri coetir brodorol, amaethu a chlirio cerrig, draenio’r tir mwyaf gwlyb ac amgáu’r tir gyda chloddiau, gwrychoedd a waliau – gweithgaredd a wnaed gyda’r bwriad o fanteisio ar yr amrywiaeth eang o adnoddau sy’n ymestyn o gopa’r bryn at lawr y dyffryn – y dolydd ar yr iseldir mwyaf gwlyb, y borfa a’r tir âr ar y tir uchel ychydig yn nes at lawr y dyffryn, a’r rhostir ar gopâu’r bryniau a borir yn yr haf.
Heb os nac oni bai roedd cymeriad hanfodol y dirwedd fodern wedi ei ffurfio erbyn diwedd y 18fed ganrif, os nad cyn hynny, a gellir ei adnabod yn glir yn nisgrifiad Syr Richard Colt Hoare ar ddechrau’r 19eg ganrif.
Credir mai hwn yw’r dyffryn gwychaf yn y dywysogaeth; drwy wychder golygir cyfoeth y pridd a’i ffrwythlondeb…Yn gyffredinol mae’r tir yn cael ei amaethu mor uchel ag y mae ochrau’r mynyddoedd yn caniatáu; mae’r wlad yn llawn cartrefi bonheddig, pentrefi ac ati ac mae’r cyfan yn goediog iawn.
Colt Hoare, 6 Mehefin 1801
Gellir gwerthfawrogi’r prosesau cyffredinol a ffurfiodd y dirwedd hon, hyd yn oed os oes angen gwaith pellach er mwyn darparu hanes manwl tirwedd y dyffryn ac er mwyn olrhain gwreiddiau ffermydd unigol neu systemau caeau arbennig. Mae natur cynnyrch amaethyddol wedi newid yn sylweddol dros amser, a byddai hynny ei hun wedi effeithio ar ymddangosiad cefn gwlad. Daeth cynhyrchu gwlân yn bwysig yn ystod y cyfnod canoloesol, a datblygodd Rhuthun yn ganolfan bwysig ar gyfer cynhyrchu brethyn gyda’i hurddau ei hun o banwyr a gwehyddion. Yn y 18fed ganrif daeth y dyffryn yn adnabyddus am gynhyrchu grawn a gludwyd i ranbarthau eraill. Daeth cig eidion a chynnyrch llaeth yn bwysig yn ystod y 19eg ganrif, ac ar hyn o bryd y defnydd amlycaf a wneir o’r tir yw ar gyfer porfa a chnydau porthi, a pheth ŷd.
Mae’n amlwg fod ardaloedd sylweddol o goetir yn dal i fodoli yn y dyffryn yn ystod y cyfnod canoloesol, ac mae cofnod o goedwigoedd a choetir a neilltuwyd ym mherchenogaeth arglwyddiaeth Rhuthun yn ardal Cae’r Fedwen, i’r gogledd o Landdyrnog, ger Hirwaun, Coed Marchan i’r de o Ruthun, ac Eyarth yn nhrefgordd Llysfasi. Cofnodwyd celli yng Ngellifor a rhwng Rhydonnen a Llanychan, i’r dwyrain o Lanynys. Byddai ardaloedd eraill o goetir comin hefyd ar gael a byddai’r coetir yn cael ei ddefnyddio fel ffynhonnell deunyddiau adeiladu a thanwydd yn ogystal ag at amrywiaeth eang o ddibenion eraill. Yn raddol byddai ardaloedd o goetir cynhenid wedi dirywio yn unol â’r galw cynyddol am bren a ffermdir ychwanegol, ac mae’n debyg fod y stribedi nodedig o goetir a ffermdir yn rhan ddeheuol Eyarth yn arwydd o’r broses asartio.
Dim ond cyfran fach o’r coetir hynafol yn y dyffryn sydd wedi goroesi hyd heddiw, er bod sawl ardal hynafol neu gymharol naturiol o goetir yn dal i oroesi ar y tir mwyaf serth, yn arbennig ar ochrau bryniau deheuol a gorllewinol y dyffryn, i’r de o Ruthun, yn nyffrynnoedd Chwiler a Chlywedog. Yn ddi‑os mae gweddillion llai eraill o goetir hynafol wedi goroesi fel llinellau o goed ar hyd nifer o ddyffrynnoedd afonydd ac mewn nifer o berthi mwy hynafol yn y dyffryn. Cymharol brin yw’r coetir modern a blannwyd yn y dyffryn, ac fe’i cyfyngwyd yn bennaf i sawl ardal fach o gonifferau ar ochr ddwyreiniol bryniau Clwyd, i’r de o Lanbedr ac yn y dyffryn i’r dwyrain o Langwyfan, gyda nifer o blanhigion collddail bach ar dir mwy gwlyb i’r dwyrain o Lanrhaeadr ac i’r de o Leweni.
Prin yw’r hyn sy’n hysbys hyd yma ynghylch y dulliau o ffermio yn y dyffryn yn ystod y cyfnodau cynhanesyddol diweddar a’r cyfnod Rhufeinig, er ei fod yn amlwg i’r systemau canoloesol cynnar o ddefnyddio tir ddatblygu yn unol â’r system Gymreig o dirddaliadaeth, lle’r oedd nifer o gartrefi rhydd neu glwm, o bosibl gyda’u gerddi neu badogau eu hun, a gasglwyd yn grŵp o amgylch un ardal fach neu fwy o gaeau âr agored, wedi’u rhannu’n stribedi amaethu ym meddiant perchenogion gwahanol. Byddai’r grwpiau llwythol hyn, wedi’u hamgylchynu gan ardaloedd o ddolydd comin, yn sylfaen i’r trefgorddau canoloesol y rhannwyd yr unedau gweinyddol iddynt, ac yn y pendraw cysylltid eglwys wrthynt a byddent yn datblygu’n ganolbwynt plwyf eglwysig.
Mae’r patrymau anheddiad a’r defnydd tir canoloesol cynnar hyn bellach yn anodd i’w hadnabod ar y dirwedd oherwydd y newidiadau diweddarach, er y gellir adnabod ardaloedd o gaeau âr agored yn achlysurol o batrymau caeau nodedig neu dystiolaeth enwau lleoedd. Enghraifft amlwg o hyn oedd y ddau gae âr mawr, a adwaenir fel Maes isaf a Maes uchaf, a rannwyd yn stribedi â pherchenogion gwahanol neu leiniau a oroesodd ym mhentref Llanynys tan ddechrau’r 1970au – gyda’r enwau caeau yn dynodi caeau agored isaf ac uchaf. Byddai’r ffermdir yn llawer mwy agored, er y byddai ffensys terfyn neu wrychoedd wedi’u codi o amgylch y caeau âr agored a dolydd comin a phorfa er mwyn rheoli’r anifeiliaid ar adegau gwahanol yn ystod y flwyddyn. Wrth chwilio am dystiolaeth debyg o diroedd a gafodd eu haredig yn y canoloesoedd mewn mannau eraill yn Nyffryn Clwyd mae’n arwyddocaol nad oes unrhyw olion o’r lleiniau hyn yn ardal tirwedd hanesyddol Llanynys ar wahân i’r ffiniau caeau o amgylch y ddau gae âr mawr.
Yn ddi-os byddai amhariadau i’r patrwm hwn mewn ardaloedd penodol o ganlyniad i gyrch gan deyrnas Seisnig Mersia o’r 7fed ganrif OC a’r goresgyniadau Eingl-Normanaidd ar ddiwedd yr 11eg ganrif a’r 12fed ganrif. Mae’n siwr y byddai’r amhariadau mwyaf wedi digwydd o ganlyniad i greadigaeth arglwyddiaethau Dinbych a Rhuthun ar ddiwedd y 13eg ganrif, i greu’r plasau newydd yn Ninbych a Kilford, ac anheddiad mewnfudwyr Seisnig o fewn y cestyll-fwrdeistrefi newydd ac yng nghefn gwlad o’u hamgylch. Rhoddwyd blociau cyfun o dir a atafaelwyd oddi wrth grwpiau o deuluoedd brodorol, a ail-leolwyd mewn mannau eraill, i deuluoedd Seisnig, gan sicrhau felly bod canolbwynt pob arglwyddiaeth yn cynnwys teuluoedd a oedd yn cyd-fynd â’r drefn newydd. Yn sicr byddai tir âr o amgylch pob bwrdeistref yn cael ei drin gan bobl ag eiddo o fewn y dref, gyda lleoliad caeau trefi fwy na thebyg yn cael eu cynrychioli ar y patrwm caeau cosentrig yn ardal gymeriad Felin-ysguboriau ar ochr de-ddwyreiniol Rhuthun ac yn y patrwm caeau rheiddiol yn ardal gymeriad Meusydd-brwyn i’r gogledd-ddwyrain o Ddinbych.
Erbyn dechrau’r 14eg ganrif roedd hyn wedi arwain at at greu nifer o ystadau mawr yn y Saesonaethau ar y tir mwy ffrwythlon yn y dyffryn ac o’i amgylch gyda ffurfiau brodorol o dirddaliadaeth a defnydd tir yn gyffredinol yn cael eu cyfyngu i ardaloedd y Cymry o amgylch. Felly roedd ystadau mawr yng nghyffiniau Dinbych ym mherchenogaeth teuluoedd megis y Duckworths, y Salusburys, y Pigots a’r Pontefracts, ac roedd y rheini o amgylch Rhuthun ym mherchenogaeth y Thelwalls, y Goodmans a’r Alsbels, gydag enw’r olaf yn cael ei gadw yn yr enw Plas Ashpool, i’r gogledd o Landyrnog. Parhaodd nifer o’r teuluoedd hyn, megis y Salusburys o Leweni a Bachymbyd a Thelwalls o Blas-y-ward yn flaenllaw yn ystod cyfnod helaeth o’r 16eg ganrif a’r 17eg ganrif.
Fel y nodir uchod, roedd y system lwythol Gymreig yn prysur ddiflannu yn ystod diwedd y 14eg ganrif, a rhwng yr 15fed-17eg ganrif bu cynnydd yn yr arfer o uno a chyfuno deiliadaethau tir a chreu ffermydd mewn perchenogaeth unigol neu ffermydd â thenantiaid o fewn eu ffensys terfyn eu hunain, ynghyd â chlwstwr o ddaliadau a thyddynnod, gan arwain at ddiflaniad graddol yr hen gaeau agored ac amgáu gwair comin yn breifat er mwyn creu caeau mawr delfrydol i ddefaid bori ynddynt, ac i gynnal y diwydiant gwlân lleol. Gwnaed gwelliannau tir sylweddol yn ystod ail hanner y 16eg ganrif, fel yn achos yr hen barc hela canoloesol blaenorol ym Mathafarn, a ddisgrifiwyd yn flaenorol ‘wedi tyfu’n wyllt gyda choed a drain ac roedd ambell ddarn ohono yn gorstir fel na allai unrhyw wartheg bori arno dros y gaeaf heb fod mewn perygl o foddi’. Yma, rhwng y 1550au a’r 1590au y cofnodwyd bod y Thelwalls wedi
nid yn unig godi adeiladau a’u gwella ar y parc y sonnir amdano…ond iddynt hefyd wneud newidiadau mawr i ffosydd a chwteri’r corstir hwn ac felly addasu’r coetir amhroffidiol a oedd gynt yn ddiffrwyth yn dir âr a dolydd, a’i rhannu’n barseli amrywiol drwy osod ffosydd a phlanhigion byw yn y parseli hynny.
Felly ymddengys fod tirwedd fodern hynod ardal gymeriad Bathafarn, yn cynnwys caeau hirsgwar cymharol fawr gyda gwrychoedd draenen wen a ffosydd draenio wedi’u gosod mewn patrwm cymharol reolaidd, yn dyddio o tua chanol yr 16eg ganrif. Mae patrwm tebyg hefyd yn amlwg yn ardal gymeriad Llanbedr Dyffryn Clwyd yn union i’r gogledd. Hyd yma nid yw dyddiadau nifer o batrymau hynod caeau cynnar sy’n amlwg yn Nyffryn Clwyd wedi’u pennu’n derfynol ond ymddengys eu bod yn dyddio o bosibl o’r cyfnod rhwng yr 16eg ganrif a chanol y 18fed ganrif.
Ymddengys fod y grid nodweddiadol o gaeau bach a chanolig eu maint, ffyrdd, llwybrau troed a thrywyddau yn ardal gymeriad Llandyrnog wedi’i sefydlu ers cryn amser cyn y 18fed ganrif gan ei bod yn debyg i’r patrwm caeau sylfaenol gael ei dorri ar letraws gan nifer o ffyrdd sy’n cysylltu aneddiadau diweddarach megis Hendrerwydd a Gellifor. Felly, mae’n debygol fod y patrwm caeau yn yr ardal hon yn cynrychioli cyfuniad o’r amgáu darniog caeau agored canoloesol yn gysylltiedig â nifer o ganolfannau canoloesol hŷn megis Llandyrnog, Llangwyfan, Llanychan a Llangynhafal, ynghyd ag amgáu ardaloedd o borfa comin yn perthyn i’r trefgorddau yn y plwyfi hyn a hynny mewn cyfnod cynnar.
Mae’n debyg fod patrymau nodweddiadol o gaeau stribed yn ardal gymeriad Llandyrnog ger Ffordd-las ac yn ardal gymeriad Esgairlygain yn cynrychioli amgáu preifat cynnar, o bosibl yn y cyfnod rhwng dechrau’r 17eg ganrif a dechrau’r 18fed ganrif. Gwelwyd yn y 18fed ganrif yn arbennig gynnydd yn y gyfradd amgáu ac mewn rhai enghreifftiau golygodd hynny isrannu caeau a oedd yn bodoli eisoes. Yn achlysurol roedd gwelliannau mewn dulliau ffermio megis datblygiad mewn bridio anifeiliaid dethol a chyflwyno hadaradrau a chwynnu mecanyddol yn cynyddu manteision caeau llai o faint. Weithiau roedd caeau mawr a ddefnyddiwyd yn flaenorol ar gyfer pori defaid yn cael eu hisrannu’n gaeau âr bach, ar ôl cyflwyno gwau cotwm yn ystod y Chwyldro Diwydiannol. Defnyddiwyd tir ychwanegol i’w amaethu oherwydd y cynnydd ym mhrisiau gwenith ar ddiwedd y 18fed ganrif.
Ymddengys fod patrymau nodweddiadol o gaeau bach afreolaidd o ran eu siâp ar y llethrau a’r dyffrynnoedd ar ochr orllewinol bryniau Clwyd, er enghraifft yn ardaloedd cymeriad Tyddyn Uchaf, Fron-gelyn, Rhiwbebyll a Choed Draw, yn cynrychioli clirio coetir darniog ac amgáu porfa a wellwyd rhwng diwedd y cyfnod canoloesol diweddar ac ôl-ganoloesol cynnar, gyda’r amgáu hwnnw’n aml yn ymestyn at ffin benodol o amgylch ymyl rhostir cyfoes a hefyd yn aml yn ymestyn ar hyd y gyfuchlin 250m, ac yn cynrychioli’r ehangu oddi wrth y canolfannau poblogaeth canoloesol, ac yn achlysurol yn cynnwys gorgyffyrddiadau i ymestyn i’r tiroedd comin uchel. Gellir adnabod y patrymau caeau o ganlyniad i hynny oddi wrth yr amgaeadau Seneddol yn gynnar yn y 19eg ganrif, a nodweddwyd gan y caeau hirsgwar mawr yn ardaloedd cymeriad Fron-heulog, Bryn-isaf, a Fron-dyffryn. Sefydlwyd yr holl batrymau caeau presennol yn yr ardaloedd cymeriad yn llawn erbyn canol y 19eg ganrif ac maent wedi parhau’n gymharol sefydlog ers hynny, ar wahân i golli rhannau o ffiniau caeau.
Ffurfir y rhan fwyaf o ffiniau caeau yn Nyffryn Clwyd gan wrychoedd. Mae astudiaethau cychwynnol yn awgrymu bod ffurf a chynnwys rhywogaethol y gwrychoedd hyn fwy na thebyg yn cyfrannu’n sylweddol at hanes tirwedd y dyffryn, gan fod gwahaniaethau clir rhwng y gwrychoedd hŷn ac aeddfed sy’n cynnwys hyd at chwech neu saith rhywogaeth wahanol a gwrychoedd o un rhywogaeth sy’n perthyn i amgaeadau Seneddol dechrau’r 19eg ganrif, er enghraifft, ac sydd fel arfer yn un rhywogaeth, sef y ddraenen wen. Mae’r defnydd o ‘blanhigion byw’ ar gyfer creu ffiniau newydd ym Mathafarn, fel y nodwyd uchod, rhwng tua 1550-90, yn dangos y gallai perthi o hyd at 400 mlwydd oed gynnwys un rhywogaeth. Gallai’r gwrychoedd rhywogaethau cymysg naill ai gynrychioli coetir creiriol, yn amgylchynu ardaloedd sydd bellach wedi’u clirio, ond gallent hefyd fod yn ganlyniad plannu bwriadol gwrychoedd rhywogaethau cymysg.
Mae’r cyfosod gwrychoedd cymysg a gwyrchoedd un rhywogaeth mewn rhai ardaloedd yn awgrymu bod angen ymchwilio ymhellach iddynt. Mae gwrychoedd celyn ar ochr y ffordd yn nodweddiadol o nifer o ardaloedd yn Nyffryn Clwyd, er enghraifft yn ardaloedd cymeriad Bachymbyd, Tyddyn Uchaf, Llanrhaeadr, Hirwaun ac Ystrad. Gallai hynny fod yn ganlyniad ecsbloetio detholedig gwahanol rhywogaethau o goed a phrysgwydd, ond gallai hefyd gynrychioli plannu bwriadol. Er enghraifft mae General view of the agriculture of the county of Shropshire gan Plymley yn 1803 yn awgrymu bod celyn yn ogystal â’r ddraenen wen a’r ddraenen ddu yn blanhigion gwrychoedd addas.
Mae ffurf y gwrychoedd hefyd yn debygol o fod yn arwyddocaol. Mewn rhai mannau mae’r gwrychoedd yn afreolaidd a chrwydrol o ran eu siâp. Gallai hyn, er enghraifft, gynrychioli tyfiant prysgwydd ar hyd ffiniau nad oeddent yn wrychoedd yn wreiddiol ond a lwyddodd yn ddiweddarach i ffurfio gwrychoedd. Yn y rhan fwyaf o ardaloedd mae’r perthi naill ai’n ymddangos ar eu pennau eu hunain neu maent yn gysylltiedig â llethrau caeau cymharol ddi-nod. Yr eithriadau i hyn yw’r nifer o wrychoedd mewn ardaloedd mwy serth ac ymylol, megis Bachymbyd, Fron-dyffryn a Fron-gelyn, lle y ceir nifer o lethrau mwy, sydd weithiau’n cynnwys clogfeini, a ymddengys fel pe baent wedi’u codi yn ystod y gwaith gwreiddiol o glirio a gwella’r tir. Yn yr ardaloedd hyn ac mewn nifer o ardaloedd eraill gyda thir sy’n gogwyddo’n serth, yn arbennig ar ochrau’r dyffryn, mae gwrychoedd yn gorgyffwrdd â balciau a grëwyd o ganlyniad i erydiad pridd, gan ddangos fod maint y tir âr eisioes yn sylweddol fwy nag ydyw heddiw.
Mae’r mwyafrif o’r gwrychoedd bellach wedi’u torri’n isel gan beiriant, gan gynnwys cyfran sy’n dangos tystiolaeth iddynt gael eu gosod yn draddodiadol yn y gorffennol, ac mae’r gyfran o wrychoedd a osodwyd bellach yn fach iawn. Nid yw cyfran arwyddocaol o wrychoedd mewn rhai ardaloedd bellach yn cael eu tocio’n llawn, ac maent naill ai tyfu’n wyllt neu bellach yn cael eu cynrychioli gan linell ysbeidiol o goed neu brysgwydd. Pan yw hynny wedi digwydd ceir tuedd i’r gwrychoedd ddiflannu’n gyfangwbl wrth i goed hŷn farw a phan nad oes coed newydd yn cael eu rhoi yn eu lle. Plannwyd nifer o wrychoedd newydd mewn rhai ardaloedd, yn gyffredinol fel rhan o gynlluniau cefn gwlad sydd wedi derbyn grant. Mewn rhai ardaloedd mae yn y gwrychoedd gyfran cymharol uchel o goed tal, aeddfed, sy’n rhoi naws parcdir i’r dirwedd.
Yn anfynych iawn defnyddir waliau carreg sych ar gyfer ffiniau caeau yn Nyffryn Clwyd, wedi’u cyfyngu’n bennaf er enghraifft i ffiniau plwyfi echelinol ar hyd bryniau Clwyd, neu ar gyfer waliau iardiau fferm ac ar hyd mynedfeydd ar ochr ffyrdd at ffermydd ac mewn ambell fynedfa i gae, lle bo angen bariau cryf i rwystro anifeiliaid rhag crwydro.
Mae pyst gatiau, sy’n ymddangos naill ar ar wahân neu mewn parau, yn nodweddiadol o fynedfeydd i gaeau a ffermydd mewn nifer o ardaloedd cymeriad. Maent wedi’u gwneud o amrywiaeth o ddeunyddiau ac mewn steiliau gwahanol, ac maent yn dyddio o’r 18fed ganrif hyd at ddiwedd y 19eg ganrif fwy na thebyg. Mae eu ffurfiau’n cynnwys pileri calchfaen, hirsgwar cymharol denau, slabiau gwastad o lechen gyda thopiau sgwâr neu grwn, blociau hirsgwar enfawr, a phileri a siapiwyd yn ofalus gyda thopiau wedi’u naddu ac ochrau gerwin. Dim ond pyst gatiau’r caeau ar hyd ffyrdd cyhoeddus y mae fel arfer i’w gweld ond gellir eu gweld oddi ar ochrau’r ffyrdd mewn rhai ardaloedd o gyn barcdir neu mewn ardaloedd yn agos at gyn chwareli. Nodwedd fwy diweddar i’r dirwedd amaethyddol yw stondinau llaeth modern nas defnyddir bellach ger nifer o fynedfeydd at ffermydd, a adeiladwyd o friciau, concrid, blociau concrid neu o bren.
Mae ffensys o byst a gwifrau sy’n cadw anifeiliaid yn ddiogel yn prysur ddatblygu’n fath ar ffin a ddefnyddir amlaf aml yn Nyffryn Clwyd, ac fe’u defnyddir naill ai ar eu pennau eu hunain neu yn ychwanegol at wrychoedd a waliau cerrig sych neu yn eu lle. Mewn rhai ardaloedd defnyddir ffensys o byst a gwifrau er mwyn isrannu caeau pori mawr yn nifer o badogau llai o faint.
Trafnidiaeth a Chysylltiadau
Oherwydd topograffi, mae’n debyg bod ffyrdd yn Nyffryn Clwyd ers y cyfnodau cynharaf wedi tueddu i redeg naill ai o’r gogledd i’r de, ar hyd echel y dyffryn, neu ar ongl sgwâr i’r echel hon i fyny dyffrynnoedd y nentydd sy’n arwain at y bryniau neu drostynt ar y naill ochr a’r llall. Mae hyn wedi arwain at rwydwaith o ffyrdd, llwybrau a throedffyrdd ar ffurf grid llac. Oherwydd y tir sy’n waeth o ran ei ddraeniad ar hyd y dyffryn bu tuedd i ffyrdd yn rhedeg o’r gogledd i’r de ddatblygu ar wahân. Maent yn cysylltu cymunedau ar y tir ychydig yn uwch ar y naill ochr a’r llall i’r dyffryn, a dim ond nifer gyfyngedig o fannau i groesi’r afon a geir sy’n cysylltu ochr ddwyreiniol ac ochr orllewinol y dyffryn.
Ychydig a wyddys am y ffyrdd a’r llwybrau cynharaf yn y dyffryn. Tybir bod ffordd Rufeinig bwysig yn arfer rhedeg ar hyd Dyffryn Clwyd, gan gysylltu safleoedd yng Nghaer Gai ger y Bala a’r hyn y tybir ei fod yn gaer yn ardal Corwen â safleoedd yng nghyffiniau Rhuthun a Llanelwy. Mae’n siðr y darganfyddir yn y dyfodol lwybr y ffordd a’i chysylltiad ag aneddiadau Rhufeinig ac â gweithgarwch milwrol posibl yn y dyffryn. Mae’n siðr i lawer o’r rhwydwaith sylfaenol o ffyrdd, llwybrau a throedffyrdd cyfoes ddatblygu’n raddol gan gysylltu aneddiadau cnewyllol o ddechrau’r Oesoedd Canol ac o’r Oesoedd Canol â chanolfannau trefol, ac yn ddiau, daethant yn fwy ac yn fwy cymhleth yn ystod y cyfnod ar ddiwedd yr Oesoedd Canol ac ar ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol wrth i nifer y ffermydd a’r daliadau gwasgaredig gynyddu. Unwaith eto, cymharol brin yw’r wybodaeth sydd gennym am y ffyrdd a’r pontydd cynnar a fu yn y dyffryn yn ystod y cyfnodau hyn. Byddai llawer o’r llwybrau cynnar hyn wedi bod yn ddibalmant ac yn anodd teithio arnynt yn ystod tymhorau arbennig o’r flwyddyn, er y gall y ffaith bod yr elfen palmant yn digwydd nifer o weithiau mewn enwau lleoedd fod yn arwydd o ffyrdd adeiledig cynnar.
Mae llawer o’r ffyrdd a’r llwybrau cyfoes sy’n rhedeg ar y naill ochr a’r llall i’r dyffryn yn rhedeg mewn ceuffyrdd sydd wedi’u treulio i mewn i lethr y bryn, yn enwedig y rhai sy’n cyrraedd ffermydd a chymunedau i fyny’r llethrau mwy serth ac ar y tir uwch. Mae rhai o’r ceuffyrdd o gryn faint ac yn hen iawn. Yn aml mae arwynebau’r ffyrdd presennol yn cyrraedd dyfnder o rhwng 3-5m o arwyneb y ddaear ar y naill ochr a’r llall, o ganlyniad i erydiad miloedd lawer o dunelli o bridd ac isbridd a olchwyd ymhellach i lawr y bryn gan ddðr arwyneb dros lawer o ganrifoedd. Gellir gweld bod hyd yn oed rhai o’r ffyrdd ar y tir mwy gwastad, is ar lawr y dyffryn wedi’u ffurfio mewn ceuffyrdd, ac yn yr achosion hyn mae’n bosibl iddynt gael eu cloddio â llaw. Erbyn hyn mae llawer o’r llwybrau hyn wedi’u ffosileiddio o ganlyniad i’w palmantu a gosod draeniau ffyrdd ar eu cyfer, er bod eraill wedi goroesi hyd heddiw fel lonydd gwyrddion.
Gwelwyd cryn dipyn o welliannau mewn perthynas â thrafnidiaeth y ffyrdd ar ddiwedd y 18fed ganrif ac yn arbennig ar ddechrau’r 19eg ganrif pan adeiladwyd ffyrdd tyrpeg newydd a llawer o bontydd cerrig newydd ar draws afonydd a nentydd. Yn ogystal ag agor cefn gwlad i ymwelwyr roedd hyn o gymorth i fasnach. Ym 1801, nododd Syr Richard Colt Hoare, yr hynafiaethydd, fod ffordd newydd yn cael ei hadeiladu trwy’r dyffryn ‘sydd bellach yn agored i gerbydau … a fydd yn fodd i osgoi llawer o fryniau serth a llawer o wlad ddiflas’. Roedd y gwaith yn dal heb ei gwblhau, fodd bynnag, a chyda pheth gofid nododd ‘pe gwyddwn fod cymaint ohoni yn aros heb ei gwblhau ni fyddwn wedi ceisio teithio arni yn fy nhrap, gan fy mod wedi cael ei diwedd hi cynddrwg ag yr oedd y dechrau yn dda’.
Parhaodd gwaith i wella’r ffyrdd trwy gydol diwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. Disodlwyd y pontydd pren neu’r rhydau cynharach gan bontydd cerrig bwaog ac ar yr un pryd cyflawnwyd cynlluniau draenio ac adeiladwyd sarnau ar draws rhannau o’r tir gwlypach is. Mae hyn oll yn darparu elfennau nodweddiadol yn y dirwedd hanesyddol ar hyd a lled Dyffryn Clwyd. Crëwyd nifer o briffyrdd newydd megis y ffordd newydd o Wrecsam i Ruthun trwy Nant y Garth, Llysfasi a Llanfair Dyffryn Clwyd, a gymerodd le’r hen ffordd a redai trwy Graig-fechan, ar ochr ddwyreiniol y dyffryn. Mewn mannau mae’r ffordd hon, fel nifer o ffyrdd newydd neu ffyrdd oedd wedi’u gwella mewn mannau eraill yn y dyffryn, wedi’i harosod ar systemau caeau cynharach. Mewn rhai achosion, fel ger Lleweni a Bachymbyd, adeiladwyd pontydd gan berchenogion tir preifat er mwyn cyrraedd tir ffermio ar ochr arall un o’r prif nentydd neu afonydd yn y dyffryn. Adeiladwyd ffyrdd newydd i gwrdd ag anghenion y canolfannau trefol yn Rhuthun a Dinbych a oedd yn ehangu’n gyflym a mor ddiweddar â’r 1850au dargyfeiriwyd llwybr y ffordd o Gorwen i Ruthun o amgylch Parc y Castell yn Rhuthun, gan adael yr hen bont ffordd ar draws afon Clywedog fel nodwedd neilltuol yn y parcdir.
Hyrwyddwyd y gwaith o allforio cynnyrch amaethyddol a mwynau, symud teithwyr, a mewnforio ystod eang o nwyddau yn fawr o ganlyniad i adeiladu’r rheilffordd o Gorwen i’r Rhyl yn y 1850au, gyda gorsafoedd yn Euarth, Rhuthun, Llanrhaeadr, a Dinbych. Ychwanegwyd cysylltiadau â’r Wyddgrug trwy adeiladu Rheilffordd yr Wyddgrug a Chyffordd Dinbych 1869 gyda gorsaf ym Modfari a chilffyrdd ar gyfer Cwmni Dur a Haearn Partington ym Modfari ym 1924. Er iddi orffen rhedeg yn y 1960au mae gan y rheilffordd effaith sylweddol ar y dirwedd o hyd mewn nifer o ardaloedd cymeriad yn y dirwedd hanesyddol, gan gynnwys yr argloddiau a phentanau’r pontydd i’r gorllewin o Lanfair Dyffryn Clwyd, hafnau’r rheilffordd sy’n ffinio â’r ystadau tai ar ochrau dwyreiniol Rhuthun a Dinbych, a’r arglawdd a’r bont amlwg ar draws afon Clwyd ger Fferm Pontruffydd, i’r gogledd-ddwyrain o Ddinbych, yn ogystal â nifer o gyn adeiladau gorsaf a bythynnod porthorion. Hyd yn oed lle nad oes unrhyw gloddweithiau wedi goroesi, dynodir llwybr y gyn reilffordd gan ffiniau pendant y caeau a arferai eu croesi neu gan y cledrau sy’n rhedeg ar ei hyd heddiw.
Ni wnaed fawr ddim newidiadau o bwys i rwydwaith y ffyrdd gwledig yn yr 20fed ganrif. Er hynny wrth wella’r ffordd o Ddinbych i Ruthun crëwyd nifer o gilfachau parcio ac adeiladwyd ffordd osgoi Llanrhaeadr ym 1971, gan dorri trwy barcdir o amgylch Neuadd Llanrhaeadr. O ganlyniad i hyn dymchwelwyd y cyn borthdy ac ail-leolwyd pyrth y porthdy a ddyddiai o’r 1840au. Un o’r newidiadau mwyaf nodweddiadol, fel mewn mannau eraill yn Sir Ddinbych, oedd y rheiliau haearn a baentiwyd yn wyn. Fe’u codwyd wrth nifer o groesffyrdd gwledig fel rhan o waith i ehangu ffyrdd ac maent yn ychwanegu at gymeriad parcdirol nifer o ardaloedd yn y dyffryn.
Bu dylanwad gweledol diwydiannau gwasanaeth eraill yr 20fed ganrif, gan gynnwys telathrebu, dðr, pibellau carthffosiaeth a nwy, yn gymharol gynnil o fewn ardaloedd tirwedd hanesyddol Dyffryn Clwyd, er i waith adeiladu piblinell amharu rywfaint ar ddyddodion paleoamgylcheddol pwysig ar waelod y dyffryn ar ddechrau’r 1990au i’r dwyrain o Ddinbych.
Mae Llwybr Clawdd Offa, y llwybr hirbell cenedlaethol, yn rhedeg am gryn bellter ar hyd copa bryniau Clwyd ar hyd ochr ddwyreiniol yr ardal dirwedd hanesyddol. Gwnaed y droedffordd yn rhannol trwy gyfuno troedffyrdd a fodolai eisoes, ac mae’n croesi neu’n rhedeg yn agos at nifer o henebion ar hyd copa’r bryn, gan gynnwys bryngaerau o’r Oes Haearn ar Foel Fenlli, Moel Arthur a Phenycloddiau. Mae erydu o ganlyniad i niferau mawr o gerddwyr, ac yn fwy diweddar feiciau mynydd, wedi arwain at waith atgyweirio ac i’r llwybr gael ei ddargyfeirio mewn nifer o fannau, yn enwedig lle y mae’r llwybr yn croesi tir mwy serth.
Tirweddau Diwydiannol
Nodweddwyd tirwedd hanesyddol y dyffryn yn ei hanfod gan amaethyddiaeth a choedwigoedd yn hytrach na chan ddiwydiant neu fasnach. Roedd y diwydiannau a sefydlwyd, yn gyffredinol, ar raddfa fach ac weithiau nid oeddent yn para’n hir, ac fe’u seiliwyd yn gyffredinol ar ddatblygu adnoddau mwynol naturiol, ar brosesu cynnyrch amaethyddol, neu ar ddiwydiannau gwasanaethu neu grefft megis gwaith gof.
Bellach, mae’r mwyafrif o’r chwareli yn Nyffryn Clwyd yn segur. Prin yr effeithiodd y chwarela ar fryniau Clwyd yn Nyffryn Clwyd, oherwydd, i raddau helaeth, fod y ddaeareg waelodol, yn bennaf, o gerrig clai meddal a brau. Fodd bynnag, yn ardal gymeriad Moel Famau, ac yn ardaloedd cymeriad Bron-heulog, Bryn-isaf a Phen-yr-allt ar lethrau deheuol Moel Arthur, gellir gweld chwareli bach canoloesol neu ôl-ganoloesol ar ochr y ffordd ac ar ochr llwybrau, chwareli a ddefnyddid, fwy na thebyg, yn y gwaith o adeiladu tai a waliau a chynnal y ffyrdd. Ceir chwarel fwy ym Modfari, un o’r ardaloedd prin lle y mae calchfaen yn brigo ar ochr ddwyreiniol y dyffryn, a lle y cafwyd nifer o odynau calch erstalwm. Gwyddys am chwareli calch eraill ac odynau calch segur yn yr ardaloedd calch ar ochr orllewinol y dyffryn, megis yng Nghraig-y-ddywart i’r gogledd-ddwyrain o Ruthun, ar y bryniau i’r dwyrain o Lanrhaeadr, ar wasgar ar draws rhan ddeheuol ardal gymeriad Eyarth ym Mhen-y-graig, Ty’n Llanfair a Chraig-adwy-wynt, ac ym Mryn Robyn a Phenllwyn ar y brigiad calchfaen yng Nghraig-fechan.
Cafwyd rhywfaint o weithgaredd cloddio yn ystod y 19eg ganrif mewn nifer o ardaloedd ar fryniau Clwyd, yn cynnwys gwaith aur bach yn y 19eg ganrif ar lethrau gorllewinol Moel Arthur, a nifer o fentrau cloddio ar raddfa fach sy’n dyddio o’r 1890au ac sydd bellach yn segur, ar gyfer plwm a barytes ar Foel Dywyll. Ymddengys fod chwarel a siafft gerllaw Pen-llwyn, i’r gogledd o Langwyfan yn cynrychioli treialon neu waith plwm ar raddfa fach o’r 19eg ganrif. Gweithiwyd pwll hematit yng Nghoed Llan, ychydig i’r gogledd o Fodfari rhwng 1877-1909, a chynrychiolir y gweddillion gweledol gan nifer o adeiladau a addaswyd yn cynnwys cyn dŷ a gweithdy’r gweithredwr, ynghyd â thyllau a chwilod ceffylau o bosibl, sydd bellach yn cael eu cuddio gan goetir. Cafwyd y mwyn haearn yma mewn holltau rhwng y siâl Silwraidd a’r calchfaen Carbonifferaidd.
Sefydlwyd melin ŷd bwysig yn yr hyn a ddaeth wedyn yn Stryd y Felin yn Rhuthun yn ystod y 13eg ganrif, ac mae’r ffrwd a oedd yn bwydo’r felin â dŵr o Glwyd ganrifoedd yn ddiweddarach yn dal i oroesi fel cloddwaith ar dir Parc y Castell. Daeth Rhuthun yn ganolfan bwysig ar gyfer cynhyrchu brethyn yn ystod y cyfnod canoloesol gyda’i urdd o banwyr a gwehyddwyr ei hunan. Sefydlwyd melinau ŷd a melinau pannu eraill ar nentydd ac afonydd eraill ledled Dyffryn Clwyd yn ystod cyfnodau canoloesol ac ôl-ganoloesol, yn cynnwys y rhai hynny yn Felin-ysguboriau a hefyd ar afon Clwyd, Melin Garthgynan a Melin Llanrhudd ar Ddŵr Iâl, Melin Meredydd ar Afon Clywedog i’r gorllewin o Rhewl, Melin Candy (ar gyfer tynnu hadau meillion) a Melin Geinas ar Afon Chwiler, melin ar Nant-y-ne ger Hirwaen, a melinau yn Felin-isaf a Phentre’r felin ar yr afon i’r de o Landyrnog. Mae rhai o’r adeiladau sy’n perthyn i’r melinau hyn yn dal i oroesi, ac mewn nifer o achosion, megis ym Melin Brookhouse, Melin Geinas a Melin Candy, mae tystiolaeth o ffrwd y felin i’w gweld hyd heddiw.
Mae cyn ddiwydiannau eraill yn cynnwys Cwmni Dur a Haearn Partington ym Modfari lle’r oedd cilffyrdd o Gyffrodd y Wyddgrug a Dinbych ym 1924. Mae safle’r cyn weithfan yn weladwy i’r de o’r pentref o hyd. Y gwaith diwydiannol mwyaf nodedig yn yr ardal oedd cyn Waith Bleach Lleweni a adeiladwyd gan Thomas Fitzmaurice ym 1785 ar gyfer trin llieiniau a gynhyrchwyd ar ei ystadau Gwyddelig ac a ddinistrwyd, fwy na thebyg, rhwng 1816-18. Mae safle’r adeiladau Paladaidd nodedig hyn, a ddisgrifiwyd gan Thomas Pennant fel adeiladau a chanddynt ‘rodfa brydferth bedwar can troedfedd o hyd’ yn weladwy fel cloddwaith yng Nghoed y Plain. Mwy na thebyg fod y sarn a elwir yn Hen Ffôs yn arwain atynt, i’r dwyrain o Aberchwiler.
Tirweddau a Amddiffynnwyd
Mae tirweddau a amddiffynnwyd yn Nyffryn Clwyd yn ymrannu’n grwpiau ar wahân heb unrhyw gysylltiad â’i gilydd – y grŵp o fryngaerydd cynhanesyddol ar hyd copa bryniau Clwyd ar y naill law a chestyll canoloesol Rhuthun a Dinbych ar y llaw arall, ac mae’r holl safleoedd yn henebion cofrestredig.
Mae pump o’r gadwyn hynod o chwe bryngaer ar hyd bryniau Clwyd o fewn ardal o dirwedd hanesyddol Dyffryn Clwyd – Foel Fenlli, Moel y Gaer (Llanbedr Dyffryn Clwyd), Moel Arthur, Penycloddiau a Moel y Gaer (Bodfari) – a dyma’r grŵp amlycaf ac eto mwyaf enigmatig o henebion archeolegol yn yr ardal. Mae dau safle – Foel Fenlli a Phenycloddiau – yn eang; mae Penycloddiau’n amgáu ardal o tua 21 hectar, ac yn un o’r bryngaerydd mwyaf yng Nghymru gyfan. Gwnaed peth gwaith cloddio ar raddfa fechan yn Foel Fenlli, Moel y Gaer (Llanbedr) a Moel Arthur ym 1849 ac ym Moel y Gaer (Bodfari) ym 1908, ond eto i gyd ychydig sy’n hysbys amdanynt, ar wahân i’r ffaith iddynt gael eu cychwyn, fwy na thebyg, yn ystod yr Oes Haearn cyn-Rhufeinig, a’u bod yn amlwg wedi’u bwriadu i gyflawni rôl amddiffynnol.
Mae gan bob un o’r henebion lethrau a ffosydd niferus o’u hamgylch o leiaf yn rhannol, a cheir tystiolaeth ym mhob safle i’r amddiffynfeydd gael eu codi yn ystod mwy nag un cyfnod. Mae llwyfannau ceugrwn ar nifer o safleoedd fwy na thebyg yn dynodi safle’r tai crwn pren neu adeiladau storio, ond testun damcaniaeth yn unig yw a fu rhywrai’n preswylio ynddynt yn barhaol neu’n dymhorol, a thros ba gyfnod. Mae pob un o’r safleoedd yn cynrychioli camp beirianyddol aruthrol, er nad ydym yn gwybod llawer am eu swyddogaeth mae maint y cloddweithiau’n darparu peth tystiolaeth ynghylch y gymdeithas a’u creodd; roedd y boblogaeth gyfoes yn amlwg o gryn faint ac mae’n rhaid ei bod wedi’i threfnu mewn modd oedd yn caniatáu gweithredu ar y cyd. Mae’r henebion eu hunain yn fynegiant o gymdeithas ar waith ac mae ganddynt berthynas agos â’r dirwedd y canfuwyd hwynt ynddi. Yn ôl pob tebyg byddai pob bryngaer yn ganolbwynt tiriogaeth lwythol a ddiffiniwyd yn glir ac a ymestynnai ar draws yr iseldir o fewn y dyffryn islaw, gyda phob un yn rheoli mynediad i amrywiaeth tebyg o adnoddau naturiol.
Mae gan y tirweddau a amddiffynnwyd ac a gynrychiolir gan y cestyll canoloesol yn Rhuthun a Dinbych wreiddiau a swyddogaeth hollol wahanol. Dewiswyd brigiadau amlwg ar gyfer y ddau fath ond yn achos Rhuthun a Dinbych lleolwyd y safleoedd o fewn y dyffryn ac roeddent yn llawer llai o faint ac wedi’u cynllunio i letya llu milwrol mwy cywasgedig. Dechreuwyd ar y gwaith o godi castell Rhuthun fel rhan o gynllun adeiladu brenhinol ym 1277, yn ystod teyrnasiad Edward I, ac fe’i cynlluniwyd i ddiogelu cantref Dyffryn Clwyd, a oedd bryd hynny yng ngofal Dafydd yn enw’r goron, yn erbyn y bygythiad o gyrch gan ei frawd, Llywelyn ap Gruffydd. Ar ôl gwrthryfel Dafydd ym 1282, rhoddwyd y cantref i Edward de Grey, ac ailgydiwyd yn y gwaith adeiladu ar y castell. Gyda’i gilydd y castell a’r dref oedd prifddinas arglwyddiaeth newydd y mers yn Rhuthun, ac roedd yn fodd i amddiffyn, gweinyddu, a manteisio ar yr arglwyddiaeth. Niweidiwyd adfeilion y castell canoloesol sy’n rhedeg gyda chrib y bryn ar ochr ddeheuol y dref yn ddifrifol yn ystod y Rhyfel Cartref. Yn ystod y 19eg a’r 20fed ganrif yr adeiladwyd yr adeiladau castellog presennol, sydd bellach yn westy.
Mae gan Ddinbych hanes tebyg. Roedd Dinbych hefyd, prifddinas cartref Rhufoniog, o dan ofal Dafydd cyn ei wrthryfel ym 1282. Ar ôl goresgyniad Edward fe’i rhoddwyd i Henry de Lacy, ac fel yn achos Rhuthun dechreuodd y gwaith o adeiladu’r castell yn fuan wedyn, y tro hwn er mwyn diogelu a manteisio i’r eithaf ar arglwyddiaeth newydd Dinbych. Yn yr achos hwn adeiladwyd muriau tref sylweddol o gwmpas y dref gynnar.
Tirweddau Addurniadol a Phictiwrésg
Mae parcdir yn elfen weledol a ffisegol yn nhirwedd hanesyddol Dyffryn Clwyd. Ceir ardaloedd bach a chanolig eu maint o barcdir, ardaloedd a fu gynt yn barcdir neu ardaloedd â nodweddion parcdir wedi’u gwasgaru’n gymharol eang drwy’r dyffryn, gyda bylchau o rhwng 1-3km rhyngddynt. Mae yna un neu fwy o ardaloedd o barcdir yn y rhan fwyaf o ardaloedd cymeriad ac eithrio’r tiroedd mwy gwlyb ar hyd glannau’r prif afonydd a’r nentydd a’r ucheldir bryniog ar hyd Bryniau Clwyd a thuag at y copâu. Mae’r rhan fwyaf o’r parcdir o gymeriad cymharol syml. Mae fel arfer ar ffurf porfeydd gwastad sy’n goleddfu’n raddol, ac sydd wedi’u rhannu’n achlysurol yn nifer fach o gaeau mawr gyda ffensys o byst a gwifrau. Gwelir olion y gwaith tirlunio yn y coed collddail, mawr, gwasgaredig – yn gyffredinol coed derw, ffawydd, castanwydd neu leim gydag ambell blanhigfa ar gyfer sgrinio neu gysgodi.
Gellir canfod cyfanswm o dros 25 o dirweddau parcdir yn Nyffryn Clwyd, sy’n gysylltiedig yn bennaf â’r neuaddau a’r ffermydd mwyaf, y mae rhai ohonynt wedi’u haddasu’n ysgolion neu’n gartrefi gofal neu wedi eu rhannu’n fflatiau. Mae’r ardaloedd parcdir yn amrywio’n fawr o ran maint, o rhwng tua 4-5 hectar yng Ngarthgynan a Kilford, a rhwng 12-20 hectar yn achos Plas-newydd, Tŷ Eyarth, Plas Gwyn a Neuadd Lleweni, i rhwng tua 20-40 hectar yn Neuadd Pontruffudd, Neuadd Llanrhaeadr, Plas Ashpool a Glan-y-wern. Y mwyaf yw Parc y Castell ychydig i’r de o Ruthun, sydd dros 50 hectar o faint.
Tarddiad nifer o’r parciau, gan gynnwys Bathafarn a Pharc y Castell, yw’r parciau ceirw a grëwyd ar ôl sefydlu arglwyddiaethau Dinbych a Dyffryn Clwyd yn y 13eg ganrif a’r 14eg ganrif. Crëwyd eraill fel ychwanegiad at yr ystadau preifat a ffurfiwyd gan nifer o berchenogion tir mawr yn ystod y 14eg ganrif a’r 16eg ganrif, fel yn achos Lleweni. Mae’r rhan fwyaf o nodweddion mwy gweledol y parcdir yn y dyffryn yn perthyn i’r 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, pan blannwyd coed mewn parciau megis Plas- newydd, Neuadd Llanrhaeadr a Phlas Ashpool. Crëwyd parciau a gerddi coediog eraill yn ystod ail hanner y 19eg ganrif, cyfnod pan ychwanegwyd porthordai a gatiau mynediad i nifer o barciau oedd yn bodoli eisoes.
Ceir nifer o ardaloedd parcdir yn agos at ei gilydd, ac oherwydd bod nifer o ardaloedd parcdir gwahanol yn gorwedd ochr yn ochr y caiff dwy o’r ardaloedd cymeriad eu hadnabod felly – sef ardal gymeriad y Fron Yw ar sail y parcdir sy’n gysylltiedig â Neuadd Fron Yw a thiroedd yr hen sanatoriwm Edwardaidd yn Llangwyfan, ac ardal gymeriad Plas Ashpool ar sail y cyfuniad o diroedd Plas Ffordd-ddŵr, Glan-y-wern, Pentre Mawr a Phlas Ashpool ei hun. Ar ochr ddwyreiniol y dyffryn, i’r gogledd a’r dwyrain o Landyrnog y mae’r ddwy ardal gymeriad hyn.
Mae nifer o’r ardaloedd parcdir yn gysylltiedig ag ardaloedd coetir neu’n manteisio arnynt, fel yn achos Tŷ Eyarth, i’r gorllewin o Lanfair Dyffryn Clwyd, neu’r coetir rhannol addurniadol o amgylch Tŷ Warren yn nyffryn Aberchwiler. Yn achlysurol mae coed unigol yn bwysig, fel yn achos grŵp o gastanwydd ym Machymbyd, a blannwyd ar ddiwedd y 17eg ganrif gan dair merch Syr William Salsbury, ac a ddynodwyd yn amlwg fel y Tair Chwaer ar y mwyafrif o rifynnau modern o’r Arolwg Ordnans.
Mae rhannau ategol o dirwedd barcdir yn cynnwys waliau cerrig neu friciau a rheiliau ar ochr y ffordd, fel ym Mhlas y Dyffryn (sef y Claremont ac Ysgol Neuadd Clwyd gynt) ac Ysgol Brondyffryn; mynedfeydd, porthordai a thramwyfeydd, fel yng Nglan-y-wern, Neuadd Llwyn-ynn, Neuadd Eyarth; a nodweddion cywreiniach eraill fel y ffos glawdd ym Mhlas-newydd, y rhodfa, rheiliau haearn, ffosydd â waliau cynhaliol o gerrig a chamfa garreg yn Llanrhaeadr, a’r porth bwaog gothig ym Mhontruffydd, neu’r hen ffordd a phont ffordd ar draws y Clywedog a ymgorfforwyd ym Mharc y Castell, Rhuthun. Yn achlysurol addaswyd ffiniau caeau er mwyn gwella’r dirwedd, fel yn achos y ffiniau crymion i’r de o Neuadd Bathafarn.
Mae nifer o’r gerddi mwy ffurfiol yn elfennau tirwedd hanesyddol bach ond pwysig o fewn y dyffryn. Mae’r rhain yn cynnwys yn arbennig yr ardd deras, ffynnon a phwll addurniadol yn dyddio o ddiwedd y 16eg ganrif i ddechrau’r 17eg ganrif yn Neuadd Eyarth, y gerddi â waliau o’u cwmpas sy’n dyddio o rhwng diwedd y 16eg ganrif a’r 18fed ganrif ym Machymbyd a Garthgynan, sy’n gysylltiedig yn y ddau le â thyllau gwenyn, y gerddi ym Mhlas-newydd a Neuadd Llanrhaeadr, a’r gerddi sy’n dyddio o ganol y 19eg ganrif yng Nghastell Rhuthun, a’r gerddi cerrig o’r 1930au yn Nhŷ Eyarth.
Gellir canfod mathau eraill o dirwedd addurniadol yn y dyffryn. Er enghraifft roedd Tramwyfa’r Arglwyddes Bagot, sef tramwyfa gerbydau bictiwrésg Edwardaidd, yn rhan o ystad yr Arglwydd Bagot, ond mae hi bellach yn llwybr troed, sy’n rhedeg gyda cheunant coediog Afon Clywedog tua’r dwyrain o Ryd-y-cilgwyn, ger Rhewl. Mae Ffynnon Dyfnog, Llanrhaeadr-yng-nghinmeirch, yn greadigaeth bictiwrésg gyffelyb, yn dyddio, mwy na thebyg, o’r ddeunawfed ganrif. Cyflenwir y ffynnon gysegredig, a’i thanc wedi’i leinio â charreg a oedd gynt wedi’i haddurno â ffigyrau cerfiedig, gan raeadr, a gellir cyrraedd ati ar hyd llwybr yn y coetir, gan ddechrau yn y fynwent, a chroesi sawl pont garreg addurniadol.
Mae’r rhan fwyaf o’r ardaloedd o barcdir yn y dyffryn mewn perygl o ddiflannu, gan fod eu heffaith bron yn gwbl ddibynnol ar fod coed ynysig sydd eisoes yn aeddfed ac ehangdiroedd mawr o borfa wastad ddi-dor yn goroesi. Prin yw’r dystiolaeth o blannu coed newydd, ac mae rhai ardaloedd o barcdir a ddangosir ar rifynnau cynharach o fapiau Arolwg Ordnans naill ai wedi diflannu neu mae eu heffaith wedi’i leihau yn y blynyddoedd diweddar dim ond yn sgîl colli cyfran o goed y parcdir. Mae nifer o elfennau pwysig eraill y tirweddau parcdir yn y dyffryn hefyd mewn perygl, megis y waliau terfyn, porthordai, gatiau a rheiliau.
Mae i werthfawrogiad esthetig o dirwedd Dyffryn Clwyd draddodiad hir yn ymestyn yn ôl at ddiwedd yr 16eg ganrif o leiaf, ac mae’r disgrifiadau cynharaf, fel y pennill canlynol gan Michael Drayton, yn cyferbynnu ireidd-dra a ffrwythlondeb y dyffryn, ei ddolydd a’i gaeau ŷd gyda’r ‘hills whose hoarie heads seeme in the clouds to dwell’.
The North-wind (calme become) forgets his Ire to wreake,
And the delicious Vale thus mildly doth bespeake;
Deere Cluyd, th’aboundant sweets, that from thy bosome flowe,
When with my active wings into the ayre I throwe,
Those Hills whose hoarie heads seeme in the clouds to dwell,
Of aged become young, enamor’d with the smell
Of th’odiferous flowers in thy most precious lap:
Within whose velvit leaves, when I my self enwrap,
Thy suffocate with sents; that (from my native kind)
I seeme some slowe perfume, and not the swifest wind.
With joy, my Dyffren Cluyd, I see the bravely spred,
Survaying every part, from foote up to thy head;
Thy full and youthfull breasts, which in their meadowy pride,
Are brancht with rivery veines, Meander-like that glide.
I further note in thee, more excellent than these
(Were there a thing that more the amorous eye might please)
Thy plumpe and swelling wombe, whose mellowy gleabe doth beare
The yellow ripened sheafe, that bendeth with the eare.
Michael Drayton, The Poly-Olbion, 1598-1622
Roedd y gyfran o dir comin nad oedd wedi ei amgáu ac o goetir hefyd, mwy na thebyg, yn llawer mwy nag a geir heddiw, ond mae’n debygol fod tipyn sylweddol o waith amgáu, gwella a draenio tir wedi’i wneud, fel sy’n amlwg yn y cyfrifon, a nodir uchod, o waith gwella a wnaed yn yr hen barc canoloesol ym Mathafarn rhwng yr 1550au a 1590au. Mae agweddau tebyg ar y dirwedd hefyd yn amlwg yn Britannia Camden gan Edward Lhuyd, a gyhoeddwyd ym 1722.
Y 18fed a’r 19eg ganrif oedd oes aur yr awduron topograffig. Unwaith eto, pwysleisiodd Tour Daniel Defoe a gyhoeddwyd ychydig flynyddoedd yn ddiweddarach y cyferbyniad rhwng y ffermdir âr a ffrwythlon yn y dyffryn a’r bryniau garw ac anghroesawgar sy’n ei amgáu.
Daniel Defoe, A Tour through the whole Island of Great Britain, 1725
Tua diwedd y 18fed ganrif mae Thomas Pennant yn rhoi disgrifiad tebyg o’r dyffryn o’i weld o’r gogledd-orllewin o Lanrhaeadr.
Pennant, A Tour in Wales, 1793
Cafodd cyhoeddi nifer o weithiau megis Essays on the Picturesque ym 1792 effaith sylweddol ar werth esthetig y dirwedd bryd hynny. Bu Wordsworth yn aros gyda ffrindiau yn Llangynhafal ar sawl achlysur yn yr 1790au, a disgrifiodd ei leoliad fel un o’r ‘dyffrynnoedd hyfrytaf oll, sef Dyffryn Clwyd’. Ar ddechrau’r 19eg ganrif, sylwodd Syr Richard Colt Hoare, hynafiaethydd, hefyd ar y cyferbyniad rhwng cyfoeth y dyffryn a chefn gwlad o’i amgylch: ‘ar ôl mynd heibio i gomin diflas arall mae Dyffryn hyfryd Clwyd yn ymddangos yn sydyn’. Ei brif ddiddordeb yn llythrennol oedd yr olygfa bictiwrésg a’r potensial i’w darlunio. Felly, gellid ystyried Dinbych yn ‘olygfa gyfoethog bictiwrésg sy’n deilwng [o] bensil Poussin’, ond profodd Dyffryn Clwyd ei hun yn llai boddhaol ar y wedd hon.
Mae i werthfawrogiad presennol o werth tirwedd Dyffryn Clwyd draddodiad hir, ac un o’i nodweddion hanfodol o hyd yw’r tirweddau naturiol a’r tirweddau gwneud ochr yn ochr â’i gilydd, y cyferbyniad rhwng ‘gwyrddni a blodau’r dolydd’ yn y dyffryn a ‘chlogwyni a chreigiau’ y bryniau oddi amgylch.