Skip to main content

Tirwedd o gaeau petryalog mawr ar lethrau isaf Bryniau Clwyd, yn cynrychioli ail-fodelu parc canoloesol yn ystod ail hanner y 16eg ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Mae’r ardal yn cynnwys rhannau o blwyfi eglwysig Llanfair, Llanrhudd a Llanbedr yn nghymydau canoloesol Llannerch a Dogfeilyn, ar ochr ddwyreiniol cantref Dyffryn Clwyd, a ddaeth yn arglwyddiaeth Rhuthun o dan deulu’r de Greys wedi’r Goresgyniad Edwardaidd. Mae’r ardal cymeriad yn cynnwys rhan isaf o Barc Bathafarn, parc hela gan y de Greys a sefydlwyd yn fuan wedi i arglwyddiaeth Rhuthun gael ei chreu ar ddiwedd y 13eg ganrif, os nad ynghynt. Amcangyfrifir bod y parc cyfan, y daeth rhannau ohono o fewn yr ardal cymeriad i’r dwyrain, yn mesur tua 400 hectarau. Diffiniwyd ffiniau’r parc gan glawdd a ffos o’r enw Clawdd y Parc, a’i gwrs yn cael ei gynrychioli gan ffos sy’n cael ei hystyried yn diffinio rhan o’r ffin orllewinol yr ardal cymeriad heddiw. Roedd un o brif giatiau’r parc ger Plâs-yn-rhal. Gwerthwyd y parc i’r Thelweliaid cyn 1592, gwnaed cryn welliannau a newidiadau i dirwedd y rhan isaf hon o’r parc yn ystod y cyfnod rhwng 1553 a 1592, pan godwyd y plas cyntaf, a mwy na thebyg mai yn ystod y cyfnod hwn y gosodwyd y system gaeau bresennol. Dywedir bod y parc yn cynnwys nifer o randiroedd cyn hyn, gan gynnwys oddeutu 30 acer o dir âr a phori wedi ei rannu’n erddi. Dengys y cofnodion cyfoes bod y tir pori ac âr wedi ei greu wrth dorri coed, draenio tir gwlyb a thorri ffosydd a rhannu’r ardal oedd wedi ei chlirio gan wrychoedd twf buan.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Llethrau isaf bryniau Clwyd yn wynebu’r gorllewin ar uchder o tua 80-160m.

Ymddengys bod Plas Bathafarn wedi ei sefydlu yn y lle cyntaf yn ystod y cyfnod Elisabethaidd, er bod yr adeilad presennol, gyda thyfiant o goed i’r dwyrain, yn adeilad stwco 19eg ganrif gyda bloc stabl o friciau. Mae’r ffermdy 18fed ganrif o friciau a thai allan o gerrig wedi eu hailosod gan ffermdy a thai allan modern o friciau.

Tirwedd trawiadol o gaeau petryalog cymharol fawr wedi eu gosod o gwmpas Plas Bathafarn, Fferm Bathafarn Farm a Fferm Bacheirig ar lethrau isaf bryniau Clwyd, y caeau wedi eu hamgylchu â gwrychoedd cadarn o ddraenen wen a ffosydd. Rhai waliau cerrig sychion wrth y fynedfa i Fferm Bathafarn . Ymestynnwyd ffiniau’r ardal cymeriad y tu hwnt i’r ffiniau gorllewinol a deheuol tybiedig y parc canoloesol i gwmpasu caeau eraill sy’n ymddangos fel petaent yn gyfoesol gyda is-rannu’r parc blaenorol.

Mae Plas Bathafarn wedi ei amgylchu gan cyn-barcdir ac mae gatiau a phorthordy 19eg ganrif ar y briffordd. Mae ffiniau’r caeau rhwng y plas a Fferm Bathafarn wedi eu crymu’n fwriadol er mwyn gwella delwedd weledol y parcdir. Disgrifia Thomas Pennant (1793, 65) y tiroedd fel a ganlyn: ‘The grounds rise with rich cultivation from the house, and are delightfully varied with hanging woods’.

Ffynonellau

Berry 1994
Richards 1969

Landscape of large rectangular fields based on lower slopes of the Clwydian hills, representing remodelling of medieval park during the second half of the 16th century.