Skip to main content

Ardal eang o barcdir yn eiddo i dy mawr a thiroedd coediog cyn- ysbyty ar lethr.

Cefndir Hanesyddol

Mae rhan ddeheuol yr ardal yn dod o fewn plwyf ganoloesol Llangwyfan a’r rhan ogleddol o fewn plwyf Llandyrnog.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Daw’r ardal cymeriad o fewn llethrau gorllewinol isaf bryniau Clwyd, rhwng uchder o tua 125-200m, gan ffurfio rhan o AHNE Bryniau Clwyd.. Mae’r tirwedd dan drem adeiladau a thiroedd Sanatoriwm Llangwyfan gynt, a gaeodd yn 1981, a thy mawr Vron Yw a’r parcdir amgylchynol. Amgylchynir prif adeiladau’r sanatoriwm, a adeiladwyd yn 1918-20, gan nifer o adeiladau unllawr diweddarach, bellach mae llawer ohonynt yn adfeiliedig. Mae’r cyfan wedi ei leoli mewn tiroedd coediog gyda choed bythwyrdd a chollddail. Mae Vron Yw yn dy mawr, cartref nyrsio yw ef bellach. Cafodd ei ailadeiladu yn 1906 ond ceir arno arysgrifiad gyda’r dyddiad 1655 i gofnodi ty cynt. Arweinia rhodfa hir ato ac mae wedi ei leoli mewn parcdir gyda hen goed deri, bedw, castanwydd a phlanwydd gyda thir wedi eu ffensio ag iddo nodweddion parcdir o dan y ty.

Ffynonellau

Hubbard 1986

Extensive area of parkland belonging to large house and wooded grounds of former hospital on hill-slope