Mae’r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o’r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi’r themâu hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.
Mae’r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o’r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi’r themâu hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol. Mae Afon Clywedog yng Nghanolbarth Cymru yn draenio llethrau gogledd ddwyrain Mynyddoedd Cambria, y torrwyd ei dyffryn cul, troellog yn ddwfn i mewn iddynt. Mae Afon Clywedog yn un o is afonydd Afon Hafren, sydd lawer yn fwy, ac mae’n ymuno â hi yn Llanidloes. O safle’r dref farchnad hanesyddol, nodedig a darluniadwy hon, mae’r bryniau a’r esgeiriau bob ochr i Ddyffryn Clywedog yn codi’n raddol o 300m uwchben SO i gyrraedd 500m uwchben SO ger Dylife, ychydig y tu hwnt i’r cefn deuddŵr yn y gogledd orllewin. Cysylltir ffyniant Dyffryn Clywedog a’i ddalgylch a nodir yma fel arfer gyda’r diwydiannau cyferbyniol o fwyngloddio am blwm a gwlân, a gafodd effaith sylweddol ar y tirwedd.
Dangosir pwysigrwydd cynnar mwyn plwm lleol gan y fryngaer fawr, o ddiwedd Oes yr Efydd/Oes yr Haearn, yn Ninas, y tybir bod ei maint a’i lleoliad yn ganlyniad i ddymuniad i warchod a manteisio ar y cyfoeth o adnoddau naturiol. Ceir hefyd aneddiadau llai Oes yr Haearn sy’n amgylchynu ymylon yr ardal hon. Fodd bynnag, mae datblygiad diweddarach yr ardal, a’i phatrymau o ddefnydd tir ac aneddiadau, wedi’u cysylltu’n annatod â mwyngloddio plwm. Y dystiolaeth gynharaf yw gwaith Rhufeinig posibl yn Nylife, sy’n gorwedd gerllaw’r gaer Rufeinig ym Mhenygrocbren, ond dechreuodd y prif gyfnod mwyngloddio yn ystod yr 17eg ganrif a pharhaodd tan yn gynharach y ganrif hon. Mae’r pentref ei hun yn enghraifft dda o aneddiad mwyngloddio bychan sydd heb newid ryw lawer yn y blynyddoedd diwethaf. Mae dylanwad cloddio yn dal i fod yn amlwg, gydag olion siafftiau, tramffyrdd a dwy gronfa ddwˆ r oedd yn darparu pwˆ er ar gyfer y lloriau dresin.

Mae Dylife yn ganolbwynt sawl chwedl, gyda’r mwyaf enwog ohonynt yn dyddio o ddechrau’r 18fed ganrif ac yn ymwneud ag un o’r llofruddiaethau mwyaf erchyll yn hanes Cymru, pan lofruddiodd y gof lleol ei deulu a thaflu eu cyrff i lawr un o’r tyllau mwyngloddio. Cafodd y weithred ei darganfod yn fuan a phan gafwyd y gof yn euog fe’i gorfodwyd i wneud cewyll pen a chorff ar gyfer ef ei hun a haearn y grocbren. Yn y 1930au, darganfuwyd y gawell pen haearn gyda’r benglog yn dal i fod y tu mewn iddi ym Mhenygrocbren, sef lleoliad y grocbren, a bellach fe’i cedwir yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan, Caerdydd.
Mae’r clwstwr mwyngloddio arall yn ymestyn mewn band o’r dwyrain i’r gorllewin i’r gogledd o Lanidloes, sy’n cynnwys mwyngloddiau Y Fan Dwyreiniol, Y Fan, Bryntail a Phenyclun. Roedd y rhain i gyd yn weithredol yn ystod ail hanner y 19eg ganrif gan fwyaf. Bryd hynny mwynglawdd Y Fan oedd y mwyaf yn y byd, ac mae llawer o’r tirwedd mwyngloddio yn parhau er gwaethaf gweithgareddau adennill tir. Rhwng 1870 a 1878, cynhyrchodd Sir Drefaldwyn rhwng 7000 a 9000 o dunelli o fwyn plwm y flwyddyn, a daeth y cwbl bron o gymhlethfa Fan-Dylife. Ym 1879, gostyngodd cynnyrch plwm Cymru yn gyflym, oherwydd darganfyddiadau mwy o fwyn mewn mannau eraill, a dim ond 200 tunnell y cynhyrchodd Y Fan y flwyddyn honno.
Mae gwreiddiau Llanidloes wedi’u gosod yn gadarn yn y cyfnod canoloesol, gydag Edward I yn cyflwyno siarter i’r dref ym 1280. Ynghanol y dref saif neuadd y farchnad â’i ffrâm bren sy’n dyddio o tua 1600, sef y gwychaf o’i math yng Nghymru. Cysylltir ffyniant y dref yn hanesyddol â ffyniant y diwydiant gwlân a gwau a’r ardal fwyngloddio bwysig i’r gogledd orllewin. Yn ystod y 1830au Llanidloes oedd un o ganolfannau mwyaf gweithgar mudiad y Siartwyr ac yn anterth y terfysgoedd meddiannwyd y dref gan wehyddwyr lleol am bum diwrnod cyn iddynt gael eu gorchfygu.
Mae cronfa ddŵr Clywedog yn ffurfio canolbwynt modern i’r tirwedd. Yn ogystal â darparu dŵr yfed i ddefnyddwyr o Lanidloes i Fryste, ei phrif swyddogaeth yw unioni’r amrywiadau naturiol yn y glawiad a fyddai fel arall yn achosi llif anghyson, ac felly lleihau’r perygl o orlifo yn ardaloedd is pen uchaf dyffryn Hafren. Cwblhawyd strwythur 72m o uchder y prif argae ym 1966, gan ddefnyddio mwy na 200, 000m ciwbig o goncrid a dyma’r argae màs concrid mwyaf ym Mhrydain. Yn fwy diweddar, datblygodd yr argae a’i gronfa ddwˆ r yn atyniad poblogaidd i dwristiaid.
Llunio Tirwedd Dyffryn Clywedog
Amlinellir y grymoedd sydd wedi helpu i ffurfio’r dirwedd hon o ddiddordeb hanesyddol arbennig yng Nghymru yn yr adrannau sy’n dilyn.
Yr Amgylchedd Naturiol
Mae topograffeg a daeareg wedi chwarae rhan sylweddol o ran hanes defnyddio tir, anheddu a diwydiant ardal y dirwedd hanesyddol.
Topograffeg a draeniad
Mae ardal y dirwedd hanesyddol yn ymestyn o’r rhostir wrth odre Pumlumon yn y gorllewin, ym mlaen dyffryn Clywedog ar uchder o tua 520 metr uwchben lefel y môr, i lawr i ddyffryn Hafren yn Llanidloes tua’r de-ddwyrain, ar uchder o tua 160 metr. Tua blaenddyfroedd Afon Clywedog, mae’r dyffryn yn agor allan yn fasn bas, cilomedr neu fwy ar ei draws. Yn is i lawr, yn nes at y man lle mae’n ymuno â dyffryn Hafren, mae’n ffurfio’r dyffryn troellog, rhewlifol dwfn, gyda llethrau serth, sydd bellach dan ddŵr ac mor ddramatig. Mae i’r dyffryn sawl can metr o ddyfnder ond 150-500 metr o led yn unig, sydd wedi ysbrydoli’r enw Ystradhynod. Cofnodwyd yr enw am y tro cyntaf yn y 1570au, yn enw ar un o’r trefgorddau sy’n cwmpasu’r dyffryn wrth iddo dorri ar draws y llwyfandir ucheldirol. Mae’r enw’n tarddu o’r ddau air ystrad (dyffryn afon) a hynod yn ôl pob tebyg. Mae nifer o ddyffrynnoedd llednentydd, sydd â llethrau yr un mor serth, yn ymuno o’r gogledd a’r gorllewin, megis Afon Bachog, Afon Lwyd, Afon Biga, Nant Felen, Nant Pen-y-banc, ac Afon Gwestyn. Tua’r gogledd-orllewin, mae Afon Twymyn a’i llednentydd, Nant y Iâr, Nant Dropyns, a Nant Bryn-moel yn draenio i’r gogledd-ddwyrain i mewn i geunant 200 metr o ddyfnder a grëwyd yn wreiddiol gan rewlifiant. Yn ddiweddarach, fe’i dyfnhawyd gan erydiad afon yn dilyn afon-ladrad yr hyn a oedd gynt yn rhan o system Afon Hafren gan system Afon Dyfi. Llednentydd Afon Trannon sy’n draenio’r ardal i’r gogledd-ddwyrain, gan gynnwys dyffryn cul Nant Cwmcarreg-ddu, a’i lethrau serth, a dyffryn lletach Afon Cerist a’i llednant Nant Gwden, a’i llethrau serth hithau.
Tybir bod enw Afon Clywedog (ynghyd â sawl afon arall yng Nghymru) yn deillio o ‘clywed’ sy’n awgrymu ei bod yn swnllyd. Mae dŵr gwyllt hefyd yn esbonio tarddiad yr enw Dylife, sy’n deillio o ‘dylif’.
Pan adeiladwyd Rheilffordd y Fan yn y 1870au, sianelwyd yr afon ac fe effeithiodd hyn ar batrymau draenio dyffryn Cerist. Mae’n eglur bod creu Cronfa Ddŵr Clywedog yn y 1960au wedi effeithio’n ddirfawr ar ddraeniad yn nyffryn Clywedog. Yn fwy lleol, effeithiwyd ar batrymau draeniad mewn nifer o ardaloedd, dros dro neu’n barhaol, o ganlyniad i greu cronfeydd llai, dyfrffosydd a llifddorau er mwyn defnyddio pŵer dŵr i gynnal gweithgareddau melino ŷd, cynhyrchu tecstilau a mwyngloddio metel, yn enwedig yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, ac o ganlyniad i gynlluniau coedwigo helaeth yn yr 20fed ganrif.
Daeareg a phriddoedd
Llechfeini, sialau, grutiau, tywodfeini a cherrig llaid yn dyddio o’r cyfnodau Ordoficaidd a Silwraidd yw daeareg waelodol soled yr ardal gyfan yn bennaf. Cerrig llaid a grutiau hŷn o’r cyfnod Ordoficaidd yw’r graig waelodol yn rhai o rannau canol yr ardal, rhwng Afon Biga yn y de-orllewin, Fairdre Fawr yn y gogledd-orllewin, y Fan yn y gogledd-ddwyrain a Chwm Deildre yn y de-ddwyrain. Cerrig llaid duon meddal yw’r gwelyau uchaf; wedi hindreuliad, gallant ffurfio dyddodion tebyg i glai. Grutiau caled wedi’u rhannu â gwelyau siâl yw’r gwelyau is. Sialau duon sy’n troi’n lliw oren-felyn yn hawdd wedi hindreuliad, (oherwydd bod llawer o sylffid haearn ynddynt), a gwelyau tenau o dywodfaen a ddaw i’r wyneb yn fynych yn nyffryn Clywedog ac yng nghyffiniau Dylife yw’r rhan isaf o’r graig orchudd Silwraidd.
Mewn cyfnod diweddarach o symudiadau daear (a elwir yr orogeni Caledonaidd) codwyd y creigiau Silwraidd a’r creigiau Ordoficaidd a’u plygu. Yn sgil hyn, datblygodd nifer o ffawtiau gogledd-de a dwyrain-gorllewin ar draws yr ardal. Roedd y ffawtiau dwyrain-gorllewin, yn enwedig, yn atynnu’r broses mwneiddiad a lenwodd y gwagleoedd a achoswyd gan y ffawtio a’r hollti â mwynau plwm, sinc a chopr, megis galena, sffalerit a chalcopyrit, a oedd yn ddichonadwy’n economaidd, ynghyd â mwynau llai gwerthfawr megis cwarts, calsit a barytes. Mae dau ffawt dwyrain-gorllewin sylweddol yn croesi ardal y dirwedd hanesyddol, un tua’r gogledd-orllewin o Ddyfngwm ym mlaen dyffryn Clywedog i Ben Dylife ac yna i Ddylife ei hun, a’r llall tua’r de-ddwyrain o Westyn ac Aberdaunant yn nyffryn Nant Gwestyn i Fryntail, y Fan a Chwmdylluan a thu hwnt yn nyffryn Nant Gwden. Mae trwch y gwythiennau mwyn yn amrywio o ychydig gentimetrau hyd uchafswm o 15 medr o led yn Van. Daw’r gwythiennau i’r wyneb mewn brigiadau creigiog mewn mannau ond, yn nodweddiadol, maent yn goleddu’n serth ar hyd planau ffawt ar oleddf.
Mae drifft ffrwd-rewlifol a dyddodion llifwaddodol diweddarach wedi gorchuddio’r ddaeareg soled yn y dyffrynnoedd afon. Ceir yma amrywiaeth o fathau o bridd o ganlyniad i hindreuliad y ddaeareg soled a’r ddaeareg ddrifft. Yn hanesyddol, maent wedi effeithio’n drwm ar botensial amaethyddol y tir. Priddoedd lomog ucheldirol sy’n aml yn wlyb sydd ar y llwyfandiroedd ucheldirol yng ngorllewin a de yr ardal (yn perthyn i fath pridd Hafren), ar Fryn Moel, Pen Dylife, a Bwlch y Garreg-wen, ac ar Fynydd y Groes a Bryn Mawr, gyda haenlin fawnaidd ar y wyneb â chletir haearn tenau oddi tano. Maent yn fwyaf addas ar gyfer rhostir, porfa arw a choetir conwydd. Mae’r priddoedd ar lethrau’r bryniau ledled llawer o’r ardal (yn perthyn i fath Manod) yn briddoedd mân siltiog neu’n briddoedd mân lomog sy’n draenio’n dda, ac maent yn fwyaf addas ar gyfer magu da byw ar laswelltir parhaol a phlannu coetir. Mae basn uchaf dyffryn Clywedog, ynghyd â dyffrynnoedd Afon Biga, Afon Lwyd, ac Afon Bachog, yn cynnwys priddoedd (sy’n perthyn i fath Wilcocks 2) ucheldirol lomog sy’n ddirlawn yn dymhorol. Mae ganddynt haenlin fawnaidd ar y wyneb ac maent yn fwyaf addas ar gyfer magu da byw ar rostir gwlyb o werth pori cymedrol, peth glaswelltir parhaol wedi’i wella a phlannu coetir conwydd. Mae gan yr ardal yn rhannau isaf dyffrynnoedd Clywedog a Gwestyn unwaith eto briddoedd mân siltiog a chleiog (yn perthyn i gyfres Cegin), sy’n ddirlawn yn dymhorol ac yn fwyaf addas ar gyfer magu da byw a ffermio llaeth ar laswelltir parhaol. Priddoedd mân lomog dros briddoedd mwy cleiog sydd eto’n ddirlawn yn dymhorol yw priddoedd yr ucheldir is i’r gogledd o Gronfa Ddŵr Clywedog, rhwng Fairdre Fawr a Bryn y Fan a dyffryn gwahanfa ddŵr Afon Cerist (sy’n perthyn i gyfres Brickfield 3). Maent wedi bod yn addas ar gyfer magu da byw a pheth ffermio llaeth ar laswelltir parhaol a pheth tyfu cnydau grawn mewn ardaloedd mwy sych.
Hanes amgylcheddol
Cafwyd peth tystiolaeth ynghylch hanes amgylcheddol yr ardal ers tua 11,000 o flynyddoedd yn ôl o astudio dilyniannau paill mewn dyddodion mawn yn ardal Pumlumon. Mae paill coed yn isel yng nghyfnod cynharaf y dilyniant (cyfnod rhewlifol hwyr), ond mae’n cynnwys gwern, pîn, bedw a chyll, rhedyn a mwsoglau. Mewn ail gyfnod, yn cyfateb o bosibl i’r cyfnod Mesolithig a dechrau’r cyfnod Neolithig, coetir derw oedd i’w weld amlaf, gyda pheth llwyf, pîn, gwern, bedw a chyll. Gan ddibynnu ar y cyfeiriad roedd yn ei wynebu, byddai coetir ar y dechrau’n ymestyn hyd at uchder o tua 6oo metr uwchben lefel y môr. Mewn cyfnod diweddarach, yn cyfateb â diwedd y cyfnod Neolithig, a chyfnodau’r Oes Efydd ac Oes yr Haearn, gwelwyd dirywiad mewn coed derw a bedw a chynnydd mewn coetir gwern a chyll, gyda pheth ffurfiant gorgors mewn ardaloedd gwlypach a chyfnodau o ychydig o glirio a ddechreuodd o bosibl ar ddiwedd y cyfnod Neolithig ac yn ystod yr Oes Efydd. Dehonglwyd newidiadau diweddarach o ran fflora a chyfrannau rhywogaethau coed a glaswellt, a thystiolaeth dros ddatgoedwigo ac adfywio coetir, fel adlewyrchiad o gyfnodau ardystiedig yn hanesyddol o ddefnyddio tir yn ystod y cyfnod canoloesol a’r 19eg ganrif a’r 20fed ganrif.
Y Dirwedd Weinyddol
Ffiniau secwlar
Y grŵp gwleidyddol cynharaf y gwyddys amdano yn yr ardal yw’r llwyth brodorol o’r enw yr Ordofigiaid a oedd yn byw yng nghanol Cymru ar adeg y goncwest Rufeinig yn y ganrif 1af AD.
Nid oes unrhyw dystiolaeth o sefydlu gweinyddiaeth sifil yn ystod cyfnod rheolaeth y Rhufeiniaid rhwng canol i ddiwedd y ganrif 1af OC a dechrau’r 5ed ganrif, ac mae’n bosibl mai byddin y Rhufeiniaid oedd yn gweinyddu’r ardal gydol y cyfnod hwn.
Ymddengys ei bod yn bosibl bod y rhan fwyaf o’r ardal yn rhan o deyrnas fechan neu gantref Arwystli erbyn dechrau’r cyfnod canoloesol. Fe’i cofnodwyd gyntaf yn Llyfr Domesday 1086 fel cantref Arvester. Roedd y rhan ogledd-orllewin yn rhan o gwmwd Cyfeiliog yn nheyrnas Powys.
Yn ystod y cyfnod canoloesol cynharach, gorweddai teyrnas fechan Arwystli rhwng dwy deyrnas fwy pwerus, sef Gwynedd i’r gorllewin a Phowys i’r dwyrain. Bu’n destun anghydfodau treisgar rhwng y ddwy deyrnas. Digon aneglur yw ei hanes cynnar ond erbyn diwedd yr 11eg ganrif, Roger de Montgomery, sef iarll Normanaidd oedd y deiliad. Roedd wedi cyfeddiannu’r diriogaeth o’i ganolfan grym ymhellach i’r dwyrain ond fe’i dychwelwyd i ddwylo teyrnlin frodorol yn ystod hanner cyntaf y 12fed ganrif. Bu brenhinoedd Gwynedd a Phowys yn ymladd yn ffyrnig dros Arwystli am gyfnod o tua chanrif a hanner, a chofnodwyd llawer o ladd a dinistrio adeiladau yn y cyfnod hwn. Er mai rhostir yn unig oedd llawer o’r cantref, roedd yn cynnwys peth tir ffrwythlon prin mewn dyffrynnoedd. Roedd hyn yn cynnwys dyffryn Hafren a’i llednentydd, Afon Cerist ac Afon Clywedog, yn ardal y dirwedd hanesyddol. Roedd dyffryn Hafren a dyffryn Clywedog hefyd o beth arwyddocâd strategol o ran darparu coridor cysylltiadau rhwng canol Cymru a’r Gororau. Roedd llanw a thrai o ran teyrngarwch yn y cyfnod hwn rhwng y deyrnlin leol a brenhinlin Gwynedd, rhwng y deyrnlin leol a brenhinlin Powys, rhwng brenhinlin Powys a Choron Lloegr, a hyd yn oed rhwng teyrnasoedd cystadleuol Gwynedd a Phowys. Parhaodd hyn tan gyfnod o sefydlogrwydd cymharol yn dilyn concwest Edward I o Gymru yn y 1280au, pan ddychwelwyd yr ardal i Gruffudd ap Gwenwynwyn oedd yn rheoli Powys ar y pryd.
Roedd y rhan fwyaf o ardal y dirwedd hanesyddol, ar wahân i’r gornel ogledd-orllewin a oedd yn rhan o gwmwd Cyfeiliog, yn rhan o gwmwd mwyaf dwyreiniol Arwystli, o’r enw Arwystli Uwchcoed. Stiwardiaid oedd yn ei weinyddu o ddechrau’r 13eg ganrif yn ôl pob tebyg. Daeth Talgarth, ym mhlwyf Trefeglwys, sydd bellach yn fferm tua thraean o gilomedr i’r gogledd o ardal y dirwedd hanesyddol, yn ganolfan faenorol Arwystli Uwchcoed erbyn diwedd y 1290au.
Yn ystod gwrthryfel Glyndŵr, cafodd Arwystli ei ailfeddiannu gan y teulu Cherlton, arglwyddi Powys, ym 1401, ynghyd ag arglwyddiaeth Cyfeiliog ac arglwyddiaeth Caereinion, oddi wrth Syr Edmund Mortimer oedd yn arglwydd amlwg y Mers, a oedd wedi’u meddiannu cyn hynny. Yn ddiweddarach, daeth yn arglwyddiaeth i ddwylo’r teulu Dudley, trwy’r teulu Tiptoft, ac fe werthwyd yr arglwyddiaethau i’r Goron yn ystod teyrnasiad Harri’r VIII.
Ar adeg y Ddeddf Uno ym 1536, daeth arglwyddiaeth Arwystli yn Gantref Arwystli a ailenwyd yn ddiweddarach yn Gantref Llanidloes, rhan o Sir Drefaldwyn. Fe’i rhannwyd yn ddwy ranbarth, sef uchaf ac isaf, a oedd yn cyfateb yn fras i gymydau canoloesol Arwystli Uwchcoed ac Arwystli Iscoed. Rhannwyd y ddwy ranbarth yn drefgorddau maenorol a oedd yn tarddu, yn ôl pob tebyg, o ddechrau’r cyfnod canoloesol a’r cyfnod canoloesol ac a fu’n arwyddocaol tan ganol y 19eg ganrif. Trefgorddau Penegoes Uwchycoed, Esgeiriaeth, Ystradhynod, Glyntrefnant, Brithdir, Manledd, Dolgwden, Glynhafren Iscoed, a Chilmachallt oedd yn ardal y dirwedd hanesyddol.
Mae ardal y dirwedd hanesyddol heddiw yn bennaf yng nghymunedau Llanbrynmair, Trefeglwys, Llanidloes Allanol, a Llanidloes. Yn dilyn ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974, mae’r cymunedau hyn yn rhan o sir newydd Powys, a ddaeth yn awdurdod unedol ym 1996.
Ecclesiastical boundaries
Roedd yr ardal yn rhan o blwyfi eglwysig y 19eg ganrif, sef Llanidloes, Trefeglwys, Llanbrynmair a Phenegoes yn neoniaeth Arwystli yn esgobaeth Bangor.
Saif un eglwys ganoloesol yn ardal y dirwedd hanesyddol, sef eglwys Sant Idloes yn Llanidloes. Cofnodwyd yr eglwys gyntaf fel capella de Lanidloes yn y Norwich Taxation ym 1254. Fodd bynnag, credir ei bod yn tarddu o ddechrau’r canol oesoedd a’i bod yn gangen leol o eglwys y clas yn Llandinam.
Crëwyd plwyf eglwysig newydd ym 1856 allan o blwyfi Llanbrynmair, Darowen, Penegoes a Threfeglwys, yn canolbwyntio ar Eglwys Dewi Sant, Dylife, a ddymchwelwyd ym 1962.
Defnydd Tir ac Anheddu Gwledig
Defnydd Tir ac Anheddu Cynhanesyddol a Rhufeinig
Er mai cymharol ychydig dystiolaeth uniongyrchol sydd o ddefnydd tir yn ardal y dirwedd hanesyddol cyn y cyfnod canoloesol, dengys tystiolaeth henebion maes a hapddarganfyddiadau bod cymunedau dynol yn weithredol yn yr ardal, yn sicr mewn niferoedd cynyddol, ar ddiwedd y cyfnod Mesolithig a dechrau’r cyfnod Neolithig, a thrwy gydol yr Oes Efydd, Oes yr Haearn a chyfnod y Rhufeiniaid. Mae’n debygol, yn ôl tystiolaeth o fannau eraill yng Nghymru, i ffyrdd o fyw mwy sefydlog ddisodli grwpiau crwydrol cynharach o helwyr-gasglwyr pan gyflwynwyd ffermio o’r cyfnod Neolithig ymlaen. Daethpwyd o hyd i dystiolaeth o weithgaredd Mesolithig, yn dyddio o tua rhwng 4600 CC i 4000 CC, o dan grug yn dyddio o’r Oes Efydd a’r maen hir cysylltiedig yn Ystradhynod yng nghanol dyffryn Clywedog, a gloddiwyd cyn boddi’r dyffryn yn y 1960au. Daeth tystiolaeth bellach o weithgaredd eang yn ystod y cyfnod Neolithig a’r Oes Efydd yn bennaf o safleoedd ucheldirol. Mae’n debygol mai’r rheswm am hyn yw bod trin y caeau is, mwy gwerthfawr yn ddwys wedi tueddu i guddio tystiolaeth o anheddu cynnar yn yr ardaloedd hyn. Yn ogystal â chrug Ystradhynod, gwyddys am glwstwr sylweddol o 6-7 twmpath claddu ym masn uchaf dyffryn Clywedog, yn ardal Penffordd-las, yn ogystal â chlwstwr o dwmpathau claddu ucheldirol, a maen hir o bosibl, ar Gefn Llwyd, a thwmpathau claddu unigol ar lethrau bryn ym Mhenygeulan ac ar gopa bryn ym Mhen-y-cerrig. Dengys y gwasgariad tenau o hapddarganfyddiadau dystiolaeth bellach o weithgaredd. Mae sgrafell o fflint o Nant-yr-Hafod, tua blaenddyfroedd Afon Clywedog, bwyell gaboledig o Groes Uchaf, dagr o fflint o fath Bicer a ddarganfuwyd ger Ysgubor Pen-y-bryn a bwyell forthwyl o gerrig ger fferm Pen-y-banc, oll ar y bryniau i’r de-orllewin o Afon Clywedog, yn enghreifftiau o hyn, ynghyd â bwyell forthwyl a ddarganfuwyd ger Fairdre Fawr, i’r gogledd-ddwyrain o Afon Clywedog. Mae gwasgariad a natur gyffredinol y safleoedd a’r darganfyddiadau hyn yn awgrymu manteisio ar ystod eang o adnoddau ucheldirol ac iseldirol yn ystod y cyfnod cynhanesyddol cynnar, er na nodwyd tystiolaeth o anheddu parhaol hyd yma yn yr ardal. Mae’n debyg eu bod yn cefnogi economi ffermio cymysg ac yn cynnwys manteisio ar adnoddau coetirol a chlirio ardaloedd o goetir cynhenid i greu tir a fyddai’n addas ar gyfer pori a thyfu cnydau. Mae’n bosibl bod symud tymhorol o aneddiadau parhaol ar waelod y dyffrynnoedd i aneddiadau dros dro yn yr ucheldiroedd yn ystod misoedd yr haf, a hynny o ddyddiad cynnar.
Gwyddys am rwydwaith o lociau o wahanol feintiau, gyda ffosydd a chloddiau amddiffynnol yn dyddio, yn ôl pob tebyg, o ddiwedd yr Oes Efydd ac Oes yr Haearn tuag ochr ddwyreiniol ardal y dirwedd hanesyddol. Maent ar fryniau amlwg o amgylch ymylon yr ucheldir, ar uchder o rhwng 250 metr a 400 metr uwchben lefel y môr, gyda hyd at 2 cilometr rhyngddynt. Maent yn cynnwys bryngaer fawr Dinas, nad oedd o bosibl wedi’i chwblhau, sydd ar fryn amlwg sy’n ymestyn tua’r de i mewn i ddyffryn Clywedog, lloc amddiffynnol Pen-y-gaer sy’n tremio dros argae Clywedog, lloc Pen-y-clun tua blaen dyffryn Cerist, Pen-y-castell sydd ar ysbardun bryn yn tremio dros y Fan, rhwng dyffrynnoedd Cerist a Nant Gwden, a lloc Dolgwden ar ysbardun ar ochr ogleddol dyffryn Nant Gwden. Mae’n ymddangos yn debygol bod bryngaer Dinas, sy’n cwmpasu ardal sylweddol o tua 14 hectar, yn cynrychioli canolfan lwythol a oedd ar un adeg yn gartref i gymuned sylweddol. Mae’r llociau amddiffynnol llai wedi’u gwasgaru o’i chwmpas ac mae’n bosibl y byddai grwpiau teuluol estynedig yn byw ynddynt. Nid oes sicrwydd ar hyn o bryd, fodd bynnag, p’un a oedd y llociau hyn yn gartrefi parhaol na ph’un a fyddent oll yn cael eu defnyddio ar yr un adeg. Awgryma eu safle, fodd bynnag, ar ymylon yr ucheldiroedd eu bod yn chwarae rhan yn y gwaith o reoli manteisio ar adnoddau ucheldirol ac iseldirol yn ogystal â bod â swyddogaeth amddiffynnol. Mae’n debygol, felly, eu bod yn gysylltiedig â chaeau, ffermydd a dolydd mewn ardaloedd isel cyfagos, ond nid oes gennym dystiolaeth o’r rhain hyd yma.
Mae’n debyg i’r manteisio ar adnoddau ucheldirol ac iseldirol i gefnogi economi ffermio cymysg barhau’n ddi-baid trwy gydol y cyfnod Rhufeinig a’r cyfnod canoloesol cynnar, rhwng diwedd y ganrif 1af AD a thua chanol yr 11eg ganrif AD, ond nid oes tystiolaeth ar hyn o bryd o’r math o aneddiadau a allai fod wedi bod yno yn ystod y cyfnod hwn. Gorwedda’r gaer Rufeinig fechan ym Mhenycrocbren ar y bryniau ger blaen dyffryn Clywedog, i’r de o Ddylife, hanner ffordd rhwng y caerau Rhufeinig yng Nghaersws yn nyffryn Hafren tua’r dwyrain a Phennal yn nyffryn Dyfi tua’r gorllewin. Mae ffordd Rufeinig yn arwain ati a thybir ei bod yn croesi rhan ogleddol yr ardal o ddyffryn Trannon, trwy Gwartew a Phenffordd-las. Mae’n debygol bod arwyddocâd milwrol i’r gaer fechan a’r ffordd, y mae’n ymddangos eu bod yn cael eu defnyddio ar ddechrau’r 2il ganrif o leiaf, ond mae hefyd yn bosibl eu bod wedi chwarae rhan yng ngweinyddu’r diwydiant mwyngloddio plwm yn ystod y cyfnod Rhufeinig.
Anheddu a defnydd tir yn y canol oesoedd a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol
Mae ardaloedd ucheldirol Arwystli ymysg y rhannau o Gymru sydd â’r lleiaf o dystiolaeth ddogfennol o’r Canol Oesoedd. Mae’n anodd bod yn sicr ynghylch natur defnydd tir neu anheddu yn ardal y dirwedd hanesyddol yn ystod y cyfnod hwn ond daw rhai awgrymiadau o dystiolaeth gwaith maes ac enwau lleoedd, yr ychydig ffynonellau dogfennol a sefydliadau gweinyddol ac arferion hynafol oedd wedi goroesi hyd ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif.
Ardal weddol dlawd fu hon erioed o ran amaethyddiaeth. Yn hanesyddol, seiliwyd defnydd tir yn yr ardal ar economi ffermio cymysg, gydag ardaloedd helaeth o ucheldir sydd wedi cynnig ychydig mwy na phorfa arw, llethrau serth ar ymylon yr ucheldir nad oeddent yn addas ar gyfer amaethyddiaeth ond a fu’n bwysig o ran darparu adnoddau coetir, a godre’r llethrau a lloriau’r dyffrynnoedd a ddarparodd ardaloedd addas ar gyfer tyfu cnydau mewn mannau oedd yn draenio’n well a dolydd a chaeau gwair mewn ardaloedd gwlypach.
Mae’n debygol bod y patrymau o drefgorddau maenorol y gwyddys eu bod wedi dod i’r amlwg yn yr ardal erbyn dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol, gan gynnwys Penegoes Uwchycoed, Glyntrefnant, Esgeiriaeth, Brithdir, Manledd, Dolgwden, Glynhafren Iscoed, Ystradhynod a Chilmachallt, wedi dod i’r fei fel casgliadau gweinyddol o ffermydd a daliadau eraill erbyn dechrau’r Canol Oesoedd. Byddent yn cynnwys tiroedd a oedd naill ai’n ddaliadau rhydd yn unol ag arferiad brodorol, tiroedd oedd yn eiddo uniongyrchol i reolwyr lleol, neu aneddiadau taeog y byddai gwasanaethau a dyletswyddau’n ddyledus gan eu trigolion i’r rheolwyr lleol.
Mae’n ymddangos y cliriwyd ac y caewyd y tiroedd mwy gwerthfawr, sef tir âr, porfa a dôl yn dameidiog trwy gydol y cyfnod canoloesol a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Gellir gweld hyn yn y patrymau o gaeau afreolaidd, mawr neu fach, yn is na 250 metr ar y cyfan, sy’n nodweddu rhannau o’r tir is tuag ochr de-ddwyrain ardal y dirwedd hanesyddol, yng nghanol dyffryn Clywedog, (cyn ei foddi), rhan isaf dyffryn Clywedog, canol dyffryn Cerist a dyffrynnoedd isaf Nant Gwestyn a Nant Gwden. Gwelir patrymau tebyg hefyd ar y tir ychydig yn uwch ym mlaenddyfroedd Nant Cwmcarreg-ddu, llednant Afon Trannon, ger Fairdre Fawr a Fairdre Fach. Mae’r ddwy fferm hyn mewn poced o bridd cymharol ffrwythlon ar ymyl yr ucheldir. Erbyn diwedd y 13eg ganrif, roedd yr ardal yn rhan o annedd taeog neu faerdref ucheldirol oedd yn gysylltiedig â maenor Talgarth, sef prif ganolfan weinyddol (yn debyg i faenor Lloegr) cwmwd Arwystli Uwchcoed, oedd wedi’i ganoli yn nyffryn Trannon ger Trefeglwys, tua 4 cilometr i’r dwyrain lle gorweddai prif diroedd âr yr arglwydd.
Yn ogystal â’r tir fferm mwy gwerthfawr hwn, roedd tir comin mwy helaeth yn cynnwys tir pori rhostirol helaeth, coetir a rhai dolydd iseldirol y byddai daliadau cyfagos yn ymarfer hawliau arnynt. Arglwydd y faenor oedd yn rheoli’r tiroedd comin erbyn dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Byddai’n cymrodeddu ar anghydfodau’n ymwneud â chau tir yn anghyfreithlon, a throseddau eraill yn erbyn hawliau tir comin, trwy bentreflysoedd maenorol.
Rhoddodd arweinwyr de Powys ac arweinwyr Arwystli ardaloedd sylweddol o diroedd pori ucheldirol yn ardal y dirwedd hanesyddol i urdd fynachaidd y Sistersiaid yn y cyfnod rhwng diwedd y 12fed ganrif a chanol y 13eg ganrif. Roedd y rhain yn cynnwys ardal sylweddol tua blaenddyfroedd Clywedog, rhwng Afon Bachog ac Afon Lwyd a roddwyd i Abaty Ystrad Marchell, ardal i’r gorllewin o flaenddyfroedd Clywedog rhwng Afon Lwyd ac Afon Biga a roddwyd i Abaty Cwmhir, ac ardal is, i lawr yr afon, rhwng Bryntail a Hiriaeth, a roddwyd, unwaith eto, i Ystrad Marchell. Mae’n ymddangos bod yr eiddo hyn wedi parhau i weithredu fel maenorau mynachaidd hyd diddymu’r ddau abaty tua chanol yr 16eg ganrif. Ychydig o dystiolaeth sydd ynghylch sut y rheolwyd y maenorau mynachaidd hyn a daliadau seciwlar eraill yn ystod y cyfnod canoloesol, er mae’n debyg y gwnaed hyn yn bennaf trwy aneddiadau ucheldirol dros dro. Yno, byddai’r rhai oedd yn gofalu am fuchesi o wartheg a phreiddiau o ddefaid yn ystod misoedd yr haf yn byw, cyn iddynt ddychwelyd i ffermydd a chanolfannau maenorol ar dir is, unwaith y byddai’r cnydau âr a’r gwair o’r dolydd wedi’u cynaeafu. Soniodd Thomas Pennant am y traddodiad hwn wrth ddisgrifio’r ardal yng nghyffiniau Llanidloes yn ei A Tour in Wales a gyhoeddwyd ym 1793:
‘This is a country of sheepwalks. The flocks, like those of Spain, are driven to them from distant parts to feed on the summer herbage. The farms in the vallies are only appendages, for winter habitation and provisions’.
Er nad oedd Pennant, efallai, yn cydnabod pwysigrwydd economaidd y fferm iseldirol, mae’n ymddangos bod A Tour through North Wales John Evans, a gyhoeddwyd ym 1798, yn ategu hyn. Mae’n cyfeirio at ffermydd a bythynnod yn ardaloedd Llanidloes ‘which were only winter habitations’, ond mae’n bosibl mai benthyciad gan Pennant yw hwn.
Awgryma enwau lleoedd a allai darddu o’r cyfnod canoloesol neu ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol yn rhai o’r ardaloedd mwyaf pellennig tua blaen dyffryn Clywedog a godre Pumlumon i’r gorllewin o’r afon, dystiolaeth o’r patrwm defnydd tir tymhorol hwn, sef yr elfen hafod. Mae’r rhain yn cynnwys enw’r nant a’r fferm Nant-yr-hafod a’r enwau Cefn Hafodcadwgan a Hafod Cadwgan sydd rhwng 300 metr a 400 metr uwchben lefel y môr, tua’r de-orllewin o Benffordd-las. Erbyn heddiw, Nant-yr-hafod yn unig sydd wedi goroesi yn annedd. Awgryma clwstwr o hen lwyfannau tai ger blaenddyfroedd Afon Clywedog dystiolaeth corfforol o aneddiadau tymhorol ucheldirol cynnar posibl o’r cyfnod canoloesol neu’r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar. Ategir y dystiolaeth gan hen ffermydd bach gwasgaredig neu rai sy’n bodoli heddiw, megis Hirnant, Dolbachog, Dolydd, Llwyn-y-gog, Pant-y-chwarel a Phant-y-rhedyn sydd oll yn gysylltiedig ag ynysoedd bach o gaeau afreolaidd. Maent oll yn edrych fel llechfeddiannau ar wahân ar dir pori ucheldirol nad oedd wedi’i gau’n gynharach, ac mae’n bosibl eu bod wedi tarddu o hafodydd.
Mae’n ymddangos bod cyfres arall o aneddiadau ucheldirol, yn ôl tystiolaeth enwau lleoedd, wedi tarddu o drigfannau bychain neu dros dro yn yr ardal o dir pori ucheldirol i’r de-ddwyrain o Benffordd-las. Parhaodd rhannau ohoni heb eu cau hyd ddechrau’r 19eg ganrif. Mae Lluest-y-fedw, sydd bellach yn anghyfannedd, a Lluest-y-dduallt ill dau yn cynnwys yr elfen lluest. Fe’i dangosir fel ynysoedd bychain o gaeau afreolaidd hyd at 2 i 3 hectar o faint mewn môr o borfa arw ar argraffiadau cynnar yr Arolwg Ordnans.
Gall tystiolaeth enwau lleoedd hefyd ddarparu cliw ynghylch rhai agweddau penodol ar y defnydd a wnaed o’r tir yn y cyfnod cynnar yn yr ardaloedd hyn. Tybir bod ail elfen enw’r fferm Cwmbiga, a gofnodwyd yn gyntaf ar ddechrau’r 13eg ganrif ar flaen Afon Biga, llednant ar ran uchaf Afon Clywedog, yn ymwneud â buarth a buwch, sy’n awgrymu cysylltiad â magu da byw neu ffermio llaeth canoloesol. Mae Ty’n-y-fuches, fferm gynt yn nyffryn Clywedog a Fuches, sy’n berthnasol i’r ardal helaeth o borfa i’r gogledd o ddyffryn Clywedog yn cynnwys yr elfen buches, sy’n awgrymu cysylltiad hanesyddol â phori ucheldirol. Mae’r fferm Gwartew (Gwair-tew gynt), i’r dwyrain o Benffordd-las yn tarddu o’r elfennau gwair a tew. Mae’r enwau Dolbachog, Dolydd Llwydion a Dol-gwyddel-uchaf ger blaenddyfroedd Afon Clywedog yn cynnwys yr elfen dol/dolydd. Mae’r enwau Cwm y Ffridd, Banc y Ffridd, Ffridd Newydd a Ffridd Fawr i’r gorllewin o flaenddyfroedd Afon Clywedog oll yn cynnwys yr elfen ffridd sy’n awgrymu porfa fynydd neu efallai, yn fwy penodol, porfa arw wedi’i chau ar ymylon y mynydd. Cofnodwyd yr enw yn lleol yn yr enw ffreeth Cwm Bigga yn y 1540au.
Erbyn y cyfnod canoloesol diweddarach a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol, mae’n ymddangos bod patrwm o ffermydd gweddol fach a gwasgaredig, yn gysylltiedig â phatrymau caeau afreolaidd, wedi ymddangos yn nyffrynnoedd rhannau is Afon Clywedog ac Afon Cerist a’u llednentydd, ac yn ardaloedd mwy ffafriol ardaloedd ymylol yr ucheldir gerllaw. Gellir eu cysylltu â hafodydd gwasgaredig ac mae rhai ohonynt bellach yn gartrefi trwy gydol y flwyddyn, o bosibl yn ffermydd llaeth ucheldirol. Byddai llawer o’r ffermydd hyn wedi bod yn eiddo rhyddfraint, er byddai rhai ohonynt, fel y nodwyd uchod, wedi bod yn rhan o aneddiadau taeog mewn cyfnod cynharach neu mae’n debygol eu bod yn gysylltiedig â maenorau mynachol. Cyfeiriwyd yn benodol at lechfeddiannau ar dir diffaith Arwystli, ucheldir nad oedd wedi’i gau’n gynharach ac, o bosibl, tir comin iseldirol, mewn arolwg o arglwyddiaeth Arwystli a baratowyd ar ran Iarll Caerlŷr ym 1574.
Nid yw’n syndod, oherwydd eu natur, nad oes hafodydd wedi goroesi’n adeiladau sy’n dal i sefyll yn ardal y dirwedd hanesyddol. Nid oes ychwaith unrhyw dai gwledig yn dyddio o’r cyfnod canoloesol neu ddiwedd y cyfnod canoloesol wedi goroesi, er ei bod yn bosibl bod nifer o adeiladau o ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol neu ddiweddarach, a chyn-adeiladau’n arwydd o draddodiadau cynharach fframiau pren a fyddai, yn ôl pob tebyg yn nodweddu’r ardal yn ystod y Canol Oesoedd. Mae’r bythynnod a’r tai ffrâm bren yng Nglangwden, Pant yr Ongle a Chwmeryr Bach, sydd oll yn yr ardaloedd is tua’r de-ddwyrain yn enghreifftiau. Dymchwelwyd o leiaf dau hen adeilad ffrâm bren yn Ystrad-hynod a Coppice-llwyd, a oedd a phaneli mewnlenwol plethwaith a dwb pan foddwyd dyffryn Clywedog yn y 1960au. Mae’n ymddangos i garreg ddisodli pren o tua’r 17eg ganrif a’r 18fed ganrif, er nad oedd yn anarferol defnyddio cyfuniad o bren a charreg yn ystod y cyfnod o newid hwn. Gwelir enghraifft gymharol hwyr o’r traddodiad adeiladu â phren yn Hiriaeth, eiddo a gofnodwyd yn gyntaf yn y siarter oedd yn rhoi tiroedd i Ystrad Marchell ar ddechrau’r 13eg ganrif, er mai 1722 yw’r dyddiad ar y ffermdy.
Fodd bynnag, carreg yn bennaf yw’r adeiladau gwledig cynharaf sydd wedi goroesi o’r 17eg ganrif a’r 18fed ganrif. Fel rheol, maent wedi’u hadeiladu o rwbel garw ac weithiau, yn enwedig yn achos adeiladau domestig, maent wedi’u rendro ac/neu eu gwyngalchu. Mae’n ymddangos mai cymharol fach oedd y ffermdai. Yn gyffredinol, byddent yn dai 2 neu 3 uned, yn ffurfio rhan o gasgliad o adeiladau fferm a fyddai naill ai wedi’i gynllunio’n un rhes neu’n glwstwr syml. Byddai llawer o’r llety yn achos adeiladau fferm hŷn yn amlwg ar gyfer gwartheg. Ymddengys nad oes cofnod penodol o dai hirion gyda phreswylfa ar un pen a llety ar gyfer y gwartheg ar y pen arall yn ardal y dirwedd hanesyddol. Er hynny, disgrifia llyfr Iorwerth Peate, The Welsh House, a gyhoeddwyd ym 1940, dŷ o’r math hwn, ychydig y tu allan i’r ardal, ym Mryndu, i’r de-ddwyrain o Lanidloes. Yn ôl Peate, roedd gwahaniaeth o ddwy droedfedd rhwng lefel y pen preswylio a’r beudy. Roedd y rhain yn fwy cyffredin o lawer ar un cyfnod mae’n debyg. Mae’r fferm ar dir cymharol isel yng Nghwmdylluan, ychydig i’r gogledd-ddwyrain o’r Fan, yn cynnwys ffermdy sy’n dyddio yn ôl pob tebyg o’r 17eg ganrif, gydag adeiladau fferm cynnar yn cynnwys ysgubor a beudy. Mae’r ffermdy yn achos fferm fechan ar ymyl yr ucheldir yng Nghwmbiga (a fu un tro yn rhan o faenor fynachaidd) yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif, gyda darnau o adeiladau cynharach.
Cyn y 19eg ganrif, roedd y rhan fwyaf o’r adeiladau gwledig yn ardal y dirwedd hanesyddol yn bendant yn y traddodiad brodorol. Efallai mai Glyn Clywedog yw’r unig eithriad, sef ffermdy ar lan Afon Clywedog. Roedd hwn yn adeilad o bwys o gyfnod y Dadeni, a adeiladwyd yn borthdy i blasty’r teulu Glynne na chafodd, mae’n debyg, mo’i adeiladu.
Tref Llanidloes yw’r unig anheddiad cnewyllol sy’n dyddio o’r cyfnod canoloesol yn ardal y dirwedd hanesyddol. Saif yn nyffryn Hafren yn ne-ddwyrain eithaf yr ardal. Mae’n ymddangos mai tref newydd a grëwyd gan arglwyddi Powys yn ail hanner y 13eg ganrif oedd y dref yn ei hanfod. Mae’r dystiolaeth ddogfennol gyntaf yn dyddio o 1263. Fe’i crëwyd yn ganolfan weinyddol a masnachol i gwmwd Arwystli Uwchcoed, o bosibl i gydbwyso’r fwrdeistref aflwyddiannus a sefydlwyd 10 cilometr i lawr yr afon yng Nghaersws yn Arwystli Iscoed. Mae ei chynllun strydoedd ar batrwm grid sy’n nodweddiadol iawn o drefi canoloesol planedig. Mae ei phrif ffyrdd yn cyfarfod ar safle croes y farchnad wreiddiol, sef y rheswm dros ei chreu, sydd bellach yn safle Hen Neuadd y Farchnad. Parhaodd y dref i fod yn weddol fach ei maint, er bod ei marchnadoedd a’i ffeiriau a oedd yn gwasanaethu’r ardal wledig gyfagos yn amlwg o beth pwys economaidd. Nid oes sicrwydd ynghylch dyddiad yr anheddiad cynharaf. Cofnodwyd yr eglwys, sydd wedi’i chysegru i Sant Idloes, am y tro cyntaf yng nghanol y 13eg ganrif. Hon yw’r unig eglwys ganoloesol yn ardal y dirwedd hanesyddol ac awgryma ddyddiad canoloesol cynnar i darddiad y dref.
Gwelliannau amaethyddol yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif
Ysgubodd gwelliannau mewn arferion amaethyddol a chludiant ar y ffyrdd y wlad ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Yn eu sgil daeth nifer o newidiadau radical i batrymau anheddu a defnydd tir. Ymhlith y gwelliannau nodedig oedd cyflwyno draenio tir yn yr ardaloedd is oedd yn draenio’n wael, gwella offer amaethyddol a chyflwyno mecaneiddio, a chyflwyno bridiau defaid a gwartheg oedd wedi’u gwella. Mae enghreifftiau eraill o arloesi yn y cyfnod hwn, sef mabwysiadu cylchdroi cnydau newydd i wella ffrwythlondeb pridd, tyfu cnydau gwraidd, megis maip i helpu porthi anifeiliaid dros y gaeaf, a chyflwyno tatws yn rhan o brif fwyd dyn. Roedd o fudd yma, yn yr un modd â mannau eraill, o ran cynnal amaethyddiaeth ymgynhaliol ar raddfa fach mewn ardaloedd mwy ymylol. Darparwyd ysgogiad pellach gan welliannau i ffyrdd a phontydd ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, estyn Camlas Maldwyn i’r Drenewydd erbyn dechrau’r 1820au, ac adeiladu Rheilffordd Llanidloes a’r Drenewydd ym 1859. O ganlyniad i hyn, roedd mewnforio calch a deunyddiau eraill ac allforio cynnyrch amaethyddol yn haws ac yn rhatach o lawer.
Ceir awgrym o gyflwr amaethyddiaeth yn yr ardal yng nghanol y 19eg ganrif ac yn ddiweddarach yn y 19eg ganrif gan arolygon y degwm a nifer o gyfrolau hanes lleol. Maent yn dangos bod tua 5% o ardal y dirwedd hanesyddol yn goetir a thua 65% yn ddolydd a phorfa. Mae’n syndod gweld bod canran mor uchel, sef bron 30%, yn dir âr, yn tyfu cnydau megis gwenith, haidd, ceirch, rhyg, ffa, pys, bresych, tatws a maip. Peth cyffredin yn y 19eg ganrif oedd i ffermydd ar dir isel yn nyffrynnoedd yr afonydd a ffermydd ucheldirol fod yn trin o leiaf ychydig o gaeau i dyfu cnydau. Erbyn heddiw, cymharol brin yw’r tir âr sydd yn yr ardal, a choetir yw tua 12% o’r tir.
Cafodd cau tir comin a thir diffaith dan ddeddf seneddol hefyd ddylanwad ar y gwelliannau amaethyddol a welwyd yn yr ardal ar ddechrau’r 19eg ganrif. Etifeddodd Syr Watkin Williams Wynn o Wynnstay hawliau maenorol Arwystli. Roedd yn dirfeddiannwr amlwg am wella tir yng ngogledd Cymru ac fe’i elwid yn answyddogol yn ‘Dywysog Cymru’. Aeth ati i hybu cau’r tir comin a’r tir diffaith yn y cantref y dywedwyd eu bod fawr o werth yn eu cyflwr presennol. Byddai cau’r tir yn caniatáu buddsoddi mewn clirio, ffensio a draenio’r tir a fyddai’n gwella cynhyrchiant y tir, yn caniatáu tyfu cnydau porthiant i helpu â phorthi da byw dros y gaeaf, ac yn chwarae rhan bwysig mewn rhaglenni bridio rheoledig. Pasiwyd deddf cau tir Arwystli gan Ddeddf Seneddol ym 1816, a daeth i rym yn llawn yn y 1820au.
Roedd deddf cau tir Arwystli yn effeithio ar ardal o fwy na 18 cilometr sgwâr o ardal y dirwedd hanesyddol, sef ychydig yn llai na 30% o’i harwynebedd gyfan. Porfa arw oedd y rhan fwyaf o’r tir nad oedd wedi’i gau cyn hynny. Yno byddai rhydd-ddeiliaid yn troi eu defaid a’i gwartheg allan i bori. Nid oedd ffiniau’r tir hwn wedi’u diffinio na’u nodi ar fap ond bellach, dan amodau’r ddeddf cau tir, roedd y tir hwn wedi’i rannu ymysg y tirfeddianwyr oedd â hawliau pori ac arglwydd y faenor. Dyma’r ardaloedd a gafodd eu cau: cyfran fawr o’r tir uwch ar Fynydd y Groes a Bryn Mawr i’r de o Afon Clywedog; tir ar y bryniau i’r gogledd o Benffordd-las tua Phant-y-chwarel; yr ardal i’r de o Luest-y-dduallt tua Dinas i’r gogledd o Afon Clywedog; ardal ucheldirol Bryn y Fan; clytiau o’r tir uwch i’r gogledd o’r Fan ac o gwmpas dyffryn Nant Gwden; ardal Garth Hill i’r de tua Chringoed, ar draws rhannau isaf dyffryn Clywedog; y bryniau i’r gogledd o Lanidloes, o Alltgoch i Gellilefrith. Roedd hefyd yn cynnwys tir comin yr iseldir ar lawr y dyffryn i’r gogledd ac i’r de o Lanidloes, a chopa Gorn Hill, i’r dwyrain o Lanidloes.
Cafodd tirweddau caeau nodweddiadol newydd eu creu o ganlyniad i’r cau tir. Yn nodweddiadol, gwelid caeau bach, caeau mawr a chaeau mawr iawn, gydag ochrau syth neu lociau rhostirol, wedi’u diffinio’n aml gan wrychoedd un rhywogaeth ac, yn arbennig, ffensys pyst-a- gwifrau a ddefnyddiwyd fwyfwy o ddegawd gyntaf y 19eg ganrif. Roedd hyn yn caniatáu cau darnau mawr o borfa ucheldirol yn economaidd. Roedd amryw o ardaloedd yn parhau heb eu cau wedi pasio deddf cau tir Arwystli, yn benodol ardal i’r de a’r dwyrain o Benffordd-las, ar y bryniau i’r gogledd o Luest-y-dduallt tuag at Esgair-goch a Gamallt i’r gogledd-ddwyrain o Afon Clywedog. Mae’n ymddangos i’r rhain gael eu cau trwy gytundeb preifat rhwng y 1820au a’r 1880au ac yma hefyd mae llociau mawr a bach gydag ochrau syth yn nodweddiadol. Mae ardal o dir ar lethrau Mynydd Du a Banc y Groes i’r de o Afon Biga ac i’r gorllewin o Afon Clywedog yn parhau i fod yn Dir Comin cofrestredig, ond bellach mae wedi’i rannu’n gaeau mawr ag ochrau syth.
Cafodd swm sylweddol o goetir derw cynhenid ei gwympo yn ardal y dirwedd hanesyddol yn ystod ail hanner y 18fed ganrif. Anogodd hyn nifer o’r tirfeddianwyr mwyaf i fynd ati i blannu’n gynlluniedig yn ystod y 19eg ganrif, er enghraifft ym Merth-lwyd ar Gorn Hill i’r dwyrain o Lanidloes. Mae’n ymddangos i ardaloedd eraill o goetir gael eu plannu neu eu hailblannu yn ystod y 19eg ganrif ar dir a oedd wedi dod ar gael yn ddiweddar oherwydd ei gau, er enghraifft yn Allt Goch a Phen-yr-allt ar ochr orllewinol dyffryn Hafren i’r gogledd o Lanidloes.
Nid oedd ardaloedd o fwy nag 11 cilometr sgwâr yn rhan o’r ddeddf cau tir. Roedd y tiroedd hyn yn rhan o faenor Talerddig a oedd ar un tro yn rhan o ddaliadau Abaty Sistersaidd Ystrad Marchell. Roedd yn cynnwys rhan o’r tir ar fryniau i’r gogledd o Fryntail tua Phenyclun, a rhan sylweddol o fasn uchaf dyffryn Clywedog, rhwng Dolydd, Llwyn-y-gog a Phenffordd-las ac ar y bryniau i’r de a’r gorllewin, gan gynnwys Bwlch y Garreg-Wen i’r de o Afon Clywedog a Fign Aberbiga tua’r de i Afon Biga. Ymddengys fod rhai o’r ardaloedd nad oedd wedi’u cau yn gynharach yn hen faenor Talerddig wedi’u cau dan gytundeb preifat yn ystod y 19eg ganrif.
Gwnaeth deddf cau tir Arwystli ddarpariaeth ar gyfer talu iawndal i lechfeddiannau bythynnod. Daeth yr holl lechfeddiannau a wnaed mwy nag 20 mlynedd ynghynt ac na thalwyd rhent na dirwyon ar eu cyfer, yn eiddo i’r deiliaid, ond nid oedd ganddynt hawl i unrhyw gyfran o dir comin. Yn achos llechfeddiannau a wnaed llai nag 20 mlynedd ynghynt neu y talwyd rhent amdanynt, byddent yn cael eu hystyried yn eiddo i’r sawl a fyddai’n derbyn y rhent. Roedd y llechfeddiannau neu fythynnod anghyfreithlon hyn yn gymwys ar gyfer iawndal, os oedd eu preswylwyr yn dlawd. Mewn rhai achosion, mae’n ymddangos bod llechfeddiannau hŷn i’w gweld fel ynysoedd bychain o dir wedi’i gau yn y tir a ddynodwyd ar gyfer ei gau dan ddeddf cau tir Arwystli. Gwelir enghreifftiau ger ffermydd Bryn Mawr a Gwestyn ar y bryniau i’r de o Afon Clywedog; Gwestyn yn unig sydd yno heddiw. Roedd hen fferm Lluest-y-fedw i’r de o Luest-y-dduallt at y bryniau i’r gogledd o Afon Clywedog yn enghraifft hefyd. Mae’n bosibl bod hen fwthyn ucheldirol Potatoe Hall ar y bryniau i’r gogledd o Lanidloes, wedi’i amgylchynu gan gaeau a oedd yn destun deddf cau tir, yn enghraifft o lechfeddiannu a oedd, dan amodau deddf cau tir Arwystli 1816, yn iau nag 20 oed neu lle roedd y deiliad wedi talu rhent a lle nad oedd ganddo felly unrhyw hawl i gael cyfran o dir. Ychydig o gofnod sydd wedi goroesi o ran ffurf a strwythur bythynnod ucheldirol o’r math hwn. Er hynny, mae cyfeiriad at yr hen dŷ a elwid Clod Hall ar fin y ffordd ger Bidffald, y soniwyd amdano yn hanes Llanidloes Hamer, yn awgrymu’r math o breswylfa a adeiladwyd o dywyrch a mwd ac y cyfeirir ato’n aml mewn rhannau eraill o Gymru yn hanner cyntaf y 19eg ganrif.
Daeth y cyfle i wella ffermydd oedd yn bodoli gyda chau’r tir comin. Crëwyd ffermydd newydd ‘wedi’u gwella’ gan nifer o’r stadau o ganlyniad i’r cau. Adeiladwyd y fferm yng Ngellilefrith, a’i ffermdy o frics a’i threfniant tebyg i gwrt o adeiladau fferm, o’r newydd mewn ardal o dir comin nad oedd wedi’i gau ar y bryniau i’r gogledd o Lanidloes. Gwnaed hyn yn y cyfnod rhwng mabwysiadu’r ddeddf cau tir ym 1826 ac arolwg y degwm ym 1846. Mae i ffermdy ac adeiladau fferm Garth, ychydig i’r de o’r Fan ac yn dyddio o 1870, gymeriad stad amlwg. Unwaith eto, gorweddant ar dir a gafodd ei gau ar ddechrau’r 19eg ganrif.
Roedd y fferm yn eiddo i Iarll Vane, prydleswr mwyngloddiau plwm Van, ac mae’n rhoi darlun diddorol o’r berthynas rhwng diwydiant ac amaeth yn yr ardal yn ystod y cyfnod hwn. Mae nifer o ffermydd llai eraill yn ardal y Fan, megis Penisafmanledd sydd eto ar fin y tir comin gynt, yn awgrymu buddsoddi mewn amaethyddiaeth ar ddiwedd y 19eg ganrif. Mae tai a oedd yn bodoli erbyn y 19eg ganrif sydd â’r elfen ‘newydd’ yn eu henw, er enghraifft yn New House i’r de o’r Fan a Borfa Newydd, islaw ochrau gorllewinol Bryn y Fan, yn awgrymu aneddiadau newydd eraill ar fin tiroedd comin nad oeddent wedi’u cau gynt.
Bu hefyd peth ad-drefnu’r dirwedd ar raddfa fawr, yn cynnwys creu tirwedd oedd wedi’i rhannu’n fwy trefnus, ynghyd â’r cynlluniau draenio a ddaeth gydag adeiladu Rheilffordd y Fan ym 1871. Menter breifat Iarll Vane oedd hon, pan sianelwyd rhan o Afon Cerist.
Defnydd tir ers y 19eg ganrif
Bu amryw o newidiadau eang i ddefnydd tir yn ardal y dirwedd hanesyddol ers dechrau’r 20fed ganrif. Gwelodd y 1920au a’r 1930au, yn enwedig, ostyngiad amlwg yn elw ffermio a arweiniodd at gyfuno rhai ffermydd a gadael rhai o’r ffermydd a’r bythynnod gwledig mwyaf anghysbell yn segur, er enghraifft Ty’n-y-fuches a Rhol-y-felin yn rhan uchaf dyffryn Clywedog, a Lluest-y-fedw ar y bryniau i’r de o Luest-y-dduallt. Dengys arolygon defnydd tir yn y 1940au mai ymylon y rhostir yn unig, o fewn cyrraedd hawdd i’r ffermydd, oedd yn tueddu i gael eu defnyddio yn y cyfnod hwn. Roedd rhai o’r ardaloedd mwyaf anghysbell a’r llethrau mwy serth a gafodd eu pori ar un adeg bellach yn rhedyn ac eithin unwaith eto gan fod lefelau stocio wedi lleihau ers diwedd y 19eg ganrif. Roedd swm y tir âr wedi lleihau yn sylweddol yn yr ardal hefyd, ac mae wedi parhau i wneud hynny hyd heddiw.
Cynyddodd y dirwasgiad amaethyddol y tir oedd ar gael i goedwigo. Prynodd y Comisiwn Coedwigaeth 12 o ffermydd defaid ucheldirol er mwyn creu Coedwig Hafren. Plannwyd y coed cyntaf yn ystod gaeaf 1937/38, gan gyrraedd uchafbwynt ym 1950. Wedi saib dros dro, ailddechreuodd y plannu yn y 1960au a bellach mae’r goedwig yn cwmpasu ardal o tua 40 cilometr sgwâr. Coed pîn a phyrwydd sydd yno’n bennaf, ac mae rhannau o’r goedwig yn rhan o ardal y dirwedd hanesyddol. Plannu â llaw a wnaed ar y dechrau ond ers y 1940au, bu plannu ar gefnennau âr. Maent wedi bod yn cynaeafu’r genhedlaeth gyntaf a blannwyd ers sawl blwyddyn bellach, ac felly cwympwyd ardaloedd mawr a’u hailblannu.
Yn ôl sylwebydd ar y pryd, roedd Llwyn-y-gog yn enghraifft nodweddiadol o un o ‘bentrefi coedwigol newydd Prydain’. Mae’n ddiddorol o safbwynt hanesyddol fel arbrawf o ran tai gwledig yng nghanolbarth Cymru yn ystod y blynyddoedd yn syth ar ôl y rhyfel. Cyflogai’r Comisiwn Coedwigaeth tua 50 o ddynion i blannu’r goedwig ar y dechrau. Bythynwyr lleol a thimau a gludwyd mewn lori bob dydd o Lanidloes oedd y rhain. Roedd angen llafurlu mwy sefydlog erbyn diwedd y 1940au i gynnal rhaglen deneuo ac felly, yn dilyn ymgynghori â Chyngor Sir Drefaldwyn, rhwng 1949 a 1951, fe ddechreuodd y Comisiwn yr hyn a fwriadwyd i fod y cam cyntaf mewn adeiladu’r pentref coedwigol yn Llwyn-y-gog. Y pensaer amlwg Cymreig, T. Alwyn Lloyd o Gaerdydd a ddyluniodd y cynllun. Yn y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd, bu’n gweithio ar ddyluniadau blaengar ac iwtopaidd ‘gardd-bentref’ y Welsh Land Settlement Association a fwriadwyd ar gyfer glowyr di-waith yn ne Cymru. Dyluniwyd yr anheddiad i gynnwys 80 o dai teras ar gyfer poblogaeth o hyd at 300, siop, ysgol a neuadd bentref. Fel y bu hi, 20 tŷ yn unig ar gyfer cymuned o tua 70 a adeiladwyd, ynghyd â thŷ ar wahân i swyddog coedwigaeth. Roedd yr adeiladau cymunol yn cynnwys, ar y dechrau, neuadd bentref dros dro, siop gyffredinol ac ystod o garejis y gellid eu cloi ar gyfer ceir a beiciau modur. Plannwyd llain gysgodi o goed llydanddail a choed conwydd ar ochr ddeheuol y pentref. Nid yw unrhyw un o’r tai bellach yn gysylltiedig yn uniongyrchol â’r diwydiant coedwigaeth.
Bu ail newid sylweddol o ran defnydd tir a effeithiodd yn sylweddol ar yr ardal. Adeiladu Cronfa Ddŵr Clywedog, sef Llyn Clywedog, rhwng 1964 a 1967 oedd hyn, wrth gwrs. Roedd hyn yn dilyn Deddf Seneddol alluogol. Un brif argae ar draws rhan gul o ddyffryn Clywedog sy’n dal y gronfa ddŵr, sef yr argae concrid uchaf yn y Deyrnas Unedig. Fe’i dyluniwyd gan Sir William Halcrow a’i Bartneriaid, gydag argae atodol ym Mwlch-y-gle. Golygodd y gronfa ddŵr foddi tir amaethyddol gynt yn y dyffryn, ynghyd â cholli tua 9-10 o ffermydd a bythynnod, rhai ohonynt yn segur, a llawer ohonynt yn ôl pob tebyg yn tarddu o’r cyfnod canoloesol neu o ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Prif ddiben y gronfa ddŵr yw galluogi tynnu dŵr i’r cyhoedd o Afon Hafren ar ei hyd trwy gydol misoedd sych yr haf a sicrhau bod digon o lif yn yr afon at ddibenion amgylcheddol. Mae hefyd yn chwarae rhan mewn atal llifogydd, yn arbennig yn rhannau uchaf Afon Hafren.
Ers y 1960au, bu Dŵr Hafren Trent a’r Comisiwn Coedwigaeth, sef yr asiantaethau sy’n gyfrifol am Gronfa Ddŵr Clywedog a Choedwig Hafren, wrthi’n cynyddu eu gwerth cadwraeth a hamdden. Mae’r gronfa ddŵr yn ganolbwynt i ystod o weithgareddau hamdden gan gynnwys cerdded, seiclo, gwylio adar, pysgota, hwylfyrddio a hwylio yn ogystal ag ardaloedd picnic a golygfannau’n tremio dros ochr ddeheuol yr argae a thua’r gogledd, ger Waun y Gadair. Mae plannu o’r newydd yng Nghoedwig Hafren wedi dilyn canllawiau diwygiedig lle mae effaith weledol ar y dirwedd a chreu cynefinoedd mwy amrywiol ar hyd afonydd a nentydd yn chwarae rhan bwysig. Cynyddwyd gwerth y coetir o safbwynt hamdden ymhellach wrth greu ardal bicnic Rhyd-y-Benwch sy’n ganolbwynt rhwydwaith o lwybrau a thraciau yn y goedwig. Bu mentrau hamdden eraill o bwys yn yr ardal, gan gynnwys creu Llwybr Cenedlaethol Glyndŵr, a gafodd statws Llwybr Cenedlaethol yn y flwyddyn 2000. Mae’n rhedeg trwy’r ardal o ger Dylife, ar draws Pen Dylife i Goedwig Hafren a thu hwnt, trwy Benffordd-las, Llwyn-y-gog a Chwmbiga.
Mae peth tystiolaeth o batrymau cylchol o ran defnydd tir ar ymylon yr ucheldir yn ystod y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif, yn cynnwys trosi porfa arw’n laswelltir wedi’i wella ac yna dychwelyd yn borfa arw. Mae’n ymddangos, er hynny, y cynyddodd y gyfradd trosi yn laswelltir wedi’i wella ers y 1950au. Gwelodd y cyfnod rhwng y 1960au a’r 1990au, yn enwedig, ddwysáu gweithgareddau amaethyddol o’r newydd ledled ardal y dirwedd hanesyddol. Daeth hyn yn sgil amryw o gynlluniau cymhorthdal yn hybu draenio tir, gwella porfa ucheldirol, gwella mynediad cerbydau a rhaglenni aredig ac ailhadu. Cynlluniwyd y rhain oll i wella cynhyrchiant amaethyddol trwy gynnal preiddiau mwy o lawer o ddefaid. Lleihau yn sylweddol iawn wnaeth arwynebedd rhostir a phorfa heb ei gwella yn yr ardal o ganlyniad i hyn a’r trosi i goedwigoedd conwydd. Erbyn hyn, fe’i gwelir yn bennaf mewn pocedi bach arunig ar gopaon rhai bryniau megis y Grug ger blaenddyfroedd Afon Clywedog ac ar rannau o Fryn y Fan a Dinas.
Cyflwynwyd nifer o gynlluniau amaeth-amgylcheddol yn y 1990au, megis Tir Gofal, lle gwelwyd symud cymorthdaliadau oddi wrth gynhyrchu da byw i waith cynnal a chadw ac ystod ehangach o amcanion, gan gynnwys cyfoethogi’r dirwedd amaethyddol, ei bywyd gwyllt, adeiladau a nodweddion diwylliannol a hanesyddol ac annog pobl i ymweld â chefn gwlad. Efallai y gall hyn, ynghyd â’r argyfwng o ran hyfywedd economaidd ffermio mynydd a ffermio ucheldirol a gododd yn y 1990au, arwain unwaith eto yn y pen draw at gilio ymylon y rhostir a mwy o gyfuno ffermydd.
Tarddiad a Thwf Llanidloes
Er bod cymeriad Llanidloes yn wahanol i gymeriad yr ardal gyfagos, mae ei tharddiad a’i datblygiad yn adlewyrchu llawer o’r them穹 sydd wedi’u trafod eisoes.
Nid oes sicrwydd o ddyddiad yr anheddiad cynharaf, er ei bod yn bosibl iddo darddu o eglwys ac anheddiad cysylltiedig ar ddechrau’r cyfnod canoloesol. Ceir y cofnod dogfennol cyntaf o’r fwrdeistref, a grëwyd gan arglwyddi Powys yn ail hanner y 13eg ganrif, ym 1263. Fel y nodwyd eisoes, mae ei chynllun strydoedd ar batrwm grid yn nodweddiadol o drefi canoloesol planedig. Mae yno bedair prif ffordd sy’n dod at ei gilydd ar safle croes y farchnad wreiddiol, sydd bellach yn safle Hen Neuadd y Farchnad. Cafodd y dref yr hawl i gynnal marchnad wythnosol a ffair ddwywaith y flwyddyn ym 1280. Roedd melin ŷd ar waith erbyn y 1290au. Fe dyfodd y dref yn gyflym yn ystod degawdau olaf y 13eg ganrif a diwedd degawd gyntaf y 14eg ganrif. Er hynny, roedd yn parhau i fod yn gymharol fach ac o bwys yn lleol yn unig. Tybir bod y dref wedi cael amddiffynfeydd yn ystod y Canol Oesoedd, gyda nifer o byrth yn ôl pob tebyg.
Mae’n bosibl mai Eglwys Sant Idloes yw’r unig adeilad canoloesol sydd wedi goroesi yn y dref, gyda pheth o’i hadeiladwaith wedi goroesi o’r 14eg ganrif a’r 15fed ganrif. Bu cryn ailadeiladu yng nghanol yr 16eg ganrif pan adeiladwyd y to trawstiau gordd a phan ymgorfforwyd rhannau sylweddol o hen adeiladwaith abaty Sistersaidd Cwmhir gynt yn yr eglwys.
Mae peth tystiolaeth wedi goroesi o draddodiad ôl-ganoloesol o adeiladu â fframiau pren yn y dref, ond roedd yn fwy amlwg ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Ceir tystiolaeth o hyn yn y disgrifiad canlynol o Beauties of England and Wales, Evans a gyhoeddwyd ym 1812, sydd hefyd yn darparu argraff graffig o amodau cyffredinol glanweithdra yn y dref yn y cyfnod hwnnw:
‘yet having very few good houses, and, the greater number being built of timber frames, and the intermediate spaces formed with what is technically denominated, wattle and dab, that is, laths, or sticks, intertwined, and the insterstices filled up with mud: add, together with the irregularity of their position, to give an awkwardness to its appearance, not very inviting to the passing visitant. The width of the streets, which in most places is deemed a great advantage, here becomes an abominable nuisance, from the custom the inhabitants have of accumulating their ashes, &c. in large heaps before their respective doors; the exhalations from which in hot weather must be very offensive to persons’
Gwelir tystiolaeth o olygfeydd tebyg hefyd ym mhaentiad The Llanidloes Pig Fair Hugh Hughes, sydd wedi’i osod yn Stryd y Dderwen Fawr ac sy’n dangos effaith barhaus y farchnad ar y dref tua’r dyddiad hwn. Sefydlwyd bwrdd iechyd lleol i geisio gwella’r amodau afiach ar ddechrau’r 19eg ganrif, fel yn achos trefi eraill yng Nghymru.
Cofnodwyd defnyddio estyll pren yn yr ardal leol yn y disgrifiad canlynol yn A Tour in Wales, Thomas Pennant a gyhoeddwyd ym 1793:
‘A coarse slate is found in the neighbouring hills; but there still remains, in many parts, the ancient covering of the country, shingles, heart of oak split and cut into form of slates’
Fe dyfodd y dref yn gyflym am gyfnod ar ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, yn benodol oherwydd y diwydiant gwlân lleol. Fe ddatblygodd yn raddol ar ddechrau’r 19eg ganrif o ddiwydiant a oedd yn ei hanfod yn ddomestig i ddiwydiant a oedd wedi’i seilio ar felinau mawr diwydiannol. Yn ystod y cyfnod hwn hefyd fe ddaeth y dref yn ganolfan bwysig o ran masnach a chysylltiadau. Roedd datblygiad y diwydiant mwyngloddio yn ei chefnwlad agos wedi dylanwadu’n gryf arni. Erbyn y 18fed ganrif, os nad ynghynt, roedd adeiladu gweddol ddwys ar y ddwy brif stryd a oedd yn cyfarfod ger neuadd y farchnad. Fe welodd y 19eg ganrif ddatblygu’r tir agored y tu ôl i ffryntiadau’r strydoedd canoloesol, yn ogystal â swm sylweddol o ailadeiladu a rhoi ffasâd o frics newydd ar ffryntiadau adeiladau cynharach. Daeth naws fwy bonheddig i’r dref yn gyflym yn ystod ychydig ddegawdau cyntaf y 19eg ganrif. Mae hyn yn eglur o’r disgrifiad canlynol yn Topographical Dictionary of Wales Samuel Lewis a gyhoeddwyd ym 1833, sy’n amlwg yn mynd yn ôl at ddisgrifiad Evans o’r dref ugain mlynedd yn gynharach:
‘[the town] has of late years been greatly improved by the erection of several more respectable buildings on the site of more ancient houses of timber frame-work and plaster, which formerly prevailed throughout the place, and by the removal of the numerous heaps of cinders which had previously been suffered to accumulate in front of the houses’
Daeth amrywiadau sylweddol o ran maint tai i’r amlwg yn ystod y 19eg ganrif. Yn nodweddiadol, gwelwyd tai trillawr â sylwedd a thafarnau a siopau a adeiladwyd at y diben yn agos at ganol y dref, a therasau deulawr llai a oedd yn dai gweithwyr diwydiannol, yn enwedig yn y strydoedd cefn.
Ehangodd ardal breswyl a masnachol y dref yn raddol y tu hwnt i’w therfynau canoloesol gwreiddiol, gyda therasau yn ymestyn ar hyd y ffyrdd a arweiniai i’r dref a datblygu mewn maestrefi tua’r de a’r dwyrain ac ar draws yr afon tua’r gogledd o Afon Hafren. Mae’r maestrefi ar ymylon y dref, yn enwedig y rheiny sydd mewn lleoliad mwy prydferth tua’r gogledd a’r gorllewin, yn cynnwys nifer arwyddocaol o dai â sylwedd neu ‘filâu’ gwledig. Roedd y rhain yn eiddo i’r tirfeddianwyr a’r diwydianwyr mwy cyfoethog, a nodwyd yn gymeradwyol yn Topographical Dictionary Lewis:
‘On the south-eastern side is a very handsome large house, now in progress of erection, which, when completed and the grounds laid out, will form an ornamental feature in the scenery of the place. A little nearer the town a beautiful house has been lately built, having handsome grounds disposed with great taste, and planted with trees, flowering shrubs, and annuals. Dôl Llys, in this parish, commands a delightful view of the Vale of Severn, with the windings of the river and the rich and finely varied scenery on its banks, terminated by the high mountains in the distance’
O ganlyniad, mae dilyniant arbennig o dda o bensaernïaeth domestig a masnachol y 19eg ganrif yn y dref, ynghyd â rhai adeiladau a sefydliadau cyhoeddus o bwys, gan gynnwys y Carchar, Gorsaf yr Heddlu, a’r Ystafelloedd Cyhoeddus a adeiladwyd i gynnwys marchnad wlanen yn ogystal â llys ac ystafell gyngerdd. Daeth y dref hefyd yn ganolfan ranbarthol anghydffurfiaeth o bwys, gyda chapeli o amryw o wahanol enwadau.
Roedd safleoedd melinau gwlân diwydiannol diwedd y 19eg ganrif yn ardal y dirwedd hanesyddol i’r gorllewin ac i’r gogledd-orllewin o’r dref yn gyffredinol, yn enwedig ar draws y Bont Hir a’r Bont Fer, ger glannau Afon Hafren ac Afon Clywedog, er mwyn manteisio ar ddefnyddio pŵer dŵr. Roeddent yn cynnwys Melin Cribynau a Melin Glynne, hyd at 2 cilometr neu fwy ymhellach i fyny Afon Clywedog. Rhoddodd dyfodiad y rheilffordd ar ddiwedd y 1850au hwb pellach i ddatblygiad diwydiannol Llanidloes. Roedd diwydiannau diweddarach a ddatblygodd o’r cyfnod hwn ymlaen yn cynnwys yr hen waith nwy, yr hen waith rheilffordd a’r hen ffowndri haearn. Roeddent oll yn dibynnu ar fod o fewn cyrraedd i’r rheilffordd ac felly wedi’u lleoli ar ochr ogleddol ac ochr ddwyreiniol y dref, ger yr orsaf reilffordd fawreddog a strwythurau ac adeiladau eraill y rheilffordd, gan gynnwys sied nwyddau, sied injans a throfwrdd. Roedd angen mwy o dai ar gyfer y gweithwyr; mae Foundry Terrace, a adeiladwyd tua 1860, ychydig lathenni o’r gwaith rheilffordd, yn enghraifft arwyddocaol. Yn ystod yr 20fed ganrif ehangodd stadau tai, yn enwedig tua’r de a’r de-ddwyrain o graidd gwreiddiol y dref. Daeth y dref yn bwysicach fel canolfan addysg, a gwelwyd campws ysgol gynradd a champws ysgol uwchradd yn datblygu i’r de o’r dref yn ystod y 1950au a’r 1960au ar dir a fu unwaith yn rhan o gomin Lower Green.
Roedd y diwydiant gwlân dan bwysau cynyddol oherwydd ei fod yn cystadlu â melinau yng ngogledd Lloegr o’r 1860au ymlaen. Cyfunodd rhai melinau, troswyd eraill at ddibenion eraill, er enghraifft tanerdy a gwaith lledr Spring Mills ar safle hen felin wlân ym 1908. Yn yr un modd, troswyd Melin y Cambrian yn waith lledr yn y 1930au. Caewyd mwyafrif y melinau a’r ffatrïoedd gwlân bychain, y gwaith rheilffordd a’r ffowndri haearn ac yna fe wnaethant ddiflannu, a chaewyd y rheilffordd yn yr 20fed ganrif. O ganlyniad, collodd Llanidloes lawer o hen dirnodau ei hanes diwydiannol a’i hanes trafnidiaeth. Er hynny, erys olion sylweddol, yn cynnwys hen Felin Wlân Bridgend a droswyd yn llety domestig yn ddiweddar, ambell lofft wehyddu agored sydd wedi goroesi, megis yr un yn Highgate Terrace ar Ffordd Penygreen yn cynrychioli cyfnod ‘domestig’ cynharach y diwydiant gwlân yn y dref, tai gweithwyr diwydiannol megis Foundry Terrace, yr Orsaf Reilffordd a’r Ystafelloedd Cyhoeddus o 1838, a adeiladwyd i gynnwys marchnad wlanen yn ogystal â llys ac ystafell gyngerdd. Mae adeiladau cyhoeddus eraill, megis Gorsaf yr Heddlu, a thafarnau, siopau a adeiladwyd at y diben a chapeli anghydffurfiol yn darparu pethau gweledol sylweddol i’n hatgoffa o bwysigrwydd Llanidloes fel canolfan weinyddol a masnachol.
Diwydiant
Daeth Llanidloes a’r ardal gyfagos yn ganolfan bwysig i’r diwydiant gwlân a’r diwydiant mwyngloddio metel yng Nghanolbarth Cymru am gyfnod o tua chanrif, rhwng tua 1820 a 1920. Bu effaith y diwydiannau hyn ar y dirwedd yn fyrhoedlog ac yn aneglur ac, oherwydd hyn, mae’r dirwedd hanesyddol wedi cadw ei chymeriad gwledig yn ei hanfod. Mae olion sylweddol y rhain, ynghyd ag olion diwydiannau prosesu a gweithgynhyrchu eraill, yn goroesi hyd heddiw ac fe’i gwelir fel tirnodau amlwg, er bod eraill bellach yn rhan o’r dirwedd amaethyddol unwaith eto.
Melino ŷd
Fel y nodwyd uchod, mae’n debygol mai cydran gymharol fach ond bwysig o economi amaethyddol yr ardal, o’r Canol Oesoedd tan efallai ddegawdau cynnar yr 20fed ganrif, oedd tyfu cnydau grawn. Byddai grawn yn cael ei brosesu ar gyfer bwyd a threuliant lleol ac mae’n debygol y gwnaed hyn yn lleol trwy gydol y cyfnod hwn, gan ddefnyddio pŵer dŵr. Cofnodwyd melinau dŵr canoloesol ar waith gyntaf yn Llanidloes a’r Fan yn y 1290au. Cofnodir melinau eraill, rhai bach yn ôl pob tebyg, yma ac mewn mannau eraill yn yr 17eg ganrif a’r 18fed ganrif, megis Melin-y-wern ar Afon Cerist yn y Fan, Y Felin Fawr ar Nant Melin (llednant Afon Clywedog) a gofnodwyd yn y 1670au, a Felin-newydd ar ran uchaf Afon Clywedog yn y 1790au. Mae’n ymddangos bod rhai melinau, megis Melin Glan Clywedog ar Afon Clywedog, ychydig i’r gorllewin o Lanidloes, a Melin-y-wern wedi’u trosi’n felinau gwlân rhwng diwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, er nad oedd eraill megis Y Felin Fawr yn cael eu defnyddio erbyn diwedd y 19eg ganrif. Ychydig o olion archeolegol gweledol o felino ŷd cynnar sydd wedi goroesi yn yr ardal, ar wahân i Felin-newydd a adawyd yn segur rywbryd rhwng diwedd y 1880au a dechrau’r 20fed ganrif. Gellir gweld olion dyfrffosydd, pyllau melin a meini melin yno o hyd.
Cloddio am gerrig
Gwelir hen chwareli cerrig bychain yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol a’r cyfnod ôl-ganoloesol wedi’u gwasgaru ledled yr ardal, yn enwedig yng nghyffiniau Llanidloes. Er mai ychydig o’r rhain sydd wedi’u dyddio ag unrhyw sicrwydd, nid oes amheuaeth fod llawer ohonynt yn perthyn i gyfnod penodol a ddilynodd y traddodiadau brodorol lleol o adeiladu â phren rhywle tua chanol yr 17eg ganrif, a defnyddio brics yn helaeth ar ddechrau’r 19eg ganrif. Wedi hynny, defnyddiwyd carreg leol yn helaeth ar gyfer codi adeiladau domestig a thai allan ffermydd. Roedd rhai chwareli’n amlwg ar waith trwy gydol y 19eg ganrif, fodd bynnag, i gael deunyddiau adeiladu ar gyfer adeiladau’r mwyngloddiau a hefyd, mewn rhai ardaloedd, ar gyfer waliau’r caeau.
Y diwydiant gwlân
Daeth Sir Drefaldwyn yn un o’r canolfannau pwysicaf yng Nghymru ar gyfer y diwydiant tecstilau wedi’u gwehyddu, o tua chanol yr 16eg ganrif. Fe arhosodd yn ddiwydiant domestig yn ei hanfod tan fwy neu lai y ddegawd olaf yn y 18fed ganrif. Byddai gwlân defaid yn cael ei gribo, ei nyddu a’i wehyddu’n frethyn, gwlanen yn arbennig, yn efallai y mwyafrif o ffermdai a bythynnod, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf. Yna, fe’i gwerthwyd mewn marchnadoedd lleol neu i fasnachwyr gwlân.
O ddiwedd y 18fed ganrif, dechreuodd y diwydiant ganolbwyntio ar drefi Sir Drefaldwyn, megis y Trallwng, y Drenewydd a Llanidloes, ar lannau Afon Hafren. Yn raddol, fe’i trawsnewidiwyd o ddiwydiant cartref i ddiwydiant oedd yn fwyfwy diwydiannol, mewn melinau gwlân mawr oedd yn defnyddio pŵer yr afonydd lleol. Cyflogai’r diwydiant ystod eang o weithwyr medrus, naill ai’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol, gan gynnwys brethynwyr gwlanen, cribwyr gwlân, nyddwyr a phanwyr; tewychu a glanhau’r deunyddiau a wnâi’r panwyr ac, yn lleol, fe wnaed hyn trwy bannu’r brethyn mewn melinau a yrrwyd gan ddŵr.
Yn aml, gwnaed y gwehyddu ar wŷdd llaw yng nghartrefi’r gweithwyr ym mlynyddoedd cynnar y diwydiant. Yn ddiweddarach, fe’i gwnaed fwyfwy mewn gweithdai agored ar loriau uchaf adeiladau oedd yn aml â ffenestri mawr er mwyn gwella goleuo, gyda’r llety ar y lloriau is. Erbyn y 1830au, amcangyfrifwyd bod yna nifer fawr o weithdai gwehyddu yn y dref; roeddent, ynghyd â busnesau perthynol eraill, yn cyflogi mwy na 2,500 o bobl. Sefydlodd Llanidloes ei marchnad wlanen ei hun ym 1838, gan osgoi’r angen i fasnachu ym marchnadoedd gwlanen y Drenewydd a’r Trallwng. Fodd bynnag, arweiniodd amodau gwaith gwael a chyfnodau o ddirwasgiad yn y diwydiant at derfysg y Siartwyr yn Llanidloes ym 1839. Yn sgil hyn, carcharwyd y rheiny a gafwyd yn euog o gorddi’r aflonyddwch a thrawsgludwyd tri ohonynt. Er hynny, parhaodd ffyniant y dref i fynd o nerth i nerth, yn bennaf oherwydd y diwydiant gwlân.
Cyfunodd y melinau diweddarach, oedd yn fwy eu maint ac yn fwy diwydiannol eu naws, yr holl brosesau gweithgynhyrchu dan un to, gan gynhyrchu gwlanen, brethyn caerog a siolau. Roedd Melin Wlanen Stryd y Bont Fer, Melin Wlanen Llanidloes, Melin Glan Clywedog, Melin Phoenix a Melin y Cambrian yn enghreifftiau o’r rhain. Roedd yna 9 ffatri o’r fath erbyn y 1850au, yn cyflogi tua 800 o weithwyr. Roedd y diwydiant yn parhau i ddibynnu i raddau helaeth ar bŵer dŵr, a safai’r rhan fwyaf o’r melinau ar lannau Afon Hafren a rhannau isaf Afon Clywedog i’r gorllewin o Lanidloes. Fodd bynnag, daeth pŵer stêm yn fwy economaidd o ddiwedd y 1850au, wrth i lo ddod ar gael yn haws gyda dyfodiad y rheilffyrdd, ac fe’i cyflwynwyd i nifer o’r melinau lleol, er enghraifft Spring Mill a adeiladwyd yn y 1870au.
Byddai’r wlanen orffenedig yn cael ei thynnu’n dynn i sychu ar fachau deintur ger y melinau. Yn achos Ffatri Glynne i’r gorllewin o Lanidloes, fel a ddangoswyd ar fapiau a ffotograffau o’r cyfnod, byddent yn gwneud hyn trwy osod fframiau pren ar gyfres o chwe thrac cyflin, ystaden o hyd (220 llath) ar lannau gogleddol serth Afon Clywedog.
Roedd y diwydiant gwlân lleol eisoes yn teimlo effeithiau cystadleuaeth trefi melin swydd Efrog a swydd Gaerhirfryn erbyn y 1860au, ac erbyn 1912-13 roedd y diwydiant gwlân yn yr ardal wedi dirwyn i ben o’r diwedd. Troswyd rhai o’r melinau gwlân at ddibenion eraill, er enghraifft Spring Mill a ddaeth yn waith lledr. Er hynny, methwyd â dod o hyd i ddefnyddiau amgen i lawer o’r melinau eraill ac maent bellach wedi’u dymchwel. Pensaernïol yn bennaf yw’r etifeddiaeth sydd wedi goroesi, er mai cymharol brin bellach yw’r arwyddion gweledol o bwysigrwydd Llanidloes yn hanes y diwydiant gwlân yng nghanolbarth Cymru. Cynrychiolir cyfnodau domestig cynharach y diwydiant yn Highgate Terrace ar Ffordd Penygreen, lle mae llofft wehyddu agored wedi goroesi. Un o’r melinau sydd wedi goroesi yw’r hen Bridgend Mill, ger y Bont Fer dros Afon Hafren. Hon oedd yr olaf o felinau Llanidloes i gau.
Mwyngloddio metel
Gwyddys am safle gwaith pwdlo hynafol, o bosibl yn dyddio o’r canol oesoedd ger Nant Gwden, i’r de o Fferm Cwmbernant. Cofnodir bod mwynglawdd haearn ar waith yn y 1290au yng nghwmwd Arwystli Uwchcoed, er na wyddys ei leoliad. Mae’n debygol bod diwydiant ar raddfa fechan wedi’i seilio ar ddyddodion lleol o fwyn haearn gwaddodol o gorsydd; fe’i defnyddiwyd yn helaeth yn ucheldiroedd Prydain i gynhyrchu haearn. Mae’n debygol, yn yr achos hwn, ei fod yn tarddu o ddyddodi mwyn haearn o’r sialau duon Silwraidd lleol sy’n llawn sylffid haearn.
Roedd mwyngloddio i gynhyrchu plwm, yn ogystal â mwynau copr a sinc, yn ddiwydiant o bwys, ac mae tirluniau mwyngloddio creiriol yn nodwedd nodedig yn rhannau o ardaloedd nodwedd tirwedd hanesyddol Dylife, Coedwig Hafren, Banc y Groes, a Manledd. Mae’r olion yn dangos dilyniant arwyddocaol mewn technoleg mwyngloddio a phrosesu, o bosibl o gyfnod y Rhufeiniaid a’r cyfnod canoloesol hyd at ddegawdau cynnar yr 20fed ganrif pan ddaeth y diwydiant o’r diwedd i ben. Roedd mwynau eraill a gloddiwyd yn cynnwys barytes, a ddefnyddiwyd yn llenwad anadweithiol a diwenwyn ar gyfer papurau a phaentiau, a chalamin, a ddefnyddiwyd wrth gynhyrchu pres a thrwyth croen.
Er mai bach a gwasgaredig yw’r mwyngloddiau ar y cyfan, fe welir yn yr ardal hon yr un safle mwyngloddio plwm mwyaf yng nghanolbarth Cymru, yn y Fan. Mae dosbarthiad daearyddol olion mwyngloddio yn yr ardal yn cyfateb yn agos i nifer o wythiennau cyfoethog o fwynau. Gwelir felly batrwm llinellol o weithfeydd ar draws y dirwedd gan dalu fawr ddim sylw i’r dopograffeg leol. Rhed un band o weithfeydd o’r fath ar draws y mynydd agored am gilomedr a hanner rhwng Dyfngwm yn nyffryn Clywedog i Ddylife yn nyffryn Twymyn. Mae’r rhesen o weithfeydd sy’n ymestyn dros saith cilomedr o Westyn yn nyffryn Nant Gwestyn i Gwmdylluan yn nyffryn Nant Gwden trwy’r mwyngloddiau ym Mryntail, Penyclun a Van yn enghraifft arall.
Mae yna dystiolaeth ddogfennol o rai gweithfeydd cynharach o tua chanol yr 17eg ganrif pan gyhoeddwyd prydlesau amrywiol, er mae’n debygol bod y diwydiant yn tarddu o gyfnod y Rhufeiniaid a’r cyfnod canoloesol. Fodd bynnag, mewn llawer achos, mae’r hen weithiau wedi’u cuddio gan y rhai a ailweithiwyd yn helaeth ar gyfnodau diweddarach, yn ôl pob tebyg. Nid oes tystiolaeth eglur o weithgareddau mwyngloddio yn y cyfnod cynhanesyddol yn yr ardal, er yr awgryma’r gaer Rufeinig fechan ym Mhenycrocbren ar Ben Dylife fodolaeth gweithfeydd Rhufeinig. Awgrymwyd y gallai’r gaer fod wedi chwarae rhan mewn plismona’r diwydiant mwyngloddio lleol yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Yn yr un modd, ychydig o dystiolaeth bendant sydd o fwyngloddio yn ystod y cyfnod canoloesol. Er hynny, ystyriwyd ei bod yn arwyddocaol bod cadarnhad o’r rhodd o faenor ucheldirol yng Nghwmbiga i’r abaty Sistersaidd yng Nghwmhir ym 1198 yn cynnwys y cymal anarferol sy’n nodi bod y rhodd yn berthnasol i ‘ei holl ddefnyddiau, boed uwchlaw neu islaw’r un tir’ (super eandem terram et subter), yn ogystal â’r hawliau mwy arferol ar goetir, porfa a physgota. Mae hyn yn awgrymu peth gwybodaeth, o leiaf, o’r cyfoeth o fwynau oedd yn bodoli’n lleol.
Ychydig o newid a fu yn nhechnoleg mwyngloddio o gyfnod y Rhufeiniaid hyd tua’r 17eg ganrif. Fe’i nodweddir yn gyffredinol gan fentrau mwyngloddio gweddol fach ond niferus. Yn aml, oherwydd llifogydd a’r pŵer oedd ei angen i dynnu’r mwyn i’r wyneb, byddent yn weithfeydd gweddol fas ac yn dymhorol eu natur. Mae gweithfeydd cynnar posibl wedi’u hawgrymu mewn nifer o ardaloedd, yn enwedig yn Nylife, Pen Dylife, Dyfngwm a Gwestyn, ar sail cerrig morter wedi’u gadael yn Nyfngwm, gweithfeydd brig cul a elwir yn gloddfeydd agored a nodwyd yn Nylife, a gweithfeydd bas siafft a thomen o’r math a welir ym Mhen Dylife ac yng Ngwestyn. Efallai fod y defnydd posibl o’r broses mwyngloddio brig â dŵr ym Mhen Dylife hefyd yn awgrymu gweithfeydd cynnar. Roedd y broses hon yn golygu turio sianeli artiffisial ar lethrau i sianelu dŵr a gasglwyd mewn cronfeydd, er mwyn dod â gwythiennau mwyn yn y creigwely gwaelodol i’r golwg.
Y gwythiennau mwyn ar y wyneb fyddai wedi’u defnyddio’n gyntaf ac, yn ôl pob tebyg, byddent wedi dod i ben yn gynnar. Roedd natur goleddf serth y gwythiennau mwyn yn yr ardal yn gofyn am ddefnyddio technegau mwyngloddio dwfn mwy soffistigedig yn lleol. Byddai hyn yn cynnwys defnyddio trawstoriadau (lefelau o siafft fyddai’n croestorri gwythïen fwynol) a phonciau (siambrau wedi’u turio uwchben neu o dan lefel neu drawstoriad er mwyn ecsbloetio gwythïen). Un o’r ychydig enghreifftiau o arloesi mecanyddol a gyflwynwyd cyn y Chwyldro Diwydiannol oedd defnyddio dyfais droi y byddai ceffyl yn ei thynnu, er mwyn codi bwcedi yn y siafft a’u gollwng i lawr. Gellir eu hadnabod weithiau o ardaloedd crwn gwastad, weithiau gyda chwrbyn ar yr ochr allan. Gwyddys am enghreifftiau da sy’n dyddio o’r cyfnod ôl-ganoloesol ym Mhen Dylife.
Gwnaethpwyd cynnydd pellach sydyn mewn technoleg mwyngloddio yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, sef cyfnod pan fyddai hapfuddsoddwyr unigol a chwmnïau mwyngloddio yn buddsoddi cyfalaf sylweddol. Mwynglawdd Van oedd cynhyrchwr mwyaf y byd o fwyn plwm am gyfnod yn y 1870au, gan gyflogi llawer o gannoedd o weithwyr ar y ddaear ac oddi tani. Roedd harneisio pŵer dŵr ac, yn ddiweddarach, cyflwyno peiriannau stêm yn galluogi cloddio mwyngloddiau dyfnach a dyfnach, gan hwyluso draeniad a chaniatáu i fwyn gael ei godi o dyllau dyfnach o dan y ddaear. Defnyddiwyd ffrwydron fwyfwy o ganol y 18fed ganrif a gwnaed gwelliannau sylweddol hefyd i brosesu’r mwyn gyda chyflwyno mecaneiddio, unwaith eto trwy fanteisio ar bŵer dŵr a stêm. Roedd stêm yn fwy dibynadwy ond yn ddrud i’w osod a’i gynnal gan eu bod mor bell o’r meysydd glo, er iddo ddod yn fwy fforddiadwy gyda dyfodiad y rheilffyrdd. Mewn cyferbyniad, roedd dŵr ar gael yn rhwydd ac roedd yn weddol rhad i’w ddefnyddio, ac er na ellid dibynnu ar y cyflenwad ar adegau o sychder, fe barhaodd yn ffynhonnell bŵer o bwys tan ddirywiad y diwydiant mwyngloddio yn yr ardal.
Mae ystod anferth o fathau o henebion amlwg wedi goroesi yn y maes o’r cyfnod gweithgaredd diwydiannol hwn. Gall mwyngloddiau ymestyn dros sawl hectar a gallant ddarparu cofnod corfforol manwl o’r technegau echdynnu a phrosesu a oedd yn cael eu defnyddio. Byddai ceuffyrdd a siafftiau dwfn yn cael eu turio o dan y ddaear ac yn aml byddai trawstoriadau’n eu cysylltu, er mwyn cludo’r mwyn oddi yno, er mwyn draenio neu er mwyn awyru. Adeiladwyd systemau dyfrffos a chronfeydd dŵr mewn sawl mwynglawdd, gan gynnwys y rheiny yn Nylife, Pen Dylife, Dyfngwm, Glyn, Gwestyn a Van, i gasglu dŵr a’i ddosbarthu er mwyn gyrru olwynion dŵr a ddefnyddid i weindio, pwmpio a phrosesu mwyn neu, mewn rhai achosion, i fwydo peiriannau stêm. Adeiladwyd peiriandai, gyda boelerdai a simneiau ynghlwm, a gellir adnabod olion gweladwy o ryw fath neu’i gilydd o’r rhain ym mwyngloddiau Pen Dylife, Penyclun, Aberdaunant, Glyn, Van, East Van, a Gwestyn. Mae tramffyrdd, argloddiau tramffyrdd, llithrynnau mwyn ac incleiniau i gludo’r mwyn i’r ardaloedd prosesu wedi goroesi yn Nylife, Dyfngwm, Bryntail a Van. Mae cynrychiolaeth dda o wahanol gamau prosesu a chrynhoi mwynau ar nifer o safleoedd, gan gynnwys olion biniau mwynau, tai mathru a’r cafnau olwynion cysylltiedig, llwyfannau ar gyfer gogrwyr, cerwyni, pydewau llaid a thomenni gwastraff mewn gwahanol safleoedd mwyngloddio. Tybir bod yna felinau malu cynnar yn Nylife, lle daethpwyd o hyd i gerrig morter wedi’u cafnu yn Esgairgaled. Buddsoddwyd hefyd mewn codi amryw o adeiladau gan gynnwys swyddfeydd mwyngloddiau, stablau, gefeiliau ac arfdai ar gyfer ffrwydron. Mae tystiolaeth o hyn wedi goroesi mewn nifer o fwyngloddiau, gan gynnwys Gwestyn, Bryntail, Aberdaunant ac East Van.
Cynhaliwyd y mwyndoddi gan amlaf mewn gweithfeydd toddi ymhell oddi yno, yn bennaf oherwydd prinder tanwydd lleol. Awgryma crynoadau o slag a gysylltir â darganfyddiadau Rhufeinig fod mwyndoddi’n mynd rhagddo yng Nghaersws a Threfeglwys. Aethpwyd â mwynau wedi’u prosesu tua’r gorllewin gan amlaf yn ystod y cyfnod o’r 17eg ganrif hyd ganol y 19eg ganrif. Fe’u cludwyd 20 cilomedr neu fwy ar y ffyrdd dros y bryniau ar geffyl a chert, i’w llwytho ar longau yn Nerwenlas ar aber Afon Dyfi. Yna, fe’u cludwyd ar y môr i weithfeydd toddi ym Mryste, Abertawe ac aber Afon Dyfrdwy ac, yn ddiweddarach, i ffwrneisi a sefydlwyd yn ardal Aberystwyth. Sefydlwyd rhai gweithfeydd toddi’n lleol, er enghraifft, ym Mhenyclun yn y 1850au, er nad oes unrhyw sicrwydd ynglŷn â pha mor llwyddiannus oeddynt. O ddiwedd y 1850au, cludwyd mwynau o’r mwyngloddiau yn y dwyrain i ben y rheilffordd yn Llanidloes, ac o ddechrau’r 1870au, fe ddefnyddiwyd rheilffordd y Fan. O 1862, daeth yn fwy economaidd cludo mwynau o fwyngloddiau’r gorllewin yn Nylife a Dyfngwm tua’r gogledd i lawr dyffryn Twymyn i Lanbrynmair. Yno, fe’i rhoddwyd ar wagenni ar reilffordd y Drenewydd – Machynlleth.
Rhwng 1870-78, roedd pob un o’r mwyngloddiau yn ardal Dylife a Van yn cynhyrchu miloedd lawer o dunelli o fwyn plwm wedi’i brosesu bob blwyddyn, ond erbyn diwedd y 1870au, fe ostyngodd cynhyrchiant plwm yn ddramatig, yr un fath ag mewn ardaloedd eraill yng Nghymru. Cystadleuaeth o ardaloedd eraill oedd yn gyfrifol am hyn, a chaewyd llawer o fwyngloddiau. Gostyngodd cynhyrchiant yn yr ardal i gyfran fach iawn o’r hyn a fu, a daeth y diwydiant i ben yn y cyffiniau o’r diwedd yn y 1920au a’r 1930au. Ar adegau, gyda chyflwyno offer prosesu mwy soffistigedig, roedd elw i’w wneud wrth ailweithio tomenni gwastraff cynharach i adennill mwynau metel. Gwnaed hyn, er enghraifft, yn Nylife. Wrth i’r diwydiant paent a’r diwydiant papur ehangu, daeth hefyd yn werth chweil adennill barytes, a gwnaed hyn, er enghraifft, yn y 1930au ym Mryntail ac ym Mhenyclun.
Cafodd symiau sylweddol o waddodion eu cludo i lawr yr afon oherwydd y gweithgareddau mwyngloddio yn ardal dyffryn Clywedog yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif. Mae astudiaethau o waddodion gorlifdir yn nyffryn Hafren, cyn belled i lawr yr afon â’r Trallwng o leiaf, wedi dangos y gellir defnyddio’r cynnwys metel sy’n ganlyniad i fwyngloddio ymhellach i fyny’r afon i bennu oed dyddodion llifwaddod yn ystod y cyfnod hanesyddol, ac i asesu cyfraddau gwaddodiad ar y gorlifdir.
Ers canol ail hanner yr 20fed ganrif, bu ymwybyddiaeth gynyddol, nid yn unig o arwyddocâd yr olion mwyngloddio metel yn hanes diwydiannol a chymdeithasol canolbarth Cymru, ond hefyd y llygru mae’r tomenni gwastraff a’r sorod mewn rhai ardaloedd wedi’i achosi. Fe gododd hyn lefelau metelau trwm mewn tir amaethyddol ac afonydd cyfagos, yn enwedig Afon Cerist ac Afon Twymyn. Canlyniad hyn yw peth gwrthdaro buddiannau rhwng gofynion cadwraeth archeolegol ar y naill law a rheoli llygru ar y llaw arall. Mae adennill tir diffaith a gwneud olion echdynnu a phrosesu yn ddiogel wedi bod yn ystyriaethau hefyd. Er hynny, bu dirnadaeth mewn rhai achosion, yn enwedig ar y dechrau, fod gweddillion archeolegol o bwys wedi’u dinistrio heb gofnod.
Aneddiadau mwyngloddio’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif yn Van a Dylifee
Oherwydd natur anrhagweladwy a thymhorol yn aml y mentrau mwyngloddio cynnar ym meysydd mwyn canolbarth Cymru, ystyriwyd bod gwaith tanddaearol, prosesu mwynau a chludo mwynau i weithfeydd toddi pell yn waith i’w gyfuno â gwaith amaethyddol neu waith mewn diwydiannau eraill megis y diwydiant gwlân. Mae’n amlwg o gofnodion cyfrifiad yn y 19eg ganrif ar gyfer yr ardal o amgylch mwynglawdd Van, er enghraifft, bod mwyngloddwyr naill ai’n teithio i’r gwaith bob dydd o Lanidloes neu eu bod yn cael llety mewn ffermydd yn y cyffiniau. O’r herwydd, ychydig o gymhelliad oedd yn y blynyddoedd cynnar i greu aneddiadau mwyngloddio. Yn ystod cyfnodau diweddarach y diwydiant yn unig, yn ystod y 1870au a’r 1880au, y darparwyd rhywfaint o lety i’r mwyngloddwyr. Adeiladwyd Van Terrace, sef un rhes o tua 18 anheddle deulawr syml, yn ystod y cyfnod hwn gerllaw’r rheilffordd a’r gwaith prosesu. Dyma graidd anheddiad bach i’r gweithwyr oedd hefyd yn cynnwys tai ar gyfer rheolwr a pheiriannwr y mwynglawdd, siop, gefail a chapeli’r Methodistiaid Calfinaidd a’r Methodistiaid Wesleaidd. Fodd bynnag, o ffermydd a bythynnod lleol y deuai’r rhan fwyaf o’r gweithlu o hyd, o Gaersws ac arosfannau eraill ar hyd Rheilffordd y Fan, ac o Lanidloes.
Roedd cymuned fwyngloddio wasgaredig debyg yn Nylife a oedd yn cynnwys rhes llai ffurfiol o tua 20 o fythynnod mwyngloddwyr yn Rhanc-y-mynydd. Yn wreiddiol, roedd gan bob un randir bychan ar gyfer tyfu llysiau ar lan ogleddol Afon Twymyn. Ceir hefyd rhes fyrrach o fythynnod ym Mryn-golau a thai a rhesi byrion gwasgaredig eraill a oedd hefyd, yn ôl pob tebyg, yn gysylltiedig â’r diwydiant mwyngloddio. Roedd safle pob un yn ddigysgod ar ymyl y rhostir. Ar un adeg, roedd yr anheddiad hefyd yn cynnwys capeli Annibynwyr, Bedyddwyr a Methodistiaid Calfinaidd, Eglwys Dewi Sant a ficerdy, ac ysgol. Roedd y rhain i gyd yn bodoli erbyn y 1850au. Roedd yna hefyd gefail a sawl tafarn. Yn yr un modd â phreswylwyr y Fan, byddai’r mwyafrif o’r gweithlu’n parhau i deithio i’r mwynglawdd bob dydd o’r ffermydd a’r bythynnod mwy gwasgaredig. Daeth diwedd i’r diwydiant mwyngloddio ac, yn sgil hynny, aeth yr anheddiad ar drai yn raddol. Gwelwyd yr ysgol yn cau ym 1925 ac Eglwys Dewi Sant yn dadfeilio ar ddechrau’r 20fed ganrif. Yn y diwedd, dymchwelwyd yr eglwys ym 1962 ac, yn ddiweddar, troswyd dau o’r capeli yn dai.
Mewn mannau eraill, ceir peth tystiolaeth o batrwm anheddu diwydiannol, gyda thyddyn mwyngloddiwr wedi goroesi ger Bryntail, ac olion bythynnod bychain eraill yn yr ardal.
Anheddiad ar ochr y ffordd ym Mhenffordd-las
Erbyn diwedd yr 17eg ganrif a dechrau’r 18fed ganrif, fan bellaf, roedd anheddiad gwasgaredig wedi dod i’r amlwg ym Mhenffordd-las oherwydd ei leoliad yr ochr draw i geunant dwfn Afon Clywedog, ar lwybrau hynafol rhyw hanner ffordd rhwng Llanidloes, Machynlleth a Llanbrynmair ac yn agos at y cefndeuddwr rhwng systemau Afon Hafren ac Afon Dyfi. Yn ddiamau, meithriniwyd ei ddatblygiad gan y ffaith ei fod ar ryw fath o dir neb, ar ymyl tir comin heb ei gau, ger y ffin rhwng hen raniad tiriogaethol rhwng Cydewain ac Arwystli a phlwyfi Trefeglwys a Phenegoes. Daeth fferm Esgair-goch yn ganolbwynt pwysig i’r Crynwyr yn Sir Drefaldwyn ar ddechrau’r 18fed ganrif ac roedd yno Dŷ Cwrdd a mynwent gysylltiedig, sef Quakers’ Garden. Erbyn dechrau’r 19eg ganrif, fel y nodir uchod, gorweddai ar y ffordd dyrpeg rhwng Llanidloes a Machynlleth, a wnaeth feithrin sefydlu’r hen efail a’r dafarn ar ochr y ffordd, sef y Stay-a-little. Daeth yn ganolfan wledig o bwys i addoli anghydffurfiol y cymunedau ffermio a mwyngloddio lleol yn ystod y 19eg ganrif. Ailadeiladwyd Capel y Bedyddwyr, a adeiladwyd gyntaf ym 1805, ym 1859. Sefydlwyd y capel Methodistiaid, oedd gynt yn Rock Villa, ym 1806, ac fe’i hailadeiladwyd ym 1875. Adeiladwyd ysgol newydd ac fe’i hagorwyd ym 1874. Gyda diboblogi gwledig o ganlyniad i ddiwedd y diwydiant mwyngloddio a chyfuno ffermydd yn ystod yr 20fed ganrif, gadawyd y ffermydd, y bythynnod a’r capeli, ac mae rhai ohonynt wedi’u hadnewyddu i fod yn ail gartrefi.
Trafnidiaeth a Chysylltiadau
Roedd dyffrynnoedd Afon Hafren a’i llednentydd Afon Clywedog ac Afon Trannon yn goridorau cysylltiadau o bwys trwy gydol hanes. Roeddent yn arwain o’r gororau a Chanolbarth Lloegr yn y dwyrain i ganol a gorllewin Cymru.
Ffyrdd Rhufeinig
Gorwedda’r gaer Rufeinig fechan ym Mhenycrocbren ar y bryniau ger blaen dyffryn Clywedog, i’r de o Ddylife, hanner ffordd rhwng y caerau Rhufeinig yng Nghaersws yn nyffryn Hafren tua’r dwyrain a Phennal yn nyffryn Dyfi tua’r gorllewin. Mae ffordd Rufeinig yn arwain ati a thybir ei bod yn croesi rhan ogleddol yr ardal o ddyffryn Trannon, trwy Gwartew, Penffordd-las a Phen Dylife. Mae’n debygol bod arwyddocâd milwrol i’r gaer fechan a’r ffordd, y mae’n ymddangos eu bod yn cael eu defnyddio ar ddechrau’r 2il ganrif o leiaf ond, fel y nodwyd uchod, mae hefyd yn bosibl eu bod wedi chwarae rhan yng ngweinyddu’r diwydiant mwyngloddio plwm yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Ni nodwyd unrhyw olion pendant o’r ffordd hon yn ardal y dirwedd hanesyddol, fodd bynnag. O’r herwydd, damcaniaethol yw ei hynt i raddau helaeth iawn, ond mae’n debygol ei bod wedi’i gorchuddio gan ffyrdd a thraciau diweddarach.
Ffyrdd, ffyrdd y porthmyn a thraciau mwyngloddwyr canoloesol a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol
Tybir bod llawer o rwydwaith heddiw y llwybrau troed, y lonydd a’r ffyrdd, yn rhai lleol ac yn rhai pellter hir, eisoes yn bodoli erbyn dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Fodd bynnag, ni fyddai’r rhan fwyaf o’r rhain ag unrhyw wyneb arnynt ac roeddent yn enwog am fod mewn cyflwr gwael cyn y gwelliannau a gyflwynwyd o ail hanner y 18fed ganrif ymlaen. Erbyn y Canol Oesoedd, gorweddai Llanidloes ar ganolbwynt llwybrau pellter hir ar hyd dyffryn Hafren rhwng aneddiadau â gwreiddiau canoloesol yn Llandinam tua’r gogledd-ddwyrain a Llangurig a Rhaeadr Gwy tua’r de-orllewin, ac ar draws y bryniau i’r gogledd o ddyffryn Clywedog i dref ganoloesol Machynlleth. Byddai traciau llai yn cysylltu ffermydd anghysbell â phorfeydd ucheldirol ac aneddiadau tymhorol yn y bryniau.
Gorweddai Llanidloes hefyd lle roedd dau lwybr pwysig y porthmyn yn cyfarfod. Defnyddid y rhain rhwng diwedd y cyfnod canoloesol a dyfodiad y rheilffyrdd ar ddiwedd y 19eg ganrif i fynd â gwartheg o orllewin Cymru i’r trefi marchnad ar hyd y gororau. Roedd llwybrau’r rhain eto’n rhedeg i lawr dyffryn Hafren o Langurig ac ar draws y bryniau o Fachynlleth.
Roedd y mwyngloddiau metel niferus yn yr ardal, a agorwyd yn bennaf yn ystod y cyfnod rhwng diwedd yr 17eg ganrif a chanol y 19eg ganrif, yn dibynnu bron yn ddieithriad ar geffylau pwn a thrafnidiaeth a dynnwyd gan geffylau i gludo dynion ac offer i’r mwyngloddiau ac i gertio mwynau wedi’u prosesu i’r gweithfeydd toddi, bron hyd ddiwedd y 19eg ganrif. O ganlyniad, mae ‘llwybrau’r mwynwyr’, fel y’u gelwir, yn nodwedd neilltuol yn llawer o’r tirweddau mwyngloddio yng nghanolbarth Cymru ac yng ngogledd-ddwyrain y wlad. Maent yn aml mewn mannau anghysbell ac yn cysylltu gwahanol elfennau’r gweithfeydd mwyngloddio, llety’r mwyngloddwyr a’r llwybrau a ddefnyddid i gludo mwynau wedi’u prosesu i weithfeydd toddi pell. Canlyniad cludo tunelli lawer o fwynau ar ffyrdd heb wyneb oedd y traciau plethedig sy’n nodweddiadol o rai safleoedd mwyngloddio yn ardal y dirwedd hanesyddol, yn benodol Pen Dylife a Gwestyn.
Ffyrdd tyrpeg a phontydd wedi’u gwella
Cafwyd gwelliannau mawr i’r rhwydwaith priffyrdd ar ddiwedd y 18fed ganrif, yn dilyn derbyn Deddf Dyrpeg Sir Drefaldwyn 1769, a gyflawnwyd o’r 1790au ymlaen. Rhoddodd hon bwerau i atgyweirio ffyrdd penodol amrywiol a’u lledu ac i godi tollau trwy dollbyrth i dalu am y gwaith hwn a gwaith cynnal a chadw parhaus.
Roedd y ffyrdd tyrpeg a gafodd eu gwella yn ardal y dirwedd hanesyddol ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif yn cynnwys y ffordd o’r Drenewydd i Aberystwyth trwy ganol Llanidloes a’r ffyrdd tyrpeg sy’n rhedeg tua’r gogledd i Drefeglwys a thua’r gorllewin i Fachynlleth. Yn wreiddiol, rhoddwyd tollbyrth i bob un ohonynt ar ymylon Llanidloes. Safai’r tollty, sydd bellach wedi’i ddymchwel, ar ochr ogleddol y dref, y tu hwnt i’r Bont Hir yn fforch y ffyrdd sy’n arwain i Drefeglwys ac i Fachynlleth. O ganlyniad, gelwid y strydoedd hyn yn Westgate Street ac Eastgate Street. Mae’r hen dollty ar y ffordd i’r Drenewydd, a ddechreuodd fel bwthyn â ffrâm bren, wedi goroesi ar Rodfa Fictoria (Stryd Hafren gynt), er nad yw’n amlwg mai dyna ydoedd. Roedd ffordd Trefeglwys yn dilyn llinell y ffordd fach fodern (B4569), i Neuadd Dol-llys, Gellilefrith a Phont Cerist, sef darn helaeth o ffin ddwyreiniol ardal y dirwedd hanesyddol. Roedd y ffordd dyrpeg i Fachynlleth yn dilyn llwybr eithaf gwahanol a oedd yn llai uniongyrchol na’r briffordd fodern. Dilynai’r hyn sydd bellach yn ffordd annosbarthedig o Bant-yr-ongle, ychydig i’r gorllewin o Lanidloes, i’r Fan a Borfa-newydd gan ailymuno â’r briffordd fodern eto ychydig i’r dwyrain o Ddinas. Ymhellach i’r gorllewin, roedd yn dilyn y ffordd annosbarthedig tua’r gogledd heibio i Gwartew i Benffordd-las ac ymhellach i’r gorllewin o’r pentref, gan ddilyn llwybr anial tebygol y ffordd Rufeinig ar draws Pen Dylife, heibio i gaer Rufeinig fechan Penycrocbren yn hytrach na llwybr y ffordd fodern i Ddylife yn nyffryn Twymyn.
Cofnodir cerrig milltir ar bob un o’r ffyrdd hyn ar argraffiadau cynnar mapiau’r Arolwg Ordnans, er mae’n bosibl mai un yn unig ohonynt sydd wedi goroesi yn ardal y dirwedd hanesyddol, ger Borfa-newydd. Maent yn nodweddiadol o’r gwelliannau i’r ffyrdd tyrpeg ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Mae chwareli bychain ar ochr y ffordd, yn rheolaidd bob hyn a hyn, hefyd yn nodweddiadol o’r cyfnod hwn o wella ffyrdd, yn enwedig yn rhai o’r ardaloedd mwy anghysbell, er enghraifft, i’r gogledd o Ddinas. Gwelliant mawr arall a wnaed i’r rhwydwaith ffyrdd ar ddechrau’r 19eg ganrif oedd atgyweirio pontydd, neu godi rai newydd. Mae’r ddwy bont sy’n croesi Afon Hafren yn Llanidloes yn enghreifftiau nodedig. Thomas Penson, sef syrfëwr Sir Drefaldwyn a gynlluniodd y ddwy bont a elwir y Bont Hir a’r Bont Fer. Fe adeiladwyd y gyntaf yn wreiddiol ym 1826 yn lle pont bren gynharach, a’r ail ym 1850 yn lle pont gynharach o gerrig. Ceir amcan o effaith y gwelliannau hyn o’r sylw canlynol a ddaw o The Beauties of England and Wales, Evans a gyhoeddwyd ym 1812:
‘The entrance to the town over a long wooden bridge, erected in 1741, that crosses the Severn, is by no means calculated, to prepossess the traveller in favour of the place’.
Roedd Llanidloes yn fan aros o bwys ar y ffyrdd tyrpeg a byddai gwahanol dafarnau’n darparu lluniaeth a llety ar gyfer teithwyr. Roedd tafarn wledig arall gynt ar fin y ffordd, rhwng 7 ac 8 milltir i’r gorllewin o Lanidloes yn y New Inn ger Gwartew, sydd wedi’i henwi ar fapiau’r Arolwg Ordnans yn y 1880au. Cofnodwyd y Stay-a-little Inn ar ddechrau’r 19eg ganrif ond roedd wedi diflannu erbyn diwedd y ganrif honno er iddi roi ei henw i Staylittle, sef Penffordd-las.
Ymysg strwythurau ac adeiladau eraill sy’n gysylltiedig â’r ffyrdd tyrpeg, naill ai’n uniongyrchol neu’n ddamweiniol, mae gefeiliau gynt a gofnodwyd ym Mhenffordd-las a’r Fan ac, yn fwy difrifol, safle hen grocbren ger ochr y ffordd a mwy neu lai ar gopa Pen Dylife, tua 100 metr i’r gorllewin o’r gaer Rufeinig fechan ym Mhenycrocbren. Darganfu gwaith cloddio yma ym 1938 dwll postyn canol crocbren, yn ogystal â haearnau crogi a phenglog, y tybir eu bod yn dyddio o tua 1700. Maent bellach yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan. Y crocbren yw tarddiad enw’r gaer Rufeinig fechan, sef Penycrocbren. Cawn hanes gof lleol (Siôn y Gof) a’r crocbren mewn llên gwerin. Dywedir ei fod wedi llofruddio’i deulu a thaflu eu cyrff i lawr siafft cloddfa. Yn ddiweddarach, fe’i gorfodwyd i ofannu ei haearnau crogi ei hun, sydd bellach yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan. Ymddengys mai ychydig sydd wedi’i ysgrifennu ynghylch safleoedd cynnar y gosb eithaf yng Nghymru wledig, er y gwelir tueddiad yma, fel yng ngweddill Prydain, i leoli crocbren ar gopa bryn, yn agos at ffordd ac yn agos at ffin awdurdodaeth gyfreithiol benodol. Yn yr achos hwn, mae’r safle ar y ffin rhwng llysoedd cantref Machynlleth a Llanidloes, a oedd yn dilyn hen raniadau tiriogaethol canoloesol Cyfeiliog ac Arwystli.
Mynediad at rwydweithiau’r gamlas a’r rheilffordd
Fel y nodwyd uchod, roedd camlas Maldwyn wedi’i hymestyn i’r Drenewydd erbyn dechrau’r 1820au. Daeth cyswllt y ffordd o Lanidloes i ben y gamlas yn y Drenewydd yn fodd pwysig o gludo nwyddau i ardal y dirwedd hanesyddol ac ohoni am bron iawn y 30 mlynedd nesaf.
Byddai dyfodiad y rheilffyrdd ar ddiwedd y 1850au yn gyfrifol am effeithio’n sylweddol ar ddatblygiad cymdeithasol a diwydiannol Llanidloes a’i chefnwlad. Dechreuwyd adeiladu’r rheilffordd o Lanidloes i’r Drenewydd ym 1855. Fe’i cwblhawyd o’r diwedd ym 1859, wedi toriad ym 1857 oherwydd prinder arian. Roedd gorsaf reilffordd fawr a thrawiadol yn ardal y dirwedd hanesyddol ar ochr ddwyreiniol Llanidloes. Bu’r rheilffordd yn rhedeg yn annibynnol ar weddill y rhwydwaith cenedlaethol am nifer o flynyddoedd, gan gludo teithwyr a nwyddau i’w trosglwyddo i’r gamlas neu ohoni tan i reilffordd Croesoswallt i’r Trallwng gael ei chwblhau ym 1859/1860 a rheilffordd y Trallwng i’r Drenewydd ym 1861. Defnyddiwyd cyfalaf a llafur lleol i adeiladu’r rheilffordd a David Davies o Landinam oedd y prif gontractwr, mewn partneriaeth â Thomas Savin, y peiriannydd rheilffordd o Lwyn-y-maen ger Croesoswallt. Roedd yn rhaid defnyddio’r ffordd i gludo’r locomotifau, y cerbydau a’r wagenni cyntaf i redeg ar y lein i ben y rheilffordd yn y Drenewydd, a hynny ar wagenni a wnaed yn arbennig. Daethpwyd â deunyddiau eraill ar y gamlas. Hefyd, agorwyd llinell Rheilffordd Canol Cymru a redai ar ochr ddwyreiniol Llanidloes i Raeadr Gwy ac ymlaen i Builth Road a Three Cocks ym 1864. Yn ddiweddarach, unodd â Chwmni Rheilffordd y Cambrian.
Roedd Gwaith Rheilffordd Llanidloes ar ochr gogledd-ddwyrain y dref ymysg y diwydiannau peirianyddol a ddatblygodd yn y dref ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif yn rhinwedd y rheilffordd. Roedd y gwaith yn arbenigo mewn cynhyrchu cledrau a darnau bwrw trymion eraill.
Roedd mwynglawdd Van, ger Llanidloes yn unigryw yng nghanolbarth Cymru oherwydd darparwyd rheilffordd ei hunan ar ei gyfer. Erbyn y 1870au, roedd yn un o’r mwyngloddiau plwm mwyaf cynhyrchiol a phroffidiol yng ngorllewin Ewrop. Adeiladwyd Rheilffordd y Fan ym 1871 ar led safonol. Roedd yn fforchio o reilffordd y Drenewydd i Fachynlleth yng Nghaersws ac yn rhedeg tua’r gorllewin ar hyd dyffryn Cerist a dyffryn Trannon. Roedd arosfeydd gynt yn yr ardal nodwedd ger Penisafmanledd ac ychydig i’r dwyrain o’r Fan. Roedd gan y rheilffordd borth rheilffordd tanddaearol trawiadol a oedd yn unigryw ymysg mwyngloddiau plwm y Deyrnas Unedig. Mae wedi’i adnewyddu ar safle’r mwynglawdd, gyda giatiau. Roedd y rheilffordd yn cludo teithwyr hefyd o 1873 ac wedi rhai anawsterau, fe’i hailagorwyd ym 1896 gan gwmni Rheilffordd y Cambrian ar gyfer cludo nwyddau. Menter breifat Iarll Vane oedd y rheilffordd ac fe osododd y mwynglawdd ar brydles i’r cwmni mwyngloddio. Ar yr un pryd, roedd yn gadeirydd Cwmni Rheilffordd y Cambrian. Caewyd y rheilffordd am y tro olaf ym 1940 ond mae llawer o’r lein wedi goroesi yng nghanol y dirwedd wledig amaethyddol heddiw a gellir olrhain yr argloddiau, y trychfeydd a gwely’r trac ar y llwybr gwreiddiol hyd heddiw.
Daeth Rheilffordd y Cambrian yn rhan o Reilffordd y Great Western (GWR) ar ôl y rhyfel byd cyntaf. Caewyd Rheilffordd y Fan am y tro olaf ym 1940, sef tuag 20 mlynedd ar ôl cau mwyngloddiau plwm Van. Cafodd GWR ei gwladoli ynghyd â gweddill rhwydwaith y rheilffyrdd ym 1948 i greu Rheilffyrdd Prydeinig. Roedd cystadlu mwyfwy rhwng y rheilffyrdd a’r ffyrdd o’r 1950au ymlaen. Caewyd llinell y Drenewydd i Lanidloes i deithwyr i’r de o Gyffordd Moat Lane ger Caersws ym 1963, er iddi barhau i gludo rhai nwyddau tan 1967. Fe’i cedwid ar agor i gludo deunyddiau a ddefnyddiwyd i adeiladu cronfa ddŵr Clywedog, i’r gorllewin o Lanidloes.
Y rhwydwaith ffyrdd modern
Gwnaed newidiadau helaeth iawn i’r rhwydwaith ffyrdd ledled ardal y dirwedd hanesyddol yn ystod yr 20fed ganrif, mewn ymateb i sawl ysgogiad. Yn benodol ymysg y rhain oedd yr anhrefn a achosodd tranc cyffredinol y diwydiant mwyngloddio lleol o tua’r 1890au, creu Coedwig Hafren o ddiwedd y 1930au ymlaen ac adeiladu Cronfa Ddŵr Clywedog yn y 1960au.
Bu newid sylweddol i lwybr y briffordd o Lanidloes i Fachynlleth i’r gogledd ac i’r gorllewin o Lanidloes a Chronfa Ddŵr Clywedog er mwyn creu’r llwybr presennol. Gwelwyd uwchraddio lonydd a thraciau bach cynt ac adeiladu rhai darnau newydd o ffordd dros bellter o 5 cilometr o Bant-yr-ongle, i’r gorllewin o Lanidloes, i’r dwyrain o Ddinas dros argae bridd newydd ym Mwlch-y-gle, gan ddisodli’r hen ffordd dyrpeg a oedd yn dilyn hynt ymhellach i’r gogledd trwy’r Fan a Borfa-newydd. Ymhellach i’r gorllewin, adeiladwyd darn newydd o ffordd bron 4 cilometr o hyd o ychydig i’r gorllewin o Ddinas, heibio i Luest-y-dduallt i Benffordd-las, gan ddisodli’r hen ffordd dyrpeg a oedd yn mynd heibio i Gwartew. Yn fwy trawiadol, gadawyd hynt y ffordd dyrpeg a aeth heibio i Riw Dyfeity Fawr ac ar draws Pen Dylife, sef hynt Llwybr Glyndŵr bellach, gan ddewis llwybr ymhellach tua’r gogledd trwy Ddylife ac Esgair-galed. Mae’n debyg i’r briffordd osgoi hwnnw yn gynharach oherwydd y gweithgareddau mwyngloddio dwys yn yr ardal hon hyd at ail a thrydydd degawd yr 20fed ganrif.
Gwnaed newidiadau sylweddol hefyd i lwybr ffyrdd bach i’r de ac i’r gorllewin o Gronfa Ddŵr Clywedog, a oedd yn cynnwys adeiladu ffordd 14 cilometr o hyd, a oedd fwy neu lai’n newydd, yn fforchio o ffordd Llanidloes i Fachynlleth ger Dyffryn ac yn mynd heibio i Fryntail a Llwyn-y-gog hyd fan ychydig i’r gorllewin o Benffordd-las.
Codwyd y syniad o ffordd osgoi i Lanidloes, ar ochr ddwyreiniol y dref, yn gyntaf ar ddiwedd y 1960au oherwydd tagfeydd traffig yn y dref, ac fe’i hagorwyd yn y diwedd ym 1991. Fe’i hadeiladwyd mewn trychfa newydd a oedd yn dilyn llwybr yr hen reilffordd GWR i Raeadr Gwy fwy neu lai. Roedd y llinell bellach wedi’i datgymalu.
Llwybrau beicio a llwybrau troed pellter hir modern
Rhed Llwybr Glyndŵr, sy’n Llwybr Cenedlaethol er 2000, trwy’r ardal o fan ger Dylife, ar draws Pen Dylife i Goedwig Hafren a thu hwnt i Benffordd-las, Llwyn-y-gog a Chwmbiga. Mae ail Lwybr Cenedlaethol, sef Llwybr Hafren, hefyd yn mynd trwy Lanidloes. Mae dau lwybr ar-ffordd Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol sy’n croesi ardal y dirwedd hanesyddol hefyd wedi’u datblygu yn y blynyddoedd diweddar, sef Lôn Cambria (lôn 81) sy’n rhedeg rhwng Rhaeadr Gwy a’r Drenewydd, trwy Lanidloes, a Lôn Las Cymru (lôn 8) sy’n dilyn y llwybr i’r gorllewin ac i’r de o Gronfa Ddŵr Clywedog, trwy Ddylife, Penffordd-las a Llanidloes.
Llunio Tirwedd Dyffryn Clywedog
Amlinellir y grymoedd sydd wedi helpu i ffurfio’r dirwedd hon o ddiddordeb hanesyddol arbennig yng Nghymru yn yr adrannau sy’n dilyn.
Ffynonellau cyhoeddig
Andrews, L. S., 1940. Changes in land utilisation in the Upper Severn valley, Montgomeryshire, 1750-1936, unpublished MSc thesis, University of Wales.
Anthony, C. R., 1995 , ‘Penson’s Progress: the work of a nineteenth-century county surveyor’, Montgomeryshire Collections 83, 115-75.
Apsimon, A. M., 1973. ‘The excavation of a bronze age barrow and a menhir at Ystrad-Hynod, Llanidloes 1965-6’, Archaeologia Cambrensis 122 , 35-54.
Ashton, O. R., 1971. ‘Chartism in Mid Wales’, Montgomeryshire Collections 62, 10-57.
Barton, P. G., 1999. ‘A history and conspectus of Montgomeryshire water corn mills’, Montgomeryshire Collections 87, 00-00.
Barton, P. G., 2003. ‘The timber and sawmilling trade in Montgomeryshire’, Montgomeryshire Collections 91, 29-52.
Baugham P. E., 1980. A Regional History of the Railways of Great Britain. Vol 11. North and Mid-Wales.
Beresford, M., 1988. New Towns of the Middle Ages.
Bick, D. E., 1975. The Old Metal Mines of Mid Wales 2.
Bick, D. E., 1977. The Old Metal Mines of Mid Wales 4.
Bick, D. E., 1985. Dylife: a Famous Lead Mine, Newent.
Bick, D. E., 1990. The Old Mines of Mid-Wales.
Bridgeman, G. T. O., 1868. ‘The princes of upper Powys’, Montgomeryshire Collections 1, 105-6.
Bridgeman, G. T. O., 1868. ‘The Welsh lords of Kerry and Arwystli’, Montgomeryshire Collections 1, 233-52.
Britnell, W., 1999. ‘Early prehistory’, in D. Jenkins (ed.), The Historical Atlas of Montgomeryshire, 17-20.
Britnell, W., 1999. ‘Bronze Age’, in D. Jenkins (ed.), The Historical Atlas of Montgomeryshire, 21-5.
Britnell, W., 1999. ‘Iron Age’, in D. Jenkins (ed.), The Historical Atlas of Montgomeryshire, 26-9.
Britnell, W., 1999. ‘Roman period’, in D. Jenkins (ed.), The Historical Atlas of Montgomeryshire, 30-3.
Britnell, W., 2001. Middle Wye Historic Landscape. Historic Landscape Characterisation, CPAT Report 420.
Britnell, W., 2002. Mynydd Hiraethog: Historic Landscape Characterisation, CPAT Report 455.
Britnell, W., 2003. Maelor Saesneg: Historic Landscape Characterisation, CPAT Report 525.
Britnell, W., 2003. Ty Draw, Llanarmon Mynydd Mawr, Powys: Interim Report on Survey and Excavation in 2002/03, CPAT Report 541.
Britnell, W., 2004. Elan Valley Historic Landscape. Historic Landscape Characterisation, CPAT Report 613.
Britnell, W., 2005. Vale of Llangollen and Eglwyseg Historic Landscape Characterisation, CPAT Report 683.
Britnell, W., 2006. Middle Usk Valley: Brecon and Llan-gors: Historic Landscape Characterisation, CPAT Report 764.
Britnell, W. J. and Martin, C. H. R., 1999. Dyffryn Clwyd Historic Landscape: Historic Landscape Characterisation, CPAT Report 320.
Britnell, W. J. and Martin, C. H. R., 1999. Dyffryn Tanat Historic Landscape: Historic Landscape Characterisation, CPAT Report 319.
Britnell, W. J. and Martin, C. H. R., 2000. Bro Trefaldwyn Historic Landscape. Historic Landscape Characterisation, CPAT Report 356.
Britnell, W. J., Martin, C. H. R. and Hankinson, R., 2000. Holywell Common and Halkyn Mountain Historic Landscape. Historic Landscape Characterisation, CPAT Report 357.
Brown, M., 2005. Dylife. The industrial and social history of a famous Welsh lead mine.
Burnham, H., 1995. A Guide to Ancient and Historic Wales: Clwyd and Powys.
Burt, R., Waite, P. and Burnley, R., 1990. The Mines of Shropshire and Montgomeryshire (Mineral Statistics).
Cadw, 1999. Powys. Register of Landscapes, Parks and Gardens of Special Historic Interest in Wales. Part 1: Parks & Gardens.
Cadw, 2001. Register of Landscapes, Parks and Gardens of Special Historic Interest in Wales. Part 2.2: Landscapes of Special Historic Interest.
Carr, A. D., 1992. ‘A debatable land: Arwystli in the Middle Ages’, Montgomeryshire Collections 80, 39-54.
Carter, H., 1965. The Towns of Wales: A Study in Urban Geography.
Collens, J., 1988. Iron Age and Romano-British Settlement in the Upper Severn Valley, unpublished PhD thesis, University of Birmingham.
Cozens, Lewis, 1953. The Van and Kerry Railways, with the Kerry Tramway.
Cozens, L., Kidner, R. W. and Poole, B., 2004. Mawddwy, Van & Kerry Branches.
Davies, D., 1969-70. ‘An essay on Llanidloes, 1861’, Montgomeryshire Collections 61, 97-114.
Davies, E., 1975. A Gazetteer of Welsh Place-Names.
Davies, J. A., 1973. Education in a Welsh Rural County 1870-1873
Davies, J. Conway, 1943-44. ‘Montgomeryshire manorial records in the National Library of Wales from 1536 onwards’, Montgomeryshire Collections 48, 53-85.
Davies, J. Conway, 1945-46. ‘Lordships and manors in the county of Montgomery’, Montgomeryshire Collections 49, 74-150.
Davies, J. I., 1985. ‘The history of printing in Montgomeryshire 1789-1960: the printers of Llanidloes – 1827-1960’, Montgomeryshire Collections 73, 38-53.
Davies, J. L. and Jones, R. H., 2006. Roman camps in Wales and the Marches.
Davies, R., 2005. Hope and Heartbreak. A Social History of Wales and the Welsh, 1776-1871.
Davies, W., 1810. A General View of the Agriculture and Domestic Economy of North Wales, London.
Edlin, H. L., 1952. ‘Britain’s new forest villages’, Unasylva 6, No. 4
Ellis, D. M., 1935. Astudiaethau o Enwau Lleoedd Sir Drefaldwyn, unpublished MA thesis, University of Wales.
Environment Agency, 2000. Severn Uplands Local Environment Agency Action Plan (LEAP), Environment Agency Wales.
Evans, E., 1949-50. ‘Arwystli and Cyfeiliog in the sixteenth century. An Elizabethan inquisition’, Montgomeryshire Collections 51, 23-37.
Evans, G. G., 1986. ‘Stream names of the Severn basin in Montgomeryshire’, Montgomeryshire Collections 74, 49-69.
Evans, J., 1800. A Tour through Part of North Wales, in the Year 1798, and at Other Times.
Evans, J., 1812. The Beauties of England and Wales.
Forde-Johnston, J., 1976. Hillforts of the Iron Age in England and Wales.
Foster, C. Le Neve, 1880. ‘Notes on the Van Mine’, Royal Geological Society of Cornwall Transactions, 10, 33-46.
Foster-Smith, J. R., 1978. The Mines of Montgomery and Radnorshire, British Mining 10, Northern Mines Research Society.
Gasquoine, C. P., 1922, A Biography of a Railway.
George, T. Neville, 1970. British Regional Geology: South Wales.
Gibson, A. M., 1998, Prehistoric Funerary & Ritual Sites: Upper Severn Valley, CPAT report 277.
Gilman, K., 2002. Modelling the effect of land use change in the upper Severn catchment on flood levels downstream, English Nature Research Reports 471.
Godwin, F. and Toulson, S., 1977. The Drovers’ Roads of Wales. Grimes, W. F., 1951. Prehistory of Wales.
Gregory, K. J. (ed), 1997. Fluvial Geomorphology of Great Britain.
Grimes, W. F., 1951. Prehistory of Wales.
Hamer, E., 1868-69. ‘Ancient Arwystli, its earthworks and other ancient remains’, Montgomeryshire Collections 1 (1868), 207-32; 2 (1869), 51-65.
Hamer, E., 1872-76. ‘Parochial Account of Llanidloes’, Montgomeryshire Collections 4 (1871), 413-32; 5 (1872), 189-248; 6 (1873), 155-96; 7 (1874), 37-60; 9 (1876), 247-86; 10 (1877), 231-312; 11 (1878), 45-60.
Hamer, E., 1879. ‘A parochial account of Trefeglwys’, Montgomeryshire Collections 12, 1-28.
Haslam, R., 1979. Buildings of Wales: Powys.
Hemp, W. J., 1929 , ‘A Neolithic camp in Wales’, Archaeologia Cambrensis 84 , 145.
Hogg, A. H. A., 1979. British Hill-Forts. An Index, British Archaeological Reports, British Series 62.
Horsfall-Turner, E. R., 1908. A Municipal History of Llanidloes.
Howell, A., 1875-83. ‘Roads, bridges, canals, and railways in Montgomeryshire’, Montgomeryshire Collections 8 (1875), 313-34; 9 (1876), 177-92; 16 (1883), 1-22.
Hughes, S., 1981. The Archaeology of the Montgomeryshire Canal.
Hughes, S. J. S., 1991. ‘The Van Mine, Llanidloes, Powis, Wales’, UK Journal of Mines and Minerals 9, 16-23.
Jarrett, M. G., (ed.), 1969. The Roman Frontier in Wales.
Jenkins, D., 1990. ‘The deomography of late Stuart Montgomeryshire, c.1660-1720’, Montgomeryshire Collections 78, 73-1113.
Jenkins, J. G., 1963-64. ‘The woollen industry in Montgomeryshire’, Montgomeryshire Collections 58, 50-69.
Jenkins, J. G., 1969. The Welsh Woollen Industry.
Jervoise, E., 1936. The Ancient Bridges of Wales and Western England.
Jones, A., 1984. Welsh Chapels.
Jones, Cyril, 1994. Calon blwm: portread o ardal Dylife ym Maldwyn. Llandysul: Gomer.
[Jones, E. K.] 1904. ‘Staylittle Tumulus’, Montgomeryshire Collections 33, 158.
Jones, F., 1954. The Holy Wells of Wales.
Jones, G. D. B., 1961. ‘Montgomeryshire. Caersws: the Roman road system’, Bulletin of the Board of Celtic Studies 19, 177–92.
Jones, G. R. J., 1964. ‘The distribution of bond settlements in north-west Wales’, Welsh History Review 2 (1964), 1-36.
Jones, H. Longueville, 1870. ‘On the antiquities of Montgomeryshire’, Montgomeryshire Collections 3 (1870), 203-10.
Jones, I. E., 1983. ‘The Arwystli enclosures 1816-1828’, Montgomeryshire Collections 71, 61-69.
Jones, I. E., 1985. ‘The enclosure of the Llanidloes and Caersws Commons’, Montgomeryshire Collections 73 (1985), 54-68.
Jones, I. G., 1980. ‘Patterns of religious worship in Montgomeryshire in the mid-nineteenth century’, Montgomeryshire Collections 68, 93-118.
Jones, J. A. and Moreton, N. J. M., 1977. Mines and Minerals of Mid-Wales.
Jones, N., Walters, M, and Frost, P., 2004. Mountains and Orefields: metal mining landscapes of mid and north-east Wales, Council for British Archaeology Research Report 142.
Jones, M. C., 1870. ‘The devolution of the manors of Montgomeryshire’, Montgomeryshire Collections 3 (1870), 29-50.
Jones, M. C., 1879. ‘Enclosure of common lands in Montgomeryshire’, Montgomeryshire Collections 12, 267-96.
Jones, O. T., 1922. ‘Lead and Zinc. The Mining District of North Cardiganshire and West Montgomeryshire’, Memoirs of the Geological Survey 20.
Krause, J., 1983. ‘Field excursion to the Clywedog reservoir and dam, and the Dylife lead mining area’, Proceedings of the Shropshire Geological Society 3, 12-14.
Lewis, E. A., 1942. ‘Leet proceedings of the manor of Arwystli Uwchcoed at the National Library of Wales: 1784 to 1800’, Montgomeryshire Collections 47, 183-207.
Lewis, E. A., 1943-44. ‘Leet proceedings of the manor of Arwystli Uwchcoed at the National Library of Wales: 1802 to 1819’, Montgomeryshire Collections 48, 11-29.
Lewis, S., 1833. Topographical Dictionary of Wales.
Miles D. and Suggett, R., 2003. ‘List 144. Welsh Dendrochronological Project – Phase Seven’, Vernacular Architecture 34, 120–1.
Moore, P. D. and Chater, E. H., 1969. ‘Studies in the vegetational history of mid-Wales: 1, the post-glacial period in Cardiganshire’, New Phytologist 68, 183-96.
Moore-Colyer, R., 1993. Welsh Cattle Drovers.
Morgan, R., 1982. ‘The territorial divisions of medieval Montgomeryshire’, Montgomeryshire Collections 70, 11-39.
Morgan, R., 1983. ‘A Powys lay subsidy roll, 1293’, Montgomeryshire Collections 71, 106-7.
Morgan, R., 2001. A Study of Montgomeryshire Place-Names.
Morgan, R, Chapman, M. Ll. and Morris, E. R., 1991. ‘A history of Llanidloes’s Borough Charters’, Montgomeryshire Collections 79 (1991).
Morris, E. R., 1959-60. ‘Quakerism in west Montgomeryshire’, Montgomeryshire Collections 56, 45-65.
Morris, E. R., 1961-62. ‘Quakerism in west Montgomeryshire’, Montgomeryshire Collections 57, 17-22.
Morris, E. R., 1963-64. ‘Who were the Montgomeryshire Chartists?’, Montgomeryshire Collections 58, 00-00.
Morris, E. R., 1967-68. ‘Edward Hamer, Llanidloes, 1840-1911’, Montgomeryshire Collections 60, 47-50.
Morris, E. R., 1982. ‘Monasteries, religious houses and their properties’, Montgomeryshire Collections 70, 134-6.
Morris, E. R., 1993. Llanidloes Town and Parish.
O’Neil, B. H. St. J., 1934. ‘The castle and borough of Llanidloes’, Montgomeryshire Collections 43, 47-65.
Owen, B., 2003. Transportation by Montgomeryshire Courts 1788-1868.
Parliamentary Gazetteer, 1843. The Parliamentary Gazetteer of England and Wales, adapted to the new Poor-law, franchise, municipal and ecclesiastical arrangements, and compiled with a special reference to the lines of railroad and canal communication, as existing in 1840-43. Illustrated by a series of maps forming a complete county-atlas of England, and by four large maps of Wales. With an appendix containing the results, in detail, of the census of 1841.
Peate, I. C., 1940. The Welsh House.
Purseglove, J., 1989. Taming the Flood: A History and Natural History of Rivers and Wetlands, Oxford.
Putnam, W. G., 1961-62. ‘Excavations at Pen-y-crocbren’, Montgomeryshire Collections 57, 33-41.
RCAHM, 1911. Inventory of the Ancient Monuments in Wales and Monmouth I – County of Montgomery, 171-2.
Rees, Sian E., Jones, Nigel W. and Silvester, Robert J., 2007. ‘Conservation and investigation at Cwmhir Abbey, Powys’, Archaeologia Cambrensis 154, 00-00.
Richards, M., 1969. Welsh Administrative and Territorial Units.
Robinson, D. M., 2006. The Cistercians in Wales: Architecture and Archaeology 1130–1540.
Smith, P., 1975. Houses of the Welsh Countryside.
Smith, R. T. and Taylor J. A., 1969. ‘The post-glacial development of vegetation and soils in Northern Cardiganshire’, Transactions of the Institute of British Geographers, No. 48 (Dec., 1969), 75-96
Silvester, R. J., 1992. Montgomeryshire Historic Settlements, CPAT report 40 October 1992.
Soil Survey of England and Wales. Soils of England and Wales. Sheet 2 Wales, Scale 1:250,000.
Soulsby, I., 1983. The Towns of Medieval Wales.
Sothern, E. and Drewett, D. R., 1991. Montgomery Inventory of Ancient Woodland (Provisional), Nature Conservancy Council.
Spurgeon, C. J., 1966. ‘The castles of Montgomeryshire’, Montgomeryshire Collections 59, 1-60.
Spurgeon, C. J., 1972. ‘Enclosures of Iron Age Type in the upper Severn Basin’, in C. Burgess and F. Lynch (eds), Prehistoric Man In Wales and the West, 00-00.
Stephenson, D., 2005. ‘The most powerful persons in the land: patterns of power in Arwystli in the twelfth and thirteenth centuries’, Montgomeryshire Collections 93 (2005), 17-36.
Stephenson, D., 2006. ‘The Arwysli case’, Montgomeryshire Collections 94, 1-13.
Taylor J. A., 1973. ‘Chronometers and chronicles: a study of the palaeoenvironments of west central Wales’, Progress in Geography 5, 248–334.
Taylor, M. P. and Lewin, J., 1996. ‘River behaviour and Holocene alluviation: the river Severn at Welshpool, mid Wales, UK’, Earth Surface Processes and Landforms 2, 77-91.
Taylor, W., 1989. ‘Staylittle School: the early years of a rural school in Wales, 1870-1879’, Montgomeryshire Collections 77 (1989), 107-36.
Thomas, D., 1998. Hafren Forest Archaeological Assessment, CPAT report 281 June 1998.
Thomas, G. C., 1997. The Charters of the Abbey of Ystrad Marchell.
Thomas, J. G., 1955-56. ‘The distribution of the commons in part of Arwystli at the time of the enclosures’, Montgomeryshire Collections 54, 27-33.
Timberlake, S., 1996. ‘Dylife Lead Mine’, Archaeology in Wales 36 , 79 .
Vaughan Owen, C. E., 1957-58. ‘An Arwystli Note-Book: No. 5’, Montgomeryshire Collections 55, 193-200.
Vaughan Owen, C. E., 1969-70. ‘Llanidloes Market Hall’, Montgomeryshire Collections 61, 58-64.
Walters, M., 1993. Powys Metal Mines Survey 1993: consultation draft, CPAT report 89 January 1994 .
Williams, C J., 2002. ‘Cobden and Bright and the Dylife lead mines’, Welsh History Review, 21 118-148.
Williams, C. J. and Bick, D., 1992. ‘List of metalliferous mine sites of industrial archaeological importance’, in C. S. Briggs, Welsh Industrial Heritage: A Review.
Williams, D. H., 1990. Atlas of Cistercian Lands in Wales.
Williams, D. H., 1977. Book review, Montgomeryshire Collections 85, 128-30.