Skip to main content

Llwyfandir ucheldirol, ymylon bryniau a dyffrynnoedd nentydd coediog, gyda ffermydd gwasgaredig yn tarddu o’r canol oesoedd. Maent wedi’u cysylltu â phatrymau caeau afreolaidd ynghyd ag ardaloedd o batrymau caeau mwy rheolaidd yn cynrychioli cau tir comin gynt yn y 19eg ganrif.

Cefndir Hanesyddol

Roedd rhan o’r ardal yn ffurfio maerdref neu anheddiad taeog. Roedd yr anheddiad wedi’i gysylltu â phrif lys cwmwd Arwystli Uwchcoed yn Nhalgarth, tua 4 cilomedr i’r dwyrain, yn nyffryn Afon Trannon ger Trefeglwys. Yno y gorweddai prif diroedd âr yr arglwydd. Disgrifiwyd rhannau o’r ardal yn yr 17eg ganrif fel ‘pentref’ Y Faerdref a rhannau fel Tir Bwrdd, yn dynodi tiroedd oedd yn eiddo i ddemên yr arglwydd. Cofnodwyd yr anheddiad, sydd efallai’n cael ei gynrychioli gan glwstwr o ffermydd, am y tro cyntaf yn y 1290au. Roedd yn un o’r ychydig faerdrefi ucheldirol yng Nghymru. Fe’i hystyriwyd yn enghraifft brin o integreiddio daliadau’r ucheldir a daliadau’r iseldir yn un strwythur taeog yn ystod y cyfnod canoloesol. Yn ddiweddarach, roedd yr ardal yn rhan o drefgordd faenorol Esgeiriaeth ym mhlwyf degwm Trefeglwys, Sir Drefaldwyn yn y 19eg ganrif.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Ceir yma lwyfandir ucheldirol ac ymylon bryniau sydd ar y cyfan rhwng 300 metr a 445 metr uwchben lefel y môr. Mae dyffrynnoedd ag ochrau serth nentydd sy’n llifo tua’r gogledd i Afon Trannon, gan gynnwys Nant Cwmcarreg-ddu, yn torri ar eu traws. Mae rhan orllewinol yr ardal wedi’i gorchuddio â phriddoedd mân lomog neu siltiog, wedi’u draenio’n dda, dros graig. Yn hanesyddol, plannu coetir a magu da byw oedd yn gwneud orau yma. Gorchuddir rhan ddwyreiniol yr ardal yn bennaf â phriddoedd mân lomog sy’n araf athraidd ac yn ddirlawn yn dymhorol. Maent yn tarddu o ddyddodion drifft o siâl a charreg llaid. Yn hanesyddol, roedd y tir yn fwyaf addas ar gyfer magu da byw a rhywfaint o ffermio llaeth ar laswelltir parhaol neu dymor byr, a pheth tyfu cnydau. Mae darnau mawr troellog o goetiroedd llydan-ddeiliog, lled-naturiol a hynafol yn goroesi ar hyd ochrau serth dyffrynnoedd y nentydd ar ochr ogleddol yr ardal.

Mae’r ddwy fferm gyfagos, sef Fairdre Fawr a Fairdre Fach, yn cynnwys yr elfen ‘maerdre(f)’ yn eu henwau. Awgryma hyn fodolaeth ‘pentrefan’ canoloesol oedd ynghlwm â llys pennaeth (ynghyd â’r elfennau ‘fawr’ a ‘fach’), sy’n cadarnhau’r cysylltiad â phatrymau anheddu canoloesol a nodwyd uchod. Mae’r enw ‘Sofl-ceirch’ sydd ar fferm fechan tuag ochr ddwyreiniol yr ardal yn tarddu o’r elfennau ‘sofl’ a ‘ceirch’ ac yn awgrymu cysylltiad traddodiadol â thyfu grawn. Ardal fugeiliol yw hon yn bennaf erbyn heddiw ond nodwyd ardaloedd bychan o dyfu grawn, yn gysylltiedig â’r prif ffermydd, yn arolwg y degwm ar ganol y 19eg ganrif.

Hapddarganfuwyd bwyell forthwyl ger Fairdre Fawr sy’n awgrymu gweithgaredd cynhanesyddol cynnar yn yr ardal. Mae’n dyddio, yn ôl pob tebyg, o’r Oes Efydd.

Caeau afreolaidd mawr a bach sydd bennaf ar y tir is tua’r gogledd a’r dwyrain. Mae’n debyg eu bod yn cynrychioli proses raddol o glirio a chau coetir gynt, o bosibl ers y cyfnodau cynhanesyddol, Rhufeinig a chanoloesol. Ceir caeau mawr ag ochrau syth ar y tir uwch tua’r de a’r gorllewin sydd, yn ôl pob tebyg, yn cynrychioli cau tir pori oedd gynt yn agored. Caewyd ardal o gaeau ag ochrau syth tuag ochr orllewinol yr ardal o ganlyniad i ddeddf seneddol ar ddechrau’r 19eg ganrif.

Ffermydd gwasgaredig sy’n cynrychioli anheddu modern, gan gynnwys rhai o darddiad canoloesol yn ôl pob tebyg, sef Fairdre Fawr a Fairdre Fach. O edrych ar enw Borfa-newydd, mae’n bosibl ei fod wedi deillio o lechfeddiannu ar fin yr hen dir comin ucheldirol ar Fryn-y-Fan, a gaewyd o ganlyniad i ddeddf cau tir Arwystli ar ddechrau’r 19eg ganrif.

Ffynonellau

Cofnod yr Amgylchedd Hanesyddol; disgrifiadau Cadw o Adeiladau Rhestredig; mapiau modern 1:10,000, 1:25,000 yr Arolwg Ordnans ac argraffiad 1af map 1:2,500 yr Arolwg Ordnans ; Evans 1949-50; Jones 1964; Jones 1983; Morgan 2001; Richards 1969; Arolwg Pridd Cymru a Lloegr; Sothern a Drewett 1991

Upland plateau and wooded hill edge and stream valleys with dispersed farms of medieval origin associated with irregular field patterns together with areas of more regular field pattern representing 19th-century enclosure of former common land.