Neidio i'r prif gynnwys

Cefndir Hanesyddol

Tir a neilltuwyd i William Alexander Madocks fel rhan o Ddeddf Cau Tir 1803. Draeniwyd y tir ganddo fel rhan o’r broses o adeiladu’r argloddiau amrywiol. Nid yw hi’n glir pa ardaloedd a ddraeniwyd gan argloddiau cynharach a llai, ond draeniwyd yr holl ardal pan grëwyd y Cob, a gwblhawyd yn derfynol ym 1813. Crëwyd ffermydd ar yr ardaloedd a ddraeniwyd, ac mae gwahanol reilffyrdd diwydiannol a chyhoeddus wedi croesi’r ardal ers 1842. Ar hyn o bryd mae cangen Pwllheli o’r Rheilffyrdd Rhanbarthol ac un fraich o Reilffordd Ucheldir Cymru sydd wedi’i hadfywio, ar waith yn yr ardal. Mae E Beazley yn disgrifio hanes adeiladu’r Cob ac adfer y traeth mewn cryn fanylder yn ei llyfr ‘Madocks & the wonder of Wales’.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Tir a adenillwyd yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg

Ardal wastad, er ceir rhai brigiadau a fyddai wedi bod yn ynysoedd cyn 1813, ac a allai fod wedi cyflenwi creigiau ar gyfer yr argloddiau yn ogystal â chynhyrchu haearnfaen a mwynau eraill mewn un achos. Mae’r lonydd ar draws yr ardaloedd a adenillwyd yn tueddu i fod yn hir ac yn syth. Mae’r rhan fwyaf o ffermdai’n fodern ac wedi’u hadeiladu â choncrid, er bod yr adeiladau fferm eu hunain yn aml wedi cael eu hadeiladu yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda waliau o gerrig crwn lleol. Mae siapiau’r caeau’n rheolaidd (oherwydd bod angen ffosydd draenio), ond mae’r ffiniau’n gymysgedd rhyfedd o waliau cerrig, cloddiau pridd a ffensys pyst a weiar.

Mae rheilffyrdd safonol a chul yn rhedeg drwy’r ardal, a chynigir ymestyn Rheilffordd Ucheldir Cymru o Gaernarfon i ymuno â’r Rheilffordd Ucheldir Cymru sydd eisoes yn rhedeg ar hyd trac y 1920au mewn blynyddoedd. Cynigir codi estyniad sylweddol i’r amgueddfa reilffordd yn SH 5734 3960 hefyd.

The story of the building of the Cob, and the reclamation of the traeth is described in considerable detail by E Beazley in her book 'Madocks & the Wonder of Wales'.