Neidio i'r prif gynnwys

Cefndir Hanesyddol

Dyma ardal fawr o ucheldir anghysbell a gerwin sy’n cynnwys sawl copa uchel a’r pwysicaf ohonynt yw Manod Mawr, Manod Bach a Moelwyn Mawr. Ceir gweddillion chwareli llechi o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg a’r ugeinfed ganrif (er enghraifft chwarel Fron-boeth ar lethrau de orllewinol Moelwyn Mawr – gweler y ffotograff) ac isadeiledd cysylltiedig (fel tai peiriannau, incleiniau a thraciau) o amgylch gwaelod y mynyddoedd, yn ogystal â rhai waliau cau mawr, ond ac eithrio’r rhain, prin iawn yw’r arwyddion y bu anheddiad parhaol yma nac unrhyw ymgais am gynhaliaeth.

Nodweddion hanesyddol allweddol yn y tirwedd

Mynydd agored, olion chwarela

Prif nodwedd yr ardal hon yw nad oes iddi unrhyw nodweddion arwyddocaol y bu unrhyw un yn byw nac yn gweithio yma, ac eithrio olion chwarela a rhai waliau cau.

Unenclosed mountain, traces of quarrying