Neidio i'r prif gynnwys

Cefndir Hanesyddol

rdal ag Afon Teigl yn ffin iddi yn y de ddwyrain, ac sy’n cynnwys y tiroedd caeedig ar lethrau isaf y Manod Mawr i lawr at y tir amaethyddol gwell yng nghyffiniau Pengwern, dyma un o ddim ond tair neu bedair ardal o fewn yr astudiaeth sydd ag amaethyddiaeth yn brif nodwedd iddi (gweler hefyd 24, 26 a 27). Saif i’r de a’r de-ddwyrain o Flaenau Ffestiniog ac mae’n diffinio cyrion allanol yr astudiaeth. Dengys Rhôl Gymorth Lleyg Meirionnydd mai plwyf Ffestiniog oedd y tlotaf ym Meirionnydd ar ddiwedd y drydedd ganrif ar ddeg (ei gynhwysedd trethadwy hynod isel oedd 6 swllt y fil o erwau, o’i gymharu â £7 ar gyfer Penrhyndeudraeth, sef y plwyf cyfoethocaf), a dyma hefyd ‘yr ardal leiaf datblygedig yn yr holl blwyf, yr un gyda’r nifer lleiaf o drigolion, a’r tlotaf’. Felly nid yw’n syndod nad oedd mae’n debyg unrhyw amaethyddiaeth ganoloesol wedi datblygu, ac nid oes ond ychydig olion yn y tirwedd sy’n dyddio o’r cyfnod hwnnw. Ceir ychydig olion o aneddiadau cynhanesyddol posibl yma, ond dim patrymau caeau amlwg o’r cyfnod hwnnw.

Y mae’n ardal a oedd yn rhannol ym mherchnogaeth ystâd Tan y Manod ar ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ffaith sy’n amlwg yng nghysondeb dyluniad a gwedd rhai o’r adeiladau amaethyddol. Aeth nifer o’r ffermydd yn ddiweddarach i ddwylo chwarelwyr, neu yn fwy aml bryd hynny, stiwardiaid a rheolwyr. Fodd bynnag, mae’r ardal wedi cadw ei hawyrgylch amaethyddol, yn hytrach na’r aneddiadau economi-gymysg a welid yn ardaloedd chwarelyddol Sir Gaernarfon.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Systemau caeau o ddechrau’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ffermydd cerrig, coedlannau

Mae’r caeau, yn bennaf yn amgaeadau mawr afreolaidd o dir pori a ddiffinnir gan waliau cerrig mawr a thrawiadol yn aml (er y ceir ffensys pyst a weiren mewn rhai mannau). Mae’r ffermydd wedi’u gwasgaru dros ardal eang gydag un llwybr yn arwain atynt (ychydig o ffyrdd sydd), ond er hynny maent yn adeiladau sylweddol o garreg (fel arfer gydag wyneb dwbl ac yn ddeulawr), gydag ystod o adeiladau allanol o’u cwmpas wedi’u codi o garreg, ac fel arfer wedi’u trefnu’n fras ar ffurf buarth. Maent bron i gyd yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, gyda llawer o ychwanegiadau o’r ugeinfed ganrif (sydd yn aml yn cynnwys y to arferol) o haearn rhychiog wedi’i baentio’n llwyd. Tra ceir clystyrau o wrychoedd a choed yn yr ardal ni cheir unrhyw goedlannau sylweddol fel sydd i’w gweld ymhellach i’r gorllewin.

An area bounded to the south-east by the Afon Teigl, which includes the enclosures on the lower slopes of Manod Mawr down to the better agricultural land around Pengwern, this is one of only three or four areas within the study whose dominant characteristic is agricultural (see also 24, 26 and 27). It lies to the south and south-east of Blaenau Ffestiniog and defines the outer edge of the study.