Neidio i'r prif gynnwys

Cefndir Hanesyddol

Mae’n debyg y codwyd y ty cyntaf ar y safle gan Robert Griffith oddeutu 1748, fel olynydd i dy arall ar safle arall gerllaw, o bosibl lle saif yr Oakeley Arms heddiw. Does dim amheuaeth y dewiswyd y safle newydd oherwydd yr olygfa wych dros Faentwrog a Dyffryn Ffestiniog. Y mae’r ty presennol yn cynnwys rhai rhannau o dy’r ddeunawfed ganrif, ond fe’i hailadeiladwyd, a’i helaethu, ar ddiwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn gynharach, cyfeiriwyd at yr ystâd fel Bwlch Coed Dyffryn. O 1789 yr oedd ym mherchnogaeth y teulu Oakeley, yr oedd eu heiddo yn ffurfio’r ystâd fwyaf yn ardal yr astudiaeth ac a oedd hefyd yn berchen ar chwareli llechi ar fferm Rhiwbryfdir ym Mlaenau Ffestiniog. Adeiladwyd y ty presennol gan William Edward Oakeley, o elw’r chwareli, ac er gwaethaf y safle cyfyngedig, yr oedd yno adeiladau allanol helaeth gan gynnwys bloc ar wahân ar gyfer y gweision a phwll nofio dwr hallt, gyda dwr ar ei gyfer yn cael eu gludo ar y trên o Borthmadog. Mewn mannau eraill ar yr ystâd ceir porthdai, ty agweddi, adeiladau fferm, melin lifio, gefail, pantri helgig a thy golchi.

Bu i’r William Oakeley cyntaf, a ddaeth yn berchennog Tan y Bwlch drwy briodi’r aeres, Margaret Griffith, wario arian sylweddol ar wella’r ystâd, ac yn ogystal â hynny, draeniodd Ddyffryn Ffestiniog ac adeiladu argloddiau ar hyd yr Afon Dwyryd (gan dderbyn medal aur gan Gymdeithas y Celfyddydau am y gwaith ym 1797). Parhaodd ei etifeddion i wella’r ystâd hyd nes iddynt fynd yn brin o arian ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, a pharhaodd y teulu fyw yno hyd 1962, pryd y gwerthwyd y ty a’r gerddi i ddyn busnes a oedd yn bwriadu ei ddatblygu fel clwb gwledig a phentref gwyliau, ond ni adeiladwyd ond 9 o’r 40 siale a gynlluniwyd cyn i’r eiddo gael ei werthu eto, ym 1968, i Barc Cenedlaethol Eryri. Fe’i rhedir bellach fel canolfan astudio.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Gerddi a thy annedd o’r ddeunawfed ganrif

Ceir tirwedd helaeth sydd wedi’i ddylunio, a gallai rhannau, o leiaf, ddyddio o ddechrau’r ddeunawfed ganrif, gan gynnwys ardaloedd eang o goetir naturiol yn wreiddiol. I’r gorllewin, i’r de ac i’r de-ddwyrain o’r ty ceir parcdir helaeth neu hanner-parcdir gyda llawer o goed enghreifftiol a choedlannau, gan gynnwys ffug adeilad bychan, neu nodwedd i dynnu’r llygad ar dwmpath artiffisial, a chwt cychod ar yr afon. I’r gogledd a’r gogledd-orllewin ceir parc ceirw, coetir a llyn artiffisial, er y bu’n llyn naturiol yn wreiddiol, mae llawer o goed egsotig wedi’u hychwanegu i’r goedlan, ac fe’i croesir hefyd gan Reilffordd Ffestiniog (yr oedd gorsaf breifat ar gyfer y ty). Mae’r dyffryn bychan a’r nant sy’n llifo i lawr o’r llyn i groesi’r rhodfa ddwyreiniol wedi derbyn llawer o welliannau artiffisial. Ceir mwy o goetir ar ochr ddeheuol Dyffryn Ffestiniog ac yn weddol ddiweddar plannwyd coed conwydd i orchuddio’r parc ceirw.

Gall fod y parcdir ger yr Oakeley Arms yn dyddio o ddechrau’r ddeunawfed ganrif, os mai yma y safai’r ty yn y cyfnod hwnnw. Mae’r parcdir diweddarach yn debyg o ran ffurf a dechreuwyd gwneud gwelliannau i’r ardal uwchlaw’r ty a’r mynedfeydd o’r gogledd ddwyrain a’r gogledd (gynt) yn niwedd y ddeunawfed ganrif, yn y dull ‘Rhamantaidd’ a oedd yn ffasiynol yr adeg honno. Bu i ddatblygiadau yn yr ardal hon yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg ddilyn yr un thema gan gydymffurfio’n gryf â syniadaeth diwedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg am yr hyn oedd yn ‘Ddarluniadwy’ ty.

Prif nodwedd yr ardd yw’r teras hir ar ochr dde-ddwyreiniol y ty, sy’n ymestyn ymhell y tu hwnt i’r ty tua’r gogledd-ddwyrain. Oddi tano ceir lawntiau serth a oedd ar un adeg yn cynnwys cynlluniau helaeth o welyau blodau, ond sydd bellach yn cynnwys dau bwll anffurfiol modern, grwpiau o brysgwydd ac y mae coed enghreifftiol yn ymdoddi i’r ardaloedd mwy coediog ar y cyrion. Mae’r ardd gegin, sydd bellach yn faes parcio, ym mhen de-orllewinol pellaf yr ardd.

Mae’r adeiladau ar yr ystâd wedi cadw cymeriad y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ychydig o newid a fu ar y Plas wrth ei droi’n ganolfan astudio, er bod feranda o haearn bwrw ar y llawr gwaelod wedi’i hamgáu a’i throi’n far. Mae’r porthdai, y rhodfeydd a’u hatodion – gatiau a ffensys – wedi cadw cymeriad y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Ymddengys bod y garreg ar gyfer yr adeiladau a’r ffyrdd cloddiog wedi dod o chwarel Oakeley ei hun yn Gelli Grin, ar ochr arall Afon Dwyryd (gweler hefyd adeiladau ystâd yr Oakeley yn ardal 29).

The first house on the site was probably built by Robert Griffith in about 1748, as successor to a house on another, but nearby, site, possibly where the Oakeley Arms is now located. The new site was undoubtedly chosen for its fine view over Maentwrog and the Vale of Ffestiniog. The present house incorporates some parts of the eighteenth-century house but was rebuilt, much larger, in the late nineteenth century.