Neidio i'r prif gynnwys

Cefndir Hanesyddol

Bu Clough Williams-Ellis yn datblygu’r syniad ers tro o greu pentref a fyddai’n cynnwys adeiladau da ond heb fod mewn unrhyw arddull gyson, er mwyn profi nad oedd angen i adeiladau modern fod yn hyll ac y gallai cymysgedd o arddulliau weithio – mewn geiriau eraill, nad oedd angen i bentref gael cnewyllyn o hen adeiladau i gyd yn yr un arddull, i fod yn ddeniadol. Yn 1925 darganfu, o’r môr, y safle delfrydol, a bu’n ddigon lwcus i allu ei brynu. Yr adeg hynny, yr oedd ty, sef Aber-Iâ ar y lan, gyda gardd o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, llawer ohoni wedi gordyfu’n rhannol ar y Penrhyn Gwyllt, ac ar y tir uwch yr oedd Castell Deudraeth, ty â bylchfuriau iddo, yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg, ynghyd â’r tiroedd o’i gwmpas.

Dros y deugain a phump o flynyddoedd nesaf, ac eithrio cyfnod yr ail ryfel byd, bu i Williams-Ellis gyfaddasu’r adeiladau a fodolai yno (Aber-Iâ yw Gwesty Portmeirion heddiw) ac ychwanegodd lawer eraill mewn gwahanol arddulliau. Cynhaliwyd ‘Cartref i Adeiladau Segur’, lle y cedwid gwahanol ddarnau pensaernïol, hyd nes y deuai ef o hyd i ddefnydd iddynt. Cyfeirir yn aml at y pentref fel un ‘Eidalaidd’, ond mae hyn yn asesiad arwynebol ac anghywir; mewn gwirionedd ceir cymysgedd eclectig o arddulliau, yn unol â chynllun gwreiddiol Williams-Ellis. O’r dechrau bu’n rhaid i’r pentref gyfrannu at ei gynhaliaeth ei hun, felly bu’n agored i ymwelwyr erioed, o’r adeg yr addaswyd y ty gwreiddiol yn westy. Mae’r llu o ymwelwyr wedi cynnwys sawl person enwog – Noel Coward, er enghraifft, a ysgrifennodd Blithe Spirit tra’n aros yno – ac yn fwy diweddar darparodd y pentref gefndir ar gyfer y gyfres deledu enwog The Prisoner.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Gerddi, gwesty, mympwyon pensaernïol, cysylltiadau

Saif y pentref mewn dyffryn bychan i’r gogledd a’r gogledd-orllewin o’r gwesty, sydd yn union ar y lan, ac yn yr ardal hon yn bennaf ceir gerddi cyhoeddus a blannwyd yn doreithiog ag amrediad eang o blanhigion a phrysgoed; mae’r hinsawdd ffafriol yn caniatáu i lawer o fathau o blanhigion lledgaled ffynnu. Ceir hefyd enghreifftiau o goed sy’n dyddio o gyfnod cyn bodolaeth y pentref. Mae’r Piazza yng nghanol y pentref ar safle gardd gegin Aber-Iâ, ac y mae’n cynnwys pwll ffurfiol bas gyda gerddi ffurfiol o’i gwmpas, ac i’r gorllewin ohono ceir pwll cwbl wahanol ei gymeriad sy’n dyddio o oddeutu 1850 ac a oedd yn rhan o ardd addurniadol Aber-Iâ. Ar y llethrau serth y tu ôl i’r pentref, ac yn arwain i lawr tua’r môr, mae llystyfiant naturiol yn cymysgu i wahanol raddau ag elfennau a blannwyd.

Mae gerddi Gwyllt, tua’r gorllewin, sy’n llawer mwy helaeth, wedi bod yn erddi hanner-gwyllt erioed, ond yr oeddynt yn cynnwys casgliad pwysig o rododendron a gasglwyd ac a fridiwyd gan berchnogion blaenorol Aber-Iâ yn ystod chwarter cyntaf yr ugeinfed ganrif. Mae llawer o’r rhododendron hyn wedi goroesi, yn ogystal â phlaniadau hyn, a phlannodd Williams-Ellis hefyd ran o’r ardal hon, er enghraifft Gardd yr Ysbrydion yn y pen gorllewinol pellaf. Ychwanegodd ychydig o adeiladau hefyd, a cheir rhai mwy diweddar hefyd, gan gynnwys gasebo ar ffurf teml glasurol a ddyluniwyd gan ei ferch Susan Williams-Ellis ym 1983. Ger y pyllau, a grëwyd yn ddiweddar hefyd, ceir pagoda modern a thy gardd.

Parheir i ddatblygu’r rhan yma o’r ardd, yn rhannol oherwydd bod yr amodau’n caniatáu i rywogaethau diddorol ac egsotig dyfu, ac yn rhannol er mwyn darparu mwy o bethau o ddiddordeb ar gyfer ymwelwyr â Phortmeirion. Mae yno fynwent i anifeiliaid anwes, a oedd yn perthyn i Aber-Iâ, ond a ddefnyddir o hyd, maes chwarae i blant a milltiroedd o lwybrau y rhan fwyaf ohonynt yn dyddio o gyfnod cyn adeiladu Portmeirion.

From the start the village had to contribute to its own upkeep and so it has always been open to visitors, from the time the original house was converted to a hotel. The stream of visitors has included many notables – Noel Coward, for instance, wrote Blithe Spirit while staying there – and more recently the village provided the setting for the cult TV series The Prisoner.