Skip to main content

Mae’r disgrifiad canlynol, a ddaw o’r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn nodi’r themâu hanesyddol hanfodol yn ardal tirlun hanesyddol Dyffryn Llangollen ac Eglwyseg.

HL Middle Wye Valley Map 1150 1154 1156 1152 1152 1152 1148 1140 1155 1151 1145 1145 1147 1141 1153 1142 1146 1143 1149 1144

Character areas defined in the Vale of Llangollen and Eglwyseg Historic Landscape

Yn Nyffryn Llangollen yng Ngogledd Ddwyrain Cymru ceir cyfuniad gweledol a thrawiadol o dirffurfiau naturiol noeth ynghyd â nodweddion hynafol a modern o waith dyn. Yn geomorffolegol, hollt eang yw’r dyffryn a gaiff ei oruchafu gan glogwyni calch uchel Mynydd Eglwyseg. Mae brig y clogwyni’n esgyn yn raddol mewn uchder o 300m uwchben SO yn eu safle mwyaf deheuol sy’n edrych dros ganol y dyffryn, i 450m uwchben SO yn eu safle mwyaf gogleddol sy’n edrych dros rannau uchaf dyffryn isafon cul Afon Eglwyseg. Ar ochr ddeheuol y dyffryn, mae’r llethrau’n esgyn yn serth i 400m uwchben SO ar hyd copa’r esgair sy’n rhannu’r dyffryn o ddyffryn Ceiriog i’r de.

Llangollen, Castell Dinas Brân, ac Creigiau Eglwyseg. Llun: CPAT 1766-08.

Mae llawr gwastad y dyffryn tua 100m uwchben SO ac mae’n cynnwys hynt troellog yr Afon Dyfrdwy, er yn Llangollen, mae’r dyffryn yn culhau i’r hyn sy’n fwy nodweddiadol o ddyffryn afon, gan droi’n gyntaf tua’r gogledd ac yna tua’r gorllewin gan barhau y tu hwnt i ran y dyffryn a ddisgrifir yma. Yn edrych dros Langollen o gyfeiriad y dwyrain mae olion mawreddog Castell Dinas Brân, castell gwaith cerrig o’r Canol Oesoedd wedi’i leoli oddi mewn i waith cloddiog caer gynharach o Oes yr Haearn. Mae’r safle ar gopa bryn siâp côn ag ochrau serth iddo sydd yn esgyn yn drawiadol i 329m uwchben SO o lawr y dyffryn,ac ar ei ben ceir adfeilion darluniadwy’r castell a adeiladwyd gan Gruffydd ap Madog o bosibl, mab i sylfaenydd Abaty Glyn y Groes.

Lleolir Abaty Sistersiaidd Glyn y Groes ger cyflifiad afonydd Eglwyseg a Dyfrdwy i’r gogledd o Langollen, ac fe’i sylfaenwyd gan Madog ap Gruffydd ym 1201 fel abaty ategol i Abaty Ystrad Marchell ger y Trallwng. Mae’r Abaty, sydd bellach yn adfail, yn nodweddiadol o nifer o sefydliadau Sistersiaidd a leolir mewn dyffrynnoedd afonydd diarffordd wedi’u hamgylchynu gan dir ffermio. Mae llên gwerin lleol yn cysylltu Glyn y Groes ag Owain Glyn Dŵr a ddiflannodd tua 1410 ar ôl i’w wrthryfel yn erbyn y Saeson fethu.

Ychydig i’r gogledd o’r Abaty lleolir croes anghyflawn Piler Eliseg ar fryncyn bychan crwn a oedd hwyrach yn feddrod yn Oes yr Efydd. Ar y groes ceir arysgrif mewn Lladin sydd bellach wedi treulio gormod i’w darllen, ond yn ôl trawsgrifiad ohoni ym 1696, roedd yn dathlu llwyddiannau tŷ Powys ac yn cofnodi i’r garreg gael ei chodi gan Cyngen er anrhydedd i’w or-daid, Eliseg.

Ym mhen gogleddol dyffryn Eglwyseg, ym Mhen Draw’r Byd, mae Plas Uchaf, plasdy trawiadol ffrâm bren sy’n dyddio o 1563. I’r gorllewin o ddyffryn Eglwyseg, caiff ffin ogleddol y tirwedd ei oruchafu gan ehangder mawreddog Bwlch yr Oernant lle mae’r ffordd o’r diwedd yn dringo Mynydd Maesyrychen, heibio i chwareli llechi gwag y 19eg ganrif, tuag at Ddyffryn Clwyd.

Bu dyffryn Dyfrdwy yn brif ffordd gyswllt erioed a bu’n dyst i ddy feisiadau dilynol yn hanes cludiant. Y pwysicaf, o bosibl, yw cangen Llangollen o Gamlas y Shropshire Union, a adeiladwyd gan Thomas Telford ac a agorwyd ym 1805. O’i darddiad yn Rhaeadr Bwlch yr Oernant mae’r gamlas yn dilyn ochr ogleddol y dyffryn cyn croesi’r Afon Dyfrdwy dros ddyfrbont ddramatig Pontcysyllte, sy’n taflu’i chysgod dros ei chymar canoloesol a oedd yn cario’r ffordd dros yr Afon Dyfrdwy. Ym mhen gogleddol y ddyfrbont mae Glanfa Trefor lle, yn ôl y sôn, yr arhosodd Telford yn ystod cyfnod adeiladu’r ddyfrbont. Roedd Telford hefyd yn gyfrifol am adeiladu Ffordd newydd Caergybi, yr A5 bellach, sy’n rhedeg drwy’r dyffryn ac a ddynodwyd yn ddiweddar yn ffordd hanesyddol.

Gwelir creithiau’r gorffennol diwydiannol hefyd yn y dyffryn. Bu chwarela yn digwydd yng nghlogwyni calch Eglwyseg ers canrifoedd ar gyfer cerrig i adeiladu ac fel ffynhonnell o galch. Roedd sawl gwaith plwm yn tyllu’n uniongyrchol i’r clogwyn, ac mae olion y ddau ddiwydiant i’w gweld o hyd. I’r gogledd orllewin ceir olion chwareli llechi, sy’n cynnwys incleinau a darnau o dramffordd ar arglawdd, tra caiff y de ei oruchafu gan gymhlethfeydd Cefn Mawr ac Acrefair (mae’r ddau y tu allan i’r ardal a ddisgrifir yma ar hyn o bryd).

Lleolir Llangollen ei hun o boptu’r Afon Dyfrdwy gyda’r bont bwa, a adeiladwyd c.1500 yn cysylltu’r ddwy ochr. Mae calon hanesyddol y dre ar yr ochr ddeheuol, o gwmpas yr eglwys a chroesfan yr afon. Daeth y datblygiadau diweddarach yn bennaf yn sgîl y diwydiant gwlân, a oedd yn defnyddio ffynhonnell ynni naturiol yr Afon Dyfrdwy i redeg sawl melin, ac yna yn ystod y 19eg ganrif gyda dyfodiad y rheilffordd a gaewyd i drafnidiaeth ym 1968 ond sydd bellach ar agor yn achlysurol i dwristiaid o dan yr enw Rheilffordd Dyffryn Dyfrdwy. Ar ymylon y dref y mae Plas Newydd, cartref Boneddigesau Llangollen a oedd yn noddwyr enwog y celfyddydau ar droad y 19eg ganrif ac a wnaeth lawer i hybu diddordeb newydd yn y diwylliant Cymreig. Mae Llangollen wedi cryfhau’r traddodiadau artistig hyn ac mae’r dref bellach yn enwog ledled y byd am yr Eisteddfod Ryngwladol a gynhelir yno bob blwyddyn.

Llunio Tirwedd Dyffryn Llangollen ac Eglwyseg

Amlinellir y grymoedd sydd wedi helpu i ffurfio’r dirwedd hon o ddiddordeb hanesyddol arbennig yng Nghymru yn yr adrannau sy’n dilyn.

Y Tirwedd Naturiol

Golygfa o’r awyr o sgarp calchfaen Creigiau Trevor. Llun: CPAT 89-C-53.

Dyffryn dramatig ag iddo ochrau serth, yn hollti trwy Fynydd Rhiwabon a Mynydd Llantysilio i’r gogledd, a Mynyddoedd y Berwyn i’r de yw Dyffryn Llangollen. Dyffryn hollt eang ydyw yn ei hanfod, a gafodd ei gerflunio gan symudiadau’r rhewlifoedd yn ystod y rhewlifiant diwethaf. Llechi a sialau Silwraidd yw cyfansoddiad Mynydd Llantysilio i’r gorllewin a Mynyddoedd y Berwyn i’r de, ac mae sialau Ordoficaidd i’r gogledd o Gyrn-y-brain. Strata gwaelodol o galchfaen Carbonifferaidd sydd i Fynydd Rhiwabon ar y llaw arall, a dyma sy’n ffurfio sgarp dramatig Creigiau Eglwyseg a Chreigiau Trevor, gyda haen o dywodfaen a Haenau o Lo yn eu gorchuddio, gan gynnwys tywodfeini a marlau, sy’n ymestyn i gyfeiriad Rhiwabon a Wrecsam ac sy’n brigo yng nghornel dde-ddwyreinol ardal yr astudiaeth. Mae llawr y Dyffryn rhyw 80-100 metr uwchlaw y Datwm Ordnans ac mae’r bryniau o’i amgylch yn codi hyd at dros 500 metr.

Yn ystod yr Oes Iâ ddiwethaf, fe effeithiodd ddwy ddalen o iâ ar yr ardal gan gyfarfod ar hyd ffin ddwyreiniol ardal yr astudiaeth, fwy na heb, ac fe symudodd un i’r de o gyfeiriad Môr Iwerddon a’r llall o gyfeiriad mynyddoedd canol Cymru yn y de. Roedd iâ yn atal llif hen ystumiau’r afon rhwng Llantysilio a Glyn y Groes ac yn Nyffryn Pengwern i gyfeiriad y de-ddwyrain o Langollen, gan orfodi Afon Dyfrdwy i dorri sianelau newydd culach a thorri’r hen ystumiau afon hyn i ffwrdd. Fe arweiniodd symudiad yr iâ at wasgaru meini dyfod ac maent ar gael hwnt ac yma ar y bryniau o amgylch. Yn sgîl gwaith rhew wrth i’r iâ gilio cafwyd llethrau sgri ar waelod sgarp calchfaen Creigiau Eglwyseg. Yn dilyn y cyfnod rhewlifol diweddar, mae dyddodion llifwaddod wedi ymgasglu ar hyd llawr y Dyffryn lle gwelir hynt ymdroellog Afon Dyfrdwy.

Ychydig o astudiaeth fanwl a wnaed o hanes amgylcheddol cynnar y rhan hon o Ddyffryn Dyfrdwy a’r bryniau o’i amgylch. Fodd bynnag, mae’n debyg, fel yn hanes sawl ardal arall yng ngogledd Cymru, roedd dilyniant cyffredinol yn y cyfnod ôl-rewlifol yn dechrau gyda sefydlu coedwig bîn yn y cyfnodau cynnar oerach, ac yna datblygiad coetir llydanddeiliog helaeth gan gynnwys yn bennaf deri, llwyfenni, pisgwydd a chyll, a phrysgwydd bedw a gwern yn yr ucheldiroedd. Mae llawer o’r gorchudd coetirol gwreiddiol yma wedi ei glirio gan weithgareddau dyn ers y cyfnodau cynhanesyddol cynnar, er bod rhai ardaloedd o goetir llydanddeiliog hynafol neu goetir a ailblannwyd yn goroesi ar rai o lethrau mwyaf serth y bryniau a dyffrynnoedd y nentydd. Cofnodir ardaloedd mwy helaeth o goetir yn y 14eg ganrif. Gorweddai un goedwig o’r enw ‘Cwm-cath’ ar y tir uwch i’r de o Langollen, ac roedd coedwigwr Arglwyddiaeth Mers Swydd y Waun yn rheoli un arall o’r enw ‘Isclawdd’ yn ardal Froncysyllte a Threvor.

Y Tirwedd Gweinyddol

Eliseg’s Pillar, erected in the mid 9th century by Cyngen in commemoration of his great-grandfather. Photo: CPAT 1766-150.
Codwyd Piler Eliseg gan Cyngen yng nghanol y 9fed ganrif i goffáu ei hen daid. Llun: CPAT 1766-150.

O’r 7fed neu’r 8fed ganrif, roedd yr ardal yn rhan o deyrnas Gymreig Powys. Bygythiwyd ffiniau dwyreiniol y deyrnas yn ddiweddarach yn yr 8fed ganrif gan deyrnas Eingl-Sacsonaidd gyffiniol Mersia yr oedd Clawdd Offa yn derfyn iddi. Ychydig y tu hwnt i ffin ddwyreiniol ardal yr astudiaeth mae’r Clawdd. Codwyd Piler Eliseg, sef rhan isaf croes garreg ger Glyn y Groes, yn hanner cyntaf y 9fed ganrif gan Cyngen er anrhydedd i’w hen-daid, Eliseg, a oedd wedi aduno’r deyrnas trwy adfer tir yr oedd y Saeson wedi ei orchfygu. Mae lleoliad yr henebyn pwysig hwn ar ganolbwynt dyffryn llednant afon Dyfrdwy yn awgrymu presenoldeb stad frenhinol yma yn nyffryn Eglwyseg yn y 9fed ganrif.

Ar farwolaeth Gruffudd Maelor ym 1191, isrannwyd Powys yn deyrnasoedd Powys Fadog yn y gogledd, a oedd yn cynnwys ardal Dyffryn Llangollen, a Phowys Wenwynwyn ymhellach i’r de. Roedd ardal y Dyffryn o fewn cymydau Nanheudwy i’r de, Maelor Gymraeg (Brwmffild) i’r gogledd-ddwyrain ac Iâl i’r gogledd-orllewin.

The gaunt remains of the Welsh medieval Castell Dinas Brân, built within the ramparts of an early Iron Age hillfort by Gruffudd ap Madog in the 1260s. Photo: CPAT 1766-321.
Olion sgerbydol hen gastell canoloesol y Cymry, sef Castell Dinas Brân a godwyd y tu mewn i ragfuriau hen Fryngaer o Oes yr Haearn gan Gruffydd ap Madog yn y 1260au. Llun: CPAT 1766-321.

Madog ap Gruffudd etifeddodd y rhan o Bowys Fadog a oedd yn cynnwys cymydau Iâl a Nanheudwy. Ef oedd wedi sefydlu’r fynachlog Sistersaidd yng Nglyn y Groes ym 1201 a ddaeth yn ddiweddarach yn fynwent i’r llinach gyfan. Yn dilyn marwolaeth Madog ym 1236, etifeddwyd y deyrnas gan ei fab Gruffudd ap Madog Maelor. Adeiladodd Gruffudd gastell Dinas Brân yn y 1260au yn ganolfan weinyddol i’r deyrnas, cyn ei farwolaeth ym 1269.

Meddiannodd Edward I deyrnas Powys Fadog ym 1282 yn ystod concwest Cymru gan goron Lloegr. Peidiodd Powys Fadog â bod yn endid ar wahân wedi hynny, ac o’r adeg honno ymlaen, fe gollodd Dinas Brân ei arwyddocâd milwrol a gweinyddol. Rhoddwyd y tir i’r de o Afon Dyfrdwy, yn ogystal â’r rhan o Iâl a oedd yn cynnwys Dinas Brân a Glyn y Groes i’r gogledd o’r afon i Roger Mortimer, mab Roger, arglwydd Wigmore, ac wedi hynny daeth yn rhan o arglwyddiaeth mers Swydd y Waun, a gafodd ei rhedeg o Gastell y Waun. Rhoddwyd gweddill y tiroedd i’r gogledd o’r afon i John, iarll Warrene, gan ffurfio rhan o’r arglwyddiaeth mers newydd, sef Arglwyddiaeth Brwmffild ac Iâl, a weinyddwyd o Gastell Holt.

Aeth arglwyddiaethau mers Swydd y Waun, a Brwmffild ac Iâl trwy sawl pâr o ddwylo, ond rheolwyd hwy o hyd fel tiriogaethau annibynnol hyd y Ddeddf Uno ym 1536 pan ddaethant yn rhan o gantrefi y Waun, a Brwmffild ac Iâl yn y sir newydd, sef Sir Ddinbych.

Roedd Sir Ddinbych yn ffurfio rhan o sir newydd Clwyd a grëwyd wrth ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974, ond ailgyfansoddwyd hi eto fel awdurdod unedol Sir Ddinbych wrth ad-drefnu llywodraeth leol ym 1996. Trosglwyddwyd cymuned Llangollen Wledig, yng nghornel ddwyreiniol ardal yr astudiaeth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ym 1997.

O ran yr eglwys, mynachlog Sistersaidd Glyn y Groes (Llanegwestl) oedd yn rheoli strwythur plwyfol yr ardal. Mynachlog a sefydlwyd ym 1201 gan Fadog ap Gruffudd, rheolwr Powys Fadog, oedd hon, ac fe ddisodlodd nifer o blwyfi eglwysig yn yr ardal. Roedd gan yr abaty feddiannau helaeth ond gwasgaredig yn ne Sir Ddinbych, ac roedd yn dibynnu’n helaeth ar ddegymau. Roedd y rhain yn cynnwys degymau’r eglwysi a briodolwyd i’r fynachlog, sef eglwysi Llandysilio-yn-Iâl a Llangollen a sefydlwyd yn y 6ed neu’r 7fed ganrif o bosibl. Dichon mai eglwys Llangollen oedd mam eglwys cwmwd Nanheudwy. Cafwyd cyfnod hir o ddirywiad yng Nglyn y Groes cyn ei ddiddymiad ym 1536, yn ystod teyrnasiad Harri’r VIII.

Yn y 19eg ganrif, rhannwyd plwyf Llantysilio yn drefgorddau Coedrwg, Maesyrychain, Llandynan, Cymmo-Dupart a Chymmo-Traian (Brithdir). Roedd plwyf Llangollen yn cynnwys trefgorddau Trevor Isa, Trevor Ucha, Dinbren, Eglwyseg, Cysyllte, Llangollen Fechan, Llangollen Fawr, Llangollen Abad, Pengwern, Bache, Vivod, a Rhisgog.

Defnydd Tir ac Anheddu

Defnydd Tir ac Anheddu Cynhanesyddol a Rhufeinig

Roedd tiroedd ffrwythlon dyffryn Dyfrdwy yn adnodd economaidd pwysig yn ogystal â llwybr i ganol Cymru o’r oesoedd cynnar, ac mae hyn yn helpu i esbonio’r dystiolaeth eang o weithgareddau dyn yn yr ardal yn ystod y cyfnodau cynhanesyddol cynharach.

The eastern side of the Cyrn-y-brain upland looking towards Ruabon Mountain in the background. Photo: CPAT 1766-269.
Ochr ddwyreiniol ucheldir Cyrn-y-brain yn edrych tuag at Fynydd Rhiwabon yn y cefndir. Llun: CPAT 1766-269.

Mae’r henebion ucheldirol hyn, sydd yn aml wedi’u lleoli ar gopaon bryniau, cefnennau neu sgarpiau bryniau i’w gweld o bellter yn aml. Maent i’w gweld ar eu pennau eu hunain neu mewn grwpiau bychain, ac mae’n debyg eu bod wedi arddel sawl swyddogaeth yn y dirwedd wrth iddi ddatblygu yn ystod y pedwerydd i’r ail fileniwm CC, rhwng tua 3500 a 1500 CC. Mae’n bosibl fod clystyrau o henebion yn cynrychioli canolbwyntiau seremonïol yn y dirwedd hon sy’n dod i’r amlwg ac a ddefnyddiwyd gan ddyn. Efallai eu bod wedi helpu diffinio gweithgareddau gwahanol deuluoedd neu lwythau. Ni chafwyd unrhyw dystiolaeth o anheddu o’r cyfnod hyd yma, ond mae’n ymddangos yn debygol y dylid cysylltu’r henebion mewn rhyw fodd ag ecsbloetio tiroedd hela’r ucheldir a thir pori’r haf ar gyfer anifeiliaid dof, a hynny’n gysylltiedig o bosibl â chartrefi mewn mannau llai agored yn iseldiroedd y dyffryn sy’n gyfagos.

Gwelir y gweithgaredd parhaus yng nghyfnod yr Oes Efydd Hwyr, rhwng tua 1200﷓700CC, yn yr hapddarganfyddiadau gwaith metel y gellir eu cysylltu o bosibl â chliriad cyson y coetiroedd neu â rhyfeloedd. Mae’r rhain yn cynnwys celc bychan o fwyeill socedog efydd a phen gwaywffon ar ffurf deilen, y daethpwyd o hyd iddynt ym mhlwyf Llantysilio a’r bwyeill socedog unigol a gafwyd ger Pentre-dwr ac ar Fron Fawr, i’r dwyrain o Glyn y Groes, a’r ddau a gafwyd ar wahân o fewn sawl can metr o gopa Dinas Brân.

Yn ystod y cyfnod hwn, neu yng nghyfnod yr Oes Haearn a ddilynodd, rhwng tua 700 CC – OC 50, yr ymddangosodd y dystiolaeth gyntaf o aneddiadau amddiffynedig yn yr ardal. Mae’r fryngaer a ragflaenodd y castell canoloesol ar Ddinas Brân, bryngaer Moel y Gaer ar gopa Mynydd Llantysilio, a bryngaer Pen y Gaer ar sbardun Mynydd Rhiwabon i’r dwyrain o Garth yn enghreifftiau. Mae’n ansicr a yw’r bryngaerau hyn yn cynrychioli aneddiadau lle bu pobl yn byw yn barhaol ai peidio, ond mae’n amlwg yn arwyddocaol eu bod nid yn unig wedi’u lleoli mewn mannau sydd wedi’u hamddiffyn yn naturiol yn dda, ond sydd hefyd yn agos at ardaloedd helaeth o dir pori ucheldirol. Mae’n ymddangos bod bryngaer Dinas Brân, fel y castell canoloesol a’i disodlodd, yn rheoli dyffryn Dyfrdwy, ac fel Moel y Gaer a Phen y Gaer ei bod yn cynrychioli canolfan llwythol y gellir o bosibl ei chysylltu â fferm wartheg gynnar ar y rhostir cyffiniol.

Bu dyffryn cul afon Dyfrdwy ger Llangollen yn bwysig ers y cyfnod cynnar, gan ddarparu coridor cul iseldirol i diroedd canol Cymru, ymhellach i’r gorllewin. Mae’r ffaith fod y fyddin Rufeinig oresgynnol ar ddiwedd y ganrif 1af wedi dewis hynt ar draws Mynyddoedd y Berwyn i’r de, trwy ddyffryn Ceiriog er mwyn osgoi ymosodiad yn y dyffryn yn pwysleisio arwyddocâd strategol y fryngaer gynhanesyddol ddiweddarach ar Ddinas Brân. Gwnaed hyn er gwaethaf natur beryglus y llwybr hwn dros y mynydd i orllewin Cymru, a gwelwyd prawf o hyn yng nghyrch trychinebus Harri’r II yn erbyn tywysogion Cymru ym 1165.

Cymharol ychydig dystiolaeth o weithgareddau’r Rhufeiniaid a ddarganfuwyd yn Nyffryn Llangollen ar wahân i nifer o hapddarganfyddiadau, gan gynnwys celc bychan o arian bath o’r 2il ganrif o ger Maesyrychen-bach a thlws Rhufeinig ger Trevor Hall. Mae’n debygol, fodd bynnag, fod system economaidd integredig wedi datblygu yn ystod diwedd y cyfnod cynhanesyddol a’r cyfnod Rhufeinig, a oedd yn manteisio ar yr adnoddau yr oedd ffermio âr yn eu darparu yn yr iseldiroedd, adnoddau coetirol ar ymyl y dyffryn a thir pori helaeth yn yr ucheldiroedd. Fe fyddai hyn wedi arwain at dirwedd a oedd yn raddol ddatblygu, gyda ffermydd gwasgaredig yn ei nodweddu mae’n debyg, ynghyd â thir âr cysylltiedig ar y tir is, ardaloedd cynyddol fechan o goetiroedd llydanddail a thir prysg brodorol ar y llethrau mwyaf anodd ac ardaloedd eang o rostir grug ar y bryniau o’i hamgylch.

Anheddiad a defnydd tir canoloesol cynnar a chanoloesol

Farmland and dispersed farms of medieval and late medieval origin below the dramatic limestone escarpment of Creigiau Eglwyseg. Photo: CPAT 1766-126.
Ffermdir a ffermydd gwasgaredig o darddiad canoloesol a chanoloesol hwyr islaw sgarp calchfaen dramatig Creigiau Eglwyseg. Llun: CPAT 1766-126.

Daeth y Dyffryn i fod yn rhan o deyrnas Gymreig Powys o tua’r 7fed neu’r 8fed ganrif. Mae codi Piler Eliseg gan aelod amlwg o’r teulu a oedd yn rheoli yn y 9fed ganrif er anrhydedd i’w hen daid yn dangos bodolaeth stad frenhinol arwyddocaol yma yn y cyfnod, yn gysylltiedig, mae’n debyg, â phentrefi a thyddynnod rhwymedig y codwyd refeniw a gwasanaethau arnynt. Roedd arysgrif erstalwm ar y piler, sef gwaelod croes a godwyd ar boncyn mawr, yn nodi chwedl sefydlu’r tylwyth a oedd yn rheoli.

Casglwyd ynghyd dwy ddogfen bwysig yn y 14eg ganrif, sef Extent of Bromfield and Yale ac Extent of Chirkland, gan arglwyddiaethau’r mers at ddibenion treth, y gyntaf ym 1315 a’r ail ym 1391–93. Darpara’r rhain ddarlun llawnach o faint yr anheddu a’r defnydd tir yn y 14eg ganrif, ar ôl i deyrnas frodorol Powys Fadog ddod i ben ar ddiwedd y 13eg ganrif. Nid oes sicrwydd i ba raddau y byddai creu arglwyddiaethau mers newydd yn effeithio ar drigolion brodorol Powys Fadog. Yn wahanol i diroedd ffrwythlon mwy estynedig Dyffryn Clwyd a Maelor Saesneg, nid oes cofnod i’r tiroedd gael eu cipio oddi wrth eu perchnogion Cymreig gwreiddiol neu drwy alltudio neu symud tenantiaid Cymreig i wneud lle i’r gwladychwyr Seisnig newydd. Mae’n bosibl fod rhai tenantiaid wedi’u hamddifadu o’u hawliau hynafol i dir pori cyffredin a hela, er y mae’n bosibl mai trosfeddiannu llawer o’r hawliau yr oedd y tywysogion brodorol yn eu harddel oedd arglwyddi’r mers. Credir bod Plas Uchaf, ar flaen dyffryn Eglwyseg yn sefyll ar safle lluest hela tywysogion Powys ar ddiwedd y 11eg ganrif.

Ar ddiwedd y 14eg ganrif, o dras Cymreig y deuai mwyafrif llethol tenantiaid yr arglwyddi o hyd, a dilynid y patrwm Cymreig o etifeddiaeth, sef ’gafael cenedl’ wrth rannu eiddo rhwng yr etifeddion hyd at ddiwedd y 15fed ganrif a dechrau’r 16eg. Mae’r ffaith fod nifer o dyddynnod yn dwyn yr enw gafael yn y dogfennau uchod yn awgrymu bod y traddodiad brodorol o grŵp teulu yn rhannu hawliau mewn tir âr a thir pori yn ôl yr arfer Cymreig yn gyffredin, ond yn ystod y 14eg ganrif, yn rhannol oherwydd y rhaniadau a achoswyd gan y pla ac efallai oherwydd eu bod yn bell o ganolfannau gweinyddol yr arglwyddi roedd y system hon yn chwalu ac yn cael ei disodli gan batrwm o grwpiau o ffermydd rhydd-ddaliadol mewn trefgorddau. Bu’r Pla Du yn arbennig o ddifrifol yn ardal Llangollen ym 1349, ac ar ôl hynny, fe adawyd llawer o’r tyddynnod yn wag am flynyddoedd lawer. O’r “Extents” mae’n amlwg bod tyfu gwenith a cheirch yn gyffredin ar ddiwedd y 14eg ganrif. Ar y pryd, prif ffactorau’r economi lleol yn y cyfnod yma oedd magu ŵyn a moch a chasglu cnau.

Cafodd sefydlu mynachlog Sistersaidd Glyn y Groes ym 1201 effaith sylweddol ar yr economi lleol. Er mwyn sefydlu’r fynachlog roedd yn rhaid symud nifer o deuluoedd i drefgorddau yng nghyffiniau Wrecsam, a hefyd mae’n debyg roedd yn rhaid ad-drefnu’r dirwedd o amgylch yr abaty. Roedd y gweithgareddau ffermio yn canolbwyntio ar y faenor, i’r gogledd o gyffin yr abaty yn ogystal â maenor Tirabad yn nhrefgordd Bache a threfgordd Pengwern i’r de o Langollen a maenorau eraill ger Melin Trevor a ger Plas Pengwern. Gwyddys am dystiolaeth o’r cynnyrch lleol a oedd ar gael i Glyn y Groes o amrywiaeth eang o ffynonellau. Mae canlyniadau cloddio yn awgrymu bod gwartheg a moch yn bwysig yn yr economi yn ei flynyddoedd cynnar, ond bod defaid a geifr wedi eu disodli yn ddiweddarach yn y 13eg ganrif. Roedd ceirw cochion hefyd yn rhan o’r diet. Byddai pysgod ar gael o afon Dyfrdwy yn ogystal â’r pyllau pysgod ger yr abaty. Canmolodd Guto’r Glyn letygarwch Glyn y Groes cyn ei farwolaeth yno tua 1493, yng ngofal yr abad, Dafydd ab Ieuan:

‘Af i’w seler, fau seilio,
Af trwy fwy i’w fwtri fo.
At Nudd Ddafydd yn ddyfal,
Af i’r nef i fro wen Iâl’.
Yn ddi-os, byddai trawstrefa, lle byddai teuluoedd yn symud yn ôl y tymor i’r aneddiadau ucheldirol dros fisoedd yr haf i fanteisio ar y tir pori rhostirol helaeth, yn arfer cyfarwydd yn ystod dechrau’r cyfnodau canoloesol cynnar a chanoloesol, er ei bod yn anodd barnu i ba raddau yr oedd hyn yn bwysig i’r economi lleol. Nodwyd safle hafod canoloesol posibl ar lethrau dwyreiniol Cyrn-y-brain ger llednant afon Eglwyseg, yn agos at dŷ gwag gerllaw ar y ffin â’r tir agored is sy’n dwyn yr enw arwyddocaol Cae’r-hafod. Gwelir nifer fach o lwyfannau tai anghyfannedd ac adfeilion adeiladau o amgylch ymylon Mynydd Rhiwabon. Gallai rhai o’r rhain gynrychioli hafodydd, ac mae sawl cyfeiriad cynnar at hafodydd ym meddiant Glyn y Groes ar ben gogleddol Mynydd Esclusham yng nghyffiniau’r mwyngloddiau plwm diweddarach yn Lower Park a Pool Park. Mewn mannau eraill, gwan yw’r dystiolaeth, ond ceir awgrym mewn enwau lleoedd fel Hafod-y-maidd, Hafod-rhysg, Hafod-y-coed a Hafod-isaf sydd yn yr ardal, a hefyd o bosibl yn yr enw Vivod, sydd mae’n debyg yn tarddu o meifod (‘tŷ Mai’). Mae’r elfen maidd yn yr enw Hafod-y-maidd yn awgrymu cysylltiad rhwng hafodydd a ffermydd llaeth ucheldirol.

Mae’n ymddangos yn debygol fod patrwm o ffermydd a bythynnod rhydd-ddaliad gwasgaredig a thirwedd y caeau yn yr iseldir ac ymylon y dyffryn sy’n amlwg yn y dirwedd bresennol wedi datblygu i raddau helaeth erbyn diwedd y cyfnod canoloesol. Mae gan nifer o’r ffermydd llai yr elfen ’tyddyn’ yn enw’r lle, sydd yn gyffredinol wedi ei gwtogi i ‘ty’n’, fel yn Ty’n-y-celyn, Ty’n-y-mynydd, a Thy’n-twll a’r bythynnod â’r elfen tŷ, fel yn Ty-uchaf a Thy-isaf. Caeau bychain a mawr afreolaidd eu siâp sy’n ffurfio’r patrwm caeau a welir amlaf yn yr ardaloedd hyn. Maent wedi datblygu wrth i goetir gael ei glirio neu ei amgáu yn raddol o’r cyfnodau cynhanesyddol ymlaen, a gwrychoedd amlrywogaeth yw eu ffiniau fel arfer. Nid oedd ffermio cnydau ar feysydd agored canoloesol yn ddylanwad pwysig ar greu’r dirwedd fodern, er bod ambell ardal fechan wahanol sy’n ymddangos fel petai’n cynrychioli cau cyn llain-gaeau, ger Llandynnan, ar ymylon dwyreiniol Llangollen a rhwng Llangollen a Dinas Brân, a allai fod yn arwydd o ffermio maenorol yn yr ardaloedd hyn.

Ar wahân i’r defnydd cynnar o bŵer dŵr i felino a phannu ar afon Eglwyseg ger Glyn y Groes ac ar afon Dyfrdwy ger Llangollen, ychydig o dystiolaeth arall a geir o ddatblygiad diwydiant yn yr ardal erbyn diwedd y cyfnod canoloesol, a pharhaodd yr ardal i fod yn un wledig yn ei hanfod ar wahân i aneddiadau cnewyllol bychain a oedd wedi codi yn Llangollen ac efallai yn Llantysilio, y ddau o bosibl mewn cysylltiad â sefydlu eglwysi o gyfnod canoloesol cynnar. Adeiladwyd Castell Dinas Brân o fewn y fryngaer gynharach yn ystod y 1260au gan Gruffudd ap Madog, arglwydd Powys Fadog, ac mae’n arwyddocaol o bosibl ei fod yn agos at anheddiad a oedd yn bodoli’n barod yn Llangollen, yn ogystal ag yn sefyll mewn safle sy’n tremio dros Ddyffryn Llangollen. Peidiodd y castell â bod ag unrhyw bwysigrwydd milwrol yn dilyn concwest Edward, dim ond tua 20 mlynedd yn ddiweddarach, ond datblygodd yn anheddiad yn Llangollen arwyddocâd economaidd a gweinyddol, ac ym 1284, caniataodd Edward I i’r dref gael siarter farchnad a’r hawl i gynnal dwy ffair flynyddol.

Anheddiad a defnydd tir ôl-ganoloesol a modern

The small mining and agricultural settlement at Llandynan with 20th-century housing development at Llidiart Annie in the foreground. On the hills in the background are the 19th and early 20th-century waste tips of the Berwyn (Clogau) slate quarry. Photo: CPAT 1766-179.
Anheddiad mwyngloddio ac amaethu bychan Llandynnan gyda datblygiad tai Llidiart Annie o’r 20fed ganrif o’i flaen. Ar y bryniau yn y cefndir ceir tomenni gwastraff chwarel lechi Berwyn (Clogau) o’r 19eg a dechrau’r 20fed ganrif. Llun CPAT 1766-179.

Cafodd y newidiadau ym mhatrwm y tirddaliadau, gwelliannau mewn cyfathrebu a thwf diwydiant effaith hynod ar y dirwedd amaethyddol yn ei hanfod a oedd wedi dod i’r amlwg erbyn diwedd y cyfnod canoloesol.
Arweiniodd diddymiad Glyn y Groes a’i faenorau ym 1537 at werthu a malurio’r stadau mynachaidd mawr a oedd wedi bod yn tra-arglwyddiaethu ar drefn amaethyddol Dyffryn Llangollen a dyffryn Eglwyseg ers dros 300 o flynyddoedd. Daeth yr adeiladau mynachaidd eu hunain i fod yn ffynhonnell deunyddiau adeiladau a ddefnyddid i godi adeiladau ffermydd ym Maes-y-llyn, ychydig i’r gogledd o’r abaty, ym Mhont Llangollen, ac ym Mhlas Pengwern i’r de o Langollen. Fe ychwanegodd rhyddhau’r tir ffermio sbardun i dwf y stadau amaethyddol yn nwylo nifer o deuluoedd lleol amlwg a fyddai’n cael effaith bwysig ar y dirwedd yn ystod yr 16eg, yr 17eg a’r 18fed ganrif yn ogystal ag atgyfnerthu ffermydd rhydd-ddaliad mewn nifer o ardaloedd. Diwedd yr 16eg ganrif i ddechrau’r 17eg yw’r cyfnod cynharaf y mae’r rhan fwyaf o adeiladau sydd wedi goroesi yn dyddio ohono gan ddechrau effeithio ar y dirwedd bresennol. Mae ailadeiladu ac ailweithio o ddiwedd y 18fed ganrif ac yn ystod y 19eg ganrif yn arbennig hefyd yn nodweddiadol o’r ardal. Yn ystod y 19eg ganrif, cafwyd buddsoddi mawr hefyd mewn adeiladu, yn enwedig wrth ail-greu tai bonedd ac ailadeiladu ffermydd, sef gweithgaredd a chwaraeodd ran bwysig yn y dasg o lunio cymeriad pensaernïol yr ardal.

Mae patrymau anheddu amrywiol y dyffryn yn ymwneud yn eglur â hanes defnydd tir, sy’n hir ac yn amrywiol. Tirwedd amaethyddol o ffermydd gwasgaredig sy’n cynrychioli’r haen sylfaenol a’r dopograffeg sy’n llunio’i daearyddiaeth, yn y rhaniad nodweddiadol rhwng iseldir ac ucheldir. Er bod maint y ffermydd yn amrywio (mewn ambell ran mae’r ffermydd iseldirol yn eithaf agos at ei gilydd ac yn fychan), mae’n ymddangos bod y ffermydd iseldirol yn fwy tebygol o fod â nifer o adeiladau fferm ar wahân. Bydd ffermydd ucheldirol yn cynnwys rhes o adeiladau, fel yn achos Tŷ Isa, fferm ucheldirol fechan yng nghymuned Llantysilio sy’n dyddio o ryw 1700. Mae’n ymddangos bod adeiladau’r rhan fwyaf o’r ffermydd wedi’u hailadeiladu yn ystod y cyfnod hwn pan wnaed gwelliannau amaethyddol yn y 19eg ganrif, er bod modd dod o hyd i enghreifftiau cynharach: beudai ac ysguboriau yw’r mathau mwyaf cyffredin o adeiladau, yn nodweddiadol o economi bugeiliol. Fodd bynnag, mae presenoldeb ysguboriau cynnar, sylweddol megis yr enghreifftiau ym Mhengwern, Llandyn a Phendre, yn dangos pwysigrwydd tyfu cnydau, o leiaf mewn cyfnod cynharach.

Mae’r deunyddiau adeiladu a welir yn yr ardal yn rhannol yn datgelu cronoleg hir yr anheddu. Mae traddodiadau creu fframiau pren yn bwysig yn natblygiad arddulliau adeiladu lleol, er yn ymarferol, ychydig a welir, oherwydd graddau’r ailwampio a welwyd yn y 19eg ganrif: mae’r fframiau pren o safon uchel a geir ym Mhlas Uchaf a Phlas-yn-y-pentre yn dystiolaeth weledol o draddodiad saeryddiaeth soffistigedig tra datblygedig. Mewn mannau eraill, mae’r ailwampio diweddarach yn aml yn cuddio’r fframwaith pren. Mae’r rhan fwyaf o adeiladau ffermydd, y mae niferoedd arwyddocaol ohonynt wedi goroesi o gyfnodau diweddarach yn unig, yn rhai o frics neu o gerrig, ond fe geir rhai enghreifftiau o rai â fframiau pren gyda chladin estyll tywydd.

Ymddengys bod cyflenwad digonol o gerrig lleol ar gyfer adeiladu o’r 18fed ganrif ymlaen. Daeareg yr ardal sy’n pennu rhan helaeth o’i chymeriad pensaernïol, ac mae gwahaniaeth eglur rhwng y calchfaen da yn y dwyrain, a’r llechi a’r sialau yn y gorllewin. Gadewid y cerrig adeiladu yn noeth yn aml, ond ceir enghreifftiau o wyngalchu neu rendro sydd o bosibl yn awgrymu bod y cerrig o safon is. O ganol y 18fed ganrif, daw brics yn fwy amlwg fel deunydd adeiladu, ac mae Trevor Hall yn enghraifft gynnar o hyn. Wrth i gludiant ddatblygu, a hefyd wrth i rywrai fuddsoddi mwy yn y cynhyrchu mae’n debyg, gwelwyd defnydd ehangach o frics o ddechrau’r 19eg ganrif ymlaen. Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd diwydiannau lleol a gynhyrchai brics, teils a theracota yn gwneud cyfraniad cryf i gymeriad pensaernïol yr ardal, naill ai mewn cyfuniadau o frics a cherrig, neu yn strwythurau brics yn unig. Mae traddodiadau brodorol y Dyffryn yn annelwig yn aml yn sgîl swm yr ailwampio diweddarach, ond o ran cynllun, mae’n ymddangos mai mynedfa drwy lobi oedd y mwyaf poblogaidd, er bod sawl enghraifft o dai lle roedd y fynedfa yn y canol a’r corn simnai ar y pen.

Gwelodd diwedd y 18fed a dechrau’r 19eg ganrif dwf parhaus stadau o wahanol feintiau, gyda’r pwyslais ar dirwedd ‘fonheddig’ o dai bonedd mewn safleoedd amlwg neu ddarluniaidd fel yn achos Plas Berwyn, Trevor Hall, Plas Llantysilio, Plas Dinbren, Plas-yn-Vivod a Phlas Pengwern. Mabwysiadodd llawer o’r tai hyn leoliadau amlwg yn y Dyffryn, gan olygu bod angen ailgynllunio tirwedd i greu gerddi, rhodfeydd a pharciau. Codwyd tyrau ar gopaon y bryniau o’r enwau Tŵr Syr Watcyn, sydd bellach yn adfeilion ar gopa Cyrn-y-brain, a Thŵr Trevor, sef tŵr castellog tri llawr sy’n parhau i oroesi yn y coetir i’r gogledd o’r Garth, fel ffolïau gan ddau o dirfeddianwyr amlwg yr ardal yn ystod y cyfnod hwn. Parhaodd patrwm sylfaenol y caeau yr hyn a welwyd erbyn diwedd y cyfnod canoloesol, ond mae’n ymddangos bod peth aildrefnu wedi digwydd i’r caeau iseldirol mewn rhai ardaloedd yn y cyfnod ôl-ganoloesol, gan arwain at wahanol batrymau o gaeau mawr neu fychan ag ochrau syth neu reolaidd eu siâp, fel er enghraifft ar hyd gorlifdir afon Dyfrdwy ger Froncysyllte, yn Nyffryn Pengwern ac yng nghyffiniau Plas Llantysilio.

Digwyddodd newidiadau mwy cyffredinol i’r dirwedd o amgylch ymylon yr ucheldiroedd yn ystod y 19eg ganrif. Plannwyd ardaloedd gweddol helaeth o goetiroedd conwydd gan nifer o’r stadau i gyflenwi’r diwydiannau adeiladu a mwyngloddio, fel yn achos Coedwig Ty-cerrig, i’r de o Vivod, Coedwig Craig-y-dduallt a Choedwig Gwernant i’r de o Langollen ac yn Black Wood a Tower Wood i’r gogledd ddwyrain o Garth, pob un ohonynt, fe ymddengys, wedi’u plannu ar ddechrau ail hanner y 19eg ganrif. Cwympwyd y coed yn rhai o’r ardaloedd hyn ar ddechrau’r 20fed ganrif, ac ni ailblannwyd mohonynt, er bod gwaith ailblannu wedi digwydd mewn ardaloedd eraill bryd hynny. Parhaodd plannu ar raddfa fechan yn ddiweddarach i’r 19eg ganrif, fel yn achos y planhigfeydd bychain i’r gogledd o Rewl, ac mae nifer o blanhigfeydd eraill megis Planhigfa’r Foel ger Pentre-dwr yn dyddio o ail hanner yr 20fed ganrif. Yn ogystal â hyn, caewyd ardaloedd helaeth o dir pori ucheldirol i’r de o Langollen ac ar ymyl ddeheuol Mynydd Rhiwabon a’u gwella yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif gan nifer o’r stadau mawr, gan greu’r caeau mawr nodweddiadol ag ochrau syth gyda waliau sychion neu ffensys pyst-a-gwifrau yn ffiniau o’u hamgylch.

Dros ben y dirwedd ffermio ganoloesol yn y Dyffryn mae tirwedd diwydiant, sy’n gysylltiedig â chloddio am gerrig, mwyngloddio plwm, a chloddio am lechi. O’r rhain, cloddio am gerrig a effeithiodd fwyaf ar y patrymau anheddu, yn ogystal ag ar draddodiadau adeiladu lleol. Roedd Pentre-dwr ar ben dyffryn Eglwyseg, a Rhewl a Llandynnan yn nyffryn Dyfrdwy i’r gorllewin o Langollen oll, mae’n debyg, wedi dechrau datblygu fel treflannau i letya’r gweithwyr amaethyddol a’r gweithwyr a fyddai’n echdynnu ac yn cludo llechi o’r chwareli ar Fynydd Llantysilio, gerllaw Bwlch yr Oernant, o ddiwedd yr 17eg ganrif ymlaen. Fel y nodir yn fanylach isod, gwelwyd gwelliannau i’r ffyrdd tyrpeg ar ddiwedd y 18fed ganrif, ac yn arbennig dyfodiad y gamlas, gwelliannau i Ffordd Caergybi a dyfodiad y rheilffordd yn ystod y 19eg ganrif. Pan gyfunwyd hyn â’r galw cynyddol am ddeunyddiau crai yn yr aneddiadau diwydiannol a oedd yn ehangu yn y dwyrain, yn Acre-fair, Cefn Mawr, Rhiwabon a Wrecsam, ac ymhellach i ffwrdd yng Nghanoldir Lloegr, arweiniodd at greu tirweddau mwyngloddio a chloddio newydd yn yr ardal hefyd, nes bod nifer o aneddiadau cnewyllol eraill llai wedi codi i letya gweithwyr diwydiannol. Yn ogystal â hyn, parhaodd Llangollen i ehangu fel canolfan i fasnach, diwydiant a thwristiaeth. Daeth Froncysyllte, Trevor Uchaf a Garth i’r amlwg fel aneddiadau wedi’u clystyru’n llac i chwarelwyr a gweithwyr yn yr odyn galch a’r gwaith brics a theils rhwng dechrau’r 19eg a dechrau’r 20fed ganrif. Mae’r aneddiadau hyn ar ffurf neilltuol anheddiad diwydiannol cynnar, gyda diffyg cynllunio ffurfiol yn eu nodweddu, a chlytwaith o ddatblygiad preswyl mewn blociau bychain, ar leiniau bychain o dir. Mae gan yr ardal hefyd draddodiad brodorol diwydiannol neilltuol, ac yn Froncysyllte ceir o leiaf un teras o fythynnod deulawr isel sy’n nodi cyfnod cynnar ffurfio adeiladau diwydiannol a threfol. Mae ôl mwy o gynllunio yn amlwg ar derasau sydd ar hyd y ffordd fawr yn Nhrevor, er enghraifft, a adeiladwyd yn hapfasnachol efallai, sef yr ardal dirwedd hanesyddol ar ymylon Cefn Mawr ac Acre-fair lle’r arweiniodd y parhad trwy ddiwedd y 19eg ganrif ac i mewn i’r 20fed ganrif at enghreifftiau o aneddiadau diwydiannol a threfol ag ôl mwy o gynllunio arnynt.

Fe gynorthwyodd y gwelliannau mewn cyfathrebu Ddyffryn Llangollen i ddod yn lle ffasiynol fel canolfan i ymwelwyr o ddiwedd y 18fed ganrif ymlaen, o ganlyniad i anogaeth cylch diwylliannol Lady Eleanor Butler a Miss Sarah Ponsonby — Merched Llangollen, a ddatblygodd tŷ a gardd ym Mhlas Newydd ar ymylon deheuol y dref. Yn sgîl cyfuniad o ddylanwadau diwylliannol o’r math hwn, ynghyd â phriodweddau cynhenid darluniaidd yr ardal fe ddaeth yn encilfa wledig i’r dosbarth newydd o entrepreneuriaid tua diwedd y 19eg ganrif, ac fe arweiniodd hyn at addurno sawl un o’r tai bonedd a oedd yn bodoli, a chodi sawl plasty newydd neu fila yn y wlad, yn eu tiroedd eu hunain, ynghyd â phorthdai, tai allan, parciau a gerddi, gan gynnwys un neu ddwy o stadau nad oeddent yn cynnal ond cysylltiadau pur wan â’r tir. Ceir niferoedd bychain o fythynnod sydd yn amlwg yn gysylltiedig â rhai o’r stadau hyn, er mai ychydig sy’n neilltuol ym mhensaernïaeth y bythynnod yn y dirwedd ehangach.

Mae’r cyfoeth a ddaeth i mewn o ddiwedd y 18fed a’r 19eg ganrif yn enwedig wedi golygu bod traddodiadau pensaernïol ‘bonheddig’ yn fwy amlwg na’r disgwyl yn yr ardal. Ceir plastai bychain gwledig yma a thraw yn y dyffryn, a’r rheiny mewn nifer o wahanol arddulliau, o glasuriaeth Sioraidd Trevor Hall, neu Blas Dinbren, i afradlonedd Gothig Vivod. Roedd James Coster Edwards yr hynaf, perchennog sawl gwaith brics a theils yn yr ardal, yn byw ym mhlasty hynafol y teulu Trevor yn y 1860au. Ailadeiladwyd Tyn Dŵr (sydd bellach yn Hostel Ieuenctid) ar ddiwedd y 1860au ar gyfer y meistr haearn John Dickin, gan ddisodli tŷ cynharach a oedd yn gysylltiedig â fferm y plas gerllaw. Codwyd Plas Argoed ym 1864 ar gyfer y diwydiannwr o Almaenwr Robert F. Graesser a oedd yn gysylltiedig â bragdy lager Wrecsam ac yn sefydlydd y gwaith cemegol yn Acre-fair. Adeiladwyd fila a phlannwyd gerddi yn y dull Eidalaidd ym Mryntysilio, ychydig i’r dwyrain o Langollen, rhwng 1865–75 ar gyfer Syr Theodore Martin, bywgraffydd swyddogol y Tywysog Albert, a’i wraig, yr actores Shakespearaidd enwog Helen Faucit, gan ddisodli hen fferm a ffermdy o’r enw Braich y Gwynt. Prynwyd Vivod a’i ailwampio yn sylweddol ym 1871 gan William Wagstaff, y cyfreithiwr oedd yn gyfrifol am adeiladu Rheilffordd Dyffryn Llangollen, a buddsoddwyd yn helaeth hefyd yr adeg hon mewn adeiladu fferm plas fawr ddiwydiannol ger yr hen ffermdy ym Mryn-newydd, ynghyd â chertws, ysgubor, llaethdy, beudy, stablau ac ysgubor wair. Adeiladwyd Plas Llantysilio ym 1872–74 ar gyfer y diwydiannwr o Almaenwr Charles F. Beyer, a oedd yn bartner i gwmni o adeiladwyr trenau ym Manceinion. Fe ddisodlodd dŷ bonedd cynharach, ac fel yn achos Vivod, fe estynnwyd y buddsoddiad i adeiladau fferm a thai cyfagos ar gyfer y gweithwyr ar y stad. Adeiladwyd Bryn Howel (sydd bellach yn westy) ym 1896 gan James Coster Edwards yr ieuengaf, yn gartref iddo ymddeol iddo. Fe greodd gronoleg gymharol hir o adeiladau sydd wedi goroesi, ynghyd â hanes cymdeithasol a diwylliannol arbennig yr ardal ffynhonnell ar gyfer arbrofi ag arddull yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn enwedig, er bod Merched Llangollen yn arloeswyr ym maes ’dyfeisio traddodiad’. Plas Newydd yw’r cyntaf a’r mwyaf coegwych o gyfres o adeiladau sy’n chwarae â’r syniad o hanes a thraddodiad: gan gadw at eirfa’r darluniaidd (elfen bwysig yn hanes diwylliannol yr ardal), yr hyn a ddaeth i’r amlwg amlaf oedd traddodiad brodorol ffansïol seiliedig ar fframwaith pren. Ymhlith yr enghreifftiau eraill o hyn mae Bryn Howel, Gorsaf Berwyn, a Gwesty’r Chain Bridge, a Phlas Tyn Dŵr. Fodd bynnag, mae dylanwad y mudiad darluniaidd hefyd i’w weld mewn nifer o dai yn arddull y Rhaglywiaeth a’r arddull gothig, a hyd yn oed yn nhu blaen tlws Dinbren Isaf, sydd wedi’i ailwampio.

Mae rhai o’r stadau a oedd wedi dod i’r amlwg yn ystod yr 17eg a’r 18fed ganrif wedi goroesi hyd heddiw, yn anad dim yn Vivod, er bod nifer o blastai gwledig eraill, megis Trevor, Llantysilio a Dinbren wedi’u gwerthu ar wahân i’r stadau yn dilyn yr Ail Ryfel Byd.

Mae gan dref Llangollen, sef canolbwynt masnachol a diwylliannol Dyffryn Llangollen o’r Canol Oesoedd Hwyr ymlaen, ei daearyddiaeth gymdeithasol a phensaernïol ei hun. Ehangodd y dref yn gyflym rhwng diwedd y 18fed a dechrau’r 20fed ganrif mewn ymateb i ddyfodiad cangen o gamlas Ellesmere, Ffordd Caergybi, a’r rheilffordd. Rhoddodd y rhain lawer o anogaeth i ddiwydiannau prosesu lleol, gan gynnwys prosesu llechi, gweithgynhyrchu brethyn a phren, ar sail pŵer dŵr, ac i’r diwydiant ymwelwyr cynyddol gan arwain at ddatblygiadau hapfasnachol yn rhannau deheuol a gorllewinol y dref yn yr 1880au a’r 1890au.

Mae gwreiddiau sawl adeilad yn y dref yn yr 16eg ganrif, neu’n amlach na hynny yn yr 17eg ganrif. Roedd gan yr adeiladau cynnar hyn yn ôl pob tebyg fframiau pren. Pan ddechreuodd y dref ehangu o ddiwedd y 18fed ymlaen, gyda cherrig a brics y codwyd yr adeiladau, ac fe gafodd y rhan fwyaf o’r adeiladau cynharach du blaen newydd o’r deunyddiau mwy newydd hyn. Gwelwyd cyfnod o ddatblygu o bwys yng nghanol y dref tua 1860, i gyd-daro â dyfodiad y rheilffordd, ac mae’r eiddo ar Stryd y Castell yn arbennig o nodweddiadol o’r cyfnod hwn. Mae’r gwahaniaeth rhwng yr adeiladau hyn â chraidd cynharach a’r rhai a adeiladwyd yn gyfan ar ddiwedd y 18fed ganrif neu yn ystod y 19eg ganrif yn un pwysig, ac mae wedi cyfrannu at ffurf dra amrywiol a darluniaidd y dref.

Ceir hierarchaeth gymdeithasol gymhleth yn adeiladau’r dref, pob un â’i daearyddiaeth ei hun. Mae’r tai o fewn y dref ei hun yn amrywio o’r fila ar wahân megis Siambr Wen, a’r tŷ teras sylweddol ei faint i’r bwthyn bach. Ffurf drefol y dref, gyda’i chraidd masnachol amlwg, strydoedd preswyl sydd wedi’u datblygu’n ddwys o’i amgylch a maestrefi bychain o’r 19eg a’r 20fed – yn arbennig y tai ar wahân a’r tai pâr sy’n ymestyn allan tuag at Bentrefelin, y rheiny sydd ar y llethrau ar ochr ddeheuol yr afon, a’r stadau tai o’r 20fed ganrif ar ochr ddwyreiniol y dref, yw ei nodweddion pensaernïol pennaf. Mae llawer o’r datblygiadau trefol ar ffurf tai teras, yn amrywio o resi o dai tri llawr yn yr arddull Sioraidd ar Stryd Berwyn a Stryd y Bont, i resi byrrach o fythynnod. Mae hyn yn awgrymu trefniadaeth y gwaith adeiladu a welir ond yn anaml mewn cyd-destun gwledig; mae’n cynhyrchu cynllun ffurfiol y mae modd ei adnabod fel un trefol.

Mae amrywiaeth hynod o arddulliau a deunyddiau hefyd yn nodweddu Llangollen, gan ddangos sut y tyfodd dros gyfnod sylweddol, â nifer o barau o ddwylo wedi cyfrannu at y twf. Mae’r adeiladau yn y dref yn wahanol i’r traddodiadau gwledig brodorol mewn sawl ffordd bwysig: mae cyfyngiadau plotiau adeiladu trefol yn arwain at gynllunio tai yn fwy cryno a thynn, gyda mwy o bwyslais, yn aml, ar uchder. Mae llawer o amrywiaeth o ran deunyddiau a gorffeniadau adeiladu yn y dref, ar sail brics a cherrig, gyda rhywfaint o bwyslais ar arddull a manylion, megis y ffenestr â’i manylion gothig yn Abbey Square a’r defnydd a wneir o waith brics o sawl lliw ar adeiladau ar hyd Ffordd Caergybi (A5). Hefyd defnyddir gorffeniadau helaeth o chwipio â gro, rendrad plastr garw, a rendrad wedi’i sgrifellu neu styco, ac enghreifftiau o waith brics wedi’i beintio. Ambell waith, fe fydd y gorchuddion arwyneb hyn yn cuddio newidiadau i’r strwythur a’r manylion, ac mae’n ymddangos bod llawer adeilad yn y dref wedi’u hailwampio sawl gwaith. Yn ogystal ag adeiladau domestig, mae gan Langollen hefyd sawl adeilad diwydiannol, megis yr hen danerdy ond mae yno hefyd enghreifftiau o bensaernïaeth fasnachol ganfyddadwy. Mae’r Hen Fanc yn Stryd Berwyn yn enghraifft dda o hyn: mae wedi ei adeiladu ar gornel, ac mae’r adeilad yn manteisio ar hynny gan fod iddo ffasâd cromlinog neilltuol, a phwyslais ar hen safle’r banc ar y llawr gwaelod. Mae gan y dref hefyd nifer o adeiladau dinesig, megis neuadd y dref a gorsaf yr heddlu.

Gellir gweld effaith drawiadol y dref hefyd mewn rhes o filas gerllaw, megis Fron Deg, Ffordd yr Abaty, a Dinbren, Henllys a Wenffrwd. Mae’n ymddangos bod twf trefol a diwydiannol wedi sbarduno datblygiad ffermio yn yr ardal – er enghraifft yn fferm y plas yn Vivod, y mae’n ymddangos iddi gael ei sefydlu fel fferm laeth arbenigol.

Cymharol fân fu’r newidiadau i’r dirwedd yn yr amgylchedd gwledig yn ystod diwedd y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif, ond maent wedi arwain at golli’n raddol rhai o’r gwrychoedd a’r waliau traddodiadol a oedd yn ffinio’r caeau, trwy esgeulustod yn bennaf, a chefnu ar nifer o’r ffermydd a’r bythynnod mwyaf pellennig, neu eu trosi, o ganlyniad i greu unedau ffermio mwy. Mae cynlluniau tai cyhoeddus a phreifat o ail hanner yr 20fed ganrif ymlaen wedi arwain at nifer o stadau tai bychain, yn arbennig yn Llidiart Annie ger Llantysilio, ar gyrion deheuol a dwyreiniol Llangollen, ac yn Trevor yn ogystal â mewnlenwi plotiau mewn mannau eraill yn yr aneddiadau sy’n bodoli os na chawsant eu datblygu eisoes. Mae diwedd yr 20fed ganrif wedi dylanwadu’n drwm ar gymeriad yr adeiladau mewn rhannau o’r ardal, gyda’i haen o foderneiddio a ’gwella’.

Diwydiant

Roedd y diwydiant cynnar yn gysylltiedig â harneisio pŵer dŵr a phrosesu cynnyrch amaethyddol lleol – melinau blawd a gwlân, ac roedd y rhwydwaith ffyrdd yn wael; arweiniodd gwelliannau mewn trafnidiaeth a datblygiadau mewn mannau eraill at alw am ddeunyddiau crai a gwelwyd datblygiad llechi, calch, ceramig, yr olaf yn seiliedig ar lo a fewnforiwyd, a bragu ar sail grawn a fewnforiwyd, a thrin lledr. Cafodd nifer o ddiwydiannau echdynnu a phrosesu eraill effeithiau llai ar y dirwedd (nas disgrifir mohonynt yn fanwl yma), er enghraifft y chwareli cerrig bychain a oedd wedi’u gwasgaru dros ardal eang ar gyfer adeiladu tai a waliau, y rhan fwyaf ohonynt yn dyddio o bosibl o’r 16eg i’r 18fed ganrif yn bennaf. Lleolwyd diwydiannau lleol eraill yn y 19eg a’r 20fed ganrif mewn tanerdai, melinau llifio, gweithiau nwy, argraffdai, gefeiliau a bragdai. Mae rhai adeiladau neu strwythurau sydd wedi goroesi yn parhau i gynrychioli rhai o’r rhain, yn Llangollen yn bennaf, megis yr hen danerdy yn Stryd y Neuadd ac ar Stryd yr Eglwys, hen Fragdy’r Sun ar Stryd y Frenhines a hen Fragdy Tanquery ar Stryd Berwyn.

Defnydd cynnar o bŵer dŵr ar gyfer melino ŷd a chynhyrchu tecstilau
Roedd llawer o’r diwydiannau cynnar yn defnyddio pŵer dŵr, yn fwyaf arbennig yn ardaloedd nodwedd tirwedd hanesyddol Vivod, Llangollen, Pant-y-groes a Dol-isaf. Roedd y melinau wedi’u lleoli ar lannau afon Dyfrdwy yn bennaf, yn ogystal ag afon Eglwyseg a nant Cyflymen i’r de o Langollen a mannau eraill. Mae’n ymddangos fod melinau ŷd dŵr wedi bodoli ers y 13eg ganrif, gan gynnwys y rheiny a oedd yn perthyn i Abaty Glyn y Groes y credir iddynt fodoli ym Mhentrefelin a Llangollen. Roedd melinau ŷd dŵr a melinau ar gyfer bwydydd anifeiliaid yn parhau i weithredu yn y 18fed, y 19eg ac ambell waith ddechrau’r 20fed ganrif yn Llangollen, Melin Trevor ar lan afon Dyfrdwy ac yn ddiweddarach ger adeiladau melinau Bache a Phengwern ar Nant Cyflymen ychydig i’r de o Langollen. Roedd tarddiad y diwydiant tecstilau yn yr ardal yr un mor gynnar. Mae’r elfen ‘pandy’ yn enw’r lle yn awgrymu rhai o’r safleoedd cynnar. Roedd y gair yn cyfeirio at fodolaeth pandai yn achos Pandy ychydig i’r gogledd o Abaty Glyn y Groes ac yn Hen-bandy ar lan afon Eglwyseg.
Daeth dyffryn Dyfrdwy, ac yn enwedig tref Llangollen, i fod yn ardal gweithgynhyrchu tecstilau pwysig yn ystod y 19eg ganrif, lle codwyd melinau mawr, fel rhai Swydd Efrog a Sir Gaerhirfryn. Yn y 1830au roedd yno dair melin fawr — Ffatri Mile End, Melinau Upper Dee a Melinau Lower Dee. Gwyddys fod melinau pŵer yn Llangollen cyn bod rhai mewn unrhyw fan arall yng Nghymru, ar ôl cael eu cyflwyno i un o’r melinau cotwm gan gwmni o Fanceinion mor fuan â 1805, a byddai rhai ffatrïoedd yn cynhyrchu 15,000 llathen o frethyn yr wythnos yn y 1820au. Er bod dirwasgiad yn y 1830au a’r 1840au fe barhaodd y patrwm hyd ddechrau’r 20fed ganrif.

Roedd melinau mawr Llangollen yn wahanol eu cymeriad i’r rheiny yng ngweddill Sir Ddinbych, ac nid oeddent yn ddatblygiad naturiol o’r pandai neu’r gweithdai gwehyddu cynharach. Roedd angen i’r cyfalafwyr a ddaeth i mewn i’r ardal fuddsoddi’n sylweddol ynddynt, er mai cribo a nyddu’r gwlân ar gyfer nifer o wehyddion cartref yn y cyffiniau oedd y rhan fwyaf o’r melinau hyd y 1860au. Yng nghanol y 19eg ganrif, fe ddisgrifiodd George Borrow yn ei lyfr Wild Wales sut y dangosodd John James, ei dywysydd yn Llangollen y llwybr iddo dros y mynydd yr arferai ei gymryd wrth gludo’r gwlanen a wehyddai gartref i berchennog y felin a oedd yn ei gyflogi.

Roedd y tair melin yn Llangollen yn weithredol tan y 1940au, ac fe gaeodd yr olaf, sef Melin Lower Dee am y tro olaf ym 1960. Yn hon byddent yn gweithgynhyrchu blancedi a brethyn cartref gyda gwlân o Awstralia, Seland Newydd ac Ynysoedd Shetland. Wrth i weithgynhyrchu tecstilau ddirywio rhwng y ddau ryfel byd ac ar ôl yr ail ryfel byd, rhyddhawyd nifer o hen felinau i gael eu defnyddio at ddibenion eraill.

Mwyngloddio metel
Ceir tirwedd ag olion helaeth o fwyngloddio mwynau plwm, arian a sinc ar ochr ogleddol ardal nodwedd Mynydd Rhiwabon lle gorwedd gwaith mwynglawdd Pool Park ar y rhostir tonnog, grugog lle ceir llyncdyllau naturiol yn y calchfaen.
Yn y 1860au a’r 1870au y gwelwyd prif gyfnodau’r gweithgareddau mwyngloddio, ac er bod awgrym o waith cynharach, di-ddyddiad yn y nifer o siafftiau llai sydd wedi’u gwasgaru yma a thraw ar hyd y gwythiennau, mae’n debyg bod y rhain yn dyddio o’r 18fed neu’r 19eg ganrif, gan nad oes tystiolaeth eglur o fwyngloddio yn y canol oesoedd yn yr ardal arbennig yma. Mae’r mwyngloddio mwy dwys yn y fan hon yn cwmpasu ardal o dros 10 hectar, ac yn ffurfio rhan o dirwedd wasgaredig, er mwy helaeth, rhyw dri i bedwar cilometr i’r de ar draws y mynydd ger mwyngloddiau Pool Park, Cefn y Gist ac Eglwyseg ac i’r gogledd y tu hwnt i ffiniau’r ardal astudiaeth i’r Mwynglawdd. Roedd mwynglawdd Pool Park yn yr ongl rhwng dyffryn nant Aber Sychnant â’i ochrau serth a i’r gorllewin a dyffryn un o’i lednentydd i’r gogledd, sef dyffryn yr un mor serth, gan hollti’r llwyfan calchfaen Carbonifferaidd ar uchder o ryw 400 metr uwchlaw lefel y môr. Mae’r tomenni gwastraff a adawyd ar ôl cloddio’r siafftiau a phrosesu’r mwynau yn dal heb lystyfiant ac yn sefyll allan o’r rhostir o’u hamgylch.

Ni chafodd gweithredu diweddarach fawr o effaith ar yr ardal ar y cyfan, ac eithrio distrywio’r peiriandy, felly mae’r gwrthgloddiau sydd wedi goroesi yn cynrychioli tirwedd mwyngloddio sydd i raddau helaeth wedi ffosileiddio. Mae dwy res o siafftiau yn dilyn y prif wythiennau, er mai o amgylch siafft fawr â thomenni gwastraff yr oedd y prif ardal gweithredu, ac mae olion y peiriandy ac arglawdd sylweddol ar gyfer tramffordd sy’n cysylltu’r safle ag ardal arall o weithredu gerllaw.

Mae olion sawl strwythur llai wedi goroesi, ynghyd â thystiolaeth ar gyfer mwyngloddio brig o bosibl. Yn ogystal â’r prif weithiau, mae prif nodweddion y dirwedd yn cynnwys dwy system ddyfrffos a oedd yn tynnu dŵr o nant Aber Sychnant i gyflenwi mwyngloddiau’r Mwynglawdd, ac mae un ohonynt hefyd yn cyflenwi Pool Park a Lower Park. Mae tystiolaeth o’r maes yn dangos mai dyfais droi y byddai ceffyl yn ei thynnu oedd yn gweithio rhai o’r siafftiau mwyaf, ac yna fe’u disodlwyd gan beiriannau ager a oedd yn rhedeg ar ddŵr o lynnoedd a dyfrffos artiffisial a oedd hefyd yn cyflenwi pŵer i fathru a phrosesu’r mwyn. Mewn peiriandai cerrig y cedwid y peiriannau, ac fe’u distrywiwyd fwy neu lai gan y fyddin yn y 1960au ar ôl iddynt ddirywio. Mae dwy brif system ddyfrffos yn amlwg. Mae un mwy sylweddol, a oedd yn cynnwys dŵr a ddeuai o nant Aber Sychnant beth ffordd i fyny’r nant, heibio i ochr orllewinol mwynglawdd Pool Park ac fe gyflenwai hon fwyngloddiau’r Mwynglawdd, 2 gilometr i’r gogledd-ddwyrain. Cafodd ail ddyfrffos, a oedd hefyd yn cynnwys dŵr a ddeuai o Aber Sychnant i fyny’r nant, ei sianelu dan y dramffordd o Boundary Shaft i fwydo cronfa ddŵr fawr yn yr ongl rhwng y tramffyrdd i’r de-ddwyrain o’r peiriandy. Mae’n amlwg mai’r gronfa ddŵr oedd yn darparu’r prif gyflenwad dŵr i Pool Park, ac mae’n debyg iddi fwydo boeleri’r peiriandy a’r olwyn ddŵr fechan ar ochr ogleddol y llawr trin lle byddai’r mwynau’n cael eu prosesu. Yna aeth y ddyfrffos ymlaen i’r gogledd dros y mynydd i gyfeiriad Mwynglawdd Park.

Chwarela am lechi a’u prosesu
Fe arweiniodd ecsbloetio’r llechi Silwraidd sy’n brigo yn rhannau gorllewinol a deheuol yr ardal at greu nifer o dirweddau diwydiannol neilltuol. Fe ffurfiodd ardal Llangollen ranbarth benodol o’r diwydiant llechi yng ngogledd-ddwyrain Cymru, ac er bod y raddfa yn fechan o’i chymharu â graddfa’r diwydiant yng ngogledd-orllewin Cymru, roedd yn lleol arwyddocaol. Dechreuodd y gwaith o chwarela am lechi yn yr 17eg ganrif, er mai’r 19eg a dechrau’r 20fed ganrif oedd y cyfnod y gwelwyd y gwaith dwysaf, yn dilyn dyfodiad y gamlas, ac yna’r rheilffordd. Newidiodd diwydiant lleol yn bennaf i un a oedd yn allforio y tu allan i’r ardal i Wrecsam a Chanoldir Lloegr.
Gellir gweld nifer o grwpiau o chwareli. Gorweddai un grŵp o chwareli mawr o amgylch ymylon Mynydd Llantysilio a Bwlch yr Oernant yn ardaloedd nodwedd hanesyddol Maesyrychain a Mynydd Llantysilio yn Chwareli Oernant, Moel-y-faen, Clogau (Berwyn), Craig y Glan, Cymmo a Rhiw Goch. Mae’r gweithfeydd gwreiddiol yn Oernant i’w cael yn y blanhigfa gonwydd islaw Bwlch yr Oernant lle mae’r gwaith cynnar ar ochr y bryn. Crëwyd hwn yn bennaf i gynhyrchu slabiau llechi ond dywedir i lechi ar gyfer toeau hefyd gael eu cynhyrchu yma yn yr 17eg ganrif. O 1852 hwyluswyd cludo’r llechi o chwareli mawr Oernant, Moel y Faen a Berwyn trwy agor tramffordd a redai ar hyd ymylon dwyreiniol Mynydd Llantysilio i fwydo inclein Maesyrychain, yng ngŵydd Abaty Glyn y Groes. Trosglwyddwyd y llechi yn y modd hwn i dramffordd is a redai i Weithfeydd Slabiau a Llechi Pentre Felin ar y gamlas, ychydig i’r gogledd-orllewin o Langollen.

Datblygwyd y gweithiau helaeth agored ar gopaon y bryniau a rhai gweithiau tanddaearol, ym Moel-y-faen yn bennaf, yn dilyn cysylltiad â’r gamlas trwy estyn tramffordd Oernant ym 1857, er bod y llechi yn cael eu cludo o’r chwarel ar lori erbyn diwedd ei hoes gwaith yn y 1940au. Gellir gweld olion adeiladau o hyd, yn gytiau trin, yn weddillion cwt halio ager neu’n felin lifio neu’n efail gof. Hefyd gellir gweld lein y dramffordd a rhai trawstiau sylfaen o lechfaen o hyd. Mae rhywrai’n byw o hyd yn y cymhlyg o fythynnod gweithwyr yn Nhai-newyddion, i’r gogledd o’r ardal astudiaeth. Mae’r gwaith bas agored ar y copa yng Nghlogau (Berwyn) yn cwmpasu ardal eang. Yn wreiddiol, fe fyddai’r cynhyrchion gorffenedig, sef slab yn bennaf, yn cael eu hanfon ar inclein i lawr i’r ffordd, ond yn ddiweddarach, byddai tramffordd yr Oernant yn ei wasanaethu. Mae cynhyrchu nwyddau llechi arbenigol yn parhau hyd heddiw ar raddfa lai. Roedd y gwaith ar ochr y bryn yng Nghraig y Glan ar ymyl ogleddol Mynydd Llantysilio ar ei anterth yn y 1870au – 80au, a chaewyd ef yn y 1940au, pan oedd yn dibynnu’n llwyr ar gludiant ar y ffyrdd. Roedd y chwarel fechan ar ochr y bryn yn Rhiw Goch ger Cymmo, i’r gorllewin o’r Rhewl yn cynnwys rhai gweithiau tanddaearol, ac fe arhosodd yn weithredol o’r 1840au hyd at yr Ail Ryfel Byd.

Gorweddai ail grŵp o chwareli llai ger ŵPentre-dŵr yng Nghraig Wynnstay, Ffynnon y Gog, a’r Foel yn ardal nodwedd tirwedd hanesyddol Pant-y-groes. Roedd y chwareli hyn unwaith eto yn cynhyrchu yn bennaf ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed. Mae’r lefelydd yn Ffynnon y Gog a’r Foel bellach wedi’u cuddio i raddau helaeth gan blanhigfa gonwydd ddiweddarach, er bod rhai o olion adeiladau’r chwarel a strwythurau eraill wedi goroesi. Gorweddai grŵp bychan arall o chwareli yn ardal nodwedd Dinbren yn Aber-gwern, Eglwyseg a Phant Glas. Chwarel fechan ar ochr y bryn oedd Aber-gwern ac roedd ganddi gwt trin bychan ac adeiladau eraill y mae’n ymddangos eu bod oll wedi cau erbyn y 1920au, er bod rhai olion adeiladau a strwythurau yn dal i’w gweld yn ogystal â safleoedd y chwareli eu hunain. Yn olaf, gorweddai chwarel lechi fechan o ganol y 19eg ganrif, o bosibl, ar y bryniau i’r de o Langollen ar Graig y Dduallt yn ardal nodwedd tirwedd hanesyddol Craig-y-dduallt.

Roedd gwaith llechi Pentrefelin, sy’n dyddio o’r 1840au ar lanfa’r gamlas ac yn ddiweddarach darparwyd pwynt llwytho rheilffordd ar ei gyfer. Roedd olwyn ddŵr a yrrwyd gan y gamlas ei hun yn gyrru’r felin, ac roedd yn trin deunyddiau a gludwyd yno ar dramffordd Oernant o chwareli Bwlch yr Oernant. Fe barhaodd i weithredu hyd y 1920au er gwaethaf problemau â’r tomenni, a chwynion ynghylch llygru’r afon. Prynodd Cwmni White Sand and Silica yr hen waith llechi yn y 1940au, gan ddarparu cwarts mâl o’r tywodfaen a gloddid ar y Mynydd Du ger Nercwys, a chludwyd ef i Bentrefelin. Fe gyflenwai’r farchnad enamel gwydrog, ffowndrïau dur a’r fasnach sment mân yn ystod yr Ail Ryfel Byd, ac wedi hynny hyd at y 1960au. Yn ddiweddarach, defnyddiwyd yr adeiladau gan Amgueddfa Foduron Llangollen.

Chwarela calchfaen a gweithgynhyrchu calch
Arweiniodd dyfodiad y gamlas ar ddiwedd y 19eg ganrif a blynyddoedd cynnar yr 20fed ganrif at ehangu’r diwydiant cynhyrchu calch yn rhan ddwyreiniol yr ardal yn ardaloedd nodwedd tirwedd hanesyddol Trevor Uchaf a Chysyllte, gan ddefnyddio glo a fewnforiwyd o faes glo Rhiwabon. Defnyddid odynnau calch ar lannau’r gamlas ar ochr ddeheuol y dyffryn yn Froncysyllte o ddiwedd y 18fed ganrif ymlaen, gan gynhyrchu calch at ddibenion amaethyddol a diwydiannol, a’i gludo cyn belled â Swydd Gaer, Swydd Stafford a Chanoldir Lloegr. Cyflenwyd yr odynnau â cherrig a chwarelwyd o’r brigiad arunig o galchfaen yn chwareli Pen y Graig ar y bryn uwchlaw Froncysyllte, a’u cludo i lawr y rhiw gan gyfres o dramffyrdd ac incleins at anheddiad cnewyllol bychan a dyfodd o’r herwydd ym Mroncysyllte. Roedd yr odynnau calch ar ochr arall y dyffryn yn Nhref-y-nant yn gweithredu o’r 1830au. Seiliwyd y rhain ar galchfaen a ddygid i lawr o Greigiau Trevor lle hefyd ceir llawer o olion sydd wedi goroesi o’r diwydiant calchfaen, gan gynnwys chwareli bach a mawr, hen dramffyrdd a gludai’r creigiau a gloddiwyd, sawl arglawdd o odynnau calch a nifer o odynnau calch unigol mwy gwasgaredig. Adeiladwyd sawl inclein i gludo’r deunyddiau a gloddiwyd i’r gamlas a’r rheilffordd, ac anheddiad gwasgaredig o fythynnod chwarelwyr yn Nhrevor Uchaf. Gwelwyd dirywiad yn y diwydiant calch lleol tua diwedd y 19eg ganrif, er i gloddio am galchfaen barhau yn chwareli Pen y Graig hyd at y 1950au.
Gweithgynhyrchu brics a theils
Cododd diwydiant brics a theils ffyniannus yn ardal nodwedd Cysyllte yn ystod ail hanner y 19eg ganrif, yn seiliedig ar y clai o ansawdd da o’r gwelyau marl a’r dyddodion glo a oedd ar gael yn lleol ym Maes Glo Rhiwabon. Gallai’r diwydiant hefyd fanteisio ar ei agosrwydd at y gamlas a’r rheilffordd, ac roedd mewn man delfrydol i ddiwallu gofynion aneddiadau diwydiannol cynyddol ardal Wrecsam a’r ganolfan twristiaeth gynyddol yn Llangollen. Roedd yr hen waith brics yn y Garth yn weithredol ger tafarn yr Australia Arms ym 1862, gydag odyn unigol ger y ffordd i ddechrau, yn cynhyrchu ‘large quantities of good, sound and serviceable cherry red bricks, which are well adapted for all ordinary building purposes’. Erbyn y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y gwaith yn cynhyrchu brics silica ar gyfer y diwydiant dur a ganister, sef sment plastig a ddefnyddid ar gyfer toddi haearn. Daeth cynhyrchu i ben ym 1979 o ganlyniad i ddirwasgiad yn y diwydiant dur. Mae’r gweithfeydd bellach wedi’u dymchwel, er bod rhai adfeilion yng nghefn y safle, ac mae rhan o’r hen swyddfeydd yn goroesi ar fin y ffordd. Ym 1852 y ceir y cofnod cynharaf o waith brics Tref-y-nant ac erbyn y 1860au roedd yn defnyddio 6 o odynnau calch. Fe gynhyrchai gwaith brics Tref-y-nant frics tân, cyrn simnai a nwyddau teracota addurnol, ac roedd yn un o bedwar o weithfeydd lleol James Coster Edwards, sef un o gwmnïau gwaith brics mwyaf llwyddiannus gogledd-ddwyrain Cymru. Roedd y gwaith yn arbenigo mewn cynhyrchu peipiau carthffosiaeth gwydrog y daeth galw mawr amdanynt yn dilyn y rheoliadau carthffosiaeth newydd a ddaeth i rym ar ôl pasio Deddfau Iechyd y Cyhoedd 1848 a 1858. Byddai’r clai yn cael ei gloddio o byllau brig a mwyngloddiau, ac roedd y cloddio brig yn datgelu haenau o lo na chawsant eu hechdynnu’n fasnachol; roedd y clai a gloddiwyd yn Nhref-y-nant yn cynhyrchu nwyddau o liw bwff golau a oedd yn ddelfrydol ar gyfer pibellau carthffosiaeth o grochenwaith. Roedd gwaith Tref-y-nant wedi cau erbyn 1958 ar ôl sawl blwyddyn o gynhyrchu teils llawr coch. Prynwyd gan Waith Cemegolion Monsanto, ar ôl i’r hen waith brics gael ei ddymchwel bron i gyd a’i adael yn segur. Dwy golofn o frics, sef pyst gatiau’r swyddfeydd, yw’r unig bethau ar ôl o’r hen weithfeydd sydd wedi goroesi yn gyfan.

Trafnidiaeth a Chysylltiadau

Mae Dyffryn Llangollen wedi darparu llwybr pwysig trwy’r mynyddoedd ers y cyfnod cynnar, gan gysylltu ardal y gororau â thiroedd canol Cymru ymhellach i’r gorllewin. Mae croesi afon Dyfrdwy yn Llangollen hefyd wedi darparu cysylltiad pwysig i’r gogledd tuag at Ddyffryn Clwyd.

Pontydd ar afon Dyfrdwy

Bu pont ar draws yr afon yn Llangollen ers o leiaf y 13eg ganrif, ac mae tystiolaeth ddogfennol fod y bont yn y fan hon wedi’i hatgyweirio ym 1284. Dywedir bod pont ddiweddarach wedi’i chodi gan John Trevor yng nghanol y 14eg ganrif, ond mae’n debyg mai o oddeutu 1500 y mae’r bont bresennol yn dyddio. Cafodd ei hatgyweirio’n helaeth ym 1656, ac ychwanegwyd bwa ychwanegol ym 1863 dros y rheilffordd. Mae’r bont wedi’i lledu ddwywaith ar yr ochr uchaf, unwaith ym 1873 ac unwaith ym 1968–69. Roedd Tour in Wales Thomas Pennant a gyhoeddwyd ym 1783 yn cofnodi mai hi oedd un o ‘Tri Thlws Cymru, or three beauties of Wales’. Mae’r bont hefyd yn ymddangos yn y pennill anhysbys o’r enw The Seven Wonders of Wales.

Pistyll Rhaeadr and Wrexham Steeple, Snowdon’s mountain without its people, Overton yew trees, Gresford bells, Llangollen bridge and St Winifred’s well

Dymchwelwyd hen ffoli castellog Fictoraidd ger pen gogleddol y bont ym 1939.
Yn ddiamau, gellid croesi afon Dyfrdwy ar fferi neu drwy ryd hefyd yn y cyfnod cynnar. Dywedir bod fferi yng Nghysyllte ar ddiwedd y 14eg ganrif. Adeiladwyd y bont gerrig ymhellach i lawr yr afon ym Mhont Cysyllte yn y 1690au, ac ail-luniwyd hi yn sylweddol ar ddiwedd y 18fed ganrif. Roedd y bont gadwyn gyntaf ym Merwyn, i’r gorllewin o Langollen, a adeiladwyd gan Exuperius Pickering ym 1814 i gludo glo dros afon Dyfrdwy i’w anfon i Gorwen a’r Bala yn groesfan hynod arall. Yn ymarferol, adeiladwyd Pont y Brenin o gerrig yn ei lle ym 1906, a disodlwyd y bont gadwyn wreiddiol â phont grog ym 1929.

Ffyrdd Tyrpeg

Cafwyd gwelliannau sylweddol i’r prif lwybrau i’r gorllewin tuag at Gorwen ac i’r gogledd dros Fynydd Llantysilio i Ruthun gan yr ymddiriedolaethau tyrpeg yn ystod ail hanner y 18fed ganrif. Mae Thomas Pennant yn ei Tour of Wales a gyhoeddwyd ym 1783, er enghraifft, yn sôn am yr ‘excellent turn-pike road leading to Ruthyn’, heibio i Biler Eliseg. Dyma’r hen lwybr dros y mynyddoedd trwy Bentredwr, drwy fwlch yr oedd Pennant yn ei adnabod fel Bwlch y Rhiw Velen. Ym 1808, yn ôl yr hynafiaethydd Richard Fenton

The Road ascending from the Vale, is . . . prodigiously steep, and continues so for a mile and a half. Then we come to a Mountain track and open an extensive View. See the Arrennig, our old acquaintances, and have a clear View of Snowdon’.

Ym 1811, torrwyd ffordd dyrpeg hwylusach, sef Bwlch yr Oernant sydd bellach yn enwog (A542), i osgoi’r llethr serth yma ac roedd arni gerrig milltir a chlwyd tyrpeg ychydig i’r gogledd o Dafarn y Britannia.

Lôn Bost Caergybi Telford

One of the milestones on Telford’s Holyhead Road, completed in 1826. Photo: CPAT 1766-374.
Un o gerrig milltir Ffordd Caergybi Telford a gwblhawyd ym 1826. Llun: CPAT 1766-374.

Cafodd yr A5 presennol ei gwella’n sylweddol fel rhan o’r gwelliannau mawr a wnaed rhwng 1815–26 ar ffordd Caergybi i Lundain — the Great Irish Road — gan gryfhau’r cysylltiadau ffisegol rhwng y canolfannau llywodraeth yn Whitehall a Dulyn yn y blynyddoedd yn dilyn Deddf Uno 1800 rhwng Lloegr ac Iwerddon, a hynny fel mater o hwylustod gwleidyddol. Roedd hyn yn un o gynlluniau adeiladu ffordd mwyaf uchelgeisiol a dylanwadol y 19eg ganrif. Roedd yn orchest bwysig o ran peirianneg sifil y cyfnod, a gwnaed y rhaglen yn bosibl trwy’r arian hael a ddyfarnwyd gan y Senedd. Gellid dadlau mai dyma’r rhaglen torri ffyrdd gyntaf o bwys a ariannwyd gan y wladwriaeth yn y cyfnod modern. Cymharol fyr y parodd anterth Lôn Bost Caergybi yn yr 1820au hwyr a’r 1830au, fodd bynnag, a disodlwyd hi gan reilffordd Llundain i Gaergybi at ddibenion teithio yn bell, yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn ddiamau, fe gyfrannodd y dirywiad ym mhwysigrwydd y ffordd yn ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg at oroesiad hynod llawer o’r gwaith gwreiddiol. Cafodd y ffordd adfywiad ers dyfeisio’r peiriant tanio mewnol ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, a heddiw ystyrir hi yn heneb ddiwydiannol fyw sy’n gweithio, i’w choleddu a’i rheoli â chydymdeimlad yn ei rhinwedd ei hun. Trist yw nodi bod llawer o gymeriad gwreiddiol ffordd Telford wedi’i niweidio gan ‘welliannau’ ansensitif dros y blynyddoedd diwethaf, ond mae rhai darnau o’r waliau gwreiddiol ar ochrau’r ffordd, waliau cynnal y ffordd a nifer o gerrig milltir nodweddiadol gyda phlatiau haearn bwrw wedi’u gosod mewn pileri tywodfaen wedi goroesi.

Camlas Llangollen

Dechreuodd y gwaith adeiladu ar y gamlas sy’n rhedeg trwy Ddyffryn Llangollen ym 1795, a gorffennwyd ef ym 1808, er ei bod ar agor i rai mathau o drafnidiaeth ym 1805. Yn ôl y plac haearn bwrw ar un o bileri Traphont ddwr Pontcysyllte, y syniad oedd y byddai ‘for the mutual benefit of agriculture and trades’. Roedd yn ffurfio rhan o system camlas yn cysylltu afon Merswy ag afonydd Dyfrdwy a Hafren. Camlas Llangollen yw enw’r darn o Welsh Frankton yn Swydd Amwythig i gored Rhaeadr y Bedol yn Llantysilio i’r gorllewin o Langollen, sef enw na chafodd ei ddefnyddio’n gyffredin tan y 1940au. Dyma’r fan lle rhedai’r dwr o afon Dyfrdwy i mewn iddi. Rhoddodd y gamlas fynediad i lofeydd Rhiwabon, gan ysgogi twf yr odynnau calch a’r gweithfeydd crochenwaith ym Mroncysyllte a Thref-y-nant, basn helaeth a rheilffyrdd hyd lofeydd a gweithfeydd cemegion Acrefair i weithfeydd haearn Plas Kynaston a chwareli cerrig Cwm Mawr.
Dechreuodd y gwaith adeiladu ar Draphont Ddwr Pontcysyllte ym 1795 a gorffennwyd ef ym 1805, at ddibenion cludo’r gamlas dros Afon Dyfrdwy. Dyluniwyd y campwaith peirianneg hwn, sef y draphont ddwr orau ym Mhrydain ym marn llawer, gan Thomas Telford a oedd yn gweithio dan William Jessop, peiriannydd camlesi mwyaf toreithiog y cyfnod. Mae pileri cerrig tal a main a bwâu yn cynnal cafn haearn dros 300 metr o hyd, ychydig dan 40 metr uwchlaw Afon Dyfrdwy sy’n llifo oddi tani. Roedd angen technegau arloesol i sicrhau uchder y draphont ddwr, i ddisodli’r technegau adeiladu trwm cynharach a oedd yn dibynnu ar haenau dwbl o gerrig gyda chlai pwdlo yn ei selio. Yn lle hynny, cafn a gafodd ei wneud o blatiau haearn bwrw wedi bolltio at ei gilydd oedd yn cludo’r draphont ddwr, gydag asennau haearn bwrw yn ei chynnal. Roedd William Hazledine, a fu’n gyfrifol am fwrw’r haearn yng Ngweithfeydd Haearn Plas Kynaston, tua 450 metr i’r dwyrain o Lanfa Trefor, yn un o brif feistri haearn y cyfnod. Adeiladwyd Gweithfeydd Haearn Plas Kynaston yn gyntaf i gyflawni’r contract hwn. Mae’r arglawdd ar ochr ddeheuol y draphont ddwr yn un o’r argloddiau camlas mwyaf a godwyd erioed, wedi’i adeiladu o ddeunyddiau a gloddiwyd i ffurfio trychfa’r gamlas a’r twnnel ger Y Waun, tua 5 cilometr i’r de. Byddai rheilffordd o’r glofeydd gerllaw a gweithfeydd haearn Plas Kynaston yn gwasanaethu Glanfa Trefor lle roedd glanfeydd eang ar gyfer glo, pren a chalch. Mae’r adeiladau a’r strwythurau atodol sydd wedi goroesi yn cynnwys dociau sych, gwesty camlas, cyn warws a thy fforddiolwr.

Mae’r rhan fwyaf o’r pontydd ffordd sy’n croesi’r gamlas o fewn yr ardal dirwedd hanesyddol yn rhai crymion, a llawer ohonynt wedi eu gwneud o friciau neu gerrig neu gyfuniad o’r ddau, yn ogystal â phont godi ychydig i’r de o Draphont Ddwr Pontcysyllte. Bwriadwyd y gamlas yn wreiddiol fel dull o gludo cynnyrch amaethyddol, ond daeth yn ffactor pwysig yn natblygiad diwydiannol yr ardal. Daeth y gamlas i fod yn atyniad ymwelwyr o’i blynyddoedd cynharaf. Roedd y Parch. Bingley, er enghraifft, ymhlith y cyntaf i ysgrifennu am y draphont ddwr mewn dyddlyfr a gadwodd yn ystod ei daith yng ngogledd Cymru ym 1798, hyd yn oed cyn i’r pileri gael eu cwblhau, a chyn i’r cafn haearn gael ei ychwanegu at y brig.

Rheilffordd Dyffryn Llangollen

Arosfan Ffordd Llangollen yn Whitehurst, i’r gogledd o’r Waun, a agorodd ym 1849 ar Reilffordd Amwythig a Chaer oedd yn gwasanaethu Llangollen yn wreiddiol. Byddai’r teithwyr yn trosglwyddo i goetsys i deithio ar hyd Ffordd Caergybi. Agorwyd y rheilffordd yn wreiddiol ym 1861 o Riwabon i Langollen dan yr enw Rheilffordd Dyffryn Llangollen, a oedd yn fforchio o Reilffordd Amwythig a Chaer i’r de i Riwabon, ac yn rhedeg trwy Acrefair a Threfor. Estynnwyd y rheilffordd wedi hynny i’r gorllewin dan yr enw Rheilffordd Llangollen a Chorwen. Cyrhaeddodd hon Gorwen ym 1865 trwy Dwnnel Berwyn, a gymerodd flwyddyn i’w gwblhau, ac yna aeth ymlaen i arfordir gogledd Cymru yn Y Rhyl ar hyd Rheilffordd Dyffryn Clwyd, oedd yn fforchio yng Nghorwen erbyn 1864, ac i arfordir gorllewin Cymru ar Reilffordd Y Bala a Dolgellau erbyn diwedd 1868.

Am gyfnod o bron i ganrif, y rheilffordd oedd yn gyfrifol am gludo llawer o’r nwyddau a fyddai’n cael eu cludo’n flaenorol ar y ffordd neu ar y gamlas. Daeth yn fodd pwysig o allforio llechi, calchfaen a phren a chasglu mewnforion bwydydd, haidd a brag ar gyfer bragdai Llangollen, ac o gludo ymwelwyr. Roedd twristiaid wedi ffafrio Dyffryn prydferth Afon Dyfrdwy, â mynyddoedd y Berwyn, Llantysilio a Rhiwabon o’i amgylch ers diwedd y 18fed ganrif, ac roedd y rheilffordd yn cynnig un o’r llwybrau mwyaf prydferth yn y wlad o Riwabon i Abermo trwy Langollen a’r Bala.

Daeth yr holl wasanaethau cludo nwyddau i ben ym 1964, ar wahân i’r gwasanaeth o Riwabon i Langollen, a daeth hwnnw i ben ym 1968. Mae’r lein rhwng Llangollen a Charrog i’r gorllewin bellach yn cael ei rhedeg yn breifat gan Gymdeithas Rheilffordd Llangollen, ond mae argloddiau, trychfeydd, croesfannau ac ategwaith pontydd wedi’u cadw yn dda mewn mannau eraill ar hen hynt y lein. Mae hyn yn nodwedd hanesyddol arwyddocaol sy’n ymwneud â hanes trafnidiaeth yn yr ardal.

Cysylltiadau Diwylliannol

Mae topograffeg ddramatig Dyffryn Llangollen wedi ysbrydoli traddodiad hir o gysylltiadau llenyddol a chelfyddydol ers dechrau’r cyfnod canoloesol cynnar sydd yn eu tro wedi dylanwadu ar y ffyrdd y canfuwyd a datblygwyd y dirwedd – ar ôl dylanwadu ar agweddau penodol ar ei threftadaeth bensaernïol, creu tirweddau dyluniedig a chadw’r nodweddion naturiol.

Llên gwerin a barddoniaeth y canol oesoedd

Fel mewn mannau eraill yng Nghymru, mae’n debyg mai yn y llên gwerin sy’n gysylltiedig â nifer o nodweddion naturiol sydd efallai’n tarddu o’r cyfnod canoloesol cynnar os nad ynghynt y gellir gweld y cysylltiadau diwylliannol cynharaf yn Nyffryn Llangollen. Mae hyn i’w weld amlycaf ar Graig Arthur a Chraig y Forwyn — enwau lleoedd sy’n gysylltiedig â dau o’r brigiadau amlwg ar sgarp calchfaen dramatig Creigiau Eglwyseg.

Mae’r cysylltiadau dilynol yn y cyfnodau canoloesol cynnar a chanoloesol yn cyfeirio’n bennaf at strwythurau neu adeiladau a grëwyd o fewn y dirwedd naturiol, ac a gododd yn aml trwy nawdd brenhinol neu eglwysig. Codwyd Piler Eliseg, sef rhan isaf croes garreg mewn lle amlwg yn nyffryn Eglwyseg, yn ystod hanner cyntaf y 9fed ganrif gan Cyngen er anrhydedd i’w hen-daid, Eliseg, a oedd wedi aduno’r deyrnas trwy adfer y tir yr oedd y Saeson wedi ei orchfygu. Ym 1696 fe gofnododd yr hynafiaethydd Edward Lhuyd yr arysgrif wreiddiol ar Biler Eliseg cyn iddi ddirywio i’w chyflwr presennol, lle nad oes prin modd ei darllen. Mae’r arysgrif ar yr heneb symbolaidd bwysig hon yn olrhain olyniaeth chwedlonol teulu brenhinol Powys o Frenin Gwrtheyrn ar ddechrau’r 5ed ganrif, Macsen Wledig ar ddiwedd y 4edd ganrif a bendith grefyddol Sant Germanus o Auxerre. Mae hi felly yn manylu ar hawliau gwleidyddol a thiriogaethol sy’n estyn yn ôl i’r byd Rhufeinig diweddar. Mae dadlau brwd ynghylch tarddiad yr elfen eglwyseg yn Afon Eglwyseg a Chreigiau Eglwyseg, ond cred rhai awdurdodau bod yr elfen honno’n tarddu o Eliseg.

Mae’n bosibl mai yn y 9fed neu’r 10fed cadwyn o gerddi o’r enw Canu Llywarch Hen y ceir y cofnod cynharaf o enwau lleoedd yn y dyffryn, sy’n cyfeirio at anheddiad Llangollen a’r bwlch a adwaenir fel Bwlch y Rhiw Velen i’r gogledd dros y mynyddoedd i Ruthun, gan sôn am fannau claddu meibion Llywarch.

Byddai’r bardd llys Einion Wan yn sicrhau cysylltiadau barddol pellach yn gynnar yn y 13eg ganrif. Mae ei gerddi sydd wedi goroesi yn cynnwys englyn sy’n cynnwys marwnad i Fadog ap Gruffudd Maelor, rheolwr cyntaf teyrnas Powys Fadog a isrannwyd. Sefydlodd Madog Abaty Glyn y Groes ym 1201, ac adeiladodd ei fab, Gruffudd ap Madog, Gastell Dinas Brân yn y 1260au, dau adeilad a fyddai yn ddiweddarach yn magu statws eiconig yn y rhanbarth.

Er gwaethaf ei fod wedi colli arwyddocâd gwleidyddol a strategol yn dilyn concwest Edward yn y 1280au, byddai Dinas Brân yn nodwedd mewn nifer o weithiau llenyddol ar ddiwedd y 13eg a’r 14eg ganrif. Mae’n ymddangos yn y rhamant rhyddiaith o’r enw Fouke le Fitz Waryn, sef llawysgrif a ysgrifennwyd mewn Hen Ffrangeg, sy’n dyddio o hanner cyntaf y 14eg ganrif ac sydd bellach yn y Llyfrgell Brydeinig, ond mae wedi’i seilio ar ramant farddonol o’r 13eg ganrif sydd bellach ar goll. Mae’r unig waith sydd wedi goroesi o eiddo’r bardd Cymraeg Hywel ab Einion hefyd yn dyddio o’r 14eg ganrif. Fe gyfansoddodd gân serch i Myfanwy Fychan o Ddinas Brân, sef merch ifanc a oedd yn rhan o un o ganghennau teulu Trevor. Dywedir i’r gerdd gael ei gadael mewn hollt mewn coeden dderw ar lethrau’r bryn a chyhoeddwyd hi am y tro cyntaf mewn cyfieithiad gan Thomas Pennant yn ei Tour in Wales. Dyma ran ohoni yn y Gymraeg wreiddiol:

Lluniais wawd, ddefawd ddifan, – traul ofer,
Nid trwy lafur bychan, Lliw eiry cynnar pen Aran, Lloer bryd, lwys fryd o lys Frân.

Byddai’r gerdd ganoloesol yn ysbrydoli’r gerdd Fictoraidd enwog, Myfanwy Fychan, gan y bardd John Ceiriog Hughes. Ysgrifennwyd y gerdd, gyda’i phwyslais ar safonau moesol, ar gyfer yr Eisteddfod a gynhaliwyd yn Llangollen ym 1858 a daeth yn fodel ar gyfer cerddi serch Cymraeg yn ail hanner y 19eg ganrif.

Yn ogystal â’i effaith eglwysig ac economaidd arwyddocaol, daeth yr abaty Sistersaidd yng Nglyn y Groes hefyd i fod yn ganolbwynt pwysig ar gyfer bywyd diwylliannol yn y rhanbarth yn sgîl nawdd y naill abad ar ôl y llall, a thrwy gysylltiadau â’r bardd Iolo Goch yn y 14eg ganrif a Guto’r Glyn a Gutun Owain yn y 15fed ganrif. Mae cerdd enwog gan Gutun Owain yn canmol haelioni Dafydd ab Ieuan, yr un abad a oedd wedi gofalu am y bardd Guto’r Glyn yn ei henaint:

Remains of the Cistercian abbey at Valle Crucis founded by the Welsh prince Madog ap Gruffudd Maelor, in 1201. Dinas Bran is just visible in the distance towards the right. Photo: CPAT 1766-154.
Olion yr abaty Sistersaidd yng Nglyn y Groes, a sefydlwyd gan y tywysog Cymreig Madog ap Gruffudd Maelor ym 1201. Mae Castell Dinas Brân i’w weld yn y pellter tuag at ochr dde’r llun. Llun: CPAT 1766-154.

In addition to its significant ecclesiastical and economic impact, the Cistercian abbey at Valle Crucis also became an important focus of cultural life within the region due to patronage by successive abbots, having associations with the poet Iolo Goch in the 14th century and with Guto’r Glyn and Gutun Owain in the 15th century. A well-known poem by Gutun Owain praises the hospitality of Dafydd ab Ieunan, the same abbot who had harboured the poet Guto’r Glyn in old age:

 

Ef a bair llynnau o fyw berllanwydd
Ac o frag gwenith a gwiw frig gwinydd;
A gario’r gwenyn o gyriau’r gweunydd
Yn ei gaeredau a wna gwirodydd.
Y ffrwythau gorau, megis Gweirydd-Gryf,
O ddaear a dyf a ddyry Dafydd.

 

Y mudiad Rhamantaidd

Er eu bod bellach yn adfeilion, parhawyd i gyfeirio at Gastell Dinas Brân a Glyn y Groes mewn gweithiau a gyfansoddwyd yn y 16eg a’r 17eg ganrif a soniwyd amdanynt gyntaf gan hynafiaethwyr cynnar. Yn ôl John Leland, Hynafiaethydd y Brenin, a ymwelodd â’r lle rhywdro ar ôl 1534, ‘the castle of Dinas Brane was never a bygge thing, but sette al for strength in a place half inaccessible for enemies’. Crëwyd delweddau Rhamantaidd Cynnar o’r castell adfeiliedig mewn englyn gan Roger Cyffyn, y bardd o Sir Ddinbych, ar ddiwedd y 16eg neu’n gynnar yn yr 17eg ganrif, a welir wedi’i gyfieithu yn llyfr George Borrow, Wild Wales:

Gone, gone are thy gates, Dinas Brân on the height!
Thy warders are blood-crows and ravens, I trow;
Now no one will wend from the field of the fight
To the fortress on high, save the raven and crow.

Arweiniodd gwelliannau cyffredinol mewn cyfathrebu a chynnydd yn symudiadau’r dosbarthiadau elitaidd at ddibenion cymdeithasol a hamdden at ddyfodiad llawer o ymwelwyr â’r ardal o tua chanol y 18fed ganrif, ynghyd ag ymddangosiad cyntaf darluniau cyhoeddedig o Ddyffryn Llangollen, a oedd yn ddylanwadol wrth hybu delwedd ddarluniaidd o’i hynafiaethau a’i olygfeydd. Cyhoeddwyd engrafiadau o Glyn y Groes gan y brodyr Buck ym 1741–42 a chan S. H. Grimm ym 1770. Paentiodd yr artist o Gymro, Richard Wilson, sawl golygfa o Ddinas Brân oddeutu 1770, ac fe gomisiynwyd un ohonynt gan Syr Watkin Williams-Wynn, a’i ddangos yn yr Academi Frenhinol ym 1771. Roedd Wilson wedi astudio paentio’r dirwedd yn yr Eidal cyn hynny. Roedd dyffryn afon Dyfrdwy, gyda’i gefn gwlad ffrwythlon a’i gastell ac abaty adfeiliedig yn bwnc delfrydol ar gyfer tirweddau yn yr arddull Eidalaidd. Yn wir, awgryma dadansoddiad pelydr X o un o’i olygfeydd o Ddinas Brân ei bod wedi ei phaentio dros ddarlun o dirwedd Tivoli. Aeth John Ingleby ati i baentio llun dyfrlliw o’r dirwedd ger Llangollen gan gynnwys Glyn y Groes a Dinas Brân ac ym 1776, cyhoeddodd Paul Sandby Views of North Wales a oedd yn cynnwys darlun o Ddyffryn Llangollen o’r dwyrain, yn dangos castell Dinas Brân. Er gwaethaf y mewnlifiad ymwelwyr, parhaodd y traddodiad barddol cryf ymhlith beirdd brodorol megis y bardd o Sir Ddinbych, Jonathan Hughes (1721–1805), a anwyd yn ffermdy Ty’n-y-pistyll, Pengwern, ger Llangollen, cystadleuwr yn yr eisteddfodau a drefnwyd gan Gymdeithas y Gwyneddigion. Cyhoeddodd Hughes, yr ysgrifennwyd ei feddargraff gan ei gyfaill Twm o’r Nant (Thomas Edwards) sawl cyfrol o farddoniaeth yn ystod ei fywyd ac ychydig wedi ei farwolaeth. Daethai dylanwadau diwylliannol pennaf yr ardal o bellter, fodd bynnag, ac er gwaethaf gwelliannau i’r rhwydwaith ffyrdd tyrpeg, aeth rhai o’r ymwelwyr i drafferth i herio’r llwybrau mwyaf llafurus ac anturus y gallai’r ardal eu cynnig. Disgrifiodd Tour in Wales Thomas Pennant, a gyhoeddwyd ym 1783, ddyffryn Eglwyseg fel rhywle a oedd yn ‘adapted only for the travel of the horsemen’, gan ei fod yn

long and narrow, bounded on the right by the astonishing precipices, divided into numberless parallel strata of white limestone, often giving birth to vast yew-trees: and on the left, by smooth and verdant hills, bordered by pretty woods. One of the principal of the Glisseg rocks is honoured with the name of Craig-Arthur. That at the end of the vale is called Craig y Forwyn, or maiden’s rock; is bold, precipitous, and terminates with a vast natural column. . . . This valley is chiefly inhabited (happily) by an independent race of warm and wealthy yeomanry, undevoured as yet by the great men of the country.

Disgrifiodd y bryniau uwchlaw Froncysyllte fel rhai oedd ‘a prospect uncommonly great. The distant view is boundless. One side impends over a most beautiful valley, watered by the Dee; diversified with groves and bounded towards the end by barren and naked rocks, tier above tier’. Mae’r tai bonedd hynod hefyd yn cael eu disgrifio a’u canmol am y tro cyntaf yn y gweithiau hyn. Yn ôl Pennant ‘Trevor house makes a handsome appearance’ er bod y neuadd ag iddi fframwaith pren ym Mhlas yn y Pentre yn cael ei hystyried yn ‘grotesque ancient house, which gives variety to the scenery’. Ymddangosodd y disgrifiadau cyntaf o’r aneddiadau yn y Dyffryn hefyd yn y cyfnod yma. Disgrifiodd Pennant Langollen fel hyn:

a small and poor town, seated in a most romantic spot, near a pretty common watered by the Dee, which emblematic of its country, runs with great passion through the valley. The mountains soar to a great height above their wooded bases; and one, whose summit is crowned with the ancient castle ,Brân, is uncommonly grand. . . . I know of no place in North Wales, where the refined lover of picturesque scenes, the sentimental, or the romantic, can give a fuller indulgence to his inclination. No place abounds more with various rides or solemn walks.

Roedd Glyn y Groes i’w ddisgrifio fel ‘solemnly seated at the foot of the mountains, on a small meadowy flat, watered by a pretty stream, and shaded with hanging woods’, ac roedd engrafiadau o luniau dyfrlliw o Ddinas Brân, Glyn y Groes a Philer Eliseg gan Moses Griffiths i’w cyhoeddi yn Tour in Wales Pennant. Ymddangosodd engrafiad pellach yn dangos golygfa o Glyn y Groes a Chastell Dinas Brân yn Antiquites of England and Wales Henry Boswell a gyhoeddwyd ym 1786.

Roedd teithio dramor wedi dod yn beryglus yn ystod blynyddoedd olaf y 18fed ganrif oherwydd y Rhyfeloedd yn Ffrainc ac o’r herwydd roedd yn adeg pan fyddai llawer o’r darpar deithwyr yn chwilio am antur ym Mhrydain yn hytrach na mynd ati i drefnu Taith Fawr. Roedd nifer o gyhoeddiadau’n manteisio ar anghenion y farchnad newydd a chynyddol hon. Cyhoeddwyd A Map of the Six Counties of North Wales ym 1795 gydag engrafiadau gan Robert Baugh, a oedd yn cynnwys golygfa o adfeilion Abaty Glyn y Groes. Cyhoeddwyd engrafiad o Blas Llantysilo ym 1796 a gwnaed darlun o Biler Eliseg gan Thomas Rowlandson ym 1797.

Plas Newydd, Llangollen, the former home of the Ladies of Llangollen, Sarah Ponsonby and Eleanor Butler, with Castell Dinas Brân in the distance. Photo: CPAT 1766-222.
Plas Newydd, Llangollen, hen dŷ Merched Llangollen, Sarah Ponsonby ac Eleanor Butler, gyda Chastell Dinas Brân yn y pellter. Llun: CPAT 1766-222.

Yn ystod dau ddegawd olaf y 18fed ganrif, gwelwyd bod y Mudiad Rhamantaidd ledled Ewrop yn cofleidio’r Dyffryn yn llwyr. Erbyn y 1780au roedd Plas Newydd, bwthyn bach o gerrig o’r enw Pen y Maes ar y pryd, ar ymylon deheuol Llangollen, yn gartref i ddwy ferch hynod o Iwerddon, sef Eleanor Butler a Sarah Ponsonby, a gelwid hwy yn ddiweddarach yn Ferched Llangollen. Buont yn byw yno hyd eu marwolaeth ym 1829 a 1831 ac roeddent yn westywyr i glîc o gyfeillion a chydnabod enwog, gan gynnwys aelodau o deuluoedd bonedd o Gymry lleol, yn ogystal â phobl o oedd yn enwog ym Mhrydain a thrwy’r byd ym meysydd celf, gwleidyddiaeth a llenyddiaeth a oedd yn cynrychioli cenhedlaeth newydd o dwristiaid diwylliannol yn yr ardal. Roedd ymwelwyr â Phlas Newydd dros y cyfnod hwn o 40 mlynedd neu fwy yn cynnwys personoliaethau mor amrywiol ag Arthur Wellesly (Dug Wellington yn ddiweddarach), Dug Caerloyw, Y Tywysog Paul Esterhazy (gweinidog materion tramor Awstria), Syr Walter Scott, Robert Southey, Josiah Wedgewood, Charles Darwin, Richard Sheridan, a Syr Humphrey Davey. Yn nhiroedd Plas Newydd ym 1824, dan drem adfeilion mawreddog Dinas Brân, cyfansoddodd William Wordsworth y llinellau hyn am y castell adfeiliedig,

Through shattered galleries, ’mid roofless halls,
Wandering with timid footsteps oft betrayed,
The Stranger sighs . . .

Wedi hynny, byddai’n disgrifio ei ymweliad â Merched Llangollen mewn llythyr i’w gyfaill, Syr George Beaumont:

Called upon the celebrated Recluses . . . . We drank tea and passed a couple of hours with them in the evening, having visited the aqueduct over the Dee and Chirk Castle in the afternoon. . . . Next day I sent them the following sonnet from Ruthin, which was conceived, and in great measure composed, in their grounds.Glyn Cafaillgaroch, in the Cambrian tongue,
In ours, the Vale of Friendship, let this spot
Be nam’d; where, faithful to a low roof’d Cot,
On Deva’s banks, ye have abode so long;
Sisters in love, a love allowed to climb,
Ev’n on this earth, above the reach of time!

The allusion to the Vale of Meditation in the above, would recall to the Ladies’ minds, as it was meant to do, their own good-natured jokes of the preceding evening . . .

Roedd Anna Seward hefyd yn fardd Rhamantaidd a ymwelodd â’r Merched yn ystod y cyfnod hwn. Wedi’r ymweliad fe gyfansoddodd y llinellau canlynol, a gyhoeddwyd wedi ei marwolaeth yn ei gwaith Llangollen Vale: with other poems:

Say, ivy’d Valle Crucis, time decay’d,
Dim on the brink of Deva’s wandering flood,
Your riv’d arch glimmering thro’ the tangled glade,
Your gay hills, towering o’er your night of wood,
Deep in the vale’s recesses as you stand,
And desolately great the rising sigh command.

Byddai etifeddiaeth Eleanor Butler a Sarah Ponsonby yn eu goroesi o flynyddoedd. Estynnwyd y tŷ ac ychwanegwyd gwaith pren coeth yn y 1880au gan berchennog diweddarach, Y Cadfridog John Yorke. Cafwyd gwelliannau i’w erddi gan gynnwys codi hafdy a phontydd addurnol ar draws nant Cyflymen y codwyd y tŷ ar ei glannau. Dywedir i Richard Llewelyn ysgrifennu How Green Was My Valley yn y tŷ ym 1924, ac roedd hefyd yn gartref i Gwmni Theatr Cenedlaethol Cymru yn y 1930au. Rheolir y tŷ a’r gerddi fel atyniad i dwristiaid heddiw. Byddai’r Parch Bingley yn nodi Plas Newydd ar ei daith ym 1798:

the charming retreat of lady Eleanor Butler and Miss Ponsonby, which, however, has of late years been probably too much intruded upon by the curiosity of the multitudes of tourists who every summer visit Llangollen. . . . These two females, delighted with the scenery around Llangollen, when it was little known to the rest of the world, sought here a philosophical retirement from the frivolities of fashionable life, erected a dwelling that commands a fine mountain prospect, and have resided here ever since.

Ysgrifennodd Bingley hefyd ym 1798 am Gastell Dinas Brân a chofnododd godi Traphont Ddŵr Pontcysyllte, ond nid oedd mor ganmoliaethus am nifer yr ymwelwyr â thref Llangollen: ‘in the summer time I have more than once found it very unpleasant, from the crowd of travellers that are constantly passing on the roads to and from Ireland, and from the number of . . . tourists’.

Byddai paentiwr tirluniau gorau Prydain, J. M. W. Turner, ymhlith yr ymwelwyr hyn oddeutu 1798 pan wnaeth fraslun o afon Dyfrdwy a Chastell Dinas Brân yn y cefndir. Ym 1808, lluniodd fraslun rhagarweiniol o Glyn y Groes, unwaith eto gyda Dinas Brân yn y cefndir. Daeth y braslun yn destun darlun dyfrlliw diweddarach â’i brif themâu yn cynnwys un o themâu canolog celf Ramantus y cyfnod, yn cyfosod bugeiles a labrwyr yn torri gwair yn y blaendir gyda golygfa naturiol sy’n cynnwys adfeilion yr abaty a’r castell yn y cefndir.

Roedd ymgyrch groch a drefnwyd gan nifer o bobl leol amlwg ar ddechrau’r 19eg ganrif yn erbyn diwydiannu yn ddylanwadol o ran cadwraeth y tir gwledig yn Nyffryn Llangollen yn y tymor hir. Roedd Eleanor Butler a Sarah Ponsonby wedi bod yn ymgyrchu ers amser maith yn erbyn agor chwareli lle byddent i’w gweld trwy eu ffenestri, ac yn yr un modd fe wnaethant ymgyrchu yn erbyn ffordd Caergybi Telford. Fe wnaethant gynnull eu ffrindiau a’u cydnabod gan gynnwys aelodau o’r bonedd lleol megis y teulu Myddleton, y teulu Mytton, y teulu Mostyn a’r teulu Williams Wynn, i wrthwynebu i adeiladu melinau yn Llangollen gan yr ystyrid hwy yn ‘ddinistriol’. Ysgrifennodd Eleanor Butler at Mr Thomas Jones o Blas Llantysilio i erfyn am ei gefnogaeth, gan fynegi ei phryder ynghylch ‘the Peace, Health and Morals of the Inhabitants’. Yn ôl y papurau newydd, roedd y merched wedi bygwth gadael Llangollen:

Lady Eleanor Butler, and her fair friend Miss Ponsonby, who have for so many years been the fair recluses of the Vale of Llangollen in Wales are going to leave their beautiful seat no longer a retreat from the ‘busy hum of men’, by two extensive cotton mills having been erected near their abode.

Erbyn haf 1804, fodd bynnag, fe’u cysurwyd â’r wybodaeth na fyddent yn cael eu goresgyn ‘neither by Buonaparte nor the Cotton mills’. Ni chynhwyswyd y gamlas yn eu hymgyrch yn erbyn diwydiannu, fodd bynnag. Roedd Y Fonesig Eleanor Butler a Miss Ponsonby ymhlith y grŵp o westeion pwysig a gafodd eu cludo ar y cychod camlas cyntaf i groesi Traphont ddŵr Telford ym Mhontcysyllte yng nghanol rhwysg y seremoni agoriadol ym 1805. Nid oedd rhai ymwelwyr diweddarach megis Richard Fenton a’i gyfaill Syr Richard Colt Hoare a oedd yn ymweld ym 1808 mor hoff o’r syniad, ac er eu bod wedi mynd ar daith ar y gamlas, eu barn oedd ‘though it may bring commerce to a Country, yet in a picuresque point of view disfigures it’. Heddiw, fodd bynnag, ystyrir y gamlas yn un o atyniadau anwylaf yr ardal.

Twf twristiaeth a bywyd diwylliannol yn y 19eg a’r 20fed ganrif

Byddai twristiaid o dras uchel, o Loegr yn bennaf, yn parhau i heidio i’r Dyffryn gydol rhan gyntaf y 19eg ganrif. Ymwelodd y ffisegydd ifanc, Michael Faraday, â Thraphont Ddŵr Pontcysyllte yn ail ddegawd y ganrif, gan sylwi ar yr arglawdd ar ochr ddeheuol y dyffryn ‘jutting out like a promontory’, ac ar ei phileri main o gerrig a oedd yn peri iddi edrych ‘light as a cloud’. Ymwelodd y traethodydd William Hazlitt ym 1823, ac ysgrifennodd ‘I went to Llangollen Vale, by way of initiating myself in the mysteries of natural scenery; and I must say I was enchanted with it . . . the valley was to me . . . the cradle of a new existence . . . on passing a certain point you come all at once upon the valley, which opens like an amphitheatre, broad and barren hills rising in majestic state on either side, with [quoting Samuel Taylor Coleridge] ‘green upland swells that echo to the bleat of flocks’ below, and the river Dee babbling over its stony bed in the midst of them’.

Ym 1829, ymwelodd y cyfansoddwr Almaenig Felix Mendelssohn, a fentrodd i gefn gwlad cyfagos i chwilio am noddfa rhag y telynorion a eisteddai ‘in the hall of every reputable tavern playing so called fold melodies — that is to say, dreadful, vulgar, out-of-tune, trash with a hurdy-gurdy going on at the same time!’ by venturing into the surrounding countryside:

yesterday afternoon I had already climbed to the top of a high mountain, with the ruins of a Roman citadel [Dinas Brân] at the summit, had looked far out into the blue distance, and down to the dark, lonely valleys below – then climbed right back down into one of these quiet valleys, in which the walls and windows of an old abbey are covered and overgrown with lovely green trees – the abbey is right next to a rushing, babbling brook, mountains and rocky cliffs are spread all around, the choir of the church has been converted into a stable, the altar into a kitchen, above the tops of the gables you can see the tops of the beeches towering in the distance which could be a chapter in themselves

Cyniga Samuel Lewis ddelwedd ddarluniaidd debyg o Ddyffryn Llangollen yn ei Topographical Dictionary a gyhoeddwyd ym 1833, gan baratoi’r ffordd ar gyfer y gwerthfawrogiad mwy poblogaidd o atyniadau’r ardal, a gynyddodd yn ddiweddarach yn y ganrif:

The situation of Llangollen on the mail coach road from London through Shrewsbury to Holyhead causes it to be enlivened by the daily passage of travellers; and its inhabitants derive considerable advantage from the number of persons who visit it in the summer season, and make this their temporary abode, for the purpose of enjoying the scenery of the neighbourhood, which is equally pre-eminent for its grandeur and sublimity, and for its picturesque and romantic beauty. The parish is very extensive, and the Vale of Llangollen is deservedly celebrated as containing, in proportion to its extent, a greater variety of interesting objects, and a more beautiful and striking combination of the milder and nobler features of pleasing and majestic scenery, than probably any other in the principality.

Daeth y brigiadau dramatig o Ddyffryn Llangollen i fod yn ffynhonnell rhyfeddod a dyfaliad daearyddol o’r 18fed ganrif ymlaen o leiaf. Ysgrifenna Thomas Pennant yn ei Tour in Wales a gyhoeddwyd ym 1783 am ‘astonishing precipices’ Eglwyseg ‘divided into numberless parallel strata of white limestone, often giving birth to yew trees’.

Llangollen oedd y man cychwyn naturiol ar gyfer y trawslun daearegol arwrol ar draws gogledd Cymru gan yr Athro Adam Sedgwick a Charles Darwin fis Awst 1831. Bwriadwyd ef yn bennaf i ddangos y camgymeriadau yn y Map Daearegol o Gymru a Lloegr a gyhoeddwyd gan George Bellas Greenough ym 1820, ac fe ddarparodd sylfaen i Darwin ar ‘how to make out the geology of a country’, ychydig cyn iddo ddechrau ar ei fordaith dyngedfennol ar y Beagle. Byddai bywyd diwylliannol lleol yr ardal yn cael hwb yng nghanol y ganrif. Cynhaliwyd yr Eisteddfod Genedlaethol yn Llangollen ym 1858 ac fel y nodwyd uchod, fe enillwyd y Goron Arian gan John Ceiriog Hughes (Ceiriog) am ei gerdd sydd bellach yn enwog, sef Myfanwy Fychan.

Roedd y diwydiant ymwelwyr yn cael ei hybu’n weithredol o’r 1880au ymlaen, a rhwng y cyfnod hwnnw a diwedd degawd cyntaf yr 20fed ganrif, gwelwyd cynnydd cyflym yn nifer y gwestai, y tafarnau a’r lletyau yn Llangollen. Manylwyd ar atyniadau’r ardal mewn nifer o gyhoeddiadau newydd megis Jones’s Picturesque Views a gyhoeddwyd ym 1880, sy’n caniatáu inni olrhain y gwelliannau a wnaed er budd yr ymwelwyr. Nododd Picturesque Guide Black, felly, ym 1870 bod yr ‘old and mean houses’ a arferai fod yn y dref yn ‘gradually giving place to modern and more handsome dwellings’. Ym 1898, ysgrifennodd yr awdur llyfrau teithio, A. G. Bradley, am Langollen, a oedd unwaith yn falltod yn y dyffryn: ‘the village has this long time ceased to be the unsophisticated Arcady whose deficiencies – matter nothing – since it is the situation and the surroundings which make it famous’. Eiddo John Ruskin oedd y ganmoliaeth orau y gallai awduron yr oes ei chynnig, pan wnaeth ddatgan bod ‘the Dee itself is a quite perferct mountain stream, and the village of Llangollen – one of the most beautiful and delightful in Wales’.

Roedd Castell Dinas Brân ac Abaty Glyn y Groes wedi bod yn atyniadau ers amser maith a phan ddaeth y gamlas ym mlynyddoedd cynnar y 19eg ganrif, ychwanegwyd teithiau ar y gamlas a’r llwybr prydferth i Raeadr y Bedol at y rhestr. Byddai’r atyniadau newydd a grëwyd i’r twristiaid yn y cyfnod hyd at ddegawdau cyntaf yr 20fed ganrif yn cynnwys Rhodfa Fictoria ar hyd lan yr afon yn Llangollen, camera obscura ac ystafell de yn adfeilion castell Dinas Brân, a Panorama Walk, yn uchel ar y bryn islaw Creigiau Trevor. Roedd dyfodiad y rheilffordd wedi dwyn masnach o’r gamlas ac wedi galluogi cychod pleser i fanteisio’n llawn arni. Daeth ymwelwyr undydd neu bobl yn aros am wythnos o wyliau, gan gyrraedd ar y ffordd, y rheilffordd neu gerdded ar draws Mynydd Rhiwabon, o’r trefi a’r dinasoedd diwydiannol yng ngogledd-ddwyrain Cymru a Chanoldir Lloegr. Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd cymaint o ymwelwyr yn cyrraedd ar y trên o Ganoldir Lloegr yn enwedig fel bod platfform y rheilffordd wedi’i ymestyn ym 1897, a’r ystafell aros wedi’i hehangu. Darparwyd cyfleusterau ychwanegol yn Llangollen a’r ardal gyfagos er mwyn manteisio i’r eithaf ar y cynnydd yn y galw, a chafodd y cyfan effaith ar agweddau ffisegol yr amgylchedd, gan gynnwys y siopau, yr ystafelloedd te, y gwestai a’r lletyau. Roedd angen cerbydau â cheffylau yn eu tynnu, a bysus modur yn ddiweddarach, i gludo’r ymwelwyr i’w llety ac ar deithiau i Raeadr y Bedol neu Glyn y Groes. Daeth y Frenhines Fictoria ei hun i ymweld â Llangollen ym 1889 pan oedd y fasnach ymwelwyr Fictoraidd ar ei hanterth o bosibl, a chofnododd yn ei dyddiadur ei hymweliad â’r teulu Martin ym Mryntysilio yn ei erddi pleser oedd yn tremio dros Raeadr y Bedol:

drove up the beautiful wooded, mountain-girt, deep valley, dotted with villas and cottages, to Bryntysilio, the well-known residence of Sir Theodore Martin, who with Lady Martin received us as the door. The place is beautifully situated, and the house is furnished and arranged with the greatest taste. They showed us all their rooms and his study, with the table at which he wrote dearest Albert’s life. Had tea in the Drawing-room, during which a selected number of Llangollen choirs sang Welsh songs, in the pretty sloping garden. It is wonderful how well these choirs sing, being composed merely of shopkeepers and flannel weavers.

Cynhaliwyd y cysylltiadau llenyddol yn negawdau cynnar yr 20fed ganrif gan John Cowper Powys a ysgrifennodd ei Owen Glendower, a gyhoeddwyd ym 1940, yn rhannol yn adfeilion Glyn y Groes. Mae’r penodau cyntaf wedi’u gosod yng nghastell Dinas Brân a’i gyffiniau, drwy lygaid arwr ifanc Powys, Master Rhisiart:

There it was! There before him, towering up beneath a great bank of white clouds and against a jagged ridge of bare desolate rock, rose the castle of his imagination.For some minutes he remained spell-bound, absolutely caught out of himself, lost to everything but that majestic sight. It was not less, it was more All ramparts ever built, all towers, all fortresses, all castles, seemed to him mere clumsy reproductions of the ideal perfection of Dinas Brân. It wasn’t that it was so large—and he could see clearly, even from this distance, that it was in a battered, broken condition—but it took into itself that whole hill it was built upon! Yes, that was the thing. Dinas Brân was not the stones of its human walls, not the majestic outlines of its towering embattlements, not its soaring arches and turrets and bastions; it was an impregnable mountain called up out of that deep valley by some supernatural mandate. It foundations were sunk in the earth, but they were sunk in more than the earth; they were sunk in that mysterous underworld of beyond-reality whence rise the eternal archetypes of all the refuges and all the sanctuaries of the spirit, untouched by time, inviolable ramparts not built by hands!

I raddau yn unig yr effeithiodd yr Ail Ryfel Byd ar ardal y dirwedd hanesyddol. Ail-leolwyd amryw o gwmnïau i Langollen yn ystod y rhyfel, gan ddefnyddio adeiladau nifer o’r hen felinau. Meddiannwyd Plas Llantysilio dros dro gan ddisgyblion ysgol a ddaeth yn faciwîs o Sir Amwythig, a daeth milwyr i Fryntysilio. Adeiladwyd ffordd fechan newydd ar draws Mynydd Rhiwabon o’r Mwynglawdd i World’s End i wella mynediad, a chodwyd caer danddaearol i’r Gwarchodlu Cartref ar Fwlch yr Oernant. Yn ystod 1941 y gwelwyd unig effeithiau uniongyrchol y rhyfel pan gyneuwyd rhannau helaeth o’r rhostir grug ar Fynydd Rhiwabon gan fomwyr y gelyn, a niweidiwyd rhannau o Blas Uchaf gan fom tân.

Daeth y cyfnod wedi’r Ail Ryfel Byd â nifer o newidiadau a welir yn yr amgylchedd ffisegol. Mae Llangollen yn adnabyddus bellach am yr Eisteddfod Gerddorol Ryngwladol a gychwynnwyd ym 1947, i hybu heddwch rhyngwladol, ac sydd bellach yn croesawu mwy na chwe mil o gystadleuwyr o dros hanner cant o wahanol wledydd sy’n cystadlu ar y canu a’r dawnsio. Cynhelid yr ŵyl ar y Cae Chwarae uwchlaw’r dref i gychwyn, ond yna fe symudodd i’w safle parhaol presennol ar dir a oedd unwaith yn eiddo i Fferm Penddol, ac mae adeiladau parhaol yno bellach. Disgrifiodd Dylan Thomas effaith yr ŵyl ar y dref yn ei blynyddoedd cynnar mewn sgwrs radio a ddarlledwyd ym 1953, ac a gyhoeddwyd wedi hynny yn ei Quite Early One Morning (1954). Disgrifiodd sut mae’n ‘spills colourfully, multilingually and confraternally into the streets of Llangollen and the surrounding countryside’.

Arweiniodd y cynnydd mewn ceir preifat a chau’r rheilffordd yn y 1960au, ar wahân i’r rhan sy’n cael ei rhedeg yn breifat i’r dwyrain o Langollen am beth pellter, at gynnydd yng nghyfran yr ymwelwyr undydd, a dirywiad yn y fasnach lletyau (ac fe droswyd llawer ohonynt yn dai preifat). Yn ei dro, fe arweiniodd hyn at bwysau am feysydd parcio yn y dref, gan gynnwys yr un sydd ar safle’r hen farchnad anifeiliaid yng nghanol y dref.

Ffynonellau Gwybodaeth Eraill

Gellir darganfod gwybodaeth bellach am Dyffryn Llangollen ac Eglwyseg mewn amrywiaeth o ffynonellau cyhoeddedig a rhai nad ydynt wedi’u cyhoeddi.

Ffynonellau cyhoeddig

Abse, J., 2000. Letters from Wales, Bridgend.

Amgueddfa Llangollen 2003. The Spirit of Llangollen & Llantysilio.

Archer, A. A., 1959 , ‘The distribution of non-ferrous ores in the Lower Palaeozoic Rocks of North Wales’, Institution of Mining and Metallurgy Symposium.

Baring-Gould, S. and Fisher, J., 1907–13. The Lives of the British Saints.

Barlow, N., (ed.) 1958. Autobiography: The Autobiography of Charles Darwin, 1809-1882, London.

Baughan, P. E., 1980. A Regional History of the Railways of Great Britain, Volume 11, North and Mid Wales.

Bell, G. H., 1930. The Harmwood Papers of the Ladies of Llangollen.

Bennett, J., (ed) 1995. Minera: Lead Mines and Quarries. Wrexham: Wrexham Maelor Borough Council.

Bingley, W., 1814. North Wales delineated from two excursions through all the interesting parts of that highly beautiful and romantic country and intended as a guide for future tourists. London.

Borrow, G., 1862. Wild Wales.

Boswell, H., 1786. Historical Descriptions of New and Elegant Picturesque views of the Antiquites of the Antiquities of England and Wales . . . . London.

Bradley, A.G., 1898. Highways and Byways in North Wales, London (1901 edn).

Breese, G., 2001. The Bridges of Wales.

Bruce, J. R., 1921. ‘Pen-y-Gaer, Near Llangollen. An Investigation by a Committee of the Ruabon and District Field Club’, Archaeologia Cambrensis 76, 115–43.

Bruce, J. R., 1921. ‘A socketed celt, found on Garth Mountain, Llangollen’, Archaeologia Cambrensis 76, 146–7.

Buckle, G. E., 1930. Letters of Queen Victoria. London.

Burnham, H., 1995. A Guide to Ancient and Historic Wales: Clwyd and Powys. HMSO.

Butler, L. A. S., 1976. ‘Valle Crucis Abbey: an excavation in 1970’, Archaeologia Cambrensis 125, 80–126.

Cadw 1995. Clwyd: Register of Landscapes, Parks, and Gardens of special historic interest in Wales Part I: Parks and gardens, Cadw: Welsh Historic Monuments.

Cadw 1998 Landscapes of Historic Interest in Wales, Part 2 of the Register of Landscapes, Parks and Gardens of Special Historic Interest in Wales: Part 2.1 Landscapes of Outstanding Historic Interest. Cardiff: Cadw Welsh Historic Monuments. Available: http://www.ccw.gov.uk

Cadw 2001 Landscapes of Historic Interest in Wales, Part 2 of the Register of Landscapes, Parks and Gardens of Special Historic Interest in Wales: Part 2.2 Landscapes of Special Historic Interest. Cardiff: Cadw Welsh Historic Monuments. Available: http://www.ccw.gov.uk

Cadw 2003. Guide to good practice on using the Register of Historic Landscapes of Historic Interest in Wales in the planning and development process. Cardiff: Cadw

Clancy, J. P., 2003. Medieval Welsh Poems, Dublin.

Cliffe, C. F., 1850. North Wales.

Clwyd Fine Arts Trust nd , The Artist’s Journey through North Wales: Clwyd.

Connolly, A., 2003. Life in the Victorian Brickyards of Flintshire and Denbighshire. Llanrwst.

Coulter S., 1986. Yr Heol (The Rhewl), Llantysilio, a Welsh Village.

CPAT Historic Environment Record, Clwyd-Powys Archaeological Trust, Welshpool.

Crane, D., 2000. Walks through the history of rural Llangollen, Wrexham.

Davies, D. L., 1964. ‘County bridge building in Denbighshire in the mid-seventeenth century’, Denbighshire Historical Society Transactions 13, 59–218.

Davies, E., 1929. The Prehistoric and Roman remains of Denbighshire.

Davies, J. R., 1997. ‘Church, property and conflict in Wales, AD 600–1100’, Welsh History Review 18.3 , 404.

Davies, W., 1810. General View of Agriculture in North Wales. London.

Denbighshire Countryside Service 2003a. Dinas Brân Castle, Llangollen/Castell Dinas Brân, Llangollen.

Denbighshire Countryside Service 2003b. Denbighshire Landscape Strategy, Denbighshire County Council, 2003.

De Sélincourt, E., 1939. Letters of William and Dorothy Wordsworth: The Later Years, Part I, 1821–28. Oxford.

Dillon, M., 1985. Brick Tiles and Terracotta From Wrexham and Ruabon. Wrexham Maelor Borough Council.

DCMS 1999. World Heritage Sites: The Tentative List of the United Kingdom of Great Britain and Northern Ireland, Department for Culture, Media and Sport.

Edwards, I., 1965. ‘Iron production in north Wales: the canal era’, Denbighshire Historical Society Transactions 14, 141–84.

Edwards, I., 1969. ‘Industry at Llangollen’, Transactions of the Denbigishire Historical Society 18, 136–53.

Edwards, I., 1985 , ‘Slate quarries in the Llangollen district’, Denbighshire Historical Society Transactions 34, 91–120.

Edwards, I., 1987. ‘Gazetteer of Clayworks in the Wrexham and Ruabon District’, Denbighshire Historical Society Transactions 36, 46–84.

Edwards, I., 1988 , ‘Hughes and Roberts, Woollen Manufacturers, Dee Mill, Llangollen’, Denbighshire Historical Society Transactions 37 , 67–78.

Edwards, I., 193. Llangollen in Old Postcards.

Edwards, N., 1991. ‘The Dark Ages’ in Manley et al. 1991, 129–41.

Ellis, T. P., 1924. The First Extent of Bromfield and Yale A.D. 1315. London.

Elvers, R. (ed.), 1986. Felix Mendelssohn. A Life in Letters. New York.

Emery, A., 2000. Greater Medieval Houses of England and Wales, volume II: East Anglia, central England and Wales

Evans, D. H., 1995. Valle Crucis Abbey.

Evans, J., 1802. Tour through part of North Wales.

Evans, J., 1815. Beauties of England and Wales.

Faraday, M., 1819. Journal of a Tour Through Wales.

Fisher, J. (ed.), 1917. Tours in Wales (1804–1813) by Richard Fenton, Cambrian Archaeological Association.

Ffoulkes-Jones, G., 1980. ‘Llangollen and the tourists’, Clwyd Historian 7, 36–9.

Forde Johnston, J., 1976. Hillforts of the Iron Age in England and Wales.

Freeman, G. J., 1826. Sketches in Wales.

Frost, P., 1994. Clwyd Metal Mines Survey 1993: Consultation Draft, unpublished report, CPAT Report 88.

Frost, P., 1995. Clwyd Small Enclosures Rapid Survey: project report, unpublished report, CPAT report 127.

Hadfield, C., 1969. The Canals of the West Midlands, 2nd edn.

Harper, G. C., 1902. The Holyhead Road: the Mail Coach Road to Dublin, 2nd edn, London.

Hathaway, E. J., P. T. Ricketts, C. A. Robson, and A. D. Wilshere (eds), 1975. Fouke Le Fitz Waryn. Anglo-Norman Text Society. Oxford.

Hazlitt, William, 1817. On Going on a Journey.

Hewitt, R. S., 1977. A history of Castell Dinas Brân: with notes on Valle Crucis Abbey. Wrexham.

Hill, D. and Worthington, M., 2003. Offa’s Dyke: History and Guide. Stroud.

Hogg, A. H. A., 1979. British Hill-Forts: An Index, British Archaeological Reports, British Series 62.

Hubbard, E., 1986. The Buildings of Wales: Clwyd.

Jack, R. I., 1981. ‘Fulling-mills in Wales and the March before 1547’, Archaeologia Cambrensis 130, 7–130.

Jenkins, J. G., 1969. The Welsh Woollen Industry. National Museum of Wales.

Jervoise, E., 1936. The Ancient Bridges of Wales and Western England.

Jones, G. P., 1932. The Extent of Chirkland 1391–1393, London.

Jones, N. W., 1999. ‘Prehistoric Funerary and Ritual Sites: Denbighshire and Eastern Conwy’, CPAT Report 314.

Jones N. W., Walters, M., and Frost, P., 2004. Mountains and Orefields: Metal Mining Landscapes of Mid and North-East Wales, CBA Research Report 142.

Jones, T., (trans.), 1952. Brut y Tywysogyon or The Chronicle of the Princes: Peniarth MS. 20 Version, Cardiff.

Kemp, W. J., 1935. ‘Dinas Brân castle and hillfort’, Archaeologia Cambrensis 90, 323–6.

Keynes, R., 2002. Fossils, Finches and Fuegians: Charles Darwin’s Adventures and Discoveries on the Beagle, 1832-1836, London.

King, J. D. C., 1974. ‘Two castles in northern Powys: Dinas Brân and Caergwrle’, Archaeologia Cambrensis 123, 113–39.

Knight J. K., 1995. ‘The Pillar of Eliseg’ in Valle Crucis Abbey, Cadw Guide.

Knowles, D. and Hadcock, R. N., 1963. Medieval Religious Houses in England and Wales.

Lerry, G. G., 1959. ‘The industries of Denbighshire from Tudor times to the present day’ Denbighshire Historical Society Transactions 8, 95–132.

Lerry, G. G., 1949. Henry Robertson, Pioneer of Railways into Wales.

Lewis, S., 1833. A Topographical Dictionary of Wales, 2 vols. London.

Lewis, W. J., 1967. Lead Mining in Wales. Cardiff.

Lhwyd, E., 1909–11. Parochialia, Cambrian Archaeologial Association, 3 vols.

Llandegla 2003. Llandegla Then and Now, Llandegla Millennium Action Group.

Lloyd, J. Y. W., 1881. History of Powys Fadog, vol 4.

Lloyd-Williams, R. and Underwood, M., 1872. The Architectural Antiquities and Village Churches of Denbighshire.

Lord, P., 2000. The Visual Culture of Wales: Imaging the Nation. Cardiff.

Lynch, F., 1969. ‘Flint arrowheads from Minera, Wrexham’, Denbighshire Historical Society Transactions 18, 155.

Lynch, F., 2002. ‘Prehistoric funerary and ritual sites in Denbighshire and east Conwy’, Transactions of the Denbighshire Historical Society 51 (2002), 15–25.

Martin, R., 1999. ‘Changes in the Vale of Llangollen, 1790-1865’, Transactions of the Denbighshire Historical Society 48 , 52–73.

Manley, J., Grenter, S. and Gale, F. (eds) 1991. The Archaeology of Clwyd, Clwyd County Council.

Mavor, E., 1971. The Ladies of Llangollen. London.

Moore, D., 2000. ‘Thomas Pennant’s Vision of the Landscape’, Archaeologia Cambrensis 146 , 138–77.

Musson, C. R., 1994. Wales from the Air. Aberystwyth.

Nash-Williams, V. E., 1950. The Early Christian Monuments in Wales. Cardiff.

Owen, W. G. and Silvester, R. J., 1993. ‘Trefor Wharf, Llangollen Canal, Clwyd: archaeological assessment of the proposed redevelopment site’, unpublished CPAT Report 42.

Palmer, A. N. and Owen, J. E., 1910. History of Ancient Tenures of Land in North Wales and the Marches. 2nd edn, Frome.

Peacock, W. F., 1860. The Beauties of Llangollen and Chirk.

Pellow, T. and Bowen, P., 1988. Canal to Llangollen.

Pennant, T., 1773. A Tour in Wales. London.

Powys, John Cowper, 1940. Owen Glendower. New York.

Pratt, D., 1987. ‘Medieval People: The advowry tenants of Bromfield And Yale’, Denbighshire Historical Society Transactions 36, 9–11.

Pratt, D., 1997. The Dissolution of Valle Crucis Abbey.

Pratt, D., 1990. ‘The Marcher Lordship of Chirk, 1329–1330’, Denbighshire Historical Society Transactions 39, 5–41.

Pratt, D., 1995. ‘Valle Crucis Abbey, 1606’, Clwyd Historian 34, 23–27.

Price, G. V., 1952. Valle Crucis Abbey. Liverpool.

Pritchard, R.T., 1963. ‘Denbighshire roads and turnpike trusts’, Denbighshire Historical Society Transactions 12, 86–109.

Pugh, E., 1816. Cambria Depicta.

Quartermaine, J., Trinder, B., and Turner, R., 2003. Thomas Telford’s Holyhead Road: the A5 in North Wales, CBA Research Report 135.

Quenby, R., 1992. Thomas Telford’s aqueducts on the Shropshire Union Canal. Shrewsbury.

Radford, C. A. R. and Hemp, W., 1959. ‘Pennant Melangell, the church and shrine’, Archaeologia Cambrensis 108, 81–113.

Radford, C. A. R., 1971. The Pillar of Eliseg.

Radford, C. A. R., 1974. Valle Crucis Abbey.

RCAM 1914. Inventory of the Ancient Monuments of Wales and Monmouthshire – Denbighshire.

Rees, W., 1967. An Historical Atlas of Wales, 3rd edn.

Richards, A. J., 1991. A Gazetteer of the Welsh Slate Industry.

Richards, A J., 1995. Slate Quarrying in Wales.

Richards, M., 1969. Welsh Administrative and Territorial Units, Cardiff.

Roberts, D., 1998. Both Sides of the Border. An Anthology of Writing on the Welsh Border Region. Llanrwst.

Roberts, E., 2001. ‘The Impact of the Cistercians on Welsh Life and Culture in North and Mid Wales’, Denbighshire Historical Society Transactions 50, 13–23.

Roberts, G., 1959. ‘The Ladies of Llangollen’, Denbighshire Historical Society Transactions 8, 68–82.

Roberts, J. I., 1958. ‘Population of Llangollen from 1800–1851’, Denbighshire Historical Society Transactions 7, 162–4.

Roberts, J. I., 1960. ‘Early railway controversies at Llangollen’, Denbighshire Historical Society Transactions 9, 80–93.

Robinson, D., 1998. The Cistercian Abbeys of Britain.

Roscoe, T., 1836. North Wales.

Seward, A., 1796. Llangollen Vale: with other poems. London.

Shanes, E., 1979. Turner’s Picturesque Views in England and Wales 1825–1838. London.

Sherratt, G., 1990. A Hurried History of Llangollen.

Sherratt, G., 2000. An Illustrated History of Llangollen.

Sivewright, W. J. (ed.), 1986. Civil Engineering Heritage. Wales and Western England.

Silvester, R. J., 1995. Glyndwr Historic Settlements, CPAT Report 131.

Silvester, R. J., 1998. Deserted Medieval and Later Rural Settlements in Eastern Conwy, Denbighshire and Montgomeryshire, CPAT Report 251.

Silvester, R. J., 1999. Welsh Historic Churches Project. The Historic Churches of Denbighshire: church survey, CPAT Report 312.

Silvester, R. J. and Brassil, K. S., 1991. Mineral Workings in Clwyd and Powys: an archaeological assessment, unpublished report, CPAT Report 10.

Silvester, R. J. and Hankinson, R., 1995. Ruabon Mountain Uplands: field survey, Clwyd-Powys Archaeological Trust Report 133.

Simpson, W. T., 1827. Some Account of Llangollen.

Simpson, W. T., 1853. History of Llangollen and its vicinity.

Smith, B., 1998. Llywelyn ap Gruffudd. Cardiff.

Smith, B. and George, T. N., 1948. British Regional Geology: North Wales.

Smith, L. T., (ed.), 1906. The Itinerary in Wales of John Leland in or about the years 1536-1539. . .

Smith, P., 1988. Houses of the Welsh Countryside.

Soulsby, I., 1983. The Towns of Medieval Wales.

Stephens, M., 1986. The New Companion to the Literature of Wales, Cardiff (rev. edn, 1990)

Suggett, R., 2001. ‘Recent emergency buildings recording in Wales’, Transactions of the Ancient Monuments Society 45, 82, 89–90.

Thomas, Dylan, 1954. Quite Early One Morning.

Thomas, D. R., 1908-13. History of the Diocese of St Asaph, 3 vols, Oswestry.

Thomas, D., 1998. Pen y Coed Wood, Llangollen: archaeological assessment, unpublished report, CPAT Report 296.

Toller, H., forthcoming. ‘Pen Plaenau Roman marching camp’, Archaeologia Cambrensis.

Wheeler, R. E. M., 1925. Prehistoric and Roman Wales.

Wiliam, E., 1982. Traditional Farm Builidngs in North-East Wales 1550–1900, National Museum of Wales.

Wilkinson, L. U. (ed), 1958. Letters of John Cowper Powys to Louis Wilkinson 1935–1956. London.

Williams, D. H., 1974. The Welsh Cistercians, 2 vols, Tenby.

Williams, D. H., 1990. Atlas of Cistercian Lands in Wales.

Williams, D. H., 2001. The Welsh Cistercians, Leominster.

Williams, G., 1962. The Welsh Church from Conquest to Reformation.

Williams, G. V., 1999. ‘The Ellesmere Canal Navigation – a great public utility’, Denbighshire Historical Society Transactions 48, 23-36.

Wills, L. J., 1919. Geology of the Llangollen District.

Wilson, E. A., 1975. Ellesmere and Llangollen Canal: An Historical Background.

Wrexham 2003. Wrexham LANDMAP: Consulation Draft March 2003, Wrexham County Borough Council.

Wright, K. A., 1973. Gentle are its Songs.

The following historic landscape character areas have been defined within the historic landscape area.

Character Areas

Area of 19th and early 20th industrial expansion including limestone quarrying, lime burning and industrial ceramics and associated workers’ housing spanning the Dee valley to either side of the Pontcysyllte Aqueduct.

Cysyllte Cymuned Wledig Llangollen, Wrecsam (HLCA 1156)

Ardal lle gwelwyd ehangiad yn y 19eg ganrif ac ar ddechrau’r 20fed, gan gynnwys chwareli calchfaen, llosgi calch a cerameg ddiwydiannol ynghyd â thai i’r gweithwyr cysylltiedig ar… Yn ôl i'r map
Sloping ground on south-eastern edge of Ruabon Mountain with rural landscape of medieval and late medieval origin partly superimposed by 19th and 20th-century industrial remains and dispersed settlement at Garth.

Garth Cymuned Llangollen, Sir Ddinbych, a Chymuned Wledig Llangollen, Wrecsam (HLCA 1155)

Tir ar lethr ar ymyl dde-ddwyreiniol Mynydd Rhiwabon â thirwedd wledig sy’n tarddu o’r canol oesoedd a’r canol oesoedd hwyr ag olion diwydiannau’r 19eg a’r 20fed ganrif ac… Yn ôl i'r map
Rural landscape of dispersed farms and irregular fields of medieval and late medieval origin with 18th- and 19th-century industrial remains associated with the lime industry and dispersed linear settlement originally of quarrymens’ cottages.

Trevor Uchaf Cymuned Llangollen, Sir Ddinbych, a Chymuned Wledig Llangollen, Wrecsam (HLCA 1154)

Tirwedd wledig o ffermydd gwasgaredig a chaeau afreolaidd eu siâp o darddiad canoloesol a chanoloesol hwyr gydag olion diwydiannol o’r 18fed a’r 19eg ganrif sy’n gysylltiedig â’r diwydiant… Yn ôl i'r map
Visually outstanding valley floor of the steep-sided Dee valley between Llangollen and Pontcysyllte, with fieldscapes, golf-course and prominent gardens and parkland areas.

Dol-isaf Cymuned Llangollen, Sir Ddinbych, a Chymuned Wledig Llangollen, Wrecsam (HLCA 1153)

Llawr dyffryn afon Dyfrdwy rhwng Llangollen a Phontcysyllte sy’n weledol drawiadol ag iddo ochrau serth gyda chaeau, maes golff a gerddi a pharcdiroedd amlwg. Cefndir Hanesyddol Roedd darganfod… Yn ôl i'r map
Small market town of early medieval and medieval origins now forming an important regional tourist centre exploiting its canal and railway heritage.

Llangollen Cymuned Llangollen, Sir Ddinbych (HLCA 1152)

Tref farchnad fechan yn tarddu o’r canol oesoedd cynnar a’r canol oesoedd, sydd bellach yn ganolfan ymwelwyr ranbarthol bwysig sy’n ecsbloetio’r dreftadaeth ar ei chamlas a’i rheilffordd. Cefndir… Yn ôl i'r map
Anciently enclosed farmland and scattered farms in the valley of the Eglwyseg river, below the Horseshoe Pass, including the historically important remains of Eliseg’s Pillar and Valle Crucis abbey and significant remains of the slate industry.

Pant-y-groes Cymuned Llantysilio, Sir Ddinbych (HLCA 1151)

Ffermdir a gaewyd ers amser maith a ffermydd gwasgaredig yn nyffryn afon Eglwyseg, islaw Bwlch yr Oernant, gan gynnwys olion hanesyddol bwysig Piler Eliseg ac abaty Glyn y… Yn ôl i'r map
Steep, conical hill with gaunt, picturesque ruins of medieval castle inside prehistoric hillfort defences, overlooking Llangollen and visually dominating the Vale of Llangollen.

Dinas Brân Cymuned Llangollen, Sir Ddinbych (HLCA 1150)

Bryn serth, conigol gydag adfeilion llwm, deniadol castell canoloesol o fewn amddiffynfeydd bryngaer gynhanesyddol sy’n tremio dros Langollen ac sydd i’w gweld yn amlwg o bobman yn Nyffryn… Yn ôl i'r map
Relatively remote area of dispersed farms and woodland bordering Eglwyseg Mountain with traces of quarrying and mining in the later 19th and early 20th centuries.

Dinbren Cymuned Llangollen, Sir Ddinbych, a Chymuned Wledig Llangollen, Wrecsam (HLCA 1149)

Ardal gymharol anghysbell o ffermydd gwasgaredig a choetir ar ffin Mynydd Eglwyseg, gydag olion chwarelu a mwyngloddio ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif. Cefndir Hanesyddol… Yn ôl i'r map
Broadleaved woodland, scrub and patches of small irregular fields on steep-sided valley slopes on the southern side of the Vale of Llangollen.

Cwm Alys Cymuned Llangollen, Sir Ddinbych, a Chymuned Wledig Llangollen, Wrecsam (HLCA 1148)

Coetir llydanddeiliog, prysg a chlytiau o gaeau afreolaidd bychain ar lethrau serth y dyffryn ar ochr ddeheuol Dyffryn Llangollen. Cefndir Hanesyddol Ychydig sy’n hysbys am hanes cynnar ac… Yn ôl i'r map
9th-century enclosed upland and woodland bordering southern side of the Vale of Llangollen with evidence of early prehistoric activity.

Craig-dduallt Cymuned Llangollen, Sir Ddinbych (HLCA 1147)

Uwchdir a choetir amgaeedig o’r 19eg ganrif ar ffin ochr ddeheuol Dyffryn Llangollen gyda thystiolaeth o weithgaredd cynhanesyddol cynnar. Cefndir Hanesyddol Awgrymir gweithgaredd cynnar gan un pen saeth… Yn ôl i'r map
Irregular fieldscapes and woodland in stream valleys and hillslopes south and west of Llangollen with 19th-century estate, estate farms and cottages.

Vivod Cymuned Llangollen, Sir Ddinbych (HLCA 1146)

Tirwedd caeau afreolaidd a choetir mewn dyffrynnoedd nentydd a llethrau i’r de a’r gorllewin o Langollen, gyda stad o’r 19eg ganrif, a ffermydd a bythynnod y stad. Cefndir… Yn ôl i'r map
Open moorland with extensive remains of predominantly 19th-century slate quarries, waste heaps, tramways and inclines.

Maesyrychen Cymuned Llantysilio, Sir Ddinbych (HLCA 1145)

Rhostir agored gydag olion helaeth o chwareli llechi, pentyrrau gwastraff, tramffyrdd ac incleiniau o’r 19eg ganrif yn bennaf. Cefndir Hanesyddol Yn hynafol, roedd yr ardal yn rhan o… Yn ôl i'r map
Extensive, uninhabited upland moorland plateau mostly forming unenclosed common land, managed as a grouse moor, with clustered and more isolated Bronze Age burial and ritual monuments and the remains of metal mining and prospecting in the 19th century.

Mynydd Rhiwabon Cymunedau Llangollen a Llantysilio, Sir Ddinbych, a chymunedau Esclusham, y Mwynglawdd a Phen-y-cae, Wrecsam (HLCA 1144)

Llwyfandir rhostir uwchdirol eang, anghyfannedd yn ffurfio tir comin heb ei gau yn bennaf, a reolir fel rhostir grugieir. Yno ceir henebion claddu a henebion defodol mewn clystyrau… Yn ôl i'r map
Unihabited upland moorland ridge mostly forming unenclosed common land, with prehistoric burial mounds, formerly partly managed as a grouse moor.

Cyrn-y-brain Cymunedau Llandegla, Llantysilio, Sir Ddinbych, a Chymuned Y Mwynglawdd, Wrecsam (HLCA 1143)

Crib rhostir uwchdirol, anghyfannedd yn ffurfio tir comin heb ei gau yn bennaf, gyda thomenni claddu cynhanesyddol, a reolwyd gynt yn rhannol fel rhostir grugieir. Cefndir Hanesyddol Yn… Yn ôl i'r map
Extensive, unihabited upland moorland ridge mostly forming unenclosed common land, with prehistoric ridge-top hillfort and burial mounds, formerly partly managed as a grouse moor.

Mynydd Llantysilio Cymunedau Bryneglwys, Corwen a Llantysilio, Sir Ddinbych (HLCA 1142)

Crib rhostir uwchdirol eang, anghyfannedd yn ffurfio tir comin heb ei amgáu yn bennaf, gyda bryngaer a thomenni claddu cynhanesyddol ar gopa’r grib, a reolwyd gynt yn rhannol… Yn ôl i'r map
Isolated tract of the Dee valley west of Llangollen, with lowland and upland margin farms and fieldscapes of medieval and later origin; Victorian country houses, parkland and gardens, estate farms and cottages; small nucleated settlements partly associated with former slate mining.

Gafaeliau Cymunedau Llantysilio a Llangollen, Sir Ddinbych (HLCA 1141)

Darn anghysbell o ddyffryn Dyfrdwy i’r gorllewin o Langollen, gyda ffermydd ar yr iseldiroedd ac ymylon yr ucheldiroedd a thirweddau caeau o’r cyfnod canoloesol a diweddarach; plastai, parcdir… Yn ôl i'r map
Former 19th-century conifer woodland south of Vivod now forming heather moorland managed for game shooting.

Mynydd Vivod Cymuned Llangollen, Sir Ddinbych (HLCA 1140)

Cyn goetir conwydd o’r 19eg ganrif i’r de o Vivod, bellach yn rhostir grugog a reolir ar gyfer saethu adar hela. Cefndir Hanesyddol Mae dwy domen gladdu o’r… Yn ôl i'r map