Tir ar lethr ar ymyl dde-ddwyreiniol Mynydd Rhiwabon â thirwedd wledig sy’n tarddu o’r canol oesoedd a’r canol oesoedd hwyr ag olion diwydiannau’r 19eg a’r 20fed ganrif ac anheddiad gwasgaredig Garth dros ran ohono.
Cefndir Hanesyddol
Ceir awgrym o anheddu a defnyddio tir cynnar yn yr ardal mewn cofnodion hynafiaethol o nifer o dwmpathau claddu cynhanesyddol cynnar posibl (na wyddys eu lleoliad bellach) a bryngaer gynhanesyddol diweddarach Pen-y-gaer ar ysbardun bryn i’r dwyrain o Garth. Yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar roedd yr ardal o fewn teyrnas Gymreig Powys, ac o ddiwedd y 12fed ganrif roedd o fewn cwmwd Maelor Gymraeg yn y rhan ogleddol o’r deyrnas oedd wedi’i hisrannu, o’r enw Powys Fadog. Ar ôl i’r Brenin Edward orchfygu Cymru ar ddiwedd y 13eg ganrif, roedd yr ardal yn rhan o arglwyddiaeth mers Y Waun, ac yn y 14eg ganrif, mae’n bosibl ei bod yn rhan o fforest Isclawdd. Roedd cymunedau amaethu brodorol Cymreig yn bodoli yn Nhrevor Isaf erbyn diwedd y 14eg ganrif. Yn dilyn Deddf Uno 1536 daeth yr ardal i fod yn rhan o Sir Ddinbych a oedd bryd hynny yn sir newydd sbon. Trosglwyddwyd rhan o’r ardal i Gyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam ym 1997.
Prif nodweddion tirweddol hanesyddol
Gorwedd yr ardal ar ymyl dde-ddwyreiniol Mynydd Rhiwabon, y mae ei lethrau’n disgyn yn gyson o’r tir agored rhyw 360 metr uwchlaw lefel y môr i lawr i ymyl dyffryn Dyfrdwy uwchlaw Trevor, tua 130 metr. Mae’r ddaeareg waelodol yn cynnwys tywodfaen â chystradau glo drosto, gan gynnwys priddoedd cleiog i’r dwyrain. Yn dopograffig, ffin ddwyreiniol yr ardal yw dyffryn nant Tref-y-nant a’i ochrau serth, sy’n cynnwys coetir llydanddeiliog, sy’n cynrychioli o bosibl coetir hynafol gweddilliol.
Gorwedd yr ardal ar ymylon ardaloedd diwydiannol Acrefair a Chefn Mawr ac mae ynddi rai olion diwydiannau cynharach a thai gweithwyr cysylltiedig, ar ben hen dirwedd amaethyddol gynharach gyda ffermydd gwasgaredig a chaeau bychain, afreolaidd eu siâp yn bennaf, o darddiad canoloesol ac ôl-ganoloesol cynnar, mae’n debyg, sy’n cael eu defnyddio ar gyfer tir pori wedi’i wella gan fwyaf. Ger yr ymyl ucheldirol ceir nifer o ardaloedd llai o gaeau mawr a bach ag iddynt ochrau syth, yn tarddu o’r llechfeddiannu ucheldirol ôl-ganoloesol a phlanhigfeydd conwydd ar stadau sy’n deillio mae’n debyg o’r 19eg ganrif yn Black Wood a Trevor Wood.
Ymhlith olion diwydiannol yn yr ardal sy’n dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif ceir nifer o odynnau calch diarffordd, y rhan fwyaf ohonynt o amgylch yr ymylon ucheldirol i’r gorllewin, ynghyd â sawl chwarel calchfaen fechan a hen lofa fach anghysbell. O ganol y 19eg ganrif, roedd diwydiant yn canolbwyntio ar yr hen gasgliad o adeiladau ger y rheilffordd yn Nhrevor, o’r enw Gwaith Brics Garth. Yno, byddai priddoedd cleiog, dyddodion silica a cherrig yn cael eu cloddio o weithfeydd brig a chloddfa ddrifft ar wahanol gyfnodau ac yn cael eu defnyddio i weithgynhyrchu brics, brics tân a deunyddiau eraill ar gyfer y diwydiant dur hyd ddiwedd y 1970au. Byddai rhaffordd awyr unwaith yn cysylltu’r gweithfeydd â phwll clai ychwanegol ymhellach i fyny’r bryn. Mae llawer o’r hen adeiladau a strwythurau bellach wedi’u dymchwel, ac mae’r safle ar fin cael ei ailddatblygu a’i ddefnyddio i godi tai. Bwriedir cadw hen chwarel gerrig wedi ei llenwi â dŵr yn bwll ar gyfer bywyd gwyllt fel rhan o’r datblygiad.
Anheddiad i chwarelwyr a gweithwyr diwydiannol yn y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif oedd yr anheddiad llinellol sy’n ymestyn i lawr y bryn o Garth i Garth Trevor a Threvor-isaf, ac ar wahanol adegau, roedd yn cynnwys ysgol, tri chapel anghydffurfiol a sawl tafarn.
Lluniwyd cronfeydd dŵr bychain Gronwen, Gwernydd a Sugn-y-pwll ar ochrau’r bryniau uwchlaw Trevor tua chanol y 19eg ganrif i gyflenwi canolfannau diwydiannol Cefn, Acrefair a Rhosymedre.
Codwyd y ffoli cerrig castellog o’r enw Tŵr Trevor ar ran o Stad Trevor yn y 1820au. Saif ar ymyl dde-ddwyreiniol Tower Wood ar ochr y bryn yn tremio dros Ddyffryn Llangollen.
Ffynonellau
- Baughan 1980
- Bruce 1921
- Rhestrau Cadw o Adeiladau Rhestredig
- Connolly 2003
- ofnod CPAT o’r Amgylchedd Hanesyddol
- Davies 1929
- Edwards 1987
- Forde Johnston 1976
- Hubbard 1986
- Jones 1932
- Pratt 1990
- RCAM 1914
- Wrexham 2003
