Skip to main content

Crib rhostir uwchdirol eang, anghyfannedd yn ffurfio tir comin heb ei amgáu yn bennaf, gyda bryngaer a thomenni claddu cynhanesyddol ar gopa’r grib, a reolwyd gynt yn rhannol fel rhostir grugieir.  

Cefndir Hanesyddol

Yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar roedd yr ardal o fewn teyrnas Powys, ac o ddiwedd y 12fed ganrif roedd o fewn y rhan ogleddol o’r deyrnas oedd wedi’i hisrannu, o’r enw Powys Fadog. Ar ôl i’r Brenin Edward orchfygu Cymru ar ddiwedd y 13eg ganrif, daeth yr ardal o fewn arglwyddiaeth mers Brwmffild ac Iâl. Yn dilyn y Ddeddf Uno ym 1536 daeth o fewn cantref Iâl yn y sir a gafodd ei chreu o’r newydd, sef Sir Ddinbych.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Rhostir uwchdirol eang gyda grug, eithin, llus, rhedyn a brwyn, gyda rhai ardaloedd pori wedi’u gwella. Saif yr ardal ar uchder rhwng 300 a 580 metr uwchlaw lefel y môr, gyda daeareg waelodol o sialau Silwraidd sy’n ffurfio crib hir yn rhedeg o gyfeiriad y gogledd-ddwyrain i’r de-orllewin.

Ni fu rhyw lawer o astudio hanes amgylcheddol cynnar yr ardal ers y rhewlifiant diwethaf, ond mae darganfod bwyell garreg ar hap ger bryngaer Moel y Gaer a henebion claddu o’r Oes Efydd ar ben bryn Moel y Gamelin a Gribin Oernant yn awgrymu rhywfaint o weithgaredd cynhanesyddol cynnar. Yn ôl pob tebyg, gellir cysylltu’r henebion hyn, ynghyd â’r bryngaer o’r Oes Haearn mae’n debyg ar Foel y Gaer, â manteisio’n gynnar ar borfeydd uwchdirol ar gyfer pori.

Mae carnau saethu gwasgaredig yn awgrymo bod rhannau o’r ardal wedi’u rheoli ar un tro fel rhostir grugieir. Heddiw, tir comin heb ei gau yw’r ardal gan mwyaf, a gafodd ei reoli gynt fel porfa defaid a rhostir grugieir. Defnyddir yr ardal at nifer o ddibenion hamdden modern, gan gynnwys cerdded y mynyddoedd a sgrialu’n anghyfreithlon ar feiciau modur.

Mae’r ardal yn cynnwys nifer o chwareli cerrig bychain, yn ôl pob tebyg i ddarparu defnyddiau adeiladu yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol.

Ffynonellau

  • Burnham 1995
  • ofnod CPAT o’r Amgylchedd Hanesyddol
  • Davies 1929
  • Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych 2003b
  • Ellis 1924
  • Jones 1999
  • Hogg 1979
  • Richards 1969
Extensive, unihabited upland moorland ridge mostly forming unenclosed common land, with prehistoric ridge-top hillfort and burial mounds, formerly partly managed as a grouse moor.