Skip to main content

Cyn goetir conwydd o’r 19eg ganrif i’r de o Vivod, bellach yn rhostir grugog a reolir ar gyfer saethu adar hela.

Cefndir Hanesyddol

Mae dwy domen gladdu o’r Oes Efydd yn cynrychioli gweithgaredd cynnar, y naill ar gopa bryn a’r llall ar grib bryn, a allai awgrymu bod y tir wedi’i glirio er mwyn pori anifeiliaid dof yn yr oes cynhanesyddol cynnar. Erbyn y 7fed neu’r 8fed ganrif roedd yr ardal o fewn teyrnas Gymreig Powys, ac o ddiwedd y 12fed ganrif roedd o fewn y rhan ogleddol o’r deyrnas oedd wedi’i hisrannu, o’r enw Powys Fadog. Ar ôl i’r Brenin Edward orchfygu Cymru ar ddiwedd y 13eg ganrif roedd yr ardal i’r de o Afon Dyfrdwy o fewn arglwyddiaeth mers Swydd y Waun, a oedd wedi’i chreu o’r newydd. Yn dilyn y Ddeddf Uno ym 1536 roedd yn rhan o sir a gafodd ei chreu o’r newydd, sef Sir Ddinbych.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Tir gweddol donnog ar uchder o rhwng 390 a 500 metr i’r de o Vivod, gyda waliau cerrig sychion yn diffinio ymyl y rhostir mewn mannau. Roedd llawer o’r ardal yn blanhigfa conwydd, ond cwympwyd y coed yn ystod hanner cyntaf yr 20fed ganrif ac mae bellach yn rhostir grug unwaith eto. Mae patrwm y traciau yn yr ardal yn adlewyrchu llwybrau marchogaeth o fewn y coetir. Mae rhesi o garnau saethu’n ymwneud â rheolaeth gyfoes ar lawer o’r ardal ar gyfer saethu adar hela sydd wedi bod yn mynd rhagddo yma ers y 1950au.

Ffynonellau

  • Cofnod CPAT o’r Amgylchedd Hanesyddol; Davies 1929
Former 19th-century conifer woodland south of Vivod now forming heather moorland managed for game shooting.