Skip to main content

Tirwedd wledig o ffermydd gwasgaredig a chaeau afreolaidd eu siâp o darddiad canoloesol a chanoloesol hwyr gydag olion diwydiannol o’r 18fed a’r 19eg ganrif sy’n gysylltiedig â’r diwydiant calch ac anheddiad llinellol gwasgaredig o fythynnod chwarelwyr yn wreiddiol.

Cefndir Hanesyddol

Amser maith yn ôl roedd yr ardal o fewn teyrnas frodorol Powys ac wedi hynny, o’r 12fed ganrif ymlaen, roedd yn rhan o gwmwd Maelor Gymraeg i’r gogledd o afon Dyfrdwy yn rhan ogleddol isranedig y deyrnas o’r enw Powys Fadog. Ar ôl i’r Brenin Edward orchfygu Cymru ar ddiwedd y 13eg ganrif, roedd yn rhan o arglwyddiaeth mers Swydd y Waun, ac yn rhan o Sir Ddinbych ar ôl y Ddeddf Uno ym 1536. Cofnodir daliadaethau tir Cymreig yn Nhrevor Uchaf am y tro cyntaf ar ddiwedd y 14eg ganrif, ac roedd ŷd ymhlith eu cynnyrch. Serch hynny, ychydig dystiolaeth arall a gofnodwyd o anheddu neu ddefnyddio tir yn yr ardal nodwedd cyn y cyfnod o gloddio’n ddwys am galchfaen a chynhyrchu calch, rhwng dechrau’r 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, yn sgîl agor cangen Llangollen o Gamlas Ellesmere ym 1805. Ynghyd â’r glo a fewnforiwyd o feysydd glo yn ardal Wrecsam, fe gynhyrchodd hwn galch amaethyddol a chalch diwydiannol ar gyfer y ffowndrïau haearn ym Mhlas Kynaston, Broseley ac ymhellach i ffwrdd.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Mae’r ardal yn cynnwys rhan ddwyreiniol y brigiadau calchfaen Carbonifferaidd neilltuol o’r enw Creigiau Eglwyseg neu Greigiau Trevor a’r coetir is, serth ei lechweddau uwchlaw Trevor Uchaf i’r dwyrain, rhwng tua 410 a 110 metr uwchlaw lefel y môr.

Mae nifer o fathau penodol o dirwedd hanesyddol, gan gynnwys ardaloedd â brigiadau creigiau a sgrïau, tir prysgwydd, tameidiau o gaeau bychain afreolaidd eu siâp sydd, yn ôl pob tebyg, yn cynrychioli llociau canoloesol tameidiog, planhigfa gonwydd o’r 19eg a’r 20fed ganrif a mwy o goetir llydanddeiliog, hynafol efallai, ar rai o’r llethrau mwyaf serth, yn ogystal ag ardaloedd rhostir caeedig yn dyddio o’r 19eg ganrif ar ymyl ddeheuol Mynydd Rhiwabon.

Mae olion y diwydiant calchfaen sydd wedi goroesi yn yr ardal yn cynnwys chwareli mawr a bychan a hen dramffyrdd i gludo’r graig a gloddiwyd. Mae olion sawl clawdd o odynnau calch wedi goroesi, ynghyd â nifer o odynnau calch unigol mwy gwasgaredig, ac incleins yn Nhrevor Uchaf ac i’r gorllewin o Dy-canol a fu’n cludo’r cerrig, y calch a’r glo a gloddiwyd i lawr ac i fyny o’r gamlas i ddechrau ac yna o’r rheilffordd. Roedd lein gangen y rheilffordd yn cludo mwynau o waelod yr inclein i’r gorllewin o Dy-canol o’r 1870au ymlaen.

Bythynnod chwarelwyr a gweithwyr yr odynnau ar ddechrau’r 19eg ganrif, a chapel Annibynwyr yn eu plith oedd y deg tŷ yn anheddiad bychan gwasgaredig Trevor Uchaf yn wreiddiol. Mae’r rhan fwyaf wedi’u moderneiddio erbyn hyn.

Daeth y lôn ar hyd cyfuchlin y bryn islaw’r calchfaen yn boblogaidd fel llwybr prydferth i ymwelwyr yn ystod y 19eg ganrif. Oddi yno gellid gweld golygfeydd trawiadol o Ddyffryn Llangollen a Chastell Dinas Brân ac erbyn degawdau cynnar yr 20fed ganrif, gelwid y llwybr yn Panorama Walk.

Ffynonellau

  • ofnod CPAT o’r Amgylchedd Hanesyddol
  • Gwasanaeth Cefn Gwlad Sir Ddinbych 1993b
  • Jones 1932
  • Martin 1999
  • Pratt 1990
Rural landscape of dispersed farms and irregular fields of medieval and late medieval origin with 18th- and 19th-century industrial remains associated with the lime industry and dispersed linear settlement originally of quarrymens’ cottages.