Skip to main content

Mae’r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o’r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi’r themâu hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

1000 Llwyn Bryn-dinas 1001 Llangedwyn 1002 Maesmochnant 1003 Glantanat 1004 Trebrys 1005 Craig Rhiwarth 1006 Garthgelynen 1007 Cefn-coch 1008 Allt Tair Ffynnon 1009 Llanrhaeadr 1010 Llangynog 1011 Cwm Pennant 1012 Cwm Blowty 1013 Cwm Rhiwarth 1014 Waun Llestri 1015 Hafod Hir 1016 Rhos y Beddau 1017 Y Clogydd 1018 Mynydd-mawr 1019 Cyrniau 1020 Penybontfawr 1021 Henfache 1022 Cwm Ffynnon 1023 Brithdir 1024 Glanhafon

Yr Afon Tanat a’i hisafonydd dendritaidd yw nodwedd amlycaf tirwedd y cwm cul hwn sy’n rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin yng ngogledd Powys. Mae’r Afon Tanat yn rhannu Mynyddoedd y Berwyn i’r gogledd, oddi wrth ucheldir tonnog Bryniau Maldwyn i’r de. Mae mewn cwm llai nag 1km o led, ac nid yw ei lawr yn unman yn uwch na 150m uwchben lefel y môr, gyda’r ochrau’n codi’n serth i ryw 300m uwchben lefel y môr.

Mae Cwm Rhiwarth a Chwm Pennant, ffynhonnell yr Afon Tanat, yn ddau gwm rhewlifol dwfn wedi’u torri i lethrau de ddwyreiniol Mynyddoedd y Berwyn. O’u cymer yn Llangynog, llifa Afon Tanat i’r dwyrain trwy gwm lletach wedi’i amgylchynnu gan fryniau isel. Mae Mynyddoedd y Berwyn, sy’n codi i 827m uwchben lefel y môr ar gopa Cader Berwyn, yn gryn ragfur i gyfathrebu â’r gorllewin, ac o ganlyniad, bu cysylltiadau’r ardal yn agosach â thiroedd y ffin i’r dwyrain. Cafwyd olion dylanwad dyn yn yr ardal hon ers y cyfnod cynhanesyddol, ac nis cyfyngwyd i lawr y dyffryn. O ganlyniad, mae gan yr ardal dirwedd hanesyddol amrywiol iawn, gyda thystiolaeth o batrymau defnydd tir ac aneddiadau o lawer cyfnod ac o natur amrywiol.

Y dystiolaeth gynharaf am breswyliad yn y dyffryn yw cyfres o gofadeiliau o Oes yr Efydd, na ellir eu gweld bellach ond o’r awyr fel olion cnydau. Mae’r safleoedd unigol yn aml yn fach ac ar eu pennau eu hunain, ond gyda’i gilydd, dyma’r un o’r grwpiau gorau i oroesi o dystiolaeth archeolegol o’r math hwn yng Nghymru. Maent yn cynnwys hengor a chylchoedd pydew tebygol ym Meysydd, a ffosydd cylchog a beddrodau wedi’u haredig ym Manhadla. Erys olion mwy gweladwy o’r cyfnod cynhanesyddol diweddar yn y ddwy fryngaer fawr o Oes yr Haearn yn Llwyn Bryn Dinas a Chraig Rhiwarth, gyda’r naill a’r llall yn goruchafu eu rhannau hwy o’r dyffryn. Dangosodd gwaith cloddio yn Llwyn Bryn Dinas dystiolaeth o waith metel cynnar, a gallai awgrymu bod maint a lleoliad y gaer yn ganlyniad i bwysigrwydd y mwyn lleol, y gweithiwyd mwy arno yn y 19edd ganrif. Hefyd, mae modd gweld olion gwaith cynhanesyddol ym mhen uchaf Cwm Orog, i’r gogledd o fryngaer Craig Rhiwarth.

Prif aneddiadau hanesyddol yr ardal yw Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Phennant Melangell, a deillio o sefydliadau crefyddol canoloesol a wnaeth y naill a’r llall. Cysylltir Pennant Melangell, sydd mewn cwm unig a heddychlon, â chwedl y Santes Melangell o’r 8fed ganrif. Gellir dyddio rhannau o’r eglwys bresennol yn ôl i’r 12fed ganrif, a dywedir iddi gael ei chodi ar dir lleiandy a sefydlwyd gan Melangell. Y mae yno gysegr a all unwaith fod wedi dal olion y santes. Yr oedd Llanrhaeadr yn safle eglwysig o bwys ac yn sefydliad clas (uned weinyddol yn seiliedig ar aneddiad mynachaidd) a gysegrwyd i Sant Dogfan. Dyma un o’r ‘eglwysi Cymreig, ynghyd â’r pentrefi a’r mynwentydd’ a losgwyd gan y Saeson ym 1165, fel y cofnoda Gerallt Gymro. Dyma oedd plwyf William Morgan pan gwblhaodd ei gyfieithiad Cymraeg o’r Beibl ym 1587. Y mae tystiolaeth gynharach o aneddiad seciwlar canoloesol i’w gweld yn y mwntiau yng Nghefn-coch, Cefn Glaniwrch a Maerdy.

Er bod tirwedd llawer o’r dyffryn yn ganlyniad i amaethyddiaeth yn y Canol Oesoedd ac yn y cyfnod ôl-ganoloesol, olion gorffennol diwydiannol sydd ym mhen uchaf y dyffryn o gwmpas Llangynog. Cafodd mwyngloddio am blwm, ffosffad a llechi, ynghyd â’r chwareli ithfaen, effaith sylweddol ar dirwedd ac economi’r ardal. Crybwyllwyd eisoes wreiddiau cynnar mwyngloddio o gwmpas Llangynog, ac y mae’n bosibl bod gweithfeydd tebyg wedi bod yno yn y cyfnod Rhufeinig. Er hynny, ni ddechreuwyd gweithio’r mwynau o ddifrif tan yr 16fed ganrif, a pharhaodd tan yn gymharol ddiweddar. Heddiw, mae olion y mwyngloddio i’w gweld o hyd yn yr adfeilion, y lefelau, ffyrdd y tramiau a’r incleiniau, y gwelyau hidlo a’r tomennydd gwastraff, sy’n dal yn amlwg. Arferai Lein Fach Dyffryn Tanat wasanaethu’r mwynfeydd a’r chwareli, a bu’n rhedeg o 1904 tan 1960. Tynnwyd y trac i ffwrdd, ond mae modd gweld llawer o’r lein ac adfeilion y gorsafoedd hyd heddiw.

Themâu Tirwedd Hanesyddol yn Nyffryn Tanat

Y Tirwedd Naturiol

Mae topograffeg Dyffryn Tanat yn amrywiol iawn. Mae’n cynnwys ardaloedd rhostir uchel gwyllt, yn y gogledd a’r gorllewin gan fwyaf ac yn gyffredinol rhwng tua 500-600m OD, llethrau serth ar ochrau’r cwm, tir bryniog rhwng tua 200-250 medr, tir gwastad isel ar lawr y cwm, rhwng tua 100-200m OD. Yn aml mae yna drawsnewid sydyn a dramatig o lawr y cwm i ben y mynydd, yn enwedig yn y gorllewin.

Mae Dyffryn Tanat yn lletach yn y gorllewin ac yn gorffen mewn tri chwm rhewlifol cul a dwfn sydd wedi eu torri ym mynyddoedd y Berwyn – Cwm Pennant a’i gangen Cwm Llech, Cwm Rhiwarth, a Chwm Blowty. Mae’r agoriad i bedwerydd cwm – Cwm Maengwynedd – yn dod oddi mewn i’r ardal tirwedd hanesyddol o drwch blewyn, i’r gogledd o Lanrhaeadr-ym-Mochnant. Mae yna hefyd sawl crognant nodweddiadol, yn cynnwys Cwm Dwygo i’r de-orllewin a Chwm Glan-hafon i’r gogledd-ddwyrain o Langynog.

Y prif fynyddoedd yw Mynydd Mawr, Moel Sych a’r Glogydd i’r gogledd, Bryn Ysbio a Cyrniau Nod i’r gorllewin, Cyrniau, Das Eithin ac Allt Tair Ffynnon i’r de. Ceir y golygfeydd gorau o Domen Cefn-coch ac oddi yno gellir gweld y cyfan bron o Ddyffryn Tanat, ac eithrio cilfachau’r cymoedd gorllewinol.

Y prif afonydd a nentydd yw Afon Tanat a’i hisafon Afon Goch, Afon Eirth (yn ymuno â’r Tanat yn Llangynog), Afon Rhaeadr ac Afon Iwrch (y ddau yn ymuno â’r Tanat i’r de-ddwyrain o Lanrhaeadr-ym-Mochnant). Mae yna sawl rhaeadr ac yn eu plith Pistyll Rhaeadr ar un pen i Afon Rhaeadr a Phistyll Blaen-y-cwm ar un pen i’r Afon Tanat.

Mae’r ddaeareg gadarn yn cynnwys cerrig llaid Ordofigaidd, siâl a llechi o’r gyfres Caradoc gyda stribedi o lafa asid a thwff a pheth dolerit a rhyolit ymwthiol â graen main. Mae dyfnderoedd o dros 150 troedfedd o raean a chlai rhewlifol ac ôl-rewlifol wedi eu cofnodi ar lawr y cwm wrth gloddio yn Llangynog.

Mae pridd ar lawr y cwm yn cynnwys pridd clai glas llifwaddodol o’r gyfres Conwy a daearoedd brown o’r gyfres Dinbych 1 a Rheidiol. Mae pridd o’r tir mynydd yn cynnwys pridd cambric stagnogley o’r gyfres Cegin. Mae’r pridd mynydd yn gyfuniad o bridd brown podsolaidd, yn bennaf o’r gyfres Manod, a stagnopodzols fferrig o’r gyfres Hafren.

O ran potensial defnyddio tir mae ucheldiroedd Dyffryn Tanat yn cael eu hystyried fel Graddfa 5, mae llethrau’r bryniau, cymoedd y gorllewin a’r tir bryniog wedi eu dosbarthu fel Graddfa 4, gydag ardaloedd cyfyngedig o dir Graddfa 3 ar lawr y cwm rhwng Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Llangedwyn.

Roedd Mochnant yn adnabyddus am ei goed, ond nid yw agweddau hanesyddol ar ei goetir wedi eu hastudio’n fanwl eto. Er nad oes tystiolaeth ddogfennol ynghylch pa mor gyflym y cliriwyd y tir coediog brodorol nid oes amheuaeth nad tir tlotach, yn enwedig yr ochrau serth a’r bryniau, oedd yr olaf i golli’r coed. Mae enw cantref Mochnant ynddo’i hun yn awgrymu amgylchedd coediog oedd yn addas ar gyfer moch. Yn chwedl Melangell daeth tywysog Brochwel ar draws y forwyn mewn llwyn, ac mae ei beddrod wedi ei addurno â dail. Siaradodd y bardd canol oesol diweddar, Llywarch ab Llywelyn, am y coetir hyfryd oedd o gwmpas Mochnant – Am Fochnant cain amgant coedawg. Yn gynnar yn y 14eg ganrif dywedir bod y rhan fwyaf o blwyf Llangedwyn yn dal yn dir coediog.

Mor hwyr â chanol y 19eg ganrif roedd rhaniadau’r degwm ar gyfer plwyfi yn Nyffryn Tanat yn llawn o enwau llefydd a chaeau yn dynodi coetir sydd bellach wedi ei golli, fel yn yr enghreifftiau canlynol: celynen yn Garthgelynen-fawr; bedw yn Llety’r Fedw Ucha; helig fel sydd yn Tyddyn yr Helig; perth fel yn Gwaith Gŵr y Berth; coed a gwŷdd fel yn Coed Ffridd, Cae Gwŷdd Ucha a Tan-y-coed.

Y Tirwedd Gweinyddol

Mae ardal tirwedd hanesyddol Dyffryn Clwyd yn cwmpasu’r cymunedau canlynol yn gyfan gwbl neu’n rhannol: Aberchwiler, Bodfari, Dinbych, Efenechtyd, Llanbedr Dyffryn Clwyd, Llandyrnog, Llanelidan, Llanfair Dyffryn Clwyd, Llangynhafal, Llanrhaeadr-yng-nghinmeirch, Llanynys, Rhuthun (pob un yn Sir Dinbych), a rhannau llai o Ysceifiog, Nannerch, Cilcain a Llanarmon-yn-Iâl yn Sir y Fflint.

Yn y cyfnod hanesyddol cynharach roedd Dyffryn Clwyd ar y ffin rhwng teyrnas bwerus Gwynedd yn y gorllewin a’r teyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd yn y dwyrain ac o ganlyniad i hyn efallai ni lwyddodd i ddatblygu ei hunaniaeth wleidyddol gref ei hunan. Pwysleisir hyn gan y ffaith bod y tiroedd Cymreig i’r dwyrain o Afon Conwy, y lleolid y dyffryn o’u mewn, yn cael eu hadnabod erbyn diwedd y ddeuddegfed ganrif fel Perferddwlad, y ‘wlad ganol’ a oedd efallai’n dynodi’r tir rhwng Gwynedd a theyrnas Powys i’r de a’r de-ddwyrain. Daeth yr ardal i’r dwyrain o Afon Clwyd o dan ddylanwad Normanaidd yn yr unfed ganrif ar ddeg hwyr, ac roedd Bodfari, o fewn y dyffryn, yn un o’r aneddiadau brodorol a restrwyd yn Llyfr Domesday 1086.

Yn dilyn ehangu teyrnas Gwynedd yn ystod y ddeuddegfed ganrif, aeth y dyffryn i feddiant teyrnas Gwynedd Is-Conwy, a orchfygwyd gan frenin Lloegr, Harri III yn y 1240au, yn dilyn marwolaeth Llywelyn Fawr. Ailfeddiannwyd y tir gan ŵyr Llywelyn, Llywelyn ap Gruffydd, yn y 1260au, ar ôl i’r tir, erbyn hynny, fod dan reolaeth mab Harri, Edward, a oedd wedi’i wneud yn arglwydd ar diroedd y goron yng Nghymru. Yn dilyn esgyniad Edward i’r orsedd ym 1272, ailfeddiannwyd pedwar cantref Perfeddwlad – Rhos a Thegeingl yn y gogledd a Rhufoniog a Dyffryn Clwyd yn y de – gan goron Lloegr, ac yn y cyfnod rhwng 1277 a 1282 rheolwyd y ddau gantref gogleddol gan goron Lloegr a’r ddau gantref deheuol gan Ddafydd, brawd Llywelyn, a oedd wedi ochri gydag Edward.

Yn dilyn gwrthryfel Dafydd a Llywelyn ym 1282-3, gorchfygwyd Cymru, Rhos a Rhufoniog o’r diwedd yn gyfan gwbl gan Edward, a ffurfiwyd Arglwyddiaeth newydd y Gororau yn Ninbych a gyflwynwyd i Henry de Lacy, Iarll Lincoln, a daeth cantref Dyffryn Clwyd yn arglwyddiaeth Rhuthun a ddyfarnwyd i Reginald de Grey, yr Arglwydd Grey a gynorthwyodd Edward i orchfygu Cymru. At ddibenion gweinyddol isrannwyd cantrefi Rhufoniog a Dyffryn Clwyd yn dri chwmwd – arglwyddiaeth Rhuthun, er enghraifft, rhwng y 13eg ganrif a’r 17eg ganrif a weinyddwyd fel bwrdeistref Rhuthun a thri chwmwd Coelion, Dogfeilyn a Llannerch. Yn Neddf Uno 1536, unwyd y ddwy arglwyddiaeth, ynghyd ag arglwyddiaeth Maelor, Iâl a’r Waun i greu Sir Ddinbych. Trosglwyddwyd Sir Ddinbych i Sir newydd Clwyd adeg ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974, ac yn dilyn newidiadau i’r ffiniau fe’i trosglwyddwyd yn ôl i Sir Ddinbych yn ad-drefniant 1996.

Yn ystod y cyfnod canoloesol, am resymau sydd bellach yn niwlog, aeth y plwyfi eglwysig yn arglwyddiaeth Dinbych yn rhan o Esgobaeth Llanelwy, tra aeth y rhai hynny yn Nyffryn Clwyd, er bod Esgobaeth Llanelwy yn eu hamgylchynu’n gyfan gwbl, yn rhan o Esgobaeth Bangor. O’r diwedd, trosglwyddwyd deoniaeth Llanfair Dyffryn Clwyd, yn cynnwys plwyfi Efenechtyd, Llanbedr, Llandyrnog, Llanfair Dyffryn Clwyd, Llanfwrog, Llangynhafal, Llanrhaeadr-yng-nghinmeirch, Llanrhudd (yn cynnwys Rhuthun), Llanychan a Llanynys i Lanelwy ym 1859.

Tirweddau Anheddu

Patrymau anheddu o’r cyfnod cynhanesyddol i’r cyfnod Rhufeinig

Blaen bachog o’r oes Baleolithig Uwch Ddiweddar a ddarganfuwyd drwy ddamwain ym Mhorthywaun, ym mhen dwyreiniol Dyffryn Tanat yw’r dystiolaeth gynharaf sydd gennym o weithgareddau dyn yn y rhanbarth. Mae’n dyddio o tua 12,000 CC. Daeth y darganfyddiad o gors yn yr iseldir ger pen Dyffryn Tanat ac yn ôl pob tebyg mae’n dangos bod aneddiadau hela dros dro yn bodoli yn y dyffryn yn ystod y cyfnod Rhewlifol diweddar. Mae’n debyg bod grwpiau o helwyr a chasglwyr nomadig wedi ymgartrefu yn y dyffryn dros dro a hynny ar sail dymhorol yn ystod y cyfnod Mesolithig a’r cyfnodau Neolithig cynharach a ddilynodd.

Cynrychiolir y cynnydd yng ngweithgareddau dyn yn Nyffryn Tanat gan henebion angladdol a defodol sy’n cynrychioli, yn ôl pob tebyg, anheddu parhaol rhwng diwedd y cyfnod Neolithig a chanol yr Oes Efydd, rhwng tua 3,000-1,200 CC. Mae dosbarthiad safleoedd ar lawr y dyffryn ac yn yr ucheldiroedd yn awgrymu i ystod eang o ardaloedd topograffig gael eu defnyddio ar gyfer hela, pori anifeiliaid ac amaethyddiaeth âr, ac mae’n debyg i batrymau tymhorol o ddefnyddio ac anheddu tir gael eu datblygu yn ystod y cyfnod hwn. Ni wyddys am yr un anheddiad o’r cyfnodau hyn o fewn yr ardal ond mae tystiolaeth o fannau eraill yn y rhanbarth yn awgrymu mai’r prif fath o adeiladau bryd hynny oedd tai crynion o bren o fath nad oes fawr ddim tystiolaeth weladwy ar eu hôl, a fyddai wedi’u grwpio mewn aneddiadau diamddiffyn yn ôl pob tebyg.

Gwyddys am aneddiadau wedi’u hamddiffyn o ddiwedd yr Oes Efydd a’r Oes Haearn, ac sy’n perthyn i’r cyfnod rhwng tua 1000CC – OC 100, gan gynnwys bryngaerau a chlostiroedd ar yr iseldiroedd. Mae’n ansicr a fu pobl yn byw yn y bryngaerau yn barhaol a hefyd pa gyfran o’r boblogaeth a allai fod wedi byw y tu mewn iddynt, ond mae’n debyg mai ffermydd oedd y clostiroedd yn yr iseldiroedd lle y byddai teuluoedd estynedig yn byw trwy gydol y flwyddyn. Mae’n debyg bod pobl wedi rhoi’r gorau i fyw yn y bryngaerau erbyn dechrau’r cyfnod Rhufeinig ond efallai bod pobl wedi parhau i fyw ar rai o safleoedd y clostiroedd yn ystod y cyfnod Rhufeinig a dechrau’r cyfnod Canoloesol a ddilynodd, rhwng tua OC 100-1000.

Mae’n ansicr a fyddai cyfran sylweddol o’r boblogaeth wedi byw mewn aneddiadau amgaeëdig erbyn diwedd y cyfnod Rhufeinig, neu a fyddai’r mwyafrif o bobl wedi byw mewn aneddiadau agored o fath nad yw’n hysbys i ni eto. Fodd bynnag, mae’n debyg bod patrwm anheddu wedi ymddangos erbyn dechrau’r cyfnod Canoloesol a nodweddid gan glystyrau o ffermydd ar y tir is, a oedd yn well, a berthynai i deuluoedd estynedig a fyddai’n byw ynddynt yn barhaol, ynghyd ag anheddau yn yr ucheldiroedd y byddai pobl yn byw ynddynt ar sail dymhorol. Mae’n debyg na fodolai aneddiadau cnewyllol mawr bryd hynny, er ei bod yn bosibl bod aneddiadau cnewyllol llai, heb fod yn fwy na llond dwrn o dai efallai, wedi dechrau datblygu o amgylch nifer o’r safleoedd crefyddol cynnar, ger eglwys y clas yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, er enghraifft, sy’n dyddio o bosibl o’r 9fed ganrif.

Tystiolaeth o aneddiadau canoloesol a mwy diweddar

Nodir y model ar gyfer anheddu a gweinyddu cefn gwlad yng Nghymru yn y canol oesoedd yn y cyfreithiau Cymreig. Ar ddechrau’r cyfnod canoloesol byddai pob un o gymydau Mochnant Is Rhaeadr a Mochnant Uwch Rhaeadr wedi’i rannu yn nifer o drefgorddau; un o’r trefgorddau hyn fyddai prif drefgordd y cwmwd a chynhwysai’r llys, demên neu ystad bersonol yr arglwydd o fewn y cwmwd, a’r faerdref (trefgordd neu bentref y stiward) lle y byddai taeogion, a weithiai ar ystâd yr arglwydd o dan oruchwyliaeth y maer, yn byw. Delid tiroedd mewn trefgorddau eraill o fewn y cwmwd gan ddynion rhydd.

Nid yw’n hawdd cymhwyso’r model hwn at Ddyffryn Tanat, fodd bynnag. Mae’n demtasiwn meddwl bod prif drefgordd pob cwmwd yn cyfateb i’r domen yn yr iseldir sy’n hysbys o fewn pob cwmwd, yn arbennig gan y gelwir y domen yn yr iseldir ym Mochnant Is Rhaeadr yn Domen y Maerdy, sy’n awgrymu cysylltiad uniongyrchol â’r maer. Fodd bynnag, ymddengys fod pob un o’r tomenni wedi’u lleoli at ddibenion amddiffynnol mewn lleoedd sy’n gyfleus naill ai ar gyfer anheddiad cnewyllol i’r taeogion neu fel canol ystad yr arglwydd, ac ymddengys nad oes fawr ddim tystiolaeth uniongyrchol arall o leoliad posibl llysoedd neu faerdrefi yn y naill gwmwd a’r llall. Ymddengys y gallai dosbarthiad eglwysi plwyf canoloesol yn Nyffryn Tanat gynnig, ar yr olwg gyntaf, rhyw gymorth wrth ddiffinio patrymau anheddu canoloesol yn yr ardal, ond mae’r dystiolaeth a ddarparant unwaith eto yn amwys, gan yr ymddengys y gallai pob eglwys, ar wahân i Lanrhaeadr-ym-Mochnant, fod wedi gwasanaethu cymunedau gwledig gwasgaredig yn hytrach na bod yn ganolbwynt anheddiad cnewyllol. Yn absenoldeb tystiolaeth arall mae angen gweithio yn ôl o’r dystiolaeth gynharaf a geir ar fapiau o aneddiadau o fewn Dyffryn Tanat, yn fwyaf arbennig y mapiau degwm o’r 1830au a’r 1840au, er mwyn cael goleuni pellach ar y modd y datblygodd patrymau anheddu ar ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol, ar ddiwedd y cyfnod canoloesol a hyd yn oed yn y cyfnod canoloesol.

Mae’r mathau o aneddiadau a gynrychiolir yn nhystiolaeth y degwm yn ymrannu’n bedwar categori sylfaenol – ffermydd gwasgaredig a leolir ar y tir ffermio gwell, tyddynnod o amgylch ymylon y tir amgaeëdig, crofftydd llai o faint a bythynnod ffermwyr defaid ar ran o’r tir uwch o ansawdd gwaeth, sef tir diffaith yr ucheldiroedd a gawsai ei amgáu’n ddiweddar, ac yn olaf nifer o aneddiadau cnewyllol cyfoes, yn enwedig Llangynog, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Pen-y-bont Fawr, a Phenygarnedd. Mae i bob un o’r mathau hyn o anheddau ei hanes ei hun, a rhyngddynt maent yn cynrychioli gwahanol gamau yn natblygiad a dirywiad tirweddau aneddiadau’r Oesoedd Canol, yr Oesoedd Canol diweddar, y cyfnod ôl-ganoloesol a’r cyfnod modern. Un elfen sydd bron yn gyfan gwbl absennol o’r patrwm anheddu sy’n amlwg o dystiolaeth y degwm, fodd bynnag, yw’r hafod, sy’n cynrychioli’r arferiad o drawstrefa o’r ffermdy yn yr iseldir neu’r hendref a oedd wedi diflannu i bob pwrpas erbyn diwedd y 18fed ganrif. Ystyrir y cwestiwn ymhellach yn yr adran ganlynol ar dirweddau amaethyddol.

Aneddiadau gwasgaredig

Fel y nodwyd uchod, yn Nyffryn Tanat cynrychiolir aneddiadau gwasgarog gan ffermydd mwy o faint, tyddynnod, a bythynnod gwasgaredig. Fel arfer mae’r ffermydd o’r 19eg ganrif a ddangosir yn y degwm wedi’u lleoli lai na 500 o fetrau oddi wrth ei gilydd er bod tri neu bedwar ohonynt wedi’u gosod yn eithaf agos at ei gilydd mewn dau le. Bryd hynny maint y ffermydd fel arfer oedd 50 o erwau gyda ffermdy ac adeiladau eraill wedi’u lleoli fel arfer o fewn eu caeau eu hunain, islaw’r tir uwch croesawus a llai ffrwythlon ac yn uwch na’r tir is mwy llaith neu’r tir a oedd yn dueddol o orlifo. Mae’r ffermdai yn aml wedi goroesi, ond dim ond cyfran ohonynt sy’n dal i fod yn ffermydd gweithredol heddiw; mae ffermdai eraill erbyn hyn yn cael eu defnyddio fel adeiladau fferm yn unig neu maent wedi diflannu yn gyfan gwbl.

At ei gilydd mae’r ffermydd wedi’u dosbarthu’n weddol gyfartal ar draws y tir gwell, er ei bod yn amlwg eu bod yn llai dwys ychydig i’r dwyrain ac i’r de-ddwyrain o Lanrhaeadr-ym-Mochnant, sy’n awgrymu y gallai rhan o’r tir yma ar un adeg fod wedi’i gweithio o ffermydd a leolid yn y dref. Mae llawer o’r ffermydd wedi’u paru hefyd gan enwau sy’n gorffen â’r olddodiadau uchaf neu isaf, fawr neu fach/fechan, ganol (ee Cefn-uchaf/isaf; Cefnhirfach/fawr; Cileos/-isaf; Garthgelynen-fawr/fechan; Glanhafon-fawr/ucha/uchaf; Glantanat-isaf/uchaf; Lloran-isaf/ganol/uchaf; Maesmochnant-isaf/uchaf; Peniarth –isaf/uchaf; Trewern/-isaf). Mae rhai o’r ffermydd a gysyslltir fel hyn wedi rhoi eu henw i’r drefgordd lle y’u lleolir, ac mae yna hefyd duedd i’r ffermydd hyn fod wedi’u lleoli ar y tir is a gwell. Mae’r ddau ffactor hwn yn awgrymu bod rhai o’r ffermydd hyn wedi datblygu yn uniongyrchol o batrwm anheddu gwledig sy’n perthyn i’r Oesoedd Canol cynnar ac i’r Oesoedd Canol ac a seiliwyd yn wreiddiol ar grwpiau ‘llwythol’ neu grwpiau teuluol estynedig yn meddiannu ardaloedd penodol o dir gwell a hynny ar y cyd. Mae’n debyg bod y broses hon eisoes yn diflannu ar ddiwedd yr Oesoedd Canol wrth i ddaliadau gael eu cyfuno. Ystyrir hyn ymhellach yn yr adran ar dirweddau amaethyddol isod.

Cynrychiolir patrwm gwahanol hefyd ar y map degwm gan lawer o’r ffermydd llai o faint sy’n dueddol o fod wedi’u lleoli ar y tir sydd ychydig yn fwy ymylol, ar ochrau’r ucheldiroedd a llethrau’r dyffrynnoedd. Ceid yr elfen tyddyn yn enw llawer o’r ffermydd hyn, wedi’i dalfyrru yn aml yn ty’n. Mae lleoliad llawer o’r daliadau hyn yn awgrymu’n gryf eu bod yn cynrychioli proses o symud i ffwrdd o’r tiroedd ‘llwythol’ cynharach at dir ymylol gan ffermwyr annibynnol oedd yn benderfynol o ddatblygu tir isel, tir ar ochr y mynydd a thir ar ben y mynydd. Arwydd bellach o’u hannibyniaeth yw’r ffaith nad yw’r ffermydd hyn fel rheol wedi mabwysiadu’r olddodiadau megis uchaf ac isaf ac yn aml mae ganddynt enw cwbl unigryw. Roedd gan gyfran sylweddol o’r ffermydd mwy ymylol hyn a’r ffermydd mwy o faint yn yr iseldiroedd adeiladau a adeiladwyd â nenfforch (gweler isod), sy’n dangos bod yr elfennau pwysig hynny o’r patrwm anheddu oedd yn amlwg o’r map degwm yng nghanol y 19eg ganrif eisoes yn bodoli erbyn y 15fed ganrif a’r 16eg ganrif.

Felly mae cyfuniad o brosesau gwahanol wedi arwain at y ffermydd annibynnol gwasgaredig a geir yng nghefn gwlad. Wele olion trefi annibynnol yr Oesoedd Canol cynnar a’r Oesoedd Canol a gysylltir ag ardaloedd cymharol fach o dir âr ar ffurf caeau agored yn cael eu dilyn gan broses o ymledu gan ffermydd cyfun annibynnol i’r tir oedd ychydig yn llai ffafriol yn ystod yr Oesoedd Canol diweddar ac ar ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Yna gwelwyd gadael llawer o’r ffermydd mwy ymylol a chyfuno daliadau llai o faint yn ystod y 19eg ganrif a’r 20fed ganrif.

Ni chynhaliwyd arolwg systematig o gynlluniau ffermydd ac adeiladau hanesyddol ar draws holl ardal Dyffryn Tanat eto ac o ganlyniad dim ond nifer gymharol fach ohonynt sydd wedi’u dyddio’n gywir. Dengys arolygon o ystadau yn Sir Drefaldwyn a gynhaliwyd yn y 18fed ganrif fod yr ystod o adeiladau fferm a geid bryd hynny wedi’i chyfyngu’n aml i ysgubor a beudy bach, ond bod y ffermydd yn yr iseldir yn cynnwys ystod ehangach o adeiladau fferm gan gynnwys cartws neu weinws, stablau, cytiau moch a llaethdai. Cynrychiolir dau fath sylfaenol o gynllun ffermdy yn astudiaeth glasurol Alwyn Rees o Lanfihangel-yng-Ngwynfa, ychydig i’r de, ac ymddengys mai’r un yw’r sefyllfa’n fras ar draws Dyffryn Tanat. Mae ffermdy a thai allan ar batrwm tŷ hir sydd wedi’u trefnu mewn llinell ac sy’n wynebu’r buarth yn nodweddion trefniant cynharach. Mewn math diweddarach o ffermdy neu mewn rhai achosion mewn math mwy datblygedig o ffermdy, mae’r ffermdy ei hun, sydd fel rheol ar batrwm ffermdy hirsgwar o’r cyfnod ôl-ganoloesol, yn sefyll ar wahân i’r buarth ac yn wynebu i’r cyfeiriad arall. Yn Nyffryn Tanat, fel yn Llanfihangel-yng-Ngwynfa, mae’n well gan y brodorion lethrau clyd, heulog sy’n wynebu’r de, ac, yn y cyfnod ôl-ganoloesol, mae hyn wedi arwain at enwau fel Bronheulog a Llety Heulwen.

Ategir y patrwm cyffredinol hwn gan astudiaeth bellach a ddangosodd fod cynlluniau ffermydd ag un rhes o adeiladau neu â dwy linell sydd naill ai’n gyfochrog â’i gilydd neu wedi’u gosod ar ffurf L ymhlith y ffurfiau a geir amlaf yn nhroedfynyddoedd y Berwyn fel rheol. Y mathau hyn o gynlluniau yw’r rhai sydd fwyaf tebygol o godi yn achos ffermydd â nifer fach iawn o adeiladau. O ganlyniad byddai ffermydd o’r math hwn yn debygol o ddatblygu’n ffurfiau mwy cymhleth wrth i adeiladau ychwanegol gael eu hychwanegu yn sgîl y diwygiadau amaethyddol a gafwyd yn ystod y 18fed ganrif. Ni fu fawr ddim astudiaeth o’r ffyrdd y datblygodd ffermydd, ond ceir rhai achosion lle y mae tystiolaeth glir i’r mathau mwy cymhleth hyn ddatblygu o un tþ hir gwreiddiol oedd yn amlswyddogaethol. Trwy gofnodi a chloddio ei hadeiladau dangoswyd i fferm Tyddyn-llwyddion, ychydig i’r gorllewin o Lanrhaeadr-ym-Mochnant, ddechrau yn yr 16eg ganrif fel tþ hir a adeiladwyd â nenfforch gyda buarth i un ochr. Ar ddechrau’r 17eg ganrif mewn un pen i’r tþ hir adeiladwyd ffermdy newydd â fframiau pren gyda thalcen cerrig yn y pen gorllewinol, a ffurfiai gynllun ar ffurf L, a chodwyd rhes ychwanegol o adeiladau brics a cherrig yn gyfochrog â’r tþ hir yn y 19fed ganrif.

Fel y nodwyd isod, erbyn o leiaf ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol roedd hawliau pori ar dir cyffredin eisoes yn cael eu penderfynu gan nifer y gwartheg y gellid eu cadw yn yr hendref neu’r brif fferm yn ystod y gaeaf. Yn y cyd-destun hwn gwelir bod lle pwysicach byth i’r tŷ hir gyda lle i bobl fyw ynddo yn y naill ben a lle i gadw anifeiliaid yn y pen arall. Mor ddiweddar â’r 18fed ganrif mae’n debyg mai dim ond ychen a buchod sugno – y stoc oedd yn hanfodol ar gyfer tynnu a bridio – a gedwid yn y tŷ a’u bwydo’n rheolaidd yn ystod y gaeaf. Yr elfennau pwysig yn yr hafaliad oedd faint o wair y gellid ei gywain a faint o le cysgodol a ddarparai’r tŷ hir ar gyfer y stoc.

Mae tyddynnod, crofftau a bythynnod ffermwyr defaid y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif yn cynrychioli elfen amlwg arall yn y dirwedd wledig. A hwythau wedi’u dosbarthu ar ymylon y rhostir maent yn cysylltu’r ardaloedd hynny lle y lleolid y ffermydd annibynnol a berthynai i’r Oesoedd Canol diweddar ac i’r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar. Fel y gwelsom fe’u sefydlwyd yn ystod y cyfnod rhwng y 15fed ganrif a’r 17eg ganrif. Ceir dwy enghraifft nodweddiadol o’r math hwn o dirwedd lle y gwelir bythynnod o fewn Dyffryn Tanat – Cefn-coch ar y bryn ychydig i’r gorllewin o Lanrhaeadr-ym-Mochant, a Mynydd-y-briw i’r gogledd o Langedwyn, gyda’u bythynnod agos at ei gilydd a chaeau llai o faint wedi’u gwasgaru ar hyd y ffordd. Yn y ddau achos hwn mae’n debyg i bobl ddechrau tresmasu ar y tir cyffredin fesul tipyn ar ddechrau’r 19eg ganrif, fel sy’n amlwg ar ddosraniad y degwm. Yn y ddau achos mae’r datblygiad ar ymylon yr ucheldiroedd ac mae’n arwyddocaol eu bod yn agos at ffiniau plwyfi Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Phennant Melangell yn y drefn honno. O ran eu maint tua chanol y 19eg ganrif amrywiai’r daliadau o dyddynnod â rhyw 15 erw o dir i fythynnod â gardd ac o bosibl dim mwy na 3 erw.

Fel mewn mannau eraill yng Nghymru, bu twf Anghydffurfiaeth ar ddiwedd y 18fed ganrif ac yn ystod y 19eg ganrif, y cynnydd yn nifer y capeli, twf ysgolion, a gwelliannau i ffyrdd i gyd yn bwysig iawn wrth helpu i gynnal y patrwm o aneddiadau gwledig gwasgaredig.

Aneddiadau cnewyllol

Adeiladwyd eglwysi canoloesol yn Nyffryn Tanat yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llangynog, Pennant Melangell, Llanarmon Mynydd Mawr a Llangedwyn, ond dim ond yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant y ceir unrhyw dystiolaeth glir o aneddiadau cnewyllol yn ystod y cyfnod canoloesol.

Ychydig iawn o dystiolaeth sydd o hanes cynnar yr anheddiad a dyfodd o amgylch eglwys y clas yn Llanrhaeadr, er yr ymddengys ei bod yn debygol iddi ddatblygu yn ganolfan weinyddol ar gyfer cantref Mochnant a chwmwd Mochnant Is Rhaeadr yn weddol gynnar, gan fod yr eglwys wedi’i sefydlu erbyn y 9fed ganrif o leiaf ac yn derbyn nawdd brenhinol. Mae’r hanes sylweddol cynharaf sydd gennym am yr anheddiad yn dyddio o’r cyfnod yn fuan wedi Goresgyniad Edward pan roddwyd Mochnant Is Rhaeadr i Roger Mortimer fel rhan o arglwyddiaeth Y Waun. Rhoddwyd yr hawl i’r dref gynnal marchnad a ffeiriau ym 1284, er mwyn meithrin masnach a chodi refeniw yn bennaf oll. O hyn datblygodd y farchnad fach â’i chanolbwynt ar y triongl agored ger yr eglwys a ddenai fasnachwyr o Groesoswallt a’r Amwythig a ddeliai mewn nwyddau arbenigol, yn ogystal â gwerinwyr o ffermwyr o Fochnant a âi yno i brynu ac i werthu. Gan fod yr ardal yn un anghysbell o fewn yr arglwyddiaeth roedd angen cyflawni gwahanol swyddogaethau gweinyddol yno hefyd, ond yn y pen draw byddai llwyddiant y farchnad yn cael ei benderfynu gan natur gyfyngedig ei chefn gwlad, ac o ddiwedd y 14eg ganrif yn aml ni fyddai tollau’r farchnad yn cynhyrchu unrhyw elw. Erbyn canol y 19eg ganrif roedd anheddiad cymharol fach a chryno wedi datblygu yn enwedig ar ochr ogleddol afon Rhaeadr neu ar ochr Sir Ddinbych iddi, ac erbyn hynny roedd melinau ŷd, sawl tafarn, siopau, capeli, a neuadd farchnad wedi’u codi.

Creadigaethau diwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif yw’r aneddiadau cnewyllol eraill sydd yn Nyffryn Tanat. Un o’r enghreifftiau eithriadol yw Llangynog lle y newidiwyd y patrwm anheddu gwledig yn llwyr gan ddiwydiannau echdynnu. Nid eglwys ganoloesol sy’n gyfrifol am ei rhesi o dai teras, ei chapeli a’r New Inn sy’n dyddio o’r flwyddyn 1751 ond y buddiannau mwyngloddio a chwarelu a fu â lle mor amlwg yn ei hanes o ganol y 18fed ganrif, ynghyd â phresenoldeb y ffordd dyrpeg a adeiladwyd ar draws y bryniau i’r Bala yn ddiweddarach yn ystod y ganrif. Mae’r tai teras, yr ysgol a’r bont ym Mhen-y-bont Fawr i gyd yn perthyn i’r 19eg ganrif a phresenoldeb ffyrdd tyrpeg ar gyffordd llwybrau a arweiniai i Groesoswallt, gorllewin Cymru, yr Amwythig a’r Bala, sy’n cyfrif yn bennaf oll am dwf yr anheddiad yn y fan hon. Unwaith eto mae’r eglwys a’r ficerdy yn agos at ei gilydd o ran dyddiad ac fe’i hadeiladwyd o’r newydd yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg i wasanaethu cymuned oedd yn ehangu gydag ochr y ffordd. Roeddent yn bell o eglwys y plwyf ym Mhen-y-bont Fawr bum milltir i’r gorllewin ond buan y byddent yn bwrw’r eglwys honno i’r cysgod. Yn wir, mae Pen-y-bont Fawr yn unigryw o fewn y sir am fod yn bentref bach cymharol ddiweddar ar ochr y ffordd a ddyrchafwyd ar ôl hynny i statws cymuned sifil annibynnol. Yn yr un modd mwyngloddiau sy’n gyfrifol am y clystyrau o dai ym Mhencraig ar hyd y ffordd dyrpeg i’r gogledd o Langynog. Mae’r clwstwr o dai yng Nghomins yn enghraifft bellach o’r math o newidiadau a ddaeth i’r dirwedd yn sgîl y ffyrdd tyrpeg ac o’r newid mewn canolbwyntiau aneddiadau a’u dilynodd. Cododd aneddiadau bach eraill megis Efail-rhyd unwaith eto ar hyd y ffyrdd tyrpeg o ddiwedd y 18fed ganrif drws nesaf i’r felin ŷd ac efail y gof. Gwasanaethai Rheilffordd Ysgafn Dyffryn Tanat, a adeiladwyd rhwng 1899-1904 ac a gaeodd o’r diwedd ym 1964, yn bennaf aneddiadau a fodolai eisoes ac ni chafodd fawr ddim effaith ar y patrwm anheddu.

Poblogaeth

Mae’n anodd asesu dwyseddau poblogaeth yn fanwl gywir cyn blynyddoedd olaf yr 17eg ganrif. Mae ffigurau o Notitiae Llanelwy ac o Dreth yr Aelwyd yr adeg honno yn nodi dwyseddau o rwng 9-38 o bobl fesul milltir sgwâr, a ffigurau ar gyfer Pennant Melangell a Llangynog yw’r rhai isaf a gofnodwyd yn Sir Drefaldwyn. Mae Cyfrifiad 1801 yn dangos i ddwyseddau barhau’n gymharol isel, gyda dwyseddau o rwng 25-50 o bobl fesul milltir sgwâr yn cael eu nodi. Cynyddodd y gymuned amaethyddol yn raddol ond gwelwyd amrywiadau lleol yn y gymuned fwyngloddio yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif o ganlyniad i ffawd anrhagweladwy’r diwydiant mwyngloddio: mae adroddiad y deon gwledig ar gyfer 1710 yn crybwyll yn achos Llangynog i ‘wladfa newydd o fwyngloddwyr symud i mewn … mae eu nifer yn cynyddu yn ddyddiol’, tra dim ond tri deg o flynyddoedd yn ddiweddarach disgrifiwyd y mwyngloddiau fel ‘dyn sy’n marw’. Bu gostyngiad cyffredinol yn y boblogaeth ar ddiwedd y 19eg ganrif gyda phobl yn ymfudo i ardaloedd diwydiannol y tu allan i Ddyffryn Tanat, ond ni welwyd pobl yn gadael eu hanheddau i’r un graddau ag y digwyddodd mewn rhai mannau eraill o Gymru.

Mathau o adeiladau

Cynrychiolir y bensaernïaeth ganoloesol gynharaf sydd wedi goroesi yn Nyffryn Tanat gan rannau o’r eglwys ym Mhennant Melangell sy’n perthyn i’r 12fed ganrif. Adeilad Romanésg cymharol blaen ydyw a chanddo dalcen crwn yn y dwyrain, cangell a chorff heb eu rhannu a drysau a ffenestri syml â phennau crynion, a fyddai wedi bod â thoeau gwellt yn wreiddiol. Codwyd y rhan fwyaf o’r adeiladwaith cynnar o gerrig crynion o’r nant leol wedi’u clymu â chlai, sy’n dangos bod diwydiannau cloddio cerrig a chynhyrchu calch heb eu sefydlu eto yn yr ardal, er i naddiadau o dywodfaen ar gyfer agoriadau’r drysau a’r ffenestri yn ogystal ag ar gyfer y beddrod Romanésg gael eu mewnforio o weithdy arbenigol gryn bellter i ffwrdd, rywle yn ardal y Gororau i’r dwyrain.

Y math hynaf o adeilad domestig yn Nyffryn Tanat yw’r tai ffrâm nenfforch hanner pren sy’n arbennig o niferus yn y rhan hon o’r Gororau ac sy’n nodwedd amlwg o draddodiad adeiladu cyffredin yr ardal. Gwyddys am ryw 20 o adeiladau ffrâm nenfforch o’r math hwn o fewn Dyffryn Tanat, ac mae’r mwyafrif ohonynt yn dyddio o ddiwedd y 15fed ganrif a dechrau’r 16eg ganrif ac fe’u hadeiladwyd fel ffermdai. Collwyd nifer o adeiladau gwaetha’r modd yn ystod yr 20fed ganrif, gan gynnwys Tyddyn-llwydion a Chileos-isaf a does dim amheuaeth na chollwyd llawer eraill mewn canrifoedd blaenorol. Dim ond yn ystod y 1980au a’r 1990au y nodwyd rhai o’r adeiladau ac mae yna bosibilrwydd mawr bod enghreifftiau eraill yn dal heb eu darganfod. Mae’n glir bod gan lawer o’r adeiladau neuadd ganolog o un neu ddau raniad, oedd yn agored i’r to, a lle y byddai lle tân agored canolog. Mae’n debyg y byddai rhydd-ddeiliaid o ffermwyr gweddol gefnog yn byw yn y tai neuadd ffrâm nenfforch hyn, a weithiai eu hystadau eu hunain, ac adeiladwyd o leiaf ddau o’r adeiladau – Tyddyn-llwydion a Chileos-isaf – fel tai hirion, gyda’u rhaniadau isaf yn cael eu defnyddio fel beudai.

Addaswyd pob un o’r adeiladau ffrâm nenfforch mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Mae pobl yn dal i fyw mewn rhai ohonynt, er bod nifer o adeiladau a ddechreuodd yn ôl pob tebyg fel tai wedi’u haddasu’n ysguboriau, fel yng Nghlanafon-fawr a Henblas. Mewn rhai achosion codwyd waliau cerrig yn lle’r waliau allanol am fod y paneli gwreiddiol wedi mynd yn ddiffygiol, fel yn achos Tan-y-graig. Yn Nhyddyn-llwydion adeiladwyd tŷ ffrâm bren newydd â thalcen cerrig fel asgell groes un pen iddo, ac addaswyd y tŷ neuadd i’w ddefnyddio at ddibenion amaethyddol ac yn nes ymlaen newidiwyd ei wal yn wal gerrig. Mae’n debyg bod adeiladau fel Tyddyn-llwydion a Chileos-isaf yn nodweddiadol o ffermydd yn Nyffryn Tanat ar ddiwedd y cyfnod canoloesol a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol, ac mae bron yn sicr eu bod yn fwy cyffredin yn yr ardal ar un adeg. Un adeilad amlswyddogaethol oedd y tai hirion ffrâm nenfforch o’r math hwn. Roedd eu hystafelloedd byw, y neuadd a’r beudy wedi’u trefnu mewn llinell, ac mae’n debyg y defnyddid rhannau o’r adeilad ar gyfer dyrnu a thasgau eraill mewn tymhorau gwahanol. Erbyn yr 17eg ganrif a’r 18fed ganrif datblygodd yr adeiladau hyn yn nodweddiadol yn adeiladau ar wahân neu roeddent yn cael eu disodli gan adeiladau ar wahân, pob un â swyddogaethau mwy arbenigol. Mor ddiweddar â’r 18fed ganrif mae’n debyg mai dim ond ceffylau, ychen a buchod sugno a gedwid yn y tþ yn ystod misoedd y gaeaf, a byddai nifer yr anifeiliaid y gallai’r ffermydd unigol eu cadw dros y gaeaf yn rheoli hawliau perchenogion i dir cyffredin ac o ganlyniad cyfoeth a statws y sefydliad.

Nid ydym yn gwybod dim eto am ffurf yr adeiladau yn Nyffryn Tanat ar ddechrau’r Oesoedd Canol ac yn ystod yr Oesoedd Canol, sef yr adeiladau a ragflaenodd y tai neuadd ffrâm nenfforch hyn o ddiwedd yr Oesoedd Canol a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Nid oes yr un ohonynt wedi goroesi ac nid yw cloddfeydd archeolegol wedi datgelu unrhyw wybodaeth amdanynt ychwaith. Mae cloddfeydd ar nifer o safleoedd trefol lleol, gan gynnwys bwrdeistref ganoloesol Trefaldwyn yn awgrymu bod technegau adeiladu yn yr ardal wedi newid tua’r 14eg ganrif ac yn lle codi adeiladau â physt dechreuwyd codi adeiladau â thrawstiau lintel wedi’u gosod ar linteli cerrig fel y neuaddau ffrâm nenfforch. Mae’n debygol fod olion tai cynharach o’r math hwn i’w cael o dan neu wrth ochr y ffermydd a ddisgrifiwyd uchod o ddiwedd yr Oesoedd Canol, ffermydd sydd mewn rhai achosion yn dal i gael eu defnyddio heddiw. Yn ddiddorol, dangoswyd bod yr unig dŷ neuadd ffrâm nenfforch a gloddiwyd yn Nyffryn Tanat wedi’i arosod ar gae cynharach oedd wedi’i aredig, sy’n awgrymu efallai fod pobl yn symud i ffwrdd o ardaloedd aneddiadau cynharach.

O ddiwedd y 16eg ganrif ymlaen ymddengys bod traddodiadau adeiladu brodorol o fewn Dyffryn Tanat yn fwy amrywiol, heb unrhyw ddulliau adeiladu lleol a oedd yn nodweddiadol neu’n dra chyffredin yn amlygu eu hunain. Adeiladwyd nifer o ffermdai hanner pren â ffrâm flwch ar ddiwedd yr 16eg ganrif a dechrau’r 17eg ganrif, rhai fel Tyddyn-llwydion â thalcenni cerrig. Dengys y dystiolaeth o eglwys Pennant Melangell fod y diwydiant cloddio cerrig lleol wedi ymsefydlu rywbryd rhwng diwedd yr 16eg ganrif a dechrau’r 17eg ganrif fan bellaf ac nid oes amheuaeth nad oedd calch erbyn hyn ar gael fel rheol ar gyfer morter. O ganol yr 17eg ganrif yn gyffredinol câi amrywiaeth o ffermdai deulawr newydd eu hailadeiladu neu eu hadeiladu o’r newydd o gerrig, fel yn achos Glantanat-uchaf â’i charreg ddyddio o 1646 a Thþ-ucha â’i charreg ddyddio o 1665, ynghyd â nifer o fythynnod unllawr a deulawr llai o faint. Ychydig o adeiladau Tuduraidd mawreddog neu adeiladau urddasol o oes y Dadeni a gâi eu hadeiladu yn Nyffryn Tanat, ar wahân efallai i Neuadd Llangedwyn, adeilad yn dyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif neu ddechrau’r 18fed ganrif a oedd yn ailfodeliad o adeilad o ddiwedd yr 16eg ganrif neu ddechrau’r 17eg ganrif a etifeddwyd gan deulu Williams-Wynns ym 1718. Serch hynny byddai teuluoedd o gryn fri neu rodres yn byw mewn tai mwy cymedrol eu maint – perthynai Glanhafon-fawr i deulu Lloyd, a Lloran-uchaf i deulu Maurice a allai olrhain eu hachau i gyfnod y Rhufeiniaid. Byddai perchenogion dyrnaid bach o ffermydd yn ddigon hyderus i ychwanegu Plas fel rhagddodiad i’r enw, er yr ymddengys rhai ohonynt yn hurt, fel yn achos Plas-criafol a saif tua blaen Cwm Maengwynedd. Byddai Cadwaladr Roberts (fu farw ym 1708/09), bardd a ffermwr, yn byw yn Nhŷ-ucha, ynghudd yng nghilfachau pellaf Cwm Llech. Byddai gan berchenogion Tyddyn-llwydion epigram Lladin wedi’i baentio ar waliau eu parlwr dirodres o’r 17eg ganrif.

Mae’n debyg y byddai gan lawer o’r adeiladau o ddiwedd yr 16eg ganrif ymlaen doeau llechi. Ychydig iawn o dystiolaeth sydd gennym o hanes cynnar cynhyrchu llechi yn lleol, er bod yna awgrymiadau y gallai’r chwareli yn Llangynog fod wedi bod yn cynhyrchu llechi erbyn y 1530au. Roedd chwareli lleol yn cynhyrchu cerrig llorio erbyn dechrau’r 18fed ganrif o leiaf, i gymryd lle’r lloriau pridd cynharach. Heb ei gofnodi cyn ail neu drydydd degawd y 18fed ganrif, y mae’r defnydd o frics yn Nyffryn Tanat, fel yn nhai ffasiynol Tŷ-nant a Henblas, Llangedwyn a hefyd mewn adeiladau diwydiannol ym mwynglawdd plwm Llangynog, lle y cofnodir iddynt gael eu defnyddio yn y 1730au. Mae’n debyg bod nifer o enwau caeau fel ‘Brick Field’ a ‘Kiln Bricks’ yn ardal Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn dystiolaeth o’r ffaith bod brics yn cael eu cynhyrchu ar raddfa fach ar ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif. Mae’r mathau o adeiladau a godwyd tua diwedd y 18fed ganrif ac yn ystod y 19eg ganrif yn nodweddu’r aneddiadau cnewyllol yn bennaf.

Tirweddau Amaethyddol

Fel yn achos llawer o dir ar ffin Cymru, seiliwyd economi amaethyddol modern Dyffryn Tanat ar nifer o elfennau sylfaenol a dibynnol, sy’n hawdd eu hadnabod o fewn y dirwedd – porfeydd heb eu hamgáu yn yr ucheldir a’r porfeydd amgaeëdig a’r porfeydd âr yn yr iseldir. Heddiw mae’r cynhyrchiant âr yn gymharol fach er bod cnydau porthi yn dal i fod yn hanfodol ar gyfer treulio’r gaeaf. Dechreuodd y patrwm hwn o ddefnydd tir erbyn diwedd y 14eg a’r 15fed ganrif, fwy na thebyg, gyda diflaniad y system ganoloesol Gymreig o ddaliadau llwythol – y gwelau a’r gafaelion – wrth i’r gwaith o amgáu ac uno’r dailiadau greu tirwedd yn y pendraw o ffermydd gwasgaredig yn cynnwys dosbarth o weithwyr gwerinol a boneddigion llai. Cafodd traddodiadau etifeddu canoloesol effaith sylweddol ar y dirwedd, gyda’r system o gyfran neu rannu rhwng pob etifedd gwrywaidd yn peri amgáu ffriddoedd o amgylch yr hen ganolfannau llwythol, proses a ddisodlwyd yn ddiweddarach gan bwysau poblogaeth. Fodd bynnag, nid yw hen draddodiadau’n cilio’n hawdd, ac mor hwyr â thua 1560 fe wnaeth Maurice ap Meredith osgoi’r arferiad Tuduraidd o gyntafanedigaeth drwy rannu ystad fach Lloran-uchaf yng nghornel gogledd-ddwyreinol Dyffryn Tanat ymhlith ei wyth mab a oroesodd. Yn ystod y 17eg a’r 18fed ganrif datblygwyd ystadau mawr, ac roedd perchenogion tiroedd mawr yn Nyffryn Tanat yn cynnwys teulu Herbert o Gastell Powys a’r Williams-Wynn o Wynnstay. Gwnaed gwelliannau mawr o ran arferion amaethyddol a gwelwyd sefydlu daliadau llai a bythynnod i ffermwyr defaid yn ystod y blynyddoedd o ‘brinder tir’ ar ddiwedd y 18fed ganrif ac ar ddechrau’r 19eg ganrif. Yn sgîl dirwasgiad amaethyddol diwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif cefnwyd ar rai daliadau bach ar y tir mwy ymylol, ac ar ddechrau’r 20fed ganrif rhannwyd nifer o ystadau a chynyddwyd nifer y perchenogion a oedd yn byw ynddynt.

Mae’n debyg ei fod yn arwyddocaol yn y rhan hon o Ddyffryn Tanat fod trawsnewidiad sydyn yma rhwng llawr y dyffryn a chopa’r mynydd. Pan oedd y tir amaethyddol cyfyngedig ar lawr y dyffrynnoedd cyffiniol wedi ei ddefnyddio’n llawn, yn ystod y cyfnod canoloesol fwy na thebyg, byddai wedi bod yn angenrheidiol ymestyn at gopa’r mynydd er mwyn cael gafael ar fwy o dir amaethyddol gan mor serth oedd ochrau’r dyffrynnoedd. Mae sefyllfa wahanol i’w gweld yn rhannau dwyreiniol Dyffryn Tanat, lle mae’r trawsnewidiad rhwng gwaelod y dyffryn a chopa’r mynydd yn llai dramatig a lle’r oedd clytiau o diroedd mwy ymylol yn parhau i gael eu defnyddio o amgylch ymylon agos y tir amgaeëdig yn ystod rhan helaeth o’r 19eg ganrif. Mae maint y comin ucheldir a geir heddiw yn Nyffryn Tanat yn cynrychioli cyfran fach o’r tiroedd gwastraff a’r tiroedd comin heb eu hamgáu a oroesai mor ddiweddar â dechrau’r 19eg ganrif, fel y dangosir ar y map degwm, ac mae’n glir fod y waliau’n parhau i gael eu hadeiladu a bod gwrychoedd yn cael eu plannu yn ystod diwedd y 19eg ganrif.

Tiroedd comin uchel
Fel mewn nifer o fannau yng Nghymru, mae’r defnydd o borfeydd y tiroedd comin uchel dros yr haf wedi bod yn rhan bwysig a chanolog o’r economi gwledig yn Nyffryn Tanat ers sawl canrif ac wedi gwella potensial economaidd y ffermydd o faint cymedrol ar yr iseldir, rhywbeth sydd o bwys arbennig o ran hwsmonaeth gwartheg. Roedd y trawstrefa, neu ymfudo tymhorol, o’r hendre/hendref neu fferm barhaol ar yr iseldir at yr hafod/hafoty neu’r annedd ar yr ucheldir yn ystod yr haf (haf + bod, sef annedd neu dŷ) hefyd yn chwarae rhan bwysig yn y cylch amaethyddol blynyddol drwy gadw anifeiliaid oddi ar y dolydd âr a silwair cyffredin yn yr iseldir. Byddai cyswllt rheolaidd wedi’i gynnal gyda’r hendref drwy gydol misoedd yr haf, drwy fynd â chynnyrch llaeth gartref, a thorri mawn. Mae’n dra thebygol fod y trawstrefa yn Nyffryn Tanat yn dyddio o gyfnod cynharaf amaethyddiaeth sefydlog, ac wedi dechrau’n lleol, fwy na thebyg, yn ystod y cyfnod Neolithig. Yn wir, gwnaed awgrymiadau mewn mannau eraill ym Mhrydain, fod ei wreiddiau yn arferion grwpiau hela a chasglu yn ystod y cyfnod Rhewlifol Diweddar a’r cyfnod Ôl-Rewlifol cynnar, grwpiau a ddilynai drywydd gyrroedd o lysysorion fel elc a cheirw a oedd yn ymfudo i’r ucheldiroedd er mwyn bwydo ar y porfeydd dros yr haf. Gallai presenoldeb carneddau claddu amlwg o’r cyfnod cynhanesyddol diweddar ar yr ucheldir hefyd fod yn gysylltiedig â defnydd tymhorol o borfa’r ucheldir yn hytrach na thrwy gydol y flwyddyn.

Erbyn y cyfnod ôl-ganoloesol cynnar o leiaf rhoddwyd pris mawr ar hawliau comin, ar sail y nifer o dda byw y gellid eu cadw ar yr hendref yn ystod y gaeaf. Erbyn y 18fed ganrif roedd y ‘dogn’ neu ddosraniad o anifeiliaid y caniateid i’r ffermwyr eu rhoi i bori ar y tiroedd comin yn gyffredinol yn gymesur â maint y fferm ar yr iseldir, gan bwysleisio’r hen gyswllt hanfodol rhwng y porfeydd ar yr ucheldir a’r ffermydd ar yr iseldir. Mae’n debygol fod trawstrefa’n arferiad hynafol yn Nyffryn Tanat, ond hyd yma prin iawn yw’r dystiolaeth ohono ar wahân i dystiolaeth a geir mewn enwau lleoedd. Yn gyffredinol dim ond dangos maint y tir a amgaewyd a wna’r mapiau degwm, er y gellir gweld ambell hafod ar ymylon yr ucheldiroedd lle’r oedd wedi’i hamgáu gan orgyffyrddiad darniog y tiroedd comin uchel a wnaed yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif. Cofnodwyd y rhan fwyaf o ucheldiroedd Dyffryn Tanat ar rifyn cyntaf mapiau perthnasol 6 modfedd yr Arolwg Ordnans, a gyhoeddwyd rhwng 1879-92. Y mapiau hyn, a gyhoeddwyd dros ganrif a mwy ar ôl i nifer o’r hafodydd gael eu hesgeuluso, yw’r cofnod cyntaf o’r rhan fwyaf o enwau lleoedd yn ucheldiroedd Dyffryn Tanat. Mae’r nifer gymharol fach o enwau hafodydd a gofnodwyd ar y map degwm ac ar rifyn cyntaf Arolwg Ordnans 6 modfedd i’w canfod yn bennaf ar ymylon tiroedd amgaeëdig ac mae’n debygol fod enwau lleol tebyg eraill o fewn yr ardaloedd o rostir uchel bellach wedi mynd yn angof.

Mae’n ddiddorol gweld y gellir cysylltu enw un o’r hafodydd prin a oroesodd yn uniongyrchol â hendref amlwg neu fferm ar yr iseldir. Mae’n amlwg fod Hafoty Arllen-fawr ar uchder o 450m ar y rhostir i’r de-orllewin o Bennant Melangell yn dŷ haf Arllen-fawr, sef fferm ar lawr y dyffryn ger Pen-y-bont Fawr tua 9km i’r gogledd-ddwyrain, y gellir ei olrhain o leiaf at ail hanner y 16eg ganrif. Roedd yr hwylan neu’r gilffordd yn ffordd hanfodol o gysylltu’r ffermydd ar yr iseldir â’r tiroedd comin uchel. Peth arall diddorol yw fod hendre a hafod Arllen-fawr wedi’u cysylltu â ffordd gyhoeddus ac yna gan lwybr a elwir yn Ffordd Gefn, sef un o nifer fach o’r prif drywyddau sy’n cysylltu ffermydd y dyffryn gyda’r ucheldiroedd yn y gorllewin. Gellir olrhain yr enw lle Hafoty Arllen-fawr i rifyn 1af yr Arolwg Ordnans 6 modfedd, a gyhoeddwyd yn 1890, ac mae’n dal i ymddangos ar fapiau modern. Roedd yr un enw, ond ar ffurf Garthgelynen-fawr, yn enw ar un o brif drefgorddau plwyf Pennant Melangell, ac mae’n bosibl fod y fferm a’i gysylltiadau gyda hafod ar yr ucheldir yn dyddio o’r cyfnod canoloesol cynnar. Heddiw, mae Hafoty Arllen-fawr yn grŵp o gorlannau defaid, ond mae gwaith maes diweddar wedi awgrymu bod olion waliau cynharach gerllaw’r gorlan ddefaid yn ogystal â nifer o lwyfannau adeiladau eraill ac o bosibl hafodydd eraill a esgeuluswyd yn y cyffiniau. Gellir gweld sefyllfa debyg yn Hafoty Cedig, sef grŵp pellach o gorlannau defaid i’r gorllewin. Mae olion nifer o hafodydd eraill wedi’u nodi yn y cyffiniau, ond yn sgîl prinder gwaith maes systematig mewn mannau eraill ar ucheldiroedd Dyffryn Tanat nid oes gwybodaeth drylwyr am wasgariad yr hafodydd posibl ar gael.

Corlannau defaid yw’r adeiladweithiau ffermio hanesyddol amlycaf sy’n weladwy yn yr ucheldiroedd. Mae eu gwasgariad yn gyffredinol yn ymylol i’r tiroedd comin ac maent yn bwysig o ran dangos trywydd arferol mynediad at gopa’r mynydd. Mae’r mwyafrif o’r corlannau defaid, fwy na thebyg, yn perthyn i ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, ac yn cyd‑fynd â chynnydd ym mhwysigrwydd ffermio defaid yn ystod y cyfnod hwn. Dangosir y rhan fwyaf o’r corlannau defaid sy’n bodoli heddiw ar rifyn cyntaf Arolwg Ordnans 6 modfedd, a gyhoeddwyd rhwng 1879-92, er bod nifer ohonynt yn edrych fel pe baent yn ymddangos gyntaf ar fapiau a gyhoeddwyd ar ddechrau’r 20fed ganrif. Ceir tystiolaeth bod rhai corlannau defaid wedi’u hadeiladu mewn cyfnodau gwahanol, ac fel y gwelsom, mae’n bosibl fod rhai ohonynt yn gorgyffwrdd â’r hafodydd cynnar.

Gallai nifer o elfennau eraill enwau lleoedd sy’n ymddangos yn llai amlwg yn lleol fod ag ystyron tebyg i hafod, ond na fu ymchwilio llawn i’w bodolaeth o fewn Dyffryn Tanat. Mae’r elfen yn yr enw lle meifod (annedd ym mis Mai) yn ymddangos yn yr enw Gwernfeifod, sef fferm ar uchder o 380 metr ychydig i’r gogledd o Gwm Blowty, er bod dau gae cysylltiedig wedi’u henwi’n Gwern Hendre a Buarth yr Hendre ar y degwm. Ymddengys Lluest (caban) yn achlysurol, er ei fod yn llai amlwg mewn rhannau eraill o Gymru. Mae’r enw lle ‘Lluest yn Hafod-y-maen’ a gofnodwyd yn 1636 ym mhlwyf Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn cysylltu ystyr lluest gyda hafod. Mae bwthyn yn elfen bellach mewn enw lle a allai fod yn berthnasol yma.

Gwnaed newidiadau amrywiol o leiaf ers yr 17eg ganrif a berodd ddirywiad mewn ymfudo dros yr haf drwy gydol gogledd Cymru erbyn diwedd y 18fed ganrif. Yn gyntaf, roedd pwysigrwydd cynyddol ffermio defaid ar draul gwartheg godro yn golygu bod llai o angen am oruchwylio anifeiliaid a oedd yn pori ar yr ucheldir yn ddyddiol. Datblygodd ffermio defaid mor bwysig fel bod y teithiwr, John Ailkin, wedi honni yn 1800 fod ‘cyfoeth Sir Fynwy’n deillio o’i ddefaid a’i wlân a’r gwlanenni a brethyn garw eraill a wnaed ohono’. Yn ail, yn sgîl cynnydd yng ngorgyffyrddiad y tiroedd roedd nifer o dai haf ar ymylon tiroedd comin ar yr ucheldir yn cael eu haddasu’n ffermydd parhaol, lle yr oedd pobl yn preswylio ynddynt drwy gydol y flwyddyn.

Ni chadwyd dogfennaeth effeithiol ynghylch pa mor gyflym y câi tiroedd eu hamgáu a ddigwyddodd yn ystod y 17eg ganrif a’r 18fed ganrif, ond mae Rhestr Rhaniadau Degwm 1841 ar gyfer Llanrhaeadr-ym-Mochnant yn rhoi manylion am dros 2,200 o erwau o dir comin a amgaewyd yn answyddogol yn yr 20 mlynedd blaenorol. O leiaf erbyn y 18fed ganrif roedd Sir Fynwy yn enwog am fagu ‘ceffylau gwyllt ar y bryn’. Yn draddodiadol gwerthwyd merlod gynhenid bach a fagwyd ar fynyddoedd y Berwyn yn y ffeiriau anifeiliaid a gynhelid ym mis Gorffennaf a mis Tachwedd yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, ond roedd hyn yn dod i ben erbyn diwedd y 19eg ganrif yn sgîl amgáu tir. Ymddengys fod y broses o amgáu ucheldir ers yr 17eg ganrif yn un o dri phrif ddull: clytiau o dir comin gerllaw ffermdir amgaeëdig a oedd yn bodoli eisoes; caeau amgaeëdig ynysig yn amgylchynu hafod ar yr ucheldir a ddefnyddiwyd wedyn at ddibenion preswylio drwy gydol y flwyddyn; a gorgyffwrdd tiroedd ffermwyr defaid ar raddfa fach yn niwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Roedd daliad ym mhlwyf Llanrhaeadr-ym-Mochnant ar dir mor uchel fel nad oedd ei ddisgrifio fel ‘tir yn agos at y nefoedd’ yn hollol anaddas. Roedd traddodiad o godi tŷ dros nos (tŷ unnos) a hawlio perchenogaeth ar y tir o’i amgylch, arferiad y tybid ei fod yn gyfreithiol, wedi diflannu erbyn dechrau’r 19eg ganrif, ac ni cheir unrhyw dystiolaeth sylweddol ohono yn Nyffryn Tanat. Dim ond un enghraifft sydd ohono fel enw lle, sef ‘Cae unnos’ yn nhrefgordd Glanafon ym mhlwyf Llanrhaeadr-ym-Mochnant.

Amgáu’r Iseldir
Yn gyffelyb i dystiolaeth anheddiad mae’r dystiolaeth gynhwysfawr gynharaf o ffiniau caeau yn gymharol hwyr o ran dyddiad, sef y dystiolaeth honno a ddarperir ar fapiau degwm y 1830au a’r 1840au. Mae’n bosibl adnabod rhai o’r prosesau a ffurfiodd y dirwedd hon yng nghanol y 19eg ganrif, ond mae dadansoddiad manwl a dehongliad o hynny a’r patrwm caeau presennol y tu hwnt i gwmpas yr astudiaeth hon.

Mae astudiaeth o’r dystiolaeth anheddiad uchod yn awgrymu bod y dirwedd o ganol y 19eg ganrif yn cynrychioli uno prosesau amrywiol a osodwyd ar ben ei gilydd. Yn gyntaf, ymddengys fod ffermydd mwy ar yr iseldiroedd, yn aml mewn grwpiau o ddau neu dri ac yn benthyg eu henwau i’r trefgorddau creiddiol hŷn, a gododd mae’n debyg yn ystod y cyfnod canoloesol diweddar drwy broses o atgyfnerthu ac uno daliadau tir a rannwyd gan deuluoedd estynedig neu grwpiau llwythol. Yn ail, mae’r ffermydd llai, y gellir eu dyddio weithiau yn sgîl yr adeiladau ffrâm nenfforch neu ffrâm flwch, sy’n cynrychioli cyfnod ehangu ffermio ar dir llai ffafriol rhwng diwedd y 15fed ganrif a’r 17eg ganrif. Yn drydydd, roedd gorgyffyrddiad tiroedd i gynnwys y tiroedd comin uchel mewn ardaloedd penodol yn sgîl codi bythynnod a thyddynnod yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif.

Gellir adnabod enghreifftiau clir o’r prosesau hyn ym mhatrymau caeau heddiw o fewn Dyffryn Tanat. Gellir adnabod olion caeau âr agored canoloesol mewn nifer o leoedd, er enghraifft yng Nghwm Pennant a Chwm Rhiwarth. Fe’u cynrychiolir gan ardaloedd o gaeau stribed amlberchnogaeth. Mae’r ddau gae agored hyn yn fach iawn, yn llai na 5-10 erw o faint, ac mae’n debygol mai’r unig reswm iddynt oroesi yw oherwydd eu bod wedi’u hynysu’n gymharol ar ymylon yr ardal anheddiad. Astudiwyd patrwm bron yn union debyg mewn cefndir tebyg ym Mhennant, i’r de o Landrillo a oedd hefyd, ar adeg y degwm, wedi’i amgylchynu gan grŵp o dair neu bedair fferm. Collwyd yn gyffredinol dystiolaeth gyffelyb, mae’n debyg, mewn mannau eraill o fewn Dyffryn Tanat o ganlyniad i uno ac atgyfnerthu daliadau tir yn ystod diwedd y cyfnod canoloesol, er bod rhywfaint o arwydd o’i gyffredinolrwydd yn ymddangos mewn enwau caeau. Enwir y stribedi yng nghaeau agored Cwm Llech a Chwm Rhiwarth naill ai’n lleiniau neu’n faes yn y rhestr rhaniadau degwm – ac mae’r ddau enw’n arwyddo âr agored o’r math hwn. Mae dosbarthiad enwau caeau sy’n cynnwys maes o fewn Dyffryn Tanat yn arwyddo lleoliad rhai o’r ardaloedd âr agored ar bridd gwell o fewn pob trefgordd. Ymddengys fod y patrwm sylfaenol hwn wedi’i ystumio yng nghyffiniau Llanrhaeadr-ym-Mochnant, gyda chasgliad o enwau lleoedd a chaeau yn cynnwys maes i’r de-ddwyrain o’r dref, yn ardal Maes Mochnant, sydd fwy na thebyg yn cynrychioli ‘caeau’r dref’ a oedd yn perthyn i anheddiad y farchnad. Ceir cyfoeth o dystiolaeth o enwau caeau eraill yn ymwneud â defnydd tir yn Nyffryn Tanat, gan gynnwys nifer o gyfeiriadau at adeiladweithiau nad ydynt bellach yn weladwy megis odyn mewn cae, ar gyfer sychu ŷd, mae’n debyg.

Mae tystiolaeth o fannau eraill yn awgrymu bod y systemau Cymreig o dirddaliadaeth yn dechrau dirywio yn ystod y 14eg ganrif ac erbyn y 15fed ganrif a dechrau’r 16eg ganrif bod patrwm o ffermydd annibynnol wedi dod i’r amlwg drwy atgyfnerthu ac uno tiroedd a rannwyd. Fel y nodwyd mewn adran gynharach roedd patrwm anheddiad o dyddynnod wedi datblygu erbyn diwedd y cyfnod canoloesol diweddar o ffermydd gwasgaredig nodweddiadol a leolwyd ar ymyl y dyffryn, ychydig islaw ymylon y ffriddoedd amgaeëdig neu’r ucheldir heb ei amgáu. Ymddengys fod y rhan fwyaf o’r patrwm cyffredinol hwn wedi goroesi i ganol y 19eg ganrif er ei fod, i raddau amrywiol, wedi’i ddisodli gan gynnydd yn y tiroedd comin uchel a amgaewyd o leiaf ers dechrau’r 18fed ganrif fwy na thebyg. Effeithiodd hyn hefyd ar y gweirgloddiau neu’r caeau ŷd, a oedd yn draddodiadol, fel y tir âr, heb eu hamgáu a’u rhannu’n stribedi. Yn Nyffryn Tanat lleolwyd prif ardaloedd y ddôl ar y tir mwy gwlyb o boptu’r afonydd a’r nentydd, ac unwaith eto parhaodd y gwaith o amgáu’r tir hwn yn y 19eg ganrif.

Dyma’r patrwm amlycaf a welir yn Nyffryn Tanat ar y mapiau degwm a luniwyd yn y 1830au a’r 1840au – roedd y rhan fwyaf o’r iseldir wedi’i amgáu eisoes, a sefydlwyd ffermydd annibynnol o fewn eu caeau âr a’u dolydd eu hunain. Fodd bynnag, roedd tirwedd yr ucheldir ymylol yn amlwg yn parhau i fod mewn cyflwr cymharol ddeinamig bryd hynny. Fel a nodwyd uchod, roedd y gorgyffyrddiadau ar sawl ffurf, a oedd yn aml ar ben ei gilydd, a gellir nodi nifer o enghreifftiau yn Nyffryn Tanat. Yng Nghwm Glan-hafon ceir sawl clwt bach ynysig o gomin sydd, fwy na thebyg, yn cynrychioli tyddynnod a oedd yn berchen i fwyngloddwyr neu chwarelwyr, gyda phatrwm tebyg yn amlwg ger Tyn-y-graig, ar ben gorllewinol Craig Orllwyn. Mewn mannau eraill, yn arbennig ger Mynydd-y-briw a Chefn-coch, ffurfiwyd nodweddion y tirweddau sy’n cynnwys bythynnod agos a chaeau bach gan orgyffyrddiadau darniog y tir comin. Yn aml, roedd ffermydd ger ymyl yr uwchdir yn cynnwys nifer o gaeau bach ychwanegol o dir comin. Ers canol y 19eg ganrif mae ardaloedd mawr o ffriddoedd yng ngorllewin a gogledd Dyffryn Tanat, y mae rhai ohonynt yn dal i fod yn dir comin, wedi’u hamgáu gan waliau carreg a oedd, fel y nodir isod yn waliau cefn fwy na thebyg ar hyd ffiniau ystad neu blwyf.

Mathau o ffiniau amgáu
Cynrychiolir amrywiaeth o ffiniau caeau hanesyddol yn Nyffryn Tanat, gan gynnwys gwrychoedd, llethrau â gwrychoedd neu ffensys, a waliau carreg.

Mae gwrychoedd yn nodweddiadol o waelod dyffrynnoedd ac o rannau isaf ochrau’r dyffryn ynghyd â thiroedd comin amgaeëdig o ddiwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif yng ngogledd a dwyrain Dyffryn Tanat. Nid yw nifer o’r gwrychoedd yn cael eu torri bellach ac fe’u cynrychiolir erbyn hyn yn syml iawn gan linell afreolaidd o goed mwy o faint neu gan fonion coed. Mae nifer o’r gwrychoedd ar iseldir yn cynnwys rhywogaethau lluosog (ee draenen wen, coed cyll, masarnen fach, derw, celyn ac ati). Mae nifer o’r rhain yn debygol o fod yn eithaf hynafol ac maent yn cynrychioli gweddillion coetir neu diroedd amgaeëdig darniog yn y cyfnodau canoloesol diweddar ac ôl-ganoloesol cynnar, er nad oes llawer o dystiolaeth ar gael i’w dyddio’n ddibynadwy. Yn ddieithriad mae gwrychoedd mwy diweddar sy’n amgáu ardaloedd ymylol o diroedd comin uwch yn un rhywogaeth (ee y ddraenen wen).

Mae cloddiau carreg eang, isel wedi’u coroni â gwrychoedd neu ffensys yn fwyaf nodweddiadol o stribed o dir ar uchder canolig sy’n ymestyn rhwng Llangynog a Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Ymddengys fod y rhan fwyaf o’r cloddiau hyn yn cynnwys clogfeini crwn ac maent, fwy na thebyg, yn gynnyrch y gwaith o glirio cae o feini crwydr rhewlifol, o garreg fwy caled na’r ddaeareg solet waelodol. Nid yw dyddiad y cloddiau hyn wedi’i bennu hyd yn hyn, ond mae’n bosibl mewn rhai achosion eu bod yn perthyn i gyfnod o ehangu’r anheddiad i’r ardaloedd hyn o’r 15fed a’r 16eg ganrif ymlaen.

Mae waliau carreg yn fwyaf nodweddiadol o rannau o’r dyffrynnoedd rhewlifol dwfn yn y gorllewin – Cwm Pennant, Cwm Rhiwarth a Chwm Blowty, lle y defnyddiwyd clogfeini rhewlifol – ac o’r ffriddoedd amgaeëdig a grëwyd o’r tiroedd comin yn rhannau gogleddol a gorllewinol Dyffryn Tanat, ac maent yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif ymlaen. Mae cymhariaeth rhwng rhifynnau 1af ac 2il yr Arolwg Ordnans 6 modfedd yn awgrymu bod nifer o’r waliau wedi’u codi yn ystod ail hanner y 19eg ganrif. Mae amrywiaeth o ddeunyddiau adeiladu yn amlwg ac maent yn cynnwys carreg newydd o chwarel a charreg a gasglwyd wrth glirio caeau. Mewn rhai enghreifftiau ceir waliau cefn ar hyd ffiniau ystâd neu blwyf, fwy na thebyg, yr ychwanegwyd waliau atodol atynt. Gellir gweld ffiniau cynnar slabiau unionsyth mewn rhannau o Gwn Pennant a Chwm Blowty.

Trafnidiaeth a Chysylltiadau

Priffyrdd a mân ffyrdd hynafol
Yn ôl pob tebyg sefydlwyd y llwybrau a’r troedffyrdd cyntaf yn Nyffryn Tanat yn ystod y cyfnod cynhanesyddol. Mae’r prif lwybrau, a bennir gan dopograffeg naturiol a chan groesfannau afonydd, yn mynd i’r Bala tua’r gogledd-orllewin trwy Langynog, i Lansilin a Chroesoswallt tua’r gogledd-ddwyrain trwy Lanraeadr-ym-Mochnant, i’r Amwythig tua’r de-ddwyrain trwy Langedwyn, i Lanfyllin a’r Trallwng tua’r de trwy Benygarnedd, ac i Hirnant a Llanwddyn trwy Ben-y-bont Fawr i’r de-orllewin. Ymddengys fod pen gorllewinol y dyffryn yn gwbl gaeedig tan ail hanner y 18fed ganrif, gan na ddangosir unrhyw ffyrdd yn croesi’r ardal, er enghraifft, ar fap Robert Morden o Ogledd Cymru dyddiedig 1695, er y rhedai llwybr arall, y dywedir iddo gael ei ddefnyddio gan borthmyn, tua’r gogledd o Lanraeadr-ym-Mochnant, i fyny dyffryn Afon Iwrch ac ar draws y wahanfa ddðr i ddyffryn Dyfrdwy yn Llandrillo yn Edeyrnion.
Mae’r mwyafrif o’r isffyrdd a’r lonydd yn cael eu mapio am y tro cyntaf ar fapiau degwm yr 1830au a’r 1840au, ac maent yn ffurfio rhwydwaith sy’n cysylltu ffermydd unigol, daliadau a bythynnod. Mae nifer o’r llwybrau hyn wedi goroesi fel lonydd gwyrddion sydd weithiau, yn ffurfio ceuffyrdd amlwg, hyd at 4-5m o ddyfnder mewn mannau, a ymffurfiodd yn y canrifoedd cyn i ddraeniau ffyrdd gael eu gosod. Yn ôl pob tebyg mae rhai o’r ffyrdd a’r lonydd hyn yn dyddio yn ôl i’r Oesoedd Canol cynnar, yr Oesoedd Canol a’r Oesoedd Canol diweddar ac maent yn bwysig i’n dealltwriaeth o hanes economaidd a chymdeithasol y cymunedau unigol a’r ffordd y rhyngweithient â chymunedau cyfagos ac â marchnadoedd ymhellach i ffwrdd. Byddai wedi bod yn amhosibl i gerbydau ag olwynion ysgafn fynd ar hyd y mwyafrif o’r ffyrdd hyn os nad y cyfan ohonynt a byddent wedi bod yn fwy addas ar gyfer cerdded, marchogaeth, symud nwyddau ar wagen, neu symud da byw ar droed. Yn wir, dywedir bod cerbydau ag olwynion ar gyfer cario pobl yn dra anghyfarwydd tan ddiwedd y 18fed ganrif. Roedd y broses o roi ceffylau yn lle ychen fel anifeiliaid gwedd i aredig a thynnu yn digwydd mor hwyr â’r 18fed ganrif ar ffermydd cyffredin yng Nghymru ac o’r cyfnodau cynharaf dim ond y rhai cyfoethog a allai fforddio teithio hyd yn oed ar gefn ceffyl. Nid oes amheuaeth nad ychwanegwyd at statws y tywysog Brochwel ac yntau allan yn hela, fel y’i potreadir ar y groglen o ddiwedd y 15fed ganrif yn eglwys Pennant Melangell, yng ngolwg pobl y cyfnod trwy ei bortreadu ar gefn ceffyl. Roedd cryn fri yn dal i gael ei roi ar fod yn berchen ar geffylau tan ddechrau’r 20fed ganrif. Ystyrid bod mabwysiadu ceffyl gan ffermwyr cyffredin yn rhan hanfodol o’r broses o fabwysiadu Saesneg ac agweddau diwylliannol Cymreig wedi’u seisnigeiddio.

Cyn yr 20fed ganrif gwneid y mwyafrif o deithiau ar droed – i’r gwaith, i’r farchnad, i’r ysgol, i siopa ac i ymweld â phobl – gan adael y lonydd gwyrddion, y ceuffyrdd a’r troedffyrdd sy’n mynd yn groesymgroes ar draws y tir caeëdig rhwng ffermydd a thyddynnod Dyffryn Tanat yn etifeddion i ddigynyddion. Er ei fod yn eithriad efallai, cerddai Robert Thomas bob dydd Sul i’r capel yn Hirnant, taith gron o 17 o filltiroedd o’i gartref ym Mlaen-y-cwm yng Nghwm Maengwynedd. Mae’n debyg y byddai taith Thomas wedi mynd ag ef fel yr hed y frân, ar y droedffordd ar draws ucheldiroedd Godor, rhwng Cwm Maengwynedd a Chwm Blowty, wedyn ar hyd troedffordd ar draws ucheldiroedd Y Garn i Ddyffryn Tanat, ac oddi yno i Gwm Hirnant. Mae’n rhaid bod y troedffyrdd hyn yn bwysig ers y cyfnodau cynharaf er mwyn helpu cymunedau yn y dyffrynnoedd anghysbell dwfn yng ngorllewin Dyffryn Tanat i aros mewn cysylltiad â’i gilydd. Mae ffermydd sy’n llai na milltir oddi wrth ei gilydd ar draws y bryniau rhwng blaen Cwm Pennant a Chwm Rhiwarth dros bum milltir oddi wrth ei gilydd ar hyd y ffordd.

Roedd troedffyrdd a llwybrau a âi i fyny i’r bryniau o waelod y dyffryn hefyd o gryn bwysigrwydd economaidd ar gyfer dod â mawn i lawr o’r mawnogydd ar yr ucheldiroedd (gweler isod) ac ar gyfer darparu mynediad i ffriddoedd. Fel heddiw mae’n debyg y câi’r ffriddoedd hyn eu defnyddio yn ôl y tymor. Byddai’n golygu symud y stoc i fyny i’r ucheldiroedd yn y gwanwyn a dod â hwy i lawr unwaith eto yn yr Hydref ac, yn ôl pob tebyg, o’r cyfnod cynhanesyddol tan y 18fed ganrif, roedd yn golygu trawstrefa rhwng hendref yr iseldir a hafod yr ucheldir. Fel y nodwyd uchod yn yr adran ar aneddiadau ceir tystiolaeth dda yn rhan orllewinol Dyffryn Tanat ei bod yn hysbys bod rhai o brif lwybrau’r ucheldiroedd yn cysylltu ffermydd penodol a’u hafod yn yr ucheldiroedd.

Mae llethrau’r dyffrynnoedd yn rhan orllewinol Dyffryn Tanat mor serth fel bod y mwyafrif o’r llwybrau sy’n mynd i fyny ar gopaon agored y mynyddoedd yn y fan hon wedi’u cyfyngu o reidrwydd i’r llechweddau mwy esmwyth a dorrir gan nentydd y mynydd ar hyd ochrau neu ym mlaenau’r dyffrynnoedd. Mae dosbarthiad y corlannau yn nodi llawer o’r llwybrau haws eu cerdded i fyny ar y bryniau, ac mae’n debyg bod llawer o’r llwybrau hyn yn cael eu defnyddio ers y cyfnodau cynharaf. Fel y nodwyd mewn adran gynharach roedd patrwm anheddu yn seiliedig ar dyddynnod wedi datblygu erbyn diwedd y cyfnod canoloesol. Patrwm ydoedd o ffermydd gwasgaredig wedi’u lleoli’n nodweddiadol ar ymyl y dyffryn, ychydig islaw ymylon isaf y môr o ucheldiroedd agored. Mae’r mapiau degwm o ddechrau’r 19eg ganrif yn dangos yn aml dafodau o dir comin agored yn ymestyn i lawr y nentydd trwy’r tir caeëdig, o’r ucheldiroedd i lawr tuag at lawr y dyffryn, gan alluogi’r ffermydd mwy tirgaeëdig sydd ymhellach i ffwrdd o ymyl y mynydd i gyrraedd yr ucheldiroedd.

Mae’r llwybrau hyn ar ffurf twmffat sy’n arwain i fyny at y tir uwch yn dal i fod yn un o nodweddion pwysig ymyl yr ucheldiroedd ac yn aml maent yn ymddangos fel ceuffyrdd wedi’u treulio o’u troedio gan anifeiliaid a dynion yn ogystal â chan fathau eraill o drafnidiaeth heb olwynion. Deuid â mawn, prif ffynhonnell tanwydd tan hanner cyntaf y 19eg ganrif o leiaf, i lawr o fawnogydd ar y mynyddoedd ar geir llusg, a elwid yn lleol yn ‘drages’ yn y 18fed ganrif. Deuid â cherrig adeiladu a llechi i lawr y mynydd hefyd yn y ffordd hon, a nododd Lewis y byddid yn dod â llechi o chwareli Llangynog ‘gyda dirfawr berygl i’r sawl a fyddai wrthi’n cyflawni’r dasg lafurus hon’. Nid oes amheuaeth nad oedd y ceir llusg o fath a oedd yn gyfarwydd mewn mannau eraill, ac weithiau defnyddid nerth dynol yn hytrach na nerth anifeiliaid i’w ffrwyno a’u llywio.

Y Ffyrdd Tyrpeg
Rhedai’r ffordd dyrpeg gynharaf yn Nyffryn Tanat rhwng Llangedwyn a Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Fe’i crëwyd o ganlyniad i basio deddf Seneddol ym 1756 i atgyweirio’r ffordd o Knockin i Lanrhaeadr. Yn sgîl pasio deddf ym 1769 daethpwyd â phob cwmni tyrpeg yn Sir Drefaldwyn o dan un system, gyda system o briffyrdd â thollbyrth yn dod o fewn yr ardal hon yn Llangynog a Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Parhaodd yr ymddiriedolaethau tan 1879, pan ddilëwyd y tollau ar y ffyrdd, a throsglwyddwyd y cyfrifoldeb i’r siroedd unigol. Cyn canol y 18fed ganrif plwyfi unigol oedd yn gyfrifol am y ffyrdd. Nid oes amheuaeth na chafodd y ffyrdd tyrpeg gryn effaith ar y modd y defnyddiwyd y dyffryn at ddibenion amaethyddol a diwydiannol. Un a chwaraeodd ran flaenllaw yn y gwaith o’u creu yn lleol oedd Dr William Worthington, ficer Llanrhaeadr-ym-Mochnant rhwng 1748-78. Un o effeithiau eraill y ffyrdd tyrpeg oedd agor y dirwedd i ymwelwyr o rannau eraill o’r wlad.

O dan delerau deddfau’r ffyrdd tyrpeg, rhoddwyd yr hawl i’r Ymddiriedolwyr gymryd deunyddiau i atgyweirio ffyrdd o ‘unrhyw Dir Comin Diffaith neu Afon heb dalu unrhyw beth amdanynt’, ac mae’n debyg fod llawer o’r chwareli gro a cherrig llai o faint, anghysbell, a leolid ar dir comin yn agos at ffyrdd tyrpeg ac nad oes llawer o dystiolaeth ysgrifenedig amdanynt yn dyddio o’r adeg hon. Cynrychiola llawer o’r ffyrdd tyrpeg cynharaf welliant i ffordd a fodolai eisoes yn hytrach na ffordd hollol newydd, ond mewn mannau mae’n bosibl gweld y llinell a gymerai’r hen ffordd lle y cymerodd y ffordd dyrpeg lwybr ychydig yn wahanol, fel llinell yr hen ffordd i Ben-y-bont Fawr, er enghraifft, sydd ychydig i’r gogledd o Benygarnedd. Hefyd cafodd cysylltiadau eu gwella’n sylweddol bryd hynny o ganlyniad i adeiladu pontydd cerrig ar hyd y ffyrdd tyrpeg ar draws afon Tanat a’i hisafonydd, a gymerodd le pontydd pren cynharach neu rydiau.

Cysylltiadau â’r rhwydweithiau afonydd, camlesi a rheilffyrdd
Buasai cost trafnidiaeth bob amser yn hanfodol i ddichonoldeb ariannol gweithrediadau mwyngloddio, ac roedd diffyg cysylltiadau da yn faich parhaus ar y diwydiant mwyngloddio yn Nyffryn Tanat cyn ac ar ôl cyflwyno’r ffyrdd tyrpeg. Y prif anhawster oedd natur anghysbell y dyffryn, a achosai anawsterau o ran cludo’r mwyn a broseswyd o’r mwyngloddiau yn Llangynog, Cwm Orog (ar ochr ogleddol Craig Rhiwarth), a Chraig-y-mwyn (ym mlaen Cwm Rhaeadr) i fwyndoddfeydd a oedd wedi’u lleoli yn fwy cyfleus yn rhywle arall. Câi peth wmbredd o gyfoeth mwynol Dyffryn Tanat ei gymryd tua’r dwyrain, ac eithrio’r ffosffadau y cloddid amdanynt o bryd i’w gilydd rhwng yr 1860au a’r 1880au ar safleoedd yn ardal Llangynog ac a gâi eu cludo ar geirt ar draws mynyddoedd y Berwyn i Landrillo lle câi’r nodylau eu trawsnewid yn wrtaith.

Herbertiaid Castell Powys oedd wedi dechrau mwyngloddio o ddifrif am blwm yn Nyffryn Tanat a hynny tua 1705. Cyrhaeddodd cynhyrchiad ei anterth ym 1737 pan ddaeth yn un o’r mwyngloddiau cyfoethocaf yn y wlad yn ei ddydd, pan gynhyrchwyd cyfanswm o bron 3,000 o dunelli o fwyn. Ymgymerid â’r gwaith o doddi mwyn o’r rhan hon o fwynglawdd Llangynog yn ‘ffwrnais gron yr Ardalydd’ ar lan afon Hafren yng Nghei’r Trallwng, a ddechreuodd gynhyrchu ym 1706, ac a oedd yn lle cyfleus ar gyfer dod â thanwydd i mewn a chludo plwm crai allan ar y dðr. Gorfodid i denantiaid yr Ardalydd ddarparu’r drafnidiaeth angenrheidiol 15 milltir i ffwrdd ar draws y bryniau trwy Lanfyllin i’r de-ddwyrain, gyda’r bygythiad y caent eu troi allan pe gwrthodent. Yn wreiddiol câi’r mwyn ei gario ar geirt mewn sachau ond yn ddiweddarach câi ei gario yn rhydd – ac roedd y dasg yn arbennig o amhoblogaidd gan y byddai’r tymor gorau ar gyfer symud y mwyn yn cyd-daro hefyd ag adeg y cynhaeaf.

Yn y 1730au câi mwyn ei gario ar geirt o’r rhan o fwynglawdd Llangynog a leolid yn y Waun Ddu i Landrinio sef taith o 12 milltir. Yno fe’i trosglwyddid i gwch camlas a’i gludo i lawr yr afon i fwyndoddfeydd yn Benthall. Byddai cludo nwyddau ar afon bob amser yn broses anrhagweladwy, fodd bynnag, ac ym 1761 cafodd llwyth o blwm crai a oedd i gael ei gludo ar yr afon o Gei’r Trallwng ei rwystro ar ei daith i Fryste am dros ddau fis oherwydd bod y dðr yn isel i fyny’r afon. Câi gwahanol nwyddau eraill eu symud hefyd ar hyd y ffordd ac wedyn mewn cychod: yn y 1770au câi llechi Llangynog eu cludo ar geirt i Lanfa Clawdd Coch ar afon Efyrnwy ger Llanymynech ac oddi yno i lawr afon Efyrnwy ac afon Hafren i’r Amwythig; cyrhaeddodd cloch newydd ar gyfer yr eglwys ym Mhennant Melangell a brynwyd gan Ffwndri Rudhall, Sir Gaerloyw, ym 1794, mewn cwch a oedd wedi teithio i fyny afon Hafren.

Roedd yn rhaid dod â llawer o nwyddau amrywiol i mewn i’r dyffryn hefyd i gynnal y diwydiant mwyngloddio – glo, powdwr gwn, canhwyllau, pren, haearn a dur, calch. Bu gostyngiad cyflym ym maint y mwyn plwm a gynhyrchid yn y 1740au, a chaeodd mwyndoddfa Cei’r Trallwng o’r diwedd ym 1762. Roedd mwyndoddfa fach wedi’i hadeiladu yn Llangynog yn y 1750au ond yn y 1780au a’r 1790au anfonid y meintiau llai o fwyn plwm a gâi eu cynhyrchu i’r Mwynglawdd.

Ar ôl cwblhau Camlas Sir Drefaldwyn ym 1797 trwy’r system gamlesi yr oedd y brif farchnad ar gyfer nwyddau i’w chyrraedd er bod afonydd yn dal i gael eu defnyddio ar gyfer masnachu ymhell ar ôl i’r gamlas agor gan na fyddai’n datblygu’n ddull cludo nwyddau o bwys i ganolbarth ac i dde Lloegr nes iddi gael ei chysylltu â’r brif system gamlesi ym 1833. Erbyn y 1860au gellid dwyn llechi o chwareli Llangynog a Chwm Rhaeadr i’r pen rheilffordd ym Mhorth-y-waun, gyda rhai o’r cerbydau ysgafnach yn defnyddio’r pen rheilffordd yn Llanfyllin. Roedd cael y nwyddau i’r farchnad yn parhau i fod yn broblem, fodd bynnag, a gorfodwyd i chwareli llechi Cwm Maengwynedd gau yn y 1870au oherwydd y niwed a achoswyd i ffyrdd o ganlyniad i ddefnyddio peiriant tynnu i lusgo’r llechi i Borthywaun.

Rheilffordd Ysgafn Dyffryn Tanat
Adeiladwyd Rheilffordd Ysgafn Dyffryn Tanat o’r diwedd rhwng 1899-1904; cysylltai â’r pen rheilffordd ym Mhorth-y-waun a ymgysylltai â’r rhwydwaith rheilffyrdd cenedlaethol yng Nghroesoswallt. Yr oedd trafodaeth wedi bod ynghylch a fyddai mantais i adeiladu llinell ar gyfer Dyffryn Tanat ers y 1860au ond aeth gwahanol gynigion, gan gynnwys cynigion cystadleuol gan gorfforaethau Croesoswallt a Llanfyllin, i’r gwellt yn rhannol oherwydd y costau a oedd ynghlwm wrthynt. Darparodd Deddf Rheilffyrdd Ysgafn 1896 gyfle ar gyfer project llai costus. Adeiladwyd gorsafoedd neu arosfannau fel y’u gelwid yn Nyffryn Tanat yn Llangedwyn, Llanrhaeadr, Pentrefelin, Pedair-ffordd, a Phen-y-bont Fawr, gyda therfynfa yn Llangynog. Adeiladwyd corlannau anifeiliaid wrth ochr nifer o’r gorsafoedd ac adeiladwyd cyfleusterau arbennig ar gyfer dadlwytho pipau dyfrbont i gronfa Llyn Efyrnwy yng Ngorsaf Pen-y-bont Fawr a Gorsaf Llanrhaeadr.

Yr oeddid wedi gobeithio y byddai’r rheilffordd yn symbylu’r diwydiant mwynau lleol a oedd wedi crebachu i gryn raddau erbyn i’r rheilffordd agor. Fel y digwyddodd, cynnyrch amaethyddol – da byw, pren, grawn a chynnyrch llaeth – oedd llawer o’r nwyddau a gâi eu cludo allan yn ystod y blynyddoedd cynnar, ac ymhlith y nwyddau a ddeuai i mewn roedd glo, calch, bwydydd anifeiliaid a gwrteithiau; roedd yna hefyd gwasanaeth i deithwyr. Er i’r mwyngloddiau metel adfywio rhywfaint, gyda gwaith yn ailgychwyn ym mwynglawdd plwm Cwm Orog rhwng 1908-11, a mwynglawdd Llangynog a weithiwyd ar gyfer plwm ar raddfa fach o 1900-12, mwynglawdd plwm Craig-y-mwyn a weithiwyd ar raddfa fach o 1900-11, roedd y rheilffordd wedi cyrraedd Llangynog yn rhy hwyr i gael llawer o effaith ar y diwydiant cloddio am fwynau plwm – unwaith yr oedd y prif wythiennau wedi’u dihysbyddu. Rhoddodd y rheilffordd hwb i’r diwydiant chwarelu, fodd bynnag, gan gynnwys chwarel lechi Cwm Maengwynedd tan 1910, mwynglawdd Llangynog a weithiwyd am farytes ym 1916, chwarel lechi Gorllewin Llangynog tan 1937, a chwarel lechi Craig Rhiwarth yn Llangynog.

Chwarel cerrig ffordd Llangynog oedd prif gynheiliad y rheilffordd yn y 1920au a’r 1950au, a bu’n gymorth iddi oroesi yn llawer hwy nag y byddai wedi gwneud fel arall. Yn wreiddiol eid â’r cerrig i’r orsaf ar geffyl a chart, ond yn y 1920au cymerodd y lori godi eu lle. Yn y pen draw arweiniodd y defnydd cynyddol a wneid o’r ffordd yn hytrach nac o’r rheilffordd i gludo cerrig yn 1940au a da byw o’r 1950au at dranc y rheilffordd. Daeth y gwasanaeth i deithwyr i ben ym 1951. Gorffennodd pob gwasanaeth i’r gorllewin o Orsaf Llanrhaeadr ym 1952 a chaewyd y llinell gyfan hyd at Gyffordd Blodwel o’r diwedd ym 1964.

Chwaraeodd y rheilffordd ran bwysig er byrhoedlog yn hanes Dyffryn Tanat. Erbyn hyn mae’r trac wedi’i godi ond mae’r rhan fwyaf o lwybr y rheilffordd wedi’i gynrychioli o hyd yn y dirwedd gan derfynau caeau, hafnau neu argloddiau a gellir adnabod o hyd safleoedd y rhan fwyaf o’r gorsafoedd a’r arosfannau unigol. Roedd angen ffatri beirianyddol arbennig lle y croesai’r rheilffordd ddyfrbont Llyn Efyrnwy i’r gorllewin o Ben-y-bont Fawr a chafodd rhan o gwrs afon Tanat ei sythu ychydig i’r dwyrain o Langedwyn i’w hatal rhag tanseilio’r rheilffordd.

Dyfrbont Efyrnwy
Adeiladwyd y ddyfrbont sy’n cario dðr yn ddyddiol o Lyn Efyrnwy i Lerpwl ar draws y dyffryn ar gyfer y gronfa ddðr rhwng 1881-92. Mae’n croesi llawr y dyffryn ger Pen-y-bont Fawr ac yna yn rhedeg i’r gogledd o Lanrhaeadr-ym-Mochnant ac Efail-rhyd ar yr ochr ogledd-ddwyreiniol i Ddyffryn Tanat. Mae’r ddyfrbont wedi’i chuddio o’r golwg i raddau helaeth er bod nifer o nodweddion gweladwy ar yr wyneb gan gynnwys falfiau aer, porthdy Cileos, cronfeydd dðr cydbwysol Parc-uchaf, a hafn ddofn i’r gorllewin o Lanrhaeadr-ym-Mochnant. O ran hanes ffyrdd yn Nyffryn Tanat mae’n ddiddorol nodi i gwynion gael eu gwneud am ddifrod i ffyrdd lleol pan oedd cronfa ddðr Llyn Efyrnwy yn cael ei hadeiladu.

Tirweddau Diwydiannol

Diwydiannau Cloddio
Bu hanes hir ac arwyddocaol i’r diwydiannau cloddio a chwarela yn Nyffryn Tanat – cloddiwyd mwynau plwm, barytes, ffosffadau, graean, llechi a charreg ffordd ar ryw adeg neu’i gilydd, ac mewn rhai achosion, buwyd yn cloddio am fwynau metal ac yn chwarela am garreg yn llwyddiannus ar yr un safle. Ceir rhywfaint o dystiolaeth fod y gwaith cloddio am fwynau metal wedi cychwyn yn ystod y cyfnodau Rhufeinig-Prydeinig cyn hanesyddol, ond prif gyfnod y gwaith datblygu mwyn haearn oedd yn ystod y 18fed a’r 19eg ganrif, a’r prif gyfnodau y chwarelwyd llechi a cherrig ffyrdd oedd yn ystod y 19eg ganrif a’r 20eg ganrif cynharach; nid oes yr un ohonynt yn goroesi heddiw.

Lleolwyd y prif byllau a chwareli yn ardal Llangynog gerllaw. Yr oedd y rhan fwyaf ohonynt yn gymharol adnabyddus, ond ceir dosbarthiad ehangach o weithfeydd neu dreialon bach am fwynau metel a llechfaen yn gyffredinol ledled rhan orllewinol Dyffryn Tanat, nad oes gwybodaeth ddogfennol fanwl am lawer ohonynt. Gellir diffinio nifer o dirweddau cloddio a chwarela pwysig a nodweddiadol o fewn Dyffryn Tanat, gan ystyried yr ardaloedd cloddio a phrosesu gweladwy a nodweddion cysylltiedig y tirweddau yn cynnwys adeiladau cynorthwyol, llwybrau ffyrdd, ffiniau, cronfeydd dŵr a ffrydiau – yn arbennig yn Llangynog, Craig-y-mwyn a Chwm Orog.

Cloddio plwm
Mae gan y gwaith cloddio plwm yn Llangynog hanes cynnar ac arbennig. Cynrychiolir tystiolaeth debygol o weithgaredd cloddio cynnar o gyfnod cynhanesyddol, Rhufeinig neu ganoloesol gan weithfeydd cynnar (opencuts a phonciau) ar ochr ddeheuol Craig Rhiwarth uwch Llangynog, yng Nghwm Orog ar ochr ogleddol Craig Rhiwarth a Chraig-y-mwyn. Fodd bynnag, ceir y dystiolaeth ddogfennol gynharaf o weithio, o brydles dyddiedig 1656 yn cwmpasu’r gwaith o gloddio mwynau plwm ar ‘yr holl diroedd comin a thiroedd diffaith…o fewn trefgorddau niferus Cefn-coch a Rhiwrath ym Maenor Mochnant’ – a oedd yn cwmpasu’r ardaloedd a ddaeth yn byllau pwysig yng Nghraig-y-mwyn, Cwm Orog.

Bu cynnydd cyflym yn y gwaith cloddio ôl-ganoloesol yn nosbarth Llangynog yn gynnar yn y 18ed ganrif, a dilynwyd hynny gan ddirywiad hir tuag at ddiwedd y 19eg ganrif. Fodd bynnag, yn ystod hanner cyntaf y 18fed ganrif y cyrhaeddodd y gwaith cynhyrchu ei uchafbwynt, yn wahanol i byllau enwog eraill yng nghanolbarth Cymru megis Fan a Dylife a fu’n llewyrchus yn ystod y 19eg ganrif, ac a ystyriwyd ar un adeg fel y pyllau plwm mwyaf cynhyrchiol yng nghanolbarth Cymru. Mae i’r hanesion am ddarganfod un o’r prif wythiennau cyfoethocaf o fwyn plwm yn Llangynog naws ramantus, gan i’r plwm gael ei ddarganfod, yn ôl y sôn, ym 1692 ‘gan fugail yn rhedeg ar ôl ei braidd, ac yn troedio ar arwynebedd llithrig fflochen neu fwyn, a’r mwsogl yn symud o dan ei esgid bren, a’r mwyn gloyw yn ymddangos’. Mae hanesion eraill yn honni mai bugeiles a wnaeth y darganfyddiad.

Cyflawnwyd y gwaith cloddio cynharaf ym mhyllau De Llangynog, Cwm Orog a Chraig-y-mwyn gyda chyfalaf lleol. Fe’i cychwynnwyd erbyn tua 1705 gan deulu’r Herberts o ystad Castell Powys, a pharhaodd i ryw raddau am tua 50 mlynedd, a chyrhaeddodd cynhyrchiant yn Ne Llangynog ei uchafbwynt ym 1737, pan ddaeth Llangynog, am gyfnod byr, yn un o’r gweithrediadau cynhyrchu plwm mwyaf yn Ewrop. Gweithiwyd ar adran gyfagos i bwll De Llangynog a phyllau eraill yn yr ardal yn ystod y cyfnod hwn gan y Myddletons o ystad Castell y Waun.

Deilliodd nifer o broblemau cymdeithasol o ganlyniad i fewnlifiad gweithwyr pyllau Seisnig yn ystod y 18fed ganrif, a chafodd yr eglwys yn Llangynog anhawster i ddarparu gwasanaethau nad oeddynt yn Gymraeg. Cyfrannodd yr holl gymuned at y gwaith am gyfnod: cyfrannodd gwragedd y cloddwyr at y gwaith o olchi mwynau a gorfodwyd ffermwyr-denantiaid lleol, yn aml yn groes i’w dymuniadau, i gludo’r mwynau ar yr heol i fwyndoddfeydd yn Pool Quay ac mewn mannau eraill neu gael eu troi o’u cartrefi.

Gwnaeth adran Powys o byllau Llangynog gyfanswm o Ł121,000 o elw dros y cyfnod 1724-44. Aeth llawer ohono i dalu eu dyledion, a chyfrifodd Marcwis Powys fod cyfanswm o dros Ł171,000 wedi’i wario ar glirio dyledion ei ferch o ganlyniad i’r gwariant trychinebus ar Gyfnewidfa Stoc Paris ac mewn buddsoddiadau dielw yn y pyllau Sbaenaidd yn Rio Tinto. Ym 1740, roedd gwerth Ł4,500 o gyflogau’n ddyledus i’r gweithwyr, ac ym 1741, ysgrifennodd rheolwr y Marcwis, James Baker, bod Llangynog fel ‘dyn ar farw’. Eto cynyddodd y galwadau ar y pwll ac ar ei weithlu.

Roedd y gwaith o ddraenio pyllau a chludo mwynau i fwyndoddfeydd y tu allan i Ddyffryn Tanat bob amser yn bwysig i ddichonoldeb economaidd pyllau Llangynog. Yn dilyn dirywiad mewn cynnyrch yn ddiweddarach yn y18fed ganrif dechreuodd iarll Powys roi prydlesi i bobl o’r tu allan, a daeth y diwydiant, o ail hanner y 18fed ganrif ymlaen, yn gynyddol ddibynnol ar gyfalaf mentro a ddarparwyd gan hapfuddsoddwyr o’r tu allan yn hytrach na chan dirfeddianwyr lleol.

Parhaodd y cloddio ar raddfa fach yn ystod y cyfnod rhwng diwedd y 18fed ganrif a diwedd y 19eg ganrif, gyda phyliau byr ac ysbeidiol o weithgaredd ar safleoedd cloddio amrywiol gan amryw ddeiliaid prydles gwahanol yn aml yn dilyn amrywiadau ym mhris plwm ar y farchnad. Gwnaethpwyd rhai buddsoddiadau sylweddol yn ystod y cyfnod hwn, yn cynnwys, er enghraifft, adeiladu cronfa ddŵr Llyn y Mynydd ac adeiladwyd argae craig a daear sylweddol tua 1864 uwchben Cwm Llech, a gysylltwyd gan system o ffrydiau i bwll De Llangynog, tua 4km i’r dwyrain. Cafwyd amryw straeon hefyd megis y rhai hynny ym Mwlch-greolan, i’r de o Benygarnedd, a Chraig-y-mwyn rhwng y 1850au a’r 1880au pan dybiwyd i brydlesi pylloedd gael eu gwerthu am elw enfawr ar sail gwybodaeth dra chamarweiniol. Daeth y rhan fwyaf o’r gwaith cloddio i ben erbyn tua 1900, ac er i adfywiad byr ddigwydd ym mhyllau Cwm Orog a Chraig-y-mwyn yn dilyn agoriad Rheilffordd Fach Dyffryn Tanat ym 1904, roedd y ddwy fenter hon wedi dod i ben erbyn 1912.

Toddwyd y rhan fwyaf o’r mwynau a gloddiwyd yn nosbarth Llangynog naill ai yn Pool Quay lle yr adeiladwyd mwyndoddwr gan Iarll Powys ym 1706, neu Benthal, Coalbrookdale, ac yn hwyrach ym Mwynglawdd, er bod mwyndoddwr ar raddfa lai yn Llangynog yn y 1750au.

Chwarela llechfaen a charreg
Ni cheir llawer o wybodaeth ddogfennol ar hanes cynnar cynhyrchu llechfaen lleol. Er hynny, ceir awgrymiadau o gynhyrchiant yn chwareli Llangynog, ac roedd chwareli lleol yn cynhyrchu cerrig llorio i’w gosod ar y llawr erbyn dechrau’r 18fed ganrif o leiaf, i gymryd lle’r lloriau pridd cynharach. Roedd chwarela llechfaen yn nosbarth Llangynog eisoes yn ffynnu erbyn diwedd y 18fed ganrif, mewn cyfnod tawel i’r diwydiant cloddio metel. Yn y 1770au allforiwyd llechi ar y ffyrdd ac yna ar yr afonydd i Sir Amwythig, ond ar ôl 1797 allforiwyd deunyddiau hefyd drwy gyfrwng camlas Sir Drefaldwyn. Erbyn y 1860au cynhyrchid llechi mewn nifer o chwareli yn cynnwys Llangynog, Cwm Rhaeadr a Chwm Maengwynedd ac erbyn hynny, fe’u hallforid drwy gyfrwng y rheilffordd ym Mhorth-y-waen. Dirywiodd y diwydiant erbyn diwedd y 19eg ganrif, unwaith eto o ganlyniad i gost uchel trafnidiaeth a phris marchnad is llechi a gynhyrchwyd mewn mannau eraill. Adfywiodd yn dilyn agoriad Rheilffordd Fach Dyffryn Tanat ym 1904, ond daethai i ben unwaith eto erbyn 1914.

Roedd y galw am garreg adeiladu yn cynyddu o ddiwedd y 16eg ganrif ac yn enwedig o ddechrau’r 17eg ganrif ymlaen gan fod arddulliau adeiladu brodorol ar gyfer cartrefi cyntaf o bosibl ac yna ysguboriau yn rhoi mwy o bwyslais ar garreg yn hytrach na choed fel deunydd adeiladu, ond nid oedd i barhau’n ddiwydiant lleol a oedd yn darparu ar gyfer marchnad leol yn unig.

Cynyddodd y galw lleol am garreg ffordd addas gyda dyfodiad y tollbyrth yn ystod y 18fed ganrif ddiweddarach, gan y nodwyd mewn man arall bod nifer o’r chwareli llai ar hyd ochr y ffyrdd yn perthyn i gyfnod pan roddwyd yr hawl i ymddiriedolwyr y tollbyrth gymryd deunyddiau ar gyfer adeiladu ac atgyweirio heolydd o dir gwastraff a thir comin. Dechreuwyd gwaith chwarela ar gyfer carreg ffordd ar raddfa fwy masnachol ar nifer o safleoedd yn Llangynog gerllaw tua 1910 a dyma oedd prif gynhaliaeth Rheilffordd Fach Dyffryn Tanat a oedd yn cyflogi carcharorion rhyfel Almaenig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Dirywiodd y diwydiant yn ystod y 1930au a daeth i ben yn derfynol yn y 1950au.

Chwarela ffosffad a chalchfaen
Cloddiwyd nodylau duon yn cynnwys 40-60% calsiwm ffosffad am gyfnod byr yn Nant Calch i’r gorllewin o Langynog ac ym Mhenygarnedd rhwng y 1870au a’r 1880au, a chludwyd deunydd o Nant Calch ar draws y Berwyn i Landerfel ar gyfer eu prosesu’n wrtaith amaethyddol. Yn y pen draw, fodd bynnag, peidiodd y diwydiant â bod yn broffidiol, yn sgîl costau cludo uchel, gwerth isel y deunydd ac o ganlyniad i fewnforion rhad o dramor. Chwarelwyd calchfaen ym Mhenygarnedd a’i brosesu mewn dwy odyn galch gerllaw ei gilydd, a weithiwyd cyn y 1870au.

Diwydiannau prosesu a chrefft
Ceir olion nifer o ddiwydiannau prosesu amlwg sy’n gysylltiedig â chynhyrchiant amaethyddol yn Nyffryn Tanat yn cynnwys adeiladau megis melinau ŷd, melinau llifio, melinau pannu a’u ffrydiau cysylltiedig, pyllau melin a chronfeydd dŵr ac odynau calch, a gefeiliau gofaint, a ffurfiant elfennau bach, ond elfennau arwyddocaol, o fewn y dirwedd hanesyddol. Mewn rhai achosion, ceir arwyddion o felinau cynharach, safleoedd pannu a gefeiliau gofaint, mewn elfennau a geir, ar wasgar, mewn enwau lleoedd megis melin/felin, pandy, deintur/deintir, efel/efail.

Tirweddau a Amddiffynnwyd

Ceir tri grŵp o gloddweithiau amddiffynnol sy’n perthyn i gyfnodau gwahanol iawn o fewn Dyffryn Tanat – bryngaerydd cynhanesyddol diweddarach, tiroedd amgaeëdig a amddiffynnid ar batrwm rhai’r Oes Haearn a rhai Brython-Rufeinig, a chestyll cloddwaith canoloesol. Mae arwyddocâd yr henebion hyn o fewn y dirwedd yn swyddogaethol a symbolaidd, ac mae rhai ohonynt wedi’u lleoli’n ddigon amlwg fel eu bod yn rhannau mawr o ardaloedd cymeriad tirwedd hanesyddol eu hunain, o ystyried cefndir tirwedd hanfodol.

Bryngaerydd cynhanesyddol diweddarach
Ceir dwy fryngaer fawr o fewn Dyffryn Tanat – bryngaer Craig Rhiwarth a bryngaer Llwyn Bryn-dinas. Mae bryngaer Craig Rhiwarth, a amddiffynnir gan un rhagfur carreg, ar y graig fawr ac ymwthiol ar ymyl deheuol mynyddoedd y Berwyn, sy’n edrych dros Langynog, tuag at ben gorllewinol Dyffryn Tanat. Prin yw’r cloddio a wnaed o fewn y fryngaer ac o ganlyniad nid oes llawer yn hysbys am ei hanes. Mae’r tu mewn i’r fryngaer yn unigryw yn y rhanbarth gan ei fod yn cynnwys nifer fawr o adeiladweithiau carreg crwn a ymddengys fel pe baent yn cynrychioli tai cynhanesyddol diweddar. Awgryma cymariaethau cyffredinol gyda Llwyn Bryn-dinas a bryngaerydd eraill yn y rhanbarth y gallai’r anheddiad fod wedi dechrau yn y cyfnod Efydd diweddar a’i fod o bosibl wedi parhau i’r Oes Haearn. Awgrymwyd mai un o swyddogaethau’r fryngaer efallai oedd rheoli adnoddau copr yn debyg o bosibl i’r fryngaer yn Llanymynech, i’r dwyrain o Ddyffryn Tanat. Mae’n bosibl mai cloddio cynhanesyddol oedd yn gyfrifol am yr agoriadau cynnar ar ochr ddeheuol y bryn, uwchben Llangynog.

Amddiffynir bryngaer Llwyn Bryn-dinas gan un rhagfur carreg, sy’n amgáu ardal o ychydig dros 3 hectar ar gopa’r bryn pigfain nodedig, ger y fan lle y mae’r dyffryn yn culhau, ychydig i’r dwyrain o Langedwyn. Mae cloddio ar raddfa fach ar y fryngaer wedi arwyddo ei bod wedi’i hamddiffyn gan ragfur carreg trawiadol a godwyd yn ddiweddarach yn yr Oes Efydd, yn y cyfnod rhwng 1100-800 CC. Ceir tystiolaeth hefyd fod y fryngaer yn breswylfan yn ystod yr Oes Haearn, yn y cyfnod rhwng tua 400-0 CC, a cheir tystiolaeth fod technoleg aloi haearn a chopr yn cael ei ddatblygu ar yr adeg honno, a’r ail gan ddefnyddio o bosibl fath nodedig o fwyn copr a allai fod wedi’i gloddio yn Llanymynech. Ymddengys na ddefnyddiwyd y bryngaerydd yn y rhanbarth fel aneddiadau a amddiffynwyd ar ôl y goresgyniad Rhufeinig ar ddiwedd y ganrif gyntaf OC.

Ni cheir unrhyw dystiolaeth bendant fod y naill fryngaer na’r llall yn cynrychioli aneddiadau parhaol a fu’n breswylfannau am gyfnodau hir iawn. Mae’n bosibl fod y ddau ohonynt wedi’u codi neu wedi bod yn breswylfannau er mwyn diogelwch neu er mwyn rheoli adnoddau mewn ymateb i argyfyngau tymor byr neu drefniadau argyfwng ar adegau arbennig o aflonyddwch, ac nid oes unrhyw sicrwydd fod y ddwy’n gyfoes. Mae’n debygol iddynt gael eu codi gan grwpiau llwythol gwahanol o dan awdurdod elît milwrol a’u bod yn cynrychioli un elfen yn unig o’r patrwm anheddiad cyfoes, y cynrychiolir rhannau ohono gan y tiroedd amgaeëdig a nodir isod.

Tiroedd amgaeëdig a amddiffynnid ar batrwm rhai’r Oes Haearn a rhai Brython-Rufeinig
Gwyddys am bum ffos amgaeëdig sengl neu ddwbl yn Nyffryn Tanat sy’n perthyn i fathau yr ystyrir yn gyffredinol eu bod yn dyddio o gyfnod cynhanesyddol diweddarach neu gyfnod Brython-Rufeinig, er bod yna bosibilrwydd y gallai rhai o’r safleoedd ddyddio o gyfnod Neolithig hyd yr Oes Efydd neu hyd yn oed o ddyddiad canoloesol cynnar. Safleoedd olion cnydau yw pedwar o’r safleoedd tiroedd amgaeëdig. Fe’u gwelwyd mewn ffotograffau a dynnwyd o’r awyr ac ni ellir eu gweld mwyach ond o’r awyr. Mae’n debygol fod safleoedd eraill o’r math hwn yn dal heb eu canfod. Saif yr holl safleoedd naill ai ar y llechweddau is neu ar waelod y dyffryn. Saif un o’r safleoedd, Plas Uchaf, ar fryncyn isel ar odre Llwyn Bryn-dinas ac mae olion llethrau a godwyd yn sgîl cloddio’r ffosydd amgaeëdig yn dal i fod yn weladwy yma, sy’n gwneud iddo edrych fel bryngaer fach. Mwy na thebyg fod y pridd o’r olion cnydau amgaeëdig wedi creu’r cloddiau amgáu a fwriadwyd i ddarparu ychydig o amddiffyniad ar gyfer adeiladau, eiddo a stoc a gedwid o fewn y tir amgaeëdig. Mae cloddio mewn mannau eraill o fewn y rhanbarth wedi dangos bod tiroedd amgaeëdig o’r math hwn yn debygol o gynrychioli ffermydd yr oedd grwpiau teuluol estynedig yn byw ynddynt, pobl oedd yn elitaidd yn gymdeithasol ac yn gysylltiedig ag economi âr cymysg a bugeiliol.

Cestyll cloddwaith
Ceir tri mwnt pendant ac un mwnt posibl yn Nyffryn Tanat – Tomen Cefn Glaniwrch, Tomen y Maerdy, Tomen Cefn-coch, ac o bosibl Castellmoch, er nad oes llawer o dystiolaeth ffisegol o’r diwethaf. Mae’r safleoedd yn rhan o’r casgliad o gestyll pren a adeiladwyd ar ffin Cymru ar ôl y Goresgyniad Normanaidd, yn y cyfnod rhwng tua 1100-1300 O.C. Nid oes llawer yn hysbys am hanes y safleoedd hyn yn Nyffryn Tanat, ond gellir lloffa ychydig oddi wrth eu lleoliad a’u ffurf, ac oddi wrth dystiolaeth enwau lleoedd.

Roedd Dyffryn Tanat yn ymestyn y tu hwnt i arglwyddiaethau’r Mers tan yr 1280au ac mae’n bosibl y gallai pob mwnt fod wedi’i adeiladu gan arglwyddi brodorol ychydig cyn rhannu Mochnant ym 1116 neu’n fuan wedi hynny. Roedd dau fwnt o fewn cwmwd Mochnant Is Rhaeadr a dau o fewn Mochnant Uwch Rhaeadr. Ceir awgrymiadau eraill o baru bwriadol. Mae’r holl safleoedd hyn tua’r un mor bell oddi wrth ffin y ddau gwmwd, ac yn y ddau achos mae un wedi’i leoli ar waelod y dyffryn, gerllaw’r Tanat, ac mae’r parau sydd ar ucheldir i’r gogledd rhwng 1.5-1.8km i’r gogledd. Fodd bynnag nid yw’r patrymu a welir yma yn amlwg mewn mannau eraill, ac felly mae’n ansicr faint y gellir ei ragdybio ar sail hynny.

Fel y nodir uchod, prin yw’r dystiolaeth sydd wedi goroesi o ffurf wreiddiol Castell Moch. Yn achos Tomen y Maerdy, y mwnt cyfatebol ger glannau’r Tanat, mae peth olion o feili allanol yn bosibl, er nad yw’n amlwg weladwy heddiw, I gyferbynnu â hynny, ymddengys fod y myntiau mawr yn Nhomen Cefn Coch a Thomen Cefn Glaniwrch heb feili cysylltiol. Yn annhebyg i Gastell Moch a Thomen y Maerdy mae’r ddau ohonynt wedi’u lleoli mewn mannau amlwg, gyda golygfeydd eang o’r dyffryn—i’r graddau y ceir un o’r golygfeydd mwyaf cynhwysfawr o’r dyffryn cyfan o Domen Cefn Coch. I’r graddau hyn, mae’r ddau fwnt yn edrych fel cadarnleoedd neu dyrau gwylio ar gyfer y ddau fwnt islaw. Yn wreiddiol byddai pob mwnt wedi’u hamgylchynu gan dramwyfa dros ffos eang, sef pont bren, gyda phalis pren yn goron iddi, a thŵr ac/neu adeiladau eraill oedd yn addas ar gyfer lletya neu amddiffyn llu bach ar adeg argyfwng yn gysylltiedig. Gan eu bod yn gostus i’w hadeiladu byddent yn ddi-os yn cynrychioli symbolaidd o bŵer, cyfoeth ac awdurdod yr arglwydd, a oedd yn parhau i fod yn amlwg ar ddiwedd y 14eg ganrif, ac a grisialwyd yn nisgrifiad Iolo Goch o gartref Owain Glyn Dŵr yn Sycharth, ychydig filltiroedd i’r dwyrain.

Gallai Castell Moch a Thomen y Maerdy fod yn brif fyntiau o fewn eu cymydau, y naill a’r llall yn gysylltiedig â llys yr arglwydd hyd yn oed cyn rhannu Mochnant, ac felly’n ganolfannau gweinyddiaeth sifil a chyfiawnder o fewn bob cwmwd. Mae’n bosibl mai Castell Moch – neu Gastell Mochnant – yw’r hynaf o’r ddau ac o bosibl yn ganolfan ffiwdal neu ganolfan pŵer y cwmwd cyn ei rannu. Yn wir, gallai’r enw ‘Maerdy’ ddangos fod tŷ stiward yr arglwydd (sef y maer) ac un o brif swyddogion y cwmwd ger y safle neu’n agos ato. Ni cheir unrhyw dystiolaeth fod arglwyddiaeth y Mers yn y Waun erioed wedi’i weinyddu gan swyddogion yn dwyn enw’r maer, a gallai hynny naill ai gadarnhau bod y mwnt wedi’i adeiladu cyn yr 1280au neu fod y maer y cyfeiriwyd ato yn swydd is, sef maer demên yr arglwydd.

Byddai pob mwnt wedi’i leoli o fewn demên neu ddaliad personol yr arglwydd, ond ni cheir unrhyw dystiolaeth glir bod unrhyw fwnt yn cynrychioli ffocws ar gyfer anheddiad cnewyllol mewn unrhyw gyfnod, ac yn wir ymddengys hynny’n annhebygol – gan fod Castell Moch wedi’i leoli ar dir wedi’i ddraenio’n wael ar ymyl y Tanat a Thomen y Maerdy wedi’i chuddio o’r golwg ar waelod dyfnant cul, heb unrhyw ffermdir da yn y cyffiniau cyfagos, a’r ddau fwnt atodol ar dir uchel ac o bosibl heb ei amgáu. Felly, mae’r dystiolaeth y mae’r myntiau’n eu darparu am yr aneddiadau’n gyfyngedig. Yn benodol, ni cheir unrhyw dystiolaeth glir eu bod yn uniongyrchol gysylltiedig â maerdrefi brodorol a oedd, fwy na thebyg, yn bodoli o fewn pob cwmwd. Byddai unrhyw swyddogaethau gweinyddol y byddai’r ddau fwnt yn Nhomen Mochnant Is Rhaeadr (Cefn Glaniwrch a Thomen y Maerdy) wedi meddu arnynt yn siwr o fod wedi cael eu trosglwyddo i Lanrhaeadr-ym-Mochnant wrth iddo ddatblygu’n dref farchnad yn y 13eg ganrif.

Roedd pwysigrwydd y ddau brif fwnt bron yn bendant wedi dechrau dirywio erbyn diwedd y 13eg ganrif ar yr hwyraf, sef yr adeg pan dderbyniodd Llanrhaeadr-ym-Mochnant ei siartr marchnad a phan fyddai wedi datblygu’n ganolfan gweinyddol Mochnant Is Rhaeadr.

Tirweddau Angladdol, Eglwysig a Chwedlonol

Tirweddau Chwedlonol
Nid yw’n fawr o syndod i dirwedd ddramatig Dyffryn Tanat ysbrydoli llawer o chwedlau yn ymwneud â dreigiau, cewri, seirff, ysbeilwyr, yn perthyn i’r tylwyth teg, tywysogion a seintiau. Cofnodwyd llawer o’r chwedlau am y tro cyntaf ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau yr 20fed ganrif ond ymddengys eu bod yn adlewyrchu llên gwerin a thraddodiadau llawer cynharach, megis Craig Rhiwarth, Cwm Blowty a Chwm Pennant. Mae’r cysylltiad â gwrthrychau a lleoedd o fewn y dirwedd y credid eu bod o ddiddordeb hynafiaethol, darluniadwy neu ramantaidd mewn oes ddiweddarach yn arwyddocaol.

Yn chwedl Math fab Mathonwy yn y Mabinogi ceir esboniad dychmygol o darddiad yr enw Mochnant, (h.y. nant neu ddyffryn y moch), sef enw’r cwmwd, sydd wedi goroesi mewn nifer o enwau lleoedd modern, megis Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Maes Mochnant, a Chastellmoch. Yn y chwedl, Mochnant yw un o’r lleoedd lle y treuliodd Gwydion noson tra oedd yn dod â moch i Math oddi wrth Pryderi, brenin Ceredigion.

Yn ôl traddodiad codwyd Maenhir y Maes Mochnant er mwyn rhoi terfyn ar y llanastr oedd yn cael ei greu yn y wlad oddi amgylch gan ddraig neu sarff. Lladdwyd y bwystfil pan daflodd ei hun yn erbyn y garreg a elwid hefyd yn Bost Coch, Post y wiber (Hancock 1871, 236; Sayce 1930, 750). Credid bod Pengarnedd ‘yn fyw o ddreigiau’, a’r enw a roddid ar un o’r lleoedd lle y llechent oedd Nant y Wiber ger Penygarnedd. Dywedid bod aelodau direidus o’r tylwyth teg yn cerdded Craig Rhiwarth, llecyn y dywedid y dylid ei ‘osgoi ar bob cyfrif’.

Cysylltir y cawr a adwaenir fel Cawr Berwyn â Chwm Blowty ac â Chwm Pennant. Dywedir i’r tair carreg enfawr sydd ar waelod Pistyll Rhaeadr, ym mlaen Cwm Blowty, gael eu taflu gan y cawr, ei wraig a’i forwyn wrth iddynt groesi’r rhaeadr ar eu ffordd i Bennant Melangell a gelwid y cerrig hynny yn Baich y Cawr, Baich y Gawres a Ffedogaid y Forwyn. Ar achlysur arall dywedir i Cawr Berwyn roi naid enfawr o gopa Moel Dimoel, y mynydd mwyaf sy’n ymddyrchafu uwchben Cwm Pennant, gan lanio mewn cae y dywedir ei fod yn dwyn yr enw Wern Blaen y Cwm (yr un cae efallai â’r cae a gelwid yn ‘Weirglodd Blaen y Cwm’ ac a restrir yn nosraniad y degwm) ar ochr arall y cwm gyferbyn â fferm Tyddyn yr Helig. Dywedid bod ffynnon o ddðr croyw, a lifodd allan cyn gynted ag y cyffyrddodd sawdl y cawr â’r tir, yn arfer dynodi’r fan lle y glaniodd, a gelwid y llethr y tu ôl i’r fferm yn ‘Baich y Cawr’. Mewn fersiwn arall neidiodd y cawr i mewn i fuarth Rhyd y Felin, un o’r ffermydd wrth droed Moel Dimoel.

Mae gan yr asgwrn morfil mawr sydd wedi’i osod ar wal corff eglwys Pennant Melangell ddau enw gwahanol, sef Asen y Gawres ac Asen Melangell (nawddsant yr eglwys). Mewn un adroddiad dywedir iddo ‘gael ei ddarganfod mewn bedd lle y dywedid bod Melangell wedi’i chladdu’ ond dywed adroddiad cynharach y mae’n debyg ei fod yn fwy dibynadwy iddo gael ei ddarganfod ar y mynydd rhwng y Bala a Phennant Melangell, er nad esbonnir beth roedd yn ei wneud yma.

Cysylltir nifer o leoedd yng Nghwm Pennant a’r ardal o’i amgylch â’r Gwylliaid Cochion, sef criw o ysbeilwyr chwedlonol o Ddinas Mawddwy yn y 15fed ganrif a’r 16eg ganrif. Dywedid iddynt ysbeilio Dyffryn Tanat yn aml ac fe’u cysylltir ag ardaloedd cyfagos eraill. Yn yr un modd dywedir i nifer o fodrwyon a darnau arian gael eu darganfod o dan garreg wastad fawr a gelwir yn Bwrdd y Gwylliaid Cochion sydd rywle ger blaen Cwm Llech. Yn ôl y traddodiad lleol, dangosai’r rhychau ar gerrig mawr naturiol ger pen Cwm Llech ac ar gopa’r Gribin, ar ochr arall Cwm Pennant, y fan lle’r oedd y Gwylliaid Cochion wedi hogi eu clefyddau.

Tirweddau angladdol a defodol cynhanesyddol diweddarach
Mae cofebau angladdol a defodol cynhanesyddol sy’n dyddio o gyfnod cynhanesyddol diweddarach wedi’u dosbarthu’n eang ar hyd a lled Dyffryn Tanat. Mae llawer ohonynt yn nodweddion tirwedd pwysig yn y dirwedd heddiw, yn enwedig ar y tir uwch yng ngorllewin yr ardal. Nid astudiwyd yr un o’r cofebau o fewn ei thirwedd hanesyddol gan ddefnyddio technegau modern, ond mae cymhariaeth â’r cofebau hynny a astudiwyd mewn mannau eraill yn awgrymu mai’r tebycaf yw eu bod yn cynrychioli beddrodau o ddiwedd Oes y Cerrig hyd at ganol yr Oes Efydd, yn ystod y cyfnod 3,000-1,2000 CC. Dim ond cyfran o’r nifer wreiddiol o safleoedd sydd wedi goroesi hyd heddiw. Ni chynhwyswyd yn yr astudiaeth bresennol rai safleoedd cofnodedig a ddinistriwyd neu na ellir dod o hyd iddynt bellach ar y ddaear, nac ychwaith nifer o safleoedd a allant fod wedi’u dynodi gan dystiolaeth enwau lleoedd.

Gellir dosbarthu’r mwyafrif o’r safleoedd ar y tir uwch yn feddrodau crynion, yn garneddau cylchog, ac yn feini hirion. At ei gilydd cofebau angladdol yw’r beddrodau crynion, a adeiladwyd naill ai o bridd neu’n fwy aml o gerrig. Fe’u cysylltir naill ai â chladdu mewn pridd neu â chorfflosgi. Dangosodd cloddfeydd a gynhaliwyd mewn mannau eraill ym Mhrydain fod beddrodau neu garneddau mewn rhai achosion yn gorwedd dros fedd un unigolyn uchel ei statws o fewn y llwyth. Er hynny, mewn achosion eraill, dangoswyd y gallai’r garnedd fod wedi’i defnyddio ar gyfer claddu mwy nag un unigolyn, a hynny dros gyfnod o gannoedd o flynyddoedd. Mewn rhai achosion dangoswyd bod gan garneddau adeiladwaith mewnol cymhleth yn cynnwys beddrodau â chylchoedd o gerrig, cyrbau, a chistiau wedi’u leinio â cherrig. Ni wyddys yn iawn pa ganran o boblogaeth Oes Newydd y Cerrig a’r Oes Efydd a gladdwyd fel hyn, ond mae yna dystiolaeth dda sy’n dangos i’r math hwn o ymarfer claddu beidio yn ystod y cyfnod rhwng canol a diwedd yr Oes Efydd, ac iddo gael ei ddisodli gan y math o fynwent amlosgi a ddarganfuwyd ym Mhennant Melangell (gweler isod).

Mae carneddau cylchog yn fath arall o heneb sy’n perthyn i’r cyfnod hwn. Dangoswyd bod yna gysylltiad rhwng y carneddau hyn a beddrodau, celciau angladdol symbolaidd, a hefyd gweithgarwch yr ymddengys ei fod yn ddefodol ei natur. Yn yr un modd cysylltwyd meini hirion â gweithgarwch defodol yr Oes Efydd, er ei bod yn bosibl bod rhai ohonynt yn cynrychioli arwyddion terfyn llawer mwy diweddar. At ei gilydd mae’r meini hirion i’w canfod ar dir uwch, ac eithrio wrth gwrs faen hir ardderchog Maes Mochnant sy’n 3.65m o uchder ac sy’n gorwedd ar lawr y dyffryn i’r de-ddwyrain o Lanrhaeadr-ym-Mochnant. Cynrychiolir gweithgarwch defodol yr Oes Efydd gan gylch cerrig a rhes gerrig Rhos-y-Beddau a chylch cerrig Cwm Rhiwiau ger blaenddyfroedd Afon Rhaeadr, uwchben Pistyll Rhaeadr.

Ymhlith mathau pwysig eraill o henebion y mae ffosydd cylchog, heneb sy’n debygol o fod yn feingylch a dau gylch pwll, ac y mae pob un ohonynt wedi’i leoli ar lawr y dyffryn. Mae pob un o’r mathau hyn o henebion yn safleoedd a ddynodir gan gnydau ac a ddarganfuwyd o ganlyniad i ragarchwilio a wnaed o’r awyr, ac fel rheol nid ydynt wedi goroesi fel cloddweithiau y gellir eu gweld ar lefel y ddaear. Mae’n debyg bod y ffosydd cylchog at ei gilydd yn cynrychioli carneddau sy’n debyg i feddrodau crynion a charneddau’r ucheldiroedd a nodwyd uchod. Mae’n debyg bod gan y mwyafrif ohonynt dwmpathau pridd a lefelwyd ers yr adeg hynny o ganlyniad i aredig, er bod yr hyn a all fod yn feddrod crwn mawr wedi goroesi hyd heddiw fel twmpath ger maen hir Maesmochnant, rhywbeth sy’n anarferol. Mae’r heneb sy’n debygol o fod yn feingylch a’r ddau gylch pwll i gyd wedi’u lleoli yn agos at ei gilydd i’r de-ddwyrain o Lanrhaeadr-ym-Mochnant ac mae’n debyg eu bod yn cynrychioli cyfadeilad defodol yn yr iseldir sy’n debyg i’r cyfadeilad yn yr ucheldir a nodwyd yng nghyffiniau Rhos-y-beddau. Math o heneb a amgaeir gan glawdd crwn yw’r heneb sy’n debygol o fod yn feingylch, ac mae’n bosibl bod y ddau gylch pwll yn gylchoedd pren yn wreiddiol.

Fel y nodwyd uchod, mae ein gwybodaeth am ddosbarthiad y safleoedd hyn yn Nyffryn Tanat yn rhannol ac yn ddamweiniol. Y tebyg yw i’r safleoedd yn yr ucheldiroedd, sydd wedi’u lleoli mewn ardaloedd o amaethu ymylol, oroesi oherwydd y defnydd llai dwys a wneid o’r tir yn yr ardaloedd hyn, tra bod yr amaethu grawn dwys ar y tir amaethyddol ysgafnach a gwell ei safon ar lawr y dyffryn wedi helpu olion cnydau i ffurfio a ddefnyddiwyd i nodi’r safleoedd. Hefyd i ryw raddau mae dosbarthiad y safleoedd yn yr ucheldiroedd yn ddibynnol ar ardaloedd lle y cyflawnwyd gwaith maes mwy dwys – gan fod y gwaith maes a gyflawnwyd yn ystod y blynyddoedd diwethaf wedi canolbwyntio ar gornel dde-orllewinol yr ardal. Enghraifft o safleoedd sydd wedi goroesi a hynny mewn dull detholiadol yw’r math anarferol o safle angladdol neu ddefodol cynhanesyddol a ddarganfuwyd wrth gloddio yn eglwys Pennant Melangell. Roedd yn rhan o fynwent amlosgi o ganol yr Oes Efydd, yn dyddio o’r cyfnod tua 1,200 CC.

Er nad oes fawr ddim tystiolaeth o’r aneddiadau a fodolai yn ystod y cyfnod hwn, mae nifer gyffredinol yr henebion yn dangos bod pobl wedi ymsefydlu ar hyd ac ar led Dyffryn Tanat erbyn y cyfnod hwn. Dengys dosbarthiad yr henebion, ar waelod y dyffrynnoedd ac ar gopaon y mynyddoedd fod pobl yn gwneud defnydd o ystod eang o gynefinoedd gwahanol yr adeg honno. Mae’n bosibl bod y dosbarthiad hwn eisoes yn adlewyrchiad o’r patrwm trawstrefa rhwng aneddiadau sefydlog yn yr iseldir ac aneddiadau dros dro yn yr ucheldir y gwyddys ei fod yn bodoli yn yr ardal tan tua’r 18fed ganrif.

Mae’r cyfadeiladau defodol yn Rhos-y-beddau a ger Maesmochnant yn awgrymu bod ardaloedd penodol wedi’u dynodi’n dirweddau defodol yn y cyfnod cynnar hwn. Yn yr un modd, mae’r beddrodau crynion yr ymddengys eu bod wedi’u crynhoi yn yr ucheldiroedd yng nghornel dde-orllewinol y dirwedd hanesyddol ac ar lawr y dyffryn yn y gornel dde-ddwyreiniol fel pe baent yn dynodi rhai ardaloedd yn dirweddau angladdol. Yn achos y cyfadeiladau ar lawr y dyffryn o leiaf mae yna gyffelybiaeth rhwng y cyfadeiladau defodol cynhanesyddol diweddarach ac ardaloedd mynwentydd yr awgrymwyd eu bod yn bodoli mewn rhannau eraill o wahanfa ddðr Hafren uchaf. Yn achos y ddau gyfadeilad yn Nyffryn Tanat mae yna awgrymiadau clir bod eu lleoliadau o fewn y dirwedd yn llawn arwyddocâd – gyda Rhos-y-beddau wedi’i leoli ger blaenddyfroedd Afon Rhaeadr, uwchben rhaeadrau enwog Pistyll Rhaeadr, a chyfadeilad Maesmochnant wedi’i leoli o fewn rhan letaf llawr dyffryn Tanat uchaf, rhwng ei chymer ag Afon Rhaeadr ac Afon Iwrch.

Er ei bod yn debyg bod carneddau yn yr ucheldiroedd a ffosydd cylchog yn yr iseldiroedd yn rhannu swyddogaeth debyg fel henebion angladdol mae yna arwyddion bod gan yr henebion mewn gwahanol leoliadau arwyddocâd gwahanol o ran y dirwedd. Mae llawer o’r beddrodau crynion yn yr ucheldiroedd yng ngogledd-orllewin yr ardal, er enghraifft, yn henebion unig sydd wedi’u gosod ar bennau bryniau neu mewn lleoliadau amlwg eraill. I’r fath raddau nes y credid bod rhai ohonynt yn darnodi gwahanol derfynau gwleidyddol a gweinyddol. Er enghraifft mae’r garnedd ym Moel Sych, sydd bron yn 830m o uchder ac sydd wedi’i lleoli ger blaen gogleddol Dyffryn Tanat, wedi dynodi’r fan lle y mae terfynau Sir Feirionnydd, Sir Drefaldwyn a Sir Ddinbych yn cyfarfod ers iddynt gael eu creu gan y Ddeddf Uno ym 1536, ac yn ystod y canrifoedd cyn hynny mae’n debyg ei bod wedi dynodi’r fan lle y cyfarfu cymydau canoloesol Edeyrnion, Mochnant Is Rhaeadr a Mochnant Uwch Rhaeadr. Yn wir, mae’n bosibl bod carneddau cynhanesyddol mewn lleoliadau amlwg yn yr ucheldiroedd wedi’u defnyddio i ddynodi tiriogaethau gwahanol ers iddynt gael eu hadeiladu – gan y byddai’r weithred o gladdu olion hynafiaid y llwyth o fewn carnedd wedi helpu i nodi terfynau tiriogaeth yr oedd y llwyth hwnnw’n hawlio.

Yn achos rhai o’r beddrodau a leolir yn yr iseldir mae’n glir bod patrwm gwahanol yn cael ei gynrychioli. Yn Banadla, i’r dwyrain o Langedwyn gellir gweld yn glir i fyny at bump neu chwech o ffosydd cylchog wedi’u gosod mewn sawl llinell. Efallai bod pob un o’r grwpiau’n cynrychioli claddfeydd gwahanol grwpiau llwythol, ac mewn rhai achosion mae’r ffaith iddynt gael eu gosod mewn llinellau yn dangos o bosibl iddynt gael eu gosod ar hyd terfyn neu ar hyd ymylon caeau, fel yr awgrymir gan dystiolaeth o ardaloedd eraill ym Mhowys.

Ar wahân i’r ffaith eu bod yn bwysig ynddynt eu hunain, mae nifer o’r henebion angladdol a defodol hyn o’r cyfnod cynhanesyddol yn bwysig hefyd am eu bod yn cadw dyddodion megis arwynebau daear claddedig o dan feddrodau crynion a phriddoedd claddedig mewn ffosydd cylchog sy’n cynnwys tystiolaeth bwysig y gellir ei dyddio’n fanwl gywir yn ymwneud ag amgylchedd cynnar Dyffryn Tanat a hanes y defnydd a wneid o’i dir.

Gweithgarwch angladdol a defodol ar ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol ac yn ystod y cyfnod Brython-Rufeinig
Ychydig o dystiolaeth sydd wedi goroesi o weithgarwch angladdol neu ddefodol ar ddiwedd yr Oes Efydd neu drwy’r Oes Haearn a’r cyfnod Brython-Rufeinig (700CC – OC 400). Yn wir yr unig dystiolaeth o weithgarwch crefyddol a all ddod o fewn y cyfnod hwn yw’r tri phen ‘Celtaidd’ nad oes sicrwydd ynghylch eu dyddiad na’u swyddogaeth a adeiladwyd yn ffasâd y tþ yng Nglantanat-isaf yng nghornel dde-ddwyreiniol Dyffryn Tanat, tþ sy’n dyddio o ganol yr 17eg ganrif.

Nid yw’r ffaith nad oes tystiolaeth o weithgarwch angladdol yn Nyffryn Tanat yn ystod y cyfnod hwn yn anarferol o bell ffordd, gan nad oes fawr ddim tystiolaeth i’w chael unrhyw le arall o fewn yr ardal, ac o ganlyniad ymddengys bod beddrodau’r cyfnodau hyn ac yn wir feddrodau yr Oes Efydd ddiweddarach ar ffurf nas cynrychiolir yn y cofnod archeolegol.

Tirweddau eglwysig
Gwyddys ei bod yn bosibl bod yna fynwent gladdu Gristnogol gynnar o ryw ddeugain neu fwy o feddau wedi’u trefnu mewn rhesi a allai fod yn bwysig, a hynny ar sail olion cnydau ym Meysydd, ryw 1.5km i’r de-ddwyrain o Lanrhaeadr-ym-Mochnant. Ychydig sy’n hysbys am y safle hwn, fodd bynnag, ac er nad yw wedi’i ddyddio’n fanwl gywir mae’n bosibl ei fod yn perthyn i’r cyfnod Cristnogol cynnar a’i fod yn rhagflaenu sefydlu eglwys y clas a’r fynwent yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Mae’n bosibl felly ei bod yn dyddio o’r cyfnod rhwng y 5ed ganrif a’r 9fed ganrif neu’r 10fed ganrif. Oherwydd y ffaith bod y fynwent yn agos at y cyfadeilad angladdol a defodol cynhanesyddol ym Maesmochnant (gweler uchod) mae yna bosibilrwydd, fel yn eglwys Pennant Melangell, a nodir isod, fod y fynwent baganaidd gynharach wedi parhau mewn rhyw ffordd neu ei bod wedi cael ei hailddefnyddio.

Gwyddys am bum eglwys ganoloesol yn Nyffryn Tanat – Dogfan Sant, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Cynog Sant, Llangynog a Santes Melangell, Pennant Melangell, Sant Garmon, Llanarmon Mynydd Mawr a Chedwyn Sant, Llangedwyn. Mae’r eglwysi yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llangynog a Phennant i gyd wedi’u lleoli o fewn trefgorddau sy’n dwyn yr enw Tre’r-llan – sef, mae’n debyg, y prif drefgordd o fewn pob un o’r plwyfi canoloesol, ond fel y nodwyd mewn man arall dim ond yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant y ceir tystiolaeth glir fod yr eglwys yn rhan o anheddiad cnewyllol canoloesol.

Ar sail tystiolaeth y gwaith maen cerfluniedig sefydlwyd safle eglwysig yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant erbyn o leiaf y 9fed ganrif ar lan ogleddol Afon Rhaeadr. Mae’n amlwg ei bod yn eglwys bwysig yn gynnar yn ei hanes ac er mai ychydig sy’n hysbys am hanes cynnar y safle mae wedi’i leoli o fewn mynwent gromliniol fawr ac mae ganddi gysylltiadau â brenhinoedd ac mae’n cadw darnau o feddrod Romanésg sydd o bosibl wedi’i chysegru i’r nawddsant, sef Dogfan Sant. Yn yr un modd ceir olion beddrod Romanésg ym Mhennant Melangell. Fe’i sefydlwyd yn gynt nag eglwys Llanrhaeadr-ym-Mochnant, tua’r 8fed ganrif o bosibl, ac fe’i cysylltir â chwedl Melangell. Er na ellir pennu dyddiad pendant i’r chwedl ac er ei bod yn hanesyddol annibynadwy, mae’r chwedl yn bwysig oherwydd y cwestiynau y mae’n eu codi am strwythur cynnar yr eglwys Gristnogol yn Nyffryn Tanat. Mae’r fersiwn ysgrifenedig cynharaf sydd wedi goroesi yn destun Lladin o ddechrau’r 16eg ganrif ond mae’n debyg ei fod yn seiliedig ar ffynonellau ysgrifenedig neu lafar sy’n dyddio yn ôl i’r 13eg ganrif o leiaf. Darlunnir y stori hefyd ar y groglen gerfiedig gywrain yn eglwys Santes Melangell sy’n dyddio o’r 15fed ganrif.

Mae’r chwedl yn adrodd hanes Brochwel, tywysog Powys, a oedd yn hela mewn lle o’r enw Pennant pan ddaeth ar draws gwyryf hardd o’r enw Melangell (Monacella) mewn llwyn, ac yn cael lloches ym mhlygiadau ei sgerti roedd ysgyfarnog a oedd yn cael ei ddilyn gan gŵn y tywysog. Gofynnodd Brochwel iddi ym mha le yr oedd yn byw ac atebodd hithau ei bod wedi byw ar ei phen ei hun yn y diffeithwch hwn ers blynyddoedd lawer, ar ôl iddi ffoi o Iwerddon, ei gwlad enedigol, i ddianc rhag priodi uchelwr yr oedd ei thad, y brenin, am ei gorfodi i’w briodi. Rhoddodd Brochwel y tiroedd iddi yn noddfa am byth, a sefydlwyd lleiandy yno gan Melangell.

Mae’r chwedl yn rhoi i ni nifer o ddelweddau symbolaidd cynnar a phwysig o’r dirwedd yr ymddengys eu bod yn rhan hanfodol o’r chwedl wreiddiol ac sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn yng Nghwm Pennant – sef tiroedd hela’r brenin, y diffeithwch a’r goedwig (rubum guendam et spinosum). Mae’n bosibl mai’r goedwig a bortreadir gan y dail toreithiog mewn dull Celtaidd diweddar sy’n addurno’r beddrod Romanésg.Themâu eraill sy’n rhedeg drwy’r chwedl yw’r rhai sy’n ymwneud â noddfa a pharhad, h.y. lle sydd wedi’i osod ar wahân i’r byd fel lloches dragwyddol (perpetuum sit asylum). Saif yr eglwys ym Mhennant, fel eglwys Dogfan Sant yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant, o fewn mynwent gromliniol gymharol fawr. Y gred yn draddodiadol yw bod y fynwent hon yn dynodi’r noddfa, ac mae hefyd yn cael ei hamgylchynu gan gylch o goed yw mawr a hen iawn. Mae’r rhannau cynharaf o’r eglwys sydd wedi goroesi yn dyddio o’r 12fed ganrif ac fe’u hadeiladwyd fel pererinfa ac i orchuddio beddrod Melangell, a hynny efallai o dan nawdd yr uchelwr Rhirid Flaidd a ddisgrifir yn un o englynion Cynddelw, bardd mwyaf Cymru yn ail hanner y 12fed ganrif, fel ‘Perchennog Pennant’ (Priodawr pennant pennaf). Mae Cynddelw hefyd yn cysylltu Rhirid â Dinmawr neu Foel Dimoel, y bryn amlwg ar ochr ddeheuol Cwm Pennant, bryn a gysylltir â chwedl Cawr Berwyn. Mae chwedl Melangell hefyd wedi’i gosod yn y dirwedd oddi amgylch – a gelwir sil carreg rai cannoedd o fedrau i’r de o’r eglwys a nodwyd yn gyntaf gan Thomas Pennant yn y 18fed ganrif ac yr arysgrifennwyd y geiriau ‘St Monacella’s Bed’ arni rywbryd tua diwedd y 19eg ganrif yn ôl pob tebyg yn Gwely Melangell. Mae’n debyg mai tarddiad gwerin sy’n gyfrifol am y cysylltiad hwn a’r tebyg yw bod yr enw’n tarddu o gae cyfagos o’r enw Cae Gwelu, sy’n cyfeirio at system Gymreig ganoloesol o ddal tir gan grðp teuluol.

Daeth beddrod Melangell ym Mhennant yn ganolfan bwysig yn ystod y cyfnod canoloesol. Mae’n amlwg o gerddi Guto’r Glyn ei bod yn denu, erbyn y 15fed ganrif, bererinion o hirbell a geisiai feddyginiaeth at eu salwch; ystyrid hefyd ei bod yn orffwysfan derfynol ar gyfer cyn bererinion. Yn ystod y cyfnod canoloesol ac ar ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol roedd yr eglwys, fel mewn mannau eraill yng Nghymru, yn ganolbwynt pwysig ar gyfer y gymuned wledig wasgaredig a wasanaethid ganddi. Mewn cyfarfodydd a gynhelid yn festri’r eglwys trafodid gwahanol faterion yn ymwneud â’r plwyf, megis cynnal a chadw’r ffyrdd, prentisiaethau a gweinyddu’r cymorth a roddid i’r tlodion.

Daeth y llan – gydag ystyr llan yma yn golygu’r ardal o amgylch yr eglwys yn ogystal â chlos yr eglwys – yn ganolfan ar gyfer amryw weithgareddau masnachol gan gynnwys gemau pêl, ffeiriau a gðyl flynyddol y mabsant. Mae gan y lawnt fach sydd ychydig y tu hwnt i borth y fynwent ym Mhennant Melangell syn perthyn i’r cyfnod megalithig dalwrn ceiliogod a buwyd yn defnyddio’r lawnt hyd at ddiwedd y 18fed ganrif o bosibl ar gyfer perfformiadau theatrig. Gyda thwf Piwritaniaeth yn ystod y 18fed ganrif ac ar ddechrau’r 19eg ganrif rhoddwyd terfyn ar lawer o’r gweithgareddau hyn, a lleihaodd pwysigrwydd eglwys y plwyf fel canolbwynt o ganlyniad i symudiad o ran y boblogaeth a’r cynnydd yn nifer y capeli anghydffurfiol ledled y wlad.

Mae llawer i’w ddysgu o hyd am dirwedd blwyfol gynnar Dyffryn Tanat. Roedd eglwysi’r plwyf eisoes yn bodoli erbyn canol y 13eg ganrif ym Mhennant Melangell, Llangynog a Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Eglwys y clas neu fameglwys oedd Llanrhaeadr o dan reolaeth abad lleyg, a hyd efallai ryw adeg rhwng y 9fed ganrif a’r 11eg ganrif mae’n bosibl mai hi oedd y brif eglwys neu’r unig eglwys ym Mochnant, a hithau yn ganolbwynt plwyf eglwysig mawr oedd yn cyd-fynd â thiriogaeth y cantref. Erbyn diwedd y 13eg ganrif ac ar ôl i Fochnant gael ei isrannu yn ddau gwmwd cyfansoddol, eithriad prin oedd Llanrhaeadr o un plwyf yn cyd-fynd â chwmwd cyfan – sef Mochnant Is Rhaeadr. Yr adeg honno roedd yr eglwysi yn Llanarmon Mynydd Mawr a Llangedwyn yn gapeli (capellae) oedd yn ddibynnol ar Lanrhaeadr a dim ond yn ddiweddarach y daethant yn eglwysi plwyf annibynnol ohonynt eu hunain.

Ymddengys fod y stori ym Mochnant Uwch Rhaeadr yn fwy cymhleth. Roedd rhan sylweddol o’r cwmwd yn rhan o blwyf Llanrhaeadr, ac roedd y gweddill ohono wedi’i rannu rhwng plwyfi Pennant Melangell a Llangynog, yn ogystal â Hirnant a Llanwddyn. Mae’n bosibl bod hyn yn adlewyrchu’r ffaith i ardal eglwysig fwy o faint oedd wedi’i seilio ar eglwys y clas yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant gael ei rhannu. Yn wir, mae yna awgrymiadau i eglwysi fel Santes Melangell ym Mhennant Melangell ddechrau o bosibl fel mynwentydd amgaeëdig yn unig, ac mai dim ond mor ddiweddar â’r 11eg ganrif neu’r 12fed ganrif y sefydlwyd eglwysi yno. Mae yna dystiolaeth bellach i awgrymu y gall hanes Pennant Melangell fod wedi bod yn fwy cymhleth byth, gan fod y fynwent Gristnogol gynnar fel pe bai wedi’i sefydlu uwchben mynwent baganaidd sy’n perthyn i ganol yr Oes Efydd. Ymddengys fod hyn yn brawf hynod o barhad o fewn y dirwedd.

Safleoedd eraill â chysylltiadau eglwysig
Ymhlith safleoedd eraill â chysylltiadau eglwysig pwysig yn Nyffryn Tanat y mae dwy ffynnon sanctaidd – ffynnon Dogfan Sant ar y bryniau uwchben Cwm Rhaeadr a Ffynnon Cwmewyn ar y bryn uwchben Pennant Melangell a phlasty canoloesol yng Ngwernfeifod sy’n perthyn i Abaty Glyn y Groes. Efallai fod yna arwyddocâd i’r ffaith mai o fewn yr abaty y ceir safle ffynnon Dogfan Sant. Mewn rhai achosion mae tystiolaeth o ddefodau crefyddol nad oes fawr ddim tystiolaeth arall ohonynt wedi goroesi mewn enwau lleoedd. Mae fferm Tyn-y-cablyd ger tarddiad Afon Tanat, ym mlaen Cwm Pennant, yn cymryd ei enw o Ddydd Iau Cablyd, sef y dydd, yn ôl traddodiad, y golchai pobl o dras uchel draed y tlodion a rhoi anrhegion iddynt. Nid oes amheuaeth na chollwyd y traddodiad hwn a llawer o draddodiadau eraill a gysylltid â rhannau eraill o’r dirwedd gyda thwf Protestaniaeth, o’r 16eg ganrif ymlaen.

Yn Nyffryn Tanat roedd gweithgarwch gan yr anghydffurfwyr cynnar yn gymharol fach a thystiolaeth sy’n dilyn y diwygiad Methodistaidd a welwyd ar ddechrau y 19eg ganrif yw’r dystiolaeth archeolegol o anghydffurfiaeth sydd wedi goroesi. Mae’n cynnwys llawer o gapeli sy’n perthyn yn bennaf i’r Methodistiaid Wesleaidd, y Methodistiaid Calfinaidd, a’r Annibynwyr. Fel mewn mannau eraill yng Nghymru mae dwy duedd yn amlwg o ran dosbarthiad y capeli anghydffurfiol o fewn y dirwedd. Yn gyntaf, codwyd capeli yn y nifer gymharol fach o aneddiadau cnewyllol sef Llangynog, Pen-y-bont Fawr a Llanrhaeadr-ym-Mochnant. Yn ail, gwelwyd cynnydd sylweddol yn nifer yr addoldai yng nghefn gwlad ar y tir uwch i ffwrdd o lawr y dyffrynnoedd, fel arfer heb fod yn fwy na 2-3km oddi wrth ei gilydd. Mae hyn yn cynrychioli proses a arweiniodd at wneud sylw cyffredin mewn perthynas â’r gororau bod ‘poblogaeth yr ucheldiroedd yn gynulliedfa o Anghydffurfwyr yn hytrach nag o Eglwyswyr’.

Tirweddau Addurniadol a Phictiwrésg

Tirweddau Addurniadol
Y brif dirwedd addurniadol o fewn Dyffryn Tant yw gerddi Neuadd Llangedwyn a restrir yng Nghofrestr Parciau a Gerddi yng Nghymru. Crëwyd yr ardd bwysig hon ar ddechrau’r 18fed ganrif gan Syr Watkin Williams-Wynn o Wynnstay, a hynny o amgylch Neuadd Llangedwyn, sef y tŷ mwyaf urddasol o fewn y dyffryn heb os nac oni bai. Etifeddwyd y tŷ, sy’n dyddio o ddiwedd y 17eg ganrif neu ganol y 18fed ganrif, gan y trydydd barwnig , sef un o brif berchenogion tir yn Nyffryn Tanat, oddi wrth ei dad-yng-nghyfraith, Syr Edward Vaughan ym 1718. Mae’r cyfadail yn dal i feddu ar rai elfennau o’i batrwm gwreiddiol gan gynnwys terasau ffurfiol a osodwyd ar y tiroedd ar oleddf, ynghyd â gardd gegin, coetir a reolir ar ochr y bryn uchod, gyda golygfeydd sylweddol ar draws y dolydd i’r de, ac fe’u dangosir i gyd oddi uchod mewn paentiad cyfoes. Mae adeiladau atodol o fewn y cyfadail yn cynnwys bloc stabal, ac adeiladwaith wythonglog nodedig gyda blychau rhydd mewn padog i’r dwyrain o’r tŷ. Ymhlith ymwelwyr nodedig C.W. William-Wynn, AS, bart., a’r tŷ ar ddechrau’r 19eg ganrif roedd Robert Southey (1774-1843), Bardd y Brenin ac un o’r ‘Lakeland Poets’ rhamantaidd, a Reginald Herber (1783-1826), prelad a chyfansoddwr emynau (‘From Greenland’s Icy Mountain’ a ‘Holy, holy, holy’). Aethpwyd ag ymwelwyr i weld safleoedd lleol o ddiddordeb fel yr eglwys ym Mhennant Melangell, safle preswylfa tywysogion Powys ym Mathrafal, a phrif breswylfa Owain Glyn Dŵr yn Sycharth, a chawsant hefyd eu diddanu yng ngerddi’r tŷ, fel y cofnodwyd yn y llinellau hyn gan Southey:

When on Llangedwyn’s terraces we paced
Together to and fro
Partaking there its hospitality
We with its honoured master spent
Well pleased the social hours
Tirweddau Pictiwrésg
Daeth y dirwedd yng Nghymru yn fwy hygyrch i deithwyr o ddiwedd y 18fed ganrif ymlaen, yn sgîl gwelliannau i ffyrdd tyrpeg, a oedd yn cydfynd â’r ffasiwn ar gyfer y pictiwrésg, sef mudiad esthetig a oedd yn gwerthfawrogi tirwedd arw ac afreolaidd o ran ei siâp. Er bod Dyffryn Tanat, mynyddoedd y Berwyn a’r ardal ddwyreiniol ger y ffin yn llai poblogaidd yn gyffredinol gyda theithwyr ac arlunwyr yn y 18fed a’r 19eg ganrif na thirweddau mwy garw gogledd-orllewin Cymru, un o’r atyniadau mwyaf nodedig oedd Pistyll Rhaeadr a Chwm Blowty, ym mhen afon Rhaeadr, ac ymddangosodd disgrifiadau ohonynt mewn teithiau amrywiol o ddiwedd y 18fed ganrif. Daeth y rhaeadr hon mor enwog yn y cyfnod hwn fel iddi gael ei hystyried yn un o ‘Saith Rhyfeddod Gogledd Cymru’ yn y pennill traddodiadol:

Pistyll Rhaeadr, and Wrexham Steeple,
Snowdon’s mountains without its people,
Overton’s yew trees, Gresford bells,
Llangollen bridge and St Winifrid’s Well.
Anhysbys, 18fed ganrif

Buddsoddwyd yn y ddarpariaeth ar gyfer y mewnlifiad o ymwelwyr i’r rhaeadrau. Bu i’r Parch. Worthington, ficer Llanrhaeadr-ym-mochnant rhwng 1748-78, ran allweddol yn sicrhau bod ffordd dyrpeg yn cael ei hadeiladu o Lanrhaeadr at y rhaeadrau, ac addaswyd yr ystafell a berodd ef i gael ei chodi i gysgodi ymwelwyr ar ddechrau’r 19eg ganrif gan Syr Watkin Williams-Wynn yn fwthyn gwledig pictiwrésg ar gyfer ‘yfed te’. Mae Tours in Wales Thomas Pennant yn cofnodi’r ddarpariaeth a wnaeth y ficer i ymwelwyr i Bistyll Rhaeadr:

Mae’n rhaid i mi siarad â dyledus barch wrth goffáu’r ficer ymadawedig ardderchog, Dr Worthington, yr oeddwn yn ddyledus iawn iddo am fy nghroesawu i’w dŷ, yn ffodus iawn, ar noson wlyb cyn fy ymweliad â Phistyll Rhaeadr. Fe’i lleolir ym mhen draw dyffryn serth a chul iawn, ac mae fel petai’n rhannu un o ochrau amlwg mynyddoedd y Berwyn…Pan ymwelais ag ef, roedd y ffordd ato mewn cyflwr gwael iawn; ond fe’i gwellwyd yn sylweddol trwy ymdrechion y diweddar ficer cymwynasgar, ac, fel y’m hysbyswyd, mae ef yn ogystal wedi adeiladu bwthyn gerllaw, fel lloches i’r teithiwr rhag ffyrnigrwydd stormydd.

Parhaodd yr arfer yn y ganrif ddilynol, ac yn wir hyd heddiw. Nododd George Borrow yn Wild Wales, a gyhoeddwyd ym 1862, iddo ymweld â’r rhaeadr a derbyn gwahoddiad i gymryd lluniaeth a llofnodi llyfr yr ymwelwyr ‘a oedd yn cynnwys nifer o enwau yn gymysg yma ac acw â darnau o farddoniaeth’.

Dechreuwyd ystyried tirweddau geirw eraill fel rhai pictiwrésg yn ystod y ganrif ddilynol, yn arbennig y rheini ym mhen draw’r dyffrynnoedd dwfn, rhewlifol tuag at ochr orllewinol Dyffryn Tanat. Mae’r tirweddau a ddisgrifir yn y modd hwn yn cynnwys ‘Rhwng-y-creigiau’ ger y fynedfa i Gwm Maengwynedd, i’r gogledd o Lanrhaeadr-ym-Mochnant, a disgrifir Craig Rhiwarth uwchben Llangynog gan Lewis ym 1833 fel lle ‘cyforiog o nodweddion harddwch pictiwrésg, a chrandrwydd garw’. Ystyriai Lewis a Thomas Pennant fod Cwm Pennant ‘yn hynod bictiwrésg’:

‘Mae’r rhan uchaf wedi’i hamgáu rhwng dau ddibyn helaeth, ac i lawr iddynt, mewn mannau, mae dwy raeadr fawr yn llifo; rhyngddynt mae pentir mawr ac amrwd Moel ddu Mawr [Moel Dimoel] yn ymwthio, sydd bron yn rhannu’r ddau ddibyn yn rhannau cyfartal; ac maent gyda’i gilydd yn ffurfio cilfach wych a chysegredig i selogion.

Cysylltiadau diwylliannol
Mae Dyffryn Tanat wedi denu cysylltiadau diwylliannol cryf, rhai ohonynt gan breswylwyr brodorol a rhai gan deithwyr, ac fe’u hystyrir yn awr o dan y penawdau canlynol – cysylltiadau llenyddol, artistig, hynafiaethol a thopograffig, diwinyddol, cerddorol a theatrig.

Un o’r cysylltiadau diwylliannol cynharaf gyda Dyffryn Tanat yw chwedl Sant Melangell, sy’n darparu ‘cyflwyniad llenyddol ac ymhelaethiad o gwlt y sant’, gan fod trosglwyddiad cynnar y chwedl yn meddu ar gysylltiadau cryf gyda thirwedd Cwm Pennant a oedd, fwy na thebyg, yn lleol ac yn wreiddiol yn gyflwyniad llafar a gweledol. Mae gan Ddyffryn Tanat nifer o gysylltiadau llenyddol diweddarach, yn arbennig ar ddiwedd yr 17eg ganrif a’r 18fed ganrif. Roedd Cadwaladr Roberts (a fu farw ym 1708/9), yn frodor o Dŷ Ucha, Cwm Llech, ac roedd ei gerdd yn erfyn telyn gan Wiliam Llwyd, Llangedwyn, yn adnabyddus yn sgîl ei ddiddordeb cymdeithasol. Cyfansoddwyd y pennill anhysbys canlynol yn moli Cwm Pennant, a ymddangosodd ar ddalen o Gofrestr y Plwyf ym 1720-92, hefyd yn lleol fwy na thebyg.

Cwm Pennant galant gweli, Cwm uchel
I ochel caledi
Cwm iachus nid oes i chwi,
Ond cam i Ne o’n cwm ni
Mae’r rhan fwyaf o gysylltiadau llenyddol diweddarach yn ymwneud ag ymwelwyr, megis y gerdd am Bistyll Rhaeadr, a ddathlwyd gan Dewi Wyn, sef un o’r beirdd disgrifiadol cyntaf yn Gymraeg.

Erbyn dechrau’r 19eg ganrif apeliai Dyffryn Tanat at synwyrusrwydd y literari Seisnig, megis Robert Southey. Tra oedd ef yn aros gyda theulu Williams-Wyn yn Neuadd Llangedwyn ymwelodd â Mathrafal, Sycharth a Phennant Melangell, a diben ei ymweliad â’r olaf ym 1820 oedd er mwyn ‘observe what vestiges/Mouldering and mutilate/Of Moncella’s legend there are left’:

Melangel’s lonely church –
Amid a grove of evergreen’s in stood,
A garden and a grove, where every grave
Was deck’d with flowers, or with unfading plants
Mae chwedl Melangell ynghyd â’i lleoliad dramatig a dirgel yn parhau i ysbrydoli hunanymholiad, ac mae Cwm Pennant yn debyg i Gwm Rhaeadr yn dod i ben gyda rhaeadr ddramatig, ond llai adnabyddus – sef Pistyll Blaen-y-cwm.

Arweiniai’r lôn at iard fferm. Aeth Lydia heibio iddo a dilyn llwybr mynydd a oedd yn dolennu’n ddigyffro rhwng y coed criafol a choed cyll cyn dod i ben a chyflwyno golygfa o ben draw’r dyffryn i’r teithiwr. Roedd y bryn a oedd yn ei hwynebu gyda’i raeadr wyllt wen yn farfog fel proffwyd. Roedd gan y meini mawr a luchiodd Duw o gwmpas adeg y Cread, ym marn Lydia, naws batriarchaidd, ac roedd y myrdd cerrig mân yn yr afon yn ymdebygu i blant bach yn gorffwys yn hyderus yn y presenoldeb tadol hwn.

Alice Thomas Ellis, Unexplained Laughter, 1985

Ymddengys mai cymharol brin yw’r nifer o artistiaid sydd wedi ymweld â mynyddoedd y Berwyn, gan fod y mwyafrif yn dueddol o dynnu lluniau o dirweddau mwy garw gogledd-orllewin Cymru. Gwnaed brasluniau o Foel Dinmoel ac eglwys Pennant Melangell yng Nghwm Pennant gan John Ingleby ym 1795. Gwnaed braslun o Bistyll Rhaeadr mewn arddull gyntefig gan J. Lewis rhwng tua 1735-40, gan John Evans ym 1794 a chan Francis Nicholson ym 1810, a gwnaed brasluniau o olygfeydd cyffredinol mynyddoedd y Berwyn gan y Parch. John Parker tua 1825 (Llyfrgell Genedlaethol Cymru). Gwnaed lluniau dyfrlliw o sawl un o’r tai mwyaf. O’r rhain y mwyaf nodedig yw’r llun o Neuadd Llangedwyn gan S.Leighton ym 1872. Gwnaed brasluniau o hynafiaethau unwaith eto gan John Parker yn yr 1830au, gan y pensaer lleol R.Kyrke Penson yn yr 1840au, a chan y darlunydd Worthington G. Smith yn yr 1890au.

Mae’r cysylltiadau hynafiaethol cynharaf yn ymwneud ag ysgolheigion lleol, yn arbennig â Thomas Sebastian Price o Lanfyllin a gofnododd agweddau amrywiol ar gwlt Melangell Sant ar ddiwedd y 17eg ganrif. Teithiodd nifer o hynafiaethwyr a thopograffwyr nodedig drwy Ddyffryn Tanat yn ystod y cyfnod 1750-1850 wrth ddilyn eu diddordebau hynafiaethol a thopograffig. Ymwelodd Richard Fenton, Syr Richard Colt Hoare a Thomas Pennant â’r ardal yn ystod y cyfnod hwn; denwyd Thomas Pennant i ymweld ag eglwys Pennant Melangell ym 1773, a gwnaeth yntau hefyd ryw gofnod o gwlt Melangell. Bu’r ysgolhaig eglwysig a’r hynafiaethydd, Walter Davies (Gwalter Mechain), yn ficer Llanrhaeadr-ym-Mochnant o 1837 tan ei farwolaeth ym 1849.

Bu Dr William Morgan, cyfieithydd y Beibl ac un o ffigyrau pwysicaf y Diwygiad yng Nghymru, yn ficer Llanrhaeadr-ym-Mochnant (1578-1588) ac yn rheithor Pennant Melangell (1588-1595) cyn iddo gael ei ethol i esgobaeth Llandaf ym 1595 ac esgobaeth Llanelwy ym 1601. Fodd bynnag, â Llanrhaeadr y mae ganddo’r cysylltiadau agosaf, ac yno yn ôl y gred gyffredinol yr ymgymerodd yn bennaf â’i gyfieithiad a ddisgrifiwyd fel ‘y rhodd mwyaf a gafodd y Cymry erioed’.

This is where he sought God.
And found him? The centuries
Have been content to follow
Down passages of serene prose
…The smooth words
Over which his mind flowed
Have become an heirloom. Beauty
Is how you say it, and the truth
Like this mountain-born torrent,
Is content to hurry
Not too furiously by.

R.S. Thomas, ‘Llanrhaeadr-ym-Mochant’, 1968

Bu cysylltiadau clerigol pwysig pellach gyda Llanrhaeadr-ym-Mochant yn ystod y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif. Bu’r awdur diwinyddol toreithiog Dr William Worthington yn ficer yno rhwng 1745-78. Bu’r dyn hynod hwn yn gysylltiedig â’r gwelliannau i ffyrdd tyrpeg yn y rhanbarth a chwaraeodd ran bwysig wrth gyflwyno Dyffryn Tanat i ymwelwyr o’r tu allan, gan fod yn westeiwr i ymwelwyr nodedig megis Dr Samuel Johnson a’r hynafiaethwyr Syr Richard Colt Hoare a Thomas Pennant yn ogystal â gwneud darpariaeth ar gyfer ymwelwyr i Bistyll Rhaeadr. Dyn hynod arall a fu’n beriglor yn Llandudoch, Llanrhaeadr-ym-mochnant oedd y Parch. Walter Davies (Gwallter Mechain) a fu’n ficer yno rhwng 1837 a’i farwolaeth ym 1849; roedd yn ddyn â diddordebau hynod eang ac amrywiol yn cwmpasu barddoniaeth, hynafiaetheg, llenyddiaeth, meddygaeth, seryddiaeth ac achau, ac roedd yn weithgar iawn yn yr eisteddfodau cynnar.

Mae’r cysylltiadau cerddorol a theatrig yn llai amlwg, a phrin yw’r cysylltiad uniongyrchol â’r lle. Fodd bynnag, roedd Llangynog yn ganolfan adnabyddus ar gyfer gwneud telynau ar ddechrau’r 20fed ganrif, ac roedd Thomas Lloyd (Telynor Ceiriog; a fu farw ym 1917), chwarelwr yn Llangynog a gladdwyd ym Mhennant Melangell, yn enillydd cystadlaethau gwneud telynau yn ogystal â chystadlaethau canu’r delyn. Roedd Nancy Richards, sydd bellach wedi’i chladdu ym Mhennant Melangell, yn delynores gyda chysylltiadau Americanaidd, a oedd yn adnabyddus yn fyd-eang.

Cyfyngir cysylltiadau theatrig yn bennaf i anterliwtiau a berfformiwyd yn aml mewn gwyliau a ffeiriau eglwysig tan tua dechrau’r 20fed ganrif. Dywedir mai Twm o’r Nant (Thomas Edwards, 1739-1810) oedd yr olaf i berfformio anterliwt ym Mhennant Melangell. Roedd Edwards, cludwr coed a brodor o Sir Ddinbych, yn actor, bardd a chystadleuydd amlwg yn yr eisteddfodau cynnar. Gellir barnu naws gyffredinol ei berfformiad olaf ym Mhennant ar sail yr anterliwtiau a gyfansoddodd, sy’n cynnwys gweithiau poblogaidd megis Tri Chydymaith Dyn, Cyfoeth a Thlodi a Cain ac Abel. Prin yw’r dystiolaeth ffisegol o’r gweithgaredd hwn o fewn y dirwedd, er bod cynllun o’r eglwys a’r fynwent a ddarluniwyd yn Archaeologia Cambrensis 1894 yn dangos fod ochr ogleddol y lawnt y tu allan i’r eglwys wedi’i defnyddio fel llwyfan mawr (proscenium) ac ystafell newid (vestarium), a bod y gynulleidfa’n mewn ardal a bennwyd yn auditorium i’r de. Mae disgrifiadau cyfoes o anterliwtiau tebyg yn Llangollen wedi goroesi o ddiwedd y 18fed ganrif, a’u diben oedd ‘chwerthin ar ben y Methodistiaid, trethi, rasio ceffylau ac ati’ a heb os nac oni bai roedd eu gwreiddiau mewn perfformiadau theatrig a oedd yn cyd-fynd â gwyliau mabsant eglwysi unigol, yn arbennig cyn y mudiad Piwritanaidd. Mae’n debyg y byddai perfformiadau theatrig tebyg onid mwy aflywodraethus wedi cyd-fynd â ffeiriau dau neu dri diwrnod a ganiatawyd gan siartr marchnad Llanrhaeadr-ym-mochnant ym 1284, ond unwaith eto nid oes unrhyw dystiolaeth weledol ohonynt wedi goroesi.

Ardaloedd cymeriad

Character Areas

Narrow tract of low-lying, valley-bottom meadow and marsh towards the eastern end of Dyffryn Tanat

Glanhafon, Llangynog, Powys (HLCA 1021)

Dôl gul a chors isel ar waelod y dyffryn at ben dwyreiniol Dyffryn Tanat Cefndir Hanesyddol Mae'r ardal yn rhan o blwyfi eglwysig canoloesol Pennant Melangell, Llangynog a… Yn ôl i'r map
Small irregular fields and close-set farms on southern slopes of Dyffryn Tanat.

Brithdir, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys (HLCA 1023)

Caeau afreolaidd bychain a ffermydd agos at ei gilydd ar lethrau deheuol Dyffryn Tanat. Cefndir Hanesyddol Roedd yr ardal yn gorwedd ym mhlwyf eglwysig Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Sir Ddinbych ac… Yn ôl i'r map
19th-century enclosure and improvement of upland common on southern edge of the Berwyns

Cwm Ffynnon, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys (HLCA 1022)

Tir comin ar ymyl deheuol y Berwyn a gaewyd yn ystod y 19eg ganrif ac a wellwyd. Cefndir Hanesyddol Cynrychiolir tystiolaeth o weithgaredd yn ystod yr Oes Efydd… Yn ôl i'r map
Large, widely spaced farms on lower ground and more closely spaced, medium-sized farms on lower hill-slopes, late medieval cruck-built halls and field systems.

Henfache, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys (HLCA 1020)

Ffermydd mawr ar dir isel â chryn bellter rhyngddynt a ffermydd canolig eu maint, nes at ei gilydd ar y llethrau isaf, neuaddau nenffyrch o'r canol oesoedd hwyr… Yn ôl i'r map
19th-century village and surroundings, with church, chapel, school and inn which grew up junction of turnpikes, and superseding more remote medieval parish centre.

Penybontfawr, Penybontfawr, Powys (HLCA 1020)

Pentref o'r 19eg ganrif a'i amgylchedd, gydag eglwys, capel, ysgol a thafarn a dyfodd wrth gyffordd ar ffyrdd tyrpeg, ac a gymerodd le canolfan blwyfol ganoloesol fwy diarffordd.… Yn ôl i'r map
Isolated upland area with screes and rocky outcrops, former common land enclosed in 19th century.

Cyrniau, Llangynog a Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys (HLCA 1019)

Ardal ucheldirol ddiarffordd gyda marian a brigiadau creigiog, tir comin gynt a gaewyd yn ystod y 19eg ganrif. Cefndir Hanesyddol Mae'r ardal cymeriad yn gorwedd o fewn plwyfi… Yn ôl i'r map
Early post-medieval to 18th/19th-century piecemeal enclosure of isolated upland area on southern edge of the Berwyns.

Mynydd Mawr, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys (HLCA 1017)

Cau ucheldir anghysbell ar ymyl deheuol y Berwyn bob yn dipyn yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol a hyd at yr 18fed/19eg ganrif. Cefndir Hanesyddol Roedd yr ardal yn… Yn ôl i'r map
Extensive area of 19th-century enclosure of common land with sheepfolds and metal mining remains on southern edge of Berwyns.

Y Clogydd, Llangynog a Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys (HLCA 1017)

Ardal helaeth o dir comin a gaewyd yn y 19eg ganrif gyda chorlannau ac olion cloddio am fetelau ar ymyl deheuol y Berwyn. Cefndir Hanesyddol Dangosir gweithgarwch cynnar… Yn ôl i'r map
Unenclosed moorland on Berwyns, common land, with scattered sheepfolds and prehistoric funerary and ritual monuments.

Rhos-y-beddau, Llangynog a Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys (HLCA 1016)

Rhostir heb ei gau ar fynydd y Berwyn, tir comin, gyda chorlannau gwasgaredig a chofadeiliau angladdol a defodol. Cefndir Hanesyddol Tir comin heb ei gau o fewn plwyfi… Yn ôl i'r map
Steep slopes and crags and rocky hilltops above and between Cwm Pennant and Cwm Rhiwarth, with abandoned fields on lower slopes and flatter land higher up, 19th-century partitioning of upland commons, sheepfolds

Hafod Hir, Llangynog, Powys (HLCA 1015)

Llethrau serth a chreigiau a phennau'r bryniau creigiog uwchben a rhwng Cwm Pennant a Chwm Rhiwarth, gyda chaeau gadawedig ar y llethrau isaf a'r tir gwastatach yn uwch… Yn ôl i'r map
Forestry plantation on upper valley edge and upland to south and west of Cwm Pennant, with mining reservoir and leats

Waen Llestri, Llangynog, Powys (HLCA 1014)

Coedwigaeth ar ymyl uchaf y dyffryn ac ar y tir uchel i'r de ac i'r gorllewin o Gwm Pennant, gyda chronfa ddwr a dyfrffosydd ar gyfer cloddio. Cefndir… Yn ôl i'r map
Remote and isolated, deeply glaciated valley with clustered small farms with small enclosed fields on lower slopes and valley bottom.

Cwm Rhiwarth, Llangynog, Powys (HLCA 1013)

Dyffryn rhewlifol anghysbell a diarffordd, gyda ffermydd bach clystyrog, gyda chaeau amgaeedig bychain ar y llethrau isaf ac ar lawr y dyffryn. Cefndir Hanesyddol Mae'r ardal cymeriad yn… Yn ôl i'r map
Remote and isolated, deeply glaciated valley with clustered small farms, some abandoned, with small enclosed fields on lower slopes and valley bottom, dramatic waterfall, associations with the giant Cawr Berwyn.

Cwm Blowty, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys

Dyffryn rhewlifol anghysbell a diarffordd, gyda ffermydd bach clystyrog, rhai wedi eu gadael, gyda chaeau amgaeedig bychain ar y llethrau isaf ac ar lawr y dyffryn, rhaeadr drawiadol,… Yn ôl i'r map
Remote and isolated, deeply glaciated valley with clustered small farms with small enclosed fields on lower slopes and valley bottom, medieval church and legendary associations with St Melangell, abandoned farms.

Cwm Pennant, Llangynog, Powys (HLCA 1011)

Dyffryn rhewlifol anghysbell a diarffordd, gyda ffermydd bach clystyrog â chaeau amgaeedig ar y llethrau isaf ac ar lawr y dyffryn, eglwys ganoloesol â chysylltiadau chwedlonol â Santes… Yn ôl i'r map
Medieval church site, mining village with 18th/19th-century cottages, inn and chapels, associated with lead mining, slate quarrying and roadstone industries.

Llangynog, Powys (HLCA 1010)

Safle eglwys ganoloesol, pentref mwyngloddio gyda bythynnod, tafarn a chapeli o'r 18fed/19eg ganrif, cysylltiedig â chloddio am blwm, chwarelu llechi a diwydiannau cerrig ffordd. Cefndir Hanesyddol Un arwydd… Yn ôl i'r map
Small former market town around early medieval clas church, with 18th- and 19th-century stone houses, inns, shops, chapels, and former mills, huddled in narrow valley of the Afon Rhaeadr.

Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys (HLCA 1009)

Tref fechan a fu gynt yn dref farchnad o gwmpas eglwys glas o'r canoloesoedd, gyda thai, tafarn, siopau, capeli, a hen felinau cerrig, wedi eu gwasgu i ddyffryn… Yn ôl i'r map
Diverse, steeply-sloping area with north-facing slopes on south side of Dyffryn Tanat, part wooded and part 19th-century enclosure of upland common.

Allt Tair Ffynnon, Llangedwyn, Powys (HLCA 1008)

Ardal amrywiol â llethrau serth gyda llethrau tua'r gogledd ar ochr ddeheuol Dyffryn Tanat, rhannau dan goed a rhannau'n gomin uchel a gaewyd yn ystod y 19eg ganrif.… Yn ôl i'r map
Landscape of cottages and tenements and small fields with stone walls and banks, representing late 18th and early 19th-century encroachment of the commons.

Cefn-coch, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys (HLCA 1007)

Tirwedd o fythynnod a daliadau a chaeau bychain gyda phonciau a waliau cerrig, sy'n arwydd o lechfeddiannu tir comin yn hwyr yn y 18fed ganrif ac yn gynnar… Yn ôl i'r map
Closely-spaced, small and medium-sized farms and fields, representing piecemeal expansion and enclosure of lower hill-slopes between the early 16th and 18th centuries.

Garthgelynen, Llangynog a Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys

Ffermydd bychain a chanolig, agos at ei gilydd, sy'n arwydd o ehangu achlysurol a chau llechweddau isaf y bryniau yn gynnar yn ystod y 16eg ganrif a'r 18fed… Yn ôl i'r map
Prominent craggy mountain with prehistoric hillfort, dominating Llangynog

Craig Rhiwarth, Llangynog, Powys (HLCA 1005)

Mynydd creigiog amlwg gyda bryngaer gynhanesyddol yn ymgodi uwch Llangynog Cefndir Hanesyddol Mae'r mynydd o fewn plwyf eglwysig canoloesol Llangynog, ac roedd o fewn hen gwmwd Mochnant Uwch… Yn ôl i'r map
Landscape of scattered larger farms of late medieval and early post-medieval origin generally set within their own medium- to large-sized semi-irregular fields.

Trebrys, Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Llansilin, Powys (HLCA 1004)

Tirwedd yn cynnwys ffermydd mawr gwasgarog yn dyddio o'r canoloesoedd diweddar a'r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar, sydd wedi eu lleoli fel arfer o fewn eu caeau hanner afreolaidd, canolig… Yn ôl i'r map
Large rectangular fields with hedged boundaries on valley bottom in eastern area of Dyffryn Tanat

Glantanat, Llanrhaeadr-ym-Mochnant a Llangedwyn, Powys (HLCA 1003)

Caeau hirsgwar mawr gyda gwrychoedd fel terfynau, ar waelod y dyffryn yn rhan ddwyreiniol Dyffryn Tanat Cefndir Hanesyddol Mae'r ardal cymeriad yn gorwedd i raddau helaeth o fewn… Yn ôl i'r map
Large rectangular fields with hedge boundaries on flat terrace slightly raised above the valley bottom, with complex of cropmark prehistoric and funerary monuments and standing stone.

Maesmochnant, Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Powys (HLCA 1002)

Caeau hirsgwar mawr gyda gwrychoedd fel terfynau ar deras gwastad ychydig yn uwch na llawr y dyffryn, gydag amrywiaeth o gofaleiliau ôl cnydau, cynhanesyddol ac angladdol a maen… Yn ôl i'r map
Hilly, wooded and ornamental landscape, with large houses and gardens and estate farms with rolling pasture.

Llangedwyn, Powys (HLCA 1001)

Tiwedd bryniog, coediog ac addurnol gyda thai a gerddi mawr a ffermydd ystad gyda phorfeydd tonnog. Cefndir Hanesyddol Dangosir bod y tir wedi ei gyfaneddu a'i ddefnyddio'n gynnar… Yn ôl i'r map
Steeply sloping hill land with rocky outcrops, prehistoric hillfort, and late 18th- to early 19th-century encroachment of commons, and areas of ancient semi-natural woodland and modern plantations.

Llwyn Bryn-dinas, Llangedwyn, Powys (HLCA 1000)

Tir bryniog serth gyda brigiadau creigiog, bryngaer gynhanesyddol, tir comin a feddiannwyd yn hwyr y 18fed ganrif a dechrau'r 19eg, a darnau o hen goetir hanner naturiol a… Yn ôl i'r map