Skip to main content

Dyffryn rhewlifol anghysbell a diarffordd, gyda ffermydd bach clystyrog, rhai wedi eu gadael, gyda chaeau amgaeedig bychain ar y llethrau isaf ac ar lawr y dyffryn, rhaeadr drawiadol, cysylltiadau â Chawr Berwyn.

Cefndir Hanesyddol

Roedd rhan o’r dyffryn yng nghyfran Sir Ddinbych o blwyf eglwysig canoloesol Llanrhaeadr-ym-Mochnant, ond roedd trefgordd Cwm Blowty yn gyfran ddatodedig o blwyf Pennant Melangell, Sir Drefaldwyn. Yn weinyddol, gorweddai o fewn cwmwd Mochnant Is Rhaeadr, Sir Ddinbych. Arferai Gwernfeifod, fferm tua 380m uwch lefel y môr yn Nghwm Ffynnon, sydd ar ochr ogleddol Cwm Blowty, fod yn blasty canoloesol a oedd yn perthyn i Abaty Glyn y Groes. Fe all fod yn arwyddocaol fod y fferm yn cynnwys Ffynnon Dogfan, y ffynnon sanctaidd a gysegrwyd i nawddsant eglwys y plwyf yn Llanrhaeadr-ym-Mochnant – y plwyf yr oedd ynddo. Mae enw’r fferm yn cynnwys yr elfen ‘meifod’ (cartref Mai) sy’n awgrymu ei bod, o bosibl, yn hafod ar un adeg.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Dyffryn rhewlifol dwfn gyda’r Afon Rhaeadr yn rhedeg drwyddo, yn ymestyn yn llinell ddi-dor am tua 6km i’r gogledd-orllewin o Lanrhaeadr-ym-Mochnant. Mae’r dyffryn yn gul a’r rhan isaf wedi ei chyfyngu, yn union y tu allan i Lanrhaeadr, ac mae ei lawr yn lledu i ryw 400m ar draws at ben y dyffryn. Mae llawr y dyffryn yn codi o uchder o tua 170m uwch lefel y môr ger Llanrhaeadr i tua 300m wrth droed y rhaeadr, ac mae’r bryniau o gwmpas y dyffryn yn codi’n serth i uchter o fwy na 500m uwch lefel y môr. Ceir ambell fan ar waelod y dyffryn â draeniad gwael.

Ffermydd bychain a chanolig eu maint ar y cyfan sydd wedi eu clystyru ar ochrau isaf llawr y dyffryn, yn ymyl y ffordd yn aml, gan gynnwys y ffermdy ac adeiladau cerrig o’r 17eg – 19eg ganrif ynn Nghefnderwen, cyfadail o’r 17eg – 18fed ganrif yn cynnwys ffermdy ac adeiladau allanol ym Maes-y-bwch, a’r ffermdy bellach wedi mynd â’i ben iddo ac mae ffermdy brics modern yn ei le, ffermdy ac adeiladau allanol cerrig o’r 18fed ganrif yn Nhyn-y-ddol a Gorwallt, Tyn-y-wern, Tan-y-graig a Thyn-y-celyn. Mae nifer o’r ffermydd mwyaf anghysbell ar lechweddau yn wag bellach, gan gynnwys Tyn-y-llwyn, ac mae bwthyn gadawedig yng Ngardden-fach ar ochr ddeheuol y dyffryn. Mae clwstwr o fythynnod o’r 18fed ganrif hwyr a dechrau’r 19eg ganrif ar dir comin gynt a lechfeddiannwyd yn rhan gul y dyffryn ag ochrau serth yn Commins, lle mae’r adeiladau wedi eu codi o gerrig a chwarelwyd yn ogystal â cherrig crynion. Codwyd capel Carmel ym 1836 a’i ailgodi ym 1861, a bellach fe’i trowyd yn gartref.

Ar gyfer pori y defnyddir y tir heddiw. Ceir gwrychoedd â rhywogaethau cymysg ar ymyl y ffordd ac mae tystiolaeth o osod gwrychoedd yn y dull traddodiadol yn y gorffennol. Weithiau ceir pyst giatiau o gerrig garw wrth fynedfeydd i gaeau. Ar y llethrau llai serth ar ochr dde-ddwyreiniol y dyffryn ceir caeau unionlin cymedrol eu maint a nifer o gaeau cynharach gyda therfynau cromlin a ddiffinnir gan bonciau cerrig a waliau sych hyd at 1.5m ar draws ac 1m mewn uchter a wnaed trwy glirio cerrig, ac mae llawer ohonynt erbyn hyn wedi syrthio. Mae’n debyg bod yma dir a gaewyd yn ystod yr 17eg/18fed ganrif. Mae rhai o’r ponciau a’r waliau’n cynnal gwrychoedd a dorrwyd yn isel, gwrychoedd sydd wedi gordyfu neu goed neu brysgwydd hwnt ac yma. Mewn rhai achosion, yn y fan hon ac ar yr ochr ogleddol, tua blaen y dyffryn, diffinnir caeadleoedd mwy gan bonciau o gerrig a gliriwyd ac fe’u hisrannwyd gan wrychoedd un rhywogaeth (draenen wen) heb bonciau. Ceir carneddau clirio na wyddys eu dyddiad i sicrwydd ar dir llechweddog mewn rhai mannau mwy caregog. Ceir ponciau caeau creiriol mewn rhai achosion lle mae nifer o gaeau wedi eu huno.

Caeau bychain ac afreolaidd gyda waliau sychion, yn dyddio o’r canoloesoedd a’r canoloesoedd hwyr, ar lawr y dyffryn ac ar yr ochrau yn y rhan sydd i’r gorllewin o fferm Commins i flaen y dyffryn, ac mae linsiedi yn rhai ohonynt sy’n arwydd o waith aredig gynt. Mae’r waliau, y mae rhai ohonynt wedi syrthio, wedi eu gwneud o gerrig crwn a gafwyd trwy glirio caeau yng ngwaelod y dyffryn. Ceir nifer o waliau a wnaed o dalpiau o lechen ym mhen y dyffryn. Mae rhannau gwastataf y tir amaeth a’r enwau caeau sy’n cynnwys yr elfen ‘maes’ yng nghyffiniau ffermydd Maes-y-bwch yn awgrymu fod yma randiroedd âr agored yn y canoloesoedd.

Ceir nifer o gorlannau at ymylon y tir amgaeedig. Cyrhaeddir y tir pori uwch yn bennaf drwy ddilyn y nentydd ym mhen uchaf y cwm ac ar hyd nifer o gymoedd ochrol lle mae nant gan gynnwys Cwm-ffynnon i’r gogledd o Faes-y-bwch. Mae ffordd ucheldirol fodern yn igam-ogamu ar draws y bryn i’r gorllewin o Dan-y-graig sydd, mae’n debyg, yn dilyn cwrs ffordd hynach a ddangosir gan olion llwybr llydan plethedig.

Ceir darnau o goetir dailgoll a derw cymysg hanner naturiol ar y llethrau serth ar hyd ochrau’r dyffryn ac yng Nghwm-ffynnon, gyda chlystyrau o goed ysgaw ar lannau’r nentydd ac ar hyd glannau’r Afon Rhaeadr. Planigfeydd conifferaidd bychain a choed mwy wedi eu gwasgaru.

Coed coniffer addurniadol a phrysgwydd bocs o gwmpas Neuadd Pen-y-bryn a’i dreif, yn uchel ar ochr ogleddol y dyffryn.

Mae’r dyffryn yn enwog oherwydd yma mae Pistyll Rhaeadr, y rhaeadr drawiadol ym mlaen y dyffryn ac un o’r atyniadau i ymwelwyr i Ogledd Cymru ers y 18fed ganrif. Ffordd dyrpeg oedd y ffordd ar hyd y dyffryn i gynorthwyo twristiaid y pryd, a bu raid codi pont un-bwa dros Nant Cwm-ffynnon ym Maes-y-bwch. Yn gyffredinol mae’r ffordd gyhoeddus wedi ei thorri i’r llechwedd, ac mewn mannau mae ynddi gerrig crynion. Ceir cerrig milltir o lechen ar ochr ogleddol y ffordd a godwyd gan Ddosbarth Wrecsam, Cyngor Sir Ddinbych ym 1903. Cysylltir y tri maen enfawr wrth droed y rhaeadr â chwedl y Cawr Berwyn, a’i wraig a’i forwyn.

Ffynonellau

Britnell 1994a
Evans 1994
Hancock 1871; 1872; 1873; 1875
Haslam 1979
Richards 1934b
Williams 1990

Remote and isolated, deeply glaciated valley with clustered small farms, some abandoned, with small enclosed fields on lower slopes and valley bottom, dramatic waterfall, associations with the giant Cawr Berwyn.