Skip to main content

Tir comin ar ymyl deheuol y Berwyn a gaewyd yn ystod y 19eg ganrif ac a wellwyd.

Cefndir Hanesyddol

Cynrychiolir tystiolaeth o weithgaredd yn ystod yr Oes Efydd gynnar gan ddarnau o grochenwaith o’r ardal sy’n edrych dros Nant y Llyn yn ymyl blaen Cwm Blowty. Roedd yr ardal yn rhan o blwyd eglwysig Llanrhaeadr-ym-Mochnant, Sir Ddinbych ac roedd hefyd yn rhan o hen gwmwd Mochnant Is Rhaeadr.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Ucheldir toredig gogledd Cwm Blowty, ar ymyl deheuol y Berwyn rhwng tua 330-630m uwch lefel y môr, gyda llechweddau serth sy’n wynebu’r de, yn bennaf.

Darnau o ucheldir pori a wellwyd ac nas gwellwyd gydag eithin, grug, prysgwydd a choed ar y llethrau uwch nas gwellwyd. Pyst a gwifren yn rhannol yw terfynau’r caeau ond ceir hefyd grid o waliau cerrig a gafwyd trwy glirio caeau yn rhannau o ochr orlewinol yr ardal sy’n edrych dros Gwm Blowty. Ceir planhigfa gonifferaidd ar ochr ddwyreiniol Cwm Ffynnon.

19th-century enclosure and improvement of upland common on southern edge of the Berwyns