Skip to main content

Caeau hirsgwar mawr gyda gwrychoedd fel terfynau ar deras gwastad ychydig yn uwch na llawr y dyffryn, gydag amrywiaeth o gofaleiliau ôl cnydau, cynhanesyddol ac angladdol a maen hir.

Cefndir Hanesyddol

Mae’r ardal cymeriad o fewn plwyf eglwysig canoloesol Llanrhaeadr-ym-Mochnant, ac mae o fewn hen gwmwd Mochnant Is Rhaeadr, Sir Ddinbych.

Dangosir gweithgarwch tebygol o’r cyfnod Neolithig hwyr a’r Oes Efydd gynnar yn yr ardal cymeriad gan hengor tebygol a dau gylch pren a’r maen hir mawr ym Maesmochnant, sy’n gyfadail cynhanesyddol defodol o bwys rhwng Meusydd a Maesmochnant-uchaf. Mae’r cyfadail hefyd yn cynnwys nifer o ffosydd crwn, sef mae’n debyg dwmpathau claddu sydd wedi eu haredig. I bob golwg, mae twmpath mawr ychydig i’r dwyrain o faen hir Maesmochnant, wrth ymyl y teras, yn dwmpath claddu mawr sydd wedi goroesi’r aredig yn rhannol. Hefyd, yn ardal Meysydd, i’r gogledd-orllewin – ac yn ymyl mynwent fodern, trwy gyd-ddigwyddiad – fe ddangosodd ffotograffiaeth o’r awyr fynwent yn cynnwys o leiaf 40 bedd sy’n gorwedd tua dwyrain-gorllewin. Nid yw cyd-destun hanesyddol y fynwent hon yn sicr, o gofio bod eglwys Llanrhaeadr-ym-Mochnant, i bob golwg, wedi ei sefydlu erbyn y nawfed ganrif o leiaf, ond mae dyddiad yn y cyfnod canoloesol cynnar yn ymddangos yn fwy tebygol. Gwyddys am nifer o olion cnydau eraill yn yr ardal sydd i bob golwg yn awgrymu patrwm o gaeadleoedd neu derfynau caeau, ond ansicr yw eu dyddiad.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Teras gwastad ychydig yn donnog ac ychydig yn uwch na llawr y dyffryn, rhwng tua 120-50m uwch lefel y môr. Mae’r ardal wedi ei draenio’n dda a dani mae graean gyda nifer o balaeosianelau plethog o’r cyfnod rhewlifol hwyr neu’r cyfnod ôl-rewlifol cynnar sydd i’w gweld ar ffurf olion cnydau mewn awyrluniau.

Cyfyngir anheddiad modern yn yr ardal i ddwy fferm yn bennaf, sef Maesmochnant-uchaf a Maesmochnant-isaf, ychydig yn llai nag 1km ar wahân i’w gilydd. Mae gan Maesmochnant-uchaf ffermdy carreg o’r 18fed ganrif gydag adeiladau allanol o gerrig o’r 18fed/19eg ganrif ac adeiladau allanol o frics o’r 20fed ganrif. Mae’r adeiladau carreg wedi eu gwneud o gerrig crynion a gafwyd mae’n debyg trwy glirio caeau ac o afonydd. Mae gan Ty’n-y-maes ffermdy cerrig o’r 19eg ganrif ac adeiladau allanol, y mae rhan ohonynt wedi eu gwneud o frics. Mae’r tai modern ym Meysydd y tu allan i’r ardal cymeriad hon.

Caeau hirsgwar mawr gyda gwrychoedd aeddfed a dorrwyd yn isel fel arfer, ac sy’n cynnwys rhywogaethau cymysg gan gynnwys y ddraenen wen, collen, onnen. Ceir coed derw aeddfed gwasgaredig yn y terfynau caeau a gwern talach ar lannau’r Afon Iwrch ac Afon Rhaeadr. Yn ystod y canoloesoedd cynnar a’r canoloesoedd, mae’n debyg bod yr ardal yn cynnwys y cae aredig agored neu gaeau’r dref a oedd yn perthyn i dref farchnad fechan Llanrhaeadr-ym-Mochnant sydd tua 1km i’r gogledd-orllewin. Mae gan nifer o gaeau enwau â’r gair ‘maes’, sy’n awgrymu eu bod yn dir aredig agored, yn ogystal â’r tair fferm ar ymylon yr ardal – Ty’n-y-maes, Maesmochnant-isaf a Maesmochnant-uchaf. Mae’n ymddangos felly fod y patrwm caeau modern a rheolaidd yn ganlyniad i gau caeau canoloesol y dref yn ystod y 18fed ganrif.

Nifer o byst giatiau carreg sgwâr wrth fynedfeydd i’r caeau ar y brif ffordd.

Mae’r gyffordd bwysig lle mae’r ffordd o Langedwyn i Lanrhaeadr-ym-Mochnant yn gadael y ffordd i Langynog yn gorwedd yng ngahnol yr ardal hon. Ffyrdd tyrpeg o flynyddoedd olaf y 18fed ganrif yw’r rhain; maent ychydig yn uwch na lefel y caeau o’u cwmpas ac maent yn torri ar draws nifer o derfynau caeau blaenorol. Mae’r ffyrdd llai yn yr ardal yn rhedeg mewn ceuffyrdd. Croesir yr ardal gan Reilffordd Dyffryn Tanat y gellir ei holrhain mewn mannau, ac mewn mannau mae coed a phrysgwydd wedi ymsefydlu erbyn hyn. Mae rhan o iard gorsaf ‘Llanrhaiadr Mochnant’, i’r gogledd o Faemochnant-uchaf, yn dal i gael ei defnyddio ar gyfer cadw nwyddau.

Yn ôl y traddodiad codwyd maen hir Maes Mochnant er mwyn rhwystro’r difrod a achoswyd yn y wlad o gwmpas gan ddraig neu sarff – a lladdwyd y creadur yn y diwedd pan daflodd ei hun yn erbyn y garreg.

Ffynonellau

Britnell 1991
Hancock 1871
Sayce 1930
St Joseph 1979
Richards 1934b
Wren 1968

Large rectangular fields with hedge boundaries on flat terrace slightly raised above the valley bottom, with complex of cropmark prehistoric and funerary monuments and standing stone.