Neidio i'r prif gynnwys

Tirwedd eithaf syml, yn cynnwys ystad Abaty Tyndyrn yn Grangefield.

Cefndir Hanesyddol

Mae’n debyg i’r ardal hon gael ei hamgáu a’i draenio tua’r drydedd neu’r bedwaredd ganrif ar ddeg.

Fferm a oedd yn eiddo i fynachod Abaty Tyndyrn oedd Grangefield. Amgaewyd a draeniwyd yr ardal i’r dwyrain, a elwid yn “Black Moores”, ganddynt, yn y drydedd neu’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn ôl pob tebyg.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Unffurfiaeth, ystod gyfyngedig o nodweddion, cloddwaith – maenor fynachaidd, ffin fynachaidd, patrwm caeau rheolaidd, lonydd syth heb wastraff, aneddiadau gwasgaredig ar y cyrion, nodweddion draenio (ffosydd draenio, cefnennau/draeniau agored, system o afaelion)

Ardal ychydig yn is a leolir i mewn i’r tir o ardal arfordirol Redwick. Yn ffinio â hi mae Whitson (ardal 3) i’r gorllewin, Green Moor Wall/Rush Wall i’r gogledd (ardal 9), ac Ffosydd Ynys Mead/Mere i’r de (ardaloedd 6 a 7).

Nodweddir yr ardal hon o dirwedd gan ei hunffurfiaeth a’r ystod gyfyngedig o nodweddion tirwedd; patrwm rheolaidd o ffiniau caeau, a nifer gymharol fach o lonydd, pob un ohonynt yn syth a heb wastraff ymyl ffordd, a nifer fach iawn o aneddiadau. Dim ond tair fferm anghysbell, pob un ohonynt ar y cyrion (sef Ffermydd Grangefield, Greenmoor a Greenfield) sydd yn yr ardal.

Mae gwrthgloddiau fferm Abaty Tyndyrn wedi goroesi gerllaw Grangefield, ac maent yn gofrestredig. Mae ychydig o olion clawdd wedi goroesi ar hyd Ffos Mere (y gair am ffin yn Hen Saesneg), sef y ffin rhwng caeau agored Redwick yn Broadmead (ardal 7) a Thiroedd Abaty Tyndyrn i’r gogledd yn ôl pob tebyg. Ceir rhai systemau o afaelion sydd wedi’u cadw mewn cyflwr da, yn arbennig i’r dwyrain o Grangefield.

Mae’r dirwedd o amgylch Grangefield o bwys mawr yn hanesyddol oherwydd ei chysylltiadau mynachaidd, ac mae iddi werth grwp uchel; mae’r ardal hon mewn tipyn gwell cyflwr na gweddill ardal 8.

Er bod y cyfan o’r rhandir hwn o dirwedd wedi goroesi, ac er ei fod yn gydlynus iawn (yn arbennig o amgylch Grangefield), mae wedi colli ei gyfanrwydd i raddau oherwydd dulliau ffermio dwys y cyfnod modern.

Er bod yr ardal gymeriad hon yn gyfan i raddau helaeth, mae rhannau ohoni mewn cyflwr gwael wedi iddynt gael eu haredig ar raddfa fawr ac wedi i wrychoedd gael eu clirio. Mae pen pellaf y rhan orllewinol mewn gwell cyflwr, lle y ceir gwrychoedd prysglog gan mwyaf, a rhai sy’n llawn coed.

Fodd bynnag, mae’r ardal hon yn bwysig fel clustogfa rhwng y datblygiadau diwydiannol a masnachol i’r gogledd, a’r dirwedd i’r de sydd wedi’i chadw mewn cyflwr gwell ac sy’n fwy diarffordd. Er nad yw natur agored iawn y dirwedd yn cuddio’r Gwaith Dur na datblygiadau Gwent Europark o’r golwg ryw lawer ar hyn o bryd, gallai hyn newid.

Ffynonellau

Fairly simple landscape, including Tintern Abbey's estate at Grangefield.