“Tirwedd reolaidd” yn dyddio o’r cyfnod Rhufeinig.
Cefndir Hanesyddol
Yn sgîl ymchwiliadau archeolegol yng Nglanfa Fawr Rhymni, i’r de o Fferm Newton yn Rhymni, cadarnhawyd i’r dirwedd hon gael ei chynllunio yn ystod y cyfnod Rhufeinig. Mae’n debyg i’r ardal gael ei draenio gan lengwyr Rhufeinig a oedd wedi’u lleoli yng Nghaerllion.
Sefydlwyd pentref Llanbedr ac anheddiad ar hyd Tir Comin Broadstreet pan ddechreuodd pobl symud i’r ardal eto yn y cyfnod uwch ganoloesol. Symudwyd y morglawdd yn ôl ar ddiwedd y cyfnod canoloesol.
Roedd Llanbedr yn eiddo i Abaty Awstin Sant ym Mryste, ac mae’r cysylltiad hwn wedi dod yn rhan o draddodiad lleol.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Tirwedd reolaidd. Blociau trapesoidaidd o gaeau cul, hir iawn (a wnaed gan y Rhufeiniaid?) yw’r elfen amlycaf, comins stryd (rhai â ffermydd yn dyddio o’r cyfnod canoloesol), nodweddion draenio yn cynnwys ffosydd draenio, ffosydd a gafaelion, morglawdd (wedi’i osod yn ôl)
Mae’r dirwedd hon yn ymestyn dros ran ganolog Gwastadedd Gwynllwg, o’r ardal arfordirol uwch drwodd i’r gefnffen isel. Mae ardaloedd 16 a 21 i’r dwyrain o Ffos Broadway. Mae ardaloedd 8/19 i’r gogledd/gorllewin.
Nodweddir y dirwedd hon gan flociau trapesoidaidd o gaeau cul iawn, hir iawn. Mae nifer o elfennau echelinol pwysig yn cynnwys Tir Comin Broadstreet, enghraifft ardderchog o gomin stryd agored â ffermydd ar hyd ei ymyl wedi’u gosod yn ôl o’r ffordd. Mae’r morglawdd yn ymestyn yn anghydwedd ar draws y dirwedd, ac gellir gweld llinellau ffosydd caeau wedi’u torri i mewn i’r silff fawn rynglanw. Mae nifer fawr iawn o afaelion wedi goroesi mewn cyflwr da.
Fel enghraifft sydd wedi goroesi o ardal helaeth o dir a adferwyd gan y Rhufeiniaid, yn ddiau mae’n unigryw yng Nghymru, os nad gogledd-orllewin Ewrop. Mae natur gydryw ardaloedd mawr, wedi’u cynllunio mewn caeau cul eithriadol o hir, yn cyferbynnu â’r dirwedd gymhleth ar hyd Broadstreet, lle y ceir ffermydd yn dyddio o’r cyfnod canoloesol yn ymestyn ar hyd comin stryd agored.
Mae’r ardal o amgylch pentref Llanbedr, ac ar hyd Comin Broadstreet yn eithaf coediog. Fel arall, mae tirwedd yr ardal gymeriad yn eithaf agored, a cheir llawer o ffosydd caeau â chyrs yn hytrach na gwrychoedd. Mae i lawer o’r ardaloedd ymdeimlad cryf iawn o dirwedd o gaeau cul hir o hyd.
At ei gilydd mae’r dirwedd hon yn bwysig dros ben, ac erys ei chyfanrwydd a’i chydlyniant i raddau helaeth. Ar y cyfan mae mewn cyflwr ardderchog, ar ôl iddi osgoi gwelliannau amaethyddol ar raddfa fawr. O’r morglawdd ceir golygfeydd da iawn, er bod datblygiadau diwydiannol i’r gorllewin a blerdwf trefol i’r gogledd yn amharu ar y golygfeydd hyn.
