Neidio i'r prif gynnwys

Mae penrhyn Gwyr yn ardal ddaearyddol wedi’i diffinio’n glir sy’n cynnwys amrywiaeth o dirweddau o glogwyni calchfaen serth a baeau tywodlyd tawel ar arfordir y de, pentiroedd hir, ysblennydd tua’r gorllewin, a thwyni tywod a chorsydd dw^ r heli ar hyd arfordir y gogledd. I mewn yn y tir, mae’r llwyfandir arfordirol tonnog, ysgafn yn ildio i fryniau a chefnau uwch, megis Cefn Bryn y pennaf, sy’n hollti’r penrhyn yn daclus yn ddau, er mai anaml y cyfyd y nodweddion hyn yn uwch na 180m uwchlaw SO. Yn yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol hon, y gyntaf ym Mhrydain (1956), ceir safleoedd archeolegol o’r mwyafrif o gyfnodau, o ogofâu Uwch Balaeolithig lle bu preswyliad, hyd at gestyll canoleosol a thirwedd gyda pharciau o’r 18fed ganrif, a cofadeiliau diwydiannol, sydd yn feicrocosm digymar o gyfoeth hanesyddol Cymru. Nodwyd isod y ddwy ardal fwyaf cyflawn, archeolegol gyfoethog, sydd wedi goroesi orau ar y penrhyn.

HLCA001 Llanrhidian Sands and the Lougher Estuary HLCA004 Llanrhidian and Landimore Salt Marsh HLCA002 Broughton Bay and Whiteford Sands HLCa003 Whiteford Burrows HLCA005 Cwm Ivy Marsh HLCA006 Burry Holms and the Tors HLCA007 Llanmadoc HLCA012 Llanmadoc Hill HLCA016 Kennexstone and Tankeylake HLCA017 Ryer's Down HLCA014 Tor-gro and North Hill Tor HLCA019 Bovehill and Landimore HLCA018 Cheriton and Burry Pill HLCA015 Landimore and Llanrhidian Reclaimed Land HLCA020 Weobley and Leason HLCA022 Llanrhidian HLCA027 Fairyhill HLCA026 Burry HLCA009 Llangenntih, Broughton and Hillend Burrows HLCA010 Llangennith Moor HLCA011 Llangennith HLCA025 Hardings Down HLCA028 Hillend HLCA035 Knelston Manor HLCA033 Henllys HLCA034 Llanddewi HLCA036 Stouthall HLCA037 Reynoldston HLCA023 Rhossili Down HLCA032 Pitton and Pilton HLCA031 Rhossili and Middleton HLCA013 Lower Rhossili Enclosed Coastal Strip HLCA030 The Vile HLCA029 Worm's Head and South West Gower Cliffs HLCA043 Paviland and Monksland HLCA044 Port Eynon HLCA050 Port Eynon Bay Sands HLCA045 Horton HLCA039 Newton HLCA040 Scurlage and Berry HLCA046 Penrice HLCA048 Oxwich HLCA049 Oxwich Bay Wooded Cliff Top HLCA054 Oxwich Marsh HLCA047 Penrice Park HLCA008 Rhossili Bay HLCA052 Oxwich Bay and Three Cliffs Bay Intertidal Zone HLCA053 Oxwich and Nicholaston Burrows HLCA055 Nicholaston Woods HLCA056 Nicholaston HLCA038 Cefn Bryn HLCA058 Penmaen and Pennard Burrows HLCA057 Penmaen HLCA063 Walterstone HLCA064 Parc le Breos HLCA070 Cillibion HLCA061 Pennard HLCA061 Pennard HLCA062 Southgate HLCA060 Pwlldu Head HLCA084 Bishopston Valley HLCA082 Kilvrough Manor HLCA051 Kittle HLCA066 Cil Ifor HLCA069 Welsh Moor and Forest Common HLCA071 Pengwern Common HLCA065 Lunnon HLCA073 Ilston Valley HLCA072 Ilston HLCA075 Swansea Airport HLCA074 Fairwood Common HLCA086 Bishopston HLCA085 Barland Common HLCA080 Wernllath HLCA076 Fairwood Golf Course HLCA067 Llanrhidian Higher HLCA068 Mynydd-bach-y-Cocs HLCA077 Hen Barc HLCA078 Clyne Castle HLCA079 Clyne Common HLCA041 Bishop's Wood HLCA087 Caswell Bay HLCA083 Newton Cliffs HLCA059 HLCA081 Langland Bay HLCA042 HLCA024 Thistleboon Fieldscape HLCA021 Oxwich Cliffs Back to main map

Gorllewin Gwyr

Mae amrywiaeth y ddaeareg a’r topograffeg yn ardal orllewinol y penrhyn yn rhyfeddol, ac yn dal cyswllt agos ag ymgais dyn i ecsbloetio’r ardal o’r cyfnod Uwch Balaeolithig hyd heddiw. Yn archeolegol, mae’r ardal yn enwog am yr olion Uwch Balaeolithig a gafwyd yn Ogof Longhole ac Ogofâu enwog Paviland a Deborah’s Hole, sy’n edrych dros eu tiroedd hela ar wastadeddau arfordirol a orchuddiwyd gan y môr ers amser maith. Mae olion da o aneddiadau a cheyrydd o Oes yr Haearn yn nodweddion amlwg y pentir yn y Cnaf a Phen Thurba. Ceir enghreifftiau da hefyd o odynau calch ar hyd y rhan hon o’r arfordir, yn arbennig ym Mhen Thurba. Erys y ty^ halen ym Mhorth Einion, a gadwyd yn ddiweddar, yn enghraifft unigryw o waith halen arfordirol o’r 16eg ganrif.

Mae ardal Rhosili a Thwyndir Rhosili tua’r gorllewin yn archeoloegol gyfoethog iawn. Yn ychwanegol at geyrydd pentir ar bennau’r clogwyni, mae yn Nhwyndir Rhosili nifer o siambrau claddu Neolithig a charneddau o Oes yr Efydd. Ar waelod y Twyndir, mae safle pentref canoloesol coll a hen eglwys Rhosili, a gladdwyd o dan y tywod yn niwedd y cyfnod canoloesol. Er hynny, y nodwedd amlycaf i oroesi yw’r gyfundrefn caeau agored canoloesol ryfeddol, a adwaenir fel y Vile. Mae’r ardal hon o dir âr oddeutu 390ha, ac fe’i rhennir yn stribedi canoloesol nodweddiadol rhwng 180m a 230m o hyd, a 15m i 70m o led. Mae pob bwndel o stribedi, gyda maint ar gyfartlaedd o 0.6ha (1.5 erw), wedi’u trefnu’n flociau mwy neu lai sgwâr, a phob un ag enwau arbennig megis Sandyland, Priest Hay a Bramble Bush. Cedwir patrwm y caeau heddiw gan gloddiau o bridd heb eu trin a waliau cerrig sych oddeutu 1m o led, a wybyddir fel ‘landshares’. Edrychant fel llwybrau ar godiad, ac yn wir, fe’u defnyddid fel llwybrau yn aml. Mae’r ffaith bod y gyfundrefn ganoloesol hon o gaeau agored, sydd bron yn unigryw, wedi goroesi yn fater o bwys cenedlaethol, yn arbennig gan fod bygythiad iddi o hyd o du gweithgareddau amgáu tir.

Ymhellach i’r gogledd, mae ardal Llangennydd, Lagadranta a Broughton, ardal o rostir isel, twyndir, twyni tywod a thir amaethyddol, a llawer ohono yn dir comin. Mae’r prif ddiddordeb archeolegol wedi’i ganoli o gwmpas Burry Holms, holm yw’r term Llychlynaidd am ynys. Ar yr ynys, mae caer bentir sy’n dyddio o Oes yr Haearn. Y mae yno hefyd olion capel, sy’n arwydd y bu sefydliad crefyddol yma ers y Canol Oesoedd o leiaf. I mewn yn y tir, mae eglwys Llangennydd, sef y mwyaf ym Mhenrhyn Gwyr, wedi’i chysegru i Sant Cennydd, y dywed traddodiad iddo gael ei olchi i’r lan ar Burry Holms. I’r de o’r eglwys, gorweddai coleg a phriordy canoloesol, a oedd yn gwneud Llangennydd yn un o aneddfannau crefyddol mwyaf nodedig penrhyn Gwyr. Uwchben ac yn goruchafu Llangennydd o’r de ddwyrain, mae Twyndir Hardings, sydd â nifer o safleoedd cynhanesyddol pwysig, gan gynnwys dwy fryngaer o Oes yr Haearn sy’n agos at ei gilydd.

I’r gogledd, mae moryd Burry, ardal eang o gors dw^ r heli yn aber Afon Llwchwr. Dyma ganolfan aneddiadau cynnar, ac yr oedd gan lawer o’r bryniau neu’r pentiroedd sy’n edrych dros y foryd eu haneddiadau caerog eu hunain megis y Y Bwlwarc i’r de orllewin o Cheriton. Mae aneddiadau Llanmadog a Cheriton yn adlewyrchu’r dylanwadau Eingl- Normanaidd ar y tirwedd. Cydnabyddir Eglwys Sant Cadog yn Cheriton fel un o’r eglwysi prydferthaf o eglwysi Gwyr.

Cefn Bryn

Mae cefnen hir ac amlwg Cefn Bryn yn goruchafu’r gorwel dros lawer o benrhyn Gwyr. Cyfyd i 188m uwchben SO ac ymestyn 6.5km o’r dwyrain i’r gorllewin rhwng aneddiadau Penmaen a Stembridge. Dyma, yn ddiau, un o ardaloedd archeolegol cyfoethocaf De Cymru, gyda nifer fawr o gofadeiliau wedi goroesi ar grib a llethrau’r gefnen, ac yn rhoi tystiolaeth amlgyfnod o weithgaredd dynol, ers o leiaf y 4ydd neu’r 3ydd mileniwm cyn Crist.

Hwyrach mai siambr gladdu Neolithig gymunedol oedd Maen Ceti ger Reynoldston. Cloddiwyd aneddfan dros dro, yn dyddio yn gynnar o’r 3ydd mileniwm cyn Crist, yn agos i Maen Ceti, yng Ngharn Fawr, cofadail gladdu mwy diweddar o Oes yr Efydd. Er mai Maen Ceti, Carn Fawr a charneddi adeiledig eraill yw’r safleoedd cynhanesyddol amlycaf ar Gefn Bryn, mae digon o dystiolaeth bod clirio cerrig wedi digwydd ar raddfa fawr ar wyneb y gefnen ar gyfer amaethyddiaeth. Cofnodir clystyrau o garneddi bach ar y gefnen, canlyniad, mae’n debyg, i glirio cerrig cynhwysfawr: mae 200 yn hysbys ar hyn o bryd. Gwyddys am tua dwsin o safleoedd twmpathau llosg (tomennydd o gerrig maluriedig llosg, golosg a phridd wedi duo, dan orchudd o fawn), yn agos i lynnoedd neu ffrydiau lle bu iddynt hel, o bosibl, o ganlyniad i boethi cerrig i ferwi dw^ r ar gyfer coginio cymunedol ar wahanol adegau yn ystod y cyfnod cynhanesyddol. Yn ystod Oes yr Haearn, mae tystiolaeth o aneddiadau dynol o gwmpas cyrion yr ardal mewn safleoedd megis y bryngaerau neu’r amgaeadau yn Stembridge, Reynoldston, Coed Crawley a Chilifor.

Bu gosod y gyfundrefn faenoraidd ar Gw^ yr yn y cyfnod canoloesol yn ddylanwad pwysig ar ddefnydd tir yng Nghefn Bryn, a oedd yn nhiriogaeth Brodoraeth Arglwyddiaeth Gwyr. Yn gyffredinol, tiroedd salach oedd yn y Frodoraeth, a gwastraff maenorol oedd Cefn Bryn, gyda hawliau comin wedi’u sefydlu drosto, ac wedi aros hyd heddiw. Yn y cyfnod ôl-ganoloesol, gwanethpwyd ymdrechion i wella gwerth amaethyddol y comin, fel y gellir gweld o’r prosesau o ddefnyddio odynau calch tywyrch i gynhyrchu calch er mwyn lleihau asidedd y pridd. Parhau wnaeth ymdrechion dyn i ecsbloetioir comin hyd heddiw, gyda chodi nifer o safleoedd gynnau milwrol, cronfeydd dwr a chwareli.

Character Areas

Intertidal landscape: beach; buried archaeology; and fishing.

Bae Caswell

Tirwedd rynglanwol: traeth; archeoleg gladdedig; a physgota. Cefndir Hanesyddol The historic landscape area of Caswell Bay is bounded by the limits of enclosed land, cliff edge and lies…
Gweld mwy Bae Caswell
Yn ôl i'r map
Post-medieval/medieval settlement and agricultural landscape: nucleated settlement; post-medieval vernacular buildings; varied, formerly more regular enclosed fieldscape and road network; early medieval/medieval ecclesiastic association; rural industry - extraction/processing; and buried archaeology.

Llandeilo Ferwallt

Tirwedd anheddu a thirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol/canoloesol: anheddiad cnewyllol; adeiladau brodorol ôl-ganoloesol; caelun amrywiol a arferai fod yn gaelun amgaeëdig mwy rheolaidd a rhwydwaith ffyrdd; cysylltiad eglwysig yn dyddio… Yn ôl i'r map
Unenclosed common land: unmanaged scrub; communication routes; water features; and buried archaeology.

Tir Comin Barland

Tir comin agored: prysgwydd nas rheolir; llwybrau cysylltu; nodweddion dwr; ac archeoleg gladdedig. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Tir Comin Barland yn cyfateb i'r tir comin agored… Yn ôl i'r map
River valley landscape: ancient woodland; caves; prehistoric domestic/defensive settlement; industrial features; exploitation of natural resources; communication networks; post-medieval ruined buildings.

Dyffryn Llandeilo Ferwallt

Tirwedd dyffryn afon: coetir hynafol; ogofâu; aneddiadau domestig/amddiffynnol cynhanesyddol; nodweddion diwydiannol; ymelwa ar adnoddau naturiol; llwybrau cysylltu; adeiladau adfeiliedig ôl-ganoloesol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Dyffryn Llandeilo… Yn ôl i'r map
Unenclosed coastal margin: findspots; and footpaths.

Clogwyni Newton

Ymyl arfordirol agored: mannau darganfod; a llwybrau troed. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol clogwyni Newton yn cyfateb i ymyl clogwyn agored ar arfordir de-ddwyreiniol Bro Gwyr rhwng… Yn ôl i'r map
Post-medieval gentry estate, designed parkland landscape: well-preserved late eighteenth/early nineteenth century house and grounds; formal and informal gardens; folly; associated buildings; and historic associations.

Maenor Cil-frwch

Ystâd fonedd ôl-ganoloesol, tirwedd parcdir a gynlluniwyd: ty a gerddi mewn cyflwr da sy'n dyddio o ddiwedd y ddeunawfed ganrif/dechrau'r bedwaredd ganrif ar bymtheg; gerddi ffurfiol ac anffurfiol;… Yn ôl i'r map
Intertidal landscape: beach and shingle; marine exploitation; trade and transportation; and shipwrecks (off shore).

Bae Langland

Tirwedd rynglanwol: traeth a graean bras; ymelwa ar y môr; masnach a thrafnidiaeth; a llongddrylliadau (ar y môr). Cefndir Hanesyddol Diffinnir ardal tirwedd hanesyddol Bae Langland gan derfynau…
Gweld mwy Bae Langland
Yn ôl i'r map
Largely Post-medieval agricultural landscape: varied, largely irregular fieldscape pattern; early post-medieval encroachment; traditional boundaries; dispersed post-medieval settlement and related features; and relict medieval features including medieval ringwork.

Wernllath

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol yn bennaf: patrwm caeau amrywiol, sydd at ei gilydd yn afreolaidd; gweithgarwch tresmasu yn dyddio o ddechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol; ffiniau traddodiadol; anheddiad ôl-ganoloesol gwasgaredig a…
Gweld mwy Wernllath
Yn ôl i'r map
Unenclosed common land: communication routes; leisure; water features; buried archaeology.

Tir Comin Clyne

Tir comin agored: llwybrau cysylltu; hamdden; nodweddion dwr; archeoleg gladdedig. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Tir Comin Clyne yn cynnwys tir comin iseldirol a elwir fel arfer… Yn ôl i'r map
Post-medieval gentry estate, designed park, and woodland landscape: gentry house, and related estate buildings; gardens and ornamental woodland park; Ancient and other woodland: woodland management features; industrial remains; medieval deer park; minor relict agricultural and transport features.

Clyne Castle

Ystâd fonedd ôl-ganoloesol, parc a gynlluniwyd, a thirwedd o goetir: ty bonedd, ac adeiladau ystâd cysylltiedig; gerddi a pharc coetir addurniadol; coetir hynafol a choetir arall: nodweddion rheoli…
Gweld mwy Clyne Castle
Yn ôl i'r map
Post-medieval agricultural and woodland landscape: varied, but generally irregular fieldscape; traditional boundaries; dispersed post-medieval settlement and related features; medieval deer park; woodland management; and industrial features.

Hen Barc

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol sy'n cynnwys: caelun amrywiol, ond sydd at ei gilydd yn afreolaidd; ffiniau traddodiadol; anheddiad ôl-ganoloesol gwasgaredig a nodweddion cysylltiedig; parc ceirw canoloesol; rheoli coetir; a…
Gweld mwy Hen Barc
Yn ôl i'r map
Remodelled largely designed landscape: tourism and leisure; former agricultural landscape; and woodland.

Parc a Chwrs Golff Fairwood

Tirwedd wedi'i hailfodelu a gynlluniwyd i raddau helaeth: twristiaeth a hamdden; cyn-dirwedd amaethyddol; a choetir. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Parc a Chwrs Golff Fairwood yn cynnwys… Yn ôl i'r map
International airport/WWII aerodrome: WWII features; former funerary and ritual sites; and former minor communication routes.

Maes Awyr Abertawe

Maes awyr rhyngwladol/erodrom yn dyddio o'r Ail Ryfel Byd: nodweddion yn gysylltiedig â'r Ail Ryfel Byd; cyn-safleoedd angladdol a defodol; a chyn-lwybrau cysylltu llai pwysig. Cefndir Hanesyddol Mae… Yn ôl i'r map
Unenclosed common land: WWII features; post-medieval industrial features; communication routes; and water features.

Mynydd Llwynteg

Tir Comin Agored: nodweddion yn gysylltiedig â'r Ail Ryfel Byd; nodweddion diwydiannol ôl-ganoloesol; llwybrau cysylltu; a nodweddion dwr. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Mynydd Llwynteg yn cyfateb… Yn ôl i'r map
River valley landscape: ancient woodland; agricultural industrial landscape with medieval origins: milling; linear settlement cluster; and non-conformist chapels.

Cwm Ilston

Tirwedd dyffryn afon: coetir hynafol; tirwedd amaethyddol ddiwydiannol a sefydlwyd yn ystod y cyfnod canoloesol: melino; clwstwr anheddiad llinellol; a chapeli anghydffurfiol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol…
Gweld mwy Cwm Ilston
Yn ôl i'r map
Post-medieval/medieval agricultural and settlement landscape: varied fieldscape; woodland; nucleated settlement; medieval farmsteads; post-medieval industrial features; historical religious associations; and communication routes.

Llanilltud Gwyr

Tirwedd amaethyddol a thirwedd anheddu ôl-ganoloesol/canoloesol: caelun amrywiol; coetir; anheddiad cnewyllol; ffermydd canoloesol; nodweddion diwydiannol ôl-ganoloesol; cysylltiadau crefyddol hanesyddol; a llwybrau cysylltu. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol… Yn ôl i'r map
Unenclosed common land: unmanaged scrub; communication routes; water features; buried archaeology.

Tir Comin Pengwern

Tir comin agored: prysgwydd nas rheolir; llwybrau cysylltu; nodweddion dwr; archeoleg gladdedig. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Tir Comin Pengwern yn cyfateb i'r tir comin agored a… Yn ôl i'r map
Post-medieval agricultural and woodland landscape and former medieval grange: remnant medieval fieldscape; farmsteads; post-medieval industrial features; woodland management; deserted medieval settlement; buried archaeology; and communication routes.

Cillibion

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol sy'n cynnwys coetir a chyn-faenor ganoloesol: caelun canoloesol gweddilliol; ffermydd; nodweddion diwydiannol ôl-ganoloesol; rheoli coetir; anheddiad canoloesol anghyfannedd; archeoleg gladdedig; a llwybrau cysylltu. Cefndir Hanesyddol…
Gweld mwy Cillibion
Yn ôl i'r map
Unenclosed common land: unmanaged scrub; communication routes; and buried/relict archaeological features.

Welsh Moor a Thir Comin Forest

Tir comin agored: prysgwydd nas rheolir; llwybrau cysylltu; a nodweddion archeolegol claddedig/creiriol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Welsh Moor a Thir Comin Forest yn cyfateb i'r tir… Yn ôl i'r map
Unenclosed common land: exploitation of natural resources; industrial features; communication routes; and water features.

Mynydd-bach-y-Cocs

Tir comin agored: ymelwa ar adnoddau naturiol; nodweddion diwydiannol; llwybrau cysylltu; a nodweddion dwr. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Tir Comin Mynydd-bach-y-cocs yn cyfateb i'r tir comin… Yn ôl i'r map
Post-medieval/medieval agricultural, settlement and industrial landscape: varied, largely irregular fieldscape; medieval and early post-medieval encroachment; ancient woodland and small remnant commons; traditional boundaries; dispersed settlement, some with medieval precursors; relict and buried archaeology: deserted medieval settlements, ecclesiastic sites and prehistoric enclosures; industrial archaeology.

Llanrhidian Uchaf

Tirwedd amaethyddol, tirwedd anheddu a thirwedd ddiwydiannol ôl-ganoloesol/canoloesol: caelun amrywiol, afreolaidd yn bennaf; gweithgarwch tresmasu yn dyddio o'r cyfnod canoloesol a dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol; coetir hynafol a thiroedd… Yn ôl i'r map
Prehistoric and medieval defended settlement landscape (Cil Ifor hillfort and ringwork): post-medieval agricultural enclosure; scrub and woodland; relict and buried archaeology; water features.

Cil Ifor

Tirwedd o aneddiadau amddiffynedig cynhanesyddol a chanoloesol (bryngaer ac amddiffynfa gylch Cil Ifor): caeau amaethyddol ôl-ganoloesol; prysgwydd a choetir; archeoleg greiriol a chladdedig; nodweddion dwr. Cefndir Hanesyddol Yn…
Gweld mwy Cil Ifor
Yn ôl i'r map
Medieval/Post-medieval agricultural and settlement landscape and former medieval grange/manorial centre over part of deer park: largely regular fieldscape; traditional boundaries; dispersed post-medieval farmsteads; relict and buried archaeology; agri-industrial features.

Lunnon

Tirwedd amaethyddol a thirwedd anheddu ganoloesol/ôl-ganoloesol a chyn-faenor/canolfan faenoraidd ganoloesol dros ran o'r parc ceirw: caelun rheolaidd yn bennaf; ffiniau traddodiadol; ffermydd ôl-ganoloesol gwasgaredig; archeoleg greiriol a chladdedig;…
Gweld mwy Lunnon
Yn ôl i'r map
Post-medieval agricultural landscape and former medieval deer park: irregular evolved enclosures and dispersed post-medieval farmsteads; ancient woodland; river valley landscape; relict and buried archaeology; agri-industrial features; postulated medieval ecclesiastic/manorial centre.

Parc le Breos

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol a chyn-barc ceirw canoloesol: caeau afreolaidd a ffermydd ôl-ganoloesol gwasgaredig; archeoleg greiriol a chladdedig; nodweddion amaeth-ddiwydiannol; canolfan eglwysig/maenoraidd ganoloesol ragdybiedig. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd… Yn ôl i'r map
Post-medieval agricultural landscape and former medieval grange: post-medieval enclosure and remnant medieval stripfields; scattered farmsteads; deserted medieval settlement; scrub and woodland; buried archaeology.

Walterston

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol a chyn-faenor ganoloesol: caeau ôl-ganoloesol a llain-gaeau canoloesol gweddilliol; ffermwydd gwasgaredig; anheddiad canoloesol anghyfannedd; prysgwydd a choetir; archeoleg gladdedig Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol…
Gweld mwy Walterston
Yn ôl i'r map
Post-medieval agricultural settlement, and later twentieth century settlement landscape: dispersed farmsteads/cottages now dominated by 20th century ribbon development and estate infilling, post-medieval vernacular architecture; and twentieth century coastal type housing including villas.

Southgate

Anheddiad amaethyddol ôl-ganoloesol, a thirwedd anheddu ddiweddarach yn dyddio o'r ugeinfed ganrif: ffermydd/bythynnod gwasgaredig sydd wedi'u bwrw i'r cysgod bellach gan ddatblygiadau strimynnog a gwaith mewnlenwi ystadau yn…
Gweld mwy Southgate
Yn ôl i'r map
Well-preserved post-medieval/medieval agricultural landscape: fossilised medieval/early post-medieval strip fields; dispersed post-medieval agricultural settlement; post-medieval farmsteads/cottage; post-medieval agri- industrial features; isolated medieval church and early ecclesiastical associations.

Pennard

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol/canoloesol sydd mewn cyflwr da: llain-gaeau canoloesol/ôl-ganoloesol ffosiledig; aneddiadau amaethyddol ôl-ganoloesol gwasgaredig; ffermydd/bythynnod ôl-ganoloesol; nodweddion amaeth-ddiwydiannol ôl-ganoloesol; eglwys ganoloesol ar wahân a chysylltiadau eglwysig cynnar. Cefndir…
Gweld mwy Pennard
Yn ôl i'r map
Intertidal zone and unenclosed coastal cliff margin landscape: prehistoric settlement and defensive sites; caves; multi-period finds and ecofacts; agri-industrial processing; historic, largely maritime associations; and livestock management features.

Pwlldu Head

Parth rhynglanwol a thirwedd ymyl arfordirol agored: safleoedd anheddu a safleoedd amddiffynnol cynhanesyddol; ogofâu; darganfyddiadau ac ecoffeithiau amlgyfnod; prosesu amaeth-ddiwydiannol; hanes, cysylltiadau arforol yn bennaf; a nodweddion rheoli…
Gweld mwy Pwlldu Head
Yn ôl i'r map
Remodelled and designed former agricultural landscape: tourism and leisure; former agri-industrial features.

Cwrs Golff Bae Langland

Cyn-dirwedd amaethyddol a ail-fodelwyd ac a gynlluniwyd: twristiaeth a hamdden; cyn-nodweddion amaeth-ddiwydiannol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Cwrs Golff Bae Langland yn cynnwys cwrs Golff Bae Langland… Yn ôl i'r map
Besanded landscape: multi-period relict/buried archaeology; prehistoric funerary ritual features; relict medieval settlement; and agri-industrial features.

Twyni Tywod Penmaen a Pennard

Tirwedd wedi'i gorchuddio â thywod: archeoleg greiriol/gladdedig amlgyfnod; nodweddion angladdol a defodol cynhanesyddol; aneddiadau canoloesol creiriol; a nodweddion amaeth-ddiwydiannol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Twyni Tywod Penmaen… Yn ôl i'r map
Largely post-medieval agricultural landscape and manorial centre: ribbon development and scattered farmsteads; medieval ecclesiastical sites; agri-industrial features; and scrub and woodland.

Penmaen

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol yn bennaf a chanolfan faenoraidd: datblygiadau strimynnog a ffermydd gwasgaredig; safleoedd eglwysig canoloesol; nodweddion amaeth-ddiwydiannol; a phrysgwydd a choetir. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol…
Gweld mwy Penmaen
Yn ôl i'r map
Medieval/post-medieval agricultural and settlement landscape and manorial centre: clustered settlement; and dispersed farmsteads; isolated late medieval church and manor house; varied fieldscape; and agri- industrial extractive features.

Nicholaston

Tirwedd amaethyddol a thirwedd anheddu a chanolfan faenoraidd ôl-ganoloesol/canoloesol: anheddiad clystyrog; a ffermydd gwasgaredig; eglwys ar wahân yn dyddio o ddiwedd y cyfnod canoloesol; caelun amrywiol; a nodweddion…
Gweld mwy Nicholaston
Yn ôl i'r map
Wooded cliff landscape: ancient woodland; prehistoric domestic defensive settlement; post-medieval agri-industrial activity; possible medieval associations; and tracks/footpaths.

Coedwig Nicholaston

Tirwedd clogwyn coediog: coetir hynafol; anheddiad amddiffynnol domestig cynhanesyddol; gweithgarwch amaeth-ddiwydiannol ôl-ganoloesol; cysylltiadau canoloesol posibl; a llwybrau/llwybrau troed. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Coedwig Nicholaston yn cyfateb… Yn ôl i'r map
Former reclaimed wetland landscape: enclosure of salt marsh; relict agricultural and water management features.

Morfa Oxwich

Tirwedd cyn-wlyptir adferedig: morfa heli amgaeëdig; nodweddion amaethyddol a nodweddion rheoli dwr creiriol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Morfa Oxwich yn cynnwys gwlyptir rhwng Twyni Tywod Oxwich…
Gweld mwy Morfa Oxwich
Yn ôl i'r map
Besanded landscape: buried archaeology; medieval field boundaries; and intertidal features, mostly post-medieval.

Twyni Tywod Oxwich a Nicholaston

Tirwedd wedi'i gorchuddio â thywod: archeoleg gladdedig; ffiniau caeau canoloesol; a nodweddion rhynglanwol, ôl-ganoloesol yn bennaf. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Twyni Tywod Oxwich a Nicholaston yn… Yn ôl i'r map
Intertidal landscape: sandy beach; Roman and medieval finds; marine exploitation; trade and transportation; and shipwrecks.

Bae Oxwich a Pharth Rhynglanwol Bae Three Cliffs

Tirwedd rynglanwol: traeth tywodlyd; darganfyddiadau Rhufeinig a chanoloesol; ymelwa ar y môr; masnach a thrafnidiaeth; a llongddrylliadau. Cefndir Hanesyddol Diffinnir ardal tirwedd hanesyddol Bae Oxwich a Pharth Rhynglanwol… Yn ôl i'r map
Largely post-medieval agricultural landscape and former manorial centre: dispersed farmsteads and small clustered settlement; agri-industrial features; communication routes; woodland; and findspots.

Kittle

Tirwedd ôl-ganoloesol yn bennaf a chyn-ganolfan faenoraidd: ffermydd gwasgaredig ac anheddiad clystyrog bach; nodweddion amaeth-ddiwydiannol; llwybrau cysylltu; coetir; a mannau darganfod Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Kittle…
Gweld mwy Kittle
Yn ôl i'r map
Intertidal landscape: beach and shingle; sand dunes; prehistoric and Roman findspots; marine exploitation; trade and transportation; and shipwrecks.

Traeth Bae Port Eynon

Tirwedd rynglanwol: traeth a graean bras; twyni tywod; mannau darganfod cynhanesyddol a Rhufeinig; ymwela ar y môr; masnach a thrafnidiaeth; a llongddrylliadau. Cefndir Hanesyddol Yn ffinio ag ardal… Yn ôl i'r map
Wooded cliff top margin: ancient woodland; prehistoric domestic defensive; and post-medieval agri- industrial activity.

Pen Clogwyn Bae Oxwich

Ymyl pen clogwyn coediog: coetir hynafol; nodweddion amddiffynnol domestig cynhanesyddol; a gweithgarwch amaeth-ddiwydiannol ôl-ganoloesol. Cefndir Hanesyddol Diffinnir ardal tirwedd hanesyddol Pen Clogwyn Coediog Bae Oxwich gan y llain… Yn ôl i'r map

Oxwich

Anheddiad a thirwedd amaethyddol a chyn-ganolfan faenoraidd ôl-ganoloesol/canoloesol: patrwm anheddu amrywiol (aneddiadau canoloesol sydd bellach yn llai o faint); adeiladau brodorol ôl-ganoloesol; caelun amrywiol; ffiniau brodorol; strwythurau amddiffynnol…
Gweld mwy Oxwich
Yn ôl i'r map
Medieval manorial centre, administrative and defensive landscape and post-medieval gentry estate: medieval castle; post-medieval gentry house within contemporary parkland setting; post-medieval farmsteads and agricultural buildings.

Parc Pen-rhys

Canolfan faenoraidd ganoloesol, tirwedd weinyddol ac amddiffynnol ac ystâd fonedd ôl-ganoloesol: castell canoloesol; ty bonedd ôl-ganoloesol o fewn lleoliad parcdir cyfoes; ffermydd ac adeiladau amaethyddol ôl-ganoloesol. Cefndir Hanesyddol… Yn ôl i'r map
Medieval/post-medieval settlement and agricultural landscape and former manorial centre: small well-preserved nucleated settlement; dispersed farmsteads, varied fieldscape; woodland and plantation; relict archaeology; and rural industry: principally milling.

Pen-rhys

Anheddiad a thirwedd amaethyddol a chyn-ganolfan faenoraidd ôl-ganoloesol/canoloesol: anheddiad cnewyllol bach sydd mewn cyflwr da; ffermydd gwasgaredig, caelun amrywiol; coetir a phlanhigfeydd; archeoleg greiriol; a diwydiant gwledig: melino…
Gweld mwy Pen-rhys
Yn ôl i'r map
Post-medieval/medieval settlement and agricultural landscape and sub-manorial centre: varied fieldscape; organically clustered hamlet; post-medieval vernacular buildings; rural industry - extraction processing and rural crafts; and buried archaeology.

Horton

Anheddiad a thirwedd amaethyddol a chanolfan is-faenoraidd ôl-ganoloesol/canoloesol: caelun amrywiol; pentrefan wedi'i glystyru'n organig; adeiladau brodorol ôl-ganoloesol; diwydiant gwledig - echdynnu prosesu echdynnu a chrefftau gwledig; ac archeoleg…
Gweld mwy Horton
Yn ôl i'r map
Post-medieval/medieval settlement and agricultural landscape and manorial centre: varied fieldscape; nucleated organic settlement and loose dispersed scatter; post-medieval vernacular buildings; buried archaeology; coastal and maritime features; rural industry - extraction processing and rural crafts.

Port Eynon

Anheddiad a thirwedd amaethyddol a chanolfan faenoraidd ôl-ganoloesol: caelun amrywiol; anheddiad organig cnewyllol ac aneddiadau gwasgaredig; adeiladau brodorol ôl-ganoloesol; archeoleg gladdedig; nodweddion arfordirol ac arforol; diwydiant gwledig -echdynnu…
Gweld mwy Port Eynon
Yn ôl i'r map
Largely post-medieval agricultural landscape and former monastic grange land: varied enclosure; medieval settlement with associated fieldscape; ecclesiastic associations and agri-industrial features.

Pen-y-fai a Monksland

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol yn bennaf a chyn-dir maenor fynachaidd: caeau amrywiol; anheddiad canoloesol a chaelun cysylltiedig; cysylltiadau eglwysig a nodweddion amaeth-ddiwydiannol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Pen-y-fai… Yn ôl i'r map
Intertidal zone and unenclosed coastal margin: coastal and maritime features; quarrying, defensive sites; buried archaeology; tourism.

Trwyn y Mwmbwls a Rotherslade

Parth rhynglanwol ac ymyl arfordirol agored: nodweddion arfordirol ac arforol; safleoedd cloddio a safleoedd amddiffynnol; archeoleg gladdedig; twristiaeth. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Trwyn y Mwmbwls a… Yn ôl i'r map
Wooded river valley landscape: ancient woodland and scrub; and post-medieval agri- industrial activity.

Bishop’s Wood

Tirwedd dyffryn afon coediog: coetir hynafol a phrysgwydd; a gweithgarwch amaeth-ddiwydiannol ôl-ganoloesol. Cefndir Hanesyddol Diffinnir ardal tirwedd hanesyddol Bishop's Wood gan goetir a phrysgwydd o fewn yr AOHNE… Yn ôl i'r map
Post-medieval/medieval agricultural landscape and former manorial centres (Scurlage Castle - secular; Berry - monastic): post-medieval semi-regular fieldscape; shrunken medieval/post-medieval clustered settlement of Scurlage Castle and linear settlement of Berry; relict and buried archaeology; limestone extraction and processing.

Scurlage a Berry

Tirwedd a chyn-ganolfannau maenoraidd ôl-ganoloesol/canoloesol (Scurlage Castle - lleyg; Berry - mynachaidd): caelun lled-reolaidd ôl-ganoloesol; anheddiad clystyrog canoloesol/ôl-ganoloesol Scurlage Castle sy'n llai o faint erbyn hyn ac anheddiad… Yn ôl i'r map
Largely post-medieval agricultural landscape: varied fieldscape and dispersed post-medieval settlement; buried prehistoric and medieval archaeology, including a scheduled ritual site.

Newton

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol yn bennaf: caelun amrywiol ac aneddiadau ôl-ganoloesol gwasgaredig; archeoleg gynhanesyddol a chanoloesol gladdedig, gan gynnwys safle defodol cofrestredig. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Newton…
Gweld mwy Newton
Yn ôl i'r map
Unenclosed common land: prehistoric, funerary and ritual landscape; possible prehistoric occupation; routeways and trackways; historic association; water supply; minor industrial and agricultural features.

Tir Comin Cefn Bryn

Tir comin agored: tirwedd angladdol a defodol gynhanesyddol; anheddu cynhanesyddol posibl; llwybrau a sarnau; cysylltiad hanesyddol; cyflenwad dwr; mân nodweddion diwydiannol ac amaethyddol. Cefndir Hanesyddol Diffinnir ardal tirwedd… Yn ôl i'r map

Reynoldston

Tirwedd anheddu a thirwedd amaethyddol a chanolfan faenoraidd ôl-ganoloesol/canoloesol: cyn-anheddiad canoloesol; caelun amrywiol; craidd anheddiad organig; ffermydd gwasgaredig; eglwys ganoloesol; nodweddion amddiffynnol domestig cynhanesyddol; coetir gweddilliol; a chysylltiadau…
Gweld mwy Reynoldston
Yn ôl i'r map
Post-medieval gentry estate and parkland: park and ornamental woodland; historic associations former estate of the Lucas family; relict agri-cultural features and trackways.

Stouthall

Ystâd fonedd a pharcdir ôl-ganoloesol: parc a choetir addurniadol; cysylltiadau hanesyddol hen ystâd y teulu Lucas; nodweddion amaeth-ddiwylliannol a llwybrau creiriol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Stouthall…
Gweld mwy Stouthall
Yn ôl i'r map

Maenor Llan-y-tair-Mair

Tirwedd amaethyddol a thirwedd anheddu a chanolfan faenoraidd ôl-ganoloesol/canoloesol: caelun lled-reolaidd datblygedig; ffiniau nodedig; cysylltiadau eglwysig canoloesol; anheddiad strimynnog a nodweddion amaethyddol ôl-ganoloesol; nodweddion amaeth-ddiwydiannol; nodweddion angladdol/defodol cynhanesyddol;… Yn ôl i'r map
Post-medieval/medieval agricultural landscape and medieval ecclesiastic manor: evolved semi-regular fieldscape; traditional boundaries; ecclesiastic and early medieval associations; post-medieval settlement and agricultural features; deserted medieval settlement; and agri-industrial features.

Llanddewi

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol/canoloesol a maenor eglwysig ganoloesol: caelun lled-reolaidd datblygedig; ffiniau traddodiadol; cysylltiadau eglwysig a chysylltiadau â dechrau'r cyfnod canoloesol; anheddiad canoloesol anghyfannedd; a nodweddion amaeth-ddiwydiannol. Cefndir Hanesyddol…
Gweld mwy Llanddewi
Yn ôl i'r map
Post-medieval/medieval agricultural landscape and manorial centre: evolved irregular fieldscape with medieval strip fields; traditional boundaries; medieval and post-medieval settlement and agricultural features; loosely dispersed settlement; interesting post-medieval buildings (farmsteads) with a possible medieval precursor; possible early medieval associations (Llys site).

Henllys

Tirwedd amaethyddol a chanolfan faenoraidd ôl-ganoloesol/canoloesol: caelun afreolaidd datblygedig sy'n cynnwys llain-gaeau canoloesol; ffiniau traddodiadol; nodweddion anheddu a nodweddion amaethyddol canoloesol ac ôl-ganoloesol; anheddiad gwasgaredig; adeiladau ôl-ganoloesol diddorol…
Gweld mwy Henllys
Yn ôl i'r map
Post-medieval/medieval agricultural landscape and manorial centres: varied enclosure pattern; traditional boundaries and green lanes; small clustered and dispersed settlement; post-medieval farms with medieval precursors; prehistoric find scatters; rural industrial processing features.

Pitton a Pilton

Tirwedd amaethyddol a chanolfannau maenoraidd ôl-ganoloesol/canoloesol: patrwm caeau amrywiol; ffiniau traddodiadol a lonydd Gwyrdd; anheddiad/aneddiadau? clystyrog a gwasgaredig bach; ffermydd ôl-ganoloesol a sefydlwyd ar ffermydd canoloesol cynharach; gwasgariadau… Yn ôl i'r map

Rhossili a Middleton

Anheddiad a thirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol/canoloesol: anheddiad organig cnewyllol sy'n cynnwys datblygiadau strimynnog diweddarach; caelun amrywiol; llain-gaeau canoloesol; ffiniau traddodiadol; canolfan eglwysig; adeiladau brodorol ôl-ganoloesol; nodweddion diwydiannol gwledig a… Yn ôl i'r map
Medieval/post-medieval agricultural landscape: relict medieval open field system; traditional enclosure boundaries; footpaths and tracks.

The Vile

Tirwedd amaethyddol ganoloesol/ôl-ganoloesol: system caeau agored ganoloesol greiriol; ffiniau caeau traddodiadol; llwybrau troed a lonydd. Cefndir Hanesyddol Diffinnir ardal tirwedd hanesyddol The Vile gan y system o lain-gaeau…
Gweld mwy The Vile
Yn ôl i'r map
Intertidal zone, unenclosed coastal margin and cliff edge landscape: caves; prehistoric settlement and finds; maritime features; agri-industrial processing; historic associations; tales and legends; and livestock management.

Pen Pyrod a Chlogwyni De-orllewin Bro Gwyr

Parth rhynglanwol, ymyl arfordirol agored a thirwedd a nodweddir gan ymylon clogwyni: ogofâu, aneddiadau a darganfyddiadau cynhanesyddol; nodweddion arforol; prosesu amaeth-ddiwydiannol; cysylltiadau hanesyddol; storïau a chwedlau; a rheoli… Yn ôl i'r map

Hillend

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol/canoloesol: caelun amrywiol wedi'i arosod ar batrwm caeau cynharach; ffiniau traddodiadol; aneddiadau ôl-ganoloesol gwasgaredig a nodweddion cysylltiedig. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Hillend yn cynnwys…
Gweld mwy Hillend
Yn ôl i'r map
Post-medieval gentry estate and parkland landscape: eighteenth century house and park; agricultural and water related features; and historic associations.

Fairyhill

Ystâd fonedd a thirwedd parcdir ôl-ganoloesol: ty a pharc yn dyddio o'r ddeunawfed ganrif; nodweddion amaethyddol a nodweddion yn ymwneud â dwr; a chysylltiadau hanesyddol. Cefndir Hanesyddol Mae…
Gweld mwy Fairyhill
Yn ôl i'r map
Post-medieval/medieval agricultural and settlement landscape: irregular enclosure pattern; post-medieval ribbon settlement; scattered farmsteads; milling; and non-conformist associations.

Burry

Tirwedd amaethyddol a thirwedd anheddu ôl-ganoloesol/canoloesol: patrwm caeau afreolaidd; aneddiadau strimynnog ôl-ganoloesol; ffermydd gwasgaredig; melino; a chysylltiadau anghydffurfiol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Burry yn cyfateb fwy…
Gweld mwy Burry
Yn ôl i'r map
Unenclosed common land: prehistoric defended enclosures and settlement features; routeways; and prehistoric ritual/funerary monuments.

Twyn Hardings

Tir comin agored: clostiroedd amddiffynedig a nodweddion anheddu cynhanesyddol; llwybrau; a henebion defodol/angladdol cynhanesyddol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Twyn Hardings yn cynnwys tir comin agored afreolaidd… Yn ôl i'r map
Post-medieval/ medieval agricultural landscape: prehistoric finds; leisure and tourism.

Caelun Thistleboon

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol/ canoloesol: darganfyddiadau cynhanesyddol; hamdden a thwristiaeth. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Caelun Thistleboon yn cynrychioli olion olaf tir amaethyddol gerllaw anheddiad Thistleboon, y Mwmbwls.… Yn ôl i'r map
Unenclosed common land: prehistoric funerary and ritual landscape and settlement features; livestock management features; and water related features.

Twyn Rhosili

Tir comin agored: tirwedd angladdol a defodol a nodweddion anheddu cynhanesyddol; a nodweddion yn ymwneud â dwr. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Twyn Rhosili yn cynnwys tir…
Gweld mwy Twyn Rhosili
Yn ôl i'r map
Post-medieval/medieval settlement and agricultural landscape: nucleated settlement; early medieval/medieval ecclesiastic and later parochial centre; post-medieval fieldscape with medieval stripfields; traditional boundaries; dispersed post-medieval farmsteads and cottages; rural industry.

Llanrhidian

Anheddiad a thirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol/canoloesol: anheddiad cnewyllol; canolfan eglwysig yn dyddio o ddechrau'r cyfnod canoloesol neu'r cyfnod canoloesol a fu'n gwasanaethu fel canolfan blwyfol yn ddiweddarach; caelun ôl-ganoloesol…
Gweld mwy Llanrhidian
Yn ôl i'r map
Intertidal landscape: rocky foreshore of cliffs and caves; and shipwrecks.

Clogwyni Oxwich

Tirwedd rynglanwol: blaen traeth creigiog yn cynnwys clogwyni ac ogofâu; a llongddrylliadau. Cefndir Hanesyddol Diffinnir ardal tirwedd hanesyddol Clogwyni Oxwich gan y marc penllanw cymedrig a'r marc distyll… Yn ôl i'r map
Post-medieval/medieval agricultural landscape and former manorial centre: post-medieval cluster and ribbon settlement; post-medieval agricultural features; traditional field boundaries; historic associations; post-medieval rural industry; prehistoric ritual and settlement evidence.

Weble, Leason a Llwyn-y-bwch

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol/canoloesol a chyn-ganolfan faenoraidd: aneddiadau clystyrog a strimynnog ôl-ganoloesol; nodweddion amaethyddol ôl-ganoloesol; ffiniau caeau traddodiadol; cysylltiadau hanesyddol; diwydiant gwledig ôl-ganoloesol; tystiolaeth o ddefodau ac anheddu cynhanesyddol.… Yn ôl i'r map
Post-medieval/medieval settlement and agricultural landscape and former manorial centre: largely regular fieldscape; ribbon and clustered settlement pattern; relict and buried archaeological features; traditional boundaries; post-medieval regional vernacular buildings; historic associations.

Bovehill a Landimôr

Tirwedd aneddu a thirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol/canoloesol a chyn-ganolfan faenoraidd: caelun rheolaidd yn bennaf; patrwm anheddu strimynnog a chlystyrog; nodweddion archeolegol creiriol a chladdedig; ffiniau traddodiadol; adeiladau brodorol rhanbarthol… Yn ôl i'r map
River valley landscape: ancient woodland; irregular evolved enclosure and dispersed post-medieval farmsteads; agricultural industrial landscape with medieval origins: mills; medieval ecclesiastic and later parochial centre; communication networks.

Cheriton a Burry Pill

Tirwedd dyffryn afon: coetir hynafol; caeau datblygedig afreolaidd a ffermydd ôl-ganoloesol gwasgaredig; tirwedd ddiwydiannol amaethyddol yn dyddio/deillio?? o'r cyfnod canoloesol; melinau; ffiniau; adeiladau brodorol rhanbarthol ôl-ganoloesol; rhwydweithiau o… Yn ôl i'r map
Unenclosed common land: relict medieval/post-medieval settlement and agricultural features; water supply features; communication network.

Ryer’s Down

Tir comin agored: aneddiadau a nodweddion amaethyddol canoloesol/ôl-ganoloesol creiriol; nodweddion cyflenwi dwr; rhwydwaith o gysylltiadau. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Ryer's Down gan dir comin agored i'r… Yn ôl i'r map
Post-medieval/medieval agricultural landscape: varied/irregular fieldscape; relict medieval strip fields and traditional boundaries; medieval/post-medieval agricultural settlement; post-medieval farmsteads.

Kennexstone a Tankeylake

Tirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol/canoloesol: caelun amrywiol/afreolaidd; llain-gaeau a ffiniau traddodiadol canoloesol creiriol; anheddu amaethyddol canoloesol/ôl-ganoloesol; ffermydd ôl-ganoloesol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Kennexstone a Tankeylake yn ardal o… Yn ôl i'r map
Reclaimed wetland landscape: regular enclosure and agricultural features; drainage channels and water features.

Landimôr a Thir Adferedig Llanrhidian

Tirwedd gwlyptir adferedig: caeau rheolaidd a nodweddion amaethyddol; sianeli draenio a nodweddion dwr. Cefndir Hanesyddol Diffinnir ardal tirwedd hanesyddol Tir Adferedig Landimôr a Llanrhidian gan y morfa heli… Yn ôl i'r map
Coastal margin and wooded cliff top: multi-period associations; prehistoric finds; defensive settlements; agri-industrial activities; links to surrounding areas.

Tor-gro a North Hill Tor

Ymyl arfordirol a phen clogwyn coediog: cysylltiadau amlgyfnod; darganfyddiadau cynhanesyddol; aneddiadau amddiffynnol; gweithgareddau amaeth-ddiwydiannol; cysylltiadau ag ardaloedd oddi amgylch. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Tor-gro a North… Yn ôl i'r map
Enclosed coastal margin and besanded landscape: relict archaeology; medieval settlement; and post-medieval fieldscape.

Llain Arfordirol Amgaeëdig Rhosili Isaf

Ymyl arfordirol amgaeëdig a thirwedd wedi'i gorchuddio â thywod: archeoleg greiriol; anheddu canoloesol; a chaelun ôl-ganoloesol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Llain Arfordirol Amgaeëdig Rhosili Isaf y… Yn ôl i'r map
Unenclosed common land: prehistoric funerary and ritual landscape; major defended enclosure; water related features.

Bryn Llanmadog

Tir comin agored: tirwedd angladdol a defodol gynhanesyddol; clostir amddiffynedig pwysig; nodweddion yn gysylltiedig â dwr. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Bryn Llanmadog yn cynnwys y tir… Yn ôl i'r map
Post-medieval/medieval settlement and agricultural landscape: varied fieldscape; post-medieval vernacular buildings; ecclesiastical centre; medieval priory; scattered prehistoric features; rural industry; historic associations.

Llangynydd

Anheddiad a thirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol/canoloesol: caelun amrywiol; adeiladau brodorol ôl-ganoloesol; canolfan eglwysig; priordy canoloesol; nodweddion cynhanesyddol gwasgaredig; diwydiant gwledig; cysylltiadau hanesyddol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Llangynydd…
Gweld mwy Llangynydd
Yn ôl i'r map
Enclosed reclaimed wetland: relict post-medieval agricultural and water management features.

Morfa Llangynydd

Gwlyptir adferedig amgaeëdig: nodweddion amaethyddol a nodweddion rheoli dwr ôl-ganoloesol creiriol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Morfa Llangynydd yn cyfateb i'r darn o dir isel a adferwyd… Yn ôl i'r map

Twyni Tywod Llangynydd, Broughton a Hillend

Tirwedd wedi'i gorchuddio â thywod: darganfyddiadau ac olion anheddu cynhanesyddol; gweithgarwch diwydiannol ôl-ganoloesol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Twyni Tywod Llangynydd, Broughton a Hillend yn dirwedd wedi'i… Yn ôl i'r map
Intertidal landscape: open beach; buried landscapes; maritime features; historic associations; events, folklore and legends.

Bae Rhosili

Tirwedd rynglanwol: traeth agored; tirweddau claddedig; nodweddion arforol; cysylltiadau hanesyddol; digwyddiadau, llên gwerin a chwedlau. Cefndir Hanesyddol Nodir ffin ardal tirwedd hanesyddol Bae Rhosili gan y marc distyll…
Gweld mwy Bae Rhosili
Yn ôl i'r map
Post-medieval/medieval agricultural and settlement landscape: organic settlement centred on medieval church; early medieval ecclesiastic centre; ribbon development and clustered settlement; varied fieldscape; dispersed farmsteads; post-medieval vernacular buildings and features; agri-industrial features; scattered finds; historic associations.

Llanmadog

Tirwedd amaethyddol a thirwedd anheddu ôl-ganoloesol/canoloesol: anheddiad organig wedi'i ganoli ar eglwys ganoloesol; canolfan eglwysig yn dyddio o ddechrau'r cyfnod canoloesol; datblygiadau strimynnog ac anheddiad clystyrog; caelun amrywiol;…
Gweld mwy Llanmadog
Yn ôl i'r map
Unenclosed coastal margin: prehistoric finds; multi-period settlement; ritual features; ecclesiastical settlement; post-medieval industrial features.

Burry Holms a’r Tors

Ymyl arfordirol agored: darganfyddiadau cynhanesyddol; anheddu amlgyfnod; nodweddion defodol; anheddiad eglwysig; nodweddion diwydiannol ôl-ganoloesol. Cefndir Hanesyddol Yn ffinio ag ardal tirwedd hanesyddol Burry Holms a'r Tors ceir y… Yn ôl i'r map
Enclosed reclaimed wetland landscape: relict agricultural and water management features.

Morfa Cwm Ivy

Tirwedd gwlyptir adferedig amgaeëdig: nodweddion amaethyddol a nodweddion rheoli dwr creiriol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Morfa Cwm Ivy yn cyfateb i'r ardal o forfa wedi'i ddraenio,… Yn ôl i'r map
Intertidal wetland landscape: buried landscapes; wetland resources; exploitation of the marine environment; transportation; maritime and water features.

Morfa Heli Llanrhidian a Landimôr

Tirwedd gwlyptir rhynglanwol: tirweddau claddedig; adnoddau gwlyptir; ymelwa ar yr amgylchedd morol; trafnidiaeth; nodweddion arforol a nodweddion dwr. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Morfa Heli Llanrhidian and… Yn ôl i'r map
Besanded landscape: buried former landscapes and evidence of activity primarily during the medieval period and WWII

Twyni Tywod Whiteford

Tirwedd wedi'i gorchuddio â thywod: cyn-dirweddau claddedig a thystiolaeth o weithgarwch yn bennaf yn ystod y cyfnod canoloesol a'r Ail Ryfel Byd. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol… Yn ôl i'r map
Intertidal landscape: buried landscapes; exploitation of the marine environment; transportation and maritime features; historic associations; events.

Bae Broughton a Thraeth Whiteford

Tirwedd rynglanwol: tirweddau claddedig; ymelwa ar yr amgylchedd morol; nodweddion trafnidiaeth a nodweddion arforol; cysylltiadau hanesyddol; digwyddiadau. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Bae Broughton a Thraeth Whiteford… Yn ôl i'r map
Intertidal landscape: buried landscapes; exploitation of the marine environment; transportation and maritime features.

Traeth Llanrhidian ac Aber Afon Llwchwr

Tirwedd rynglanwol: tirweddau claddedig; ymelwa ar yr amgylchedd morol; nodweddion trafnidiaeth a nodweddion arforol. Cefndir Hanesyddol Yn ffinio ag ardal tirwedd hanesyddol Traeth Llanrhidian ac Aber Afon Llwchwr… Yn ôl i'r map