Tirwedd rynglanwol: tirweddau claddedig; ymelwa ar yr amgylchedd morol; nodweddion trafnidiaeth a nodweddion arforol.
Cefndir Hanesyddol
Yn ffinio ag ardal tirwedd hanesyddol Traeth Llanrhidian ac Aber Afon Llwchwr ceir yr AOHNE i’r gogledd ac i’r dwyrain, sy’n cwmpasu fflatiau llaid a thywod yn aber Afon Llwchwr, morfa heli i’r de a thwyni tywod i’r gorllewin.
Mae’r dystiolaeth archeolegol uniongyrchol ar gyfer yr ardal yn gyfyngedig i nifer o longddrylliadau ôl-ganoloesol. Yn hanesyddol, roedd Aber Afon Llwchwr yn fynedfa bwysig ar gyfer cychod o leiaf o’r cyfnod Rhufeinig. Safai caer ategol a sefydlwyd tua OC75 yng Nghasllwchwr (Leucarum) mewn lleoliad strategol ym man croesi culaf Afon Llwchwr; mae’n debyg y gellid rheoli symudiadau o’r aber i fannau ymhellach i fyny’r afon yn y lle hwn. Ar ben hynny mae’r ffaith bod Rhufeiniaid yn bresennol yn ardal Llanelli yn awgrymu o bosibl bod yr aber a chilfachau hefyd wedi’u defnyddio i lanio cychod yma ac i roi mynediad i Afon Lliedi. Mae’n debyg i’r ardal hon gael ei defnyddio at ddibenion milwrol a masnachol yn bennaf yn ystod y cyfnod Rhufeinig a’r cyfnodau dilynol. Ar ben hynny mae’n bosibl i Normaniaid fanteisio ar lwybrau môr wrth sefydlu rheolaeth ar yr ardal.
Arweiniodd datblygu aneddiadau ar hyd yr arfordir yn ystod y cyfnod canoloesol at gynnydd mewn masnach forol trwy’r aber. Ceir nifer o gilfachau mawr ar hyd arfordir yr ardal, yn ymestyn hyd at y forfa heli i’r de (HLCA 004), sef Cilfachau Burry, Great, Leason a Llanrhidian. Er na ddarganfuwyd unrhyw strwythurau yn yr ardal, yn ddiau roedd y sianeli hyn yn fordwyadwy bryd hynny. Er ei fod ychydig y tu allan i’r ardal, mae’r anheddiad mynachaidd a arferai sefyll ym Machynys, a sefydlwyd yn ôl pob tebyg yn y chweched ganrif, yn dangos pa mor bwysig oedd yr aber yn ystod y cyfnod hwn; pan fyddai’n benllanw byddai’r dwr wedi gwahanu’r mynachdy oddi wrth y tir mawr, gan ffurfio ynys fach, yn debyg i safleoedd mynachaidd eraill a sefydlwyd ar ynysoedd yn yr ardal oddi amgylch.
Mae gennym fwy o dystiolaeth am fordwyo yn yr aber, yr afon a’r cilfachau yn y cyfnod ôl-ganoloesol. Ceir sôn am Gasllwchwr yn llyfrau Porthladdoedd Cymru yn dyddio o’r unfed ganrif ar bymtheg (Lewis 1927); fodd bynnag, ni ddatblygodd yn borthladd pwysig erioed am fod gweithgareddau morol wedi’u canolbwyntio ar Lanelli. Cofnodir bod glo yn cael ei allforio o Lanelli trwy’r aber i leoedd mor bell i ffwrdd â Ffrainc a Phortiwgal o’r unfed ganrif ar bymtheg ymlaen yn ogystal â masnach mewn sebon, llechi, efydd, cnau Ffrengig, gwin, menyn a thybaco (Dunning a Howell 2005). Yn y ddeunawfed ganrif penodwyd Jacob Dumain yn ‘waiter and searcher at south Burry’, lle’r oedd yn gyfrifol am reoleiddio’r fasnach lo ar hyd rhan ddeheuol yr aber yn ogystal â gwylio am smyglwyr (Cooper 1998). Mae dociau a leolir ar hyd yr arfordir yn cynnwys Penclawdd a Llanmorlais. Mae olion dociau diweddarach i’w cael yng Nghasllwchwr ac mae siartiau mordwyo yn dyddio o’r bedwaredd ganrif ar bymtheg yn manylu ar longau a fu’n defnyddio’r aber (Marvell ac Owen-John 1997). Mae llongddrylliadau a ganfuwyd yn yr ardal yn cynnwys Adventure, ECT, William and Mary a Harmony. Ceir enghraifft arall yn yr hanesyn am y ‘Dollar Ship of North Gower’. Yn ôl pob sôn aeth llong o’r enw y ‘Scanderoon Galley’ (03048w) yn sownd ar y lan yma, gan suddo i’r llaid. Dywedir bod deuddeg cist o aur ar fwrdd y llong ac i bob cist ond un gael ei hachub; flynyddoedd lawer yn ddiweddarach daeth dyn lleol yn gyfoethog iawn yn sydyn, dywedir iddo ddod o hyd i’r gist goll (Edmunds 1979). Yn wir newidiodd cwrs yr afon ac amrediad ei llanw dros y blynyddoedd, fodd bynnag gall llongau llai o faint hwylio i fyny’r aber o hyd pan fydd yn benllanw.
Roedd gweithgarwch ecsbloetio’r môr yn yr ardal hon yn gyffredin, a gynhwysai bysgota cilfachau ond yn arbennig casglu cocos. Mae’n debyg bod y gweithgaredd hwn yn dyddio o’r cyfnod pan ddaeth pobl i fyw yn yr ardal gyntaf ac yn ddiau roedd yn rhan hanfodol o ddiet y rhanbarth. Yn sicr ers y canol oesoedd, buwyd yn casglu cocos ar raddfa helaethach; fe’u casglwyd o fflatiau’r aber rhwng llanwau gan ferched y pentrefi lleol megis Llanrhidian a Phenclawdd. Nid oes fawr ddim tystiolaeth am y broses gynnar ond am fod traddodiadau yn gryf yn yr ardal ymddengys fod pobl wedi parhau i gasglu cocos yn yr un ffordd am gannoedd o flynyddoedd. Ar ddechrau’r ddeunawfed ganrif cynyddodd gweithgarwch casglu cocos fel diwydiant i ychwanegu at incwm pobl. Roedd merched yn ddiwyd ac yn gryf, a gweithiai llawer ohonynt oriau anghymdeithasol tra bod eu Gwyr yn gweithio yn y mwyngloddiau a’r pyllau glo (Roberts 2001).
