Skip to main content

Tirwedd iseldir nodweddiadol yw Bro Morgannwg, a ffurfiwyd ar Iwyfandir calchfaen tonnog a rennir gan ddyffrynnoedd bas, ac sy’n ymestyn o gyffiniau Caerdydd i’r dwyrain, fwy neu lai i Ben-y-bont ar Ogwr yn y gorllewin. Yn ei hystyr ehangaf, cymerir bod Bra Mnrgannwg yn draddodiadol yn cwmpasu’r holl dir isel o’r arfordir hyd at darren Tywodfaen Pennant amlwg yn y gogledd, sydd mwy neu lai yn ffin galed Blaenau Morgannwg neu’r ucheldir llai cyfoethog. Er hynny, mae’r ardal fwy nodweddiadol a daearyddol unffurf i’r de o’r A48 gyfoes, rhwng y Barri ac Afon Ogwr, lle mae cymeriad hanesyddol y tirwedd, gan gynnwys yr eglwysi mawrion a’r patrwm aneddiadau, yn gyffredinol annodweddiadol o Gymru, gan ymdebygu mwy i dirweddau dros y ffin yn Lloegr.

HLC 010 HLC 011 HLC 012 HLC 009 HLC 008 HLC 006 HLC 001 HLC 005 HLC 002 HLC 004 HLC 003 HLC map

Mae’r wlad a’r pentrefi cnewyllol o gwmpas y fro wledig yn hysbys am eu cymeriad hanesyddol a deniadol. Mae’r tirwedd amaethyddol o gwmpas hefyd yn gyfoethog o ran gwrychoedd, coed a choedlannau bach, y mae llawer ohonynt yn eirthaf hen. Yn hanesyddol, ardal amaethyddol bwysig fu’r Fro, a ffrwythlondeb y tir yn deillio o’r priddoedd bas ond rhydd eu traeniad, sydd yn dir gwych ar gyfer ei drin a’i bori. Fe’i canmolwyd gan Rhys Meurug yn niwedd y 1580au fel tir o ‘gaeau dymunol a phorfa ffrwythlon, y gwastadeddau’n ffrwythlon ac yn addas i’w trin, gyda helaethrwydd o fathau o rawn’.

Nodwedd y pentrefi yw eu natur wledig, enghreifftau o bensaernïaeth werinol amaethyddol ac adeiladau eglwysig, Mae’r mynedffyrdd at y pentrefi yn am1 yn isel a chyda gwrychoedd o bobtu, tra bod waliau cerrig yr aneddfannau yn nodwedd amlwg. Elfennau eraill sy’n hanfodol i draddodiad a chymeriad gwerinol arbennig y pentrefi yw’r adeiladau gwledig (sydd yn aml wedi eu gwyngalchu, gyda ffenestri bach a thoeau uchel eu pig), eu crefftwaith a’u defnyddiau adeiladu arbennig, mannau agored a fflora aeddfed.

Hen aneddiad a dyffryn tawel Llancarfan, yn llwyfandir canol y fro, yw un o’r engreifftiau gorau a mwyaf nodweddiadol o dirwedd hanesyddol Bro Morgannwg gyfan. Mae lleoliad yr eglwys fawr yng nghanol y pentref cnewyllol a darluniadwy yn nodweddiadol o’r dylanwadau cryf, mynachaidd, Eingl-Normanaidd yn y fro, fel eu gwelir mewn mannau eraill, megis Llandoche, Llanilltud Fawr a Merthyr Mawr. Mae safle canolog yr eglwys hynafol yn Llancarfan, sydd ei hun yn dystiolaeth o Gristnogaeth Gynnar yng Nghymru, hefyd yn nodweddiadol o batrwm aneddiadau ardal gyfan.

Mae’r ardal yn ymestyn o gymer Nant Llancarfan gydag Afon Kenson a Llancatal yn y de, tua’r gogledd at gefndeuddwr Nant Llancarfan. Yma, fe’i diffinnir gan yr A48 bresennol ger Tresimwn, sef llinell gydnabyddedig y ffordd Rufeinig o geyrydd ategol hysbys Caerdydd I’r gorllewin tuag at Gastell-nedd. Y terfynau gorllewinol yw’r is-ffordd sy’n rhedeg tua’r de i Lancatal, gyda chyfuchliniau amlwg y bryniau yn ffurfio’r terfyn dwyreiniol. Nid yw’r ardal yn unman yn uwch na 94m uwchben SO.

Daw’r eilw Llancarfan o’r eglwys (llan) a’r ffrwd (Nant Carfan). Ymddengys yr enw presennol gyntaf fel llurguniad yn y 12fed ganrif. Mae aneddiad Llancarfan a dyffryn yr afon o gryn ddiddordeb archeolegol. Y dystiolaeth gynharaf o aneddiad yw’r fryngaer fawr o Oes yr Haearn, Ffosydd y Castell, sydd i’r dwyrain o’r pentref.

Sefydlydd yr eglwys bresennol oedd Cadog ap Gwynllyw, un o’r enwocaf o’r seintiau Cymreig o’r 6ed ganrif, a oedd yn un o gyfoedion Dewi Sant. Yr oedd ei sefydliad, a godwyd ar ryd yn Llancarfan, ar y patrwm mynachaidd arferol, sef clas neu gymuned o fyneich, gydag Abad a swyddogion eraill, gan gynnwys offeiriad neu gaplan, meddyg a chanon. Dinistrwyd y fynachlog gan y Daniaid yn AD 988. Ym 1093-94, ymosododd y Normaniaid ar Forgannwg, a meddiannu’r fynachlog, gan orfodi Llancarfan i ildio’i goruchafiaeth dros y plwyf. Rhoddwyd y fynachlog gan Fitzhamon, arglwydd Normanaidd Morgannwg, i Abaty Benedictaidd Sant Pedr, Caerloyw, ar ddiwedd yr 11eg ganrif, pryd, o ganlyniad i orchfygiad, y cafodd ei gostwng i statws eglwys blwyf. Mae eglwys bresennol Sant Cadog yn dyddio o’r 14eg ganrif, er bod tystiolaeth o waith cynharach, o’r 12fed ganrif. Dernyn o siafft croes biler gyda gwaith cnotiog dolennau triphlyg wedi’u cerfio, yn dyddio o’r 9fed neu’r 10fed ganrifoedd, yw’r unig ôl sy’n weddill o’r eglwys Geltaidd gyn-Normanaidd. Daeth yr eglwys a Nant Llancarfan yn ganolbwynt yr aneddiad diweddarach, gan greu llawer o ddiwydiant lleol yn defnyddio pwer dwr ar gyfer y melinau yd a gwlân yn y pentref.

Mae Llancarfan a’r ardal o gwmpas a nodir yma felly yn arwyddocaol fel un o’r rhannau hanesyddol mwyaf nodweddiadol sy’n weddill o Fro Morgannwg gyfan, ac o amrywiaeth dylanwadau’r gorffennol a’i creodd ar ei ffurf bresennol. Yn yr un modd, mae’r aneddiad hynafol a’i eglwys gynnar, mewn dyffryn arbennig, yn cadw’i hunaniaeth hanesyddol arbennig ei hun, a’i chysylltiadau â’r gorffennol.

Character Areas

Medieval/post medieval field system; traditional boundaries; isolated settlement; relict prehistoric archaeology; agri-industrial features.

Ty’n-y-coed

System gaeau ganoloesol/ôl-ganoloesol; ffiniau traddodiadol; anheddiad anghysbell; archeoleg cynhanesyddol creiriol; nodweddion amaeth-ddiwydiannol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Ty'n-y-coed yn cynnwys caelun cymysg ar gyrion gogleddol yr ardal… Yn ôl i'r map
Medieval/post medieval field system (mixed fieldscape); traditional boundaries; relict and buried archaeology; dispersed post-medieval settlements (remnants of clustered/nucleated shrunken medieval settlements); agri-industrial features; ecclesiastic features; historic associations; communication.

Liege Castle

System gaeau ganoloesol/ôl-ganoloesol (tirwedd gymysg); ffiniau traddodiadol; archeoleg creiriol a chladdedig; aneddiadau ôl-ganoloesol gwasgaredig (olion aneddiadau canoloesol llai o faint clystyrog/cnewyllol); nodweddion amaeth-ddiwydiannol; nodweddion eglwysig; cysylltiadau hanesyddol; cyfathrebu.…
Gweld mwy Liege Castle
Yn ôl i'r map
Amalgamated fieldscape: medieval/post medieval field system; traditional boundaries; agri-industrial features.

Tirwedd Gyfunedig Tresimwn

Tirwedd gyfunedig: system gaeau ganoloesol/ôl-ganoloesol; ffiniau traddodiadol; nodweddion amaeth-ddiwydiannol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Tirwedd Gyfunedig Tresimwn yn cynnwys darn o dir a nodweddir gan dirwedd amaethyddol… Yn ôl i'r map

Greendown

Cysylltiadau eglwysig a hanesyddol; system gaeau ganoloesol/ôl-ganoloesol; ffiniau traddodiadol; nodweddion amaeth-ddiwydiannol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Greendown yn cynrychioli ardal yr ystyrir ei bod yn rhan o'r…
Gweld mwy Greendown
Yn ôl i'r map
Medieval/post medieval field system (evolved/irregular fieldscape); traditional boundaries; dispersed post-medieval settlement; post-medieval/medieval buildings; relict and buried archaeology; agri-industrial features; Ancient and other broadleafed woodland; medieval ecclesiastic characteristic; historic association; communication; resources.

Canol Dyffryn Llancarfan: Llanfeuthin a Garnllwyd

System gaeau ganoloesol/ôl-ganoloesol (tirwedd ddatblygedig/afreolaidd); ffiniau traddodiadol; anheddiad ôl-ganoloesol gwasgaredig; adeiladau ôl-ganoloesol/canoloesol; archeoleg creiriol a chladdedig; nodweddion amaeth-ddiwydiannol; Coetir hynafol a choetir llydanddail arall; nodwedd eglwysig ganoloesol; cysylltiad… Yn ôl i'r map
Medieval/post-medieval agricultural landscape; dispersed medieval/post medieval settlement; Medieval/post-medieval buildings; buried prehistoric archaeology; communication.

Llwyfandir Amaethyddol Crosstown a Llancatal (Dwyrain)

Tirwedd amaethyddol ganoloesol/ôl-ganoloesol; anheddiad gwasgaredig canoloesol/ôl-ganoloesol; Adeiladau canoloesol/ôl-ganoloesol; archeoleg cynhanesyddol claddedig; cyfathrebu. Cefndir Hanesyddol Nodweddir ardal cymeriad hanesyddol Llwyfandir Amaethyddol Crosstown a Llancatal (Dwyrain) gan gaelun o gaeau… Yn ôl i'r map
Medieval/post medieval field system; dispersed settlement; agri-industrial features.

Ardal Amaethyddol Middlehill

System gaeau ganoloesol/ôl-ganoloesol; anheddiad gwasgaredig; nodweddion amaeth-ddiwydiannol. Cefndir Hanesyddol Nodweddir ardal cymeriad tirwedd Ardal Amaethyddol Middlehill gan dirwedd amaethyddol ôl-ganoloesol â nodweddion sydd wedi goroesi. Lleolir yr ardal… Yn ôl i'r map
Amalgamated medieval/post medieval field; relict and buried medieval and prehistoric archaeology; dispersed settlement; ecclesiastical associations; communications; agri-industrial features

Llwyfandir Amaethyddol Llanfeuthin a Llancarfan

Cae canoloesol/ôl-ganoloesol cyfunedig; archeoleg canoloesol a chynhanesyddol creiriol a chladdedig; anheddiad gwasgaredig; cysylltiadau eglwysig; cyfathrebu; nodweddion amaeth-ddiwydiannol. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Llwyfandir Amaethyddol Llanfeuthin a Llancarfan… Yn ôl i'r map
Post-medieval settlement: clustered (later ribbon development); post-medieval buildings; relict and buried medieval settlement and agricultural features; ecclesiastical associations. 

Llancatal

Anheddiad ôl-ganoloesol: clystyrog (datblygiad hirgul diweddarach); adeiladau ôl-ganoloesol; nodweddion anheddu ac amaethyddol canoloesol creiriol a chladdedig; cysylltiadau eglwysig. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Llancatal yn ardal anheddu.…
Gweld mwy Llancatal
Yn ôl i'r map
Medieval/post medieval meadow land; water supply; Ancient and other broadleaf woodland; drainage ditches; relict agricultural and settlement features; communication links.

Dyffryn Afon Kenson

Doldir canoloesol/ôl-ganoloesol; cyflenwad dwr; Coetir hynafol a choetir llydanddail arall; ffosydd draenio; nodweddion amaethyddol ac anheddu creiriol; cysylltiadau cyfathrebu. Cefndir Hanesyddol Mae ardal tirwedd hanesyddol Dyffryn Afon Kenson… Yn ôl i'r map
Medieval/post-medieval field system; post-medieval settlement: clustered and loose dispersed scatter; post-medieval buildings; relict and buried prehistoric and medieval settlement; ecclesiastical and historic associations; water sources; relict agri-industrial features; traditional boundaries; minor communication.

Rhan Isaf Dyffryn Llancarfan

System gaeau ganoloesol/ôl-ganoloesol; anheddiad ôl-ganoloesol: patrwm anghysbell gwasgaredig clystyrog a rhydd; adeiladau ôl-ganoloesol; anheddiad cynhanesyddol a chanoloesol creiriol a chladdedig; cysylltiadau eglwysig a hanesyddol; ffynonellau dwr; nodweddion amaeth-ddiwydiannol… Yn ôl i'r map
Nucleated post-medieval settlement (of medieval origin); medieval/post-medieval buildings; traditional boundaries; Ancient and other broadleaf woodland; evolved/irregular field pattern; relict and buried archaeology; agri-industrial features; communication; ecclesiastical features; historic association.

Llancarfan

Anheddiad ôl-ganoloesol cnewyllol (yn tarddu o'r cyfnod canoloesol); adeiladau canoloesol/ôl-ganoloesol; ffiniau traddodiadol; Coetir hynafol a choetir llydanddail arall; patrwm caeau datblygedig/afreolaidd; archeoleg creiriol a chladdedig; nodweddion amaeth-ddiwydiannol; cyfathrebu;…
Gweld mwy Llancarfan
Yn ôl i'r map