Neidio i'r prif gynnwys

Mae’r disgrifiad canlynol, a godwyd o’r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn enwi’r themâu tirweddol hanesyddol pwysig yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

1125 1125 1125 1129 1129 1128 1128 1128 1128 1126 1126 1126 1126 1127 1127 1127 1127 1127 1127 1127 1127 1127 1127 1121 1120 1120 1120 1120 1120 1120 1122 1122 1124 1124 1124 1130 1130 1130 1130 1114 1116 1116 1116 1116 1116 1116 1116 1116 1116 1116 1116 1116 1116 1118 1118 1118 1118 1119 1119 1119 1119 1119 1119 1119 1119 1119 1119 1119 1119 1117 1117 1117 1117 1117 1117 1117 1117 1117 1117 1117 1117 1123 1123 1123 1123 1123 1123 1123 1123 1115 1115 1115 1115 1115

Mae Maelor Saesneg yn cynrychioli tirwedd hanesyddol amrywiol sydd wedi’i chadw yn dda. Daw’r disgrifiad canlynol o’r Cofrestr o Dirweddau o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol Yng Nghymru (Cadw 2001, 16-19), ac mae’n nodi themâu hanfodol tirwedd hanesyddol sydd i’w canfod yng nghymeriad hanesyddol yr ardal sy’n cael eu hystyried mewn mwy o fanylder yn yr adrannau sy’n dilyn.

Yn ddaearyddol, Maelor Saesneg yw’r rhan honno o’r hen Sir y Fflint cyn 1974 i’r de ddwyrain o Afon Dyfrdwy, a adwaenid fel Sir y Fflint Ar Wahân, ac sy’n ffinio â gorllewin Swydd Amwythig a gwastadedd De Sir Gaer. Yn dopograffaidd, nid yw’r tirwedd yn nodweddiadol o Gymru, ac ychydig iawn o ucheldir amlwg a geir, ac mae arwyneb y gwastadedd, sydd fel arall yn wastad neu ychydig yn donnog, yn adlewyrchu presenoldeb gwaddodion defnyddiau tanddaearol helaeth a adawyd ar ôl Oes yr Iâ mewn sawl man. Mae arwyneb y gwastadedd yn disgyn, bron yn ddiarwybod, o 80m uwchben SO mewn rhai mannau ar hyd ffiniau deheuol yr ardal a ddisgrifir yma, i 15m uwchben SO ar wastadedd llifogydd yr Afon Dyfrdwy sy’n ymylu’r ardal yn y gogledd a’r gorllewin. Mae gan aneddiadau ac economi’r ardal ddyled fawr hefyd i ddylanwadau o’r tu hwnt i’r ffin yn Sir Gaer, ac yn sgîl hyn, mae cymeriad hanesyddol y tirwedd yn anghyffredin o fewn y cyd-destun Cymreig, ac yn fwy nodweddiadol o’r Gororau nag o Gymru ac yn llawer mwy Seisnig na Chymreig – fel y mae’r enw yn ei awgrymu. Yn hanesyddol, byddai’r rhan helaethaf o Maelor Saesneg wedi gostwng i batrymau tebyg o ddefnydd tir drwy rannu caeau agored yn stribedi o amgylch aneddiadau bach canoloesol. Fodd bynnag, yn fwy diweddar, amlygwyd gwahaniaeth rhwng economi’r gorllewin sydd yn fugeiliol yn bennaf a’r caeau âr yn y dwyrain. Mae llawer o’r tirwedd wedi newid o ganlyniad i ffermio âr, wrth i ffiniau gael eu clirio i greu caeau mwy ac wrth i aredig lefelu holl olion gwaith cloddiog y cyfundrefnau caeau blaenorol. O achos hynny, yng ngorllewin yr ardal a ddisgrifir yma y diogelwyd cywirdeb y tirwedd hanesyddol gorau. er hynny, o fewn y cyd-destun Cymreig mae’r ffaith bod cymaint o’r patrwm caeau ac amaethu canoloesol hwn wedi goroesi yn gwneud y tirwedd yn un prin a gwerthfawr iawn. Mae’r ardal yn cwmpasu nifer o aneddiadau hanesyddol sydd yn dyddio o’r cyfnodau canoloesol neu ganoloesol cynnar. Ceir trefi bach Bangor Is-coed ac Owrtyn [Overton] yn y gorllewin (wedi’i nodi fel safle posibl ar gyfer Burh Sacsonaidd, sydd yn beth prin iawn yng Nghymru) ac mae Wrddymbre [Worthenbury] ar yr ochr ogleddol; Llannerch Banna [Penley] a Lightwood Green i’r de; a Horseman’s Green a Tallarn Green i’r dwyrain. Tuedda llawer o’r aneddiadau bychain hyn i fod yn ddatblygiadau bach hirfain, wedi’u lleoli’n agos at ei gilydd ar ochr yr hyn y gellir tybio iddo fod yn rwydwaith ffyrdd blaenorol. Nodwedd llawer ohonynt yw’r tai a’r bythynnod bric coch sy’n nodweddu’r 18fed a’r 19eg ganrifoedd yn lleol. Fodd bynnag, ceir un neu ddau adeilad du a gwyn â ffrâm bren yn y rhan fwyaf o’r pentrefi, sy’n dynodi gwreiddiau cynharach, a awgrymir hwyrach gan bresenoldeb y cyfundrefnau caeau sy’n amgylchynu llawer o’r pentrefannau hyn. Eithriad i’r patrwm hwn yw Bangor Is-Coed sydd o dras llawer hyn, er bod nifer o’i nodweddion archeolegol yn debyg i adeiladau canoloesol yma ac acw o amgylch y dref ac mae pont gerrig urddasol o’r 15fed ganrif yn croesi Afon Dyfrdwy; erbyn heddiw mae’r dref yn fwyaf enwog am ei chae rasio ceffylau, yr unig un yng Ngogledd Cymru. Yn ogystal â’r aneddiadau hyn, ceir sawl neuadd fawreddog o ddiwedd y Canol Oesoedd megis Althrey a Hen Neuadd Llannerch Banna, ynghyd â nifer o safleoedd wedi’u hamgylchynu â ffos o ddechrau’r Canol Oesoedd, er enghraifft Halghton Lodge a Peatree Lane. Statws maenor oedd i’r rhan fwyaf o’r safleoedd a amgylchynwyd â ffos, am eu bod yn dai i arglwyddi neu i’w stiwardiaid, neu o bryd i’w gilydd yn eiddo i sefydliadau eglwysig. Mae tystiolaeth ddyddio yn dynodi i’r ffurf neilltuol hwn o aneddiad gael ei gyflwyno i’r ardal yn y 12fed ganrif gyda chynnydd yn nifer y safleoedd yn y 13eg ac ar ddechrau’r 14eg ganrifoedd, ac roeddent yn dal i gael eu hadeiladu a’u defnyddio tan y 16eg ganrif. Nid oedd unrhyw werth amddiffynnol iddynt, ac ymddengys mai eu swyddogaeth oedd datgan statws uchel eu deiliaid, ac y defnyddid y ffosydd, yn fwyaf tebygol, i gadw pysgod ac adar helai ddyfrhau’r stoc ac fel addurn. Fodd bynnag, nodwedd fwyaf neilltuol y tirwedd hwn yw ei etifeddiaeth amaethyddol ganoloesol. Patrwm defnydd y tir ar hyn o bryd yw caeau gyda gwrychoedd bach iddynt, wedi’u trefnu mewn stribedi cul yn aml, gyda llawer ohonynt wedi cadw’r gwaith cloddiog gwrymiau a chwysi amaeth canoloesol. Deilliodd gwaith cloddiog o’r fath o amaethu âr yn ystod y cyfnod canoloesol pan rannwyd y tir a oedd yn amgylchynu’r aneddiadau yn stribedi o fewn caeau mawr agored a gâi eu trin ar y cyd gan y pentrefwyr. Er y crëwyd y gwrymiau a’r cwysi sydd i’w gweld heddiw drwy aredig y tir, ffurfiwyd y patrwm o gaeau amgaeëdig bychan a gwrychoedd iddynt yn ddiweddarach. Gydag amser, caewyd y caeau agored i mewn, gyda ffiniau newydd y caeau yn aml yn adlewyrchu ffurf y stribedi blaenorol, gan greu’r caeau hir cul nodweddiadol. Fodd bynnag, mewn rhai ardaloedd megis y rhai i’r gogledd o Bandy Lane ac yn agos i Mulsford, mae’r patrymau amaethu âr yn fwy cymhleth ac yn aml, nid ydynt yn cyfateb â ffiniau diweddarach. Mae’r amaethu a oedd yn bennaf yn fugeiliol yn ystod canrifoedd mwy diweddar wedi ffosileiddio patrymau’r caeau sy’n cadw’r gwaith cloddiog gwrymiau a chwysi a’r caeau diweddarach â gwrychoedd, gan rhoi gwedd ganoloesol neilltuol i’r tirwedd. Mae llawer o’r caeau hyn yn cynnwys pyllau bach, ac er nad yw eu tarddiad na’u defnydd yn glir, gallant fod yn dyllau clai a oedd o bosibl yn darparu defnydd adeiladu ar gyfer adeiladu lleol canoloesol. Ni ddylid ystyried y cyfundrefnau caeau hyn ar eu pennau eu hunain, gan fod yr aneddiadau y maent yn perthyn iddynt yn gymaint rhan o’r tirwedd hanesyddol â hwy. Gyda’r eithriad o Fangor Is-Coed ac Owrtyn [Overton], mae’r patrwm aneddiadau yn parhau i fod yn un o bentrefi a phentrefannau cnewyllol nad ydynt wedi newid rhyw lawer ers eu tarddiadau canoloesol, sy’n ychwanegu cydlyniad a chywirdeb i gymeriad hanesyddol y tirwedd anghyffredin iawn, sydd yn dal i ffynnu ac sy’n amaethyddol yn bennaf.

Themâu tirwedd hanesyddol yn Maelor Saesneg

Y Tirwedd Naturiol

Topograffeg

Rhan o’r tir is marianol yng ngogledd y gororau yw Maelor Saesneg; mae’n ymestyn o ogledd Swydd Amwythig i dde Sir Gaer, ac mae’n gorwedd rhwng oddeutu 10 a 100m uwchben y Datwm Ordnans. Yn dopolegol, mae’n bosibl ymrannu’r ardal yn nifer o wahanol fathau o dirweddau – yr orlifdir a’r tir is yn ymyl Afon Dyfrdwy yn y gogledd a’r gogledd-ddwyrain, yr ardal donnog ganolog y mae cymoedd nentydd bychain yn torri ar ei thraws, dyffryn mwy rhychog Nant Wych ar hyd ymyl ogleddol yr ardal ac, yn olaf, cyforgors helaeth Fenn’s Moss ar y ffin dde-ddwyreiniol â Swydd Amwythig.

Daeareg

Tywodfaen Coch Newydd o’r cyfnod Triasig yw’r ddaeareg solet waelodol, sy’n cynnwys tywodfeini wedi’u staenio’n goch, a phridd cleiog, gweddol feddal. Mae clog-glai yn gorchuddio rhan helaeth o’r ardal, sydd wedi deillio o glog-glai tywodlyd a chlog-glai cleiog a ddaeth o’r gogledd neu Fôr Iwerddon yn wreiddiol.

Priddoedd

Mae priddoedd a hydroleg wedi effeithio yn sylweddol ar botensial defnydd tir mewn gwahanol rannau o ardal y dirwedd hanesyddol. O bryd i’w gilydd, bydd gorlifdir gwastad afon Dyfrdwy i’r gogledd o Wrddymbre [Worthenbury] yn dioddef gan lifogydd, a cheir priddoedd glei llifwaddodol yno sy’n addas ar gyfer glaswelltir parhaol. Ar y gerlan yn ymyl afon Dyfrdwy i’r gogledd ac i’r de o Fangor, ac i’r gorllewin o Owrtyn, ceir ardaloedd o briddoedd brown siltaidd llifwaddodol sy’n draenio’n dda a phriddoedd brown priddgleiog sy’n addas ar gyfer glaswelltir a thir âr lle nad oes perygl mawr o lifogydd. Ceir band cul tebyg o bridd brown dwfn i’r gorllewin o Horseman’s Green. Mae priddoedd priddgleiog mân sy’n draenio’n araf ac sydd dan ddwr yn dymhorol, a phriddoedd cleiog, yn gorchuddio’r rhan fwyaf o weddill yr ardal, sy’n nodweddiadol o glog-gleiau’r rhanbarth, ac mae’r rhain yn addas ar gyfer glaswelltir tymor byr a pharhaol a thir âr mewn ardaloedd mwy sych.

Afonydd, nentydd, llynnoedd a chorsydd

Nentydd sy’n rhedeg i’r gogledd a’r gorllewin sy’n draenio’r rhan fwyaf o ardal Maelor Saesneg, ac mae’r nentydd hyn yn bwydo Afon Dyfrdwy sy’n amffinio ochr orllewinol yr ardal. Tua’r gorllewin mae Mill Brook sy’n codi i’r de o Lightwood Green, yn ymylu ochr ddwyreiniol Bangor Is-coed, ac yn ymuno ag afon Dyfrdwy ger Neuadd Dongray. Mae cyfres o nentydd sy’n codi ar hyd ffin ddeheuol yr ardal ger Llannerch Banna [Penley] yn draenio’r rhan fwyaf o ganol Maelor Saesneg, ac mae’r nentydd hyn yn symud tuag at yr ymylon dwyreiniol ger Parc Iscoyd gan ymuno ger Halchdyn [Halghton] a rhedeg i’r gogledd fel Nant Emral. Yn Wrddymbre [Worthenbury] mae Nant Emral yn ymuno â Nant Wych sy’n codi fel Red Brook ger Fenn’s Moss, yng nghornel dde-ddwyreiniol Maelor Saesneg. Mae’r ddwy nant yn nodi’r ffin genedlaethol rhwng Cymru a Lloegr. Mae Nant Emral a Nant Wych yn rhedeg i’r gogledd o Wrddymbre [Worthenbury] fel Worthenbury Brook, sy’n ymuno ag Afon Dyfrdwy ychydig i’r gorllewin o Shocklach Green, Sir Gaer. Yr afonigau sy’n draenio i Shell Brook sy’n draenio’r ardal dde-orllewinol, ac mae’r rhain hefyd yn nodi’r ffin genedlaethol ac yn ymuno ag afon Dyfrdwy uwchben Erbistog [Erbistock]. Mae nentydd sy’n bwydo Afon Roden yn Swydd Amwythig yn draenio’r gornel dde-ddwyreiniol, i’r de o Fenn’s Moss.

Mae astudiaethau ystumiau afonydd yn nyffryn Dyfrdwy wedi dangos bod safle Afon Dyfrdwy ychydig ar ôl y rhewlifiant diwethaf yn agos i’w lleoliad presennol, ac wedi torri i mewn i’r clog-glai gwaelodol, wedi creu amrywiaeth o dirffurfiau a gwaddodion, gan gynnwys o leiaf dau gerlan, ac wedi gadael casgliad bylchog o sianeli afon segur, cilfaeau ystumiau ac ystumllynnoedd. Mae tystiolaeth archeolegol a thystiolaeth waddodol yn awgrymu bod hynt yr afon wedi bod yn weddol sefydlog ers y cyfnod cynhanesyddol hwyr neu oes y Rhufeiniaid. Mae nifer o’r cilfaeau ystumiau wedi’u mewnlenwi ers y canol oesoedd a cheir tystiolaeth o reolaeth gynyddol ar y llif ers oddeutu 1700.

Hanes llystyfiant

Mae rhywfaint o hanes ôl-rewlifol llystyfiant Maelor Saesneg yn hysbys o ganlyniad i astudiaethau paill a gynhaliwyd ar fawn Fenn’s Moss yng nghornel dde-ddwyreiniol yr ardal, y safle ôl-rewlifol hwyr yn Chelford ym masn Sir Gaer, ac astudiaethau ystumiau afon segur Afon Dyfrdwy yn yr ardal rhwng Wrddymbre [Worthenbury] a Holt. Hyd yma, nid oes llawer o dystiolaeth fanwl o hanes newid o ran llystyfiant a hanes defnydd tir o’r astudiaethau paill ar gyfer cyfnodau cynhanesyddol hwyrach a chyfnodau mwy diweddar, er bod astudiaethau ar hen ystumiau’r afon ger Wrddymbre [Worthenbury] yn awgrymu, mewn cyfnod cynhanesyddol hwyrach o bosibl, mai coed derw a chyll agored oedd y llystyfiant naturiol yn yr amgylchoedd mwy sych. Hefyd, roedd ardaloedd o goed gwern neu ffeniau helyg mwy llaith ger y gorlifdir neu mewn dyffrynnoedd cyfagos, yn ogystal ag enghreifftiau achlysurol o goed palalwyf, llwyf a chelyn, ac mae grug yn awgrymu bod rhai ardaloedd lleoledig o rostir yn agos i’r safle. Daeth amaethyddiaeth âr ac amaethyddiaeth fugeiliol yn bwysig yn y tir o amgylch gorlifdir afon Dyfrdwy. Tyfwyd grawnfwyd yn cynnwys gwenith, haidd a cheirch; roedd ceirch yn nodweddiadol o’r oes Rufeinig-Brydeinig a chyfnodau diweddarach. Hefyd, daethpwyd o hyd i baill cywarch, a dyfwyd ar gyfer ffibrau rhaffau yn fwy na thebyg, a hynny cyn dechrau’r 18fed ganrif mae’n debyg.

Coetir

Heddiw, mae coetiroedd naturiol llydan-ddeiliog gweddilliol neu goetiroedd hynafol a ailblannwyd wedi’u cyfyngu yn bennaf i’r tir mwy serth ar hyd lannau a hen gerlannau afon Dyfrdwy, ar hyd dyffrynnoedd i’r de o Lightwood Green a Halchdyn [Halghton], ar hyn Red Brook ger Parc Iscoyd a Nant Wych i’r dwyrain o Tallarn Green ac yn yr ardal o amgylch Bettisfield Park, i’r de o Hanmer. Ceir planhigfeydd bychain yma ac acw, a phlanhigfeydd llydan-ddeiliog a chonifferaidd mwy helaeth ar y rhostir ar ymylon Fenn’s Moss yng nghornel dde-ddwyreiniol yr ardal.

Fel y nodwyd uchod, mae tystiolaeth paill yn awgrymu mai coed derw a chyll agored oedd y llystyfiant naturiol cynharach yn yr amgylchoedd mwy sych, a bod ardaloedd o goed gwern neu ffeniau helyg mwy llaith ger y gorlifdir neu mewn dyffrynnoedd cyfagos. Mae enwau lleoedd Cymraeg a Saesneg yn nodi bod ardal mwy helaeth o goetir naturiol i’w gael yn y gorffennol, yn enwedig ar hyd ffiniau deheuol a gogledd-ddwyreiniol yr ardal. Mae nifer o’r ffynonellau yn weddol hwyr, ond mae’n debygol bod rhai ohonynt yn dyddio o’r canol oesoedd cynnar, efallai’r 7fed neu’r 8fed ganrif. Ymhlith enwau Eingl-Sacsonaidd sy’n fwy na thebyg yn dynodi llanerchau yn y coetir mae Lightwood Green o’r Hen Saesneg leoht ‘llachar, golau’, ac mae Penley yn deillio o’r enw Penda a’r Hen Saesneg leah ‘coed neu lannerch’, sydd hefyd yn bresennol yn lleol ar y ffurf Gymraeg, sef Llannerch Banna. Mae’n bosibl bod enw Musley, sydd i’r gorllewin o Lightwood, hefyd yn cynnwys yr elfen leah. Mae arolwg Domesday, a gynhaliwyd ym 1086, yn cofnodi bod ardal helaeth o goetir yn Llys Bedydd [Bettisfield], tair lîg wrth ddwy lîg ar draws, sef ardal bron i 7 cilomedr wrth 5 cilomedr ar draws (cyfrifir yn gyffredinol bod lîg yn gyfartal i oddeutu milltir a hanner). Mae dwy elfen yr enw Cymraeg Bangor Is-coed hefyd yn arwyddocáu coetir; mae bangor yn golygu ‘lloc plethwaith’ ac mae’r ôl-ddodiad is-coed yn gwahaniaethu’r lle rhwng lleoedd eraill yng Nghymru â’r enw bangor.

Yn sicr, roedd coetiroedd yn parhau i gael eu clirio yn gyflym o lanerchau cychwynnol yn ystod y canol oesoedd, wrth i adnoddau’r coetiroedd hynafol gael eu defnyddio fel tanwydd a deunyddiau adeiladu, yn ogystal ag asartio i ddiwallu’r angen am fwy o dir ffermio. Gwnaed ymgais i annog Saeson i ymgartrefu ym mwrdeistref newydd Owrtyn [Overton] yn oes Brenin Edward. Er enghraifft, ym 1293 cynigwyd pren i adeiladu yn rhad ac am ddim i’r rhai a oedd yn bwriadu ymgartrefu yno, a pfren fu’r prif ddeunydd adeiladu yn yr ardal nes i friciau ddod ar gael yn fwy cyffredin o ddiwedd yr 17eg ganrif ymlaen. Nifer fach o gofnodion o gwympo coed ym Maelor Saesneg yn ystod y cyfnod hwn sydd wedi goroesi, ond ceir cofnodion o gwympo ardaloedd helaeth o goetiroedd cynhenid yn ardal Northwood yng ngogledd Swydd Amwythig, ychydig i’r de o Lannerch Banna [Penley], rhwng diwedd y 15fed ganrif a dechrau’r 17eg ganrif, gan adael ar ôl y clytwaith o goetiroedd sydd i’w weld yn yr ardal hyd heddiw. Mae’n amlwg bod llawer mwy o goed wedi bod yn ardal cymdogaeth Threapwood, ar ffin ogleddol Maelor Saesneg, yn y gorffennol. Mae’n arwyddocaol bod enw’r ardal yn cynnwys yr elfen threpen o’r Saesneg Canol, sy’n golygu ‘coedwig ddadleuol neu amheus’, oherwydd ei bod yn pontio’r ffin rhwng tiriogaethau traddodiadol Cymru a Lloegr, ac roedd yr ardal yn dal i gael ei hystyried yn lle digyfraith ac amhlwyfol nes canol y 18fed ganrif. Soniodd Thomas Pennant, yn ei gyfrol Tour in Wales a gyhoeddwyd ym 1784, yn benodol am y coed derw hybarch, sef gweddillion coedwig hynafol ger Threapwood. Mae enwau ffermydd sy’n cynnwys y ‘wood’ Saesneg neu’r ‘celli’ Cymraeg, gan gynnwys Wood Farm, Middle Wood Farm, Upper Wood Farm, Y Gelli, Fferm Gelli, a The Woodlands, wedi’u hetifeddu yn nodedig o’r coetiroedd a arferai bod yn yr ardal hon.

Rhoddwyd enwau Cymraeg neu Saesneg sy’n gysylltiedig â choed ar ffermydd mewn mannau eraill, fel Althrey Woodhouse i’r de o Fangor, Argoed i’r gogledd o Owrtyn [Overton], ill dau ar lannau afon Dyfrdwy, a Phlas yn Coed i’r gogledd o Lightwood Green. Mae’n debygol bod pob un o’r sefydliadau hyn yn bodoli erbyn diwedd yr 17eg ganrif, pan oedd y coetiroedd hynafol wedi’u lleihau mwy na heb i’r gweddillion sydd wedi goroesi hyd heddiw.

Ceir nifer o lonydd, sy’n dyddio o’r canol oesoedd yn ôl pob tebyg, ag enwau Saesneg sy’n dynodi coeden rhywogaeth benodol o lwyn, fel yn Holly Bush Lane a Birch Lane. Mae yna nifer o ffermydd a thai diweddarach ag enwau Saesneg sy’n dynodi rhywogaethau gwyllt neu amaethyddol penodol, gan gynnwys Holly Bush Farm, Oak Farm, Broad Oak Farm, Yew Tree Farm, Cherrytree Farm, Peartree Farm, a The Elms. Adeiladau â ffrâm bren o’r 17eg ganrif gynnar yw ffermdai Oak Farm a Peartree Farm ac, yn arwyddocaol, roedd Peartree Farm a Holly Bush Farm yn disodli maenordai cynharach â ffosydd o’u hamgylch.

Amgyffrediad hanesyddol o dirwedd Maelor Saesneg

Dechreuodd disgrifiadau a darluniau o dirwedd Maelor Saesneg ymddangos ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif ac, er bod y rhan fwyaf o’r rhain yn ymwneud â’r golygfeydd ar hyd afon Dyfrdwy ger Bangor Is-coed ac Overton Bridge, maent yn rhoi rhyw awgrym o ddefnydd tir sy’n dyddio, yn ôl pob tebyg, o’r newid mawr o ffermio âr i ffermio bugeiliol a aeth rhagddo yn nifer o rannau o’r ardal, mae’n ymddangos, yn ystod y canol oesoedd hwyr a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol. Dyma sut y disgrifiodd Samuel Lewis Bangor Is-coed:

‘The adjacent scenery in many places is beautiful and richly picturesque, the noble sweeps of the Dee being frequently overshadowed by thick hanging woods, which fringe its elevated bank’,

ac mae ei ddisgrifiad o Overton Bridge yn cyflwyno amgyffrediad cyfoes o ddefnydd tir a defnydd tir posibl:

‘The surrounding scenery is beautifully picturesque, being composed of a great diversity of features in pleasing combination and agreeable contrast. From a ridge near the village is seen, on one side, an extensive plain of verdant meadows, enlivened by the windings of the River Dee, skirted in front by fertile and richly wooded slopes’.

Mae Thomas Pennant, ar ddiwedd y 18fed ganrif, yn cyfeirio at weddillion coetir hynafol a oedd i’w weld yn ardal Threapwood, ac mae’n disgrifio ardal Hanmer fel a ganlyn:

‘the part about the little town of Hanmer is extremely beautiful; varied with a lake of fifty acres, bounded on all sides with small cultivated eminences, embellished with woods’.

Mae Pennant yn dwyn sylw arbennig i’r ardal o amgylch Willington Cross, i’r de o Tallarn Green, gan nodi bod y tir ‘which hitherto had been uncommonly wet and dirty, now changes to a sandy soil; and becomes broken into small rising’. Mae Lewis yn dwyn sylw tebyg at y gwahaniaethau mewn defnydd tir wrth iddo ddisgrifio’r ardal o amgylch Wrddymbre [Worthenbury]:

‘The soil of the higher grounds is in general good loamy clay, producing superior crops of wheat and rich pasturage; that in the lower grounds, which is subject to partial floods from the river and some tributary brooks which intersect it, is formed of alluvial earth’

Y Tirwedd Gweinyddol

Ffiniau secwlar

Nid oes llawer yn hysbys am fframwaith gweinyddol cynnar yr ardal, er y tybir bod Maelor Saesneg yn bodoli yn ystod Oes yr Haearn a thiriogaeth llwyth y Cornovii yn dilyn hynny. Credir bod y diriogaeth yn cyfateb yn fras i ffiniau teyrnas Powys ar ôl cyfnod y Rhufeiniaid; nodir isod ei bod yn bosibl bod y deyrnas wedi ymestyn i dir gwastad Sir Gaer hyd fan rhywle rhwng Whitchurch a Chaer.

Er nad oes llawer yn hysbys am hanes Maelor Saesneg ar ddechrau’r canol oesoedd, mae’n rhaid tybio bod cwmwd Maelor, a’i ganolbwynt crefyddol ar lannau afon Dyfrdwy ym Mangor Is-coed, wedi’i sefydlu fel cymuned ffyniannus erbyn diwedd y 6ed ganrif, o leiaf. Yn sicr, roedd statws Sant Dunawd, arweinydd y gymuned grefyddol ym Mangor, yn sylweddol yn yr eglwys Brydeinig gyfoes ac, yn 603, arweiniodd ddirprwyaeth o esgobion a gwyr dysgedig eraill yr Eglwys Brydeinig i gyfarfod gyda Sant Awstin, pan ddaeth ei genhadaeth i Brydain i geisio sefydlu awdurdod Eglwys Rufain dros yr eglwys frodorol ym Mhrydain, ond methu fu hanes y genhadaeth hon.

Mae ffiniau cynnar teyrnas Powys yn ansicr, ond yn ddiamau roeddynt unwaith yn ymestyn ymhell i diroedd gwastad Swydd Amwythig a Sir Gaer. Ers dechrau’r 7fed ganrif, o leiaf, roedd y tiroedd isel deniadol hyn ar hyd afon Dyfrdwy, ac yn ymestyn i dir gwastad Sir Gaer, dan bwysau cynyddol, yn enwedig oddi wrth deyrnas Eingl-Sacsonaidd Mersia i’r dwyrain a’r de-ddwyrain, a oedd yn ymestyn ei thiriogaeth. Mae’n amlwg bod y teyrnasoedd Brythonig brodorol yn cydweithio rhywfaint â Mersia yn ystod y cyfnod hwn, o leiaf wrth iddynt wynebu gelyn cyffredin ac, yn wir, mae’r dystiolaeth ddogfennol cynharaf o achlysur yng Ngorllewin Canoldir Lloegr, yn y 7fed ganrif, yn crybwyll Bangor Is-coed. Ym mrwydr Caer, oddeutu 616, dywed Bede bod Aethelfrith, brenin teyrnas Angliaidd Northumbria, wedi trechu lluoedd y Brythoniaid, gan gynnwys mynachod o fynachlog Bangor yn ôl y tebyg, a Brochfael, o deulu brenhinol Powys, yn eu harwain. Yn ôl rhai ffynonellau, roedd Selyf, mab Cynan gydag ef. Mae’n ymddangos bod y ddau arweinydd yn perthyn i’r Cadelling, teyrnlin frenhinol a reolai tiriogaethau yng ngogledd-ddwyrain Cymru a Sir Gaer yn y 9fed ganrif. Yn ôl Bede, roedd y ffaith bod yr Eglwys Brydeinig newydd wrthod cenhadaeth Awstin i sefydlu goruchafiaeth Eglwys Rufain yn cyfiawnhau lladd nifer sylweddol o fynachod Prydeinig yn y frwydr hon.

Efallai bod Edwin o Northumbria, olynydd Aethelfrith, wedi mynd ymlaen i gipio holl dir gwastad Sir Gaer oherwydd ei bod yn uchelgais ganddo gyfeddiannu teyrnas Powys hefyd. Er bod cyfnod y gweithred hwn yn weddol fyr, roedd yn rhagddarlunio un o’r achlysuron pwysicaf yn hanes teyrnasodd brodorol Cymru. Byddai Northumbria a Mersia yn dadlau dros oruchafiaeth ar dir gwastad Sir Gaer am nifer o flynyddoedd i ddod, ac ar un adeg ymunodd lluoedd Cadwallon o Wynedd a Phenda o Fersia i drechu Edwin. Ond, yn y pen draw, cafodd teyrnasoedd Brythonig Cymru eu gwahanu unwaith ac am byth o deyrnasoedd Brythonig Cumbria. Cyfnerthodd Mersia ei rym gwleidyddol a milwrol dros yr ardal yn ystod ail hanner yr 8fed ganrif, yn ystod teyrnasiad Aethelbald ac yna Offa. Enwyd Offa yn ‘frenin y Saeson’. Yn sgîl adeiladu Clawdd Wat a Chlawdd Offa cyn diwedd yr 8fed ganrif, cipiwyd rheolaeth ar Faelor Saesneg o Bowys, ac estynnwyd grym yr Eingl-Sacsoniaid i ardal a orweddai i’r gorllewin o afon Dyfrdwy am nifer o ganrifoedd i ddod. Mae tystiolaeth enwau lleoedd yn dynodi bod aneddiadau Mersiaidd wedi’u gwasgaru yn yr ardal yn ystod cyfnod rhwng yr 8fed ganrif a’r 11eg ganrif yn ôl pob tebyg, ac efallai yn gynt na hynny.

Nid yw effaith y rhyfeloedd Danaidd yn ystod y 9fed a’r 10fed ganrif yn hysbys, er mae’n bosibl bod enw Croxton, i’r dwyrain o Horseman’s Green, yn arwydd o ddylanwad Nordig. Efallai bod enw Wrddymbre [Worthenbury], sy’n cynnwys yr elfen burh (‘amddiffynfa’) o’r Hen Saesneg, yn arwyddocáu strwythur amddiffynnol o ryw fath.

Adeg y Goncwest Normanaidd ym 1066, roedd llawer o’r tir i’r dwyrain o Glawdd Offa, ar hyd y ffin ogleddol, yn perthyn i gantrefi Exestan a Dudestan yn Sir Gaer. Roedd Dudestan (Broxton yn ddiweddarach) yn cynnwys ardal Maelor Saesneg ac yn cael ei hasesu ar gyfer treth (hidated). Yn ôl rhestr y maenorau yn yr arolwg Domesday ym 1086, roedd tiroedd yn Wrddymbre [Worthenbury] (Hurdingberie), Llys Bedydd [Bettisfield] (Bedesfeld) ac Iscoyd (a nodwyd fel Burwardestone), ym meddiant Edwin, iarll Sacsonaidd Mersia, adeg y goncwest ym 1066. Mae’r Domesday hefyd yn cofnodi bod yr eglwys yn hawlio daliadau coll yn Bedesfeld a Burwardestone; collwyd rhai o’r rhain mor hir yn ôl â theyrnasiad Brenin Cnut (1016-35). Awgryma hyn fod nifer o stadau yn bodoli cyn y Goncwest a oedd yn cwmpasu rhan sylweddol o Faelor Saesneg, wedi’u rhannu rhwng yr eglwys ac iarll Edwin.

Yn dilyn y Goncwest Normanaidd, roedd y tiroedd hyn yn ffurfio rhan o arglwyddiaeth mers Caer a oedd ym meddiant Iarll Hugh o Avranches, un o brif is-gapteniaid Brenin William; mae’n debyg mai’r bwriad oedd darparu canolfan ar gyfer ymgyrchoedd yn erbyn teyrnasoedd cyfagos Cymru. Dywedwyd bod mintai o ryfelwyr ifainc a oedd yn chwilio am antur a ffortiwn wedi sefydlogi’r arglwyddiaeth newydd yn y cyfnod hwn. Trosglwyddwyd maenorau Hurdingberie, Bedesfeld a Burwardestone, ynghyd â thiroedd helaeth yn yr ardaloedd cyfagos yn Sir Gaer, i Robert FitzHugh, un o brif denantiaid Iarll Hugh, a oedd o dras Normanaidd yn ôl pob tebyg. Ymddengys fod patrwm y daliadau hyn, a ffurfiai bloc cryno yn hanner deheuol cantref Dudestan yn y Domesday, yn adlewyrchu amlystâd a atafaelwyd gan ragflaenydd Robert, Iarll Edwin y Sacson, ac mae’n bosibl y meddiannwyd y rhain heb rhyw lawer amhariad gweinyddol.

Daeth Robert FitzHugh i fod yn farwn blaenllaw yn rhyfeloedd Iarll Hugh yn erbyn y Cymry ac, er gwaethaf y nifer gymharol fach o gestyll pridd a phren y daethpwyd o hyd iddynt yn yr ardal, mae bodolaeth nifer sylweddol o farchogion di-enw (milites), yn pwysleisio natur filwrol a strategol daliadau Robert yn ne-orllewin Sir Gaer a Maelor Saesneg. Mae’r arolwg Domesday yn awgrymu bod y marchogion hyn wedi cael tir yn gyfnewid am wasanaeth milwrol. Roedd tri o’r marchogion hyn yn Llys Bedydd [Bettisfield], dau yn Burwardestone, ac un yn Wrddymbre [Worthenbury], ac mae’n sicr eu bod yn perthyn i haenau uchaf y tenantiaid lleol. Ymhlith newydd-ddyfodiaid eraill i’r ardal roedd tri gwr Ffrengig di-enw (francigenae) yn Wrddymbre [Worthenbury], ac mae’n debyg bod eu statws cymdeithasol yn uwch na’r gwerinwyr lleol.

Nid oes llawer yn hysbys am gyfansoddiad diwylliannol nac ieithyddol Maelor Saesneg adeg yr arolwg Domesday, er bod hanes diweddarach yn awgrymu y gallai fod nifer o ddeiliaid tir Cymreig yn parhau i fyw yno, fel yn y cyfnod cyn y Goncwest o bosibl. Mae’r Domesday yn rhestru amrywiaeth o daeogion, dihirod, bordariaid, dynion ychen a radmen, yr unig gyfeiriad posibl at is-ddosbarth Cymreig penodol yw’r tri ‘gwr arall’ a restrwyd yn Llys Bedydd [Bettisfield].

Er bod arglwyddiaeth mers Eingl-Normanaidd Caer wedi cyfeddiannu’r ardal, roedd ffiniau gogledd-ddwyrain Cymru yn parhau i fod yn destun anghydfod i deyrnas Powys ar ddiwedd yr 11eg ganrif. Yn ystod teyrnasiad Harri’r Cyntaf ar ddechrau’r 12fed ganrif, datblygodd cyfnod o oddefgarwch cymharol rhwng teyrnas Powys a Saeson y gororau; rhoddodd cythrwfl yn ystod teyrnasiad Stephen, yn y blynyddoedd yn arwain at ganol y 12fed ganrif, gyfle i Bowys ymestyn ei ffiniau dwyreiniol i Sir Gaer a Swydd Amwythig, i’r tiroedd a oedd yn rhan o’r deyrnas cyn y Goncwest; yn ystod y cyfnod hwnnw, daeth cwmwd Maelor (a ddaeth i gael ei adnabod fel arglwyddiaeth Brwmffild [Bromfield] a saif ar lannau gorllewinol a dwyreiniol afon Dyfrdwy) yn rhan o’r deyrnas Gymreig eto. Er gwaethaf ambell gyrch achlysurol, fel cyrch iarll Caer ar Faelor ym 1177, arhosodd y diriogaeth yn nwylo’r Cymry am fwy na chanrif.

Roedd nifer o ffactorau a gwtogodd ar ryddid ac annibyniaeth Powys yn ystod y 13eg ganrif. Oherwydd ei lleoliad yn ddaearyddol, roedd y deyrnas yn agored i’w chyfeddiannu ar nifer o adegau gan deyrnasoedd ymledol Gwynedd i’r gorllewin a Lloegr i’r dwyrain. Roedd maint y deyrnas fawr – disgrifiodd Gwalchmai, bardd y llys, ei bod yn ymestyn o gopa Pumlumon i giatiau Caer, o Fangor Is-coed i ymylon coediog Meirionnydd – wedi rhoi teyrnasiad y llywodraeth frodorol ar brawf yn ystod y 12fed ganrif; yn sgîl yr arfer Cymreig o etifeddiaeth ranadwy, daeth nifer o wahanol arglwyddiaethau bach ac aneffeithiol i’r amlwg yn ystod y 13eg ganrif. Mae’n amlwg bod y ddwy ochr yn ystyried bod Maelor Saesneg yn werthfawr iawn, o ystyried ei diroedd fferm cymharol cyfoethog a chynhyrchiol sy’n ymylu afon Dyfrdwy a’r diffyg rhwystrau naturiol i’r dwyrain a’r gorllewin.

Pan fu farw Madog ap Maredudd, ym 1160, rhannwyd teyrnas Powys yn ddau, etifeddodd ei fab Gruffudd Maelor rhan ogleddol y deyrnas, a chafodd ei henwi’n Powys Fadog ar ôl Madog mab Gruffudd. Oherwydd y cytunwyd ar ddwy arglwyddiaeth ar wahân, gwahanwyd y diriogaeth a adnabyddir fel Maelor Saesneg, a gofnodwyd gyntaf mewn siarter ym 1202, o Faelor Gymraeg, a oedd ar lan orllewinol afon Dyfrdwy. Etifeddodd Gruffudd Maelor Faelor Saesneg pan fu farw Madog ym 1236, a daeth yn aelod llawn o’r gymdeithas Eingl-Gymreig, gan briodi Emma Audley, merch teulu blaenllaw o Swydd Amwythig, ond parhaodd dan reolaeth teyrnas Gwynedd, yn enwedig dan ei harweinydd newydd, Llywelyn ap Gruffudd. Mae darpariaethau Gruffudd Maelor i’w weddw, mewn siarter a gymeradwyodd Llywelyn, yn datgelu rhywfaint o wybodaeth am gymeriad cymdeithas y gororau yn ystod y cyfnod hwn. Byddai Emma yn etifeddu Maelor Saesneg, i’r gwrthwyneb i ddarpariaethau gwaddol arferol cyfraith Gymreig, ond byddai’r diriogaeth yn dychwelyd yn arglwyddiaeth Gymreig pan fyddai hi’n marw.

Fel mae’n digwydd, difeddiannodd Llywelyn Emma o’r tiroedd gwaddol hyn ar ôl marwolaeth Gruffudd, oherwydd ei theyrngarwch i Goron Lloegr. Yn dilyn ymgyrchoedd yn erbyn Llywelyn ym 1276-77, ymdrechodd Edward y Cyntaf i ymestyn ei reolaeth dros Faelor Saesneg, ac ildiwyd rheolaeth Gymreig ar y diriogaeth o’r diwedd yn dilyn Concwest Edward o Gymru ym 1282-83, pan gipiodd Coron Lloegr Faelor Saesneg. Ym 1284, unwyd amrywiol stadau’r Goron yng ngogledd-ddwyrain Cymru – Tegeingl a Chwmwd yr Hob cyfagos, a thiriogaeth arunig Maelor Saesneg – yn sir newydd y Fflint trwy Statud Rhuddlan, a’u gosod dan rymoedd eang milwrol, gweinyddol a barnwrol prif ustus Caer, gan barhau ym meddiant personol y Goron. Ym 1286, rhoddodd Edward y Cyntaf Faelor Saesneg i’w frenhines, Eleanor.

Mae’r elfennau llan a tref, sy’n gyffredin mewn enwau lleoedd Cymraeg, bron iawn yn absennol ym Maelor Saesneg, sy’n awgrymu bod yr ardal wedi cael ei gweinyddu fwy neu lai yn unol â’r system faenorol Seisnig, er bod enwau caeau a mesurau Cymraeg mewn dogfennau cynnar yn arwydd bod elfen Gymraeg wedi parhau ymysg rhan o’r boblogaeth. Ymhlith maenorau sydd wedi bodoli ar ryw adeg ym Maelor Saesneg mae Wrddymbre [Worthenbury], Llys Bedydd [Bettisfield], Iscoyd ac, mae’n debygol, Gredington sydd wedi’u cofnodi yn yr arolwg Domesday, fel y nodwyd uchod, a Hanmer ac Owrtyn [Overton] a gofnodwyd mewn ffynonellau diweddarach. Roedd y trefgorddau adeg arolwg y degwm yn y 19th ganrif, yn deillio yn rhannol o ddirywiad y system faenorol ganoloesol, yn cynnwys plwyfi un trefgordd Bangor Is-coed ac Wrddymbre [Worthenbury], tair trefgordd Overton Villa, Overton Foreign a Knolton ym mhlwyf Owrtyn [Overton], trefgordd Llannerch Banna [Penley] ym mhlwyf Ellesmere (Swydd Amwythig), trefgordd Iscoyd ym mhlwyf Malpas (Swydd Amwythig), a threfgorddau Gwalint [Wallington], Halchdyn [Halghton], Tybroughton, Bronington, Hanmer a Llys Bedydd [Bettisfield] ym mhlwyf Hanmer. Er nad oes rhaniadau trefgordd yn Wrddymbre [Worthenbury], mae’r plwyf yn cynnwys pedwar pentrefan Mulsford, Brychdyn [Broughton], Ywern ac Willington, yn ogystal â’r pentref plwyfol.

Ym 1309, rhoddwyd yr arglwyddiaeth i Frenhines Isabella, cymar Edward yr Ail, ond pan gipiodd y brenin y cwmwd ar ddiwedd y 1320au, fe’i rhoddwyd i Ebulo Lestrange. Ym 1397, ychwanegodd Richard yr Ail sir y Fflint at ei etholaeth balatin yng Nghaer i ffurfio tywysogaeth newydd Caer. Parhaodd y diriogaeth ym meddiant personol y goron hyd nes cyflwynwyd y Deddfau Uno ym 1536 a 1542-43, yn ystod teyrnasiad Harri’r Wythfed, pan unwyd y diriogaeth yn ffurfiol i lunio teyrnas Lloegr a Chymru, gan rannu un fframwaith gweinyddol a chyfreithiol yn gyffredinol. Yn sgîl creu Sir Ddinbych o’r arglwyddiaethau mers a ddiddymwyd yng ngogledd-ddwyrain Cymru, roedd cantref Maelor Saesneg wedi’i wahanu o weddill Sir y Fflint, a daeth i gael ei adnabod yn y cyfnod modern fel ‘Sir wledig y Fflint ar Wahân’. Bwrdeistref canoloesol Owrtyn [Overton] oedd canolfan weinyddol yr ardal.

O ganlyniad i aildrefnu llywodraeth leol ym 1974, daeth yr ardal yn rhan o ddosbarth Wrecsam Maelor yn sir newydd Clwyd. Pan aildrefnwyd llywodraeth leol eto ym 1996, daeth Maelor Saesneg yn rhan o awdurdod unedol newydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam. Ar hyn o bryd, cynghorau bro yw’r haen isaf o weinyddiaeth sifil, ac mae’r cynghorau canlynol ym Maelor Saesneg: Bangor Is-coed, Owrtyn [Overton], Willington Wrddymbre [Worthenbury], Hanmer, De Maelor, a Bronington.

Ffiniau eglwysig

Mae’n ymddangos mai eglwys y clas mynachaidd cynnar ym Mangor Is-coed, sef Bancornaburg yn ôl Bede, oedd canolbwynt ardal eglwysig helaeth sy’n cyfateb i gwmwd Cymreig cynnar Maelor, yn debyg i’r cysylltiad rhwng yr eglwysi cadeiriol a’r cantrefi yn y teyrnasoedd Eingl-Sacsonaidd cyfagos. Mae’n debygol bod staff y ddwy gyfundrefn yn cynnwys corff o offeiriaid secwlar a oedd â hawl i gasglu arian oedd yn ddyledus. Roedd yr eglwys wedi bodoli ers diwedd y 6ed ganrif o leiaf, ac roedd statws ei harweinydd Dunawd yn ddigon uchel yn yr eglwys Frythonig iddo arwain yr esgobion a’r gwyr dysgedig eraill i’r gynhadledd â Sant Awstin yn 603, y cyfeiriwyd ati uchod; mae’n bosibl mai Bangor oedd lleoliad y gynhadledd. Ceir nifer o arwyddion o Gristnogaeth Frythonig yn yr ardal, ac ymddengys yn debygol bod yr eglwysi Brythonig yn hyn na rhai o’r eglwysi Eingl-Sacsonaidd lleol, yn enwedig yng ngorllewin Sir Gaer, ac felly roedd rhywfaint o barhad o ran cyfundrefn ac aneddiadau eglwysig rhwng diwedd y cyfnod Brythonig a dechrau’r cyfnod Sacsonaidd.

Mae dosbarthiad trefgorddau’r plwyf, mor ddiweddar â dechrau’r 19eg ganrif, yn adlewyrchu ehangder yr ardal eglwysig ganoloesol gynnar a oedd ym meddiant Bangor yn y cyfnod cyn y Goncwest; mae’r trefgorddau hyn yn cynnwys Bangor Is-coed ac Is-coed yn Sir y Fflint (ym Maelor Saesneg) i’r dwyrain o afon Dyfrdwy, a phedair trefgordd yn Sir Ddinbych sef Eutun, Tref-y-Rhyg, Pickhill a Sesswick (yn yr hen Faelor Gymraeg) i’r gorllewin. Hefyd, arferai gynnwys plwyfi Owrtyn [Overton] ac Wrddymbre [Worthenbury] a oedd unwaith yn gapeliaethau dibynnol ar Fangor Is-coed. Mae’n ymddangos bod rhan ddwyreiniol Maelor Saesneg wedi ffurfio rhan o ardal eglwysig yr un mor helaeth, a ganolbwyntiai ar eglwys gynnar wedi’i chysegru i Sant Oswald ym Malpas, Sir Gaer. Yn y canol oesoedd, roedd plwyf yr eglwys hon yn cynnwys trefgordd Iscoyd i’r gogledd-ddwyrain ac, erbyn diwedd y 13eg ganrif, roedd ei deoniaeth yn cynnwys plwyf Hanmer. Roedd trefgordd a deoniaeth Llannerch Banna [Penley], i dde-orllewin Maelor Saesneg, yn rhan o blwyf ganoloesol Ellesmere, Swydd Amwythig. Fodd bynnag, yr unig offeiriad y mae arolwg Domesday yn ei nodi ym Maelor Saesneg yw’r offeiriad a oedd â gwaddol o dir ym maenor Llys Bedydd [Bettisfield] (Bedesfeld), un o drefgorddau plwyf hynafol Hanmer, ac mae’n debygol bod hyn yn arwyddocáu bodolaeth eglwys Sant Chad yn Hanmer ei hun erbyn y dyddiad hwnnw.

Erbyn cyfnod y Goncwest, roedd Maelor Saesneg yn rhan o esgobaeth Caerlwytgoed [Lichfield] ac, ar wahân i gyfnod rhwng 1075-95 pan oedd yn rhan o esgobaeth fyrhoedlog Caer, bu’n rhan o’r esgobaeth honno hyd 1541, pan gafodd ei throsglwyddo i esgobaeth newydd Caer. Ceir cyfeiriadau at gapel Wrddymbre [Worthenbury] mor gynnar â 1388, ond yn ail hanner y 17eg ganrif cafodd ei greu fel plwyf ar wahân trwy ddeddf llywodraeth. Mae’n debygol bod eglwys Owrtyn [Overton] wedi bodoli ers dechrau’r 1280au, pan sefydlwyd y bwrdeistref planedig, ond ni ddaeth yn blwyf ar wahân hyd 1867.

Oherwydd bod y boblogaeth wledig ar gynnydd, a bod cynnydd yn nifer yr Anghydffurfwyr, crëwyd nifer o blwyfi newydd yn ystod y 19eg ganrif. Crëwyd plwyf newydd Bronington (cyfeirir ato weithiau fel New Fenns) o blwyf Hanmer ym 1836 a chrëwyd plwyf newydd Llys Bedydd [Bettisfield] yn yr un modd o blwyf Hanmer ym 1879, er i’r eglwys newydd a adeiladwyd yn Willington ym 1873 barhau yn rhan o blwyf Hanmer.

Ym 1849, trosglwyddwyd plwyfi Bangor Is-coed, Llys Bedydd [Bettisfield], Bronington, Hanmer, Owrtyn [Overton], ac Wrddymbre [Worthenbury] o esgobaeth Seisnig Caer i esgobaeth Gymreig Llanelwy.

Yn ystod hanner cyntaf y 19eg ganrif, roedd cynnydd amlwg yn nifer y mannau addoli anghydffurfiol ledled Maelor Saesneg, yn enwedig yn achos yr Enwadau yn y rhestr a ganlyn, sy’n nodi dyddiad adeiladu’r capeli: Capeli Methodistiaid Calfinaidd Cymreig yn Crabtree Green (1814); capeli’r Annibynwyr neu’r Cynulleidfawyr ym Mangor Is-coed (1838); capeli’r Methodistiaid Cyntefig yn Owrtyn [Overton] (1816), Cloy (1832); Ty Pregethu Llannerch Banna [Penley] (a fyddai’n cael ei ddefnyddio at ddibenion eraill yn ogystal ag addoli); Ty Melin Llys Bedydd [Bettisfield] (c. 1845); Capel Bethel, Hanmer (1850); Willington (1845); Capel Wesleaidd, Owrtyn [Overton] (1816); Capel Wesleaidd Bronington Chequer (1822); Capel Horseman’s Green (1841); mannau cyfarfod y Gymdeithas Wesleaidd heb dai ar wahân yn nhrefgordd Bangor (1850); ty cyfarfod yr Ymneilltuwyr Annibynnol yn Llys Bedydd [Bettisfield].

Tirweddau Anheddu

Aneddiadau Cynhanesyddol a Rhufeinig

Nid yw tystiolaeth amgylcheddol o Fenn’s Moss a mannau eraill yn ddigon manwl ynglyn â dyddiadau a graddau clirio’r coedwigoedd a thrin y tir ym Maelor Saesneg, ac nid oes llawer o dystiolaeth arall o anheddu cynnar yn ystod y cyfnodau Cynhanesyddol a Rhufeinig. Efallai bod hyn yn adlewyrchu’r ffaith nad oedd unrhyw anheddu cynnar yn yr ardal, ond gallai hefyd adlewyrchu defnydd tir diweddarach. Byddai trin tir âr dwys a chreu tirwedd cefnen a rhych mewn rhai ardaloedd yn y canol oesoedd wedi tueddu i erydu unrhyw dystiolaeth o aneddiadau cynnar, fel cloddiau. Byddai trosi’r tir âr yn ystod y canol oesoedd yn laswelltir yn y cyfnod ôl-ganoloesol wedi cwtogi ar y cyfleoedd i adfer darganfyddiadau ar hap o wynebau caeau a byddai hefyd wedi creu amodau anffafriol i adfer tystiolaeth olion cnydau trwy awyrluniau.

Mae nifer o dwmpathau claddu yn cynrychioli gweithgareddau’r cyfnod Neolithig hwyr neu’r Oes Efydd, efallai yn y cyfnod rhwng oddeutu 2500-1200 CC, gan gynnwys un twmpath yn Bryn Rossett (Hanmer) i’r dwyrain o Horseman’s Green, pâr o dwmpathau mawr oddeutu can metr oddi wrth ei gilydd ychydig i’r gogledd o Whitewell (Bronington) a grwp o dri thwmpath a ddiffinnir yn fras i’r gorllewin o Barc Iscoyd (Bronington) yn Twmpath Warren, Crossfield, a Waenreef Farm. Cloddiwyd i mewn i un o’r ddau feddrod yn Whitewell ar ddiwedd y 19eg ganrif pan ddaethpwyd o hyd i wrn lludw o’r Oes Efydd yn fwy na thebyg, â thameidiau o gladdedigaeth dynol. Ymddengys yn debygol fod y twmpathau claddu yn gysylltiedig â chymunedau ffermio lleol yn y cyfnod hwn, er na ddaethpwyd o hyd i safleoedd unrhyw aneddiadau o’r un cyfnod. Efallai ei bod yn arwyddocaol bod y rhan fwyaf o’r safleoedd hysbys ar dir a gaewyd yn gymharol hwyr ac, felly, efallai eu bod wedi goroesi oherwydd na chawsant eu haredig yn ddwys yn ystod y canol oesoedd. Yr unig ddarganfyddiad cynhanesyddol ar hap o’r ardal yw bwyell efydd o Ganol yr Oes Efydd o fath palstaf. Daethpwyd o hyd iddi ger Neuadd Iscoyd. Daethpwyd o hyd i balstaf tebyg yn Whixall Moss, dros y ffin yn Swydd Amwythig, wedi’i mewnosod ym moncyff pinwydden; efallai bod hyn yn arwyddocáu bod y coed yno wedi’u clirio yn gynnar.

Nid oes llawer o dystiolaeth sicr wedi dod i’r amlwg o aneddiadau cynhanesyddol diweddarach neu aneddiadau Rhufeinig er ei bod yn bosibl bod tystiolaeth olion cnydau, wedi’i chofnodi mewn awyrluniau, ger Pigeon House (Hanmer), i’r de-orllewin o Horseman’s Green, ac ar Blackhurst Farm, Llys Bedydd [Bettisfield] (De Maelor) yn cynrychioli safleoedd llociau siâp petryal a lled petryal o’r cyfnodau hyn. Efallai bod olion clawdd dwbl â ffos yn amddiffyn pentir bychan llai na hectar o faint, yng Nghoedwig Gwernheylod (Owrtyn [Overton]) sy’n tremio dros lannau afon Dyfrdwy, yn arwydd o anheddiad o Oes yr Haearn. Mae un darn arian sy’n dyddio o ddechrau neu ganol yr 2il ganrif yn cynrychioli gweithgaredd y Rhufeiniaid y daethpwyd o hyd iddo yn Cloy House (Bangor Is-coed) yn ogystal ag wyth darn arian sy’n dyddio o ddiwedd y 3edd ganrif neu ddechrau’r 4ydd ganrif y daethpwyd o hyd iddynt yn Eglwys Cross (Hanmer) ond ni ellir gwneud mwy na dyfalu ynghylch natur neu raddau anheddu yn ystod y cyfnod hwn yn yr ardal.

Aneddiadau’r canol oesoedd cynnar

Mae’r clas o’r canol oesoedd cynnar ym Mangor Is-coed yn arwydd bod anheddiad yn o leiaf rhan o’r ardal ar ddiwedd y 6ed ganrif. Roedd Bangor yn ganolfan ranbarthol bwysig i ddysg, efengylu ac addysg, wedi’i lleoli ar lan serth ger un o’r rhydau strategol pwysicaf ar draws Afon Dyfrdwy. Mae gwreiddiau enw’r lle yn y gair Cymraeg bangor, sy’n golygu ‘lloc plethwaith’, ac er mai hwn yw un o’r ychydig enwau Brythoneg hynafol sydd wedi goroesi ym Maelor Saesneg, ceir y cyfeiriad cyntaf at y lle yn History of the English Church and People a ysgrifennwyd gan Bede yn gynnar yn yr 8fed ganrif, gan gyfeirio ato fel mynachlog ‘lingua Anglorum Bancornaburg’, ac mae’n galw’r lle yn Bancor mewn man arall. Nid oes unrhyw beth yn hysbys am ffurf na maint y sefydliad pwysig hwn, ond ymddengys ei fod yn sefydliad cymhleth, â digonedd o dir mae’n debyg, ac yn cynnwys mynachod, esgobion a gwyr dysgedig. Efallai ei fod yn ganolbwynt i gymuned wledig wasgaredig yn y cefn gwlad cyfagos, fel oedd yn nodweddiadol o batrymau anheddu Cymreig cynnar. Mae’n rhaid dyfalu ynghylch maint y gymuned, ac efallai rhifo cannoedd yn hytrach na’r miloedd y soniodd Bede amdanynt; lladdwyd nifer ohonynt ym mrwydr Caer oddeutu 616, fel y nodwyd uchod. Ceir cryn ansicrwydd ynghylch p’un a lwyddodd y sefydliad i adfer yn dilyn y gyflafan hon, er mae’n amlwg iddo gadw rhywfaint o bwysigrwydd fel canolfan eglwysig ymhell i’r Canol Oesoedd. Er hynny, ymddengys na ddaeth yn ganolfan â phoblogaeth sylweddol hyd nes canrifoedd diweddarach. Nid yw’r ffaith nad yw’r arolwg Domesday 1086 yn cynnwys enw Bangor yn golygu o anghenraid nad oedd y sefydliad yn bodoli erbyn y dyddiad hwnnw, ond efallai ei fod yn awgrymu nad oedd ganddo unrhyw swyddogaethau gweinyddol pwysig. Nid yw lleoliad yr anheddiad cynnar ym Mangor yn sicr ac, er bod newidiadau dilynol i gwrs afon Dyfrdwy wedi newid y dopograffeg leol yn sylweddol, mae astudiaethau diweddar ar ystumiau’r afon yn awgrymu mai yn ystod oddeutu’r tair canrif ddiwethaf yn unig mae’r afon wedi sefydlogi ar ei chwrs presennol.

Ymddengys bod Maelor Saesneg, ynghyd â siroedd cyfagos Sir Gaer a Swydd Amwythig, wedi’u hintegreiddio’n llawn yn nheyrnas Eingl-Sacsonaidd Mersia erbyn canol yr 8fed ganrif o leiaf. Erbyn diwedd yr 8fed ganrif, roedd ymhell o fewn ffiniau’r deyrnas a oedd â Chlawdd Offa yn llinell derfyn iddi, hyd at 10km i’r gorllewin o afon Dyfrdwy. Er bod nifer o enwau lleoedd hanesyddol Maelor Saesneg wedi’u cofnodi gyntaf mewn ffynonellau gweddol hwyr rhwng y 13eg ganrif a diwedd yr 17eg ganrif, ymddengys bod nifer o’r rheiny sy’n cynnwys elfennau enwau lleoedd Saesneg yn fwy na thebyg yn cynrychioli aneddiadau o ryw fath sy’n dyddio o gyfnod rhwng yr 8fed a’r 10fed ganrif, ac felly’n darparu tystiolaeth bwysig am hanes anheddu yn yr ardal. Mae elfennau’r enwau lleoedd -tun neu ingtun o’r Hen Saesneg i’w canfod yn Bronington, Brychdyn [Broughton], Gredington, Halchdyn [Halghton], Knolton, Owrtyn [Overton], Tybroughton, Willington, Wallington. Mae’n ymddangos bod rhai o’r enwau’n disgrifio’r dirwedd leol: Efallai bod Halchdyn [Halghton] yn cynnwys yr elfen healh (‘cornel o dir’), efallai’r ongl rhwng dwy nant leol; mae’n bosibl bod Owrtyn [Overton] wedi deillio o ofer tun (‘glan’), sydd efallai’n disgrifio hen lan yr afon ger y pentref presennol; efallai y daw Knolton o cnoll tun (‘bryncyn’); ac efallai bod Brychdyn [Broughton] yn cynnwys yr elfen broc (‘nant’), ond, ymhob un o’r achosion hyn, oherwydd nad oes ffurfiau cynnar ar yr enw ar gael, mae hi’n amhosibl eu dehongli yn fwy sicr. Ymddengys bod nifer o enwau o darddiad Cymraeg a Saesneg cymysg, fel yn achos Brynhovah; mae’n debyg ei fod yn deillio o’r Gymraeg bryn a’r Hen Saesneg ofer (‘glan’).

Mae natur yr aneddiadau cynnar hyn yn aneglur. Gall elfennau’r enwau lleoedd sy’n gysylltiedig ag aneddiadau fod yn amrywiol tu hwnt, fel ‘lloc’, ‘fferm’ a ‘stad, pentref’, ond efallai ei bod yn arwyddocaol nad oedd unrhyw un o’r rhain yn ganolbwynt i blwyfi eglwysig y canol oesoedd ac mai dau yn unig sy’n gysylltiedig ag aneddiadau cnewylledig o unrhyw faint, yr un ohonynt, yn ôl pob tebyg, yn deillio o gyfnod y Sacsoniaid. Tref blanedig yn ystod teyrnasiad Edward yn y 13eg ganrif yw Owrtyn [Overton], pan fabwysiadwyd enw maenor a oedd yno eisoes, ac mae’r anheddiad presennol yn Bronington yn edrych fel anheddiad ‘gwyrdd’ gweddol ddiweddar.

Mae’n debygol mai tarddiad Sacsonaidd sydd i nifer o elfennau eraill enwau lleoedd ym Maelor Saesneg. Fel y nodwyd uchod, mae Penley a Musley yn cynnwys yr elfen -leah (‘coedwig, llannerch mewn coedwig’) o’r Hen Saesneg. Mae’r elfen -feld (‘cae’) o’r Hen Saesneg yn ymddangos yn ffurf cynharach Llys Bedydd [Bettisfield]. Efallai bod Wolvesacre yn deillio o’r enw personol Wulf, sydd i’w gael mewn ffynonellau Hen Saesneg. Er bod y dystiolaeth ddogfennol gyntaf o Hanmer yn dyddio o’r 13eg ganrif, tybir bod yr enw’n deillio o’r enw personol Hen Saesneg Hagena, sy’n golygu ‘pwll Hagena’, ac yn cyfeirio at y llyn naturiol sydd yno. Saesneg yw ffynhonnell nifer o nodweddion naturiol eraill fel nentydd (Nant Wych, Millbrook, Nant Emral, Cumbers Brook, Red Brook, Shell Brook), corsydd Cranberry Moss, Fenn’s Moss, Cadney Moss), a llynnoedd (Croxton Pool), er bod enw Llyn Bedydd, i’r dwyrain o Hanmer, wedi deillio o’r geiriau Cymraeg llyn a bedydd, er bod hynafiaeth yr enw’n anhysbys.

O’r enwau lleoedd Sacsonaidd a nodwyd uchod, dim ond Llys Bedydd [Bettisfield] a maenor coll Burwardestone sy’n ymddangos yn Llyfr Domesday 1086. Aeth nifer ymlaen i ffurfio trefgorddau tra datblygodd eraill yn bentrefannau neu’n enwau ar ardaloedd, ac mae’n ymddangos nad oedd yr aneddiadau Sacsonaidd roeddynt yn eu cynrychioli fawr mwy na daliadau unigol neu glystyrau bach o ddaliadau mewn stadau mwy, er nad oes unrhyw beth yn hysbys am yr aneddiadau hyn ar wahân i’r dystiolaeth enwau lleoedd hon. Mae’r aneddiadau cynnar hyn wedi’u gwasgaru’n weddol eang ledled Maelor Saesneg, ar wahân i’r ardal o amgylch Fenn’s Moss, oddeutu 2.5km oddi wrth ei gilydd. Ymddengys yn arwyddocaol bod y rhan fwyaf o’r aneddiadau hyn wedi’u lleoli mewn ardaloedd lle cafwyd amaethyddiaeth âr, wedi’u cynrychioli gan naill ai tirwedd cefnen a rhych neu gaeau llain (hefyd, gwelwch yr adran ar amaethyddiaeth isod).

Mae dau enw lle arall a nodwyd uchod yn darparu tystiolaeth bosibl o aneddiadau yn y 10fed ganrif, sef Croxton, ychydig i’r dwyrain o Horseman’s Green, sy’n deillio o bosibl o air o’r Hen Norseg sy’n golygu bagl neu blyg, ac Wrddymbre [Worthenbury]; mae’n ymddangos bod yr enw’n deillio o gyfansawdd o wordig (lloc, buarth, trigfan) a burh (amddiffynfa). Eto, nid oes llawer o dystiolaeth ar wahân i’r hyn y mae’r enwau lleoedd yn ei darparu, er bod olion posibl cloddiau amddiffynnol wedi’u nodi i’r dwyrain o Wrddymbre [Worthenbury] a allai fod wedi ffurfio rhan o strwythur amddiffynnol.

Aneddiadau canoloesol

Yn sgîl arolwg Domesday ym 1086, ceir darlun mwy manwl o aneddiadau’r ardal yn yr 11eg ganrif, ac mewn rhai achosion mae hefyd yn manylu ar ddyddiadau yn y blynyddoedd cyn y Goncwest Normanaidd ym 1066. Ymhlith y nifer gymharol fach o faenorau a restrir ym Maelor Saesneg yn yr arolwg, sy’n dynodi anheddiad o ryw fath neu’i gilydd, mae Llys Bedydd [Bettisfield] (Bedesfeld), Wrddymbre [Worthenbury] (Hurdingberie), Burwardestone, a cheir cyfeiriad penodol yn y Domesday ar dir fferm yn Llys Bedydd [Bettisfield], y tybir ei fod yn gysylltiedig ag anheddiad, a ddelir yn gynt yn yr 11eg ganrif, yn ystod teyrnasiad Brenin Cnut (1016-35). Dywedir bod pob un o’r tri maenor hyn yn adfeilion adeg y goncwest, ond nid oes unrhyw arwydd clir p’un a oedd hyn wedi bod yn wir ers amser maith ynteu a oedd o ganlyniad i elyniaethau posibl y Cymry neu’r Normaniaid. Fodd bynnag, ymddengys yn annhebygol bod yr arolwg Domesday yn ganllaw ddibynadwy i faint yr aneddiadau yn ystod diwedd yr 11eg ganrif, ac mae’n bosibl bod nifer o aneddiadau eraill cyfoes heb eu cynnwys yn yr arolwg am ryw reswm neu’i gilydd. Fodd bynnag, y darlun cyffredinol sy’n deillio o’r arolwg Domesday yw bod ardal Maelor Saesneg, fel ei hardaloedd cyfagos yn Sir Gaer a Swydd Amwythig, yn gymharol dlawd ac roedd ei phoblogaeth yn wasgarog yn y cyfnod hwn, o’i chymharu ag ardaloedd eraill yn ne a chanoldir Lloegr y dyddiad hwnnw. Mae’n bosibl fod ynddi ardaloedd helaeth o goetiroedd brodorol yn dal i oroesi.

Mae’n ymddangos bod gwreiddiau nifer o elfennau ar batrwm aneddiadau modern ym Maelor Saesneg yn perthyn i’r Canol Oesoedd, ac yn debyg yn hyn o beth i ardaloedd cyfagos yn Sir Gaer a Swydd Amwythig, a oedd yn rhannu topograffeg ac economi ffermio tebyg. Ymhlith elfennau gwahanredol y patrwm amrywiol hwn, sy’n hollol wahanol i batrymau nifer o rannau eraill o Gymru, mae pentrefi mawr, neuaddau â ffosydd, a phlwyfi ag ychydig o ffermydd mawr yn unig, weithiau wedi’u clystyru mewn pentrefannau bach.

Gwreiddiau trefi a phentrefi

Ceir pedwar anheddiad cnewylledig canoloesol ym Maelor Saesneg, ac er ei bod yn debyg bod hanes a gwreiddiau’r aneddiadau hyn yn hollol wahanol, mae’n ymddangos iddynt fod yn ganolfannau eglwysig, ac weithiau yn ganolfannau maenorol, o ddyddiad cynnar. Pentrefi’r iseldir â gwreiddiau hynafol yw Bangor, Wrddymbre [Worthenbury] ac Owrtyn [Overton], ac maent yn ymylu tiroedd isel afon Dyfrdwy, mewn lleoliad tebyg i nifer o bentrefi Sir Gaer ymhellach i lawr yr afon. Mae lleoliad Bangor ac Owrtyn [Overton] yn gysylltiedig â rhydau strategol yr afon, fel y nodwyd uchod. Mae lleoliad Hanmer, ger Hanmer Mere, yn debyg i leoliad Ellesmere a Colemere yng ngogledd Swydd Amwythig, ac mae’n debyg bod ei wreiddiau’n gysylltiedig ag adnoddau roedd y llyn naturiol gweddol fawr hwn, sy’n fwy na 17 hectar o faint, yn eu cynnig.

Mae yna nifer o enwau ar bentref Bangor Is-coed, gan gynnwys Bangor Dunawd (ar ôl Sant Dunawd), Bangor Monachorum (‘Bangor y mynachod’), a Bangor-on-Dee. Ymhob achos, ychwanegwyd yr ôl-ddodiaid i gahaniaethu rhwng y pentref hwn a dinas gadeirlan Bangor, Sir Gaernarfon. Lhwyd yw’r cyntaf i gofnodi’r ffurf Bangor Isycoed ar ddiwedd yr 17eg ganrif. Fel y nodwyd uchod, daeth yr anheddiad yn ganolfan fynachaidd lwyddiannus i’r eglwys Frythonig erbyn diwedd y 6ed ganrif o leiaf, ac efallai bod cannoedd o bobl yn aelodau o’r gymuned hunangynhaliol. Mae natur yr anheddiad lle roedd y gymuned hon yn byw yn anhysbys, er ei bod yn debyg iddo ddioddef yn fawr yn sgîl brwydr Caer oddeutu 616 pan laddwyd nifer o’i ymlynwyr. Mae wedi parhau i fod yn ganolfan blwyfol ers hynny, er ymddengys bod yr anheddiad wedi aros yn weddol fach drwy gydol y Canol Oesoedd ac wedi methu â denu unrhyw swyddogaethau maenorol neu sifil eraill. Nid oedd yr arolwg Domesday yn cynnwys Bangor Is-coed, ond nid yw hyn yn arwydd nad oedd unrhyw anheddiad nac eglwys yma yn yr 11eg ganrif. Mae dau slab bedd herodrol, sy’n dyddio o oddeutu 1300, yn arwydd o strwythur cymdeithasol cymuned yr eglwys ar ddechrau’r 14eg ganrif; maent ill dau’n cynnwys cleddyfau a thariannau â phatrymau siec, y gellir eu cysylltu o bosibl â theulu Seisnig Warenne, ieirll Surrey ac arglwyddi Brwmffild [Bromfield] ac Iâl, ond efallai ei bod yn arwyddocaol nad oes unrhyw slabiau na delwau diweddarach, canoloesol, statws uchel ac nad oes unrhyw rai sy’n dynodi beddau clerigwyr blaenllaw.

Yn gyffelyb, mae’n ymddangos bod gwreiddiau Wrddymbre [Worthenbury] (neu Gwrthymp) yn perthyn i’r cyfnod canoloesol cynnar, ac efallai ei fod wedi ffurfio anheddiad cnewylledig bach o ddechrau’r 10fed ganrif pan, fel y nodwyd uchod, roedd yn amddiffynfa Mersiaidd o bosibl. Yn yr 11eg ganrif, roedd yn ganolbwynt maenor amhlwyfol a oedd ym meddiant barwn Normanaidd, Robert FitzHugh. Eto, mae ffurf yr anheddiad yn anhysbys, er bod yr arolwg Domesday yn cynnwys rhywfaint o wybodaeth am ei strwythur cymdeithasol, gan restru un taeog, tri bilain, tri gwr Ffrengig, un radman, melin newydd (â melinydd yn ôl pob tebyg), marchog gyda nifer amhenodol o wyr. Efallai y gellir tybio bod rhai o’r rhain o leiaf yn byw mewn anheddiad cnewylledig yn ardal y pentref presennol, ar dir gwastad ar sbardun isel ar ymyl ddwyreiniol gorlifdir afon Dyfrdwy. Byddai Wrddymbre [Worthenbury] yn parhau yn gapeliaeth, y cyfeiriwyd ati gyntaf ym 1388, ym mhlwyf Bangor Is-coed hyd ddiwedd yr 17eg ganrif.

Hefyd, defnyddiwyd nifer o wahanol enwau ar Overton – Overton Madoc (ar ôl Madog ap Meredudd, i wahaniaethu rhwng yr Overton yma a’r Overton yn Sir Gaer) a ffurfiau Cymraeg eraill gan gynnwys Awrtun, Owrtyn ac Owrtyn Fadog. Fel y nodwyd uchod, ceir tystiolaeth enwau lleoedd bod Owrtyn [Overton] wedi dechrau fel anheddiad Sacsonaidd o ryw fath yn ystod yr 8fed neu’r 9fed ganrif o bosibl. Mae’r anheddiad wedi’i leoli ar dir gwastad ger hen lethr afon ger afon Dyfrdwy, ac mae ei enw, a gofnodwyd gyntaf ym 1201, yn deillio o’r elfennau ofer tun (‘anheddiad ar y lan’) o’r Hen Saesneg. Nid yw arolwg Domesday yr 11eg ganrif hwyr yn cyfeirio at yr anheddiad ond erbyn dechrau’r 12fed ganrif, yn dilyn adamsugno Maelor Saesneg yn nheyrnas Powys, mae’n amlwg iddo ddod yn ganolfan faenorol bwysig i’r Cymry; adeiladodd Madog ap Meredudd, arweinydd Powys, gastell yma oddeutu 1138. Nid yw lleoliad y castell yn hysbys, ond efallai ei fod 2 cilomedr o’r dref, ger afon Dyfrdwy yn ardal Asney. P’un a oedd Leland yn dyst dibynadwy ai peidio, nododd yn y 1530au fod ‘one part … yet remaineth the Residew is in the bottom of Dee’. Mount Cop, ger Eglwys Cross (Hanmer) yw’r unig gastell sydd wedi goroesi ym Maelor Saesneg. Mae diamedr y castell ychydig yn llai na 50 metr ac nid oes unrhyw olion sicr o feili; mae ei leoliad yn amlwg ger y man lle mae’r ffordd o Whitchurch yn fforchio i naill ai Bangor Is-coed neu Owrtyn [Overton]. Ymddengys nad oes unrhyw gysylltiadau hanesyddol wedi’u cofnodi am y castell, ond mae’n debygol ei fod yn dyddio o gyfnod rhwng diwedd yr 11eg ganrif neu ddechrau’r 13eg ganrif ac, fel castell Owrtyn [Overton] sydd bellach ar goll, byddai amddiffynfa pren wedi cyd-fynd â’r castell.

Daeth Owrtyn [Overton] yn ganolfan faenorol bwysig a ffurfiai rhan o stad Gruffudd Maelor, arweinydd Cymreig gogledd Powys erbyn dechrau’r 13eg ganrif. Efallai ei bod yn arwyddocaol i’r ffurf Awrtun ar yr enw gael ei gofnodi gyntaf yn ystod y cyfnod hwn. Sefydlwyd marchnad ym maenor Owrtyn [Overton] ym 1279, ychydig ar ôl ymgyrchoedd cynharach Edward y Cyntaf yn erbyn Llywelyn ap Gruffudd ac, o’r cyfnod hwn, ac efallai yn enwedig yn dilyn concwest brenin Edward ym 1282-83, dechreuodd yr anheddiad cnewylledig presennol, â’i strydoedd ar batrwm grid o amgylch y farchnad ganoloesol yn rhan letaf y Stryd Fawr, ehangu i’r gogledd o’r eglwys. Ym 1286, rhoddodd Edward Faelor Saesneg i Frenhines Eleanor, a gomisiynodd ffenestri gwydr i gapel y frenhines yn Owrtyn [Overton], ac efallai mai dyma’r cyfeiriad cynharaf at eglwys bresennol y Santes Fair. Roedd siarter frenhinol Owrtyn [Overton] ym 1292 yn sicrhau dyfodol y dref fel canolfan weinyddol ranbarthol bwysig am ganrifoedd i ddod a chyflwynodd statws bwrdeistref i’r dref. Ar yr adeg hon, roedd poblogaeth y dref yn cynnwys pum deg chwech o drethdalwyr ac mae’n debyg bod ffiniau’r bwrdeistref yr un fath â ffiniau hen blwyf Owrtyn [Overton]. Fel nifer o fwrdeistrefi planedig eraill a greodd Edward y Cyntaf yng Nghymru, anogwyd Saeson i ymgartrefu yn Owrtyn [Overton]; gorchmynnwyd Reginald de Grey, prif ustus Caer i fynd yno ym 1293 i drefnu i gael gwared ar y plotiau a oedd ar ôl, cynigiwyd pren a thir yn rhad ac am ddim, ac ni fyddai’n rhaid talu rhent yn ystod y deng mlynedd gyntaf o fyw yno. Yn ystod y gwrthryfel a arweiniodd Madog ap Llywelyn ym 1294, yn rhannol yn protestio yn erbyn colli hawliau a’r cynnydd mewn rhenti roedd tenantiaid Cymreig y faenor yn gorfod eu talu, mynegwyd dicter trwy losgi’r maenordy, sef canolfan y beili brenhinol, a lle y cynhaliwyd y llys maenorol. Efallai mai o fewn y dref neu ar safle’r castell coll oedd hyn. Er y cyflwynwyd murdreth i’r dref ym 1300, efallai ei bod yn annhebygol bod y gwaith o adeiladu amddiffyniadau’r dref erioed wedi’i ddechrau. Fodd bynnag, erbyn dechrau’r 14eg ganrif, roedd rhai teuluoedd Cymreig gweddol cefnog yn byw yn y dref, fel y mae’r slab beddrodol sy’n dyddio o oddeutu 1300 ac yn coffáu Angharad, gwraig Einion, yn Eglwys y Santes Fair yn tystio. Ym 1331, rhoddwyd y dref, gyda thiroedd eraill ym Maelor, i Ebola Estrange o Knockin, Swydd Amwythig, brawd-yng-nghyfraith Llywelyn ap Madog, mab arweinydd olaf Cymreig Maelor Saesneg a stiward tebygol yr arglwyddiaeth ar yr adeg hon. Oherwydd i’r dref gael ei difrodi cymaint yn ystod gwrthryfel Owain Glyndwr ym 1403, gwnaeth ei thrigolion Seisnig adael. Mae’n amlwg bod canlyniadau’r difrod hwn wedi parhau, oherwydd nad oedd poblogaeth y dref wedi llwyddo i adfer erbyn yr 16eg ganrif. Er gwaethaf ei statws fel bwrdeistref a’r siantri a sefydlwyd gan waddolion yn Eglwys y Santes Fair, eglwys y bwrdeistref, parhaodd Owrtyn [Overton] yn gapeliaeth ddibynnol ar Fangor Is-coed drwy gydol y Canol Oesoedd, ac ni ddaeth yn blwyf ar wahân hyd 1867.

Mae pentref canoloesol Hanmer wedi’i leoli ar farian rhewlifol mewn safle amlwg ar ben Hanmer Mere, llyn rhewlifol naturiol sydd, fel Ellesmere a Colemere yn Swydd Amwythig, wedi rhoi ei enw i’r anheddiad cyfagos. Fel y nodwyd uchod, mae gwreiddiau’r enw lle yn Sacsonaidd o’r 8fed neu’r 9fed ganrif yn ôl pob tebyg, ond mae’r cofnod cyntaf yn dyddio o 1269. Nid yw’r arolwg Domesday ym 1086 yn cynnwys enw’r anheddiad ond mae’n debygol y gellir ei gysylltu â maenor Llys Bedydd [Bettisfield] (Bedesfeld) a arferai fod ym meddiant Iarll Edwin o Fersia ac, ar ôl y Goncwest Normanaidd, roedd ym meddiant y barwn Normanaidd Robert FitzHugh. Roedd offeiriad â gwaddol tir yn gysylltiedig â’r anheddiad, ac mae’n debygol y gellir cysylltu hyn ag eglwys blwyf bresennol Sant Chad. Fel y nodwyd uchod, collwyd tir yn Llys Bedydd [Bettisfield], a arferai fod ym meddiant esgobaeth Caerlwytgoed [Lichfield], ar gam yn adeg Brenin Cnut (1016-35), ac mae hyn o bosibl yn golygu bod yr anheddiad cnewylledig o amgylch yr eglwys yn dyddio o’r cyfnod hwn, fel Ecclesia de Hameme. Cofnodwyd yr eglwys yn benodol gyntaf ym 1110 pan gafodd ei rhoi ynghyd â thiroedd eraill i’r abaty Awstinaidd yn Haughmond, Swydd Amwythig, a cheir cofnod arall ohoni yng nghofnodion Treth Lincoln ym 1291. Ailadeiladwyd yr eglwys yn sylweddol ym 1490 i ddisodli’r un a ddifrodwyd ym 1463, yn ystod Rhyfel y Rhosynnau. Erbyn y cyfnod canoloesol diweddarach, neu cyn hyn efallai, yr eglwys oedd canolbwynt plwyf eglwysig eang a oedd yn cwmpasu’r rhan fwyaf o dde-ddwyrain Maelor Saesneg, ac ar un adeg roedd yn cynnwys trefgorddau Llys Bedydd [Bettisfield], Bronington, Halchdyn [Halghton], Hanmer, Tybroughton, a Willington. Erbyn y Canol Oesoedd, mae’n amlwg bod y pentref wedi dod yn ganolbwynt i faenor sylweddol ei faint, efallai’r safle â ffos i’r dwyrain o’r pentref, yr unig safle â ffos crwn yng ngogledd-ddwyrain Cymru, efallai â gwreiddiau maenorol neu eglwysig. Daeth y teulu Hanmer yn gysylltiedig yn agos â’r pentref o ddiwedd y 13eg ganrif, sef teulu a oedd newydd ymgartrefu ym Maelor Saesneg yn ystod teyrnasiad Edward y Cyntaf a fabwysiadodd enw pentref Hanmer yn gyfenw. Mae’n debyg bod y maenor yn un o’u daliadau. Byddent yn dod yn un o deuluoedd mwyaf blaenllaw y gororau, ac roedd Syr David Hanmer, tad yng nghyfraith Owain Glyndwr, yn un o brif ustusiaid Mainc y Brenin erbyn 1383. Pan ddiddymwyd y mynachlogydd yng nghanol yr 16eg ganrif, prynodd Syr Thomas Hanmer eiddo lleol a hawliau Abaty Haughmond, ac arweiniodd hyn at dwf stadau un o’r teuluoedd lleol pwysicaf, gan ganolbwyntio yn gyntaf ar Hanmer ac, o ddiwedd yr 16eg ganrif, ar Lys Bedydd [Bettisfield]. Parhaodd pentref Hanmer yn gymharol fach. Nid oedd mwy na phump ar hugain o dai yno ar ddiwedd yr 17eg ganrif ac, fel heddiw, roeddent mewn grwp o amgylch yr eglwys, ond cododd Thomas Pennant ei statws i dref fechan yn ei Tour in Wales a gyhoeddwyd ar ddiwedd y 18fed ganrif.

Safleoedd â ffos

Mae’r crynhoad nodedig o safleoedd â ffos yng nghefn gwlad Maelor Saesneg yn cynrychioli aneddiadau canoloesol yn eglur, ac o’r rhain mae o leiaf deg, a hyd at ugain o bosibl, yn hysbys o gloddiau wedi’u llenwi â dwr sydd wedi goroesi, awyrluniau a chofnodion hanesyddol. Adeiladwyd y rhan fwyaf o’r safleoedd â ffos rhwng y 13eg ganrif a dechrau’r 14eg ganrif ac, yn llai cyffredin, hyd at yr 16eg ganrif. Ar wahân i’r ffos gron bosibl ger Hanmer, a nodwyd uchod, roedd safleoedd eraill yn yr ardal â ffos yn sgwâr neu’n betryal eu siâp ac yn aml roeddent wedi’u lleoli i wneud yn siwr bod eu ffosydd yn llenwi â dwr. Mae’n ymddangos bod eu maint yn amrywio rhwng oddeutu 35-50 metr ar draws yn fewnol, â ffosydd allanol di-dor rhwng oddeutu 6-10 metr o led. Nid yw unrhyw un o’r safleoedd ym Maelor Saesneg wedi’u cloddio, ac er nad oes unrhyw dystiolaeth ddogfennol wedi goroesi ar gyfer y rhan fwyaf o’r safleoedd, os ar gyfer unrhyw safle, ymddengys yn debygol bod pob un ohonynt yn cynnwys strwythurau domestig wedi’u hamgáu a thai allan. Mae’n debygol y byddai pont bren dros y ffosydd i gyrraedd y safleoedd hyn, er bod olion pont garreg neu ategwaith pont garreg yn amlwg yn Llannerch Banna [Penley].

Mae oddeutu un ar ddeg o safleoedd â ffos gweddol sicr wedi’u nodi ym Maelor Saesneg, gan gynnwys pump yng nghymuned Hanmer (Bryn, Peartree Lane, Halghton Hall, Halghton Lodge, a Haulton Ring), tri yn Willington Wrddymbre [Worthenbury] (Neuadd Emral, Holly Bush Farm a Tallarn Green), un yn Owrtyn [Overton] (Lightwood Farm), un yn Bronington (Wolvescre Hall), ac un yn Ne Maelor (Penley Hall). Awgrymwyd oddeutu naw o safleoedd â ffos eraill, gan gynnwys dwy enghraifft bellach yn Hanmer (Horseman’s Green, Peartree Farmhouse), dau yn Willington Wrddymbre [Worthenbury] (Mulsford Hall, Yew Tree Farm), tri yn Bronington (Fenn’s Old Hall, Maes-y-groes, a ger Bronington ei hun), un yn Ne Maelor (Hill Farm), ac un ym Mangor Is-coed (Althrey). Awgrymwyd nifer o safleoedd llai sicr ar sail tystiolaeth enwau lleoedd sy’n awgrymu, mewn cyfuniad â’r ffaith mai yn ystod blynyddoedd diweddar yn unig y mae nifer o safleoedd wedi’u darganfod, bod mwy o safleoedd i’w darganfod. Efallai bod gwreiddiau Emral yn yr 1280au, a bod Syr Roger Puleston (bu farw 1294) wedi cyfeirio at y safle ym 1283 pan ddisgrifiodd ‘de Embers-hall’.

Ystyrir bod anheddiad â ffos yn ffenomen diwylliannol Seisnig, yn sicr roedd ei ddibenion yn rhannol yn ymarferol ac yn amddiffynnol ond roedd hefyd yn symboleiddio statws neu ddyheadau cymdeithasol ei adeiladwr. Mae’n amlwg bod ffermio wedi ehangu ym Maelor Saesneg yn sgîl concwest Edward, yn ystod y blynyddoedd yn fuan ar ôl 1284, ac mae’n debyg mai dyma’r cyd-destun hanesyddol sy’n egluro pam fod yna gymaint o safleoedd â ffos yn yr ardal. Byd hynny, rhoddwyd y tiroedd a atafaelwyd oddi wrth denantiaid Cymreig i anheddwyr rhyddfraint, a hynny ar adeg pan oedd Edward a’i frenhines yn awyddus i godi cymaint o rent â phosibl ar diroedd y Goron yng Nghymru. Seisnig oedd gwreiddiau nifer o’r anheddwyr hyn, fel y teulu Hanmer yn Hanmer, disgynyddion Syr Thomas de Macclesfield, un o swyddogion Edward y Cyntaf, a theulu Puleston yn Emral. Roedd eu henw yn deillio o Puleston yn Swydd Amwythig a gellir olrhain dechreuadau’r teulu ym Maelor Saesneg i’r 1280au.

Ymddengys bod dosbarthiad a chysylltiad safleoedd â ffos ym Maelor Saesneg yn cadarnhau’r awgrym eu bod yn cynrychioli cyfnod o ehangu ym maes ffermio yn ystod diwedd y 13eg ganrif a’r 14eg ganrif. Yn gyffredinol, mae dosbarthiad safleoedd â ffos yn ymddangos fel pe baent yn osgoi’r aneddiadau a oedd eisoes yn bodoli, fel trefi bach a phentrefi Bangor Is-coed, Wrddymbre [Worthenbury], Owrtyn [Overton] neu Hanmer, neu hyd yn oed canolbwyntiau ffermydd gwasgaredig o darddiad Sacsonaidd y mae enwau lleoedd -tun yn eu cynrychioli, gan awgrymu yn gryf eu bod yn cynrychioli cyfnod o wladychu trwy glirio coetiroedd a phrysg yn y cefn gwlad o amgylch i greu tir fferm newydd wrth anheddu. Mae cyd-destun y safleoedd â ffos yn y dirwedd yn amlwg yn amaethyddol. Mae tirwedd cefnen a rhych, o darddiad canoloesol yn ôl pob tebyg, o amgylch nifer ohonynt, a throswyd rhai yn dir âr ar ôl iddynt gael eu gadael.

Mae cyd-destun cymdeithasol y safleoedd â ffos ym Maelor Saesneg yn weddol eglur o’r adeiladau sy’n gysylltiedig â hwy, o’r adeiladu a’u disodlodd, neu o gysylltiadau hanesyddol diweddarach sy’n cynnwys nifer o’r teuluoedd llai a oedd yn berchen ar dir yn yr ardal, fel y teulu Puleston yn Emral, y teulu Lloyd yn Willington, y teulu Dymock yn Llannerch Banna [Penley] a Halchdyn [Halghton], a’r teulu Hanmer yn Hanmer a Bronington. Mae Horseman’s Green ac Althrey Hall yn gysylltiedig â neuaddau traws ystlys statws uchel y canol oesoedd hwyr o ddiwedd y 15fed ganrif a dechrau’r 16eg ganrif, ond efallai iddynt ddisodli plastai cynharach a adeiladwyd yn yr un cyfnod â’r ffosydd. Cafodd safleoedd eraill â ffos eu disodli gan dai diweddarach y bonedd neu ffermydd sylweddol, yn enwedig yn ystod diwedd y 17eg ganrif a dechrau’r 18fed ganrif. Byddai’r rhain naill ai wedi gorchuddio’r ffos a oedd wedi’i mewnlenwi’n rhannol (fel yn achos Emral, Holly Bush, Mulsford, Halchdyn [Halghton], Peartree House a Wolvesacre), neu wedi’u hadeiladu ochr yn ochr â’r safle (fel yn Llannerch Banna [Penley]) neu yn agos (fel yn achos Bettisfield Old Hall a ddisodlodd Haulton Ring, ychydig dros 1 cilomedr i ffwrdd, yn ôl pob tebyg). Ceir patrwm tebyg o dai cain ffrâm bren yn disodli safleoedd â ffos dros y ffin yn Sir Gaer a Swydd Amwythig, fel yn achos y tai sy’n dyddio o’r 16eg ganrif a’r 17eg ganrif i’r de-ddwyrain o Whixall Moss yn Alkington Hall, Bostock Hall, Sandford Hall a Lowe Hall. Goroesodd nifer o’r safleoedd â ffos o’r canol oesoedd fel unedau economaidd sefydlog am nifer o ganrifoedd, ond nid oes olynydd amlwg i rai (fel Halghton Lodge, Peartree Lane, Bryn a Yew Tree Farm), efallai oherwydd y broses o gyfuno ffermydd a chreu stadau cynnar yn yr 16eg ganrif a’r 17eg ganrif.

Ffermydd

Mae’n debyg mai ffermydd a thyddynnod ffermwyr rhyddfraint a thenantiaid o’r 12fed ganrif a’r 13eg ganrif ymlaen oedd llawer o’r ffermydd gwasgaredig a oedd yn bodoli yn wreiddiol, yn enwedig yn rhai o ardaloedd anghysbell Maelor Saesneg. Yn ôl pob tebyg, fe barhaodd y broses hon i’r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar. Mae’n debyg mai ymdrech unigolion a greodd nifer o’r ffermydd hyn, trwy glirio coetiroedd neu adennill rhostiroedd, ac roedd y ffermwyr a oedd yn gweithio arnynt yn rhydd rhag rheoliadau cymunedol y canol oesoedd. Mae’n debygol bod eu cynhaliaeth yn dibynnu mwy ar ffermio bugeiliol na ffermio âr. Er enghraifft, roedd nifer o ffermydd, fel Caelica Farm ac Arowry Farm, wedi’u lleoli mewn tirwedd o gaeau mawr neu fach afreolaidd, sy’n awgrymu bod tir wedi cael ei gau bob yn dipyn yn y cyfnod canoloesol hwyr a’r cyfnod ôl-ganoloesol cynnar, y tu hwnt i ffiniau caeau agored y canol oesoedd. Mae cyd-destun ffermydd eraill, fel Fferm Gelli, yn awgrymu eu bod wedi deillio o waith clirio coetiroedd parhaus.

Fel rydym wedi gweld uchod, mae elfennau enwau lleoedd Saesneg i’w gweld yn fynych ym Maelor Saesneg yn enwau plwyfi, pentrefannau, trefgorddau ac ardaloedd. Fodd bynnag, yn achos enwau ffermydd, mae’r sefyllfa yn wahanol iawn, sy’n awgrymu bod elfen fwy o’r boblogaeth yn siarad Cymraeg nag y byddech yn meddwl ar yr olwg gyntaf. Gwreiddiau Cymraeg sydd i nifer o’r enwau ffermydd a’r enwau caeau sydd mewn ffynonellau dogfennol o’r canol oesoedd ac oes y Tuduriaid, tra bo gwreiddiau’r enwau ffermydd Saesneg yn gymharol ddiweddar. Ymhlith enghreifftiau o enwau ffermydd Cymraeg modern, neu enwau ag elfennau Cymraeg, sydd ym Maelor Saesneg mae’r canlynol, ond nid yw pob un o darddiad cynnar o anghenraid: Adre-felin, Althrey, Argoed, Arowry, Bron Haul, Bryn, Brynhovah (sydd hefyd yn cynnwys yr elfen ofer o’r Hen Saesneg), Bryn Rossett, Bryn-y-Pys, Cae-Drinions, Cae-Dyah, Caelica, Gelli, Dolennion, Gwalia, Maesllwyn, Maes-y-groes, a Trostree.

Mae eu caeau eu hunain yn amgylchynu rhai o’r ffermydd a allai fod yn rhai cynnar, fel Pen-y-bryn, Nant, Plas yn Coed ac Wern, tra bo eraill ger ffyrdd modern, neu’n agos at ffyrdd modern. Mae’n debygol bod rhai o’r rhain wedi datblygu o briffyrdd, lonydd a llwybrau canoloesol.

Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd strwythurau diweddarach wedi disodli a gorchuddio holl olion ffermdai ac adeiladau canoloesol, a bydd yr olion hyn yn goroesi fel tystiolaeth archeolegol dan ddaear yn unig, ond ymddengys bod yna nifer fach o ffermydd gwag cynnar, y mae platfformau adeiladu, cloddiau a cheuffyrdd yn eu cynrychioli.

Aneddiadau diwydiannol arbenigol

Mae’n debyg bod nifer o bentrefannau neu ddaliadau bach ar hyd Nant Wych a oedd yn gysylltiedig â chynhyrchu halen yn aneddiadau diwydiannol arbenigol a ddaeth i’r amlwg yn ystod y cyfnod canoloesol cynnar a’r cyfnod canoloesol. Roedd o leiaf un o’r canolfannau hyn yn cynhyrchu mor gynnar â dechrau’r 11eg ganrif, ond hyd yma nid oes unrhyw dystiolaeth sicr yn gysylltiedig â’r canolfannau hyn wedi’i darganfod i awgrymu anheddu.

Aneddiadau ôl-ganoloesol a modern

Oherwydd mai amaethyddol oedd economi Maelor Saesneg yn bennaf, ac nid oedd llawer o adnoddau naturiol yno, ni welwyd y datblygiad diwydiannol cyflym yno a amlyncodd nifer o ardaloedd cyfagos yng ngogledd-ddwyrain Cymru ac, o ganlyniad, mae’r patrwm anheddu cyfoes, sef pentrefi bychain a ffermydd gwasgaredig, yn dangos llawer o elfennau o barhad uniongyrchol o’r cyfnod canoloesol. Daeth amrywiaeth eang o wahanol fathau o aneddiadau i’r amlwg yn nhirwedd Maelor Saesneg rhwng yr 16eg ganrif ac heddiw, gan gynrychioli sbectrwm cymdeithasol eang ac amrywiol. Crëwyd ffermydd a thyddynnod newydd yn dilyn cau’r tir âr agored a chau a draenio’r corsydd, wrth i berchnogion stadau ymdrechu i gynnal eu refeniw neu ei gynyddu. Daeth aneddiadau cnewylledig bach i’r amlwg wrth iddynt ennill tir o’r ‘meysydd glas’ neu’r ardaloedd tir comin pori a oedd yn brysur prinhau. Adeiladwyd plastai mewn parcdir yn llawer o’r ardaloedd yn nhirwedd Maelor Saesneg, ac mewn nifer o achosion roedd y rhain yn olynwyr uniongyrchol i ganolfannau maenorol y canol oesoedd. Wrth i gysylltiadau wella, datblygodd aneddiadau llinellol newydd ar ymyl y ffordd ger cyffyrdd, ar hyd ffyrdd tyrpeg, camlesi a rheilffyrdd, a chymrodd rai enwau trefgorddau neu ardaloedd mwy hynafol.

Datblygiad trefi, pentrefi a ffermydd canoloesol yn y cyfnod ôl-ganoloesol

Erbyn dechrau’r 19eg ganrif mae’n bosibl mai cymharol fach oedd y newid ym mhentrefi mwy Maelor Saesneg o ran eu maint neu maint eu poblogaeth o’u cymharu â’r hyn oeddynt yn ystod y Canol Oesoedd. Cofnododd Edward Lhwyd bod 26 o dai ym mhentref Bangor Is-coed yn y 1690au hwyr, a dywedodd Daniel Defoe ar ddechrau’r 18fed ganrif fod yr anheddiad yn bentref dirmygus gwael. Erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd yna dai ar hyd y Stryd Fawr ac ar hyd Whitchurch Road ac roedd ychydig o dai ger yr eglwys ar Overton Road ac, yn ogystal â’r eglwys ganoloesol, roedd yn cynnwys bythynnod, tafarn i’r goets fawr, rheithordy, capel anghydffurfwyr, siop, ysgol rydd, bragdy a gorsaf ar lein Wrecsam-Ellesmere ychydig i’r dwyrain. Yn ystod yr 20fed ganrif, ehangodd ochr ddwyreiniol yr anheddiad yn sylweddol wrth i dai newydd gael eu hadeiladu.

Yn ystod y Canol Oesoedd, daeth Owrtyn [Overton] yn ganolfan weinyddol Maelor Saesneg. Erbyn y 18fed ganrif roedd wedi dod yn gymharol llwyddiannus ac, o ran ei phensaernďaeth o leiaf, roedd wedi datblygu naws eithaf trefol a phrydferth, sy’n amlwg o’r disgrifiad canlynol o Topographical Dictionary Lewis a gyhoeddwyd yn y 1830au:

‘The village is pleasing and prepossessing in its appearance, and, with its venerable church, as seem from almost every point of view, forms a picturesque and highly interesting feature in the landscape . . . . There is neither trade nor manufacture of any kind carried on . . . . The market has long been discontinued’.

Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd y pentref yn parhau heb ddiwydiant, ond roedd yno amrywiaeth eang o adeiladau gan gynnwys bythynnod gweithwyr, tai sylweddol y dosbarth canol, gorsaf heddlu, ysgol yr eglwys, tafarn i’r goets fawr, siopau, elusendai, ty coco, swyddfa Stad Bryn-y-Pys, capel Methodistaidd, bragdy, rheithordy, a mynwent capel, ac roedd rheilffordd Wrecsam-Ellesmere yn gwasanaethu’r anheddiad, gyda gorsaf yn Lightwood Green. Yn ystod yr 20fed ganrif ehangodd datblygiad tai yn y cae agored o’r canol oesoedd i’r dwyrain o’r anheddiad. Ymhlith adeiladau nodedig o’r 20fed ganrif mae tafarn ffrâm bren ffug, eglwys Babyddol a swyddfeydd y cyngor.

Mae disgrifiad Edward Lhwyd o Hanmer, a nodwyd uchod, yn awgrymu nad yw’r pentref wedi newid rhyw lawer ers diwedd yr 17eg ganrif, ar wahân i’r datblygiad tai diweddar i’r dwyrain o’r prif stryd, ac erbyn diwedd y 19eg ganrif roedd yr adeiladau’n cynnwys bythynnod, tafarn, ficerdy, gefail, capel Methodistaidd ac ysgol rydd.

Nid oes llawer yn hysbys am ddatblygiad cynnar Wrddymbre [Worthenbury], ond roedd Lewis yn ystyried y pentref yn gwbl amaethyddol. Mae’r adeiladau sydd yma’n awgrymu ei fod wedi tyfu yn gyflym yn ystod y 18fed ganrif ac, erbyn canol y 19eg ganrif, roedd eisoes yn bosibl adnabod y cynllun cyfoes; ceir nifer o anheddau mewn grwp o amgylch cyffordd y ffordd i’r de-ddwyrain o’r pentref, ar hyd y lôn heibio i’r eglwys tuag at Nant Wych, a nifer o adeiladau i’r de-ddwyrain. Erbyn diwedd y 19eg ganrif, roedd yr anheddiad yn cynnwys bythynnod i weithwyr ar y stad, un neu ddau o dai mwy, rheithordy, ysgol yr eglwys, bragdy, ty fferm a gefail.

Ffermydd newydd o’r tir comin a’r tir gwastraff

Ymddengys bod nifer o’r ffermydd a’r tyddynnod newydd, a ddaeth i’r amlwg yn ystod y cyfnod canoloesol hwyr a’r cyfnod ôl-ganoloesol, wedi datblygu o’r gwaith cau tir bob yn dipyn ar yr hen gaeau agored a’r rhostir, ac o ddraenio a chau tir ger corsydd.

Enwau Saesneg sydd i lawer o’r ffermydd a’r tyddynnod diweddarach, o’r cyfnod canoloesol hwyr a’r cyfnod ôl-ganoloesol, ac mae cyfran uchel ohonynt yn ffurfio patrymau eglur, fel y rheiny sydd wedi’u henwi ar ôl ‘green’ (ee Big Green Farm, Lightwood Green Farm), y rheiny sydd wedi’u henwi ar ôl coed (ee Yew Tree Farm, Cherrytree Farm), y rheiny sydd wedi’u henwi ar ôl y lonydd sy’n mynd heibio iddynt (ee Chapel Lane Farm, Sandy Lane Farm, Drury Lane Farm), a’r rheiny sydd wedi’u henwi ar ôl coetiroedd (ee Blackwood Farm, Middle Wood Farm). Mae rhai wedi’u henwi ar ôl eu lleoliad topograffig (ee Bank Farm, Brook Farm, Top Farm, Hillside Farm) ac mae rhai wedi’u henwi ar ôl rhyw gysylltiad â defnydd heb fod yn amaethyddol (ee Crab Mill Farm, Smithy Farm), ond nifer gymharol fach a gafodd enw’r perchennog neu’r tenant gwreiddiol.

Mae cyfran uchel o ffermydd a thyddynnod diweddarach wedi’u lleoli ar hyd ffyrdd cyhoeddus, ac yn aml wedi’u grwpio mewn clystyrau bach neu’n ffurfio patrymau llinellol tryledol, wedi’u gwasgaru ar hyd ffordd fel, er enghraifft, ar hyd Halghton Lane (Hanmer) a Green Lane (Bangor Is-coed).

Nid oes tystiolaeth ddogfennol o wreiddiau nifer o’r ffermydd hyn, ond mewn rhai enghreifftiau mae’r cyd-destun y mae’r fferm ynddo neu ddyddiad y tai fferm cysylltiedig yn rhoi rhyw arwydd cyffredinol. Er enghraifft, ymddengys bod nifer o ffermydd, fel Dolennion Farm, Higher Lanes Farm, ac Old Post Office Farm, yn gorchuddio caeau llain cynharach, ac mae hyn yn awgrymu eu bod wedi’u creu yn sgîl cau caeau agored canoloesol. Mewn achosion eraill, fel Yew Tree Farm a Smithy Farm, mae patrwm y caeau cyfagos yn awgrymu eu bod wedi’u creu yn sgîl draenio a chau rhostir a chorsydd. Mae tai fferm cysylltiedig, sy’n cynnwys strwythurau ffrâm bren a strwythurau o frics, yn awgrymu bod y cyfnod hwn o weithgaredd anheddu yn dyddio o rhwng dechrau’r 17eg ganrif a’r 18fed ganrif ac yn parhau hyd ddechrau’r 19eg ganrif yn achos rhai o’r tiroedd newydd eu draenio ar ymyl y corsydd.

Yn sgîl clirio bob yn dipyn a chau’r ardaloedd pori cyffredin a oedd yn fwy helaeth yn ystod diwedd y canol oesoedd a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol, yn raddol daeth nifer o bocedi bach o dir heb eu cau a arweiniodd at nifer o aneddiadau ‘green’, efallai’n dyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif neu’r 18fed ganrif, ac ystyrir y rhain yn yr adran nesaf.

Aneddiadau ‘green’

Elfen arwyddocaol yn hanes anheddu ym Maelor Saesneg yw digwyddiad cyffredin yr elfen ‘green’ mewn enwau lleoedd, sy’n dynodi ardal o dir comin glaswelltog ac sy’n ymddangos, er enghraifft, yn Tallarn Green (Willington Wrddymbre [Worthenbury]), Lightwood Green (Owrtyn [Overton]), Horseman’s Green (Willington Wrddymbre [Worthenbury]), Crabtree Green (Bangor Is-coed), Little Green (Bronington), Chapel Green, Far Green, Little Green, Big Green (De Maelor), Kil neu Kiln Green, a Mannings Green, Painters Green, Hall Green (Bronington). Mae’r elfen enw lle Saesneg hon, nad oes elfen yn cyfateb yn union iddi yn Gymraeg, yn dynodi ardal o laswelltir comin. Ymddangosodd gyntaf yn yr ardaloedd hynny o Brydain lle roedd Saesneg yn cael ei siarad yn y 15fed ganrif felly, o ran anheddu, mae’n ymddangos ei bod bob amser yn arwydd bod yr hen diroedd comin glaswelltog wedi’u meddiannu yn weddol hwyr. Er enghraifft, ni chafodd Lightwood Green ei amgáu yn derfynol hyd 1877.

Mae’n amlwg bod yr aneddiadau ‘green’ ym Maelor Saesneg a’r ardal gyfagos yn dynodi amrywiaeth o wahanol hanes defnydd tir. Ymddengys bod Lightwood (mewn lleoliad agored ar lwyfandir isel) a Llannerch Banna [Penley] (yng nghefn gwlad gwastad ac agored), ill dau yn gysylltiedig ag enwau ‘green’, yn dynodi llanerchau mewn coedwig yn dyddio o ddechrau’r canol oesoedd cynnar neu’r canol oesoedd. Efallai bod enw Horseman’s Green, sy’n ymddangos gyntaf ar ffurf ‘Horse Math’s Green’ (eto mae yng nghefn gwlad gwastad ac agored), yn deillio o’r gair tafodieithol Saesneg darfodedig math sy’n awgrymu dôl. Saif Tallarn Green ar ysbardun cul rhwng Nant Wych a thalwrn sef ‘lle, cae’. Nid oes yr un o’r enwau ‘green’ ym Maelor Saesneg i’w darganfod mewn dogfennau canoloesol. Mae’r cofnodion cyntaf o Horseman’s Green (ar ei ffurf gynharach) a Tallarn Green, er enghraifft, yn dyddio o ddiwedd yr 17eg ganrif, ac ymddangosodd enwau eraill gyntaf yn nyfarniadau cau tir y 18fed ganrif neu yn arolwg degwm y 1830au a’r 1840au. Hefyd, ceir enwau tebyg mewn rhannau cyfagos o Sir Gaer, gan gynnwys Threapwood Green a Shocklach Green. Yn y cyd-destun hwn, mae’n arwyddocaol bod Threapwood wedi parhau yn amhlwyfol hyd ddechrau’r 19eg ganrif oherwydd, fel y nodwyd uchod, bod yr enw lle yn cynnwys elfen sy’n dynodi ‘tir dadleuol’ ar hyd Nant Wych, sy’n ffurfio’r ffin rhwng Sir Gaer a Sir y Fflint. Mae Shocklach Green mewn ardal ymylol arall ar gyfer anheddu, ger gorlifdir afon Dyfrdwy lle mae’n ymuno â Nant Wych.

Un o’r adeiladau hynaf sy’n goroesi yn un o aneddiadau ‘green’ Maelor Saesneg yw bwthyn ffrâm bren o ddiwedd yr 16eg ganrif neu ddechrau’r 17eg ganrif yn Horseman’s Green. Mewn mannau eraill, mae’r rhan fwyaf o’r adeiladau sydd wedi goroesi yn dyddio o’r 19eg ganrif neu’r 20fed ganrif, er ei bod yn bosibl bod rhai o’r adeiladau cynharaf sy’n gysylltiedig â’r aneddiadau hyn â statws gweddol isel, a strwythurau pren, a fyddai wedi bod yn llai tebygol o oroesi. Mae’n bosibl fod y platfformau adeiladu nas defnyddir mwyach yn Lightwood Green yn cynrychioli’r adeiladau hyn. Mae’r capeli anghydffurfiol o ddechrau’r 19eg ganrif sydd yn Horseman’s Green a Crabtree Green, yr eglwys a’r ficerdy o’r 19eg ganrif diweddarach yn Tallarn Green, a’r Neuadd Dirwest a Bythynnod Kenyon ar gyfer gweddwon, hefyd yn Tallarn Green, yn nodweddiadol o’r adeiladau mwy sydd wedi goroesi yn yr aneddiadau ‘green’.

Ymddengys bod nifer o aneddiadau eraill yn y rhanbarth yn aneddiadau ‘green’ ym mhob ystyr ar wahân i’w henwau. Er enghraifft, mae map o glastiroedd o’r 1770au yn dangos Bronington fel grwp o adeiladau o amgylch green neu gomin hir canolog, lle ceir anheddau modern bellach, i’r de o’r School Lane presennol. Efallai bod yr anheddiad wedi mabwysiadu enw trefgordd a oedd yn dyddio yn ôl i gyfnod y Sacsoniaid.

O ran cronoleg aneddiadau ac ehangiad aneddiadau ym Maelor Saesneg yn ystod y canol oesoedd, ymddengys yn arwyddocaol bod daearyddiaeth nifer o’r ‘greens’ yn gysylltiedig ag aneddiadau â ffos, fel y rheiny yn Lightwood Green, Horseman’s Green, Tallarn Green ac efallai Little Green (Bronington), sydd, fel yr ydym wedi gweld, o bosibl yn gysylltiedig â chyfnod o wladychu aneddiadau rhywbryd ar ddiwedd y 13eg ganrif a dechrau’r 14eg ganrif. Ymddengys bod hyn yn cadarnhau’r awgrym bod rhai o’r ‘greens’ mewn ardaloedd a oedd yn ymylu aneddiadau cynharach. Nid yw’r dyddiad pan sefydlwyd y ‘greens’ gyntaf yn sicr, ond mae’n debygol ei bod yn arwyddocaol nad oes eglwys gynnar na chapel anwes yn gysylltiedig ag unrhyw un ohonynt. Mae’n amlwg bod nifer o’r aneddiadau ‘green’ wedi hen sefydlu erbyn diwedd y 18fed ganrif, pan luniwyd y mapiau cyntaf o glostiroedd ac, yn achos Tallarn Green a Lightwood Green, roedd y rhain yn dangos nifer sylweddol o anheddau ar ymyl ardal agored a oedd yn nodi gweddillion olaf comin a fu’n llawer mwy ar un adeg yn ôl pob tebyg.

Plastai

Roedd datblygiad plastai yn gyfnod eglur yn hanes anheddu ym Maelor Saesneg yn enwedig yn y cyfnod rhwng canol y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, ac roedd datblygiadau tebyg ar droed yn Sir Gaer a Swydd Amwythig hefyd. Mewn nifer o achosion, roedd y plastai hyn yn olynwyr uniongyrchol i ganolfannau maenorol canoloesol, ond mewn achosion eraill, crëwyd plastai newydd yn y cyfnod rhwng diwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, ac yn aml roedd y rhain yn ganolfannau i nifer o’r stadau mawr a ddaeth yn fwyfwy pwysig yn ystod y cyfnod hwn.

Mae cyfuniad y plas a’r adeiladau gwasanaeth atodol, wedi’u gosod mewn parciau tirluniedig neu erddi helaeth, ac yn aml yn gysylltiedig â phorthdai a rhodfeydd a bythynnod ar y stad, wedi effeithio’n sylweddol ar y dirwedd weledol mewn rhai ardaloedd. Mae Parc Iscoyd (Bronington) wedi goroesi yn weddol gyfan yn ei barc tirluniedig ond, mewn achosion eraill, mae plastai gwreiddiol hen ganolfannau teuluol sefydledig yn Emral (Bangor Is-coed), Brychdyn [Broughton] (Willington Wrddymbre [Worthenbury]), Gwernheylod, Knolton, a Bryn-y-Pys (Owrtyn [Overton]), Gredington a Bettisfield Park (Bronington) wedi’u dymchwel neu eu lleihau yn sylweddol yn ystod yr 20fed ganrif, gan adael elfennau yn unig o’r parcdir gwreiddiol, blociau stabl neu borthdai. Mewn rhai achosion, mae’r trawsnewidiad wedi bod mor effeithiol, fel yn achos Bryn-y-Pys, fel nad yw enw’r stad hon a fu unwaith yn bwysig, ar fapiau modern. Mae nifer o blastai diweddarach wedi goroesi, gan gynnwys Llannerch Panna, sef Tudor Court yn ddiweddarach, a adeiladwyd ddiwedd y 19eg ganrif, a chyfres o blastai bach ar ymyl aneddiadau a oedd eisoes yn bodoli, fel The Brow yn Owrtyn [Overton], a The Manor a Quinton yn Wrddymbre [Worthenbury].

Aneddiadau llinellol ymyl y ffordd

Mewn llawer o ffyrdd, mae Llys Bedydd [Bettisfield] (Hanmer) yn nodweddiadol o rai o’r aneddiadau llinellol ymyl y ffordd diweddarach ym Maelor Saesneg, a ddaeth i’r amlwg ddiwedd y 18fed ganrif. Adeiladu cangen Whitchurch o gamlas Shropshire Union yn ystod y 1790au oedd y symbyliad i ehangu Llys Bedydd [Bettisfield], a arweiniodd at glwstwr o dai ger y gamlas, ychydig i’r de o Bettisfield Bridge, ynghyd â datblygiad strimyn ar hyd ffyrdd bach sy’n arwain at Cadney Moss a Northwood. Roedd adeiladu Rheilffyrdd Croesoswallt, Ellesmere a Whitchurch yn ystod y 1860au, a rhywfaint o ddatblygiadau preswyl modern yn symbyliad pellach. Dechreuwyd sefydlu The Chequer (Bronington) ar hyd ffordd dyrpeg Bangor Is-coed i Whitchurch (yr A525 bellach), gan ddechrau fel tai gwasgaredig a chapel Methodistaidd yn nechrau’r 19eg ganrif. Datblygodd pentrefannau tebyg llai ger nifer o gyffyrdd, fel yn Holly Bush (Bangor Is-coed) a oedd eisoes yn cynnwys clwstwr bach o ffermydd a nifer o anheddau bychain ar ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif.

Mae patrwm gwahanol o ddatblygiad yn amlwg yn Llannerch Banna [Penley](Owrtyn [Overton]) a ddatblygodd ar hyd y ffordd rhwng Owrtyn [Overton] a Hanmer. Hyd nes y 1940au, parhaodd yr anheddiad yn gymharol wasgaredig, heb gynnwys llawer mwy na thai gwasgaredig, gefail, ysgol o’r 19eg ganrif, ficerdy a chapel (bellach eglwys y plwyf) a chapel anghydffurfiol a oedd yn gwasanaethu’r gymuned wledig yn y cyffiniau. Trawsnewidiwyd yr anheddiad yn ystod yr Ail Ryfel Byd pan adeiladwyd ysbyty byddin UDA (a’r ysbyty Pwylaidd dilynol). Mae rhannau ohono’n parhau i ddominyddu’r pentref.

Patrymau anheddu modern

Mae patrymau anheddu ym Maelor Saesneg wedi newid yn sylweddol nifer o weithiau yn ystod y deg ar hugain i ddeugain mlynedd diwethaf, ac mae hyn wedi arwain at rywfaint o effaith ar y dirwedd hanesyddol. Mae llawer o’r newidiadau hyn yn nodweddiadol o’r pwysau sy’n effeithio ar ardaloedd gwledig ar ymylon trefi a dinasoedd mwy ledled Prydain. Er eu bod yn llai dwys yma na’r hyn sy’n digwydd mewn nifer o ardaloedd eraill hyd yma, maent wedi datblygu yn sgîl nifer o wahanol ffactorau, gan gynnwys gostyngiad yn nifer y bobl sy’n gweithio ar y tir, cynnydd yn nifer y cerbydau preifat, a’r ffaith bod pobl yn meddwl ei bod yn ddymunol byw yng nghefn gwlad.

Fel y nodwyd uchod, mae’r aneddiadau cnewylledig canoloesol mwy, ym Mangor Is-coed, Owrtyn [Overton] ac Wrddymbre [Worthenbury], wedi ehangu yn sylweddol yn ystod yr ychydig ddegawdau diwethaf, a hynny’n aml ar draul ardaloedd o gyngaeau agored canoloesol sy’n cynrychioli’r sylfeini amaethyddol y sefydlwyd yr aneddiadau hyn arnynt. Hefyd, mae nifer o’r aneddiadau ‘green’ ac aneddiadau ymyl ffordd o’r cyfnod ôl-ganoloesol, gan gynnwys y rheiny yn Bronington, Llys Bedydd [Bettisfield], a Tallarn Green, wedi ehangu yn ystod blynyddoedd diweddar. Y cynnydd mewn amaethyddiaeth ar ôl y rhyfel oedd y sbardun y tu cefn i nifer o gynlluniau tai gwledig yr awdurdod lleol ar raddfa fach, fel y rheiny yn Highfields, Higher Lanes Bank, (Bronington), Welsh View, New Hall Lane (Bronington), a ger Top House Farm, i’r de o Hanmer. Oherwydd y cynnydd mewn mecaneiddio a’r cyfuno ffermydd a fu, mae nifer o ffermydd llai a thyddynnod yr ardal wedi diflannu, gan ryddhau nifer o ffermdai ac adeiladau fferm brics o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif i’w trosi yn dai, yn enwedig yn rhan ddwyreiniol yr ardal, ar gyfer teuluoedd nad ydynt bellach yn dibynnu yn economaidd ar amaethyddiaeth. Mae datblygiad byngalos modern ar ymyl ffyrdd ledled Maelor Saesneg hefyd wedi arwain at gynnydd net yn nifer y tai yng nghefn gwlad, ac maent yn aml yn parhau patrwm o ledaeniad parhaus i’r caeau agored canoloesol, a ddechreuodd ar ddechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol.

Er mwynhad ymwelwyr a thrigolion yr ardal, mae’n bwysig cyfyngu ar effaith tai modern ar yr amgylchedd hanesyddol, gan ehangu aneddiadau cnewylledig sydd eisoes yn bodoli yn sympathetig a throsi adeiladau fferm hanesyddol yn sensitif. Ymhlith mesurau pwysig mae cyfyngu ar yr effaith ffisegol a gweledol ar elfennau pwysig yr amgylchedd hanesyddol gan gynnwys tirwedd caeau, dyddodion sy’n gysylltiedig â hanes cynnar aneddiadau cnewylledig o’r canol oesoedd a’r cyfnod ôl-ganoloesol, ac agweddau ar hanes amaethyddol yr ardal y mae tirwedd cefnen a rhych a phyllau marl, er enghraifft, yn ei gynrychioli.

Tirweddau Amaethyddol

Heddiw, bugeiliol yw prif ddefnydd tir ym Maelor Saesneg yn bennaf, ond yn ystod blynyddoedd diweddar mae pwyslais cynyddol wedi bod ar ffermio âr yn rhan ddwyreiniol yr ardal, felly collwyd ffiniau i greu caeau mwy. Mae’r ffynonellau tystiolaeth ar gyfer hanes amaethyddiaeth a defnydd tir ym Maelor Saesneg yn niferus ac yn amrywiol ac yn cynnwys hanes aneddiadau, siapau a meintiau caeau, tirwedd cefnen a rhych a phyllau marl (dwy nodwedd arbennig o wahanredol yn nhirwedd Maelor Saesneg), presenoldeb ffosydd a chloddiau draenio, a dosbarthiad coetiroedd. Mae tystiolaeth paill yn atodi’r rhain, yn ogystal â thystiolaeth o ffynonellau dogfennol, enwau lleoedd ac enwau caeau, a’r gwahanol fathau o adeiladau amaethyddol sy’n bresennol.

Mae topograffeg a phriddoedd nifer o ardaloedd wedi galluogi pobl i’w haddasu i naill ai amaethyddiaeth âr neu amaethyddiaeth fugeiliol, ac mae’n amlwg eu bod wedi newid o un drefn i’r llall ambell waith, a bod ffermio âr wedi bod ar waith mewn ardal llawer yn fwy helaeth ar un adeg. Mewn ardaloedd eraill, mae posibiliadau defnydd tir wedi bod llawer yn fwy cyfyngedig, fel yn y corsydd yn rhan dde-ddwyreiniol yr ardal, llethrau serth afonydd a nentydd â choed arnynt, yn enwedig ar hyd y ffiniau gogleddol a de-orllewinol, a’r dolydd gwlyb sy’n ymylu afon Dyfrdwy.

Mae patrymau presennol caeau yn balimpsest sy’n cynrychioli patrwm cymhleth o ddatblygiad dros nifer o ganrifoedd, ac mae’n amlwg bod nifer o wahanol fathau o gaeau yn dynodi nifer o wahanol brosesau. Mae patrymau caeau bach a mawr afreolaidd, a gysylltir yn aml â ffermydd gwasgaredig, yn nodweddiadol o aneddiadau arloesol neu waith clirio a chau coetiroedd a rhostir bob yn dipyn, a hynny ers y canol oesoedd cynnar. Mae grwpiau o gaeau llain, rhai ohonynt yn ffurfio systemau gweddol helaeth ac eraill yn gymharol fach ac arunig, yn cynrychioli hen gaeau agored a oedd unwaith yn gysylltiedig â systemau maenorau’r canol oesoedd. Mewn nifer o achosion mae’r caeau mawr, ac afreolaidd yn aml, sy’n ymylu afon Dyfrdwy, yn ôl pob tebyg yn cynrychioli cau ardaloedd o ddolydd a fu’n rhan o dir comin gynt. Efallai bod ardaloedd o gaeau mawr neu gaeau ag ymylon syth yn cynrychioli cau hen gomins y rhostir neu gorsydd yn gymharol ddiweddar, cynlluniau gwella tir neu, mewn rhai achosion, trosi hen barcdir.

Amaethyddiaeth gynnar

Hyd yma, ni ddaethpwyd o hyd i lawer o dystiolaeth uniongyrchol o ddefnydd tir cynnar yn yr ardal er, fel y gellid disgwyl, mae tystiolaeth paill yn darparu rhywfaint o dystiolaeth o ddilyniant cyffredinol, a oedd yn cynnwys clirio coetiroedd yn ystod diwedd y cyfnod cynhanesyddol a’r cyfnod Rhufeinig o bosibl, ac yna creu amgylcheddau glaswelltir a choetiroedd, ond nid yw’n dangos y drefn gronolegol fanwl-gywir. Mae prinder cyffredinol tystiolaeth o aneddiadau cynnar yn awgrymu bod amaethyddiaeth wedi’i chyfyngu i ardaloedd cymharol arwahanol o goetiroedd wedi’u clirio, ond mae’n bosibl bod ecsbloetio dwys y dirwedd a fu yn ystod y canol oesoedd a chyfnodau diweddarach wedi cuddio tystiolaeth o anheddu a defnydd tir cynharach.

Defnydd tir yn y canol oesoedd cynnar

Bede sy’n gyfrifol am y cyfeiriad cynharaf at ddefnydd tir ym Maelor Saesneg, oherwydd iddo sylwi y byddai’r mynachod a berthynai i’r gymuned fynachaidd Frythonig ym Mangor Is-coed ar ddechrau’r 7fed ganrif yn byw drwy lafur eu dwylo eu hunain. Er nad yw maint y gymuned hunangynhaliol hon yn hysbys, efallai ei bod yn cynnwys cannoedd o bobl, a gellir tybio eu bod yn gweithio tir y gymuned, ond nid oes mwy o dystiolaeth wedi dod i’r amlwg ynglyn â natur neu faint y gweithgaredd amaethyddol hwn.

Fel y nodwyd uchod, mae’n ymddangos bod tystiolaeth enwau lleoedd Eingl-Sacsonaidd o’r 8fed ganrif neu’r 10fed ganrif, arolwg Domesday ddiwedd yr 11eg ganrif, a thystiolaeth ddogfennol arall o ddiwedd y 13eg ganrif, oll yn dynodi bod ardaloedd cymharol helaeth o goetiroedd wedi goroesi hyd ddechrau’r Canol Oesoedd o leiaf. Hyd yma, nid oes unrhyw dystiolaeth o aneddiadau Brythonig aneglwysig sy’n gyfoes â mynachlog Bangor Is-coed wedi’i datgelu, ond mae’n debygol bod nifer o aneddiadau bach amaethyddol gwasgaredig eisoes wedi dod i’r amlwg erbyn dechrau’r cyfnod canoloesol, ond nid yw’r ffaith bod enwau lleoedd Cymraeg cynnar yn yr ardal yn brin iawn, heblaw am ardal Bangor ei hun, yn gynorthwyol yn hyn o beth.

Mae’r astudiaeth o elfennau Eingl-Sacsonaidd enwau lleoedd, sy’n dyddio o gyfnod rhwng yr 8fed ganrif a’r 10fed ganrif yn ôl pob tebyg, yn cynnig darlun mwy eglur o natur a maint aneddiadau’r canol oesoedd cynnar ac, fel y gwelwyd uchod, mae’r rhain yn cynnwys Bronington, Brychdyn [Broughton], Gredington, Halchdyn [Halghton], Knolton, Owrtyn [Overton], Tybroughton, Willington, Wallington ac Wrddymbre [Worthenbury], ac mae’n debygol bod pob un o’r rhain yn ganolbwynt i gymuned a oedd yn ffermio. Fodd bynnag, o’r aneddiadau hyn Owrtyn [Overton], ac efallai Wrddymbre [Worthenbury], yn unig a fyddai’n datblygu o ran eu maint yn ystod y Canol Oesoedd, ac ymddengys yn debygol nad oeddynt yn cynrychioli mwy na chlwstwr o dyddynnod a’u caeau cysylltiedig yn ystod y cyfnod cynnar hwn, ynghyd ag ardaloedd coediog o wahanol feintiau rhyngddynt. Yn wir, mae’n debygol bod patrymau cymhleth defnydd tir eisoes wedi dechrau dod i’r amlwg erbyn y dyddiad hwn, rhwng y tir mwy addas i aredig, y tir mwy addas i bori yn yr haf neu’r gaeaf, a’r tir mwy anhydrin a fyddai’n parhau i fod yn goetir, yn rhostir neu’n llaid.

Amaethyddiaeth ar adeg Concwest y Normaniaid

Daw darlun cliriach o ecsbloetio’r ardal yn amaethyddol i’r amlwg yn sgîl arolwg Domesday ym 1086, a gynhyrchwyd gan y brenin Normanaidd, William y Cyntaf. Mae’r arolwg yn dynodi bodolaeth nifer o stadau amaethyddol a oedd yn cwmpasu ardal gryno o Faelor Saesneg ymhell cyn concwest y Normaniaid ym 1066, wedi’u rhannu rhwng yr eglwys ac Edwin, iarll Sacsonaidd Mersia. Roedd y rhain yn cynnwys maenorau yn Wrddymbre [Worthenbury], Llys Bedydd [Bettisfield], ac Iscoyd, ac efallai y gwnaeth eu holynwyr Normanaidd feddiannu’r stadau hyn â chyn lleied o chwalfa â phosibl, ynghyd â daliadau helaeth eraill a oedd eisoes yn bodoli na chafodd eu cofnodi yn yr arolwg Domesday yn ôl pob tebyg. Roedd maenor Llys Bedydd [Bettisfield] (Bedesfeld) yn cynnwys digon o dir ar gyfer 8 o dimau aredig, roedd maenor Iscoyd (Burwardestone) yn cynnwys digon o dir ar gyfer 14 o dimau aredig ac roedd maenor Wrddymbre [Worthenbury] (Hurdingberie) yn cynnwys digon o dir ar gyfer 10 o dimau aredig. Efallai bod pob tîm aredig (caruca) yn cynrychioli oddeutu (40 hectar) 100 erw o dir âr ac, yn achos maenor Wrddymbre [Worthenbury], er enghraifft, mae hyn yn awgrymu bod rhwng 30-50 y cant o dir y faenor yn cael ei drin ar yr adeg honno. Mae’n syndod nad oes rhyw lawer o gyfeirio at ddolydd ym Maelor Saesneg yn ystod y cyfnod hwn – hanner erw yn Llys Bedydd [Bettisfield] ac un erw yn Wrddymbre [Worthenbury] – ac ymddengys yn debygol bod hyn yn dangynrychiolaeth llwyr. Dywedir bod pob un o’r tair faenor a gofnodwyd ym Maelor Saesneg wedi’u chwalu adeg Concwest y Normaniaid, efallai o ganlyniad i’r math o ddifrodi cosbol a oedd yn cael ei ddosbarthu yn Sir Gaer a’r gororau gogleddol yn ystod cyfnod y goncwest. Fodd bynnag, mae’n debygol bod yr effaith yn weddol fyrhoedlog, oherwydd mae’n amlwg bod trefn wedi dychwelyd i’r maenorau hyn erbyn diwedd yr 11eg ganrif, pan gynhyrchwyd arolwg Domesday.

Nid yw’r ffaith nad yw arolwg Domesday yn cyfeirio at stadau yn rhannau eraill Maelor Saesneg yn golygu, o anghenraid, bod pob un o’r rhain yn goedwig neu’n dir gwastraff ar yr adeg hon. Mewn rhai achosion, efallai bod stadau eraill yn cynnwys y tiroedd hyn, er bod y ffaith nad oes stadau wedi’u henwi yn rhan ganolog yr ardal yn awgrymu mai datblygiad diweddarach oedd yr ardaloedd oedd wedi’u trin yn helaeth ac y mae systemau cefnen a rhych yn dyddio o’r Canol Oesoedd ymlaen yn eu nodweddu. Efallai, bod trin tir yn yr ardaloedd hyn wedi’i gyfyngu i ganolbwyntiau bach yr anheddu y mae tystiolaeth enwau lleoedd Eingl-Sacsonaidd yn ei awgrymu.

Ehangu amaethyddol yn dilyn y goncwest Edwardaidd

Hyd yma, nid oes unrhyw dystiolaeth archeolegol na dogfennol ar gael o amaethyddiaeth ganoloesol ym Maelor Saesneg ar gyfer y ddau gan mlynedd rhwng arolwg Domesday ar ddiwedd yr 11eg ganrif a diwedd y 13eg ganrif, neu mae’r dystiolaeth sydd ar gael yn brin iawn. Mae’n amlwg bod tirwedd newydd a gwahanol wedi dod i’r amlwg mewn nifer o rannau o’r ardal erbyn y dyddiad hwn. Er hynny, fel rydym eisoes wedi gweld, roedd safleoedd â ffosydd a chaeau agored helaeth i’w gweld bobman yn y dirwedd ac mae’n bosibl bod hyn yn golygu bod yr ardal wedi’i ffermio’n fwy helaeth yn sgîl y goncwest Edwardaidd yn fuan ar ôl 1284.

Rhoddwyd tiroedd a atafaelwyd oddi wrth gefnogwyr y tywysogion Cymreig a ddiorseddwyd i fewnfudwyr Seisnig, ac ymddengys eu bod wedi disodli’r ffurfiau dal tir a rheoli tir a oedd eisoes yn bodoli ac wedi sefydlu system o faenorau â chaeau agored ar sail model Seisnig cyfarwydd. Dogfennwyd cyfleoedd eraill y manteisiwyd arnynt i ehangu yn amaethyddol yn dilyn y goncwest ac roedd y rhain yn golygu bod y boblogaeth Gymreig leol yn cael ei hamddifadu o’i hawliau arferol i borfeydd a choedwigoedd, yn syth ar ôl y goncwest Edwardaidd, a hynny yn anghyfreithlon yn aml. Cyfeiriwyd uchod at Edward yn rhoi caniatâd i gwympo coetir sylweddol posibl o’r bwlch yn Redbrook at ddibenion strategol yn ystod y 1280au, a cheir enghreifftiau eraill lle honnwyd pan wnaeth y brenin orchymyn lledu ffyrdd, aeth beili’r Frenhines Eleanor yn rhy bell pan gliriodd lleiniau mawr o dir a’u troi yn dir âr, hyd yn oed lle nad oedd gan y frenhines unrhyw hawl i’r ardal.

Fel y nodwyd uchod, ymddengys bod dosbarthiad safleoedd â ffos ym Maelor Saesneg yn cadarnhau’r awgrym eu bod yn cynrychioli cyfnod ehangu arloesol ar ddiwedd y 13eg ganrif a’r 14eg ganrif. Ymddengys bod tystiolaeth enwau lleoedd yn awgrymu bod hyn yn gysylltiedig yn agos iawn â systemau cefnen a rhych y canol oesoedd, a’i fod yn osgoi aneddiadau cnewylledig a oedd eisoes yn bodoli – efallai wedi’u creu o hen ardaloedd porfa a choedwig. I ddechrau, roedd y dyhead i roi hwb i’r cyllid o diroedd y goron yng Nghymru yn rhannol gyfrifol am symbylu’r ehangu hyn, ac roedd agor marchnadoedd newydd, fel yr un a sefydlwyd yn Owrtyn [Overton], yn gymorth yn hyn o beth.

Caeau âr agored a chefnen a rhych

Er nad oes llawer o dystiolaeth ddogfennol gynnar wedi goroesi mewn cysylltiad â systemau maenorol amaethyddiaeth a defnydd tir ym Maelor Saesneg, mae goroesiad eang tirweddau cefnen a rhych, yn ogystal â phatrymau gwahanredol caeau llain sy’n amlwg yn y dirwedd fodern ac ar fapiau cynnar, yn darparu tystiolaeth o gaeau agored canoloesol a oedd yn gysylltiedig â chanolfannau maenorol â ffos, ond mae dal angen astudio nifer o’r rhain yn fanwl. Yn ddiamau, mae rhai tirweddau cefnen a rhych, gan gynnwys rhywfaint o’r cefnau mwy cul, yn rhai diweddar, ac efallai nad ydynt yn gysylltiedig â thrin caeau agored, ond mae’n bosibl ei bod yn rhesymol tybio, o ystyried ffynonellau dogfennol, cyd-destun a ffurf, bod patrwm cyffredinol tirwedd cefnen a rhych wedi dechrau yn ystod y canol oesoedd a’i fod yn cynrychioli caeau âr agored a oedd yn gysylltiedig â maenorau canoloesol, efallai ar ffurf wahanol i’r ffurf glasurol a ddatblygodd yng Nghanoldir Lloegr.

Mae’n debygol nad yw’r holl dirwedd cefnen a rhych sy’n dyddio o’r canol oesoedd ym Maelor Saesneg yn dangos graddau’r ti âr a oedd wedi datblygu erbyn diwedd y cyfnod canoloesol, gan osgoi yn gyffredinol tir llai ffrwythlon, llethrau mwy serth y nentydd ac afonydd a thir a oedd yn tueddu i orlifo. Hyd yma, daethpwyd o hyd i oddeutu 1,995 hectar (4,929 erw) o dirwedd cefnen a rhych ym Maelor Saesneg trwy awyrluniau ac arolygon maes, yn enwedig yn rhan orllewinol yr ardal, sy’n cynrychioli ychydig yn llai na 17 y cant o’r holl ardal. Mae cyfran llawer uwch yn amlwg mewn cymunedau fel Willington Wrddymbre [Worthenbury] a rhan orllewinol De Maelor lle mae’n cyfrif am 40 y cant o’r ardal, ond mewn cymunedau eraill fel rhan ogleddol Bronington mae’n digwydd mewn systemau arwahanol llai.

Mae hyn yn cymharu â rhai ardaloedd tirwedd cefnen a rhych clasurol yng Nghanoldir Lloegr lle mae hyd at 90 y cant o ardaloedd rhai trefgorddau yn dir âr, ond mewn rhannau gorllewinol Sir Gaer, ystyrir bod 75 y cant yn ffigur mwy nodweddiadol. Fel yn achos systemau caeau helaeth Canoldir Lloegr, mae tirwedd cefnen a rhych Maelor Saesneg yn cynrychioli yn bennaf cytundeb deiliadol lle cafodd daliadau â lleiniau bychain wedi’u cydgymysgu eu gwasgaru mewn cae agored. Yma, fel ym mannau eraill, yn gyffredinol roedd y cefnennau yn rhedeg i lawr y dirwedd, gan redeg ar draws y cyfuchliniau, ac roedd y rhychau rhwng y cefnennau hefyd yn ddraeniau gan ddarparu ffiniau rhwng y lleiniau. Cafodd y cefnennau eu creu dros amser wrth i’r aradr droi’r pridd âr i mewn yn gyson. Yn y system cae agored a oedd yn nodweddiadol o Ganoldir Lloegr, roedd y cefnennau, a adwaenid hefyd fel ‘lands’, yn ffurfio ystadennau ac roedd y rhain yn eu tro yn ffurfio caeau. Fel arfer, byddai tri chae yn sylfaen i system gylchdro a gynlluniwyd i sicrhau ffrwythlondeb parhaus y tir, oherwydd byddai un o’r caeau yn ei dro yn cael ei adael yn fraenar am flwyddyn.

Er enghraifft, awgrymwyd bod yna dri, neu efallai mwy, o gaeau canoloesol agored ym Mangor Is-coed, Owrtyn [Overton] a Hanmer, ond efallai nad oes tystiolaeth o fwy nag un yn Wrddymbre [Worthenbury], a cheir tystiolaeth ddogfennol o gaeau comin agored yn nhrefgorddau Gredington, Llys Bedydd [Bettisfield] ac, yn fwy na thebyg yn Tybroughton a Brychdyn [Broughton]. Hefyd, ymddengys bod cyfeiriadau at leiniau agored yn ystod y 13eg ganrif a’r 14eg ganrif yn Althrey, Knolton, a Llannerch Banna [Penley], ond mae’n bosibl bod y rhain, fel rhai mewn mannau eraill, wedi ffurfio grwpiau bychain o leiniau aredig yn hytrach na chaeau âr wedi’u trefnu yn dda.

Yn ddiamau, mae cyfran o’r hen dirweddau cefnen a rhych wedi’u colli oherwydd aredig a gwastatáu diweddarach. Mae’n amlwg bod perthynas gymharol agos rhwng siapiau rhai caeau a thirwedd cefnen a rhych sydd wedi goroesi. Mae hyn i’w weld yn arbennig yn achos hen gaeau llain y mae mapiau cynharach yn eu dangos, yn ogystal â rhai mathau eraill o gaeau rheolaidd, ac ymddengys bod hyn yn helpu i leoli nifer o systemau caeau agored mewn ardaloedd lle nad oes unrhyw dystiolaeth wedi’i chofnodi o dirwedd cefnen a rhych. Mewn rhai achosion, mae’r rhain yn cyfateb i’r dystiolaeth enwau caeau ac felly’n awgrymu bod caeau agored yn arfer bodoli yno, fel yn achos Maes Mawr a Maes y Groes, a gofnodwyd gyntaf yn ffynonellau o ddiwedd yr 16eg ganrif a dechrau’r 17eg ganrif, sy’n cyfateb i weddillion caeau llain yng ngogledd-ddwyrain a de Bangor Is-coed.

Mae’n amlwg bod y dopograffeg leol a’r draenio naturiol yn bwysig wrth bennu patrwm yr ystadennau: felly, ar lethrau esmwyth yn aml ceir ystadennau hir, sy’n cynnwys nifer o gefnennau cyflin, ond ar dir tonnog ceir patrymau cymhleth o ystadennau bach a chefnennau yn mynd i nifer o gyfeiriadau. Efallai bod y system a oedd ar waith ym Maelor Saesneg yn fwy tebyg i’r hyn a oedd ar waith yn Sir Gaer, lle ymddengys bod y caeau âr agored yn cynnwys nifer o unedau neu ystadennau bach, ond nid oes llawer o dystiolaeth bod yr ystadennau’n ffurfio caeau agored mawr fel yng Nghanoldir Lloegr. Efallai gellir ystyried bod yr ystadennau, mewn rhai achosion, fel mewn rhannau eraill o ogledd-orllewin Lloegr, yn unedau o goetir a rhostir a adenillwyd ac efallai eu bod wedi parhau mewn rhai cymunedau mor ddiweddar â’r 15fed ganrif neu’r 16eg ganrif, mewn rhai achosion.

Efallai bod elfennau o’r patrwm hwn yn adlewyrchu patrwm dwys o drin tir y credir iddo fod ar waith o ddyddiad cynnar mewn rhannau o ogledd-orllewin Lloegr. Roedd yn cynnwys cyfnod byr o adael tir yn fraenar rhwng y cynhaeaf a hau’r grawn yn y gwanwyn dilynol. Efallai bod yr arfer o ddaliadau unigol yn ffurfio grwp cydgyfnerthedig o leiniau mewn rhannau o’r caeau comin, yn hytrach na gwasgaru lleiniau yn eang, yn nodwedd arall a allai wahaniaethu rhwng caeau agored Maelor Saesneg, ac ardaloedd cyfagos gogledd-orllewin Lloegr, a system Canoldir Lloegr. Efallai bod hyn wedi deillio o gyfnewid a chyfnerthu patrwm a fu unwaith yn fwy gwasgaredig, a hynny ar ddyddiad cymharol gynnar yn y canol oesoedd, efallai o ganlyniad i ardal lle ymddengys bod anheddu yn ardal graidd Maelor Saesneg wedi bod yn wasgaredig mewn pentrefannau yn hytrach nag wedi canolbwyntio ar bentrefi cnewylledig, a oedd yn fwy nodweddiadol yng Nghanoldir Lloegr.

Yn ddiamau, grawnfwydydd fyddai’r cnydau a fyddai’n cael eu tyfu yn fwyaf cyffredin yn ystod y canol oesoedd, ond mae’n hysbys bod pys a ffa wedi cael eu trin yn y caeau agored yn ardaloedd cyfagos Lloegr. Hefyd, cyflwynwyd cywarch a llin o ddyddiad cynnar, er ei bod yn bosibl bod y rhain yn cael eu tyfu ar gaeau amgaeëdig yn bennaf. Hefyd, ceir tystiolaeth yr ystyrir ei bod yn fwy addas gwneud rhannau o’r caeau âr agored yn ddolydd, a’u torri i gynhyrchu gwair yn hytrach na’u haredig.

Fel mewn mannau eraill, roedd caeau agored Maelor Saesneg yn rhan o system defnydd tir mwy helaeth a oedd yn cefnogi economi ffermio cymysg. Roedd y system yn cynnwys dolydd a dorrwyd yn draddodiadol i gynhyrchu gwair i fwydo anifeiliaid yn y gaeaf a lle byddai stoc yn pori yn yr hydref, porfeydd comin lle byddai stoc yn pori yn yr haf, yn ogystal â’r caeau agored eu hunain a oedd, mae’n debyg, hefyd yn bwysig i’w pori yn yr haf a’r hydref pan roeddent yn fraenar. Ymddengys bod cyfeiriadau dogfennol at, er enghraifft, dôl Althrey a oedd yn amlwg yn ddôl comin, yn nhrefgordd Bangor Is-coed ar ddechrau’r 16eg ganrif, yn ardal Cae Rasio Bangor heddiw. Fel yn nhrefgorddau cyfagos Sir Gaer, daeth y dolydd helaeth, a oedd yn wlyb yn dymhorol, ar hyd rhan isaf afon Dyfrdwy yn bwysig wrth ddatblygu ffermio stoc yn y rhanbarth yn ystod y Canol Oesoedd. Byddai gwahanol bobl yn berchen ar y lleiniau, ac yn draddodiadol byddai stanciau neu gerrig yn nodi’r ffiniau. Byddent yn cael eu torri ar gyfer gwair ac yna’n cael eu defnyddio fel porfeydd comin. Yn gyffredinol nid yw’r lleiniau bellach i’w gweld ar y llawr, oherwydd na fyddent yn cael eu haredig. Efallai bod y dirwedd cefnen a rhych ar y tir sy’n debygol o orlifo ar lannau Afon Dyfrdwy i’r gogledd o Wrddymbre [Worthenbury] yn un o’r gwahaniaethau rhwng systemau’r ardal hon a systemau caeau Canoldir Lloegr. Mae hyn hefyd yn adlewyrchu patrwm sydd i’w weld yn rhannau cyfagos o ddyffryn isaf afon Dyfrdwy yng ngorllewin Sir Gaer ac yn nyffryn afon Hafren islaw’r Drenewydd yn Sir Drefaldwyn. Ond ystyrir bod y batrwm hwn yn cynrychioli system ‘hwsmonaeth drosadwy’, lle y gallai tir a oedd yn fwy addas fel dôl yn ystod y tymor gwlyb ddod yn dir âr yn ystod cyfnod hir o dywydd sych, yn hytrach na chynrychioli dolydd dyfredig.

Mae tirwedd cefnen a rhych yn elfen wahanol a phwysig yn nhirwedd hanesyddol Maelor Saesneg ac mae’n bwysig ein bod yn ei chofnodi, ei dadansoddi, ei dehongli a’i gwarchod. Mewn rhai ardaloedd, mae’r olion hyn o amaethyddiaeth âr ganoloesol yn parhau i ildio i amaethyddiaeth fodern fecanyddol, o ganlyniad i waith gwella porfeydd ac ail-hau, a byddant yn cael eu colli oherwydd datblygiadau tai ar ymylon nifer o aneddiadau fel Wrddymbre [Worthenbury], Bronington, a Horseman’s Green.

Twf ffermio rhyddfraint yn y canol oesoedd a’r cyfnod ôl-ganoloesol

Fel yn ardaloedd cyfagos Canoldir Lloegr, mae’n debygol y cliriwyd y tir ar ymylon y caeau agored, sef y rhan fwyaf o’r tir fferm mewn nifer o drefgorddau, gan unigolion a ffermwyr oedd yn eu ffermio yn hytrach na’r maenorau. Er enghraifft, mewn ardaloedd cyfagos yn Swydd Amwythig mae’n amlwg bod gwaith clirio neu asartio coetir ac adennill rhostir ar waith yn rheolaidd o’r 12fed ganrif hyd yr 16eg ganrif o bosibl, yn ddiamau yn rhannol ar draul hen borfeydd comin, ac felly’n arwain at ffermydd dan berchnogaeth unigolion, â mwy o ddibyniaeth ar fugeilyddiaeth yn ôl pob tebyg. Fel y nodwyd uchod, arweiniodd y broses clirio bob yn dipyn hon at batrymau afreolaidd o gaeau mawr a bach, yn aml yn gysylltiedig â ffermydd gwasgaredig, sydd heddiw yn nodweddu ychydig yn llai na 50 y cant o dirwedd Maelor Saesneg.

Ymddengys bod colli gweithwyr o ganlyniad i’r Pla Du, a arweiniodd at ddirwasgiad tiroedd wedi’u trin mewn rhai ardaloedd, ynghyd â thwf y fasnach wlân, wedi rhoi gwaith trin y caeau comin agored dan bwysau. Hefyd, o ganol y 14eg ganrif, ymddengys bod maint caeau agored Maelor Saesneg, ynghyd â chaeau agored ardaloedd cyfagos Sir Gaer a Swydd Amwythig, yn graddol leihau oherwydd proses cau tir bob yn dipyn, trwy gytundebau preifat. Fel yn Sir Gaer, nid oedd y senedd yn gyfrifol am gau tir ym Maelor Saesneg oherwydd bod gwaith cau tir yn mynd rhagddo yn gyson rhwng y 14eg ganrif a’r 18fed ganrif. Arweiniodd hyn at ffosileiddio’r hen gaeau agored y mae tirwedd cefnen a rhych a chaeau siâp llain yn eu cynrychioli yn y dirwedd wledig. Erbyn y 15fed ganrif a’r 16eg ganrif, roedd nifer o stadau cynnar yn amsugno rhannau o hen gaeau agored, fel y lleiniau agored a ddaeth i feddiant Llannerch Panna, hen stad yn nhrefgordd Llannerch Banna [Penley] (De Maelor), y cyfeiriwyd ati yn ystod y 1470au. Daeth tirwedd cefnen a rhych a oedd yn cynrychioli rhan o gaeau agored yn barcdir yn Emral (Willington Wrddymbre [Worthenbury]) a Gredington (Hanmer) oddeutu’r dyddiad hwn.

Un o fuddiannau hanfodol system caeau agored y canol oesoedd o drin tir oedd bod cylchdroi cnydau a gadael tir yn fraenar yn sicrhau bod y pridd yn parhau yn ffrwythlon. Nid yw’n hysbys i ba raddau y chwalodd y duedd i gau tir y dulliau traddodiadol hyn, ond mae’n amlwg bod pryderon ynghylch dirywiad yn ffrwythlondeb y tir wedi cael eu cofnodi erbyn yr 17eg mewn ardaloedd cyfagos yng ngogledd-orllewin Lloegr. Ceir cofnodion o arfer marlio, sef palu’r isbridd a’i ychwanegu at yr uwchbridd i wella ffrwythlondeb, o’r 12fed ganrif a’r 13eg ganrif ymlaen yn Swydd Amwythig a Sir Gaer, ac mae nifer o ffynonellau cynnar yn pwysleisio gwerth marlio’r tir cyn hau gwenith. Fodd bynnag, efallai bod y rhan fwyaf o byllau marl gogledd Swydd Amwythig, Maelor Saesneg a gorllewin Sir Gaer yn dyddio o ddechrau’r cyfnod cau tir, rhwng yr 16eg ganrif a’r 18fed ganrif. Er ei bod yn amlwg bod proses mewnlenwi barhaus wedi bod ar waith am fwy na chanrif, mae’r hen byllau marl yn dal i fod yn elfen arwyddocaol a gwahanredol yn nhirwedd y rhanbarth, ac yn aml mae yna gymaint â 60 ohonynt fesul cilomedr sgwâr a bydd un neu fwy ohonynt mewn cae. Maent hefyd yn cynrychioli gorwel gwahanredol yn hanes tirwedd yr ardal.

Defnyddiwyd amrywiaeth eang o glog-gleiau a thywod Triasig, cleiau a marlau ar gyfer marl yn y rhanbarth, a hynny o gyfnodau cynnar, er mwyn gwella cyfansoddiad, gwead a strwythur y pridd. Er enghraifft, yn ôl un ysgrifennwr yn negawd cyntaf y 19eg ganrif, ystyriwyd bod marl ‘unquestionably one of the most important of the Cheshire manures. . . found in many parts of England, but in particular abundance in Cheshire’. Daethpwyd o hyd i farlau calchaidd a marlau di-galchaidd yn yr ardal. Pan ychwanegwyd marl calchaidd at bridd cleiog, roedd y cynnwys calch (hyd at 15 y cant yn garbonad calsiwm yn lleol) yn gwella strwythur y pridd, ac yn ei wneud yn haws i’w ddraenio a’i drin. Pan fyddai’n cael ei ychwanegu at bridd tywodlyd, byddai’r cynnwys clai yn gwella gallu’r pridd i ddal dwr a byddai’n gwrthweithio asidrwydd naturiol y pridd, gan warchod cydrannau organig a mwynol y pridd a fyddai’n cael eu golchi allan fel arall. O’r herwydd, byddai pridd yn dod yn fwy ffrwythlon. Roedd effaith marlau di-galchaidd yn debyg, er mai newid gwead y pridd yn unig roeddent yn ei wneud.

Yn aml, mae’r hen byllau marl wedi llenwi â dwr, ac mae eu hymylon yn serth. Yn gyffredinol, byddant yn mesur oddeutu 5-15 metr ar draws a bydd coed neu lwyni o’u hamgylch yn aml. Fel arfer, roedd ramp ar un ochr iddynt er mwyn i gerti allu eu cyrraedd, ac roeddynt yn aml yng nghanol caeau, mae’n debyg er mwyn ei gwneud yn haws cludo’r marl. Ond mewn nifer o achosion roeddynt ar ffiniau caeau (neu ffiniau hen gaeau sydd bellach wedi diflannu) neu lle mae tri neu bedwar o gaeau yn cyfarfod, efallai er mwyn gallu eu cyrraedd o nifer o wahanol gaeau. Yn aml, mae’r pyllau hyn yn hirgul neu’n ymddangos mewn grwpiau o ddau neu fwy yn yr un ardal, gan awgrymu bod cloddio wedi bod ar nifer o achlysuron, gan osgoi pyllau a oedd eisoes wedi llenwi â dwr. Yn rhan ddeheuol Maelor Saesneg ceir nifer o byllau mwy sydd wedi llenwi â dwr ger ffermydd neu ffyrdd, sy’n awgrymu, o bosibl, bod marl yn cael ei gludo i gaeau pell i ffwrdd, efallai yn fasnachol. Yn aml, ystyriwyd bod pyllau sydd wedi llenwi â dwr yn beryglus, a chofnodwyd achosion o foddi mewn pyllau marl yn y rhanbarth o’r canol oesoedd ymlaen.

Gellir gweld bod nifer o’r pyllau marl yn torri trwy’r systemau caeau cefnen a rhych cynnar, ac felly ymddengys bod y rhan fwyaf o’r pyllau yn y rhanbarth yn dyddio o gyfnod ar ôl i system caeau agored y canol oesoedd ddod i ben. Fodd bynnag, mae dosbarthiad cyffredinol pyllau marl yn cyfateb yn agos i dirwedd cefnen a rhych a chaeau llain mewn nifer o ardaloedd, ac mae’r ddwy nodwedd yn arwyddion cyffredinol o hen gaeau agored canoloesol. Mewn nifer o achosion, awgryma hyn bod pyllau marl yn cynrychioli gwaith gwella’r hen gaeau agored yn ystod y cyfnod cau tir cynnar, efallai o’r 16eg ganrif ymlaen. Fodd bynnag, mae dosbarthiad pyllau marl yn ymestyn y tu hwnt i ardal hysbys tirwedd cefnen a rhych a chaeau llain, ac oherwydd y cysylltir marlio yn gyffredinol â thir âr, er ei fod, yn amlwg, weithiau wedi bod yn rhan o waith gwella porfeydd, efallai bod dosbarthiad cyffredinol pyllau marl ym Maelor Saesneg yn arwydd o faint y tir âr rhwng yr 16eg ganrif a’r 18fed ganrif mewn tirwedd y mae ardaloedd helaeth o borfa yn ei nodweddu heddiw.

Ymddengys bod calchu wedi disodli arfer marlio yn gyflym ar ddechrau’r 19eg ganrif, yn enwedig pan ddaeth cludiant camlas ar gael i gludo calch i’r rhanbarth o chwareli yn y bryniau i’r gorllewin o afon Dyfrdwy. Adeiladwyd odynau i drosi carreg galch yn galch ar hyd Camlas Ellesmere yn Llys Bedydd [Bettisfield] yn ystod y cyfnod hwn, ac roeddynt yn sicr yn cyflenwi eu cynnyrch i ffermydd lleol. Yn eu tro, daeth gwrteithion cemegol i ddisodli calch amaethyddol, pan ddaethant ar gael yn rhwyddach tua diwedd y 19eg ganrif.

O’r 2,200 a mwy o byllau marl a gofnodwyd ym Maelor Saesneg, mae cyfran ohonynt wedi’u mewnlenwi ac ar fapiau cynharach yr Arolwg Ordnans yn unig y gellir eu gweld. Mae’r pyllau’n cynrychioli cyfnod gwahanredol o arferion amaethyddol a defnydd tir yn y gorffennol, efallai’n dechrau yn y Canol Oesoedd, ond yn arbennig o nodweddiadol o’r cyfnod pan ddaeth cau tir i ben rhwng y 16eg ganrif a’r 18fed ganrif. Yn anffodus mae nifer ohonynt yn dal i gael eu llenwi â sbwriel, er bod rhai’n cael eu trosi yn nodweddion addurnol i’r ardd. Yn ogystal â darparu elfen hanesyddol weledol bwysig yn y dirwedd fodern, mae pyllau sydd wedi llenwi â dwr a phyllau wedi’u mewnlenwi hefyd yn cynrychioli adnodd ecolegol a phalaeoamgylcheddol.

Draenio a chau tir y corsydd

Daw cyfeiriadau at dirfeddianwyr yn draenio ac yn adennill tir gwlyb mewn ardaloedd cyfagos yn Swydd Amwythig yn fwy cyffredin yn ystod y cyfnod rhwng 1550-1650, ac er bod llai o gofnodion wedi goroesi mewn perthynas â chorsydd ardaloedd Cymreig, ceir nifer o gyfeiriadau, fel un ym 1582 mewn perthynas â thorri mawn a phalu ffos draenio. Fodd bynnag, ymddengys mai’r cyfnod o ddechrau’r 18fed ganrif oedd prif gyfnod adennill tir, pan ddechreuwyd rhoi grymoedd i gau tir rhannau o’r corsydd. Yn aml ar ôl draenio’r rhostiroedd a oedd yn ymylu’r corsydd, daethant i fod yn weddol gynhyrchiol, ac arweiniodd y broses draenio a chau tir at dirwedd wahanredol caeau pori mawr a bach unionlin a ffosydd yn eu ffinio, â ffermydd cymysg a thyddynnod, a pheth tir âr ar y tywod a’r graean oedd wedi’i ddraenio yn well. Yn dilyn hyn, troswyd rhai o’r ardaloedd hyn yn blanhigfeydd conifferaidd, fel yn Fenn’s Wood, a blannwyd yn y 1960au.

Gwelliannau amaethyddol yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif

Yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, cyflwynwyd nifer o welliannau amaethyddol, yn enwedig wrth i’r tirfeddianwyr mwy geisio gwella cyllid eu stadau. Er enghraifft, datblygwyd stad Bryn-y-Pys yn sylweddol ar ôl i Edmwnd Peel ei phrynu yng nghanol y 19eg ganrif. Er gwaethaf y newidiadau hyn, byddai’r rhan fwyaf o dirwedd caeau’r canol oesoedd a’r cyfnod ôl-ganoloesol yn parhau bron iawn yn gyfan er y ceir rhywfaint o dystiolaeth bod caeau wedi’u cyfnerthu a’u hehangu a bod ffiniau caeau wedi’u haildrefnu mewn rhai ardaloedd.

Hefyd, roedd gwelliannau i adeiladau amaethyddol yn gyffredin, yn arbennig ar ffermydd â thenantiaid. Mae’r gymysgedd o adeiladau fferm ar Buck Farm, Halchdyn [Halghton] (Willington Wrddymbre [Worthenbury]) yn nodweddiadol o’r cyfnod, gydag asgell ffrâm bren o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif â mynedfeydd caeëdig i gerti, ysgubor o’r 19eg ganrif â pheiriannau roedd belt yn eu gyrru, a pharlwr godro bric coch o’r 19eg ganrif.

Hefyd yn ystod y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif gwelwyd cynnydd yn nifer y mentrau amaethyddol byrhoedlog ar dir ymylol, fel ffermio cwningod yn ôl tystiolaeth enwau lleoedd fel The Conery a Conery Lane ger Fenn’s Wood a The Warren ger Parc Iscoyd (y ddau yn Bronington).

Tirwedd caeau presennol

Mae amrywiaeth o batrymau caeau yn amlwg yn y tirweddau caeau presennol, fel rhai y soniwyd amdanynt uchod, ac efallai ei bod yn bosibl eu gosod mewn fframwaith hanesyddol eang. Ymddengys bod ardaloedd o gaeau mawr afreolaidd a chaeau bach afreolaidd (at ddibenion yr astudiaeth hon, dosbarthwyd caeau mawr yn rhai mwy na 3 hectar a chaeau bach yn rhai llai na 3 hectar) wedi’u creu yn ôl pob tebyg o ganlyniad i glirio coetir bob yn dipyn a chau rhostir, efallai o’r canol oesoedd yn bennaf. Efallai bod hyn hefyd yn cynnwys cau tir ardaloedd a oedd yn goetir comin a phorfeydd comin ac yn awgrymu daliadaeth rhyddfraint. Fodd bynnag, cysylltir nifer o gaeau o’r math hwn â thystiolaeth trin tir cefnen a rhych, sy’n awgrymu bod nifer o gaeau o’r siapiau hyn wedi datblygu o gau tir yr hen gaeau agored canoloesol. Mae’n debyg, mewn nifer o achosion, bod caeau o ddosbarthwyd yn gaeau gorlifdir, sydd yn gyffredinol yn ymylu afon Dyfrdwy ac yn aml yn dioddef gan orlifo nawr neu wedi dioddef gan orlifo yn y gorffennol, yn cynrychioli cau tir hen ddolydd comin a oedd eisoes yn cael eu defnyddio yn ystod y Canol Oesoedd, a gafodd eu cau, yn ôl pob tebyg, ddiwedd y canol oesoedd neu yn ystod y cyfnod ôl-ganoloesol. Weithiau mae’r caeau hyn yn cynnwys ystumllynnoedd neu gilfaeau afonydd. Fel y nodwyd uchod, weithiau ceir y rhain mewn cysylltiad â thrin tir cefnen a rhych, sy’n dynodi eu bod wedi’u defnyddio yn gyfnodol fel caeau âr agored yn ystod y canol oesoedd. Mae perthynas agos rhwng caeau llain gwahanredol, a ddosbarthwyd yn gyffredinol yn grwpiau o gaeau cymharol hir a thenau (â chymhareb hyd : lled >3:1), ac ardaloedd trin tir cefnen a rhych sydd wedi goroesi, ac ymddengys eu bod wedi datblygu o uno a chau tir caeau llain agored canoloesol. Maent yn elfen o’r hyn sy’n ymddangos i fod yn gaeau agored canoloesol bach a mawr, ac yn aml maent mewn cyfuniad â phatrymau caeau eraill sydd yn debygol (fel yn achos caeau a ddosbarthwyd yn gaeau llain wedi’u haildrefnu) neu’n bosibl (fel yn achos caeau a ddosbarthwyd yn gaeau rheolaidd) hefyd wedi datblygu o gaeau llain canoloesol. Yn aml, mae patrymau caeau a ddosbarthwyd yn gaeau mawr ag ochrau syth ac yn gaeau bach ag ochrau syth (eto, dosbarthwyd caeau mawr yn rhai mwy na 3 hectar a chaeau bach yn rhai llai na 3 hectar), yn ymddangos yn debyg i’r tir amgaeëdig ôl-ganoloesol neu fodern cynnar, ac yn aml yn cynrychioli naill ai cau rhostiroedd yn weddol ddiweddar neu aildrefnu tirwedd yn weddol ddiweddar, fel yn achos dosrannu hen barcdir, er enghraifft. Yn olaf, ceir rhai caeau bach gwahanredol a ddosbarthwyd yn badogau/closydd sydd, yn gyffredinol, yn fach ag ochrau syth ac yn gysylltiedig â thyddynnod neu ffermydd.

Mae gwrychoedd syml yn nodi ffiniau’r rhan fwyaf o gaeau modern, ac mae ffensys postyn a weiren bellach hefyd yn gymorth i allu cadw stoc yn y cae neu allan ohono. Mae’n amlwg bod plygu gwrychoedd wedi bod yn arfer cyffredin yn y gorffennol, ac mae’n parhau yn gyfnodol mewn rhai ardaloedd. Mae nifer o’r gwrychoedd yn cynnwys amrywiaeth o rywogaethau collddail a chelyn, ac yn aml bydd coed derw aeddfed yno hefyd. Yn gyffredinol, mae gwrychoedd sy’n gysylltiedig â chau tir hen gaeau agored yn weddol syth, ond mae ffiniau afreolaidd i’w gweld yn amlwg mewn rhai ardaloedd, sydd wedi datblygu, yn ôl pob tebyg, yn sgîl clirio coed a chau tir bob yn dipyn. Mewn rhai ardaloedd, fel ardal nodwedd Eglwys Cross, ceir glasleiniau gyda’r ffiniau caeau sy’n dynodi amaethyddiaeth âr yn y gorffennol. Mewn rhai ardaloedd, mae llinellau o goed derw aeddfed wedi datblygu mewn glaswelltir oherwydd y broses cael gwared ar wrychoedd ac uno caeau. Mae gwrychoedd sy’n cynnwys un rhywogaeth a ffensys pyst a weiren diateg yn fwy nodweddiadol mewn rhai ardaloedd fel ardaloedd nodwedd Stimmy Heath a Llys Bedydd [Bettisfield] a gafodd eu hadennill a’u cau yn fwy diweddar.

Adeiladau Yn Y Dirwedd

Mae adeiladau yn rhan bwysig o wead tirwedd hanesyddol Maelor Saesneg. Nifer gymharol fach o adeiladau sydd wedi goroesi o’r cyfnod canoloesol, er bod olion strwythurol nodedig yn cynnwys rhannau o Eglwys y Santes Fair, Owrtyn [Overton] ac Eglwys Sant Dunawd, Bangor Is-coed. Mae rhannau o’r rhain yn dyddio o’r 14eg ganrif ac efallai mai dyma’r unig waith cerrig canoloesol sydd wedi goroesi yn yr ardal tirwedd hanesyddol.
Mae’n amlwg mai pren, yn hytrach na cherrig, oedd y deunydd a ddefnyddiwyd yn fwyaf mynych ar gyfer adeiladau seciwlar yn y canol oesoedd ac mae nifer o strwythurau gweddol uchel eu statws wedi goroesi, fel neuaddau o’r 15fed a’r 16eg ganrif yn Horseman’s Green (Hanmer), Althrey (Bangor Is-coed) a Penley Old Hall. Ymddengys bod y rhain, i raddau helaeth, yn olynwyr i safleoedd maenorol cynharach â ffos, gyda gorwel cynharach o adeiladau pren, ond nid oes unrhyw olion o’r rhain wedi goroesi. Yn nhy fferm Horseman’s Green, roedd trawst ystlysog dros y neuadd yn drawst agored canolog, â rhywfaint o waith pren wedi’i fowldio yn addurnedig. Yn gyffelyb, adeiladwyd Althrey Hall fel neuadd ystlysog ac roedd yn cynnwys nenfforch a’r trawst spere. Yn wreiddiol, roedd yno aelwyd agored ganolog, ac mae tystiolaeth archeolegol yn awgrymu i’r neuadd gael ei hadeiladu ar safle adeilad cynharach. Mae’n debyg bod y ty presennol yn dyddio o ddechrau’r 16eg ganrif, ac roedd yn dy teg yn ôl disgrifiad John Leland yn ystod y 1530au. Mae’n debyg iddo gael ei adeiladu i Richard ap Howel. Credir mai darlun o fab Richard, Elis ap Richard (bu farw 1558) gyda’i briod Jane Hanmer, yw darlun ar ffurf murlun yn y ty sy’n dyddio o ganol yr 16eg ganrif. Hefyd, ymddengys bod Penley Old Hall wedi bod yn dy neuadd, â dau fae mae’n debyg, yn agored hyd y to gyda ffenestri pren myliynog, ac efallai simnai ochrol. Roedd y tu mewn i’r neuadd wedi’i addurno yn afrad, gyda chwyrliadau ac amrywiaeth o fotiffau trompe l’oeil eraill, gan gynnwys yr hyn sy’n ymddangos i fod yn dorsh wal wedi’i gosod mewn braced. Mae olion neuaddau eraill â nenfforch, â statws cymharol uchel, yn goroesi mewn mannau eraill, fel Llan-y-cefn (Owrtyn [Overton]). Mae natur yr adeiladau hyn yn fynegiant clir o’r cyfoeth roedd ffermio yn ei gynhyrchu yn y rhanbarth yn ystod y cyfnod hwn.

Yn ystod yr 16eg ganrif a’r 17eg ganrif, y dechneg adeiladu â ffrâm focs bren oedd y dechneg y parhawyd i’w defnyddio fwyaf ar gyfer adeiladau statws uchel, fel Knolton Hall (Owrtyn [Overton]) ac Willington Cross (Willington Wrddymbre [Worthenbury]) yn ogystal ag amrywiaeth o adeiladau â statws is. Ymhlith y rhain mae nifer o ffermdai wedi’u gwasgaru ledled yr ardal, a ddeilliodd o strwythurau ffrâm bren, fel Buck Farm, Fferm Glandeg, Oak Farm, The Fields (Willington Wrddymbre [Worthenbury]), Chapel Farm, New Hall Farm, a Thy Maeslwyn (Bronington), Fferm Gwalia ac efallai Lightwood Farm (Owrtyn [Overton]), Top Farmhouse, Knolton Bryn (De Maelor), The Cumbers a’r Bryn (Hanmer). Ymhlith tai a bythynnod ffrâm bren gweithwyr, â statws llai, sydd wedi goroesi mae White Cottage (De Maelor), a Bridge Cottages (Willington Wrddymbre [Worthenbury]). Adeiladwyd adeiladau eraill ffrâm bren mewn trefi a phentrefi yn ystod y cyfnod hwn, gan gynnwys Magpie Cottage (Hanmer), The Stableyard (Bangor), a’r bwthyn bach ffrâm bren ger y fynwent yn Owrtyn [Overton]. Mae’n bosibl mai siop oedd hwn yn wreiddiol. Ymhlith adeiladau ffrâm bren nodedig llai eu maint yn Owrtyn [Overton] mae nifer ar y Stryd Fawr a Stryd Pen-y-llan, lle mae’n bosibl gweld y fframiau pren o’r drychiad cefn, a Quinta Cottage. Mae’n debygol mai to gwellt oedd ar y rhan fwyaf o adeiladau cynnar, a tho gwellt Magpie Cottage (Hanmer) yw un o’r enghreifftiau prin sydd wedi goroesi.

Hefyd, mae’n amlwg bod pren wedi cael ei ddefnyddio’n aml ar gyfer ysguboriau, ac mae’r strwythur â nenfforch yn Stryd Lydan (Llannerch Banna [Penley]) yn enghraifft bwysig sy’n dyddio o oddeutu 1550. Roedd hwn yn sefyll ar silff garreg ac mae’n siwr ei fod yn nodweddiadol o nifer o ysguboriau sydd wedi diflannu. Mae bellach wedi’i ailgodi yn Amgueddfa Werin Cymru yn Sain Ffagan. Ymhlith ysguboriau ffrâm bren diweddarach, y mae nifer sylweddol ohonynt wedi’u cofnodi ym Maelor Saesneg, mae ysgubor mawr yn Althrey Woodhouse (Bangor), sy’n dyddio o’r 17eg ganrif yn ôl pob tebyg, a’r adeiladau fferm sy’n cynnwys beudy neu stablau yn Fferm Gwalia a’r stablau yn Llan-y-cefn (Owrtyn [Overton]).

Byddai’r paneli ffrâm bren wedi’u mewnlenwi â phlethwaith a dwb yn bennaf ond, fel y nodwyd isod, mae’n bosibl bod mawn wedi cael ei ddefnyddio at y diben hwn yn eithaf helaeth yn y canol oesoedd hwyr a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol yn ardal y corsydd dros y ffin yn Swydd Amwythig, er na cheir cofnod o hyn yn digwydd yng Nghymru.

O ddiwedd yr 17eg ganrif, defnyddiwyd brics coch a brown ar led, mewn cyfuniad â thoeau llechi yn gyffredinol. Ymddengys i’r deunyddiau hyn gael eu defnyddio yn gyntaf i godi adeiladau newydd â statws gweddol uchel, ond yna cawsant eu defnyddio i roi wyneb newydd i nifer o’r adeiladau pren o bob math a oedd eisoes yn bodoli, a’u hehangu, ac i fewnlenwi paneli nifer o’r adeiladau ffrâm bren a gadwodd eu drychiadau pren. Ymhlith adeiladau brics cynnar a nodedig mae Halghton Hall (Hanmer), a adeiladwyd ym 1662 o frics â cherrig wedi’u naddu, ffrâm drws mawr a cholofnweddau Dorig, a Bettisfield Old Hall (Bronington). Byddai’r rhain wedi’u rendro weithiau (fel y cafodd Plas yn Coed, Owrtyn [Overton]). Yn ystod y 18fed ganrif, daeth brics i fod yn brif ddeunydd adeiladu llawer mwy o adeiladau, gan gynnwys amrywiaeth eang o adeiladau, o ran statws a swyddogaeth gymdeithasol, yn dai’r bonedd a bythynnod gweithwyr, ac yn cynnwys y rhesi o dai trefol a bythynnod gweithwyr sy’n elfen mor bwysig ar dirwedd lled-drefol Sioraidd Owrtyn [Overton].

Ymhlith tai bric statws uchel pwysig o’r 18fed ganrif mae Parc Iscoyd (Bronington), a adeiladwyd oddeutu 1740, Hanmer Hall, ty fferm mawr o frics sy’n dyddio o oddeutu 1756, a The Vicarage, Hanmer sydd ger y llyn, Hollybush Lane Farmhouse, strwythur mawr â dau lawr ynghyd â phum bae y tu blaen iddo. Mae rhai o dai’r cyfnod hwn, fel Ty Gwydyr yn Owrtyn [Overton] a Ffermdy Argoed (Owrtyn [Overton]) yn cynnwys manylion fel talcennau â mur o gerrig, sy’n mynegi bod traddodiadau adeiladu cynhenid wedi’u coethi yn sgîl y cynnydd o ran ffyniant a buddsoddiad yn y dref, a’r cefn gwlad, yn ystod y cyfnod hwn. Adeiladwyd Mulsford Hall (Wilington Wrddymbre [Worthenbury]), sydd â chonglfeini o garreg a meini clo rhychog, ar ran o stad Emral, ac mae’n cynnwys yr arysgrif ‘This house was built by C. Mathews, tenant of J. Puleston Esq. ‘Tis for my landlord’s good, and my own desire. AD 1746’. Credir mai’r un pensaer a luniodd y neuadd ag eglwys Sant Deiniol, a adeiladwyd o frics ym 1736 yn Wrddymbre [Worthenbury]. Oherwydd ei cherrig wedi naddu ar gyfer colofnweddau, terfyniadau yrnau, colofnresi a meini clo, dyfynnwyd mai hon yw’r eglwys Sioraidd orau a mwyaf cyflawn yng Nghymru.

Yn sgîl twf y stadau yn y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, adeiladwyd nifer o blastai bric newydd, ac adeiladau fferm, yn ogystal ag amrywiaeth o adeiladau cysylltiedig fel porthdai, bythynnod stad, elusendai ac adeiladau eraill o natur dyngarol. Hefyd, adeiladwyd nifer o’r plastai mwy sy’n deillio o’r cyfnod hwn o frics, fel Bryn-y-Pys (Owrtyn [Overton]) a Neuadd Emral (Willington Wrddymbre [Worthenbury]). Dymchwelwyd Bryn-y-Pys ym 1956 a dymchwelwyd Neuadd Emral ym 1936, ond ailgododd Clough Williams-Ellis rannau o’r adeilad ym Mhortmeirion. Ymhlith plastai eraill nodedig yn yr ardal a oedd hefyd yn ganolfan stadau, ond sydd hefyd wedi’u dymchwel, mae Gwernheylod (Owrtyn [Overton]), Broughton Hall (Willington Wrddymbre [Worthenbury]), a Gredington (Hanmer). Weithiau, mae’n bosibl gweld cofadeiladau arunig i’r hen blastai a stadau hyn, ar ffurf porthdai, blociau stabl, gerddi a buarthau â wal, rhewdai (Neuadd Emral) ac ardaloedd o barcdir gynt. Yn fwy aml na pheidio, adeiladau ffrâm bren oedd y porthdai, bythynnod stad a’r elusendai o’r 19eg ganrif, neu dewiswyd arddull neo-Gothig o garreg i adeiladau o’r fath. Ymhlith adeiladau nodweddiadol o’r math hwn mae porthdy Neuadd Emral (un o’r tri phorthdy gwreiddiol), porthdai Y Gelli, Tallarn Green (Willington Wrddymbre [Worthenbury]), Swyddfa Stad Bryn-y-Pys yn Owrtyn [Overton], pâr o fythynnod stad yn Mannings Green (Bronington) mewn arddull Duduraidd â simneiau bric wedi’u haddurno yn fanwl, pâr o fythynnod tebyg ond mwy plaen yn Frog Lane, Wrddymbre [Worthenbury], porthdai Bryn-y-Pys mewn arddull neo-werinol, rhes o wyth o fythynnod bric â drysau a ffenestri bwa yn Ffordd Wrecsam, Owrtyn [Overton], a’r Ystafell Ddirwest Methodistaidd ac Elusendai Kenyon yn Tallarn Green (Willington Wrddymbre [Worthenbury]). Mae tri hen elusendy maen nadd mewn arddull gothig yn Salop Road, Owrtyn [Overton], eto yn cynnwys yr arysgrifiad ‘A.D. 1848. These almshouses were erected to the memory of Caroline Bennion, late of Wrexham Fechan by her affectionate sisters. Faithful in the unremitting exercise of charity to the poor and every Christian virtue, she departed this life on 6th February 1847’.

Adeiladwyd tai a phlastai eraill yn ystod y 19eg ganrif, mewn arddull cynhenid diwygiadol, gan gynnwys enghreifftiau nodedig o waith y pensaer John Douglas a ymgymerodd â gwaith ar ran y teulu Kenyon, ac ymhlith ei adeiladau mae rheithordy Bangor Is-coed, persondy Tallarn Green, Y Gelli (Willington Wrddymbre [Worthenbury]) a Llannerch Panna. Mae pob un o’r rhain yn cynnwys ffrâm bren a gwaith brics, wedi’u cyfuno yn gyffredinol â llinellau toeau amrywiol a chynllun anghymesur. Mae cynllun hardd dechrau’r 19eg ganrif yn amlwg yn achos nifer o dai dosbarth canol yn Owrtyn [Overton], fel The Quinta, â ffenestri oriel, estyll tywydd addurnol a ffenestri bwaog, a lleoliad tai fel The Brow a Min-yr-afon (Owrtyn [Overton]) sy’n manteisio ar leoliadau ar lan afon Dyfrdwy.

Yn sgîl diwygiad crefyddol y 19eg ganrif, datblygodd nifer o eglwysi a chapeli anghydffurfiol newydd, sy’n elfen wahanredol a nodweddiadol yn y dirwedd wledig yn enwedig, ac yn amrywio o arddull gothig Eglwys Santes Fair Magdalen, Llannerch Banna [Penley], a ailadeiladwyd mewn tywodfaen yn y 1870au, ac arddull Sioraidd hwyr Capel Methodistaidd Chequer (Bronington) i’r eglwys genhadol o haearn rhychog yn Knolton (Owrtyn [Overton]). Mae Eglwys y Drindod Sanctaidd, Bronington, yn fwy anarferol; eglwys o frics ydyw a droswyd o ysgubor gynharach ym 1836.

Trafnidiaeth a Chysylltiadau

Trafnidiaeth ar ddwr

Er nad yw Afon Dyfrdwy yn cael ei defnyddio ar gyfer trafnidiaeth bellach, ystyriwyd ei bod yn bosibl teithio arni mor bell i mewn i’r tir â Bangor Is-coed hyd y 1830au o leiaf. Yn ddiamau, roedd trafnidiaeth ar Afon Dyfrdwy yn bwysig erbyn cyfnod y Rhufeiniaid, ac efallai’n gynharach, a chafodd yr afon ei defnyddio i gludo cynnyrch gwaith teils Holt oddeutu 10 cilomedr i lawr yr afon i’r amddiffynfa lengol yng Nghaer. Nid oes llawer o dystiolaeth ffisegol o hanes trafnidiaeth ar afon wedi goroesi, ond dywedir y daethpwyd o hyd i geufad yn y 1860au neu’r 1870au ger Llyn Bedydd (Hanmer), ac efallai ei fod yn dyddio o ddiwedd y cyfnod cynhanesyddol neu o’r cyfnod canoloesol. Yn ddiamau, roedd fferďau ar draws afon Dyfrdwy yn bwysig o gyfnod cynnar, ac roedd y groesfan afon sy’n cysylltu Erbistog [Erbistock] â glan ddwyreiniol yr afon, ger rhyd ger yr eglwys yr oedd modd ei groesi yn ystod rhai tymhorau, yn dal i gael ei ddefnyddio hyd ddechrau’r 20fed ganrif.

Ffyrdd cynnar

Nid oes unrhyw ffyrdd Rhufeinig sicr yn croesi Maelor Saesneg, er yr honnwyd ar ddiwedd y 19eg ganrif bod ffordd Rufeinig ger Dymock Mill (Willington Wrddymbre [Worthenbury]), ond nid yw’r honiadau hyn wedi’u cadarnhau. Efallai y dylid rhoi mwy o gred i’r awgrym bod ffordd hynafol rhwng Whitchurch (tref Rufeinig Mediolanum) a Bangor Is-coed, a oedd yn cyfateb i’r ffordd dyrpeg ddiweddarach a’r A525 bresennol, a hynny ar sail darnau arian Rhufeinig o ddiwedd y 3edd ganrif a dechrau’r 4edd ganrif y daethpwyd o hyd iddynt yn ardal Eglwys Cross. Mae’n amlwg bod croesfannau afon Dyfrdwy yn Owrtyn [Overton] a Bangor Is-coed wedi bod yn strategol arwyddocaol ers cyfnod cynnar, mewn mannau lle mae tir uwch ger yr afon ac mae’r gorlifdir yn gymharol gulach o ganlyniad. Mae’n debyg bod capten garsiwn Edward y Cyntaf yn Whitchurch wedi cael caniatâd ym 1282 i glirio coed o’r bwlch yn Redbrook (La Rede Broc), mewn cysylltiad â gwelliannau i’r un llwybr, fel rhan o ymdrechion y brenin i sicrhau ei fod yn goresgyn Cymru. Roedd yr ardal dan sylw ar ymylon dwyreiniol Maelor Saesneg, ar y ffin bresennol rhwng Cymru a Lloegr ac, yn nodweddiadol, roedd cliriadau o’r fath yn mesur lled ergyd bwa, sef hyd at oddeutu 250 metr.

Mae’n debygol bod hynt cyffredinol y llwybrau sy’n cysylltu aneddiadau cnewylledig mwy eraill yn yr ardal yn dyddio o’r cyfnod canoloesol cynnar neu’r canol oesoedd, fel y ffyrdd rhwng Owrtyn [Overton] a Bangor Is-coed, Owrtyn [Overton] ac Ellesmere, Owrtyn [Overton] a Hanmer, Bangor Is-coed ac Wrddymbre [Worthenbury] er nad oes llawer o dystiolaeth ddogfennol, a chawsant eu gwella yn ddiweddarach. Yn gyffelyb, mae’n debygol bod nifer o’r lonydd a’r llwybrau llai sy’n gwau trwy systemau caeau cynnar ac yn cysylltu aneddiadau mwy â threfgorddau llai, yn dyddio o’r cyfnod hwn.

Croesfannau cynnar ar afonydd

Cafodd nifer o’r pontydd a’r rhydau cynnar eu disodli yn ystod diwedd y 18fed ganrif a’r 19eg ganrif, er bod rhywfaint o dystiolaeth strwythurol cynnar wedi goroesi mewn mannau. Mae’r bont hyn ger yr eglwys yn Bangor Is-coed yn amlwg yn dyddio o’r canol oesoedd, ond cafodd ei hailadeiladu i raddau helaeth yn ystod yr 17eg ganrif, ac ar un adeg roedd carreg â’r dyddiad 1658 wedi’i naddu arni. Mae’n amlwg bod y bont yn arwyddocaol yn ystod y cyfnod hwn: Yn ôl Daniel Defoe yn ei Tour a gyhoeddwyd yn y 1720au, roedd yn syndod hyfryd iddo ddod ar draws y bont garreg dros afon Dyfrdwy ac, yn wir, pont gain iawn. Ymhlith pontydd cynnar nodedig eraill mae Pont Sarn yn Tallarn Green (Willington Wrddymbre [Worthenbury]), sydd ar draws rhyd cynnar ar draws Nant Wych, ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr, lle cafodd y bont gynharach a oedd yn dyddio o 1627 ei disodli gan bont garreg ar ddechrau’r 19eg ganrif.

Ffyrdd tyrpeg, cerrig milltir a phontydd newydd

Fel mewn rhannau eraill o Brydain, bu llawer o wella ar briffyrdd a phontydd Maelor Saesneg yn ystod y 18fed ganrif. Pasiwyd deddfau tyrpeg i drwsio’r ffordd o Amwythig trwy Ellesmere ac Owrtyn [Overton] i Wrecsam (yr A528/A539 bresennol) yn y 1750au a phasiwyd deddf debyg ar gyfer ffordd Marchwiel trwy Fangor Is-coed i Whitchurch (yr A525 bresennol) yn y 1760au. Sefydlwyd ffyrdd tyrpeg ar y prif lwybrau eraill ar draws Maelor Saesneg – ffordd Bangor i Falpas (B5069), ffordd Owrtyn [Overton], Hanmer i Whitchurch (A539), a’r ffordd o Redbrook i Ellesmere trwy Welshampton (A495). Nifer siomedig o brin o gofnodion sydd wedi goroesi mewn perthynas â’r ffyrdd tyrpeg yn yr ardal, er ei bod yn amlwg bod tollau’n parhau i gael eu casglu yn ‘Overton Gate’ ger y dref a ‘Maesgwaelod Bar’ ger Overton Bridge yn ôl pob tebyg ar ffordd Ellesmere i Wrecsam yn ystod y 1870au. Ymhlith enwau tai sy’n dynodi hen giatiau toll mae Toll-bar Cottage ar yr A539 i’r gorllewin o Lannerch Banna [Penley], a Tollgate ger Pandy ar yr A525.

Byddai ffyrdd eraill lleol yn parhau mewn cyflwr gwael hyd y 19eg ganrif. Gwnaeth George Kay y sylwadau cyffredinol canlynol am ffyrdd Sir y Fflint:

The turnpike roads are kept in good repair in general but cross or parochial roads are in a wretched state. They are so very bad that in many places it is difficult and dangerous to travel on horseback in winter and to get a carriage to pass along them appears to me impracticable. They are uncommonly narrow and low, often answering the double purpose of a road and a drain.

Gosodwyd cerrig milltir ar hyd y ffyrdd tyrpeg, yn gyffredinol ar ffurf blociau tywodfaen â’u harwynebedd uchaf yn fwaog a phlatiau haearn bwrw arnynt a oedd yn dynodi pellteroedd ar hyd y ffordd. Mae enghreifftiau o’r rhain sy’n dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif wedi goroesi ar ffordd Bangor Is-coed i Whitchurch (A525) ger Derwen-fawr a’r London Apprentice, ar ffordd Owrtyn [Overton] -Hanmer (A539) yn Stryd Lydan a Llannerch Banna [Penley], ac ar ffordd Owrtyn [Overton] -Ellesmere (A528) ger Queensbridge a thafarn y Trotting Mare. Ymddengys bod cerrig eraill wedi diflannu ers i’r Arolwg Ordnans eu nodi ar fap gyntaf, ond mae’n amlwg bod rhai eisoes wedi’u difrodi erbyn blynyddoedd cynnar y 19eg ganrif pan osodwyd rhybuddion yn bygwth y byddai’r rheiny a oedd yn euog o dorri neu ddifrodi’r cerrig milltir ar y Ffyrdd Tyrpeg o Farchwiel i Whitchurch, ac o Redbrook i Welshhampton, a o Fangor i Falpas yn cael eu herlyn.

Ymhlith y prif bontydd ffordd a adeiladwyd yn ystod y 19eg ganrif mae Overton Bridge, sy’n croesi afon Dyfrdwy i Sir Ddinbych, pont o dywodfaen coch â dau fwa, a adeiladwyd ym 1813. Adeiladodd yr ymddiriedolaethau tyrpeg nifer o bontydd carreg ag un bwa yn ystod dechrau’r 19eg ganrif, gan gynnwys tair ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr: Adeiladwyd Barton Bridge, Knolton (Owrtyn [Overton]) ym 1819 a chredir mai gwaith Thomas Telford ydyw; adeiladwyd Pont Sarn (Willington Wrddymbre [Worthenbury]) ym 1819 hefyd, ond roedd yn disodli pont gynharach a adeiladwyd ym 1627, a chafodd ei lledu ym 1925; mae Redbrook Bridge, Bronington, yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif a chredir mai gwaith Thomas Telford yw hon hefyd. Ymhlith pontydd diweddarach mae Poulton Bridge (Owrtyn [Overton]) a adeiladwyd o gerrig ym 1851, a Worthenbury Bridge sy’n dyddio o 1872-73, ac a oedd yn disodli pont gynharach a ddifrodwyd yn sgîl llifogydd. Mae ganddi fwa o frics melyn.

Ymhlith pontydd nodedig ar stadau preifat mae’r bont gerrig fwaog hanner crwn, â pharapetau brics a cherrig, sydd i’r gorllewin o gwrt y stablau yn Emral (Willington Wrddymbre [Worthenbury]), sydd yn ôl pob tebyg yn dyddio o ddechrau’r 1730au. Roedd ei chynllun gwreiddiol yn cynnwys gwarchodfeydd ‘potiau pupur’ ond, yn anffodus, mae’r rhain bellach wedi’u dymchwel.

Trafnidiaeth ar gamlesi

Dechreuodd yr Ellesmere Canal Company adeiladu’r gamlas rhwng Ellesmere a Whitchurch ym 1797, a chafodd y rhan ar draws Fenn’s Moss a Whixall Moss ei chwblhau erbyn 1804 ar draws Maelor Saesneg, yn agos i’r ffin â Swydd Amwythig. Roedd pontydd ffordd yn ei chroesi yn Cornhill Bridge, Bettisfield Bridge a Clapping Gate Bridge, pob un o’r rhain ger Llys Bedydd [Bettisfield]. Roedd adeiladu camlas ar draws Fenn’s Moss a Whixall Moss yn golygu bod angen gwaith draenio helaeth, ac mae’n rhaid bod hyn wedi achosi nifer o anawsterau peirianyddol, efallai yn cynnwys defnyddio rafftiau prysgwydd i osgoi suddo wrth i’r rheilffordd gael ei hadeiladu yn ddiweddarach. Mae’r gamlas wedi effeithio yn eglur ar dirwedd y parth llinellol y mae’n ei groesi ym Maelor Saesneg, gan gynnwys y pontydd ffordd bric cefngrwm nodweddiadol, sef Clapping Gate Bridge, Bettisfield Bridge a Cornhill Bridge, yn ogystal â’r anheddiad bach diwydiannol a ddatblygodd ger glanfa’r gamlas a’r ramp mynediad ger Bettisfield Bridge.

Prif bwrpas y gamlas oedd hybu masnach pellter hir, er y daeth i gael ei defnyddio i fewnforio ac allforio deunyddiau yn lleol o fewn Maelor Saesneg, fel y nodwyd uchod, gan gynnwys cyflenwi deunyddiau ar gyfer odynnau calch Llys Bedydd [Bettisfield] ac allforio mawn o’r gwaith a sefydlwyd ar Fenn’s Moss ar ddechrau’r 1850au. Yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, roedd y gamlas hefyd yn cael ei defnyddio i gludo nifer fawr o filwyr i hyfforddi ar un grwp o feysydd saethu ar ymyl gorllewinol y gors, sef The Batters. Cwch camlas oedd yr unig fodd o gyrraedd y meysydd hyn.

Heddiw, mae’r gamlas yn gyfleuster hamdden poblogaidd ac yn atyniad i dwristiaid.

Tramffyrdd a rheilffyrdd cul

Roedd nifer o ddiwydiannau lleol yn defnyddio tramffyrdd y byddai ceffylau yn tynnu cerbydau ar hydddynt yn ystod y 19eg ganrif i gludo deunyddiau dros bellteroedd cymharol fyr. Sefydlwyd un o’r rhain yng ngwaith pibellau a theils Pandy (Hanmer) i gysylltu’r pyllau clai â’r prif waith ar ochr y ffordd, a defnyddiwyd nifer o wahanol rannau o dramffyrdd wrth echdynnu mawn ar Fenn’s Moss, i gysylltu â naill ai’r gamlas neu’r system reilffyrdd. Yn ddiweddarach, daeth rheilffordd gul i ddisodli’r tramffyrdd ar y corsydd, ac yna daeth tractor ac ôl-gerbyd.

Rheilffyrdd y prif lein

Mae lein rheilffordd nad yw’n cael ei defnyddio bellach yn croesi’r dirwedd yng nghornel dde-ddwyreiniol Maelor Saesneg. Dechreuwyd adeiladu’r rheilffordd hon ym 1861 a dechreuodd gwasanaethau nwyddau arni ym 1863. Roedd yna hen orsafoedd canolraddol yn Fenn’s Bank a Llys Bedydd [Bettisfield]. Dechreuodd y lein fel Rheilffordd Croesoswallt, Ellesmere a Whitchurch, ac mae hi’n dal i fod yn nodwedd amlwg yn y dirwedd ac yn llwybr pwysig i gyrraedd rhannau o Fenn’s Moss. Mae bedw arian a helyg wedi cytrefu ar ymylon y gors. Yn ei blynyddoedd cynnar, byddai’r lein yn ymuno â Rheilffordd Croesoswallt a’r Drenewydd yng Nghroesoswallt ac yn ymuno â Rheilffordd Llundain a’r Gogledd-Orllewin rhwng Amwythig a Crewe yn Whitchurch. Un o brif ddibenion y rheilffordd oedd adfywio tref Ellesmere a oedd wedi dioddef gan gystadlu â threfi cyfagos eraill a oedd eisoes yn meddu ar gyfleusterau rheilffordd. Lle roedd y trac yn croesi’r gors roedd hefyd pâr o ffosydd draenio, a 40 llath (36 metr) rhyngddynt, bob ochr i’r trac, ac roedd ar wely o rug, mawn, bwndeli o ffagodau, a gwely trwchus o dywod wedi’i gloddio o byllau tywod lleol. Ym 1864, agorwyd estyniad trac sengl i Groesoswallt a chyfunwyd y rheilffyrdd â nifer o rai eraill i ffurfio Cwmni Rheilffordd Cambrian. Ym 1922, unodd rheilffordd y Cambrian â’r Rheilffordd Great Western, a chafodd ei chau yn derfynol ym 1962. Sefydlwyd gweithfeydd prosesu mawn roedd yn bosibl eu cyrraedd ar gilffyrdd ar hyd y rheilffordd yn The Old Graveyard a Fenn’s Old Works (Bronington). Roedd Gwaith Brics a Theils Fenn’s Bank (Bronington), yn bodoli erbyn y 1890au, ac roedd hwn hefyd wedi’i leoli ger lein y rheilffordd. Ar un adeg, roedd tramffordd ger Fenn’s Old Works wedi’i chysylltu â’r rheilffordd ar gilffordd dan do. Byddai milwyr a fyddai’n ymarfer ar feysydd saethu Fenn’s Moss yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf yn cyrraedd ar y rheilffordd ar hyd cilffordd hir iawn oddi ar y ddolen basio yng ngorsaf Fenn’s Bank gerllaw. Yn ogystal â chwrs lein y rheilffordd, y mae traciau ar rannau ohoni bellach, mae olion gweladwy eraill o’r rheilffordd yn cynnwys yr hen orsaf, sied peiriannau a phont ffordd yn Llys Bedydd [Bettisfield] (De Maelor) a phontydd ac ategweithiau pontydd fel y rheiny yn Trench a Cloy.

Mae’n bosibl gweld olion o hen Reilffordd Wrecsam ac Ellesmere ar dirwedd rhan orllewinol Maelor Saesneg. Dechreuwyd adeiladu’r rheilffordd, sy’n rhedeg trwy Marchwiel, Bangor Is-coed, ac Owrtyn [Overton], ym 1892 a’i chwblhau ym 1895. Roedd croesi afon Dyfrdwy yn gamp beirianyddol fawr oherwydd bod angen pont â rhychwant 58 metr, a hytrawst dur delltwaith ychydig i’r gogledd o Fangor Is-coed. Roedd hyn yn un o’r rhychwantau sengl hwyaf yn y wlad, gan orwedd ar ategweithiau tywodfaen enfawr. Cwmni Pearson and Knowles o Warrington a’i gweithgynhyrchodd. Roedd gorsafoedd canolraddol y rheilffordd yn gwasanaethu Bangor Is-coed ac Owrtyn [Overton] (ar ran o hen gomin agored yn Lightwood Green). Adeiladwyd mannau aros ychwanegol, sef Trench Halt (i’r dwyrain o Knolton) ym 1914 ac Arosfan Cae Dyah neu Cloy Halt ym 1932 i wasanaethu poblogaethau gwledig gwasgaredig yr ardaloedd hynny. Yn ystod yr Ail Ryfel Byd bu ymyrryd ar gludo teithwyr pan ddefnyddiwyd y lein i gludo arfau rhyfel o’r Ffatri Ordnans Frenhinol ym Marchwiel, a daeth y gwasanaethau i deithwyr a nwyddau i ben ym 1962, fel yn achos lein Croesoswallt i Whitchurch. Yn dilyn hyn, ffrwydrwyd y draphont dros afon Dyfrdwy i’r gogledd o Fangor Is-coed. Mae cryn dipyn o’r hen draciau yn dal i’w gweld fel argloddiau neu drychiadau, ac mae rhai o’r rhain yn ffiniau caeau modern neu wedi cael eu hailddefnyddio fel traciau neu maent wedi gorlifo. Ymhlith nodweddion eraill gwahanredol sydd i’w gweld mae’r pontydd ffordd cefngrwm yn Lightwood Green (Owrtyn [Overton]), ategweithiau pont garreg yn Cloy Bank (Bangor Is-coed) a’r bont sydd wedi goroesi yn Trench (De Maelor).

Byddai nifer o ddiwydiannau lleol yn cael budd oherwydd eu bod mor agos at y rhwydweithiau camlas a rheilffordd a oedd yn croesi Maelor Saesneg. Sefydlwyd The Overton Brick and Tile Works, yn Lightwood Green yn ystod yr 1880au o bosibl, ac roedd ar waith erbyn 1886 efallai. Erbyn 1899, roedd stad Bryn-y-Pys wedi sefydlu iard frics a oedd yn cynnwys peiriandy a sied peiriannau, a chafodd ei chau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Roedd Overton Brick and Tile Works, Lightwood Green, wedi’i leoli ar lein y rheilffordd. Dechreuodd ar ddiwedd y 19eg ganrif a chafodd ei foderneiddio yn y 1920au. Byddai’n cynhyrchu brics, pibellau, blociau cerrig copa a siliau ffenestri, a chafodd ei gau yn derfynol yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Traphontydd dwr

Adeiladwyd traphontydd dwr tanddaearol, a oedd yn cludo dwr o Lyn Llanwddyn i Lerpwl ar draws Maelor Saesneg yn y cyfnod rhwng dechrau’r 1880au a dechrau’r 1890au, ac er bod y rhan fwyaf ohonynt o’r golwg erbyn heddiw, mae argraffiadau cynnar mapiau’r Arolwg Ordnans, yn dyddio o ddechrau’r 20fed ganrif, yn dangos falfiau aer a siambr fesur sy’n gysylltiedig â thraphontydd ychydig i’r dwyrain o Neuadd Bowen (Hanmer), i’r gogledd o Horseman’s Green.

Diwydiant

Diwydiannau echdynnol

Halen
Roedd pobl yn ymelwa ar halen a ddaeth yn naturiol o greigiau Triasig gwaelodol a ddinoethwyd ar hyd Nant Wych yn rhan ogledd-ddwyreiniol yr ardal a ffurfiai ran o ddyddodion tebyg sydd ar raddfa llawer mwy yn Sir Gaer yn Nantwich, Northwich a Middlewich. Mae’r pwll halen neu (salinae) gwerth 24 swllt ym maenor Burwardestone a gofnodwyd yn arolwg Domesday ym 1086 yn arwydd bod pobl yn ymelwa ar halen yn ystod y canol oesoedd. Efallai mai hwn yw’r un pwll halen â’r un oedd ym meddiant Abaty Haughmond ym 1291 yn Wiche yn Iscoyd. Roedd halen yn nwydd pwysig ar ddechrau’r Canol Oesoedd, ac roedd system o ddulliau yn ei reoli. Mae hyn yn esbonio’r ffaith ei fod wedi ymddangos mewn ffynonellau dogfennol cynnar, oherwydd bod yr elfen enw lle -wich wedi deillio o wic Hen Saesneg (‘anheddiad sy’n masnachu’, a ddeilliodd o’r Lladin vicus) a defnyddiwyd yr elfen hon yn aml yn enwau aneddiadau a oedd yn cynhyrchu halen. I’r gwrthwyneb, ymddengys nad oes rhyw lawer o gofnodion o waith halen yn yr ardal yn ystod cyfnodau diweddarach, er bod Thomas Pennant yn cyfeirio at ffynnon heli a gwaith halen ger Pont Sarn dros Nant Wych yn ei A Tour in Wales a gyhoeddwyd ym 1794, a cheir rhywfaint o dystiolaeth i awgrymu bod gwaith halen Upper Wych a gwaith halen Lower Wych yn gweithredu yn y 1830au. Mae dal yn bosibl gweld pwll heli oddeutu 7 metr o ddiamedr yn Lower Wych (Bronington).

Tywod
Bu ymelwa ar ddyddodion tywod rhewlifol ar raddfa fach mewn nifer o leoedd ym Maelor Saesneg, a hynny o gyfnod cynnar ac mae’n bosibl hyd ddechrau’r 20fed ganrif. Mae rhai o’r lleoedd hyn i’w gweld ar fapiau cynnar yr Arolwg Ordnans ac mae rhai i’w gweld yn y dirwedd hyd heddiw. Cofnodwyd nifer yn ardal Bettisfield Park (De Maelor) a Hanmer, ac un ger Bryn-y-Pys (Owrtyn [Overton]).

Rhoddwyd hawliau i gael tywod i drwsio ffyrdd dynodedig a arweiniai o’r corsydd. Lluniwyd deddf i gau tir Fenn’s Moss a Bettisfield Moss yn y 1770au ac, er i echdynnu barhau ar raddfa weddol fach, roedd symiau mawr o dywod yn cael eu hechdynnu yn y 1860au pan osodwyd gwely Rheilffordd Croesoswallt, Ellesmere a Whitchurch ar draws Fenn’s Moss.

Mawn
Roedd torri mawn yn ddiwydiant pwysig ar Fenn’s Moss yng nghornel dde-ddwyreiniol Maelor Saesneg am nifer o ganrifoedd, gan ymelwa ar ddyddodion yr oedd eu dyfnder yn fwy nag 8 metr mewn rhai mannau. Nid oes llawer o gofnodion cynnar wedi goroesi o dorri mawn ar ochr Cymru i’r ffin, ond mae’n amlwg bod system hawl torri mawn ddatblygedig wedi dod i’r amlwg erbyn y 1570au ac, yn ôl pob tebyg, wedi datblygu o gyfnodau llawer cynharach. Dilëwyd yr hawliau comin cynnar hyn o’r diwedd erbyn y 1770au, o ganlyniad i’r deddfau cau tir a oedd yn berthnasol i Fenn’s Moss a Bettisfield Moss. Arweiniodd hyd at ddiwydiant torri mawn yn fasnachol, a ddechreuodd yn y 1850au, dan lesau roedd Stad Hanmer wedi’u cyhoeddi, a pharhaodd hyn yn fwyfwy dwys, hyd nes daeth y cynhyrchu i ben yn ystod degawd olaf yr 20fed ganrif pan brynodd Cyngor Cadwraeth Natur y corsydd.

Mae’r pethau y defnyddiwyd mawn Fenn’s Moss ar eu cyfer wedi newid yn sylweddol dros y canrifoedd. Mae’n debygol bod ffynhonnell o danwydd ymhlith ei ddefnyddiau cynharaf, ond ymddengys nad oes unrhyw gofnodion o hyn ar ochr Cymru i’r ffin. Ymddengys bod mawn yn cael ei ddefnyddio yn weddol gyffredin fel deunydd adeiladu, gyda fframiau pren, wrth godi tai mawn neu gytiau mawn ar ddiwedd y canol oesoedd a dechrau’r cyfnod ôl-ganoloesol, a llwyddodd enghreifftiau o hyn i oroesi ar Whixall Moss hyd y 1940au. O ganol y 19eg ganrif ymlaen, defnyddiwyd mawn at amrywiaeth lawer mwy eang o ddibenion; defnyddiwyd ffurf gywasgedig ohono mewn amrywiaeth o brosesau gwneud metel a gweithgynhyrchu, wrth gynhyrchu golosg a distyllu, a chafodd ei ddatblygu i’w ddefnyddio gydag arfau rhyfel yn y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd. Mor gynnar â diwedd y 1930au roedd planhigfeydd masnachol yn ei ddefnyddio at ddibenion garddwriaethol, a chafodd ei ddefnyddio ar raddfa lawer mwy yn dilyn y cynnydd a fu yn y diddordeb mewn garddio o’r 1960au ymlaen.

Mae’n hawdd gweld hanes torri mawn ar y cors wrth edrych ar y tir – o’r hen doriadau llinellol â llaw mewn rhai ardaloedd, a’r toriadau â llaw yn null ‘Beibl Whixall’ (yn cyfeirio at siâp y blociau mawn) yn yr hen ardaloedd masnachol, a’r dulliau torri mecanyddol mwy diweddar. Arweiniodd ymelwa masnachol ar y mawn at ddatblygiad prosesu â pheiriannau ar ddiwedd y 19eg ganrif, ac roedd peiriannau ager i falu a byrnu ar waith erbyn y 1880au. Fel a nodir yn yr adran ganlynol, defnyddiwyd nifer o wahanol rannau o dramffyrdd i echdynnu mawn ar Fenn’s Moss ac i gysylltu â naill ai’r system gamlas neu’r rheilffordd. Yn dilyn hyn, daeth rheilffyrdd cul i ddisodli’r tramffyrdd ar y corsydd, a chafodd y rhain eu disodli gan dractorau ac ôl-gerbydau yn y pen draw. Credir mai’r safle gwaith mawn sydd wedi goroesi, sef Fenn’s Old Works, yw’r safle gwaith olaf o’i fath ar dir Prydain Fawr, ac mae’r ffaith ei fod yn henebyn hynafol rhestredig yn ei ddiogelu. Adeiladwyd y gweithle o hytrawstiau dur ar ddiwedd y 1930au. Arferai haearn rhychog orchuddio’r adeilad ac roedd injan sefydlog (yn cynnwys yr unig Injan Olew Trwm Cenedlaethol sydd dal yn ei lle), a oedd yn darparu pwer i’r peiriant falu’r mawn a’i fyrnu.

Diwydiannau gweithgynhyrchu a phrosesu

Melinau yd dwr
Ar un adeg, melino’r yd roedd tir âr toreithiog Maelor Saesneg yn ei gynhyrchu oedd un o brif ddiwydiannau prosesu’r ardal, ond mae’r diwydiant bron â diflannu’n llwyr erbyn heddiw. Yma, fel ym mannau eraill, pwer dwr oedd y ffynhonnell ynni a oedd ar gael yn fwyaf rhwydd i falu yd, a harneisiwyd afonydd yn ogystal â nentydd llai. Yn Wrddymbre [Worthenbury] oedd y felin hysbys gynharaf yn yr ardal, a chofnodwyd hi yn arolwg Domesday ym 1086 fel melin newydd ym maenor y barwn, Robert FitzHugh, ac felly mae’n bosibl y cafodd ei hadeiladu yn fuan ar ôl concwest y Normaniaid. Nid yw lleoliad y felin yn hysbys, ond efallai bod platfform cloddwaith ar Nant Wych, ychydig i’r de o bentref Wrddymbre [Worthenbury], yn ei chynrychioli. Yn ddiamau, roedd melinau eraill yn yr ardal yn y canol oesoedd, ond ni astudiwyd hwythau rhyw lawr ychwaith. Dywedwyd bod melin yn Owrtyn [Overton] wedi’i difetha yn ystod y gwrthryfel yn erbyn coron Lloegr a arweiniwyd gan Fadog ap Llywelyn ym 1294. Nid yw lleoliad y felin yn hysbys, ond mae’n debyg ei bod ar lan afon Dyfrdwy i’r gorllewin o’r dref, efallai yng nghyffiniau’r gored bresennol. Mae’n amlwg y cafodd y felin ei hailadeiladu o fewn ychydig flynyddoedd, oherwydd cyfeiriwyd ati eto ym 1300 pan nodwyd mai £12 oedd ei gwerth. Efallai bod tystiolaeth enwau lleoedd yn cynrychioli melinau cynnar eraill. Mae’r cofnod cyntaf o Mill Brook, sy’n rhoi ei enw i Millbrook Farm, Millbrook Lane a Millbrook Bridge i’r de o Fangor Is-coed, yn dyddio o 1290 pan nodwyd ef fel Milnbrook. Efallai bod yr enw Cae’r Felin, a gofnodwyd yng nghyffiniau Neuadd Emral, yn cynrychioli safle melin gynnar arall sydd bellach ar goll.

Mae’n hysbys bod melinau yd diweddarach yr oedd dwr yn eu gyrru wedi’u lleoli mewn nifer o safleoedd ledled Maelor Saesneg, gan gynnwys pum melin frics â thoeau llechi yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif ar Nant Wych – sef Melin Wych, Melin Llethr a Wolvesacre Mill yn Bronington (dim ond yr olaf y mae rhannau ohoni wedi goroesi) a Dymock Mill a Melin Sarn, Tallarn Green (Willington Wrddymbre [Worthenbury]). Mae Dymock Mill yn enghraifft dda o felin ddwr Sioraidd, a llwyddodd y rhan fwyaf o’i pheiriannau gwreiddiol i oroesi hyd ddiwedd yr 1980au. Yno roedd llifddor o hen bwll melin roedd Nant Wych yn ei fwydo yn gyrru pwll olwyn â dwr dan y rhod. Melin ddwr o frics yw Melin Sarn, a ailadeiladwyd ym 1827, a chafodd ei throsi yn ddiweddarach i redeg ar drydan.

Sefydlwyd tair melin, hefyd yn dyddio o gyfnod rhwng diwedd y 18fed ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, ar lednentydd Nant Emral – sef Halghton Mill, Halton New Mill a Hanmer Mill yn Hanmer Mill Farm (Hanmer), ill dwy ar lednentydd Nant Emral. Mae dwr yn dal i lifo o’r ffrwd felin a’r cafn melin ym Halghton New Mill, ac mae’r pwll olwyn a’r llyn melin wedi goroesi ym Melin Hanmer, er nad yw’r tair felin yn cael eu defnyddio bellach. Sefydlwyd dwy felin arall ar lednentydd Nant Emral i’r gorllewin a’r gogledd-orllewin o Lannerch Banna [Penley] – sef Penley Mill a Cross Mill (De Maelor). Strwythur brics yw Penley Mill hefyd sy’n dyddio o’r 19eg ganrif, ac mae meini’r felin wreiddiol, sef carreg galch Ffrengig, wedi goroesi yn y nant gerllaw. Melin ddwr arall oedd Melin Knolton (Owrtyn [Overton]), a sefydlwyd ar Shell Brook, un o lednentydd afon Dyfrdwy sy’n nodi’r ffin rhwng Cymru a Lloegr ar hyd ymyl dde-orllewinol Maelor Saesneg.

Roedd y rhan fwyaf o’r melinau yn yr ardal roedd dwr yn eu gyrru wedi gorffen cynhyrchu erbyn diwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, a hynny oherwydd y llif dwr a oedd yn anrhagweladwy yn aml a chystadleuaeth o du melinau mwy masnachol mewn mannau eraill. Ond cafodd rhai, fel Melin Sarn, eu trosi i redeg ar bwer trydan. Yn gyffelyb, arferai injans disel roedd ager yn eu pweru yrru Melin Yd Cadney, melin yd o frics â dwy lawr iddi i’r dwyrain o Lys Bedydd [Bettisfield] (De Maelor), a gosodwyd yr injans hyn ym 1925.

Melinau gwynt
Efallai bod sylfeini melin wynt frics o’r 18fed ganrif sydd wedi goroesi ychydig i’r dwyrain o Felin Yd Cadney (De Maelor), yn awgrymu y cafodd ei hadeiladu i ddraenio’r gors. Mae’n hysbys bod melinau gwynt wedi cael eu defnyddio i ddraenio tir âr corsog mewn ardaloedd cyfagos yn Swydd Amwythig, gan gynnwys y melinau a adeiladwyd yn Prees ddechrau’r 16eg ganrif ac Ellesmere ddechrau’r 17eg ganrif.

Pandai
Hefyd, defnyddiwyd pwer dwr i yrru nifer o bandai a ddefnyddiwyd i orffennu’r brethyn gwlân a gynhyrchwyd yn yr ardal yn y canol oesoedd a’r cyfnod ôl-ganoloesol. Cofnodwyd dau bandy yn Halchdyn [Halghton] (Hanmer) a Tybroughton (Bronington) ar ddechrau’r 15fed ganrif er nad oes unrhyw olion archeolegol o’r pandai hyn wedi’u darganfod hyd yma. Mae’n debygol mai pandy Halchdyn [Halghton], ar lednant Nant Emral ym Mhandy, a roddodd ei enw i Fferm Pandy a Phont Pandy. Nid yw lleoliad pandy Tybroughton yn hysbys, ond ymddengys yn debygol ei fod ar Nant Wych neu un o’i llednentydd, yng nghyffiniau Tybroughton Hall.

Gefeiliau
Roedd gefail leol o fewn cyrraedd i’r rhan fwyaf o gymunedau, wedi’i lleoli yn aml ar un o’r priffyrdd neu ger cyffordd, fel y rheiny a gofnodwyd yn Redbrook, Higher Wych, Henrwst, Bronington, Eglwys Cross a Stimmy Heath (Bronington), Llys Bedydd [Bettisfield], Llannerch Banna [Penley] a Stryd Lydan (De Maelor), Three Fingers, Wrddymbre [Worthenbury] a Sarn (Willington Wrddymbre [Worthenbury]), Halchdyn [Halghton], Hanmer (Hanmer). Ymddengys bod nifer o’r gefeiliau hyn wedi dod i fodolaeth ar ddiwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, ac mae strwythurau bach o frics yn eu cynrychioli. Prin iawn yw’r gweithdai lleol hyn, a oedd unwaith yn rhan hanfodol o’r gymuned amaethyddol leol, sydd wedi goroesi yn gyfan gwbl hyd heddiw. Cafodd y rhan fwyaf eu dymchwel, eu cadw fel siediau neu eu trosi yn dai domestig. Un o’r nifer fach sydd wedi goroesi yw gweddillion gefail o’r 19eg ganrif yn asgell ôl Ty Gwaylod, Overton Bridge (Owrtyn [Overton]) sy’n cynnwys aelwyd ofannu ddwbl a arferai agor i’r tu ôl yn ôl pob tebyg ac, yn ddiweddarach, adeiladwyd penty i’w hamgáu.

Gweisg Seidr
Nid oes llawer wedi’i ysgrifennu am hanes bragu ym Maelor Saesneg, er ei bod yn amlwg bod hyn yn bwysig, yn lleol o leiaf, efallai hyd ddyfodiad cwmnïau bragu masnachol mawr tua diwedd y 19eg ganrif. Mae nifer o enwau ffermydd a thai wedi’u seilio ar ‘crab mill’, sy’n arwydd bod yno wasg seidr i wasgu afalau, wedi’i phweru gan geffyl neu ferlen. Mae tystiolaeth enwau lleoedd yn dynodi tri o hen weisg seidr – Crab Mill, ar Green Lane (Bangor Is-coed), Crab Mill ger Little Green (Bronington), a Crabmill Farm (Owrtyn [Overton]), i’r de o Owrtyn [Overton], er ymddengys mai prin iawn yw’r dystiolaeth sylweddol sydd wedi goroesi o’r diwydiant.

Bragdai
Yn yr un modd, rydym yn dibynnu i raddau helaeth ar dystiolaeth enwau lleoedd am y bragdai bach a oedd wedi’u gwasgaru ledled yr ardal ac a fyddai’n cynhyrchu cyrfau lleol, gan gynnwys y Malt House sy’n dyddio o’r 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif yn Wrddymbre [Worthenbury], Pen-y-llan, ty brics o ddechrau’r 19eg ganrif yn Owrtyn [Overton], sydd wedi’i restru fel odyn frag a siop yn arolwg degwm 1838, a Maltkiln House yn Bronington. Mae mapiau’r Arolwg Ordnans a gyhoeddwyd yn y 1870au a’r 1880au yn dangos hen fragdy yn Tallarn Green (Willington Wrddymbre [Worthenbury]), ac efallai bod y Ty Dirwest Methodistaidd a adeiladwyd i’r pwrpas ac sy’n dyddio o 1890 yn Tallarn Green wedi’i sefydlu mewn cyferbyniad â’r bragdy. Goroesodd bragdy bach Dee Brewery yn gyfan hyd yr 1980au, ar ôl ei gau rhai blynyddoedd yn gynt.

Gwaith brics a theils
Mae’n debyg y dechreuwyd cynhyrchu brics yn lleol yn yr ardal ar raddfa fach yng nghanol yr 17eg ganrif, yn bennaf ar gyfer nifer fach o blastai fel Halghton Hall (Hanmer), a adeiladwyd ym 1662. Erbyn diwedd y 18fed ganrif tynnodd Thomas Pennant, ymhlith eraill, sylw at y ffynonellau pwysig posibl o glai a oedd ym Maelor Saesneg ond, yn gyffredinol ni chafodd gweithfeydd masnachol cymharol fach eu sefydlu hyd ddiwedd y 19eg ganrif, mewn amryw o ganolfannau, i gyflenwi’r galw cynyddol am ddeunyddiau adeiladu a phibellau i ddraenio tir. Ymhlith y gweithfeydd a sefydlwyd yn ystod y cyfnod hwn mae’r rheiny yn Lightwood Green (Owrtyn [Overton]), Fenn’s Hall, Fenn’s Bank, Tilstock Lane ger Brickwalls (Bronington), ac ym Mhandy (Hanmer). Ymhlith cynnyrch yr Overton Brick and Tile Works yn Lightwood Green roedd pibellau, briciau, cerrig copa a siliau ffenestri, a chynhyrchwyd pibellau yn y Pandy Brick and Tile Works. Roedd gweithfeydd Fenn’s Bank a Lightwood Green wedi’u lleoli yn strategol ar y rheilffordd, gwaith Fenn’s Bank ar lein Ellesmere-Whitchurch a gwaith Lightwood Green ar lein Wrecsam-Ellesmere. Roedd pob un o’r gweithfeydd hyn yn defnyddio cyflenwadau lleol o glai o byllau clai ger y gweithfeydd, hyd at ddeugain troedfedd o ddyfnder yn achos gwaith Fenn’s Bank. Yma, fel ym mannau eraill, mae pantiau llawn dwr yn eu cynrychioli bellach, a byddai’r clai yn cael ei gludo i’r gwaith ar dramffyrdd yn Fenn’s Bank a Phandy. Roedd gwaith Fenn’s Bank yn cynnwys odyn Hoffman crwn â 14 siambr a adeiladwyd ym 1860, ynghyd â simnai 175 troedfedd o uchder, ond cafodd y ddwy eu dymchwel pan adawyd y gwaith ar ddechrau’r 1960au. Mae’r olion eraill o’r gweithfeydd sydd wedi goroesi yn brin; ni lwyddodd y canolfannau cynhyrchu lleol hyn i gystadlu â’r gweithfeydd brics a theils mwy llwyddiannus a sefydlwyd yn ardal Wrecsam yn ystod diwedd y 19eg ganrif a dechrau’r 20fed ganrif, yn arbennig yn Rhiwabon. Stad Bryn-y-Pys sefydlodd y gwaith yn Lightwood Green yn yr 1880au yn ôl pob tebyg. Roedd yn cynnwys peiriandy a sied peiriannau, ond cafodd ei gau yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Sefydlwyd gwaith Pandy yn y 1870au, ac roedd yn cynnwys dwy odyn cwch gwenyn, siediau peiriannau a siediau sychu.

Odynau calch
Ar ôl adeiladu cangen Whitchurch o Gamlas Shropshire Union ym 1797, sefydlwyd odynnau calch ar hyd y gamlas yn Llys Bedydd [Bettisfield], ac roedd carreg galch o feysydd glo gogledd-ddwyrain Cymru yn eu bwydo. Mae’r ramp lle roedd y garreg galch yn cael ei dadlwytho yn dal i’w weld ychydig i’r gorllewin o Bettisfield Bridge. Mae’n debyg mai calch amaethyddol oedd prif gynnyrch yr odynnau, a oedd yn cael ei farchnata i ffermydd lleol yn yr ardal ac yn disodli’r arfer o farlio a ddiflannodd yn ystod dechrau’r 19eg ganrif, yn ôl pob tebyg. Wrth i wrteithiau cemegol ddod ar gael yn rhwyddach, dirywiodd y ddibyniaeth ar galchu i gynnal ffrwythlondeb y tir ar ddiwedd y 19eg ganrif.

Tanerdai
Mae tystiolaeth enwau lleoedd, yn arbennig Tan House ychydig i’r dwyrain o Owrtyn [Overton], yn awgrymu y byddai lledr yn cael ei drin ym Maelor Saesneg, efallai ar raddfa fach, er nad oes llawer o dystiolaeth ffisegol wedi goroesi.

Diwydiannau modern
Mae Maelor Saesneg yn parhau i fod yn ardal amaethyddol a di-ddiwydiannol yn bennaf, er bod ffatri alwminiwm fodern bellach ar safle hen waith brics a theils Fenn’s Bank, ar ôl disodli gwaith adennill metel a sefydlwyd yn ystod yr Ail Ryfel Byd.

Tirweddau a Amddiffynnwyd

Gwnaed y defnydd mwyaf dwys o Faelor Saesneg ar gyfer gweithgareddau milwrol yn ystod yr 20fed ganrif. Meddiannodd yr awdurdodau milwrol ardaloedd mawr o Fenn’s Moss a Whixall Moss yn ystod y ddau Ryfel Byd. Sefydlwyd o leiaf wyth o feysydd saethu rhwng 300 ac 1100 llath o hyd ar y corsydd, ynghyd â chysgodfeydd saethu o bren a mawn, a chodwyd cytiau cysylltiedig hefyd ar y corsydd mewn rhai achosion. Ymddengys bod un o’r meysydd hyn wedi bodoli cyn 1909 ac mae’n debyg ei fod yn dyddio o flynyddoedd y rhyfel yn Ne Affrica neu o gyfnod ehangu unedau tiriogaethol neu filisa lleol. Oherwydd dyfodiad y gamlas a’r rheilffordd sy’n croesi’r corsydd, daeth yn haws i’r nifer fawr o filwyr gyrraedd y meysydd saethu. Roedd yn bosibl i’r milwyr gyrraedd un grwp o feysydd ar ymyl orllewinol y gors, sef The Batters, ar gwch camlas yn unig. Roedd y defnydd o’r meysydd ar ei anterth yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, pan fyddai milwyr, fel arfer, yn cyrraedd ar y rheilffordd, a byddent yn defnyddio cilffordd arbennig o hir oddi ar y ddolen basio yng nghorsaf gyfagos Fenn’s Bank i ddod i lawr o’r trên. Sefydlodd y fyddin wersyll newydd o bebyll yn Fenn’s Bank ym 1916 ar gyfer milwyr a oedd yn hyfforddi ar feysydd gogledd-ddwyrain y corsydd, ac roedd lle i hyd at fil o ddynion yn y gwersyll hwnnw.

Yn ystod yr Ail Ryfel Byd roedd y corsydd ychydig funudau yn unig o nifer o feysydd awyr milwrol ac, o ganlyniad, roedd maes gynyddiaeth a bomio a safle llith yma yn ystod 1940-45. Nid oes llawer o olion i’w gweld, ond mae’n cynnwys cwt piced brics, plinthau concrit a oedd unwaith yn cynnal adeilad rheolaeth, tyrau cwadrant a safle llith Strategic Starfish, yn mesur hyd at ychydig gannoedd o fetrau ar draws, a gynlluniwyd i amddiffyn Lerpwl. Roedd hefyd rhodenni haearn yn ymwthio allan o’r mawn a oedd unwaith yn cynnal targedau i ddrylliau peiriannol i ymarfer gynyddiaeth o’r awyr i’r ddaear ac i’w defnyddio fel maes bomio. Hefyd, fe gwympodd sawl awyren o’r awyr i’r corsydd yn ystod ymarferion, gan gynnwys y rheiny ar Cadney Moss a Little Green, Bronington. Fel y nodwyd uchod, defnyddiwyd mawn o’r corsydd yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf a’r Ail Ryfel Byd i gynhyrchu arfau rhyfel.

Hefyd, daeth Maelor Saesneg yn ganolfan bwysig i ysbytai milwrol yn ystod yr Ail Ryfel Byd oherwydd bod yr ardal mor agos at feysydd awyr milwrol, ei chysylltiadau cymharol dda ar y ffordd a’r rheilffordd â phorthladd yr Iwerydd yn Lerpwl, ei hamgylchedd gwledig heddychlon, a’r ffaith bod digonedd o barcdir yn gysylltiedig â nifer o blastai a fyddai ar gael yn rhwydd. O’r herwydd, cafodd y parcdiroedd a oedd yn gysylltiedig â phlastai Bryn-y-Pys, Llys Bedydd [Bettisfield], Iscoyd, Penley Hall a Llannerch Panna eu meddiannu at ddibenion milwrol. Hefyd, daeth Parc Gredington yn allbost Ysbyty Orthopedig Gobowen a sefydlwyd cadwrfeydd milwrol yn Lightwood Green, Gwernheylod a The Brow (Owrtyn [Overton]). Adeiladodd Byddin UDA ysbytai mawr yn Penley Hall, Llannerch Panna ac Iscoyd, a rhyngddynt gwnaethant ofalu am bron i 10,000 o gleifion brwydrau yn ystod y rhyfel. Ar yr adeg, ystyrid yr ardal yn ychydig o diriogaeth UDA yng Nghymru. Ar ôl y rhyfel, parhaodd yr ysbytai i gael eu defnyddio fel aneddiadau i gymunedau Pwylaidd yn ystod y 1950au a dechrau’r 1960au. Mae’r hen ysbyty milwrol yn dal â lle amlwg yn nhirwedd Llannerch Banna [Penley] ac mae rhan ohono’n parhau i gael ei ddefnyddio fel ysbyty tra bo rhan arall ohono yn barc diwydiannol.

Codwyd cofebion i goffáu meirw’r ddau Ryfel Byd mewn nifer o ganolfannau lle roedd pobl yn byw, i ddechrau yn ystod y cyfnod yn dilyn y Rhyfel Byd Cyntaf mewn nifer o ganolfannau mwy eu poblogaeth fel Owrtyn [Overton], Bangor Is-coed, Hanmer, Bronington, Iscoyd a Tallarn Green.

Chwaraaeon A Difyrrwch

Efallai mai pysgota yw un o’r gweithgareddau chwaraeon hynaf sy’n dal i gael ei gynnal yn yr ardal, yn enwedig ar Afon Dyfrdwy. Yn ddiamau, roedd yn weithgaredd economaidd pwysig yn ystod cyfnodau cynharach. Cofnodwyd bod pysgodfa werthfawr, ar gyfer eog yn ôl pob tebyg, yn Owrtyn [Overton] ar ddiwedd y 13eg ganrif, ac roedd mynachlog Sistersaidd Abaty Glyn y Groes yn berchen ar yr hawliau pysgota ar yr adeg honno. Mae Thomas Pennant yn cofnodi bod cwryglau’n cael eu defnyddio’n helaeth yn yr ardal hon at ddibenion pysgota eog yn ystod diwedd y 18fed ganrif. Hefyd, nododd Pennant fod rasys dwr hefyd yn cael eu cynnal yn y cychod ysgafn hyn, gan gyfeirio at regata odidog a fyddai’n cael ei chynnal uwchlaw Pont Bangor ar Wyl Fihangel a oedd ar ddod (29 Medi). Hefyd, mae’n debygol bod ymelwa ar Lyn Hanmer a Llyn Bedydd o gyfnod cynnar, ac roedd mapiau cynnar yr Arolwg Ordnans a gyhoeddwyd yn yr 1880au a’r 1890au yn dangos ty cwch ar gyfer pysgota a gweithgareddau hamdden eraill ar lannau Llyn Hanmer. Ceir nifer o weithgareddau eraill nad ymgymerir â hwy bellach, gan gynnwys ymladd ceiliogod, sydd yn anghyfreithlon erbyn hyn. Dywedir bod talwrn y tu ôl i hen dafarn y Buck yn Wrddymbre [Worthenbury] yn cynrychioli hyn, ac mae’n bosibl i hyn fynd rhagddo mewn lleoedd eraill yn yr ardal.

Chwaraeon ysgolion a phentrefi

Mae caeau pęl-droed yn cynrychioli chwaraeon pentrefi modern mewn nifer o ganolfannau, gan gynnwys Bangor Is-coed, Owrtyn [Overton] a Llannerch Banna [Penley], ac mae cae criced pentrefol ychwanegol yn Owrtyn [Overton] a chae criced plas ger ty Parc Iscoyd. Cynhelir amrywiaeth o weithgareddau chwaraeon pentrefol eraill yn Owrtyn [Overton] ar gyfleusterau fel cyrtiau tenis a grîn bowlio (gan gynnwys hen grîn bowlio y tu ôl i Dy Gwydyr). Mae’r maes boules yn ychwanegiad mwy diweddar, lle cynhelir cystadlaethau ag ymwelwyr o bentref La Murette yn Ffrainc, pentref y mae Owrtyn [Overton] wedi gefeillio ag ef.

Rasio ceffylau

Y gweithgaredd chwaraeon mwyaf enwog a gysylltir â Maelor Saesneg yw rasio ceffylau ar Gae Rasio Bangor Is-Coed, ar lannau afon Dyfrdwy ychydig i’r de o Fangor Is-coed. Cynhelir cyfarfodydd yr Helfa Genedlaethol yno yn rheolaidd yn ystod y tymor rasio.

Cerdded

Oherwydd y diddordeb cymharol ddiweddar mewn cerdded, datblygwyd llwybr 38-cilomedr hamdden â chyfeirbwyntiau sy’n croesi Maelor Saesneg, sef Llwybr Maelor. Mae’n cysylltu llwybrau troed tebyg Swydd Amwythig a Sir Gaer i’r dwyrain â llwybr cenedlaethol Clawdd Offa i’r gorllewin. Mae’r llwybr troed traws-gwlad, sy’n defnyddio llwybrau troed, lonydd a llwybr halio camlas, yn pasio trwy Whitewell, Bronington, Hanmer a Llannerch Banna [Penley]. Cafodd ei agor gyntaf ym 1991 ac mae wedi denu nifer fawr o gerddwyr i’r ardal.

Tirweddau Addurniadol a Phictiwrésg

Mae ardaloedd o barcdir sy’n gysylltiedig â nifer o hen blastai yn elfen arwyddocaol mewn nifer o ardaloedd o dirwedd Maelor Saesneg. Ni cheir unrhyw dystiolaeth sicr bod parciau wedi’u creu yn yr ardal yn y canol oesoedd, ac mae’r dystiolaeth sydd wedi goroesi yn awgrymu bod tir wedi’i gau yn barciau yn ystod cyfnod rhwng diwedd y 17eg ganrif a dechrau’r 19eg ganrif, felly yn gymharol hwyr. Mewn rhai achosion, ymddengys bod hyn yn cyfateb i’r cyfnod pan roedd nifer o brif deuluoedd tirfeddianwyr yr ardal yn ailadeiladu eu canolfannau teuluol, gan adael safleoedd cynharach â ffos a defnyddio neuaddau pren yn brif gartrefi iddynt yn lle. Mewn rhai achosion, fel Emral yn y 18fed ganrif o bosibl, a Gredington yn y 19eg ganrif, mae’r parcdir yn gorchuddio hen ardaloedd tirwedd cefnen a rhych sy’n dyddio o nifer o wahanol gyfnodau o bosibl. Mae’n debygol mai hen gaeau agored canrifoedd cynharach wedi’u cau oedd y parcdiroedd hyn. Yn y ddwy enghraifft hyn mae’r parcdir sydd wedi goroesi yn ein hatgoffa yn gryf o’r plastai sydd bellach wedi diflannu o’r dirwedd; cafodd Emral ei ddymchwel ym 1936 a chafodd Gredington ei ddymchwel o’r diwedd yn yr 1980au. Tynged tebyg fu gan y parcdir a oedd yn gysylltiedig â Gwernheylod, hen blasty yn dyddio o’r 17eg ganrif a ddymchwelwyd yn y 1860au, Bryn-y-Pys, ty trwsiadus yn dyddio o’r 1730au a ddymchwelwyd yn y 1950au, a Bettisfield Park, yn dyddio o ddechrau’r 17eg ganrif a ddymchwelwyd yn rhannol ar ddiwedd y 1940au. Mae ardaloedd o hen barcdir sy’n gysylltiedig â’r ty yn Penley Hall a’r plasty o oes Fictoria yn Llannerch Panna, wedi’u defnyddio yn ystod yr 20fed ganrif i adeiladu ysbyty arnynt yn achos Penley ac i adeiladu datblygiad tai modern yn achos Llannech Panna. Parc Iscoyd yw’r unig enghraifft lle mae’r parcdir a’r ty wedi goroesi yn weddol gyfan. Adeiladwyd y ty yn y 18fed ganrif ar gyfer y teulu Hanmer, a chafodd ei ehangu yn y 19eg ganrif. Saif yn ei barc cyfan wedi’i dirweddu sy’n dyddio o’r 18fed ganrif a’r 19eg ganrif.

Character Areas

Rural landscape of scattered farms and irregular fields emerging from woodland clearance in the late medieval and early post-medieval period, with late linear settlement owing its origins to the coming of the canal and railway in the 19th century.

Llys Bedydd [Bettisfield] Cymunedau Bronington a De Maelor, Cyngor Bwrdeistref Wrecsam (HLCA 1130)

Tirwedd wledig o ffermydd gwasgaredig a chaeau afreolaidd sydd wedi datblygu yn sgîl clirio coetiroedd ar ddiwedd y canol oesoedd a dechrau'r cyfnod ôl-ganoloesol, ag aneddiadau llinellol hwyr… Yn ôl i'r map
Raised mire with evidence of exploitation from prehistoric and medieval times onwards, and with pollen evidence for the history of vegetation and land-use in the region since the last glaciation.

Fenn’s Moss Cymunedau Bronington a De Maelor, Cyngor Bwrdeistref Wrecsam (HLCA 1129)

Cyforgors â thystiolaeth o'i hecsbloetio o gyfnodau cynhanesyddol a chanoloesol ymlaen. Tystiolaeth paill sy'n dangos hanes llystyfiant a defnydd tir yn y rhanbarth ers y rhewlifiant diwethaf. Cefndir… Yn ôl i'r map
Flat area of late enclosure and conifer plantations around margins of Fenn's Moss.

Stimmy Heath Cymunedau Bronington a Hanmer, Cyngor Bwrdeistref Wrecsam (HLCA 1128)

Ardal wastad lle cafodd y tir ei gau yn hwyr a phlanhigfeydd conwydd o amgylch ymylon Fenn's Moss. Cefndir Hanesyddol Nid oes llawer o dystiolaeth i'w gweld o… Yn ôl i'r map
Rural landscape with traces of ancient woodland and medieval open fields, with dispersed farms and Iscoyd Park country house and landscape park of earlier 18th-century origin.

Iscoyd Cymunedau Bronington ac Willington Wrddymbre [Worthenbury], Cyngor Bwrdeistref Wrecsam (HLCA 1127)

Tirwedd wledig ag olion coetir hynafol a chaeau agored canoloesol, â ffermydd gwasgaredig a phlasty a pharc tirluniedig Iscoyd Park sy'n dyddio o ddechrau'r 18fed ganrif. Cefndir Hanesyddol… Yn ôl i'r map
Dispersed farms on lanes running between strip fields and ridge and furrow of medieval open field origin.

Higher Lanes Cymunedau Bronington ac Willington Wrddymbre [Worthenbury], Cyngor Bwrdeistref Wrecsam (HLCA 1126)

Ffermydd gwasgaredig ar lonydd sy'n rhedeg rhwng caeau llain a thirwedd cefnen a rhych sydd wedi datblygu o gaeau agored canoloesol. Cefndir Hanesyddol Mae'r enw lle Tybroughton, â'r… Yn ôl i'r map
Landscape dominated by irregular field patterns and scattered farms, with early nucleated church settlement at Hanmer and a handful of later 'green' and roadside settlements.

Eglwys Cross Cymunedau Bronington, Hanmer, De Maelor a Willington Wrddymbre [Worthenbury], Cyngor Bwrdeistref Wrecsam (HLCA 1125)

Tirwedd y mae patrymau caeau afreolaidd a ffermydd gwasgaredig i'w gweld yn helaeth iawn ynddi, ag anheddiad eglwys cnewylledig cynnar yn Hanmer ac ychydig o aneddiadau 'green' ac… Yn ôl i'r map
Late glacial mere, woodland, parkland and former parkland, some overlying areas of medieval open field, associated with the Gredington and Bettisfield Park country houses.

Gredington Cymuned Hanmer, Cyngor Bwrdeistref Wrecsam (HLCA 1124)

Llyn rhewlifol hwyr, coetir, parcdir a chyn barcdir, rhai ohonynt wedi'u datblygu ar ardaloedd o gaeau agored canoloesol, yn gysylltiedig â phlastai Gredington a Bettisfield Park. Cefndir Hanesyddol… Yn ôl i'r map
Varied field pattern resulting from enclosure of common open fields associated with ridge and furrow and former medieval manorial centres and late enclosure of areas of common grazing, 'green' encroachment settlements and remains of two large US Army hospitals and subsequent Polish hospitals.

Llannerch Banna [Penley] Cymunedau Hanmer, De Maelor ac Owrtyn [Overton], Cyngor Bwrdeistref Wrecsam (HLCA 1123)

Patrwm caeau amrywiol sydd wedi datblygu yn sgîl cau tir y caeau comin agored sy'n gysylltiedig â thirwedd cefnen a rhych a hen ganolfannau maenorol ac ardaloedd porfa… Yn ôl i'r map
Predominantly agricultural landscape of scattered farms of late medieval origin associated with ridge and furrow cultivation and irregular field patterns with 'green' settlement at Tallarn Green.

Mulsford Cymuned Willington Wrddymbre [Worthenbury], Cyngor Bwrdeistref Wrecsam (HLCA 1122)

Tirwedd amaethyddol yn bennaf sy'n cynnwys ffermydd gwasgaredig sy'n dyddio o ddiwedd y canol oesoedd ac yn gysylltiedig â thrin tirwedd cefnen a rhych a phatrymau caeau afreolaidd,… Yn ôl i'r map
Former17th-century landscape park with buildings and structures associated with now-demolished country house belonging to important Anglo-Welsh borderland family.

Emral Cymunedau Bangor Is-coed, Hanmer, De Maelor, Owrtyn [Overton] a Willington Wrddymbre [Worthenbury], Cyngor Bwrdeistref Wrecsam

Hen barc wedi'i dirlunio o'r 17eg ganrif sy'n cynnwys adeiladau a strwythurau cysylltiedig â'r plasty sydd bellach wedi'i ddymchwel a oedd ym meddiant teulu pwysig Eingl-Gymreig y gororau.… Yn ôl i'r map
Scattered farms and irregular fields of medieval and late medieval origin and irregular fields with discrete area of former medieval open field.

Knolton Cymuned Owrtyn [Overton], Cyngor Bwrdeistref Wrecsam (HLCA 1119)

Ffermydd gwasgaredig a chaeau afreolaidd sy'n dyddio o'r canol oesoedd a diwedd y canol oesoedd a chaeau afreolaidd ag ardal hen gae agored canoloesol. Cefndir Hanesyddol Roedd cryn… Yn ôl i'r map
Planted medieval borough, possibly superseding early medieval farming settlement, which became a fashionable small market town in the 18th and 19th centuries and continued as the administrative centre for the locality until local government reorganisation until 1974

Owrtyn [Overton] Cymuned Owrtyn [Overton], Cyngor Bwrdeistref Wrecsam (HLCA 1118)

Bwrdeistref canoloesol planedig, efallai'n disodli anheddiad ffermio canoloesol cynnar, a ddaeth yn dref farchnad fach ffasiynol yn y 18fed ganrif a'r 19eg ganrif ac a barhaodd i fod… Yn ôl i'r map
Varied, picturesque area of meadowland, farmland, wooded slopes, former parkland belonging to a number of country houses, and race-course bordering the eastern banks of the River Dee, including a number of strategic river crossings.

Bryn-y-Pys Cymunedau Bangor Is-coed ac Owrtyn [Overton], Cyngor Bwrdeistref Wrecsam (HLCA 1117)

Ardal amrywiol a phrydferth sy'n cynnwys dolydd, tir fferm, llethrau coediog, hen barcdir sy'n berchen i nifer o blastai a chae rasio sy'n ymylu glannau dwyreiniol Afon Dyfrdwy,… Yn ôl i'r map
Valley-bottom farmland with scattered farms and winding lanes, relict medieval open field cultivation represented by strip fields and ridge and furrow, the fieldscape evidently reorganised into a pattern of large irregular fields after the Middle Ages.

Brynhovah Cymunedau Bangor Is-coed ac Owrtyn [Overton], Cyngor Bwrdeistref Wrecsam (HLCA 1116)

Tir fferm ar waelod dyffryn â ffermydd gwasgaredig a lonydd troellog, caeau llain canoloesol creiriol a thirwedd cefnen a rhych yn cynrychioli trin caeau agored yn y canol… Yn ôl i'r map
Modern expansion of historically important early medieval ecclesiastical centre and by a subsequent medieval nucleated church settlement, close to strategically important river crossing which has substantially expanded as a settlement in the 20th century.

Bangor Is-y-coed Cymuned Bangor Is-coed, Bwrdeistref Sirol Wrecsam (HLCA 1115)

Estyniad modern o ganolfan eglwysig ganoloesol gynnar sy'n hanesyddol bwysig ac anheddiad canoloesol dilynol cnewylledig, yn agos at groesfan afon sy'n strategol bwysig. Ehangwyd yr anheddiad yn sylweddol… Yn ôl i'r map
Floodplain with scattered and isolated farms, land traditionally used as meadow, with drainage dykes and ditches in some areas, and with some ridge and furrow possibly indicating areas of open field cultivation during the medieval and early post-medieval periods.

Ywern Cymunedau Bangor Is-coed ac Willington Wrddymbre [Worthenbury], Cyngor Bwrdeistref Wrecsam (HLCA 1114)

Gorlifdir â ffermydd gwasgaredig ac arunig, sef tir a ddefnyddiwyd fel dôl yn draddodiadol. Ceir ffosydd draenio mewn rhai ardaloedd, a rhywfaint o dirwedd cefnen a rhych sy'n… Yn ôl i'r map