Skip to main content

Hen barc wedi’i dirlunio o’r 17eg ganrif sy’n cynnwys adeiladau a strwythurau cysylltiedig â’r plasty sydd bellach wedi’i ddymchwel a oedd ym meddiant teulu pwysig Eingl-Gymreig y gororau.

Cefndir Hanesyddol

Neuadd Emral, sydd bellach wedi’i dymchwel, yw canolbwynt yr ardal tirwedd hanesyddol, sef cartref y teulu Puleston, un o deuluoedd Eingl-Gymreig pwysig y gororau. Buont yn byw yno am gyfnod di-dor o deyrnasiad Edward y Cyntaf hyd y 1930au pan gafodd y stad ei gwerthu a’r ty ei ddymchwel. Daeth enw’r teulu o faenor Pilston neu Puleston ger Newport, Swydd Amwythig. Mae’n debygol mai’r Arglwydd Roger de Puleston, un o swyddogion mwyaf cyfrifol y brenin a oedd yn gysylltiedig ag ‘Embers-hall’ ym 1283, oedd y cyntaf o’i linach i sefydlu canolfan yma yn sgîl concwest Cymru. Cafodd ei benodi yn siryf cyntaf Ynys Môn ac felly roedd yn gyfrifol am godi’r dreth amhoblogaidd ar symudolion a arweiniodd at y gwrthryfel dan arweinyddiaeth Madog ap Llywelyn yn ystod hydref 1294, pan fu farw wrth i’r Cymru ymosod ar fwrdeistref Caernarfon. Mae’n debygol bod y neuadd gynnar yn gysylltiedig â safle â ffos, a thybir bod Nant Emral yn ffurfio ochr ddwyreiniol y ffos. Fel nifer o deuluoedd amlwg lleol â gwreiddiau Seisnig, cafodd y teulu Puleston ei amsugno’n llawn ym mywyd diwylliannol a gwleidyddol Eingl-Gymreig yn ddiweddarach, a byddai cenedlaethau dilynol o’r teulu yn noddi nifer o feirdd Cymraeg, gan gynnwys Guto’r Glyn, Gutun Owain a Lewys Glyn Cothi, rhwng canol y 14eg ganrif a diwedd y 16eg ganrif. Roedd Robert Puleston yn un o blith y tirfeddianwyr amlwg ym Maelor Saesneg a oedd ar ochr Owain Glyndwr ar ddechrau gwrthryfel y Cymry ar ddechrau’r 15fed ganrif. Roedd capel wedi’i gysegru i Sant Tomos y Merthyr yma yn y 1440au a gafodd ei ddymchwel yn y 1770au.

Yn ystod y Rhyfel Cartref, cafodd lluoedd y brenin eu lluestu yn Emral ym 1642, efallai mewn neuadd ganoloesol ddiweddarach a ddisodlodd neuadd gynharach ar ryw adeg. Roedd y barnwr Syr John Puleston (oddeutu 1583-1659) yn byw yn Neuadd Emral yn y 1650au, ac roedd wedi prynu adfowson Wrddymbre [Worthenbury]. Rhoddodd swydd i Philip Henry fel gweinidog Wrddymbre [Worthenbury], ac fel tiwtor i’w blant. Bu Henry yn byw yn Emral hyd nes adeiladodd Puleston dy iddo yn Wrddymbre [Worthenbury], a dywedodd y byddai ei noddwr, wrth adnewyddu lesau ar y stad, yn gofyn i’r tenantiaid gadw Beibl yn y ty yn hytrach na’r gofyniad arferol o gadw ci hela neu hebog i’r landlord.

Adeiladwyd ty newydd mwy oddeutu’r 1660au ac mae’n debyg bod hwn, ynghyd ag ychwanegiadau yn y 1720au a’r 1890au, yn ymestyn dros rannau o’r hen ffos. Cafodd y ty ei ddymchwel ym 1936, ac ystyrir bod hyn yn golled difrifol o ran pensaernïaeth. Defnyddiwyd llawer o’r deunydd i lenwi olion y ffos, ond ailgododd y pensaer Clough Williams-Ellis rannau o’r ty ym Mhortmeirion.

Prif nodweddion tirweddol hanesyddol

Mae’r ardal nodwedd tirwedd hanesyddol hon ar lethrau graddol ar hyd lannau Nant Emral, yn gyffredinol rhwng oddeutu 15 a 30 metr uwchben y Datwm Ordnans ac, er gwaethaf y ffaith bod Neuadd Emral ei hun wedi’i dymchwel, mae dal yn cynnwys nifer o olion sy’n nodweddiadol o dirwedd ddiwylliannol plasty. Mae dau o flociau stabl brics â libart wedi goroesi o ddechrau’r 18fed ganrif, ac mae rhan o’r rhain yn ffurfio rhan o Stablau Emral heddiw ac mae rhan wedi’i throsi yn dy. Yr un pensaer a’u cynlluniodd â’r un a gynlluniodd yr eglwys Sioraidd adnabyddus a gysegrwyd i Sant Deiniol yn Wrddymbre [Worthenbury]. Mae’r bont garreg rhychwant sengl â pharapetau brics, a arferai gynnwys gwarchodfeydd ‘potiau pupur’ i bob ochr iddi, yn gyfoes â’r blociau stabl. Yn wreiddiol roedd y rhain ar hyd y prif rodfa i’r ty, ynghyd â’r rhewdy crwn o frics, sy’n rhannol danddaearol, â tho cromen. Mae dau o’r tri phorthdy gwreiddiol wedi goroesi, yn dyddio yn bennaf o’r 19eg ganrif.

Mae lloc mawr hirgrwn yn nodi ffiniau’r parc tirluniedig bach, sy’n dyddio o’r 18fed ganrif yn ôl pob tebyg, ac roedd hwn yn amgylchynu’r hen neuadd ar un adeg. Ceir olion helaeth trin tirwedd cefnen a rhych o fewn ffiniau’r parcdir, ac mae’n debygol bod hyn yn cynrychioli cae agored canoloesol sy’n gyfoes â’r neuadd ganoloesol a’r safle â ffos. Cafodd ei wneud yn barc gyntaf yn ystod y 17eg neu’r 18fed ganrif. Glaswelltir yw’r prif ddefnydd tir heddiw, ac mae ffensys pyst a gwifren yn rhannu’r tir yn gaeau.

Ffynonellau

  • Harrison 1974
  • Hubbard 1986
  • Jones 1933
  • Lee 1888
  • Lewis 1833
  • Lloyd & Jenkins 1959
  • Lloyd 1986
  • Manley et al. 1991
  • Pennant 1784
  • Stephens 1986
  • Sylvester 1969
  • Listed Building lists
  • Regional Sites and Monuments Record
Former17th-century landscape park with buildings and structures associated with now-demolished country house belonging to important Anglo-Welsh borderland family.