Neidio i'r prif gynnwys

Mae’r disgrifiad canlynol, a gymerwyd o’r Gofrestr Tirweddau Hanesyddol, yn nodi’r themâu tirwedd hanesyddol hanfodol yn yr ardal cymeriad hanesyddol.

Character Areas

Llain Arfordirol Freshwater East i Lydstep

Mae Llain Arfordirol Freshwater East i Lydstep yn cynnwys clogwyni uchel, traethau tywod bach a darn cul o dir ar ben y clogwyni y mae Llwybr Arfordir Sir Benfro yn rhedeg drwyddo. Mae’r dreftadaeth adeiledig yn cynnwys beddrod siambr neolithig, bryngaerau o’r oes haearn, gosodiadau milwrol o’r Ail Ryfel Byd a hen chwareli cerrig. Yn ôl i'r map

East Moor a West Moor

Mae East Moor a West Moor yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol amaethyddol digysgod sy’n cynnwys caeau mawr a ffermydd gwasgaredig. Waliau cerrig morter neu gloddiau isel a gwrychoedd yn tyfu arnynt yw’r ffiniau. Nid oes llawer o goed. Yn ôl i'r map

Norchard – Tarr

Mae caeau mawr rheolaidd a chloddiau a gwrychoedd neu waliau morter yn ffiniau iddynt, ynghyd â ffermydd sylweddol yn nodweddu ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Norchard - Tarr. Mae ffermdai ac elfennau canoloesol iddynt neu dai canoloesol adfeiliedig yn agos iddynt yn nodwedd o’r ardal hon. Yn ôl i'r map

Llain-gaeau Manorbier Newton

Mae caeau hirgul wedi’u hamgáu gan gloddiau uchel â wyneb cerrig a gwrychoedd yn tyfu arnynt, waliau cerrig morter a waliau cerrig sychion yn nodwedd gref o ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Llain-gaeau Manorbier Newton. Mae’r ffermydd gwasgaredig ac adeiladau eraill wedi’u hadeiladu o gerrig ac yn dyddio o’r 19eg ganrif ar y cyfan. Yn ôl i'r map

Gwersyll Maenorbyr

Mae’r adeiladau a’r gosodiadau milwrol o ddiwedd yr 20fed ganrif ynghyd â bryngaer o’r oes haearn, oll wedi’u gosod mewn tir pori, yn nodweddu ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Gwersyll Maenorbyr. Yn ôl i'r map

Maenorbyr

Mae’r castell canoloesol wedi’i leoli ar y naill ochr o’r dyffryn a’r eglwys ganoloesol ar yr ochr gyferbyn yn nodwedd amlwg yn ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Maenorbyr. Rhwng y tai cerrig a’r adeiladau eraill, a godwyd yn y 19eg ganrif yn bennaf, sy’n ffurfio craidd y pentref bach ceir tai modern. Yn yr ardal hon ceir ystadau tai bach a adeiladwyd yng nghanol yr 20fed ganrif.
Gweld mwy Maenorbyr
Yn ôl i'r map

Hafan Lydstep

Nodwedd amlwg o ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Hafan Lydstep yw’r maes carafanau modern, gydag ystad wledig yn cynnwys Tyˆ Lydstep, porthordai a choetir yn ail elfen gref ohoni. Yn ôl i'r map

Lydstep

Pentrefan yw ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Lydstep. Mae adeiladau o’r 19eg ganrif, dechrau’r 20fed ganrif ac adeiladau modern yn sefyll y naill ochr a’r llall i adfeilion mân Plas Lydstep a saif yng nghanol y pentref. Mae’r defnydd o deils to coch (o dan ddylanwad ystad Lydstep yn ôl pob tebyg) a’r calchfaen wedi’i naddu’n fras yn nodwedd o’r pentref.
Gweld mwy Lydstep
Yn ôl i'r map

Jameston

Mae Jameston yn bentrefan cnewyllol yn cynnwys craidd o dai cerrig o’r 19eg ganrif ac anheddau modern, gyda ffermdai ac adeiladau mawr sylweddol o’r 18fed ganrif ar ei gyrion. Bu gynt yn bentref amaethyddol, ond mae’r rhan fwyaf o’r adeiladau fferm wedi cael eu haddasu at ddefnydd preswyl.
Gweld mwy Jameston
Yn ôl i'r map

Hill Farm – Baldwin’s Moor

Mae ffermydd gwasgaredig sylweddol a chaeau o siâp rheolaidd a chloddiau a waliau digysgod yn ffiniau iddynt yn nodweddu ardal gymeriad tirwedd hanesyddol Hill Farm - Baldwin’s Moor. Mae’r rhan fwyaf o’r adeiladau yn dyddio o ddiwedd y 18fed ganrif neu ddechrau’r 19eg ganrif. Y deunydd adeiladu traddodiadol yw calchfaen. Yn ôl i'r map