Skip to main content

Cefndir Hanesyddol

Eiddo i Stad Ynysfaig oedd llawer o’r ardal ym 1703. Roedd T Roberts wedi llunio map ym 1804 (NLW 49-18-22) o Ynysgyfflog, Fegla Fawr a Fegla Fach, ac mae hwn yn dangos ardal enfawr o dir agored â’r label turbary’ ar ochr dde-ddwyreiniol yr ynysoedd’ hynny. Mae hyn yn cyd-fynd â’r ardal sydd wedi’i chynnwys yn SoDdGA Mawddach, dan yr enw Cors Arthog (gweler isod ac ardal 09). O’r cyfnod hwnnw, tan o leiaf 1836 (Roscoe, 1836), Morfa Mannog oedd yr enw ar yr ardal. Ar ddechrau’r 19eg ganrif, torrwyd swm enfawr o fawn yma, i’w sychu a’i gludo ar y fferi i Abermaw i’w allforio.

Anheddiad bychan, hirgul ar fin priffordd yr A493 ar hyd ochrau deheuol yr ardal uwchben y gorlifdir yw Arthog, yn tarddu o ganol y 19eg ganrif. (Tybir, er nad oes tystiolaeth o hyn, bod yr enw’n deillio o enw personol.) Ym 1894, prynodd Solomon Andrews sawl fferm a thir yn Arthog, gan gynnwys Tyddyn Sieffra a’i chwarel a’i thomenni sy’n segur erbyn hyn (gweler ardal 15). (Ef oedd y dyn busnes o Gaerdydd a fu’n gyfrifol hefyd am ddatblygu Pwllheli, ymysg cyrchfannau gwyliau eraill ar droad y 19eg/20fed ganrif). Adeiladodd rwydwaith o dramffyrdd ym 1899 i gludo gwastraff y chwareli o’r tomenni er mwyn adeiladu morglawdd yn wynebu’r aber. Adeiladwyd Mawddach Crescent yno yn ystod y tair i bedair blynedd dilynol. Roedd wedi gobeithio y byddai hwn hefyd, ynghyd â Fairbourne, yn datblygu’n gyrchfan wyliau, ond nid felly y bu. Y Crescent oedd yr unig ran o’r datblygiad a gwblhawyd.

Ymhellach i’r de, ac yn debyg o ran cymeriad, mae’r Friog, sydd hefyd wedi’i adeiladu ar hyd ochr ddwyreiniol y briffordd (tollffordd a adeiladwyd yn lle Ffordd-ddu, y prif lwybr gorllewin-dwyrain gynt oedd yn dilyn hynt dros y copa, oedd hon yn wreiddiol mae’r tollty o’r un cyfnod yn dal i fodoli ym mhen deheuol y pentref (rhestredig gradd II) ynghyd â chyfres o gapeli a thai llety). Preswylfeydd modern ar wahân gyda’u gerddi eu hunain sydd i’w gweld fwyaf erbyn hyn.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Morfa heli, cyforgors, tai teras o’r 19eg ganrif a datblygiad hirgul

Adeiladwyd y terasau bach o dai sy’n nodweddu’r anheddiad bychan yn bennaf ar ganol y 19eg ganrif. Mae Arthog Terrace, er enghraifft, yn deras hynod o gyflawn (rhestredig) o ddeuddeg t talcennog, wedi’u hadeiladu o gerrig rwbel, gydag un to llechi. Mae’r gerddi twt, fel mae’n digwydd, yr ochr arall i’r briffordd, a adeiladwyd yn y 1860au. Teras tebyg o ganol y 19eg ganrif yw’r Bont. 1844 yw dyddiad yr Ysgol Genedlaethol neilltuol a’i chlochdwr. Gerllaw, mae pont garreg un bwa ac eglwys Santes Catrin (sydd hefyd yn dyddio o ddechrau’r 19eg ganrif ac sy’n rhestredig gradd II) a melin gyferbyn. Mae Pencei yn dal i fodoli i’n hatgoffa y byddai’r llanw uchel yn llifo at (a thros) y ffordd dyrpeg, cyn adeiladu’r cloddiau ymhellach allan.

Dynodwyd rhan o’r ardal, o’r enw Cors Arthog (sydd rhwng Arthog ar y tir mawr a Fegla Fawr a fu unwaith yn ynys’), yn SoDdGA (CCGC cyf. 31 WVS gweler y ffotograff). Dyma’r unig enghraifft o gyforgors aberol yng ngogledd Cymru; mae o fath prin o fawndir a welir mewn un lle arall yn unig yng Nghymru, sef ar ochrau aber Afon Dyfi. Er ei bod yn llai erbyn hyn, mae’n gyfoethog o ran blodau a phryfed. Mae’n bwysig i adar sy’n magu gan gynnwys y pibydd coesgoch a’r gïach.

Saltmarsh, raised mire, 19th century terraced housing and ribbon development