Cefndir Hanesyddol
Fferm Penrhyn ar Forfa Mawddach, wedi’i lleoli ar y tir lle saif anheddiad modern Fairbourne heddiw, oedd yn gyfrifol am Fferi Abermaw (gweler ardal 09) hyd at ei gwerthu ym 1860. Y fferi oedd yn cynhyrchu prif incwm y fferm oherwydd rhedai’r Post Brenhinol ar y pryd o Ddolgellau i Abermaw, drosodd i Fferm Penrhyn ac yna ymlaen i Dywyn a Machynlleth. Dywed dogfen arwerthiant y fferm ym 1860 fod heol gerbyd newydd wedi’i hadeiladu’n ddiweddar trwy’r fferm a bod y goets fawr ddyddiol oedd yn dilyn y llwybr uchod yn ei defnyddio. Mae’r briffordd fodern yn dilyn llinell y ffordd honno, ychydig y tu ôl i’r traeth graeanog. Cafn dr ym Mhistyll-y-mail yn y Friog (ardal 10), yw’r unig beth bellach sy’n ein hatgoffa o’r fferi gynt.
Prynodd Thomas Sarin, contractwr rheilffordd, Stad Ynysfaig (gweler ardal 10) ym 1865. Ei fwriad oedd datblygu tir ar ochr orllewinol y rheilffordd newydd ar y morfa gwastad. Roedd hyn yn rhan o gynllun mwy i ddatblygu ardaloedd enfawr o Fae Ceredigion i’r gogledd o Aberystwyth, yn dilyn sefydlu Rheilffordd y Cambrian. Roedd gwaith wedi dechrau yn Aberystwyth ei hun a’r Borth (ychydig dros y ffin yng Ngheredigion) pan ddaeth yn fethdalwr. Bu sawl un yn berchen ar y stad cyn i Syr Arthur McDougall (sy’n enwog am flawd codi) ei phrynu yn y diwedd ym 1895. Gwelodd bosibiliadau datblygu’r hyn a elwid ar y pryd yn Forfa Henddol, a’i newid yn gyrchfan wyliau glan y môr boblogaidd. Roedd yn addas at y diben hwn roedd y tir yn eang, yn wastad ac yn dywodlyd iawn, gyda thirweddau eang godidog yn gefndir iddo; roedd y gaeafau’n fwyn ac roedd y rheilffordd yn cysylltu’r ardal yn uniongyrchol â Chanoldir Lloegr.
Cynhyrchodd Silk Wilson & Sons, Manceinion gynllun meistr ar gyfer y safle ym 1896. Dyrannwyd safleoedd i 250 o anheddau, eglwys, swyddfa’r post, gwesty, marchnad a baddondy, a hefyd rhodfa glan môr, 6 llath o led fyddai’n rhedeg am filltir a thraean, yn wynebu’r môr, pier (gyda phafiliwn), glanfa ar gyfer llongau fferi’r môr mawr, ffordd letach a gorsaf newydd. De Abermaw fyddai’r enw ar y cyfan. Fodd bynnag, ni wireddwyd y freuddwyd. Erbyn 1900, roedd ychydig o dai teras wedi’u hadeiladu ar Heol y Traeth a Belgrave Road, ynghyd â dwy siop a swyddfa’r post ger y groesfan reilffordd (erbyn hyn yn rhan o’r Emporiwm). Roedd hefyd cyrtiau tenis a maes golff naw twll a phafiliwn ar Heol y Traeth. Daeth ffermdy Penrhyn gynt yn glwbdy newydd y clwb golff. Prynodd sawl diwydiannwr cyfoethog blotiau ac adeiladu cartrefi gwyliau lle gallai eu plant aros dros yr haf gyda’u hathrawesau cartref. Byddai llawer o deuluoedd hyd yn oed yn treulio’r Nadolig yma i osgoi mwrllwch a mwg y ddinas.
Plannodd McDougall goeden rhosod yng ngardd pob t newydd a adeiladodd. Adeiladodd ei waith brics ei hun hefyd, ychydig i’r gogledd o’r orsaf bresennol. Byddai tramffordd geffylau yn ei wasanaethu, ac ym 1899, fe adeiladodd orsaf i wasanaethu ei fenter, ar ei gost ei hunan. ‘Fairbourne’ oedd yr enw y cytunodd McDougall a Rheilffordd y Cambrian arno i’r orsaf newydd (roedd rhai pobl leol am ei ailenwi yn Ynys Faig ond gwrthododd y cwmni). Mae’n bur debyg i’r dramffordd geffylau (rhagflaenydd Trên Bach Fairbourne ) gael ei hymestyn at y fferi ym 1898 a daeth yn atyniad poblogaidd i dwristiaid (fel ag y mae hyd heddiw), gan hefyd ddarparu cyswllt i’r traeth a’r maes golff.
Parhaodd Fairbourne i ddatblygu ond ni ddaeth erioed yn ganolfan wyliau i bobl Canoldir Lloegr’ fel roedd McDougall wedi breuddwydio amdano. Fe werthodd y stad ym 1912 i’r Fairbourne Estate Company a barhaodd i’w datblygu’n raddol ac i weithredu’r dramffordd. Fodd bynnag, chwalwyd y Stad ym mis Awst 1917 ac fe’i gwerthwyd mewn darnau mewn ocsiwn. Ers hynny, fesul tipyn y datblygwyd yr anheddiad yn gyrchfan wyliau. Cysegrwyd eglwys Sant Cynon ym 1927.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Datblygiadau glan y môr 20fed ganrif, trên bach
Pentref gwyliau modern (20fed ganrif) ar ochr ddeheuol aber Afon Mawddach, tua’r môr, gyferbyn ag Abermaw yw Fairbourne, a ddatblygwyd yn wreiddiol gan McDougall (sy’n enwog am flawd codi’). Gellir gweld o’i gynllun a’i adeiladau bod yr anheddiad wedi’i adeiladu yn fwriadol fel cyrchfan wyliau, yn cael ei gwasanaethu gan reilffordd a ffyrdd, ac mae’r awyrgylch a’r cymeriad hwnnw’n parhau hyd heddiw. Mae ffyrdd (o Ddolgellau yn y dwyrain ac o Dywyn yn y de) a rheilffordd (rheilffordd arfordir y Cambrian) yn ei wasanaethu, a’i brif atyniad yw trên bach Fairbourne.
