Cefndir Hanesyddol
Mae’r ardal hon yn cynnwys bloc mawr o goedwigaeth fodern sy’n eiddo i’r Comisiwn Coedwigaeth, sy’n ymestyn dros fryn bychan islaw’r prif massif, yn union ar ymyl aber Afon Mawddach. Mae yma dri neu bedwar o dai, i gyd yn filas o’r 19eg ganrif sy’n nodweddiadol o’r ardal.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Coetir, coedwigaeth, filas oes Fictoria
Mae’r rhan fwyaf o’r ardal yn cynnwys coedwigaeth o’r 20fed ganrif (gweler y ffotograff), ynghyd â chyfres o filas o oes Fictoria.
