Cefndir Hanesyddol
Mae’r rhan fwyaf o’r caeau a welir ar fap degwm 1839 Llangelynnin o faint a siâp tebyg i’r ychydig sy’n bodoli heddiw, er bod y ffiniau eu hunain wedi’u lleoli’n wahanol. Rhed Rheilffordd y Cambrian, a agorwyd o’r diwedd ym 1867, trwy’r ardal. Dyna oedd yn bennaf gyfrifol am ddatblygu Llwyngwril fel cyrchfan wyliau (gweler hefyd nodiadau ardal 11). Mae’r ardal hefyd yn cynnwys gweddillion gwersyll Llwyngwril sy’n dyddio o’r Ail Ryfel Byd. Mae’r meysydd carafanau’n dyddio o’r 1970au ymlaen.
Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol
Meysydd carafanau, waliau sychion, gwersyll o’r Ail Ryfel Byd
Mae’r tri phrif nodwedd, fel y’u disgrifir uchod, yn cynnwys y waliau sychion nodweddiadol, y rhan fwyaf ohonynt yn dyddio o ddiwedd y 19eg ganrif yn ôl pob golwg, gweddillion y gwersyll o’r Ail Ryfel Byd (sy’n cynnwys blocws brics llwyd, maes saethu, targedau saethu o bridd a phlinthau concrid wedi’u gorchuddio â brics ar hyd y glannau), a llinellau gwyn diwyro’r carafanau sefydlog.
