Skip to main content

Cefndir Hanesyddol

Mae gan gadwyn Cadair Idris nodweddion gwir fynyddig, gyda chlogwyni’n disgyn i lynnoedd ac ochr ogleddol hynod o ddramatig (pan ellir ei gweld!), lle gorwedda eira’n hwyr yn aml, ac sy’n tremio dros dref Dolgellau. Mae’r grib gopa uchel, gyda sgrïau, clogfeini a gylïau uchel, gwlyb lle mae planhigion alpaidd yn tyfu, yn boblogaidd iawn â cherddwyr: 863m yw uchder y pegwn uchaf (Mynydd Moel), ac mae sawl llwybr i’r copa. Cysylltir y mynydd â sawl myth a chwedl dyma gadair y cawr Idris, a bydd unrhyw un sy’n cysgu ar y mynydd dros nos yn deffro naill ai’n wallgofddyn neu’n fardd! ‘Common’ yw’r label ar gyfer y rhan fwyaf o ran orllewinol yr ardal ar fap degwm 1839 Llangelynnin, tra bod y rhan ddwyreiniol sydd ar fap degwm 1842 Dolgellau yn dangos pum neu chwe lloc enfawr yn unig gyda waliau syth, syml sy’n mynd yn syth i fyny’r llethrau, yn ffiniau iddynt. (Gellir olrhain y rhan fwyaf o’r rhain heddiw.) Mae’r rhain yn parhau i lawr i ardal 18. Disgrifir llawer o’r tir fel eiddo i Gefn-yr-Owen-uchaf a Chefn-yr-Owen-isaf.

Nodweddion allweddol y dirwedd hanesyddol

Copa’r mynydd a sgrïau ucheldirol

Mae’r ardal hon yn cynnwys copa Cadair Idris a’r llethrau serth, creigiog a digroeso islaw ar yr ochr ogleddol. Ychydig o olion preswyliad dynol blaenorol sydd yn yr ardal, ar wahân i’r waliau syth, nodweddiadol o amgáu yn y 19eg ganrif sy’n rhedeg ar draws ac i lawr y llethrau, ychydig o gorlannau defaid ac un safle anheddiad cynhanesyddol.

Gorwedda’r rhan fwyaf o’r ardal nodwedd hon yn SoDdGA Cadair Idris (CCGC cyf. SoDdGA Cadair Idris’ 31WMT), sy’n ymestyn dros gyfanswm o ryw 1102ha a llawer ohono’n cynnwys Gwarchodfa Natur Genedlaethol. Dynodwyd yr ardal oherwydd ei phwysigrwydd geomorffolegol neilltuol sy’n cynnwys nodweddion megis ffawt eang Tal-y-llyn, ynghyd â sawl peiran a chrib gopa gul. Mae’n ardal hynod gymhleth yn ddaearegol; mae’r massif yn cynnwys adran o greigiau folcanig a gwaddod Ordofigaidd sydd i’w weld yn amlwg (gweler hefyd ardaloedd 15 a 19). Mae’r rhain yn cynnal amrywiaeth o gymunedau planhigion. Porfa sydd i’w gweld gan amlaf, ond gwelir hefyd rostir llus ac ardaloedd o rostir mwsogl mynyddig, corsydd asidig datblygedig lle mae dr yn symud a gorgorsydd, gyda gweddillion coetir derw digoes ar y llethrau is. Mae eithaf cyfoeth o blanhigion ar y llethrau a’r ysgafelloedd uwch nad yw’n hawdd eu cyrraedd a hefyd peth diddordeb o ran adara; defnyddiwyd yr ardal hefyd ar gyfer ymchwil ac addysgu ers tro byd.

Mountain summit and upland screes